Ymgynghoriad ar awdurdodi 16 o gynhyrchion rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad, 2026
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Dyddiad lansio: 21 Medi 2026
Ymateb erbyn: 16 Tachwedd 2026
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn negodi Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) gyda’r Undeb Ewropeaidd (UE). O dan y Cytundeb arfaethedig, byddai’r DU yn cyd-fynd â holl ddeddfwriaeth yr UE sydd o fewn cwmpas y Cytundeb, gan gynnwys awdurdodiadau’r farchnad (yn amodol ar gytuno ar unrhyw eithriadau yn ystod y trafodaethau gyda’r UE). Ar ôl i’r Cytundeb ddod i rym, byddai’r rheolau sy’n gymwys ym Mhrydain Fawr yn cael eu diweddaru yn unol â rheolau’r UE wrth iddynt newid dros amser.
Byddai cynhyrchion sydd eisoes wedi’u hawdurdodi gan yr UE, a’r amodau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiadau hynny, hefyd yn gymwys ym Mhrydain Fawr ar ôl i’r Cytundeb ddod i rym. Byddai awdurdodiadau presennol Prydain Fawr yn peidio â bod yn gymwys. Am fwy o wybodaeth, gweler y canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig - GOV.UK
Noder – rydym wedi cwblhau ein hasesiad risg o’r cynhyrchion sy’n destun yr ymgynghoriad hwn, o ran eu defnyddio yn y categorïau bwyd y mae’r ymgeiswyr wedi gofyn am awdurdodiad ar eu cyfer ym Mhrydain Fawr. Mae ein cynigion rheoli risg, fel y’u nodir yn y telerau awdurdodi arfaethedig ar gyfer pob cais, yn adlewyrchu hyn, a gallant fod yn wahanol i’r rhai sydd wedi’u hawdurdodi yn yr UE ar hyn o bryd. Os bydd cytundeb i gyd-fynd yn ddeinamig ag awdurdodiadau’r UE, ni chaniateir y cynhwysion hynny yn y categorïau bwyd nad ydynt wedi’u cynnwys yn awdurdodiad yr UE. Ar ben hynny, pan fo’r categorïau bwyd awdurdodedig yr un fath ym Mhrydain Fawr a’r UE, byddai amodau awdurdodi’r UE – gan gynnwys unrhyw lefelau defnydd uchaf a mesurau rheoli risg eraill – yn gymwys yn lle’r amodau awdurdodi cyfatebol ym Mhrydain Fawr.
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Bydd yr ymgynghoriad hwn o’r diddordeb mwyaf i holl fusnesau bwyd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd.
Mae ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS).
Pwnc yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau, ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig sy’n cael eu hystyried yn y ddogfen hon, ac sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer:
-
2’-Ffwcosyl-lactos (2’-FL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli K-12) (addasu’r defnydd o fwyd newydd awdurdodedig)
-
cymysgedd 2’-Ffwcosyl-lactos/Deuffwcosyl-lactos (2’-FL/DFL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli K-12 (DH1)) (addasu’r defnydd o fwyd newydd awdurdodedig)
-
2’-Ffwcosyl-lactos (2’-FL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Corynebacterium glutamicum (ATCC 13032)) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
-
2’-Ffwcosyl-lactos (2’-FL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli BL21 (DE3)) (addasu’r defnydd o fwyd newydd awdurdodedig)
-
2’-Ffwcosyl-lactos (2’-FL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli BL21 (DE3)) (addasu manyleb bwyd newydd awdurdodedig)
-
halen sodiwm 3’-Sialyl-lactos (3’-SL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli K-12 (DH1)) (addasu’r defnydd o fwyd newydd awdurdodedig)
-
halen sodiwm 3’-Sialyl-lactos (3’-SL) (a gynhyrchir gan straeniau deilliadol o Escherichia coli BL21 (DE3)) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
-
3-Ffwcosyl-lactos (3-FL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli K-12 (MG1655)) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
-
3-Ffwcosyl-lactos (3-FL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli BL21 (DE3)) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
-
halen sodiwm 6’-Sialyl-lactos (6’-SL) (a gynhyrchir gan straeniau deilliadol o Escherichia coli BL21 (DE3)) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
-
halen sodiwm 6’-Sialyl-lactos (6’-SL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli K-12 (DH1)) (addasu manyleb y defnydd o fwyd newydd awdurdodedig)
-
Lacto-N-tetraos (LNT) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli K-12 (DH1)) (addasu’r defnydd o fwyd newydd awdurdodedig)
-
Lacto-N-tetraos (LNT) (a gynhyrchir gan straeniau deilliadol o Escherichia coli BL21 (DE3)) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
-
Lacto-N-neotetraos (LNnT) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli K-12) (addasu’r defnydd o fwyd newydd awdurdodedig)
-
oleoresin llawn Astaxanthin o algâu Haematococcus pluvialis a ddefnyddir fel bwyd newydd (addasu’r fanyleb a’r amodau defnydd)
-
olew Schizochytrium sp. llawn DHA ac EPA (addasu manyleb bwyd newydd awdurdodedig)
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y ceisiadau am awdurdodiad y cyfeirir atynt uchod, ei chyngor ar reoli risg mewn perthynas â nhw, a’r telerau y bwriedir awdurdodi pob un arnynt. Gwahoddir rhanddeiliaid i roi sylwadau ar y cynigion, gan gynnwys mewn perthynas â gofynion labelu neu unrhyw ffactorau dilys eraill (hynny yw, cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd, ac ati) a allai fod yn berthnasol. Gwahoddir rhanddeiliaid i ddefnyddio’r cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu dynnu sylw at unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid tynnu sylw gweinidogion atynt fel sail i’w penderfyniadau.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn rhoi’r wybodaeth gefndirol, y manylion, a’r cwestiynau y gwahoddir chi i ymateb iddynt. Mae’n darparu dolenni i’r argymhellion rheoli risg a’r asesiadau diogelwch. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael drwy’r atodiadau ar y dudalen hon hefyd.
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch anfon ymateb drwy e-bost at:
E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
Enw: Y Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Isadran/Cangen: Awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad
Os ydych chi’n ymateb drwy e-bost, nodwch, yn eich ymateb, a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad/cwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych chi wedi’ch lleoli.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Rydym yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd o fewn tua thri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben a darparu dolen iddo o’r dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau.
Gwybodaeth bellach
Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch fanylion at RPconsultations@food.gov.uk a byddwn yn ystyried eich cais.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi. Mae’r effeithiau posib mewn perthynas â’n cynigion wedi’u trafod yn y ddogfen ymgynghori. Os nad oes asesiad o’r effaith wedi’i ddarparu, byddwn yn nodi’r rheswm dros hynny yn y ddogfen ymgynghori.
Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Y Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig