Consultation outcome

Ymgynghoriad ar weithredu isafswm lefelau gwasanaeth ar gyfer rheilffyrdd teithwyr

Updated 6 November 2023

Crynodeb gweithredol

Ar 10 Ionawr 2023 cyflwynodd llywodraeth y DU y Bil Streiciau (Isafswm Lefelau Gwasanaeth), sy’n cyflwyno deddfwriaeth aml-sectoraidd a gynllunir i alluogi cyflwyno isafswm lefelau gwasanaeth (MSLs) ar draws ystod o sectorau allweddol, gan gynnwys trafnidiaeth, yn amodol ar ymgynghori. Daw hyn yn dilyn Ymrwymiad Maniffesto’r Ceidwadwyr 2019, gan gynnwys y byddwn yn mynnu bod isafswm gwasanaeth yn gweithredu yn ystod streiciau trafnidiaeth penodol, gan sicrhau bod gweithwyr rheilffordd yn parhau i gael cytundeb teg, ond yn yr un modd bod bywoliaethau a lles teithwyr yn cael eu gwarchod.Mae gan y llywodraeth ymrwymiad clir i’r rheilffyrdd yn y DU. Yn ôl y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, mae’r trethdalwr wedi ariannu gweithrediad y diwydiant rheilffordd hyd at £31bn yn y ddwy flynedd ddiwethaf - ychydig dros £1,000 fesul cartref a dros £300,000 i bob gweithiwr rheilffordd. Mae hyn yn cynnwys £16bn o gymorth brys wnaeth y llywodraeth ei glustnodi i gadw’r rheilffyrdd i redeg yn ystod Covid 19. Mae’r llywodraeth hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein rheilffyrdd drwy’r Cynllun Rheilffyrdd Integredig fel y nodwyd ym mis Tachwedd 2021. Dyma’r buddsoddiad unigol mwyaf gan y llywodraeth yn rhwydwaith rheilffyrdd Prydain, strategaeth gwerth £96bn ar gyfer canolbarth Lloegr a’r Gogledd i’w chyflawni dros y 30 mlynedd nesaf.

Mae’r Llywodraeth hon wedi nodi rheilffyrdd teithwyr fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer cyflwyno MSLs, gan ystyried y rôl bwysig y mae rheilffyrdd yn ei chwarae wrth sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau allweddol, fel gofal iechyd ac addysg, yn ogystal â gallu cyrraedd y gwaith.Mae’r Bil yn sefydlu fframwaith clir ar gyfer gosod MSLs, gan gydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gweithwyr yn gallu cymryd streic, tra’n cydbwyso anghenion y cyhoedd i gyrraedd y gwaith a chael mynediad at wasanaethau allweddol. Yn yr un modd mae’r ddeddfwriaeth yn sicrhau bod unrhyw reoliadau, a fyddai’n gweithredu’r newidiadau hyn, yn destun ymgynghori, ac yn ystyried barn rhanddeiliaid. Mae’r Bil hefyd yn darparu y gallai’r gofyniad i ymgynghori gael ei fodloni drwy ymgynghori cyn pasio Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Isaf) 2023 (yn ogystal â thrwy ymgynghori ar ôl yr amser hwnnw). Mae’r cynigion yn y ddogfen ymgynghori hon felly yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol derfynol y Bil gerbron y Senedd.

Drwy’r ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am fewnbwn gan y cyhoedd ac ystod eang o randdeiliaid i sicrhau, lle mae MSLs yn cael eu defnyddio, eu bod yn gallu sicrhau lefel fwy cyson a digonol o wasanaeth i’r cyhoedd yn ystod streic. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu’r cyhoedd a gwarchod rhag risgiau anghymesur i fywydau a bywoliaethau.

Yr Achos o blaid MSLs yn y rheilffyrdd

Mae ein rheilffyrdd wrth wraidd ein system drafnidiaeth gyhoeddus, a phan nad ydynt yn gweithredu i gapasiti llawn, gall teithwyr ledled Cymru, Lloegr a’r Alban wynebu tarfu sylweddol ar eu bywydau bob dydd a bygythiadau i’w bywoliaeth.Ynghyd ag effeithiau ehangach, fel, mewn rhai achosion, methu â chyrraedd yr ysgol, cael mynediad at apwyntiadau meddygol, neu ymweld â ffrindiau a theulu, mae’n amlwg bod effaith gweithgarwch streicio ar y rheilffyrdd yn gallu bod yn heriol iawn i deithwyr.

Mae un o’r heriau mwyaf yn cynnwys pobl yn methu â mynd i’r gwaith, gyda chymudo o hyd y defnydd mwyaf cyffredin o reilffordd wyneb yn Lloegr (49% o deithiau yn 2021)[footnote 1]. Yn yr un modd, mae pobl wedi gorfod gweithio oriau gwahanol er mwyn cyd-fynd ag amserlen llai.Canfu ymchwil yr Adran Drafnidiaeth, ‘Rail strikes: Understanding the Impact on Rail’ fod 29% o’r holl ymatebwyr, a 70% o’r rhai a oedd wedi bwriadu cymudo i/ o’r gwaith (ar y rheilffyrdd) yn ystod wythnos streic, wedi adrodd am o leiaf un effaith ar eu gwaith neu eu trefniadau gweithio (gan gynnwys methu â chyrraedd eu lle gwaith, gorfod newid eu horiau gwaith, gorfod gweithio llai na’r hyn roedden nhw wedi’i gynllunio, gorfod newid eu diwrnodau gwaith neu methu â gweithio o gwbl)[footnote 2][footnote 3]]. Gellir teimlo’r materion hyn yn arbennig yng nghyd-destun rhai gweithwyr sy’n streicio, megis gyrwyr trenau. Er enghraifft, yn ystod streiciau gan yrwyr trenau, gan gynnwys streiciau diweddar ar 1 a 3 mis Chwefror, roedd cwmnïau gweithredu trenau yr effeithiwyd arnynt yn rhedeg ychydig iawn o wasanaethau, ac nid oedd rhai gweithredwyr yn gallu rhedeg unrhyw wasanaethau o gwbl.

Mae goblygiadau ehangach o streiciau ar y rheilffyrdd hefyd, gan gynnwys rhai busnesau yn methu â gweithredu’n effeithiol oherwydd effaith ar weithwyr yn cyrraedd y gwaith, neu sectorau o’r economi, fel hamdden a lletygarwch, yn dweud eu bod yn wynebu nifer uchel o gansliadau gan nad yw pobl yn gallu teithio mwyach. Yn ogystal â hyn, bu tarfu ar ddigwyddiadau chwaraeon, gan gynnwys Gemau’r Gymanwlad, cyngherddau a digwyddiadau mawr megis Gŵyl Glastonbury. Mae hyn yn arwain at effeithiau amlwg i’r economi, a’r unigolion sy’n cael eu heffeithio. Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (CEBR)[footnote 4] amcangyfrif y byddai streiciau rheilffyrdd rhwng Mehefin 2022 a Ionawr 2023 yn arwain at golli allbwn economaidd y DU o tua £500 miliwn oherwydd nad oedd pobl yn gallu gweithio. Nid yw hyn yn cynnwys effeithiau economaidd eraill, fel gostyngiadau mewn gwariant ar fanwerthu, lletygarwch, a gweithgareddau hamdden.

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gymryd camau i fynd i’r afael â’r effeithiau hyn a gall cyflwyno MSLs chwarae rhan bwysig. Ni fydd MSLs yn atal streiciau, ond byddant yn ceisio sicrhau gwell cysondeb i deithwyr, gan ganiatáu iddynt wneud teithiau hanfodol ar ddiwrnodau streic gyda mwy o sicrwydd.

Dull o ddatblygu MSLs

Nid yw’r defnydd o MSLs ar gyfer rheilffyrdd yn newydd, ac mae ystod eang o enghreifftiau, gan gynnwys mewn gwledydd fel Sbaen a’r Eidal, lle mae MSLs eisoes yn cael eu defnyddio ar draws dyddiau streic. Mae rhai gwledydd yn mynd ymhellach ac yn defnyddio deddfwriaeth i atal streiciau yn gyfan gwbl, gydag Arlywydd yr UNOL Daleithiau a’r Gyngres yn pasio deddfwriaeth yn ddiweddar i atal streic rheilffordd rhag cael ei chynnal.Fodd bynnag, mae gweithrediad y rheilffordd, a’r ddeddfwriaeth gyflogaeth gysylltiedig sy’n rhyngweithio â sut y caiff MSLs eu darparu, yn unigryw ar draws gwledydd, sy’n ei gwneud yn hanfodol bod gweithredu’r ddeddfwriaeth wedi’i chynllunio i weithio i Brydain Fawr.

Mae angen i ddyluniad y broses weithredu fod yn gydweithredol ac yn ymgynghorol, er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu system sy’n gweithio’n dda ac sy’n cael ei deall gan ddiwydiant, gweithwyr, teithwyr a’r holl randdeiliaid perthnasol. Felly rydym yn ymgynghori’n eang a byddwn yn ystyried yr holl ymatebion yn ofalus wrth ddylunio’r cynnyrch terfynol.

Gan adeiladu ar y dystiolaeth o’n harolwg diweddar ar effaith streicio rheilffyrdd ar deithwyr, mae hyn yn cynnwys gofyn cwestiynau i ddeall yn well sut mae streiciau’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl a’u gallu i fynychu’r gwaith, cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol, ac ymwneud â gweithgareddau hamdden fel ymweld â theulu a ffrindiau neu fynychu digwyddiadau. Yn ogystal, rydym am ddeall yn well, lle mae streiciau wedi effeithio ar bobl, beth mae hyn wedi ei olygu iddyn nhw, gan gynnwys unrhyw effeithiau ariannol sy’n cael eu hachosi drwy beidio â gallu mynd i’r gwaith, neu orfod canslo cynlluniau, neu benderfyniadau i deithio mewn ffordd wahanol.

Mae gennym ddiddordeb mewn gweithio gyda’r diwydiant hefyd i ddeall eu profiadau o streicio diweddar, a sut mae’r sector wedi rheoli’r effeithiau ar deithwyr a gweithwyr. Bydd yr arbenigedd a’r dystiolaeth weithredol hon yn chwarae rhan bwysig wrth lywio ystyriaethau ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni trwy gyflwyno MSLs ar gyfer y rheilffyrdd, gan gynnwys unrhyw arferion da presennol y dylid eu cynnwys yn y broses ddylunio.

Rydym yn chwilio am fewnbwn gan weithwyr rheilffordd ac aelodau undebau llafur o amgylch effeithiau posib disgwyliedig y ddeddfwriaeth, ac ystyriaethau allweddol yr hoffent i ni eu hystyried wrth ystyried sut y gallai system MSL weithredu.

Hoffem glywed hefyd gan fusnesau, sydd efallai ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y sector rheilffyrdd, ond sy’n cael eu heffeithio gan streiciau. Gallai hyn gynnwys ystyriaethau fel effaith gweithwyr yn methu â mynychu’r gwaith, llai o ymwelwyr mewn rhai ardaloedd o ganlyniad i streiciau, neu newidiadau i gynlluniau, fel archebion wedi’u canslo oherwydd gweithgarwch streicio. Yn yr un modd, rydym am glywed gan ymddiriedolaethau ysbytai, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill y gellid effeithio arnynt.

Trwy’r ymgynghoriad hwn, rydym yn profi egwyddorion allweddol ynghylch sut y gellid cynllunio MSLs ar gyfer y rheilffyrdd, yn ogystal ag opsiynau arfaethedig ar sut y gallai MSLs weithio’n ymarferol ar gyfer y rheilffyrdd. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau sylfaenol, fel cwmpas daearyddol MSLs, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r llywodraethau datganoledig a chroesawu mewnbwn gan weithredwyr sy’n rhedeg gwasanaethau rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys seilwaith a mewnbwn seilwaith trydydd parti, er mwyn helpu i lywio’r ystyriaethau hyn. Rydym hefyd yn croesawu barn a mewnbwn gan Awdurdodau Cyfun Maerol (MCAs) ac Awdurdodau Trafnidiaeth Leol (LTAs) yng nghyd-destun eu rolau strategaeth drafnidiaeth, ac ar sut mae ystyriaethau’n ymwneud â’r rolau hynny yn rhyngweithio â sefydlu MSLs rheilffordd.

Rydym yn ceisio barn ar feysydd fel pa wasanaethau rheilffyrdd, a pha weithwyr, ddylai fod mewn cwmpas MSLs.Yn ogystal, rydym am ddeall yn well gan ymatebwyr pa ffactorau y credant y dylid eu hystyried wrth osod MSLs ar gyfer y rheilffordd, er enghraifft darpariaeth llwybrau yn dibynnu ar leoliad ac amser y dydd. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd am ddeall yn well sut y gellid defnyddio systemau presennol, megis y strategaeth flaenoriaethu sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd yn ystod gweithgarwch streic rheilffyrdd trwm, i lywio dyluniad MSLs.

Unwaith y bydd MSLs yn cael eu cyflwyno, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn monitro ac yn asesu eu heffeithiolrwydd, gan gynnwys y ffordd y maent yn effeithio ar deithwyr, gweithwyr, gwasanaethau cyhoeddus a chyflogwyr. Felly, rydym yn ceisio mewnbwn ar ddulliau posibl o adolygu, y sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynnal adolygiadau o’r fath, a sut y gall canllawiau gefnogi gweithredu MSLs ar gyfer diwydiant.

Rydym yn croesawu pob mewnbwn i’r ymgynghoriad i helpu i lywio dyluniad MSLs ar gyfer y rheilffyrdd, ac i ddarparu tystiolaeth allweddol i gefnogi ein dealltwriaeth o’r cwestiynau pwysig hyn.

Sut i ymateb

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 20fed Chwefror a bydd yn parhau tan 15fed Mai.

Sicrhewch fod eich ymateb yn ein cyrraedd cyn y dyddiad cau. Os hoffech ragor o gopïau o’r ddogfen ymgynghori hon, mae i’w gweld yn Minimum service levels for passenger rail during strike action. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin) ac angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch e-bost at RailMinimumServiceLevels@dft.gov.uk. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu os ydych chi’n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi’n ei defnyddio.

Anfonwch ymatebion i’r ymgynghoriad at:

RailMinimumServiceLevels@dft.gov.uk.

Os nad ydych yn gallu anfon eich ymateb drwy e-bost, gellir postio ymatebion hefyd i:

Ymgynghoriad Rheilffyrdd Isafswm Lefelau Gwasanaeth
Great Minster House
33 Horseferry Road
Llundain
SW1P 4DR

Ymateb

Rydym yn annog yr holl unigolion hynny sydd â diddordeb yn y rheilffyrdd i ymateb gan ein bod yn adnabod bod unigolion yn benodol yn darparu’r dystiolaeth fwyaf uniongyrchol. Bydd y cwestiwn cyntaf yn gofyn a ydych yn ymateb ar ran grŵp neu’n annibynnol.

Rydym yn croesawu sylwadau a wneir ar ran grŵp gan yr holl randdeiliaid sydd â buddiant. Rydym yn annog y grwpiau canlynol i ymgysylltu â’r broses hon:

  • Grwpiau Cynrychiolwyr Teithwyr
  • Gweinyddiaethau Datganoledig
  • Undebau llafur
  • Sefydliadau iechyd a darparwyr gofal
  • Siambrau Masnach, Ffederasiynau, Consortia a Chymdeithasau ar ran teithwyr a busnesau
  • Awdurdodau Lleol
  • Sefydliadau addysg (ysgolion, academïau, darparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach, ac ati)
  • Cwmnïau gweithredu trenau sy’n ymgysylltu â’u cwsmeriaid
  • Darparwyr seilwaith
  • Arbenigwyr rheilffyrdd a selogion rheilffyrdd
  • Cyhoeddiadau rheilffyrdd
  • Academyddion, melinau trafod ac ymchwilwyr eraill
  • Cyrff diwydiannol

Yn dibynnu ar eich anghenion, efallai y byddwch yn dewis cynnal gweithdai rhithwir.Wrth ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cynrychioli barn sefydliad. Os yn ymateb ar ran sefydliad mwy, gwnewch hi’n glir pwy mae’r sefydliad yn eu cynrychioli a, lle bo hynny’n berthnasol, sut y cafodd barn yr aelodau ei chasglu.

Rhyddid Gwybodaeth

Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, fod yn destun cyhoeddi neu ddatgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os ydych am i wybodaeth rydych yn ei darparu gael ei thrin yn cyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y FOIA, fod cod ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â hi ac sy’n delio, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau hyder.

O ystyried hyn byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio i ni pam eich bod yn ystyried bod yr wybodaeth yr ydych wedi’i darparu’n gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd ym mhob amgylchiadau. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ohono’i hun, yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n rhwymo’r Adran.

Bydd yr Adran yn prosesu’ch data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (DPA) ac o dan y mwyafrif o amgylchiadau bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon.

Cyfrinachedd a diogelu data

Mae’r Adran Drafnidiaeth (DfT) yn cynnal yr ymgynghoriad hwn i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer pennu isafswm lefelau gwasanaeth (MSLs) ar gyfer y rheilffyrdd ac i lywio dyluniad MSLs. Mae’r ymgynghoriad hwn a phrosesu data personol y mae’n ei olygu yn angenrheidiol er mwyn arfer ein swyddogaethau fel adran o’r llywodraeth. Lle mae data personol categori arbennig yn cael eu prosesu, caiff hyn eu prosesu am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol o dan Erthygl 9(2)(g) i Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU ac am gydraddoldeb cyfle a thriniaeth o dan Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018.

