Consultation outcome

Asesiad Effaith Cyflwyno Camau Iechyd Cyhoeddus 2019 (accessible version)

Updated 18 August 2021

Teitl: Asesiad Effaith Cyflwyno Camau Iechyd Cyhoeddus 2019
Rhif AE: HO0345
Cyfeirnod RPC: AMHERTHNASOL
Adran neu asiantaeth arweiniol: Y Swyddfa Gartref
Adrannau neu asiantaethau eraill:  
Dyddiad: 04/07/2019
Cam: TERFYNOL
Ffynhonnell yr ymyrraeth: Domestig
Math o fesur: Deddfwriaeth cynradd
Cyswllt i ymholiadau:  
Barn RPC: Statws Barn RPC

Crynodeb: Ymyrraeth ac Opsiynau

Cost y Dewis a Ddewiswyd (neu fwyaf tebygol) (ym mhrisiau 2016)

Cyfanswm Gwerth Net Cymunedol Presennol Gwerth Presennol Net Busnes Cost net i’r busnes y flwyddyn Statws Targed Effaith Busnes
£377m -£25m £3m Ddim yn gymwys

Beth yw’r broblem dan ystyriaeth? Pam bod ymyrraeth gan y llywodraeth yn angenrheidiol?

Mae trais difrifol yn gostus eithriadol i gymdeithas ac yn creu ofn mewn cymunedau. Mae wedi cynyddu ers 2014. Er enghraifft, cynyddodd troseddau cyllyll o 71 y cant rhwng Rhagfyr 2014 a Rhagfyr 2018. Argymhellodd Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth ddull amlasiantaethol yn cynnwys nifer o bartneriaid gwahanol ond mae llwyddiant y partneriaethau sy’n bodoli yn gymysg. Mae ymyrraeth gan y Llywodraeth i ddeddfu dros ddyletswydd sector cyhoeddus yn angenrheidiol i sicrhau bod partneriaethau yn rhoi blaenoriaeth i daclo trais difrifol, gan gynyddu diogelwch cyhoeddus a helpu i ddiogelu bywyd teuluol.

Beth yw’r amcanion polisi a’r effeithiau a fwriedir?

Amcanion y ddyletswydd yw: 1) gwella’r dull amlasiantaethol presennol sy’n ymwneud â phartneriaid ac asiantaethau fel addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, gwasanaethau ieuenctid a dioddefwyr. 2) cynyddu effeithiolrwydd partneriaethau wrth atal/taclo trais difrifol i rannu data, cudd-wybodaeth a gwybodaeth i gynhyrchu dadansoddiad ar sail tystiolaeth o’r broblem a’r atebion. Mae’r effaith a fwriedir yn ddeublyg: cynyddu cydweithio effeithiol ar draws asiantaethau ac yn y pen draw lleihau’r nifer o droseddau trais difrifol.

Pa opsiynau polisi sydd wedi cael eu hystyried, gan gynnwys unrhyw ddewisiadau ar wahân i reoleiddio? Cyfiawnhewch yr opsiwn a ddewiswyd (rhagor o fanylion yn y Sail Tystiolaeth)

Dewis 0: (Gwneud Dim) byddai’r trefniadau partneriaeth presennol yn parhau gyda gwahanol lefelau o lwyddiant ac ymatebion gwael weithiau. Nid yw hyn yn bodloni amcanion y Llywodraeth.

Dewis 1: Creu deddfwriaeth sylfaenol i roi dyletswydd statudol ar awdurdodau penodedig i sicrhau bod sefydliadau yn cydweithio ac yn cyfathrebu yn gyson i weithredu yn effeithiol a chydlyn i atal a thaclo trais difrifol. Mae nifer o astudiaethau wedi dangos effeithiau gweladwy o ran lleihau troseddu pan fydd y math yma o bartneriaethau wedi cael eu gweithredu. Dyma’r dewis a ffafrir gan y Llywodraeth. Ystyriwyd dewisiadau heb fod yn rheoleiddiol a dewisiadau eraill ond nid oeddynt yn bodloni’r amcanion.

A fydd y polisi yn cael ei adolygu?

Bydd bydd yn cael ei adolygu.

Os yn berthnasol, nodwch y dyddiad adolygu:

10/2021

A yw’r gweithredu yn mynd tu hwnt i ofynion sylfaenol yr UE?

Amherthnasol

A yw’r mesur yma’n debygol o effeithio ar fasnach a buddsoddi?

Na

A oes unrhyw un o’r sefydliadau yma yn y cwmpas?

Micro Bychan Canolig Mawr
Oes Oes Oes Oes

Beth yw’r newid cyfatebol CO2 i allyriadau nwyon tŷ gwydr? (Miliwn tunnell CO2 cyfatebol)

Cyfnewidiwyd Heb ei gyfnewid
Amherthnasol Amherthnasol

Rwyf wedi darllen yr Asesiad Effaith ac rwyf yn fodlon, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, ei fod yn cynrychioli barn resymol am gostau, manteision ac effeithiau tebygol y prif ddewisiadau.

Llofnodwyd gan y Gweinidog cyfrifol: Dyddiad: Gorffennaf 2019

Crynodeb: Dadansoddiad a Thystiolaeth Dewis Polisi 1

Disgrifiad: Asesiad economaidd llawn

Blwyddyn Sail y Pris 2016
Blwyddyn Sail Gwerth Presennol 2017
Cyfnod o Amser Blynyddoedd 10

Manteision Net (Gwerth Presennol) (£m)

Isel Amherthnasol
Uchel Amherthnasol
Amcangyfrif gorau 377

Costau (£m)

Cyfanswm Trosi (Pris Cyson) Blynyddoedd (1) Cyfartaledd Blynyddol (ac eithrio Trosi) (Pris Cyson) Cyfanswm Costau (Gwerth Presennol)
Isel Amherthnasol Amherthnasol Amherthnasol
Uchel Amherthnasol Amherthnasol Amherthnasol
Amcangyfrif Gorau 0.3 33 281

Disgrifiad a graddfa’r costau allweddol â gwerth ariannol yn ôl y ‘prif grwpiau yr effeithir arnynt’

Disgwylir i gostau gael eu tynnu gan sefydliadau partner nad ydynt yn rhoi blaenoriaeth neu yn atal trais difrifol yn llwyddiannus, a amcangyfrifir i fod yn tua 71 y cant (223) o’r partneriaethau diogelwch cymunedol presennol.

I’r sefydliadau hyn mae’r costau gwaith parhaus a’r costau sefydlu/offer cychwynnol yn cael eu cyfrifo dros 10 mlynedd. Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau, dros 10 mlynedd, yn £281 miliwn (gwerth presennol).

Costau eraill heb werth ariannol yn ôl y ‘prif grwpiau yr effeithir arnynt’

Ni roddwyd gwerth ariannol ar y costau posibl i garchardai, timau troseddwyr ifanc a sefydliadau tai.

Manteision (£m)

Cyfanswm Trosi (Pris Cyson) Blynyddoedd (1) Cyfartaledd Blynyddol (ac eithrio Trosi) (Pris Cyson) Cyfanswm Costau (Gwerth Presennol)
Isel Amherthnasol Amherthnasol Amherthnasol
Uchel Amherthnasol Amherthnasol Amherthnasol
Amcangyfrif Gorau 0 77 657

Disgrifiad a graddfa’r manteision allweddol â gwerth ariannol yn ôl y ‘prif grwpiau yr effeithir arnynt’

Mae’r manteision y rhoddwyd gwerth ariannol iddynt yn deillio o ostyngiad yn y troseddau trais difrifol a amcangyfrifir o’r gwerthusiadau cyhoeddedig. Lluosir y rhain gyda’r gost gymdeithasol, gan ddefnyddio dull cost troseddu cyhoeddedig. Tybir mai dim ond nifer fechan o bartneriaethau cymwys (11) sy’n llwyddiannus ac yn creu mantais. Amcangyfrifir bod cyfanswm y manteision, dros 10 mlynedd, yn £657 miliwn (gwerth presennol).

Manteision allweddol eraill heb werth ariannol yn ôl y ‘prif grwpiau yr effeithir arnynt’

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth leihau ofn trosedd yn ogystal â’r nifer o droseddau. Ni roddwyd gwerth ariannol ar hyn.

Ni roddwyd gwerth ariannol ar unrhyw effeithiau ar droseddu heb fod yn dreisgar.

Tybiaethau/ sensitifrwydd/risgiau allweddol

Cyfradd ddisgownt

3.5%

Tybir mai dim ond ar y gyfran o bartneriaethau (a sefydliadau cysylltiedig) nad ydynt yn taclo/atal trais difrifol yn effeithiol ar hyn o bryd y mae’r ddyletswydd yn effeithio (71% o’r cyfanswm). Amcangyfrifir mai dim ond 5 y cant o’r rhain fydd yn dangos manteision llwyddiannus. Mae risg na fydd gan yr holl bartneriaid ysgogiad i fabwysiadu dull amlasiantaethol, na fydd y manteision o ran lleihau troseddu mor fawr ag y mae gwerthusiadau yn y gorffennol wedi ei amcangyfrif. Gall y ddau leihau gwerth presennol net y dewis a ffafrir.

