Datganiad i'r wasg

200 Diwrnod i fynd – Cymru yn elwa o’r Gemau Olympaidd

Cyfle unwaith-mewn-oes eisoes yn dod a budd i fusnesau lleol: Gwaddol chwaraeon gemau Llundain 2012 yn siapio Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cyfle unwaith-mewn-oes eisoes yn dod a budd i fusnesau lleol:

Gwaddol chwaraeon gemau Llundain 2012 yn siapio

Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a Chaerdydd heddiw i gyfarfod a’r rheini sydd eisoes yn elwa o’r ffaith bod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yn cael eu cynnal yn Llundain yn ystod yr haf.

Cyfarfu Mrs Gillan a Chris Mainwaring, cyfarwyddwr y busnes teuluol Mainline Coaches yn Stadiwm y Mileniwm. Mae Mainline Coaches, cwmni bysiau o Dde Cymru, wedi cael eu penodi i ddarparu atebion cludiant yn ystod y Gemau.  A’r cwmni wedi’i leoli yn Evanstown ger Gilfach Goch, bydd yn darparu fflyd o fysiau i gludo timau pel-droed, swyddogion a’r cyfryngau yn ystod y twrnamaint pel-droed Olympaidd yng Nghaerdydd, gan y bydd 11 gem yn y twrnameintiau i dimau merched a dynion yn cael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Awst.

Tra oedd Mrs Gillan yng Nghaerdydd, gwelodd hefyd sut mae Gemau Llundain 2012 yn ysbrydoli’r genhedlaeth iau yng Nghymru pan gyfarfu ag Emma Davies, disgybl 13 oed o Ysgol Stanwell ym Mhenarth, a enillodd rownd derfynol ranbarthol rhaglen addysg Pwyllgor Trefnu Gemau Llundain 2012 (LOCOG) ‘Get Set to Make Your Mascot’.

Roedd y gystadleuaeth yn herio pobl ifanc i gyflwyno’u cynrychioliadau rhanbarthol nhw o un o fascots Llundain 2012.  Cafodd ei dyluniad hi, a ysbrydolwyd gan ddraig a daffodil, ei ddewis o blith miloedd o gyflwyniadau yn y gystadleuaeth genedlaethol.

Cyflwynodd Emma ei phin y ‘Wenlock Cymreig’ i Mrs Gillan o flaen arddangosfa Llundain 2012 yn siop John Lewis, sef y Darparwr Siop Adrannol Swyddogol ar gyfer Gemau Llundain 2012.

Cyfarfu Mrs Gillan hefyd a Lizzie Beddoe, gymnastwr 16 oed o Gaerdydd sy’n gobeithio cystadlu yn y gemau. Mae Lizzie wedi bod ar flaen y gad yn y pedair disgyblaeth gymnasteg - y llofnaid, y barrau, y trawst a’r llawr - ers yn naw oed, pan gafodd ei dewis i fod yn rhan o sgwad Prydain Fawr. Hi ydy un o’r ychydig o gymnastwyr o Gymru sydd wedi cystadlu dros Brydain Fawr ar bob lefel oedran.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Pleser mawr oedd gweld sut mae’r gymuned fusnes, y diwylliant ieuenctid a’n hathletwyr yng Nghymru eisoes yn elwa o’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

“Mae’r Gemau Olympaidd eleni yn ffordd o ddangos beth sydd gan bob rhan o’r DU i’w gynnig, ac rwyf wrth fy modd fod Cymru yn manteisio ar y cyfle sydd ganddi i hyrwyddo’i hatyniadau ar y llwyfan byd-eang.

“Rwy’n awyddus iawn i sicrhau bod busnesau yng Nghymru fel Mainline Coaches a John Lewis yn cael yr amser i ddisgleirio yn ystod yr haf.  Yn wir, mae dros 10 busnes o Gymru eisoes yn cyfrannu at waith adeiladu’r Parc Olympaidd yn Llundain.

“Hefyd, gan fod Cymru yn croesawu ac yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau i ryw 700 o athletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth o bob rhan o’r byd, bydd y wlad yn siŵr o gael sylw rhyngwladol, ac rwyf am weithio gyda’n sectorau busnes a thwristiaeth i sicrhau y byddwn yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd y bydd hyn yn sicr yn eu creu.”