Fel rhan o’r ymgynghoriad MSLs byddwn yn gofyn am yr wybodaeth bersonol ganlynol:

  • Y rhanbarth rydych chi’n byw ynddo, yr orsaf drenau rydych yn ei chyrchu amlaf o’ch cyfeiriad cartref, eich rôl yn y gwaith ac a oes angen cymorth arnoch wrth deithio ar y trên.
  • Eich oedran, rhywedd, ethnigrwydd ac iechyd at ddibenion monitro cydraddoldeb yn unig. Does dim rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth hon os nad ydych yn dymuno.
  • Eich enw a’ch manylion cyswllt - lle maent wedi’u cynnwys o fewn eich ymatebion e-bost. Ni fyddant yn cael eu defnyddio fel rhan o’n dadansoddiad nac i ofyn cwestiynau dilynol a byddant yn cael eu dileu cyn gynted â phosibl.

Am unrhyw wybodaeth sy’n caniatáu ichi gael eich adnabod, bydd DfT, o dan gyfraith diogelu data, yn rheolwr ar gyfer yr wybodaeth hon. Bydd partner ymchwil yn y project wedi’i gontractio i helpu gyda’r gwaith o ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a hwn fydd y prosesydd ar gyfer yr wybodaeth hon. Bydd yr holl ddata cydraddoldeb yn cael ei wahanu oddi wrth eich ymatebion gan ein prosesydd a fydd yn cwblhau’r dadansoddiad ac yn paratoi adroddiad a fydd wedyn yn cael ei rannu gyda DfT.

Bydd yr holl ddata sy’n cael eu derbyn trwy e-bost yn dod i flwch post diogel o fewn DfT gyda mynediad diogel. Bydd yr holl ddata sy’n cael eu derbyn drwy’r post yn cael eu cyflwyno i ardal ddiogel o fewn yr Adran Drafnidiaeth ac yna’n cael eu hychwanegu’n ddiogel i’r set ddata ddigidol. Bydd yr holl ddata yn cael eu cadw’n ddiogel ar systemau DfT, heb unrhyw newid a wneir i unrhyw ran o’r data a dderbynir. Bydd hyn yn cael eu trosglwyddo o systemau DfT i’n partner ymchwil i’w dadansoddi, gan ddefnyddio methodoleg ddiogel.Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel gan DfT a’r partner ymchwil yn ystod y cyfnod ymchwil, ac wedi iddo ddod i ben bydd y partner ymchwil yn trosglwyddo data’n ddiogel i DfT.Byddwn ond yn cadw eich data mewn ffordd a all eich adnabod cyhyd ag sy’n angenrheidiol i gefnogi’r ymgynghoriad MSL a’i ganfyddiadau. Caiff eich data eu dileu’n ddiogel cyn pen 24 mis ar ôl i’r ymgynghoriad gau.

Mae gan bolisi preifatrwydd yr Adran Drafnidiaeth fwy o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sut i gwyno a sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.

Gwybodaeth ymatebwyr

Er mwyn helpu i lywio’r ymgynghoriad, rhowch wybodaeth am y canlynol:

Capasiti lle rydych yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Ydych chi’n ymateb:

  • Ar ran sefydliad
  • Fel unigolyn

Ymatebion ar ran sefydliadau

Nodwch a yw eich sefydliad chi yn:

  • Gweithredwr trenau teithwyr
  • Gweithredwr trenau cludo nwyddau
  • Rheolwr seilwaith y rheilffyrdd
  • Busnes arall o fewn sector y rheilffyrdd
  • Busnes mewn sector tu allan i’r diwydiant rheilffyrdd
  • Cyflogwr gweithwyr allweddol

    • Ysgol
    • Ysbyty
    • Arall (nodwch)
  • Undeb llafur rheilffyrdd
  • Grŵp sy’n cynrychioli teithwyr
  • Awdurdod llywodraethol cenedlaethol, rhanbarthol neu leol
  • Arall (nodwch))

Faint o weithwyr sydd gan eich sefydliad? (Nodwch nifer y gweithwyr cyfan)

  • 1 i 10
  • 11 i 50
  • 51 i 250
  • Dros 250
  • Dw i ddim yn gwybod
  • Amherthnasol

Ble mae eich sefydliad wedi’i leoli? (Ticiwch bopeth sy’n berthnasol)

  • Lloegr
    • Dwyrain Lloegr
    • Dwyrain Canolbarth Lloegr
    • Llundain -Gogledd-ddwyrain
    • Gogledd-orllewin
    • De-ddwyrain -De-orllewin -Gorllewin Canolbarth Lloegr
    • Swydd Efrog a’r Humber
  • Yr Alban
  • Cymru
  • GB Eang
  • Arall (Nodwch)
  • Well gennyf beidio â dweud

Nodwch:

  • Enw’r sefydliad rydych yn ei gynrychioli
  • Unrhyw fanylion pellach am eich sefydliad rydych yn eu hystyried yn berthnasol i’r ymgynghoriad ac yn dymuno inni fod yn ymwybodol ohonynt

Ymatebion ar ran unigolion

Nodwch a ydych yn: (Ticiwch bopeth sy’n berthnasol)

  • Gweithiwr gyda gweithredwr trenau i deithwyr
  • Gweithiwr gyda rheolwr seilwaith rheilffyrdd
  • Gweithiwr arall yn y sector rheilffyrdd
  • Teithiwr rheilffordd
  • Ymatebwr arall (nodwch)

Os ydych yn weithiwr rheilffordd, nodwch eich rôl (e.e. gyrrwr, signalwr, rheolwr)

Os ydych yn deithiwr, dywedwch:

  • Os ydych yn gyflogedig, ac os ydych, y sector rydych chi’n gweithio ynddo a’ch rôl yn y gwaith
  • A oes angen cymorth arnoch wrth deithio ar y rheilffordd am resymau hygyrchedd

Ym mha ardal o’r DU ydych chi’n byw?

  • Lloegr

    • Dwyrain Lloegr
    • Dwyrain Canolbarth Lloegr
    • Llundain
    • Gogledd-dddwyrain
    • Gogledd-orllewin
    • De-ddwyrain
    • De-orllewin
    • Gorllewin Canolbarth Lloegr
    • Swydd Efrog a’r Humber
  • Yr Alban
  • Cymru
  • Gogledd Iwerddon
  • Rwy’n byw y tu allan i’r DU
  • Gwell gennyf beidio ag ateb

Pa orsaf drenau ydych chi’n ei chyrchu amlaf o’ch cyfeiriad cartref?

Cwestiynau monitro cydraddoldeb

Bydd y cwestiynau opsiynol canlynol yn ein helpu i wirio ein bod wedi cyrraedd adran gynrychioliadol o gymdeithas ac yn ein helpu i fonitro cydraddoldeb rhwng gwahanol grwpiau, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Cedwir y wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn ddienw, ac ni fydd yn cael ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn.

Mae monitro cydraddoldeb yn helpu i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg.

Beth yw eich oed chi?

  • dan 16 oed
  • 16 i 17
  • 18 i 24
  • 25 i 34
  • 35 i 44
  • 45 i 54
  • 55 i 64
  • 65 i 74
  • 75 a dros
  • Gwell gennyf beidio ag ateb

Nodwch eich rhywedd

  • Gwryw
  • Benyw
  • Rwy’n uniaethu fel ffordd arall
  • Gwell gennyf beidio ag ateb

Beth yw eich grŵp ethnig? Dewiswch un opsiwn sy’n disgrifio eich grŵp ethnig neu’ch cefndir orau.

  • Gwyn

    • Seisnig/Cymreig/Albanaidd/Gwyddel o Ogledd Iwerddon/Prydeinig
    • Gwyddelig
    • Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
    • Unrhyw gefndir Gwyn arall, disgrifiwch
  • Grwpiau ethnig cymysg/lluosog

    • Gwyn a Du Caribïaidd
    • Gwyn a Du Affricanaidd
    • Gwyn ac Asiaidd
    • Unrhyw gefndir ethnig cymysg/lluosog arall, disgrifiwch
  • Asiaidd/Asiaidd Prydeinig

    • Indiaidd
    • Pacistanaidd
    • Bangladeshaidd
    • Tsieineaidd
    • Unrhyw gefndir Asiaidd arall, disgrifiwch
  • Du/ Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig

    • Affricanaidd
    • Caribïaidd
    • Unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall
  • Grŵp ethnig arall

    • Arabaidd
    • Unrhyw grŵp ethnig arall
    • Gwell gennyf beidio ag ateb

A oes gennych unrhyw gyflyrau neu afiechydon iechyd corfforol neu feddyliol sy’n parhau neu y disgwylir iddynt barhau am 12 mis neu fwy

  • Ie
  • Nac oes
  • Gwell gennyf beidio ag ateb

Cyflwyno Isafswm Lefelau Gwasanaeth ar gyfer y rheilffyrdd

1.1 Nod cyflwyno’r ddeddfwriaeth MSL aml-sectoraidd yw galluogi pobl i barhau i wneud teithiau hanfodol, er enghraifft, i gael mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, tra’n sicrhau bod gallu gweithwyr i streicio yn cael ei ddiogelu. Rydym yn rhagweld y bydd cymhwyso MSLs yn galluogi’r cyhoedd i gynllunio eu teithiau yn hyderus, lleihau nifer yr ardaloedd sydd ar ôl heb unrhyw wasanaeth yn ystod streic, a sicrhau y gellir cael adnoddau i’r amserlenni y gall gweithredwyr eu rhedeg yn fwy dibynadwy. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu’r cyhoedd a gwarchod rhag risgiau anghymesur i fywydau a bywoliaethau.

Trosolwg o’r Bil

1.2 Mae’r Bil Streiciau (Isafswm Lefelau Gwasanaeth) yn diwygio Deddf yr Undeb Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cyfuno) 1992 i:

  • gosod amodau ar ddiogelu undebau llafur rhag camau cyfreithiol mewn perthynas â streiciau yn ymwneud â gwasanaethau lle gwnaed darpariaeth ar gyfer MSLs. Bydd y gwasanaethau’n cael eu rhagnodi drwy reoliadau, yn dilyn ymgynghori;
  • gosod rhwymedigaethau ar undebau llafur ac unigolion i gydymffurfio ag MSLs a galluogi cyflogwyr o fewn gwasanaethau penodedig i gyhoeddi hysbysiadau gwaith i restru’r gweithlu sy’n ofynnol i sicrhau isafswm lefel y gwasanaeth ar ddiwrnod streic;

1.3 Mae’r Bil yn cynnwys pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol osod MSLs, ar gyfer gwasanaethau o fewn sectorau allweddol penodedig (categorïau), drwy reoliadau.Y sectorau allweddol (categorïau), sydd wedi’u nodi o fewn y Bil, yw:

  • Gwasanaethau Iechyd
  • Gwasanaethau tân ac achub
  • Gwasanaethau addysg
  • gwasanaethau trafnidiaeth
  • dadgomisiynu gosodiadau niwclear a rheoli gwastraff ymbelydrol a thanwydd a ddisbyddwyd
  • diogelwch ar y ffin

1.4 Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â phersonau fel y maent yn ystyried yn briodol ar y rheoliadau arfaethedig a rhaid i’r rheoliadau gael eu cymeradwyo gan ddau Dŷ’r Senedd cyn iddynt gael eu gwneud. Mae’n bosib y bydd y gofynion ymgynghori yn cael eu cyflawni cyn ac ar ôl i’r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol.

1.5 Bydd y Bil yn dod i rym ar Gydsyniad Brenhinol ond ni fydd yn dod i rym nes y bydd y rheoliadau sy’n pennu’r gwasanaethau y bydd MSLs yn berthnasol iddynt a beth fydd isafswm y lefelau gwasanaethau, yn dod i rym. Ar ôl eu gweithredu, gellir defnyddio MSLs mewn perthynas ag unrhyw streic yn y gwasanaethau penodedig sy’n digwydd ar ôl i reoliadau ddod i rym.

Rôl yr hysbysiad gwaith

1.6 Pan fydd undeb llafur yn rhoi hysbysiad o streicio i gyflogwr, gall y cyflogwr benderfynu cyhoeddi hysbysiad gwaith cyn y diwrnod(au) streic i nodi’r personau y mae’n ofynnol iddynt weithio a’r gwaith y mae’n rhaid iddynt ei wneud i sicrhau bod yr MSL ar gyfer y cyfnod streic hwnnw’n cael ei ddarparu. Rhaid i’r cyflogwr ymgynghori â’r undeb ynghylch nifer y personau a nodir a’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad a rhoi sylw i’w barn cyn cyhoeddi’r hysbysiad gwaith. Wrth benderfynu nodi person mewn hysbysiad gwaith, rhaid i’r cyflogwr beidio â rhoi sylw i a yw person yn aelod o’r undeb.

1.7 Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda streiciau ‘gwyllt’, mewn mannau gwaith undebol os yw gweithiwr a nodir mewn hysbysiad gwaith dilys ar gyfer diwrnod streic yn cymryd streic ar y diwrnod hwnnw yn groes i’r hysbysiad gwaith, bydd y gweithiwr yn colli amddiffyniad awtomatig rhag diswyddo annheg. Mae hyn yn cynnwys gweithiwr sy’n cymryd rhan weithredol yn y streic fel aelod o’r undeb perthnasol sy’n streicio, yn ogystal â gweithiwr sy’n cael ei enwi ar yr hysbysiad gwaith ac sy’n gwrthod croesi’r llinell biced.

  1. 8 Mae’r Bil hefyd yn nodi y gall undeb golli ei amddiffyniad rhag hawliadau iawndal gan y cyflogwr os nad yw’n cymryd camau rhesymol i sicrhau bod aelodau’r undeb sy’n cael eu henwi ar yr hysbysiad gwaith yn cydymffurfio â’r hysbysiad gwaith. Byddai cydymffurfiaeth o’r fath gan aelodau’r undeb yn golygu peidio cymryd rhan yn y streic ar ddyddiau pan fo’n ofynnol i’r aelodau hynny drwy’r hysbysiad gwaith weithio. Ar wahân i ddarpariaethau’r Bil, efallai y byddai cyflogwr hefyd yn gallu cael gwaharddeb mewn amgylchiadau o’r fath er mwyn atal y streic rhag digwydd.

1.9 Os yw hysbysiad gwaith yn afresymol neu os nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn y Bil, efallai y bydd undeb neu weithiwr yn gallu ceisio gwaharddeb i’w atal rhag bod yn gymwys (mae hyn hefyd ar wahân i ddarpariaethau’r Bil) neu efallai y bydd yn gwrthod cydymffurfio ag ef a chymryd rhan yn y streic fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

1.10 Rydym yn gwybod bod gan rai darparwyr gwasanaethau rheilffyrdd eu trefniadau mewnol eu hunain ar hyn o bryd a all weithiau olygu bod gwasanaeth trenau sylfaenol yn dal i weithredu yn ystod streiciau. Cyflawnir hyn drwy hyfforddi aelodau staff mewn swyddi eraill fel gweithlu wrth gefn, i gyflawni rhai tasgau sy’n angenrheidiol ar gyfer rhedeg gwasanaethau trenau.Wrth ystyried hysbysiad gwaith, bydd cyflogwyr yn ystyried ystod eang o ffactorau, gan gynnwys argaeledd staff i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Ystyr Rheilffordd Drom ac Ysgafn yn yr ymgynghoriad hwn

1.11 At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, wrth gyfeirio at sut y bwriedir i MSLs fod yn gymwys i ‘wasanaethau rheilffordd i deithwyr’, mae cyfeiriad mewn rhai mannau at ‘reilffordd drom’ a ‘rheilffyrdd ysgafn’ lle ystyrir bod gwahaniaethau rhwng y ddau fath yma o wasanaethau rheilffordd a allai effeithio ar opsiynau ac ymatebion a ddarperir.

1.12 Nid oes gan ‘reilffordd drom’ a ‘rheilffordd ysgafn’ un diffiniad y cytunir arno ond fe’u defnyddir i gyfeirio at y gwasanaethau sy’n gweithredu dros rai mathau o reilffyrdd. Er enghraifft, deallir rheilffordd drom yn gyffredin fel rhywbeth sy’n golygu’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol ac mae rheilffordd ysgafn yn gyffredinol yn cael ei ddeall i gyfeirio at wasanaethau tram a systemau metro ysgafn sy’n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, er y gellir categoreiddio rhai systemau tanddaearol yn wahanol weithiau.

1.13 Er mwyn sicrhau bod defnydd o’r disgrifwyr “rheilffordd ysgafn” a “rheilffordd drom” yn glir at ddibenion y ddogfen hon, mae categoreiddio’r rhwydweithiau a ddefnyddir ar wefan Y Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd (ORR) wedi’i gyfeirio ato – Rhwydweithiau rheilffyrdd Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ac rydym wedi grwpio rheilffordd drom a rheilffordd ysgafn fel a ganlyn:

  1. 14 Mae Rheilffordd Drom yn cynnwys y Rhwydwaith Prif Linell (fel y cyfeirir ato ar wefan ORR) a’r holl wasanaethau sy’n gweithredu drosto.

1.15 Mae Rheilffordd Ysgafn yn cynnwys Rheilffyrdd Tanddaearol, Rheilffordd Ysgafn a Thramffyrdd (fel y cyfeirir atynt ar wefan ORR) a’r holl wasanaethau sy’n gweithredu drostynt.