Asesiad busnes (Dewis 1)

Effaith uniongyrchol ar fusnes (Cyfatebol Blynyddol) £m:

Costau: 2.9
Manteision: 0.0
Net: -2.9

Sgôr ar gyfer Targed Effaith Busnes (darpariaethau cymwys yn unig) £m:

Amherthnasol

Y Sail Tystiolaeth (ar gyfer taflenni crynhoi)

A. Trosolwg Strategol

A.1 Cefndir

Ers 2014, mae rhai mathau o drais difrifol wedi cynyddu yn amlwg yng Nghymru a Lloegr. Cynyddodd troseddau yn ymwneud â chyllyll o 71 y cant rhwng Rhagfyr 2014 a Rhagfyr 2018. Cynyddodd lladdiadau (ac eithrio troseddau terfysgaeth) o tua 30 y cant a chynyddodd troseddau gynnau o 34 y cant dros yr un cyfnod.

Wrth ymateb i’r cynnydd hwn, cyhoeddodd y Llywodraeth y Strategaeth Trais Difrifol yn Ebrill 2018. Roedd y strategaeth yn ei gwneud yn glir bod dull llwyddiannus yn dibynnu, nid yn unig ar waith hanfodol gorfodi’r gyfraith, ond hefyd ar harneisio gwerth partneriaethau traws-sectoraidd gan gynnwys addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau dioddefwyr wrth daclo trais difrifol.

Er mwyn cadarnhau’r dull hwn, cynigir cyflwyno dyletswydd newydd trwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Byddai hyn yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau penodol i gynllunio a chydweithio i atal a thaclo trais difrifol.

A.2 Grwpiau yr Effeithir Arnynt

Byddai’r ddyletswydd arfaethedig yn effeithio ar y grwpiau canlynol:

  • Heddlu.
  • Awdurdodau lleol (gan gynnwys cyfrifoldebau fel tai, timau troseddwyr ifanc ac iechyd cyhoeddus).
  • Sefydliadau Cyfiawnder Troseddol (gan gynnwys y gwasanaeth prawf a charchardai).
  • Cyrff iechyd a gofal cymdeithasol (e.e. grwpiau comisiynu clinigol; ymddiriedolaethau gofal sylfaenol a chartrefi gofal plant).
  • Awdurdodau addysg (cynrychiolwyr ysgolion, darparwyr darpariaeth wahanol a sefydliadau addysg uwch).

Bydd yr awdurdodau fydd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn debyg i’r rhai a restrir yn Atodlen 6 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (gweler Atodiad 1).

A.3 Ymgynghoriad

O fewn y Llywodraeth

Ymgynghorwyd â nifer o adrannau/asiantaethau’r llywodraeth fel rhan o ddatblygu’r ymgynghoriad gan gynnwys:

  • Yr Adran Addysg.
  • Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron.
  • Y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • Yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Agorodd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar 1 Ebrill i geisio barn ar gyflwyno dyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol. Caewyd yr ymgynghoriad ar 28 Mai 2019. Croesawyd ymatebion yn arbennig gan y rhai ag arbenigedd mewn gweithio gyda phobl ifanc mewn risg o ymwneud â throseddau a/neu aildroseddu neu gael eu herlid, y rhai sy’n ymwneud â gorfodi’r gyfraith ac, yn fwy cyffredinol, y cymunedau y mae trais difrifol yn effeithio arnynt gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol. Roedd hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol perthnasol, fel y rhai sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, addysg, gorfodi’r gyfraith, llywodraeth leol, diogelwch cymunedol, gwasanaethau ieuenctid, rheoli troseddwyr, gwasanaethau dioddefwyr, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd. I gydnabod dulliau amlasiantaethol y tu allan i Gymru a Lloegr, croesawyd ymatebion hefyd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar dri dewis:

a) Dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol i gydweithio a chynllunio i atal a thaclo trais difrifol.

b) Dyletswydd newydd trwy ddeddfu i ddiwygio Partneriaethau Diogelwch Cymunedol.

c) Dull gwirfoddol heb fod yn ddeddfwriaethol o atal a thaclo trais difrifol.

B. Y rhesymeg tu ôl i’r ymyrraeth.

Y broblem: mae trais difrifol yn cynyddu ac er bod gweithio mewn partneriaeth yn ymateb ar sail tystiolaeth, dim ond cyfran fechan o bartneriaethau sydd yn taclo trais difrifol yn effeithiol ar hyn o bryd.

Cynyddodd trais difrifol ers 2014/15. Er enghraifft, cynyddodd troseddau cyllyll o 71 y cant rhwng Rhagfyr 2014 a Rhagfyr 2018. Mae’r cynnydd wedi parhau yn y ffigyrau diweddaraf sy’n dangos cynnydd 6 y cant o flwyddyn i flwyddyn mewn troseddau cyllyll hyd at Ragfyr 2018.

Dengys tystiolaeth bod gweithio mewn partneriaeth yn ymateb ar sail tystiolaeth. Er enghraifft, daeth adolygiad gan y Swyddfa Gartref o weithio mewn partneriaeth[footnote 1] oedd yn edrych ar naw astudiaeth, chwech ohonynt yn werthusiadau o gynlluniau a gynlluniwyd i daclo trais difrifol, i’r casgliad:

…on balance, the evidence suggests that the principle of applying partnership working as a component of initiatives to tackle complex crime and disorder problems is effective”. (tiii).

Profodd adolygiad systematig diweddar effeithiolrwydd dull un bartneriaeth a elwir yn atal wedi ei ffocysu neu ‘dynnu lefrau’. Mae hwn yn targedu troseddwyr difrifol trwy gynnig help gan amrywiaeth o wasanaethau gyda’r bygythiad o orfodaeth os na dderbynnir unrhyw un o’r cynigion hyn. Canfu’r adolygiad o 24 gwerthusiad bod y dull yn gysylltiedig ag effaith arwyddocaol ystadegol cymedrol o ran lleihau troseddu.[footnote 2] O ganlyniad i’r astudiaethau yma ac astudiaethau eraill, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cefnogi ‘dull iechyd cyhoeddus’ o ymdrin â thrais.[footnote 3]

Mae angen deddfwriaeth i sicrhau bod trais difrifol yn cael blaenoriaeth. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod yr ymateb i drais difrifol yn gymysg dan y fframwaith presennol.

Canfu adolygiad a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol o weithio mewn partneriaeth i daclo diogelwch cymunedol a throseddu yn 2016[footnote 4] mai dim ond 20 y cant o’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Grwpiau Diogelwch Sirol oedd yn rhestru trais fel blaenoriaeth.[footnote 5] Dim ond 29 y cant o bartneriaethau a nododd eu bod yn ‘hyderus iawn’ o gyflawni eu blaenoriaethau. Roedd y crynodeb o’r adroddiad[footnote 6] hefyd yn amlygu yr amrywiaeth o ran ansawdd mewn gweithio mewn partneriaeth:

…variations were reported regarding the strength of local authority relationships with other statutory CSP partners. In some areas there are excellent relationships in place; representation at (and chairing of) meetings is consistent, allowing relationships to flourish; communication is good across partners, and information is shared. However it is clear this is not universal; in other places some partners may be more engaged than others, and there continue to be concerns in some areas about silo working and core issues such as data sharing – which are critical in efforts to ensure public safety. Working with partners who do not share coterminous boundaries presents additional challenges. Given limited resources and pressured budgets across partners, it is even more important to address these concerns.” (t9)

C. Amcan polisi

Y nod yw i ardaloedd lleol ddefnyddio dull amlasiantaethol i ddeall achosion a chanlyniadau trais difrifol, yn canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, ac ar sail tystiolaeth a gwerthusiad trylwyr o’r ymyraethau. Cyfeirir at hyn yn aml fel dull ‘iechyd cyhoeddus’. Mae hyn yn gofyn i amrywiaeth o gyrff a sefydliadau weithio gyda’i gilydd i daclo’r mater hwn gan gynnwys asiantaethau gorfodi’r gyfraith, partneriaid addysg, awdurdodau lleol, gwasanaethau rheoli troseddwyr gan gynnwys gwasanaethau troseddwyr ifanc a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac iechyd cyhoeddus yn gweithredu ar y cyd. Byddai disgwyl hefyd i’r partneriaid hynny chwilio am gyfleoedd i dynnu cefnogaeth ac arbenigedd ehangach i mewn yn eu cymunedau, gan gynnwys y rhai yn y sector gwirfoddol ac elusennol.

Yn gryno, mae’r dull a argymhellir (fel y nodwyd gan yr WHO):

  • Yn canolbwyntio ar boblogaeth a ddiffinnir, gyda risg iechyd yn gyffredin iddynt yn aml.
  • Gydag a thros gymunedau.
  • Heb ei gyfyngu gan derfynau sefydliadol neu broffesiynol.
  • Yn canolbwyntio ar greu atebion tymor hir a thymor byr.
  • Yn seiliedig ar ddata a gwybodaeth i ddynodi’r baich ar y boblogaeth, gan gynnwys unrhyw anghyfartaledd.
  • Wedi ei wreiddio ar sail tystiolaeth o effeithiolrwydd wrth drin y broblem.

Mae dull ataliol amlasiantaethol eisoes yn cael ei symud ymlaen trwy Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth. Nod y ddeddfwriaeth yw atgyfnerthu’r dull hwnnw a sicrhau bod y partneriaethau nad ydynt yn gweithio fel y dylent ar hyn o bryd yn cymryd rôl weithredol wrth leihau trais difrifol trwy ddull ar sail tystiolaeth.

