Publication

Crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywodraeth

Updated 14 December 2023

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun rheoli pysgodfeydd (FMP) cregyn y brenin Cymru a Lloegr ar y cyd, a gynhaliwyd rhwng 17 Gorffennaf a 1 Hydref 2023, ac mae’n nodi ymateb y llywodraethau.

Cynhaliwyd ymgynghoriadau ar yr un pryd ar un FMP arall ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr, a phedwar cynllun Lloegr yn unig. Mae nifer o themâu eang, trawsbynciol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, sy’n berthnasol i bob FMP, hefyd yn cael sylw yn y ddogfen hon.

Mae tair prif ran i’r ddogfen hon:

  • cyflwyniad – cyd-destun a throsolwg lefel uchel o’r ymgynghoriad
  • crynodeb o’r ymatebion – crynodebau o themâu a sylwadau a gafwyd fel rhan o’r ymgynghoriad
  • ymateb y llywodraeth – yn nodi ymateb a bwriadau’r llywodraethau

Rhennir crynodeb o’r ymatebion ac ymateb y llywodraeth yn adrannau ar wahân sy’n cwmpasu’r FMP a’r adroddiad amgylcheddol cysylltiedig.

Fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, mae gan y DU rai o’r adnoddau bwyd môr gwyllt gorau yn y byd. Mae ein stociau pysgod yn ased cyhoeddus sy’n cynhyrchu bwyd, mwynhad hamdden ac yn creu swyddi mewn sector sydd ag ymdeimlad cryf o hunaniaeth a balchder yn ei gymunedau. Mae’r stociau hyn yn rhan hanfodol o’n ecosystemau morol a’n cyfalaf naturiol.

Mae llawer o’n stociau pysgod o dan bwysau o bysgota a newid yn yr hinsawdd. Gall pysgota hefyd gael effaith negyddol ar yr ecosystem forol, er enghraifft trwy sgil-ddalfa ddamweiniol neu effeithiau offer pysgota ar wely’r môr. Felly, mae’n bwysig ystyried effeithiau pysgota fel rhan o’n gwaith rheoli cyffredinol ar yr amgylchedd morol.

Mae FMPs ymhlith gofynion Deddf Pysgodfeydd 2020 (‘y Ddeddf’). Mae’r Cynllun Gwella Amgylcheddol (EIP) ar gyfer Lloegr 2023 hefyd yn nodi rôl bwysig FMPs wrth reoli ein stociau pysgod a physgod cregyn yn gynaliadwy. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n darparu fframwaith ailadroddol i sicrhau bod rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau. Yn ganolog i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) mae’r angen i fabwysiadu dull newydd, mwy integredig o reoli adnoddau naturiol Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.

Mae FMPs yn asesu statws stociau ac yn nodi polisïau a chamau gweithredu i adfer stociau i lefelau cynaliadwy neu eu cadw ar lefelau cynaliadwy. Fel y nodir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS), lle bo’n briodol, bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu at amcanion ehangach o dan y Ddeddf.

Paratowyd a chyhoeddwyd FMP cregyn y brenin i gydymffurfio â’r gofynion yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS) ac yn adran 6 y Ddeddf. Roedd y broses baratoi yn ystyried:

  • y Cynlluniau Morol cyffredinol (fel sy’n ofynnol gan adran 58(3) Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009)
  • yr Egwyddorion Amgylcheddol (fel sy’n ofynnol gan adrannau 17 (5)(a-e) a 19(1) Deddf yr Amgylchedd 2021)
  • y gofyniad am asesiad amgylcheddol strategol o dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni 2004

Mae’r cynllun ar y cyd â Llywodraeth Cymru; felly, mae wedi cael ei baratoi a’i gyhoeddi i gydymffurfio â dyletswydd Gweinidogion Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2021 (adran 6(1) a chyfrannu at nodau llesiant ac amcanion llesiant Gweinidogion Cymru a nodir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (adran 3-5).

Cefndir yr ymgynghoriad

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar FMP cregyn y brenin a’r adroddiad amgylcheddol am 11 wythnos rhwng 17 Gorffennaf a 1 Hydref 2023.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gan ddefnyddio Citizen Space (un o offer ymgynghori ar-lein Llywodraeth y DU), drwy e-bost a thrwy gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae’r dadansoddiad a roddir yn y crynodeb hwn yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad a ddarparwyd trwy’r holl sianeli hyn.

Trosolwg o’r ymatebion

Derbynion ni 43 o ymatebion uniongyrchol i gyd i’r ymgynghoriad; cyflwynwyd 25 trwy arolwg ar-lein Citizen Space a 18 drwy e-bost.

Roedd yr ymatebion yn cynnwys:

  • 6 (14%) o grwpiau buddiant
  • 10 (23%) o’r sector dal a chynhyrchu
  • 11 (26%) o sectorau eraill
  • 1 (2%) o’r sector gwyddoniaeth ac ymchwil
  • 15 (35%) sector heb ei ddatgan

Roedd rhanddeiliaid a ddewisodd ‘Sectorau eraill’ yn cynnwys Awdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau (IFCAs), cyrff cyhoeddus, llywodraethau eraill, a chyrff anllywodraethol amgylcheddol (eNGOs). Fodd bynnag, roedd rhywfaint o groesi gyda’r categori ‘grŵp buddiant’, gyda rhai o’r un grwpiau rhanddeiliaid yn dewis yr opsiwn hwn yn lle.

Nodir rhestr o sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn Atodiad 1.

Buom hefyd yn ymgysylltu â thros 300 o bobl mewn 23 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb lle cafodd rhanddeiliaid y cyfle i drafod FMP drafft cregyn y brenin. Mae rhestr o leoliadau cyfarfod wedi’i chynnwys yn Atodiad 2.

Defnyddiwyd cyfarfodydd ar-lein hefyd i gasglu barn gan ystod eang o sectorau a rhanddeiliaid gan gynnwys y sector dal, y gadwyn gyflenwi ehangach, cyrff anllywodraethol, gwyddonwyr, y byd academaidd, swyddogion yr UE i’r DU, ac eraill â buddiant mewn rheoli pysgodfeydd. 

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad ar-lein i randdeiliaid yng Nghymru.

Defnyddiwyd y digwyddiadau ymgysylltu hyn fel dull ychwanegol ar gyfer ceisio a chofnodi barn ar yr FMP. Roedd y mewnbwn hwn yn arbennig o bwysig o ystyried yr adeg o’r flwyddyn (tymor pysgota’r haf) a nifer yr ymgynghoriadau pysgodfeydd domestig a gynhaliwyd. Cafodd safbwyntiau a sylwadau o’r cyfarfodydd hyn eu trin fel rhan o’r ymgynghoriad ac fe’u crynhoir isod.

Methodoleg

Oherwydd cwmpas eang yr FMP a natur ansoddol ymatebion, cynhaliwyd dadansoddiad yn seiliedig ar themâu’r ymatebion. Gan ddefnyddio dull ailadroddol, dadansoddwyd pob ymateb ddwywaith i nodi’r pynciau a godwyd gan randdeiliaid ac argymhellion polisi a gyflwynwyd. Rydym wedi crynhoi pob ymateb, a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r crynodeb cyffredinol o’r ymatebion a amlinellir isod.

Nodwyd sylwadau a safbwyntiau mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Croeswiriwyd y nodiadau hyn ac yna fe’u dadansoddwyd gan ddefnyddio’r un broses ailadroddol. Mae safbwyntiau o’r digwyddiadau ymgysylltu hyn wedi’u cynnwys yn y crynodeb isod ac fe’u hystyriwyd yn gyfartal ochr yn ochr â’r ymatebion e-bost ac ar-lein.

Y prif negeseuon

Rydym yn ddiolchgar iawn am yr amser y mae’r holl randdeiliaid wedi’i roi i ddarparu mewnbwn adeiladol i’n helpu i wella a chwblhau’r FMPs. Cyflwynwyd ystod eang o safbwyntiau amrywiol ac addysgiadol yr ydym wedi darparu crynodebau manwl ar eu cyfer yn yr adrannau isod.

Ar y cyfan, cafwyd cefnogaeth eang i’r FMP hwn fel dull o wella cynaliadwyedd stociau cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr, yn ogystal â gwella cynaliadwyedd ecolegol yr amgylchedd morol.

Roedd cefnogaeth i roi mwy o flaenoriaeth i ddatblygu fframwaith rheoli cyffredinol yn seiliedig naill ai ar reolaeth allbwn, a fyddai’n cyfyngu ar faint o stoc a gymerir o’r bysgodfa, neu reolaeth fewnbwn, a fyddai’n cyfyngu ar yr  ymdrech a gysegrir ar y bysgodfa. Roedd rhanddeiliaid yn cefnogi blaenoriaethu adolygiad o’r mesurau presennol ochr yn ochr â datblygu fframwaith rheoli newydd i sicrhau eu bod yn addas i’r diben i sicrhau cynaliadwyedd stoc.

Ochr yn ochr â galwadau i flaenoriaethu camau gweithredu i ddeall a lliniaru effeithiau carthu cregyn bylchog ar wely’r môr, tynnodd rhanddeiliaid sylw hefyd at yr angen i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r effeithiau y mae offer a lusgir yn eu cael ar rywogaethau a physgodfeydd eraill, heb eu targedu er enghraifft, cramenogion, yn ogystal â mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â gwrthdaro offer. Awgrymodd rhanddeiliaid y dylid gwneud mwy o gysylltiadau ar draws yr amrywiol FMPs i wella dealltwriaeth a mynd i’r afael â materion o ddiddordeb a rennir, gan gynnwys gwrthdaro gofodol, a defnyddio cyfleoedd i alinio lle bo hynny’n bosibl.

Roedd rhanddeiliaid yn eang o blaid datblygu “dull cydreoli” o reoli pysgodfa cregyn y brenin, er bod rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod diffyg cynrychiolaeth ar y grŵp a ddatblygodd yr FMP o rai sectorau a phartïon â buddiant.

Roedd heriau ynghylch diffyg uchelgais gan y llywodraeth a’r angen i symud yn gyflymach i ddatblygu a gweithredu’r mesurau rheoli a’r camau gweithredu o fewn yr FMP. Er bod cefnogaeth eang ynghylch yr angen am well rheolaeth, er mwyn atal cam-fanteisio pellach ar y stoc, roedd safbwyntiau cymysg ynghylch i ba raddau y dylid cymhwyso mesurau ar sail ragofalus tra bod y dulliau rheoli tymor hwy yn cael eu datblygu.

Nodir manylion y newidiadau a wnaed i’r FMP hwn mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn adran ymateb y llywodraeth y ddogfen hon.

Crynodeb o’r ymatebion i gwestiynau’r FMP

Fel rhan o’r ymgynghoriad, gofynnwyd 13 o gwestiynau i randdeiliaid trwy Citizen Space a oedd yn caniatáu iddynt fynegi eu barn ar gynnwys FMP arfaethedig cregyn y brenin. Mae crynodeb o’r ymatebion i’r cwestiynau i’w weld isod. Mae ymatebion e-bost a safbwyntiau o gyfarfodydd arfordirol hefyd wedi llywio’r adran hon.

Cwestiwn 1: A oes gennych unrhyw sylwadau ar y broses ar gyfer datblygu FMP cregyn y brenin? 

Nododd rhai rhanddeiliaid yn y diwydiant cregyn bylchog eu bod yn hapus gyda’r broses FMP bresennol, gan gefnogi’r dull a ddefnyddiwyd i ddatblygu FMP cregyn y brenin a’r cynllun rheoli hirdymor arfaethedig ar gyfer pysgodfa cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Teimlai nifer o randdeiliaid fod y cydweithio rhwng y llywodraeth a rhanddeiliaid wedi bod yn effeithiol drwy gydol y broses o ddatblygu’r FMP, gydag ymrwymiad da gan y llywodraeth a rhanddeiliaid i gydweithio. Nododd rhai o randdeiliaid y sector dal fod ymrwymiad y diwydiant i’r FMP yn fwy tebygol trwy fabwysiadu dull cydreoli mwy ffurfiol, a fyddai’n arwain at fesurau rheoli sy’n cael eu cefnogi’n fwy ac yr ymddiriedir ynddynt yn fwy yn y dyfodol.

Roedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn cefnogi’r dull cydreoli. Fodd bynnag, teimlai nifer o berchenogion cychod llai o faint a chyrff anllywodraethol amgylcheddol (eNGOs) fod proses ddatblygu’r FMP yn cynrychioli buddiannau sefydliadau cychod cregyn bylchog mwy o faint yn anghymesur, a bod diffyg cynrychiolaeth o gyrff anllywodraethol amgylcheddol a fflyd llai o faint y glannau. Tynnodd rhai rhanddeiliaid y sector cadwraeth sylw hefyd at bryderon ynghylch lefel y cyfraniad a gafodd y diwydiant cregyn bylchog wrth ddrafftio’r FMP a nodwyd bod hyn yn wrthdaro buddiannau posibl. Er mwyn bod yn fwy cynhwysol a chynrychioli buddiannau’n ehangach, roedd rhai rhanddeiliaid o’r farn y dylai grwpiau rheoli presennol ac yn y dyfodol gynnwys cynrychiolwyr o ystod ehangach o sectorau, ac y dylid gwella’r ffyrdd y mae’r grwpiau hyn yn ymgysylltu’n ehangach â rhanddeiliaid.

