Consultation outcome

Police powers: pre-charge bail government response (Welsh version) (accessible version)

Updated 6 September 2021

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Cartref

Mae’r llywodraeth hon yn ymrwymedig i sicrhau bod gan yr heddlu y pwerau sydd eu hangen i amddiffyn dioddefwyr troseddau. Rydym wedi gwrando ar yr hyn rydych wedi’i ddweud yn yr ymgynghoriad ac rydym yn cymryd camau i sicrhau bod lles dioddefwyr yn ganolog i’r system cyfiawnder troseddol.

Mae mechnïaeth cyn cyhuddo yn offeryn pwysig. Mae’n caniatáu i’r heddlu leihau’r risg o niwed i ddioddefwyr a thystion drwy osod amodau cadarn a chymesur ar rheiny dan ymchwiliad ac mae’n cefnogi’r broses o ddilyn ymchwiliadau’n brydlon.

Credwn yn gryf y dylai dioddefwyr gael llais yn y system mechnïaeth cyn cyhuddo. Mae’n hanfodol bod dioddefwyr yn rhan o’r broses sydd wedi’i chynllunio ar gyfer eu cadw yn ddiogel rhag niwed. Byddwn yn sicrhau bod yr heddlu yn gwrando ar ddioddefwyr ac yn eu helpu i ddeall yr amodau mechnïaeth pan fyddant yn cael eu gosod a’u haddasu trwy’r broses mechnïaeth cyn cyhuddo.

Mae mechnïaeth cyn cyhuddo yn un rhan o system fwy yr ydym yn ceisio ei gwella’n barhaus. Rydym yn benderfynol o roi’r pwerau sydd eu hangen i’r heddlu i sicrhau cyfiawnder ar gyfer dioddefwyr yn effeithlon. Bydd dileu’r rhagdybiaeth yn erbyn mechnïaeth a’r fframwaith deddfwriaethol diwygiedig ar gyfer amserlenni mechnïaeth yn helpu gyda realiti gweithredol ymchwiliadau modern yr heddlu.

Mae’r ddogfen hon yn nodi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a chynnig y Llywodraeth i ddiwygio’r gyfraith yn y maes hwn, y bydd angen ei symud ymlaen yn y Senedd.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS

Ysgrifennydd Cartref

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn adroddiad sy’n dilyn y papur ymgynghori, Pwerau’r Heddlu: Mechnïaeth Cyn Cyhuddo.

Bydd yn cynnwys:

  • cyflwyniad: Dull y Llywodraeth
  • cefndir yr ymgynghoriad
  • crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad
  • ymateb manwl i’r cwestiynau penodol a godwyd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad a’r
  • y camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Am gopïau pellach o’r adroddiad hwn a’r papur ymgynghori, ewch i Police powers: pre-charge bail.

Gellir rhyddhau unigolyn sydd wedi’i arestio gan yr heddlu ond nad yw wedi’i gyhuddo eto ar fechnïaeth cyn cyhuddo, ynghlwm ag amodau neu beidio, neu ei ryddhau heb fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei blaen.

Mae’n ofynnol i unigolion ar fechnïaeth cyn cyhuddo ddychwelyd i’r orsaf heddlu ar ddyddiad ac amser penodol, a elwir yn ‘ateb mechnïaeth’, naill ai i gael gwybod am benderfyniad terfynol eu hachos neu i gael diweddariad am gynnydd yr ymchwiliad.

Gellir gosod amodau ar yr unigolyn os ystyrir bod angen hynny, er mwyn: atal rhywun rhag methu ag ildio i’r ddalfa, atal troseddu pellach, atal rhywun rhag ymyrryd â thystion, neu atal llwybr cyfiawnder fel arall. Gellir gosod amodau hefyd er mwyn diogelu’r unigolyn ei hun neu, os yw’n iau na 18 oed, er ei les a’i fudd ei hun.

Bu i’r Llywodraeth sicrhau deddfu Deddf Plismona a Throsedd 2017 er mwyn ymdrin â phryderon bod unigolion yn cael eu cadw ar fechnïaeth cyn-cyhuddo am gyfnodau hir, ac ynghlwm ag amodau llym weithiau.

Cyflwynodd y diwygiadau:

  • rhagdybiaeth yn erbyn mechnïaeth cyn cyhuddo oni bai bod hynny yn angenrheidiol ac yn gymesur; ac
  • amserlenni a phrosesau statudol clir ar gyfer gosod ac ymestyn mechnïaeth yn y lle cyntaf, gan gynnwys cyflwyno goruchwyliaeth farnwrol ar gyfer ymestyn mechnïaeth cyn-cyhuddo y tu hwnt i dri mis.

Ers i’r diwygiadau ddod i rym, mae’r defnydd o fechnïaeth cyn-cyhuddo wedi lleihau, gyda’r nifer cynyddol o unigolion yn cael eu ‘rhyddhau dan ymchwiliad’ (RUI) yn ategu hynny. Mae’r newid hwn wedi codi pryderon nad yw mechnïaeth bob amser yn cael ei ddefnyddio pan fo’n briodol, gan gynnwys atal unigolion rhag cyflawni trosedd tra maent ar fechnïaeth neu ymyrryd â dioddefwyr a thystion. Mae pryderon eraill yn canolbwyntio ar y posibilrwydd o ymchwiliadau hirach mewn achosion lle na ddefnyddir mechnïaeth a’r effaith negyddol ar y llysoedd.

Ymrwymodd y Llywodraeth i adolygu’r broses hon i ystyried a oes angen newid pellach i sicrhau bod mechnïaeth yn cael ei defnyddio lle y bo’n briodol ac i gefnogi’r heddlu gyda’r gwaith datblygu ymchwiliadau yn brydlon. O ganlyniad i’r broses ymgynghori, bydd nifer o gynigion yn cael eu gweithredu i sicrhau bod y drefn fechnïaeth yn gymesur ac yn effeithiol. Lle mae angen deddfwriaeth i weithredu’r cynigion hyn, fel y nodir yn y ddogfen hon, bydd yn cael ei symud ymlaen yn y sesiwn seneddol cyfredol.

Fel rhan o’r adolygiad ehangach am fechnïaeth cyn cyhuddo, mae’r Llywodraeth hefyd wedi cynnal adolygiad o’r deunyddiau ymchwil a fydd yn cael ei gyhoeddi gyda’r adroddiad hwn. Mae’r Llywodraeth wedi ystyried arolygiad thematig Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) am fechnïaeth cyn cyhuddo a rhyddhawyd dan ymchwiliad; ac arolygiad HMICFRS am y gŵyn fawr a wnaed gan y Ganolfan dros Gyfiawnder i Fenywod am ‘Heddlu yn methu defnyddio mesurau diogelu mewn achosion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched’.

