Consultation outcome

Serious violence legal duty consultation - Welsh version (accessible version)

Updated 18 August 2021

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 1 Ebrill 2019.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 28 Mai 2019.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

At: Y cyhoedd, y rhai ag arbenigedd mewn gweithio gyda phobl ifanc mewn risg o ymwneud â throseddau a/neu aildroseddu neu gael eu herlid, y rhai sy’n ymwneud â gorfodi’r gyfraith ac, yn fwy cyffredinol, y cymunedau y mae trais difrifol yn effeithio arnynt gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol perthnasol, fel y rhai sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, addysg, gorfodi’r gyfraith, llywodraeth leol, diogelwch cymunedol, gwasanaethau ieuenctid, rheoli troseddwyr, gwasanaethau dioddefwyr, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd.

Hyd: O 01/04/19 hyd 28/05/19

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur ar ffurfiau gwahanol) at:

Serious Violence Legal Duty Consultation
Home Office
Serious Violence Unit
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Ffôn: 0207 035 8303 E-bost: SVLegalDutyConsultation@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb: Er mwyn helpu i ddadansoddi’r ymatebion, cyflwynwch eich ymateb gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Anfonwch eich ymateb erbyn 28 Mai 2019 os gwelwch yn dda.

Os, am resymau eithriadol, nad ydych chi’n gallu defnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chi’n defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon trwy’r post neu ar e-bost at:

Serious Violence Legal Duty Consultation
Home Office
Serious Violence Unit
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Ffôn: 0207 035 8303

E-bost: SVLegalDutyConsultation@homeoffice.gov.uk

Papur ymateb: Dylai ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn gael ei gyhoeddi cyn pen 12 wythnos o ddyddiad cau’r ymgynghoriad.

Crynodeb gweithredol

Mae taclo trais difrifol yn flaenoriaeth amlwg gan y Llywodraeth ac rydym yn benderfynol o barhau i gynyddu’r ymateb i atal y trais hwn. Mae’r Strategaeth Trais Difrifol yn nodi dull y Llywodraeth, yr ydym yn glir nad yw yn canolbwyntio yn unig ar orfodi’r gyfraith, ond sy’n dibynnu hefyd ar ddull amlasiantaethol ar draws sawl sector ac yn pwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar i daclo’r hyn sydd wrth wraidd y broblem.

Fel rhan o’n penderfyniad i ymdrin â’r broblem hon, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori a ddylid cyflwyno dyletswydd gyfreithiol i gefnogi’r camau amlasiantaethol sydd eu hangen i atal a thaclo trais difrifol. Cyhoeddwyd y bwriad i ymgynghori ar y cynnig hwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Hydref 2018 ac mae’n adeiladu ar Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth a lansiwyd yn Ebrill 2018.

Mae’r papur ymgynghorol yn nodi’r dewisiadau i gefnogi dull amlasiantaethol neu ‘iechyd cyhoeddus’ trwy gyflwyno dyletswydd gyfreithiol newydd. Mae hefyd yn cynnwys dewis heb fod yn gyfreithiol, i bartneriaid i weithio gyda’i gilydd yn wirfoddol i daclo trais difrifol. Yn y ddogfen hon, rydym yn amlinellu sail ar gyfer dyletswydd gyfreithiol newydd, rydym yn disgrifio beth a olygir yn yr ymgynghoriad hwn trwy ‘drais difrifol’ a dull amlasiantaethol neu ‘iechyd cyhoeddus’ ac rydym yn rhoi manylion am y gwahanol fodelau partneriaeth. Mae’r papur ymgynghorol yn esbonio’r ddadl a’n gweledigaeth ar gyfer dyletswydd o’r fath ac yn cyflwyno gwahanol ddewisiadau ac yn gofyn cwestiynau amdanynt. Mae holiadur yn crynhoi’r cwestiynau a ofynnwyd ar ddiwedd y ddogfen. Bydd asesiad llawn o gostau yn cael ei gynnwys fel rhan o ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad hwn maes o law.

Cwmpas daearyddol yr ymgynghoriad yw Cymru a Lloegr, gan adlewyrchu un y Strategaeth Trais Difrifol. Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r bwriad i wella ymyrraeth gynnar ac atal trais difrifol trwy ddull ataliol ‘iechyd cyhoeddus’ mewn egwyddor. Er mwyn sicrhau bod yr ymateb i’r ymgynghoriad yn effeithiol yng nghyd-destun Cymru bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i adlewyrchu’r gofynion polisi a deddfwriaethol yng Nghymru, gan gyd-fynd yn benodol â’r swyddogaethau sydd wedi eu datganoli, sef: iechyd; gwasanaethau cymdeithasol; tai ac addysg. Nid yw cyfiawnder a phlismona yn swyddogaethau sydd wedi eu datganoli yng Nghymru, ond, mae’r gorchmynion deddfwriaethol penodol canlynol yn cael effaith uniongyrchol ar gyflawni gwasanaethau cyfiawnder:

Fel ymateb i’r ymgynghoriad, bydd Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gweithio gyda’i gilydd i ystyried unrhyw oblygiadau o ran adnoddau, cyllidebau a swyddogaethau.

Yng Nghymru, mae Gweithgor Trais Difrifol Cymru Gyfan dan gadeiryddiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn rhoi cyd-destun amlasiantaethol y mae dull iechyd cyhoeddus yn cael ei weithredu trwyddo o ran trais difrifol ac i symud yr ymrwymiadau a nodwyd yn y Strategaeth Trais Difrifol ymlaen. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ystyried blaenoriaethau parhaus y grŵp a’i aelodau.

Mae’r ymgynghoriad yn agored i bawb. Ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rhai ag arbenigedd mewn gweithio gyda phobl ifanc mewn risg o ymwneud â throseddau a/neu aildroseddu neu gael eu herlid, y rhai sy’n ymwneud â gorfodi’r gyfraith ac, yn fwy cyffredinol, y cymunedau y mae trais difrifol yn effeithio arnynt, gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol perthnasol, fel y rhai sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, addysg, gorfodi’r gyfraith, llywodraeth leol, diogelwch cymunedol, gwasanaethau ieuenctid, rheoli troseddwyr, gwasanaethau dioddefwyr, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd. I gydnabod dulliau amlasiantaethol y tu allan i Gymru a Lloegr, byddem hefyd yn croesawu ymatebion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Cyflwyniad

Ar 2 Hydref 2018, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref gamau mawr newydd i daclo troseddau treisgar. Yn gyntaf, Cronfa Waddol Ieuenctid £200 miliwn newydd a fydd yn cael ei chyflwyno dros 10 mlynedd ac yn cefnogi ymyraethau gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn risg o gymryd rhan mewn troseddau a thrais. Yn ail, adolygiad annibynnol o gamdrin cyffuriau sydd yn mynd at graidd ymdrin â’r hyn sy’n achosi trais difrifol. Ac yn drydydd, yr ymgynghoriad hwn ar ddyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol ac i ymdrin â’r hyn sy’n ei achosi.

Y Strategaeth Trais Difrifol

Mae’r camau a amlinellir gan yr Ysgrifennydd Cartref yn adeiladu ar Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth (y Strategaeth), a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018. Mae’r Strategaeth yn amlinellu rhaglen waith uchelgeisiol i daclo’r cylch dieflig o drais sy’n chwalu bywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae’r Strategaeth yn newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn meddwl am drais difrifol ac yn ymateb iddo, gan sefydlu cydbwysedd newydd rhwng atal a gorfodi’r gyfraith.

Mae ein dull yn dibynnu, nid yn unig ar waith hanfodol gorfodi’r gyfraith, ond hefyd ar harneisio gwerth partneriaethau traws-sectoraidd gan gynnwys addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau dioddefwyr wrth daclo trais difrifol. Mae’r Strategaeth yn cynnwys y Gronfa Ymyrraeth Gynnar Ieuenctid sy’n annog gweithio mewn partneriaeth rhwng y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt) trwy roi arian i gefnogi gweithgaredd ymyrraeth gynnar ac atal gyda phlant a phobl ifanc.

Roedd y Strategaeth yn ymateb i gynnydd mewn troseddau cyllyll, troseddau gynnau a lladdiadau. Mae’r Strategaeth yn dangos bod y cynnydd yma yn cael ei yrru gan droseddu gan ddynion ar ddynion ynghyd â symudiad tuag at droseddu gan bobl ifanc. Rydym yn gwybod, er bod y cynnydd yn genedlaethol, bod cymunedau penodol yn cael eu heffeithio yn anghymesur gan y trais hwn, yn arbennig mewn ardaloedd trefol.

Mae amrywiaeth o ffactorau yn debygol o fod yn gyrru’r cynnydd mewn trais difrifol, yn fwyaf penodol newidiadau yn y farchnad gyffuriau. Er enghraifft, gwelwyd cynnydd yn y defnydd o grac cocên ers 2014 a thwf y llinellau sirol lle mae gangiau gwerthu cyffuriau o ardaloedd trefol mawr, fel Llundain, Birmingham a Lerpwl – wedi ceisio manteisio ar farchnadoedd mewn ardaloedd eraill i gyflenwi cyffuriau.- Mae peth tystiolaeth hefyd y gall y cyfryngau cymdeithasol hefyd yrru a gwaethygu’r trais.

