Consultation outcome

Consultation document (Welsh accessible)

Updated 23 December 2022

Applies to England and Wales

Am yr ymgynghoriad hwn

I:

  1. Awdurdodau penodedig a ddiffinnir yn adran 11, ac Atodlen 1, o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022: Prif Swyddogion yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol, timau troseddu ieuenctid a gwasanaethau prawf,
  2. Awdurdodau addysg, carchardai a ddalfa ieuenctid fel y diffinnir yn adran 12, ac Atodlen 2, o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022.
  3. Cyrff plismona lleol.
  4. Gweinidogion Cymru
  5. Sector gwirfoddol a chymunedol
  6. Y cyhoedd

Hyd:

O 9 Mehefin i 21 Gorffennaf 2022

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am yr ymgynghoriad mewn fformat arall) i:

Ymholiadau am Ymgynghoriad Dyletswydd Trais Difrifol Uned Trais Difrifol, Y Swyddfa Gartref
5ed Llawr, Adeilad Fry 2 Stryd Marsham Llundain SW1P 4DF

E-bost: svdutyconsultation@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb:

Anfonwch eich ymateb erbyn 21 Gorffennaf at:

E-bost: svdutyconsultation@homeoffice.gov.uk

Fel arall, gallwch anfon eich ymateb at:

Ymateb Ymgynghoriad ar Ddyletswydd Trais Difrifol
Uned Trais Difrifol, Y Swyddfa Gartref
5ed Llawr, Adeilad Fry
2 Stryd Marsham
Llundain
SW1P 4DF

Papur ymateb:

Bydd ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn yn cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref ar GOV.UK.

Rhagair gan y Gweinidogion

Mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 yn gwneud darpariaeth hanfodol trwy’r Ddyletswydd Trais Difrifol i sicrhau bod yr awdurdodau a’r sefydliadau iawn yn cydweithio, yn rhannu data a gwybodaeth, ac yn rhoi cynlluniau ar waith i atal a lleihau trais difrifol.Rydym wedi ymrwymo i leihau trais difrifol a rhoi diwedd ar y trychinebau sy’n achosi gofid i’n cymunedau. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd, ar draws y sectorau llywodraeth, statudol, preifat, a gwirfoddol i gyflawni’r newid hollbwysig hwn.

Mae mynd i’r afael â thrais difrifol yn brif flaenoriaeth i’r Swyddfa Gartref.Yn 2018, cyhoeddodd y Llywodraeth ei Strategaeth Trais Difrifol sy’n nodi’n glir nod y Llywodraeth i wneud popeth o fewn ei gallu i atal trais difrifol. Mae’r Llywodraeth wedi sicrhau bod

£130m ar gael yn y flwyddyn ariannol yma (22/23) i fynd i’r afael â thrais difrifol, gan gynnwys llofruddiaeth a throseddau cyllyll. Mae hyn yn cynnwys £64m ar gyfer Unedau Lleihau Trais (VRUs) sy’n dod â phartneriaid lleol at ei gilydd i fynd i’r afael â ffactorau sy’n achosi trais yn eu hardal. Mae VRUs yn darparu amrywiaeth o raglenni ymyrraeth ac atal cynnar er mwyn dargyfeirio pobl oddi wrth cymryd rhan mewn troseddu.Mae’r rhaglenni wedi cyrraedd dros 260,000 o bobl ifanc sy’n agored i niwed yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

Yn yr ymgynghoriad hwn, rwy’n croesawu eich barn am y Canllawiau Statudol drafft diwygiedig ar y Ddyletswydd.

Rwy’n gobeithio’n fawr eich bod yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Bydd eich barn yn helpu i benderfynu ar gynnwys y canllawiau statudol terfynol a chyfeiriad y gefnogaeth i’w gweithredu.

Kit Malthouse

Gweinidog Gwladol dros Droseddu, Plismona a’r Gwasanaeth Prawf

Cefndir am Ddyletswydd Trais Difrifol

Mewn ymateb i Ymgynghoriad gan y Llywodraeth yn 2019 ar ddyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a mynd i’r afael â thrais difrifol, roedd consensws cyffredinol ar gyfer dull deddfwriaethol o ymdrin â Dyletswydd. O ganlyniad, deddfwyd Dyletswydd Trais Difrifol (‘y Ddyletswydd’) fel rhan o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu, a Llysoedd 2022 (‘Deddf PCSC’) ac mae’n rhan allweddol o ymrwymiad y Llywodraeth i leihau ac atal trais difrifol.

Mae’r Ddyletswydd yn cynnwys y gofynion a nodir ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf PCSC 2022; lle mae angen i awdurdodau penodedig, yr heddlu, awdurdodau lleol, awdurdodau tân ac achub, timau troseddu ieuenctid, Grwpiau Comisiynu Clinigol (CCGs) [footnote 1] yn Lloegr,Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru a gwasanaethau prawf, gydweithio i lunio dadansoddiad ar sail tystiolaeth o drais difrifol mewn ardal leol ac yna llunio a gweithredu strategaeth sy’n rhoi manylion ar sut y byddant yn ymateb i’r materion hynny.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn y canllawiau statudol drafft ar y Ddyletswydd Trais Difrifol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 19 Deddf PCSC 2022. Nod y canllawiau yw cefnogi awdurdodau penodedig, cyrff plismona lleol, awdurdodau addysg, carchardai a ddalfa ieuenctid, unrhyw bersonau a nodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau o dan adran 10 o Ddeddf PCSC 2022 wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddyletswydd fel y nodir ym Mhennod 1 o Ran 2 o’r Ddeddf.

Mae’r ymgynghoriad wedi’i anelu at y rhai sydd ag arbenigedd wrth weithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu a/neu ail-droseddu neu erledigaeth, y rhai sy’n ymwneud â gorfodi’r gyfraith ac, yn fwy cyffredinol, y cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan drais difrifol gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol perthnasol, megis y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, addysg, gorfodi’r gyfraith, llywodraeth leol, diogelwch cymunedol, gwasanaethau ieuenctid, rheoli troseddwyr, gwasanaethau i ddioddefwyr, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd.

Yrardal ddaearyddol ar gyfer yr ymgynghoriad yw Cymru a Lloegr.

Bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd ar gael mewn fersiwn Gymraeg yn fuan. Cyhoeddwyd Asesiad Effaith ar gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol yma. a chyhoeddwyd Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoeddyma.

Cynigion ar gyfer gweithredu’r Ddyletswydd Trais Difrifol

Rydym yn anelu at gyhoeddi’r canllawiau statudol terfynol cyn i’r Ddyletswydd Trais Difrifol ddod i rym ar ddechrau 2023 er mwyn i bartneriaid fod yn barod i’w gweithredu. Cyn i’r uchod ddigwydd, bydd deddfwriaeth eilaidd yn cael ei chyflwyno i wneud darpariaeth bellach ar gyfer neu mewn cysylltiad â chyhoeddi a lledaenu strategaethau a rhoi swyddogaethau i gyrff plismona lleol. Mae’r polisi amlinellol ar gyfer y ddeddfwriaeth eilaidd wedi’i gynnwys yn y canllawiau statudol drafft ym Mhennod 2 a 3.

Cyhoeddwyd drafft o’r canllawiau statudol ar 13 Mai 2021. Dyma oedd llywio’r trafodaethau yn ystod taith y Bil.Ers y cyhoediad, rydym wedi derbyn sylwadau gan amrywiaeth o randdeiliaid yn ogystal ag mewn dadleuon yn y ddau Dŷ Seneddol. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’r canllawiau ymhellach mewn perthynas â diogelu ac ychwanegu cynnwys newydd ar dai a digartrefedd. Erbyn hyn mae’r canllawiau drafft yn cynnwys canllawiau i adlewyrchu gosod y ddyletswydd yng Nghymru.

Mae’r canllawiau drafft diwygiedig hefyd yn ystyried y gwelliannau canlynol a wnaed yn ystod taith Seneddol Deddf PCSC:

  • gwneud yn glir bod y diffiniad o drais at ddiben y Ddyletswydd yn cynnwys cam- drin domestig a thrais rhywiol.

  • heb gynnwys gwybodaeth am gleifion (fel y diffinnir yn adran 10 o Ddeddf PCSC 2022) o ystyried y darpariaethau rhannu data a ddarperir mewn perthynas â’r Ddyletswydd. Yn ogystal, ni all awdurdodau iechyd na gofal cymdeithasol (fel y diffinnir yn adran 10) rannu gwybodaeth bersonol (fel y diffinnir yn adran 10) o dan y darpariaethau rhannu data mewn perthynas â’r Ddyletswydd.