Cefndir

Cyhoeddwyd y papur ymgynhori Pwerau’r Heddlu: Mechnïaeth Cyn Cyhuddo ar 5 Chwefror 2020. Roedd yn gofyn am farn ar amserlenni a meini prawf mechnïaeth cyn cyhuddo, effeithiolrwydd amodau mechnïaeth ac ymchwiliadau heb fechnïaeth.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 29 Mai 2020 ac mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion hyn, gan gynnwys sut y dylanwadodd y broses ymgynghori ar ddatblygiad pellach y cynigion yr ymgynghorwyd arnynt.

Gellir dod o hyd i bapur ymateb Cymraeg yn Police powers: pre-charge bail.

Gwelir crynodeb o’r ymatebwyr yn Atodiad A.

Roedd 13 cwestiwn yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â chwe phwnc:

  • Meini prawf mechnïaeth cyn cyhuddo;
  • Amserlenni mechnïaeth cyn cyhuddo;
  • Ymchwiliadau nad ydynt yn ymwneud â mechnïaeth;
  • Effeithiolrwydd amodau mechnïaeth;
  • Materion eraill; a’ch
  • profiad chi.

Crynodeb o’r ymatebion

Derbyniwyd 844 ymateb i’r papur ymgynghori. Cyflwynwyd 780 ymateb trwy’r porth ar-lein, derbyniwyd 63 ymateb trwy e-bost ac 1 ymateb trwy’r post.

Noder na atebodd pob ymatebwr bob gwestiwn ac oherwydd talgrynnu, bydd gan rai o’r tablau gyfanswm canrannol sy’n fwy na 100%.

Roedd yr ymatebion wedi’u dadansoddi a’u nodi fel rhai sy’n perthyn i wahanol grwpiau sectoraidd yn ôl hunan-ddatganiadau’r ymatebwyr. Mae’r tabl isod yn dangos dadansoddiad o’r grwpiau sectoraidd mwyaf. Mae’r categori ‘Eraill’ yn cynnwys sectorau eraill a roddodd ychydig iawn o ymatebion, gan gynnwys asiantaethau gorfodi’r gyfraith megis Cyllid a Thollau EM; academwyr; a chyrff llywodraeth eraill megis awdurdodau lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu. Defnyddiwyd y dadansoddiad hwn i weld pa gefnogaeth sydd ar gael ymhlith y sectorau ar gyfer y cynigion yn yr ymgynghoriad. Roedd dadansoddiad hefyd gan is-grŵp llai o aelodau’r cyhoedd, a oedd wedi sôn yn eu hymatebion am fod dan ymchwiliad.

Sector Canran o ymatebion
Llu Heddlu (Heddlu) 64
Aelodau’r cyhoedd (MOP) 21
Elusennau 5
Proffesiynau a gwasanaethau cyfreithiol (Cyfreithwyr) 3
Eraill 7

Roedd cytundeb cryf ar draws y mwyafrif o gategoriau ar gyfer amserlenni mechnïaeth hirach, dileu’r rhagdybiaeth yn erbyn mechnïaeth a defnyddio ffactorau penodol sy’n seiliedig ar risg. Roedd aelodau’r cyhoedd a oedd wedi dod dan ymchwiliad a chyfreithwyr yn llai cefnogol o’r amserlenni hiraf ar gyfer mechnïaeth.

Meini prawf ar gyfer mechnïaeth cyn cyhuddo

Cefndir

Er mwyn ymdrin â phryderon am unigolion sy’n cael eu rhoi ar fechnïaeth cyn cyhuddo am gyfnodau hir, cyflwynodd Deddf Plismona a Throsedd 2017 ragdybiaeth yn erbyn mechnïaeth cyn cyhuddo oni bai bod hynny yn angenrheidiol ac yn gymesur o dan yr holl amgylchiadau. Atgyfnerthir y pwynt hwn hefyd mewn canllawiau a ryddhawyd gan Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC), sy’n pwysleisio’r angen i ystyried mechnïaeth mewn achosion o[footnote 1] newid mawr. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir iawn ei bod yn gefnogi’r defnydd o fechnïaeth cyn cyhuddo.

Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau gyda’r heddlu a rhanddeiliaid eraill, mae’r Llywodraeth wedi dod yn fwy pryderus nad yw mechnïaeth cyn cyhuddo yn cael ei defnyddio mewn achosion lle gallai fod yn angenrheidiol a bod y broses o ‘rhyddhau dan ymchwiliad’ (RUI) yn cael ei defnyddio yn lle. Mae hyn yn arwain at nifer o faterion gan na ellir gosod amodau ar y person drwgdybiedig ac nad yw’r swyddogion heddlu sy’n defnyddio RUI yn cael yr un lefel o atebolrwydd ynghylch gwneud penderfyniadau, amserlenni, hysbysu’r person drwgdybiedig, dioddefwyr a’r tystion.

Cynnig

Cynnig 1: Mae’r Llywodraeth yn cynnig deddfu: (i) i ddileu’r rhagdybiaeth yn erbyn mechnïaeth cyn cyhuddo, yn hytrach ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo ond lle mae hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur ac (ii) i ychwanegu gofyniad bod yn rhaid i swyddog y ddalfa ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu a yw cais am fechnïaeth cyn cyhuddo yn angenrheidiol ac yn gymesur:

  • Pa mor ddifrifol yw effaith y drosedd neu effaith fwriadedig y drosedd;
  • Yr angen i ddiogelu dioddefwyr troseddau a thystion, gan ystyried pa mor fregus ydynt;
  • Yr angen i atal troseddu pellach;
  • Yr angen i reoli’r risg o’r person drwgdybiedig yn rhedeg i ffwrdd; ac
  • Yr angen i reoli risg i’r cyhoedd

Mae’r Llywodraeth o’r farn y dylai’r drefn fechnïaeth gynorthwyo’r heddlu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg, ac i ddefnyddio eu profiad i ystyried defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo fesul achos, yn hytrach na’i bod yn ofynnol i wneud cais am fechnïaeth am droseddau penodol neu ym mhob achos.

Cwestiynau

Roedd pedwar cwestiwn yn yr adran hon. Roedd cwestiynau 1-3 yn gwestiynau caeëdig a chwestiwn 4 yn destun rhydd.

C1. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y dylid dileu’r rhagdybiaeth gyffredinol yn erbyn mechnïaeth cyn cyhuddo?

Ateb % Ymateb Cyfanswm yr ymatebion
Cytuno’n gryf 65 530
Cytuno 17 142
Nid yn cytuno nac yn anghytuno 3 27
Anghytuno 7 54
Anghytuno’n gryf 8 68
Cyfanswm a ymatebodd i’r cwestiwn hwn 100 821

Roedd 82% (672) o’r ymatebwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno â’r cynnig i ddileu’r rhagdybiaeth yn erbyn mechnïaeth cyn cyhuddo, roedd 15% (122) o’r ymatebwyr yn anghytuno neu anghytuno’n gryf. Roedd cytundeb cryf ar draws pob categori o ymatebwyr y dylid dileu’r rhagdybiaeth. Roedd y gefnogaeth gryfaf ymhlith yr heddlu ar 84% (452), a chyrff gorfodi eraill ar 86% (6).

