Closed consultation

Y rheol 12 mis yn rheoliad 12 o Reoliadau'r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006 – Ymgynghoriad y llywodraeth (accessible version)

Published 12 May 2021

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau ar dydd Mercher 12 Mai 2021

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar dydd Mercher 7 Gorffennaf 2021

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

I: Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd. Bydd gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan swyddogion heddlu cyfredol a blaenorol ac aelodau eraill o’r sector heddlu.

Hyd: O 12 Mai 2021 i 7 Gorffennaf 2021

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur mewn fformat arall) i:

Adolygiad o reoleiddiad 12
Uned Gweithlu a Phroffesiynoldeb yr Heddlu
Y Swyddfa Gartref
6ed Llawr, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain SW1P 4DF

E-bost: Reviewofregulation12PIB@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb: Anfonwch eich ymateb erbyn 7 Gorffennaf 2021 at:

E-bost: Reviewofregulation12PIB@homeoffice.gov.uk

Os na allwch ddefnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod yn defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen ac e-bostio neu ei phostio i:

Adolygiad o reoleiddiad 12
Uned Gweithlu a Phroffesiynoldeb yr Heddlu
Y Swyddfa Gartref
6ed Llawr, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain SW1P 4DF

E-bost: Reviewofregulation12PIB@homeoffice.gov.uk

Os na allwch gyrchu fersiwn electronig o’r ddogfen, ysgrifennwch i’r cyfeiriad uchod a darperir copi papur.

Sicrhewch eich bod yn cadw at ganllawiau pellhau cymdeithasol wrth anfon post.

Papur ymateb:

Disgwylir i ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn gael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref yn: gov.uk.

Rhagair

Mae ein heddlu dewr yn ein cadw ni’n ddiogel bob dydd ac mae arnom ni ddyled o ddiolch iddyn nhw am y dewrder a’r ymroddiad maen nhw’n ei ddangos. Mae’r llywodraeth yn cydnabod ei bod yn bwysig iawn bod swyddogion heddlu sydd ag anabledd llwyr a pharhaol, o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd ar ddyletswydd, yn derbyn taliad rhodd sy’n adlewyrchu difrifoldeb eu hanaf a’u hanallu dilynol i weithio. Bydd hyn yn eu helpu i addasu’n ariannol i ffordd newydd o fyw pan nad ydyn nhw wedi cael amser i baratoi ar gyfer canlyniadau o’r fath.

Mae Rheoliad 12 o Reoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006 yn llywodraethu darparu rhoddion anabledd i swyddogion heddlu sydd ag anabledd llwyr a pharhaol gan anaf a ddioddefwyd ar ddyletswydd. Mae’r rheol 12 mis yn rheoliad 12 yn cyfyngu ar roi’r rhodd anaf heddlu uwch i unigolion y mae anabledd llwyr a pharhaol yn amlygu iddynt o fewn 12 mis ar ôl dioddef anaf ar ddyletswydd. Dadleuwyd y gall y rheol hon arwain at wahaniaeth mewn triniaeth rhwng swyddogion heddlu sy’n dioddef cyflyrau corfforol a’r rhai sy’n dioddef cyflyrau iechyd meddwl. Mae’r llywodraeth yn cymryd y mater hwn o ddifrif ac yn awyddus i sicrhau bod rheoliadau Budd-dâl anafiadau heddlu yn cydymffurfio’n llawn â’i rwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae lles ein heddlu yn flaenoriaeth allweddol i mi, a dyna pam yr wyf yn bersonol wedi cyflymu gwaith i gyflwyno Cyfamod Heddlu. Bydd hyn wedi’i ymgorffori yn y gyfraith a bydd yn sicrhau bod ein heddlu’n cael y gefnogaeth a’r amddiffyniad y maen nhw’n ei haeddu.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ynghylch a yw’r rheol 12 mis yn gyson â’m dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd yn gwahodd barn ynghylch a yw anafiadau iechyd meddwl ac anafiadau corfforol yn cael triniaeth gyfartal a theg o dan reoliad 12. Yn ogystal, mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ynghylch a oes darpariaeth ddigonol ar gyfer anafiadau iechyd meddwl blaengar sy’n arwain at anabledd llwyr a pharhaol o dan reoliad 12. Ar ben hynny, mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ar gynnwys unrhyw derfyn amser ar gyfer cymhwysedd ar gyfer y rhodd anabledd lawn yn rheoliad 12.

