Publication

Crynodeb o’r ymatebion ac ymateb y llywodraeth

Updated 22 April 2024

Rhagair y Gweinidog 

Ledled y DU, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a gadael yr amgylchedd mewn cyflwr gwell nag yr oedd pan gawsom ef. Fel rhan o hyn, ein nod cyffredin yw mynd i’r afael â llygredd plastig a’i effaith ar ein hamgylchedd, yr economi ac iechyd. Rydym yn ceisio cynyddu effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff plastig drwy ddilyn egwyddorion yr hierarchaeth gwastraff: lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu. Mae hyn yn cynnwys symud oddi wrth fodel cymryd, gwneud, gwastraffu tuag at economi gylchol ar gyfer plastig. 

Mae camau wedi’u cymryd er mwyn lleihau gwastraff plastig drwy nifer o fesurau, gan gynnwys gwaharddiadau a chyfyngiadau ar rai cynhyrchion plastig untro a gwneud cynhyrchwyr yn fwy cyfrifol am y plastig y maent yn ei gynhyrchu. 

Ym mis Hydref 2023, cynaliasom ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd ar gynigion i wahardd weips gwlyb sy’n cynnwys plastig ledled y DU. Cawsom gefnogaeth gref gan y cyhoedd i’r gwaharddiad arfaethedig – â 95% o’r ymatebwyr o’i blaid.  

Gan adeiladu ar y gefnogaeth gref a dderbyniwyd gan y cyhoedd, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cyflwyno gwaharddiad ar gyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig ledled y DU. Mae’r gwaharddiad hwn yn adeiladu ar gamau cadarnhaol a gymerwyd ledled y DU i leihau llygredd plastig. Bydd yn helpu i leihau faint o sbwriel plastig yn ogystal â microblastigion sy’n mynd i’n dyfrffyrdd, gan wneud ein tiroedd a’n moroedd yn lanach ac yn iachach.  

Y Gwir Anrhydeddus Steve Barclay AS, Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Huw Irranca Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig 

Lorna Slater ASA, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, Economi Gylchol a Bioamrywiaeth  

Andrew Muir ACD, Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig 

Crynodeb gweithredol

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â llygredd plastig a’i effaith ar ein hamgylchedd, yr economi ac iechyd. Ledled y DU, rydym wedi cyflwyno gwaharddiadau ar nifer o wahanol eitemau plastig untro diangen:

  1. Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon eisoes wedi gwahardd gweithgynhyrchu, cyflenwi a gwerthu microbelenni mewn cynhyrchion gofal personol i’w rinsio i ffwrdd[footnote 1].  

  2. Yn yr Alban, ym mis Mehefin 2022, daeth yn drosedd i weithgynhyrchu a chyflenwi cytleri, troellwyr diodydd a phlatiau plastig untro, a chwpanau a chynwysyddion bwyd polystyren, ac yn drosedd i gyflenwi gwellt yfed a ffyn balwnau plastig untro[footnote 2].   

  3. Yn Lloegr, cyflwynwyd gwaharddiad ar blatiau, blychau, powlenni, cytleri a ffyn balwnau plastig untro a rhai mathau o gwpanau a chynwysyddion bwyd polystyren ym mis Hydref 2023[footnote 3].

  4. Yng Nghymru, ym mis Hydref 2023, daeth yn drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi platiau a chytleri plastig untro, cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê polystyren, a throellwyr diodydd, ffyn balwnau a gwellt yfed plastig untro[footnote 4].

Ym mis Hydref 2023, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar waharddiad arfaethedig ar weithgynhyrchu, cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig. Parhaodd yr ymgynghoriad am 6 wythnos, o 14 Hydref tan 25 Tachwedd 2023.