C2. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y dylai’r cais am fechnïaeth cyn cyhuddo ystyried ffactorau risg penodol?

Ateb % Ymateb Cyfanswm yr ymatebion
Cytuno’n gryf 46 370
Cytuno 40 322
Nid yn cytuno nac yn anghytuno 6 46
Anghytuno 6 46
Anghytuno’n gryf 3 26
Cyfanswm a ymatebodd i’r cwestiwn hwn 100* 810

*Oherwydd talgrynnu nid yw cyfanswm y ganran a ymatebodd yn adio hyd at 100.

Cytunodd y mwyafrif o ymatebwyr â’r gofyniad i’r heddlu ystyried ffactorau risg penodol wrth wneud penderfyniadau mechnïaeth, gyda 86% (692) o ymatebion yn cytuno neu yn cytuno’n gryf. Gwelwyd yr ymateb cadarnhaol hwn ar draws pob categori o ymatebwr.

C3. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y dylai’r cais am fechnïaeth cyn cyhuddo ystyried y ffactorau risg canlynol:

Strongly agree Agree Neither agree nor disagree Disagree Strongly disagree
a. The severity of the actual, potential or intended impact of the offence (n=811) 60 27 6 4 3
b. The need to safeguard victims and witnesses, taking into account their vulnerability (n=811) 82 13 2 1 2
c. The need to prevent further offending (n=810) 69 23 4 2 2
d. The need to manage risks of a suspect absconding (n=810) 63 30 4 2 2
e. The need to manage risks to the public (n=808) 75 19 3 1 2

Unwaith eto, roedd cytundeb cryf gan bob categori o ymatebwr y dylai’r cais am fechnïaeth cyn cyhuddo ystyried y ffactorau risg uchod. Roedd cefnogaeth hynod o gryf ar gyfer ffactorau risg (b) a (e) phwysleisio y dylid defnyddio mechnïaeth i ddiogelu dioddefwyr ac amddiffyn y cyhoedd.

C4. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill? Er enghraifft, a oes unrhyw ffactorau risg eraill y dylen ni eu hystyried? Neu unrhyw sylwadau am y dulliau wedi’u diystyru a amlinellir yn y papur ymgynghori?

O’r 844 ymateb i’r ymgynghoriad, rhoddodd 43% (363) o ymatebwyr sylw i’r cwestiwn hwn. Roedd yr ymateb mwyaf cyffredin o 24% (86) yn ailadrodd cefnogaeth i ddileu’r rhagdybiaeth yn erbyn mechnïaeth neu am gyflwyno rhagdybiaeth mechnïaeth. Awgrymwyd gan randdeiliaid allweddol y dylai unrhyw benderfyniadau am risg fod yn seiliedig ar dystiolaeth gref o’r risg. Awgrymodd lleiafrif sylweddol o 12% (45) y dylid rhoi pwyslais ar ddiogelu plant a dioddefwyr bregus.

Casgliadau a chamau nesaf

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017, a gyflwynodd y rhagdybiaeth yn erbyn defnyddio mechniaeth cyn-cyhuddo, wedi cael nifer o sgil-effeithiau o fewn y system cyfiawnder troseddol. Er i’r Llywodraeth gyflawni ei nod o gyflwyno mesurau diogelu ar gyfer drwgdybiedigion a oedd yn cael eu rhoi ar fechniaeth am gyfnodau hir, mae wedi arwain yn anfwriadol at gynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu ‘rhyddhau dan ymchwiliad’ (RUI). Mae defnyddio RUI wedi golygu bod ‘na drwgdybiedigion sydd dal dan ymchwiliad am gyfnodau hir, ond nad ydynt yn dod dan y gofynion goruchwylio ac adrodd a fyddai ganddynt o dan fechnïaeth cyn cyhuddo.

Mae RUI yn cael effaith ar ddioddefwyr hefyd, oherwydd nad oes rhywbeth mewn lle sy’n galluogi drwgdybiedigion sy’n cael eu rhyddhau dan ymchwiliad i ddod dan amodau, a all arwain at ddioddefwyr yn teimlo nad yw’r heddlu’n eu diogelu cymaint. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi yn dda gan y system mechnïaeth cyn cyhuddo a bod y system yn gweithio mor effeithiol â phosibl, gyda defnydd cymesur o amodau, wedi’i gydbwyso yn erbyn yr angen i ddiogelu dioddefwyr.

Nod y Llywodraeth yw deddfu i ddileu’r rhagdybiaeth yn erbyn defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo ac i’w wneud yn haws defnyddio mechnïaeth mewn achosion lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur. Bydd hyn yn creu sefyllfa deg o fewn deddfwriaeth fel nad oes rhagdybiaeth o blaid nac yn erbyn mechnïaeth cyn cyhuddo. Bydd penderfyniadau am fechnïaeth yn parhau i gael eu gwneud wrth ystyried a yw penderfyniad o’r fath yn angenrheidiol ac yn gymesur fesul achos.

Mae’r Llywodraeth wedi gwrando ar y rhai sydd o blaid cyflwyno angen i ystyried ffactorau risg wrth benderfynu a ddylid gosod mechnïaeth ar berson drwgdybiedig neu beidio ac mae’n ystyried y ffordd orau i gynnwys y rhain yn y fframwaith. Bydd hyn yn cael ei gynllunio i gynorthwyo’r heddlu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg sy’n rhoi pwyslais ar ddiogelu dioddefwyr, tystion a’r drwgdybiedigion eu hunain.

Amserlenni ar gyfer mechnïaeth cyn cyhuddo

Cefndir

Er mwyn mynd i’r afael â’r mater o unigolion yn cael eu hymchwilio am gyfnodau hir, weithiau ag amodau mechnïaeth llym, cyflwynodd Ddeddf Plismona a Throsedd 2017:

  • Terfyn amser cychwynnol o 28 diwrnod ar gyfer defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo wedi’i hawdurdodi gan arolygydd; ag estyniadau dilynol hyd at 3 mis a thu hwnt i’w hawdurdodi gan uwch swyddogion (uwc-arolygyddion neu uwch) ac ynadon, yn eu tro; a
  • Gofyniad i uwch swyddogion ac ynadon awdurdodi estyniadau i fechnïaeth dim ond os oes sail resymol dros amau bod yr unigolyn dan ymchwiliad yn euog. Rhaid i’r uwch swyddog/llys hefyd fod â sail resymol dros gredu: bod angen rhagor o amser i wneud penderfyniad cyhuddo neu fod angen ymchwiliad pellach; mae’r penderfyniad i wneud cyhuddiad yn cael ei wneud, neu mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal, yn weithredol ac yn fuan; ac mae’r defnydd o fechnïaeth cyn cyhuddo yn angenrheidiol ac yn gymesur o dan yr holl amgylchiadau.