Mae’r Strategaeth yn amlinellu’r hyn yr ydym yn ei wybod am y gwahanol ffactorau risg a all effeithio ar wendid unigolyn a’r tebygolrwydd y bydd yn dioddef neu yn cyflawni trais difrifol. Mae’r ffactorau risg yma yn cynnwys cam-drin domestig, triwantiaeth, gwaharddiad o’r ysgol a cham-drin sylweddau. Mae’r Strategaeth hefyd yn nodi’r dystiolaeth a’r gefnogaeth ar gyfer ymyraethau wedi eu targedu a all helpu i liniaru’r ffactorau hyn a diogelu plant a phobl ifanc rhagddynt.

Gyda hyn mewn cof y dylai’r ddyletswydd i atal a thaclo trais difrifol atgyfnerthu pwyslais ar ymyrraeth gynnar ac atal gyda phobl ifanc.

Bydd y dull hwn yn cael ei gynnal gan £100 miliwn ychwanegol o gyllid yn 2019/20, a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys ar 13 Mawrth 2019, i helpu ymateb diymdroi’r heddlu i’r cynnydd mewn troseddau cyllyll difrifol, gan alluogi’r lluoedd sy’n cael blaenoriaeth i roi’r adnoddau ychwanegol y mae arnynt eu hangen yn eu lle. Bydd yr arian hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn Unedau Lleihau Trais mewn ardaloedd o Gymru a Lloegr y mae troseddau cyllyll yn effeithio mwyaf arnynt. Bydd yr unedau newydd yn dod ag amrywiaeth o asiantaethau at ei gilydd gan gynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac eraill, i ddatblygu dull amlasiantaethol wrth atal trais difrifol gyda’i gilydd.

Beth ydym ni’n ei feddwl wth sôn am Drais Difrifol?

Pan fyddwn yn sôn am drais difrifol rydym yn cyfeirio at gwmpas y Strategaeth Trais Difrifol. Mae’r Strategaeth yn ymwneud yn bennaf â mathau penodol o droseddau gan gynnwys lladdiadau, troseddau cyllyll, a throseddau gynnau a meysydd o droseddoldeb lle mae trais difrifol neu fygythiad ohono yn rhan annatod ohono, fel wrth ddelio cyffuriau ar linellau sirol.

Mae trais difrifol hefyd yn ymestyn i ffurfiau eraill o ymosodiadau difrifol. Rydym yn gwybod bod cyfran sylweddol o drais yn gysylltiedig â naill ai cam-drin domestig neu alcohol, ond nid yw’r ddwy elfen bwysig yma yn gyrru’r cynnydd yr ydym yn ei weld mewn troseddau treisgar. Dyna pam nad ydynt yn ganolbwynt i’r Strategaeth. Nid yw’r Strategaeth yn ymdrin â cham-drin rhywiol, caethwasiaeth fodern na thrais yn erbyn menywod a merched. Gall y rhain i gyd gynnwys ffurfiau ar drais difrifol ond mae strategaethau penodol eisoes yn ymwneud â’r materion pwysig yma, ac felly nid ydynt wedi eu cynnwys yng nghwmpas y gwaith hwn.

Beth yw dull ‘iechyd cyhoeddus’?

Mae arnom angen defnyddio dull amlasiantaethol i ddeall achosion a chanlyniadau trais difrifol, yn canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, ac ar sail tystiolaeth a gwerthusiad trylwyr o’r ymyraethau. Cyfeirir at hyn yn aml fel dull ‘iechyd cyhoeddus’. Mae hyn yn gofyn i amrywiaeth o gyrff a sefydliadau weithio gyda’i gilydd i daclo’r mater hwn gan gynnwys asiantaethau gorfodi’r gyfraith, partneriaid addysg, awdurdodau lleol, gwasanaethau rheoli troseddwyr gan gynnwys gwasanaethu troseddwyr ifanc a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac iechyd cyhoeddus i weithredu ar y cyd. Byddem hefyd yn disgwyl i’r partneriaid hynny chwilio am gyfleoedd i dynnu cefnogaeth ac arbenigedd ehangach i mewn yn eu cymunedau, gan gynnwys y rhai yn y sector gwirfoddol ac elusennol.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi pledio dros ddefnyddio ‘dull iechyd cyhoeddus’ i ymdrin â thrais. O’i grynhoi yn fyr, mae’r dull y maent yn ei argymell:

  • Yn canolbwyntio ar boblogaeth a ddiffinnir, gyda risg iechyd yn gyffredin iddynt yn aml;
  • Gyda a thros gymunedau;
  • Heb ei gyfyngu gan derfynau sefydliadol neu broffesiynol;
  • Yn canolbwyntio ar greu atebion tymor hir a thymor byr;
  • Yn seiliedig ar ddata a gwybodaeth i ddynodi’r baich ar y boblogaeth, gan gynnwys unrhyw anghyfartaledd;
  • Wedi ei wreiddio ar sail tystiolaeth o effeithiolrwydd wrth drin y broblem.

Mae dull ataliol amlasiantaethol, fel yr amlinellir uchod, eisoes yn cael ei symud ymlaen trwy Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth. Ond, i atgyfnerthu hyn, rydym yn ymgynghori ar seilio’r dull hwn ar ddyletswydd statudol ar bartneriaid ac asiantaethau perthnasol.

Dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol

Mae amrywiaeth o fodelau amlasiantaethol yn atal a thaclo trais difrifol. Maent yn gweithio trwy ddwyn asiantaethau perthnasol at ei gilydd i gydweithio ac i lunio penderfyniadau ar sail gwybodaeth gan ei gilydd.

Yn y Deyrnas Unedig, daeth dull ataliol amlasiantaethol o ymdrin â thrais difrifol i gael ei gysylltu’n glos â gwaith yr Uned Lleihau Trais yn yr Alban. Mae Llywodraeth yr Alban yn cefnogi’r uned ganolog hon sy’n arwain ar ddwyn partneriaid ar brosiectau ataliol cydweithredol at ei gilydd.

Yng Nghymru, yn 2018, llofnododd partneriaid Iechyd Cyhoeddus, Plismona a Chyfiawnder Troseddol gytundeb partneriaeth i weithio gyda’i gilydd i yrru gweithredu sy’n creu newid trwy’r system gyfan, gan wella ansawdd bywyd, llesiant a diogelwch pobl sy’n byw yng Nghymru. Cefnogodd Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru egwyddorion y cytundeb ac uchelgais y partneriaid i weithio gyda’i gilydd i greu newid yn y system gyfan a chyflawni gwasanaeth integredig er mwyn gwasanaethu teuluoedd a chymunedau ar draws Cymru yn well.

Mae’r bartneriaeth yng Nghymru yn cydnabod bod cysylltiad agos iawn rhwng plismona ac iechyd cyhoeddus; yr Heddlu yw’r ymatebwyr cyntaf i amrywiaeth o sefyllfaoedd cymhleth yn ymwneud â materion â chysylltiad troseddol, sifil neu iechyd cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod trwy adborth gan y pedwar llu yng Nghymru bod y rhan fwyaf o amser yr heddlu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael ei dreulio yn ymateb i faterion cymdeithasol cymhleth, yn canolbwyntio yn benodol ar iechyd a llesiant yn fwy na throseddau, ac felly mae defnyddio dull iechyd cyhoeddus yn cynnig fframwaith effeithiol i alluogi atal ac ymyrraeth gynnar.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn am weithio amlasiantaethol i ymdrin ag achosion sylfaenol problemau fel trais difrifol trwy roi blaenoriaeth i atal, cydweithio, integreiddio, cynllunio tymor hir a chyfranogiad. Gelwir y rhain yn bum ffordd o weithio sy’n sylfaenol i’r ddeddfwriaeth a gweithredu dull iechyd cyhoeddus, y mae’n orfodol i’r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu dilyn:

a) Atal - deall achosion gwaelodol problemau a phan fydd yn addas, buddsoddi mewn ymyraethau ymhellach oddi wrth y bobl;

b) Cydweithio - gweithredu ar y cyd gydag eraill i ddynodi blaenoriaethau a rennir, a chyfleoedd i gyfuno cyllidebau ac adnoddau ar y cyd;

c) Cynnwys - ymgysylltu a chynnwys partneriaid a’r amrywiaeth o unigolion y mae ein penderfyniadau yn effeithio arnynt;

d) Integreiddio - ystyried sut y gall llunio penderfyniadau effeithio ar bob un o’r nodau llesiant;

e) Pwyslais tymor hir - cydbwyso anghenion tymor hir a thymor byr, gan sicrhau cynaliadwyedd a pharatoi at y dyfodol.

Mae’r dull iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo defnyddio ymchwil a thystiolaeth gadarn i fod yn sail i atebion a’u profi gan dynnu ar safbwyntiau amlasiantaethol ac asedau partneriaid ehangach i gyfrannu yn fwyaf defnyddiol at flaenoriaethau a rennir. Mae’n bwysig gwneud y gwahaniaeth hwn fel rhan o’r broses ymgynghori.