D. Disgrifiad o’r dewisiadau a ystyriwyd.

Dewis 0 yw peidio â gwneud unrhyw newidiadau.

Dewis 1 yw deddfu. Byddai hyn yn creu dyletswydd statudol newydd ar awdurdodau tebyg i’r rhai a nodir yn Atodlen 6 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (gweler Atodiad 1) i gynllunio a chydweithio i atal a thaclo trais difrifol. Bydd y ddyletswydd yn seiliedig ar gyfarwyddyd i’r awdurdodau perthnasol a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

E. Gwerthusiad.

Dewis 0

Mae’r dewis hwn yn golygu dim gweithgareddau newydd felly nid oes unrhyw gostau na manteision ychwanegol.

Dewis 1

Tybiaethau cyffredinol a data

Mae’r polisi hwn yn cael ei arfarnu dros gyfnod o 10 mlynedd yn unol â chyfarwyddyd Llyfr Gwyrdd (2018) Trysorlys EM. Defnyddir cyfradd ddisgownt gymdeithasol o 3.5 y cant i ddisgowntio gwerthoedd yn y dyfodol i roi gwerthoedd presennol am y cyfnod gyda 2017 yn cael ei defnyddio fel y flwyddyn sail ar gyfer gwerth presennol. Mae’r holl gostau a manteision eraill ym mhrisiau 2016 oni nodir yn wahanol, er enghraifft, costau’r flwyddyn. Tybir mai ym mlwyddyn 1 yn unig y bydd costau trosi. Y prif dybiaethau eraill yw:

1) O’r 305 o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, mae 29 y cant (88) yn taclo/atal trais difrifol yn llwyddiannus ar hyn o bryd. Cymerir hyn o Adroddiad y Gymdeithas Llywodraeth Leol am 2016 a ganfu bod 29 o bartneriaethau yn hyderus am gyflawni eu blaenoriaethau[footnote 7]. Tybir na fydd y ddyletswydd newydd yn effeithio ar y partneriaethau llwyddiannus hyn ac felly ni fyddant yn tynnu unrhyw gostau na manteision.

2) Ond, y gwrthwyneb i dybiaeth 1) yw bod tybiaeth bod 71 y cant (223) o’r partneriaethau ddim mor effeithiol ag y dylent fod. Tybir felly bod y ddyletswydd yn effeithio arnynt a thrwy hynny eu bod yn tynnu costau.

3) Tybir mai dim ond 5 y cant o’r partneriaethau y mae’r ddyletswydd yn effeithio arnynt fydd yn cyflawni manteision o ran lleihau troseddu. Mae hyn yn cyfateb i 11 o bartneriaethau sy’n llwyddiannus o’r newydd (5 y cant o 223). Mae’r partneriaethau hyn yn gweld manteision yn ogystal â chostau. Mae’r gweddill yn tynnu costau yn unig.[footnote 8]

4) Tybir nad yw taclo/atal trais difrifol yn llwyddiannus yn effeithio ar raddfa clirio troseddau. Mae hyn yn awgrymu nad oes costau na manteision i’r System Cyfiawnder Troseddol ymhellach ymlaen heblaw’r rhai sy’n cael eu hachosi gan y newid yn y nifer o droseddau.

5) Tybir bod yr holl weithgaredd sy’n cael ei yrru gan y ddyletswydd newydd yn ychwanegol. Mewn geiriau eraill, nid yw sefydliadau yn torri adnoddau yn ôl mewn meysydd eraill er mwyn taclo/atal trais difrifol.

6) Tybir bod y costau heblaw cyflogau yn cyfateb i tua 18 y cant o gostau cyflogau.[footnote 9]

Costau

Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar bum math o sefydliad. Mae costau’r polisi yn rhoi awgrym o’r costau y gall y sefydliadau yma eu tynnu os bydd y gweithgaredd yma yn cael ei gyflawni yn effeithiol, yn unol â’r cyfrifoldebau presennol. Mae’r costau hyn yn dod dan ddau gategori yn fras:

  1. Costau llafur: Costau personél/cyflog gros unigolion sy’n ofynnol i gyflawni’r ddyletswydd. Yn gyffredinol mae’r rhain yn cael eu hailadrodd yn flynyddol.

  2. Costau heblaw llafur (er enghraifft, offer ychwanegol, TG, gofod mewn adeiladau, hyfforddiant ac ati). Mae rhai o’r rhain yn ail ddigwydd yn flynyddol ond mae llawer yn gostau trosi.

Nid oes ffynhonnell data diffiniol i amcangyfrif y costau yma. Er mwyn cael yr amcangyfrif gorau, defnyddiwyd y dull canlynol ar gyfer pob sector gwahanol:

Awdurdodau lleol

Gofynnwyd am wybodaeth am gostau fel rhan o’r broses ymgynghori. Gofynnwyd i ymatebwyr o’r sefydliadau fyddai’n dod dan y ddyletswydd faint o gostau ychwanegol fyddai’n ofynnol i’w gyflawni. Roedd 55 ymatebwr o Awdurdodau Lleol, a rhoddodd 23 ohonynt amcangyfrifon rhifyddol. Glanhawyd y data hwn gan gael gwared o’r rhai rhy wahanol. Ar gyfer costau llafur cymerwyd y gwerth canolrifol: 1 gweithiwr cyfatebol i lawn amser i bob awdurdod lleol. Dynododd rhai ymatebwyr hefyd y mathau o rolau ychwanegol a fyddai’n angenrheidiol. Cyfunwyd y wybodaeth hon â gwerthoedd enillion yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2018 (ASHE) i gynhyrchu amcangyfrif blynyddol wedi ei bwysoli o’r cyflog/gorbenion am bob aelod llawn amser o staff: £26,169.[footnote 10] Ychwanegwyd 18 y cant i gyfrif am gostau heblaw cyflogau, gweler tybiaeth 6. Lluosogwyd y costau hyn gyda’r nifer o awdurdodau lleol y tybir y bydd y ddyletswydd arfaethedig yn effeithio arnynt: 247.[footnote 11] Cafwyd y ffigwr hwn trwy luosi cyfanswm yr awdurdodau lleol gyda’r gyfran y tybir y bydd y ddyletswydd arfaethedig yn effeithio arnynt (71 y cant, gweler tybiaeth 2). Rhoddodd hyn gyfanswm costau llafur blynyddol o £7.3 miliwn (ym mhrisiau 2016).

Nid oedd yn bosibl rhoi gwerth ariannol ar y costau heblaw llafur o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, felly cymerwyd y rhain o’r gwerthusiad economaidd gan Florence et al. (2014) o fodel partneriaeth leihau troseddu lwyddiannus yng Nghaerdydd, a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Meddygol Prydeinig.[footnote 12] Roedd y bartneriaeth yn cynnwys partneriaid o’r heddlu, iechyd ac awdurdod lleol ac roedd y costau yn cael eu rhannu yn gostau llafur a heblaw llafur a rhwng costau sefydlu a chostau parhaus. Amcangyfrifwyd bod y costau heblaw llafur i awdurdodau lleol yn £13,600 a barnwyd eu bod yn digwydd yn flynyddol.

Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau o ran gwerth presennol dros 10 mlynedd yn £57 miliwn.

Heddlu

Roedd 29 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan yr heddlu, chwech ohonynt yn cynnwys amcangyfrifon rhifyddol o gostau llafur ychwanegol y ddyletswydd arfaethedig ar lu heddlu. Y canolrif o ran gweithwyr cyfatebol i amser llawn oedd yn ofynnol oedd 18.75. Roedd y cyflog wedi ei bwysoli ar gyfer y gweithwyr cyfatebol i amser llawn hynny a gafwyd trwy gyfuno’r data o’r ymatebion i’r ymgynghoriad â chostau’r uned yn ASHE 2018, yn £29,596. Ychwanegwyd 18 y cant ychwanegol ar gyfer costau heblaw cyflogau, gweler tybiaeth 6. Trwy luosogi’r cyfanswm â’r nifer o luoedd y bydd yn effeithio arnynt (71 y cant o 44 llu, gweler tybiaeth 2), ceir amcangyfrif blynyddol o gostau llafur o £19.5 miliwn ym mhrisiau 2016.

Nid oedd digon o ymatebion i’r ymgynghoriad i amcangyfrif y costau heblaw llafur i’r heddlu yn gywir. Cymerwyd y rhain yn hytrach o werthusiad economaidd Florence et al. (2014) o’r model partneriaeth a fwriadwyd i leihau trais yng Nghaerdydd. Roedd yr astudiaeth yn amcangyfrif y byddai cost sefydlu yn y flwyddyn gyntaf o tua £137,000 i’r heddlu.

Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau o ran gwerth presennol dros 10 mlynedd yn £152 miliwn.

Sefydliadau Cyfiawnder Troseddol

Derbyniodd yr ymgynghoriad ymatebion gan dri math o sefydliad cyfiawnder troseddol: carchardai, timau troseddwyr ifanc a’r gwasanaeth prawf. Nid oedd digon o ddata i amcangyfrif y costau i garchardai a thimau troseddwyr ifanc, felly ni roddwyd gwerth ariannol i’r costau hyn.