Mae adborth gan randdeiliaid plismona wedi nodi bod y newidiadau hyn wedi peidio cymell y defnydd o fechnïaeth, yn enwedig mewn achosion cymhleth sy’n galw am ymchwilio pellach iddynt ac y gallant fod yn anodd eu symud ymlaen a/neu eu cwblhau mewn 28 diwrnod. Roedd pryderon bod y system gyfredol yn afrealistig yn weithredol. Mae data’r Swyddfa Gartref,[footnote 2] [footnote 3]o adroddiadau ystadegol cyhoeddedig am ganlyniadau troseddu ar gyfer y troseddau hynny lle y gellid defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo yn fwy cyffredin, yn awgrymu bod achosion yn cymryd mwy o amser na’r terfyn 28 diwrnod sy’n cadarnhau’r pryderon a godwyd gan randdeiliaid.

Cynnig

Cynigiodd y Llywodraeth ddeddfu i ddiwygio’r fframwaith statudol sy’n llywodraethu amserlenni mechnïaeth cyn cyhuddo ac awdurdodiadau a gofynnodd am farn ar dri model arfaethedig.

Model cyfredol Model A Model B Model C
Cyfnod Mechnïaeth cyntaf Ymestyn hyd at 28 diwrnod, Arolygydd Ymestyn hyd at ddau fis, Swyddog y Ddalfa Ymestyn hyd at dri mis, Swyddog y Ddalfa Ymestyn hyd at dri mis, Swyddog y Ddalfa
Estyniad cyntaf Ymestyn hyd at dri mis, Uwch-arolygydd Ymestyn hyd at bedwar mis, Arolygydd Ymestyn hyd at chwe mis, Arolygydd Ymestyn hyd at chwe mis, Arolygydd
Ail estyniad Tu hwnt i dri mis, Ynad (tri mis i bob estyniad) Ymestyn hyd at chwe mis, Uwch-arolygydd Ymestyn hyd at naw mis, Uwch-arolygydd Ymestyn hyd at naw mis, Uwch-arolygydd
Trydydd estyniad Fel yr uchod. Tu hwnt i chwe mis, Ynad (tri mis i bob estyniad) Tu hwnt i naw mis, Ynad (tri mis i bob estyniad) Ymestyn hyd at 12 mis, Uwch Arolygydd
Pedwerydd estyniad Fel yr uchod. Fel yr uchod. Fel yr uchod. Tu hwnt i 12 mis, Ynad (tri mis i bob estyniad)

Mae’r tri model yn cynnig:

  • adfer yr awdurdodiad mechnïaeth cychwynnol i swyddogion y ddalfa o ystyried eu hannibyniaeth o ymchwiliadau a’u profiad o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg;
  • cyflwyno amserau ychwanegol lle bydd yr ymchwiliad sy’n cynnwys defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo yn cael ei adolygu;
  • cadw cyfnod mechnïaeth cychwynnol - ond cynyddu hyd y cyfnod; a
  • cadw goruchwyliaeth farnwrol ond newid y pwynt lle cyflwynir goruchwyliaeth farnwrol o awdurdodiadau.

O’r modelau arfaethedig, bydd y tri oll yn darparu digon o amser i’r mwyafrif o droseddau llai difrifol a throseddau cyffuriau gael eu cwblhau o fewn yr estyniad mechnïaeth cyntaf. Bydd Model A yn gofyn am awdurdodiadau rheolaidd gan ynad wedi hynny a bydd Model B a C yn dal y mwyafrif o droseddau sy’n gofyn am oruchwyliaeth farnwrol ar gyfer troseddau mwy cymhleth a difrifol.

Cwestiynau

Roedd dau gwestiwn yn yr adran hon. Roedd cwestiwn 5 yn gwestiwn caeëdig a chwestiwn 6 yn destun rhydd.

C5: Nodwch yr opsiynau uchod yn nhrefn eich dewis (1af, 2il, 3ydd a 4ydd).

A stacked bar chart showing the percentage of respondents who chose each option as their 1st, 2nd, 3rd or fourth choice.

Cafodd Model C y pleidleisiau dewis cyntaf mwyaf ar draws y mwyafrif o sectorau gan gynnwys yr heddlu. Roedd Model A a’r Model Cyfredol yn llai poblogaidd o lawer. Roedd rhai gwahaniaethau yn y ffordd yr oedd categorïau’r sector yn cofnodi eu dewisiadau. Mae’r tabl isod yn amlinellu modelau mwyaf a lleiaf dymunol pob sector.

Sector Model mwya dymunol Model lleiaf dymunol
Heddlu Model C Model cyfredol
Aelodau’r Cyhoedd Model C Model cyfredol
Cyrff gorfodi’r gyfraith Model C Model cyfredol
Elusennau Model C Model cyfredol
Cyrff llywodraeth eraill Model B Model C
Aelodau’r cyhoedd a oeddwedi bod dan ymchwiliad Model cyfredol Model C
Cyfreithwyr Model cyfredol/Model B Model C
Academwyr Pob model yn hafal Pob model yn hafal

Gan gyfuno’r pleidleisiau dewis cyntaf a’r ail ddewis i weld pa fodel sy’n cael cefnogaeth ehangaf, Model B yw’r mwyaf poblogaidd.

Trefn dewis Model cyfredol Model A Model B Model C
1af ac 2ail wedi’i gyfuno 73 168 719 629

Wrth edrych ar y dewisiadau cyntaf a’r ail ddewisiadau ar y cyd, yr unig sector nad oedd yn dangos cefnogaeth gref i Fodel B yw aelodau’r cyhoedd a oedd wedi bod dan ychmwiliad, a oedd yn ffafrio’r model cyfredol, a chyfreithwyr, a oedd yn hoffi Model A a B yn gyfartal.

C6. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill? Er enghraifft, a oes gennych gynnig arall neu a oes amgylchiadau lle na fyddai’r amserlenni arfaethedig yn briodol?