Hoffwn ddiolch i ymatebwyr ymlaen llaw am gyfrannu eu barn ar y mater pwysig hwn.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS

PRITI PATEL

Yr Ysgrifennydd Cartref        

Crynodeb gweithredol

Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar gydnawsedd y rheol 12 mis yn rheoliad 12 o Reoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006 â rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac addasrwydd y rheol hon i’w chynnwys yn rheoliad 12. Yn benodol, mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ar:

  • a yw’r rheol 12 mis yn rheoliad 12 o Reoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006 yn gyson â dyletswyddau’r Ysgrifennydd Cartref o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • a yw anafiadau iechyd meddwl ac anafiadau corfforol yn cael triniaeth gyfartal a theg o dan reoliad 12
  • a ddarperir yn ddigonol ar gyfer anafiadau iechyd meddwl cynyddol sy’n arwain at anabledd llwyr a pharhaol o dan reoliad 12
  • gynnwys unrhyw derfyn amser ar gyfer cymhwysedd am yr arian rhodd anabledd llawn yn rheoliad 12

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn agored i gael barnau o 12/05 i 07/07.

Cyflwyniad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ar y materion a ganlyn:

  • a yw’r rheol 12 mis yn rheoliad 12 o Reoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006 yn gyson â dyletswyddau’r Ysgrifennydd Cartref o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • a yw anafiadau iechyd meddwl ac anafiadau corfforol yn cael triniaeth gyfartal a theg o dan reoliad 12
  • a yw anafiadau iechyd meddwl blaengar sy’n arwain at anabledd llwyr a pharhaol yn cael eu darparu’n ddigonol o dan reoliad 12
  • gynnwys unrhyw derfyn amser ar gyfer cymhwysedd ar gyfer yr arian anabledd llawn yn rheoliad 12

Mae’r ymgynghoriad hwn yn croesawu barn unrhyw aelod o’r cyhoedd ond mae ganddo ddiddordeb penodol ym marn y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu gyda’r heddlu, ac unrhyw grwpiau neu unigolion sydd â diddordeb mewn plismona yng Nghymru a Lloegr.

Anfonir copïau o’r papur ymgynghori at:

  • Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu
  • Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Y Coleg Plismona -Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr
  • Cymdeithas Uwch-arolygwyr Heddlu Cymru a Lloegr
  • Cymdeithas Staff Prif Swyddogion yr Heddlu
  • Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion yr Heddlu sydd Wedi Ymddeol
  • Cymdeithas yr Heddlu Anabl

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr nac yn gyfyngol a chroesewir ymatebion gan unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn, neu farn ar y pwnc a gwmpasir yn y papur hwn.

Y rheol 12 mis yn rheoliad 12 o Reoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006

Mae’r adran hon yn nodi’r mater y mae’r Swyddfa Gartref yn ymgynghori arno.
Mae Rheoliad 12 o Reoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006 yn ymwneud â’r arian rhodd anabledd y mae gan swyddogion heddlu ag anabledd llwyr a pharhaol o ganlyniad i anaf a gafwyd tra ar ddyletswydd hawl iddo.

Byddai swyddog sy’n dioddef o anaf sy’n arwain at anabledd llai difrifol yn dal i elwa o bensiwn afiechyd ynghyd â phensiwn anaf ac arian rhodd o dan reoliad 11 o Reoliadau 2006. Mae testun rheoliad 12 (fel y’i diwygiwyd) isod, â’r geiriad yn nodi’r rheol 12 mis mewn testun trwm.

