Consultation outcome

Regulation of Investigatory Powers Act 2000: consultation on revised Covert Human Intelligence Source code of practice (Welsh)

Updated 17 October 2022

Rhagair y Gweinidog

Mae Deddf Rheoleiddio Deddf Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) yn cynnig fframwaith rheoleiddiol ar gyfer defnyddio nifer o bwerau ymchwiliol cudd, er mwyn sicrhau bod y pwerau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol mewn modd cyfreithiol sydd yn cydymffurfio gyda rhwymedigaethau’r DU o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y defnydd o bwerau yn cael ei arolygu’n agos o hyd ac yn cael eu hailasesu’n gyson er mwyn sicrhau fod yr hyn sy’n cael ei wneud yn gyfiawn. Ymgorfforwyd nifer o fesurau diogelu pwysig yn y ddeddf er mwyn gwarchod yn erbyn unrhyw ddefnydd mympwyol neu ormodol o’r pwerau, gan gynnwys fframwaith awdurdodi llym a darpariaeth i’r defnydd o’r pwerau gael ei oruchwylio a’i adolygu’n iannibynnol.

Mae Rhan II o RIPA yn ymwneud â’r defnydd o Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol gan awdurdodau cyhoeddus. O dan y Ddeddf, mae person yn Ffynhonnell Cuddwybodaeth os yw awdurdod lleol yn gofyn iddo sefydlu neu gynnal perthynas gyda rhywun arall ar gyfer y diben cudd o ennill neu ddatgelu gwybodaeth.

Mae defnyddio’r Ffynhonnell Cuddwybodaeth yn allweddol ar gyfer gwarchod diogelwch cenedlaethol ac ymladd troseddu difrifol. Mae’n caniatáu ymchwilwyr i gael mewnwelediad i’r sefydliadau terfysgol a throseddol maen nhw’n eu targedu. Ers degawdau, mae’r Ffynhonnell Cuddwybodaeth wedi chwarae rhan hanfodol mewn atal, a sicrhau erlyniadau ar gyfer troseddau difrifol gan gynnwys terfysgaeth, cyffuriau a throseddau’n ymwneud ag arfau tanio, yn ogystal ag ecsbloetio a cham-drin plant yn rhywiol. Mae hyn wedi cynnwys helpu i adnabod a tharfu ar nifer o gynllwynion terfysgol a gafodd eu hatal. Yn atodol i RIPA mae Cod Ymarfer CHIS sydd yn cynnig cyfarwyddyd manwl, cynhwysfawr ac ymarfer gorau ynglŷn â defnyddio’r CHIS. Ei fwriad yw arwain asiantaethau gorfodi’r gyfraith, yr asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth ac awdurdodau cyhoeddus eraill sydd yn ymarfer pwerau o’r fath. Mae’n gosod mesurau diogelu ychwanegol ynglŷn â sut ddylid ymarfer y pwerau sydd eisoes o fewn deddfwriaeth sylfaenol a chyflawni’r dyletswyddau.

Cafodd y Cod CHIS ei ddiweddaru diwethaf yn 2018. Cafodd y drafft yr ydym yn ymgynghori ynglŷn â hi ei ddiwygio a’i ddiweddaru i adlewyrchu’r darpariaethau newydd mewn perthynas ag awdurdodi ymddygiad troseddol gan CHIS a gyflwynwyd gan Ddeddf Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol (Ymddygiad Troseddol) 2021. Rydym hefyd wedi achub ar y cyfle hwn i ychwanegu nifer o ddiweddariadau bach, ac i egluro peth o’r testun, a bwriad y cyfan yw sicrhau fod yr awdurdodau cyhoeddus yn parhau i roi ymarfer Gorau ar waith. Caiff pob ymateb ei groesawu a’i ystyried yn ofalus.

Y Gwir Anrh. Damian Hinds AS

Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch

Cwmpas yr ymgynghoriad

Pwnc yr ymgynghoriad:

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â Chod Ymarfer Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol (CHIS) diwygiedig drafft o dan Reoleiddiad Deddf Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA).

Cwmpas yr ymgynghoriad:

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio derbyn sylwadau ynglŷn â’r Cod Ymarfer diwygiedig drafft.