O’r 844 ymateb i’r ymgynghoriad, roedd 260 (31%) wedi rhoi ateb i’r cwestiwn hwn. Yn gyffredinol, roedd y sylwadau yn cynnwys tri maes sy’n peri pryder:

  • ‘Mae ymchwiliadau yn cymryd gormod o amser/achosi oedi pellach’ - Awgrymodd y sylwadau hyn fod dulliau ymchwilio modern yn cymryd amser (yn enwedig os oes tystiolaeth ddigidol yn rhan o’r ymchwiliad). Awgrymwyd y bydd angen estyniad cychwynnol bob amser ar gyfer ymchwiliadau syml/bychain hyd yn oed. Gall baich gwaith ac oedi gormodol ddigwydd, e.e. aros am benderfyniad cyhuddo sy’n golygu bod disgwyl i ymchwiliadau gymryd mwy o amser. Mynegodd rhai y farn bod angen cael goruchwyliaeth farnwrol i ddal swyddogion heddlu yn atebol a sicrhau y byddant yn rhoi adnoddau cyfyngedig i ymchwilio iddynt.
  • ‘Awdurdod a goruchwylio estyniadau yn fewnol’ - Roedd pryder bod uwch swyddogion eisoes yn ymwneud â nifer o ddyletswyddau eraill ac na fyddant yn gallu awdurdodi nifer yr estyniadau i’r ddalfa a ddisgwylir.
  • ‘Goruchwyliaeth y Llys’ - Mynegwyd pryderon nad oes gan Llysoedd Ynadon y gallu a’r wybodaeth ddigonol am ymchwiliadau’r heddlu i wneud asesiadau realistig am gynnydd ymchwiliadau. Codwyd pwynt tebyg hefyd y bydd llysoedd yn gweld cynnydd mawr mewn ystyriaethau mechnïaeth pe na bai’r amserlenni a’r lefelau awdurdodi yn cael eu diwygio yn briodol. Roedd pryder ynglŷn â’r gwaith gweinyddol s’n gysylltiedig â gwneud cais am estyniadau gan y llys a dylai gorfodi’r gyfraith allu apelio yn erbyn penderfyniadau ynadon am fechnïaeth.

Casgliadau a chamau nesaf

Model B gafodd y gefnogaeth ehangaf ymhlith yr amrywiaeth ehangaf o grwpiau wrth ystyried pob dewis ac mae’r Llywodraeth yn bwriadu deddfu i weithredu’r model hwn. Mae hyn yn ystyried yr angen i gydbwyso barn pob un a ymatebodd i’r ymgynghoriad â’r gwaith ymarferol y system.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod nad yw amserlenni a’r lefelau awdurdodi presennol yn addas gan nad ydynt yn adlewyrchu yn iawn y gwaith ymarferol a wynebir gan yr heddlu a chyrff gorfodi’r gyfraith eraill. Mae’r mwyafrif o ymchwiliadau’r heddlu yn gofyn am fwy o amser na’rcyfnod mechnïaeth presennol (ABP) o 28 diwrnod, ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod hyn drwy addasu’r amserlenni. Mae pwysau mawr wedi’i roi ar Uwcharolygwyr sydd ar hyn o bryd angen cymeradwyo estyniadau mechnïaeth pe bai’r ymchwiliad yn parha mwy na 28 diwrnod, sy’n gyffredin. Rydym yn cytuno gyda’r barnau a fynegwyd yn yr ymgynghoriad a meddwl nad yw’n gall i roi pwysau ar Uwcharolygwyr gyda gwaith cymeradwyo mechnïaeth tra byddant â llawer o gyfrifoldebau gweithredol eraill.

Ein bwriad yw deddfu i roi Model B ar delerau statudol, a fydd yn darparu amserlenni a lefelau awdurdodi mwy cymesur a fydd yn cydnabod y gwaith ymarferol hwn. Bydd y penderfyniad ar gyfer cymeradwyo’r cyfnod mechnïaeth cychwynnol yn cael ei wneud gan swyddog y ddalfa, sydd â’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg, yn ogystal â bod yn annibynnol o’r ymchwiliad ei hun. Lle bo angen ymestyn hyd mechnïaeth, bydd Arolygydd yn penderfynu ar hyn yn ystod y cyfnod 3 mis a bydd unrhyw estyniadau pellach yn cael eu cymeradwyo gan Uwch Arolygydd yn ystod y cyfnod 6 mis. Bydd hyn yn rhannu’r baich gweinyddol o orfod ymestyn cyfnodau mechnïaeth ac yn cydbwyso’r angen am ymchwiliadau fuan ac effeithiol yn erbyn anhawsterau ymarferol o gwblhau ymchwiliadau o fewn amserlenni byr. Bydd y model newydd yn parhau i ddarparu goruchwyliaeth farnwrol annibynnol o’r system fechnïaeth drwy’r Llys Ynadon, a fydd yn awdurdodi unrhyw estyniadau y tu hwnt i 9 mis, neu tu hwnt i 12 mis mewn achosion cymhleth iawn. Bydd hyn yn sicrhau nad yw’r llys yn cael ei orlwytho gydag estyniadau yn gynnar yn y broses ond y bydd yn darparu goruchwyliaeth o’r drefn fechnïaeth sydd ei hangen.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod bod asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill - sef Swyddfa Twyll Difrifol (SFO), Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA), a Cyllid a Thollau EM (HMRC) - hefyd yn cael eu heffeithio gan newidiadau mewn deddfwriaeth mechnïaeth cyn cyhuddo. Nodwyd yn ymatebion yr ymgynghoriad y gall llawer o’u hymchwiliadau fod yn hirach ac yn fwy cymhleth nag achosion heddlu safonol. O ystyried hyn, nod y Llywodraeth yw creu amserlenni o fewn deddfwriaeth ar gyfer yr asiantaethau hyn a fydd yn adlewyrchu’r math eu hymchwiliadau gan sicrhau bod digon o oruchwyliaeth o fewn y system.

Ymchwiliadau nad ydynt yn ymwneud â mechnïaeth

Cefndir

Cyn diwygiadau 2017, roedd pob unigolyn a gafodd ei ryddhau ar ôl cael ei arestio, wrth i ymchwiliadau fynd yn eu blaen, yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth cyn cyhuddo, gyda neu heb amodau. Un o sgil-effeithiau’r diwygiadau hyn oedd y cynnydd yn y defnydd o broses yr heddlu a elwir yn “rhyddhawyd dan ymchwiliad” neu RUI yn ogystal â chynnydd mewn ymchwiliadau eraill nad ydynt yn ymwneud â mechnïaeth.

Nid yw pob unigolyn ar RUI wedi cael ei arestio. Mae wedi dod yn fwy cyffredin i unigolion gael eu cyfweld yn wirfoddol. Gelwir hyn yn Presenoldeb Gwirfoddol (VA). Rydym felly yn defnyddio’r term “nad yw’n fechnïaeth” i gyfeirio at ymchwiliadau pan na ddefnyddir mechnïaeth cyn cyhuddo, gan gynnwys achosion lle efallai nad yw’r unigolyn wedi cael ei arestio ond mae’n dal i gael ei ymchwilio.

Nid yw RUI ac ymchwiliadau eraill nad ydynt yn ymwneud â mechnïaeth yn dod o dan yr un fframwaith statudol â mechnïaeth cyn cyhuddo. Golyga hyn nad oes amserlenni na goruchwyliaeth wedi’u nodi mewn deddfwriaeth.

