Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS): Ymgynghoriad ar Drin Tanwydd Hedfan Cynaliadwy (SAF)
Published 23 March 2026
Crynodeb gweithredol
Daeth Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (ETS) i rym ar 1 Ionawr 2021 yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (UE) a diwedd cyfranogiad y DU yn System Masnachu Allyriadau’r UE (ETS yr UE). Mae’r cynllun yn rhan allweddol o’n dull o fynd i’r afael â newid hinsawdd, gan osod terfyn ar allyriadau o’r sectorau dan sylw a sicrhau cymhwyso pris priodol iddynt. Mae’r cynllun yn cael ei redeg ar y cyd gan Awdurdod ETS y DU (‘yr Awdurdod’ o hyn ymlaen) sy’n cynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.
Mae tanwydd hedfan cynaliadwy (SAF) yn un o’r technolegau allweddol a fydd yn helpu’r sector hedfan i chwarae ei ran wrth gyflawni sero net. Mae SAF yn ddewis amgen cynaliadwy i danwydd hedfan traddodiadol, cerosin ffosil. Er bod SAF yn cynhyrchu cyfeintiau tebyg o garbon deuocsid (CO2) â cherosin ffosil pan gaiff ei losgi, mae’n gwneud arbedion sylweddol o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy gydol ei gylch bywyd (mae ganddo’r potensial i gyflawni dros 70% o ostyngiadau mewn allyriadau o’i gymharu â cherosin ffosil). Ar hyn o bryd gall gweithredwyr cerbydau awyr hawlio gostyngiadau mewn allyriadau o SAF cymwys ac felly lleihau eu rhwymedigaethau ildio o dan ETS y DU.
Ym mis Mawrth 2022, ymgynghorodd yr Awdurdod ar ddatblygu ETS y DU, gan gynnwys Galwad am Dystiolaeth yn ceisio safbwyntiau ar sut y gallai’r Mandad SAF [footnote 1] ac ETS y DU ryngweithio. [footnote 2] Ymrwymodd yr Awdurdod yn yr ymateb dilynol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023, i barhau i ddatblygu cynigion ar sut y dylai ETS y DU drin hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF gan weithredwyr cerbydau awyr. [footnote 3] Mae’r ymgynghoriad pellach hwn yn amlinellu’r cynigion hyn ac yn ceisio safbwyntiau ar y rhain yng nghyd-destun cyflwyno’r Mandad SAF.
Cyhoeddwyd yn Uwchgynhadledd y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar 19 Mai 2025 bod y DU a’r UE wedi cytuno i weithio tuag at gysylltu ETS y DU ac ETS yr UE fel y nodir mewn Dealltwriaeth Gyffredin. [footnote 4] Mae yna lawer o fanteision i gynllun cysylltiedig, gan gynnwys creu a chyrchu marchnad carbon fwy o faint, dyfnach a mwy hylifol a fyddai’n rhoi mwy o sicrwydd i fusnesau ac yn cefnogi buddsoddiad. Disgwylir hefyd y byddai cysylltu’r ETS yn gwneud marchnadoedd ynni’r DU a’r UE yn fwy effeithlon ac effeithiol, gan leihau costau yn y tymor hwy. Yn gyffredinol, byddai cysylltu ETS y DU ac ETS yr UE yn golygu llwybr mwy cost-effeithiol at sero net.
Mae’r cynigion yn y ddogfen hon yn nodi newidiadau posibl yn y dyfodol i bolisi SAF ar gyfer ETS y DU. Bydd angen i’r Awdurdod ystyried unrhyw oblygiadau cysylltu’r ETS ar ôl i’r trafodaethau ddod i ben.
Dim ond i gwestiynau sy’n eu diddori neu y mae ganddynt farn arnynt sydd angen i ymatebwyr ymateb. Nid oes unrhyw ofyniad na disgwyliad i ymateb i bob cwestiwn yn yr ymgynghoriad hwn.
Gwybodaeth gyffredinol
Pam rydym ni’n ymgynghori
Ym mis Mehefin 2023, gwnaeth Awdurdod ETS y DU ymrwymiad i ddatblygu, ac wedyn ymgynghori ar, gynigion ynghylch hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF gan weithredwyr cerbydau awyr o dan ETS y DU.
Felly, mae’r Awdurdod yn ceisio safbwyntiau ar opsiynau ar gyfer trin SAF yn y dyfodol yn ETS y DU. Rydym am sicrhau bod SAF yn cael ei gyfrif amdano yn briodol yn ETS y DU, gan ystyried y cysylltiadau â Mandad SAF Llywodraeth y DU a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2025. Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd yn ystyried newidiadau gweithredol posib i’r ffordd y mae defnydd SAF o dan ETS y DU yn cael ei reoleiddio.
Manylion yr ymgynghoriad
Cyhoeddwyd: 23 Mawrth 2026
Ymateb erbyn: 15 Mehefin 2026
Ymholiadau i:
Emissions Trading Team
Department for Energy Security and Net Zero
Third Floor
3 Whitehall Place
London
SW1A 2EG
Ebost: ukets.consultationresponses@energysecurity.gov.uk
Cyfeirnod yr ymgynghoriad: Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (ETS): Trin Tanwydd Hedfan Cynaliadwy (SAF).
Cynulleidfaoedd: Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i gwmnïau unigol a chynrychiolwyr gweithredwyr cerbydau awyr, cyflenwyr tanwydd ac ynni, grwpiau amgylcheddol a diwydiannau sy’n ymwneud â gweithgareddau troi gwastraff yn danwydd. Nid yw’r ymgynghoriad wedi’i gyfyngu i’r rhanddeiliaid hyn; mae croeso i unrhyw sefydliad neu unigolyn ymateb.
Ehangder tiriogaethol:
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chynigion i ddatblygu ETS y DU, sy’n gweithredu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Mae hwn yn ymgynghoriad ar y cyd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.
Sut i ymateb
Ymatebwch ar-lein ar: energygovuk.citizenspace.com/energy-markets/uk-ets-treatment-of-sustainable-aviation-fuel
neu
E-bostiwch: ukets.consultationresponses@energysecurity.gov.uk
Ysgrifennwch at:
Emissions Trading
Department for Energy Security and Net Zero
3rd Floor
3 Whitehall Place
London
SW1A 2EG
Wrth ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu’n cynrychioli barn sefydliad.
Bydd eich ymateb yn fwyaf defnyddiol os yw’n cael ei fframio mewn ymateb uniongyrchol i’r cwestiynau a ofynnir, er bod croeso i sylwadau a thystiolaeth bellach hefyd.
Cyfrinachedd a diogelu data
Gall yr wybodaeth a roddir gennych mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei datgelu yn unol â deddfwriaeth y DU (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Os ydych am i’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi gael ei thrin yn gyfrinachol, dywedwch wrthym, ond byddwch yn ymwybodol na allwn warantu cyfrinachedd ym mhob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG yn cael ei ystyried gennym yn gais am gyfrinachedd.
Byddwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r holl ddeddfau diogelu data perthnasol. Gweler ein polisi preifatrwydd.
Byddwn yn crynhoi’r holl ymatebion ac yn cyhoeddi’r crynodeb hwn ar GOV.UK. Bydd y crynodeb yn cynnwys rhestr o enwau neu sefydliadau a ymatebodd, ond nid enwau personol, cyfeiriadau na manylion cyswllt eraill.
Sicrhau ansawdd
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori’r llywodraeth.
Os oes gennych unrhyw gwynion am y ffordd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn, anfonwch e-bost at: bru@energysecurity.gov.uk.
Cyflwyniad
Datgarboneiddio hedfan, tanwydd hedfan cynaliadwy ac ETS y DU
Mae hedfan yn darparu cysylltedd domestig a rhyngwladol hanfodol ac mae’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi masnach a buddsoddiad. Mae hedfan yn sector arbennig o anodd i’w ddatgarboneiddio, yn rhannol oherwydd heriau technoleg, cylchoedd arloesi a chynnyrch hir a’i fyd-eang natur gynhenid.
Wrth i sectorau eraill ddatgarboneiddio, bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr o hedfan yn cynrychioli cyfran gynyddol o gyfanswm allyriadau’r DU. Felly, mae yna angen brys i hyrwyddo’r dulliau sydd ar gael i ddatgarboneiddio’r sector.
Mae prisio carbon yn cymell datgarboneiddio trwy roi cost ar allyriadau. Ochr yn ochr â’i rôl bwysig wrth helpu i gyflawni targedau hinsawdd uchelgeisiol pedair gwlad y DU, bydd ETS y DU yn parhau i fod yn lifer hanfodol ar gyfer datgarboneiddio sector hedfan y DU. Yn 2024, roedd allyriadau hedfan a gwmpaswyd gan ETS y DU yn cyfateb i oddeutu 9.0 miliwn tunnell o CO2 (MtCO2e).
Mae SAF yn un o’r technolegau allweddol a fydd yn helpu’r sector hedfan i ddatgarboneiddio. Mae SAF yn ddewis amgen cynaliadwy i danwydd hedfan traddodiadol, cerosin ffosil. Er ei fod yn cynhyrchu cyfeintiau tebyg o CO2 i cerosin ffosil pan gaiff ei losgi, mae’n gwneud arbedion sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy gydol ei gylch oes. Mae ganddo’r potensial i gyflawni gostyngiadau allyriadau dros 70% o’i gymharu â cherosin ffosil. Yn wahanol i danwydd jet confensiynol sy’n cymryd adnoddau ffosil allan o’r ddaear ac yn rhyddhau carbon oedd wedi’i storio i’r atmosffer, mae SAF yn defnyddio CO2 sy’n rhan o’r cylch carbon a fyddai fel arall wedi cael ei allyrru i’r atmosffer neu sy’n cael ei gymryd yn uniongyrchol o’r atmosffer. Bydd ffactorau fel y math o borthiant y mae’r SAF yn cael ei wneud ohono, y broses gynhyrchu a sut mae’r tanwydd yn cael ei gludo i gyd yn effeithio ar arbedion allyriadau cylch oes SAF.
Ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif o’r SAF sydd ar gael yn fiodanwyddau a elwir yn esterau ac asidau brasterog wedi’u hydrobrosesu (HEFA) a gellir eu gwneud trwy fireinio olewau llysiau, olewau gwastraff (fel olew coginio sydd wedi’i ddefnyddio), neu frasterau, trwy broses o ddadocsigeneiddio a hydrobrosesu. Mae SAF newydd yn cael ei ddatblygu ac mae’n cynnwys mathau eraill o fiodanwyddau, tanwydd carbon wedi’i ailgylchu (RCF) a thanwyddau pŵer-i-hylif (PtL).
Mae RCFs yn darparu arbedion carbon lle mae’n fwy effeithlon prosesu porthiant, fel gwastraff trefol solet a nwyon gwastraff diwydiannol, yn danwydd, yn hytrach na’u gwaredu neu eu trin trwy ddulliau confensiynol fel ynni o wastraff. Mae PtL yn cael ei ddatblygu trwy broses lle defnyddir ynni adnewyddadwy neu niwclear i greu hydrogen, sydd wedyn yn cael ei gyfuno â charbon deuocsid a ddaliwyd i syntheseiddio tanwydd hylifol.
Yn ogystal â’r arbedion allyriadau cylch oes, mae manteision eraill i SAF. Mae’n danwydd amgen (‘drop-in’) y gellir ei gymysgu’n ddiogel â cherosin ffosil. Gellir hefyd ei ddefnyddio yn y seilwaith presennol heb yr angen i ôl-ffitio neu brynu cerbydau awyr newydd. Mae datblygu technoleg ar gyfer hedfan di-allyriadau, trwy ddefnyddio gyriant hydrogen a cherbydau awyr trydan batri, yn hanfodol i ddatgarboneiddio’r sector yn llwyr. Fodd bynnag, mae mewn cam cynharach o gael ei ddatblygu a’i ddefnyddio na chynhyrchu SAF.
Gallai SAF hefyd leihau effeithiau hedfan ar yr hinsawdd nad ydynt yn rhai CO2. Ym mis Tachwedd 2023, hedfanodd Virgin Atlantic hediad trawsatlantig o Lundain i Efrog Newydd gan ddefnyddio 100% SAF, mewn partneriaeth ag Adran Drafnidiaeth y DU (DfT) ac eraill. Arweiniodd hyn at ostyngiad o 40% mewn allyriadau mater gronynnol o’i gymharu â hediad llawn cerosin, y credir eu bod yn chwarae rhan bwysig wrth ffurfio llwybrau neu olion anwedd. [footnote 5]
Fodd bynnag, mae ansicrwydd gwyddonol sylweddol yn parhau i fodoli ynglŷn ag effeithiau hedfan nad ydynt yn rhai CO2 ac felly, yn 2023, lansiodd Llywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a’r Sefydliad Technoleg Awyrofod raglen aml-flwyddyn Ymchwil a Datblygu Effeithiau nad ydynt yn CO2 i ddeall yn well effeithiau hedfan nad ydynt yn rhai CO2 ac i nodi a datblygu opsiynau lliniaru posib. Mae’r rhaglen Ymchwil a Datblygu yn cefnogi prosiectau a arweinir gan y diwydiant ac academyddion, ac mae 13 o brosiectau bellach wedi derbyn cyllid gwerth bron i £20 miliwn, ac mae rhai ohonynt yn archwilio effeithiau SAF nad ydynt yn rhai CO2. Bydd galwadau pellach am brosiectau dros oes y rhaglen a bydd yr Awdurdod yn ystyried unrhyw ganfyddiadau perthnasol i lywio datblygiad polisi yn y dyfodol.
Mae’r angen i ddatgarboneiddio hedfan wedi cael ei gydnabod yn fyd-eang, ac mae’r DU yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu rhyngwladol i fynd i’r afael ag allyriadau o hedfan. Yn 2016, yn 39ain Cynulliad y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO), cytunodd aelod-wladwriaethau i weithredu’r Cynllun Gwrthbwyso a Lleihau Carbon ar gyfer Hedfan Rhyngwladol (CORSIA) - y cynllun byd-eang cyntaf o’i fath i fynd i’r afael ag allyriadau CO2 mewn unrhyw sector unigol. O dan CORSIA, gall gweithredwyr awyrennau hawlio gostyngiadau mewn allyriadau o Danwyddau Cymwys CORSIA (CEF), gan gynnwys SAF, ac felly lleihau eu gofynion gwrthbwyso, gan adlewyrchu pwysigrwydd SAF yn y broses o ddatgarboneiddio hedfan yn fyd-eang. Yn 41ain Cynulliad yr ICAO yn 2022, cytunwyd ar nod uchelgeisiol byd-eang o gyrraedd allyriadau CO2 sero net ar gyfer hedfan rhyngwladol erbyn 2050. Yn 42ain Cynulliad yr ICAO yn 2025, cadarnhaodd y Cynulliad weledigaeth ar y cyd i leihau allyriadau CO2 mewn hedfan rhyngwladol 5% erbyn 2030, fel rhan o fframwaith cynhwysfawr i gynyddu cynhyrchu a defnyddio tanwydd hedfan glanach. Croesawyd hefyd fabwysiadu safonau newydd uchelgeisiol ar effeithlonrwydd CO2 awyrennau.
Yn ddomestig, mae Llywodraeth y DU yn cymryd sawl cam i gefnogi defnydd o SAF yn y DU, gan gynnwys cyflwyno Mandad SAF y DU. Daeth y Mandad i rym ar 1 Ionawr 2025 a dyma fecanwaith polisi allweddol y DU i sicrhau galw am SAF. Mae’n gosod rhwymedigaeth ar gyflenwyr tanwydd awyrennau yn y DU i ddarparu swm cynyddol o SAF yn flynyddol o fewn cymysgedd tanwydd awyrennau cyffredinol y DU. Ymhelaethir ar fanylion y Mandad SAF yn ddiweddarach yn y ddogfen hon.
Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn gosod deddfwriaeth i gyflwyno mecanwaith sicrwydd refeniw (RCM). Bydd y Bil Hedfan Cynaliadwy yn cefnogi cynhyrchu SAF yn y DU trwy ddarparu sicrwydd refeniw i annog buddsoddiad mewn adeiladu safleoedd SAF ledled y DU. Ar ôl ymgynghori, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r mecanwaith sicrwydd prisiau. Mae’r mecanwaith hwn yn gweithio mewn ffordd debyg i’r contractau ar gyfer gwahanol gynlluniau mewn sectorau ynni carbon isel ac adnewyddadwy eraill. Bydd hyn yn helpu i fwrw ymlaen â’n cenhadaeth i roi hwb i dwf economaidd a gwneud Prydain yn un o bwerau mawr y byd mewn ynni glân.
Gall gweithredwyr cerbydau awyr eisoes hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF cymwys ac felly lleihau eu rhwymedigaethau ildio ETS y DU yn unol ag erthygl 4(2A) o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 (Gorchymyn ETS y DU). [footnote 6] Ar hyn o bryd rhaid i SAF cymwys fod yn SAF biogenig sy’n bodloni neu’n rhagori ar y meini prawf cynaliadwyedd a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhwymedigaethau Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy (RTFO) 2007 [footnote 7] ac ystyrir bod ganddo ffactor allyriadau o sero (â sgôr sero, sy’n golygu bod y tanwydd yn cael ei drin fel pe na bai’n allyrru allyriadau nwyon tŷ gwydr o gwbl) os bodlonir yr holl ofynion ar gyfer gwneud hawliad.
Yr ymgynghoriad hwn
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd safbwyntiau ar sut y gellir gwella sut y caiff SAF ei drin o dan ETS y DU yng nghyd-destun cyflwyno’r Mandad SAF.
Bydd yr ymgynghoriad yn archwilio ac yn gofyn cwestiynau sy’n ymwneud â’r canlyol:
- A ddylai’r Awdurdod ehangu’r mathau o SAF sy’n gymwys ar gyfer hawliad lleihau allyriadau o dan ETS y DU y tu hwnt i fiodanwyddau.
- A ddylai’r Awdurdod gysoni cymhwysedd SAF o dan ETS y DU â meini prawf cynaliadwyedd y Mandad SAF.
- A ddylai’r Awdurdod gynnal y trothwy arbed allyriadau presennol ar gyfer SAF cymwys o dan ETS y DU neu gyd-fynd â throthwy’r Mandad SAF.
- Sut y dylai ETS y DU gydnabod a chyfrif am SAF: parhau â sgôr sero; cydnabod SAF yn gymesur â’i arbedion allyriadau; neu ei drin yn yr un modd â cherosin ffosil a pheidio â chydnabod ei ddefnydd.
- Newidiadau gweithredol a chyfreithiol posib eraill i bolisi a deddfwriaeth bresennol UK ETS.
Ymgynghoriad
Cefndir Polisi SAF y DU
Y Rhwymedigaeth Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy (RTFO)
Dechreuodd yr RTFO ar 15 Ebrill 2008 ac mae’n un o brif bolisïau’r DU ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o gludiant. Mae’r RTFO yn cyflawni arbedion allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy annog cyflenwi tanwydd adnewyddadwy i’w defnyddio mewn trafnidiaeth yn y DU. Mae’n cael ei weinyddu gan yr Uned Cyflawni Tanwyddau Carbon Isel (LCF) yn Adran Drafnidiaeth y DU (DfT).
O dan yr RTFO, rhaid i gyflenwyr tanwydd cludiant perthnasol yn y DU fodloni rhwymedigaeth flynyddol i gyflenwi swm penodol o danwydd adnewyddadwy cynaliadwy. Caiff tystysgrifau masnachadwy eu rhoi ar gyfer cyflenwi tanwydd cymwys y gellir eu defnyddio i fodloni rhwymedigaeth y cyflenwr neu eu gwerthu i gyflenwyr eraill nad ydynt wedi bodloni eu rhwymedigaeth.
Rhaid i danwyddau cymwys fodloni neu ragori ar drothwy arbedion allyriadau cylch oes nwyon tŷ gwydr o 65% yn erbyn cymharydd o 94gCO2/MJ. Caiff hyn ei ostwng i 55% ar gyfer safleoedd cynhyrchu hŷn [footnote 8], a gall tanwyddau cymwys fod yn fiodanwyddau, tanwyddau adnewyddadwy o darddiad anfiolegol (RFNBOs) a thanwyddau carbon wedi’u hailgylchu (RCFs).
Roedd y cynllun yn cefnogi’r cyflenwad o SAF tan fis Ionawr 2025 pan ddechreuodd y Mandad SAF. Ers hynny, ni all cyflenwyr tanwydd hawlio am gymorth ar gyfer SAF ar ffurf tystysgrifau gan yr RTFO, o ystyried bod SAF bellach yn cael ei gefnogi gan gynllun Mandad SAF. Mae’r RTFO yn parhau i fod yn berthnasol i fathau eraill o danwydd cludiant.
Ar hyn o bryd rhaid i SAF sy’n gymwys ar gyfer hawliadau am ostyngiadau mewn allyriadau o dan ETS y DU fod yn SAF biogenig sy’n bodloni neu’n rhagori ar y meini prawf cynaliadwyedd a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn RTFO 2007 ac sy’n cael sgôr sero os bodlonir yr holl ofynion ar gyfer gwneud hawliad.
Mandad SAF y DU
Mandad SAF y DU yw mecanwaith polisi allweddol y DU i sicrhau galw am SAF. Mae’n cyflawni arbedion allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy ofyn am gynnydd yn y cyflenwad SAF yn y diwydiant hedfan. Mae’r Mandad yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflenwyr tanwydd yn y DU i gyflenwi cyfran gynyddol o SAF dros amser, gyda’r cyflenwyr yn derbyn tystysgrifau ar gyfer y SAF mae nhw’n ei gyflenwi. Mae nifer y tystysgrifau mae nhw’n eu derbyn yn cael ei gyfrifo yn gymesur â’r gostyngiadau allyriadau nwyon tŷ gwydr mae’r tanwydd yn eu cyflawni o’i gymharu â cherosin ffosil h.y. po fwyaf yw’r arbedion allyriadau cylch oes, y mwyaf yw nifer y tystysgrifau y mae cyflenwyr yn eu derbyn. Mae tystysgrifau yn cael eu defnyddio gan gyflenwyr tanwydd i ddangos cydymffurfiaeth â Gweinyddwr Mandad SAF (yr Uned Cyflawni LCF) yn yr Adran Drafnidiaeth.
Mae gan y Mandad SAF ddau rwymedigaeth - y ‘prif rwymedigaeth’ a ‘rhwymedigaeth pŵer-i-hylif (PtL)’. Mae’r prif rwymedigaeth ar gyfer 2026 wedi’i osod ar 3.6% o gyfanswm y tanwydd jet a gyflenwir. Bydd cyfanswm y rhwymedigaeth yn cynyddu bob blwyddyn i gyrraedd 10% yn 2030 a 22% yn 2040. Mae’r rhwymedigaeth PtL wedi’i gynllunio i gyflymu datblygiad tanwyddau PtL, nad ydynt yn destun yr un cyfyngiadau porthiant â mathau eraill o SAF, ac sydd â risgiau is o effeithiau amgylcheddol negyddol na llwybrau SAF eraill. Bydd y rhwymedigaeth PtL yn cael ei gyflwyno o 2028 ar 0.2% o gyfanswm y galw am danwydd jet a bydd yn cyrraedd 3.5% o gyfanswm y galw am danwydd jet yn 2040. Mae angen i gyflenwyr tanwydd gydymffurfio â’r ddau rwymedigaeth.
Er mwyn sicrhau bod lle yn cael ei adael i’r tanwyddau mwy datblygedig ddatblygu, mae’r Mandad SAF yn cyfyngu ar faint o HEFA y gellir eu defnyddio i fodloni’r prif rwymedigaeth. Gall HEFA gyfrannu uchafswm (100%) o darged Mandad SAF y DU yn 2026, gan ostwng i 71% yn 2030 a 35% yn 2040.
Er mwyn derbyn tystysgrifau ar gyfer SAF y maent wedi’u cyflenwi, rhaid i gyflenwyr tanwydd wneud cais i’r Uned Cyflawni LCF, gan ddarparu tystiolaeth bod y tanwydd yn gymwys ac yn bodloni’r meini prawf cynaliadwyedd a ddarperir ar eu cyfer yn yr Atodlen i Orchymyn Rhwymedigaethau Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy (Tanwydd Hedfan Cynaliadwy) 2024 (Gorchymyn Mandad SAF). Mae’r meini prawf hyn yn berthnasol i bob SAF, p’un a ydynt yn cael eu cynhyrchu yn y DU neu wedi’u mewnforio. Rhaid i SAF gael ei wneud o wastraff neu weddillion cynaliadwy, na ellir eu hailgylchu (h.y. biodanwydd neu RCFs), neu danwydd PtL a wneir gan ddefnyddio trydan carbon isel (adnewyddadwy neu niwclear) Nid yw SAF a gynhyrchir o fwyd, bwyd anifeiliaid neu gnydau ynni yn gymwys ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd Galwad am Dystiolaeth (CfE) [footnote 9] yn 2025 i ofyn am adborth ar gymhwysedd cnydau yn y Mandad SAF. Bwriad y CfE yw llywio meysydd fel argaeledd porthiant, datblygu diwydiannol, cynaliadwyedd a rheoleiddio. Byddai unrhyw newidiadau yn y dyfodol i borthiant cymwys o dan y Mandad SAF yn destun ymgynghoriad.
