Consultation outcome

Serious Violence Duty: Government response to consultation on draft statutory guidance for responsible authorities (Welsh accessible version)

Updated 23 December 2022

Cyflwyniad a chefndir

Ar 28 Ebrill 2022, derbyniodd Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (PCSC) Gydsyniad Brenhinol. Mae’r Ddeddf PCSC yn deddfu’r Dyletswydd Trais Difrifol (y Ddyletswydd), sef dull amlasiantaethol o atal a lleihau trais difrifol yng Nghymru a Lloegr.Mae’n nodi bod yn rhaid i ‘awdurdodau penodedig’ ledled Cymru a Lloegr gydweithio wrth weithredu’r Ddyletswydd.Mae ‘awdurdodau penodedig’ yn cynnwys yr heddlu, tân ac achub, iechyd, awdurdodau lleol, timau troseddu ieuenctid a gwasanaethau prawf. Rhaid iddynt weithio ar y cyd a rhannu data a gwybodaeth er mwyn gosod strategaeth i atal a lleihau trais difrifol.

Bydd y canllawiau statudol yn cefnogi gweithredu’r Ddyletswydd ac yn cael eu cyhoeddi o dan Bennod 1 o Ran 2 o’r Ddeddf PCSC gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Pwrpas y canllawiau yw:

  • Cefnogi awdurdodau penodedig, awdurdodau cyfrifol a sefydliadau wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â’r Ddyletswydd.
  • Rhannu astudiaethau achos yn dangos cyngor gwaith partneriaeth effeithiol ar rannu data, gwybodaeth am fonitro ac arolygu a chyngor ar weithio gyda’r sector gwirfoddol a chymunedol a phobl ifanc.
  • Darparu canllawiau penodol wedi’u cynnwys ar gyfer awdurdodau sy’n gweithredu yng Nghymru, sy’n adlewyrchu cyd-destun deddfwriaethol, polisi a gweithredol penodol Cymru.

Mae’r Ddyletswydd yn parhau i fod yn rhan allweddol o raglen waith y Llywodraeth i leihau trais difrifol. Mae pwysigrwydd cydweithio, ar draws y llywodraeth, sectorau statudol, preifat, a gwirfoddol i gyflawni’r newid hwn yn hanfodol.

Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau statudol drafft diwygiedig ar y Ddyletswydd ar 23 Mehefin gan gau ar 21 Gorffennaf 2022. Roedd yn gwahodd adborth gan randdeiliaid perthnasol a’r partïon a chanddynt fuddiant ar y canllawiau, y ddeddfwriaeth, cynigion cymorth mewn ardaloedd lleol a chais am astudiaethau achos.Yn ystod y cyfnod ymgynghori, buom hefyd yn ymgysylltu’n uniongyrchol â nifer o randdeiliaid allweddol sy’n cynrychioli awdurdodau cyfrifol o dan y Ddyletswydd, Unedau Lleihau Trais a’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r ymatebion a dderbyniwyd, gan grynhoi’r themâu allweddol a gododd yn sgil yr ymatebion i’r ymgynghoriad a sut roedd yr adborth yn llywio’r canllawiau statudol terfynol.

Trosolwg o’r ymatebion

Derbyniodd yr ymgynghoriad 99 o ymatebion ffurfiol o ystod o sectorau a sefydliadau.Ni wnaeth pob ymatebwr ateb pob cwestiwn. Mae pob ymateb wedi’i ddadansoddi a rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r gwaith o baratoi’r canllawiau statudol terfynol. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb.

Doedd dim rheidrwydd ar y rhai oedd yn darparu ymatebion drwy’r arolwg ar-lein i roi manylion ynghylch pwy roedden nhw’n ymateb ar eu rhan. Fodd bynnag, gan y rhai a ddarparodd y wybodaeth hon, roedd ymatebion yn dod o:

  • Grwpiau cynrychioliadol cenedlaethol, megis Cymdeithas Comisiynwyr Troseddu’r Heddlu, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, cyrff proffesiynol, Comisiynwyr (Comisiynydd Cam-drin Domestig a Gwarcheidwad Data Cenedlaethol), cyfiawnder (Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a Chymdeithas Rheolwyr Tîm Troseddu Ieuenctid) y sector gwirfoddol.
  • Partneriaid lleol, gan gynnwys Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs neu gyfatebol), Unedau Lleihau Trais (VRUs), heddluoedd, awdurdodau lleol ac iechyd.

Derbyniwyd ymatebion i’r ymgynghoriad o bob rhan o Gymru a Lloegr.