Awgrymodd rhai rhanddeiliaid yn y diwydiant cregyn bylchog ac IFCAs y dylid bod wedi ystyried mwy o batrymau gwaith diwydiant fel rhan o’r cynllunio ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu, gan geisio mwy o fewnbwn gan randdeiliaid y diwydiant i ganfod yr amseroedd a’r lleoliadau mwyaf priodol i gynnal digwyddiadau. Teimlwyd hefyd y dylid bod wedi rhoi mwy o rybudd am y digwyddiadau ymgysylltu a’u hysbysebu yn gynt.

Mynegodd y rhan fwyaf o randdeiliaid y diwydiant cregyn bylchog rwystredigaeth ynghylch faint o amser y mae wedi’i gymryd i gyrraedd y pwynt lle mae FMP ar gyfer cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr, yn enwedig o ystyried faint o waith a thrafodaeth ynghylch rheoli cregyn y brenin yn well sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd.  Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod prinder manylion ac amseriadau yn yr FMP i lenwi bylchau mewn tystiolaeth a gweithredu newidiadau ystyr’on i’r bysgodfa.

Cwestiwn 2: Beth yw eich barn ar y dystiolaeth a gyflwynwyd ar gyflwr presennol stociau cregyn y brenin (a stociau perthynol eraill) yn nyfrCymruCymru a Lloegr ac a allwch chi ddarparu unrhyw dystiolaeth ych’anegol sy’n cefnogi ein barn’ni neu sy’n wahanol iddi? 

Cytunodd nifer o randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau diwydiant, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a grwpiau rheoli cregyn bylchog, fod y dystiolaeth a gyflwynwyd ar statws stociau yn nyfroedd Lloegr yn gywir, gan nodi ar yr un pryd bod llai o dystiolaeth ar gael ar statws stociau ynCymruoedd Cymru. Roedd y rhan fwyaf o randdeil’aid yn cefnogi’’ angen i wella’r sylfaen dystiolaeth ac yn teimlo bod ’ dystiolaeth a’r cynllun ymchwi’ yn adlewyrchu’n gywir ’ dystiolaeth a’r data sydd ar gael ar hyn o bryd, gy’a bylchau’wedi’u hamlygu’n glir.

Roedd rhai rhanddeiliaid o blith cyrff anllywodraethol amgylcheddol yn teimlo bod y sail dystiolaeth bresennol yn ddigonol i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus ynghylch cynaliadwyedd stoc ac roedd eraill yn ’eimlo y gallai’r dystiolaeth sydd ar gael alluogi dadansoddi mecanwaith i ddatblygu mesurau rheoli fel rheolaethau allbwn.

Teimlai nifer o randdeiliaid diwydiant, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a grwpiau rheoli cregyn bylchog y dylid llenwi bylchau tystiolaeth fel blaenoriaeth, gyda nifer o randdeil’aid yn cefnogi’n benodol flaenoriaethu datblygu pwyntiau cyfeirio biolegol.

Mynegodd rhai rhanddeiliaid pysgodfa’r glannau, eNGO ac IFCA bryder ynghylch y cynnydd mewn glaniadau cregyn y brenin a gor-fanteisio ar y bysgodfa. Er bod rhai rhanddeiliaid eNGO yn cytuno bod y system reoli bresennol ar gyfer stociau cregyn y brenin yn annigono’ ac yn cefnogi’r angen am reolaeth ragofalus i leihau risg gor-fanteisio, roedd rhanddeiliaid eraill y diwydiant cregyn bylchog yn teiml’ y dylid osgoi’r dull rhagofalus, ac y dylai mesurau yn y dyfodol gael eu harwain gan dystiolaeth i sicrhau eu bod yn llwyddiannus ac yn addasol.

Roedd rhai rhanddeiliaid eNGO yn teimlo bod angen asesu effaith carthu ar gynefin y môr a sgil-ddalfa gan fod pryder yn’hylch difrod i’r amgylchedd morol ehangach. Roedd ambell randdeiliad yn teimlo bod diffyg ystyriaeth i effeithiau ecolegol ehangach y bysgodfa.

Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y ffynonellau tystiolaeth canlynol i wella sylfaen dystiolaeth FMP cregyn y brenin:

  • Y Canllaw Pysgod Da a gynhyrchwyd gan y Marine Conservation Society (MCS)
  • data o ardaloedd a ddiogelir rhag treillion cregyn bylchog am gyfnodau hirach i greu amcangyfrifon mwy cywir o farwolaethau naturiol a strwythurau maint ac oedran naturiol
  • adroddiadau a gyhoeddwyd gan Brifysgol Bangor yn ymwneud â stociau cregyn bylchog yn nyfroedd Cymru
  • ystyried ymchwil prosiect Ifremer[footnote 1] a SELEDRAG[footnote 2]
  • defnyddio mwy o offer arloesol a threialon mesur technegol a ddefnyddir gan weinyddiaethau’r DU
  • defnyddio mwy o ddata IFCA
  • Prosiect Cynllun Gwella Pysgodfeydd (FIP) cregyn bylchog Sianel y DU a FIP Môr y Gogledd, Gorllewin yr Alban a Môr Iwerddon

Cwestiwn 3: Beth yw eich barn am y bylchau yn y dystiolaeth a nodwyd yn yr FMP? 

Roedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn cytuno â’r bylchau yn y dystiolaeth a nodwyd gan yr FMP ac roeddent yn teimlo bod y bylchau yn y dystiolaeth wedi’u hystyried yn effeithiol a’u nodi’n gynhwysfawr. Er bod cefnogaeth eang i’r camau a nodwyd i fynd i’r afael â’r bylchau mewn tystiolaeth, roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y dylid blaenoriaethu anghenion ymchwil fel blaenoriaeth i sicrhau y defnyddir amser ac adnoddau yn effeithiol.

Roedd rhanddeiliaid y diwydiant cregyn bylchog, eNGO a’r byd academaidd yn teimlo’n gyffredin bod diffyg data cyffredinol ynghylch effaith rhwydo cregyn bylchog ar wely’r môr, rhywogaethau eraill a sectorau fflyd eraill.

Dywedodd y sector dal, grwpiau rheoli pysgodfeydd ac eNGOs fod angen buddsoddiad ac adnoddau sylweddol i lenwi’r bylchau tystiolaeth a nodwyd ac y dylid nodi camau gweithredu i esbonio sut y bydd y broses o gasglu data yn cael ei hariannu a’i hadnoddu drwy gydol proses ddatblygu’r FMP. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y gellid rhannu anghenion ymchwil ar draws FMPs lle bo hynny’n bosibl, gan gynnwys archwilio aneffeithlonrwydd wrth gasglu data.

Roedd rhai rhanddeiliaid eNGO yn teimlo na ddylai bodolaeth bylchau mewn tystiolaeth achosi oedi cyn datblygu mesurau rheoli, ac y dylid cymryd dull rhagofalus mewn rhai mannau i ddiogelu stociau a’r amgylchedd morol ehangach.

Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno â’r camau i fynd i’r afael â’r bylchau yn y dystiolaeth a nodwyd? Rhowch wybodaeth i gefnogi eich barn. 

Yn fras, cytunodd rhanddeiliaid â’r camau a nodwyd i fynd i’r afael â’r bylchau yn y dystiolaeth a nodwyd. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn teimlo bod y bylchau tystiolaeth yn helaeth ac y byddai angen adnoddau sylweddol i fynd i’r afael â nhw. Roedd y diwydiant cregyn bylchog a’r eNGOs yn teimlo’n gyffredin bod diffyg eglurder ynghylch sut y byddai’r camau gweithredu’n cael eu cyflawni, pwy fyddai’n gyfrifol am gyflawni’r camau gweithredu a sut y byddai’r gwaith yn cael ei ariannu. Mynegodd rhai rhanddeiliaid awydd am gynllun manylach a oedd yn blaenoriaethu anghenion y dystiolaeth, yn nodi cyfrifoldebau dros gyflawni’r camau gweithredu ac yn nodi sut y byddai’r camau casglu data yn cael eu hariannu.

Nododd rhai rhanddeiliaid yr hoffent fod wedi gweld ymrwymiadau cryfach ynghylch amseriadau ar gyfer cyflawni’r camau.

Roedd nifer o randdeiliaid eNGO yn teimlo y dylid blaenoriaethu camau tuag at sicrhau cynaliadwyedd ecolegol, tra bod rhanddeiliaid eraill yn awgrymu y dylid rhoi amcanion i fynd i’r afael ag effeithiau amgylcheddol y bysgodfa cregyn bylchog ar lwybr carlam.

Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y gellid cyflymu’r broses casglu data gan ddefnyddio dulliau casglu data amser real, megis dulliau monitro electronig o bell (REM) ac iVMS (system monitro cychod y glannau).

Cwestiwn 5:  Pa rôl y gall cau ardaloedd ei chwarae wrth gyflawni cynaliadwyedd stoc a nodau FMP yn effeithiol o dan y fframwaith rheoli newydd arfaethedig (o ran amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol)?

Roedd barn gymysg am gau ardaloedd.

Awgrymodd rhai rhanddeiliaid, ar draws gwahanol sectorau a sefydliadau, gan gynnwys y diwydiant cregyn bylchog, IFCAs ac eNGOs, fod cau ardaloedd yn ganolog i sicrhau cynaliadwyedd stoc, a bod nodau’r FMP yn adlewyrchu bod cregyn bylchog yn addas iawn ar gyfer rheoli ar sail ardal gan fod eu dosbarthiad yn rhagweladwy, a bod eu biomas a’u dwysedd yn cynyddu’n gyflym pan fydd ardal yn cael ei diogelu. Nodwyd y gall helaethrwydd stoc cynyddol, o fewn ardaloedd wedi’u cau, wella potensial atgenhedlu y tu mewn i’r ardal gaeedig ac yn agos iddi.

Roedd nifer o randdeiliaid y diwydiant cregyn bylchog ac eNGO yn teimlo y dylid cau ardaloedd hefyd i ddiogelu’r amgylchedd morol ehangach. Roedd rhai o’r farn bod cau yn effeithiol o ran cynyddu bioamrywiaeth a helaethrwydd rhywogaethau masnachol eraill, yn ogystal ag amddiffyn gwely’r môr a chaniatáu aildyfiant cynefinoedd sy’n hanfodol ar gyfer sefydlu a goroesi silod.

Roedd rhanddeiliaid eraill y diwydiant cregyn bylchog yn teimlo bod cau ardaloedd yn offeryn rheoli aneffeithiol i gyflawni cynaliadwyedd, gan y gallent arwain at bysgodfeydd ‘ffynnu a thorri’ ac annog nifer fawr o gychod i bysgota ardal yn ddwys mewn amserlen fyrrach. Dywedodd nifer o randdeiliaid o’r sector dal fod cau ardaloedd yn aml yn arwain at broblemau dadleoli a gor-fanteisio ar stociau mewn ardaloedd eraill, ynghyd â chanlyniadau anfwriadol eraill, megis aneffeithlonrwydd economaidd, mwy o alw am le ar y môr a gwrthdaro offer.

Roedd nifer o randdeiliaid yn teimlo y dylid ystyried tystiolaeth a data yn llawn cyn cau er mwyn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

Yn fras, nododd rhanddeiliaid y diwydiant cregyn bylchog eu bod yn ffafrio cau ardaloedd fel rhan o gyfres o fesurau rheoli, gyda fframwaith rheoli cyffredinol ar waith. Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y dylid defnyddio’r dull rhagofalus i weithredu mesurau tra bod y sail dystiolaeth yn cael ei gwella a, phan fydd y fframwaith wedi’i sefydlu, y dylid adolygu pob achos o gau i sicrhau effeithiolrwydd.

Galwodd nifer o randdeiliaid eNGO am wahardd treillio mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) a ddynodwyd i amddiffyn cynefinoedd benthig, ac awgrymodd eraill y dylid gweithredu ‘Parthau Ewch i Bysgota’ dynodedig, lle gellir cyfeirio treillio cregyn bylchog, neu bysgodfeydd cylchdro.

Cwestiwn 6: A oes ardaloedd stoc penodol lle credwch y gallai cau fod o fudd i nodau’r FMP? Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych sy’n cefnogi hyn.

Nododd rhanddeiliaid y diwydiant cregyn bylchog yn fras, er bod angen cau ardaloedd, y dylid ystyried gweithredu ardaloedd caeedig fel rhan o strategaeth fframwaith rheoli ac y dylai gwyddoniaeth a thystiolaeth lywio hynny. Roedd nifer o randdeiliaid sector dal hefyd yn teimlo y dylid ystyried y goblygiadau ar ddadleoli yn iawn, a lleihau’r effeithiau lle bo hynny’n bosibl.

Teimlai rhai rhanddeiliaid eNGO y dylai’r weithred o gau ardaloedd ganolbwyntio ar gynefinoedd yn hytrach na’r ardaloedd stoc gan y dylai nodau’r FMP anelu at ddiogelu’r amgylchedd morol cyfan. Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y dylai achosion o gau pysgodfeydd cregyn bylchog gael eu cymhwyso i diroedd meithrin ac ardaloedd o gynefinoedd sensitif, megis Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Falmouth i St Austell Bay, cynefin carbon glas, gyda rhai’n galw am gau pysgodfeydd cregyn bylchog yn barhaol. Roedd yn well gan randdeiliaid eraill y dylid cau ardaloedd o ddwysedd stoc pysgod ifainc uchel.

