Consultation outcome

Ymgynghoriad ar newidiadau i’n datganiadau ystadegol

This consultation has concluded

Download the full outcome

Ymateb i'r ymgynghoriad

Detail of outcome

Cawsom 12 ymateb i’r ymgynghoriad.

Ar ôl dadansoddi’r ymatebion, rydym wedi penderfynu byddwn:

  • yn lleihau’r cyfnod o amser rhwng cyhoeddiadau Cwmnïau Corfforedig yn y DU o bob mis i bob chwarter. Y ffigurau ar gyfer mis Mehefin 2016, a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2016, bydd y cyhoeddiad misol olaf. Bydd y cyhoeddiad chwarterol newydd gyntaf ym mis Hydref 2016 ar gyfer ffigurau sy’n cwmpasu mis Gorffennaf hyd fis Medi 2016.
  • yn lleihau’r hyd y cyhoeddiad Cwmnïau Corfforedig yn y DU. Byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth a ddarparwn yn dal i fod yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth er mwyn ateb gofynion anghenion ein defnyddwyr.
  • yn lleihau’r cyfnod o amser rhwng cyhoeddiadau ystadegol Cosbau Ffeilio Hwyr o bob mis i bob 6 mis. Bydd y cyhoeddiad misol olaf ystadegau Cosbau ffeilio hwyr yn dangos ffigurau mis Mehefin 2016 a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2016. Bydd y ffigurau ar gyfer cyfnod o chwe mis rhwng mis Ebrill hyd fis Medi 2016 yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2016, a ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2016 hyd fis Mawrth 2017 yn cael eu cyhoeddi yn fis Ebrill 2017.
  • bydd pwyntiau esboniadol allweddol yn cyd-fynd â’r table data allweddol ar gyfer ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr. Byddwn yn sicrhau bydd y pwyntiau allweddol yn darparu esboniad defnyddiol mewn ffurf gryno

Mae’r ymateb llawn ar gael yn Saesneg yn unig.


Original consultation

Summary

Rydyn ni’n cynnig newid maint a fformat ein datganiadau ystadegol a pha mor aml rydyn ni’n eu cyhoeddi.

This consultation ran from
to

Consultation description

Cynnig i newid y cyfnod o amser rhwng cyhoeddiadau ystadegol

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cyhoeddi amrywiaeth o ystadegau ar weithgarwch cwmnïau yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n cynnig newid pa mor aml rydyn ni’n cyhoeddi rhai o’r ystadegau hyn. Nodir y cyhoeddiadau, ynghyd â’r newidiadau a gynigir i ba mor aml y cânt eu cyhoeddi, yn y tabl isod.

Teitl y cyhoeddiad Pa mor aml yn awr Pa mor aml yn ôl y cynnig
Cwmnïau Corfforedig yn y DU Bob mis Bob chwarter
Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr Bob mis Ddwywaith y flwyddyn

Cynnig i newid fformat ein cyhoeddiadau ystadegol

Ar yr un pryd â lleihau pa mor aml rydyn ni’n rhyddhau ein cyhoeddiadau Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig ac Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr, rydyn ni hefyd yn cynnig newid fformat y cyhoeddiadau. O ran y cyhoeddiad Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n cynnig lleihau hyd y ddogfen PDF yn sylweddol.

Bydd y ddogfen yn canolbwyntio’n benodol ar y pwyntiau allweddol mewn perthynas â gweithgarwch y gofrestr am y cyfnod o dri mis, a chymariaethau â’r un cyfnod o dri mis yn y flwyddyn flaenorol. Caiff gwybodaeth am weithgarwch hanesyddol y gofrestr ei chadw ar gyfer y cyhoeddiad blynyddol, Gweithgareddau’r Gofrestr Cwmnïau. Bydd yr adroddiad chwarterol yn dal i gynnwys gwybodaeth gefndir allweddol, a byddwn yn dal i gyhoeddi’r ystod lawn o dablau data i gyd-fynd â phob datganiad.

Rydyn ni’n cynnig ymestyn y cyhoeddiad Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr i gynnwys pwyntiau allweddol sy’n ymwneud â’r ffigurau ac yn eu hesbonio. Rhagwelwn mai cyhoeddiad ar y we yn hytrach na dogfen PDF fydd hwn. Unwaith eto, byddwn yn dal i gyhoeddi gwybodaeth gefndir allweddol a thablau data i gyd-fynd â phob datganiad.

Gofyn am gyfraniad defnyddwyr

Bydd y newidiadau a gynigir yn caniatáu i ni ddefnyddio mwy o adnoddau ar ddatblygu’r ystadegau a’r deunydd ategol sy’n cyd-fynd â hwy. Os cânt eu derbyn, bydd y newidiadau’n cael eu gwneud dros 2016. Rydyn ni’n gofyn am eich barn chi am y newidiadau a gynigir fel y gallwn fod yn sicr bod ein cynhyrchion yn diwallu’ch anghenion chi. Rydyn ni eisiau deall beth sy’n bwysig i chi a’r effaith y byddai’r newidiadau hyn yn ei chael arnoch chi ac ar eich gwaith.

Gofynnwn i chi ystyried y cynigion a chymryd oddeutu 15-20 munud i ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 29 Ebrill 2016. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n canfyddiadau cyn pen rhyw 12 wythnos ar ôl y dyddiad cau hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost statistics@companieshouse.gov.uk.

Published 3 March 2016
Last updated 24 June 2016 + show all updates
  1. Final outcome added.

  2. Deadline extended to 13 May

  3. First published.