Stori newyddion

Mae rhestr Ardrethi Annomestig 2023 bellach yn fyw

Gallwch nawr weld gwerth ardrethol eich eiddo busnes a dweud wrthym os ydych yn meddwl ei fod yn rhy uchel.

Mae’r rhestr ardrethi annomestig ac ystadegau swyddogol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ailbrisiad 2023. 

Mae’r rhestr ardrethu yn nodi’r holl werthoedd ardrethol ar gyfer eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr. Fe’i defnyddir gan awdurdodau lleol i helpu i bennu ardrethi busnes. Ond nid yw eich gwerth ardrethol yr un peth â’ch bil ardrethi busnes. 

Mae’r ystadegau swyddogol ar gyfer Ailbrisiad 2023 wedi’u diweddaru. Maent yn dangos y newidiadau yng ngwerth ardrethol pob eiddo annomestig ers yr ailbrisiad diwethaf yn 2017.

Beth mae hyn yn ei olygu? 

Mae cyhoeddi rhestr Ardrethi Annomestig 2023 yn golygu bod rhestr 2017 bellach wedi cau. Dim ond amgylchiadau cyfyngedig sydd le y gellir gwneud newidiadau i’ch gwerth ardrethol blaenorol.

Darllenwch fwy am gau rhestr 2017

Gallwch nawr wirio’r wybodaeth ffeithiol a ddefnyddiwyd ar gyfer eich prisiad yn rhestr 2023, a dweud wrth Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) os oes unrhyw beth o’i le.Gwiriad yw’r enw ar hyn.

Gallwch hefyd herio eich gwerth ardrethol newydd os credwch ei fod yn rhy uchel. Darllenwch fwy am sut i Wirio a Herio eich ardrethi busnes

Darganfod mwy 

Darllenwch ein blog i ddarganfod sut i osgoi gwneud rhai camgymeriadau cyffredin wrth wneud achos Gwirio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am filiau ardrethi busnes, rhyddhadau neu daliadau dylech gysylltu â’ch cyngor lleol.

Cyhoeddwyd ar 3 April 2023