Skip to main content
Consultation outcome

Crynodeb o ymatebion ac ymateb y llywodraeth

Updated 6 May 2026

1. Rhagarweiniad

Mae Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 (y Rheoliadau) a manylebau rheoleiddio cymeradwy ar waith i atal gosod, cysylltu, trefnu neu ddefnyddio ffitiadau dŵr yn y fath fodd fel eu bod yn achosi neu’n debygol o achosi gwastraff, camddefnydd, defnydd gormodol, mesuriadau gwallus neu halogi cyflenwadau dŵr yfed.

Ymgynghorodd Defra a Llywodraeth Cymru ar ddiwygiadau arfaethedig i Fanyleb Perfformiad Toiledau, y Fanyleb ar Atal Ôl-lif a manylebau rheoleiddio cysylltiedig eraill y cyfeirir atynt fel taflenni cod prawf (TCSs). Roedd hyn mewn ymateb i nifer fach o ddigwyddiadau halogi lle canfuwyd bod dŵr o sestonau toiledau wedi dychwelyd (neu ‘ôl-lifo’) i system dŵr yfed adeiladau. Nid yw sestonau toiled wedi’u cynllunio i storio dŵr o ansawdd dŵr yfed, sy’n dirywio oherwydd bod dŵr yn sefyll yn llonydd neu oherwydd bod cemegau’n bresennol ac felly gallent fod wedi achosi risgiau iechyd posibl.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a sut rydym wedi ymateb iddynt. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 8 Awst 2022 a 3 Hydref 2022 ac mae ar gael yn: Ymgynghoriad ar Fanylebau Perfformiad Toiledau yng Nghymru a Lloegr.

Fe wnaethom ofyn wyth cwestiwn ar ein diwygiadau arfaethedig i fanylebau’r rheoleiddiwr a’r taflenni cod prawf:

  • cwestiwn 9 - i ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid cael taflen cod prawf newydd (TCS 2213.20) ar gyfer trefniant ychwanegol i atal ôl-lif sy’n benodol i doiledau?

  • cwestiwn 10 - i ba raddau ydych chi’n cytuno â’r newidiadau arfaethedig i’r Fanyleb ar Atal Ôl-lif?

  • cwestiwn 11 - i ba raddau ydych chi’n cytuno â’r newidiadau arfaethedig i Fanyleb Perfformiad Toiledau?

  • cwestiwn 12 - i ba raddau ydych chi’n cytuno â’r newidiadau arfaethedig i’r daflen cod prawf bwlch aer Math AC (TCS 2213.15)?

  • cwestiwn 13 - i ba raddau ydych chi’n cytuno â chreu, diwygio a dirymu taflenni codau profi’r rheoleiddiwr (ac eithrio 2213.20 a 2213.15 y gwnaethom holi amdanynt ar wahân)?

  • cwestiwn 14 - i ba raddau ydych chi’n cytuno ein bod wedi rhoi’r mesurau diogelu cywir ar waith i ddiogelu iechyd pobl?

  • cwestiwn 15 - i ba raddau ydych chi’n cytuno ein bod wedi ystyried y costau, yr effeithiau a’r manteision yn gywir a bod ein hamcangyfrifon yn gywir?

  • cwestiwn 19 - i ba raddau ydych chi’n cytuno bod digon o amser i drosglwyddo i’r gofynion newydd?

Fe wnaethom hefyd ddefnyddio’r ymgynghoriad i gasglu tystiolaeth am falfiau toiled diffygiol a oedd yn golygu bod dŵr yn cael ei golli er mwyn deall safbwyntiau pobl a gweld beth mae modd ei wneud. Mae toiled sy’n gollwng yn gwastraffu rhwng 215 a 400 litr o ddŵr yfed bob dydd ar gyfartaledd. Amcangyfrifir bod tua 5 i 8% o doiledau’n gollwng, gydag oddeutu 400 miliwn litr o ddŵr yn gollwng o doiledau’r DU bob dydd. Fe ofynnom ni 3 chwestiwn:

  • cwestiwn 16 - i ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r llywodraeth gymryd camau i leihau effaith toiledau sy’n gollwng?

  • cwestiwn 17 - gofynnom i chi restru (yn nhrefn pwysigrwydd) pob un o’r dulliau gweithredu o ran addasrwydd i fynd i’r afael â cholledion dŵr o doiledau sy’n gollwng.

  • cwestiwn 18 - gofynnom i chi ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth i ategu eich ymateb i’r cwestiwn blaenorol er mwyn i ni ddeall mwy am y broblem.

Mae Defra a Llywodraeth Cymru’n cydnabod ei bod yn bwysig i’r holl randdeiliaid perthnasol gael cyfle i gael gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyn i’r newidiadau gael eu gwneud. Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser ac a aeth i drafferth i ymateb, ac mae’r holl ymatebion wedi cael eu hadolygu.

