Consultation outcome

Preventing the use of SIM farms for fraud: consultation (accessible Welsh)

Updated 18 December 2023

Am yr ymgynghoriad hwn

At

Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd ac mae wedi’i dargedu tuag at ddioddefwyr a busnesau sydd wedi dioddef twyll, gan gynnwys twyll negeseuon testun a galwadau ffôn sgam.

Byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rhai hynny a allai gael eu heffeithio gan y cynigion, pe baent yn dod yn ddeddfwriaeth, gan gynnwys gweithredwyr telathrebu, busnesau, sefydliadau gorfodi’r gyfraith, grwpiau defnyddwyr, yn ogystal â chyrff anllywodraethol sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr twyll, rhyddid sifil a grwpiau hawliau dynol.

Hyd

6 wythnos o 3 Mai 2023 tan 14 Mehefin 2023

Ymholiadau i:

SIM Farm Consultation
Economic Crime Directorate
Homeland Security Group
Home Office
6th Floor, Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

Ebost: SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb

Anfonwch eich ymateb erbyn 17:00 ar 14 Mehefin 2023 drwy ebost i SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk

Ffyrdd eraill o ymateb

Os nad ydych yn gallu ymateb drwy ebost, gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r ffurflen ar-lein a’i chyflwyno drwy ebost neu drwy’r post.

Os oes arnoch angen gwybodaeth mewn fformat arall, anfonwch ebost i: SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk. Dywedwch wrthym pa fformat y mae arnoch ei angen. Bydd o gymorth i ni os gallwch ddweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio.

Efallai na fyddwn yn gallu dadansoddi ymatebion nad ydynt wedi’u cyflwyno yn y fformatau hyn a ddarparwyd.

Papur ymateb

Cyhoeddir ymateb i’r ymgynghoriad hwn a’r cais am dystiolaeth ar gov.uk pan fydd yr ymgynghoriad wedi’i gwblhau.

Rhagair gan y Gweinidog

Fel Ysgrifennydd Cartref, diogelu’r cyhoedd yw fy mhrif flaenoriaeth a’r drosedd fwyaf yn y DU yw twyll. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Strategaeth Dwyll sy’n amlinellu uchelgais y llywodraeth i sicrhau gostyngiad o 10% yn lefelau twyll 2019, i lawr i 3.33 miliwn o achosion o dwyll erbyn diwedd 2024. Er mwyn gwneud hyn, mae’n hollbwysig ein bod yn atal sgamiau rhag cyrraedd pobl yn y lle cyntaf.

Mae twyllwyr yn defnyddio technoleg a chyfryngau telathrebu sydd o’n cwmpas ym mhobman o ddydd i ddydd, er enghraifft negeseuon testun a galwadau ffôn, i gysylltu â phobl er mwyn eu twyllo a chael gafael ar eu harian. Er mwyn atal y niwed ariannol ac emosiynol dinistriol y mae hyn yn ei achosi, rhaid i ni atal troseddwyr rhag cael mynediad at unrhyw offeryn sy’n caniatáu iddynt anfon niferoedd mawr o negeseuon yr un pryd neu wneud galwadau ffôn sgam.

Dyma pam rwyf yn lansio’r ymgynghoriad hwn ar wahardd cyflenwi a defnyddio ffermydd SIM yn y DU. Er mwyn sicrhau bod y cynigion yn addas ar gyfer y dyfodol, rydym hefyd yn gofyn pa dechnolegau eraill ddylai gael eu gwahardd er mwyn atal troseddwyr rhag gallu eu defnyddio i gyflawni twyll.

Mae’r cynigion hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol i wella’r ymateb i dwyll sy’n cael ei alluogi gan gyfryngau telathrebu, er mwyn sicrhau bod ein hasiantaethau gorfodi’r gyfraith un cam ar y blaen o hyd ac nad oes gan droseddwyr le i guddio.

Y Gwir Anrhydeddus Suella Braverman CB AS Ysgrifennydd Gwladol

Crynodeb Gweithredol

Mae ffermydd SIM yn ddyfeisiau sy’n gallu dal cannoedd o gardiau SIM, ac anfon miloedd o negeseuon testun sgam i gael miliynau o bunnoedd drwy dwyll gan bobl y DU. Yn ogystal ag anfon negeseuon testun sgam, mae troseddwyr yn defnyddio’r dyfeisiau hyn i gynnal ymgyrchoedd galwadau ffôn sgam ac i bostio niferoedd mawr o negeseuon camarweiniol, anwir neu we-rwydo ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae troseddwyr yn eu defnyddio i guddio data cyfathrebiadau wrth wneud galwadau ffôn neu negeseuon testun, gan wneud ymchwiliadau’n llawer anos. Defnyddir ffermydd SIM yn aml yn groes i delerau gwasanaeth gweithredwyr telathrebu i anfon traffig cyfreithlon ar gyfraddau sylweddol is na phe baent yn defnyddio’r llwybrau priodol.

Mae’n bosibl bod rhai cwmnïau sy’n gwneud defnydd cyfreithlon o’r dechnoleg, ond nid oes llawer ohonynt ac ni ddylai fod angen iddynt ddefnyddio mwy na phedwar cerdyn SIM, yn seiliedig ar nifer y gweithredwyr ffonau symudol yn y DU. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd gennym bod unrhyw achosion defnydd cyfreithlon ar gyfer dyfeisiau sy’n caniatáu defnyddio mwy na phedwar cerdyn SIM, ac ar gyfer pob achos o’r fath mae opsiynau amgen yn bodoli.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn amlinellu cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi a meddu ar ffermydd SIM (dyfeisiau ar gyfer mwy na phedwar cerdyn SIM) yn y DU. Yn ogystal, rydym yn gofyn a ddylid cynnwys technolegau eraill sy’n cael eu defnyddio bron yn gyfan gwbl i gyflawni twyll. Rydym hefyd yn gofyn am fewnbwn ynglŷn â’n diffiniad o ffermydd SIM er mwyn sicrhau ei fod yn gofnod cywir o’r dyfeisiau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac am farn ynglŷn â’n hopsiwn i gymhwyso’r mesur dim ond i ddyfeisiau sydd â mwy na phedwar slot.

Er mwyn sicrhau y gallwn ymateb i fygythiadau newydd y byddwn yn eu canfod yn y dyfodol, mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn a ddylai’r Llywodraeth allu diweddaru’r rhestr o dechnolegau ac eitemau gwaharddedig drwy is-ddeddfwriaeth.