Mae nifer o randdeiliaid wedi mynegi pryderon bod y defnydd cynyddol o RUI wedi cael dwy brif effaith:

  • Ymchwiliadau hirach: Nid oes gan yr heddlu ddyddiadau penodol ar gyfer rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i unigolion, dioddefwyr a thystion am gynnydd eu hymchwiliadau, ac nid oes unrhyw ofynion cyfreithiol yn llywodraethu amserlenni, yn wahanol i’r rhai mechnïaeth. Mae’n bwysig nodi bod nifer o ffactorau eraill a all arwain at ymchwiliadau hirach gan yr heddlu, gan gynnwys adnoddau a thystiolaeth ddigidol.
  • Oedi gan y llys: Gan nad yw’n ofynnol i unigolion ar RUI ddychwelyd i orsaf heddlu am benderfyniad cyhuddo, byddant yn cael eu cyhuddo drwy’r post a elwir yn “gwŷs trwy’r post” (PCR). Mae unigolion sy’n methu ag ymateb i’w PCR, naill ai yn fwriadol neu oherwydd problemau gyda’u cyfeiriad, yn methu â dod i’r llys am eu gwrandawiad, a elwir yn “methu â mynychu” (FTA). Mae FTA yn drosedd y gall ynad roi gwarant ar ei gyfer fel y gall yr heddlu arestio’r unigolyn a dod â nhw i’r llys. Mae cynnydd yng nghyfradd troseddau FTA yn achosi oedi wrth symud achosion ymlaen i’r llys, costau uwch i’r llys, costau uwch i’r heddlu a llai o debygolrwydd y bydd erlyn yn digwydd.

Mae pryderon hefyd ynghylch defnyddio RUI, o ystyried nad yw’r drefn yn galluogi amodau i fod ynghlwm wrth ryddhau’r unigolyn. Gall hyn olygu bod dioddefwyr a thystion yn cael eu diogelu yn llai o dan y broses RUI nag y byddent pe bai’r unigolyn ar fechnïaeth.

Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) wedi ceisio mynd i’r afael â’r ddiffyg goruchwyliaeth statudol o RUI drwy gyhoeddi canllawiau sy’n argymell adolygiadau goruchwylio o achosion RUIbob 30 diwrnod, diweddariadau rheolaidd i ddioddefwyr ac unigolion, a gosod dyddiadau gorffen ymchwiliadau targed.

Cynnig

Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae’r Llywodraeth wedi cynnig fframwaith newydd ar gyfer goruchwylio achosion RUI a VA. Gwnaethom gynnig y byddai’r fframwaith yn adlewyrchu’r amserlenni sydd eisoes mewn lle ar gyfer mechnïaeth cyn cyhuddo ac unrhyw newidiadau a allai fod wedi’u gwneud i’r amserlenni hynny o ganlyniad i’r adolygiad. Roedd gan y fframwaith arfaethedig pwyntiau adolygu penodol ac ni roddodd derfyn amser ar hyd ymchwiliadau’r heddlu, a byddai adolygiadau wedi’u cynnal gan yr heddlu ac ni fyddent wedi bod yn destun goruchwyliaeth farnwrol. Ni fyddai unigolion ar RUI a VA wedi dod o dan amodau. Byddai’r fframwaith wedi’i nodi mewn codau ymarfer.

Cwestiynau

Roedd dau gwestiwn yn yr adran hon. Roedd cwestiwn 7 yn gwestiwn caeëdig a chwestiwn 8 yn gwestiwn testun rhydd.

C7. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y dylai fod amserlenni mewn codau ymarfer ar gyfer rheoli ‘rhyddhawyd dan ymchwiliad’ ac achosion presenoldeb gwirfoddol?

Ateb % Ymateb Nifer o ymatebion
Cytuno’n gryf 34 272
Cytuno 35 282
Nid yn cytuno nac yn anghytuno 9 73
Anghytuno 12 94
Anghytuno’n gryf 11 85
Nifer o ymatebion 100* 806

*Oherwydd talgrynnu nid yw cyfanswm y ganran a ymatebodd yn adio hyd at 100.

Roedd cytundeb lefel uchel o 69% (554) y dylid cynnwys amserlenni mewn cod ymarfer ar gyfer achosion RUI a VA. Roedd pob sector yn cytuno gyda hwn.

C8. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill? Er enghraifft, os ydych yn anghytuno, a oes gennych gynigion gwahanol ar gyfer goruchwylio achosion ‘rhyddhawyd dan ymchwiliad’ ac achosion presenoldeb gwirfoddol?

Rhoddodd 34% (288) o’r ymatebwyr ateb i’r cwestiwn hwn. Roedd lleiafrif o 12% (34) a oedd yn ystyried RUI yn ddibwrpas ac yn ddewis amgen gwan o’i gymharu â mechnïaeth. Roedd teimlad na fydd terfynau amser yn mynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol sy’n arwain at ymchwiliadau yn cymryd cyfnodau hir o amser. Y farn arall a gyflwynwyd oedd bod terfynau amser yn decach gan adael i ddrwgdybiedigion a chyfreithwyr amddiffyn gynllunio’n briodol gyda 37% (106) o ymatebwyr yn cefnogi cyflwyno amserlenni ar gyfer ymchwiliadau RUI. Roedd thema gyffredin y bydd defnydd o RUI yn gostwng ar ôl i ddiwygiadau ehangach i fechnïaeth gael eu gwneud.

Mater arall a godwyd oedd anfon gwysion trwy’r post at ddrwgdybiedigion a oedd heb gartref sefydlog. Mae’r Llywodraeth yn ymwybodol o’r pryder, pan na chaiff person drwgdybiedig fechnïaeth, y gall fod problemau wrth anfon penderfyniad cyhuddiad trwy’r post, sy’n ychwanegu cost ac oedi i’r system gyfiawnder.

Casgliadau a chamau nesaf

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y cytundeb cryf a fynegwyd ynghylch ymchwiliadau nad ydynt yn ymwneud â mechnïaeth a oedd yn ymwneud â’r diffyg rhesymeg dros fodolaeth RUI a diffyg fframwaith statudol ar gyfer ymchwiliadau nad ydynt yn ymwneud â mechnïaeth. Mae’r Llywodraeth yn cytuno bod RUI yn broses anfoddhaol nad yw’n darparu’r lefel angenrheidiol o atebolrwydd ynghylch gwneud penderfyniadau, cyfathrebu â’r person drwgdybiedig, dioddefwyr a thystion, ac amserlenni ar gyfer cwblhau’r ymchwiliad. Ar ben hyn, nid oes unrhyw amodau ynghlwm wrth achosion RUI a all arwain at ddiogelu dioddefwyr yn annigonol gan y drefn.

O ystyried bwriad y llywodraeth i ddileu’r rhagdybiaeth yn erbyn mechnïaeth, disgwyliwn i’r defnydd o RUI ostwng yn sylweddol yn dilyn y diwygiadau hyn. Bydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gallu gosod mechnïaeth, gan gyfeirio at y meini prawf angenrheidiol a chymesur a’r ffactorau risg a nodir yn y canllawiau, naill ai gyda neu heb amodau. Os nad yw unigolion yn bodloni’r meini prawf hyn, mae’n debygol mai dim gweithredu pellach fydd y peth mwyaf priodol i’w wneud. Gan ein bod yn disgwyl i’r defnydd o RUI fynd yn llai, ni fyddwn yn cyflwyno amserlenni i’r broses RUI ac yn hytrach byddwn yn gweithio gyda’r sector i gyfyngu ar y defnydd o RUI wrth symud ymlaen.

