Ymgynghoriad ar y gwaharddiad arfaethedig ar weithgynhyrchu, cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy'n cynnwys plastig
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Derbyniasom 1,561 o ymatebion i’r ymgynghoriad. O ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn, bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cyflwyno deddfwriaeth i wahardd cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym am wybod beth yw eich barn ar wahardd gweithgynhyrchu, cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gofyn am sylwadau ar y canlynol:
- effaith debygol y gwaharddiad arfaethedig ar y busnesau sy’n gweithgynhyrchu, yn cyflenwi neu’n gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig
- effaith debygol y gwaharddiad arfaethedig i ddefnyddwyr, yn enwedig i’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, e.e. pobl anabl
- unrhyw effeithiau ehangach o gadw weips gwlyb sy’n cynnwys plastig mewn cylchrediad
- unrhyw effeithiau ehangach ar gyfer weips sy’n cael eu marchnata fel weips amgen neu weips di-blastig
- cyfansoddiad weips gwlyb amgen
- a oes angen unrhyw esemptiadau ar gyfer weips gwlyb sy’n cynnwys plastig
- yr amserlen arfaethedig ar gyfer dechrau’r gwaharddiad
Ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori, rydym wedi cyhoeddi atodiad economaidd sy’n cynnwys gwybodaeth am effeithiau economaidd posibl y cynnig.
Mae Llywodraeth yr Alban yn ei gwneud yn ofynnol bod Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) ac Asesiad Effaith Busnes a Rheoleiddio (BRIA) rhannol ar gael a’r rheiny’n darparu rhagor o wybodaeth ynghylch effeithiau amgylcheddol ac economaidd ehangach posibl y cynnig.