Er mwyn lliniaru unrhyw gostau sy’n codi o’r cynigion, rydym yn gofyn a ddylem bennu cyfnod i ganiatáu i sefydliadau werthuso’r prosesau a’r dechnoleg y maent yn ei defnyddio a phontio i ddulliau amgen.

Yn ogystal, rydym yn lansio cais am dystiolaeth i gasglu gwybodaeth a data fel bod modd gwneud amcangyfrifon cywirach o’r effeithiau ar fusnesau. Caiff arfarniad manwl ei gwblhau, a darperir Asesiad Effaith llawn yn dilyn yr ymgynghoriad.

Cefndir

Y bygythiad y mae twyll yn ei achosi i’r cyhoedd yn y DU

Fel y nodwyd yn y Strategaeth Dwyll yn ddiweddar, mae twyll yn cynyddu fel cyfran o droseddau, ac mae bellach yn gyfrifol am dros 40% o’r amcangyfrif o droseddau yng Nghymru a Lloegr.[footnote 1] Yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2022 amcangyfrifir bod 3.7 miliwn o droseddau twyll, ac roedd 1 o bob 15 oedolyn wedi dioddef twyll. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth 2022 roedd 18% wedi dioddef twyll ar fwy nag un achlysur.[footnote 2] Mae cost twyll yn aruthrol. Amcangyfrifwyd bod twyll yn erbyn unigolion yng Nghymru a Lloegr wedi costio o leiaf £6.8 biliwn i gymdeithas yn 2019/20.[footnote 3] Mae hyn yn cynnwys arian a gollwyd gan ddioddefwyr, cost cefnogi dioddefwyr, a chostau adfer, ymchwilio ac erlyn twyllwyr.

Un rheswm dros y cynnydd cyflym hwn yn y raddfa, a’r niwed a achosir gan dwyll, yw cymhlethdod a soffistigeiddrwydd cynyddol yr offer sydd ar gael i dwyllwyr yn y DU a thramor. Mae troseddwyr yn aml yn camddefnyddio rhwydweithiau telathrebu i dargedu pobl a thwyllo dioddefwyr ar raddfa fawr. Yng nghyfnod Mehefin-Awst 2022, dywedodd tri chwarter pobl y DU eu bod wedi derbyn neges amheus, ar ffurf neges destun, neges wedi’i recordio neu alwad llais byw i ffôn symudol. Amcangyfrifir bod hyn yn fwy na 40.8 miliwn o oedolion yn y DU.[footnote 4] Amcangyfrifir bod 700,000 wedi mynd ymlaen i ddilyn cyfarwyddiadau’r sgamiwr, gan roi eu hunain yn agored i golled ariannol a thrallod emosiynol sylweddol.

Astudiaeth achos: Sgam Neges Destun Methu â Danfon Pecyn

Roedd Gemma*, merch 20 oed, wedi colli ei mam yn ddiweddar, a chafodd neges destun sgam yn honni ei fod gan y Post Brenhinol. Cliciodd ar y ddolen, rhoddodd ei manylion, a thalodd ffi ailddanfon. Y diwrnod canlynol cafodd alwad ffôn gan rywun yn honni ei fod yn galw o’r FCA. Dywedwyd wrthi bod rhywun wedi dwyn ei chyfrineiriau ac yn ceisio trosglwyddo arian o’i banc, ac y dylai drosglwyddo ei harian i gyd i gyfrif ‘diogel’. Yn ei brys trosglwyddodd £9,200 yr oedd wedi ei etifeddu gan ei mam, ac ar ôl sylweddoli ei bod wedi cael ei thwyllo mae wedi dioddef gorbryder a phyliau o banig.

Beth allai gwahardd ffermydd SIM ei wneud yma?

Byddai gwahardd ffermydd SIM yn helpu i atal troseddwyr rhag anfon miloedd o negeseuon sbam fel hyn. Mae’r Strategaeth Dwyll yn cynnwys mesurau i roi pwerau i’r rheoleiddwyr orfodi banciau a chwmnïau ariannol i ad-dalu dioddefwyr fel Gemma, gan leihau niwed emosiynol ac ariannol.

*newidiwyd yr enw

Negeseuon testun sgam

Negeseuon testun yw’r math mwyaf cyffredin o negeseuon amheus. Mae mwy na 6 o bob 10 person yn dweud eu bod wedi cael negeseuon testun amheus. Mae nifer yr adroddiadau am alwadau ffôn amheus yn llai, ond yn dal yn arwyddocaol: dywedodd 21% o’r ymatebwyr eu bod wedi cael galwadau byw amheus i’w ffonau symudol ac 19% i’w llinellau tir[footnote 5]. Mae negeseuon testun sgam yn cael eu holrhain yn aml i ffermydd SIM a thechnolegau eraill sy’n caniatáu i droseddwyr anfon nifer fawr o negeseuon sgam gyda’i gilydd. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i atal troseddwyr rhag camddefnyddio technolegau ac offer, er enghraifft ffermydd SIM, a diogelu ein rhwydweithiau telathrebu rhag pobl sy’n ceisio twyllo’r cyhoedd yn y DU.

Four screenshots of scam texts.

Y sefyllfa gyfreithiol bresennol

Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn atal troseddwyr rhag cael a defnyddio ffermydd SIM, a thechnolegau eraill tebyg. Mae’r Ddeddf Twyll yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflenwi neu feddu ar eitemau, gan gynnwys ffermydd SIM, os bwriedir eu defnyddio ar gyfer twyll. Er hyn, mae’n anodd iawn cadarnhau bod unigolyn sy’n meddu, yn gwneud neu’n cyflenwi ffermydd SIM yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer twyll. Yn yr un modd, nid yw’r Ddeddf yn gofyn i fewnforwyr, gweithgynhyrchwyr neu werthwyr wirio defnydd bwriadedig o’r ddyfais.

Dan Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006, mae gan Ofcom a’r Ysgrifennydd Gwladol bwerau i osod cyfyngiadau os yw eitem yn ymyrryd â thelegraffiaeth ddi-wifr. Nid yw’r pwerau hyn yn gymwys i droseddu neu ddiogelwch gwladol (dim ond ymyriant di-wifr), sy’n golygu nad yw’n bosibl eu defnyddio i atal camddefnyddio telegraffiaeth ddi-wifr i gyflawni twyll, er enghraifft mynd i’r afael â ffermydd SIM.

Mae hyn yn golygu nad yw troseddwyr, sydd eisoes â’u bryd ar dorri’r gyfraith, yn wynebu unrhyw rwystrau wrth iddynt gaffael ffermydd SIM i gyflawni eu gweithgareddau troseddol. Dyma pam rydym yn cyflwyno mesurau newydd i’w gwneud mor anodd ag sy’n bosibl i droseddwyr gael a defnyddio ffermydd SIM yn y DU.