O ran ymchwiliadau eraill nad ydynt yn ymwneud â mechnïaeth, ein bwriad yw gweithio gyda phartneriaid plismona ar ganllawiau ar y cynllun presenoldeb gwirfoddol (VA) i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithiol a chymesur. Bydd cynigion nad ydynt yn ddeddfwriaethol pellach yn cael eu llunio mewn cyfnod hwy gan ystyried gwysion trwy’r post.

Effeithiolrwydd amodau mechnïaeth

Cefndir

Gall unigolion sy’n cael eu rhyddhau o ddalfa’r heddlu ar fechnïaeth cyn cyhuddo ddod dan amodau, er enghraifft, eu gwahardd rhag cysylltu â’r dioddefwr. Mae gosod amodau mechnïaeth yn golygu y gall yr heddlu reoli person drwgdybiedig yn effeithiol o fewn y gymuned tra bo’r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.

Mae dwy ffordd y gellir torri mechnïaeth cyn cyhuddo: methu ag ateb mechnïaeth cyn cyhuddo; a thor-amodau mechnïaeth cyn cyhuddo.

Mae methu ag ateb mechnïaeth llys (h.y. dychwelyd i’r orsaf heddlu) yn drosedd. Pan fydd unigolyn ar fechnïaeth yn methu ag ateb, gellir ei arestio ar ameuaeth o gyflawni trosedd o dan adran 6 Deddf Mechnïaeth 1976, sydd â dedfryd mwyaf o dri mis mewn carchar neu ddirwy ar gollfarn. Nid oes rhywbeth tebyg ar gyfer mechnïaeth cyn cyhuddo.

Os bydd unigolyn yn torri amodau ei fechnïaeth cyn cyhuddo, gellir ei arestio a’i fynd i’r orsaf heddlu. Nid yw tor-amodau mechnïaeth cyn cyhuddo yn drosedd, er y gallai’r toriad ei hun arwain at drosedd ar wahân. Er enghraifft, gall cysylltu â thyst hefyd fod yn drosedd dan Ddeddf Amddiffyn rhag Aflonyddu 1997. Yn fwy cyffredin, mae’r unigolyn yn dod i’r ddalfa ac yna yn cael ei ail-ryddhau ar fechnïaeth cyn cyhuddo gyda’r un amodau a osodwyd yn flaenorol.

Mae rhanddeiliaid wedi codi pryderon gyda’r Swyddfa Gartref y gallai’r diffyg cosb droseddol sy’n gysylltiedig â thor-amodau mechnïaeth arwain at effeithiau negyddol i ddioddefwyr a thystion, y cyhoedd a’r system cyfiawnder troseddol. Er mwyn deall y materion hyn yn fwy manwl, gofynnwyd am farn ar effeithiolrwydd amodau mechnïaeth.

Cynnig

Nid oedd unrhyw gynnig penodol yr oedd y Llywodraeth yn ceisio barn ymatebwyr arno, ond yn hytrach cwestiwn mwy eang ynghlych amodau mechnïaeth.

Cwestiynau

Roedd dau gwestiwn yn yr adran hon. Roedd cwestiwn 9 yn gwestiwn caeëdig a chwestiwn 10 yn destun rhydd.

C9. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y gellid gwneud amodau mechnïaeth cyn cyhuddo yn fwy effeithiol:

Strongly agree Agree Neither agree nor disagree Disagree Strongly disagree
a.to prevent someone interfering with victims and witnesses? (n=830) 80 14 5 1 0
b. to prevent someone committing an offence while on bail? (n=827) 72 18 6 2 2
c. to prevent someone failing to surrender to custody? (n=829) 66 21 8 3 2

Cytunodd bob sector yn gryf, ac eithrio academwyr, bod angen cael amodau mechnïaeth mwy effeithiol mewn pob un o amcanion mechnïaeth cyn cyhuddo. Roedd academwyr o farn hafal rhwng cytuno ac anghytuno. Roedd y cytundeb cryfaf eto yn cefnogi defnyddio mechnïaeth i ddarparu diogelwch gwell ar gyfer tystion a dioddefwyr.

C10. Sut y gellid gwneud amodau mechnïaeth yn fwy effeithiol?

Atebodd 55% (468) o ymatebwyr y cwestiwn hwn. O’r rheiny, roedd 81% (377) o’r ymatebion yn cefnogi cyflwyno trosedd neu gosb ar gyfer tor-amodau mechnïaeth. Mynegodd 3% (13), gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol yn y system cyfiawnder troseddol, farn na ddylid gwneud tor-amodau mechnïaeth yn drosedd.

Derbyniwyd cynrychioladau cryf gan ystod o ymatebwyr, gan gynnwys grwpiau cymorth i ddioddefwyr, elusennau, cyn swyddogion heddlu a swyddogion heddlu presennol, yn dangos cefnogaeth ar gyfer cyflwyno mesurau a fydd yn gwneud tor-amodau mechnïaeth cyn cyhuddo yn drosedd. Mae’r gefnogaeth am fesur o’r fath yn dod yn bennaf am fod amodau mechnïaeth cyn cyhuddo yn cael eu gweld yn aneffeithiol oherwydd nad oes gan yr heddlu bwerau i’w gorfodi oni bai bod y person drwgdybiedig yn cael ei arestio a’i gyhuddo am drosedd ar wahân, megis bygwth tyst.

Serch hynny, mewn ymateb i’r un cwestiwn, mynegodd rhai o’r proffesiynau cyfreithiol ac aelodau’r farnwriaeth bryder am dor-amodau mechnïaeth cyn cyhuddo yn cael ei wneud yn drosedd. Gallai wneud hyn yn drosedd awgrymu bod mechnïaeth wedi’i chynllunio i fod yn gosbol a gallai arwain at or-droseddoli drwgdybiedigion; yn ychwanegol, gallai achosi anghysondeb yn y system gan nad yw tor-amodau mechnïaeth yn drosedd.

Casgliadau a chamau nesaf

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y gefnogaeth gref i wneud cosbau ar gyfer tor-amodau mechnïaeth cyn cyhuddo yn fwy. Er hynny, wedi ystyried yr effaith tebygol o gael trosedd unigol ar gyfer tor-amodau mechnïaeth cyn cyhuddo, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu nad yw hwn yn opsiwn deddfwriaethol ymarferol ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraeth yn cadw y mater hwn dan adolygiad ac yn ceisio gwella casglu data yn y maes hwn i ddeall y mater yn well a pha gamau a allai fod yn briodol.