Fore heddiw, mynychodd Mrs Gillan gyfarfod o’r Cabinet yn y Parc Olympaidd yn Stratford, Dwyrain Llundain, a oedd yn cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog, David Cameron. Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar sut y gall pob rhan o’r DU fanteisio’n llawn ar y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a’r cyfle unigryw sydd gan y wlad i werthu’i hun i gynulleidfa ryngwladol anferth.

Brynhawn heddiw, ymwelodd Gweinidogion y Cabinet a threfi a dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig i weld drostynt eu hunain sut mae busnesau, cyfleusterau chwaraeon, ysgolion a mudiadau yn elwa o’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Gydag ychydig dros saith mis i fynd cyn y seremoni agoriadol, mae 95% o’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau ac mae’r prosiect yn dal ar amser ac o fewn y gyllideb. Ers i’r gwaith ddechrau ar y safle yn Nwyrain Llundain yn 2008, mae contractau gwerth £6.39 biliwn wedi’u dyfarnu i dros 1500 busnes yn y DU, gyda gwerth £417,415 yn mynd i fusnesau yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:
“A ninnau ar ddechrau 2012, blwyddyn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a Jiwbili Diemwnt y Frenhines, dyma amser delfrydol i’r Cabinet ddod at ei gilydd a sicrhau ein bod yn gwneud popeth posibl i wneud y gorau o’r cyfle unigryw hwn i ddangos yr holl bethau gwych sydd gan y DU i’w cynnig i weddill y byd.

“Wrth i Weinidogion ymweld a lleoliadau Olympaidd, busnesau, ysgolion a mudiadau sy’n gysylltiedig a Gemau 2012 ar draws y DU, rwyf am i’r neges gael ei chyfleu’n glir ac yn bendant, o dwristiaeth i fusnes, chwaraeon i faes buddsoddi, ein bod yn benderfynol o sicrhau y bydd y wlad gyfan yn manteisio i’r eithaf ar 2012.

“Heddiw, wrth inni ddathlu’r ffaith bod 200 diwrnod i fynd, a bod 6 o’r 8 safle Olympaidd eisoes wedi diogelu eu dyfodol, rydym ar y trywydd iawn i sicrhau gwaddol parhaus i Brydain gyfan.”

Gwella niferoedd ymwelwyr**

Bydd cynnal y Gemau yn ystod yr haf hwn yn troi sylw’r byd at y Deyrnas Unedig ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y sector twristiaeth yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd, gan hybu buddsoddiad, swyddi a thwf.  Bydd twristiaeth ddomestig yn elwa o gynllun disgownt 20.12 y cant a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ac yn ystod taith i Efrog Newydd fis Medi diwethaf, lansiodd y Prif Weinidog yr ymgyrch GREAT a fydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo popeth sydd gan y DU i’w gynnig ledled y byd. Bydd yr ymgyrch yn dangos y cyfleoedd sydd ar gael i fuddsoddi yn y DU ac yn helpu i ddenu miliynau yn fwy o ymwelwyr.

Dywedodd Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, y Cyfryngau a Chwaraeon:

“Mae Llundain 2012 yn rhoi cyfle i ni ddangos i’r byd y pethau gorau ym Mhrydain a beth sydd gan y wlad hon i’w gynnig. O’n hardaloedd gwledig hardd i safleoedd hanesyddol, o leoliadau chwaraeon i’n diwylliant gwych, mae gan Brydain yn sicr rywbeth i bawb. Rwy’n hyderus y cawn ddigwyddiad chwaraeon gwych yn ystod yr haf gyda rhai munudau medalau hudolus na fyddwn yn eu hanghofio ac a fydd yn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon.”

Bydd chwaraeon yn y DU hefyd yn derbyn hwb fel rhan o’r gwaddol Olympaidd, gyda llawer o’r lleoliadau arbennig yn cael eu hagor ar gyfer cymunedau lleol, a gyda chynlluniau i gefnogi chwaraeon mewn ysgolion, cymunedau a’n hathletwyr gorau yn parhau ar ol y Gemau.

Cyhoeddwyd ar 9 January 2012