Dengys yr enghreifftiau o’r Alban a Chymru sut y gall y dull ataliol amlasiantaethol gael ei weithredu yn y Deyrnas Unedig, gydag iechyd, addysg, gorodi’r gyfraith ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i atal trais. Mae hefyd yn cael ei fabwysiadu mewn rhannau o Loegr. Er enghraifft, mae Uned Lleihau Trais aml-ddisgyblaethol yn cael ei sefydlu yn Llundain i arwain a chyflawni dull iechyd cyhoeddus tymor hir i daclo achosion troseddau treisgar.

Partneriaethau

Mae amrywiaeth o bartneriaethau amlasiantaethol eisoes yn eu lle yng Nghymru a Lloegr a all chwarae rôl bwysig wrth atal a thaclo trais difrifol. Rydym wedi crynhoi rhai o’r partneriaethau allweddol isod. Ond, mae trefniadau amlasiantaethol eraill yn bodoli ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy’n dwyn rhai o’r un partneriaid at ei gilydd.

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn, byddai gennym ddiddordeb mawr mewn clywed barn am sut y gall unrhyw ddyletswydd newydd gael ei hymwreiddio yn y partneriaethau sy’n bodoli sy’n arwain ar ddiogelu neu Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol.

Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

Sefydlwyd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, a elwid yn Bartneriaethau Lleihau Troseddau ac Anhrefn yn y gorffennol, dan Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 i helpu i daclo troseddu a lleihau aildroseddu. Mae tua 300 o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn Lloegr a 22 yng Nghymru, ar lefel dosbarth neu awdurdod unedol fel arfer. Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cynnwys cynrychiolwyr o ‘awdurdodau cyfrifol’ gan gynnwys: heddlu, gwasanaeth prawf, awdurdodau lleol, iechyd, awdurdodau tân ac achub sy’n gyfrifol am ddatblygu strategaethau i leihau troseddau a throseddu yn eu hardaloedd. Mae dyletswydd ar Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau a’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol fel ei gilydd i gydweithio i leihau troseddau a throseddu ers 2011 hefyd.[footnote 1]

Mae gan yr awdurdodau cyfrifol ddyletswydd statudol i gydweithio i: leihau aildroseddu; taclo troseddau ac anhrefn; taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol; taclo camddefnyddio alcohol a sylweddau; a thaclo unrhyw ymddygiad arall sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol. Gall Partneriaethau Diogelwch Cymunedol hefyd weithio gydag unrhyw bartneriaid lleol eraill y maent yn dymuno, gan gynnwys cynrychiolwyr busnes a’r sector gwirfoddol a chymunedol.

Wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol, mae gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol hefyd ymrwymiadau pellach gan gynnwys: sefydlu grŵp strategol i gyfeirio gwaith y bartneriaeth; i ymgysylltu yn gyson ac ymgynghori â’r gymuned am eu blaenoriaethau a’r cynnydd wrth eu cyflawni; i drefnu protocolau a systemau i rannu gwybodaeth; dadansoddi amrywiaeth eang o ddata, gan gynnwys lefelau a phatrymau troseddau a gofnodwyd, er mwyn dynodi blaenoriaethau mewn asesiad strategol blynyddol; nodi cynllun partneriaeth a monitro cynnydd; cynhyrchu strategaeth i leihau aildroseddu; a chomisiynu adolygiadau lladdiadau trais domestig.

Mae gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol a chyrff cyfatebol rôl bwysig iawn i’w chwarae yn barod wrth atal a thaclo trais difrifol ac mae rhai enghreifftiau o arfer da yn y cyd-destun hwn. Er enghraifft, yn Swydd Bedford ac Essex, mae partneriaid cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall bod lleihau’r galw cynyddol am gyffuriau dosbarth A yn rhan allweddol o daclo llinellau sirol. Ond mae’n cael ei gydnabod bod Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gryfach mewn rhai ardaloedd nag eraill, a gall yr amrywiad hwn gael effaith ar effeithiolrwydd rhai Partneriaethau Diogelwch Cymunedol wrth daclo troseddau treisgar.

Diogelu

Mae’r dull o ddiogelu yn Lloegr yn cynnig enghraifft ddefnyddiol o weithio amlasiantaethol. Diddymwyd y Byrddau Diogelu Plant Lleol mewn gwirionedd gan Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017, trwy dynnu dyletswyddau Deddf Plant 2004 oddi arnynt. Yn eu lle mae’n rhoi mwy o annibyniaeth i dri ‘phartner diogelu’ allweddol - yr awdurdod lleol, unrhyw Grwpiau Comisiynu Clinigol sy’n gweithredu yn yr ardal a’r Prif Swyddog Heddlu - i roi arweiniad strategol a gwneud trefniadau diogelu sy’n ymateb i anghenion yr holl blant yn eu hardal.

Eu prif gyfrifoldebau yw:

  • Cyhoeddi eu trefniadau diogelu lleol;
  • Trefnu ar gyfer craffu annibynnol ar eu trefniadau diogelu lleol;
  • Cydweithio gydag ‘asiantaethau perthnasol’ yn eu hardal;
  • Dynodi a goruchwylio adolygu achosion diogelu difrifol yn eu hardal, ac ymwreiddio unrhyw wersi;
  • Cyhoeddi adroddiad bob 12 mis ar yr hyn y maent hwy a’r asiantaethau perthnasol wedi ei wneud o ganlyniad i’r trefniadau diogelu lleol a pha mor effeithiol y mae’r trefniadau wedi bod yn ymarferol.

O ystyried yr hyblygrwydd sydd ar gael i bartneriaethau diogelu yn y ffordd y maent yn gweithredu, mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o ardaloedd lleol (Mabwysiadwyr Cynnar) i dreialu dulliau ac amlygu arfer gorau.

Partneriaethau Troseddau Cyfundrefnol Difrifol

Cyflwynwyd y Byrddau Partneriaethau Troseddau Cyfundrefnol Difrifol trwy’r Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn 2013. Mae’r partneriaethau yn cynnwys cynrychiolwyr a dynnwyd o amrywiaeth o sefydliadau cyhoeddus, preifat a sector gwirfoddol, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, cyrff iechyd ac addysg.

Gwirfoddol yw aelodaeth o’r partneriaethau ac maent yn cael eu harwain gan y llu heddlu neu awdurdod lleol yn yr ardal berthnasol. Ar hyn o bryd mae gan bob ardal llu heddlu Fwrdd Partneriaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, er bod ganddynt feintiau a strwythurau gwahanol ar draws Cymru a Lloegr, gan adlewyrchu gofynion, daearyddiaeth a strwythurau gwleidyddol yr ardal.

Byrddau Iechyd a Llesiant

Mae Byrddau Iechyd a Llesiant yn Lloegr yn enghraifft arall o drefniadau gweithio amlasiantaethol. Mae Byrddau Iechyd a Llesiant yn dod â chynrychiolwyr o faes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r gymuned leol at ei gilydd i un fforwm. Maent yn pennu prif anghenion iechyd ac iechyd cyhoeddus y boblogaeth leol a’r ffordd orau i’w diwallu mewn modd integredig a holistaidd. Mae angen ymgynghori â chymunedau lleol a dylai’r strategaethau gynnwys anghenion penodol grwpiau difreintiedig neu fregus yn ogystal â ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ehangach a all gael effaith ar iechyd a llesiant.

Mae dyletswydd statudol ar Fyrddau Iechyd a Llesiant i annog cyflawni integredig ar ofal iechyd a chymdeithasol i hybu iechyd a llesiant pobl yn eu hardal. Mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae wrth gyfuno’r system iechyd a gofal a chynyddu’r integreiddio, er enghraifft, trwy eu rôl yn cymeradwyo cynlluniau Cronfa Gwell Gofal sy’n cael eu cytuno ar y cyd gan y GIG a llywodraeth leol. Maent yn gyfrifol am ddatblygu Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd a Strategaeth Iechyd a Lles ar y Cyd. Rhaid i’r Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd a’r Strategaeth Iechyd a Llesiant ar y Cyd gael eu hystyried gan awdurdodau lleol, Grwpiau Comisiynu Clinigol ac NHS England wrth baratoi neu ddiwygio cynlluniau comisiynu.

Gall Byrddau Iechyd a Lles chwarae rôl sylweddol wrth atal a thaclo trais, ar y cyd â Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaid lleol eraill.

Ein dadl a’n gweledigaeth am ddyletswydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol

Nid mater gorfodi’r gyfraith yn unig yw taclo trais difrifol, gan bod arnom angen dull amlasiantaethol yn ymwneud ag amrywiaeth o bartneriaid ac asiantaethau fel addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, gwasanaethau ieuenctid a dioddefwyr. Mae’n hanfodol hefyd i asiantaethau cyhoeddus weithio mewn partneriaeth gyda’r sector gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu ymyraethau wedi eu targedu mewn cymunedau lleol. Dylai camau gweithredu gael eu harwain gan dystiolaeth am y problemau a beth sy’n gweithio wrth daclo’r achosion sylfaenol. I wneud hyn, rhaid i ni ddwyn sefydliadau at ei gilydd i rannu gwybodaeth, data a chudd-wybodaeth a’u hannog i weithio gyda’i gilydd yn hytrach nag ar eu pennau eu hunain.