Gall ffermydd SIM hefyd fod ar ffurf ap symudol sydd naill ai’n cynnig talu i ddefnyddwyr am negeseuon SMS di-dâl nad ydynt wedi eu defnyddio neu sy’n gosod maleiswedd sy’n dwyn eu dyraniad SMS bob mis. Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddodd y Llywodraeth God Ymarfer[footnote 6] gwirfoddol a oedd yn amlinellu gofynion diogelwch a phreifatrwydd sylfaenol ar gyfer gweithredwyr siopau apiau a datblygwyr apiau. Nod y Cod Ymarfer ar gyfer

Gweithredwyr Siopau Apiau a Datblygwyr Apiau yw diogelu defnyddwyr rhag apiau maleisus ac apiau wedi’u datblygu’n wael a bydd yn mynd i’r afael â risgiau fersiynau ap o ffermydd SIM. Rydym yn monitro gweithrediad hyn a byddwn yn ystyried beth arall y mae angen ei wneud er mwyn tarfu ar y fersiwn ap o ffermydd SIM, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r mesurau perthnasol a amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori hon.

Ymgynghoriad: Bygythiad ffermydd SIM a thechnolegau tebyg i’r cyhoedd yn y DU

Diffiniad o ffermydd SIM

Mae nifer o wahanol enwau ar gyfer ffermydd SIM, gan gynnwys blychau SIM, pyrth SIM, pyrth System Fyd-eang Cyfathrebu Symudol (GSM), pyrth Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP), a phyrth SMS.

Mae’r rhain yn ddyfeisiau sy’n trosi cyfathrebiadau llinell sefydlog (rhyngrwyd neu rwydwaith ffôn cyhoeddus analog) yn gyfathrebiadau symudol. Eu prif ddefnydd yw derbyn galwadau ffôn neu negeseuon SMS sy’n cael eu hanfon dros y rhyngrwyd a’u hail- drawsyrru dros rwydweithiau symudol i allu cyrraedd ffonau symudol.[footnote 7] Gall busnesau eu defnyddio i sicrhau cysylltiad di-dor wrth symud drwy ardaloedd lle mae signal annigonol; neu i ddiwallu anghenion cyfathrebu tymor byr heb fod angen gosod llinell sefydlog barhaol i safleoedd dros dro. Mae galwad neu neges destun a anfonir o’r dyfeisiau hyn yn ymddangos i’r rhwydwaith symudol fel pe bai’n deillio o ffôn symudol sydd wedi’i chofrestru i’r rhwydwaith hwnnw.[footnote 8]

Yn y bôn, dim ond pedwar gweithredwr ffonau symudol sydd yn y DU, ac mae pob darparwr arall yn cael ei gario gan eu gwasanaethau hwy. Mae hyn yn golygu nad yw’n ofynnol i ddyfeisiau sydd â phum slot SIM neu fwy sicrhau cysylltedd di-dor. Gellir eu defnyddio’n wahanol, er enghraifft i gael mynediad i’r rhwydwaith dro ar ôl tro i anfon negeseuon testun torfol, i wneud llawer o alwadau, neu i gael mynediad i’r rhyngrwyd drwy lawer o gysylltiadau. Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym felly’n diffinio ffermydd SIM fel dyfeisiau sydd â mwy na phedwar slot.

Rydym yn cydnabod bod y diffiniad uchod yn cyfeirio at ddyfeisiau ffisegol yn bennaf, ac y gallai fod yn colli iteriadau eraill o’r dechnoleg, gan gynnwys cyfuniadau posibl o galedwedd ffisegol a meddalwedd rhithwir. Felly, er mwyn sicrhau ein bod wedi cofnodi pob iteriad o fferm SIM yn gywir, rydym yn gwahodd eich barn am y diffiniad hwn.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

C1. A ydych yn cytuno â diffiniad y llywodraeth o fferm SIM, fel dyfais sy’n cynnwys mwy na phedwar cerdyn SIM?

C2. Pa dechnoleg arall allai gael ei chyflwyno dan y gwaharddiad hwn a sut y dylid disgrifio hyn?

Y bygythiad

Yn aml iawn mae negeseuon testun sgam yn cael eu holrhain yn ôl i ffermydd SIM, sydd weithiau’n gallu dal cannoedd os nad miloedd o gardiau SIM. Mae ffermydd SIM ar gael mewn marchnadoedd ar-lein poblogaidd, am brisiau isel, ac ychydig iawn o brofion a wneir i wirio cefndir y prynwr. Mae hyn yn eu gwneud yn opsiwn atyniadol, hawdd cael gafael arnynt a chost isel i droseddwyr sy’n anfon nifer fawr iawn o negeseuon testun i we-rwydo[footnote 9] am ddata sensitif, fel manylion banc.

Mae ffermydd SIM yn caniatáu i droseddwyr ddefnyddio holl alluoedd cardiau SIM mewn niferoedd mawr iawn ac am gost isel. Yn ogystal ag anfon niferoedd mawr o negeseuon testun sgam, mae hyn yn cynnwys cynnal ymgyrchoedd galwadau ffôn sgam a phostio negeseuon camarweiniol, anwir neu we-rwydo ar y cyfryngau cymdeithasol ar raddfa fawr. Gall y dechnoleg hefyd ganiatáu i droseddwyr guddio cyfathrebiadau drwy ddangos data Adnabod Llinell y Galwr (CLI) anghywir a lleoliad galwr anghywir.

Mae ffermydd SIM yn cael eu hysbysebu’n agored ar farchnadoedd ar-lein poblogaidd i’w prynu a’u mewnforio i’r DU. Mae’r rhan fwyaf o farchnadoedd yn gwneud ychydig iawn o brofion, os o gwbl, i wirio pwy yw eu cwsmeriaid. Golyga hyn ei bod yn hawdd iawn i droseddwyr gael ffermydd SIM, am gost isel, a’u defnyddio i dargedu’r cyhoedd yn y DU.

Nid yw’n bosibl dweud faint yn union o ffermydd SIM sy’n cael eu defnyddio, ond mae ystadegau twyll yn dangos bod y defnydd o ffermydd SIM ymhlith y pum prif fath o dwyll telathrebu yn 2021.[footnote 10] Er enghraifft, darganfu un ymchwiliad gan yr heddlu fod pum SIM wedi anfon dros 900,000 o negeseuon mewn un fferm SIM rhwng Ebrill a Hydref mewn un flwyddyn.

