Closed consultation

Privacy notice (Welsh)

Updated 20 September 2022

Caiff unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ymateb i’r alwad am wybodaeth eu prosesu gan y Swyddfa Gartref yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UE) 2016/679, ac yn unol â hysbysiadau preifatrwydd diogelu data y Swyddfa Gartref. Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref yw rheolwr y wybodaeth hon.

Data rydym yn eu casglu

Rydym wedi gofyn i ymatebwyr ddarparu’r wybodaeth ganlynol at ddibenion yr alwad am wybodaeth:

  • ym mha rinwedd y maent yn ymateb i’r alwad am wybodaeth (unigolyn, academydd, cynrychiolydd diwydiant, cynrychiolydd elusen, arall)

Rydym wedi gofyn i’r ymatebwyr osgoi darparu data personol. Os bydd rhywun yn ymateb i’r arolwg ar-lein, fodd bynnag, o ganlyniad byddwn yn casglu eu cyfeiriad IP. Os bydd rhywun yn ymateb drwy e-bost, byddwn wedi casglu eu cyfeiriad e-bost. Mae hefyd yn debygol, os bydd rhywun yn ymateb drwy e-bost, y byddwn wedi casglu eu henw ac, os yn ymateb ar ran sefydliad neu elusen, manylion y sefydliad neu’r elusen y maent yn ei gynrychioli; neu os yn ymateb fel academydd, y sefydliad(au) y maent yn gysylltiedig â nhw. Rydym wedi darparu’r opsiwn i gyflwyno ymatebion ysgrifenedig drwy’r post. Rydym wedi nodi y caiff ymatebion ysgrifenedig eu dinistrio ar ôl iddynt gael eu sganio i greu copi digidol. Os bydd pobl yn ymateb drwy’r post, mae’n bosib ein bod wedi casglu eu henw, cyfeiriad personol neu sefydliadol, a manylion y sefydliad neu elusen y maent yn gysylltiedig â nhw.

Rydym wedi gwahodd ymatebwyr o sefydliadau neu academyddion i rannu unrhyw ymchwil perthnasol. Os byddant yn gwneud hynny, mae’n bosib ein bod wedi casglu eu henw, cyfeiriad personol neu sefydliadol, a manylion y sefydliad y maent yn gysylltiedig ag ef.

Yn unigol neu ar y cyd, gall hyn ac unrhyw wybodaeth arall a ddarperir yn yr alwad am wybodaeth alluogi ymatebwr i gael eu hadnabod.

Ni fyddwn yn cadw unrhyw ddata personol a gesglir yn hirach na sy’n angenrheidiol at y diben y maent yn cael eu prosesu ar ei gyfer. Cedwir eich data personol cyhyd ag sy’n angenrheidiol at ddiben yr alwad am wybodaeth ac unrhyw benderfyniadau polisi cysylltiedig, ac yn unol â pholisi cadw data y Swyddfa Gartref. Mae’r polisi hwn yn nodi y caiff dogfennaeth ymgynghoriadau eu dinistrio ar ôl pum mlynedd.

Sut a pham mae’r Swyddfa Gartref yn defnyddio eich gwybodaeth

Pwrpas yr alwad am wybodaeth yw casglu barn a fydd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad polisi yn y dyfodol.

Yn ystod yr alwad am wybodaeth ac ymgysylltu pellach sy’n gysylltiedig â’r datblygiad polisi hwn, bydd y Swyddfa Gartref yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid allanol ac unigolion. Mae’r Swyddfa Gartref yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol, gan gynnwys yn ystod yr alwad hon am wybodaeth, i’w galluogi i gyflawni ei swyddogaethau statudol a swyddogaethau eraill. Caiff y Swyddfa Gartref brosesu eich data dim ond lle mae sail gyfreithlon i wneud hynny. Yn yr achos hwn, gall y Swyddfa Gartref, fel adran o’r llywodraeth, brosesu data personol at ddiben tasg gyhoeddus h.y. yr alwad am wybodaeth. Rydym o’r farn bod y prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cynnal y dasg hon, a wneir er budd y cyhoedd.

Bydd y data personol a gesglir yn cynorthwyo i ddeall barn yr ymatebwyr ac i weld a oes gwahaniaethau sylweddol rhwng mathau o ymatebwyr, ac i gynorthwyo datblygiad polisi yn y dyfodol. Efallai y byddwn yn arddangos canfyddiadau drwy ddyfyniadau a ddarperir i’r alwad am wybodaeth. Byddwn yn sicrhau bod y rhain yn ddienw, ac nad ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai adnabod unigolion.

Efallai y byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad lefel uchel, gan gynnwys dadansoddiadau o’r data a gasglwn, a’r sefydliadau sydd wedi ymateb, ond nid unigolion, yn ymateb y llywodraeth i’r alwad hon am wybodaeth. Bydd hyn yn ein helpu ni a’r rhai sy’n darllen ymateb y llywodraeth i ddeall sut mae barn yn wahanol ar draws gwahanol grwpiau.

Sut byddwn yn prosesu eich data personol

Ni fyddwn yn cyhoeddi cyfeiriadau IP neu e-bost, nac unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn anfwriadol yn yr ymatebion. Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu’ch gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data a Siarter Gwybodaeth Bersonol y Swyddfa Gartref.

At ddibenion yr alwad hon am wybodaeth, ni fydd y Swyddfa Gartref yn rhannu’ch gwybodaeth â sefydliadau eraill, ar wahân i’r rhai sy’n prosesu data personol ar ei rhan. Pan gynhelir gwaith prosesu o’r fath y tu allan i’r AEE, rydym wedi cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i sicrhau na fydd eich hawliau mewn perthynas â diogelu data yn cael eu peryglu gan hyn.

Ni chaiff eich data personol eu defnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am sut mae’r Swyddfa Gartref yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol yn https://www.gov.uk/government/organisations/home-office/about/personal-information-charter.

Storio eich gwybodaeth

Caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw ar system TG ddiogel y llywodraeth cyhyd ag sy’n angenrheidiol at y diben y mae’n cael ei phrosesu, ac yn unol â pholisi cadw adrannol, sy’n nodi y caiff dogfennau ymgynghori eu dinistrio ar ôl pum mlynedd. Mae rhagor o fanylion y polisi hwn ar gael yn https://www.gov.uk/government/organisations/home-office/about/personal-information-charter

Eich hawliau mewn perthynas â’ch eich data personol

Yn unol ag Erthygl 15-22 GDPR, mae gennych hawl mynediad at ddata gan y testun i’ch data personol; yr hawl i unioni, dileu, cyfyngu ar brosesu, gwrthwynebiad i brosesu, yn ogystal â’r hawl i gluadadwyedd data. Mae rhagor o fanylion yn Siarter Gwybodaeth Bersonol y Swyddfa Gartref.

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data (DPO) y Swyddfa Gartref os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynghylch sut rydym yn prosesu eich data personol.

Adrodd am bryder

Cwestiynau neu bryderon ynghylch data personol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch casglu, defnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â DPO y Swyddfa Gartref.

E-bostiwch: dpo@homeoffice.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Swyddfa DPO y Swyddfa Gartref
Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

Byddwn yn prosesu eich data personol yn gyfreithlon mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data. Os ydych yn teimlo bod eich data yn cael eu prosesu’n groes i’r ddeddfwriaeth diogelu data, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd uchod, neu gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaerlleon
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113.

Gallwch hefyd fynd i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.