2. Dadansoddi’r ymatebion

Cawsom bron i 42 o ymatebion:

  • daeth 38 o ymatebion i law drwy Citizen Space

  • daeth 3 ymateb i law drwy e-bost

  • daeth 1 ymateb i law drwy’r post

Mae Ffigur 1 yn dangos nifer yr ymatebion yn ôl y math o sefydliad a nifer yr ymatebion a gawsom gan unigolion. Mae’r ymatebwyr sy’n ateb ‘Arall’ yn dod o faes cadwraeth dŵr, cyrff siartredig a chwmnïau â lifrai. Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys y rheini a ddewisodd aros yn ddienw. 

2.1 Ffigur 1 Ymatebwyr yn ôl sector

Ymatebwyr yn ôl sector
Dosbarthwr 1
Unigolyn 4
Gweithgynhyrchwr 8
Cymdeithas broffesiynol 1
Rheoli eiddo 1
Cymdeithas Masnach 3
Corff ffitiadau dŵr neu gorff ardystio 2
Cyflenwr dŵr 13
Arall 9

2.2 Ffigur 2 Maint y sefydliadau a ymatebodd

Mae Ffigur 2 yn dangos maint y sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Ffigur 3 Dyma leoliadau’r ymatebwyr. Roedd y rheini a atebodd ‘Arall’ yn dod o’r Almaen, yr Eidal, Sbaen a’r Swistir.

Maint y sefydliad
0 i 9 o weithwyr (llai na £2 filiwn) 14
10 i 49 o weithwyr (£3 i £10 miliwn) 0
50 i 249 o weithwyr (£11 i £50 miliwn) 3
mwy na 250 o weithwyr (mwy na £51 miliwn) 19
Heb ateb 6

2.3 Ffigur 3 Ardal yr ymatebwyr

Lleoliad yr ymatebwyr
Lloegr Gogledd Iwerddon Yr Alban Cymru Y DU gyfan Arall Heb ateb
22 2 0 4 6 6 2

3. Crynodeb o ymatebion ac ymateb y llywodraeth

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg lefel uchel o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn rhoi manylion am sut rydym wedi’u hystyried yn fersiynau terfynol manylebau’r rheoleiddwyr a’r taflenni cod prawf. Mae’n ceisio adlewyrchu’r safbwyntiau a gynigir ond, yn anochel, nid yw’n bosibl disgrifio’r holl ymatebion yn fanwl ac felly mae’n canolbwyntio ar faterion allweddol a godwyd. Ni wnaeth pob ymatebydd ateb pob cwestiwn.

Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn croesawu’r newidiadau ac yn derbyn y cynigion gyda rhai diwygiadau.

Roedd y sylwadau a wnaed mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn newidiadau penodol yn ymwneud â drafftio ac roedd cryn dipyn ohonynt yn gofyn am newidiadau a oedd y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad, er enghraifft, diweddariadau i’r Rheoliadau neu i daflenni cod prawf eraill nad oeddent yn cael eu diwygio. Lle bo hynny’n berthnasol, rydym yn edrych ar y rhain isod.

4. Mesurau diogelu sydd ar waith i ddiogelu iechyd pobl

Gofynnom, yn y newidiadau rydym wedi’u gwneud, a yw’r mesurau diogelu cywir wedi cael eu rhoi ar waith i ddiogelu iechyd pobl. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 24 yn cytuno â’r cynnig bod gennym y mesurau diogelu cywir ar waith

  • roedd 8 yn anghytuno

  • nid oedd 10 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno

Roedd cytundeb cyffredinol bod y mesurau diogelu cywir ar waith ar gyfer toiledau. Dywedodd rhai ymatebwyr y dylem ddileu manylebau rheoleiddio lle mae Safonau Prydeinig yn bodoli. Roedd lefel yr adolygu y byddai ei angen i wneud hyn y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad hwn.

Mewn perthynas â thoiledau, nid yw’r Safon Brydeinig gyfredol yn cwmpasu holl fanylebau toiledau yn y dyluniad. Felly, roeddem yn teimlo bod angen cadw’r manylebau hyn i sicrhau eu bod yn parhau i weithredu’n effeithiol.

5. Y Fanyleb ar Atal ôl-lif a’r daflen codau profi ar gyfer trefniant newydd i atal ôl-lif

Gofynnom am y newidiadau arfaethedig i’r Fanyleb ar Atal Ôl-lif. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 32 yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig

  • roedd 4 yn anghytuno â’r cynnig

  • nid oedd 6 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno â’r cynnig

Roedd nifer fawr yn cytuno â’r newidiadau. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno trefniant bwlch aer newydd y gellir ei ddefnyddio’n haws mewn dyluniad toiledau modern, y bwlch aer Math AUKWC.

Gofynnom hefyd am greu taflen cod prawf newydd ar gyfer y trefniant bwlch aer Math AUKWC i atal ôl-lif. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 30 yn cytuno â’r cynnig bod angen manyleb benodol

  • roedd 1 yn anghytuno â’r cynnig

  • nid oedd 11 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno â’r cynnig

Roedd cytundeb cryf y dylid cael taflen cod prawf cysylltiedig ar gyfer y trefniant bwlch aer newydd.