Ar gyfer y Mandad, rhaid i SAF gyflawni gostyngiad o 40% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr cylch oes o leiaf o’i gymharu â chymharydd tanwydd ffosil o 89gCO2e/MJ. Mae’r trothwy hwn, sy’n wahanol i drothwy 65% yr RTFO, wedi’i osod gyda’r bwriad o hyrwyddo amrywiaeth o borthiant SAF a thechnolegau trosi ym marchnad y DU ac i gynyddu’r opsiynau lleihau carbon sydd ar gael i gyflenwyr tanwydd i fodloni eu rhwymedigaethau i’r Mandad SAF. Rhagwelir y bydd dwysedd carbon SAF yn gostwng dros amser mewn rhai achosion trwy ddatgarboneiddio’r grid trydan a’r cadwyni cyflenwi, yn ogystal ag optimeiddio prosesau cynhyrchu a mabwysiadu dal, defnyddio a storio carbon (CCUS) i leihau allyriadau rhai o’r llwybrau SAF. Mae’r cymharydd tanwydd ffosil a ddefnyddir yn Gorchymyn Mandad SAF o 89gCO2e/MJ hefyd yn wahanol i’r un a ddefnyddir yn y Gorchymyn RTFO gan ei fod yn adlewyrchu’n fwy cywir allyriadau sylfaenol y cerosin ffosil hedfan. [footnote 10]
Er mwyn dangos cydymffurfiaeth â’u rhwymedigaethau o dan y Mandad SAF, gall cyflenwyr tanwydd naill ai ddefnyddio tystysgrifau neu dalu pris os na allant fodloni eu rhwymedigaethau (pris prynu-allan). Mae’r gallu i gyfnewid tystysgrifau gyda phartïon eraill yn cynnig hyblygrwydd i’r cyflenwyr hynny nad ydynt fel arall yn gallu bodloni eu rhwymedigaethau ac yn gweithredu fel cymhelliant ychwanegol i gyflenwyr sy’n gallu bodloni eu rhwymedigaethau gan y gellir gwerthu tystysgrifau dros ben. Bydd pris y tystysgrifau hyn yn cael ei osod gan y farchnad. Mae pris prynu-allan Mandad SAF yn gweithredu fel uchafswm cost ar gyfer SAF y litr a’i fwriad yw rhoi cymhelliant digon uchel i gyflenwi SAF i farchnad y DU dros ddefnyddio’r opsiwn prynu-allan.
Mae’r ffordd y cyflawnir gostyngiadau mewn allyriadau cylch oes SAF yn amrywio yn ôl y math o borthiant. Pan ddefnyddir biomas i gynhyrchu biodanwydd, tybir bod carbon a amsugnir o’r atmosffer yn ystod cylch oes y biomas yn hafal i’r hyn a allyrrir wrth losgi tanwydd. Mae hyn yn cyflawni arbedion allyriadau o’i gymharu â thanwydd ffosil sy’n rhyddhau carbon i’r atmosffer yn barhaol a fyddai fel arall yn cael ei gloi yn y ddaear.
Pan ddefnyddir gwastraff ffosil, megis y gyfran ffosil o wastraff solet trefol gweddilliol neu nwyon gwastraff diwydiannol, i gynhyrchu RCFs, cyflawnir arbedion carbon pan fo’n fwy effeithlon prosesu’r rhain yn danwydd na’u gwaredu neu eu trin trwy ddulliau confensiynol fel ynni o wastraff.
Pan fo hydrogen yn cael ei gyfuno â CO2 gan ddefnyddio pŵer carbon isel (adnewyddadwy neu niwclear) i gynhyrchu tanwydd PtL, cyflawnir arbedion allyriadau trwy ddefnyddio carbon a fyddai fel arall yn cael ei allyrru i’r atmosffer, neu sydd eisoes ynddo.
Mae’r Mandad SAF yn un o nifer o gamau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU i gefnogi defnydd SAF yn y DU. Ym mis Ionawr 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar fecanwaith sicrwydd refeniw SAF, gan ofyn am farn gan y diwydiant ar Benawdau’r Telerau dangosol a dull dyrannu ar gyfer y rownd gyntaf o gontractau. Mae hyn yn ychwanegol at ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025 ar ddyluniad manwl ardoll newidiol ar gyflenwyr tanwydd hedfan i ariannu’r cynllun. [footnote 11] Bydd mecanwaith sicrwydd refeniw yn helpu i ddad-risgio prosiectau SAF yn y DU trwy fynd i’r afael â rhwystrau i fuddsoddi mewn marchnad sy’n defnyddio technolegau arloesol. Bydd mecanwaith o’r fath yn helpu i ddarparu mwy o sicrwydd o refeniw yn y dyfodol ac yn denu buddsoddiad mewn safleoedd SAF ar raddfa fasnachol yn y DU.
Mae’r Gronfa Tanwyddau Uwch (AFF) wedi dyrannu dros £198m i gefnogi’r safleoedd cynhyrchu SAF cyntaf o’u math drwy biblinell y prosiect i gyrraedd y cam parod-i-fudsoddi a chyflawni graddfa fasnachol. Cyhoeddwyd enillwyr trydydd cyfnod y gystadleuaeth ar 22 Gorffennaf 2025, gyda 17 o brosiectau yn cael cyfran o £63m dros y flwyddyn ariannol gyfredol.
Hedfan yn ETS y DU
Mae hediadau o fewn cwmpas ETS y DU yn cynnwys hediadau domestig y DU, hediadau rhwng y DU a Gibraltar, hediadau sy’n gadael o’r DU i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a hediadau sy’n gadael o’r DU i’r Swistir. Mae nifer o hediadau wedi’u heithrio, er enghraifft, hediadau dyngarol a gwladwriaethol.
Yn dilyn ymchwil economaidd a nododd ychydig iawn o risgiau dadleoli carbon a chystadleurwydd cysylltiedig ar gyfer hedfan o dan gwmpas presennol ETS y DU, ymgynghorodd yr Awdurdod [footnote 12] yn 2022 ar opsiynau ar gyfer dyraniad am ddim ar gyfer hedfan a cytunodd i dynnu’r hawl dyraniad am ddim ar gyfer hedfan yn ôl o 2026. [footnote 13] Er mwyn sicrhau bod gweithredwyr cerbydau awyr yn gallu paratoi ar gyfer diwedd dyraniad am ddim ar gyfer hedfan, parhaodd yr hawl dyraniad am ddim ar gyfer hedfan i ostwng ar y swm penodedig o 2.2% bob blwyddyn yn 2024 a 2025 cyn diwedd y dyraniad am ddim ar gyfer hedfan yn 2026.
Triniaeth gyfredol o SAF yn ETS y DU
O dan Orchymyn ETS y DU, gall gweithredwyr awyrennau hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF cymwys fel bod eu ffigur allyriadau hedfan a’r nifer cyfatebol o lwfansau y mae’n ofynnol iddynt ildio o dan ETS y DU yn cael eu lleihau. Mae SAF cymwys yn cael sgôr sero, sy’n golygu ei fod yn cael ei drin fel pe bai’n cynhyrchu allyriadau sero. Mae Erthygl 54 o Reoliad Monitro ac Adrodd 2018 (M&RR 2018), [footnote 14] fel y’i haddaswyd gan Orchymyn ETS y DU, yn nodi’r rheolau manwl.
Rhaid i SAF cymwys fod yn fiodanwydd yn gyfredol a bodloni neu’n rhagori ar y meini prawf cynaliadwyedd a nodir yn Atodlen i Orchymyn RTFO 2007 (y “meini prawf cynaliadwyedd RTFO”). Felly, mae’n rhaid iddo wneud arbediad allyriadau o 65% o leiaf o’i gymharu â chymharydd tanwydd ffosil o 94gCO2e/MJ (55% ar gyfer safleoedd cynhyrchu hŷn).
Mae cymhwysedd a thriniaeth gyfredol SAF yn ETS y DU wedi’i grynhoi yn y tabl canlynol.
Cymhwysedd a thriniaeth gyfredol SAF yn ETS y DU
| 1) | Mathau o danwydd cymwys | Biodanwyddau yn unig |
|---|---|---|
| 2) | Meini prawf cynaliadwyedd | Meini prawf cynaliadwyedd RTFO |
| 3) | Trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr | 65% (55% ar gyfer safleoedd cynhyrchu hŷn [footnote 15]) |
| 4) | Cymharydd tanwydd ffosil | 94gCO2e/MJ |
| 5) | Sut mae SAF yn cael ei gydnabod | Sgôr sero |
Fel yr amlinellwyd, mae’r meini prawf RTFO presennol a ddefnyddir gan ETS y DU yn wahanol mewn rhai ffyrdd i feini prawf Mandad SAF y DU. Mae hyn yn golygu, mewn theori, o dan y rheoliadau presennol, na fyddai rhai SAF a fyddai’n gymwys o dan y Mandad SAF yn gymwys o dan ETS y DU ar gyfer hawlio gostyngiadau allyriadau.
Triniaeth o SAF yn ETS y DU yn y Dyfodol
Fel yr amlinellwyd, daeth Mandad SAF y DU i rym ar 1 Ionawr 2025 a dyma fecanwaith polisi allweddol y DU i sicrhau galw am SAF, gan olynu cefnogaeth yr RTFO i SAF. Rydym yn ymgynghori ar ddiweddariadau posibl i’r pum agwedd allweddol ar bolisi ETS SAF y DU, gan ystyried rhyngweithiadau â’r Mandad SAF:
1) Mathau o danwydd cymwys: y mathau o danwyddau sy’n gymwys (gan gynnwys Tanwydd Carbon wedi’i Ailgylchu a Phŵer-i-Hylif)
2) Meini prawf cynaliadwyedd: y meini prawf cynaliadwyedd y mae’n ofynnol i SAF cymwys gydymffurfio â nhw
3) Trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr: yr arbedion allyriadau sy’n ofynnol i SAF cymwys eu gwneud o’i gymharu â cherosin ffosil
4) Cymharydd tanwydd ffosil: y ffactor allyriadau gwaelodlin ar gyfer cerosin ffosil a ddefnyddir, y mesurir arbedion allyriadau SAF yn ei erbyn
5) Sut mae SAF yn cael ei gydnabod: sut mae SAF yn cael ei gydnabod, h.y. gan faint y gall gweithredwyr cerbydau awyr leihau eu hallyriadau hedfan ETS y DU a rhwymedigaethau ildio o SAF.
Mae dadansoddiad yr Adran Drafnidiaeth yn dangos ei fod yn gyfuniad o bolisïau’r Adran Drafnidiaeth (Mandad SAF, AFF ac RCM) sy’n gweithredu fel prif ysgogwyr y defnydd o SAF, yn hytrach nag ETS y DU ei hun. Felly, nid yw ystyriaeth yr ymgynghoriad hwn o bob un o’r pum agwedd uchod yn cynnwys effeithiau ar y galw a’r cyflenwad o SAF.
1) Mathau o danwydd cymwys
Yn ôl erthygl 4(2A) o Orchymyn ETS y DU, dim ond biodanwydd sy’n gymwys ar hyn o bryd i hawlio gostyngiadau mewn allyriadau o dan ETS y DU. Diffinnir biodanwydd fel tanwydd hylifol neu nwyol ar gyfer trafnidiaeth a gynhyrchir o fiomas. Diffinnir biomas fel y ffracsiwn bioddiraddadwy o gynhyrchion, gwastraff a gweddillion o darddiad biolegol o amaethyddiaeth (gan gynnwys sylweddau llysieuol ac anifeiliaid), coedwigaeth a diwydiannau cysylltiedig gan gynnwys pysgodfeydd a dyframaethu, yn ogystal â’r ffracsiwn bioddiraddadwy o wastraff diwydiannol a threfol. [footnote 16]
O dan yr RTFO, mae biodanwydd sy’n seiliedig ar gnydau yn danwydd cymwys. Mae Cyfarwyddeb Ynni Adnewyddadwy yr UE (RED II) hefyd yn caniatáu cymhwysedd SAF sy’n deillio o gnydau gorchudd (yn unig). Mae’r Mandad SAF yn gosod meini prawf cynaliadwyedd llym ac nid yw SAF sy’n deillio o gnydau yn gymwys i gael cymorth ar hyn o bryd. Felly, mae’n annhebygol y bydd symiau sylweddol o SAF sy’n deillio o gnydau yn cael eu cyflenwi yn y DU. Pe bai, o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn, y mathau o SAF sy’n gymwys o dan ETS y DU yn cyd-fynd â’r rhai sy’n gymwys o dan y Mandad SAF, byddai SAF sy’n seiliedig ar gnydau yn peidio â bod yn gymwys o dan ETS y DU.
Mae’r farchnad SAF ar hyn o bryd yn ei chyfnodau cynnar o ddatblygu a bydd yn cael ei monitro’n agos i sicrhau bod polisi yn cadw i fyny â datblygiadau technegol a masnachol. Fel yr amlinellwyd, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth alwad am dystiolaeth i wella’r sylfaen dystiolaeth ar gynhyrchu SAF yn seiliedig ar gnydau a sicrhau bod y Mandad SAF wedi’i gynllunio’n effeithiol i gyflawni ei amcanion polisi. Byddai unrhyw newid yn y dyfodol i gymhwysedd porthiant neu unrhyw baramedr dylunio arall o’r Mandad SAF, yn destun ymgynghoriad cyn newid deddfwriaethol.