Derbyniasom 1,561 o ymatebion i’r ymgynghoriad drwy’r arolwg a gynhaliwyd ar Citizens Space a thrwy ebost (Atodiad A). Yn gyffredinol, roedd 95% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r gwaharddiad arfaethedig ar weips gwlyb sy’n cynnwys plastig. Roedd yr ymatebion gan aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau anllywodraethol yn dangos cefnogaeth gref i’n cynigion, â thros 96% naill ai’n cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r gwaharddiad arfaethedig.

Roedd llawer o’r ymatebwyr yn pwysleisio’r angen i leihau llygredd a diogelu’r amgylchedd a seilwaith, gan ddweud bod weips gwlyb sy’n cynnwys plastig yn ffynhonnell llygredd plastig ddiangen, yn enwedig yn ein dyfrffyrdd.

Roedd yr ymatebion gan fusnesau’n amrywio, â 60% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r gwaharddiad arfaethedig. Roedd rhai busnesau’n gefnogol ond yn nodi meysydd ar gyfer ystyriaeth bellach er mwyn sicrhau nad oedd y gwaharddiad arfaethedig yn cael canlyniadau anfwriadol.

Gan adeiladu ar y gefnogaeth gyhoeddus gref, ac o ystyried bod weips gwlyb sy’n cynnwys plastig yn ffynhonnell llygredd plastig a’u bod i’w gweld yn aml yn yr amgylchedd, byddwn yn deddfu er mwyn gwahardd cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig ledled y DU. Bydd pob gweinyddiaeth yn cyflwyno rheoliadau ar wahân drwy eu mecanweithiau deddfwriaethol perthynol.

Mae weips gwlyb di-blastig ar y farchnad yn barod – mae rhai archfarchnadoedd mawr eisoes wedi rhoi’r gorau i werthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig yn eu siopau. Bydd defnyddwyr yn gallu dal i brynu weips gwlyb di-blastig.

Mae rhagor o fanylion am y gwaharddiad ar gael yn adran ‘penderfyniadau polisi’ yr ymateb hwn.

Crynodeb o’r ymatebion

Cwestiynau am weithgynhyrchu

Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd i’r ymatebwyr a fyddent yn cefnogi gwaharddiad ar weithgynhyrchu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig. Roedd 95% o’r ymatebwyr o blaid (yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â) gwaharddiad ar weithgynhyrchu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig.

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi dangos bod gan weithgynhyrchwyr weips gwlyb bresenoldeb sylweddol yn y DU. O’r gweithgynhyrchwyr a ymatebodd i’r ymgynghoriad, roedd gan 12 gyfleusterau gweithgynhyrchu yn Lloegr, 3 yng Nghymru a 3 yn yr Alban. Ni dderbyniasom ymateb gan gwmni sy’n gweithgynhyrchu weips gwlyb yng Ngogledd Iwerddon. Er hyn, derbyniasom ymateb gan gwmni wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon sy’n gweithgynhyrchu weips gwlyb di-blastig ym Mhrydain.

Ar gyfartaledd, dywedodd y gweithgynhyrchwyr fod hanner y weips gwlyb y maent yn eu cynhyrchu yn cynnwys plastig. O’r gweithgynhyrchwyr a ddarparodd gyfran y weips gwlyb y maent yn eu cynhyrchu ar gyfer allforio, roedd yr ymatebion at ei gilydd yn amrywio o 20% i 50%.

Roedd 70% o’r gweithgynhyrchwyr a ymatebodd naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r cynnig i wahardd gweithgynhyrchu (dywedodd 12% nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, ac roedd 15% yn cytuno’n gryf), ac roeddent yn cyfeirio at golli refeniw a swyddi yn ddiangen. Cododd rhai gweithgynhyrchwyr bryder ynglŷn â’r buddsoddiad a fydd yn ofynnol er mwyn newid i gynhyrchu weips gwlyb di-blastig yn unig. Roedd eu hamcan o’r gost ar gyfer newid yn amrywio o gannoedd o filoedd i filiynau o bunnoedd.