Fodd bynnag, dywedodd ymatebwyr y gallai cynnwys y term ‘WC’ yn yr enw ar y daflen cod prawf achosi dryswch ac y gallai gyfyngu ar ei ddefnydd. Felly, rydym wedi newid enw’r bwlch aer Math AUKWC yn fwlch aer Math AUK4 sy’n dilyn confensiwn enwi penodol presennol y DU. Yn y fanyleb ôl-lif ar gyfer y trefniant bwlch aer Math AUK4, rydym wedi gwneud rhai mân newidiadau i eiriad y disgrifiad i egluro bwriad a phwrpas y lefel gorlif mewnol. Hefyd, er nad yw’r gofynion technegol cyffredinol wedi newid, rydym wedi cynnwys testun a diagramau ychwanegol sy’n llawn gwybodaeth ac wedi gwneud rhywfaint o fân newidiadau i helpu i’w gwneud yn fwy eglur.

Gofynnodd rhai ymatebwyr i wneud y Rheoliadau yn fwy eglur ynghylch defnyddio ail gyflenwad ar gyfer sestonau fflysio, fel dŵr glaw. Fel y nodwyd yn gynharach, roedd newidiadau i’r Rheoliadau y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad ond roeddem hefyd yn teimlo bod y Rheoliadau’n ddigon clir yn yr achos hwn. Pan ychwanegir ail gyflenwad, mae’r seston fflysio’n troi’n ‘lestr derbyn’. Felly, mae gofynion presennol y Rheoliadau (Atodlen 2 Paragraff 15) i atal ôl-lif yn berthnasol. Byddai angen amddiffyniad ôl-lif ychwanegol, sy’n briodol i gategori’r hylif, i ddiogelu’r cyflenwad dŵr iach i fyny’r bibell (er enghraifft, falf mewndwll y prif gyflenwad dŵr) sy’n cyflenwi’r seston fflysio.

Roedd ymatebwyr eraill o’r farn nad oedd yn glir pwy allai gymeradwyo’r manylebau a beth oedd rôl yr ymgymerwr dŵr, a gofynnwyd am eglurder. Yn unol â Rheoliad 12 o’r Rheoliadau, dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru (fel y rheoleiddwyr) all gymeradwyo manyleb a rhaid iddynt ymgynghori â phob ymgymerwr dŵr a thrwyddedai cyflenwadau dŵr a chymdeithasau a sefydliadau masnach priodol cyn gwneud hynny. Yn unol â Rheoliad 10 o’r Rheoliadau, mae ymgymerwyr dŵr yn gorfodi gofynion y Rheoliadau, gan gynnwys unrhyw fanylebau o gymeradwywyd, yn eu priod ardaloedd gan sicrhau bod ffitiad yn cael ei osod, ei gysylltu neu ei drefnu’n gywir a’i fod o ansawdd a safon briodol ac yn addas ar gyfer yr amgylchiadau y mae’n cael ei ddefnyddio ynddynt.

Roedd ansicrwydd tebyg ynghylch a yw’n fwriad i’r rhestr o ddyfeisiau a threfniadau atal ôl-lif gael ei defnyddio yn ôl trefn blaenoriaeth. Nid yw’r dyfeisiau wedi cael eu rhestru mewn unrhyw drefn benodol yn y Fanyleb ar Atal Ôl-lif. Y bwriad yw iddynt gael eu dewis ar sail eu dosbarthiad o ran y categorïau hylif y gallant amddiffyn rhagddynt; a’u haddasrwydd, fel nodweddion a lleoliad y system blymio.

6. Trefniant bwlch aer math AC

Gofynnom am y newidiadau arfaethedig i daflen cod prawf bwlch aer Math AC ac roedd cytundeb cryf. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 30 yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig

  • roedd 5 yn anghytuno

  • nid oedd 7 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno

Dywedodd un ymatebydd nad oedd prawf gwactod fel sydd wedi’i gynnwys mewn manylebau bwlch aer eraill. Mae’r prawf yn canfod a oes modd i ddŵr gael ei seiffno yn ôl i gyflenwadau dŵr yfed. Mae profion ôl-seiffno eisoes wedi’u cynnwys mewn mannau eraill yn y gofynion toiledau ond byddent yn darparu yswiriant lle mae’r trefniant bwlch aer Math AC yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau eraill. Er nad oeddem yn gallu (ar ôl cysylltu ag ychydig o wneuthurwyr, cymdeithasau masnach, cyrff ardystio ac ati) nodi unrhyw ddefnyddiau presennol ar wahân i ddefnyddio toiledau, byddai cynnwys y profion yn y daflen cod prawf hwn yn sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu yn y dyfodol a bod cysondeb yn cael ei ddarparu ar draws manylebau. Felly, mae wedi cael ei ychwanegu a bydd yn dilysu perfformiad mewn ffordd debyg i’r trefniadau bwlch aer eraill. Er mwyn osgoi dyblygu profion a chostau cysylltiedig pan fydd y trefniant yn cael ei ddefnyddio ar doiledau, rydym wedi caniatáu tystiolaeth o ganlyniadau profion sydd eisoes wedi cael eu cynnal i fodloni’r gofynion.