  • cyfyngu ar geisiadau data gan gyrff plismona lleol (PCCs, a’r Swyddfa Plismona a Throsedd y Maer yn Llundain a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain fel awdurdod heddlu) i wybodaeth sydd eisoes gan awdurdod sydd wedi derbyn cais.

  • bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gosod copi o’r canllawiau statudol ar gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol yn y Senedd.

  • egluro o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth ddod i rym, y mae’n rhaid i awdurdodau penodedig gyhoeddi strategaeth ac y bydd rheoliadau’n rhoi manylion pellach ynghylch cyhoeddi neu ledaenu strategaeth.

Ar ôl i’r Ddyletswydd Trais Difrifol a’r ddeddfwriaeth eilaidd gysylltiedig ddod i rym, bydd gofyn i bartneriaethau lleol weithio tuag at gyhoeddi a lledaenu eu strategaethau.

Rydym yn cynnig y dylai partneriaethau lleol gyhoeddi eu strategaeth gyntaf o fewn 12 mis i gychwyn y Ddyletswydd. Bydd gofyn i awdurdodau penodedig gyhoeddi eu strategaeth trais difrifol gyntaf ac unrhyw adolygiadau dilynol ar wefan sy’n agored i bawb i’w harchwilio. Rydym hefyd yn bwriadu y bydd awdurdodau penodedig yn lledaenu cynnydd ar y strategaeth drwy eu hasiantaeth unigol a phrosesau adrodd blynyddol partneriaeth yn ogystal â chanlyniad unrhyw adolygiadau dilynol.

Mae fersiwn diwygiedig o’r canllawiau ar gael ar dudalen we ymgynghoriad Dyletswydd Trais Difrifol.

Rydym yn gofyn am adborth ar y canllawiau statudol yn ogystal ag astudiaethau achos ychwanegol i gefnogi dysgu pellach.Gallwch naill ai gwblhau’r arolwg ar-lein neu ddefnyddio’r ffurflen a ddarperir ar y dudalen nesaf i gofnodi eich ymatebion.

Manylion cyswllt a sut i ymateb

Anfonwch eich ymateb erbyn 21 Gorffennaf 2022 i:

E-bost: svdutyconsultation@homeoffice.gov.uk

Fel arall, gallwch anfon eich ymateb at:

Ymateb Ymgynghoriad ar Ddyletswydd Trais Difrifol
Uned Trais Difrifol, Y Swyddfa Gartref
5ed Llawr, Adeilad Fry
2 Stryd Marsham Llundain
SW1P 4DF

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gŵynion neu sylwadau am y broses ymgynghori, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Copïau ychwanegol

Mae modd cael copïau papur ychwanegol o’r ymgynghoriad hwn drwy ysgrifennu at y cyfeiriad hwn ac mae’r copïau hefyd ar gael ar-lein.

Gellir gofyn am fersiynau fformat amgen o’r cyhoediad hwn gan: svdutyconsultation@homeoffice.gov.uk](mailto:SDdutyconsultation@homeoffice.gov.uk)

Cyhoeddi ymateb

Bydd papur sy’n crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ar Gov.uk. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein yma.

Grwpiau cynrychiadol

Gofynnir i grwpiau cynrychiadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.

Cyfrinachedd

Gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (sydd bennaf yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Deddf Diogelu Data 2018 (DPA), y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych chi am i’r wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y FOIA, bod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n delio, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau cyfrinachedd. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro i ni pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth rydych wedi’i darparu yn gyfrinachol. Os derbyniwn gais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn sicrhau y gellir cynnal cyfrinachedd ym mhob achos. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Deddf Diogelu Data ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon.

Egwyddorion ymgynghori

Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill fabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn cael eu nodi yn yr egwyddorion ymgynghori.

Atodiad A – Canllawiau Statudol Drafft am y Ddyletswydd Trais Difrifol

Copi ar gael ar dudalen ymgynghori Dyletswydd Trais Difrifol

Atodiad B – Asesiad Effaith

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith ar Gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol yma.

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith Cydraddoldebau ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yma.

  1. Bydd CCGs yn cael eu disodli gan Fyrddau Gofal Integredig (ICB) o 1 Gorffennaf 2022 fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2022