Argymhellodd rhai rhanddeiliaid y diwydiant cregyn bylchog y dylid parhau i gau ardal 7d y DU y Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Archwilio’r Moroedd (ICES), gydag amserlen estynedig i adlewyrchu cau ardal 7d ar hyn o bryd yn nyfroedd yr UE rhwng mis Mai a mis Hydref. Roedd rhanddeiliaid yn teimlo mai ardaloedd 7d a 7e yw’r ardaloedd sy’n cael eu pysgota ddwysaf ac sy’n fwyaf hygyrch i longau llusgrwydo mwy o faint, ac felly y byddent yn elwa ar gau ardaloedd.

Awgrymwyd gan IFCAs y dylai’r rheoli a gymhwysir y tu allan i’r parth 6 milltir forol (nm) ddefnyddio rheolaeth bresennol o fewn y parth 3 i 6nm gan fod pysgodfeydd cregyn bylchog cynhyrchiol sydd y tu mewn i’r ardal hon cael eu rheoli’n gyffredin drwy gau dros fisoedd yr haf. Amlygodd cynrychiolwyr IFCA fod cau yn ystod y cyfnod hwn yn caniatáu i stociau adfer tra bod y cig a’r cynnyrch yn wael a thra nad yw’r cregyn bylchog yn cario grawn, gan ganiatáu ar gyfer mwy o broffidioldeb pan fydd ansawdd cregyn bylchog yn uwch a’r prisiau’n cynyddu dros fisoedd y gaeaf.

Roedd sylwadau bod angen cymhwyso mesurau gofodol neu amserol ar yr holl stociau cregyn bylchog, gyda rhai cyrff eNGO yn awgrymu gwahardd llusgrwydo ar draws y parth 0 i 3nm cyfan yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Nodwyd gan randdeiliaid y diwydiant pysgod cregyn y dylai cynigion ynghylch cau pysgodfeydd cregyn y brenin weithio ochr yn ochr ag FMPs eraill fel yr FMP crancod a chimychiaid i leihau rhyngweithiadau offer a mynd i’r afael â galwadau cynyddol am le ar y môr.

Cwestiwn 7: Ble ydych chi’n gweld cyfleoedd i gryfhau’r mesurau presennol i sicrhau eu bod yn addas i’r diben i gyflawni cynaliadwyedd stoc a nodau FMP o dan y fframwaith rheoli newydd arfaethedig (yng nghyd-destun amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol)?

Cytunodd y mwyafrif o randdeiliaid nad oedd trefn bresennol ymdrechion dyfroedd y gorllewin (WWER), sy’n cyfyngu ar ymdrech diwrnodau ar y môr ar y bysgodfa, sy’n berthnasol i gychod 15 metr a throsodd, yn addas i’r diben. Dywedodd amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys y sector dal, grwpiau rheoli pysgodfeydd, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a chynghorwyr gwyddonol, nad oeddent am weld y dull rheoli hwn yn cael ei gryfhau gan ei fod yn anwyddonol ac aneffeithiol wrth sicrhau cynaliadwyedd stoc a diogelu’r amgylchedd morol, gan nad yw’n caniatáu ar gyfer arloesiadau offer ac am nad yw ond yn berthnasol i sector penodol o’r fflyd cregyn bylchog.

Roedd rhanddeiliaid ar draws y diwydiant cregyn bylchog, IFCAs ac eNGOs yn cefnogi cryfhau mesurau technegol sy’n berthnasol i’r sector dal cregyn bylchog. Ymhlith yr awgrymiadau roedd cyfyngiad ar nifer y llusgrwydi a ganiateir fesul ochr i bob cwch. Roedd rhai hefyd yn cefnogi cyfyngiad injan cwch 221kW o fewn rhai ardaloedd, i gyd-fynd â chyfyngiadau peiriant treillio trawst presennol, ynghyd â therfynau hyd bar tynnu a therfynau maint cylch. Nododd ychydig o randdeiliaid y dylid alinio cyfyngiadau llusgrwydo ar draws ffiniau rheoli, yn enwedig lle mae stociau yn gorgyffwrdd â ffiniau gweinyddol.

Roedd nifer o randdeiliaid y diwydiant cregyn bylchog a chynrychiolwyr IFCA yn teimlo, er y dylai’r rheoli gael ei alinio ar draws ffiniau, y dylai’r rheoli barhau i ymateb i wahaniaethau stoc rhanbarthol.

Amlygodd rhai rhanddeiliaid y byddai cyfyngiadau llusgrwydo yn helpu i ddiogelu’r stociau ac yn helpu i sicrhau diogelwch economaidd y diwydiant yn y dyfodol yn ogystal â lleihau’r effaith amgylcheddol ar wely’r môr a rhywogaethau sensitif cyfagos.

Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y dylid blaenoriaethu adolygiad o’r mesurau presennol i sefydlu eu sail wyddonol a’u heffeithiolrwydd. Roedd yna awydd hefyd i stociau cregyn y brenin gael eu deall fesul ardal i nodi rhyngweithio â chynefinoedd a’r amgylchedd morol ehangach, gan fod rhai rhanddeiliaid eNGO a’r diwydiant cregyn bylchog yn teimlo’n gyffredin y byddai cynnig cryfhau mesurau heb yr wybodaeth hon yn weithred ddamcaniaethol i raddau helaeth. Wrth gasglu’r wybodaeth hon, gellid nodi buddion amgylcheddol posibl dewisiadau amgen.

Roedd rhai rhanddeiliaid eNGO hefyd yn teimlo y byddai defnyddio technolegau fel REM ac iVMS a thechnolegau offer i mewn offer allan yn nodi terfynau aflonyddu ar wely’r môr ac yn nodi lle gallai rheoli ardaloedd stoc yn ôl cylchdro fod yn fuddiol.

Cwestiwn 8: A ydych yn cytuno â’r cynnig i archwilio a datblygu dull rheoli allbwn a/neu ddull rheoli mewnbwn ar sail wyddonol, ac a oes manteision ac anfanteision posibl (amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol) y dylid eu hystyried yn gynnar yn y broses? 

Cytunodd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid a roddodd ymateb i’r cwestiwn hwn, gan gynnwys y sector dal, grwpiau rheoli pysgodfeydd, eNGOs ac IFCAs, y dylid archwilio rheolaethau allbwn a mewnbwn fel blaenoriaeth, ac y dylid archwilio’r dulliau rheoli hyn ar y cyd i sicrhau sefydlu cyfundrefn reoli effeithiol. Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y dylai’r amserlen i ddatblygu rheolaeth allbwn neu fewnbwn fod yn fwy uchelgeisiol. Awgrymwyd y dylai unrhyw ddull rheoli anelu at leihau’r amser y mae cychod yn ei dreulio ar y môr, gan leihau effeithiau llusgrwydo ar wely’r môr felly, gan sicrhau proffidioldeb y fflyd.

Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod angen rheolaethau allbwn, gan grybwyll bod pysgodfeydd eraill wedi cael profiadau cadarnhaol yn gweithredu rheolaethau allbwn, ac yn cefnogi’r gwaith o archwilio modelau pysgodfeydd effeithiol mewn gwledydd eraill. Amlygwyd bod rheolaethau allbwn yn aml yn fwy effeithlon o ran rheoli a gorfodi.

Mynegodd rhai o randdeiliaid y diwydiant cregyn bylchog bryderon am effeithiau posibl rheolaeth allbwn gan y teimlwyd y gallai fod yn niweidiol i amcanion economaidd a chymdeithasol, ac amlygwyd bod angen sicrhau bod unrhyw ddull posibl yn cael ei reoli’n deg ac mewn modd economaidd hyfyw.

Roedd cynrychiolwyr eraill o’r diwydiant cregyn bylchog yn cefnogi’r angen i ddatblygu rheolaeth fewnbwn, gan nodi bod rhai pysgodfeydd cregyn bylchog yn cael eu rheoli ar hyn o bryd trwy reolaeth ymdrech yn nyfroedd Lloegr, ac roeddent o’r farn bod stociau yn gyffredinol yn aros ar lefel y cynnyrch cynaliadwy mwyaf (MSY) neu’n agos ati. Fodd bynnag, roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y gallai rheolaeth fewnbwn fod yn bryder gan y gallai dyrannu mynediad i’r bysgodfa fod yn ddadleuol.

Teimlai ychydig o gynrychiolwyr y sector dal ac eNGO fod angen cyfuniad o reolaethau allbwn a mewnbwn i reoli’r bysgodfa yn effeithiol, gan nodi bod angen rheolaethau mewnbwn i reoli maint y fflyd a bod angen rheolaethau allbwn i reoli’r gyfradd gynaeafu yn berthynol i fiomas y stoc. Credwyd bod cyfuniad o’r ddau yn galluogi diwydiant, llywodraeth a gwyddonwyr i addasu i drefn reoli newydd a sefydlu pa mor effeithiol ydyw.

Yn gyffredinol, cytunodd rhanddeiliaid fod angen cyfres o fesurau ochr yn ochr â fframwaith rheoli cyffredinol. Drwy’r dull hwn teimlwyd y gellid cyflawni cynaliadwyedd stoc.

Dywedodd rhai rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant cregyn bylchog, fod yn rhaid i unrhyw fesurau rheoli fod yn berthnasol i gychod yr UE hefyd. Nododd rhanddeiliaid yr UE hefyd ei bod yn bwysig defnyddio mesurau yn unol â’r TCA yn y dyfodol.

Cwestiwn 9: A oes unrhyw fesurau rheoli ychwanegol y dylid eu hystyried i ddiogelu stociau cregyn y brenin a’r ecosystem ehangach y maent yn dibynnu arni, a pham?

Roedd rhai rhanddeiliaid a roddodd farn ynghylch y cwestiwn hwn, gan gynnwys y diwydiant cregyn bylchog, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a grwpiau rheoli pysgodfeydd, yn teimlo y dylai dulliau rheoli’r dyfodol ganiatáu mwy o arloesi offer ac ymateb i ddisgwyliadau modern y bysgodfa, er enghraifft, lleihau effaith ar yr amgylchedd morol, gan barhau hefyd i fod yn economaidd hyfyw a lliniaru’r effeithiau amgylcheddol lle bo hynny’n bosibl.

Galwodd llawer o randdeiliaid fel y diwydiant pysgod cregyn ac eNGOs am well arloesedd ac effeithlonrwydd offer, gan ddweud eu bod yn cefnogi defnyddio potiau gyda goleuadau a phlymio llaw fel dewis arall yn lle llusgrwydo. Dywedodd rhai rhanddeiliaid nad oedd archwilio arloesedd offer yn bosibl o dan y ddeddfwriaeth gyfredol, a nodasant y gallai effeithlonrwydd offer fod yn niweidiol i’r stociau hyd yn oed o’i ddefnyddio o dan system rheoli ymdrech well. Gofynnodd rhai rhanddeiliaid y dylai trwyddedau gwyddonol i dreialu gwahanol fathau o offer arloesol fod ar gael yn haws.

Cytunodd mwyafrif y rhanddeiliaid o wahanol grwpiau â buddiant fel eNGOs, grwpiau rheoli pysgodfeydd a chynrychiolwyr pysgodfeydd cregyn eraill y dylid cyflwyno mesurau mwy technegol i wella detholusrwydd a lleihau sgil-ddalfa rhywogaethau nad ydynt wedi’u targedu ac effaith offer llusgrwydo ar y cynefin benthig. Ymhlith yr awgrymiadau roedd cynyddu maint cylch, gostwng nifer y dannedd llusgrwydo a ganiateir a chyfyngu ar nifer y llusgrwydi a ganiateir fesul ochr ar gychod. Awgrymodd rhanddeiliaid hefyd y dylid defnyddio llusgrwydi llithro ac offer mat rwber i leihau rhyngweithio’r offer â gwely’r môr.

Awgrymodd nifer o gynrychiolwyr y diwydiant cregyn bylchog y dylid rhewi trwyddedau cudd er mwyn osgoi cynnydd yn y cychod pysgota cregyn bylchog yn ymuno neu’n ailymuno â’r bysgodfa a chyfrannu at or-fanteisio ar y stoc. Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo, pan gyflwynir mesurau newydd, y gallai cychod sydd â hawl i drwydded, ond nad ydynt ar hyn o bryd yn pysgota cregyn bylchog, gael eu hannog i ymuno â’r bysgodfa wrth i lefelau stoc wella.

Roedd rhai rhanddeiliaid o’r diwydiant cregyn bylchog ac eNGOs yn cefnogi defnyddio REM ac iVMS ochr yn ochr â thechnoleg offer i mewn offer allan i gasglu data pysgodfeydd dibynadwy i lywio penderfyniadau rheoli yn y dyfodol a monitro effeithiolrwydd rheolaethau mewnbwn neu allbwn yn y dyfodol.

Galwodd rhai rhanddeiliaid yn y diwydiant cregyn bylchog am well cyfnodau cau tymhorol yn ystod misoedd yr haf, gydag awgrymiadau i gyd-fynd â chyfnodau cau’r UE, tra galwodd rhanddeiliaid eraill fel cyrff anllywodraethol amgylcheddol am gau ardaloedd mawr o diroedd cregyn bylchog yn barhaol, i ddiogelu’r cynefin benthig, a rhywogaethau masnachol a sensitif eraill. Awgrymwyd hefyd y dylid gwahardd llusgrwydo am gregyn bylchog mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig a ddynodwyd i amddiffyn y cynefinoedd benthig a’r ecosystem gysylltiedig.

Amlygodd nifer o randdeiliaid y sector dal fod gorfodi mesurau rheoli yn hanfodol i gyflawni amcanion yr FMP, felly dylai unrhyw fesurau arfaethedig fod yn ymarferol ac yn orfodadwy a bod ag adnoddau digonol ar waith i gefnogi hyn. Nododd rhai rhanddeiliaid y gellid gorfodi’r mesurau presennol yn well a allai gyfrannu at well cynaliadwyedd stoc. Nododd rhanddeiliaid hefyd y dylid adolygu rheolaeth newydd yn rheolaidd i sicrhau ei heffeithiolrwydd.

Teimlai sefydliad sydd â buddiant mewn treftadaeth ddiwylliannol y dylid cydnabod effaith llusgrwydo am gregyn bylchog ar asedau hanesyddol o fewn yr FMP i roi ystyriaeth briodol i’r difrod ffisegol posibl a achosir i safleoedd treftadaeth ddiwylliannol morol gan bysgota cregyn bylchog symudol.

Cwestiwn 10: A oes unrhyw fesurau y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer gweithredu’n gynnar yn unol â’r dull rhagofalus, a pham?

Roedd rhai rhanddeiliaid, gan gynnwys o’r diwydiant pysgod cregyn a chyrff amgylcheddol, yn teimlo y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu fframwaith rheoli sy’n diogelu’r stoc, yn amddiffyn yr amgylchedd morol ehangach ac yn cefnogi diwydiant sy’n economaidd hyfyw. Roedd rhai yn awgrymu cyflwyno rheolaeth allbwn, sefydlu pwyntiau cyfeirio biolegol a gosod terfynau dal rhagofalus gan ddefnyddio’r gyfres amser bresennol o ddata asesu stoc tra bod data’n gwella. Roedd aelodau eraill o’r diwydiant cregyn bylchog yn cynnig trefn ymdrech diwrnodau ar y môr fwy cyfyngol fel mesur rhagofalus.

Cefnogodd nifer o randdeiliaid ddatblygiad cynnar strategaeth gynaeafu a rheolau rheoli cynaeafau (HCRs), gan amlygu y dylid rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r bylchau yn y dystiolaeth sydd eu hangen i ddatblygu’r fframwaith rheoli. Mynegodd rhai rhanddeiliaid, megis cynrychiolwyr eNGO, grwpiau rheoli cregyn bylchog ac aelodau o’r diwydiant cregyn bylchog, bryder ynghylch yr amserlenni a awgrymwyd i gyflawni’r strategaeth gynaeafu a’r HCRs, a nodwyd y dylid byrhau’r rhain i ddarparu dull rhagofalus a sicrhau bod nodau cadwraeth yr FMP yn cael eu cyflawni.

Awgrymodd nifer o randdeiliaid y dylid blaenoriaethu mesurau technegol llusgrwydo i’w gweithredu’n gynnar yn unol â’r dull rhagofalus, gan gynnig alinio mesurau ar draws ffiniau rheoli a chymhwyso cyfyngiad ar nifer y llusgrwydi a ganiateir fesul cwch.

Roedd nifer o randdeiliaid yn teimlo bod angen rhoi mwy o bwyslais ar gamau sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol, gan deimlo y dylid rhoi mesurau rheoli brys ar waith i gyflawni’r amcan rhagofalus yn y Ddeddf Pysgodfeydd. Argymhellodd rhai cyrff anllywodraethol amgylcheddol fod angen gweithredu gwaharddiad llusgrwydo parth 0 i 3nm, i gynyddu diogelwch stociau cregyn bylchog, rhywogaethau a chynefinoedd sensitif yn ogystal â chynefinoedd carbon glas.

Nododd rhai rhanddeiliaid fod angen gweithredu mwy o ardaloedd caeedig yn unol â’r dull rhagofalus, gan awgrymu y dylid cau drwy gydol y tymor silio dros fisoedd yr haf. Roedd eNGOs yn teimlo bod angen cau ardaloedd i lusgrwydo am gregyn bylchog sy’n gynefinoedd sensitif ac ecolegol bwysig, a chau pob MPA sydd wedi’i dynodi i amddiffyn cynefinoedd benthig i offer a lusgir ar waelod y môr. Nododd rhai rhanddeiliaid y diwydiant cregyn bylchog fanteision cau fel mesur rhagofalus ond roeddent hefyd yn cydnabod y pwysau y mae cau ardal yn eu rhoi ar alw cynyddol am le ar y môr a goblygiadau dadleoli.

Mewn cyferbyniad, roedd rhai rhanddeiliaid yn y diwydiant cregyn bylchog yn teimlo y dylid osgoi’r dull rhagofalus gymaint â phosibl, gan nad oes ganddo sail dystiolaeth gadarn i gefnogi’r mesurau a all arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Cwestiwn 11: A ydych yn cytuno mai sefydlu dull cydreoli yw’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli pysgodfeydd cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr wrth symud ymlaen, a pham? Pa rôl ydych chi’n credu y gallech chi neu’ch sefydliad ei chwarae i gefnogi dull cydreoli?

Roedd mwyafrif y rhanddeiliaid diwydiant, eNGO, IFCA a buddgyfranogwyr eraill a ymatebodd mewn perthynas â’r cwestiwn hwn yn cytuno â sefydlu dull cydreoli, gyda rhai’n nodi bod y dull hwn yn allweddol i sicrhau pysgodfa sy’n cael ei rhedeg yn effeithlon gydag ymrwymiad priodol gan randdeiliaid. Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod y dull a gymerwyd wrth ddatblygu’r iteriad hwn o’r FMP yn llwyddiannus a bod diwydiant cregyn y brenin yn ogystal â’r llywodraeth wedi elwa ar y broses o wneud penderfyniadau ar y cyd, gan ei bod yn creu nod cyffredin i reoli adnoddau naturiol.

Cydnabu rhanddeiliaid y diwydiant pysgod cregyn ac eNGOs nad oedd y term ‘cydreoli’ wedi’i ddiffinio eto, ac y byddai’n rhaid mynd i’r afael â hyn i sicrhau atebolrwydd ar gyfer cyflawni camau gweithredu ac amcanion. Er bod hyn yn cael ei gydnabod, mynegodd rhai rhanddeiliaid y diwydiant cregyn bylchog bryderon y byddai sgyrsiau i gytuno ar ddull cyd-reoli a chylch gwaith yn cael eu blaenoriaethu dros ddatblygu a gweithredu mesurau rheoli ystyrlon.

Roedd rhanddeiliaid yn gyffredinol yn cytuno bod angen ffurfioli Gweithgor Grŵp Ymgynghori’r Diwydiant Cregyn Bylchog (SICG). Fodd bynnag, roedd nifer o randdeiliaid ar draws y diwydiant pysgod cregyn ac eNGOs yn teimlo na fyddai aelodaeth Gweithgor presennol Grŵp Ymgynghori’r Diwydiant Cregyn Bylchog yn ddigonol fel y grŵp cyd-reoli ffurfiol. Cydnabuwyd bod angen cynrychiolaeth ehangach o randdeiliaid i sicrhau bod pob sector, sefydliad ac unigolyn yn cael eu cynrychioli’n briodol. Nododd rhanddeiliaid yn arbennig fod angen cynrychiolaeth well gan berchnogion cychod llai o faint, proseswyr, plymwyr llaw ac eNGOs.

Amlygodd nifer o randdeiliaid fod gan ddiwydiant rôl hanfodol i’w chwarae wrth gasglu a chyfrannu at wyddoniaeth ac ymchwil a fyddai’n llywio penderfyniadau rheoli. Trwy wybodaeth y diwydiant, nododd y sector pysgod cregyn y gellid archwilio pryderon economaidd-gymdeithasol yn ogystal â ffactorau biolegol ac amgylcheddol.

Amlygodd ychydig o randdeiliaid y diwydiant fod angen rheolaeth ranbarthol ac, o’r herwydd, sefydlu grwpiau rheoli rhanbarthol i fwydo i’r broses gyd-reoli, gan y byddai hyn yn helpu i sicrhau cynrychiolaeth gan ystod ehangach o randdeiliaid, a allai ei chael hi’n anodd ymgysylltu â grŵp ehangach.

Cyfeiriodd rhanddeiliaid Cymru at Grŵp Cynghori Gweinidogol strategol ar gyfer Pysgodfeydd Cymru, a grwpiau cynghori sy’n benodol i rywogaethau sy’n eistedd oddi tano, gan awgrymu mai’r grwpiau hyn yw’r strwythurau priodol o hyd i ddatblygu a chyflawni’r mesurau sydd eu hangen yng Nghymru i gyrraedd nodau FMP cregyn y brenin yn Nyfroedd Cymru.

Er mwyn sicrhau bod momentwm yn cael ei gynnal, amlygodd rhanddeiliaid ar draws grwpiau amgylcheddol a diwydiant y byddai angen ymgysylltu mwy helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys gan Defra a Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Nododd rhanddeiliaid gan gynnwys y diwydiant pysgod cregyn, cyrff anllywodraethol amgylcheddol ac IFCAs y byddai angen iddi fod yn glir i’r holl randdeiliaid sut y gallent ymgysylltu â’r broses ddatblygu.

Cwestiwn 12: Sut hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r cynllun a rheoli pysgodfa cregyn y brenin Cymru a Lloegr yn y dyfodol?

Mynegodd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid a roddodd adborth yn ymwneud â’r cwestiwn hwn, o wahanol sectorau gan gynnwys diwydiant, IFCAs, eNGOs a’r byd academaidd, ddiddordeb mewn bod yn rhan o ddatblygu a chyflwyno’r FMP a’i fesurau yn y dyfodol. Amlygodd rhai rhanddeiliaid y diwydiant cregyn bylchog awydd i ddod neu barhau’n aelodau o’r grwpiau rheoli cregyn bylchog perthnasol a fydd yn cyfrannu at benderfyniadau polisi’r dyfodol. Dangosodd rhanddeiliaid sydd â phrofiad o’r broses gyd-reoli, gan gynnwys rhai cyrff yn y sector dal ac eNGOs, ddiddordeb mewn darparu arbenigedd a chyngor i sicrhau bod dull cydreoli yn cael ei ddatblygu’n briodol.

Roedd rhai rhanddeiliaid diwydiant ac eNGO yn teimlo bod diffyg cynrychiolaeth yng Ngweithgor presennol Grŵp Ymgynghori’r Diwydiant Cregyn Bylchog (SICG) o wahanol sectorau a sefydliadau fel perchenogion cychod llai o faint a sefydliadau amgylcheddol, ac yn teimlo bod dylanwad anghymesur gan berchenogion cychod mwy o faint a sefydliadau perchenogion cychod mwy o faint.

Dywedodd rhai sefydliadau amgylcheddol yr hoffent fod yn rhan o’r grŵp cyd-reoli yn y dyfodol i sicrhau bod ystyriaethau ac amcanion amgylcheddol yn cael eu cyflawni, a bod llais cynrychioliadol cytbwys yn cael ei ddarparu ledled y grŵp. Argymhellwyd hefyd y dylid datblygu a rhannu cylch gorchwyl, a bod amserlenni mwy llym ar gyfer cyflawni amcanion yn cael eu darparu.

Amlygodd rhanddeiliaid o sectorau, gan gynnwys cyrff anllywodraethol amgylcheddol, IFCAs a diwydiant, fod gan eu sefydliadau ystod o ddata a thystiolaeth a allai gyfrannu at broses ddatblygu’r FMP ac y byddent yn croesawu’r cyfle i gyfrannu hyn. Croesawodd nifer o awdurdodau’r cyfle i fod yn rhan o ddatblygiad parhaus yr FMP yn y dyfodol, gan nodi ei bod yn fuddiol i awdurdodau weithio’n agos gyda’r llywodraeth.

Fel yr amlygwyd uchod, nododd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid a roddodd adborth yn ymwneud â’r cwestiwn hwn yr hoffent fod yn rhan o’r broses ddatblygu trwy barhau i gydweithredu â rheolwyr a chyfrannu at ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Roedd rhai IFCAs yn cefnogi cyfranogiad ar lefelau lleol a rhanbarthol i adeiladu ar ymgysylltiad adeiladol â fflyd y glannau a sicrhau bod eu cyfraniadau yn cael eu bwydo i’r broses ddatblygu. Awgrymwyd bod llwybrau gwell ac amrywiol i ddarparu adborth yn hanfodol i sicrhau y rhannir gwybodaeth yn effeithiol.

Cwestiwn 13: A oes unrhyw gysylltiadau pwysig â physgodfeydd eraill y dylem eu hystyried wrth gwblhau’r FMP hwn neu yn ystod ei broses weithredu?