7. Manyleb Perfformiad Toiledau

Gofynnwyd am y newidiadau arfaethedig i’r Fanyleb Perfformiad Toiledau. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 27 yn cytuno

  • roedd 8 yn anghytuno

  • nid oedd 7 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno

Roedd hyn yn dangos bod cytundeb cyffredinol i’r newidiadau.

Cawsom lawer o sylwadau ynghylch cywirdeb a chysondeb unrhyw hyblygrwydd. Awgrymodd ymatebwyr y dull peirianyddol o ansicrwydd ynghylch mesur er mwyn darparu dewis arall i fynd i’r afael â’r pryderon hyn, ac rydym wedi ychwanegu hyn at y fanyleb.

Mae ansicrwydd y dull mesur yn cyfuno’r amrywiadau bychan (offerynnau, cyfarpar ac ati) a allai ddigwydd drwy gydol camau’r broses brofi ac mae’n cael ei adrodd fel cyllideb gyfun.

Mae’r gyllideb hon yn nodi’r ystod y gallai fod wedi bod i’r gwir werth a fesurwyd fod pe bai’r amrywiadau i gyd wedi bod ar y ffiniau uchaf (cadarnhaol), ac i’r gwrthwyneb pe baent wedi bod ar y ffiniau isaf (negyddol). Mae peirianwyr yn cydnabod ei bod bron yn amhosibl sicrhau cywirdeb llwyr drwy fesur, ac maen nhw’n derbyn y bydd rhywfaint o amrywiad yn digwydd. Mae angen cyfyngu ar y rhain (sy’n cael eu diffinio’n oddefiannau) er mwyn sicrhau perfformiad cyson. Bydd hefyd yn galluogi gweithgynhyrchwyr a’r rheini sy’n cynnal profion i ddeall sut gellir gwella cysondeb cynhyrchion ac mae’n lleihau’r angen i fod yn rhy ragnodol ynghylch cywirdeb offerynnau mesur.

Pan nad oes goddefiannau na chywirdeb penodol ar gyfer offerynnau mesur, y goddefiannau a’r mesuriadau cyffredinol a amlinellir yn y Fanyleb Perfformiad Toiledau fydd yn berthnasol. Mae’r rhain wedi cael eu diweddaru yn dilyn yr ymgynghoriad ac maent hefyd wedi cael eu hychwanegu, neu eu cyfeirio atynt, yn y taflenni cod prawf y buom yn ymgynghori arnynt.

8. Taflenni codau prawf eraill

Gofynnwyd am y newidiadau arfaethedig i daflenni codau prawf eraill nad oeddent eisoes wedi cael sylw yn yr ymgynghoriad. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 33 yn cytuno â’r newidiadau arfaethedig

  • roedd 1 yn anghytuno â’r newidiadau arfaethedig

  • nid oedd 8 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno

Nid oedd unrhyw ymatebwyr yn gwrthwynebu tynnu TCS 5011.5 Pibellau gorlif - Mesur dimensiwn. Rydym yn tybio felly bod pawb yn cytuno bod TCS 5011.7 Darpariaeth pibellau rybuddio a phibellau gorlif, yn cynnwys yr holl ofynion angenrheidiol ar gyfer pibellau gorlif. Er hynny, dilëwyd cyfeiriadau at ‘nodau barcud’ a ‘chyfeirlyfr’ fel ffordd o fodloni’r gofynion gan nad oedd yn gywir bellach.

Roedd rhai ymatebwyr ar, TCS 1611.16 Halogiad hylifau a Dargadw lliw, yn credu na ddylid parhau i ddefnyddio potasiwm permanganad oherwydd cyfyngiadau prynu ac roeddent yn meddwl tybed a oedd dewis arall addas ar gael. Gofynnodd eraill am ddileu’r terfyn amser ar droi’r hydoddiant gwanedig gan ei fod yn creu rhagor o fesurau a dogfennau wedi’u graddnodi ac nid oeddent yn credu bod angen gwneud hynny. Bydd angen i ddewis arall addas yn lle potasiwm permanganad ddangos ei fod yn cynnig lefel gyfatebol o berfformiad er mwyn iddo gael ei ystyried. Er bod angen terfynau amser i sicrhau bod canlyniadau’n gyson, yn gadarn ac y gellir eu hailadrodd, ni allant fod yn benagored.

Ar gyfer TCS 2213.21 Cymalau islaw lefel dŵr critigol, roedd rhai ymatebwyr o’r farn y dylid gwneud hyn yn berthnasol i’r holl drefniadau bwlch aer, nid dim ond y rhai a ddefnyddir mewn toiledau. Rydym yn gweld sut y gallai hwn fod yn fesur cyffredinol, ond byddai angen ymgynghori pellach ac ni ellid cyflawni hynny fel rhan o’r gwaith hwn.