Cwmpas daearyddol:

Ar draws y DU

Gwybodaeth Sylfaenol

At:

Croesawir sylwadau gan awdurdodau cyhoeddus sydd â chanddynt bwerau dan RIPA, yn ogystal â chyrff proffesiynol, grwpiau diddordeb arbennig a’r cyhoedd cyffredinol.

Cyfnod:

8 wythnos.

Ymholiadau ac ymatebion:

Byddwch cystal ag anfon unrhyw ymholiadau ac ymatebion at: RIPA@homeoffice.gov.uk

Byddwch cystal â dangos yn eich ymateb p’un a ydych yn fodlon iddo gael ei gyhoeddi, gyda neu heb ei briodoli i chi/eich sefydliad.

Ar ôl yr ymgynghoriad:

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, caiff ymatebion eu dadansoddi a’r Cod drafft ei dddiwygio fel sydd ei angen. Yna caiff ei osod o flaen y Senedd er mwyn ei gymeradwyo.

Cefndir

Cyrraedd y man yma:

Wrth baratoi’r drafft hwn rydym wedi ymgysylltu â chyrff cyhoeddus sydd yn awdurdodi ac yn defnyddio CHIS o dan RIPA gan gynnwys y gymuned gorfodi’r gyfraith. Rydym hefyd wedi ceisio cael mewnbwn gan Swyddfa annibynnol y Comisiynydd dros Bwerau Ymchwilio sydd yn goruchwylio ac yn monitro gweithredu’r ddeddfwriaeth.

Beth yw’r Cod Ymarfer?

Bwriedir y Cod yn bennaf i dywys yr awdurdodau cyhoeddus hynny sy’n ymarfer pwerau ac yn cyflawni dyletswyddau o dan Reoleiddiad Deddf Pwerau Ymchwilio 2000.

Mae’r Cod yn amlinellu’r prosesau a mesurau diogelwch sydd yn rheoli’r defnydd a wneir o ffynonellau cuddwybodaeth dynol gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys yr heddlu ac asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth. Mae’n rhoi manylion ynglŷn â sut ddylid ymarfer y pwerau a chyflawni’r dyletswyddau, gan gynnwys enghreifftiau o ymarfer gorau. Bwriedir iddo roi eglurder ychwanegol ac i sicrhau’r safonau uchaf o broffesiynoldeb a chydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth.

Mae gan God Ymarfer a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf rym statudol a rhaid i unigolion sydd yn ymarfer pwerau ac yn cyflawni dyletswyddau mewn perthynas â’r Cod roi ystyriaeth briodol iddo. Mae’r Cod yn dderbyniol mewn tystiolaeth ym materion troseddol a sifil a gellir ei ddwyn i ystyriaeth gan unrhyw lys, tribiwnlys neu awdurdod arolygu wrth benderfynu ar gwestiwn fydd yn codi mewn cyswllt gyda’r pwerau a’r dyletswyddau hynny.

Pam ydym ni’n ymgynghori?

O dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000, mae’n ofynnol ar y Gweinidog Gwladol i gyflwyno Codau Ymarfer ynglŷn ag ymarfer pwerau a chyflawni dyletswyddau o dan y Ddeddf.

Cyn cyflwyno unrhyw God, rhaid i’r Gweinidog Gwladol baratoi a chyhoeddi drafft ohono. Mae’r ymgynghoriad hwn yn bodloni’r gofyniad hwnnw.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r Gweinidog Gwladol ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ynglŷn â’r drafft a rhaid iddo wneud gorchymyn, i’w gymeradwyo gan y Senedd, cyn gall y Cod terfynol ddod yn weithredol.

Newidiadau a argymhellir:

Amlinellir y prif newidiadau yn y Cod diwygiedig ac a ddiweddarwyd yr ydym yn ymgynghori ynglŷn ag ef isod.