Mae’r modelau partneriaeth presennol yn dangos ystod o ddulliau amlasiantaethol a all ac sydd yn cyfrannu at atal a thaclo trais difrifol. Ond, mae’r dull a llwyddiant y trefniadau hyn yn gymysg am amrywiaeth o resymau. Mewn rhai enghreifftiau, mae hyn oherwydd bod y blaenoriaethau yn cystadlu â’i gilydd ond mewn rhai eraill mae’n wir oherwydd nad yw’r partneriaethau amlasiantaethol yn ddigon cryf ac mae elfennau pwysig fel rhannu data a chudd-wybodaeth yn ddiffygiol neu yn absennol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod asiantaethau yn canolbwyntio ar atal a thaclo trais difrifol ac yn atebol amdano. Mae’n bwysig i unrhyw ddyletswydd roi buddion diriaethol i’r cyhoedd a chynorthwyo asiantaethau perthnasol a phartneriaid i wneud penderfyniadau effeithiol. Dylai dyletswydd o’r fath greu’r amodau i asiantaethau a phartneriaethau perthnasol gydweithio a chyfathrebu yn gyson i rannu gwybodaeth a chymryd camau wedi eu cydlynu yn eu hardal leol.

Byddem yn disgwyl i ddull amlasiantaethol o atal a thaclo trais gynnwys:

  • Gwahanol sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd trwy bartneriaethau (sy’n bodoli) i atal a thaclo trais difrifol fel blaenoriaeth.
  • Ymgynghori gyda chymunedau, yn arbennig y rhai y mae’n effeithio mwyaf arnynt, a phobl ifanc.
  • Rhannu data a chudd-wybodaeth yn gyson rhwng asiantaethau i atal a thaclo trais difrifol a dynodi’r rhai sydd mewn mwyaf o risg y bydd trais difrifol yn effeithio arnynt.
  • Defnyddio’r wybodaeth honno am bobl neu grwpiau sy’n agored i gael eu heffeithio gan drais difrifol a’r ardaloedd daearyddol lle mae trais yn fwy tebygol o ddigwydd, i ddatblygu rhaglen o ymyraethau cynnar.
  • Partneriaethau heb eu cyfyngu gan derfynau sefydliadol, proffesiynol neu ddaearyddol.
  • Partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar gyd-gyllido ar wasanaethau i atal a thaclo trais difrifol.
  • Defnyddio tystiolaeth gan gynnwys gwerthusiadau perthnasol i fod yn sail i lunio penderfyniadau.
  • Sefydliadau yn cael eu dal yn atebol am eu gwaith ar drais difrifol, gan gynnwys bod yn ddarostyngedig i arolygiadau naill ai trwy eu harolygiaethau perthnasol, neu o bosibl trwy gyd-arolygiadau.

Rydym yn ystyried y dylai’r ddyletswydd statudol ganolbwyntio yn benodol ar atal a thaclo trais difrifol yng nghwmpas y Strategaeth Trais Difrifol. Rydym yn cydnabod bod llawer o fathau eraill o droseddau sy’n achosi pryder penodol, ond rydym yn credu bod trais difrifol yn gofyn am ffocws arbennig o glir oherwydd y niwed mawr i gymdeithas gan gynnwys marwolaethau a’r niwed corfforol a seicolegol difrifol y mae’n eu hachosi, yn ogystal â’r ofn y mae’r bygythiad ohono yn ei achosi mewn cymunedau. Mae’n amlwg bod cynlluniau ataliol yn cynnig manteision ehangach ar draws cymdeithas, gan gynnwys lleihau troseddau ond hefyd gwell deilliannau iechyd, llesiant, addysg a gwaith. Mae’n wir hefyd bod angen i sefydliadau gwahanol weithio gyda’i gilydd i ymateb i drais difrifol.

C: A ydych yn cytuno bod y weledigaeth a’r pwyslais ar ddull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol yn gywir? Os na, esboniwch pam.

Y cynigion

Dewisiadau i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol

Rydym wedi dynodi tri dewis i gyflawni ein gweledigaeth o ddull amlasiantaethol effeithiol o atal a thaclo trais difrifol ac rydym yn croesawu eich barn: mae dau yn gofyn am newid deddfwriaethol; ac mae’r dewis arall wedi ei seilio ar gydweithio gwirfoddol mwy clos. Rydym yn glir ein bod am i asiantaethau gydlynu, dylunio a blaenoriaethu eu hymdrechion ar drais difrifol, ac y gallai cyflwyno dyletswydd statudol newydd helpu i gyflawni hynny yn gyson ar draws y wlad. Ond, mae angen i ni fod yn glir bod unrhyw ddyletswydd yn cael y canlyniad a fwriadwyd yn unig ac nad yw’n tynnu oddi ar gyflawni’r prif amcan o leihau trais difrifol. Mae arnom angen i’ch ymatebion fod yn glir am y costau a’r manteision posibl sy’n gysylltiedig â phob un o’r dewisiadau arfaethedig.

Nid ydym yn cynnig y dylai partneriaethau newydd gael eu sefydlu i ymdrin yn benodol â thrais difrifol. Lle bynnag y mae hynny’n bosibl, dylai partneriaethau a strwythurau sy’n bodoli gael eu defnyddio i ddwyn y sefydliadau perthnasol at ei gilydd. Y gwahaniaeth fydd y pwyslais newydd a rennir i sefydliadau partner i atal a thaclo trais difrifol.

Dewis Un: Dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol i roi ystyriaeth ddyledus i atal a thaclo trais difrifol.

Fel y nodir yn y weledigaeth, mae’n amlwg, er bod rhai partneriaethau yn gweithio’n dda wrth daclo trais difrifol, mewn eraill mae bylchau mewn perfformiad o ran blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, cryfder y bartneriaeth, a/neu ddiffyg neu absenoldeb elfennau pwysig fel rhannu data a chudd-wybodaeth. Os y’m ni am ymdrin â’r mater hwn yn llwyddiannus mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr holl asiantaethau perthnasol yn canolbwyntio ar atal a thaclo trais difrifol ac yn atebol amdano a dyna pam y mae dyletswydd newydd yn ddull pwysig o gyflawni ein gweledigaeth.

Dyma’r dewis a ffefrir gan y Llywodraeth. Dan y dewis hwn fe fyddem yn cynnig cyflwyno dyletswydd newydd trwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Byddem yn deddfu i roi dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol i roi ystyriaeth ddyledus i atal a thaclo trais difrifol. Byddai’r rhestr o sefydliadau penodol yn cynnwys awdurdodau lleol, uwch swyddogion mewn sefydliadau cyfiawnder troseddol, addysg, sefydliadau gofal plant, cyrff iechyd a gofal cymdeithasol a’r heddlu. Gallai hyn adlewyrchu’r sefydliadau hynny a nodir yn Atodlen 6 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015. Nodir y rhestr lawn yn Atodiad A. Byddem yn croesawu barn a ddylai unrhyw sefydliadau neu gyrff eraill gael eu cynnwys ar y rhestr, er enghraifft Awdurdodau Tân ac Achub a Grwpiau Comisiynu Clinigol. Yn ychwanegol, byddem yn croesawu barn a yw’r sefydliadau yn cael eu cynnwys ar y lefel gorau. Er enghraifft, a ddylai’r ddyletswydd gael ei rhoi ar awdurdodau lleol neu’r swyddogaethau penodol y mae awdurdodau lleol yn gyfrifol trwyddynt, fel awdurdodau Iechyd Cyhoeddus neu Safonau Masnach.

Rydym yn rhagweld y gall pob corff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd newydd bennu drostynt eu hunain sut y byddent yn cydymffurfio â dyletswydd ac yn ymdrin â hi i roi ystyriaeth ddyledus i daclo ac atal trais difrifol. Ond, byddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi cyfarwyddyd i helpu asiantaethau penodol i gydymffurfio â’r ddyletswydd newydd. Rhagwelir na fyddai’r dull hwn yn gosod swyddogaethau newydd ar asiantaethau a nodir ond byddai’n sicrhau bod yr asiantaethau hynny yn rhoi pwyslais priodol a chymesur ar atal a thaclo trais difrifol gan barhau i gyflawni eu swyddogaethau blaenorol. Ond, gofynnir i asiantaethau roi gwybodaeth am effaith fel rhan o’r ymgynghoriad a bydd asesiad costau llawn yn cael ei gynnal ar y dewis a ffefrir fel rhan o ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys unrhyw faich ar awdurdodau lleol, neu’r sectorau addysg, iechyd neu droseddol.

Ni fyddai’n gofyn am leoliad amlasiantaethol penodol ond byddai’n gweithredu i annog a gwella gweithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth. Gall yr arolygiaethau sy’n gyfrifol am y sefydliadau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd neu arolygiaethau ar y cyd fedru gwirio i ba raddau y maent yn cydymffurfio â’r ddyletswydd newydd, neu, o ran awdurdodau wedi eu hethol yn ddemocrataidd, byddant yn cael eu dal i gyfrif gan eu hetholaethau.