Rhestrodd y gweithgynhyrchwyr sy’n cefnogi’r gwaharddiad resymau fel lliniaru effeithiau hirdymor llygredd plastig a microblastigion mewn dyfrffyrdd ac effeithiau hyn ar ecosystemau a risgiau i iechyd pobl.

Dim ond 12% o’r gweithgynhyrchwyr a ddywedodd eu bod yn cynhyrchu dim ond weips nad ydynt yn cynnwys plastig. Pan ofynnwyd iddynt a fyddent yn newid i gynhyrchu di-blastig pe na bai gwaharddiad yn cael ei gyflwyno, dywedodd 28% y byddent yn newid ymhen 3 i 5 mlynedd a dywedodd 12% na fyddai hyn yn digwydd yn y 10 mlynedd nesaf. Dywedodd 24% arall nad oeddent yn gwybod a fyddent yn newid i gynhyrchu weips di-blastig pe na bai gwaharddiad yn cael ei gyflwyno. Mae’r ymatebion hyn yn dangos nad oedd hanner y gweithgynhyrchwyr yn ceisio newid yn y tymor byr i ganolig.

Cwestiynau ar gyflenwi a gwerthu

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a fyddent yn cefnogi gwaharddiad ar gyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig. Yn gyffredinol, roedd dros 93% o’r ymatebwyr naill ai’n cytuno neu’n cytuno’n gryf â hyn.

Roedd yr ymatebion gan weithgynhyrchwyr weips gwlyb yn fwy rhanedig. Dywedodd 42% o’r ymatebwyr eu bod naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, tra dywedodd 33% nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, a dim ond 15% a ddywedodd eu bod yn cytuno’n gryf.

O ran yr effaith ar ddefnyddwyr, credai 69% o’r ymatebwyr na fyddai’r gwaharddiad arfaethedig yn cael effaith. Er hyn, mynegodd 13% o’r ymatebwyr bryder ynglŷn ag effeithiau posibl y gwaharddiad ar rai grwpiau. Roedd y prif grwpiau y tynnwyd sylw atynt gan yr ymatebwyr yn cynnwys teuluoedd â phlant bach, oherwydd eu hanghenion gofal plant penodol, unigolion sy’n ddibynnol ar weips gwlyb sy’n cynnwys plastig at ddefnydd meddygol a defnyddwyr diwydiannol weips gwlyb sy’n cynnwys plastig.

Amseru gwaharddiad

Mae ymatebion gan y cyhoedd a chan grwpiau ymgyrchu wedi mynegi awydd cryf i weld y gwaharddiad yn dod i rym cyn gynted ag y bo modd. Byddai hyn yn lleihau effaith amgylcheddol weips gwlyb diangen sy’n cynnwys plastig yn ein dyfrffyrdd a’n hamgylchedd morol.

Mae ymatebion gan weithgynhyrchwyr (yn ogystal ag adborth o ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid) wedi dangos bod ar y diwydiant angen amser i addasu i unrhyw waharddiad. Roedd amrywiad yn ymatebion y gweithgynhyrchwyr ynglŷn â faint o amser roedd ei angen i newid i gynhyrchu weips di-blastig yn unig. Roedd hyn yn amrywio o 1 flwyddyn i 5 mlynedd. Dywedodd corff diwydiannol sy’n cynrychioli gweithgynhyrchwyr weips gwlyb y byddai cyfnod pontio o 2 i 3 blynedd yn cael ei ffafrio. Dywedodd un manwerthwr a ymatebodd i’r ymgynghoriad ei fod wedi cymryd blwyddyn iddo newid i werthu weips di-blastig yn unig.