Cafwyd nifer o sylwadau ar TCS 2212.3 Math AG yn ymwneud â threfniadau gorlif storm a thoriadau aer. Credwyd y dylid caniatáu pibellau gorlif heb fod yn gylchol. Hefyd, ar gyfer toiledau a wrinalau, dylid cael eithriad wrth gydymffurfio â’r gofyniad toriad aer i ddraeniau. Mae’r rhain wedi cael eu derbyn ac mae newidiadau wedi cael eu gwneud i’r taflenni codau prawf terfynol.

9. Ymatebion eraill

Daeth nifer o sylwadau i law ar yr adrannau profi cydymffurfiaeth yn y Fanyleb ar Atal Ôl-lif a’r Fanyleb Perfformiad Toiledau. 

Roedd ymatebwyr yn aml yn meddwl bod yr wybodaeth hon yn newydd ac yn gofyn, er enghraifft: 

  • i’r wybodaeth gael ei chynnwys mewn unrhyw ddatganiadau cydymffurfio; 

  • eglurhad ynghylch lefel yr ardystiad sydd ei angen (a allai gweithgynhyrchwyr ddatgan dros eu hunain) 

  • y corff gorfodi ar adeg gwerthu 

  • sut i atal dyblygu profion 

Roedd y manylebau eisoes yn cynnwys profion cydymffurfiaeth ac ni chynigiwyd unrhyw newidiadau sylweddol iddynt. Felly, mae’r trefniadau cyfredol yn dal yn berthnasol, ond fel arfer da, rydym wedi egluro y dylai gweithgynhyrchwyr gael system asesu er mwyn gallu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r manylebau yn ogystal â rheolaethau cynhyrchu mewn ffatrïoedd.

Fel gorfodwyr y Rheoliadau, mae’n well cyfeirio unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb am brofi cydymffurfiaeth at ymgymerwyr dŵr. Rydym yn credu eu bod wedi cyhoeddi canllawiau sy’n amlinellu’r llwybrau sydd ar gael i ddangos cydymffurfiaeth, y mathau o dystiolaeth sy’n dderbyniol a phryd nad yw’n briodol i gymysgu profion, felly efallai y bydd angen ystyried hyn yn gyntaf.

Y tu allan i’r ymgynghoriad, cysylltodd unigolyn â Defra i fynegi pryderon y gallai prawf ar faeddu’r llwybr dŵr, ar adegau prin, beidio â chanfod nam posibl. Mae’r prawf yn elfen hanfodol i ganfod nad oes modd seiffno dŵr yn ôl, gan sicrhau diogelwch iechyd y cyhoedd. Gan fod defnydd eang yn cael ei wneud o’r dull profi mewn safonau cenedlaethol eraill, byddwn, am y tro, yn cadw’r prawf fel y mae.

Fodd bynnag, fel ffordd o werthuso a yw’r newidiadau rydym wedi’u gwneud wedi cywiro ôl-lif dŵr o sestonau toiledau, byddwn yn gofyn i ymgymerwyr dŵr gofnodi a fydd unrhyw ddigwyddiadau ôl-lif yn y dyfodol wedi cael eu hachosi gan ffitiadau a oedd yn ymddangos eu bod yn cydymffurfio â manylebau diweddaraf y rheoleiddwyr a’r taflenni codau prawf. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hadrodd i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed ac os bydd methiant o’r fath yn digwydd byddwn yn ceisio, lle bo modd, canfod yr achos sylfaenol a phenderfynu a oes angen mesurau pellach. Lle bo’n berthnasol, byddwn yn ystyried a wnaeth y prawf hwn gyfrannu at hyn.

Yn fwy cyffredinol ar draws manylebau’r rheoleiddiwr a’r taflenni codau prawf, lle mae mân newidiadau wedi cael eu gwneud, rydym wedi sicrhau, lle maent yn cael eu defnyddio ar gyfer toiledau, eu bod i gyd yn gyson, er enghraifft: y diffiniadau, y deunyddiau a ddefnyddir a’r gofynion gorlifo. Rydym hefyd wedi dileu amwysedd lle bynnag y bo modd.

10. Costau, effeithiau a buddion

Gofynnom a oeddem wedi rhoi ystyriaeth gywir i gostau, effeithiau a manteision ein newidiadau arfaethedig, ac a oedd ein hamcangyfrifon yn gywir. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 7 yn cytuno â’r tybiaethau a wnaethom

  • roedd 6 yn anghytuno â nhw

  • nid oedd 29 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno

Ni wnaeth yr ymatebwyr a roddodd sylwadau nodi bod unrhyw elfen benodol o’n hamcangyfrif costau yn anghywir.

