Rheoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Gwnaed nifer o newidiadau i’r fframwaith polisi drafft ar sail yr adborth a gafwyd, gan gynnwys:
- symleiddio’r strwythur a chael gwared ar fanylion amherthnasol
- egluro agweddau ar y polisi, yn enwedig sut mae’r polisi’n berthnasol i hylif ymbelydrol a gwastraff nwyol
- ychwanegu manylion at y fframwaith ar gyfer cyfleusterau gwaredu ger yr wyneb ar gyfer gwaredu gwastraff lefel ganolraddol llai peryglus yng Nghymru a Lloegr
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig wedi cyhoeddi’r fframwaith polisi terfynol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ar reoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear, gan gyfuno polisïau pob rhan o’r DU.
Manylion am yr adborth a gafwyd
Cafwyd 330 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan:
- aelodau o’r cyhoedd
- llywodraeth leol
- grwpiau rhanddeiliaid safleoedd niwclear
- diwydiant
- y rheoleiddwyr
- grwpiau buddiant eraill
Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion.
O’r ymatebion hyn, cododd 136 faterion a oedd y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad. Rydym hefyd wedi darparu ymatebion i’r materion hyn.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cynnig fframwaith polisi ar gyfer y DU gyfan sy’n dwyn ynghyd, mewn un pwynt cyfeirio, bolisïau ar reoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear.
Rydym hefyd yn cynnig diwygio, diweddaru ac egluro rhai o’r polisïau hyn gyda’r nod o ysgogi gwelliannau mewn rhaglenni datgomisiynu niwclear a glanhau a rheoli deunyddiau ymbelydrol, a’r gwastraff a gynhyrchir ganddynt.
Mae’r cynigion yn canolbwyntio ar dri maes:
- rheoli gwastraff ymbelydrol solet
- diweddaru’r polisi ar gyfer datgomisiynu niwclear
- rheoli deunyddiau niwclear a gweddillion tanwydd niwclear
Mae’r ymgynghoriad mewn dwy ran.
Yn Rhan I rydym yn ceisio barn ar y polisïau yr ydym yn cynnig eu newid.
Yn Rhan II rydym yn darparu drafft o’r fframwaith polisi arfaethedig ar gyfer y DU gyfan fel y byddai’n ymddangos pe bai’r newidiadau polisi a gynigir yn Rhan I yn cael eu gweithredu.
Fersiwn Saesneg
Managing radioactive substances and nuclear decommissioning
Read the BEIS consultation privacy notice (English version only).