Dywedodd gweithgynhyrchwyr fod deunyddiau di-blastig yn ddrutach na rhai plastig. Yn ôl y gweithgynhyrchwyr roedd costau mewnbynnau, ar gyfartaledd, 47% yn uwch wrth weithgynhyrchu weips gwlyb di-blastig o’u cymharu â rhai plastig. Dywedodd mwy na 68% o’r gweithgynhyrchwyr fod y peiriannau ar gyfer cynhyrchu weips di-blastig, ar y cyfan, yr un fath ag ar gyfer y rhai sy’n cynnwys plastig. Er hyn, rhoddodd y gweithgynhyrchwyr ragor o fanylion i egluro y bydd y deunyddiau, y cemegau a’r cyflymder prosesu yn wahanol ar gyfer cynhyrchu dewisiadau eraill di-blastig, ac y bydd hyn o ganlyniad yn effeithio ar amseroedd pontio a chostau.

Cwestiynau yn ymwneud â’r diffiniadau

At ddibenion yr ymgynghoriad, diffiniwyd weip gwlyb sy’n cynnwys plastig fel ‘darn o ffabrig heb ei wehyddu sy’n cynnwys plastig sydd wedi’i drochi a’i storio mewn hylif’. Roedd 65% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r diffiniad y gwnaethom ymgynghori arno.

Er hyn, roedd ymatebion y diwydiant yn fwy cymysg, â 55% yn anghytuno â diffiniad yr ymgynghoriad. Nodwyd yn aml nad oedd y diffiniad hwn yn mynd yn ddigon pell, ac roedd pryder y gallai’r diffyg manylion penodol achosi dryswch o bosibl ynglŷn â beth fyddai’n cael ei ystyried yn weip gwlyb. Er enghraifft, dywedodd rhai ymatebwyr nad oes cyfeiriad at natur untro weips gwlyb, ac nad oes cyfeiriad at ddefnydd ar gyfer gofal a hylendid personol.

Ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon[footnote 5], roedd yr ymgynghoriad yn cynnig diffinio plastig drwy ddefnyddio diffiniad REACH y DU o blastig: “a material consisting of polymer to which additives or other substances may have been added, and which can function as a main structural component of final products, with the exception of natural polymers that have not been chemically modified.”

Yng Nghymru, mae’r diffiniad o blastig yn bwriadu cynnwys yr un mathau o ddeunydd â’r diffiniad yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae wedi’i eirio’n wahanol yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023:

a. Ystyr “plastig” yw deunydd ar ffurf polymer, ac eithrio adlyn, paent neu inc, ac mae’n cynnwys deunydd ar ffurf polymer sydd â sylweddau eraill wedi eu hychwanegu ato.

b. Ystyr “polymer” yw polymer sy’n gallu gweithredu fel prif gydran strwythurol cynnyrch ac nid yw’n cynnwys polymer naturiol nad yw wedi ei addasu yn gemegol.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (65%) yn cytuno â’r diffiniad o blastig a gynigiwyd gennym, sef diffiniad REACH y DU. Roedd y themâu cyffredin ymhlith y rhai a oedd yn cytuno yn cynnwys deall yr angen am ddiffiniad cyffredinol a diddordeb mewn cael diffiniad sy’n gyson ledled y DU a’r UE.

Dywedodd cyfran fach o’r ymatebwyr (27%) nad oeddent yn deall y diffiniad yn iawn, a dywedodd aelodau o’r cyhoedd fod yr iaith dechnegol yn anodd ei deall. Roedd ymatebion y diwydiant gweithgynhyrchu hefyd yn mynegi pryder y gallai lleygwyr gael anhawster i ddeall y diffiniad.

Roedd lleiafrif o’r ymatebwyr (8%) yn anghytuno â’r diffiniad, ac yn cyfeirio at bryderon ynglŷn â bylchau posibl a allai gael eu defnyddio gan gynhyrchwyr i fynd o gwmpas y gwaharddiad a phryderon cyffredinol ynglŷn â phriodweddau polymerau naturiol.