Mae i’r dewis hwn y fantais ei fod yn gosod dyletswydd newydd ar sefydliadau perthnasol ond yn gadael iddynt benderfynu beth yw’r ffordd orau i gydymffurfio. Mae felly yn cynnig hyblygrwydd, ond dylai rhesymeg dyletswydd o’r fath olygu y bydd y sefydliadau perthnasol yn ymgysylltu â’i gilydd yn y bartneriaeth leol fwyaf effeithiol i’r ardal honno.

Mae’r anfanteision posibl i’r dewis hwn yn cynnwys gormod o amrywiaeth rhwng ardaloedd lleol a allai olygu bod rhai ardaloedd yn mynd yn llai effeithiol na’i gilydd. Gallai risg godi y byddai arweinyddiaeth unrhyw bartneriaeth benodol yn anodd i’w chytuno rhwng asiantaethau, heb i gorff partneriaeth gael ei nodi, ac y bydd gwaith y bartneriaeth a’i llwyddiant yn amwys ac yn anodd ei fonitro. Byddai’r gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol hefyd yn golygu y gall y dewis hwn fod yn arafach i’w weithredu na dewisiadau 2 a 3 oherwydd byddai’n ddibynnol ar ddod o hyd i amser Seneddol a’i chymeradwyo maes o law.

C- A ydych yn ystyried mai Dewis Un fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau? Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

C – A ydych yn ystyried mai’r asiantaethau a restrir yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 fyddai’r partneriaid cywir i gyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad? Os na, esboniwch pam.

Dewis Dau: Dyletswydd newydd trwy ddeddfu i ddiwygio Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

Fel y nodwyd yn gynharach, mae trefniadau amlasiantaethol yn eu lle sy’n dwyn at ei gilydd wahanol sefydliadau a chyrff i atal a thaclo troseddau, yn benodol, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol. Mae gennym ddiddordeb a ellid cyflwyno dyletswydd newydd i atal a thaclo trais difrifol trwy ddeddfu i newid Partneriaethau Diogelwch Cymunedol i sicrhau bod ganddynt strategaeth i atal a thaclo trais difrifol.

Un o’r sialensiau allweddol i’w goresgyn yw sicrhau bod aelodau’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cael eu tynnu o asiantaethau addas, perthnasol, h.y. y rhai sydd â mynediad at y wybodaeth angenrheidiol am bobl sy’n agored i drais difrifol effeithio arnynt a sydd â’r gallu i wneud penderfyniadau i gyflawni camau ataliol. Byddai materion daearyddol hefyd yn ffactor, gan sicrhau bod awdurdodaethau y partneriaid perthnasol yn cyd-fynd â’i gilydd a bod cwmpas y bartneriaeth yn ddigonol i ymdrin â blaenoriaethau lleol ond hefyd â’r gallu a’r potensial i gyrraedd poblogaeth sylweddol.

Bydd angen i ni sicrhau bod aelodaeth o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r cysylltiadau â phartneriaid a phartneriaethau eraill yn adlewyrchu’r ystod o sefydliadau sydd angen ymwneud â thaclo ac atal trais difrifol. Er enghraifft, ystyried a yw’r aelodaeth bresennol, fel y sector iechyd, ar y lefel mwyaf addas (Grwpiau Comisiynu Clinigol ar hyn o bryd) neu a ddylid eu hehangu. Yn ychwanegol, a ddylai aelodau newydd gael eu hychwanegu at Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol neu a ddylid ailystyried y berthynas â phartneriaid eraill. Gallai hyn gynnwys y sefydliadau a restrir yn Atodlen 6 i’r Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 nad ydynt eisoes yn ‘awdurdodau cyfrifol’ mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol.

Mae’r dewis hwn yn wahanol i ddewis un gan ei fod yn ymrwymo sefydliadau yn uniongyrchol i ddod yn aelodau o bartneriaeth (yn yr achos hwn, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol) yn hytrach na gofyn i’r sefydliadau roi “ystyriaeth ddyledus” i atal a thaclo trais difrifol. Mae i hyn y fantais o eglurder wrth ddeddfu i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol ddod yn bartneriaeth arweiniol i gyflawni’r genhadaeth allweddol hon yn erbyn trais difrifol.

Ond mae’n cael ei gydnabod bod Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gryfach mewn rhai ardaloedd nag eraill, a gall yr amrywiad hwn gael effaith ar effeithiolrwydd rhai Partneriaethau Diogelwch Cymunedol wrth daclo troseddau treisgar. Yn ychwanegol, gall cyrraedd daearyddol Partneriaethau Diogelwch Cymunedol olygu nad dyma’r model partneriaeth gorau posibl. Er enghraifft, mewn rhai ardaloedd lluoedd heddlu, mae mwy na 10 Partneriaeth Diogelwch Cymunedol sy’n golygu y gall penderfyniadau gael eu gwneud yn fwy effeithiol ar lefel strategol uwch neu trwy drefniant partneriaeth gwahanol. Bydd yn bwysig i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol gael cysylltiadau cryf ac effeithiol â phartneriaethau amlasiantaethol eraill a gweithio ar draws y terfynau sefydliadol, proffesiynol a daearyddol.

C- A ydych yn ystyried mai Dewis 2 fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau? Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

C- A ddylid ychwanegu at y rhestr o Bartneriaid Statudol mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol fel eu bod yn gallu atal a thaclo trais difrifol yn ddigonol mewn ardaloedd lleol? Os felly, pa sefydliadau?

Dewis Tri: Dull gwirfoddol heb fod yn ddeddfwriaethol

Y trydydd dewis yw annog ardaloedd i fabwysiadu camau gwirfoddol i ymgysylltu â’r dull amlasiantaethol yn hytrach na chyflwyno dyletswydd statudol neu i gyd-fynd â hynny. Byddai hyn yn golygu y byddai amrywiaeth o sefydliadau yn cydnabod bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae wrth atal a thaclo trais difrifol. Dan y dull hwn, byddai’r Llywodraeth yn parhau i ddefnyddio ei grym i gynnull, i ddwyn amrywiaeth o sefydliadau a phartneriaid sy’n ganolog i ddull amlasiantaethol effeithiol o atal a thaclo trais difrifol at ei gilydd. Bydd hyn yn adeiladu ar gamau dan y Strategaeth fel ein rhaglen barhaus o ddigwyddiadau ymgysylltu gan gynnwys partneriaid diogelwch cymunedol a’r sector gwirfoddol a chymunedol. Trwy wneud hynny, byddai’r Llywodraeth yn cefnogi cymunedau a phartneriaethau lleol trwy hwyluso rhannu arfer gorau ar draws terfynau daearyddol a rhoi cyfarwyddyd pan fyddai’n addas.

Mae’r Uned Lleihau Trais yn yr Alban yn ganolfan genedlaethol o arbenigedd ar drais ac fel rhan o Heddlu’r Alban, mae wedi mabwysiadu dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â thrais difrifol. Mae’r Uned Lleihau Trais wedi gwneud hynny heb ddyletswyddau statudol penodol ar bartneriaid gwahanol ond mae yn hytrach wedi gwneud hynny trwy weithio gydag ymarferwyr iechyd ac addysg i gryfhau’r ymwybyddiaeth. Mae hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd dynodi ac ymyrryd ar yr adegau hynny sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf. Mae’r Uned Lleihau Tras yn rhoi arweiniad ar daclo trais difrifol, defnyddio tactegau gorfodi’r gyfraith caled, fel ymgyrchoedd stopio a chwilio, a gweithio gyda phartneriaid ar ymyraethau atal cynnar. Mae’r Uned Lleihau Trais yn rhoi hyfforddiant i ymarferwyr mewn asiantaethau partner i sicrhau eu bod yn cael gwybod am atal trais difrifol ac yn gallu canfod a rhoi adborth am gyfleoedd ar gyfer ymyrryd.

Yn Llundain, cyhoeddodd y Maer ym mis Medi 2018, ei fod yn cyflwyno Uned Lleihau Trais amlddisgyblaethol a fydd yn rhoi mwy o allu, arbenigedd a chydlynu i Lundain i ddynodi prif achosion trais a chyflawni ymyraethau cynnar i helpu i atal trais rhag lledaenu. Nodau’r Uned Lleihau Trais yw: sefydlogi a lleihau trais ar draws Llundain; dod o hyd i brif achosion trais, a chydlynu gweithredu ar draws Llundain i’w taclo ar raddfa addas, cyflawni gostyngiad tymor hir mewn troseddau a’r niweidiau cysylltiedig; a chynnwys cymunedau yng ngwaith yr Uned Lleihau Trais, a chynyddu eu gallu i gyflawni’r atebion tymor hir gorau i leihau trais.

Yn dilyn cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys ar 13 Mawrth y byddai £100 miliwn ychwanegol o gyllid yn 2019/20 i daclo trais difrifol, byddwn yn buddsoddi mewn Unedau Lleihau Trais mewn ardaloedd o Gymru a Lloegr lle mae troseddau cyllyll yn effeithio mwyaf arnynt. Bydd yr unedau newydd yn dod ag amrywiaeth o asiantaethau at ei gilydd gan gynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac eraill, i ddatblygu dull amlasiantaethol wrth atal trais difrifol gyda’i gilydd.