Mae negeseuon sgam yn dal i fynd drwy hidlyddion y rhwydwaith ffonau symudol. Mae hyn oherwydd bod technegau ffermydd SIM yn esblygu’n gyflym mewn ymateb i ymdrechion i’w canfod. Mae rhai darparwyr ffermydd SIM yn cynnig dulliau i wrthweithio strategaethau canfod, er enghraifft meddalwedd arbenigol sy’n efelychu’r ffordd y mae pobl yn defnyddio cardiau SIM yn eu ffonau symudol (meddalwedd Efelychu Ymddygiad Dynol). Er enghraifft, gallai cardiau SIM yn y fferm SIM alw neu anfon neges i gardiau SIM eraill yn y blwch, gan wneud i ymddygiad y cerdyn SIM ymddangos yn fwy ‘normal’. Mae dulliau o’r fath yn ceisio osgoi’r mesurau rheoli sydd mewn lle gan weithredwyr ffonau symudol a gwneud ffermydd SIM yn llawer anos i’w canfod.

Mae negeseuon cymhwysiad-i-berson (A2P), er enghraifft negeseuon atgoffa am apwyntiad wedi’u hawtomeiddio, sy’n ysgogi dilysu dau ffactor neu anfon niferoedd mawr o negeseuon SMS fel rhan o ymgyrchoedd marchnata, yn rhan gynyddol bwysig o’r farchnad SMS gyffredinol. Er bod hyn yn groes i’r telerau gwasanaeth telathrebu fel arfer, mae rhai cyfranogwyr diegwyddor hefyd yn sianelu negeseuon A2P drwy ffermydd SIM er mwyn lleihau eu costau, gan achosi colledion i weithrediad cyfreithlon y darparwr.

Er mwyn cael gwybodaeth sylfaenol ar gyfer ein cynigion, rydym yn gofyn am farn a thystiolaeth am y bygythiadau hyn a bygythiadau eraill sy’n cael eu hachosi gan ffermydd SIM.

Cwestiynau i ymgyngoreion

C3. Pa droseddau y mae ffermydd SIM yn cael eu defnyddio er mwyn eu hwyluso?

C4. A oes gennych unrhyw ddata neu enghreifftiau i ddangos maint defnydd anghyfreithlon ohonynt?

Defnydd cyfreithlon

Rydym wedi nodi set gyfyngedig o achosion defnydd cyfreithlon ar gyfer dyfeisiau sy’n dal pedwar cerdyn SIM neu lai, er enghraifft er mwyn sicrhau cysylltedd di-dor wrth symud drwy ardaloedd lle nad oes signal digonol, neu i ddiwallu anghenion cyfathrebu tymor byr heb fod angen gosod llinell sefydlog barhaol i safleoedd dros dro.

Fodd bynnag, rydym wedi ymgysylltu’n helaeth ar draws y diwydiant, ac â sefydliadau gorfodi’r gyfraith, ac nid ydym wedi nodi unrhyw achos o ddefnydd cyfreithlon ar gyfer ffermydd SIM (sy’n cael eu diffinio fel dyfeisiau â mwy na phedwar slot). Nid oes angen ffurfwedd o’r fath ar gyfer unrhyw un o’r achosion defnydd cyfreithlon uchod, ac ym mhob achos mae’n debyg bod opsiynau eraill yn bodoli.

Ar hyn o bryd mae’n gyfreithlon yn y DU i fusnesau neu ddefnyddwyr brynu, gosod a defnyddio ffermydd SIM at ddefnydd personol, mewn gosodiad a elwir yn Byrth GSM Defnydd Untro. Fodd bynnag, fel y cadarnhawyd gan y Goruchaf Lys ar 8 Mawrth 2023, mae angen trwydded Ofcom er mwyn eu gosod mewn fformat masnachol aml-ddefnyddiwr (a elwir yn COMUG). Nid yw Ofcom erioed wedi rhoi trwydded, sy’n golygu nad yw’n gyfreithlon i weithredu COMUG. Er hyn, mae gwerthu ffermydd SIM, y mae’n hawdd eu sefydlu fel COMUG, yn parhau heb gyfyngiadau, ac maent yn cael eu gwerthu’n agored mewn marchnadoedd ar-lein, sy’n golygu bod troseddwyr yn dal i allu cael gafael arnynt yn hawdd a’u defnyddio. Mae’r ffordd y defnyddir COMUG yn caniatáu i’w gweithredwyr guddio data cyfathrebiadau pe baent yn dewis gwneud hynny. O ganlyniad, mae’n anos i sefydliadau gorfodi’r gyfraith ymchwilio i droseddwyr a nodi a lleoli pobl sy’n wynebu risg o niwed.

Rydym yn gwahodd gwybodaeth am ddefnydd cyfreithlon ar gyfer ffermydd SIM nad ydynt wedi’u rhestru uchod.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

C5. A ydych yn ymwybodol o ddefnydd cyfreithlon o ffermydd SIM nad yw wedi’i grybwyll yn y ddogfen hon?

C6. A oes gennych ddata neu enghreifftiau i ddangos maint y defnydd cyfreithlon ohonynt?

C7. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio ffermydd SIM?

a) Ydy

b) Nac ydy

Mae troseddwyr hefyd yn defnyddio technolegau eraill i dargedu eu dioddefwyr

iSpoof

Roedd gwefan iSpoof yn cynnig gwasanaethau a oedd yn galluogi’r rhai hynny a oedd yn cofrestru ac yn talu ffi i wneud galwadau wedi’u ffugio, anfon negeseuon wedi’u recordio a rhyng-gipio cyfrineiriau untro. Roedd hyn yn galluogi troseddwyr i ffugio bod yn fusnesau cyfreithlon y mae pobl yn ymddiried ynddynt, a chynnal ymosodiadau teilwra cymdeithasol.

Roedd gan iSpoof tua 59,000 o ddefnyddwyr, a achosodd £48 miliwn o golledion i 200,000 o ddioddefwyr yn y DU. Collodd un dioddefwr £3 miliwn, ac roedd y swm cyfartalog a oedd yn cael ei ddwyn yn £10,000.

Yn y 12 mis cyn Awst 2022, cafodd tua 10 miliwn o alwadau twyllodrus eu gwneud yn fyd- eang drwy ddefnyddio’r gwasanaeth.

Roedd twyllwyr yn talu rhwng £150 a £5,000 y mis i ddefnyddio gwasanaeth iSpoof, gan gysylltu, ar brydiau, ag 20 o bobl bob munud, yn bennaf yn yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, yr Iseldiroedd, Awstralia, Ffrainc ac Iwerddon.