Gofynasom hefyd i’r ymatebwyr fynegi eu barn ynglŷn â chynnwys neu eithrio weips gwlyb sy’n cael eu marchnata fel rhai ‘naturiol’, ‘bioddiraddadwy’ neu ‘ddi-blastig’, gan nodi y gallai’r rhain fod wedi eu gwneud o bolymerau sydd wedi mynd drwy brosesau cemegol echdynnu, prosesu a mireinio. Y polymerau yr ymgynghorwyd arnynt oedd fisgos, lyosel a chotwm. Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddylid esemptio’r deunyddiau hyn o’r gwaharddiad.

Tabl 1: Ymatebion i’r cwestiwn a ddylid esemptio rhai deunyddiau (polymerau) o’r gwaharddiad

Esemptio deunyddiau Ydw Nac ydw Wn i ddim
Fisgos 34% 27% 39%
Cotwm 42% 2% 35%
Lyosel 6% 37% 44%

Cwestiynau ar esemptiadau

Gofynasom a ddylid gwneud unrhyw esemptiadau i’r rheoliadau arfaethedig, yn fwyaf arbennig er mwyn ystyried dibenion meddygol neu ddiwydiannol.

Roedd yr ymatebion i gynnwys esemptiadau yn amrywio, â 39% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf mewn cysylltiad â dibenion meddygol a 37% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf. Dywedodd 16% nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno â’r esemptiad meddygol. O ran dibenion diwydiannol, roedd y gwrthwynebiad i esemptiad yn uwch, â 53% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf o’i gymharu â 24% o blaid.

O ran y rhai a oedd yn cefnogi esemptiad, roedd yr ymatebion yn dangos bod weips gwlyb sy’n cynnwys plastig yn angenrheidiol ar gyfer ystod eang o ddibenion meddygol a diwydiannol, gan gynnwys diheintio mewn lleoliadau clinigol a ffatrïoedd yn ogystal â glanhau diwydiannol. Mae tystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad hefyd yn dangos bod gan y weips hyn briodweddau nad ydynt i’w cael mewn weips di-blastig. Mae’r rhain yn amrywio o gryfder tynnol i’r gallu i ddal a chymhwyso rhai diheintyddion.

Roedd yr ymatebion hefyd yn nodi nad oes weips gwlyb di-blastig hyfyw ar gael eto i’w defnyddio mewn lleoliadau meddygol. Mae’r dewisiadau eraill sy’n bodoli’n barod yn llawer mwy costus, ac o ganlyniad nid ydynt yn hyfyw i lawer o fusnesau. Yn ychwanegol at hyn, roedd rhai ymatebion yn dweud bod angen weips gwlyb sy’n cynnwys plastig ar gyfer gofal meddygol mewn cartrefi neu leoliadau gofal (er enghraifft ar gyfer glanhau stoma).

Penderfyniadau polisi

Gwaharddiad ar gyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyd wedi penderfynu bwrw ymlaen â deddfwriaeth i wahardd cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig ledled y DU.

O’r adeg y bydd pob darn ar wahân o’r ddeddfwriaeth yn cael ei basio, bydd cyfnod pontio o 18 mis er mwyn rhoi digon o amser i weithgynhyrchwyr newid i gynhyrchu weips gwlyb di-blastig. Dylai’r cyfnod pontio liniaru effeithiau economaidd y gwaharddiad, gan gynnwys colli swyddi, a sicrhau na fydd stociau dros ben o weips gwlyb sy’n cynnwys plastig yn cael eu llosgi neu eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

Rhagwelwn y bydd y ddeddfwriaeth yn ei lle ledled y DU erbyn diwedd 2024. Mae’r bwriad o wahardd weips gwlyb sy’n cynnwys plastig, yn amodol ar ymgynghoriad, wedi’i fynegi mewn strategaethau amrywiol gan y llywodraeth. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgynhyrchwyr wedi dechrau newid i gynhyrchu weips gwlyb di-blastig yn barod.