Ar gyfer y gwasanaeth prawf derbyniwyd amcangyfrif o adnoddau ychwanegol gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Rhoddwyd gwerth ariannol ar y gweithwyr cyfatebol i amser llawn gofynnol (75 y flwyddyn) trwy gyfuno’r wybodaeth cyflog a roddwyd gyda’r costau uned o ASHE 2018. Ychwanegwyd 18 y cant ychwanegol ar gyfer costau heblaw cyflogau, gweler tybiaeth 6. Roedd hyn yn cynhyrchu amcangyfrif blynyddol o tua £3.0 miliwn (ym mhrisiau 2016).

Dynododd yr ymateb i’r ymgynghoriad nad yw’n debygol y bydd unrhyw gostau heblaw llafur yn disgyn ar y sector prawf o’r ddyletswydd arfaethedig.

Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau o ran gwerth presennol dros 10 mlynedd yn £23 miliwn.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Nid oedd digon o ymatebion i’r ymgynghoriad yn cynnwys gwybodaeth rifyddol i amcangyfrif costau i’r sector iechyd. Cymerwyd amcangyfrifon o’r effaith ar Grwpiau Comisiynu Clinigol o werthusiad economaidd Florence et al. (2014) o’r model partneriaeth a fwriadwyd i leihau trais yng Nghaerdydd. Roedd y bartneriaeth hon yn bennaf yn un rhwng yr heddlu a’r sector iechyd felly mae’n ffynhonnell addas ar gyfer y costau hyn.[footnote 13]

Roedd yr astudiaeth yn amcangyfrif bod costau llafur yn gysylltiedig ag iechyd y bartneriaeth yn £10,600 y flwyddyn. Roedd y prosiect yn gweithredu yng Nghaerdydd, ardal partneriaeth diogelwch cymunedol. Mae 314 partneriaeth diogelwch cymunedol yng Nghymru a Lloegr. Lluosogwyd y gost felly gyda’r nifer o bartneriaethau yr amcangyfrifwyd yr oedd y ddyletswydd yn effeithio arnynt (314 x 71% = 223, gweler tybiaeth 2). Rhoddodd hyn gost llafur blynyddol terfynol o tua £2.4 miliwn. Roedd yr astudiaeth hefyd yn rhoi amcangyfrif o’r costau heblaw llafur. Troswyd hyn yn amcangyfrif cenedlaethol i gynhyrchu amcangyfrif terfynol o tua £23,000 o gostau heblaw llafur blynyddol.

Yn ychwanegol, disgwylir i’r ddyletswydd arfaethedig effeithio ar gartrefi plant. Mae plant mewn gofal, neu sydd wedi bod mewn gofal, yn anghymesur o debygol o ymwneud â thrais difrifol naill ai fel dioddefwyr neu gyflawnwyr. Felly mae gweithio mwy clos mewn partneriaeth rhwng cartrefi gofal plant a’r sectorau eraill, yn arbennig trwy rannu gwybodaeth a data yn un o nodau pwysig y ddyletswydd. Amcangyfrifir bod y costau sy’n gysylltiedig â hyn yn debyg i’r rhannu data/gwybodaeth a gyflawnwyd ym model Caerdydd (a oedd rhwng yr heddlu ac adrannau damweiniau ac argyfwng). Amcangyfrifwyd hynny (uchod) ar tua £2.4 miliwn y flwyddyn. Oherwydd bod 81 y cant o gartrefi gofal plant yn cael eu rhedeg yn breifat, tybir bod 81 y cant o gyfanswm y costau yn disgyn ar fusnesau[footnote 14].

Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau o ran gwerth presennol dros 10 mlynedd yn £37 miliwn.

Addysg

Nid oedd digon o ymatebion i’r ymgynghoriad yn cynnwys gwybodaeth rifyddol i amcangyfrif costau i’r sector Addysg ac ni ellid defnyddio astudiaeth Florence et al. (2014) gan nad oedd partneriaeth Caerdydd yn cynnwys sefydliadau addysg.

Felly, er y bydd y gweithgaredd a ddisgwylir gan y sector addysg dan y ddyletswydd hon yn wahanol, rydym wedi amcangyfrif yr effaith ar sail y ddyletswydd ‘Prevent’ a gyflwynwyd yn 2014[footnote 15]. Roedd costau llafur amcangyfrifedig hwn yn tua £1.2 miliwn yn flynyddol (ym mhrisiau 2016), yn cynnwys y gweithwyr cyfatebol i amser llawn oedd yn ofynnol i drefnu ymateb addas ar draws y sector ar gyfer atal/taclo trais difrifol. Amcangyfrifwyd hefyd bod £0.2 miliwn o gostau sefydlu cychwynnol a chost heblaw llafur o tua £0.3 miliwn fyddai’n digwydd dro ar ôl tro. Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau o ran gwerth presennol dros 10 mlynedd yn £12 miliwn.

Mae’n debygol y bydd rhai o’r costau yma yn disgyn ar ysgolion preifat, colegau, prifysgolion a hefyd ar ddarparwyr gwahanol sy’n cael eu rhedeg yn breifat. Mae ystadegau’r Adran Addysg yn dangos, yn 2017/18, bod 581,875 o blant yn mynychu ysgolion annibynnol (nad ydynt yn derbyn arian gan y DfE)[footnote 16]. Trwy rannu hyn â chyfanswm y plant sydd mewn ysgolion neu ddarpariaeth wahanol ceir y rhif 6.7 y cant, a ddefnyddir fel amcangyfrif ar gyfer y rhaniad yn y costau rhwng y sector cyhoeddus a phreifat. Er mwyn amcangyfrif y gost i fusnesau, lluosogwyd cyfanswm y costau i ysgolion â 6.7 y cant. Yn ychwanegol, tybiwyd bod yr holl gostau i addysg uwch a phellach yn disgyn ar sefydliadau a reolir yn breifat. O’u cymryd gyda’i gilydd, mae hyn yn awgrymu cyfanswm cost i fusnesau am y sector addysg o tua £1.2 miliwn y flwyddyn.

Rhoddir crynodeb o’r costau yma yn Nhabl 1.

Tabl 1: Costau a amcangyfrifir ar gyfer Dewis 1, yn ôl sector, £ miliwn. (prisiau 2016).

Blwyddyn 2020 2021 2022 2023 2024 2025 2026 2027 2028 2029 Cyfanswm
Blwyddyn y Rhaglen 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10  
Sefydliad                      
Heddlu (llafur) 19.5 19.5 19.5 19.5 19.5 19.5 19.5 19.5 19.5 19.5 195.3
Heddlu (heblaw llafur) 0.1 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.1
Cyfanswm costau heddlu (Gwerth Presennol)                     151.8
Awdurdodau Lleol (llafur) 7.3 7.3 7.3 7.3 7.3 7.3 7.3 7.3 7.3 7.3 73.4
Awdurdodau Lleol (heblaw llafur) 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.1
Cyfanswm costau awdurdodau lleol (gwerth presennol)                     57.1
Cyfiawnder Troseddol: Gwasanaeth Prawf (llafur) 3.0 3.0 3.0 3.0 3.0 3.0 3.0 3.0 3.0 3.0 29.8
Cyfiawnder Troseddol: Gwasanaeth Prawf (heblaw llafur) 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0
Cyfanswm costau cyfiawnder troseddol (gwerth presennol)                     23.1
Iechyd (llafur) 4.7 4.7 4.7 4.7 4.7 4.7 4.7 4.7 4.7 4.7 47.5
Iechyd (heblaw llafur) 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.2
Cyfanswm costau iechyd (gwerth presennol)                     37.0
Addysg (llafur) 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 11.7
Addysg (heblaw llafur) 0.5 0.3 0.3 0.3 0.3 0.3 0.3 0.3 0.3 0.3 3.1
Cyfanswm costau addysg (gwerth presennol)                     11.6
Cyfanswm Costau (prisiau 2016) 36.4 36.1 36.1 36.1 36.1 36.1 36.1 36.1 36.1 36.1 361.4
Gwerth Presennol y Costau                     280.6

Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref, cyfrifiadau eu hunain.

Sylwer: Efallai na fydd rhai ffigyrau yn cyfateb i’r cyfanswm oherwydd talgrynnu.

Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau yn £361 miliwn, sy’n cyfateb i £281 miliwn o werth presennol dros y cyfnod arfarnu o 10 mlynedd.

Manteision

Mae tystiolaeth dda i ddangos y gall dulliau amlasiantaethol llwyddiannus leihau trais, gan gynnwys y mathau mwyaf difrifol o drais ar y stryd sydd wedi bod yn cynyddu ers 2014 yng Nghymru a Lloegr, fel troseddau gynnau/cyllyll. Er enghraifft:

  • Daeth adolygiad gan y Swyddfa Gartref o gynlluniau partneriaeth i’r casgliad bod y dull yn effeithiol. Roedd chwech o’r naw astudiaeth, y seiliwyd y casgliad hwn arnynt, wedi eu hanelu at drais difrifol.[footnote 17]
  • Dangosodd adolygiad systematig o un dull amlasiantaethol neilltuol, a elwir yn ‘atal wedi ei ffocysu’ ei fod yn cael effaith gymedrol ar leihau troseddu.[footnote 18]
  • Casglodd dadansoddiad y Swyddfa Gartref o ddull amlasiantaethol tuag at drais a ddefnyddiwyd yn yr Alban yng nghanol y 2000au ei fod yn debygol o esbonio’r lefel is o drais yn yr Alban mewn cymhariaeth â Chymru a Lloegr ers 2005. Gweler Atodiad 2 am fanylion.