1.16 Cynigir i reilffyrdd mân a threftadaeth, sy’n cynnwys rheilffyrdd amgueddfeydd neu reilffyrdd twristaidd, (fel y cyfeirir atynt ar wefan ORR) a’r holl wasanaethau sy’n gweithredu drostynt gael eu heithrio o gwmpas y gwasanaethau a gynhwysir yn yr ymgynghoriad hwn – gweler adran 1.50.Nid yw’r rhain felly wedi’u cynnwys yn ystyr Rheilffordd Drom neu Rheilffordd Ysgafn lle defnyddir y rhain.

Y broses bresennol ar gyfer gweithredu diwydiannol ar y rheilffyrdd

1.17 Diffinnir anghydfod masnach fel ‘anghydfod rhwng gweithwyr a’u cyflogwr sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf’ ag un neu ragor o sawl mater penodedig yn adran 244(1) o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cyfuno) 1992. Pan na ellir datrys anghydfod drwy drafodaethau, gall hyn arwain at ‘weithredu diwydiannol’ gan gynnwys ar ffurf streic.

1.18 Mae yna bedwar undeb llafur sy’n cael eu cydnabod i gynrychioli grwpiau pwysig o weithwyr yn y sector rheilffyrdd. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • ASLEF (Cymdeithas Gysylltiedig Peirianwyr Locomotifau a Dynion Tân): Yn cynrychioli gyrwyr trenau ar draws y sector ac ar draws y DU
  • RMT (Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth): Yn cynrychioli’r mwyafrif o staff gweithredol (graddau cyffredinol) mewn cwmnïau gweithredu trenau a Network Rail
  • TSSA (Cymdeithas Staffau Cyflogedig Trafnidiaeth): Aelodaeth ar lefelau rheoli a gweinyddu yn Network Rail a chwmnïau gweithredu trenau a rhywfaint o aelodaeth ymhlith graddau gweithredol, gan gynnwys mewn swyddfeydd gorsafoedd a thocynnau
  • Unite (Unite the Union): Aelodaeth mewn sawl ardal arbenigol, er enghraifft yn Network Rail.

1.19 Gall gweithredu diwydiannol ddigwydd pan fydd aelodau undebau llafur mewn anghydfod gyda’u cyflogwyr. Streic yw lle mae gweithwyr yn gwrthod cyflawni gwaith i’r cyflogwr. Er mwyn i weithredu diwydiannol fod yn gyfreithlon, rhaid i’r undeb llafur benderfynu pa aelodau sydd wedi eu heffeithio gan anghydfod y mae am ofyn iddyn nhw weithredu’n ddiwydiannol. Yna mae angen ‘pleidlais’ gan yr aelodau hyn drwy ofyn cwestiwn y gellir ei ateb gyda naill ai ‘Ie’ neu ‘Na’.

1.20 Rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys crynodeb o’r mater neu’r materion dan sylw yn yr anghydfod masnach y mae’r gweithredu diwydiannol arfaethedig yn ymwneud â hi.Ar ôl i’r cyfnod pleidleisio gau, rhaid i’r undeb llafur hysbysu cyflogwyr o ganlyniadau allweddol, fel nifer y bobl sydd â’r hawl i bleidleisio, nifer y pleidleisiau, a nifer yr unigolion a atebodd, ‘ie’ neu ‘na’. Yn ogystal, rhaid i undebau fod yn glir a yw nifer y pleidleisiau a fwriwyd o leiaf 50% o’r nifer o bobl a oedd â hawl i bleidleisio, ac os yw’n ymwneud â gwasanaeth cyhoeddus pwysig (pa reilffordd i deithwyr ydyw) p’un a oedd o leiaf 40% o’r aelodau â’r hawl i bleidleisio wedi pleidleisio ie yn y bleidlais ai peidio.

1.21 Fel gwasanaeth cyhoeddus pwysig, rhaid i bleidleisiau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd teithwyr, gyflawni o leiaf 50% o nifer yr aelodau undebau llafur cymwys a bleidleisiodd, gyda mwyafrif o gyfanswm y pleidleisiau a ddychwelwyd a oedd yn pleidleisio o blaid streicio a rhaid bodloni trothwy ychwanegol o 40% o gefnogaeth gan yr holl aelodau cymwys er mwyn i weithredu fod yn gyfreithlon.Os bydd y bleidlais yn llwyddiannus, bydd yr undeb llafur yn cael ‘mandad’ ar gyfer gweithredu diwydiannol sydd ar y cyfan yn fyw am chwe mis, gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r bleidlais yn cau.

1.22 Yna gall undeb llafur gychwyn gweithredu diwydiannol drwy ddweud wrth aelodau a’r cyflogwr pryd a sut y bydd y camau hyn yn cael eu cymryd, gan roi o leiaf 14 diwrnod o rybudd i gyflogwyr.Yn y ddeddfwriaeth arfaethedig byddai MSLs yn berthnasol i streiciau yn unig (nad yw’n cynnwys gwaharddiadau goramser na gwaharddiadau galw allan), nid i fathau eraill o weithredu diwydiannol nad ydynt yn golygu streicio.

1.23 Mae gweithwyr yn cael caniatâd cyfreithlon i gymryd streic ac ni ellir eu gorfodi i aros yn, neu fynd yn ôl i’r gwaith, (er na fyddai streic yn cael ei ganiatáu os nad yw mandad wedi’i sicrhau’n gyfreithlon er enghraifft).

1.24 Wrth osod MSL, rhaid i’r ymyrraeth ag Erthygl 11 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sef rhyddid ymgynull a chysylltu[footnote 5], fod yn gyfiawn, drwy gael nod cyfreithlon a bod ei hangen i sicrhau bod rhai buddiannau’n cael eu diogelu neu nodau’n cael eu cyflawni.Credwn fod modd cyfiawnhau’r MSLs gan eu bod yn ceisio cyflawni’r nod cyfreithlon o gyfyngu’r effaith anghymesur o aflonyddgar a niweidiol y mae streic yn ei chael ar y cyhoedd, ar eu bywydau ac ar yr economi genedlaethol. Ystyrir eu bod yn angenrheidiol i ddiogelu hawliau a rhyddid pobl eraill, gan gynnwys y cyhoedd. Mae hyn wedi’i nodi o fewn y memorandwm ar y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol[footnote 6], a oedd yn cyd-fynd â’r Bil Streiciau (Isafswm Lefelau Gwasanaeth) wrth ei gyflwyno i Dŷ’r Cyffredin ar 10 Ionawr 2023.

1.25 Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, sy’n asiantaeth o’r Cenhedloedd Unedig, wedi dweud bod modd cyfiawnhau isafswm lefelau gwasanaeth ar gyfer y gwasanaethau canlynol[footnote 7].

  • Gwasanaethau y byddai torri ar eu traws yn peryglu bywyd, diogelwch personol neu iechyd y boblogaeth gyfan neu ran o’r boblogaeth (gwasanaethau hanfodol yn ystyr llym y term)
  • Gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol yn ystyr llym y term ond lle gallai maint a hyd streic fod y fath ag a allai arwain at argyfwng cenedlaethol acíwt yn peryglu amodau byw arferol y boblogaeth
  • Gwasanaethau cyhoeddus o bwysigrwydd sylfaenol

1.26 Nod streiciau rheilffyrdd yn benodol yw amharu ar wasanaethau a chyflawni eu trosoledd o gael effaith ar fywydau bob dydd pobl ynghyd â chanlyniadau economaidd ehangach ac yn aml sylweddol. Oherwydd nifer y bobl sy’n dibynnu ar y rheilffyrdd bob dydd, yn deithwyr uniongyrchol a busnes ehangach, gall streiciau gael effaith eang ac aflonyddgar iawn. Gall hyn gael ei gwaethygu ymhellach pan fydd undebau’n cydlynu cynlluniau a chyhoeddi gweithredu diwydiannol ar yr un pryd er mwyn gwneud y gorau o faint yr aflonyddwch yn fwriadol. Yn yr un modd, defnyddir gweithredu diwydiannol fel trosoledd cyfreithlon i roi pwysau ar gyflogwyr, i ddatrys anghydfodau o blaid yr undeb. O’r herwydd rydym yn awyddus i gadw gallu gweithiwr i streicio.

Adeiladu ar sut mae gwasanaethau rheilffordd yn cael eu rheoli ar hyn o bryd yn ystod streic

1.27 Yn ystod streiciau cenedlaethol, mae’r diwydiant yn ceisio lliniaru effaith gweithredu diwydiannol ar deithwyr a busnesau trwy weithredu amserlenni llai, ond sydd eto’n ddibynadwy y gellir eu staffio o fewn cyfyngiadau gweithredol. Mae gweithredwyr a Network Rail yn gweithio i roi adnoddau i wasanaethau teithwyr allweddol a sicrhau bod nwyddau critigol, fel tanwydd a gwastraff, yn dal i allu teithio ledled y wlad, gall hyn arwain at rwydwaith 12 awr sy’n cael ei weithredu rhwng 7am a 7pm ag amrywiannau rhanbarthol. Mae gallu’r cyflogwr i ymateb i streiciau ar wasanaethau trên yn ddibynnol ar y math o staff sy’n cymryd rhan yn y streic. Er enghraifft, yn ystod streiciau gan aelodau’r RMT lle mae’r staff sy’n streicio yn signalwyr a gweithredwyr ystafell reoli trydanol yn Network Rail, gellir defnyddio llafur wrth gefn i ddarparu lefel gyfyngedig o wasanaeth; fodd bynnag os yw aelodau ASLEF, sy’n cynrychioli’r mwyafrif o yrwyr trenau, yn streicio, nid yw’r gronfa lafur wrth gefn yn ddigon mawr i gwmpasu’r rolau arbenigol hyn, sy’n golygu nad oes gan rai ardaloedd wasanaethau trên o gwbl drwy gydol cyfnod y streic.Mae’n werth nodi bod y gronfa lafur gyda’r sgiliau i weithredu amserlenni streic (y gallwn gyfeirio ati fel “llafur wrth gefn”) yn fach iawn ac yn ansicr ac yn rhan o’r gweithlu presennol - maent yn aelodau o staff sydd wedi’u hyfforddi i gyflawni dyletswyddau yn ogystal â’u rhai arferol. Mae cefnogaeth y grŵp hwn yn hanfodol yn ystod aflonyddwch tymor byr, ond mae natur y gronfa lafur hon ei hun yn gwneud yr amserlen yn agored i newidiadau munud olaf - er enghraifft, oherwydd salwch staff.

1.28 Pan gaiff ei gyflwyno gyda’r bygythiad o streicio, bydd Network Rail a gweithredwyr trenau yn creu cynlluniau wrth gefn, gan leihau gwasanaethau’n sylweddol, a chyhoeddi amserlen y gallant ei rhedeg, gan geisio darparu gwasanaeth dibynadwy, er ei fod yn llawer llai. Mae’r gallu i redeg gwasanaethau a’r nifer y maent yn eu gweithredu yn ddibynnol ar fanylion y streic. Mewn rhai achosion, mae streic wedi gweld gwasanaethau yn methu’n llwyr â rhedeg, neu gwasanaethau wedi’u lleihau yn sylweddol, gan gael effeithiau mawr ar y rhannau o’r wlad lle mae hyn yn digwydd.

Y strategaeth flaenoriaethu a ddefnyddiwyd yn ystod streiciau cenedlaethol blaenorol

1.29 Yn ystod streiciau rheilffyrdd cenedlaethol RMT diweddar sy’n cynnwys Network Rail a’r rhan fwyaf o weithredwyr trenau, mae’r diwydiant rheilffyrdd trwm yn gweithredu strategaeth flaenoriaethu sy’n diogelu llifau critigol. Mae’r strategaeth yn dibynnu ar gronfa fach o staff wrth gefn, yn tueddu i weithredu fel rheilffordd 12 awr rhwng 7am a 7pm ac yn galluogi tua 20% o wasanaethau teithwyr i redeg.

1.30 Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar alluogi symudiadau cludo nwyddau critigol, gan gynnwys biodanwydd (e.e. cyfleuster DRAX) a gwastraff, ac ar gadw llwybrau teithwyr allweddol agored, o fewn terfynau lefelau staffio presennol. Nid yw rhai ardaloedd o’r wlad, megis rhai ardaloedd yng Nghernyw, gogledd Lloegr, Cymru a’r Alban yn gweld fawr ddim i ddim gwasanaeth i deithwyr ar ddyddiau streic, sy’n effeithio ar fywydau a bywoliaethau. Wrth osod deddfwriaeth sy’n gosod isafswm lefel o wasanaeth, rydym yn rhagweld y byddwn yn gallu dibynnu ar lefel uwch o staffio a gweithredu amserlen yn fwy adlewyrchol o anghenion teithwyr. Er na all yr amserlen y gall y diwydiant ei gweithredu ar ddiwrnodau streic a’r llwybrau y mae’n eu cadw ar agor fod yn wasanaeth diwrnod arferol, rydym yn gobeithio gallu adeiladu ar egwyddorion y strategaeth flaenoriaethu a gwella lefel y gwasanaeth mae teithwyr yn ei dderbyn ar draws Prydain, lle bo angen.

1.31 Mae’r strategaeth flaenoriaethu wedi’i defnyddio yn ystod yr holl streiciau lefel cenedlaethol a oedd yn cynnwys aelodau RMT yn Network Rail ers Mehefin 2022.Gweler map o’r llwybrau gafodd eu blaenoriaethu yn ystod streiciau Mehefin 2022, PDF, 1.49MB, fel enghraifft.

Hanes streiciau blaenorol yn y rheilffyrdd

1.32 Mae cofnodion DfT[footnote 8] yn dangos bod 25 diwrnod o streicio wedi bod rhwng Mehefin 2022 ac Ionawr 2023 sydd wedi arwain at amharu’n eang ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Ers 2019 does dim un diwrnod wedi bod lle na fu un ai streic yn digwydd ar ein rheilffyrdd neu fandadau ar gyfer streiciau sy’n weddill. Mewn gwirionedd, ac eithrio cyfnod byr yn ystod anterth pandemig COVID-19, mae’r sector wedi cael ei effeithio’n sylweddol gan y bygythiad parhaus o streicio, am amryw o resymau – tâl a buddion yn bennaf, a newidiadau arfaethedig i arferion gwaith.

1.33 Mae’r canlyniad wedi golygu y bu sawl cyfnod o streicio aflonyddgar, mewn rhai achosion gan arwain at atal yr holl wasanaethau rheilffordd ar lwybrau yr effeithir arnynt, a all arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i’r teithwyr a’r cymunedau hynny yr effeithir arnynt.Er bod llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi cyflogwyr ac undebau o fewn y sector rheilffyrdd i fynd i’r afael ag anghydfodau parhaus, ac mae cynnydd pwysig wedi’i wneud ar anghydfodau byw yn ystod y misoedd diwethaf, mae llywodraeth y DU hefyd am fynd ymhellach i amddiffyn teithwyr rhag effeithiau niweidiol gweithredu diwydiannol parhaus ar y rheilffyrdd.

1.34 Mae streiciau hyd yma wedi cynnwys gweithredu gan nifer gymharol fach o rai mathau o weithwyr allweddol yn y sector, fel gyrwyr neu signalwyr, sydd wedi cael effaith ddifrifol ar nifer llawer mwy o deithwyr, gan gynnwys effeithio ar fywoliaeth. Gall graddau streicio yn y sector rheilffyrdd atal gallu teithwyr yn anghymesur i fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd, gyda streic weithiau’n arwain at gau’r rhwydwaith yn llwyr mewn rhai ardaloedd.

1.35 Bu enghreifftiau o weithredu diwydiannol ar Reilffordd Danddaearol Llundain, a phan maen nhw’n digwydd fel arfer mae’r rhwydwaith cyfan yn cael ei amharu’n ddifrifol.Er enghraifft, y streic a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 21ain o Fehefin a 19 Awst 2022.Yn hanesyddol, bu llai o weithredu diwydiannol o fewn y sector rheilffyrdd ysgafn y tu allan i Lundain, ac mae effaith streicio yn fwy lleol nag o’i gymharu â rheilffyrdd trwm. Fodd bynnag, mae ardaloedd metropolitanaidd eraill hefyd wedi profi streiciau ar wasanaethau rheilffyrdd ysgafn, gan gynnwys Nottingham Express Transit a Metro Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Pam mae llywodraeth y DU wedi dewis ymgynghori ar MSLs yn y rheilffyrdd

1.36 Mae trafnidiaeth yn rhan hanfodol o fywyd Prydain, ac yn hanfodol i gefnogi economi ffyniannus, fodern, hyblyg. Pan nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithredu i gapasiti llawn, mae miliynau o deithwyr yn profi amharu ar eu teithiau bob dydd. Gall hyn effeithio ar gyrraedd mannau gwaith, gorfod newid oriau gwaith, gweithio llai o oriau na’r hyn sydd wedi’i gynllunio neu fethu â gweithio o gwbl. Mae’n amharu ymhellach ar allu treulio amser gyda ffrindiau a theulu, gallai olygu colli arholiad neu hyd yn oed orfod gohirio apwyntiad meddygol pwysig.