Arweiniwyd yr ymchwiliad gan yr Heddlu Metropolitanaidd ar y cyd â Heddlu Dinas Llundain, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon, Lithwania, yr Iseldiroedd, Wcráin ac Unol Daleithiau America.

Rydym yn ymwybodol bod dulliau eraill ar gael i droseddwyr i gysylltu â’u dioddefwyr – ac wrth i dechnoleg ddal i ddatblygu bydd mwy yn dod i’r amlwg yn y dyfodol. Mae achos iSpoof yn ddiweddar yn dangos bod y rhain yn gallu bod ar sawl ffurf, ac nad ydynt yn gyfyngedig i ddyfeisiau ffisegol. Mae hefyd yn dangos bod y technolegau sydd ar gael i dwyllwyr yn mynd y tu hwnt i SMS, gan ymestyn i wneud galwadau llais wedi’u ffugio, anfon negeseuon wedi’u recordio a rhyng-gipio cyfrineiriau untro.

Er bod iSpoof wedi’i gau erbyn hyn, mae’n dangos sut y mae troseddwyr yn gallu addasu, a hynny’n gyflym iawn. Dyma pam rydym yn gofyn am farn ynglŷn â thechnolegau eraill sy’n cael eu defnyddio gan dwyllwyr.

Cwestiynau i ymgyngoreion

C8. A ydych yn gwybod am unrhyw dechnolegau, gwasanaethau neu ddyfeisiau eraill, ar- lein neu all-lein, y gellir eu defnyddio i wneud pethau tebyg i ffermydd SIM? Pa mor hawdd fyddai hi i newid i’r rhain?

C9. A ydych yn gwybod am unrhyw ddefnydd cyfreithlon o’r eitemau a nodwyd yn C8?

a) Ydw

b) Nac ydw

C10. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio unrhyw rai o’r eitemau a nodwyd yn C8?

a) Ydy

b) Nac ydy

C11. A ydych yn gwybod am unrhyw dechnolegau, gwasanaethau neu ddyfeisiau eraill, ar-lein a/neu all-lein, y gellir eu defnyddio i anfon negeseuon testun sgam a/neu wneud galwadau sgam?

a) Ydw

b) Nac ydw

C12. A ydych yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd cyfreithlon o’r eitemau a nodwyd yn C11?

a) Ydw

b) Nac ydw

C13. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio unrhyw rai o’r eitemau a nodwyd yn C11?

a) Ydy

b) Nac ydy

Trosedd newydd arfaethedig

Rydym yn bwriadu creu trosedd a fydd yn gwahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, gosod neu logi, meddu a/neu ddefnyddio technolegau a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU. Bydd y ddeddfwriaeth yn rhestru’r technolegau a nodwyd gan yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys ffermydd SIM.

Rydym yn cynnig y byddai hyn yn drosedd atebolrwydd caeth, hynny yw, na fyddai angen dangos bod y cyhuddedig yn gwybod, neu bod ganddo le rhesymol i amau, y byddai’r fferm SIM yn cael ei defnyddio mewn trosedd, gan gynnwys twyll. Rydym yn cynnig y byddai’r drosedd hon yn arwain at gosb o ddirwy anghyfyngedig, ond na fyddai risg o garchar. Rydym yn gwahodd barn ynglŷn â pha mor gymesur yw hyn.

Y bwriad yw bod y drosedd yn gymwys i bob rhan o’r DU. Er bod canfod, ymchwilio ac erlyn twyll wedi’u datganoli, mae polisi telathrebu a pha ddyfeisiau a gwasanaethau cyfathrebu sy’n gyfreithlon yn fater wedi’i gadw yn ôl i Senedd y DU. Fodd bynnag, mae rheoleiddio technolegau ehangach wedi’i ddatganoli mewn rhai rhannau o’r DU ac rydym yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau datganoledig ynglŷn â hyn.

Rydym yn awyddus i glywed barn ynglŷn â’r drosedd arfaethedig ac a oes dulliau eraill o atal troseddwyr rhag camddefnyddio ffermydd SIM a allai ddiogelu’r cyhoedd yn well rhag negeseuon testun sgam torfol.

Cwestiynau i’r ymgyngoreion

C14. I ba raddau rydych yn cytuno â’r cynnig i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU?

a) Ydw – cytuno’n llwyr

b) Ydw – cytuno yn rhannol/ nid pob agwedd ar y gwaharddiad

c) Nac ydw – anghytuno

d) Ddim yn gwybod

C15. A ddylai hon fod yn drosedd atebolrwydd caeth (h.y. bod y troseddwr yn cael ei ddal yn atebol am weithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM p’un a yw wedi ymddwyn â’r bwriad i gyflawni trosedd ynteu ag esgeulustod)?

C16. A ddylai’r gosb am y drosedd hon fod yn ddirwy anghyfyngedig neu pa gosb arall fyddai’n briodol?

C17. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar ddefnydd cyfreithlon ohonynt (os oes defnydd cyfreithlon)?

C18. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar ddefnydd anghyfreithlon neu droseddol ohonynt?

C19. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithio’n benodol gan y cynigion hyn?

a) Ydw

b) Nac ydw

c) Ddim yn gwybod

C20. A oes unrhyw ddulliau eraill o atal troseddwyr rhag camddefnyddio ffermydd SIM a allai hefyd gyflawni’r nod o ddiogelu’r cyhoedd rhag sgamiau negeseuon testun torfol?

a) Oes

b) Nac oes

C21. Beth fyddai effaith y cynnig hwn i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU ar eich busnes neu sefydliad pe bai’n dod i rym?

C22. A ddylid pennu cyfnod pontio byr, â chyfyngiadau amser caeth, i ganiatáu i fusnesau, sefydliadau ac unigolion gael gwared ar ffermydd SIM?

a) Dylid

b) Na ddylid

C23. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallai ein cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio technolegau (eraill) a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU ei gael, nad ydym wedi’u cofnodi yn y ddogfen hon?

a) Ydw

b) Nac ydw

C24. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithio’n benodol gan y cynnig i wahardd technolegau eraill?

a) Ydw

b) Nac ydw

C25. Beth fyddai effaith y cynnig i wahardd technolegau eraill a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU ar eich busnes neu sefydliad chi, pe bai’n dod i rym?

C26. A oes gennych unrhyw sylwadau neu wybodaeth bellach i ychwanegu at y nodyn economaidd a gyhoeddwyd fel sail bellach i’n cynigion?

a) Oes

b) Nac oes

Y gallu i ychwanegu rhagor o eitemau at y rhestr

Er ein bod yn ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, nid ydym yn credu bod modd paratoi rhestr gynhwysfawr o eitemau, ar wahân i ffermydd SIM, i’w rhestru wrth gyflwyno’r gwaharddiad arfaethedig.