Nid oedd yr un o’r Astudiaethau uchod yn defnyddio dadansoddiad cost/mantais. Ond fe wnaeth dull partneriaeth arall o leihau trais, a ddilynwyd yng Nghaerdydd, roi gwerth ariannol ar gostau a manteision y dull partneriaeth hwnnw. Defnyddir y rhain i ddirprwyo am fanteision y dewis arfaethedig.[footnote 19]

Sail model Caerdydd oedd dwyn yr heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol oedd yn gyfrifol am drin y rhai sy’n cael eu hanafu trwy drais at ei gilydd i archwilio atal. Gwnaed hyn trwy rannu data heddlu ac adran argyfwng i ddyfeisio strategaethau ac ymyraethau atal.

Gwerthuswyd y model gan ddefnyddio dyluniad rhannol-arbrofol lle crëwyd 14 o ddinasoedd cymharol gan ddefnyddio peirianwaith wedi ei gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref. Mae’n defnyddio basgedaid o ddangosyddion i gyfateb ardaloedd ag ardaloedd cymharol tebyg. Yn dilyn gweithredu’r model partneriaeth, roedd y gwerthusiad yn amcangyfrif bod trais difrifol wedi gostwng o 38 y cant yng Nghaerdydd mewn cymhariaeth â’r ardaloedd cymharol. [footnote 20] Canfu astudiaeth cost/mantais ar wahân bod y bartneriaeth yn gost effeithiol iawn. Cyhoeddwyd gwerthusiad economaidd o ddull partneriaeth Caerdydd yn y cylchgrawn BMJ ar-lein, Injury Prevention. [footnote 21] Mae’r astudiaeth hon yn cynnwys manylion economaidd costau a manteision y rhaglen. Y dull a ddefnyddiwyd i amcangyfrif y manteision oedd archwilio troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a chymharu troseddau misol cyn i’r rhaglen ddechrau ac wedyn yng Nghaerdydd â’r 14 ardal gymharol. Cyfrifwyd yr amcangyfrifon o effeithiolrwydd gan ddefnyddio dull gwahaniaeth-mewn-gwahaniaeth gyda dulliau cymharu ychwanegol ar gyfer diweithdra a newidiadau yn niferoedd yr heddlu ar draws yr ardaloedd.

Rhoddwyd gwerth ariannol i’r effeithiau, o ran gostyngiadau yn y troseddau treisgar, gan ddefnyddio dull cost troseddau’r Swyddfa Gartref. Cynhyrchodd y broses hon y canlyniadau isod (atgynhyrchir Tabl 2 yn uniongyrchol o’r astudiaeth)[footnote 22]:

Tabl 2: Costau a manteision o Fodel Caerdydd.

Blwyddyn Cyfanswm y manteision (2003 £) Manteision gwasanaeth iechyd (2003 £) Manteision cyfiawnder troseddol (2003 £) Costau’r rhaglen (2003 £) Cyfanswm y gymhareb mantais/cost Cymhareb mantais/cost gwasanaethau iechyd Cymhareb mantais/cost cyfiawnder troseddol
2003 2,085,978 409,355 489,884 46,972 44.41 8.71 10.43
2004 5,663,925 1,000,878 1,309,431 58,081 97.52 17.23 22.54
2005 5,272,716 939,580 1,220,456 69,341 76.04 13.55 17.6
2006 5,406,452 970,706 1,252,777 60,035 90.06 16.17 20.87
2007 6,986,631 1,252,780 1,618,628 72,495 96.37 17.28 22.33
Cyfanswm 23,445,262 4,220,741 5,434,818 285,143 82.22 14.8 19.06

Ffynhonnell: Florence et al. (2014).

Ar gyfer dibenion yr asesiad effaith hwn defnyddiwyd y manteision yn y golofn gyntaf fel y manteision amcangyfrifedig ar gyfer pum mlynedd cyntaf unrhyw bartneriaethau sy’n llwyddiannus o’r newydd. Roedd model Caerdydd yn gweithredu ar lefel partneriaeth diogelwch cymunedol, y mae 314 ohonynt yng Nghymru a Lloegr[footnote 23]. Mae tybiaeth 1 yn nodi bod 29 y cant o’r rhain eisoes yn taclo trais difrifol yn llwyddiannus. Mae hyn yn golygu mai dim ond 223 (71 y cant o 314) sy’n cael eu tybio i fod yn gymwys ar gyfer manteision. Mae’n debygol na fydd y ddyletswydd arfaethedig yn trawsnewid yr holl bartneriaethau hyn yn fodelau mor llwyddiannus â Chaerdydd. Tybir, felly, mai dim ond 5 y cant o’r partneriaethau cymwys gweithredol sy’n cael yr un fantais â chynllun Caerdydd. Crynhoir y cyfrifiadau hyn yn Nhabl 3.

Tabl 3: Manteision amcangyfrifedig Dewis 1, Cymru a Lloegr (£ miliwn, nifer a %).

Blwyddyn 2020 2021 2022 2023 2024 2025 2026 2027 2028 2029 Cyfanswm
Blwyddyn y Rhaglen 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10  
Manteision i bob partneriaeth (prisiau 2003) 2.1 5.5 4.9 4.9 6.1 4.5 4.2 3.9 3.6 3.4 43.1
Manteision i bob partneriaeth (prisiau 2016) 2.7 7.6 7.3 7.8 10.4 8.3 8.3 8.3 8.3 8.3 77.0
Gwerth Presennol (blwyddyn sail 2017, prisiau 2016) 2.4 6.6 6.2 6.3 8.2 6.3 6.1 5.9 5.7 5.5 59.0
Partneriaethau cymwys 223 223 223 223 223 223 223 223 223 223  
Cyfradd llwyddiant 5% 5% 5% 5% 5% 5% 5% 5% 5% 5%  
Cyfanswm y manteision (prisiau 2016) 30.1 84.5 81.5 86.5 115.6 92.0 92.0 92.0 92.0 92.0 858.3
Cyfanswm y manteision (gwerth presennol, prisiau 2016) 27.1 73.7 68.6 70.3 90.9 69.9 67.5 65.2 63.0 60.9 657.2

Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref, cyfrifiadau eu hunain.

Amcangyfrifir bod y manteision yn £858 miliwn, sy’n cyfateb i £657 miliwn gwerth presennol dros 10 mlynedd. Mae hyn yn cyfateb i ostyngiad o tua 20 lladdiad y flwyddyn (mae tua 600-700 y flwyddyn ar hyn o bryd).

Costau a manteision heb werth ariannol

Ni roddwyd gwerth ariannol i rai o gostau a manteision y polisi. Rhestrir y rhain isod:

  • Ni fu’n bosibl rhoi gwerth ariannol ar y costau disgwyliedig i rai mathau o sefydliadau y disgwylir i’r ddyletswydd arfaethedig effeithio arnynt, yn arbennig carchardai, timau troseddwyr ifanc a sefydliadau tai.
  • Yn gyffredinol mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall gweithio mewn partneriaeth leihau ofn trosedd yn ogystal â’r nifer o droseddau.[footnote 24] Ni roddwyd gwerth ariannol i’r fantais hon.
  • O ystyried nad yw’r rhan fwyaf o droseddwyr yn benodol yn eu troseddau a’u bod yn cyflawni amrywiaeth eang o droseddau[footnote 25], mae’n bosibl y gall y ddyletswydd fod â manteision o ran lleihau troseddu tu allan i drais. Ni roddwyd gwerth ariannol ar y rhain.

Cyfanswm costau / manteision, gwerth presennol net, BNPV ac EANDCB

Amcangyfrifir bod cyfanswm cost Dewis 1 yn £361 miliwn ac amcangyfrifir bod y fantais yn £858 miliwn (y ddau ym mhrisiau 2016). Mae’r ffigyrau hyn yn cyfateb i gost o £281 miliwn a mantais o £657 miliwn yn nhermau gwerth presennol dros 10 mlynedd.

Mae’r cysyniad gwerth presennol yn ystyried nad yw swm penodol o arian o’r un gwerth i bobl rywbryd yn y dyfodol ag y mae heddiw, gan adlewyrchu yn rhannol, dreiglad amser a thybiaeth bod disgwyl i’r economi dyfu dros amser. Felly, mae defnyddioldeb ymylol pob punt ychwanegol yn lleihau yn y dyfodol. Rhaid i gostau a manteision yn y dyfodol felly gael eu gostwng er mwyn cymharu â chostau a manteision heddiw.

Gwerth Presennol Net polisi yw gwerth presennol y manteision tynnu gwerth presennol y costau ac felly mae’n rhoi gwerth ariannol cyffredinol dewis polisi. Felly yn yr achos hwn, y gwerth presennol net ar gyfer Dewis 1 yw £377 miliwn dros 10 mlynedd.