Teimlai nifer o randdeiliaid o wahanol sectorau a sefydliadau, gan gynnwys y diwydiant pysgod cregyn, IFCAs, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a’r byd academaidd, y dylid ystyried rhyngweithio offer â physgodfeydd eraill yn fwy trylwyr. Amlygwyd bod y pysgodfeydd llusgrwydo’n rhyngweithio â rhywogaethau crancod, cimychiaid, gwichiaid môr a lledod dyfnforol, gan achosi gwrthdaro offer a marwolaeth i rywogaethau’r sgil-ddalfa. Nododd rhai rhanddeiliaid fod angen gwell dealltwriaeth o’r effeithiau y mae offer a lusgir yn eu cael ar stociau silio a thiroedd silio ar gyfer cregyn bylchog a rhywogaethau eraill, er enghraifft, cramenogion. Awgrymodd rhanddeiliaid y dylid gwneud mwy o gysylltiadau ar draws yr amrywiol FMPs i fynd i’r afael â materion sydd o ddiddordeb cyffredin gan gynnwys gwrthdaro gofodol a defnyddio cyfleoedd i alinio lle bo hynny’n bosibl. Nododd rhai y gallai defnyddio technolegau fel iVMS fod yn ddefnyddiol i leihau gwrthdaro o ran offer a lle.

Argymhellodd nifer o randdeiliaid, unwaith eto o wahanol sectorau a sefydliadau, ystyried datblygiadau arloesol offer i leihau effeithiau offer ar wely’r môr, yr amgylchedd morol ehangach a sgil-ddalfa, gan nodi bod y bysgodfa lusgrwydo’n cael effeithiau negyddol sylweddol ar recriwtio pysgodfeydd eraill trwy achosi niwed i gynefin gwely’r môr.

Awgrymodd rhai rhanddeiliaid o’r sector dal y dylid ymchwilio i effaith treill-longau trawst sy’n pysgota ar diroedd cregyn bylchog i nodi a yw eu hymdrech dal cregyn bylchog yn cynyddu dros amser. Galwodd rhanddeiliaid eraill am well dealltwriaeth o’r effeithiau y mae fflydoedd cregyn bylchog crwydrol yn eu cael ar gynaliadwyedd stoc.

Galwodd rhanddeiliaid y diwydiant cregyn bylchog am fwy o ystyriaeth o stociau a rennir rhwng dyfroedd yr UE a Dibyniaeth y Goron. Nododd rhanddeiliaid nad yw stociau yn bodoli ar wahân ac felly mae’n rhaid i ddulliau rheoli’r stociau ystyried yr effeithiau ar bob ardal.

Galwodd nifer o randdeiliaid, yn bennaf o’r sector dal cregyn bylchog 15 metr a throsodd, am rewi trwyddedau cudd i gael gwared ar bosibilrwydd cychod sydd â hawl i drwydded, ond nad ydynt yn weithredol ar hyn o bryd yn y bysgodfa cregyn bylchog, yn arallgyfeirio i’r bysgodfa pan fydd statws y stoc yn gwella.

Crynodeb o’r ymatebion i gwestiynau’r adroddiad amgylcheddol 

Gofynnwyd pedwar cwestiwn i randdeiliaid a oedd yn caniatáu iddynt fynegi eu barn am gynnwys yr adroddiad amgylcheddol (ER) ar FMP cregyn y brenin. Mae crynodeb o’r ymatebion i’r pedwar cwestiwn hyn i’w weld isod. 

Cwestiwn 1: A oes unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gallem ei hystyried i lywio ein llinell sylfaen amgylcheddol? 

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn roedd bron i hanner wedi darparu tystiolaeth ychwanegol, mewn perthynas â’r dystiolaeth a ddatblygwyd ar gyfer Prosiectau Gwella Pysgodfeydd cregyn y brenin Project UK.

Roedd rhai awgrymiadau hefyd ar gyfer cynnwys rhagor o dystiolaeth neu wybodaeth, megis ar ddifrod llwyr i amgylcheddau morol a biota morol eraill a achoswyd gan lusgrwydo am gregyn bylchog, data allyriadau o longau, ac effeithiau defnyddwyr eraill gwely’r môr, er enghraifft, llusgrwydo am agregau a datblygiadau fferm wynt.

Roedd awgrym y dylai Atodiad B yr Adroddiad Amgylcheddol gynnwys asesiad o ddangosydd (E9) y Cynllun Gwella Amgylcheddol (EIP) sef Canran o’n bwyd môr sy’n dod o ecosystemau iach a gynhyrchir yn gynaliadwy.

Awgrymodd rhanddeiliaid y byddai’r llinell sylfaen amgylcheddol yn cael ei gwella drwy asesu sut mae’r bysgodfa cregyn bylchog yn rhyngweithio â’r ecosystem gyfan ac yn dylanwadu arni ac y dylid ystyried agweddau megis newid yn yr hinsawdd, addasu a lliniaru, a storfeydd carbon glas, cynefinoedd pysgod hanfodol, sgil-ddal rhywogaethau eraill, rhywogaethau rhy fychan a PET (gwarchodedig, mewn perygl, dan fygythiad) a defnyddio cynefinoedd cregyn bylchog.

Cwestiwn 2: A oes unrhyw effeithiau amgylcheddol cadarnhaol neu negyddol eraill sy’n gysylltiedig â pholisïau a chamau gweithredu FMP drafft cregyn y brenin y gallem eu hystyried? 

Ar gyfer effeithiau cadarnhaol, roedd yr ymatebion yn cynnwys ystyried symud i fframwaith rheoli rheolaeth allbwn / cyfanswm dalfa a ganiateir (TAC) ar gyfer pysgota cregyn bylchog, gwella effeithlonrwydd a thrwy hynny leihau’r amser a dreulir ar y tir pysgota a lleihau’r effaith amgylcheddol.

Nododd rhanddeiliaid hefyd y byddai angen i unrhyw gyfyngiad dal a osodir ystyried amrywiadau naturiol yn lefel y stoc, dylid eu cyfyngu gan yr egwyddor ragofalus, ac ni ddylent gyfaddawdu poblogaethau cregyn bylchog, yr amgylchedd ehangach na’r storfeydd carbon. Nodwyd bod ardaloedd caeedig gofodol ac amserol yn amddiffyn cynefinoedd a sefydliad larfaol. Awgrymwyd hefyd bod datblygiadau arloesol o ran effeithlonrwydd offer a allai arwain at ôl troed llai (yn unol â chynllun gweithredu’r FIP cregyn bylchog).

Ar gyfer effeithiau negyddol, awgrymwyd y gallai alinio mesurau arwain at ostyngiad mewn safonau rheoli mewn ardaloedd sydd wedi’u diogelu’n well ar hyn o bryd, a bod potensial ar gyfer effeithiau amgylcheddol negyddol os codir rheoliadau offer presennol i ganiatáu ar gyfer arloesi heb resymu a thystiolaeth gadarn. Mynegwyd pryder hefyd am effaith dadleoli cychod crwydrol mawr o gyflwyno ardaloedd caeedig gofodol ac amserol.

Mynegwyd pryderon am effaith offer a lusgir ar waelod y môr ar yr amgylchedd (er enghraifft, llusgrwydi cregyn bylchog). Awgrymwyd y byddai gwaharddiad 12nm o offer a lusgir ar waelod y môr yn cael effaith amgylcheddol gadarnhaol ac y byddai’n fuddiol i adfer cynefinoedd, amddiffyn cynefin carbon glas a gwella stociau pysgod yn gyffredinol. At hynny, dywedwyd bod angen mwy o waith i gryfhau’r polisïau yn FMP cregyn y brenin a sicrhau bod ymrwymiadau’n gaeth i amser ac yn cynnwys nodau a chanlyniadau mesuradwy i gyflawni ymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol, megis pysgota islaw MSY fel clustog i gyfrif am effeithiau eraill heblaw pysgota.

Nodwyd hefyd bod effeithiau cadarnhaol a negyddol ar asedau treftadaeth morol gan gynnwys darganfod asedau treftadaeth morol yn ystod gweithgaredd pysgota ac aflonyddwch ffisegol ar dreftadaeth ddiwylliannol ar wely’r môr ac o fewn gwely’r môr a achosir gan bysgota.

Cwestiwn 3: A oes gennych unrhyw sylwadau ar y camau arfaethedig a nodir yn yr Adroddiad Amgylcheddol i fonitro a/neu liniaru unrhyw effeithiau (negyddol) arwyddocaol tebygol ar amgylchedd yr FMPs? 

Nododd rhanddeiliaid fod nifer o effeithiau wedi cael sylw yn yr ER, megis dadleoli cychod, pwysau cynyddol ar gynefinoedd heb eu gwarchod, difrod i gynefinoedd benthig oherwydd llusgrwydo am gregyn bylchog, a’r effaith gysylltiedig ar yr ecosystem ehangach. Fodd bynnag, roedd llawer yn teimlo nad oedd y cynigion rheoli yn yr FMP yn ddigonol i fynd i’r afael â’r effeithiau hyn yn llawn, bod amcanion yn rhy amwys a bod angen mesurau lliniaru ar frys yn hytrach nag ymchwil pellach.

Awgrymwyd bod yn rhaid i’r FMP nodi sut y bydd ei bolisïau a’i gamau gweithredu’n cyflawni neu’n cyfrannu at gyflawni statws amgylcheddol da (GES), yn enwedig trwy leihau effaith y bysgodfa ar wely’r môr. Awgrymodd rhanddeiliaid fod angen rheolaeth bellach o fewn ardaloedd morol gwarchodedig ac y dylid ei hystyried ar gyfer effeithiau sy’n digwydd y tu allan i ardaloedd morol gwarchodedig i ddiogelu nodweddion dynodedig o fewn safleoedd. Cynigiwyd mesurau rheoli gofodol ar unwaith i leihau’r effeithiau ar y gymuned benthig a’r ecosystem ehangach i liniaru effaith llusgrwydo am gregyn bylchog.

Awgrymwyd y dylid gwneud rhagor o waith i archwilio effaith offer pysgota a’r lefel briodol o bysgota yn yr ardaloedd cywir, er mwyn lleihau effeithiau amgylcheddol. Awgrymwyd y dylid defnyddio technoleg REM neu arsylwyr yn y gwaith hwn. Gofynnodd rhai rhanddeiliaid hefyd fod gwaith y Gweithgor Effaith Benthig yn agored i drafodaeth a chraffu.

Cwestiwn 4: A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol mewn perthynas â’r Adroddiad Amgylcheddol nad ydych wedi gallu eu darparu mewn ymateb i’r cwestiynau blaenorol? 

Awgrymodd rhanddeiliaid fod angen gwneud mwy o waith ar wahanol fathau o offer gwaelod, fel llusgrwydi sugno neu ‘N-viro’, er mwyn lleihau effeithiau offer ar y cynefin a’r rhywogaeth. Dylid hefyd ystyried dulliau llai effeithiol o bysgota cregyn bylchog, fel potio. Yn ogystal, awgrymwyd y dylid caniatáu digon o hyblygrwydd yn y bysgodfa i annog newydd-ddyfodiaid sy’n defnyddio offer llai niweidiol ac i gefnogi arloesedd.

Rhoddodd rhanddeiliaid dystiolaeth ychwanegol i’w hystyried ar effaith pysgodfeydd cregyn bylchog ar yr amgylchedd morol.

Nododd rhanddeiliaid y ffyrdd canlynol y gellid gwella’r Adroddiad Amgylcheddol:

  • nodi materion a derbynyddion yr SEA y gallai polisïau’r FMP effeithio arnynt
  • nodi sut y gellid effeithio’n gadarnhaol neu’n negyddol ar faterion a derbynyddion SEA.
  • nodi a yw’r effeithiau hyn yn sylweddol neu a oes angen newidiadau polisi neu gamau lliniaru
  • cynnwys cysylltiad cliriach rhwng materion a godwyd gan yr asesiad a’r camau sy’n cael eu cymryd i’w lliniaru yn yr FMP.
  • argymell bod yr FMP yn ystyried nodi sut y bydd amcanion yr FMP yn cyfrannu at gyflawni Statws Amgylcheddol Da (GES) ar gyfer dangosyddion perthnasol Strategaeth Forol (UKMS) y DU

Roedd rhanddeiliaid yn teimlo y dylai Adroddiad Amgylcheddol cregyn y brenin gael cysylltiadau cryfach ag  adroddiadau a rheoliadau eraill gan gynnwys:

  • cynlluniau rheoli basn afon
  • Rhan 3 Strategaeth Forol y DU i’w diwygio a’i mabwysiadu
  • Adroddiad Statws Ansawdd OSPAR
  • dyletswydd bioamrywiaeth
  • HPMAs wedi’u diffinio o’r newydd.

Yn olaf, awgrymwyd y dylid diffinio’r prinder data ynghylch rhyngweithio rhwng treftadaeth ddiwylliannol ac effeithiau pysgodfeydd o fewn dyfroedd Lloegr fel bwlch data.

Ymateb y llywodraeth: FMP

Trosolwg

Bydd yr FMP yn gwella’r ffordd rydym yn rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr ac yn cynyddu’r buddion y maent yn eu darparu i bysgotwyr a chymunedau arfordirol yn y tymor hir.

Bydd yr FMP yn atal gor-fanteisio i sicrhau bod pysgodfa cregyn y brenin yn economaidd hyfyw ac ar yr un pryd yn lleihau effaith llusgrwydo am gregyn bylchog ar yr amgylchedd morol.

Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o’r pysgodfeydd hyn drwy gynnal arolygon monitro, gwella asesiadau stoc a mynd i’r afael â bylchau mewn tystiolaeth, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid.

Yn y tymor byr, byddwn yn sicrhau bod grwpiau rheoli cregyn bylchog perthnasol yn amrywiol ac yn cynrychioli’r ystod lawn o randdeiliaid. 

Yn y tymor byr, sef 1-5 mlynedd, byddwn yn adolygu rheoleiddio pysgodfeydd cregyn y brenin ar hyn o bryd ac yn datblygu fframwaith newydd o fesurau a allai gynnwys terfynau ymdrechion pysgota a therfynau dal i sicrhau hyfywedd tymor hir. Fel rhan o’r adolygiad, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i symleiddio’r rheoliadau er enghraifft, drwy alinio gofynion offer lle bo hynny’n briodol. 

Dros yr 1-5 mlynedd nesaf, byddwn yn gwella ein gwybodaeth am effeithiau pysgota cregyn bylchog ar wely’r môr ac yn gweithio gyda physgotwyr i leihau eu heffaith mewn ardaloedd sensitif i helpu i ddiogelu ein hamgylchedd morol.

Dros y tymor byr, sef 1-5 mlynedd, byddwn yn gweithio gyda physgotwyr i wella ein dealltwriaeth o’r ffordd y gall cau ardaloedd a chau tymhorol ddiogelu stociau a gwely’r môr gan gynnal pysgodfeydd hyfyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn nodi ymateb y llywodraethau i ymgynghoriad FMP cregyn y brenin. Eglura ein penderfyniadau ar gyfer yr FMP hwn yn gyntaf ac unrhyw newidiadau rydym yn bwriadu eu gwneud i’r cynllun drafft rydym wedi ymgynghori arno, cyn rhoi ymateb mwy cyffredinol am faterion trawsbynciol yr FMP.

Rydym yn ddiolchgar iawn am yr amser y mae’r holl randdeiliaid wedi’i roi i ddarparu mewnbwn adeiladol i’n helpu i wella a chwblhau’r FMP hwn. Roedd y safbwyntiau a ddarparwyd yn amrywiol gydag ystod eang o opsiynau o fewn grwpiau buddiant a rhyngddynt. Mae pob un wedi’i ystyried ac wedi ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o farn rhanddeiliaid a’r materion pwysig. Mae rhai wedi arwain at newidiadau i’r FMPs drafft. Nid yw eraill, oherwydd eu bod yn fwy priodol i gael eu hadlewyrchu yn y camau gweithredu, neu mewn lleiafrif o achosion oherwydd eu bod yn afresymol neu’n anymarferol. Yn yr adran hon, rydym yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd ac yn esbonio pam rydym wedi gwneud penderfyniadau penodol. O ystyried hyd a lled a manylder yr ymatebion, ni allwn ddarparu esboniadau manwl ar yr holl bwyntiau a godwyd.

Hon yw fersiwn gyntaf FMP cregyn y brenin. Mae’n nodi’r camau cyntaf a’r weledigaeth fwy hirdymor sy’n angenrheidiol ar gyfer rheoli’r bysgodfa hon yn gynaliadwy. Bydd y cynlluniau hyn yn cymryd amser i’w datblygu a’u gweithredu. Eu bwriad yw caniatáu dull addasol a byddant yn cael eu hadolygu a’u gwella dros amser wrth i ni gydweithio â’r sector pysgota a buddiannau ehangach ar reoli’r pysgodfeydd hyn yn gynaliadwy.

Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd am ddefnyddio’r term “hanes blaenorol” yn creu “ras i bysgota”, a’r risgiau y mae hyn yn eu peri i gyfleoedd pysgota yn y dyfodol os caiff stociau eu gorbysgota. Felly rydym am fod yn glir iawn, pe bai’r hanes blaenorol yn cael ei ystyried yn y dyfodol, y byddai ymgynghori pellach gyda phartïon y gellid effeithio arnynt i ystyried materion o’r fath yn uniongyrchol.

Byddwn hefyd yn dysgu’r wers o’r ffordd rydym yn rheoli stociau cwota ar hyn o bryd cyn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau dal ar gyfer stociau nad ydynt yn rhai cwota. Er enghraifft, byddem yn ystyried yn ofalus a ddylai hawliau eiddo gronni i unigolion neu a ddylai cyfleoedd pysgota aros mewn perchnogaeth a rheolaeth gyhoeddus.

Rydym yn cydnabod pryderon a godwyd nid yn unig o ran effaith llusgrwydo am gregyn bylchog ar gyfanrwydd llawr y môr ond hefyd ynghylch effeithiau posibl offer a lusgir ar y gwaelod ar rywogaethau a physgodfeydd nad ydynt yn rhai targed, a’r amgylchedd morol ehangach. Mae’r FMP yn cynnwys amcanion sy’n ceisio deall a lliniaru materion sy’n gysylltiedig â gwrthdaro offer yn ogystal â gwell dealltwriaeth o’r effaith y mae cychod cregyn y brenin yn ei chael ar yr amgylchedd morol, gan gynnwys rhywogaethau masnachol eraill, heb eu targedu, fel cimychiaid a chrancod brown.

Er bod yr FMPs bob un yn nodi polisïau, mesurau a chamau gweithredu penodol a fydd yn cyfrannu at reoli pysgodfeydd perthnasol neu’r ecosystem a’r amgylchedd morol yn fwy cynaliadwy, mae corff ehangach o waith yn cael ei wneud gan y llywodraethau a fydd hefyd yn cyfrannu at hyn. Er enghraifft, creu Ardaloedd Morol Gwarchodedig Iawn (HPMAs), rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) yn well, gweithio i gyflwyno defnyddio mwy o Fonitro Electronig o Bell, diwygio polisi taflu pysgod a gwaith parhaus i leihau sgil-ddalfa.

Newidiadau i’r FMP mewn ymateb i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy ymgynghoriad

Mewn ymateb i alwadau am flaenoriaethu’r camau gweithredu a’r mesurau rheoli arfaethedig, rydym wedi nodi yn yr FMP y meysydd a fydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gweithredu cynnar. Y tri maes blaenoriaeth yw:

  • adolygiad o’r mesurau rheoli presennol
  • datblygu fframwaith rheoli
  • asesu a lliniaru effeithiau pysgota cregyn bylchog ar gyfanrwydd llawr y môr

Cafodd y blaenoriaethau hyn eu llywio gan yr ymatebion a ddarparwyd fel rhan o’r ymgynghoriad a’u nodi fel meysydd lle mae angen cynnydd digonol ac amserol i sicrhau bod stociau a’r amgylchedd ehangach yn cael eu diogelu.

Rydym wedi cydnabod yn yr FMP fod angen cynnydd amserol tuag at gynllunio a dechrau gweithio ar y meysydd blaenoriaeth a nodir yn yr FMP. Fodd bynnag, ni fu’n bosibl cynnwys amseriadau mwy penodol ar gyfer cyflwyno mesurau o fewn yr FMP, sy’n faes pryder allweddol a godwyd gan randdeiliaid, am fod angen nodi’r camau a’r amserlenni gofynnol ar gyfer cyflawni ar y cyd. Rydym felly wedi rhoi eglurhad ar y camau nesaf gan gynnwys datblygu cynlluniau gwaith manwl a chynllunio gweithredu ehangach ar draws y gyfres o FMPs.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o’r mesurau presennol, fel blaenoriaeth uchel, i sicrhau eu bod yn addas i’r diben i sicrhau cynaliadwyedd stoc. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ystyried sut y gellir cryfhau mesurau presennol yn y tymor byr, ac a ellir gwneud hynny, ar sail ragofalus lle bo angen, i ddiogelu stociau ymhellach, gan gynnwys lle y gallai fod cyfleoedd i alinio mesurau yn eang (lle bo hynny’n briodol), megis alinio terfynau llusgrwydo y tu allan i’r parth 12nm.

Fel yr amlygwyd gan randdeiliaid, ac y cydnabuwyd yn yr FMP, casglwyd cryn dipyn o dystiolaeth ynghylch dulliau rheoli posibl ar gyfer cregyn y brenin yn y dyfodol, gan gynnwys enghreifftiau o arfer gorau i ddarparu pysgodfeydd cynaliadwy, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i weithredu’n gyflym i lywio a chyflwyno mesurau yn y tymor byr, wrth i ni barhau i adeiladu ein tystiolaeth a datblygu mesurau tymor hwy.

Rydym wedi ymrwymo i flaenoriaethu camau gweithredu a fydd yn asesu ac yn lliniaru effeithiau pysgota cregyn bylchog ar gyfanrwydd llawr y môr a’r amgylchedd morol ehangach. Bydd hyn yn cynnwys nodi a chasglu gwybodaeth am dystiolaeth a data sy’n bodoli eisoes sy’n ofynnol i fapio rhyngweithio pysgota cregyn bylchog â rhywogaethau nad ydynt yn rhai targed a’r amgylchedd ehangach.

Rydym wedi cryfhau ymrwymiadau i sicrhau ymgysylltiad mwy cynrychioliadol â rhanddeiliaid trwy aelodaeth ar y grwpiau rheoli cregyn bylchog perthnasol a thrwy ymgysylltu’n ehangach â rhanddeiliaid. 

Lle bo’n briodol, rydym hefyd wedi gwneud mân newidiadau technegol i’r FMP mewn ymateb i fewnbwn rhanddeiliaid lle rydym o’r farn bod yr wybodaeth yn gwella’r FMP o ran cywirdeb.

Darllenwch y fersiwn a gyhoeddwyd o gynllun rheoli pysgodfa cregyn y brenin.

Yn unol â’r Ddeddf, bydd cyflawni’r camau gweithredu a’r mesurau ar gyfer FMP cregyn y brenin yn cael ei fonitro a’i asesu yn erbyn cyfres o ddangosyddion monitro. Rydym wedi newid FMP cregyn y brenin i ymgorffori dangosyddion monitro.

Ymateb i themâu ehangach a godwyd drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy ymgynghoriad

Ymgysylltu a chydweithio

Roedd mwyafrif y rhanddeiliaid ar draws yr holl ymgynghoriadau yn gadarnhaol am y dull cydweithredol a fabwysiadwyd i ddatblygu’r FMPs a’r ymdrechion a wnaed gan Defra, Llywoddraeth Cymru a’u partneriaid cyflenwi i gynnwys pobl yn y broses.

Mae llawer am sicrhau bod y dull hwn yn parhau trwy’r camau gweithredu i sicrhau y gellir ystyried arbenigedd rhanddeiliaid. Nododd nifer o randdeiliaid fod angen mabwysiadu dull cydgysylltiedig o weithredu FMPs a helpu i wella gallu busnesau pysgota i gynllunio ymlaen llaw. Byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid yn ystod cam gweithredu’r FMPs.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymgysylltu helaeth hwnnw a’r cyfleoedd i roi mewnbwn cyn drafftio’r FMPs, ac yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol, rydym yn cydnabod nad oedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys cymaint ag eraill yn y broses o baratoi FMP drafft cregyn y brenin. Roedd yna hefyd ychydig o sylwadau amdanom yn mynd ati i wahaniaethu yn erbyn sectorau penodol, yr ydym yn eu gwrthbrofi.

Rydym yn parhau i adolygu ein hymgysylltiad. Mewn llawer o feysydd roedd safbwyntiau cymysg o fewn buddiannau neu sectorau neu rhyngddynt. Roedd hyn yn ei gwneud yn heriol datblygu atebion sy’n dderbyniol i bawb. Er mwyn sicrhau consensws, mae’r FMP terfynol yn ystyried nifer o ymatebion adeiladol a gafwyd yn y broses ymgynghori. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau cyfreithiol a rhyngwladol ac rydym yn cydbwyso cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ein dull o reoli’r pysgodfeydd hyn.

Rydym yn bwriadu cychwyn mwy o waith ar draws y rhaglen FMP mewn perthynas â’r ffordd y gall llywodraethau, rheoleiddwyr, gwyddonwyr, diwydiant, pysgotwyr hamdden a rhanddeiliaid eraill gydweithio’n well mewn ffordd barchus ac adeiladol. Mae hynny o ran datblygu FMPs pellach ond hefyd mewn perthynas â’u gweithredu. Bydd hyn yn cynnwys datblygu iaith gyffredin am y dulliau a gymerir, ystyried a mynegi rolau a chyfrifoldebau i lywio gwell ffyrdd o weithio, a gwella cyfathrebu yn gynharach mewn prosesau. Rydym hefyd yn awyddus i weithio’n agosach gyda mentrau fel Fishing Into the Future i wella dealltwriaeth.