1.37 Mae streiciau rheilffyrdd wedi dod yn eang eu cyrhaeddiad, wedi cynyddu mewn amlder, ac mae hyn yn debygol o fod wedi cynyddu amhariad yn sylweddol ar fywydau bob dydd pobl ac wedi effeithio ar fywoliaeth. Rydym yn chwilio am dystiolaeth bellach ar yr effaith hon a sut mae’n effeithio ar y cyhoedd sy’n teithio, gweithwyr, sefydliadau, a busnesau.

Yr effaith ar deithwyr

1.38 O’r holl deithio, yn Lloegr, yn 2019,[footnote 9] roedd y rheilffyrdd wyneb yn cyfrif am 2% o deithiau a 10% o bellter a deithiwyd ac roedd Rheilffordd Danddaearol Llundain yn cyfrif am 1% o deithiau a 2% o bellter a deithiwyd.[footnote 10]Ar gyfartaledd rhwng 2012 a 2019, mewn ardaloedd lle mae system yn gweithredu, mae rheilffyrdd ysgafn a defnydd tramiau yn cyfrif am tua 1% o gamau ar bob modd y flwyddyn.Fodd bynnag, mae’r effeithiau hyn yn tanddatgan pa mor bwysig yw rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn mewn rhai rhannau o’r wlad. Er enghraifft, cyn y pandemig roedd 17% o gymudwyr Llundain yn defnyddio rheilffordd drom fel eu dull arferol o deithio i’r gwaith a 25% ddefnyddiodd Rheilffordd Danddaearol Llundain, rheilffordd ysgafn a thramffordd.[footnote 11]

1.39 Fe gomisiynodd yr Adran Drafnidiaeth arolwg o deithwyr oedd yn teithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn Lloegr i ddeall effaith y streiciau. Cynhaliwyd yr arolwg yn yr wythnosau yn dilyn streic drom ar y rheilffyrdd a chanfod bod dwy ran o bump (42%) o deithwyr a ymatebodd i’r arolwg, a phedair rhan o bump (81%) o’r rhai oedd wedi bwriadu teithio ar y rheilffordd yn ystod wythnos y streic, wedi profi effaith uniongyrchol ar eu cynlluniau teithio ar y rheilffordd gan y streiciau mewn rhyw ffordd[footnote 12]. Roedd yr effeithiau a adroddwyd amlaf ar deithio i’r gwaith (29% o’r holl ymatebwyr), sy’n adlewyrchu’r gyfran fwy o deithiau a wneir at y diben hwn.

1.40 Defnyddir y rheilffyrdd at sawl diben, gyda’r prif ddefnyddiau ar gyfer cymudo i’r gwaith neu addysg a hamdden. Yn 2019, gwnaed 47% o deithiau ar y rheilffyrdd wyneb yn Lloegr at ddibenion cymudo, tra bod 26% o deithiau wedi’u gwneud at ddibenion hamdden. Gwnaed gweddill y teithiau at ddibenion addysg, busnes, siopa, neu eraill. Er bod y pandemic wedi effeithio ar batrymau teithio ac wedi arwain at gynnydd mewn gweithio gartref, mae cymudo yn parhau i fod y defnydd mwyaf cyffredin o reilffyrdd wyneb (49% o deithiau yn Lloegr yn 2021).[footnote 13]

1.41 Lle nad yw gweithwyr yn gallu cymudo i’w man gwaith oherwydd streiciau rheilffyrdd, mae risg i’r gweithiwr o incwm coll, ac yn achos streic barhaus, risg i hyfywedd y busnesau sy’n eu cyflogi.Gall hyn hefyd gael effaith ariannol sylweddol, yn uniongyrchol ar weithwyr, cyflogwyr a busnesau ategol rhag ofn y bydd nifer yr ymwelwyr a gollwyd, yn effeithio ar fywoliaeth yn y pen draw.

1.42 Fe wnaeth adroddiad DfT ‘Streiciau Rheilffyrdd: Deall yr effaith ar deithwyr’ ganfod bod 17% o deithwyr wedi profi o leiaf un math o effaith ariannol negyddol o ganlyniad i’r streiciau (colli enillion yn bersonol, colli enillion busnes, costau teithio uwch, costau gofal plant ychwanegol, arall).Ar y llaw arall, daeth y brif effaith ariannol gadarnhaol o arbedion i gostau teithio, a gafodd ei gofnodi gan 8% o’r ymatebwyr.Nododd canran uwch o deithwyr rheilffordd sydd ag anabledd (sef 8%) na’r rhai heb anabledd (sef 6%) eu bod wedi colli enillion personol oherwydd y streiciau.

1.43 Ar gyfer rheilffordd ysgafn, bydd effaith streiciau yn dibynnu’n rhannol ar bwrpas teithio ac argaeledd mathau eraill o drafnidiaeth. Mewn achosion lle mae mathau amgen o drafnidiaeth ar gael yn hawdd, bydd hyn yn lleihau’r effaith gyffredinol. I Loegr yn ei gyfanrwydd y diben mwyaf cyffredin o deithio ar reilffordd ysgafn (ac eithrio Rheilffordd Danddaearol Llundain) yw cymudo (42%) ac yna hamdden (23%), siopa (16%) ac addysg (9%). Fodd bynnag, mae’r rhaniad at ddiben teithio yn wahanol i Lundain, a gweddill Lloegr. Mae cyfran uwch o deithio rheilffyrdd ysgafn yn Llundain (ac eithrio Llundain danddaearol) at ddibenion cymudo (54%), ac yna hamdden (17%) a siopa (10%). Ar y llaw arall, ar gyfer gweddill Lloegr mae cymudo ond yn cyfrif am 30% o deithio rheilffordd ysgafn, ac yna hamdden (29%) a siopa (21%).[footnote 14]

Effeithiau ariannol ac economaidd

1.44 Mae gan streic eang ar y rhwydwaith rheilffyrdd effeithiau ariannol sylweddol i fusnesau o fewn y sector rheilffyrdd a thu hwnt.Dywedodd yr ORR fod y diwydiant rheilffyrdd wedi casglu tua £10.4bn o brisiau tocynnau teithwyr yn 2019-20, sy’n cyfateb i tua £28m y dydd[footnote 15]. Yn ogystal, mae effeithiau streiciau hefyd i’w teimlo ar ddyddiau cyfagos i ddyddiau streicio, oherwydd yr amser mae’n ei gymryd i wasanaethau stopio ac ailgychwyn.

1.45 Yn ogystal ag effeithiau uniongyrchol ar deithwyr a’r sector rheilffyrdd, mae effeithiau streicio hefyd yn cael effeithiau niweidiol ehangach ar yr economi. Ym mis Rhagfyr 2022, amcangyfrifodd y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (CEBR) y byddai streiciau rheilffyrdd rhwng Mehefin 2022 a Ionawr 2023 yn arwain at golli allbwn economaidd y DU o tua £500 miliwn[footnote 16]. Mae’r amcangyfrif hwn yn ymwneud â cholli allbwn yn unig gan y rhai nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd gweithredu diwydiannol yn ystod streiciau rheilffyrdd ar lefel genedlaethol ac mae i’w briodoli i weithwyr nad ydynt yn rhai rheilffyrdd sy’n methu â gweithio oherwydd gweithredu diwydiannol ar y rheilffyrdd.Nid yw’n cynnwys effeithiau economaidd eraill streiciau rheilffyrdd, megis gostyngiadau mewn gwariant ar fanwerthu, lletygarwch, a gweithgareddau hamdden oherwydd streiciau rheilffyrdd.

1.46 Ar ddechrau’r flwyddyn, nododd y Prif Weinidog ei bum blaenoriaeth uchaf ar gyfer 2023, a oedd yn cynnwys haneru chwyddiant, tyfu’r economi, a lleihau dyled. Wrth inni ddod allan o’r pandemig a mynd i’r afael â heriau economaidd dwys, mae’n hanfodol bod trafnidiaeth yn chwarae rhan ganolog mewn gwydnwch ac adferiad economaidd.Mae angen lefel ddibynadwy a chyson o wasanaeth i alluogi cludiant i barhau i fod yn asgwrn cefn i sefydlogrwydd a thwf economaidd.

Effeithiau ar gludo nwyddau

1.47 Mae nifer sylweddol o rai nwyddau critigol allweddol yn cael eu symud gan y rheilffyrdd gan gynnwys tanwydd, biomas a gwastraff cartref.Mae symud y nwyddau hyn yn allweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol fel casglu gwastraff cartref a chynhyrchu ynni. Wrth osod isafswm lefelau gwasanaeth, bydd angen rhoi ystyriaethau i symudiad parhaus y nwyddau critigol hyn gan nwyddau rheilffordd.

Egwyddorion ar gyfer dylunio MSLs

1.48 Mae llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu hawliau gweithwyr a bydd yn sicrhau bod unrhyw gynnig ar gyfer deddfwriaeth newydd yn parchu hawliau dynol, ac yn sicrhau bod gweithwyr yn dal i allu streicio’n gyfreithlon. Am y rheswm hwn, mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio asesu effaith bosibl cynigion ar gyfer rheoliadau Isafswm Gwasanaeth ar weithwyr y rheilffyrdd, undebau’r rheilffyrdd, cwmnïau gweithredu trenau, cyflogwyr eraill yn y diwydiant rheilffyrdd, teithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill. Rydym yn ymgynghori’n eang i ystyried sut y gall y ddeddfwriaeth hon weithio’n ymarferol am y gorau, ac i gasglu cynigion gan y rhai sy’n cael eu heffeithio gan streiciau ac y gallai isafswm lefelau gwasanaeth effeithio arnynt.

1.49 Mae diffinio beth mae isafswm lefel o wasanaeth yn ei olygu yn dasg weithredol gymhleth, amlweddog, y mae angen arbenigedd diwydiant arno. Rydym am ddatblygu mesurau ymarferol ac effeithiol i gyflawni er budd gorau teithwyr a threthdalwyr, a dyna pam ei bod ond yn iawn ein bod yn ymgysylltu’n eang, gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill (gan gynnwys arweinwyr busnes, cyflogwyr ehangach a theithwyr) i geisio eu barn ar sut y dylid gweithredu’r ddeddfwriaeth hon. Rydym yn rhagweld, wrth osod isaf lefel o wasanaeth, y dylem gael ein harwain gan set o egwyddorion cyffredinol, gan gynnwys:

  • bod y gwasanaeth sy’n rhedeg yn ystod streic yn ddiogel ac yn ddibynadwy ac yn caniatáu i deithwyr deithio lle bo modd
  • ei fod yn blaenoriaethu sicrwydd gwasanaeth, fel bod teithwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl
  • bod unrhyw MSL a osodir yn rhoi ystyriaeth i ystyriaethau diogelwch a diogeledd ac yn blaenoriaethu diogelwch teithwyr
  • bod anghenion teithwyr a’r cyhoedd i gael mynediad at waith a gwasanaethau cyhoeddus yn gytbwys â gallu gweithwyr rheilffordd i streicio

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n hasesiad o’r egwyddorion a ddylai fod yn sail i isafswm lefel o wasanaeth?Rhowch eich asesiad ar gyfer pob un o’r egwyddorion a nodir uchod, a’r rhesymeg dros eich rhesymu.

Dylai MSLs gwasanaethau arfaethedig berthyn i

1.50 Mae’r Bil yn egluro mai dim ond o fewn rheoliadau y bydd MSLs yn berthnasol i wasanaethau a bennir o fewn rheoliadau, o fewn y categorïau allweddol sy’n cynnwys gwasanaethau trafnidiaeth. Mae’r llywodraeth hon wedi nodi’r rheilffyrdd fel blaenoriaeth ar gyfer cyflwyno MSLs, ac mae Adran 1 o’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi’r achos dros MSLs ar reilffyrdd teithwyr.Y bwriad yw y byddai pob gwasanaeth rheilffordd i deithwyr sy’n hanfodol i alluogi trenau teithwyr i weithredu i gyrraedd isafswm lefelau gwasanaeth yn cael eu nodi yn y rheoliadau. Mae gwahanol ddiffiniadau o “wasanaethau rheilffordd teithwyr” a “gwasanaethau rheilffordd” a ddefnyddir mewn gwahanol ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â rheilffyrdd (megis Rheoliadau Gwasanaethau Cyhoeddus Pwysig (Trafnidiaeth) 2017 ac yn Neddf Rheilffyrdd 1993 (megis yn a82)) a bydd yn bwysig i’r holl randdeiliaid fod yn glir ar ba wasanaethau rheilffordd i deithwyr, a pha weithwyr sy’n darparu’r gwasanaethau hynny, sydd o fewn cwmpas er mwyn i’r MSLs gael eu cymhwyso mor ymarferol a rhesymol â phosibl.

Cwestiwn 2: Yn amodol ar yr eithriadau a ddisgrifir yn Cwestiwn 3 isod, rydym yn cynnig y bydd y gwasanaethau rheilffordd teithwyr canlynol o fewn cwmpas i MSLs. Nodwch a ydych yn cytuno neu’n anghytuno os yw pob un o’r gwasanaethau hyn yn hanfodol er mwyn galluogi trenau teithwyr i gyrraedd isafswm lefelau gwasanaeth. Os ydych yn anghytuno, esboniwch pam.

  • Gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau gweithredu trenau teithwyr sy’n gweithredu gwasanaethau o dan gytundebau gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru neu Weinidogion yr Alban, gan gynnwys gweithredwyr sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus
  • Gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau gweithredu trenau teithwyr eraill sy’n gweithredu o dan drefniadau eraill gyda’r sector cyhoeddus (mae’r rhain yn cynnwys Rheilffordd Danddaearol Llundain, rheilffordd ysgafn benodol a gwasanaethau Uwchddaearol Llundain)
  • Gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau gweithredu trenau mynediad agored - h.y., y rhai sy’n gweithredu’n fasnachol, yn annibynnol ar unrhyw gytundeb â chyrff sector cyhoeddus
  • Gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr tramiau teithwyr
  • Gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr seilwaith rhwydwaith y mae’r trenau a’r tramiau i deithwyr uchod yn gweithredu drostynt (e.e., Network Rail), gan gynnwys y gwasanaethau canlynol:

    • adeiladu, cynnal a chadw, ail-alinio, ail-ffurfweddu neu adnewyddu traciau
    • gosod, gweithredu, cynnal a chadw neu adnewyddu system signalau rheilffordd neu unrhyw offer cyfathrebu rheilffordd arall
    • adeiladu, rheoli, cynnal a chadw neu adnewyddu rheiliau dargludydd trydanol neu linellau uwchben, unrhyw gynheiliaid ar gyfer rheiliau neu linellau o’r fath, ac unrhyw is-orsafoedd trydanol neu gysylltiadau pŵer a ddefnyddir neu i’w defnyddio mewn cysylltiad â hynny, a darparu pŵer trydanol drwy gyfrwng hynny
    • darparu a gweithredu gwasanaethau ar gyfer adfer neu atgyweirio locomotifau neu gerbydau eraill mewn cysylltiad ag unrhyw ddamwain, camweithrediad neu fethiant mecanyddol neu drydanol
    • darparu a gweithredu gwasanaethau ar gyfer cadw traciau’n rhydd rhag, neu er yn ddefnyddiol, tagfa (boed hynny drwy eira, rhew, dŵr, dail sydd wedi disgyn neu unrhyw rwystr neu rwystr naturiol neu artiffisial arall) neu ar gyfer cael gwared ar unrhyw rwystr o’r fath
    • darparu, gweithredu, cynnal a chadw ac adnewyddu unrhyw gyfarpar, offer neu beiriannau a ddefnyddir wrth gynnal unrhyw un o’r gweithgareddau a bennir ym mharagraffau (a) i (e) uchod
    • ymarfer rheolaeth o ddydd i ddydd ar symudiadau trenau dros neu ar hyd unrhyw drac a gynhwysir yn y rhwydwaith
    • paratoi amserlen at ddibenion y cyfryw reolaeth ag y cyfeirir ati ym mharagraff (g) uchod
  • Gwasanaethau cynnal a chadw ysgafn ar gyfer trenau a thramiau teithwyr (gan gynnwys ail-lenwi neu lanhau tu allan trenau teithwyr a thramiau a chynnal a chadw’r trenau neu’r tramiau hynny a gynhelir fel arfer ar gyfnodau rheolaidd o ddeuddeg mis neu lai i baratoi’r trenau neu tramiau teithwyr ar gyfer gwasanaeth)
  • Unrhyw wasanaethau mewn gorsafoedd sy’n hanfodol i alluogi trenau neu dramiau teithwyr i weithredu’n ddiogel ac yn sicr
  • Arall – esboniwch

1.51 Mae’r gwasanaethau yr ydym yn cynnig nad ydynt yn cael eu cipio gan ddeddfwriaeth MSL yn gwmnïau gweithredu nwyddau rheilffordd (sy’n cael eu heithrio am nad ydynt yn ymwneud â gwasanaethau rheilffyrdd teithwyr); rheilffordd ryngwladol (h.y., gwasanaethau sy’n cychwyn neu’n dod i ben y tu allan i Brydain Fawr, gan gynnwys gwasanaethau Twnnel y Sianel); gweithredwyr trenau teithwyr siarter preifat; a gwasanaethau rheilffordd treftadaeth, amgueddfeydd a thwristiaid.