Gall twyllwyr addasu’n gyflym ac mae arnom eisiau sicrhau bod modd addasu’r darpariaethau hyn yn unol â hynny. O ganlyniad, rydym yn cynnig y byddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu diwygio’r rhestr i ychwanegu eitem newydd yn y dyfodol, os oes tystiolaeth bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio mewn twyll.

Rydym yn cynnig bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu ychwanegu eitem at y rhestr os yw’n ymwneud â thwyll a bod yr amodau a ganlyn yn cael eu bodloni:

  • Bod tystiolaeth o ddefnydd troseddol, gan gynnwys cyflawni twyll

  • Bod rhanddeiliaid a phartïon sy’n cael eu heffeithio gan y newid wedi bod yn rhan o ymgynghoriad, a

  • Bod y Senedd yn cymeradwyo’r diwygiad drwy weithdrefn gadarnhaol[footnote 11].

Rydym yn gwahodd barn am y darpariaethau hyn ac a ydynt yn sicrhau cymesuredd.

Cwestiynau i’r ymgyngoreion

C27. A ddylai’r Ysgrifennydd Gwladol allu ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wedi’u gwahardd yn y dyfodol?

a) Dylai

b) Na ddylai

C28. A oes amodau yn ymwneud â thystiolaeth o ddefnydd, ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithdrefn gadarnhaol briodol ar gyfer ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wedi’u gwahardd?

C29. Rydym yn cynnig y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol allu ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wedi’u gwahardd yn y dyfodol. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallai’r cynnig hwn ei gael, nad ydym wedi’i gofnodi yn y ddogfen hon?

a) Ydw

b) Nac ydw

C30. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithio’n benodol gan y cynnig hwn?

a) Ydw

b) Nac ydw

Cais am dystiolaeth ar gyfer gwybodaeth ychwanegol

Oherwydd prinder tystiolaeth nid oes gennym ddarlun llawn o effaith y cynigion ar fusnesau a’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno a gweithredu’r gwaharddiad. O ganlyniad, ochr yn ochr â’r ymgynghoriad, rydym yn cyhoeddi cais am dystiolaeth i gasglu gwybodaeth a data a fydd yn caniatáu amcangyfrifon cywirach o’r effeithiau ar fusnesau.

Rydym yn gwahodd pob parti sydd â diddordeb i ddarparu adborth a thystiolaeth empirig ar fuddion, effeithiau anfwriadol, cysondeb a chydlyniant y fframwaith y mae ffermydd SIM ar gael drwyddo ac yn cael eu gweithredu yn y DU.

Byddwn yn cynhyrchu Asesiad Effaith llawn gan ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd yn dilyn y cais hwn am dystiolaeth.

C31. A oes gennych unrhyw ddata neu dystiolaeth i ddangos graddfa defnydd cyfreithlon o ffermydd SIM a thechnolegau eraill a ddefnyddir i gyfathrebu ar raddfa fawr?

C32. A oes gennych unrhyw ddata neu dystiolaeth i ddangos graddfa’r defnydd anghyfreithlon o ffermydd SIM a thechnolegau tebyg?

C33. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar eu defnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon?

C34. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallai’r cynigion ei gael nad ydym wedi’i gofnodi yn y nodyn effaith economaidd a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ddogfen hon?

Holiadur

Amdanoch chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch chi:

Enw llawn

Teitl swydd neu ym mha rinwedd rydych yn ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd, asiantaeth gorfodi’r gyfraith, gweithiwr proffesiynol cyfreithiol, gweithiwr proffesiynol ym myd diwydiant, ac yn y blaen)

Dyddiad

Enw’r cwmni/sefydliad (os yw’n gymwys)

Cyfeiriad ebost

Cyfeiriad Cod post

Os byddech yn hoffi i ni gydnabod derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn

Y cyfeiriad y dylid anfon y gydnabyddiaeth iddo, os yw’n wahanol i’r uchod

Os ydych yn gynrychiolydd grŵp, dywedwch wrthym beth yw enw’r grŵp a rhowch grynodeb o’r bobl neu’r sefydliadau rydych yn eu cynrychioli.

Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau a ganlyn a nodwyd yn y papur ymgynghori hwn.

A. Diffiniad a defnydd o ffermydd SIM

C1. A ydych yn cytuno â diffiniad y llywodraeth o fferm SIM, fel dyfais sy’n cynnwys mwy na phedwar cerdyn SIM?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C2. Pa dechnoleg arall allai gael ei chyflwyno dan y gwaharddiad hwn a sut y dylid disgrifio hyn?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C3. Pa droseddau y mae ffermydd SIM yn cael eu defnyddio er mwyn eu hwyluso?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C4. A oes gennych unrhyw ddata neu enghreifftiau i ddangos maint defnydd anghyfreithlon ohonynt?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C5. A ydych yn ymwybodol o ddefnydd cyfreithlon o ffermydd SIM nad yw wedi’i grybwyll yn y ddogfen hon?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C6. A oes gennych ddata neu enghreifftiau i ddangos maint y defnydd cyfreithlon ohonynt?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

B. Technolegau eraill a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU

C8. A ydych yn gwybod am unrhyw dechnolegau, gwasanaethau neu ddyfeisiau eraill, ar- lein neu all-lein, y gellir eu defnyddio i wneud pethau tebyg i ffermydd SIM? Pa mor hawdd fyddai hi i newid i’r rhain?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C9. A ydych yn gwybod am unrhyw ddefnydd cyfreithlon o’r eitemau a nodwyd yn C8?

a) Ydw

b) Nac ydw

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C10. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio unrhyw rai o’r eitemau a nodwyd yn C8?

a) Ydy

b) Nac ydy

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C11. A ydych yn gwybod am unrhyw dechnolegau, gwasanaethau neu ddyfeisiau eraill, ar-lein a/neu all-lein, y gellir eu defnyddio i anfon negeseuon testun sgam a/neu wneud galwadau sgam?

a) Ydw

b) Nac ydw

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C12. A ydych yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd cyfreithlon o’r eitemau a nodwyd yn C11?

a) Ydw

b) Nac ydw

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C13. [I fusnesau] A yw eich busnes yn defnyddio unrhyw rai o’r eitemau a nodwyd yn C11?

a) Ydy

b) Nac ydy

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C. Cynnig i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU

C14. I ba raddau rydych yn cytuno â’r cynnig i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU?

a) Ydw – cytuno’n llwyr

b) Ydw – cytuno’n rhannol/ nid pob agwedd ar y gwaharddiad

c) Nac ydw – anghytuno

d) Ddim yn gwybod

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C15. A ddylai hon fod yn drosedd atebolrwydd caeth (h.y. bod y troseddwr yn cael ei ddal yn atebol am weithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM p’un a yw wedi ymddwyn â’r bwriad i gyflawni trosedd ynteu ag esgeulustod)?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C16. A ddylai’r gosb am y drosedd hon fod yn ddirwy anghyfyngedig neu pa gosb arall fyddai’n briodol?

