Datganiad i'r wasg

3,000 o brentisiaethau newydd wedi'u creu yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe

Mae Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru David TC Davies wedi cyfarfod â phobl ifanc a fydd yn elwa o gynllun £30m newydd i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu

Minister David TC Davies speaking to pupils from Ysgol Bro Myrddin taking part in Skills and Talent programme pilot scheme

Ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru gymeradwyo rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, cyfarfu’r Gweinidog Davies â myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Gŵyr Abertawe i glywed sut bydd pobl ifanc yn elwa ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfleoedd i filoedd o bobl a busnesau ar draws Rhanbarth Bae Abertawe gael hyfforddiant a sgiliau, gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau lle ceir galw mawr am weithwyr. Gan gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant megis awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, prifysgolion a busnesau, bydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn arwain y rhaglen i nodi’r sgiliau, canfod atebion hyfforddiant a datblygu prosiectau addysg a hyfforddiant i fodloni’r gofynion hyn.

Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r Awdurdod Lleol arweiniol sy’n gyfrifol am y rhaglen a fydd yn rhoi mantais i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe gyfan. Bydd y rhaglen yn creu o leiaf 3,000 o brentisiaethau newydd ac yn darparu 2,200 o gyfleoedd datblygu ychwanegol yn ogystal ag yn creu canolfannau rhagoriaeth mewn sectorau gan gynnwys digidol, ynni, adeiladu, a lles.

Yn ystod yr ymweliad â Choleg Gŵyr Abertawe, cyfarfu’r Gweinidog Davies â phrentisiaid sy’n gweithio gydag EV Wales i ddysgu i osod mannau gwefru ceir trydan. Treuliodd amser hefyd yn dysgu am waith Elite Aerial Services ac yn siarad â’u prentisiaid am weithio â robotau ym maes cyfathrebiadau a seilwaith ffibr.

Ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, cyfarfu’r Gweinidog Davies hefyd â myfyrwyr o Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth sydd eisoes yn elwa o brosiect peilot a gaiff ei gyflwyno’n ehangach i’r dyfodol. Bu’r myfyrwyr, sydd ar hyn o bryd yn gwneud cwrs BTEC Lefel 2 a 3 mewn Peirianneg, yn dangos eu sgiliau gan ddefnyddio’r cyfleusterau yn y brifysgol. Sefydlwyd y cynllun peilot i annog darparwyr hyfforddiant y rhanbarth i gyfnewid arbenigedd ac adnoddau.

Meddai Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru David TC Davies:

Rwy’n falch iawn o gael cyfarfod y bobl ifanc a fydd yn elwa o’r rhaglen Sgiliau a Thalentau gwerth £30 miliwn a chlywed am eu cynlluniau cyffrous i’r dyfodol.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i roi cyfleoedd datblygu ardderchog i bobl yng Nghymru a helpu cwmnïau i gadw doniau lleol. Edrychaf ymlaen i weld pobl ar draws de orllewin Cymru yn achub ar y cyfleoedd hyn i feithrin eu sgiliau a symud i swyddi sy’n talu’n dda mewn sectorau twf megis peirianneg, ynni adnewyddadwy a datblygiadau digidol arloesol.

Meddai Barry Liles OBE, Uwch Berchennog Cyfrifol y rhaglen Sgiliau a Thalentau a’r Dirprwy Is-ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

Bydd llwyddo i sicrhau’r cyllid ar gyfer y fenter sgiliau a thalentau yn wyrdroadol i’r rhanbarth a bydd yn gadael etifeddiaeth fawr o alwedigaethau sgiliau uwch a llwybrau gyrfa clir i bobl ifanc. Mae’r RLSP yn gydweithrediad aeddfed a llwyddiannus o ddarparwyr a fydd yn cefnogi anghenion prosiectau’r fargen ddinesig gan gyfeirio unigolion hefyd i gyflogaeth gynaliadwy.