Cawsom sylw bod 50 miliwn o doiledau yn y DU ac roeddent yn amheus a oedd y costau o tua 7 ceiniog fesul toiled yn gywir. Roeddent felly’n credu y byddai’r costau i’r cwsmer yn llawer uwch. Mynegodd cyrff y diwydiant safbwyntiau eraill: roedd un yn teimlo mai amcangyfrifon oedd y darpariaethau ac y gellid eu trafod ond eu bod yn ymddangos yn rhesymol; nid oedd un arall yn gweld unrhyw reswm dros amau ar yr olwg gyntaf; ac roedd trydydd ymatebydd yn credu bod y costau’n deg.

Roedd ymatebydd arall o’r farn mai’r gwir agwedd oedd heb ei meintoli oedd faint o ddefnyddwyr a oedd wedi bod yn dioddef dŵr wedi’i halogi o ganlyniad i drefniadau atal ôl-lif annigonol. Roedd rhai eraill yn cefnogi’r cynigion yn llwyr, beth bynnag fo’r costau, ar sail y brif fantais o ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag halogi posibl i gyflenwadau dŵr yfed oherwydd ôl-lif. Nid ydym yn gwybod gwir faint y broblem ôl-lifo ond cafodd 139 o ddigwyddiadau eu hadrodd i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yng Nghymru a Lloegr rhwng 2013 a 2024. Er nad ydym yn ymwybodol o unrhyw achosion o salwch sy’n cael ei gysylltu ag ôl-lif, mae’n bosibl iddo achosi salwch. Dyna pam rydym wedi rhoi’r pwyslais ar ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Galwodd ymatebwyr eraill am gyflwyno hyfforddiant gorfodol a thrwydded i ymarfer i blymwyr ac roeddent yn meddwl nad oedd y costau ar gyfer eu haddysg a’u hyfforddiant ar gyfer gosod y cynhyrchion sy’n cydymffurfio o’r newydd wedi’i chynnwys. Roedd hyfforddiant gorfodol a thrwyddedau ar gyfer plymwyr y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn ac felly nid yw’r costau wedi’u cynnwys.

Fodd bynnag, sylweddolwyd nad oedd ystyriaeth wedi’i rhoi i’r costau i ymgymerwyr dŵr ddiweddaru eu canllawiau i helpu gyda chydymffurfio. Fel gorfodwyr y Rheoliadau, credwn eu bod wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i ddangos cydymffurfiaeth ac rydym wedi tybio, ar sail ein hymgysylltiad â’r sector hyd yma, y gallent fod eisiau diweddaru hyn. Yn y sefyllfa waethaf bosibl, rydym yn disgwyl i hyn gostio £19,400.

10.1 Ffigur 4 Costau amcan i ymgymerwyr dŵr i ddiweddaru eu canllawiau

Disgrifiad o’r newid Tybiaeth(au) ar gyfer y sefyllfa waethaf bosibl Cost y sefyllfa waethaf
Diweddaru canllawiau cwmnïau dŵr 6 chyfarfod sy’n cyfateb i 31 awr ar gyfer pob un o’r 25 cwmni ar gyfradd fesul awr gymedrig o £22.94 (yr un drefn a ddefnyddir i amcangyfrif costau eraill) a 68 awr ar gyfer Water Regs UK. (31 am £22.94 x 25 ynghyd â 68 x £22.94) Amcangyfrif ar gyfer diweddaru = £19,400

11. Amser trawsnewid

Gofynnwyd a fyddai chwe mis yn ddigon o amser pontio i gydymffurfio â manylebau rheoleiddio newydd a rhai wedi’u diweddaru a thaflenni codau prawf. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 13 yn cytuno

  • roedd 17 yn anghytuno

  • nid oedd 11 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno

Roedd rhywfaint o anghytuno ynghylch a oedd 6 mis yn ddigon o amser. O’r rheini a oedd yn anghytuno, awgrymodd 7 ymatebydd bod angen 6 i 18 mis o amser pontio ac awgrymodd 6 bod angen rhwng 18 a 36 mis. Rydym wedi ystyried hyn a byddwn yn caniatáu 12 mis o gyfnod pontio o’r adeg y cyhoeddir y manylebau wedi’u diweddaru cyn iddynt ddod i rym. Nid fydd newid i’r rhan fwyaf o’r gofynion a’r profion presennol ac mae’r gofynion newydd arwyddocaol yn ymwneud â chynyddu cyfleoedd heb effeithio ar y cynnyrch presennol sy’n cydymffurfio. Bydd cyfnod pontio o 12 mis yn sicrhau y gellir mabwysiadu cynhyrchion cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

12. Galwad am dystiolaeth ynghylch toiledau sy’n gollwng

Gofynnom a ddylai’r llywodraeth gymryd camau i leihau effaith toiledau sy’n gollwng. O’r 42 ymateb a gafwyd:

  • roedd 31 yn cytuno y dylid gweithredu

  • roedd 9 yn anghytuno ac yn meddwl nad oedd angen gweithredu

  • nid oedd 2 ohonynt yn cytuno nac yn anghytuno

Mae Defra wedi ystyried yr argymhelliad hwn ac mae eisoes wedi dechrau’r broses o edrych ar ffyrdd o leihau’r gyfradd dadleoli gan gynnwys y materion sy’n ymwneud â mewnlif ac all-lif.