“12. Rhodd anabledd

(1)  Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson sydd—

  • (a) yn derbyn neu wedi derbyn anaf heb ei ddiffyg ei hun wrth gyflawni ei ddyletswydd,
  • (b) yn peidio â bod neu wedi peidio â bod yn aelod o heddlu, ac
  • (c) o fewn 12 mis ar ôl derbyn yr anaf hwnnw, yn dod yn anabl yn llwyr ac yn barhaol o ganlyniad i’r anaf hwnnw.

(2)  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 22 a 23 (atal), rhaid i awdurdod pensiwn yr heddlu ar gyfer y llu y mae person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi gwasanaethu ynddo ddiwethaf dalu arian rhodd iddo neu iddi o swm sy’n hafal i ba un bynnag yw’r llai o’r symiau dilynol, sef—

  • (a) bum gwaith gwerth blynyddol ei dâl/thâl pensiynadwy ar ddiwrnod olaf ei (g)wasanaeth fel aelod o heddlu;
  • (b) y swm o bedair gwaith cyfanswm ei dâl/thâl yn ystod y 12 mis sy’n dod i ben gyda’i ddiwrnod olaf o wasanaeth fel aelod o heddlu a swm ei g/chyfraniadau pensiwn cyfanredol mewn perthynas â’r cyfnod perthnasol o wasanaeth.

(3)  At ddibenion paragraff (2)(b) cyfrifir swm y cyfraniadau pensiwn cyfanredol mewn perthynas â’r cyfnod perthnasol o wasanaeth—

  • (a) yn achos person yr oedd cyfraniadau pensiwn yn daladwy o dan reoliad G2(1) o Reoliadau 1987, yn union cyn ei (d)diwrnod olaf o wasanaeth fel aelod o heddlu, neu a fyddai wedi bod yn daladwy felly ond am etholiad o dan reoliad G4(1) o Reoliadau 1987, yn yr un modd â phe byddai’r dyfarniad yn un sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hynny, wedi’i gyfrifo yn unol â rheoliad A10 o’r Rheoliadau hynny;
  • (b) yn achos person yr oedd cyfraniadau pensiwn yn daladwy o dan reoliad 7 o Reoliadau 2006, yn union cyn ei ddiwrnod olaf o wasanaeth fel aelod o heddlu, neu a fyddai wedi bod daladwy felly  oni bai am etholiad o dan reoliad 9 o Reoliadau 2006, yn yr un modd â phe bai’r dyfarniad yn un sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hynny, wedi’i gyfrifo yn unol â rheoliad 26 o’r Rheoliadau hynny.

(4) At ddibenion paragraff (2)(b), swm y cyfraniadau pensiwn cyfanredol ar gyfer person â gwasanaeth o dan gynllun 2015 yw—

  • (a) i berson â gwasanaeth o dan gynllun 2015 yn unig, swm holl gyfraniadau a thaliadau aelod am bensiwn ychwanegol a wnaed gan y person o dan Reoliadau 2015 mewn perthynas â chyfnod gwasanaeth y person o dan gynllun 2015;
  • (b) i berson sydd neu a oedd yn aelod pontio yn 1987 â pharhad gwasanaeth, swm y cyfraniadau—
    • (i) wedi’i gyfrifo fel petai is-baragraff (a) yn gymwys, a
    • (ii) wedi’i gyfrifo fel petai paragraff (3)(a) yn gymwys; ac
  • (c) i berson sydd neu a oedd yn aelod pontio yn 2006 â pharhad gwasanaeth, swm y cyfraniadau—
    • (i) wedi’i gyfrifo fel petai is-baragraff (a) yn gymwys, a
    • (ii) wedi’i gyfrifo fel petai paragraff (3)(b) yn gymwys.”