Ymatebion i gwestiynau penodol

C1. A yw’r canllawiau statudol drafft yn gwella eich dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Ddyletswydd Trais Difrifol? Ydyn, Nac ydyn, Unrhyw sylwadau

Dywedodd 96% o’r rhai wnaeth ymateb fod y canllawiau yn gwella eu dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth.

C2. A oes unrhyw agweddau penodol ar y Ddyletswydd Trais Difrifol sy’n parhau’n aneglur (neu sydd ar goll) ar ôl darllen y Canllawiau Statudol drafft? Os oes, a allwch chi ddarparu manylion?

Dywedodd 66% o’r ymatebwyr fod agweddau o hyd ar y canllawiau oedd yn aneglur neu ar goll.Roedd pedair thema a godwyd gan 20 – 30% o’r ymatebwyr:

Cyllid

Eglurder ychwanegol ar odel ariannu’r Ddyletswydd, sut y bydd PCCs yn dosbarthu dyraniadau, goblygiadau ar gyfer partneriaethau lleol a cham-drin domestig ac ymyriadau troseddau rhywiol.

Atebolrwydd lleol a hwyluso gweithio mewn partneriaeth

Er bod derbyniad y gallai nodi dim partner arweiniol i’r Ddyletswydd hwyluso ymagwedd iechyd cyhoeddus, roedd angen llywio cliriach ar atebolrwydd lleol.Roedd partneriaethau’n amrywio o ran effeithiolrwydd a gallai un awdurdod penodedig weithredu ar draws sawl maes partneriaeth. Roedd gofynion tebyg i ymgysylltu â’r Combating Drugs Partnership a chysylltiadau â VRUs oedd yn gorgyffwrdd â’r Ddyletswydd. Roedd 28% o’r ymatebion yn nodi bod angen i’r canllawiau fod yn gliriach ynghylch atebolrwydd a monitro.

Eglurder ar gynnwys cam-drin domestig a throseddau rhywiol o dan y Ddyletswydd –

Er bod derbyniad bod cael diffiniad hyblyg o drais difrifol yn gyffredinol yn fuddiol fel y gallai ardaloedd fynd i’r afael â’u hanghenion lleol, roedd 22% o’r ymatebwyr yn teimlo y dylai’r sefyllfa ar gam-drin domestig a thrais rhywiol fod yn gliriach.Roedd 11% (o’r 22%) yn teimlo os yw cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei adael yn ôl disgresiwn, yna mae’n peryglu anghysondeb ac yn creu anawsterau wrth fonitro a gwerthuso llwyddiannau.

Rolau a chyfrifoldebau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Gan nad yw PCCs yn ddeiliaid Dyletswydd ac mae eu rôl yn ôl disgresiwn, roedd yr ymatebwyr yn teimlo ei bod yn arbennig o bwysig amlinellu sut y gallant ddal eraill i gyfrif am eu cyfrifoldebau statudol.

Ymhlith y materion eraill a godwyd gan yr ymatebwyr oedd pwysigrwydd diogelu, yr angen am gymorth ymarferol gyda chymhlethdodau rhannu data a gwybodaeth, mesur effaith y Ddyletswydd a rôl cynrychiolwyr addysg.

C3. Rydym yn awyddus i gynnwys astudiaethau achos wedi’u diweddaru i gefnogi’r canllawiau statudol ac i gefnogi dysgu parhaus ar drais difrifol. Os ydych yn gallu darparu astudiaeth achos, rhowch fanylion byr isod, gan gynnwys eich manylion cyswllt.

Byddwn yn dilyn y wybodaeth a ddarperir drwy’r cytundeb cynnig cymorth lleol.

C4. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’r awgrymiadau canlynol am gymorth i ardaloedd lleol ar y Ddyletswydd?

Y categorïau a awgrymwyd: seminarau cenedlaethol, cymorth gan gyfoedion gan arbenigwyr gweithredol. Hwyluswyr Cenedlaethol a chymorth ymgynghori lleol.

Roedd 36 – 40% yr ymatebwyr yn ‘cytuno’n gryf’ a 23 – 30% yn ‘cytuno’ gyda’r holl opsiynau hyn i gyd. Yn ogystal, awgrymodd yr ymatebwyr feysydd eraill o gymorth gan gynnwys defnyddio pobl â phrofiad bywyd, gwell ymgysylltu â’r gymuned a mynediad haws at enghreifftiau arfer gorau.