1.52 Mae nifer sylweddol o nwyddau critigol allweddol sy’n hanfodol i fywyd bob dydd y cyhoedd yn symud ar wasanaethau nwyddau rheilffordd gan gynnwys tanwydd, biomas a gwastraff cartref. Mae symud y nwyddau hyn yn allweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol fel gwaredu gwastraff cartref a chynhyrchu ynni. Rydym felly’n cydnabod, wrth osod unrhyw isafswm lefel gwasanaeth ar gyfer y rhwydwaith, y dylai hyn ystyried defnydd eraill o’r rhwydwaith gan gynnwys cludo nwyddau.

1.53 Nid yw gwasanaethau rheilffordd rhyngwladol o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth hon gan fod y seiwaith a’r gwasanaethau oherwydd eu natur yn drawsffiniol ac mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i wasanaethau a ddarperir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn unig, heb unrhyw gwmpas tiriogaethol y tu allan i Brydain. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, fodd bynnag, byddai’r gwasanaethau ar seilwaith HS1, sydd o fewn Prydain yn unig, o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth hon.

Cwestiwn 3: Rydym yn cynnig y bydd y gwasanaethau rheilffordd canlynol i deithwyr yn cael eu heithrio o’r cmpas i MSLs berthyn iddynt. Nodwch a ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid eithrio’r gwasanaethau hyn. Dylech nodi mai Prydain Fawr yn unig yw cwmpas y ddeddfwriaeth ac ni allwch gynnwys gwasanaethau a ddarperir y tu allan i’r awdurdodaeth hon. Os ydych yn anghytuno, esboniwch pam.

  • Gwasanaethau rheilffordd rhyngwladol i deithwyr – h.y., lle mae gwasanaethau’n dechrau neu’n terfynu y tu allan i Brydain Fawr
  • Gwasanaethau sy’n defnyddio cerbyd treftadaeth neu ar reilffordd sy’n rheilffordd dreftadaeth, amgueddfa neu dwristiaid sy’n gweithredu ar ei rwydwaith ei hun
  • Gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr trenau teithwyr siarter preifat
  • Arall – esboniwch

Ffactorau i’w hystyried wrth ddylunio MSLs

Wrth ddylunio MSLs, mae sawl ffactor gwahanol y gellid eu hystyried er mwyn cydbwyso’r gallu i streicio ag effaith y streiciau hynny ar eraill.

Cwestiwn: Nodwch a ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid defnyddio pob un o’r ffactorau isod i lywio’r isafswm lefel o wasanaeth a gyflwynir, a’u rhestru yn nhrefn blaenoriaeth.Nodwch y rhesymeg sy’n sail i’ch dewisiadau.

  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd at ddibenion iechyd neu at ddiben ceisio sylw / triniaeth feddygol
  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd i gael mynediad i addysg
  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd er mwyn ennill bywoliaeth
  • Yr angen i ennill bywoliaeth gan y rhai sy’n teithio ar y rheilffordd
  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd i fwynhau amser preifat, neu amser teuluol
  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd am resymau hamdden neu dwristiaeth
  • Yr angen i osgoi niwed i’r economi
  • Ffactorau perthnasol eraill – nodwch

System ar gyfer gosod yr MSL

Mae nifer o wahanol ddulliau y gellid eu harchwilio wrth ystyried sut i osod MSLs ar gyfer y rheilffordd, gan gynnwys yn ôl pa system y dylid sefydlu MSLs.

Cwestiwn 5: Wrth osod isafswm lefel y gwasanaeth, p’un ydych chi’n credu y byddai’r system fwyaf priodol?

  • % o wasanaethau’n rhedeg o gymharu â diwrnod di-streic tebyg
  • % o’r gwasanaethau’n rhedeg ar yr adegau prysuraf o gymharu â gwasanaethau tebyg ar ddiwrnod di-streic
  • Nifer y teithwyr sy’n gallu teithio
  • System arall (dywedwch)
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch pam rydych chi’n credu hyn.

Casglu Tystiolaeth i Ddatblygu MSLs

2.1. Er mwyn cydbwyso buddiannau gwahanol y partïon sy’n ymwneud â streicio, mae angen i ni ehangu ein dealltwriaeth o faint effeithiau’r streic bresennol ar bobl, busnesau, a diwydiant ledled Prydain Fawr. Fel rhan o hyn, mae angen i ni hefyd ddeall sut mae’r rheilffordd yn cael ei defnyddio i gael mynediad at wasanaethau allweddol, ac argaeledd dulliau cludiant amgen.Bydd y dystiolaeth yn cael ei defnyddio i asesu sut y gallai MSLs chwarae rôl wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn a phenderfynu ar gydbwysedd priodol wrth osod MSLs ar gyfer rheilffordd teithwyr.

2.2 Dylai cyflogwyr sy’n darparu gwasanaethau y cynigir eu bod mewn cwmpas ar gyfer cymhwyso MSLs ddarparu tystiolaeth o’u meysydd gweithredu. Rydym hefyd yn annog Undebau Llafur a gweithwyr i gyflwyno eu tystiolaeth eu hunain, gan gynnwys yr effeithiau posibl y maent yn credu y gallai MSLs eu cael ar streicio, a ffyrdd y gellid gosod MSLs i liniaru’r effaith hon, tra’n parhau i ddiogelu anghenion hanfodol teithwyr. Rydym hefyd yn chwilio am dystiolaeth gan deithwyr ar effeithiau personol ar eu bywydau bob dydd.

2.3 Rydym yn cydnabod bod effeithiau’r streiciau yn amrywio yn ôl eu proffil, gan gynnwys amser yr wythnos, amser y dydd, a’r llwybr sy’n cael ei effeithio. Er enghraifft, gall streic ar linell gymudwyr a ddefnyddir yn drwm yn ystod y penwythnos achosi llai o anghyfleustra i deithwyr nag yn ystod yr wythnos waith.

2.4 Rydym yn gwahodd safbwyntiau gan ddefnyddwyr rheilffyrdd, cyflogwyr yn y sector rheilffyrdd, gweithwyr rheilffordd a sefydliadau sy’n cynrychioli gweithwyr rheilffordd a busnesau y tu allan i’r sector rheilffyrdd. Rydym wedi nodi’r cwestiynau isod yr ydym yn ystyried eu bod yn arbennig o berthnasol i bob un o’r grwpiau hyn, ond dim ond fel canllawiau y mae hyn, ac rydym yn gwahodd tystiolaeth gan ymatebwyr ym mhob grŵp.

Effeithiau streiciau rheilffordd ar ddefnyddwyr y rheilffordd

Mae gennym ddiddordeb mewn deall, lle mae teithwyr wedi dewis teithio ar ddyddiau streic, neu wedi bwriadu teithio, pa effaith mae streiciau wedi’i chael ar brofiad y teithwyr.Rydym hefyd yn edrych i ddeall sut y gallai streiciau ymyrryd â gallu pobl i fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd.

Cwestiwn 6: O’r opsiynau canlynol, dewiswch y rheswm rydych chi’n defnyddio’r rheilffordd fwyaf:

  • Cael mynediad i fan gwaith / dibenion gwaith eraill
  • Cael mynediad i fan addysg / dibenion addysgol eraill
  • Cael mynediad i gyfleusterau meddygol neu iechyd
  • Cymryd rhan mewn bywyd personol neu deuluol
  • Ar gyfer hamdden neu dwristiaeth
  • Os arall, nodwch

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffordd ysgafn a throm, rhowch ddau ymateb ar wahân i’r rhain.

Cwestiwn 7: Pa un o’r rhesymau canlynol sy’n disgrifio orau pam rydych chi’n defnyddio’r rheilffordd?Nodwch bopeth sy’n berthnasol.

  • Gwasanaeth cludiant agosaf at lle rydych chi’n cychwyn
  • Gwasanaeth cludiant agosaf at eich cyrchfan
  • Amledd
  • Oriau gweithredu
  • Cost
  • Cyfleustra neu ddewis personol
  • Dim math amgen hyfyw o drafnidiaeth sydd ar gael
  • Os arall, nodwch

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffordd ysgafn a throm, rhowch ddau ymateb ar wahân i’r rhain.

Cwestiwn 8: Pa mor bell ydych chi’n teithio i gyrraedd yr orsaf rydych chi’n ei defnyddio amlaf ar ddiwrnod rheolaidd? Faint ymhellach ydych chi’n rhesymol yn gallu teithio i gael mynediad i orsaf drenau sydd â gwasanaeth ar ddiwrnod streic?

Cwestiwn 9: Pa un o’r effeithiau canlynol, os o gwbl, ydych chi wedi’u profi oherwydd streiciau ar y rheilffordd? Ticiwch bopeth sy’n berthnasol.

  • Effeithiau ar gynlluniau teithio i weithio
  • Effeithiau ar gynlluniau teithio i ddarparwyr gofal iechyd
  • Effaith ar gynlluniau teithio i sefydliadau addysgol
  • Effaith ar gynlluniau teithio ar gyfer cymryd rhan mewn bywyd personol neu deuluol
  • Colli enillion neu gostau teithio ychwanegol a achosir gan streiciau.
  • Effeithiau neu brofiad eraill o deithio yn ystod streic (e.e., defnydd o drafnidiaeth amgen)

Dywedwch ragor wrthym am hyn. Efallai yr hoffech gynnwys:

  • P’un a ddigwyddodd y streic ar reilffordd drom neu ysgafn.
  • Profiad o wybodaeth a ddarperir o amgylch streiciau, gan gynnwys enghreifftiau megis lefel y rhybudd ymlaen llaw ac eglurder ynghylch amserlenni, neu allu i gael mynediad at ad-daliadau.

Cwestiwn 10: Lle rydych chi wedi dewis teithio ar ddyddiau streic, neu wedi bwriadu teithio, pa effaith mae streiciau wedi’i chael ar eich profiad?Ticiwch bopeth sy’n berthnasol.

  • Newidiadau i amlder y gwasanaeth
  • Newidiadau i lwybrau a chysylltiadau sydd ar gael
  • Newidiadau i oriau gwasanaeth
  • Unrhyw brofiad o orlenwi sydd wedi cael effaith ar a allech chi deithio, neu eich profiad teithio
  • Argaeledd staff i ddarparu help a chymorth
  • Arall (nodwch)

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom neu ysgafn, neu’r ddau gan gynnwys mwy o fanylion am yr effaith a brofwyd gennych. Os yw eich ymateb yn wahanol i reilffordd ysgafn a throm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 11: Ar ba bwynt fyddech chi’n penderfynu canslo eich cynlluniau i deithio ar ddiwrnod streic? Esboniwch eich ateb. Efallai y byddwch am ystyried ffactorau fel pellter i’ch gorsaf agosaf gyda gwasanaeth, amlder gwasanaeth neu’r oriau mae’r gwasanaeth yn gweithredu.

Tystiolaeth yn ofynnol gan gyflogwyr yn y sector rheilffyrdd

Effeithiau streicio ar y sector rheilffordd

Cwestiwn 12 – Rydym yn gwahodd tystiolaeth gan gyflogwyr yn y sector rheilffordd ar:

  • mae’r ffordd mae nifer a chyfran y gwasanaethau teithwyr sy’n cael eu gweithredu yn amrywio yn dibynnu ar nifer a math y gweithwyr sydd ar streic
  • cofiwch gynnwys dadansoddiad o’r wybodaeth hon yn ôl math o wasanaeth, llinell a rhanbarth ar gyfer diwrnodau streic a’r diwrnod yn syth ar ôl streic o’i gymharu â diwrnod ag amserlen arferol
  • y categorïau staff sydd eu hangen arnoch i redeg gwasanaethau ar ddiwrnodau streic - gallai hyn gynnwys enghreifftiau o weithgarwch streicio diweddar ar faint o staff FTE y dydd sydd eu hangen i gynnal gwasanaethau ar ddiwrnod streic
  • effaith streicio ar brofiad cwsmeriaid.Gallai hyn fod yn seiliedig ar wybodaeth fel ymatebion arolwg, adborth cwsmeriaid, a’ch asesiad o’r effeithiau
  • effaith streicio ar brosiectau rheilffordd arfaethedig, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw a pheirianneg
  • unrhyw ystyriaethau diogelwch sy’n unigryw i ddiwrnodau streic

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom neu ysgafn neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol i reilffordd ysgafn a throm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Darparu adnoddau i amserlen ddibynadwy

Rydym yn ymwybodol nad yw darparu canran benodol o wasanaeth yn golygu bod rhaid i’r ganran gyfatebol o staff weithio i’w ddarparu. Gyda hyn mewn golwg, hoffem gasglu tystiolaeth gan weithredwyr yn benodol ar sut mae’r ddau ffactor hyn yn rhyngweithio er mwyn llywio goblygiadau cynllunio posib ar gyfer diwrnodau streic. Er enghraifft, i roi mwy o fanylion i ni ar nifer y gweithwyr a allai fod yn ofynnol i ddarparu lefel benodol o wasanaeth, gan ystyried y gwahanol fathau o weithwyr dan sylw.

Cwestiwn 13: Rhowch amcangyfrif ar gyfer canran staff sydd eu hangen i weithredu lefelau gwahanol o wasanaeth. Er enghraifft, canran y staff a allai fod yn ofynnol i ddarparu gwasanaeth o 20%, gwasanaeth 30%, gwasanaeth 40% a gwasanaeth 60%. Gwnewch yn glir pa baramedrau y mae’r canrannau hyn yn seiliedig arnynt (e.e., mathau o weithwyr, amseroedd darparu gwasanaethau ac ati).

Rhowch fanylion hefyd ar sut rydych wedi cyrraedd yr amcangyfrif hwn, a dadansoddiad o ba gyfran o bob rôl y byddai ei hangen arnoch er mwyn i’ch amserlen fod yn hyfyw.

Effeithiau deddfwriaeth MSL ar weithwyr a sefydliadau rheilffordd sy’n cynrychioli gweithwyr rheilffordd e.e. undebau llafur

Cwestiwn 14: Rydym yn gwahodd ymatebwyr i nodi sut maen nhw’n credu y gallai MSLs gael ei gosod mewn ffordd sy’n lliniaru effeithiau ar streicio, tra’n parhau i warchod anghenion hanfodol teithwyr.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffordd ysgafn a throm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Goblygiadau ariannol rhagamcanol o gyflawni deddfwriaeth MSL

Rydym yn cydnabod y gallai cynigion ar gyfer y rheoliadau hyn gael goblygiadau ariannol o ran costau cyflwyno a chostau gweithredu parhaus pe byddai streiciau.

Yn yr un modd, gall buddion gronni i gyflogwyr sy’n cael eu heffeithio gan y streiciau a fydd yn derbyn incwm a fyddai fel arall wedi’i golli.

Cwestiwn 15: Hoffem wahodd ymatebwyr i roi asesiad o gostau a buddion posibl i ni, gan gynnwys o safbwynt cyflwyno a gweithredu parhaus, a chynnig, lle bo hynny’n briodol, ffyrdd o’u gwrthbwyso heb droi at arian cyhoeddus.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a throm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Effeithiau ar gyflogwyr y tu allan i’r diwydiant rheilffyrdd, busnesau a sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau

Cwestiwn 16: A yw streiciau diweddar ar y rheilffyrdd wedi cael effaith ar eich busnes neu sefydliad?

  • Ydyn
  • Nac ydyn

Cwestiwn 17 (Dim ond os ateboch chi Ydyn i Gwestiwn 16): Pa rai o’r effeithiau canlynol mae eich busnes neu sefydliad wedi’u profi? Nodwch bopeth sy’n berthnasol.

  • Colli refeniw
  • Absenoldeb staff
  • Effeithiau ar hyfywedd busnes
  • Cynnydd mewn gweithio gartref sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â gostyngiad mewn refeniw/cynhyrchiant
  • Os arall nodwch

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffordd ysgafn a throm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 18: Os yw’n berthnasol, rhowch dystiolaeth ar gyfer y canlynol:

  • Effeithiau mwy hirdymor streiciau ar eich busnes, gan gynnwys cwsmeriaid coll posibl sydd wedi dewis ffyrdd eraill o wneud busnes o ganlyniad i darfu, neu unrhyw effeithiau tymor hwy ar enw da.
  • Effaith gweithredu diwydiannol ar y rheilffordd ar argaeledd gweithwyr, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) gweithwyr iechyd, addysg, a gwasanaethau golau glas.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a throm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 19: Os yw’n berthnasol, pa gynlluniau wrth gefn rydych chi wedi’u rhoi ar waith ar gyfer streiciau?Er enghraifft, trefnu trefniadau cludiant arbennig i staff, talu costau gwestai fel y gall staff aros yn agosach at y gwaith, newid oriau gwaith neu batrymau sifft, neu newid y ffordd rydych chi’n symud nwyddau, megis o’r rheilffordd i gludo nwyddau ar y ffyrdd.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffordd ysgafn a throm, rhowch ddau ymateb ar wahân i’r rhain.

Astudiaeth achos: Darparu gwasanaethau rheilffordd ar ddyddiau streic blaenorol

Hoffem gasglu tystiolaeth ar ba isafswm lefel o wasanaeth sy’n briodol ar ddiwrnod streic. Felly, gallai fod yn ddefnyddiol ystyried rhai astudiaethau achos ffeithiol yn esbonio pa lefelau o wasanaeth sydd wedi’u darparu ar ddiwrnodau streic blaenorol, a’r cyd-destun o’u cwmpas.