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’n ofynnol yn ôl y Ddyletswydd Cydraddoldeb i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol a phobl nad ydynt yn ei rhannu
  • feithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol a phobl nad ydynt yn ei rhannu

Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail anabledd.

Mae gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd yn digwydd pan fydd person yn cael ei drin yn llai ffafriol nag y mae neu y byddai rhywun arall oherwydd yr anabledd hwnnw.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail anabledd yn digwydd pan roddir unigolyn dan anfantais o ganlyniad i weithredu rheol neu bolisi sy’n wahaniaethol mewn perthynas ag anabledd, os na ellir dangos bod y rheol neu’r polisi yn fodd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon.

O dan y rheoliadau cyfredol (Rheoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006) darperir arian rhodd mawr i’r swyddogion hynny sy’n dioddef anabledd trychinebus o fewn 12 mis ar ôl derbyn anaf wrth gyflawni eu dyletswydd. Mae hyn yn eu helpu i addasu’n ariannol i ffordd newydd o fyw pan nad ydynt wedi cael unrhyw amser i baratoi ar gyfer canlyniadau o’r fath.

Fodd bynnag, efallai na fydd y terfyn presennol o 12 mis yn darparu ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol cynyddol. Er enghraifft, efallai na fydd cyflyrau iechyd meddwl yn benodol yn amlygu eu hunain i’r swyddog anafedig tan o bosibl flynyddoedd ar ôl digwyddiad trawmatig, neu gyfres o ddigwyddiadau trawmatig.

Felly, gallai’r rheol 12 mis roi swyddogion heddlu sy’n datblygu analluogrwydd meddyliol dan anfantais, o gymharu â’r rhai sy’n datblygu anaf corfforol, oherwydd gall natur eu hanabledd olygu eu bod yn cael eu hatal rhag cyrchu’r taliad arian rhodd mawr a allai fel arall eu helpu i addasu ac ymdopi ag effeithiau anabledd.

Felly, hoffem gasglu barn ynghylch a yw’r rheol 12 mis yn gyson â dyletswyddau’r Ysgrifennydd Cartref o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Hoffem hefyd gasglu barn ynghylch a yw anafiadau iechyd meddwl ac anafiadau corfforol yn cael triniaeth gyfartal a theg o dan reoliad 12. Yn ogystal, hoffem gasglu barn ynghylch a oes darpariaeth ddigonol ar gyfer anafiadau iechyd meddwl cynyddol sy’n arwain at anabledd llwyr a pharhaol o dan reoliad 12. Ymhellach, hoffem gasglu barn ar gynnwys unrhyw derfyn amser ar gyfer cymhwysedd am yr arian rhodd anabledd llawn yn rheoliad 12.

Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau dilynol a nodir yn y papur ymgynghori hwn. Mae’r cwestiynau dilynol yn ceisio barn ynghylch:

  • a yw’r rheol 12 mis yn rheoliad 12 o Reoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006 yn gyson â dyletswyddau’r Ysgrifennydd Cartref o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • a yw anafiadau iechyd meddwl ac anafiadau corfforol yn cael triniaeth gyfartal a theg o dan reoliad 12
  • a ddarperir yn ddigonol ar gyfer anafiadau iechyd meddwl cynyddol sy’n arwain at anabledd llwyr a pharhaol o dan reoliad 12
  • cynnwys unrhyw derfyn amser ar gyfer cymhwysedd ar gyfer yr arian anabledd llawn yn rheoliad 12

Gofynnwn i chi beidio â darparu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy (er enghraifft, enwau, dyddiadau a lleoliadau) yn eich atebion i’r cwestiynau dilynol.

C1. Yn eich barn chi, a yw’r rheol 12 mis yn rheoliad 12 o Reoliadau’r Heddlu (Budd-dâl Anafiadau) 2006 yn gyson â dyletswyddau’r Ysgrifennydd Cartref o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

Ydy Nac ydy
   

Esboniwch eich ateb.