Amcangyfrifir cyfanswm gwerth ariannol i fusnes Dewis 1 ar £25 miliwn (gwerth presennol dros ddeng mlynedd), gweler adran H. Ni roddwyd unrhyw werth ariannol ar gyfer manteision i fusnes felly’r gwerth presennol net i fusnes yw -£25 miliwn dros 10 mlynedd. Amcangyfrifir bod y Costau Uniongyrchol Net Blynyddol Cyfatebol (EANDCB) yn £2.9 miliwn gwerth presennol.

F. Cymesuredd.

Mae’r dadansoddiad yn yr asesiad effaith hwn yn cynnwys amcangyfrifon gorau ar gyfer costau a manteision y polisïau arfaethedig. Nid oedd yn bosibl rhoi gwerth ariannol, ond gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y dadansoddiad yn rhoi’r amcangyfrifon gorau posibl o effaith tebygol y dewis a ffafrir, o ystyried yr amser, adnoddau a’r data sydd ar gael. Felly mae hon yn ymdrech gymesur i arfarnu’r newid polisi arfaethedig.

G. Risgiau.

Risgiau effeithiau economaidd y polisi:

Mae risg na fydd gan yr holl bartneriaid ysgogiad i fabwysiadu dull amlasiantaethol. Dangosodd yr ymgynghoriad bod rhai sectorau yn llai cefnogol o’r dewis a ffafrir na sectorau eraill. Os na fydd yr holl sectorau yn ymgysylltu, gall hyn arwain at weld y manteision yn is na’r amcangyfrif ac felly gwerth presennol net is. Ond, dim ond gweithio mewn partneriaeth rhwng tair sector: iechyd, yr heddlu ac awdurdodau lleol yr oedd y dull a ddefnyddiwyd i amcangyfrif manteision. Felly mae’n bosibl hefyd y bydd y manteision yn fwy os bydd yr holl bartneriaid yn ymgysylltu. Yn ychwanegol, mae’r manteision a amcangyfrifwyd ar hyn o bryd fwy na dwywaith mor fawr â’r costau. Felly, bydd hyd yn oed ostyngiad o 50 y cant mewn manteision yn arwain at werth presennol net cadarnhaol.

Bydd y ddyletswydd yn gofyn i’r awdurdodau penodedig gydweithio a chynllunio i atal a thaclo trais difrifol a bydd yn gofyn i asiantaethau a chyrff lleol bennu’r ffordd orau i drefnu eu hunain i ymdrin ag angen lleol yn effeithiol. Mae risg y gall hyn arwain at ddulliau gwahanol, lle mae rhai ardaloedd yn dal i berfformio yn well na’i gilydd, gan arwain at fanteision sy’n llai na’r amcangyfrif. Ond, bydd cyfarwyddyd a chefnogaeth yn cael eu rhoi i liniaru’r risg hon ac, fel y nodir uchod, dengys dadansoddiad sensitifrwydd y byddai’n rhaid i’r manteision leihau o fwy na 57 y cant i achosi i’r costau fod yn fwy na’r manteision.[footnote 26]

Mae risg hefyd, yn hytrach na chael adnoddau ychwanegol i gyflawni’r ddyletswydd trais difrifol, y bydd sefydliadau yn lleihau eu gweithgarwch mewn meysydd eraill ac y bydd y deilliannau yn y meysydd hynny yn dirywio, neu y bydd cael dyletswydd benodol ar gyfer trais difrifol yn lleihau’r flaenoriaeth i fathau eraill o droseddau. Byddai hyn yn arwain at weld costau i’r polisi nad ydynt wedi eu disgrifio yma, yn cael eu gyrru gan waeth deilliannau yn y gweithgareddau fydd wedi lleihau. Ond, fel y dangosir uchod, byddai’n rhaid i’r costau godi’n neilltuol i’r costau fod yn fwy na’r manteision.

Gall deddfwriaeth newydd am rannu data, yn arbennig y Dyletswydd Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fod wedi cryfhau’r argraff bod sefydliadau yn cael eu hatal rhag rhannu data a gwybodaeth (neu yn gwneud hynny yn fwy costus i’w gyflawni). Cadarnhaodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) o ran rhannu gwybodaeth debyg, nad yw’r GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 yn atal rhannu data ar gyfer dibenion gorfodi’r gyfraith a’u bod yn darparu peirianwaith i gyflawni hyn (gall hyn gynnwys cynlluniau diogelu ehangach i atal pobl fregus rhag troi at droseddu), ond nid yw’n gofyn i sefydliadau ddefnyddio’r peirianweithiau hynny yn briodol. Os na fyddant, byddai hyn yn debygol o leihau’r manteision a amcangyfrifwyd. Ar hyn o bryd mae’r ICO yn gweithio ar god ymarfer rhannu data wedi ei ddiweddaru a ddylai roi mwy o eglurder i’r sefydliadau dan sylw.

Risgiau dadansoddol:

Ychydig o werthusiadau o ansawdd sydd i’r sail tystiolaeth dros weithio mewn partneriaeth. O ystyried bod treialon cymharol ar hap yn dangos effeithiau llai na dyluniadau rhannol arbrofol, a bod yr asesiad effaith hwn yn dibynnu’n drwm ar yr olaf, mae yn bosib bod y manteision wedi eu gor gyfrif. Ond, gellid dadlau bod iawn yn cael ei wneud am hyn trwy dybio cyfradd fethiant uchel iawn o 95 y cant.

Mae risg y gall rhai partneriaethau ddilyn dull ymchwiliol yn hytrach nag un ataliol wrth ymdrin â thrais difrifol. Byddai hyn yn golygu bod mwy o droseddwyr yn dod i’r system cyfiawnder troseddol. Byddai hyn yn cynyddu’r costau ymhellach ymlaen yn y system, beth bynnag fyddai’r effaith ar droseddu.

H. Cyfrifiadau costau a manteision uniongyrchol i fusnes

Fel y disgrifir yn adran E, mae rhai o’r costau ar gyfer y dewis arfaethedig yn disgyn ar fusnesau. Crynhoir y rhain yn Nhabl 4.

Tabl 4: Amcangyfrif o gostau i fusnes y dewis a ffafrir (£ miliwn, prisiau 2016)

Blwyddyn 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 Cyfanswm
Cartrefi plant mewn dwylo preifat 1.9 1.9 1.9 1.9 1.9 1.9 1.9 1.9 1.9 1.9 19.2
Addysg Bellach ac Uwch 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 1.2 12.2
Ysgolion 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.2
Cyfanswm costau 3.2 3.2 3.2 3.2 3.2 3.2 3.2 3.2 3.2 3.2 31.6

Amcangyfrifir bod cyfanswm y gost i fusnes yn £32 miliwn ym mhrisiau 2016. Sy’n cyfateb i £24.6 miliwn o werth presennol dros y cyfnod arfarnu o 10 mlynedd. Amcangyfrifir bod cyfartaledd y gost i fusnes y flwyddyn yn £3.2 miliwn, sy’n cyfateb i £2.9 miliwn o werth presennol.

Ni roddwyd gwerth ariannol ar rai costau i fusnesau. Er enghraifft, ni roddwyd gwerth ariannol ar unrhyw gostau i garchardai. Byddai rhai o’r rhain yn cael eu talu gan fusnesau o ystyried, o’r 122 carchar yng Nghymru a Lloegr, bod 14 yn cael eu rheoli yn breifat.[footnote 27]

Ni roddwyd gwerth ariannol ar unrhyw fanteision i fusnesau. Mae hyn oherwydd bod y manteision sy’n deillio o lai o droseddau yn disgyn ar sefydliadau sector cyhoeddus fel yr heddlu a’r sector iechyd yn ogystal â lles corfforol ac iechyd meddwl/llesiant dioddefwyr. Ond, mae’n bosibl bod manteision heb roi gwerth ariannol iddynt i fusnesau, er enghraifft trwy ostyngiad mewn ofn troseddau yn arwain at well amodau busnes mewn ardaloedd lle bu yn broblem.

I. Effeithiau ehangach

Mae Asesiad Beichiau Newydd yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd.

Asesiad Busnesau Bach a Chanolig (SaMBA)

Bydd nifer o wahanol fathau o fusnesau yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd newydd. Mae’r rhain yn cynnwys ysgolion preifat, colegau preifat, darpariaeth wahanol breifat a charchardai preifat. Bydd rhai o’r rhain yn fusnesau bach a chanolig, er enghraifft, llawer o’r darparwyr darpariaeth wahanol. Mae’n bwysig i’r sefydliadau hyn gael eu cynnwys yng nghwmpas y ddyletswydd arfaethedig i sicrhau bod unigolion sy’n agored i gymryd rhan mewn trais difrifol yn cael eu dynodi a’u cefnogi, beth bynnag yw maint y sefydliad addysgol (neu arall) y maent yn gysylltiedig ag o.

J. Effaith ar Fasnach.

Ni fydd y polisi yn cael unrhyw effaith ar fasnach.

K. Dyddiad gweithredu, monitro a gwerthuso (PIR os oes angen), egwyddorion gorfodi.

Byddai’r gweithredu yn digwydd cyn gynted ag y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio yn y Senedd ac yn cael y Cydsyniad Brenhinol, sy’n debygol o fod yn 2020.

Bydd y polisi yn cael ei fonitro a’i werthuso ac mae’r gwaith cynllunio ar y gweill i ddatblygu’r fframwaith ar gyfer hyn.

L. Atodiadau.

Atodiad 1: Atodlen 6 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015.

