The Rt Hon Lord Keen of Elie KC

Bywgraffiad

Penodwyd Richard Keen CF yn Adfocad Cyffredinol yr Alban ym mis Mai 2015. Daeth hefyd yn lefarydd dros fusnes y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Gorffennaf 2016.

Addysg

Aeth Richard i Ysgol King’s, Rochester a’r Dollar Academy, cyn mynd ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin.

Ei yrfa wleidyddol

Ym mis Tachwedd 2013, cyhoeddwyd y byddai Richard yn cael ei benodi’n gadeirydd newydd plaid Geidwadol yr Alban, a chymerodd le David Mundell AS yn y rôl hon ar 1 Ionawr 2014.

Parhaodd Richard yn gadeirydd hyd ei benodiad yn Adfocad Cyffredinol yr Alban ym mis Mai 2015, ac ymddiswyddodd o ganlyniad i hynny.

Gwasanaethodd Richard fel Llefarydd yr Arglwyddi i’r Swyddfa Gartref o fis Ebrill hyd fis Gorffennaf 2016.

Ei yrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Wedi iddo gael lle yn y gyfadran, roedd Richard yn gwnsler iau sefydlog i’r Adran Masnach a Diwydiant yn yr Alban o 1986 hyd 1993, a chafodd ei benodi’n Gwnsler y Frenines yn 1993. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Apeliadau Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban (2000-2004) ac fel Cadeirydd Tribiwnlys Apeliadau’r Heddlu.

Mae Richard wedi derbyn cyfarwyddyd rheolaidd yn y Llys Masnach, yn y Tŷ Mewnol (y Llys Apeliadau yn yr Alban) ac yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig mewn amrywiaeth o achosion Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Fasnach. Etholwyd Richard yn Ddeon y Gyfadran Adfocadau (arweinydd Bar yr Alban) yn 2007 a gwasanaethodd fel Deon hyd 2014.

Daeth yn aelod o Far Cymru a Lloegr yn 2009 a chafodd ei ethol yn Feinciwr Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Ganol yn 2011.

Bywyd personol

Mae Richard yn byw yng Nghaeredin ac yn briod gyda dau o blant, mab a merch.

Rhagor o fanylion am yr unigolyn hwn.