Mewn perthynas â mathau eraill o SAF, mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i sicrhau bod triniaeth SAF yn ETS y DU yn adlewyrchu datblygiad y farchnad SAF. Mae arallgyfeirio porthiant SAF a llwybrau technoleg, gan gynnwys RCFs a PtL, yn cefnogi cyfanswm cyflenwad uwch o SAF, gan ganiatáu i’r sector hedfan gyrraedd targedau lleihau allyriadau uwch a chyflawni mwy o ddatgarboneiddio cyffredinol.
Mae RCFs a thanwydd PtL yn gymwys ar gyfer cymhellion o dan y Mandad SAF ac maent yn gymwys o dan gynlluniau prisio carbon eraill, fel ETS yr UE. Fodd bynnag, mae aliniad presennol deddfwriaeth ETS y DU â’r RTFO yn golygu bod y tanwyddau hyn ar hyn o bryd yn cael eu trin fel pe baent yn gerosin ffosil ac nid ydynt yn gymwys ar gyfer hawliadau lleihau allyriadau o dan ETS y DU.
Mae’r Awdurdod yn croesawu barn rhanddeiliaid ar y mathau o danwydd cymwys o dan ETS y DU.
1. Oes gennych farn ar y mathau o danwydd cymwys o dan ETS y DU, ac a ddylai’r rhain gyd-fynd â’r mathau o danwydd cymwys o dan Mandad SAF y DU? Byddai hyn yn cynnwys ehangu’r mathau o SAF cymwys o dan ETS y DU i gynnwys tanwydd carbon isel nad ydynt yn fiodanwydd, fel tanwydd pŵer-i-hylif a thanwydd carbon wedi’i ailgylchu. Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
2) Meini prawf cynaliadwyedd
O dan Erthygl 54 o Reoliad Monitro ac Adrodd 2018 (fel y’i haddaswyd gan Orchymyn ETS y DU), er mwyn i SAF fod yn gymwys ar gyfer hawliad lleihau allyriadau, rhaid iddo fodloni meini prawf cynaliadwyedd yr RTFO. Mae’r RTFO wedi cael ei olynu gan y Mandad SAF ar gyfer tanwyddau hedfan. Felly, ar hyn o bryd mae anghysondeb rhwng polisi’r DU sy’n effeithio ar ochrau cyflenwad a galw marchnad SAF y DU.
Mae’r meini prawf cynaliadwyedd ar gyfer SAF sy’n gymwys o dan y Mandad SAF wedi’u nodi yn Atodlen 1 (Meini Prawf Cynaliadwyedd), Atodlen 2 (Meini Prawf Tir) ac Atodlen 3 (Meini Prawf Coedwigoedd) i’r Gorchymyn Mandad SAF. [footnote 17]
Mae’r Awdurdod yn ystyried a ddylid diweddaru rheolau cymhwysedd ETS SAF y DU fel y byddai angen i SAF sy’n gymwys ar gyfer hawliad lleihau allyriadau gydymffurfio â meini prawf cynaliadwyedd Mandad SAF a amlinellir yn Atodlen 1 Gorchymyn Mandad SAF. [footnote 18]
Mae penderfyniadau pellach ar agweddau penodol ar y newid hwn, megis y lefel y mae’r trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’i osod, wedi’u hamlinellu yn yr ymgynghoriad hwn.
Mae’r Awdurdod yn croesawu barn rhanddeiliaid ar y meini prawf cynaliadwyedd y mae’n rhaid i SAF gydymffurfio â nhw i fod yn gymwys o dan ETS y DU.
2. Oes gennych farn ar y meini prawf cynaliadwyedd y dylai SAF sy’n gymwys i hawlio gostyngiadau allyriadau o dan ETS y DU eu bodloni, ac a ddylid cysoni hyn â’r meini prawf cynaliadwyedd a nodir yn y Gorchymyn Mandad SAF? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
3) Trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr
Ar hyn o bryd mae Gorchymyn ETS y DU yn ei gwneud yn ofynnol i SAF cymwys fodloni meini prawf cynaliadwyedd RTFO ac felly arbed o leiaf 65% o allyriadau ar draws ei gylch oes o’i gymharu â chymharydd tanwydd ffosil o 94gCO2e/MJ. Mae trothwy Mandad SAF y DU yn wahanol gan ei fod wedi’i osod ar 40% o’i gymharu â chymharydd tanwydd ffosil mwy cywir o 89gCO2e/MJ (yn seiliedig ar y gwerth cyfartalog byd-eang ar gyfer hedfan). [footnote 19] Bwriad y trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr is a sefydlwyd gan y Mandad SAF yw hyrwyddo amrywiaeth o borthiant SAF sy’n gynaliadwy ym marchnad y DU ac i gynyddu’r opsiynau lleihau carbon sydd ar gael i gyflenwyr tanwydd er mwyn cyflawni eu rhwymedigaeth SAF.
Mae’r trothwy lleiafswm arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer cymhwysedd SAF yn amrywio’n sylweddol ar draws cynlluniau prisio carbon byd-eang a mandadau SAF, yn amrywio o 10% i 65%. Archwilir dau opsiwn ar gyfer y trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer cymhwysedd SAF yn ETS y DU yn yr is-adran hon: cynnal y trothwy o 65% neu gyd-fynd â throthwy 40% Mandad SAF y DU.
Gallai newid y trothwy (RTFO) presennol o 65% a ddefnyddir gan ETS y DU effeithio ar nifer yr hawliadau a wneir gan weithredwyr cerbydau awyr o dan ETS y DU ar gyfer gostyngiadau allyriadau o SAF.
i) Cynnal y trothwy o 65%
Byddai cynnal y trothwy o 65% yn golygu y byddai gan Fandad SAF y DU (sy’n rhwymo cyflenwyr tanwydd) ac ETS y DU (y mae gweithredwyr cerbydau awyr yn atebol iddo) ofynion gwahanol. Byddai hyn yn golygu y gallai rhai SAF a gyflenwir o dan y Mandad fod yn anghymwys at ddibenion lleihau rhwymedigaethau ildio o dan ETS y DU a allai greu dryswch yn y farchnad o ystyried y byddai safonau gwahanol yn cael eu cymhwyso ar draws cadwyn gyflenwi’r DU.
Fodd bynnag, byddai’n golygu y byddai ETS y DU yn parhau i fod â’r un trothwy ag ETS yr UE. O dan ETS yr UE, gall gweithredwr hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF ac felly lleihau ei rwymedigaethau ildio os yw’n gwneud o leiaf 65% o arbediad allyriadau nwyon tŷ gwydr yn erbyn cymharydd tanwydd ffosil o 94gCO2e/MJ. Gallai cynnal yr un trothwy ag ETS yr UE helpu i leihau cymhlethdod sy’n gysylltiedig â hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF ar gyfer gweithredwyr cerbydau awyr sydd â rhwymedigaethau o dan y ddau gynllun.
Mae’r Awdurdod yn rhagweld y byddai cynnal y trothwy o 65% yn arwain at lai o hawliadau am ostyngiadau allyriadau o SAF o’i gymharu â gostwng y trothwy i 40%, sy’n golygu y byddai angen i weithredwyr brynu mwy o lwfansau ETS y DU i gyflawni eu rhwymedigaethau. Fodd bynnag, disgwylir i’r effeithiau hyn fod mor fach â phosib a chael effaith sylweddol yn y tymor canolig yn unig.
ii) Cysoni â throthwy 40% Mandad SAF y DU
Byddai cysoni ETS y DU â throthwy Mandad SAF yn golygu gostwng trothwy arbed allyriadau SAF cymwys o 65% i 40%. Er y gellid ystyried bod hyn ar ei ben ei hun yn lleihau llymder amgylcheddol polisi SAF ETS y DU, byddai trothwy o 40% yn cefnogi’r amcan o alluogi amrywiaeth o borthiant SAF o fewn marchnad y DU, gan gynyddu’r opsiynau lleihau carbon sydd ar gael i weithredwyr cerbydau awyr. Mae’r Awdurdod yn ceisio sicrhau nad yw gosod trothwy ar gyfer arbed isafswm o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn eithrio’n ddiangen mathau penodol o danwydd neu borthiant a allai barhau i gyflawni arbedion sylweddol o allyriadau nwyon tŷ gwydr o’i gymharu â cherosin ffosil. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r defnydd o RCFs.
Mae manteision amgylcheddol RCFs yn cael eu gwireddu pan fydd trosi porthiant i RCFs yn darparu mwy o arbedion carbon o’i gymharu â’r defnydd gwrthffeithiol. Fodd bynnag, mae RCFs fel arfer yn darparu’r arbedion allyriadau nwyon tŷ gwydr isaf ymhlith mathau o SAF gan fod allyriadau cyffredinol RCFs yn gymharol uchel ar hyn o bryd. Mae allyriadau RCFs yn cael eu cyfrifo fel swm o allyriadau cynhyrchu, cludo a dosbarthu, ac allyriadau ynni wedi’i ddadleoli o broses wrthffeithiol, megis ynni i wastraff gwres ar gyfer odynau sment. Dros amser, fodd bynnag, rhagwelir y bydd allyriadau cynhyrchu, cludo a dosbarthu RCFs yn gostwng wrth i gadwyni cyflenwi a phrosesau gael eu hoptimeiddio. Wrth i gridiau trydan yn y DU a thramor ddatgarboneiddio, disgwylir y bydd yr allyriadau sy’n gysylltiedig ag ynni wedi’i ddadleoli hefyd yn gostwng yn sylweddol. Mae hyn yn golygu y bydd gan safleoedd cynhyrchu RCF y gallu i gynyddu eu gostyngiadau allyriadau nwyon tŷ gwydr heb unrhyw gamau neu fuddsoddiad penodol angenrheidiol.
Gallai trothwy o 40% helpu i gefnogi datblygiad RCFs, gan leihau eu cost gyffredinol a hyrwyddo buddsoddiad yn eu datblygiad, oherwydd byddai’n caniatáu i SAF sy’n deillio o RCF gael ei gydnabod o dan ETS y DU.
Pe bai ETS y DU yn mabwysiadu trothwy Mandad SAF, byddai hyn yn yr un modd yn galluogi’r cynllun i gydnabod potensial lleihau RCFs, gan helpu i gefnogi datgarboneiddio cost-effeithiol. Pe bai’r trothwy o 65% yn cael ei gynnal, byddai RCFs yn parhau i fod yn anghymwys ar gyfer hawliadau lleihau allyriadau o dan ETS y DU yn y tymor byr i ganolig, gan fodloni cymhwysedd y cynllun yn ddiweddarach yn eu datblygiad ar ôl i’w harbedion allyriadau dyfu. Fel yr amlinellwyd, disgwylir i gyfuniad o bolisïau’r Adran Drafnidiaeth fod yn brif sbardun ar gyfer y defnydd o SAF. Fodd bynnag, gallai cynnal y trothwy o 65% gael effaith gyfyngol ymylol ar faint o weithredwyr awyrennau sy’n manteisio ar yr RFCs yn y tymor byr i ganolig.
Byddai mabwysiadu’r trothwy Mandad SAF hefyd yn sicrhau cysondeb rhwng ETS y DU a Mandad SAF y DU, a allai symleiddio’r broses ar gyfer hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF a gyflenwir gan y DU ar gyfer gweithredwyr cerbydau awyr a rheoleiddwyr. Yn benodol, mae’r Awdurdod yn rhagweld y gallai gweithredwyr cerbydau awyr ddefnyddio prawf cydymffurfiaeth Mandad SAF cyflenwyr i dystiolaeth o hawliadau o dan ETS y DU.
O ystyried yr ystyriaethau hyn, mae’r Awdurdod yn rhagweld, pe baem yn mabwysiadu meini prawf cynaliadwyedd Mandad SAF y DU, y byddai pecyn polisi a fyddai’n cynnwys trothwy 40% Mandad SAF yn symlach i’w weithredu o ystyried bod y trothwy wedi’i sefydlu drwy’r meini prawf cynaliadwyedd.
Mae’r Awdurdod yn croesawu barn rhanddeiliaid ynghylch y trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer SAF sy’n gymwys ar gyfer hawliadau lleihau allyriadau yn ETS y DU, ac a fyddai trothwy o 65% neu 40% yn well.
