Rôl weinidogol

Adfocad Cyffredinol EM yr Alban a llefarydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Nhŷ'r Arglwyddi

Cyfrifoldebau

Adfocad Cyffredinol yr Alban

Adfocad Cyffredinol yr Alban yw un o Swyddogion y Gyfraith i’r Goron, sy’n cynghori’r llywodraeth ar gyfraith yr Alban.

Mae Atodlen 6 Deddf yr Alban yn gofyn bod yr Adfocad Cyffreidnol yn derbyn hysbysiad am bob ‘mater datganoli’ a godir gerbron y llys neu dribinwnlys yn yr Alban. Mae materion datganoli’n cynnwys unrhyw her i gymhwysedd deddfwriaethol un o Ddeddfau Senedd yr Alban ac a yw aelod o lywodraeth yr Alban wedi cydymffurfio â Chonfensiwn yr Undeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol neu gyfraith Cymuned yr Undeb Ewropeaidd.

Os bydd yn penderfynu gwneud hynny, gall yr Adfocad Cyffredinol ddewis ymyrryd, ar ran llywodraeth y Deyrnas Unedig, mewn achosion lle codwyd materion datganoli.

Mae Swyddfa’r Adfocad Cyffredinol yn ystyried holl Filiau Senedd yr Alban wrth iddynt ddatblygu, mewn ymgynghoriad ag adrannau o lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â buddiant, er mwyn asesu eu cymhwysedd deddfwriaethol. O dan adran 33 Deddf yr Alban, mae gan yr Adfocad Cyffredinol y grym i gyfeirio Biliau Senedd yr Alban i’r Goruchaf Lys i dderbyn penderfyniadau am eu cymhwysedd deddfwriaethol.

Llefarydd yr Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Nhŷ’r Arglwyddi

Mae Llefarydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Nhŷ’r Arglwyddi’n gyfrifol am holl fusnes yr adran yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae hefyd yn cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am y meysydd polisi a ganlyn:

  • cyfiawnder sifil (yn cynnwys cyfradd disgownt a chwiplach)
  • gwasanaethau cyfreithiol
  • Prydain Fyd-eang
  • y berthynas gyda’r proffesiwn cyfreithiol
  • rheoliad rheoli hawliadau
  • tiriogaethau sy’n ddibynnol ar y Goron

Deiliad presennol y rôl

Lord Stewart of Dirleton KC

Keith Stewart KC was appointed Advocate General for Scotland in October 2020.

Education

Keith attended Dirleton Primary School and George Heriot’s School, Edinburgh before going to Keble College, Oxford. Keith continued his education at the University of Edinburgh and the University of Strathclyde.

Career

Keith was called to the Bar in 1993 and took silk in 2011. He specialises in criminal law, and has advised in other matters including defamation and intellectual property.

Personal Life

Keith lives in North Berwick and is married with two children.

Mwy am y person hwn

Deiliaid blaenorol y rôl hon

  1. The Rt Hon Lord Keen of Elie KC

    2015 to 2020

  2. The Rt Hon Lord Wallace of Tankerness KC

    2010 to 2015