Cronfa gwerth £11.7 miliwn i sbarduno buddsoddiad mewn busnes a swyddi ym Mhort Talbot
Cronfa Twf Economaidd a Buddsoddi wedi’i chyhoeddi gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Over £11.7 million to boost business investment and jobs in Port Talbot from newly announced Economic Growth and Investment Fund
- Wedi’i gefnogi gan £11.78 miliwn - gan gynnwys £6.78 miliwn gan Lywodraeth y DU a £5 miliwn gan Tata Steel UK.
- Rhan o £80 miliwn a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Pontio dim ond 10 mis yn ôl
Bydd cronfa newydd gwerth £11.78 miliwn ar gael yn fuan i fusnesau ym Mhort Talbot a’r cyffiniau i’w helpu i dyfu, creu swyddi o ansawdd uchel, a denu buddsoddiad hir dymor.
Mae’r Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi wedi’i dylunio i gefnogi cwmnïau sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth medrus gyda chyflogau da sy’n cyd-fynd â thalentau’r gweithlu lleol.
Mae’r gronfa yn cynnwys £6.78 miliwn gan Lywodraeth y DU a £5 miliwn gan Tata Steel UK a bydd yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell Nedd a Phort Talbot i gryfhau’r economi lleol.
I sicrhau bod y gronfa yn cael yr effaith mwyaf posib, bydd cyfnod o ymgysylltu gyda busnesau yn cychwyn cyn i’r gronfa agor ar gyfer cynigion yn yr hydref. Bydd hyn yn siapio dyluniad y gronfa - gan sicrhau ei fod yn bodloni anghenion busnesau ac yn datgloi’r amodau ar gyfer twf economaidd hir dymor, creu swyddi, a denu buddsoddiad gan y sector preifat. Unwaith y mae’r ymgysylltu wedi’i gwblhau, yna bydd y gronfa yn destun cymeradwyaeth achos busnes gan Lywodraeth y DU.
Y cyhoeddiad cyllid hwn yw’r diweddaraf gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraethau’r DU a Chymru, awdurdodau lleol, undebau a busnesau.
Ers rhyddhau’r cyllid cyntaf ym mis Awst 2024, mae wedi cyhoeddi £80 miliwn i ariannu hyfforddiant sgiliau i weithwyr a phrosiectau adfywio wrth i Tata Steel gyflawni ei gyfnod pontio i gynhyrchu dur â ffwrnais arc trydan.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Mae’r gronfa newydd hon yn enghraifft bwerus o’r hyn y gellir ei chyflawni pan fydd y llywodraeth a busnes yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni ar gyfer cymunedau. Gyda chefnogaeth dros £11.7 miliwn, bydd yn helpu busnesau lleol i dyfu, creu swyddi o ansawdd uchel a denu mwy o fuddsoddiad newydd i Bort Talbot.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniad llawn cyfraniad Llywodraeth y DU o £80 miliwn i’r Bwrdd Pontio - a hynny i gyd wedi’i gyflawni mewn llai na blwyddyn. Mae’n arddangos yn glir penderfyniad y llywodraeth hon i weithredu’n gyflym ac yn bendant i gefnogi Port Talbot a’i gymuned cynhyrchu dur, gan sicrhau cyllid ar gyfer y bobl a’r busnesau sydd ei angen fwyaf.
Dywedon ni y bydden ni’n cefnogi gweithwyr dur Port Talbot, eu teuluoedd a’u busnesau sy’n ddibynnol ar Tata Steel, ac rydym wedi gwireddu’r addewid hynny.
Dywedodd Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Tata Steel UK Tim Rutter:
Rydym yn hynod o falch i cefnogi’r Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddiad newydd hon o’n hymrwymiad o £20 miliwn i’r Bwrdd Pontio. Mae busnesau lleol yn chwarae rhan hanfodol yn nhwf a ffyniant economaidd y rhanbarth, ac rydym yn hyderus y bydd y gronfa hon yn denu buddsoddiad pellach, gan ddarparu swyddi a chyfleoedd i bobl ledled yr ardal.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi’r unigolion hynny yr effeithir arnynt gan drawsnewidiad ein busnes, a bydd y gronfa hon yn ategu’r gwasanaethau cymorth yr ydym yn barod wedi’u rhoi ar waith, yn ogystal â’r pecyn diswyddo gwirfoddol mwyaf hael yn hanes y cwmni.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ar y Bwrdd Pontio, undebau llafur, busnesau lleol, a’r gymuned i sicrhau bod y gronfa hon yn cael effaith gadarnhaol.
Dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Ryn ni’n croesawu’r Gronfa Buddsoddi a Thwf Economaidd newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae cyflawni yn air allweddol i Lywodraeth Cymru. Drwy gydweithio â Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, undebau masnach a busnesau, rydyn ni’n cefnogi twf economaidd heddiw ac yn mynd ati i lywio ei gyfeiriad ar gyfer yfory.
Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod buddsoddiadau trawslywodraethol fel Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru gan greu manteision gwirioneddol a pharhaol a chyfleoedd swyddi lleol mewn cymunedau fel Port Talbot.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:
Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi carreg filltir bwysig arall yn ein hymateb i gyfnod o newid sylweddol i economi leol ardal Port Talbot.
Un amcan allweddol i ni fel cyngor yw creu mwy o swyddi sefydlog, gwyrdd, sy’n talu’n dda, a datblygu’r sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer y swyddi hyn. Yn hynny o beth, rydyn ni’n gweithio’n galed i ateb yr heriau presennol ac i symud y tu hwnt iddynt i gyfnod o dwf economaidd i’r dyfodol,.
Gan weithio law yn llaw â’n partneriaid yn y Bwrdd Pontio, byddwn ni cyn bo hir yn ymgysylltu â’r gymuned fusnes leol i sicrhau ein bod ni’n gwneud yn fawr o’r cyfle y mae’r cyllid hwn yn ei gyflwyno.”
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £2.5 biliwn o fuddsoddiad i ailadeiladu diwydiant dur y DU am ddegawdau i ddod wrth iddo ddatgarboneiddio.
Mae hyn yn ychwanegol at y £500 miliwn a ddyrannwyd i Tata Steel ym Mhort Talbot ar gyfer ffwrnais arc trydan, a gafodd gymeradwyaeth cynllunio yn ddiweddar. Bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn y misoedd i ddod.
Bydd y gronfa newydd yn adeiladu ar y momentwm hwn - gan helpu pobl leol trwy gefnogi’r broses o greu swyddi o ansawdd da, annog twf busnes, a denu buddsoddiad newydd i sicrhau dyfodol economaidd cryf i Bort Talbot.