3. A yw’n well gennych drothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr o 65% neu 40% ar gyfer SAF sy’n gymwys ar gyfer hawliadau lleihau allyriadau o dan ETS y DU? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
4. Oes gennych chi unrhyw safbwyntiau eraill ar y potensial i newid y trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr SAF ETS y DU? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
4) Cymharydd tanwydd ffosil
Fel yr amlinellwyd uchod, y cymharydd tanwydd ffosil cyfredol y mesurir arbedion allyriadau SAF yn ei erbyn yw 94gCO2e/MJ (yn ôl meini prawf cynaliadwyedd RTFO). Mae’r cymharydd hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ETS yr UE. Defnyddir cymharydd o 89gCO2e/MJ o dan y Mandad SAF gan ei fod yn adlewyrchu’n fwy cywir allyriadau sylfaenol cerosin ffosil hedfan. Mae’r cymharydd hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ICAO at ddibenion cyfrifiadau arbedion allyriadau cylch oes CEF. Pe bai cymharydd tanwydd ffosil ETS y DU yn cael ei newid i ffigur Mandad SAF, byddai hyn yn lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr tybiedig o gerosin ffosil y byddai arbedion allyriadau o SAF yn cael eu cyfrifo mewn perthynas â chymhwysedd o dan ETS y DU.
Wrth ystyried cysondeb ar draws polisi’r DU a chywirdeb allyriadau sylfaenol cerosin ffosil hedfan, mae’r Awdurdod yn ystyried a ddylid mabwysiadu cymharydd tanwydd ffosil Mandad SAF y DU o 89gCO2e/MJ.
Mae’r Awdurdod yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y cymharydd tanwydd ffosil, y mesurir arbedion allyriadau SAF yn ei erbyn, i’w ddefnyddio ar gyfer SAF sy’n gymwys yn ETS y DU.
5. Oes gennych farn ar y cymharydd tanwydd ffosil, y mesurir arbedion allyriadau SAF yn ei erbyn, i’w ddefnyddio ar gyfer SAF sy’n gymwys yn ETS y DU, gan gynnwys a ddylai Awdurdod ETS y DU fabwysiadu’r cymharydd tanwydd ffosil o 89gCO2e/MJ yn unol â Mandad SAF? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
5) Sut mae SAF yn cael ei gydnabod
Ar hyn o bryd mae SAF cymwys â sgôr sero o dan ETS y DU, sy’n golygu nad oes angen ildio lwfansau mewn perthynas ag allyriadau o hylosgi SAF.
Fodd bynnag, yn ymarferol, nid oes unrhyw SAF yn cyflawni gostyngiadau allyriadau o 100%. Mae hylosgi SAF yn allyrru CO2, mewn symiau tebyg i’r hyn a ryddhawyd pan fydd cerosin ffosil yn cael ei losgi. Mae lefel yr arbedion allyriadau net o SAF yn amrywio ac yn dod o arbedion a wneir trwy gydol cylch oes y tanwydd. Bydd ffactorau fel y math o borthiant y mae’r SAF yn cael ei wneud ohono, y broses gynhyrchu a sut mae’r tanwydd yn cael ei gludo i gyd yn effeithio ar arbedion allyriadau cylch oes SAF.
Dull amgen i sgôr sero fyddai cydnabod SAF gan ddefnyddio dull asesu cylch oes, lle byddai SAF yn cael ei gydnabod yn gymesur â’r arbedion allyriadau gwirioneddol a wneir. Caiff y ddau opsiwn hyn, sgôr sero a dull asesu cylch oes, eu harchwilio yn yr adran hon.
Fel yr amlinellwyd, disgwylir i gyfuniad o bolisïau’r Adran Drafnidiaeth fod yn brif sbardun ar gyfer y defnydd o SAF. Felly, nid yw’r ystyriaethau yn yr is-adran hon yn cynnwys effeithiau ar y galw am SAF a’i gyflenwi.
Fodd bynnag, yn dibynnu ar benderfyniadau polisi terfynol yr Awdurdod, gallai triniaeth SAF yn y dyfodol o dan ETS y DU effeithio ar nifer yr hawliadau a wneir am ostyngiadau allyriadau o SAF, ac felly’r galw am lwfansau ETS y DU. Byddai hyn yn effeithio ar gostau i weithredwyr cerbydau awyr a refeniw’r llywodraeth. Archwilir yr effeithiau hyn yn yr adran Pecynnau Polisi isod.
i) Sgôr sero
Mae SAF sgôr sero o dan ETS y DU yn helpu i amsugno rhywfaint o’r gwahaniaeth cost rhwng SAF a cherosin ffosil, i raddau mwy nag y byddai dull asesu cylch oes yn ei wneud. Byddai pob peth arall yn gyfartal, byddai sgôr sero parhaus yn golygu costau is i weithredwyr o’i gymharu â dull asesu cylch oes.
Mae SAF cymwys o dan ETS yr UE hefyd ar hyn o bryd wedi’i sgorio’n sero, a neilltuwyd 20 miliwn o lwfansau ETS yr UE i gefnogi’r defnydd o danwyddau amgen.
Ni fyddai angen newidiadau i weithredu a rheoleiddio’r dull gweithredu a rheoleiddio a byddai’n cynnal y cyfrifiad syml sy’n ofynnol i bennu’r gostyngiad mewn allyriadau hedfan ac felly rhwymedigaethau ildio. Ni fyddai’r dull hwn ychwaith yn gofyn am newidiadau i’r system ‘Rheoli eich adroddiadau ETS y DU’ (‘Manage your UK ETS reporting’) (METS) [footnote 20] mewn perthynas â chyfrifo’r gostyngiad yn rhwymedigaethau ildio gweithredwr.
Fodd bynnag, mae’r Awdurdod hefyd yn cydnabod nad yw sgôr sero yn adlewyrchu gwir effaith CO2 hylosgi SAF. Yn ogystal, nid yw sgôr sero yn gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o SAF gyda phriodoleddau arbed allyriadau uwch neu is. Byddai cynnal dull presennol ETS y DU o SAF sgôr sero yn parhau i beidio ag adlewyrchu’r allyriadau gwirioneddol y maent yn eu cynhyrchu.
Byddai sgôr sero yn anghyson â’r dull a ddefnyddir gan Fandad SAF y DU, lle mae cyflenwyr yn cael tystysgrifau yn gymesur ag arbedion allyriadau nwyon tŷ gwydr llwyth SAF penodol. O’i gymharu â dull asesu cylch oes, mewn theori, byddai sgôr sero yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd SAF gan y byddai SAF yn cael ei wobrwyo i raddau mwy. Fodd bynnag, disgwylir i’r effaith hon fod yn ymylol o ystyried ei fod yn gyfuniad o bolisïau’r Adran Drafnidiaeth y disgwylir iddo fod yn brif sbardun y defnydd o SAF.
Byddai sgôr sero hefyd yn cynrychioli dull gwahanol i’r hyn a ddefnyddiwyd o dan CORSIA, y mae’r DU yn ei gefnogi fel y fframwaith y cytunir arno’n fyd-eang ar gyfer mynd i’r afael ag allyriadau hedfan rhyngwladol. Gall gweithredwr awyrennau leihau ei ofynion gwrthbwyso CORSIA trwy hawlio gostyngiadau allyriadau o CEF. Mae gostyngiadau allyriadau CEF yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar werth allyriadau cylch oes nwyon tŷ gwydr y tanwydd.
ii) Dull asesu cylch oes
Byddai dull asesu cylch oes yn cynrychioli newid o’r arfer presennol a byddai’n golygu y byddai SAF yn cael ei gydnabod yn gymesur â’r arbedion allyriadau gwirioneddol sy’n cael eu gwneud ar draws cylch oes y tanwydd o’i gymharu â cherosin ffosil. Byddai’r dull hwn felly’n cyd-fynd yn fwy cadarn â’r egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu na sgôr sero. Byddai gweithredwyr awyrennau yn gallu lleihau eu rhwymedigaethau ildio ETS y DU i raddau mwy o SAF sy’n cynnig arbedion allyriadau uwch. Os yw’r holl bethau eraill yn gyfartal, byddai hyn yn annog prynu SAF gydag arbedion allyriadau uwch. Fodd bynnag, disgwylir i’r effaith hon fod yn ymylol yn y tymor byr i ganolig o ystyried bod uwch dechnolegau cynhyrchu tanwydd sy’n gallu cyflawni arbedion allyriadau cylch oes uwch yn dal i ddod i’r amlwg ac nad ydynt ar gael ar raddfa eto.
Byddai dull asesu cylch oes yn helpu i amsugno rhywfaint o’r gwahaniaeth cost rhwng SAF a cherosin ffosil, ond i raddau llai na sgôr sero (o leiaf yn y tymor byr, o ystyried nad oes unrhyw SAF ar y farchnad ar hyn o bryd yn gwneud arbediad allyriadau o 100%). Os yw’r holl bethau eraill yn gyfartal, byddai dull asesu cylch oes, o’i gymharu â sgôr sero, yn cynyddu costau i weithredwyr sy’n hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF.
Byddai dull asesu cylch oes yn cyd-fynd â’r dull a ddefnyddir gan Fandad SAF y DU, sy’n cymell lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn modd cost-effeithiol a lleihau’r risg y bydd y cymysgedd SAF yn cael ei gyfansoddi’n bennaf o SAF cost is sy’n cyflawni llai o ostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Byddai hefyd yn cynrychioli dull tebyg i CORSIA ond byddai’n wahanol i’r dull a ddefnyddir gan ETS yr UE.
Pe bai’r Awdurdod yn mabwysiadu dull asesu cylch oes, byddai angen i weithredwyr cerbydau awyr ddarparu tystiolaeth o arbedion allyriadau cylch oes SAF. Byddai’r Awdurdod yn ystyried pa fethodolegau fyddai’n cael eu derbyn ar gyfer cyfrifo arbedion allyriadau SAF cymwys ond byddai’n ceisio osgoi bod yn rhy gyfarwyddol.
Byddai dull asesu cylch oes ychydig yn fwy cymhleth i’w weithredu a’i weinyddu gan y byddai angen newidiadau i METS yn ôl pob tebyg. Gallai’r dull hwn hefyd gynyddu’r baich gweinyddol i weithredwyr, er enghraifft, gan y gallai fod angen gwybodaeth ychwanegol i ddangos tystiolaeth o’r arbedion allyriadau cylch oes SAF i benderfynu ar y gostyngiad yn rhwymedigaethau ildio ETS y DU.
Mae’r Awdurdod yn croesawu barn rhanddeiliaid ar sut mae SAF yn cael ei gydnabod ac unrhyw ddewisiadau rhwng sgôr sero a dull asesu cylch oes.
6. A yw’n well gennych ddull sgôr sero neu asesiad cylch oes o ran sut mae SAF yn cael ei gydnabod o dan ETS y DU? Esboniwch eich ateb.
7. Pe bai Awdurdod ETS y DU yn gweithredu dull sy’n seiliedig ar asesiad cylch oes i hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF yn ETS y DU, a oes gennych unrhyw farn ar ba fethodolegau y dylid eu derbyn ar gyfer SAF cymwys? Esboniwch eich ateb.
Pecynnau polisi
Gellir cyfuno’r dewisiadau polisi SAF unigol ar gyfer ETS y DU a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn i gynhyrchu ystod o becynnau polisi posibl ar gyfer trin SAF yn y dyfodol yn ETS y DU.
Er mwyn dangos sut y gallai’r dewisiadau polisi sydd ar gael weithio gyda’i gilydd, mae’r Awdurdod wedi dwyn ynghyd ddau becyn polisi tebyg at ddibenion cymharol isod. Mae’r pecynnau hyn wedi’u bwriadu fel enghreifftiau ac nid ydynt yn cynrychioli safbwyntiau o blaid nac argymhellion yr Awdurdod. Mae’r pecynnau hyn wedi’u hamlinellu yn y tabl isod ochr yn ochr â’r gwrthffeithiol ac yna maent yn cael eu hystyried yn fwy manwl.
Mae cyfuniadau eraill o ddewisiadau polisi yn bosibl, ac mae’r Awdurdod yn annog rhanddeiliaid i ystyried yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adrannau blaenorol wrth ystyried cyfuniadau posib.
Pecynnau polisi darluniadol Awdurdod ETS y DU
| Gwrthffeithiol (gwneud dim) | Pecyn polisi 1 | Pecyn polisi 2 | ||
|---|---|---|---|---|
| 1) | Mathau o danwydd cymwys | Biodanwyddau yn unig | Ehangu y tu hwnt i fiodanwyddau | Ehangu y tu hwnt i fiodanwyddau |
| 2) | Meini prawf cynaliadwyedd | Meini prawf cynaliadwyedd RTFO | Meini prawf cynaliadwyedd Mandad SAF y DU | Meini prawf cynaliadwyedd Mandad SAF y DU |
| 3) | Trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr [footnote 21] | 65% | 40% | 40% |
| 4) | Cymharydd tanwydd ffosil | 94gCO2e/MJ | 89gCO2e/MJ | 89gCO2e/MJ |
| 5) | Sut mae SAF yn cael ei gydnabod | Sgôr sero | Sgôr sero | Asesiad cylch oes |
Gwrthffeithiol (gwneud dim): Parhau i gydnabod biodanwyddau yn unig, cynnal y trothwy presennol, a pharhau i roi sgôr sero ar SAF
Byddai’r Gwrthffeithiol yn cynrychioli parhad o’r arfer cyfredol. Felly, fe’i defnyddir fel y gwrthffeithiol yn y dadansoddiad cysylltiedig. Byddai biodanwyddau yn parhau i fod yr unig fath cymwys o SAF a byddai angen arbed allyriadau o o leiaf 65% o’i gymharu â chymharydd tanwydd ffosil o 94gCO2e/MJ. Byddai SAF cymwys yn parhau i fod â sgôr sero.
