Stori newyddion

£143 miliwn o gyllid i ddiogelu dros 130 o domenni glo nas defnyddir

Heddiw, ddydd Iau 7 Awst, wrth ymweld â Phort Talbot bydd y Canghellor, Rachel Reeves, yn amlinellu sut bydd £143 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU yn diogelu dros 130 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru.

  • Bydd y Canghellor yn ymweld â safle tomen lo yng Nghymru i weld y gwaith sy’n cael ei wneud i warchod teuluoedd a busnesau rhag tomenni glo nas defnyddir.

  • Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio law yn llaw i ddiogelu safleoedd tomenni glo, gyda dros 130 o safleoedd yn elwa o gyllid eleni.

  • Cytunwyd ar gyllid o dros £22 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru rhwng 2026-27 a 2028-29 fel rhan o’r Adolygiad o Wariant eleni, gan gynnwys £5 biliwn ychwanegol ar gyfer adnoddau a chyfalaf.

Mae tomenni glo nas defnyddir yn parhau’n waddol i ddiwydiant glo Cymru, ac yn achosi perygl mawr i gymunedau Cymru drwy dirlithriadau neu lifogydd. Fis Tachwedd y llynedd, roedd tomen lo nas defnyddir wedi dymchwel yn rhannol yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, gan orfodi tua 40 o gartrefi a theuluoedd i adael.

Mae’r £118 miliwn a ddarparwyd gan y Canghellor yn yr Adolygiad o Wariant i warchod cymunedau Cymru yn ychwanegol at y £25 miliwn yng Nghyllideb yr Hydref y llynedd. Mae hynny’n creu cyfanswm o £143 miliwn o gyllid hanfodol i warchod cartrefi presennol, gan alluogi Llywodraeth Cymru i fynd ati i ddiogelu ardaloedd newydd o dir er mwyn adeiladu tai yn y dyfodol. Wrth gyfuno’r arian hwnnw a chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae £220 miliwn bellach wedi cael ei fuddsoddi i wneud tomenni glo yng Nghymru yn ddiogel.

Dywedodd Rachel Reeves, Canghellor y Trysorlys:

Rwy’n gwybod bod trychinebau tomenni glo wedi creithio cymunedau Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o £143 miliwn yn gwarchod teuluoedd a chymunedau rhag y peryglon a achosir gan domenni glo nas defnyddir, a hefyd yn creu safleoedd i adeiladu cartrefi newydd ar gyfer teuluoedd yng Nghymru sy’n gweithio’n galed.

Mae angen i’r safleoedd hyn fod yn ddiogel, ac mae’r cyllid hwn yn dangos sut rydym yn cyflawni ein Cynllun Newid, yn blaenoriaethu diogelwch pobl sy’n gweithio’n galed, ac yn cefnogi twf economaidd.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:

Mae’n hollbwysig sicrhau bod tomenni glo ar hyd a lled Cymru yn parhau’n ddiogel. Rydym am sicrhau bod cymunedau sy’n agos at domenni glo yn gallu bod yn ffyddiog bod eu cartrefi a’u busnesau’n cael eu gwarchod yn briodol.

Mae’r £118 miliwn hwn yn ychwanegol at y £25 miliwn sydd eisoes wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, ac mae’n enghraifft o sut mae dwy lywodraeth sy’n gweithio mewn partneriaeth yn cyflawni dros bobl Cymru.

Mae’n bosibl nad oedd cartrefi newydd yn bosibl yn yr ardaloedd hyn yn y gorffennol oherwydd presenoldeb y tomenni glo hyn, ond drwy ddiogelu’r tomenni a lleihau’r risg y byddant yn dymchwel, gellid adeiladu cartrefi newydd yno bellach a chyflawni dros deuluoedd sy’n gweithio’n galed. Bydd y cartrefi newydd hyn yn darparu’r seilwaith hanfodol sy’n sail i dwf economaidd, gan fod y buddsoddiad hwn heddiw yn sbarduno cynhyrchiant yn y dyfodol a safonau byw uwch.