Rydym wedi gwrando ar randdeiliaid ac rydym yn cydnabod maint y diwydiant gweithgynhyrchu weips gwlyb yn y DU. Gan ystyried hyn, ac yn unol â gwaharddiadau eraill ar blastig yn ddiweddar[footnote 6], rydym wedi penderfynu peidio â chynnwys gweithgynhyrchu fel rhan o’r gwaharddiad.

Byddwn yn dal i annog gweithgynhyrchwyr i symud i sefyllfa lle mae eu weips gwlyb i gyd yn ddi-blastig. Er hyn, rydym yn cydnabod nad yw gweithgynhyrchwyr yn cyflenwi i’r DU yn unig, ac y bydd angen iddynt gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol gwledydd eraill er mwyn parhau i weithredu. Bwriadwyd ein penderfyniad er mwyn lleihau effeithiau economaidd y gwaharddiad, gan gynnwys y posibilrwydd o golli swyddi yn y diwydiant.

Bydd gweithgynhyrchwyr yn y DU yn gallu dal i allforio weips gwlyb sy’n cynnwys plastig i wledydd eraill nad oes ganddynt yr un cyfyngiadau, ond ni fyddant yn gallu cyflenwi a gwerthu’r rhain yn y DU (oni bai eu bod at ddibenion sydd wedi’u hesemptio).

Gorfodi’r gwaharddiad

Yn Lloegr, caiff y gwaharddiad ei orfodi’n bennaf drwy sancsiynau sifil a nodir mewn rheoliadau gan ddefnyddio pwerau Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Mae hyn yn gyson â’r dull o orfodi a ddefnyddir yn Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Gwellt, Ffyn Cotwm a Throellwyr Plastig) (Lloegr) 2020 a Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Platiau Plastig etc. a Chynwysyddion Polystyren etc.) (Lloegr) 2023. Disgwylir y bydd awdurdodau gorfodi yn cymhwyso sancsiynau sifil yn y lle cyntaf. Er hyn, gallai methiant i gydymffurfio â sancsiwn sifil, neu dorri amodau dro ar ôl tro, olygu bod awdurdodau yn erlyn am drosedd sydd â dirwy.

Yng Nghymru, bwriedir i’r rheoliadau gael eu gorfodi drwy naill ai sancsiynau troseddol neu sancsiynau sifil (neu’r naill a’r llall) gan ddibynnu ar natur y drosedd, fel y nodir yn Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023. Yn yr Alban, bydd Gweinidogion yr Alban yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth dan adran 140 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a ddefnyddiwyd yn flaenorol i ddrafftio Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Yr Alban) 2018. Rhagwelir y bydd y gwaith gorfodi’n cael ei wneud gan Safonau Masnach ac Awdurdodau Lleol. Gan fod Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi dychwelyd yn ddiweddar, mae cynlluniau gorfodi yn dal i gael eu llunio a bydd angen i Weinidog DAERA gytuno arnynt.

Diffiniad o ‘weip gwlyb sy’n cynnwys plastig’

At ddibenion y gwaharddiad, caiff weip gwlyb ei ddiffinio fel a ganlyn:

“Ystyr weip gwlyb yw darn o ffabrig heb ei wehyddu sydd wedi’i drochi a’i storio mewn hylif ac nad yw wedi ei ddylunio na’i fwriadu ar gyfer ei ailddefnyddio, gan gynnwys ymhlith pethau eraill weips babanod, weips cosmetig, papur toiled llaith, weips hylendid personol a chynhyrchion glanhau wedi’u seilio ar weips.”

At ddibenion y gwaharddiad hwn, yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon diffinnir ‘plastig’ gan ddefnyddio diffiniad REACH y DU. Mae hyn yn gyson â’r diffiniad a ddefnyddir mewn deddfwriaeth ar gyfer gwaharddiadau plastig untro arall[footnote 7].

Yng Nghymru, bydd y ddeddfwriaeth yn defnyddio’r diffiniad presennol sydd wedi’i gynnwys yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023, sy’n seiliedig ar ddiffiniad REACH y DU.