- Gan y byddai’r Gwrthffeithiol yn cynnal yr arfer cyfredol, yna os yw pob peth arall yn gyfartal, ni fyddai unrhyw effaith ar gostau gweithredwyr na refeniw’r llywodraeth.
- Byddai’r pecyn polisi hwn yn caniatáu cysondeb i weithredwyr cerbydau awyr mewn perthynas â’r dull presennol. Fodd bynnag, byddai’n golygu y byddai’r anghysondeb presennol rhwng polisi’r DU sy’n effeithio ar ochrau cyflenwad a galw marchnad SAF y DU yn parhau.
- Byddai sgôr sero yn golygu na fyddai arbedion allyriadau o SAF yn parhau i gael eu hadlewyrchu’n gywir.
Pecyn polisi 1: Cydnabod pob math o SAF, cysoni’n llawn â meini prawf cynaliadwyedd Mandad SAF, a pharhau i roi sgôr sero
O dan becyn polisi 1, byddai cwmpas tanwydd cymwys yn cael ei ehangu sy’n golygu y gellid cydnabod mathau eraill o danwydd, fel tanwydd RCFs a PtL, hefyd. Trwy gysoni’n llawn â meini prawf cynaliadwyedd Mandad SAF, byddai angen i SAF wneud arbediad allyriadau o 40% o leiaf o’i gymharu â chymharydd tanwydd ffosil o 89gCO2e/MJ. Byddai SAF cymwys yn parhau i fod â sgôr sero.
- Mae’r Awdurdod yn disgwyl i’r pecyn polisi hwn arwain at gynnydd bach yn nifer yr hawliadau a wneir am ostyngiadau allyriadau o SAF dros 2025-2040, ac felly gostyngiad bach yn nifer y lwfansau y byddai’n ofynnol i weithredwyr cerbydau awyr ildio o’i gymharu â’r Gwrthffeithiol.
- Byddai hyn yn arwain at ostyngiad bach mewn costau i weithredwyr cerbydau awyr a gostyngiad yn refeniw’r llywodraeth (o ran y gostyngiad a ragwelir yn y lwfansau a brynwyd) o’i gymharu â’r Gwrthffeithiol (gostyngiad mewn refeniw gros ETS y DU o oddeutu 3% rhwng 2025-2040). [footnote 22]
- Byddai’r pecyn polisi hwn yn golygu y byddai polisi’r DU sy’n effeithio ar ochrau cyflenwad a galw marchnad SAF y DU yn cael ei gysoni.
- Byddai sgôr sero parhaus yn llai cymhleth i’w weithredu a’i weinyddu o’i gymharu â dull asesu cylch oes. Fodd bynnag, byddai’n golygu na fyddai arbedion allyriadau o SAF yn parhau i gael eu hadlewyrchu’n gywir.
Pecyn polisi 2: Cydnabod pob math o SAF, cysoni’n llawn â meini prawf cynaliadwyedd Mandad SAF, a chydnabod SAF ar sail asesiad cylch oes
Byddai pecyn polisi 2 yn cyfateb i becyn polisi 1, ac eithrio y byddai SAF cymwys yn cael ei gydnabod yn seiliedig ar ei arbedion allyriadau cylch oes gwirioneddol yn hytrach na sgôr sero.
- Yn yr un modd, mae’r Awdurdod yn disgwyl i’r pecyn polisi hwn arwain at gynnydd bach yn nifer yr hawliadau a wneir am ostyngiadau allyriadau o SAF dros 2025-2040, gan arwain at ostyngiad bach mewn costau i weithredwyr a gostyngiad yn refeniw’r llywodraeth (o ran y gostyngiad a ragwelir yn y lwfansau a brynir) o’i gymharu â’r Gwrthffeithiol (gostyngiad mewn refeniw gros ETS y DU o oddeutu 1% rhwng 2025-2040).
- Byddai’r pecyn polisi hwn yn golygu y byddai polisi’r DU sy’n effeithio ar ochrau cyflenwad a galw marchnad SAF y DU yn cael ei gysoni.
- Byddai cydnabod SAF ar sail asesiad cylch oes yn adlewyrchu’n well yr egwyddor mai’r llyfrwr sy’n talu gan y byddai SAF gyda mwy o arbedion allyriadau o’i gymharu â cherosin ffosil yn arwain at fwy o ostyngiad i rwymedigaethau ildio gweithredwr.
- Gallai’r pecyn polisi hwn hefyd gael effaith ymylol, ond cadarnhaol, ar annog y defnydd o SAF sy’n arbed allyriadau uwch, o ystyried y byddai SAF yn cael ei gydnabod yn seiliedig ar arbedion allyriadau gwirioneddol.
Mae’r Awdurdod yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y pecynnau polisi a amlinellir yn yr adran hon.
8. Ydych chi’n meddwl bod Pecyn polisi 1 a/neu Becyn polisi 2 yn cynrychioli dull addas o gydnabod SAF o dan ETS y DU? Esboniwch eich ymateb.
9. Oes unrhyw becynnau polisi pellach a fyddai’n fwy priodol ac y dylai’r Awdurdod eu hystyried?
Materion gweithredol
Prynu a chyflenwi
Dylai rhwymedigaethau ildio gweithredwr cerbydau awyr adlewyrchu eu hallyriadau hedfan yn ystod blwyddyn benodol cynllun ETS y DU. Felly, dim ond mewn perthynas â gweithgareddau gweithredwr o fewn y flwyddyn gynllun honno y dylid gwneud hawliadau am ostyngiadau allyriadau o SAF. Felly, rydym yn bwriadu egluro mewn deddfwriaeth yr amserlen ar gyfer prynu a chyflenwi SAF y gellir hawlio gostyngiadau allyriadau ar ei gyfer.
Fodd bynnag, mae’r Awdurdod yn cydnabod bod angen rhywfaint o hyblygrwydd mewn perthynas â’r amserlen hon o gwmpas dechrau a diwedd blynyddoedd y cynllun. Er enghraifft, lle defnyddir SAF ar hediad ym mis Ionawr blwyddyn gynllun benodol, mae’n debygol y bydd y SAF hwnnw wedi’i brynu yn y flwyddyn gynllun flaenorol. Yn yr un modd, pan fydd pryniant SAF yn cael ei wneud ym mis Rhagfyr blwyddyn gynllun benodol, ni chaniateir cyflwyno’r SAF hwnnw tan y flwyddyn gynllun ganlynol.
Byddai egluro’r gofyniad cyfreithiol i ddarparu prawf o brynu a chyflenwi SAF i system tanwydd erodrom neu gerbydau awyr yn sicrhau y bydd tanwydd yn cael ei ddefnyddio gan y sector hedfan yn unig a byddai’n helpu i warchod rhag cyfri dwbl a hawliadau a all fod yn dwyllodrus.
Mae’r Awdurdod felly yn bwriadu egluro mewn deddfwriaeth, at ddibenion hawlio gostyngiadau allyriadau:
a) Rhaid i SAF fod wedi’i brynu o fewn blwyddyn, neu dri mis ar y mwyaf cyn, blwyddyn y cynllun y mae’r hawliad yn ymwneud â hi a’i ddosbarthu i system danwydd erodrom, neu gerbydau awyr, cyn 31 Mawrth y flwyddyn ar ôl blwyddyn y cynllun penodol; a
b) Rhaid darparu prawf o brynu a chyflenwi SAF i system tanwydd erodrom neu gerbydau awyr i reoleiddiwr ETS y DU.
10. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i egluro’r gofynion deddfwriaethol ar brynu a chyflenwi SAF at ddibenion hawlio gostyngiadau mewn allyriadau o dan ETS y DU? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
Terfynau hawliadau
Fel uchod, dylai rhwymedigaethau ildio gweithredwr cerbydau awyr adlewyrchu eu hallyriadau hedfan yn ystod blwyddyn benodol cynllun ETS y DU. Felly, ni all gweithredwr cerbydau awyr hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF yn fwy na’u cyfanswm defnydd o danwydd mewn perthynas â gweithgarwch hedfan ETS y DU o fewn unrhyw flwyddyn gynllun benodol. Yn ogystal, dim ond i’r graddau y mae unrhyw weithgaredd hedfan ETS y DU yn cael ei wneud y gellir hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF. Rydym yn bwriadu egluro’r pwyntiau hyn mewn deddfwriaeth.
O ran p’un a ellir cario hawliadau drosodd i flwyddyn newydd cynllun, ni ddylid cario hawliadau am ostyngiadau allyriadau o SAF, gan y dylai rhwymedigaethau ildio gweithredwr cerbydau awyr mewn perthynas â blwyddyn gynllun adlewyrchu eu hallyriadau yn y flwyddyn gynllun honno. Rydym yn bwriadu egluro hyn mewn deddfwriaeth.
Felly, mae’r Awdurdod yn bwriadu egluro mewn deddfwriaeth:
a) Bod y swm o SAF y gellir hawlio gostyngiadau allyriadau ar ei gyfer mewn blwyddyn gynllun benodol wedi’i gyfyngu i gyfanswm defnydd o danwydd gweithredwr cerbydau awyr mewn perthynas â’i weithgarwch hedfan ETS y DU o fewn y flwyddyn gynllun honno;
b) Ni ellir cario hawliadau am ostyngiadau allyriadau o SAF i flynyddoedd dilynol y cynllun.
11. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i egluro mewn deddfwriaeth y terfyn ar faint o SAF y gellir hawlio gostyngiadau allyriadau ar ei gyfer, ac na ellir cario hawliadau am ostyngiadau allyriadau o SAF i flynyddoedd dilynol y cynllun? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
Sicrhau bod hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF yn effeithio ar rwymedigaethau ildio yn unig
Nid yw Gorchymyn ETS y DU [footnote 23] yn galluogi hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF i effeithio ar agweddau eraill ar ETS y DU, er enghraifft, nid yw’n effeithio ar asesiadau sy’n penderfynu a yw cwmnïau hedfan yn weithredwyr cerbydau awyr wedi’u heithrio o dan erthyglau 7 ac 8, neu eu hawl i ddefnyddio gweithdrefnau adrodd symlach o dan erthygl 33(2). Mae hyn yn golygu bod statws eithrio’r gweithredwr cerbydau awyr a/neu ei hawl i weithdrefnau adrodd symlach yn cael ei bennu ar sail cyfanswm allyriadau blynyddol, sy’n cynnwys allyriadau o SAF. Fodd bynnag, rydym o’r farn y gallai Gorchymyn ETS y DU fod yn gliriach ar y pwynt hwn.
Dylai’r ffigur allyriadau hedfan net o’r hawliad lleihau allyriadau fod yn berthnasol i bennu’r rhwymedigaeth ildio yn unig; at bob diben arall dylai’r ffigur allyriadau hedfan gros cyn unrhyw ostyngiad allyriadau fod yn berthnasol.
Felly, mae’r Awdurdod yn bwriadu egluro mewn deddfwriaeth bod y ffigur allyriadau hedfan sy’n ystyried y gostyngiad allyriadau yn berthnasol at ddibenion pennu’r rhwymedigaeth ildio yn unig.
12. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i egluro mewn deddfwriaeth bod hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF yn effeithio ar rwymedigaethau ildio gweithredwyr cerbydau awyr yn unig?
Sail hawliad
Mae M&RR 2018, fel y’i haddaswyd gan Orchymyn ETS y DU, yn amlinellu sawl opsiwn ar gyfer y fethodoleg a’r dystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF.
Mae Erthygl 54(2) Rheoliad Monitro ac Adrodd 2018 fel y’i diwygiwyd yn darparu, pan fo biodanwyddau yn cael eu cymysgu’n gorfforol â thanwyddau ffosil a’u dosbarthu i gerbyd awyr mewn sypiau y gellir eu hadnabod yn gorfforol, y dylid pennu’r ffracsiwn biomas ar sail y dulliau safonol a dadansoddol yn Erthyglau 32 i 35 Rheoliad Monitro ac Adrodd 2018. Yn lle hynny, gall gweithredwr ddefnyddio balans màs tanwydd ffosil a biodanwydd a brynwyd lle byddai’r dull yn Erthyglau 32 i 35 yn achosi costau afresymol neu nad ydynt yn dechnegol ymarferol.