Yng Nghymru, trwy Gronfa Trawsnewid yr Heddlu, mae’r Swyddfa Gartref yn cefnogi lluoedd heddlu i ddatblygu modelau newydd ar gyfer plismona ataliol. Dyfarnwyd tua £7 miliwn i’r pedwar llu heddlu yng Nghymru, sydd, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn profi dull newydd o blismona, sy’n atal a lliniaru profiadau plentyndod niweidiol. Nod hyn yw datblygu model plismona ar sail trawma ac integredig, a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr heddlu wedi eu paratoi yn well i ddeall ac yna ymdrin ag effaith profiadau plentyndod niweidiol ar gyflawnwyr a dioddefwyr trais difrifol. Yn ychwanegol, mae’n ymdrin â’r diffyg gweithgaredd ymyrryd cynnar ac atal ac yn rhoi cyfle i ddwyn partneriaid at ei gilydd i newid y ffordd y mae pobl agored i niwed yn cael eu cefnogi i ddatblygu dull amlasiantaethol i ddarparu yr ystod lawn o gefnogaeth y mae ar unigolion ei hangen.

Byddai dull gwirfoddol fel hyn yn dibynnu ar i rywun gymryd rôl arweiniol i yrru gwaith ymlaen i atal trais difrifol a dwyn partneriaid lleol gwahanol at ei gilydd. Yn yr un modd â Dewis 1, mae gan hyn y fantais o adael i ardaloedd lleol reoli eu hunain i fodloni anghenion lleol yn y modd gorau. Ond, yn absenoldeb dyletswydd benodol am drais difrifol, gall hyn olygu nad yw trais difrifol yn cael ei drin gyda’r lefel briodol o flaenoriaeth ac y byddai rhai ardaloedd lleol yn fwy effeithiol nag eraill.

C- A ydych yn ystyried mai Dewis Tri fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau? Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

C- Pa gamau eraill allai gefnogi dull gwirfoddol amlasiantaethol o’r fath i daclo trais difrifol, gan gynnwys sut yr ydym yn sicrhau bod gwahanol asiantaethau yn cyfuno?

ATODIAD A

Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 – Atodlen 6 Awdurdodau a Enwyd

Llywodraeth leol

  • Cyngor sir neu gyngor dosbarth yn Lloegr.
  • Awdurdod Llundain Fwyaf.
  • Cyngor bwrdeistref yn Llundain.
  • Cyngor Cyffredin Dinas Llundain yn ei swyddogaeth fel awdurdod lleol.
  • Cyngor Ynysoedd Sili.
  • Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
  • Unigolyn yn cyflawni swyddogaeth awdurdod a grybwyllir yn adran 1(2) Deddf Llywodraeth Leol 1999 trwy gyfrwng cyfarwyddyd a wnaed dan adran 15 o’r Ddeddf.

Cyfiawnder troseddol

  • Llywodraethwr carchar yng Nghymru a Lloegr (neu, yn achos carchar ar gontract, ei gyfarwyddwr).
  • Llywodraethwr sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu, yn achos sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi ddiogel ar gontract, ei gyfarwyddwr).
  • Pennaeth coleg diogel.
  • Darparwr gwasanaethau prawf yn yr ystyr a roddir gan adran 3(6) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007.

Addysg, gofal plant ac ati

  • Unigolyn a awdurdodwyd yn rhinwedd gorchymyn a wnaed dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 i arfer swyddogaeth a bennwyd yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996.
  • Unigolyn y gwnaed trefniadau gydag o ar gyfer darparu addysg dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 neu adran 100 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (achosion o salwch, gwahardd ac ati).
  • Perchennog –

(a) ysgol sydd wedi ei chymeradwyo dan adran 342 Deddf Addysg 1996,

(b) ysgol a gynhelir yn yr ystyr a roddir gan adran 20(7) Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998,

(c) ysgol feithrin a gynhelir yn yr ystyr a roddir yn adran 22(9) o’r Ddeddf honno,

(d) ysgol annibynnol a gofrestrwyd dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002,

(e) sefydliad addysgol annibynnol a gofrestrwyd dan adran 95(1) Deddf Addysg a Sgiliau 2008, neu

(f) Academi darpariaeth wahanol yn yr ystyr a roddir gan adran 1C Deddf Academïau 2010.

  • Unigolyn sy’n cael ei nodi neu ei enwebu mewn cyfarwyddiadau a wnaed yng nghyswllt arfer swyddogaethau awdurdod lleol a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan adran 497A o Ddeddf Addysg 1996 (gan gynnwys yr adran honno fel y’i gweithredwyd gan adran 50 Deddf Plant 2004 neu adran 15 o Ddeddf Gofal Plant 2006).
  • Unigolyn a gofrestrwyd ar gofrestr a gedwir gan Brif Arolygydd Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau Ei Mawrhydi dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
  • Corff llywodraethu sefydliad cymwys yn yr ystyr a roddir yn adran 11 Deddf Addysg Uwch 2004.
  • Darparwr addysg neu hyfforddiant—

(a) y mae Pennod 3 o Ran 8 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn berthnasol iddo, ac

(b) y darperir cyllid iddo gan, neu dan y trefniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Prif Weithredwr Cyllido Sgiliau.

  • Unigolyn a gofrestrwyd dan Bennod 2, 2A, 3 neu 3A o Ran 3 Deddf Plant 2006 neu dan adran 20 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (nawm 1).
  • Corff corfforaethol y mae awdurdod lleol wedi llunio trefniadau gydag o dan Ran 1 Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
  • Unigolyn sy’n cael ei nodi neu ei enwebu mewn cyfarwyddiadau a wnaed yng nghyswllt arfer swyddogaethau awdurdod lleol a roddir gan Weinidogion Cymru dan adran 25 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1) (gan gynnwys yr adran honno a weithredir gan adran 50A o Ddeddf Plant 2004 neu adran 29 o Ddeddf Gofal Plant 2006).
  • Corff llywodraethol sefydliad addysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru.
  • Corff Llywodraethol neu berchennog sefydliad (nad yw’n cael ei restru fel arall) lle mae mwy na 250 o fyfyrwyr, ac eithrio myfyrwyr yn dilyn cyrsiau dysgu o bell, yn dilyn –

(a) cyrsiau i baratoi at arholiadau sy’n gysylltiedig â chymwysterau a reoleiddir gan y Swyddfa Cymwysterau a Rheoleiddio Arholiadau neu Lywodraeth Cymru;

(b) cyrsiau a ddisgrifir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (cyrsiau addysg uwch).

Iechyd a gofal cymdeithasol

  • Ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu dan adran 18 Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
  • Ymddiriedolaeth sefydledig GIG yn yr ystyr a roddir gan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.
  • Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd dan adran 11 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
  • Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru.
  • Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.

Heddlu

  • Prif swyddog heddlu dros ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr.
  • Llu Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
  • Llu Heddlu Porthladd a sefydlwyd dan orchymyn a wnaed dan adran 14 o Ddeddf Porthladdoedd 1964.
  • Y Llu Heddlu Porthladd a sefydlwyd dan Ran 10 Deddf Porthladd Llundain 1968. • Llu Heddlu Porthladd a sefydlwyd dan adran 79 o Ddeddf Porthladdoedd, Dociau a Phier 1847.
  • Cyngor Cyffredin Dinas Llundain yn ei swyddogaeth fel awdurdod heddlu.
  • Comisiynydd yr heddlu a throseddu a sefydlwyd dan adran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.
  • Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddu a sefydlwyd dan adran 3 o’r Ddeddf honno.
  • Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil.

Holiadur

Rhennir yr holiadur yn dair rhan:

  • Rhan 1: Cwestiynau cyffredinol yn ymwneud â’ch sefydliad a’ch cefndir, eich lleoliad daearyddol a’r partneriaid y gallech weithio gyda nhw.
  • Rhan 2: Cwestiynau am eich gwaith presennol ar drais difrifol
  • Rhan 3: Cwestiynau a ofynnir yng nghorff y ddogfen ymgynghorol
  • Rhan 4: Cwestiynau am y dewisiadau ymgynghori a’u heffaith posibl.

Byddem yn ddiolchgar am atebion i unrhyw un neu’r cyfan o’r cwestiynau a ofynnir ar sail eu perthnasedd i chi a’r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo.

Rhan 1: Cwestiynau cyffredinol

1. Pa sector y mae eich asiantaeth/sefydliad yn ei gynrychioli?

  • Cyfiawnder Troseddol
  • Addysg a gofal plant
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Llywodraeth leol
  • Heddlu
  • Sector gwirfoddol a chymunedol
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

2. A yw eich asiantaeth/sefydliad yn rhan o unrhyw bartneriaeth amlasiantaethol bresennol neu yn gweithio gydag un fel Partneriaeth Diogelwch Cymunedol?

  • Ydy, nodwch natur y bartneriaeth:
  • Na

3. O ble mae eich asiantaeth/sefydliad yn gweithio?

  • Gogledd Ddwyrain Lloegr
  • Gogledd Orllewin Lloegr
  • Swydd Efrog a’r Humber
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Dwyrain Lloegr
  • London
  • De Ddwyrain Lloegr
  • De Orllewin Lloegr
  • Cymru
  • Yr Alban
  • Gogledd Iwerddon

4. Pa asiantaethau/sefydliadau ydych chi’n gweithio’n glos gyda nhw i atal a thaclo trais difrifol yn eich ardal? Atebion lluosog yn bosibl.

