Ymgynghoriad caeedig

Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar gyfer 2023 i 2024

Rydym yn dadansoddi eich adborth

Dewch yn ôl at y wefan hon yn fuan i lwytho'r canlyniad i lawr ar gyfer yr adborth cyhoeddus hwn.

Crynodeb

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn ymgynghori ar ei gynllun blynyddol drafft ar gyfer 2023 i 2024.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r fersiwn ddrafft hon o gynllun blynyddol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn nodi’r meysydd ffocws ar gyfer 2023 i 2024 o fewn cyd-destun diben, uchelgais a blaenoriaethau tymor canolig arfaethedig y sefydliad dros y cyfnod nesaf o 3 blynedd.

Bwriad yr ymgynghoriad yw rhoi cyfle i bartneriaid a phartïon â buddiant roi eu safbwyntiau a’u sylwadau ar ein blaenoriaethau tymor canolig a’r meysydd ffocws rydym wedi’u nodi.

Gofynnir i ymatebwyr i’r ymgynghoriad hwn ddarparu crynodeb byr o’r buddiant neu’r sefydliad maent yn ei gynrychioli. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion, ynghyd â fersiwn derfynol o’r cynllun erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

Dylid darparu ymatebion i’r ymgynghoriad drwy ein ffurflen we neu drwy e-bost i general.enquiries@cma.gov.uk erbyn 5pm ar 30 Ionawr 2023 fan hwyraf.

Dogfennau

Ymgynghoriad ar Gynllun Blynyddol y CMA ar gyfer 2023 i 2024

Cyhoeddwyd ar 15 December 2022