Datganiad i'r wasg

30m i gyflwyno 5G cenhedlaeth nesaf yng Nghymru wledig a helpu cefn gwlad i fanteisio ar chwyldro technolegol

Lansio cystadleuaeth newydd i brofi cymwysiadau 5G arloesol mewn ardaloedd gwledig

Mae Nicky Morgan yr Ysgrifennydd Digidol wedi lansio cystadleuaeth £30 miliwn ledled y DU i sbarduno chwyldro technolegol mewn cymunedau cefn gwlad a helpu Prydain wledig i fanteisio ar gyfleoedd technoleg 5G.

Bydd hyd at ddeg lleoliad gwledig ledled y DU yn cael eu dewis i gynnal treialon arloesol er mwyn sbarduno buddsoddiad masnachol mewn technoleg 5G sy’n cynnig cyflymderau symudol 10 i 20 gwaith yn gyflymach na chenedlaethau blaenorol ac yn cynnig mwy o ddiogelwch a dibynadwyedd i gefnogi biliynau o ddyfeisiau digidol.

Cystadleuaeth Cymunedau Cysylltiedig Gwledig (RCC) yw’r don ddiweddaraf o gyllid o gronfa £200 miliwn Llywodraeth y DU a fydd yn treialu safleoedd profi 5G mewn lleoliadau ledled y wlad ac yn darparu manteision y cysylltedd symudol cyflymaf sydd ar gael.

Mae Sir Fynwy wedi cael ei dewis yn flaenorol fel safle profi 5G i wella cysylltedd gwledig. Mae’r Safle Profi Integredig Gwledig 5G (5GRIT), partneriaeth o fusnesau bach a chanolig a phrifysgolion, wedi bod yn treialu’r defnydd arloesol o dechnoleg 5G ar draws amrywiaeth o gymwysiadau gwledig yn cynnwys twristiaeth, amaethyddiaeth glyfar a chysylltu cymunedau â darpariaeth wael, gan ddefnyddio sbectrwm a rennir yn y bandiau teledu a chymysgedd o hunan-ddarpariaeth a Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISPs) lleol.

Bydd y gronfa £30 miliwn newydd yn adeiladu ar brosiectau fel y rhain ac yn treialu defnyddiau eraill o 5G mewn cymunedau gwledig i helpu i sbarduno twf busnes, gwella bywydau pobl ac annog arloesi.

Dywedodd Nicky Morgan, yr Ysgrifennydd Digidol:

Mae cefn gwlad Prydain wastad wedi bod yn fagwrfa i ddiwydiannau arloesol ac rydyn ni’n gwneud yn siŵr nad yw ein cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl yn yr oes ddigidol.

Rydym yn buddsoddi miliynau fel y gall y wlad gyfan fanteisio ar gyfleoedd a manteision economaidd y genhedlaeth nesaf o dechnoleg 5G.

Ym Mhrydain fodern, mae pobl yn disgwyl cael cysylltiad lle bynnag y maent. Ond gallai cysylltedd gwaeth mewn ardaloedd gwledig roi twf economaidd a symudedd cymdeithasol yn y fantol.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cyllid hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i gau’r bwlch mewn cysylltiad rhwng ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig ar yr un pryd ag archwilio ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg 5G i ddatblygu diwydiannau sy’n datblygu, gan gefnogi ein heconomi wledig yng Nghymru.

Dyma gyfle gwych i ardaloedd gwledig hybu cynhyrchiant a chapasiti eu seilwaith digidol a byddwn yn annog partneriaid lleol i ddod at ei gilydd i wneud cais er budd eu cymunedau.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau RCC yw 25 Hydref 2019 a bydd disgwyl i’r prosiectau sy’n dod i’r brig gael eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. I gael gwybodaeth am gystadleuaeth RCC a’r broses o gyflwyno cais, ewch i dudalen y gystadleuaeth.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymestyn y ddarpariaeth symudol ddaearyddol i 95% er mwyn sicrhau bod cysylltedd symudol parhaus yn cael ei ddarparu i bob brif ffordd, ac i fod yn arweinydd byd o ran 5G.
Cyhoeddwyd ar 27 August 2019