Consultation outcome

Executive summary: Welsh (accessible version)

Updated 6 September 2021

Crynodeb gweithredol

Gall unigolyn sydd wedi ei arestio gan yr heddlu ond sydd heb ei gyhuddo eto gael ei ryddhau ar fechniaeth cyn-cyhuddo neu ei ryddhau heb fechniaeth wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo. Golyga ar fechniaeth cyn-cyhuddo bod yr unigolyn dan ymchwiliad yn cael ei ryddhau o’r ddalfa gan yr heddlu, ynghlwm ag amodau neu beidio, wrth i’r heddlu barhau â’u hymchwiliad.

Mae gofyn i unigolion sydd ar fechniaeth cyn-cyhuddo ddychwelyd i’r orsaf yr heddlu ar ddyddiad ac amser neilltuol, a elwir yn ‘ateb y fechniaeth’, i un ai gael gwybod am benderfyniad terfynol ynglŷn â’u hachos neu i gael diweddariad ar gynnydd yr ymchwiliad.

Gall amodau gael eu rhoi ar yr unigolyn os ystyrir bod angen hynny, er mwyn: atal rhywun rhag methu â mynd i’r ddalfa, atal troseddu pellach, atal rhywun rhag ymyrryd â thystion, neu fel arall atal llwybr cyfiawnder. Gall amodau gael eu rhoi er mwyn diogelu’r unigolyn neu, os yw’n iau na 18 oed, er ei les a’i fudd ei hun.

Bu i’r Llywodraeth sicrhau deddfu Deddf Plismona a Throsedd 2017 er mwyn ymdrin â phryderon bod unigolion yn cael eu cadw ar fechniaeth cyn-cyhuddo am gyfnodau hir, ac ynghlwm ag amodau llym weithiau. Bu i’r diwygiadau gyflwyno:

  • rhagdybiaeth yn erbyn mechniaeth cyn-cyhuddo oni bai bod hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur; ac
  • amserlenni a phrosesau clir a statudol ar gyfer yr orfodaeth gychwynnol a’r estyniad o fechniaeth, gan gynnwys cyflwyno goruchwyliaeth farnwrol ar gyfer ymestyn mechniaeth cyn-cyhuddo y tu hwnt i 3 mis.

Ers i’r diwygiadau ddod i rym, buom yn cydweithio’n agos â phartneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol i fesur y broses o weithredu ac i fonitro’r effeithiau. Mae’r defnydd o fechniaeth cyn-cyhuddo wedi lleihau’n arw, gyda’r nifer cynyddol o unigolion yn cael eu rhyddhau heb fechniaeth yn ategu hynny, a elwir yn gyffredin fel ‘rhyddhawyd dan ymchwiliad’ neu RUI. Mae’r newid hwn wedi codi pryderon nad yw mechniaeth bob amser yn cael ei ddefnyddio’n briodol, gan gynnwys atal unigolion rhag troseddu tra maent ar fechniaeth neu amharu ar dystion. Mae pryderon eraill yn canolbwyntio ar y posibilrwydd o ymchwiliadau hirach mewn achosion lle nad yw mechniaeth yn cael ei defnyddio ac effeithiau negyddol ar y llysoedd.

Ar 5 Tachwedd 2019 cyhoeddodd y llywodraeth adolygiad o fframwaith deddfwriaethol mechniaeth cyn-cyhuddo. Nod yr adolygiad yw sicrhau bod gennym system sydd yn:

  • rhoi bllaenoriaeth i ddiogelwch dioddefwyr a thystion;
  • cefnogi’r gwaith o reoli ymchwiliadau’n effeithiol;
  • parchu hawliau unigolion sydd dan ymchwiliad, a dioddefwyr a thystion i gael penderfyniadau a diweddariadau prydlon.
  • cefnogi’r gwaith o ddod ag achosion i’r llysoedd yn brydlon.

Ar 3 Chwefror cyhoeddodd y llywodraeth ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’r adolygiad ehangach. Mae’r ddogfen ymgynghori yn egluro’r materion a godwyd gan ystod eang o randdeiliaid ar draws y maes plismona a gorfodi’r gyfraith, asiantaethau perthnasol o’r llywodraeth a sefydliadau allanol, ynghyd â chyfres gyfatebol o gynigion cychwynnol ar ba farnau a geisir.

Yn benodol, mae’r ymgynghoriad yn ceisio rhagor o safbwyntiau ar:

  • Ddileu’r rhagdybiaeth yn erbyn rhyddhau ar fechniaeth cyn cyhuddo;
  • Rhoi dyletswydd ar swyddogion yr heddlu i ddefnyddio mechniaeth cyn-cyhuddo yn ôl yr angen ac yn gymesur, a fyddai’n berthnasol mewn achosion ble mae perygl o ran diogelwch y dioddefwyr, tystion a’r cyhoedd; yn ôl yr angen
  • atal troseddu pellach; neu pan fydd effeithiau’r drosedd dan sylw yn rhai gwirioneddol neu fwriededig.
  • Caniatau swyddogion yr heddlu yn is i lawr y rhengoedd i awdurdodi ac ymestyn mechniaeth cyn-cyhuddo, tra hefyd yn ymestyn y cyfnod cychwynnol y gall mechniaeth cyn-cyhuddo gael ei osod o 28 i un ai 60 neu 90 diwrnod ac oedi’r pwynt pan fydd angen cymeradwyaeth yr ynadon i ymestyn cyfnod mechniaeth o 3 mis i 6, 9 neu 12 mis.
  • Cyflwyno pwyntiau adolygu mewn codau ymarfer ar gyfer ymchwiliadau lle nad yw mechniaeth cyn-cyhuddo’n cael ei defnyddio - gan gynnwys pan fydd unigolion yn cael eu cyfweld yn wirfoddol neu’n cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 27 Ebrill. Yn ystod y cyfnod ymgynghori ein bwriad fydd ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid allanol gan gynnwys dioddefwyr, grwpiau sy’n cefnogi ac yn darparu gwasanaethau i roi cymorth i ddioddefwyr troseddau, y farnwriaeth, cynrychiolwyr academaidd, cyfreithiol ac unigolion sydd wedi bod dan ymchwiliad, ynghyd â defnyddwyr gweithredol megis yr heddlu.