Yn ystod streiciau cenedlaethol diweddar, mae’r diwydiant wedi ceisio darparu lefel mor uchel o wasanaeth â phosib. Mae’r lefelau gwasanaeth cyfatebol wedi amrywio’n sylweddol ar lefel genedlaethol a rhanbarthol yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y streic, o bwy yr effeithiwyd arno (e.e. gweithredwyr a/neu ddarparwyr seilwaith) i’r diwrnod y galwyd arno. Rydym wedi darparu isod rai enghreifftiau o wasanaethau diwrnod streic diweddar i roi golwg ddangosol ar berfformiad diwrnod streic ac yn gwahodd ymatebwyr i ddarparu sylwadau ar y lefel hon o wasanaeth i lywio cynllunio isafswm lefel gwasanaeth. Defnyddir yr astudiaethau achos hyn at ddibenion darluniadol lefelau’r gwasanaeth a gyflawnwyd yn y gorffennol a’r unig fwriad yw gwahodd sylwadau ar lefel y gwasanaeth a brofwyd a dim agwedd arall ynghylch y streic honno. Nid ydynt yn rhagfynegiadau o lefel y gwasanaeth a allai ddeillio o streiciau posib yn y dyfodol, a fyddai’n destun yr amodau penodol y maent yn codi o’u cwmpas.

Astudiaeth achos A: 4fed Ionawr, 2023 Streic RMT

Yn ystod streiciau a effeithiodd ar rai gweithredwyr ar draws Prydain Fawr a Network Rail ar 4 Ionawr fe geisiodd y diwydiant redeg lefel o wasanaeth oedd yn sicrhau bod rhai gwasanaethau yn dal i weithredu. Mae’r map o’r llwybrau a flaenoriaethwyd yn ystod y streiciau hyn i’w weld yn Atodiad B.

Roedd yr amserlen a ddatblygwyd gan y diwydiant yn gweithredu dros gyfnod o 12 awr rhwng 7am a 7pm gan ddarparu tua 20% o’r nifer rheolaidd o wasanaethau i weithredu’n genedlaethol. Fodd bynnag, o ystyried yr ystyriaethau sy’n sail i’r egwyddorion blaenoriaethu a ddefnyddiwyd gan y diwydiant, roedd amrywiaeth rhanbarthol o ran gwasanaethau. I ddangos hyn, gweler dadansoddiad gweithredwr-wrth-weithredwr o lefelau gwasanaeth ar ddiwrnod y streic ar 4 Ionawr yn Ffigwr 1, er hyd yn oed o fewn gweithredwyr roedd amrywiaeth rhanbarthol o ran darpariaeth gwasanaethau nad yw’n cael ei ddal yma.

Ffigwr 1.Gwasanaethau a oedd yn rhedeg ar ddiwrnod streic RMT ar 4fed Ionawr 2023 ar Network Rail a gweithredwyr fel canran o nifer nodweddiadol o wasanaethau sy’n cael eu rhedeg.[footnote 17]

Figure 1. Services run on 4th January 2023 RMT strike on Network Rail and operators as percentage of typical number of services run.

*Staff y gweithredwr ar streic

Cwestiwn 20: Beth oedd eich profiad chi eich hun o’r streiciau hyn a lefel y gwasanaeth a ddarparwyd ar y diwrnod hwn?Os ydych yn ateb o safbwynt teithiwr a deithiodd/a oedd yn bwriadu teithio ar un o’r gwasanaethau a oedd ar gael ar y diwrnod hwn, esboniwch pa wasanaeth trên, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arnynt.

  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy isel
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn dderbyniol
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy uchel

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Cwestiwn 21: O’i gymharu ag amserlen diwrnod di-streic, pa ganran isafwm lefel o wasanaeth fyddech chi’n ei ystyried yn dderbyniol o ystyried bod streic yn digwydd? Os ydych yn ateb o safbwynt teithiwr a deithiodd/a oedd yn bwriadu teithio ar un o’r gwasanaethau a oedd ar gael ar y diwrnod hwn, esboniwch pa wasanaeth trên, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arno.

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Astudiaeth achos B: 1 Chwefror, 2023 Streic ASLEF

Yn ystod streiciau ar 1 Chwefror 2023, a effeithiodd ar rai gwasanaethau teithwyr, ceisiodd gweithredwyr barhau i redeg gwasanaethau lle bo modd. Yn yr astudiaeth achos hon, oherwydd natur y streic a oedd yn effeithio ar staff gyrwyr trenau yn bennaf, cafodd gwasanaethau eu blaenoriaethu’n wahanol.

Er bod amrywio rhanbarthol sylweddol, ac nid oedd rhai gweithredwyr yn rhedeg unrhyw wasanaethau o gwbl, roedd yr amserlen yr oedd y diwydiant yn ei rhedeg yn ceisio optimeiddio’r defnydd o adnoddau i gynnig cymaint o wasanaethau â phosibl, yn ddiogel ac yn ddibynadwy. Canlyniad hyn oedd cyfartaledd cenedlaethol o tua 40% o wasanaethau oedd yn rhedeg, fodd bynnag, roedd gweithredwyr nad oedd eu staff ar streic yn gallu rhedeg lefel dda o wasanaeth a arweiniodd at amrywio rhanbarthol sylweddol iawn. Mae dadansoddiad gweithredwr wrth weithredwr o hyn i’w weld yn Ffigwr 2, gan ddangos bod gwasanaethau’n cael eu rhedeg ar ddiwrnod y streic ar 1af Chwefror wrth i % o’r gwasanaethau nodweddiadol redeg.Fel o’r blaen, hyd yn oed o fewn gweithredwyr roedd amrywio rhanbarthol heb ei ddal yma.

Ffigwr 2. Gwasanaethau yn rhedeg ar ddiwrnod streic ASLEF ar 1af Chwefror 2023 fel canran o nifer nodweddiadol o wasanaethau sy’n cael eu rhedeg.[footnote 18]

Figure 2. Services run on 1st February 2023 ASLEF strike as percentage of typical number of services run.

*Staff y gweithredwr ar streic (gyrwyr depo a gyrwyr Island Line yn unig yn SWR)

Cwestiwn 22: Beth oedd eich profiad chi o’r streiciau hyn a lefel y gwasanaeth a ddarparwyd ar y diwrnod hwn?Os ydych yn ateb o safbwynt teithiwr a deithiodd/a oedd yn bwriadu teithio ar un o’r gwasanaethau a oedd ar gael ar y diwrnod hwn, esboniwch pa weithredwr, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arno.

  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy isel
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn dderbyniol
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy uchel

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Cwestiwn 23: O’i gymharu ag amserlen diwrnod di-streic, pa isafswm lefel o wasanaeth fyddech chi’n ei ystyried yn dderbyniol o ystyried bod streic yn digwydd?Os ydych yn ateb o safbwynt teithiwr a deithiodd/a oedd yn bwriadu teithio ar un o’r gwasanaethau a oedd ar gael ar y diwrnod hwn, esboniwch pa wasanaeth trên, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arno.

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Cwestiwn 24: Os gwnaethoch deithio, ceisio teithio neu roi’r gorau i’ch cynlluniau teithio yn ystod streic yn ystod y 12 mis diwethaf heblaw’r rhai a ddisgrifir yn yr astudiaethau achos, beth oedd eich profiad eich hun o’r streiciau eraill hyn a lefel y gwasanaeth a ddarparwyd ar y diwrnod hwn?

  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy isel
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn dderbyniol
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy uchel

Esboniwch pa ddiwrnod streic, gwasanaeth trenau, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arno.

Opsiynau ar gyfer Gosod MSLs ar gyfer Rheilffordd Teithwyr

3.1 Nid yw cyflwyno MSLs ar gyfer rheilffordd yn gysyniad newydd. Mae nifer o enghreifftiau ar draws Ewrop o sut mae isafswm lefelau gwasanaeth yn cael eu defnyddio i reoli lefel y gwasanaeth yn ystod streiciau rheilffordd, megis yn yr Eidal a Sbaen lle mae deddfwriaeth wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer. Mae dulliau gwahanol mewn gwahanol wledydd, ond mae pob un wedi’i seilio ar yr un cynsail o sicrhau effaith fwy cymesur ar ddefnyddwyr gwasanaeth.Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod y byddai MSLs yn newydd ar gyfer y rheilffordd ym Mhrydain Fawr. Er bod cymaryddion rhyngwladol yn ddefnyddiol wrth ddarlunio dulliau a ddefnyddir mewn mannau eraill, mae’r systemau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol sy’n berthnasol ar draws gwahanol awdurdodaethau yn amrywio’n sylweddol ac ni fydd yr hyn sy’n gweithio mewn un wlad o reidrwydd yn gweithio mewn un arall.Mae’n bwysig felly bod dylunio’r ddeddfwriaeth hon ar gyfer y rheilffordd yn ystyried nodweddion unigryw ein rheilffyrdd, yn ogystal â’r cyd-destun deddfwriaethol cyflogaeth ehangach.

3.2 Mae llawer o ffyrdd y gallem osod MSLs, ac mae’r bennod hon yn archwilio rhai opsiynau. Mewn unrhyw ddull yr ydym yn ei gymryd, rydym yn awyddus i bwyso ystyriaethau allweddol yn ofalus, megis i pa agweddau ar wasanaethau rheilffordd teithwyr y dylai isafswm gwasanaeth fod yn berthnasol iddynt a sut y gellid gosod MSLs.Rydym yn defnyddio’r ddogfen ymgynghori hon i gasglu eich barn ac ymgysylltu â chymaint o ymatebwyr â phosibl.

3.3 Mae sut y bydd MSLs yn gweithredu ar draws Prydain Fawr hefyd yn ystyriaeth allweddol, gan gynnwys lle mae darparu rheilffordd yn cynnwys ystyried rolau sefydliadau eraill megis awdurdodau cyfunol maerol (MCAs) ac awdurdodau trafnidiaeth leol (LTAs). Er enghraifft, mae gan TfL, o dan gyfarwyddyd strategol Maer Llundain, gyfrifoldeb am Reilffordd Danddaearol Llundain.

Opsiynau arfaethedig ar gyfer gosod MSLs

3.4 Hoffem ddeall barn ymgyngoreion ar opsiynau arfaethedig ar gyfer gosod isafswm lefelau gwasanaeth (fel y nodir isod) a’u perthnasedd, yn enwedig eu gweithrediad ymarferol. Rydym hefyd yn ceisio barn ehangach ar yr hyn y mae ymgyngoreion yn ystyried y dylai fod yn ffocws a blaenoriaeth allweddol wrth ddylunio MSLs ar gyfer y rheilffordd, gan gynnwys cwmpas daearyddol llwybrau, nifer ac amseroedd gwasanaethau o dan MSL.

3.5 Mae’r opsiynau hyn yn cael eu hystyried i’w cymhwyso yn y rheilffyrdd trom ac ysgafn, er yn nodi bod gwahaniaethau yn y ffordd y gall fod angen eu cymhwyso i ystyried gwahaniaethau rhwng sut mae rheilffordd drom a rheilffyrdd ysgafn yn gweithredu.

3.6 Er enghraifft, ar gyfer rheilffordd ysgafn a Rheilffordd Danddaearol Llundain, gall anghenion trafnidiaeth pob rhanbarth fod yn wahanol, felly byddai unrhyw gynllunio wrth gefn yn wahanol o wasanaeth i wasanaeth. Mae cymhlethdod a graddfa gwasanaeth tanddaearol Llundain yn cyflwyno heriau pellach i MSLs.

Opsiynau ar gyfer gosod MSLs ar gyfer rheilffordd teithwyr

3.7 Ar ôl ystyried yr egwyddorion a ddisgrifir yn Adran 1, a’r wybodaeth sydd ar gael hyd yma, rydym wedi nodi dau opsiwn penodol ar gyfer darparu isafswm lefelau gwasanaeth ar reilffordd teithwyr.

Opsiwn 1: Dylunio fframwaith isafswm lefel gwasanaeth yn seiliedig ar drefniadau amserlen presennol

Byddai’r opsiwn hwn ar gyfer dylunio MSLs yn cynnwys ystyried amserlenni presennol a gosod MSLs yn gymharol i amserlenni ar ddiwrnod di-streic.

Gallai’r amserlen fod yn seiliedig ar yr amserlen ddisgwyliedig a oedd eisoes yn bodoli ar gyfer y diwrnod streic a enwir. Er enghraifft, os oedd y streic yn digwydd ar ddiwrnod 1af mis, byddai’r amserlen arfaethedig bresennol ar gyfer y diwrnod hwnnw yn sail i hynny, a byddai’r MSL yn cael ei osod fel lefel o’r gwasanaeth arfaethedig hwnnw.

Byddai’r dull hwn yn caniatáu i’r MSL ystyried gwahanol batrymau teithio ac anghenion teithwyr ar draws gwahanol ddyddiau o’r wythnos ac mewn gwahanol rannau o’r wlad, yn ogystal â dyddiau lle mae anghenion penodol am fwy o wasanaethau, megis ynghylch digwyddiadau allweddol. Mae’r ystyriaethau hyn i gyd yn cael eu dal yn y ffordd y mae amserlenni’n cael eu paratoi ar hyn o bryd.

Byddai’r amserlen a gynlluniwyd ymlaen llaw yn cael ei haddasu i isafswm lefel gwasanaeth priodol a fyddai’n cael ei osod yn seiliedig ar dystiolaeth o ymgynghori, megis coridorau sy’n cael eu defnyddio gan niferoedd uchel o bobl i gyrraedd y gwaith neu gael mynediad at wasanaethau allweddol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cwestiynau pellach sydd wedi’u cynllunio i ddeall anghenion teithwyr, a sy’n defnyddio’r rhain wrth ddylunio rheoliadau.

O dan yr opsiwn hwn fe welwch amrywiadau rhanbarthol mewn gwasanaeth, ac mewn rhai ardaloedd efallai y byddwch yn gweld darpariaeth gwasanaeth wedi’i lleihau’n sylweddol.

Opsiwn 2: Dylunio map llwybrau blaenoriaethol o’r rhwydwaith rheilffyrdd trwm ac ysgafn ar draws Prydain Fawr y mae’n rhaid darparu isafswm lefelau gwasanaeth arno

Byddai map y llwybrau’n cael ei benderfynu ar ôl ystyried tystiolaeth ar amryw faterion gan gynnwys pa lwybrau y dylid eu blaenoriaethu, pa orsafoedd ddylai fod ar agor, a lefel y gwasanaeth y dylid ei ddarparu ar bob llwybr (h.y. nifer y gwasanaethau sy’n stopio mewn gorsafoedd ar y llwybr hwnnw).

Rydym wedi cyflwyno dau opsiwn isod am sut y gellid cynllunio map llwybrau, gan ystyried blaenoriaethau gwahanol, gan gynnwys oriau gwasanaeth a chwmpas daearyddol.

Byddem yn nodi llinellau blaenoriaethol yn seiliedig ar ystod o ffactorau gan gynnwys tystiolaeth o lwybrau allweddol ar gyfer niferoedd uchel o bobl yn cyrraedd y gwaith neu i gael mynediad at wasanaethau allweddol.

Ein disgwyliad, pe bai’r opsiwn hwn yn cael ei ddilyn yw y byddai’r map llwybrau hwn, a lefelau’r gwasanaeth sydd eu hangen, yn berthnasol mewn streiciau cenedlaethol a lleol.

Yn amlwg, po fwyaf y gyfran o’r wlad gyda gorsafoedd ar agor, y mwyaf o wasanaethau sy’n stopio yn y gorsafoedd hyn, a pho hwyaf yr oriau mae’r trenau hyn yn rhedeg amdano, y mwyaf o staff y mae’n ofynnol eu henwi ar hysbysiad gwaith. Mae gwahanol ddulliau y gallem eu cymryd i ddylunio’r map llwybrau a lefelau cysylltiedig o wasanaeth. Ym mhob senario rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau gwasanaeth i deithwyr, a byddai angen ystyried hyn wrth ddylunio’r hyn fyddai’n bosib ei gyflawni.Byddai cyfathrebu i gwsmeriaid yn dibynnu ar lefel y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig ond byddai angen amlygu’r cyfyngiadau ar argaeledd trenau yn yr un ffordd y mae gweithredwyr yn cyfathrebu ar ddiwrnodau streic presennol.

O safbwynt rheilffordd ysgafn, rydym yn cydnabod, mewn rhai systemau lle nad oes ond un llinell wedi’i chynnwys ar gyfer y gwasanaeth, mae’r map blaenoriaeth hwn yn debygol o fod yn 100% o’r llwybr, er y gall fod achosion lle nad yw pob stop yn cael ei ddefnyddio.

O fewn yr opsiwn hwn, rydym yn profi dau ddull gwahanol o ddylunio’r map llwybrau blaenoriaethol:

Opsiwn 2a: Dylunio map llwybrau blaenoriaethol sy’n canolbwyntio ar fwy o oriau o wasanaeth

Byddai’r is-opsiwn hwn yn canolbwyntio ar nodi llwybrau blaenoriaethol, a darparu gwasanaethau ar y llwybrau hynny am gyfnod mor hir â phosibl. Gallai’r fersiwn hon o’r map dynnu ar enghreifftiau presennol o sut mae llwybrau blaenoriaethol yn cael eu rheoli yn ystod streiciau cyfredol ym Mhrydain, lle bo hynny’n berthnasol.

Byddai’r isafswm lefelau gwasanaeth yn cael eu gosod ar gyfer y llwybrau blaenoriaethol hynny yn unig a gallai olygu bod gan rai ardaloedd o’r wlad lefelau cyfyngedig o wasanaeth, neu ddim gwasanaeth o gwbl.