Felly, mae’r Awdurdod yn bwriadu newid Erthygl 54(2) i sefydlu’r prawf o gynaliadwyedd a’r defnydd o gofnodion prynu a chyflenwi fel y dull diofyn.
Sylwer, os gweithredir y newid hwn, bydd y gofyniad o beidio â hawlio ddwywaith yn cael ei gadw. Mae osgoi hawlio ddwywaith yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awyrennau sicrhau, a darparu tystiolaeth, yn ôl yr angen, i’w gwiriwr a’r rheoleiddiwr, nad oes unrhyw ran o’r SAF y mae gostyngiadau allyriadau yn cael eu hawlio ar ei chyfer wedi:
- Cael ei ddibynnu arno gan y gweithredwr cerbydau awyr i gael gostyngiad allyriadau neu fudd ariannol mewn cynllun rheoleiddio arall, fel CORSIA neu ETS yr UE;
- Cael ei drosglwyddo i berson arall.
13. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i newid Erthygl 54(2) Rheoliad Monitro ac Adrodd 2018 fel y’i haddaswyd i sefydlu’r defnydd o gofnodion prynu fel y dull diofyn i ddangos tystiolaeth o hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF?
Sicrhau bod gofynion y cynllun monitro yn berthnasol i allyrwyr bach
Mae Atodiad 1 o Reoliad Monitro ac Adrodd 2018, fel y’i haddaswyd gan Orchymyn ETS y DU, yn nodi’r gofynion sylfaenol ar gyfer cynllun monitro allyriadau gweithredwr cerbydau awyr. Ar hyn o bryd mae gofynion mewn perthynas â lle mae gweithredwr cerbydau awyr yn bwriadu hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF o dan ETS y DU yn y rhan o’r Atodiad sydd ond yn gymwys i weithredwyr cerbydau awyr nad ydynt yn allyrwyr bach (yn adran 2, ym mhwynt 2).
Gan fod pob gweithredwr cerbydau awyr yn gymwys i hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF, mae’r Awdurdod yn bwriadu diwygio Gorchymyn ETS y DU fel bod y gofynion hyn yn berthnasol i bob gweithredwr cerbydau awyr.
14. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i ddiwygio Gorchymyn ETS y DU fel bod gofynion cynllun monitro allyriadau sy’n ymwneud â hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF yn berthnasol i bob gweithredwr cerbydau awyr, nid dim ond y rhai nad ydynt yn allyrwyr bach?
Terfynau daearyddol
O dan ETS y DU (a CORSIA), nid oes unrhyw gyfyngiadau ar hyn o bryd ar ble y gellir prynu neu ddarparu SAF, gan ganiatáu i weithredwyr cerbydau awyr gaffael SAF o ranbarthau y tu allan i gwmpas hedfan y cynllun. Dim ond hediadau sy’n gadael o erodrom yn y DU ac yn cyrraedd erodrom yn y DU, gwladwriaeth yn yr AEE, Gibraltar neu’r Swistir, a hediadau o erodrom yn Gibraltar i erodrom yn y DU, sydd o fewn cwmpas ETS y DU. O dan Fandad SAF y DU, sy’n berthnasol i gyflenwyr tanwydd yn hytrach na chwmnïau hedfan, rhaid cyflenwi tanwydd cymwys i hedfan yn y DU.
Nid oes angen priodoli SAF cymwys i hediadau o fewn cwmpas ETS y DU. Mae hyn yn cyferbynnu ag ETS yr UE, sy’n ei gwneud yn ofynnol, er mwyn cefnogi hawliad am ostyngiadau mewn allyriadau, fod rhaid priodoli tanwydd awyrennau cymwys yn gorfforol i hediadau ETS yr UE fesul erodrom, naill ai trwy briodoli’n uniongyrchol lle mae SAF wedi’i gysylltu â hediadau penodol ETS yr UE sy’n gadael o’r erodrom hwnnw, neu, lle nad yw hyn yn ymarferol, gellir dyrannu SAF a godwyd yn yr erodrom hwnnw yn gyfrannol ar draws hediadau sy’n gadael ETS yr UE yn seiliedig ar allyriadau CO2.
Mae’r Awdurdod yn ceisio safbwyntiau ar fanteision a heriau absenoldeb terfynau daearyddol o dan ETS y DU.
15. Pa oblygiadau sydd gan absenoldeb cyfyngiadau daearyddol ar brynu a chyflenwi SAF, a’r cwmpas hedfan y gellir gwneud hawliadau arno, o dan ETS y DU ar eich gweithrediadau mewn perthynas â’r cynllun? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
Er mwyn helpu i lywio eich ateb, efallai yr hoffech ystyried:
- Risgiau a manteision cyrchu SAF o’r tu allan i gwmpas hedfan y cynllun;
- Effeithiau ar gystadleuaeth, cyfrifo carbon, a logisteg y gadwyn gyflenwi;
- A fyddai cysoni dull ETS y DU o ran terfynau daearyddol â’r dull a ddefnyddir o dan ETS yr UE neu Fandad SAF y DU yn cefnogi cysondeb neu’n creu heriau.
Rhowch unrhyw farn bellach ar oblygiadau’r diffyg cyfyngiadau daearyddol ar brynu a chyflenwi SAF o dan ETS y DU.
Materion tystiolaeth
Mae’r Awdurdod yn ymwybodol bod rhai cwmnïau hedfan yn wynebu heriau o ran cael mynediad at y ddogfennaeth sy’n ofynnol i gefnogi hawliadau llwyddiannus am leihau allyriadau o SAF o dan ETS y DU, tra hefyd mewn rhai achosion yn wynebu ffioedd ychwanegol gan gyflenwyr ar gyfer SAF.
Mae swyddogion yr Awdurdod yn gweithio i ganfod achos y mater sy’n ymwneud â chael mynediad at dystiolaeth gan gyflenwyr ac ystyried sut y gellir mynd i’r afael â hyn.
Hoffai’r Awdurdod gasglu unrhyw wybodaeth a safbwyntiau ychwanegol sydd gan randdeiliaid ar y mater hwn i gefnogi datrysiad priodol.
16. Oes gennych unrhyw wybodaeth a/neu farn am yr heriau y mae rhai cwmnïau hedfan yn eu hwynebu wrth gael mynediad at y ddogfennaeth angenrheidiol ar gyfer hawliadau SAF llwyddiannus o dan ETS y DU?
17. Oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer atebion priodol i’r heriau sy’n cael eu hwynebu?
Adnabod gweithredwr cerbydau awyr
Mae Gorchymyn ETS y DU yn gwneud addasiadau i Reoliad Monitro ac Adrodd 2018 sy’n berthnasol i ETS y DU. Mae hyn yn cynnwys addasiadau i Bennod IV sy’n amlinellu darpariaethau ar gyfer monitro allyriadau o hedfan. Ymdrinnir â darpariaethau cyffredinol yn Erthygl 51 o Reoliad Monitro ac Adrodd 2018 [footnote 24], gan gynnwys mewn perthynas ag adnabod gweithredwyr cerbydau awyr.
Ar hyn o bryd mae Gorchymyn ETS y DU yn nodi bod Erthygl 51 i’w darllen fel pe bai paragraffau 2 i 4 wedi’u hepgor. Mae hyn yn dileu cyfeiriad ar gyfer adnabod gweithredwr cerbydau awyr, yn benodol bod gweithredwyr cerbydau awyr i’w hadnabod gan eu harwydd galw (sydd naill ai’n dynodwr ICAO, neu os nad yw hyn ar gael, marciau cofrestru’r cerbyd awyr).
Mae’r Awdurdod yn deall bod y ddarpariaeth sy’n galluogi adnabod gweithredwyr cerbydau awyr trwy eu harwydd galw yn ddefnyddiol i reoleiddwyr a’r diwydiant. Felly, mae’r Awdurdod yn bwriadu gwneud gwelliant i’w gwneud yn glir y dylid defnyddio’r dull hwn wrth adnabod gweithredwr cerbydau awyr yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn ETS y DU.
Byddai’r diwygiad hwn yn darparu bod gweithredwr cerbydau awyr yn cael ei adnabod gan ei arwydd galw (h.y. dynodwr ICAO) neu, os nad yw ar gael, marciau cofrestru’r cerbyd awyr; os nad yw hyn yn hysbys, yna ystyrir mai perchennog y cerbyd awyr yw gweithredwr y cerbyd awyr.
18. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i ddarparu bod gweithredwr y cerbyd awyr yn cael ei adnabod gan ei arwydd galw (h.y. dynodwr ICAO) neu, os nad yw ar gael, marciau cofrestru’r cerbyd awyr; os nad yw hyn yn hysbys, yna ystyrir mai perchennog y cerbyd awyr yw gweithredwr y cerbyd awyr?
Terminoleg anghywir
Mae’r Awdurdod wedi nodi enghraifft o derminoleg anghywir a ddefnyddir yng Ngorchymyn ETS y DU. Mae erthygl 45(6) yn defnyddio’r term ‘aviation operator’ yn lle’r term cywir ‘aicraft operator’. Felly, mae’r Awdurdod yn bwriadu diwygio Gorchymyn ETS y DU fel bod y derminoleg gywir yn cael ei defnyddio.
19. Oes gennych unrhyw safbwyntiau ar gynnig Awdurdod ETS y DU i ddiwygio Erthygl 45(6) o Orchymyn ETS y DU fel bod y term cywir ‘aircraft operator’ yn cael ei ddefnyddio?
Effeithiau ar y Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth strategol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae gan ei Strategaeth Iaith, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, ddau darged cyffredinol: cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r ganran ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd erbyn 2050.
Mae’r strategaeth yn cael ei chyflwyno ar draws Llywodraeth Cymru, gan rychwantu gwahanol feysydd polisi megis tai, yr economi, amaethyddiaeth ac addysg. Felly, mae’n bwysig ein bod yn asesu effeithiau posib atebion polisi arfaethedig ar y Gymraeg ac ar gyflawni Strategaeth y Gymraeg.
Hoffem gael eich barn ar sut y gallai unrhyw newidiadau arfaethedig mewn perthynas â thrin SAF o dan ETS y DU gefnogi ein hymdrechion i gynyddu nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio Cymraeg, osgoi unrhyw effeithiau negyddol, a sicrhau ein bod yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth y Gymraeg.
20. Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol newid triniaeth SAF yn ETS y DU ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
21. Yn eich barn chi, a allai newid triniaeth SAF yn ETS y DU gael ei fformiwleiddio er mwyn:
- Cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
- Lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Cwestiynau ymgynghori
1. Oes gennych farn ar y mathau o danwydd cymwys o dan ETS y DU, ac a ddylai’r rhain gyd-fynd â’r mathau o danwydd cymwys o dan Mandad SAF y DU? Byddai hyn yn cynnwys ehangu’r mathau o SAF cymwys o dan ETS y DU i gynnwys tanwyddau carbon isel nad ydynt yn fiodanwyddau, megis tanwyddau pŵer-i-hylif a thanwyddau carbon wedi’u hailgylchu. Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
2. Oes gennych farn ar y meini prawf cynaliadwyedd y dylai SAF sy’n gymwys i hawlio gostyngiadau allyriadau o dan ETS y DU eu bodloni, ac a ddylid cysoni hyn â’r meini prawf cynaliadwyedd a nodir yn y Gorchymyn Mandad SAF? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
3. A yw’n well gennych drothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr o 65% neu 40% ar gyfer SAF sy’n gymwys ar gyfer hawliadau lleihau allyriadau o dan ETS y DU? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
4. Oes gennych chi unrhyw safbwyntiau eraill ar y potensial i newid y trothwy arbed allyriadau nwyon tŷ gwydr SAF ETS y DU? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
5. Oes gennych farn ar y cymharydd tanwydd ffosil, y mesurir arbedion allyriadau SAF yn ei erbyn, i’w ddefnyddio ar gyfer SAF sy’n gymwys yn ETS y DU, gan gynnwys a ddylai Awdurdod ETS y DU fabwysiadu’r cymharydd tanwydd ffosil o 89gC/MJ yn unol â Mandad SAF? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
6. A yw’n well gennych ddull sgôr sero neu asesiad cylch oes o ran sut mae SAF yn cael ei gydnabod o dan ETS y DU? Esboniwch eich ateb.
7. Pe bai Awdurdod ETS y DU yn gweithredu dull sy’n seiliedig ar asesiad cylch oes i hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF yn ETS y DU, a oes gennych unrhyw farn ar ba fethodolegau y dylid eu derbyn ar gyfer SAF cymwys? Esboniwch eich ateb.
8. Ydych chi’n meddwl bod Pecyn polisi 1 a/neu Becyn polisi 2 yn cynrychioli dull addas o gydnabod SAF o dan ETS y DU? Esboniwch eich ymateb.