Ychwanegodd Dr Llinos Jones, Pennaeth yn Ysgol Bro Myrddin, a Wyn Evans, Pennaeth yn Ysgol Maes y Gwendraeth y bu eu disgyblion yn cymryd rhan mewn cynllun peilot prentisiaethau:

Rydyn ni, fel dwy ysgol yn y rhanbarth, yn falch dros ben o fod yn rhan o Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Nod y rhaglen yw darparu ateb rhanbarthol i nodi a chyflenwi’r sgiliau a’r hyfforddiant sy’n ofynnol ar gyfer prosiectau’r Fargen Ddinesig. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i ysgolion fel rhai ni i ddatblygu cyrsiau a fydd yn y pendraw yn helpu prosiectau a phobl ar draws y rhanbarth. Drwy’r rhaglen rydym wedi sefydlu llwybr dysgu cyfrwng Cymraeg mewn Peirianneg a TG ar gyfer dros 120 o ddisgyblion ym mlwyddyn un.

Meddai’r Cyng Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu’r Gweinidog i’r rhanbarth ac edrychwn ymlaen at gyflwyno’r rhaglen Sgiliau a Thalentau yn dilyn llwyddiant ein cynllun peilot. Mae’r gymeradwyaeth hon yn bwysig iawn inni fel y gallwn ddarparu atebion addysg a hyfforddiant er mwyn i bobl ifanc ddysgu a chael gwaith yn lleol.

Bydd y rhaglen hon, ynghyd â rhannau eraill o bortffolio’r Fargen Ddinesig yn helpu i godi proffil y rhanbarth cyfan drwy ddenu mewn-fuddsoddiad a, drwy feithrin unigolion medrus iawn hefyd, bydd yn sicrhau mai de Cymru yw’r lle perffaith i fyw a gweithio am genedlaethau lawer.

Ychwanegodd y Cyng Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Bydd ymweliad y Gweinidog Davies yn helpu i godi proffil rhaglen Sgiliau a Thalentau’r Fargen Ddinesig ymhellach. Mae’r rhaglen hon yn allweddol i bortffolio buddsoddi’r Fargen Ddinesig yn gyffredinol oherwydd fe fydd yn rhoi i filoedd o bobl leol y sgiliau y bydd arnynt eu hangen i gael swyddi sy’n talu’n dda a grëir gan brosiectau eraill y Fargen Ddinesig yn y blynyddoedd nesaf.

Mae llawer o brosiectau eraill y Fargen Ddinesig eisoes yn cael eu cyflenwi, gyda’r buddsoddiad yn sicr o chwarae rôl bwysig i gyflymu ein hadferiad economaidd rhanbarthol yn dilyn y pandemig.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gydag wyth o’i naw o raglenni a phrosiectau yn awr wedi’u cymeradwyo, mewn sefyllfa gadarn iawn i roi budd pellach i gynifer o drigolion a busnesau rhanbarthol â phosibl yn y dyfodol agos.

Meddai Mark Jones, Prifathro Coleg Gŵyr Abertawe:

Pleser mawr inni yw croesawu’r Gweinidog Davies a swyddogion y Fargen Ddinesig i’r Coleg heddiw. Ers nifer o flynyddoedd buom yn paratoi am y Fargen Ddinesig drwy fuddsoddi mewn datblygu cwricwlwm arloesol i fodloni gofynion allweddol y Fargen Ddinesig. Mewn partneriaeth â’r diwydiant rydym wedi llunio rhaglenni newydd yn y maes digidol, ynni gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch ac iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd o 25% yn nifer y prentisiaid rydyn ni’n eu cefnogi yn y meysydd hyn. Yn 2021-22 rydym yn bwriadu cefnogi dros 3,500 o brentisiaid gan gynnwys 2,200 o brentisiaid a fydd yn datblygu eu sgiliau yn sectorau allweddol y Fargen Ddinesig.

Y diwedd

Nodiadau i Olygyddion: * Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o naw o raglenni a phrosiectau ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe; gyda’i gilydd mae’r rhain yn werth dros £1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi’r rhanbarth dros y blynyddoedd nesaf. * Ariennir y Fargen Ddinesig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac fe’i harweinir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. * Mae’r rhaglen Sgiliau a Thalentau yn gweithio ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys: * Coleg Sir Gar; Coleg Gŵyr; Coleg Castell-nedd a Phort Talbot a Choleg Sir Benfro * Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Prifysgol Abertawe a’r Brifysgol Agored. * Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a darparwyr hyfforddiant preifat, Arweinyddion Ysgolion ac Adrannau Addysg Awdurdodau Lleol * Adrannau Adfywio Awdurdodau Lleol * Grwpiau Clwstwr o’r Sector Preifat sydd â chysylltiadau â 2000 o fusnesau ar draws y rhanbarth

Cyhoeddwyd ar 9 November 2021