Stori newyddion

Bydd £28 miliwn o gyllid yn helpu i gadw mannau addoli yn ddiogel

Bydd y cyllid yn helpu i ddiogelu cymunedau ffydd rhag bygythiad troseddau casineb ac ymosodiadau terfysgol.

Bydd mannau addoli yn cael £28 miliwn o gyllid i helpu i’w cadw nhw a’u mynychwyr yn ddiogel, cyhoeddodd y Gweinidog Diogelwch heddiw (21 Mehefin 2023).

Mae’r cyllid ar gael eleni drwy ddau gynllun, ac mae modd cyflwyno ceisiadau nawr.

Mae’r cyllid yn rhan o ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau bod cymunedau ffydd yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gwarchod rhag bygythiad troseddau casineb ac ymosodiadau terfysgol, a’u bod yn gallu ymarfer eu ffydd yn rhydd a heb ofn.

Mae’r arian ar gyfer diogelwch amddiffynnol ffisegol, fel teledu cylch cyfyng, larymau tresmaswyr a ffensys diogel i helpu i ddiogelu mosgiau, eglwysi, temlau, gwrdwaras a mannau addoli eraill. Bydd Mosgiau hefyd yn gallu cael mynediad at gynllun gwarchodaeth diogelwch newydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Diogelwch, Tom Tugendhat:

Mae rhyddid cred grefyddol a’r rhyddid i addoli yn hanfodol.

Byddwn yn amddiffyn yn erbyn unrhyw fath o gasineb sy’n targedu ein cymunedau, ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu pob ffydd.

Rwy’n annog unrhyw fan addoli sy’n teimlo y byddai angen cymorth arnynt i wneud cais o dan y cynlluniau.

I wneud cais am gyllid, dylai ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o ba mor agored i niwed ydynt a’u profiad o droseddau casineb. Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor am 8 wythnos, a byddwn yn rhoi gwybod i safleoedd llwyddiannus o fis Tachwedd 2023 ymlaen.

Yn 2021/22, cafodd dau o bob pump (42%) o droseddau casineb crefyddol a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr eu targedu yn erbyn Mwslimiaid. Eleni, bydd hyd at £24.5 miliwn ar gael eto i amddiffyn mosgiau ac ysgolion ffydd Mwslimaidd.

Bydd y warchodaeth hon drwy gynllun newydd o’r enw ‘Cynllun Diogelwch Amddiffynnol i Fosgiau’ a chynllun ar gyfer ysgolion ffydd Mwslimaidd a lansiwyd yn uniongyrchol i athrawon ysgolion cymwys yn gynharach yn y flwyddyn. Bydd £3.5 miliwn o gyllid ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer pob ffydd arall (nad yw’n Fwslimaidd nac yn Iddewig) drwy’r ‘Cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol i Fannau Addoli’.

Mae’r gymuned Iddewig yn parhau i dderbyn cyllid ar gyfer ysgolion Iddewig, synagogau a safleoedd cymunedol eraill trwy gynllun ar wahân o’r enw Grant Diogelwch Amddiffynnol i’r Gymuned Iddewig, a gynyddwyd £1 miliwn yn gynharach eleni.

Cyhoeddwyd ar 21 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 July 2023 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.