9. Oes unrhyw becynnau polisi pellach a fyddai’n fwy priodol ac y dylai’r Awdurdod eu hystyried?
10. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i egluro’r gofynion deddfwriaethol ar brynu a chyflenwi SAF at ddibenion hawlio gostyngiadau mewn allyriadau o dan ETS y DU? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
11. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i egluro mewn deddfwriaeth y terfyn ar faint o SAF y gellir hawlio gostyngiadau allyriadau ar ei gyfer, ac na ellir cario hawliadau am ostyngiadau allyriadau o SAF i flynyddoedd dilynol y cynllun? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
12. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i egluro mewn deddfwriaeth bod hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF yn effeithio ar rwymedigaethau ildio gweithredwyr cerbydau awyr yn unig?
13. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i newid Erthygl 54(2) Rheoliad Monitro ac Adrodd 2018 fel y’i haddaswyd i sefydlu’r defnydd o gofnodion prynu fel y dull diofyn i ddangos tystiolaeth o hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF?
14. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i ddiwygio Gorchymyn ETS y DU fel bod gofynion cynllun monitro allyriadau sy’n ymwneud â hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF yn berthnasol i bob gweithredwr cerbydau awyr, nid dim ond y rhai nad ydynt yn allyrwyr bach?
15. Pa oblygiadau sydd gan absenoldeb cyfyngiadau daearyddol ar brynu a chyflenwi SAF, a’r cwmpas hedfan y gellir gwneud hawliadau arno, o dan ETS y DU ar eich gweithrediadau mewn perthynas â’r cynllun? Rhowch dystiolaeth a/neu esboniwch eich ateb os yw’n bosibl.
Er mwyn helpu i lywio eich ateb, efallai yr hoffech ystyried:
- Risgiau a manteision cyrchu SAF o’r tu allan i gwmpas hedfan y cynllun;
- Effeithiau ar gystadleuaeth, cyfrifo carbon, a logisteg y gadwyn gyflenwi;
- A fyddai cysoni dull ETS y DU o ran terfynau daearyddol â’r dull a ddefnyddir o dan ETS yr UE neu Fandad SAF y DU yn cefnogi cysondeb neu’n creu heriau.
Rhowch unrhyw farn bellach ar oblygiadau’r diffyg cyfyngiadau daearyddol ar brynu a chyflenwi SAF o dan ETS y DU.
16. Oes gennych unrhyw wybodaeth a/neu farn am yr heriau y mae rhai cwmnïau hedfan yn eu hwynebu wrth gael mynediad at y ddogfennaeth angenrheidiol ar gyfer hawliadau SAF llwyddiannus o dan ETS y DU?
17. Oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer atebion priodol i’r heriau sy’n cael eu hwynebu?
18. Ydych chi’n cytuno â chynnig Awdurdod ETS y DU i ddarparu bod gweithredwr y cerbyd awyr yn cael ei adnabod gan ei arwydd galw (h.y. dynodwr ICAO) neu, os nad yw ar gael, marciau cofrestru’r cerbyd awyr; os nad yw hyn yn hysbys, yna ystyrir mai perchennog y cerbyd awyr gweithredwr y cerbyd awyr?
19. Oes gennych unrhyw safbwyntiau ar gynnig Awdurdod ETS y DU i ddiwygio Erthygl 45(6) o Orchymyn ETS y DU fel bod y term cywir ‘aircraft operator’ yn cael ei ddefnyddio?
20. Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol newid triniaeth SAF yn ETS y DU ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
21. Yn eich barn chi, a allai newid triniaeth SAF yn ETS y DU gael ei fformiwleiddio neu ei newid er mwyn:
- Cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
- Lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Y camau nesaf
Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu defnyddio i ddatblygu penderfyniadau polisi terfynol ar gyfer trin SAF o dan ETS y DU.
Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor am 12 wythnos cyn iddo gau. Bydd yr Awdurdod wedyn yn gweithio drwy’r ymatebion ac yn anelu at gyhoeddi Ymateb yr Awdurdod yn 2026, gyda’r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau erbyn 2028.
Geirfa
| Biodanwydd | Diffinnir biodanwyddau fel tanwydd hylifol neu nwyol ar gyfer trafnidiaeth a gynhyrchir o fiomas; diffinnir biomas fel y ffracsiwn bioddiraddadwy o gynhyrchion, gwastraff a gweddillion o darddiad biolegol o amaethyddiaeth (gan gynnwys sylweddau llysieuol ac anifeiliaid), coedwigaeth a diwydiannau cysylltiedig gan gynnwys pysgodfeydd a dyframaethu, yn ogystal â’r ffracsiwn bioddiraddadwy o wastraff diwydiannol a threfol. [footnote 25] |
|---|---|
| Biomas | Deunydd planhigion neu anifeiliaid organig. |
| CORSIA | Y Cynllun Gwrthbwyso a Lleihau Carbon ar gyfer Hedfan Rhyngwladol. |
| Tanwydd ‘Drop-in’ | Tanwydd sy’n union yr un fath yn swyddogaethol â thanwydd arall, ac felly gellir ei amnewid mewn cymysgedd tanwydd, fel arfer i gymhareb cymysgedd uchaf. |
| Cymharydd Tanwydd Ffosil | Dwysedd allyriadau tanwydd hedfan confensiynol, lle y mesurir dwysedd allyriadau SAF yn ei erbyn. |
| Nwyon Tŷ Gwydr | Mae nwyon tŷ gwydr yn bodoli yn atmosffer y ddaear ac yn dal gwres. |
| Dwysedd Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr | Màs y nwyon tŷ gwydr a allyrrir o egni uned o danwydd pan gaiff ei losgi, wedi’i fesur mewn gCO2e/MJ. |
| Arbedion Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr | Faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd wedi’u lleihau trwy weithred benodol neu ddilyniant o gamau gweithredu. |
| Trothwy Arbed Allyriadau Nwyon Gwydr | Y ganran neu gyfaint isaf o arbedion allyriadau nwyon tŷ gwydr y mae’n rhaid i danwydd eu gwneud i fod yn gymwys o dan gynlluniau penodol. |
| Esterau ac Asidau Brasterog wedi’u Hydrobrosesu (HEFA) | Math o fiodanwydd a gynhyrchir o olewau a brasterau. |
| ICAO | Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol. |
| Asesiad Cylch Oes | Mae asesiadau cylch oes yn mesur faint o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu cynhyrchu, neu eu harbed, ar draws cylchoedd oes cyfan prosesau neu gynhyrchion penodol. |
| Arbedion allyriadau cylch oes | Faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd wedi’u lleihau ar draws cylch oes cyfan cynnyrch neu broses benodol. |
| Pŵer-i-hylif (PtL) | Dull o gynhyrchu tanwydd synthetig sy’n defnyddio dŵr, carbon deuocsid a thrydan adnewyddadwy. Mae tanwyddau PtL yn fath o SAF. |
| Tanwydd Carbon wedi’i Ailgylchu (RCF) | Math o SAF a gynhyrchir o gydrannau wedi’u hailgylchu o darddiad ffosil. |
| RED II | Cyfarwyddeb Ynni Adnewyddadwy yr UE. |
| Tanwydd Adnewyddadwy o Darddiad Anfiolegol (RFNBO) | Tanwydd trafnidiaeth hylifol neu nwyol adnewyddadwy nad oes unrhyw gynnwys ynni’r tanwydd yn dod o ffynonellau biolegol. |
| Rhwymedigaeth Tanwydd Trafnidiaeth Adnewyddadwy (RTFO) | Mae’r RTFO yn rheoleiddio tanwydd adnewyddadwy a ddefnyddir ar gyfer trafnidiaeth. Rhaid i gyflenwyr gyflenwi cyfaint penodol o danwydd adnewyddadwy fel rhan o’u cyfanswm gwerthiannau tanwydd. |
| Tanwydd Hedfan Cynaliadwy (SAF) | Mae SAF yn danwydd hedfan cynaliadwy y gellir ei ddefnyddio yn lle, neu gymysgu â cherosin ffosil traddodiadol. |
| Mandad SAF y DU | Mandad SAF yw mecanwaith polisi allweddol y DU i sicrhau galw am SAF a daeth i rym ar 1 Ionawr 2025, gan olynu cefnogaeth yr RTFO i SAF. Mae’n darparu arbedion allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy annog cyflenwad SAF yn y diwydiant hedfan. Y darged bresennol yw 2%, gan godi i 10% yn 2030 a 22% yn 2040. |
| Meini Prawf Cynaliadwyedd | Set o feini prawf y mae’n rhaid i danwyddau eu bodloni i gael eu hystyried yn danwydd cymwys o dan gynllun penodol. |
| Tanwyddau Synthetig | Tanwyddau a gynhyrchir yn artiffisial gyda’r un priodweddau â thanwyddau ffosil confensiynol. |
| ETS y DU | Dyma dalfyriad cyffredin ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. |
| Awdurdod ETS y DU | Mae’r Awdurdod yn cynnwys: Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon. |
| Sgôr sero | Mae SAF yn cael ei drin fel pe bai’n cynhyrchu dim allyriadau o dan ETS y DU; nid yw’n ofynnol i weithredwyr ildio unrhyw lwfansau ar gyfer y màs o SAF a hawliwyd. |
-
Developing the UK Emissions Trading Scheme: Main Response. ↩
-
A renewed agenda for European Union – United Kingdom cooperation: Common Understanding. ↩
-
The future of flight takes off as Virgin airliner crosses Atlantic solely powered by sustainable aviation fuel - GOV.UK. ↩
-
Mae’r darpariaethau cyfreithiol manwl ar gyfer hawlio gostyngiadau allyriadau o SAF wedi’u nodi yn Erthygl 54 o Reoliad Monitro ac Adrodd 2018, fel y’i haddaswyd gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020, a gellir dod o hyd iddynt yma: The Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme Order 2020, Schedule 4, paragraph 27. ↩
-
Gorchymyn Rhwymedigaethau Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy 2007. ↩
-
The Renewable Transport Fuel Obligations Order 2007, Schedule 1, paragraph 4. ↩
-
Mae’r cymharydd tanwydd ffosil a ddefnyddir gan y Mandad SAF yn unol â’r hyn a ddefnyddir gan CORSIA, a bennwyd yn seiliedig ar werth cyfartalog byd-eang ar gyfer hedfan. Mae rhagor o fanylion ar gael yma: CORSIA Eligible Fuels – Life Cycle Assessment Methodology: supporting document. ↩
-
Ymgynghoriad: Developing the UK ETS: initial UK ETS Authority response covering proposals to be implemented by 2023. ↩
-
Ymateb yr Awdurdod: Developing the UK Emissions Trading Scheme: Main Response. ↩
-
The Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme Order 2020, Schedule 4, paragraph 27. ↩
-
Mae hyn yn cyfeirio at safleoedd lle roedd cynhyrchu SAF yn digwydd ar 5 Hydref 2015 neu cyn hynny. ↩
-
Erthygl 3(21) a (22) o Reoliad Monitro ac Adrodd 2018, fel y’i haddaswyd gan Orchymyn ETS y DU. ↩
-
The Renewable Transport Fuel Obligations (Sustainable Aviation Fuel) Order 2024. ↩
-
The Renewable Transport Fuel Obligations (Sustainable Aviation Fuel) Order 2024. ↩
-
Mae rhagor o fanylion ar gael yma: CORSIA Eligible Fuels – Life Cycle Assessment Methodology: supporting document). ↩
-
METS yw gwasanaeth ar-lein swyddogol Llywodraeth y DU a ddefnyddir gan weithredwyr, rheoleiddwyr a gwirwyr i reoli rhwymedigaethau o dan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU (ETS y DU) a CORSIA. ↩
-
Dadansoddwyd pob opsiwn lle cymharir y trothwy cymwys â chymharydd tanwydd ffosil o 89 gCO2e/MJ. Pe bai ETS y DU yn cynnal y cymharydd tanwydd ffosil presennol o 94 gCO2e/MJ, byddai hyn yn effeithio ar yr effeithiau a aseswyd ond i raddau ymylol. ↩
-
Sylwch fod gwerthoedd y lwfansau hyn ar gyfer y DU yn cael eu modelu dros y cyfnod 2025-2040, tra bod cap lwfans ETS y DU yn cael ei ddeddfu hyd at (ac yn cynnwys) 2030 yn unig. Mae hyn yn golygu bod y cyfnod 2031-2040 yn ein modelu yn defnyddio cap amcangyfrifedig ETS y DU ar ôl 2030 mewn amcanestyniadau o werthoedd lwfansau’r DU. Gallai’r cap amcangyfrifedig ar ôl 2030 newid, a fydd yn cael effaith ganlyniadol ar werthoedd amcanestynedig lwfansau’r DU. ↩
-
The Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme Order 2020, Schedule 4, paragraph 27. ↩
-
UK ETS technical guidance: Monitoring and Reporting Regulation (MRR) 2018 - GOV.UK. ↩
-
Erthygl 3(21) a (22) o Reoliad Monitro ac Adrodd 2018, fel y’i haddaswyd gan Orchymyn ETS y DU. ↩