Rydym yn cydnabod yr adborth a dderbyniwyd am nad yw’r system gyfredol yn rhoi dull effeithiol i’r heddlu ar gyfer atal tor-amodau mechnïaeth ac i ddiogelu’r cyhoedd, ac nad yw’n cynnig digon o ddiogelwch i ddioddefwyr a thystion. Mae’r Llywodraeth yn cynnig bod, fel rhan o’r broses mechnïaeth cyn cyhuddo, bod dioddefwyr yn cael cymorth i ddeall unrhyw amodau mechnïaeth cyn cyhuddo a osodir yn eu hachos, sut y bydd yr amodau hyn yn helpu i’w cadw yn ddiogel rhag niwed pellach ac rhoddir cyfle iddynt godi eu barn. Dylai dioddefwyr deimlo’n ddiogel a’u bod nhw’n cael eu hamddiffyn gan y system mechnïaeth.

Materion eraill a’ch profiad chi

Roedd y 3 chwestiwn olaf yn gwestiynau testun rhydd.

Cwestiynau

C11. A oes unrhyw faterion neu gynigion yr hoffech chi godi gyda ni yn ymwneud â mechnïaeth cyn cyhuddo neu ryddhawyd dan ymchwiliad?

O’r 844 ymateb i’r ymgynghoriad, ymatebodd 33% (276) i’r cwestiwn hwn. Gwnaeth nifer o ymatebwyr ailadrodd materion neu sylwadau a godwyd mewn cwestiynau blaenorol a chodwyd pwyntiau tebyg mewn ychydig o’r ymatebion.

Cododd nifer o ymatebwyr bryderon am RUI. O’r rheiny a ymatebodd, roedd 7% (19) am i RUI gael ei ddiddymu, roedd 9% (25) am i RUI gael ei ddiwygio a chododd 5% (13) bryderon am y system gwŷs trwy’r post ar gyfer drwgdybiedigion pan ddefnyddir RUI. Soniwyd am ystyried dioddefwyr hefyd gyda 12% (34) o ymatebwyr yn codi materion yn ymwneud â hawliau dioddefwyr ac eisiau rhoi mwy o ystyriaeth iddynt o fewn y fframwaith.

Mynegodd 11% (30) o’r ymatebwyr farn y dylai tor-amodau mechnïaeth gael rhyw fath o sancsiwn ffurfiol. Mynegodd 10% (28) o’r ymatebwyr awydd am well arweiniad, hyfforddiant a chyllid i wella’r defnydd o fechnïaeth cyn cyhuddo/RUI a gwella amseroedd ymchwilio. Mynegodd lleiafrif bach o 8% (21) rwystredigaeth am oedi a achoswyd gan y CPS ac roedd 5% (14) yn feirniadol o’r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Plismona a Throseddu 2017.

C12. Sut ydych chi wedi cael eich effeithio’n bersonol gan ‘mechnïaeth cyn cyhuddo’ neu ‘rhyddhawyd dan ymchwiliad’?

Ni atebodd un o’r ymatebwyr y cwestiwn hwn.

C13. Os dych chi wedi cael eich effeithio, sut ydych chi’n meddwl y gellid gwella’r system?

O’r 844 ymateb i’r ymgynghoriad, atebodd 10% (86) y cwestiwn hwn. Ailadroddodd llawer faterion a godwyd mewn cwestiynau blaenorol ac nid oedd themâu cynhwysfawr i’w weld mewn ymatebion. Y farn fwyaf cyffredin a fynegwyd oedd y dylid cynnal ymchwiliadau yn gyflymach, a mynegodd 20% (17) farn bod yr amserlenni presennol yn rhy hir. Awgrymwyd y canlynol hefyd: rhagdybiaeth ar gyfer defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo 15% (13), gweithio’n well rhwng y sefydliadau cyfiawnder troseddol 15% (13) a dylai fod cosbau ar gyfer tor-amodau PCB 12% (10).

Casgliadau a chamau nesaf

Nodwyd gan lleiafrif sylweddol o ymatebwyr bod siom am sut roedd newidiadau 2017 i’r system mechnïaeth wedi’u gweithredu, gyda beirniadaeth am y lefel o hyfforddiant a chyfarwyddyd a ddarparwyd ar gyfer gorfodi’r gyfraith ar y pryd. Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i ddysgu gwersi o weithredu diwygiadau 2017 a bydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid heddlu a grwpiau eraill yn sicrhau bod y gweithredu o unrhyw ddwygiadau newydd yn cael eu gwneud ar y cyd â digon o hyfforddiant a chyfarwyddyd.

Un o’r themâu cyffredin mewn nifer o gwestiynau ac ymatebion oedd y lefel o rannu gwybodaeth mewn perthynas â dioddefwyr a phobl bregus. Mae’r Llywodraeth yn ystyried opsiynau sydd ar gael ar gyfer rhannu gwybodaeth gwell rhwng lluoedd a sefydliadau. Mae’n cynnwys datblygu cyfarwyddyd a hyfforddiant ar gyfer yr heddlu a chyrff eraill o’r Llywodraeth i rannu a manteisio ar arferion gorau yn y maes hwn.

Bydd y Llywodraeth yn ceisio cyflwyno’r diwygiadau deddfwriaethol a nodir uchod mewn bil cyn y Senedd ar y cyfle cyntaf posibl yn 2021. Bydd cyfarwyddyd newydd yn cael ei roi i gynorthwyo â gweithredu’r newidiadau hyn mewn da bryd.

Egwyddorion ymgynghori

Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadau wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisïau a deddfwriaeth, yn cael eu nodi yn Egwyddorion Ymgynghori Swyddfa Cabinet 2018.

Atodiad A – Crynodeb o’r ymatebwyr

Ateb Nifer o ymatebion a dderbyniwyd Canran o ymatebion
Academwyr 4 1%
Elusennau a Gwasanaethau Dioddefwyr 45 5%
Cyfreithwyr a’r Barnwriaeth 23 3%
Aelodau’r Cyhoedd 205 24%
Cyrff llywodraeth eraill 18 2%
Asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith eraill 7 1%
Lluoedd Heddlu a Swyddogion Heddlu 545 64%
  1. Achosion lle mae’r troseddau yn dod ag effeithiau negyddol sylweddol, yn gorfforol, emosiynol neu ariannol, ar unigolion neu’r gymuned ehangach. 

  2. Mae data’r heddlu sydd ar gael o Ganolfan Ddata’r Swyddfa Gartref yn cynnwys dyddiad cofnodi trosedd a’r dyddiad y cofnodir canlyniad ar gyfer y drosedd honno. Gellir ystyried yr amser rhwng y dau ddyddiad hyn yn amser ymchwilio, er nad yw’r data yn gallu nodi yn benodol yr achosion hynny lle roedd mechnïaeth cyn cyhuddo wedi’i gosod. 

  3. Canlyniadau troseddu Cymru a Lloegr 2017 i 2018; Canlyniadau troseddu Cymru a Lloegr 2018 i 2019; Canlyniadau troseddu Cymru a Lloegr 2019 i 2020