Yna, fe ofynnom i ymatebwyr restru, yn nhrefn pwysigrwydd (gydag 1 yn golygu’r pwysicaf), pob un o’r dulliau canlynol o ran addasrwydd i fynd i’r afael â cholli dŵr o doiledau sy’n gollwng.

12.1 Ffigur 5 Trefn pwysigrwydd o ran addasrwydd dulliau o fynd i’r afael â’r dŵr sy’n cael ei golli o doiledau sy’n gollwng

Pa mor addas yw’r dulliau o fynd i’r afael â thoiledau sy’n gollwng a’u trefn pwysigrwydd
Rheoleiddio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu mathau penodol o ddyluniadau, er enghraifft, adfer gorlif allanol, toiledau siffon fflysh isel neu ddeuol 3.21
Gwahardd defnyddio’r dyluniadau o falfiau toiled sy’n fwyaf tebygol o fethu a gollwng 3.63
Gwahardd defnyddio’r deunyddiau penodol sy’n fwyaf tebygol o fethu a gollwng 3.66
Datblygu safonau a dulliau profi sy’n nodi cyfansoddiad neu ddyluniad y deunyddiau sy’n fwyaf tebygol o fethu yn y fan a’r lle 3.68
Adolygu rheoliadau sy’n cefnogi’r safonau a’r dulliau profi i sicrhau eu bod yn addas i’r diben ar gyfer amgylchedd dŵr y DU 3.79
Trin a mynd i’r afael â risgiau ar gyfer cynhyrchion nad ydynt wedi’u profi 3.84
Datblygu safonau a dulliau profi sy’n gwneud falfiau toiled ac amgylchedd dŵr y DU yn fwy addas i’w diben 3.87
Creu modd, tebyg i achrediad Gas Safle, i ddeall yn hawdd pa mor gymwys yw plymwr i osod gosodiadau a ffitiadau 4.24

Y canlyniad â’r sgôr uchaf (lle mae 1 yw’r sgôr uchaf), gyda sgôr cyfartalog o 3.21, oedd ‘Gwneud rheoliadau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu mathau penodol o ddyluniadau, er enghraifft, adfer pibellau gorlifo allanol, toiledau siffon fflysh isel neu ddeuol’. Roedd hyn yn cyd-fynd â chwestiwn 16.

At ei gilydd, roedd clwstwr tynn o ran ffafriaeth (rhwng 3.21 a 4.24), gan olygu na nodwyd unrhyw ffafriaeth gref o ran sgoriau’n unig. Er enghraifft, roedd y dewis a oedd yn cael ei ffafrio leiaf, sef ‘Creu modd, tebyg i achrediad Gas Safe, i ddeall yn hawdd pa mor gymwys yw plymwr i osod gosodiadau a ffitiadau’ yn 4.24 yn ddeufoddol iawn, gyda’r un sgoriau uchaf ac isaf heb gydberthynas gref â chysylltiad sefydliadol, yn enwedig ymysg cyflenwyr dŵr a oedd wedi’u rhannu rhwng y ddau ddewis.

I ategu’r atebion i’r ymarfer sgorio, gofynnwyd i chi ddarparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth berthnasol. Roedd yr ymatebion yn cwmpasu amrywiaeth enfawr o feysydd gan adlewyrchu ystod eang o brofiadau ein hymatebwyr.

Roedd nifer o glystyrau o bwyntiau tebyg neu gysylltiedig, gan gynnwys:

  • pwysigrwydd gwybodaeth, gan edrych ar agweddau methiant dynol a methiant cynnyrch yn hyn o beth i gefnogi datrysiad. Roedd hyn yn cynnwys deall pa gartrefi yr effeithiwyd arnynt, a chysylltu â gwybodaeth a gasglwyd gan raglenni gollyngiadau o gartrefi y gwahanol gwmnïau dŵr

  • sut mae gwaith cynnal a chadw, calch, ymwybyddiaeth y cartref o waith cynnal a chadw (a’r gallu i ganfod gollyngiadau) a selio a deunyddiau, yn rhyngweithio ac yn effeithio ar ollyngiadau

  • edrych ar arwyddion clir neu reolyddion gweithredu o ran sut mae botymau fflysio deuol yn gweithio,

  • rôl sicrhau safonau gosod a’r ddeinameg rhwng gosodwr cymwys ac archwiliadau a diffyg cydymffurfio

  • pwysigrwydd dylunio (gan gynnwys falfiau mewnfeydd ac allfeydd a maint ac amser llenwi sestonau), gwersi o fannau eraill a’r cysylltiadau rhwng safonau’r UE, y DU neu BSI - cysylltiadau â chasglu gwybodaeth ac adolygu cynnyrch

Roedd yr wybodaeth yn gosod sylfaen gref ar gyfer dadansoddi ansoddol a bydd yn caniatáu i Defra gael sgyrsiau dilynol. 

