Stori newyddion

Lansio cyfleoedd buddsoddi newydd gwerth £2.2 biliwn yn y DU

Bydd creu cartrefi a swyddi newydd yn cael eu creu diolch i 11 o gyfleoedd buddsoddi newydd sy’n cael eu hyrwyddo gan y Llywodraeth.

MIPIM

DIT tent at MIPIM

  • Lansio portffolio newydd gwerth £1.19 biliwn ar gyfer buddsoddi mewn eiddo yng Nghymru.
  • Lansiwyd prosiectau buddsoddi ychwanegol gwerth £1.01 biliwn yn Durham, Harrogate, Swindon, Bournemouth, Gogledd Essex, Rhydychen a Bicester.
  • Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi sylw i’r prosiectau yn arddangosfa eiddo fwyaf y byd sef MIPIM Cannes.

Mae cyfleoedd buddsoddi newydd gwerth £2.2 biliwn, fydd yn creu cartrefi a swyddi newydd, wedi cael eu lansio heddiw (dydd Iau 14 Mawrth) gan yr Adran Fasnach Ryngwladol.

Mae’r prosiectau newydd, a lansiwyd yn nigwyddiad eiddo rhyngwladol MIPIM, yn cynnwys nifer o gyfleoedd datblygu yn Lloegr ynghyd â’r portffolio buddsoddi eiddo cyntaf i Gymru gan y Llywodraeth, gwerth £1.19 biliwn.

Ymysg y cyfleoedd buddsoddi newydd sydd ar gael i fuddsoddwyr rhyngwladol mae canolfan ‘brofiadyddol’ 444 acer yn Swydd Rydychen, a datblygiad 3 gardd-gymuned newydd yng Ngogledd Essex, fydd yn creu mwy na 43,000 o gartrefi newydd dros y 50 mlynedd nesaf.

Dywedodd Dr Liam Fox AS, yr Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol:

Mae’r portffolios rydym ni’n eu harddangos yn MIPIM yn cynrychioli’r cyfleoedd amrywiol i fuddsoddi mewn eiddo tirol yn y DU, gan ddiwallu anghenion pob math o fuddsoddwyr rhyngwladol.

Bydd y datblygiadau hyn yn creu mwy o swyddi a chartrefi ar gyfer ein preswylwyr, gan ddarparu seilwaith angenrheidiol, ac rwyf yn hynod falch bod fy adran, ar y cyd â Homes England a MHCLG, wedi cefnogi’r lansiad.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r portffolio cyntaf i Gymru yn rhoi cyfle i fuddsoddwyr rhyngwladol elwa ar arloesedd ac arbenigedd ein cenedl.

Rwyf wrth fy modd yn cael cyflwyno ystod eang o brosiectau ledled Cymru sy’n dangos ein cryfderau mewn sectorau amrywiol, boed hynny’n dwristiaeth, yn fusnes, neu’n cynhyrchu ynni glan. Mae pob cyfle yn dangos beth sy’n gwneud ein gwlad brydferth a dyfeisgar yn lleoliad atyniadol ar gyfer buddsoddiad a busnes ac rwyf yn edrych ymlaen at gael eu trafod ymhellach â darpar fuddsoddwyr.

Bydd DIT yn arwain presenoldeb y Llywodraeth yn MIPIM ac mae disgwyl i dros 23,000 o bobl ymweld, gan gynnwys cynrychiolwyr buddsoddi o dros 100 o wledydd.

Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal nifer o sesiynau panel ym mhafiliwn y DU drwy gydol yr wythnos, gan drafod pynciau yn cynnwys cyfleoedd i fuddsoddi ym Mhwerdy Gogledd Lloegr a’r gwledydd datganoledig, a’r effaith y bydd technoleg yn ei gael ar y sector eiddo tirol yn y dyfodol.

Mae’r portffolios sy’n cael eu harddangos ym Mhafiliwn y DU wedi cael eu datblygu gan Dîm Buddsoddi Cyfalaf DIT sy’n cyd-fynd â chynllun pellach y llywodraeth i ddenu a chefnogi buddsoddiad lleol a thramor mewn seilwaith, datblygiadau eiddo a phrosiectau ynni ledled y DU.

11 cyfle buddsoddi newydd

Portffolio Cymru

  • Caerdydd: datblygiad cymysg o swyddfeydd a maes parcio aml-lawr yng Nghei Canolog Caerdydd
  • Glannau Aberdaugleddau: datblygiad sy’n canolbwyntio ar hamdden yn Aberdaugleddau
  • Ynys y Barri: Trwyn Nell, datblygiad twristiaeth glan y môr ar Ynys y Barri
  • Abertawe: 2il gam o ddatblygiad cymysg yng Nghanol Abertawe

Bydd y pedwar prosiect newydd yn cael eu cyfuno â dau brosiect cyfredol ar Ynys Môn. Dyma gyfleoedd i fuddsoddi yn natblygiad cyfleuster seilwaith ynni’r môr gwerth £35 miliwn a datblygiad pentref gwyliau 80 hectar ar arfordir Ynys Gybi. Cyhoeddwyd y rhain fel rhan o gyfarfod y Bwrdd Masnach yn Abertawe’r llynedd.

A

  • Durham: Forrest Park; parc busnes logisteg a gweithgynhyrchu ysgafn ar safle 52 hectar yn Newton Aycliffe
  • Harrogate: Future Park; datblygiad cymysg ar gyfer gweithgynhyrchu, hamdden, manwerthu a thechnoleg
  • Swindon: Kimmerfields; datblygiad preswyl a masnachol gyda gwesty yn ardal fusnes Swindon
  • Bournemouth: Winter Gardens; datblygiad preswyl gyda bwytai, archfarchnadoedd a llefydd hamdden
  • Rhydychen: datblygiad masnachol ar safle Canolfan Wyddoniaeth Culham ar gyrion Rhydychen
  • Bicester: Bicester Motion; ‘canolfan brofiadyddol’ fydd yn cynnwys gwesty, canolfan gynadledda a chanolfan dechnoleg
  • Cymunedau Gardd Gogledd Essex: tair gardd-gymuned newydd ar draws Gogledd Essex, yn darparu hyd at 43,000 o gartrefi dros y 50 mlynedd nesaf.
Cyhoeddwyd ar 14 March 2019