Ymddygiad Troseddol CHIS

Cafodd y Cod diwygiedig drafft ei wella’n bennaf er mwyn adlewyrchu’r darpariaethau newydd mewn perthynas ag awdurdodi ymddygiad troseddol gan CHIS a gyflwynwyd gan y Ddeddf Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol (Ymddygiad Troseddol) 2021. Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer diamwys statudol i’r asiantaethau cudd-wybodaeth, gorfodi’r gyfraith a nifer cyfyng o awdurdodau cyhoeddus ehangach, er mwyn awdurdodi CHIS i gymryd rhan mewn ymddygiad troseddol lle bo angen a’i fod yn gymesur i wneud hynny. Cafodd pennod newydd (Pennod 6) ei ychwanegu i’r Cod sydd yn cynnig manylion ar:

  • Y meini prawf awdurdodi a’r gweithdrefnau y dylid eu dilyn;
  • Y broses ar gyfer hysbysu awdurdodiadau i’r Comisiynwyr Barnwrol yn yr IPCO;
  • Yr wybodaeth i’w rhoi mewn cais ar gyfer awdurdodi ymddygiad troseddol;
  • Y meini prawf ar gyfer adolygu, adnewyddu a dileu awdurdodiadau.

Gwnaed gwelliannau eraill i Bennod 3 o’r Cod i amlinellu’r meini prawf ar gyfer asesu p’un a oedd awdurdodiad yn angenrheidiol ac yn gymesur; mae hyn yn cynnwys rhestru pa sail sydd yn debygol o fod ei angen i gael awdurdodiad ac elfennau’r cymesuredd sydd angen eu hystyried cyn rhoi’r awdurdodiad hwnnw.

Diweddarwyd Pennod 4 i adlewyrchu na roddir awdurdodiad ar gyfer gweithgarwch yn yr Alban lle nad yw’n gysylltiedig â mater a gedwir yn ôl.

Ystyriaethau arbennig ar gyfer awdurdodiadau

Cafodd Pennod 4 ei ddiweddaru i egluro’r mesurau diogelu uwch sydd ar waith yn yr amgylchiadau prin hynny pan fydd person ifanc neu fregus yn cael ei awdurdodi i fod yn CHIS. Mae’r diweddariadau yn ei gwneud yn glir y gellir eu hawdurdodi dan amgylchiadau eithriadol yn unig ac mae’n rhoi manylion ychwanegol ynglŷn â’r mesurau diogelu sydd mewn lle. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cyfarwyddyd ynglŷn â’r gofyniad i oedolyn addas fod yn bresennol mewn cyfarfodydd rhwng awdurdod cyhoeddus a pherson ifanc, fel pwy ddylai’r oedolyn addas hwnnw fod.

Tasgio - defnydd ac ymddygiad

Cafodd Pennod 7 ei ddiweddaru er mwyn sicrhau proses glir pan fydd camau na ragwelwyd yn digwydd mewn perthynas â “defnydd ac ymddygiad” CHIS. Mae hyn yn cynnwys gwneud cofnod ac asesu a yw awdurdodiad newydd yn ofynnol.

Gwallau perthnasol

Diweddarwyd Pennod 8 o’r Cod er mwyn sicrhau ei fod yn glir mai gofynion o dan Reoleiddiad Deddf Pwerau Ymchwilio 2000 neu a orfodwyd oddi dano yn unig all achosi gwall perthnasol o dan Ddeddf Pwerau Ymchwil 2016. Mae paragraff 8.12 yn cynnig eglurhad ynglŷn â rhestr sydd heb fod yn drwyadl o wallau perthnasol posib gan awdurdod cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys os cafwyd methiant i lynu at y mesurau diogelwch a osodwyd yn y darpariaethau statudol perthnasol neu i dalu sylw priodol at y Cod.

Gwybodaeth sensitif

Ceir adrannau yn y Cod sydd wedi eu ymrhoi at warchod gwybodaeth sensitif (fel materion sydd yn ddarostyngedig i fraint gyfreithiol, ceisiadau i gael gafael ar ddeunydd mewn perthynas â gwybodaeth newyddiadurol gyfrinachol a ffynonellau gohebydd), gan gynnwys cyfarwyddyd ar yr wybodaeth sydd yn rhaid ei chynnwys ar gais i ddefnyddio CHIS a sut mae’n rhaid trin, cadw a dileu’r wybodaeth a gafwyd. Cafodd yr adrannau hyn eu cryfhau ymhellach, gan olygu mesurau diogelwch mwy effeithiol yn y maes hwn.