Atodiad 2: Tystiolaeth bellach am effeithiolrwydd y dull partneriaeth yn yr Alban.

Atodiad 1: Atodlen 6 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015

Atodlen 6 Awdurdodau a enwyd

Llywodraeth leol

  • Cyngor sir neu gyngor dosbarth yn Lloegr.
  • Awdurdod Llundain Fwyaf.
  • Cyngor bwrdeistref yn Llundain.
  • Cyngor Cyffredin Dinas Llundain yn ei swyddogaeth fel awdurdod lleol.
  • Cyngor Ynysoedd Sili.
  • Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
  • Unigolyn yn cyflawni swyddogaeth awdurdod a grybwyllir yn adran 1(2) Deddf Llywodraeth Leol 1999 trwy gyfrwng cyfarwyddyd a wnaed dan adran 15 o’r Ddeddf.

Cyfiawnder troseddol

  • Llywodraethwr carchar yng Nghymru a Lloegr (neu, yn achos carchar ar gontract, ei gyfarwyddwr).
  • Llywodraethwr sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu, yn achos sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi ddiogel ar gontract, ei gyfarwyddwr).
  • Pennaeth coleg diogel.
  • Darparwr gwasanaethau prawf yn yr ystyr a roddir gan adran 3(6) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007.

Addysg, gofal plant ac ati

  • Unigolyn a awdurdodwyd yn rhinwedd gorchymyn a wnaed dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 i arfer swyddogaeth a bennwyd yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996.
  • Unigolyn y gwnaed trefniadau gydag o ar gyfer darparu addysg dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 neu adran 100 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (achosion o salwch, gwahardd ac ati).
  • Perchennog –

a) ysgol sydd wedi ei chymeradwyo dan adran 342 Deddf Addysg 1996,

b) ysgol a gynhelir yn yr ystyr a roddir gan adran 20(7) Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998,

c) ysgol feithrin a gynhelir yn yr ystyr a roddir yn adran 22(9) o’r Ddeddf honno,

d) ysgol annibynnol a gofrestrwyd dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002,

e) sefydliad addysgol annibynnol a gofrestrwyd dan adran 95(1) Deddf Addysg a Sgiliau 2008, neu

f) Academi darpariaeth wahanol yn yr ystyr a roddir gan adran 1C Deddf Academïau 2010.

  • Unigolyn sy’n cael ei nodi neu ei enwebu mewn cyfarwyddiadau a wnaed yng nghyswllt arfer swyddogaethau awdurdod lleol a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan adran 497A o Ddeddf Addysg 1996 (gan gynnwys yr adran honno fel y’i gweithredwyd gan adran 50 Deddf Plant 2004 neu adran 15 o Ddeddf Gofal Plant 2006).
  • Unigolyn a gofrestrwyd ar gofrestr a gedwir gan Brif Arolygydd Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau Ei Mawrhydi dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
  • Corff llywodraethu sefydliad cymwys yn yr ystyr a roddir yn adran 11 Deddf Addysg Uwch 2004.
  • Darparwr addysg neu hyfforddiant—

a) y mae Pennod 3 o Ran 8 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn berthnasol iddo, ac

b) y darperir cyllid iddo gan, neu dan y trefniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Prif Weithredwr Cyllido Sgiliau.

  • Unigolyn a gofrestrwyd dan Bennod 2, 2A, 3 neu 3A o Ran 3 Deddf Plant 2006 neu dan adran 20 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (nawm 1).
  • Corff corfforaethol y mae awdurdod lleol wedi llunio trefniadau gydag o dan Ran 1 Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
  • Unigolyn sy’n cael ei nodi neu ei enwebu mewn cyfarwyddiadau a wnaed yng nghyswllt arfer swyddogaethau awdurdod lleol a roddir gan Weinidogion Cymru dan adran 25 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1) (gan gynnwys yr adran honno a weithredir gan adran 50A o Ddeddf Plant 2004 neu adran 29 o Ddeddf Gofal Plant 2006).
  • Corff llywodraethol sefydliad addysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru.
  • Corff Llywodraethol neu berchennog sefydliad (nad yw’n cael ei restru fel arall) lle mae mwy na 250 o fyfyrwyr, ac eithrio myfyrwyr yn dilyn cyrsiau dysgu o bell, yn dilyn –

a) cyrsiau i baratoi at arholiadau sy’n gysylltiedig â chymwysterau a reoleiddir gan y Swyddfa Cymwysterau a Rheoleiddio Arholiadau neu Lywodraeth Cymru;

b) cyrsiau a ddisgrifir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (cyrsiau addysg uwch).

Iechyd a gofal cymdeithasol

  • Ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu dan adran 18 Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
  • Ymddiriedolaeth sefydledig GIG yn yr ystyr a roddir gan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.
  • Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd dan adran 11 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
  • Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru.
  • Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.

Heddlu

  • Prif swyddog heddlu dros ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr.
  • Llu Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
  • Llu Heddlu Porthladd a sefydlwyd dan orchymyn a wnaed dan adran 14 o Ddeddf Porthladdoedd 1964.
  • Y Llu Heddlu Porthladd a sefydlwyd dan Ran 10 Deddf Porthladd Llundain 1968.
  • Llu Heddlu Porthladd a sefydlwyd dan adran 79 o Ddeddf Porthladdoedd, Dociau a Phier 1847.
  • Cyngor Cyffredin Dinas Llundain yn ei swyddogaeth fel awdurdod heddlu.
  • Comisiynydd yr heddlu a throseddu a sefydlwyd dan adran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.
  • Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddu a sefydlwyd dan adran 3 o’r Ddeddf honno.
  • Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil.

Atodiad 2: Dull yr Alban o leihau trais – manylion, tystiolaeth a chymariaethau gyda Chymru a Lloegr

Cyflwynodd yr Alban raglen leihau trais amlasiantaethol yn Strathclyde yn 2005 a’i hehangu yn genedlaethol yn 2006. Roedd tair elfen i ddull eang yr uned – camau gorfodi cyfiawnder troseddol, gwaith atal tymor byr a hir, ac ymdrechion i newid agweddau tuag at drais yng nghymdeithas yr Alban. Mae’r papur hwn yn archwilio effeithiolrwydd dull yr Alban yng ngoleuni cynnydd mewn trais difrifol yng Nghymru a Lloegr ers 2014.

Syrthiodd y tueddiadau mewn trais difrifol yn yr Alban yn dilyn cyflwyno’r rhaglen:

  • Disgynnodd y cyfraddau lladdiadau, niferoedd ymosodiadau difrifol, dwyn a throseddau meddiannu cyllyll a gofnodwyd gan yr heddlu o tua eu hanner rhwng 2006/07 a 2014/15.
  • Gostyngodd ymosodiadau cyffredin o 26% rhwng 2006/07 a 2014/15.
  • Cofnododd Arolwg Troseddu yr Alban ostyngiad o 46% mewn trais treisgar yn erbyn oedolion rhwng 2008/09 a 2017/18.
  • Disgynnodd derbyniadau i ysbytai am ymosodiadau gyda gwrthrych miniog o 28% rhwng 2007/08 a 2017/18.

Ni all hyn gael ei gymryd fel arwydd o effeithiolrwydd y rhaglen yn awtomatig am dri rheswm. Yn gyntaf, gwelodd llawer o genhedloedd eraill, gan gynnwys Cymru a Lloegr, na wnaeth weithredu rhaglen leihau trais ar yr un pryd, ostyngiad amlwg mewn trais yn y degawd hyd at 2014. Yn ail, cymharol ychydig o werthuso cadarn sydd wedi bod ar ddull yr Alban. Yn drydydd, yr un fath â Chymru a Lloegr, mae tystiolaeth bod y duedd ar i lawr wedi dod i ben i rai (ond nid y cyfan) o’r mathau o droseddau treisgar yn yr Alban:

  • Cynyddodd yr ymosodiadau difrifol a gofnodwyd gan yr heddlu 32% rhwng 2014/15 a 2017/18,
  • Cynyddodd achosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu o 17% rhwng 2015/16 a 2017/18,
  • Cynyddodd meddiant cyllyll a gofnodwyd gan yr heddlu o 24% rhwng 2014/15 a 2017/18.
  • Cynyddodd derbyniadau i ysbytai am ymosodiadau gyda gwrthrych miniog o 4% rhwng 2014/15 a 2017/18.

Ond, er bod tueddiadau’r Alban ar yr un patrwm yn fras â Chymru a Lloegr, roedd maint y gostyngiad mewn trais difrifol yn yr Alban yn fwy hyd at 2014, ac mae maint y cynnydd mewn trais difrifol ers hynny wedi bod yn llai. Yn ychwanegol, mae rhai mathau o droseddau, gan gynnwys lladdiadau, heb godi o gwbl ers 2014 yn yr Alban. Mewn geiriau eraill, wedi ei seilio yn llwyr ar ddadansoddiad o dueddiadau troseddu, mae peth tystiolaeth bod effaith gostwng troseddau posibl i raglen weithredu’r Alban.