Llwyddodd yr Adolygiad o Wariant ym mis Mehefin hefyd i sicrhau’r buddsoddiad mwyaf erioed i Gymru, sy’n rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth y DU i ddatgloi twf ar hyd a lled y DU. Mae economi Cymru eisoes werth £93 biliwn y flwyddyn.

Darparwyd o leiaf £445 miliwn drwy’r Adolygiad o Wariant i wella rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys yn Padeswood ar Lein y Gororau a thrwy uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd, fel rhan o’r Strategaeth Seilwaith 10 mlynedd. Mae cyllid Llywodraeth y DU hefyd yn cynnwys darparu £48 miliwn dros bedair blynedd i Lywodraeth Cymru er mwyn cydweithio i uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd.

Drwy’r Cynllun Newid, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi ym mhotensial economaidd Cymru a’i chyfraniad unigryw i’r DU, gan gynnwys y maes ynni glân a gynhyrchir drwy ei hadnoddau naturiol. Cadarnhawyd hefyd hyd at £80 miliwn fel buddsoddiad porthladd i gefnogi’r cynllun ffermydd gwynt arnofiol ar y môr ym Mhort Talbot, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy terfynol.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru:

Rydym yn croesawu’r buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gwaith hanfodol hwn i ddiogelu cymunedau sy’n byw â gwaddol ein hanes diwydiannol.

Mae hyn yn adeiladu ar flynyddoedd o gyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru, ac yn dod â chyllid Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i £220 miliwn gyda’i gilydd. Rydym wedi dadlau ers tro byd dros gael cyllid teg i fynd i’r afael ag effaith tomenni glo, i warchod cartrefi a busnesau, ac i greu cyfleoedd economaidd newydd.

Dywedodd Nick Rolfe, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Cymru, Walters UK:

Mae Walters Group yn falch o fod yn bartner allweddol yn y gwaith pwysig hwn i ddiogelu a gwella tomenni glo nas defnyddir ym mhob cwr o Gymru, a’u gwneud yn ddiogel. Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth y DU, sy’n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac yma yn Nyffryn Rhondda gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yn dangos ymrwymiad cryf i ddiogelu ein cymunedau ac i ddelio â gwaddol ein hanes diwydiannol.

Fel cwmni sy’n ymfalchïo yn ei Gymreictod ac sydd â hanes hir o weithio yn y cymunedau hyn ar brosiectau amgylcheddol ac adfywio, rydym yn deall pa mor bwysig yw’r gwaith hwn. Mae’r cyllid nid yn unig yn hanfodol i warchod a diogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl a ffydd i bobl leol yn nyfodol yr ardal hon ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr sy’n defnyddio’r llwybrau teithio llesol sy’n rhedeg ar hyd y prosiect hwn.

Rhagor o wybodaeth:

  • Rhoddodd yr Adolygiad o Wariant y setliad mwyaf erioed i wasanaethau cyhoeddus Cymru, gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn y setliad mwyaf, mewn termau real, ers datganoli yn 1998.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £22.4 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2026-27 a 2028-29, yn ogystal ag:

  • £1.6 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd drwy fformiwla Barnett, gydag £1.4 biliwn o adnoddau rhwng 2026-27 a 2028-29, a £0.2 biliwn o gyfalaf rhwng 2026-27 a 2029-30.

  • £444 miliwn o gyllid a dargedir rhwng 2026-27 a 2029-30, gyda £44 miliwn o adnoddau a £400 miliwn o gyfalaf, gan gynnwys cyllid ar gyfer gwaith hanfodol i gynnal a chadw tomenni glo a’u cadw’n ddiogel, Bargeinion Dinesig a Thwf, a gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd.

  • Mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn dal i dderbyn dros 20% yn fwy o gyllid y pen na gwariant cyfatebol Llywodraeth y DU yng ngweddill y DU. Mae hyn yn adlewyrchu amrywiol anghenion Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Awst 2025