C17. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar ddefnydd cyfreithlon ohonynt (os oes defnydd cyfreithlon)?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C18. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar ddefnydd anghyfreithlon neu droseddol ohonynt?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C19. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithio’n benodol gan y cynigion hyn?

a) Ydw

b) Nac ydw

c) Ddim yn gwybod

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C20. A oes unrhyw ddulliau eraill o atal troseddwyr rhag camddefnyddio ffermydd SIM a allai hefyd gyflawni’r nod o ddiogelu’r cyhoedd rhag sgamiau negeseuon testun torfol?

a) Oes

b) Nac oes

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C21. Beth fyddai effaith y cynnig hwn i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio ffermydd SIM yn y DU ar eich busnes neu sefydliad pe bai’n dod i rym?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C22. A ddylid pennu cyfnod pontio byr, â chyfyngiadau amser caeth, i ganiatáu i fusnesau, sefydliadau ac unigolion gael gwared ar ffermydd SIM?

a) Dylid

b) Na ddylid

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

D. Cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio technolegau (eraill) a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU

C23. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallai ein cynigion i wahardd gweithgynhyrchu, mewnforio, gwerthu, llogi, meddu a/neu ddefnyddio technolegau (eraill) a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU ei gael, nad ydym wedi’u cofnodi yn y ddogfen hon?

a) Ydw

b) Nac ydw

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C24. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithio’n benodol gan y cynnig i wahardd technolegau eraill?

a) Ydw

b) Nac ydw

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C25. Beth fyddai effaith y cynnig i wahardd technolegau eraill a ddefnyddir ar gyfer twyll yn y DU ar eich busnes neu sefydliad chi, pe bai’n dod i rym?

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C26. A oes gennych unrhyw sylwadau neu wybodaeth bellach i ychwanegu at y nodyn economaidd a gyhoeddwyd fel sail bellach i’n cynigion?

a) Oes

b) Nac oes

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

E. Y gallu i ychwanegu rhagor o eitemau at y rhestr o dechnolegau sydd wedi’u gwahardd

C27. A ddylai’r Ysgrifennydd Gwladol allu ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wedi’u gwahardd yn y dyfodol?

a) Dylai

b) Na ddylai

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

C28. A oes amodau yn ymwneud â thystiolaeth o ddefnydd, ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithdrefn gadarnhaol briodol ar gyfer ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wedi’u gwahardd? (Mae rhagor o wybodaeth am y weithdrefn gadarnhaol ar gael yn https://guidetoprocedure.parliament.uk/articles/ovuiEncc/what-happens-to- statutoryinstruments-under-the-affirmative-procedure)

C29. Rydym yn cynnig y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol allu ychwanegu eitemau at y rhestr o dechnolegau wedi’u gwahardd yn y dyfodol. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallai’r cynnig hwn ei gael, nad ydym wedi’i gofnodi yn y ddogfen hon?

a) Ydw

b) Nac ydw

C30. A ydych yn ymwybodol o unrhyw grwpiau o fusnesau, sefydliadau a/neu unigolion a fydd yn cael eu heffeithio’n benodol gan y cynnig hwn?

a) Ydw

b) Nac ydw

Eglurwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo’n bosibl (Dim mwy na 250 gair)

F. Cais am Dystiolaeth

C31. A oes gennych unrhyw ddata neu dystiolaeth i ddangos graddfa defnydd cyfreithlon o ffermydd SIM a thechnolegau eraill a ddefnyddir i gyfathrebu ar raddfa fawr?

C32. A oes gennych unrhyw ddata neu dystiolaeth i ddangos graddfa’r defnydd anghyfreithlon o ffermydd SIM a thechnolegau tebyg?

C33. Sut fyddai gwahardd ffermydd SIM yn effeithio ar eu defnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon?

C34. A ydych yn ymwybodol o unrhyw effaith y gallai’r cynigion ei gael nad ydym wedi’i gofnodi yn y nodyn effaith economaidd a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ddogfen hon?

Effeithiau ar Gydraddoldeb

C33. A oes gennych unrhyw sylwadau am y cynigion yn y ddogfen ymgynghori hon mewn cysylltiad ag effeithiau ar bobl ar sail unrhyw rai o’r nodweddion gwarchodedig a ganlyn dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010: oed; anabledd; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd; priodas neu bartneriaeth sifil? Faint allai effeithiau o’r fath gael eu lliniaru? (Dim mwy na 500 gair)

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Manylion cysylltu a sut i ymateb

Mae copïau o’r papur hwn yn cael eu hanfon at y canlynol:

  • Gweinyddiaethau Datganoledig

  • Ofcom (Y Swyddfa Gyfathrebiadau)

  • Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

  • Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu

  • Heddlu Dinas Llundain

  • Gwasanaeth Erlyn y Goron

  • Swyddfa Twyll Difrifol

  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

  • Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi

  • Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

  • Sefydliadau yn cynrychioli buddiannau busnes a diwydiant

  • Llofnodwyr Siarter y Sector Twyll Cyfathrebu

  • Cyrff masnach telathrebu, er enghraifft Mobile Ecosystem Forum, Mobile UK a GSM Association

  • Cyrff Anllywodraethol sydd â diddordeb mewn hawliau defnyddwyr a chefnogi dioddefwyr

  • Academyddion sydd â diddordeb mewn twyll

  • Seneddwyr

Er hyn, ni fwriadwyd i’r rhestr hon fod yn hollgynhwysfawr nac yn gyfyngedig i’r rhai a enwir yn unig, a chroesewir ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc y mae’r papur hwn yn ei drafod neu sydd â barn arno.

Anfonwch eich ymatebion erbyn 14 Mehefin 2023 am 17:00 drwy ebost at SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau yn ymwneud â’r broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad isod:

SIM Farm Consultation
Economic Crime Directorate
Homeland Security Group
Home Office
6th Floor, Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

Ebost: SIMfarmConsultation@homeoffice.gov.uk

Copïau ychwanegol

Gellir cael mwy o gopïau o’r ymgynghoriad hwn drwy’r cyfeiriad hwn, ac mae hefyd ar gael ar-lein yn gov.uk

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r cyhoeddiad hwn mewn fformat angen drwy gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Cyhoeddi ymateb

Bydd papur yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein yn gov.uk

Grwpiau cynrychioliadol

Gofynnir i grwpiau cynrychioladol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.