C5. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’r awgrymiadau canlynol ar gyfer meysydd o gymorth i ardaloedd lleol ar y Ddyletswydd?Y meysydd cymorth a awgrymwyd: rhannu data a gwybodaeth, asesiadau anghenion strategol, gweithio aml-asiantaeth a diffinio trais difrifol.

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn ‘cytuno’n gryf/cytuno’ gyda’r holl feysydd hyn. Yn ogystal, awgrymodd yr ymatebwyr ddatblygiad strategaeth, sicrwydd a gwerthuso a chyfranogiad cymunedol.

Asesiad effaith, cydraddoldebau a’r Gymraeg

Asesiad Effaith

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith ar gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol yma.

Cydraddoldebau

Asesiad Effaith Cydraddoldebau ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

yma.

Prawf Effaith ar y Gymraeg

Doedd dim ymatebion yn codi ystyriaethau i Gymru na siaradwyr y Gymraeg.

Fe wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru ddrafftio canllawiau penodol i Gymru ac ymgynghori â rhanddeiliaid.

Casgliad a’r camau nesaf

Cyhoeddwyd fersiwn derfynol o’r canllawiau statudol ar GOV.UK

Rydym wedi ymgorffori gwelliannau yn seiliedig ar y themâu a amlygwyd drwy’r ymgynghoriad er mwyn mynegi’r sefyllfa’n gliriach heb gael gwared ar y pwyslais ar hyblygrwydd lleol. Rydym hefyd wedi bod yn datblygu ymhellach y trefniadau ar gyfer arian grant ar gyfer y Ddyletswydd.Bydd manylion ynghylch hyn wedi cael eu cyfathrebu i gynrychiolwyr ar ran Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac awdurdodau cyfrifol. Rydym wedi cael cymorth gan randdeiliaid, gan gynnwys, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, y Comisiynydd Cam-drin Domestig a’u cynrychiolwyr lleol.

Rydym hefyd wedi cysylltu â phartneriaid ar draws y Llywodraeth a chynrychiolwyr o gyrff y sector, i dynhau’r canllawiau drafft mewn nifer o feysydd eraill, gan gynnwys, sut mae’r Ddyletswydd yn cyd-fynd â pholisïau a strategaethau cenedlaethol eraill, canllawiau penodol cliriach i’r sector ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub; mireinio canllawiau penodol i’r sector iechyd i dynhau sefyllfa ddeddfwriaethol newydd oherwydd Deddf Iechyd a Gofal diweddar 2022; gan ddangos yn gliriach y cysylltiadau rhwng diogelu a’r Ddyletswydd.

Rydym wedi ymrwymo i adolygu’r canllawiau statudol flwyddyn ar ôl ei gyhoeddi (erbyn diwedd Rhagfyr 2023) i wneud yn siŵr y gallwn ystyried adborth ar sut mae’r Ddyletswydd yn gweithio’n ymarferol ac a oes angen i’r canllawiau adlewyrchu’r rhain.

Er mwyn sicrhau bod ardaloedd lleol yn cael cymorth ymarferol wrth ddechrau a gweithredu’r Ddyletswydd, mae’r Swyddfa Gartref yn ariannu cynnig cymorth cyn ac ar ôl cychwyn, trwy Crest Advisory.

Mae eu gwaith yn cynnwys:

  • Cyfarfod asesu cychwynnol gyda phob un o’r 43 ardal leol i asesu trefniadau gweithio partneriaeth presennol pob ardal, argymell camau a gwneud argymhellion ymarferol a chyraeddadwy ar welliannau. Bydd Crest yn cysylltu ag ardaloedd lleol yn fuan.
  • Cyflwyno gweithdai thematig, i gyrraedd pob un o’r 43 ardal leol ar:
    • Rhwymedigaethau, llywodraethu a chydweithio
    • Asesiadau Anghenion Strategol a strategaethau ymateb
    • Rhannu Data
    • Ymagweddau arfer gorau
  • Datblygu a sefydlu hyb rhwydwaith a gwybodaeth cymorth cymheiriaid gan gynnwys ystyried trefniadau etifeddiaeth ar gyfer y ddau
  • Cymorth wedi’i deilwra ar draws y 43 ardal leol - bydd yr elfen hon ar gais neu pan gaiff ei ystyried yn ofyniad yn dilyn yr asesiadau cychwynnol

Egwyddorion ymgynghori

Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn cael eu nodi yn Egwyddorion Ymgynghori Swyddfa’r Cabinet 2018