Ymgynghoriad ar Gynllun Iaith diwygiedig GLlTEM
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg
Bu i’r ymgynghoriad ar Gynllun Iaith Gymraeg GLlTEM roi’r cyfle cyntaf ers cyhoeddi ei Gynllun cyntaf yn 2013 i adolygu darpariaethau’r Cynllun fel ei fod yn adlewyrchu yn well y cyfeiriad y mae’r sefydliad yn ei gymryd ar hyn o bryd.
Yn ychwanegol i ymrwymiadau blaenorol, mae’r Cynllun bellach yn rhoi gwybodaeth ar y canlynol:
- Y defnydd o’r Gymraeg yn y Llys Gweinyddol
- Y defnydd o’r Gymraeg yn y Llys Apel a’r Uwch Dribiwnlys
- Y defnydd o’r Gymaeg yn y Llys Busnes ac Eiddo
- Adran ar wasanaethau digidol
- Ymroddiad newydd i’r Cynllun gan y Prif Weithredwr presennol
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae GLlTEM wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymweud gyda diwygiad cyntaf ei Gynllun Iaith Gymraeg.
Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg yn ymdrin gyda gwaith ei bencadlys corfforaethol yn Llundain, y canolfannau prosesu canolog megis y Llys Sirol Hawliadau Arian a holl lysoedd a thribiwnlysoedd Cymru.
Ni welwyd erioed gymaint o newid i’r ffordd y mae’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn gweithredu i’r hyn y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd, ac mae’r cynllun diwygiedig angen adlewyrchu hyn gan roi datganiad clir i siaradwyr Cymraeg sut fydd yn trin yr iaith Gymraeg yn gyfartal wrth gyflwyno ei wasanaethau.