Dan ddiffiniad REACH y DU o blastig, ynghyd â’r canllawiau ategol ar fonomerau a pholymerau, nid yw fisgos, lyosel a chotwm yn blastig.

Mae diffiniad REACH y DU o blastig yn cynnwys plastigau sy’n seiliedig ar ddeunydd biolegol, sy’n fioddiraddadwy neu y gellir eu compostio. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau fel polyhydrocsialcanoad (PHA) ac asid polylactig (PLA). Nid oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd bod y deunyddiau hyn yn dadelfennu’n gyson yn amgylchedd y byd go iawn.

Esemptiadau at ddibenion diwydiannol a meddygol

Rydym yn cydnabod bod dewisiadau amgen di-blastig naill ai’n anaddas neu heb fod ar gael ar gyfer rhai mathau o ddefnydd. Ar sail hyn byddwn yn darparu esemptiad ar gyfer cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig at ddibenion diwydiannol a meddygol.

Mae’r esemptiad diwydiannol yn caniatáu i fusnesau (er enghraifft ysbytai neu safleoedd cynhyrchu bwyd) eu prynu gan fusnesau eraill, er enghraifft cyfanwerthwyr, neu yn uniongyrchol gan y gweithgynhyrchwr. Ar ôl iddynt gael eu prynu, ni ellir gwerthu’r weips gwlyb hyn i ddefnyddwyr (ac eithrio fferyllfeydd cymunedol – darllenwch isod).

Er mwyn ystyried y rhai hynny sy’n derbyn neu sydd angen gofal meddygol yn eu cartrefi eu hunain, bydd yr esemptiad yn caniatáu ar gyfer cyflenwi a gwerthu gan fferyllfeydd cofrestredig. Ni chaniateir gwerthu weips gwlyb sy’n cynnwys plastig ar y silffoedd, a bydd angen i gwsmeriaid sydd angen y cynhyrchion hyn at ddibenion meddygol ofyn yn benodol i’r fferyllydd amdanynt. Mae hwn yn fodel tebyg i’r gwaharddiad ar wellt plastig.

Caiff manylion llawn yr esemptiadau hyn eu cyflwyno mewn rheoliadau a’u hamlinellu’n fanylach mewn canllawiau. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r sefydliadau perthnasol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Camau nesaf

Bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn bwrw ymlaen â’r gwaith o ddeddfu ar gyfer y gwaharddiad arfaethedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Bydd pob gweinyddiaeth yn cyflwyno rheoliadau drwy ei mecanweithiau deddfwriaethol perthynol. Lle bo’n ofynnol, cyhoeddir asesiad effaith economaidd ochr yn ochr â hyn. Cyhoeddir canllawiau manylach i fusnesau a swyddogion gorfodi maes o law.

Cynhelir adolygiad llawn o’r gwaharddiad (gan gynnwys adolygiad o gwmpas, ystod yr esemptiadau a’r deunyddiau sydd wedi’u cynnwys) o bryd i’w gilydd.

Atodiad A: Dadansoddiad o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad

Mae dadansoddiad o ymatebwyr i’r ymgynghoriad drwy ebost a’r arolwg ar GOV.UK fel a ganlyn:

Tabl 2: Dadansoddiad o ymatebwyr i’r ymgynghoriad

Ymatebwyr Nifer a chanran yr ymatebwyr
Aelod o’r cyhoedd 1,328 (85%)  
Busnes neu sefydliad sy’n cyflenwi, gwerthu neu ddefnyddio weips gwlyb sy’n cynnwys plastig yn uniongyrchol 44 (3%)  
Busnes neu sefydliad nad yw’n cyflenwi, gwerthu neu ddefnyddio weips gwlyb sy’n cynnwys plastig yn uniongyrchol (gan gynnwys grwpiau eiriolaeth) 73 (5%)  
Aelod o’r cyhoedd yn ymateb ar ran ymgyrch neu ddeiseb 45 (3%)  
Arall 71 (5%)