13. Y camau nesaf

13.1 Atal ôl-lif

Arweiniodd y sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ar ein newidiadau arfaethedig at wneud rhai newidiadau i fanylebau’r rheoleiddwyr a’r taflenni codau prawf. Fe wnaethom roi gwybod i Sefydliad Masnach y Byd (WTO) a’r Undeb Ewropeaidd (UE) am y fersiynau hynny ddechrau 2023.

Pan gyflwynir gofynion a allai greu rhwystr technegol rhag masnachu â gwledydd eraill, mae angen i ni roi gwybod i Sefydliad Masnach y Byd. Yn yr achos hwn, roedd hefyd angen rhoi gwybod i’r Undeb Ewropeaidd gan y gall y newidiadau fod yn berthnasol i gydymffurfio yng Ngogledd Iwerddon ac mae’n ofyniad o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Fe wnaethom gyflwyno hysbysiad 60 diwrnod i Sefydliad Masnach y Byd, a ddaeth i ben ar 16 Ebrill 2023 a hysbysiad 12 wythnos i’r UE drwy’r System Gwybodaeth Rheoliadau Technegol, a ddaeth i ben ar 15 Mai 2023. Ni chawsom unrhyw sylwadau gan unrhyw aelod o Sefydliad Masnach y Byd nac Aelod-wladwriaethau’r UE ar ein dogfennau ôl-ymgynghori diweddaraf.

Er mwyn caniatáu i weithgynhyrchwyr roi eu cynhyrchion toiled ar y farchnad, rhaid iddynt fod â unai marc cydymffurfio UKCA neu CE. Er mwyn cael nod, rhaid i wneuthurwyr ddatgan eu bod yn cydymffurfio â safonau dynodedig BS EN 997:2012 a BS EN 14055:2010 o dan y Rheoliadau Cynhyrchion Adeiladu (CPR) (sy’n eiddo i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol). Felly, rhaid i ofynion manylebau’r rheoleiddiwr a’r taflenni codau prawf, sy’n ychwanegol at ofynion y Rheolau Trefniadaeth Sifil ac sy’n berthnasol ar ôl eu gosod neu bwriadu eu gosod, beidio â gwrthdaro â nodweddion hanfodol y safonau dynodedig hynny. Ni wnaeth adolygiadau ddangos unrhyw wrthdaro.

Bydd angen i’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru gymeradwyo manylebau’r rheoleiddwyr a’r taflenni codau prawf wedi’u diweddaru, yn unol â Rheoliad 12 o’r Rheoliadau. Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo, byddant ar gael ar GOV.UK. Byddant yn dod i rym 12 mis ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi.

13.2 Toiledau sy’n gollwng

Mae Llywodraeth DU wedi ymrwymo i ostwng gollyngiadau o 50% erbyn 2050 fel rhan o’n targed l i leihau defnydd pob person o ddŵr o 20% erbyn 2038 sydd wedi rhwymo mewn cyfraith. Mae Defra’n cydnabod bod lleihau gollyngiadau o doiledau yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o atal gwastraff dŵr.  

Yn dilyn yr alwad am dystiolaeth ar doiledau sy’n gollwng, cynhaliodd Defra drafodaethau cychwynnol gyda rhanddeiliaid fel rhan o’r ‘tasglu toiledau sy’n gollwng’. Rydym hefyd wedi ymrwymo yn ein Papur Gwyn i alluogi cyflwyno mesuryddion clyfar, i gefnogi darganfod dŵr sy’n gollwng, a labelu toiledau gyda sgôr effeithlonrwydd dŵr yn ôl eu cyfaint fflysh. Bydd unrhyw waith yn y maes hwn yn y dyfodol yn cynnwys ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid yn ogystal â gweithio gyda chwmnïau dŵr i ddeall yr arferion gorau o ran canfod a thrwsio gollyngiadau presennol o doiledau.

14. Atodiad 1 - sefydliadau a ymatebodd

  • Affinity Water

  • Anglian Water Service

  • Aquause

  • Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Ystafelloedd Ymolchi

  • Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Deunydd Glanweithiol Cerameg (FSKI)

  • Sefydliad Siartredig Peirianneg Plymio a Gwresogi (CIPHE)

  • Drinking Water Inspectorate for Northern Ireland

  • Dŵr Cymru Cyfyngedig

  • ESP Water

  • Kiwa Watertec

  • Laufen Bathrooms AG

  • Northern Ireland Water

  • Northumbrian Water Ltd

  • Portsmouth Water

  • Pupils 2 Parliament

  • Roca Sanitario SA

  • SES

  • South West Water

  • Southern Water

  • Thames Water

  • The Worshipful Company of Plumbers

  • Thomas Dudley Limited

  • Valsir Spa

  • Water Regs UK Ltd

  • Water Regulations Approval Scheme Ltd (WRAS)

  • Waterwise

  • Worshipful Company of Water Conservators

  • Yorkshire Water