Mynegwyd barn hefyd am ddiffyg cynrychiolaeth ar draws sectorau ar y grwpiau yn ystod datblygiad FMPs. Codwyd cwestiynau hefyd am ddidueddrwydd y partneriaid cyflawni a ddewiswyd i arwain y gwaith o ddatblygu’r cynllun. Mae pob un o’r 6 FMP cyntaf wedi’i ddatblygu mewn ffordd wahanol, fel y gallwn roi cynnig ar ddulliau newydd a phrofi sut orau i ddatblygu FMPs ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae’r partneriaid cyflawni wedi gweithio’n agos gyda grwpiau diwydiant a rhanddeiliaid eraill wrth ddrafftio’r FMPs. Ym Mhapur Gwyn 2018 gwnaethom ymrwymiad i weithio’n agos a chreu mwy o gyfrifoldeb ar y cyd i reoli ein pysgodfeydd gydag aelodau’r diwydiant. Mae’r dull cyfranogol hwn yn un y byddwn yn parhau i’w feithrin ymhellach a’i gymhwyso i ddatblygiad FMP. Mae wedi rhoi mwy o rôl i bysgotwyr wrth helpu i ddatblygu rheolaeth y bysgodfa hon yn y dyfodol, yn enwedig helpu i nodi canlyniadau anfwriadol a sicrhau mwy o ymrwymiad i gamau gweithredu ar draws eu sector.

Swmp y deunydd ac amseru’r ymgynghoriad

Cododd llawer o randdeiliaid fater swmp y deunydd y bu Defra yn ymgynghori yn ei gylch ac amseru’r ymgynghoriad.

Roedd Defra o’r farn ein bod am fod yn dryloyw a darparu tystiolaeth a deunydd ategol i helpu rhanddeiliaid i ddarparu ymatebion gwybodus. Bu ymgysylltu helaeth hefyd ac ymgynghori anffurfiol cyn i’r drafftiau gael eu datblygu, a oedd yn cynnwys ymgyfarwyddo â FMPs. Gwnaethom geisio sicrhau bod crynodebau mwy hygyrch yn cael eu paratoi a chynhaliwyd 23 o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb a chyfres o gyfarfodydd ar-lein lle nodwyd safbwyntiau a’u bwydo i’r broses ddadansoddi. Roedd y digwyddiadau hyn yn cwmpasu’r ystod eang o sectorau a rhanddeiliaid â buddiant gan gynnwys sector dal amrywiol, y gadwyn gyflenwi ehangach, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, gwyddonwyr, y byd academaidd, Comisiwn yr UE ac Aelod-wladwriaethau, ac eraill â buddiant mewn rheoli pysgodfeydd. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad ar-lein ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru.

Byddwn yn ystyried gwahanol ddulliau yn y dyfodol (gan gydnabod hefyd y canllawiau ar gyfer ymgynghoriadau cyhoeddus a’n gofynion statudol) yn ogystal â faint o wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi ar wahanol gyfnodau.

Cyflymder y gweithredu a’r newid

Mynegodd rhanddeiliaid bryderon nad oedd y camau a nodwyd yn yr FMP yn symud yn ddigon cyflym i amddiffyn stociau mewn pryd ac yn ddigonol. Galwyd am lefel uwch o uchelgais gan y llywodraethau, i gyflawni camau gweithredu yn y tymor byr a fydd o fudd i’r stoc ac yn rhoi mwy o sicrwydd i’r diwydiant.

Rydym wedi gwneud rhai addasiadau i’r FMPs i gyflawni rhai newidiadau yn gyflymach, trwy nodi blaenoriaethau lefel uchel a chymryd camau mwy uniongyrchol yn 2024. Bu’n rhaid i ni gydbwyso hyn yn erbyn adnoddau a chydnabyddiaeth na fyddai modd cyflawni gormod o newid mewn cyfnod byr ac y gallai greu beichiau afresymol ar y diwydiant pysgota.

Cymhwyso’r dull rhagofalus

Mynegodd rhanddeiliaid o’r tu mewn a’r tu allan i’r sector pysgota bwysigrwydd y dull rhagofalus o reoli pysgodfeydd, er bod pryderon hefyd wedi’u codi am risg effeithiau cymdeithasol ac economaidd posibl wrth ei ddefnyddio. Mae’r Ddeddf Pysgodfeydd yn cydnabod yr angen i reoli pysgodfeydd er mwyn sicrhau buddion economaidd, cymdeithasol a chyflogaeth, a’r dull rhagofalus fel amcanion. Bydd angen i reoleiddwyr pysgodfeydd gymryd ymagwedd gytbwys a chymesur at ystod o ystyriaethau er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau a nodir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd ar gyfer stociau cynaliadwy, yn seiliedig ar amgylchedd morol iach, gan gefnogi sector pysgota proffidiol a chymunedau arfordirol ffyniannus. Byddwn yn parhau i gofio’r cydbwysedd hwn wrth weithredu FMPs, yn enwedig sut rydym yn meithrin gwell dealltwriaeth o’r risg i stociau yn sgil gorbysgota mewn pysgodfeydd nad oes llawer o ddata ganddynt a sut rydym yn gweithio gyda’r sector pysgota a rhanddeiliaid ehangach i helpu i lywio’r gwaith o reoli’r pysgodfeydd hynny.

Ffiniau rheoli

Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y mesurau yn gweithio ar draws ffiniau awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU. Bydd mwy o fanylion yn cael eu nodi wrth i ni weithredu’r FMPs - er enghraifft ar yr ardaloedd lle bydd y mesurau yn berthnasol a’r cychod yr effeithir arnynt ac ati.

Yn y DU, mae rheolaeth pysgodfeydd wedi’i datganoli i raddau helaeth ac felly mae’n bosibl ac yn debygol y bydd gwahanol fesurau a dulliau rheoli yn berthnasol mewn gwahanol weinyddiaethau. Yn wir, dyma un o fanteision allweddol FMPs – gellir cyflwyno dulliau rheoli pwrpasol sy’n ystyried y gwahanol bysgodfeydd, amodau, diwydiannau, blaenoriaethau neu bwysau. Fodd bynnag, lle ystyrir bod hynny’n briodol neu’n ddymunol, gall gweinyddiaethau’r DU benderfynu cydweithio a chysoni mesurau.

Cydweithio â’r UE a chydymffurfio â Chytundeb Masnach a Chydweithrediad y DU a’r UE (TCA).

Cododd nifer o randdeiliaid bwysigrwydd cydweithio rhwng gwladwriaethau arfordirol ar reoli pysgodfeydd, a’r angen i fesurau rheoli FMP dilynol gydymffurfio â’r TCA.

Fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol, rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gweithio’n agos gyda gwladwriaethau arfordirol eraill ar reoli pysgodfeydd. Rydym yn parhau i edrych ymlaen at ddyfnhau’r berthynas gydweithredol ragorol y mae’r DU yn ei mwynhau gyda’n gwladwriaethau arfordirol cyfagos, a byddwn yn sicrhau bod ein mesurau’n cydymffurfio’n llawn â’r TCA.

Mae’r TCA yn cadw ymreolaeth reoleiddiol y DU i reoli ein pysgodfeydd (a’r UE i reoli eu rhai hwy). Ochr yn ochr â hyn, bydd y DU yn parhau i gydweithredu â’r UE ar reoli stociau a rennir, lle bo hynny’n briodol. Byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy ddatblygu strategaeth aml-flwyddyn a byddai angen ymrwymiad gan y DU a’r UE. 

Tystiolaeth a data FMP

Mynegodd cyfran fawr o randdeiliaid bryder am allu’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r bylchau yn y dystiolaeth a nodwyd yn yr FMPs. Tynnodd rhanddeiliaid sylw hefyd at bwysigrwydd mabwysiadu dull cydweithredol o ddatblygu tystiolaeth - gan weithio gyda’r sector pysgota a rhanddeiliaid ehangach i gefnogi’r gwaith o gyflawni gofynion tystiolaeth.

Roedd nifer o ymatebion yn galw am fwy o gydlynu ar draws awdurdodau pysgodfeydd ynghylch gofynion casglu data ar ddiwydiant.

Rydym yn cydnabod ac yn bwriadu adolygu’n drylwyr y cryn dipyn o dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol a ddarperir trwy ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid FMP. Bydd datganiadau tystiolaeth FMP a gofynion tystiolaeth yn cael eu diweddaru i sicrhau bod blaenoriaethau cyflawni tystiolaeth yn cael eu hailasesu i fodloni uchelgeisiau cyflawni a gweithredu pob cynllun. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn 2024.

Ni fydd yn bosibl nac yn rhesymol i’r llywodraethau ariannu’r holl fylchau tystiolaeth a nodwyd ar draws y rhaglen FMP. Bydd angen blaenoriaethu. Yn ogystal ag edrych ar ffyrdd arloesol o lenwi’r bylchau hynny, cefnogi’r dull graddol o gyflawni a gweithredu FMP a symud ymlaen tuag at gyflawni amcanion y Ddeddf Pysgodfeydd, yn 2024 bydd Defra yn lansio ac yn cyhoeddi dull tystiolaeth sy’n hyrwyddo cydweithio ar draws rhanddeiliaid i fynd i’r afael â bylchau tystiolaeth a nodwyd ar gyfer FMPs.

Byddwn yn ystyried y gofynion data wrth ddatblygu mesurau newydd a byddwn yn ystyried hyn fel rhan o waith ar wahân ond cysylltiedig sydd eisoes ar y gweill i ddatblygu dull mwy cydlynol o gasglu, rheoli a defnyddio data rhwng awdurdodau pysgodfeydd.

Y gwahaniaeth rhwng rheoli ar y môr a’r glannau a chael cynifer o wahanol reoliadau

Cododd rhai rhanddeiliaid fater gwahaniaethau rheoli rhwng ardaloedd ar y môr a’r glannau, ac mewn rhai achosion yr ystod eang o wahaniaethau mewn rheoliadau o fewn yr un bysgodfa rhwng gwahanol ardaloedd. Ystyriwyd yn eang bod y materion hyn yn risg i gynaliadwyedd y stociau neu’r bysgodfa dan sylw, a’u bod naill ai’n creu beichiau diangen ar fusnes neu’n creu anghydbwysedd mewn cystadleuaeth rhwng busnesau pysgota.

Rydym yn cydnabod y materion hyn ac rydym am ddefnyddio FMPs i sicrhau bod pysgodfeydd yn cael eu rheoli ar lefel briodol (sef pysgodfa) yn hytrach na chael eu dylanwadu gan linellau ar siartiau. Lle bo’n briodol ac y cytunir arno, bydd hyn yn gofyn am gydweithrediad neu gytundeb rhwng awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU neu’r UE.

Gorfodi rheoliadau presennol

Cododd nifer o randdeiliaid bwysigrwydd gorfodi rheoliadau rheoli pysgodfeydd presennol yn effeithiol fel maes allweddol i’w ystyried gan reoleiddwyr pysgodfeydd.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gorfodi’r rheoliadau presennol yn effeithiol ac yn gymesur. Yn nyfroedd Cymru a Lloegr, bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau perthnasol i sicrhau bod pryderon ynghylch gorfodi a godwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael sylw.

Sut mae FMPs yn gweithio gyda’i gilydd mewn ardal o’r môr?

Cododd nifer o randdeiliaid gwestiynau am reoli pysgodfeydd yn rhanbarthol a sut y bydd FMPs yn cydweithio’n gydlynol. Yn ogystal â hyn roedd pryder ynghylch effaith gronnol mesurau ar draws yr holl FMPs.

Mae hwn yn faes pwysig iawn y byddwn yn parhau i’w archwilio yn ystod cyfnod gweithredu’r FMP. Un rhan allweddol o hyn fydd edrych ar draws cyfanrwydd yr FMPs a’r mesurau dilynol a nodi meysydd cydgyfeirio a dargyfeirio. Bydd hyn yn galluogi Defra a Llywodraeth Cymru i ragfynegi a lliniaru unrhyw effeithiau cronnus negyddol a allai ddeillio o gyflwyno amrywiaeth o fesurau ar yr un pryd.

Dangosyddion

Cododd nifer o randdeiliaid gwestiynau am y dangosyddion ar gyfer mesur llwyddiant yr FMP. Rydym wedi ystyried y sylwadau ac wedi diwygio dangosyddion y cynllun.

Mae’r Ddeddf Pysgodfeydd yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi’r dangosyddion ar gyfer mesur effeithiolrwydd y cynllun. Nodir y rhain yn adran ‘gweithredu, monitro, ac adolygu’ yr FMP.

 Mwy o alw am le ar y môr

Cododd nifer o randdeiliaid bryderon ynghylch mwy o gystadleuaeth am le ar y môr sy’n effeithio’n andwyol ar fynediad at diroedd pysgota.

Rydym wedi sefydlu rhaglen Blaenoriaethu Gofodol Morol (MSPri) drawslywodraethol, sy’n canolbwyntio ar y ffordd y defnyddir moroedd Lloegr yn y dyfodol. 

Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn darparu polisi i ddiogelu ardaloedd o bwys i’n diwydiant pysgota, gan gynnwys cynefinoedd a thiroedd pysgota allweddol, yn ogystal ag anogaeth i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth sylfaenol sydd ei hangen i hwyluso penderfyniadau rheoli pysgodfeydd cadarnhaol.  Un o themâu eraill y Cynllun Morol yw annog a hwyluso cydfodoli a chydleoli gweithgareddau gwahanol yn nyfroedd Cymru i helpu i sicrhau y defnyddir lle morol cyfyngedig yn y modd gorau posibl.