Nodyn Preifatrwydd

Cyfrinachedd

Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â’r trefniadau mynediad at wybodaeth (y rhain yn bennaf yw Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych am i’r wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n ymdrin, ymysg pethau eraill, â rhwymedigaethau cyfrinachedd. Oherwydd hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro wrthym pam rydych yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn wybodaeth gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch eglurhad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cadw cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, ac yn y rhan fwyaf o’r amgylchiadau bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon.

Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd eich gwybodaeth bersonol, a gyflenwyd at ddibenion yr ymgynghoriad hwn, yn cael ei chadw a’i phrosesu gan y Swyddfa Gartref:

SIM Farm Consultation
Economic Crime Directorate
Homeland Security Group
Home Office
6th Floor, Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

Y Swyddfa Gartref yw rheolwr yr wybodaeth hon. Mae hyn hefyd yn cynnwys pan fydd yn cael ei chasglu neu ei phrosesu gan drydydd partïon ar ein rhan.

Mae manylion Swyddog Diogelu Data yr Adran i’w gweld yn

dpo@homeoffice.gov.uk Ffôn: 020 7035 6999

Neu gallwch ysgrifennu at:

Office of the DPO
Home Office
Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

Sut a pham y mae’r Adran yn defnyddio eich gwybodaeth

Ni all y Swyddfa Gartref brosesu eich data oni bai fod sail gyfreithlon dros wneud hynny.

Bydd tîm polisi twyll y Swyddfa Gartref yn coladu ac yn dadansoddi ymatebion er mwyn deall yn well beth yw ffermydd SIM, sut y maent yn cael eu defnyddio yn y DU, effaith bosibl y cynigion ar fusnesau’r DU ac a fyddai’r cynigion yn helpu i leihau gwe-rwydo drwy SMS (ymgyrchoedd SMS sgam torfol). Bydd y tîm polisi yn defnyddio’r ymatebion i ffurfio ei gynnig polisi terfynol ac i ddatblygu deddfwriaeth os oes angen.

Mae’n bosibl y bydd y Swyddfa Gartref yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill wrth gyflawni ein swyddogaethau, neu er mwyn galluogi sefydliadau eraill i gyflawni eu swyddogaethau hwy.

Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â’r ffyrdd y gallai’r Swyddfa Gartref ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys at ba ddibenion yr ydym yn ei defnyddio, y sail gyfreithiol, a gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu i’w gweld yn Hysbysiad gwybodaeth preifatrwydd hawliau gwybodaeth - GOV.UK (www.gov.uk)

Storio eich gwybodaeth

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am faint bynnag o amser y mae angen ei chadw ar gyfer y diben y mae’n cael ei phrosesu ar ei gyfer ac yn unol â’r polisi cadw adrannol. Mae rhagor o fanylion am y polisi hwn i’w gweld yn Beth i’w gadw: Safonau cadw a gwaredu y Swyddfa Gartref - GOV.UK (www.gov.uk)

Gwneud cais am fynediad at eich data personol

Mae gennych hawl i gael mynediad at yr wybodaeth bersonol y mae’r Swyddfa Gartref yn ei chadw amdanoch. Mae manylion ynglŷn â sut i wneud y cais i’w gweld yn Siarter

gwybodaeth bersonol Y Swyddfa Gartref - GOV.UK (www.gov.uk)

Hawliau eraill

Mewn rhai amgylchiadau mae gennych hawl i:

  1. wrthwynebu a chyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, neu i ofyn am gael dileu neu gywiro eich data.

  2. (os ydych wedi rhoi caniatâd penodol i ddefnyddio eich data personol ac mai dyna’r sail gyfreithlon dros brosesu) yr hawl i dynnu eich caniatâd i brosesu eich data a’r hawl i gludadwyedd data yn ôl (lle mae’r prosesu’n cael ei wneud drwy ddull wedi’i awtomeiddio)

Cwestiynau neu bryderon am ddata personol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â chasglu, defnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol cysylltwch â’r Swyddfa Gartref drwy info.access@homeoffice.gov.uk

Neu ysgrifennwch atom yn:

Information Rights Team
Home Office
Lower Ground Floor,
Seacole Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

Mae gennych hawl i gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae’r Swyddfa Gartref yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol. Mae manylion ynglŷn â sut y gallwch wneud hyn i’w gweld yn Siarter gwybodaeth bersonol – Y Swyddfa Gartref

Egwyddorion ymgynghori

Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth wedi’u hamlinellu yn yr egwyddorion ymgynghori.

https://www.gov.uk/government/publications/consultation-principles-guidance

  1. TCSEW blwyddyn yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2022 

  2. TCSEW blwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth 2022 Crime in England and Wales: Appendix tables–Swyddfa Ystadegau Gwladol(ons.gov.uk): Tabl A3 

  3. The Economic and Social Costs of Crime 2022. Mae’r ffigur hwn yn amcangyfrif y costau ehangach i gymdeithas, gan gynnwys gwariant ataliol, niwed emosiynol ac ymateb sefydliadau gorfodi’r gyfraith i dwyll a gyflawnir yn erbyn unigolion. 

  4. Ofcom, Tachwedd 2022, Arolwg Sgamiau 

  5. Ofcom, Tachwedd 2022, Arolwg Sgamiau 

  6. https://www.gov.uk/government/publications/code-of-practice-for-app-store-operators-and-app-developers 

  7. Future regulation of GSM gateways under the Wireless Telegraphy Act (ofcom.org.uk); Gweler hefyd: http://www.bailii.org/ew/cases/EWCA/Civ/2009/47.html Office of Communications T-Mobile (UK) Ltd v Floe Telecom Ltd [2009] EWCA Civ 47 (10 Chwefror 2009) (bailii.org) - para 27. 

  8. Future regulation of GSM gateways under the Wireless Telegraphy Act (ofcom.org.uk) 

  9. Negeseuon testun sy’n twyllo dioddefwyr i roi gwybodaeth sensitif i ymosodwr cudd 

  10. C. F. C. Association, “Fraud Loss Survey Report 2021,” Communications Fraud Control Association, 2021 - CFCA 2021 Fraud Loss Survey CFCA 

  11. Mae rhagor o wybodaeth am y weithdrefn gadarnhaol i’w gweld yn https://guidetoprocedure.parliament.uk/articles/ovuiEncc/what-happens-to-statutory-instruments-under-the-affirmative-procedure