  • Cyfiawnder Troseddol
  • Addysg a gofal plant
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Llywodraeth leol
  • Heddlu
  • Sector gwirfoddol a chymunedol
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:
  • Dim un o’r uchod; nid yw fy asiantaeth/sefydliad yn gweithredu ym maes trais difrifol

Rhan 2: Gwaith presennol ym maes trais difrifol

5. A oes gan eich asiantaeth/sefydliad ar hyn o bryd weithgareddau yn eu lle i atal/taclo trais difrifol? * Oes. Os gwelwch yn dda parhewch â chwestiwn 6. * Na. Ewch i gwestiwn 7.

6. [Os wedi ateb ‘oes’ i gwestiwn 5] Os ydych ar hyn o bryd yn gweithio mewn asiantaeth/sefydliad â diddordeb mewn trais difrifol:

6.1. Pa fath o weithgaredd ydych chi’n ei wneud i atal a thaclo trais difrifol? Atebion lluosog yn bosibl.

  • Gweithgareddau ymyrraeth gynnar. Rhowch ddisgrifiad byr o’r gweithgareddau hyn:
  • Gweithgareddau yn targedu dioddefwyr. Rhowch ddisgrifiad byr o’r gweithgareddau hyn:
  • Gweithgareddau yn targedu troseddwyr. Rhowch ddisgrifiad byr o’r gweithgareddau hyn:
  • Gweithgareddau yn targedu lleoliadau troseddau. Rhowch ddisgrifiad byr o’r gweithgareddau hyn:
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

Mae cwestiynau 6.2 i 6.4 yn ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych wedi eu rhestru yng nghwestiwn 6.1.

6.2. Faint o amser/adnoddau eich asiantaeth/sefydliad sy’n cael eu treulio/gwario ar y gweithgareddau hyn o ran:

  • … Cyfatebol i Amser Llawn (y flwyddyn)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r wythnos)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r mis)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r flwyddyn)

6.3. Nodwch y nifer o weithwyr Cyfatebol i Amser Llawn yn eich asiantaeth/sefydliad sy’n ymwneud â’r gweithgareddau hyn yn ôl rôl/rheng. Atebion lluosog yn bosibl.

  • Swyddog heddlu (sarsiant ac is)
  • Swyddog cymorth cymunedol yr heddlu
  • Swyddog gwasanaeth heddlu (dan brif swyddog)
  • Uwch swyddog heddlu
  • Uwch swyddog yn y gwasanaethau tân, ambiwlans, carchar neu gysylltiedig
  • Nyrs
  • Parafeddyg
  • Ymarferwr meddygol
  • Gwasanaethau iechyd a rheolwr neu gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus
  • Rheolwr practis gofal iechyd
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Swyddog prawf
  • Gweithiwr ieuenctid neu gymunedol
  • Swyddog plant a blynyddoedd cynnar
  • Swyddog tai
  • Gweithiwr gofal
  • Rheolwr neu gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol
  • Rheolwr eiddo, tai neu stad
  • Gweithiwr addysg proffesiynol, cynradd neu feithrin
  • Gweithiwr addysg proffesiynol addysg uwchradd
  • Gweithiwr addysg proffesiynol anghenion arbennig
  • Uwch weithiwr proffesiynol mewn sefydliadau addysgol
  • Gweithiwr proffesiynol gwyddoniaeth ac ymchwil
  • Arall, nad yw wedi ei restru uchod, noder:

6.4. Pa gostau eraill (e.e. offer, TG, gorbenion) sy’n gysylltiedig â’ch gwaith yn atal a thaclo trais difrifol? Os gwelwch yn dda amcangyfrifwch y gost pan fydd yn bosibl. Cwestiwn agored.

7. [Os ydych yn ateb ‘na’ i gwestiwn 5] Os nad ydych ar hyn o bryd â gweithgareddau yn eu lle i atal/daclo trais difrifol, pa weithgareddau ydych chi’n teimlo fyddai o fudd i ymdrin â thrais difrifol yn eich ardal? Cwestiwn agored.

Rhan 3: Cwestiynau a ofynnir yng nghorff y ddogfen ymgynghorol

8. A ydych yn cytuno bod y weledigaeth a’r pwyslais ar ddull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol yn gywir? Os na, esboniwch pam.

9. A ydych yn ystyried mai Dewis Un fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau? Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

10. A ydych yn ystyried mai’r asiantaethau a restrir yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 fyddai’r partneriaid cywir i gyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad? Os na, esboniwch pam.

11. A ydych yn ystyried mai Dewis dau fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau? Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

12. A ddylid ychwanegu at y rhestr o Bartneriaid Statudol mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol fel eu bod yn gallu atal a thaclo trais difrifol yn ddigonol mewn ardaloedd lleol? Os felly, pa sefydliadau?

13. A ydych yn ystyried mai Dewis Tri fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau? Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

14. Pa gamau eraill allai gefnogi dull gwirfoddol amlasiantaethol o’r fath i daclo trais difrifol, gan gynnwys sut yr ydym yn sicrhau bod gwahanol asiantaethau yn cyfuno?

Rhan 4: Cwestiynau am y dewisiadau ymgynghori a’u heffaith posibl

Dewis Un: Dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol i roi ystyriaeth ddyledus i atal a thaclo trais difrifol.

15.Faint o amser/adnoddau ychwanegol fyddai’n ofynnol gan eich asiantaeth/sefydliad i weithredu a chyflawni’r dewis a gynigir o ran:

  • … Cyfatebol i Amser Llawn (y flwyddyn)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r wythnos)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r mis)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r flwyddyn)

16.Nodwch y nifer o weithwyr Cyfatebol i Amser Llawn yn eich asiantaeth/sefydliad sy’n ymwneud â’r gweithgareddau hyn yn ôl rôl/rheng. Atebion lluosog yn bosibl.

  • Swyddog heddlu (sarsiant ac is)
  • Swyddog cymorth cymunedol yr heddlu
  • Swyddog gwasanaeth heddlu (dan brif swyddog)
  • Uwch swyddog heddlu
  • Uwch swyddog yn y gwasanaethau tân, ambiwlans, carchar neu gysylltiedig
  • Nyrs
  • Parafeddyg
  • Ymarferwr meddygol
  • Gwasanaethau iechyd a rheolwr neu gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus
  • Rheolwr practis gofal iechyd
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Swyddog prawf
  • Gweithiwr ieuenctid neu gymunedol
  • Swyddog plant a blynyddoedd cynnar
  • Swyddog tai
  • Gweithiwr gofal
  • Rheolwr neu gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol
  • Rheolwr eiddo, tai neu stad
  • Gweithiwr addysg proffesiynol, cynradd neu feithrin
  • Gweithiwr addysg proffesiynol addysg uwchradd
  • Gweithiwr addysg proffesiynol anghenion arbennig
  • Uwch weithiwr proffesiynol mewn sefydliadau addysgol
  • Gweithiwr proffesiynol gwyddoniaeth ac ymchwil
  • Arall, nad yw wedi ei restru uchod, noder:

17.A oes unrhyw gostau eraill (e.e. offer, TG, gorbenion) y gallwch eu rhagweld dan y dewis a gynigir? Os gwelwch yn dda amcangyfrifwch y gost pan fydd yn bosibl. Cwestiwn agored.

18.Beth, os o gwbl, yw’r manteision ydych yn eu rhagweld dan y dewis a gynigir? Atebion lluosog yn bosibl.

  • Lleihau pwysau ar amser
  • Llai o adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad
  • Gwell prosesau sefydliadol
  • Gwell cydweithio gydag asiantaethau/sefydliadau eraill
  • Gwell canlyniadau i ddioddefwyr
  • Gwell canlyniadau i droseddwyr
  • Dull mwy cyson wrth atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol
  • Gostyngiadau mewn troseddau treisgar difrifol
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

19.Beth, os o gwbl, yw’r anfanteision ydych yn eu rhagweld yn deillio o’r dewis a gynigir? Atebion lluosog yn bosibl.

  • Cynnydd yn y pwysau ar eich sefydliad
  • Cynnydd yn yr adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad
  • Gwaethygu prosesau sefydliadol
  • Problemau yn ymwneud â chydweithio ag asiantaethau/sefydliadau eraill
  • Canlyniadau gwael i ddioddefwyr/troseddwyr
  • Amrywiaeth lleol wrth atal a thaclo trais difrifol
  • Dargyfeirio gwariant/adnoddau oddi wrth feysydd eraill
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

Dewis Dau: Dyletswydd newydd trwy ddeddfu i ddiwygio Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

20.Faint o amser/adnoddau ychwanegol fyddai’n ofynnol gan eich asiantaeth/sefydliad i weithredu a chyflawni’r dewis a gynigir o ran:

  • … Cyfatebol i Amser Llawn (y flwyddyn)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r wythnos)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r mis)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r flwyddyn)

21.Nodwch y nifer o weithwyr Cyfatebol i Amser Llawn yn eich asiantaeth/sefydliad sy’n ymwneud â’r gweithgareddau hyn yn ôl rôl/rheng. Atebion lluosog yn bosibl.