Dull seiliedig ar ecosystem

Galwodd nifer o randdeiliaid am gamau cryfach, cyflymach i leihau’r risg i gyfanrwydd gwely’r môr yn sgil llusgrwydo am gregyn bylchog. Bydd y mesurau a gynigir yn yr FMPs yn sicrhau ein bod yn cefnogi pontio tuag at ddull rheoli pysgodfeydd sy’n seiliedig ar ecosystem (EBFM).

Mae Defra a Llywodraeth Cymru’n cydnabod y pryderon ynghylch effeithiau posibl y bysgodfa hon ar wely’r môr. Mewn ymateb rydym wedi newid yr FMP i roi blaenoriaeth fwy uniongyrchol i gamau gweithredu a fydd yn mapio ôl troed pysgodfa cregyn y brenin ac yn asesu effaith llusgrwydo ar yr amgylchedd morol ehangach. Bydd y gwaith hwn yn digwydd ochr yn ochr â datblygu mesurau rheoli pysgodfa a bydd yn cael ei flaenoriaethu a’i gytuno wrth i gynlluniau gwaith manwl gael eu datblygu. Bydd cyfleoedd hefyd i gryfhau mesurau technegol a fydd yn cynyddu detholusrwydd ac yn lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd benthig.

Capasiti cudd

Codwyd mater capasiti cudd yn aml trwy’r ymgysylltiad hwn. Roedd rhai rhanddeiliaid yn awyddus i gael gwared ar drwyddedau cudd i helpu i atal cynnydd mewn ymdrech ar stociau. Mynegodd eraill bryderon y byddai cael gwared ar drwyddedau cudd yn annheg ac yn cyfyngu ar bysgotwyr sy’n dibynnu ar angen i arallgyfeirio ac addasu i amgylchiadau.

Er bod pryderon ynghylch risg capasiti cudd yn mynd i mewn i’r bysgodfa a phwysau cynyddol ar stociau yn cael eu cydnabod, rydym o’r farn bod deall yr effaith y mae cychod gweithredol yn ei chael ar stociau a datblygu mesurau gwell i reoli hyn yn flaenoriaeth uwch na chael gwared ar guddni o fewn y fflyd. Byddwn yn ystyried capasiti cudd fel rhan o ddatblygiad cyffredinol mesurau rheoli ymdrechion. Mae cyflwyno rheolaeth gadarn ac effeithiol yn flaenoriaeth uchel, ac ar ôl ei chyflwyno, gall negyddu’r angen i ddileu neu reoli capasiti cudd.

Ymateb y llywodraeth: adroddiad amgylcheddol

Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn nodi ymateb y llywodraethau i ymgynghoriad adroddiad amgylcheddol (ER) asesiad amgylcheddol strategol (SEA) FMP cregyn y brenin.

Mae SEA yn broses ffurfiol i asesu effaith cynllun neu raglen ar yr amgylchedd. Nod SEA yw:

  • darparu lefel uchel o ddiogelwch i’r amgylchedd
  • hyrwyddo datblygu cynaliadwy
  • integreiddio ystyriaethau amgylcheddol i baratoi a mabwysiadu cynllun neu raglen

Rhaid cwblhau’r SEA cyn mabwysiadu’r cynllun neu’r rhaglen er mwyn osgoi niwed amgylcheddol diangen sy’n deillio o’i gamau gweithredu neu ganlyniadau arfaethedig. Canolbwyntiodd y SEA ar amcanion a chamau gweithredu arfaethedig FMP drafft cregyn y brenin.  Mae’r ER yn nodi canfyddiadau’r broses SEA.

Roedd ymgymryd â SEA o FMP drafft cregyn y brenin yn fodd inni nodi effeithiau presennol y bysgodfa, deall yn well effeithiau amgylcheddol y polisïau a’r camau gweithredu a gynhwysir yn y cynllun, gan sicrhau ein bod yn bodloni’r gofynion o dan Reoliadau SEA 2004.

Cyflwynodd y broses SEA ystyriaethau amgylcheddol i gyfnod paratoi FMP drafft cregyn y brenin, gan sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar ein hymrwymiad i ddarparu pysgodfeydd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol. Helpodd yr ER lywio a dylanwadu ar ddatblygiad y cynigion a nodir yn FMP drafft cregyn y brenin ac mae’n nodi argymhellion ar sut y gallai’r FMP leihau effaith amgylcheddol pysgota cregyn y brenin i’r dyfodol.

Rydym yn ddiolchgar i’r holl randdeiliaid am rannu eu barn. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cadarnhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol pysgodfa cregyn y brenin yn bwysig ac yn elfen hanfodol o reoli cynaeafu i greu pysgodfa gynaliadwy. Mae’r ymatebion wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r risgiau amgylcheddol y mae FMP cregyn y brenin yn ceisio mynd i’r afael â nhw.

Cydnabu rhanddeiliaid fod angen gwell data a thystiolaeth i asesu effaith pysgodfa cregyn y brenin yn llawn i gyflwyno dulliau rheoli wedi’u targedu i leihau neu ddileu effeithiau negyddol. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i brosesau casglu data o’r fath redeg ochr yn ochr â chamau gweithredu clir i reoli effeithiau cyfredol.

Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar dystiolaeth ac effeithiau amgylcheddol polisïau FMP a chamau lliniaru arfaethedig. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn gallu rhoi sylwadau ar faterion eraill. Mae ein hymateb i’r safbwyntiau a roddwyd ar y pynciau hyn i’w gweld isod.

Mae ymatebion rhanddeiliaid wedi cael eu hystyried ac mae ER FMP cregyn y brenin wedi’i ddiweddaru gydag argymhellion ychwanegol. Bydd adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi yn 2024. Mae FMP diwygiedig cregyn y brenin wedi ystyried yr argymhellion hyn a gwnaed addasiadau lle bo hynny’n briodol.

Cwestiwn 1. Tystiolaeth

Cyflwynodd rhanddeiliaid ystod o dystiolaeth ychwanegol i’w hystyried i lywio’r llinell sylfaen amgylcheddol, gan gynnwys ar effeithiau llusgrwydo, data cynefinoedd carbon glas a statws cynefin cregyn bylchog. Roedd rhywfaint o gefnogaeth hefyd i ddarparu mwy o dystiolaeth ar sut mae’r bysgodfa cregyn bylchog yn rhyngweithio â’r amgylchedd morol cyfan.

Mae’r dystiolaeth a ddarparwyd drwy’r ymgynghoriad wedi’i chrynhoi a chaiff ei hystyried wrth roi’r FMP ar waith ac mewn asesiadau yn y dyfodol.

Cwestiwn 2. Effeithiau amgylcheddol polisïau’r FMP

Cyflwynodd rhai rhanddeiliaid farn yn nodi sut y gallai system cyfanswm dalfa a ganiateir (TAC) leihau ymdrech gyffredinol, gan arwain at lai o effeithiau amgylcheddol trwy effeithlonrwydd pysgota a llai o ôl troed. Roedd eraill yn pryderu am yr effaith y gallai cau gofodol ac amserol ei chael ar ddisodli ymdrech i ardaloedd eraill. Roedd pryder hefyd y gallai alinio mesurau ar raddfa genedlaethol yn Lloegr arwain at ostyngiad mewn safonau rheoli, tra bo rhaid i’r broses o ddileu rheoliadau offer sy’n ymadael i ganiatáu ar gyfer arloesi fod yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r effeithiau ychwanegol a ddarparwyd trwy’r ymgynghoriad wedi’u hystyried a’u cynnwys yn Adran 5. Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol, fel y bo’n briodol.

Cwestiwn 3. Camau i liniaru effeithiau amgylcheddol

Roedd rhanddeiliaid am weld mesurau mwy uniongyrchol yn cael eu cyflwyno i fynd i’r afael ag effaith andwyol pysgota cregyn y brenin ar wely’r môr, gan awgrymu gwell defnydd o ddull seiliedig ar ecosystem o reoli pysgodfeydd. Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd gan randdeiliaid ac mae’r ER wedi argymell bod yr FMP yn ystyried camau mwy uniongyrchol. Yn benodol, dylai fod camau clir i leihau neu ddileu effeithiau llusgrwydo ar y rhywogaethau mwyaf sensitif ac yn yr ardaloedd mwyaf sensitif, nad ydynt eisoes yn cael eu hamddiffyn trwy reoli MPA neu HPMA.

Roedd rhanddeiliaid hefyd yn credu y dylem roi mwy o ystyriaeth i annog dulliau llai gwrthdrawol o bysgota cregyn y brenin, gan gynnwys plymio llaw neu ffyrdd mwy arloesol o bysgota fel potio ar gyfer cregyn y brenin. Mae’r ER yn argymell bod yr FMP yn nodi polisïau i leihau effeithiau pysgota cregyn y brenin ar yr amgylchedd a all gynnwys hyrwyddo ffyrdd eraill o gynaeafu.

Cwestiwn 4. Sylwadau ychwanegol

Roeddem yn croesawu’r awgrymiadau ar ble y gellid gwella’r ER, yn enwedig ynghylch disgrifyddion cysylltiedig Strategaeth Forol y DU. Mae’r ER diwygiedig wedi argymell bod yr FMP yn ystyried nodi sut y bydd amcanion yr FMP yn cyfrannu at gyflawni statws amgylcheddol da (GES) ar gyfer disgrifyddion perthnasol Strategaeth Forol y DU.

Roedd rhanddeiliaid yn teimlo y dylai fod cysylltiadau cryfach rhwng yr adroddiad amgylcheddol ac adroddiadau a rheoliadau eraill, gan gynnwys:

  • cynlluniau rheoli basnau afon
  • rhan 3 Strategaeth Forol y DU i’w diwygio a’i mabwysiadu.
  • Adroddiad Statws Ansawdd OSPAR.
  • dyletswydd o ran bioamrywiaeth.
  • HPMAs wedi’u diffinio o’r newydd.

Rydym wedi newid yr adroddiad amgylcheddol i greu’r cysylltiadau hyn

Awgrymodd nifer o randdeiliad y dylai’r ER ddarparu argymhellion cliriach i fynd i’r afael â’r effeithiau amgylcheddol presennol a achosir gan bysgodfa cregyn y brenin. Rydym yn cytuno y dylai’r ER ddarparu eglurder yn ei argymhellion, ond rydym yn nodi mai ei ddiben yw darparu argymhellion ar y materion strategol sy’n codi o amcanion a chamau arfaethedig yr FMP fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd. Gall yr ER dynnu sylw at faterion amgylcheddol eang eraill y gallai’r FMP fynd i’r afael â nhw (megis effaith bosibl ar rywogaethau sensitif) ond ni all gynnig mesurau penodol (megis gwahardd llusgrwydo am gregyn y brenin o fewn 12nm i’r arfordir). Mater i’r broses FMP yw ystyried y materion a phenderfynu pa gamau y dylai eu cymryd i fynd i’r afael â nhw.

Atodiad 1:  Rhestr o sefydliadau na wnaethant ofyn am gyfrinachedd

  • Association of Inshore Fisheries Conservation Authorities (AIFCA)
  • Amethyst Fishing Company Limited
  • Awdurdodau Ffrainc
  • Blue Marine Foundation
  • CFPO
  • Y Comisiwn Ewropeaidd
  • Comité Régional de Pèches de Normandie France (CRPN)
  • Coombe Fisheries
  • Cornwall Inshore Fisheries & Conservation Authority
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
  • Devon and Severn IFCA
  • Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Pysgotwyr (NFFO)
  • G&M Roberts Fishing Ltd
  • Grŵp Ymgynghori’r Diwydiant Cregyn Bylchog
  • Historic England
  • International Transport Workers Federation (ITF)
  • Kent and Essex IFCA
  • Macduff ShellfishManx Fish Producers Organisation
  • North Eastern IFCA
  • North Western Waters Advisory Council
  • Oceana
  • Open Seas
  • Prifysgol Caerefrog
  • Scottish Fishermen’s Federation
  • Scottish White Fish Producers Association
  • Southern IFCA
  • South Western Fish Producer Organisation
  • Sussex Inshore Fisheries and Conservation Authority
  • Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd
  • Wembury Marine Conservation Area Advisory Group
  • West Coast Sea Producers Ltd
  • Western Fish Producers Organisation
  • World Wide Fund for Nature (WWF)
  • Y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC)
  • Y Cydbwyllgor Polisi Archaeoleg Forwrol
  • Y Cyngor Stiwardiaeth Forol
  • Y Gymdeithas Cadwraeth Forol

Atodiad 2: Rhestr o gyfarfodydd ymgysylltu ymgynghoriad yr FMP

  • Amble
  • Bridlington
  • Brixham
  • Brwsel (hybrid yn bersonol ac ar-lein)
  • Cromer
  • Folkestone
  • Gosport
  • Hull
  • Ilfracombe
  • Lowestoft
  • Newlyn
  • North Shields
  • Padstow
  • Peterhead
  • Plymouth
  • Poole
  • Rye
  • Scarborough
  • Shoreham
  • Stokenham
  • West Mersea
  • Weymouth
  • Whitby
  • Whitehaven
  • Whitstable (ar-lein)
  1. Sefydliad Ymchwil Ffrainc ar gyfer Camfanteisio ar y Môr 

  2. Foucher Eric, Quinquis Jerome, Ton Caroline (2020). SELEDRAG : Etude comparative de la sélectivité des dragues à coquilles Saint-Jacques Pecten maximus. R.RBE /HMMN/RHPEB-2020-01