Data newydd gan y Llywodraeth yn dangos 240 miliwnydd crypto
CThEF yn cyhoeddi ei ystadegau swyddogol cyntaf ar enillion trethadwy o gryptoasedion.
- Mae ystadegau swyddogol yn dangos y gwnaeth 240 o bobl roi gwybod am enillion cyfalaf gwerth dros £1 miliwn ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025. Mae’r ffigurau hyn yn rhoi cyfrif am gyfanswm cyfartalog o £717 miliwn o enillion cyfalaf o gryptoasedion.
- Ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025, cyfanswm yr enillion cyfalaf trethadwy o gryptoasedion ar gyfer 17,600 o unigolion oedd £1.38 biliwn, gyda chynnydd cyfartalog o £78,000 fesul unigolyn.
- Yn dilyn cyflwyno fframwaith rhyngweithiol newydd, bydd gofyn i ddarparwyr gwasanaethau cryptoasedion rannu gwybodaeth am eu cwsmeriaid ag awdurdodau treth. Bydd y data hyn yn dechrau cyrraedd CThEF o 2027 ymlaen.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn dangos bod 240 o bobl wedi datgan enillion cyfalaf o gryptoasedion gwerth dros £1 miliwn ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, â’r un grŵp yn rhoi gwybod am gyfanswm o £717 miliwn mewn enillion o gryptoasedion.
Mae’r data hyn yn cael eu cyhoeddi fel rhan o ystadegau blynyddol CThEF ar Dreth Enillion Cyfalaf. Dyma’r tro cyntaf i CThEF gyhoeddi’r data penodol hyn ers ychwanegu adran benodedig ar gyfer datgan enillion cyfalaf o gryptoasedion at Ffurflenni Treth Hunanasesiad.
Yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025, roedd 17,600 o unigolion yn gwneud gwarediadau a oedd yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf o gryptoasedion fel Bitcoin, Ethereum a Dogecoin. Ar y cyd, gwnaeth y trethdalwyr hyn ddatgan cyfanswm o £13.8 biliwn o enillion a oedd yn deillio o waredu cryptoasedion, ac enillion o £13.8 biliwn. Mae’r data hefyd yn dangos bod tua 87% o’r unigolion sy’n rhoi gwybod am enillion o gryptoasedion yn wrywaidd a bod tua 13% yn fenywaidd.
Meddai James Murray AS, Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys a’r Tâl-feistr Cyffredinol:
Mae’n rhaid talu trethi ar enillion o gryptoasedion yn union fel unrhyw enillion eraill, ac rydym am sicrhau bod pobl sy’n gwneud enillion o grypto yn gwybod am y trethi sydd arnynt.
>“Mae’r gwaith pwysig hwn yn cefnogi ymdrechion y Llywodraeth i gau’r bwlch treth, fel bod pawb yn talu eu cyfran deg tuag at ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.”
Meddai John-Paul Marks, Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr CThEF:
Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ddeall a bodloni eu hymrwymiadau treth mewn perthynas â chryptoasedion.
Wrth i reolau hysbysu rhyngwladol newydd ddod i rym, mae’n bwysicach nag erioed i bobl wirio eu bod yn talu unrhyw dreth sy’n ddyledus.
O fis Ionawr 2026, dechreuodd y DU weithredu’r Fframwaith Adrodd Cryptoasedion (CARF), sef safon ryngwladol a ddatblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD).
O dan CARF, bydd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cryptoasedion rannu gwybodaeth am eu cwsmeriaid ag awdurdodau treth. Bydd CThEF yn dechrau cael data o 2027 ymlaen a fydd yn ei helpu i nodi incwm ac enillion o gryptoasedion sydd heb eu datgan.
Os na fydd darparwyr gwasanaethau yn cydymffurfio, gallant wynebu cosbau o hyd at £300 fesul defnyddiwr
Gall trafodion cryptoasedion arwain at ymrwymiadau treth. Gall Treth Enillion Cyfalaf fod yn berthnasol pan fydd unigolyn yn gwaredu cryptoasedion, fel eu gwerthu neu eu cyfnewid am fath gwahanol o gryptoasedion. Gall Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol fod yn berthnasol i unrhyw gryptoasedion sy’n dod i law drwy gyflogaeth, hunangyflogaeth, mwyngloddio, stêcio neu fenthyca.
Gall perchnogion cryptoasedion sydd ag incwm neu enillion i’w datgan o gryptoasedion roi gwybod am unrhyw dreth sydd heb ei thalu gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datgelu Crypto ar GOV.UK.
Dylai unrhyw un sydd â chryptoasedion ddatgan unrhyw incwm neu enillion ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 sydd uwchlaw’r lwfans rhydd o dreth ar eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad, a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2027.
Gall unrhyw un sy’n ansicr o’u hymrwymiadau wirio’r arweiniad ar GOV.UK sy’n nodi pa drafodion cryptoasedion sy’n drethadwy a sut i roi gwybod amdanynt.
Nodiadau i Olygyddion
- Cyhoeddwyd yr Ystadegau Treth Enillion Cyfalaf swyddogol achrededig blynyddol ar 27 Awst 2026. - 2. Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu gwaith rhagweithiol penodedig CThEF ar gryptoasedion, gan gynnwys gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol a’r arweiniad newydd a gyhoeddwyd ar GOV.UK ers diwedd 2023. Cynlluniwyd hyn oll i helpu perchnogion cryptoasedion i gael eu materion treth yn gywir ac atal achosion o ddiffyg cydymffurfio cyn iddynt ddigwydd. Mae CThEF yn amcangyfrif bod £168 miliwn ychwanegol o Dreth Enillion Cyfalaf wedi’i gynhyrchu rhwng 2024 a 2025 o ganlyniad uniongyrchol i’r gwaith hwn.
- Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu ac felly mae’n bosibl na fyddant yn adio’n union i’r cyfansymiau a ddangosir.
- Mae gwarediadau’n cynnwys gwerthu cryptoasedion; eu cyfnewid am wahanol fath o gryptoased; defnyddio cryptoasedion i dalu am nwyddau neu wasanaethau; a rhoi cryptoasedion i berson arall, oni bai fel rhodd i briod, partner sifil neu elusen.
- Mae rhagor o wybodaeth ar Gryptoasedion ar gael yn GOV.UK. - 6. Nid oes blwch cyfatebol ar y Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer incwm o gryptoasedion, fel mwyngloddio neu stêcio. Mae’n rhaid rhoi gwybod am yr rhain ar wahân gan ddefnyddio’r dulliau presennol ar gyfer Treth Incwm.