  • Swyddog heddlu (sarsiant ac is)
  • Swyddog cymorth cymunedol yr heddlu
  • Swyddog gwasanaeth heddlu (dan brif swyddog)
  • Uwch swyddog heddlu
  • Uwch swyddog yn y gwasanaethau tân, ambiwlans, carchar neu gysylltiedig
  • Nyrs
  • Parafeddyg
  • Ymarferwr meddygol
  • Gwasanaethau iechyd a rheolwr neu gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus
  • Rheolwr practis gofal iechyd
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Swyddog prawf
  • Gweithiwr ieuenctid neu gymunedol
  • Swyddog plant a blynyddoedd cynnar
  • Swyddog tai
  • Gweithiwr gofal
  • Rheolwr neu gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol
  • Rheolwr eiddo, tai neu stad
  • Gweithiwr addysg proffesiynol, cynradd neu feithrin
  • Gweithiwr addysg proffesiynol addysg uwchradd
  • Gweithiwr addysg proffesiynol anghenion arbennig
  • Uwch weithiwr proffesiynol mewn sefydliadau addysgol
  • Gweithiwr proffesiynol gwyddoniaeth ac ymchwil
  • Arall, nad yw wedi ei restru uchod, noder:

22.A oes unrhyw gostau eraill (e.e. offer, TG, gorbenion) y gallwch eu rhagweld dan y dewis a gynigir? Cwestiwn agored.

23.Beth, os o gwbl, yw’r manteision ydych yn eu rhagweld dan y dewis a gynigir? Atebion lluosog yn bosibl.

  • Lleihau pwysau ar amser
  • Llai o adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad
  • Gwell prosesau sefydliadol
  • Gwell cydweithio gydag asiantaethau/sefydliadau eraill
  • Gwell canlyniadau i ddioddefwyr
  • Gwell canlyniadau i droseddwyr
  • Dull mwy cyson wrth atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol
  • Gostyngiadau mewn troseddau treisgar difrifol
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

24.Beth, os o gwbl, yw’r anfanteision ydych yn eu rhagweld yn deillio o’r dewis a gynigir? Atebion lluosog yn bosibl.

  • Cynnydd yn y pwysau ar eich sefydliad
  • Cynnydd yn yr adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad
  • Gwaethygu prosesau sefydliadol
  • Problemau yn ymwneud â chydweithio ag asiantaethau/sefydliadau eraill
  • Canlyniadau gwael i ddioddefwyr/troseddwyr
  • Amrywiaeth lleol wrth atal a thaclo trais difrifol
  • Dargyfeirio gwariant/adnoddau oddi wrth feysydd eraill
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

Dewis Tri: Dull Gwirfoddol heb fod yn ddeddfwriaethol

25.Faint o amser/adnoddau ychwanegol fyddai’n ofynnol gan eich asiantaeth/sefydliad i weithredu a chyflawni’r dewis a gynigir o ran:

  • … Cyfatebol i Amser Llawn (y flwyddyn)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r wythnos)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r mis)
  • … Amser gwirfoddolwyr (oriau’r flwyddyn)

26.Nodwch y nifer o weithwyr Cyfatebol i Amser Llawn yn eich asiantaeth/sefydliad sy’n ymwneud â’r gweithgareddau hyn yn ôl rôl/rheng. Atebion lluosog yn bosibl.

  • Swyddog heddlu (sarsiant ac is)
  • Swyddog cymorth cymunedol yr heddlu
  • Swyddog gwasanaeth heddlu (dan brif swyddog)
  • Uwch swyddog heddlu
  • Uwch swyddog yn y gwasanaethau tân, ambiwlans, carchar neu gysylltiedig
  • Nyrs
  • Parafeddyg
  • Ymarferwr meddygol
  • Gwasanaethau iechyd a rheolwr neu gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus
  • Rheolwr practis gofal iechyd
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Swyddog prawf
  • Gweithiwr ieuenctid neu gymunedol
  • Swyddog plant a blynyddoedd cynnar
  • Swyddog tai
  • Gweithiwr gofal
  • Rheolwr neu gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol
  • Rheolwr eiddo, tai neu stad
  • Gweithiwr addysg proffesiynol, cynradd neu feithrin
  • Gweithiwr addysg proffesiynol addysg uwchradd
  • Gweithiwr addysg proffesiynol anghenion arbennig
  • Uwch weithiwr proffesiynol mewn sefydliadau addysgol
  • Gweithiwr proffesiynol gwyddoniaeth ac ymchwil
  • Arall, nad yw wedi ei restru uchod, noder:

27.A oes unrhyw gostau eraill (e.e. offer, TG, gorbenion) y gallwch eu rhagweld dan y dewis a gynigir? Os gwelwch yn dda amcangyfrifwch y gost pan fydd yn bosibl. Cwestiwn agored.

28.Beth, os o gwbl, yw’r manteision ydych yn eu rhagweld dan y dewis a gynigir? Atebion lluosog yn bosibl.

  • Lleihau pwysau ar amser
  • Llai o adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad
  • Gwell prosesau sefydliadol
  • Gwell cydweithio gydag asiantaethau/sefydliadau eraill
  • Gwell canlyniadau i ddioddefwyr
  • Gwell canlyniadau i droseddwyr
  • Dull mwy cyson wrth atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol
  • Gostyngiadau mewn troseddau treisgar difrifol
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

29.Beth, os o gwbl, yw’r anfanteision ydych yn eu rhagweld yn deillio o’r dewis a gynigir? Atebion lluosog yn bosibl.

  • Cynnydd yn y pwysau ar eich sefydliad
  • Cynnydd yn yr adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad
  • Gwaethygu prosesau sefydliadol
  • Problemau yn ymwneud â chydweithio ag asiantaethau/sefydliadau eraill
  • Canlyniadau gwael i ddioddefwyr/troseddwyr
  • Amrywiaeth lleol wrth atal a thaclo trais difrifol
  • Dargyfeirio gwariant/adnoddau oddi wrth feysydd eraill
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

Cwestiynau terfynol yn ymwneud â’r holl ddewisiadau, i’r holl ymatebwyr

30.Beth fyddai’r ffordd orau o ddal sefydliadau sy’n ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd neu ymateb gwirfoddol i gyfrif?

  • Trwy arolygiadau (ar y cyd neu gan arolygiaethau unigol)
  • Arall, noder os gwelwch yn dda:

31.Heblaw eich atebion a roddwyd yn yr adrannau blaenorol, a oes unrhyw ystyriaethau eraill y byddech yn hoffi eu codi parthed un neu fwy o’r dewisiadau a gynigir? Cwestiwn agored.

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Amdanoch chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch eich hun.

Enw llawn  
Teitl swydd neu yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd)  
Dyddiad  
Enw cwmni/sefydliad (os yn berthnasol)  
Cyfeiriad  
Cod post  
Os hoffech i ni gydnabod derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn  
Y cyfeiriad y dylid anfon cydnabyddiaeth iddo, os yn wahanol i’r uchod  

Os ydych yn cynrychioli grŵp, dywedwch enw’r grŵp a rhoi crynodeb o’r bobl neu sefydliadau yr ydych yn eu cynrychioli.



Manylion cyswllt a sut i ymateb

Er mwyn helpu i ddadansoddi’r ymatebion, cyflwynwch eich ymateb erbyn 28/05/19 gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Os, am resymau eithriadol, nad ydych chi’n gallu defnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chi’n defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon trwy’r post neu ar e-bost at:

Serious Violence Legal Duty Consultation
Home Office
Serious Violence Unit
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Ffôn: 0207 035 8303 E-bost: SVLegalDutyConsultation@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Copïau ychwanegol

Mae copïau papur pellach o’r ymgynghoriad hwn ar gael o’r cyfeiriad hwn ac mae ar gael ar-lein hefyd.

Gellir gofyn am fersiynau ar ffurfiau gwahanol o’r cyhoeddiad hwn o:

SVLegalDutyConsultation@homeoffice.gov.uk neu Ffonio: 0207 035 8303

Cyhoeddi ymateb

Bydd papur yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi cyn pen 12 wythnos o ddyddiad cau’r ymgynghoriad hwn. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein.

Grwpiau cynrychioliadol

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a sefydliadau y maent yn eu cynrychioli wrth ymateb.

Cyfrinachedd

Gall unrhyw wybodaeth a ddarparir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, yn cynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â chyfundrefnau mynediad i wybodaeth (yn bennaf Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Deddf Diogelu Data 1998 (DPA) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych am i’r wybodaeth a roddwch gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, bod Cod Ymarfer statudol yn bodoli y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag o ac sy’n delio â rhwymedigaethau cyfrinachedd, ymysg pethau eraill. O ganlyniad, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio i ni pam yr ydych yn ystyried fod y wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni ystyrir ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo ei hun, yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a, gan amlaf, bydd hyn yn golygu na ddatgelir eich data personol i drydydd parti.

Egwyddorion yr ymgynghoriad

Nodir yr egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisïau a deddfwriaeth yn yr egwyddorion ymgynghori.

  1. Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.