C2. Yn eich barn chi, a yw anafiadau iechyd meddwl ac anafiadau corfforol yn cael triniaeth deg a chyfartal o dan reoliad 12?

Ydyn Nac ydyn
   

Esboniwch eich ateb.

C3. Yn eich barn chi, a yw anafiadau iechyd meddwl cynyddol sy’n arwain at anabledd llwyr a pharhaol yn cael darpariaeth ddigonol o dan reoliad 12?

Ydyn Nac ydyn
   

Esboniwch eich ateb.

C4. Yn eich barn chi, a ddylai fod unrhyw derfyn amser ar gymhwysedd ar gyfer yr arian rhodd anabledd llawn yn rheoliad 12?

Dylai Na ddylai
   

Esboniwch eich ateb. Os mai ‘Dylai’ ydyw, beth fyddech yn ei ystyried yn derfyn amser priodol?

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Amdanoch chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch eich hun. Sylwch eich bod yn cwblhau’r adran hon yn wirfoddol. Byddwch yn ymwybodol, trwy ymateb yn electronig, y bydd gennym eich cyfeiriad e-bost. Bydd eich manylion yn cael eu cadw’n ddiogel yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch pa ddata yr ydym yn eu casglu, pam a sut y byddant yn derbyn gofal i’w chael yma: https://www.gov.uk/government/consultations/regulation-12-of-the-police-injury-benefit-regulations-2006.

Teitl swydd neu rinwedd rydych chi’n ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn ynddi (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd)

Os ydych wedi gwasanaethu o fewn y maes plismona o’r blaen, nodwch yma

Os ydych yn aelod o deulu rhywun sy’n gwasanaethu o fewn plismona, rhowch wybod i ni eich perthynas â’r swyddog

Dyddiad

Enw’r cwmni/sefydliad (os yw’n berthnasol)

Os ydych yn gynrychiolydd grŵp, rhowch enw’r grŵp i ni a rhowch grynodeb o’r bobl neu’r sefydliadau rydych yn eu cynrychioli. Nodwch hefyd a ydych yn cytuno i’ch ymateb gael ei wneud yn gyhoeddus a’i gysylltu â’r grŵp.

Manylion cyswllt a sut i ymateb

Anfonwch eich ymateb erbyn 7 Gorffennaf 2021 i:

Adolygiad o reoleiddiad 12
Uned Gweithlu a Phroffesiynoldeb yr Heddlu
Y Swyddfa Gartref
6ed Llawr, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain SW1P 4DF

E-bost: Reviewofregulation12PIB@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gŵynion neu sylwadau ynghylch y broses ymgynghori, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Copïau ychwanegol

Gellir cael copïau papur pellach o’r ymgynghoriad hwn o’r cyfeiriad uchod, ac maent hefyd ar gael ar-lein yma.

Gellir gofyn am fersiynau fformat amgen o’r cyhoeddiad hwn gan:
E-bost: Reviewofregulation12PIB@homeoffice.gov.uk

Cyhoeddi’r ymateb

Bydd y Swyddfa Gartref yn ymdrechu i ddarparu ymateb i’r ymgynghoriad hwn erbyn hydref 2021. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein yn: gov.uk

Grwpiau cynrychiadol

Gofynnir i grwpiau cynrychiadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.

Cyfrinachedd

Gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG), Deddf Diogelu Data 2018 (DDD) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych am i’r wybodaeth rydych yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y DdRh G, bod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n delio, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau hyder. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro i ni pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth rydych wedi’i darparu’n gyfrinachol. Os derbyniwn gais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd ym mhob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG ynddo’i hun yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu’ch data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data ac yn y mwyafrif o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon.

Egwyddorion yr ymgynghoriad

Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth wedi’u nodi yn egwyddorion yr ymgynghoriad.
https://www.gov.uk/government/publications/consultation-principles-guidance