Mae’r canfyddiadau hyn yn unol ag adroddiad academaidd diweddar, a ddefnyddiodd ddull gwahanol o astudio effeithiolrwydd. Yn hytrach na chymharu â Chymru a Lloegr, canfu’r awduron bod y gostyngiadau yn y gwahanol fathau o drais difrifol wedi crynhoi yn neilltuol yn y mathau o drais difrifol a lladdiadau oedd yn cael eu targedu gan y polisïau. Daethant i’r casgliad “it is clear that the largest declines in homicide and violence are in line with the policies and intervention strategies put in place during the mid-2000s to tackle gang violence and knife crime” (Skott a McVie, 2019, t. 5).[footnote 28] Roedd yr awduron yn dal i bwysleisio y dylid cymryd pwyll, o ystyried y diffyg tystiolaeth werthuso gadarn, ac mae’n bwysig cydnabod bod gwahaniaethau eraill rhwng yr Alban a Chymru a Lloegr allai esbonio’r tueddiadau gwell yn yr Alban.

Er enghraifft, tra’r oedd Cymru a Lloegr wedi gweld cynnydd o 22 y cant mewn gwaharddiadau tymor penodol o’r ysgol a chynnydd o 29 y cant mewn gwaharddiadau parhaol rhwng 2014/15 a 2016/17, mae tuedd yr Alban o ran gwaharddiadau wedi parhau i fynd i lawr. Hanerodd y nifer o waharddiadau dros dro rhwng 2006/07 a 2016/17 (44,546 i 18,376) a disgynnodd y gwaharddiadau parhaol o 248 i ychydig dros 5 yn ystod yr un cyfnod. Roedd gan yr Alban hefyd duedd wahanol yn niferoedd yr heddlu. Er enghraifft, tra roedd nifer y swyddogion wedi gostwng 15 y cant rhwng 2010 a 2018 yng Nghymru a Lloegr, dim ond o lai nag 1 y cant yr oeddynt wedi gostwng yn yr Alban yn yr un cyfnod.

Mae’r newidiadau yn y marchnadoedd cyffuriau a’u defnydd, mewn cyferbyniad, yn dangos tebygrwydd i rai Cymru a Lloegr. Mae’r defnydd o crac-cocên yn arbennig wedi cynyddu yn yr Alban ers 2014.[footnote 29] Ond, mae peth tystiolaeth bod y modelau ‘Llinellau Sirol’ ar gyfer gwerthu cyffuriau yn llai datblygedig yn yr Alban na Lloegr, a Llundain yn arbennig, gan fwrw amheuaeth a all yr ymyraethau o’r Alban gael eu trosglwyddo i gyd-destun Lloegr.[footnote 30]

Yn olaf, er bod ‘dull iechyd cyhoeddus’ yr Alban o ymdrin â thrais wedi cael canmoliaeth eang, mae maint y dull a’r diffyg gwerthusiad cadarn yn ei gwneud yn anodd i asesu effaith yr elfennau unigol.

  1. Berry, G., Briggs, P., Erol, R., & Van Staden, L. (2011). The effectiveness of partnership working in a crime and disorder context. A rapid evidence assessment, 1. Accessed on 19/06/19. 

  2. Braga, A. A., Weisburd, D., & Turchan, B. (2018). Focused deterrence strategies and crime control: An updated systematic review and meta‐analysis of the empirical evidence. Criminology & Public Policy, 17(1), 205-250. 

  3. Gweler: LGA review of the future of community safety services: Local Government Association 

  4. Gweler: LGA review of the future of community safety services: Local Government Association 

  5. Canfu’r arolwg bod 21 y cant o bartneriaethau yn nodi bod lleihau trais yn flaenoriaeth a nododd 18 y cant (nad yw’n cau allan y gweddill) bod ‘gangiau/llinellau sirol/trais ieuenctid’ yn flaenoriaeth. Mae Llinellau Sirol yn ddull o ddelio cyffuriau sydd wedi ei gysylltu â’r cynnydd mewn trais difrifol yn y Strategaeth Trais Difrifol. Gellir gweld canlyniadau’r arolwg yma

  6. Gweler: LGA review of the future of community safety services: Local Government Association 

  7. Gellir gweld canlyniadau’r arolwg ar gyfer yr adroddiad, gan gynnwys y ffigwr 71% yma 

  8. Nid oes unrhyw ddata yn hysbys i fod yn sail i’r dybiaeth ‘cyfradd llwyddiant’ uchod felly mae wedi bod yn fwriadol geidwadol. Gobeithir y bydd y gwir nifer o bartneriaethau llwyddiannus yn llawer uwch. 

  9. Cymerir y gyfran o gostau heblaw cyflogau (%) o Euro stat, Cod: lc_lci_lev. 

  10. Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, 2018, Tabl 14

  11. Mae 348 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn ôl tabl yr ONS

  12. Florence, C., Shepherd, J., Brennan, I., & Simon, T. R. (2014). An economic evaluation of anonymised information sharing in a partnership between health services, police and local government for preventing violence-related injury. Injury prevention, 20(2), 108-114. 

  13. Roedd model Caerdydd yn bartneriaeth rannu data rhwng adrannau damweiniau ac argyfwng, yr heddlu ac awdurdodau lleol. Mae hyn yn ei wneud yn ddirprwy priodol gan fod y Grwpiau Comisiynu yn awr yn comisiynu gwasanaethau damweiniau ac argyfwng. Nid yw hyn yn dweud bod raid i Grwpiau Comisiynu ymateb i’r ddyletswydd yn y modd hwn. Mae Grwpiau Comisiynu yn comisiynu mathau eraill o wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac ati. Felly gallant ddewis model partneriaeth gwahanol. Defnyddir enghraifft Caerdydd fel ein hamcangyfrif gorau ar gyfer costau pa bynnag fodel a fabwysiedir yn y pen draw. 

  14. Ofsted: developments in children’s social care

  15. Gweler asesiad effaith Dyletswydd ‘Prevent’

  16. Tablau cenedlaethol o Ysgolion, Disgyblion a’u Nodweddion, Tabl 2a 

  17. Berry, G., Briggs, P., Erol, R., & Van Staden, L. (2011). The effectiveness of partnership working in a crime and disorder context. A rapid evidence assessment, 1. 

  18. Braga, A. A., Weisburd, D., & Turchan, B. (2018). Focused deterrence strategies and crime control: An updated systematic review and meta‐analysis of the empirical evidence. Criminology & Public Policy, 17(1), 205-250. 

  19. Nid yw pob partneriaeth yn debygol o ddilyn model Caerdydd yn fanwl. Bydd llawer yn debygol o ddilyn dull newydd a gwahanol. Defnyddir costau a manteision Caerdydd fel amcangyfrif. 

  20. Florence, C., Shepherd, J., Brennan, I., & Simon, T. (2011). Effectiveness of anonymised information sharing and use in health service, police, and local government partnership for preventing violence related injury: experimental study and time series analysis. British Medical Journal, , 342, d3313. 

  21. Florence, C., Shepherd, J., Brennan, I., & Simon, T. R. (2014). An economic evaluation of anonymised information sharing in a partnership between health services, police and local government for preventing violence-related injury. Injury prevention, 20(2), 108-114. 

  22. Sylwer nad yw costau astudiaeth Caerdydd yn cael eu defnyddio yn yr Asesiad Effaith hwn oherwydd mai dim ond partneriaid o’r heddlu, iechyd a’r awdurdod lleol oedd yn cael eu cynnwys. Tybir bod y costau yn disgyn ar set ehangach o sefydliadau partner ar gyfer y ddyletswydd arfaethedig: pob un sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd. 

  23. Mae poblogaeth Caerdydd yn tua 360,000 o bobl. Mae hyn mewn cymhariaeth â’r cyfartaledd i bartneriaethau diogelwch cymunedol o 186,000. Gellid dadlau felly bod y manteision yn cael eu goramcangyfrif. Mae hynny yn rheswm arall pam ein bod wedi defnyddio cyfradd lwyddiant geidwadol o 5 y cant. 

  24. Berry, G., Briggs, P., Erol, R., & Van Staden, L. (2011). The effectiveness of partnership working in a crime and disorder context. A rapid evidence assessment, 1. 

  25. Brame, R., Mulvey, E. P., Piquero, A. R., & Schubert, C. A. (2014). Assessing the nature and mix of offences among serious adolescent offenders. Criminal Behaviour and Mental Health, 24(4), 254-264. 

  26. Roedd y dadansoddiad sensitifrwydd yn golygu cyfrifo’r swm y byddai’n rhaid i’r manteision leihau i fod yn hafal â’r costau, a amcangyfrifir i fod yn £280.6 miliwn dros 10 mlynedd. Amcangyfrifir bod y manteision yn £657.2 miliwn (£280.6m / £657.2m) – 1 = 57.3%. Felly byddai’r manteision yn gorfod lleihau o fwy na 57% i gynhyrchu gwerth presennol net negyddol. 

  27. Performance tracker 2018, Prisons. Institute for Government

  28. Skott, S., & McVie, S. (2019). Reduction in homicide and violence in Scotland is largely explained by fewer gangs and less knife crime.

  29. Am ddadansoddiad mwy manwl, gweler yr Atodiad: ffactorau eraill. 

  30. Gweler er enghraifft Robinson, Grace, McLean, Robert a Densley, James (2019) Working County Lines: Child Criminal Exploitation and Illicit Drug Dealing in Glasgow and Merseyside. International Journal of Offender Therapy and Comparative Criminology, 63 (5). tt. 694-711. ISSN 0306-624X