Ein bwriad o dan yr is-opsiwn hwn fyddai i’r isafswm lefel gwasanaeth weithredu am gyfnod mor rhesymol bosibl o’i gymharu â’r rhai a welwyd ar ddiwrnodau streic yn flaenorol, sydd wedi bod tua 12 awr. Hyd cyfnod yr opsiwn hwn fyddai rhwng 18 a 24 awr, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad.

Opsiwn 2b: Dylunio map llwybrau blaenoriaethol sy’n canolbwyntio ar fwy o gwmpas daearyddol y gwasanaeth

Byddai’r is-opsiwn hwn yn canolbwyntio ar gael cymaint o’r rhwydwaith rheilffyrdd ar agor â phosibl gyda lefel sylfaenol o wasanaeth.

Byddai hyn yn defnyddio ystod o ffactorau, gan gynnwys tystiolaeth ynghylch effeithiau streiciau i nodi’r llwybrau blaenoriaethol y byddai MSLs yn cael eu darparu arnynt. Y bwriad fyddai dylunio’r map llwybrau yn seiliedig ar gwmpas daearyddol mor eang â phosibl (er enghraifft, i wneud y gorau o’r nifer o orsafoedd ar draws Prydain Fawr sydd â gwasanaethau yn rhedeg). Gallai hyn arwain at lefel is o wasanaeth i rai ardaloedd na’r hyn a welir ar ddiwrnodau streic penodol ar hyn o bryd, ond lefelau gwell o wasanaeth i eraill ac yn gyffredinol.Yn yr un modd, dylid nodi, hyd yn oed lle rydym yn blaenoriaethu cwmpas daearyddol, ein bod yn debygol o weld dim gwasanaeth mewn rhai ardaloedd o hyd.

O ystyried y byddai’r ffocws yn fwy ar lwybrau ar agor nag yn opsiwn 2a, gallai hyn arwain at lefelau is o wasanaeth ar rai o’r llwybrau hyn na’r hyn a welir ar ddiwrnodau streic penodol ar hyn o bryd, er mwyn i’r cyhoedd ehangach dderbyn lefel gwasanaeth well yn gyffredinol.

Yn amodol ar yr ymgynghoriad, gallai cynyddu lefel y ddarpariaeth ddaearyddol olygu hefyd nad ydym yn gallu cynyddu oriau’r gwasanaeth o’i gymharu â’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddiwrnodau streic, felly mae’r opsiwn hwn yn seiliedig ar lefel o wasanaeth 12 awr.

Cwestiwn 25: Beth yw’r opsiwn a ffefrir gennych ar gyfer sut mae MSLs yn cael eu gweithredu ar gyfer rheilffordd drom, ac ar gyfer rheilffordd ysgafn? Rhowch ddau ateb os oes gennych ddewis gwahanol ar draws rheilffyrdd trwm ac ysgafn.

  • Opsiwn 1: Dylunio fframwaith isafswm lefel gwasanaeth yn seiliedig ar drefniadau amserlen presennol
  • Opsiwn 2: Dylunio map llwybrau blaenoriaetol o’r rhwydwaith rheilffyrdd trwm ac ysgafn ar draws Prydain Fawr y mae’n rhaid darparu isafswm lefelau gwasanaeth ar ei gyfer
  • Dim dewis

Cwestiwn 26: Nodwch y rhesymau dros eich dewis yn Cwestiwn 25, gan gynnwys unrhyw ystyriaethau ar gyfer gweithredu’n ymarferol yr hoffech ein gwneud yn ymwybodol ohonynt?

Cwestiwn 27: Yn achos Opsiwn 2, pa un ydych chi’n meddwl yw’r sail fwyaf priodol ar gyfer datblygu’r map llwybrau blaenoriaethol?

  • Opsiwn 2a: Blaenoriaethu yn seiliedig ar ymestyn oriau gwasanaeth
  • Opsiwn 2b: Blaenoriaethu yn seiliedig ar ymestyn cwmpas daearyddol gwasanaeth

Nodwch y rhesymau dros eich dewis, gan gynnwys unrhyw ystyriaethau ar gyfer gweithredu’n ymarferol yr hoffech ein gwneud yn ymwybodol ohonynt?

Cwestiwn 28: Pe byddem yn archwilio datblygu llwybrau blaenoriaethol, beth ydych chi’n meddwl ddylai fod y ffactor pwysicaf wrth ddylunio map llwybrau blaenoriaethol? Rhowch yr opsiynau canlynol yn nhrefn blaenoriaeth os yn bosib.

  • Gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan deithwyr i gyrraedd y gwaith neu’r ysgol, neu i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd, sy’n cael eu blaenoriaethu yn ôl lefel y galw
  • Gwasanaethau pellter hir rhwng dinasoedd
  • Gwasanaethau sy’n cysylltu ardaloedd gwledig efallai nad oes ganddynt ddewisiadau trafnidiaeth eraill
  • Llwybrau sy’n cefnogi seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus allweddol
  • Arall (nodwch)

Nodwch y rhesymau dros eich dewis.

Cwestiwn 29: Os gall gwasanaethau redeg yn ystod oriau penodol yn unig, pa gyfnodau amser ydych chi’n meddwl y dylid eu blaenoriaethu?Rhowch y cyfnodau amser a ffefrir gennych yn nhrefn blaenoriaeth gyda’ch opsiwn blaenoriaeth uchaf yn gyntaf.

  • Oriau brig y bore
  • Oriau brig y nos
  • Bore cynnar (cyn 7am)
  • Noson hwyr (ar ôl 7pm)
  • Gwasanaethau yn ystod cyfnod o 12 awr (7am i 7pm)
  • Beth bynnag y gellir rhoi adnoddau iddo’n fwyaf dibynadwy, waeth beth yw’r amseroedd
  • Arall (e.e., teithio ar y penwythnos ar adegau penodol)

Nodwch y rhesymau dros eich dewis.

Cwestiwn 30: Yn dilyn cyflwyno isafswm lefelau gwasanaeth, pa lefel o wasanaeth fyddech chi’n disgwyl ei weld ar ddiwrnod streic, fel canran o’r amserlen arferol ar ddiwrnod di-streic?

Esboniwch y rhesymeg dros eich ateb. Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried pa flaenoriaethau y dylid eu hystyried wrth osod yr MSL, gan gynnwys cwmpas daearyddol, amseroedd y dydd a llwybrau penodol, megis llwybrau arbennig o brysur i deithwyr; proffiliau galw yn ystod y dydd o’u cymharu ag amserlen yn ystod yr wythnos.

Er gwybodaeth, gweler enghreifftiau o lefelau’r gwasanaeth a gyflwynwyd ar ddiwrnodau streic diweddar:

Fel y nodwyd yn Astudiaeth Achos A (tudalen 32 o’r ymgynghoriad), yn ystod streic reilffordd genedlaethol RMT ddiweddar ar 4 Ionawr 2023, a oedd yn cynnwys Network Rail a’r rhan fwyaf o weithredwyr trenau, gweithredodd y diwydiant rheilffordd drom strategaeth flaenoriaethu i ddiogelu llifau allweddol. Roedd y strategaeth yn dibynnu ar gronfa o staff wrth gefn, ac yn gweithredu fel rheilffordd 12 awr rhwng 7am a 7pm. Ar y diwrnod penodol hwn, roedd tua 20% o wasanaethau teithwyr yn gallu rhedeg.

Fel y nodwyd yn Astudiaeth Achos B (tudalen 33 o’r ymgynghoriad), yn ystod streic ASLEF ddiweddar ar 1 Chwefror 2023, a effeithiodd ar rai gwasanaethau teithwyr, ceisiodd gweithredwyr barhau i redeg gwasanaethau lle bo modd. Yn y senario hon, cafodd gwasanaethau eu blaenoriaethu’n wahanol. Er bod amrywio rhanbarthol sylweddol, ac nad oedd rhai gweithredwyr yn rhedeg unrhyw wasanaethau o gwbl, roedd yr amserlen a redwyd gan y diwydiant yn ceisio defnyddio’r adnoddau oedd ar gael i gynnig cymaint o wasanaethau â phosibl, yn ddiogel ac yn ddibynadwy. Canlyniad hyn oedd cyfartaledd cenedlaethol o tua 40% o’r gwasanaethau a oedd yn rhedeg. Fodd bynnag, roedd gweithredwyr nad oedd eu staff ar streic (e.e. gweithredwyr mynediad agored) yn gallu rhedeg lefel dda o wasanaeth a arweiniodd at amrywio rhanbarthol sylweddol iawn.

Fel enghraifft arall, ar ddydd Sul nodweddiadol, mae gwasanaethau’n rhedeg tua 60%, o’i gymharu ag amserlen arferol yn ystod yr wythnos. Dylid nodi bod hyn yn amcangyfrif dangosol, ac mae lefel y gwasanaeth hefyd yn amrywio ar draws gweithredwyr. Mae gan wasanaethau dydd Sul hefyd drefniadau amserlen gwahanol i ddyddiau’r wythnos, fel dechrau’n hwyrach a chael proffiliau galw gwahanol yn ystod y dydd o’i gymharu ag amserlen yn ystod yr wythnos.

Opsiynau eraill

Yn ogystal â cheisio barn am yr opsiynau a gyflwynir, byddem hefyd yn croesawu awgrymiadau gan ymatebwyr ar unrhyw opsiynau neu ddulliau eraill y dylid eu hystyried.Fel rhan o hyn, byddwn hefyd yn ystyried eich ymatebion mewn perthynas â lefelau’r gwasanaeth ar ddiwrnodau streic blaenorol fel y disgrifir yn yr astudiaethau achos yn Adran 2.

Cwestiwn 31: Ar wahân i Opsiwn 1, 2a a 2b, oes gennych awgrymiadau pellach ar opsiynau y dylem eu hystyried ar gyfer gosod MSLs i’r rheilffyrdd? Oes/Nac Oes

Os oes, rhowch fanylion pellach, gan gynnwys a yw’r opsiwn arfaethedig yn berthnasol i reilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau.

Cwestiwn 32: Wrth osod isafswm lefel y gwasanaeth, beth rydych chi’n meddwl fyddai’r ffactor mwyaf priodol?

  • Oriau gweithredu
  • Mwy o lwybrau’n rhedeg
  • Mwy o orsafoedd ar agor
  • Gwell gwasanaethau at ddibenion cymudo
  • Gwell gwasanaethau at ddibenion hamdden
  • Ffactor arall (nodwch)
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Ble fyddai Isafswm Lefelau Gwasanaeth yn berthnasol?

Cwmpas daearyddol deddfwriaeth MSL

4.1 Bydd y Bil yn berthnasol i Gymru, Lloegr, a’r Alban (Prydain Fawr). Pwrpas y Bil yw rheoleiddio hawliau cyflogaeth, dyletswyddau a chysylltiadau diwydiannol mewn gwasanaethau penodedig. Mae hawliau cyflogaeth a dyletswyddau a chysylltiadau diwydiannol yn faterion sydd wedi eu cadw’n ôl. Mae’r Bil hwn yn galluogi Llywodraeth y DU i gymhwyso rheoliadau MSL i sectorau allweddol ar draws Prydain.

4.2 Mewn rhai achosion, mae’n cydnabod y gallai hyn effeithio ar gyflogwyr sy’n gweithredu gwasanaethau o dan bwerau datganoledig, fel Trafnidiaeth Cymru a Scotrail. Gallai hefyd effeithio ar wasanaethau sydd wedi cael eu gweithredu’n lleol fel Transport for London.

4.3 Rydym yn awyddus i ddeall, gan gynnwys trwy’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a’r ymgysylltu â gweinyddiaethau datganoledig, a ddylid defnyddio MSLs ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys unrhyw wahaniaethau ac ystyriaethau y dylid eu hystyried wrth bennu isafswm lefelau gwasanaethau. Bydd hyn yn helpu i lywio penderfyniad ynghylch a oes angen rheoliadau isafswm lefelau gwasanaeth ar draws Prydain Fawr ac, os felly, sut y gellid eu cymhwyso i ystyried ystyriaethau gweithredol.

4.4 Fel rhan o ddatblygu MSLs, bydd Llywodraeth y DU hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth Yr Alban a Llywodraeth Cymru ar gwmpas daearyddol y rheoliadau.

Cwestiwn 33: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno ei bod hi’n bwysig bod MSLs yn berthnasol yn gyson ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban?

Rhowch fanylion i gefnogi eich ymateb, os dymunwch.

Cwestiwn 34: Os ydych chi’n ymwneud â gweithredu gwasanaethau rheilffordd, beth ydych chi’n ystyried yw’r ystyriaethau gweithredol allweddol wrth osod MSLs ar gyfer gwasanaethau sy’n rhedeg rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban.

Rhowch fanylion i gefnogi eich ymateb, os dymunwch.

Cwestiwn 35: Os ydych yn defnyddio, neu’n rheoli, gwasanaethau sy’n rhedeg rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban, amlinellwch eich profiad o sut mae hyn yn gweithredu os oes streiciau mewn un rhan o Brydain Fawr ond nid un arall.

Cwestiwn 36: A oes unrhyw faterion sy’n benodol i wasanaethau yn yr Alban a/neu Gymru y dylid eu hystyried mewn perthynas â darparu MSLs?Er enghraifft:

  • Lefel y gwasanaeth sydd ar gael ar ddiwrnodau streic
  • Cysylltedd ar ddiwrnodau streic ar draws yr ardal dan sylw
  • Materion eraill rydych chi’n ystyried eu bod yn berthnasol i osod MSL ar gyfer yr Alban neu Gymru

Ystyriaethau Trafnidiaeth Leol

Rydym hefyd yn croesawu barn a mewnbwn gan Awdurdodau Cyfun Maerol, Awdurdodau Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a Phartneriaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol ar yr ystyriaethau allweddol ar gyfer gosod MSLs rheilffyrdd. Dylai’r rhain gynnwys Awdurdodau Cyfun Maerol, Awdurdodau Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a Phartneriaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol sy’n:

  • Darparu gwasanaethau rheilffordd i deithwyr yn uniongyrchol (h.y. rhedeg y trenau a/neu dramiau, a chyflogi’r gweithwyr sy’n darparu’r gwasanaethau hynny) a/neu
  • Cyflawni rôl yn ymwneud â gwasanaethau rheilffordd teithwyr oherwydd dyletswyddau trafnidiaeth megis o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 neu Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 neu ddeddfwriaeth arall fel y gall fod yn berthnasol.

Cwestiwn 37: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno ei fod yn bwysig iawn bod MSLs yn berthnasol yn gyson ar draws ffiniau Awdurdod Cyfun Maerol, Awdurdod Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgor Corfforaethol a Phartneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban?

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â’ch rôl fel darparwr gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol i deithwyr, neu Awdurdod Cyfun Maerol, Awdurdod Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgor Corfforaethol neu gyfrifoldebau Partneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol neu’r ddau.

Cwestiwn 38: A oes unrhyw faterion sy’n benodol i wasanaethau a ddarperir mewn ardaloedd Awdurdod Cyfun Maerol, Awdurdod Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgor Corfforaethol neu Bartneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol y dylid eu hystyried mewn perthynas â darparu MSLs?Er enghraifft:

  • Lefel y gwasanaeth sydd ar gael ar ddiwrnodau streic, gan gynnwys cysondeb ar draws rhanbarthau
  • Cysylltedd ar ddiwrnodau streic ar draws gwahanol ranbarthau
  • Materion eraill rydych chi’n eu hystyried sy’n berthnasol i osod MSLs ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban yng nghyd-destun rolau strategaeth trafnidiaeth leol.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â’ch rôl fel darparwr gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol i deithwyr, neu Awdurdod Cyfun Maerol, Awdurdod Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgor Corfforaethol neu gyfrifoldebau Partneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol neu’r ddau.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Bydd crynodeb o’r ymatebion, gan gynnwys y camau nesaf, yn cael ei gyhoeddi maes o law. Bydd copïau papur ar gael ar gais.

Atodiad A: Asesiad effaith

Mae asesiad effaith wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori hon.

Atodiad B: Map strategaeth

Mae map strategaeth wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori hon.

Atodiad C: Rhestr lawn o gwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1: (Cyfeiriwch at adran 1.49) Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n hasesiad o’r egwyddorion a ddylai fod yn sail i isafswm lefel o wasanaeth?Rhowch eich asesiad ar gyfer pob un o’r egwyddorion a nodir uchod, a’r rhesymeg dros eich rhesymu.

Cwestiwn 2: Yn amodol ar yr eithriadau a ddisgrifir yn Cwestiwn 3 isod, rydym yn cynnig y bydd y gwasanaethau rheilffordd teithwyr canlynol o fewn cwmpas i MSLs. Nodwch a ydych yn cytuno neu’n anghytuno a yw pob un o’r gwasanaethau hyn yn hanfodol er mwyn galluogi trenau teithwyr i gyrraedd isafswm lefelau gwasanaeth. Os ydych yn anghytuno, esboniwch pam.

  • Gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau gweithredu trenau teithwyr sy’n gweithredu gwasanaethau o dan gytundebau gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru neu Weinidogion yr Alban, gan gynnwys gweithredwyr sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus
  • Gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau gweithredu trenau teithwyr eraill sy’n gweithredu o dan drefniadau eraill gyda’r sector cyhoeddus (mae’r rhain yn cynnwys London Underground, rheilffordd ysgafn benodol a gwasanaethau uwchddaearol Llundain)
  • Gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau gweithredu trenau mynediad agored - h.y., y rhai sy’n gweithredu’n fasnachol, yn annibynnol ar unrhyw gytundeb â chyrff sector cyhoeddus
  • Gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr tramiau teithwyr
  • Gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr seilwaith rhwydwaith y mae’r trenau a’r tramiau i deithwyr uchod yn gweithredu arnynt (e.e., Network Rail), gan gynnwys y gwasanaethau canlynol:

    • adeiladu, cynnal a chadw, ail-alinio, ail-ffurfweddu neu adnewyddu traciau
    • gosod, gweithredu, cynnal a chadw neu adnewyddu system signalau rheilffordd neu unrhyw offer cyfathrebu arall ar y rheilffordd
    • adeiladu, rheoli, cynnal a chadw neu adnewyddu rheiliau dargludydd trydanol neu linellau uwchben, unrhyw gynheiliaid ar gyfer rheiliau neu linellau o’r fath, ac unrhyw is-orsafoedd trydanol neu gysylltiadau pŵer a ddefnyddir neu i’w defnyddio mewn cysylltiad â hynny, a darparu pŵer trydanol drwyddynt
    • darparu a gweithredu gwasanaethau ar gyfer adfer neu atgyweirio locomotifau neu gerbydau eraill mewn cysylltiad ag unrhyw ddamwain, camweithrediad neu fethiant mecanyddol neu drydanol
    • darparu a gweithredu gwasanaethau ar gyfer cadw traciau’n rhydd rhag, er yn ddefnyddiol, tagfa (boed hynny drwy eira, rhew, dŵr, dail wedi disgyn neu unrhyw rwystr neu rwystr naturiol neu artiffisial arall) neu i gael gwared ar unrhyw rwystr o’r fath
    • darparu, gweithredu, cynnal a chadw ac adnewyddu unrhyw gyfarpar, offer neu beiriannau a ddefnyddir wrth gynnal unrhyw un o’r gweithgareddau a bennir ym mharagraffau (a) i (e) uchod
    • ymarfer rheolaeth o ddydd i ddydd dros symudiadau trenau dros neu ar hyd unrhyw drac a gynhwysir yn y rhwydwaith
    • paratoi amserlen at ddibenion y cyfryw reolaeth ag y cyfeirir ato ym mharagraff (g) uchod
  • Gwasanaethau cynnal a chadw ysgafn ar drenau a thramiau teithwyr (gan gynnwys ail-lenwi neu lanhau tu allan trenau teithwyr a thramiau a chynnal a chadw’r trenau neu’r tramiau hynny a wneir fel arfer ar gyfnodau rheolaidd o ddeuddeg mis neu lai i baratoi’r trenau teithwyr neu’r tramiau ar gyfer gwasanaeth)
  • Unrhyw wasanaethau mewn gorsafoedd sy’n hanfodol i alluogi trenau neu dramiau teithwyr i weithredu’n ddiogel ac yn sicr
  • Arall – esboniwch

Cwestiwn 3: Rydym yn cynnig y bydd y gwasanaethau rheilffordd teithwyr canlynol yn cael eu heithrio o’r cwmpas i MSLs fod yn berthnasol iddynt. Nodwch a ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid eithrio’r gwasanaethau hyn. Dylech nodi mai Prydain Fawr yn unig yw cwmpas y ddeddfwriaeth ac ni allwch gynnwys gwasanaethau a ddarperir y tu allan i’r awdurdodaeth hon. Os ydych yn anghytuno, esboniwch pam.

  • Gwasanaethau rheilffordd rhyngwladol i deithwyr – h.y., lle mae gwasanaethau’n dechrau neu’n dod i ben y tu allan i Brydain Fawr
  • Gwasanaethau sy’n defnyddio cerbyd treftadaeth neu ar reilffordd sy’n rheilffordd dreftadaeth, amgueddfa neu dwristiaid sy’n gweithredu ar ei rwydwaith ei hun
  • Gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr trenau teithwyr siarter preifat
  • Arall – esboniwch

Cwestiwn 4: Nodwch a ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid defnyddio pob un o’r ffactorau isod i lywio’r isafswm lefel o wasanaeth a gyflwynir, a’u rhestru yn nhrefn blaenoriaeth.Nodwch y rhesymeg sy’n sail i’ch dewisiadau.

  • Yr angen i deithio ar y rheilffyrdd at ddibenion iechyd neu at ddiben ceisio sylw / triniaeth feddygol
  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd i gael mynediad i addysg
  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd er mwyn ennill bywoliaeth
  • Yr angen i ennill bywoliaeth o’r rhai sy’n teithio ar y rheilffordd
  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd i fwynhau amser preifat, neu amser teuluol
  • Yr angen i deithio ar y rheilffordd am resymau hamdden neu dwristiaeth
  • Yr angen i osgoi niwed i’r economi
  • Ffactorau perthnasol eraill – nodwch

Cwestiwn 5: Wrth osod tyr isafswm lefel gwasanaeth, beth ydych chi’n meddwl fyddai’r system fwyaf priodol?

  • % o’r gwasanaethau’n rhedeg o gymharu â diwrnod di-streic tebyg
  • % o’r gwasanaethau sy’n rhedeg ar yr adegau prysuraf o gymharu â gwasanaethau tebyg ar ddiwrnod di-streic
  • Nifer y teithwyr sy’n gallu teithio
  • System arall (dywedwch)
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch pam rydych chi’n credu hyn.

Cwestiwn 6: O’r opsiynau canlynol, dewiswch am beth rydych chi’n defnyddio’r rheilffordd gan fwyaf:

  • Cael mynediad i fan gwaith / dibenion gwaith eraill
  • Cael mynediad i fan addysg / dibenion addysgol eraill
  • Cael mynediad i gyfleusterau meddygol neu iechyd
  • Cymryd rhan mewn bywyd personol neu deuluol
  • Ar gyfer hamdden neu dwristiaeth
  • Os arall, nodwch

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a thrwm, rhowch ddau ymateb ar wahân i’r rhain.

Cwestiwn 7: Pa rai o’r rhesymau canlynol sy’n disgrifio orau pam rydych chi’n defnyddio’r rheilffordd?Nodwch bopeth sy’n berthnasol.

  • Gwasanaeth cludiant agosaf at lle rydych chi’n cychwyn
  • Gwasanaeth cludiant agosaf at eich cyrchfan
  • Amledd
  • Oriau gweithredu
  • Cost
  • Cyfleustra neu ddewis personol
  • Dim math arall hyfyw o drafnidiaeth ar gael
  • Os arall, nodwch

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol i reilffordd ysgafn a thrwm, rhowch ddau ymateb ar wahân i’r rhain.

Cwestiwn 8: Pa mor bell ydych chi’n teithio i gyrraedd yr orsaf rydych chi’n ei defnyddio amlaf ar ddiwrnod rheolaidd? Faint ymhellach ydych chi’n rhesymol yn gallu teithio i gael mynediad i orsaf drenau sydd â gwasanaeth ar ddiwrnod streic?

Cwestiwn 9: Pa rai o’r effeithiau canlynol, os o gwbl, ydych chi wedi’u profi oherwydd streiciau rheilffyrdd? Ticiwch bopeth sy’n berthnasol.

  • Effeithiau ar gynlluniau teithio i weithio
  • Effeithiau ar gynlluniau teithio i ddarparwyr gofal iechyd
  • Effaith ar gynlluniau teithio i sefydliadau addysgol
  • Effaith ar gynlluniau teithio ar gyfer cymryd rhan mewn bywyd personol neu deuluol
  • Colli enillion neu gostau teithio ychwanegol a achosir gan streiciau.
  • Effeithiau neu brofiadau eraill o deithio yn ystod streic (e.e., defnydd o drafnidiaeth amgen)

Dywedwch ragor wrthym am hyn. Efallai yr hoffech gynnwys:

  • P’un a ddigwyddodd y streic ar reilffordd drom neu ysgafn.
  • Profiad o wybodaeth a ddarperir o amgylch streiciau, gan gynnwys enghreifftiau megis lefel o rybudd ymlaen llaw ac eglurder ynghylch amserlenni, neu allu i gael mynediad at ad-daliadau.

Cwestiwn 10: Lle rydych chi wedi dewis teithio ar ddyddiau streic, neu wedi bwriadu teithio, pa effaith mae streiciau wedi’i chael ar eich profiad? Ticiwch bopeth sy’n berthnasol.

  • Newidiadau i amlder y gwasanaeth
  • Newidiadau i lwybrau a chysylltiadau sydd ar gael
  • Newidiadau i oriau’r gwasanaeth
  • Unrhyw brofiad o orlenwi sydd wedi cael effaith ar a allech chi deithio, neu eich profiad teithio
  • Argaeledd staff i ddarparu help a chymorth
  • Arall (nodwch)

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffyrdd trwm neu ysgafn, neu’r ddau gan gynnwys rhagor o fanylion am yr effaith a brofwyd gennych. Os yw eich ymateb yn wahanol i reilffordd ysgafn a thrwm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 11: Ar ba bwynt fyddech chi’n penderfynu canslo eich cynlluniau i deithio ar ddiwrnod streic? Esboniwch eich ateb. Efallai y byddwch am ystyried ffactorau fel pellter i’ch gorsaf agosaf gyda gwasanaeth, amlder gwasanaeth neu wasanaeth oriau yn gweithredu.

Cwestiwn 12: Rydym yn gwahodd tystiolaeth gan gyflogwyr yn y sector rheilffyrdd ar:

  • Sut mae nifer a chyfran y gwasanaethau teithwyr sy’n cael eu gweithredu yn amrywio yn dibynnu ar nifer a math y gweithwyr sydd ar streic.
  • Cofiwch gynnwys dadansoddiad o’r wybodaeth hon yn ôl math o wasanaeth, llinell a rhanbarth ar gyfer y ddau ddiwrnod streic a’r diwrnod yn syth ar ôl streic o’i gymharu â diwrnod amserlen arferol.
  • Y categorïau staff sydd eu hangen arnoch i redeg gwasanaethau ar ddiwrnodau streic. Gallai hyn gynnwys enghreifftiau o weithgarwch streic diweddar ar faint o staff FTE y dydd sydd eu hangen i gynnal gwasanaethau ar ddiwrnod streic.
  • Effaith streicio ar brofiad cwsmeriaid.Gallai hyn fod yn seiliedig ar wybodaeth fel ymatebion arolwg, adborth cwsmeriaid, a’ch asesiad o’r effeithiau.
  • Effaith streicio ar brosiectau rheilffordd arfaethedig, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw a pheirianneg.
  • Unrhyw ystyriaethau diogelwch sy’n unigryw i ddiwrnodau streic.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffyrdd trwm neu ysgafn neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol i reilffyrdd ysgafn a thrwm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 13: Rhowch amcangyfrif o ganran y staff sydd eu hangen i weithredu lefelau gwahanol o wasanaeth. Er enghraifft, canran y staff y gallai fod eu hangen i ddarparu gwasanaeth 20%, gwasanaeth 30%, gwasanaeth 40% a gwasanaeth 60%. Gwnewch yn glir pa baramedrau y mae’r canrannau hyn yn seiliedig arnynt (e.e., mathau o weithwyr, amseroedd darparu gwasanaethau ac ati).

Rhowch fanylion hefyd ar sut rydych wedi cyrraedd yr amcangyfrif hwn, a dadansoddiad o ba gyfran o bob rôl y byddai ei hangen arnoch er mwyn i’ch amserlen fod yn hyfyw.

Cwestiwn 14: Rydym yn gwahodd ymatebwyr i nodi sut maen nhw’n credu y gallai MSLs gael ei gosod mewn ffordd sy’n lliniaru effeithiau ar streicio, tra’n parhau i warchod anghenion hanfodol teithwyr.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a thrwm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 15: Hoffem wahodd ymatebwyr i roi asesiad o gostau a buddion posibl, gan gynnwys o safbwynt gweithredu a gweithredu parhaus, a chynnig, lle bo hynny’n briodol, ffyrdd o’u gwrthbwyso heb droi at arian cyhoeddus.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a thrwm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 16: A yw streiciau diweddar ar y rheilffordd wedi cael effaith ar eich busnes neu sefydliad?

  • Ydyn
  • Nac ydyn

Cwestiwn 17 (Ymatebwch dim ond os ydych wedi ateb Ydyn i Gwestiwn 16): Pa rai o’r effeithiau canlynol mae eich busnes neu sefydliad wedi’u profi? Nodwch bopeth sy’n berthnasol.

  • Colli refeniw
  • Absenoldeb staff
  • Effeithiau ar hyfywedd busnes
  • Cynnydd mewn gweithio gartref sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â gostyngiad mewn refeniw/cynhyrchiant
  • Os arall nodwch

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a thrwm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 18: Os yw’n berthnasol, rhowch dystiolaeth ar gyfer y canlynol:

  • Effeithiau mwy hirdymor streiciau ar eich busnes, gan gynnwys cwsmeriaid coll posibl sydd wedi dewis ffyrdd eraill o wneud busnes o ganlyniad i darfu, neu unrhyw effeithiau tymor hwy ar enw da.
  • Effaith gweithredu diwydiannol y rheilffordd ar argaeledd gweithwyr, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) gweithwyr iechyd, addysg, a gwasanaethau golau glas.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a thrwm, gwnewch yn glir pa fath o reilffordd yr ydych yn cyfeirio ati o fewn eich ymateb.

Cwestiwn 19: Os yw’n berthnasol, pa gynlluniau wrth gefn rydych chi wedi’u rhoi ar waith ar gyfer streiciau?Er enghraifft, trefnu trefniadau cludiant arbennig i staff, talu costau gwestai fel y gall staff aros yn agosach at y gwaith, newid oriau gwaith neu batrymau sifft, neu newid y ffordd rydych chi’n symud nwyddau, megis o’r rheilffordd i gludo nwyddau ar y ffyrdd.

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â rheilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau. Os yw eich ymateb yn wahanol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a thrwm, rhowch ddau ymateb ar wahân i’r rhain.

Cwestiwn 20: [Cyfeiriwch at Astudiaeth Achos A] Beth oedd eich profiad chi eich hun o’r streiciau hyn a lefel y gwasanaeth a ddarparwyd ar y diwrnod hwn? Os ydych yn ateb o safbwynt teithiwr a deithiodd/a oedd yn bwriadu teithio ar un o’r gwasanaethau a oedd ar gael ar y diwrnod hwn, esboniwch pa wasanaeth trên, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arnynt.

  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy isel
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn dderbyniol
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy uchel

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Cwestiwn 21: [Cyfeiriwch at Astudiaeth Achos A] O’i gymharu ag amserlen diwrnod di-streic, pa isafswm lefel gwasanaeth fyddech chi’n ystyried ei fod yn dderbyniol o ystyried bod streic yn digwydd? Os ydych yn ateb o safbwynt teithiwr a deithiodd/a oedd yn bwriadu teithio ar un o’r gwasanaethau sydd ar gael ar y diwrnod hwn, esboniwch pa wasanaeth trên, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arnynt.

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Cwestiwn 22: [Cyfeiriwch at Astudiaeth Achos B] Beth oedd eich profiad chi o’r streiciau hyn a lefel y gwasanaeth a ddarparwyd ar y diwrnod hwn? Os ydych yn ateb o safbwynt teithiwr a deithiodd/a oedd yn bwriadu teithio ar un o’r gwasanaethau sydd ar gael ar y diwrnod hwn, esboniwch pa weithredwr, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arno.

  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy isel
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn dderbyniol
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy uchel

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Cwestiwn 23: [Cyfeiriwch at Astudiaeth Achos B] O’i gymharu ag amserlen diwrnod di-streic, pa isafswm lefel gwasanaeth fyddech chi’n ystyried ei fod yn dderbyniol o ystyried bod streic yn digwydd? Os ydych yn ateb o safbwynt teithiwr a deithiodd/a oedd yn bwriadu teithio ar un o’r gwasanaethau sydd ar gael ar y diwrnod hwn, esboniwch pa wasanaeth trên, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arnynt.

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Cwestiwn 24: Os oeddech chi’n teithio, ceisio teithio neu roi’r gorau i’ch cynlluniau teithio yn ystod streic yn ystod y 12 mis diwethaf heblaw’r rhai a ddisgrifir yn yr astudiaethau achos, beth oedd eich profiad eich hun o’r streiciau eraill hyn a lefel y gwasanaeth a ddarparwyd ar y diwrnod hwn?

  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy isel
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn dderbyniol
  • Roedd y lefel yma o wasanaeth yn rhy uchel

Esboniwch pa ddiwrnod streic, gwasanaeth trên, amser o’r dydd a’r llwybr y gwnaethoch deithio arno/bwriadu teithio arno.

Cwestiwn 25: Beth yw’r opsiwn a ffefrir gennych ar gyfer sut mae MSLs yn cael eu gweithredu ar gyfer rheilffordd drom, ac ar gyfer rheilffordd ysgafn? Rhowch ddau ateb os oes gennych ddewis gwahanol ar draws rheilffyrdd trwm ac ysgafn.

  • Opsiwn 1: Dylunio fframwaith isafswm lefel gwasanaeth yn seiliedig ar drefniadau amserlen presennol
  • Opsiwn 2: Dylunio map llwybrau blaenoriaethol o’r rhwydwaith rheilffyrdd trwm ac ysgafn ar draws Prydain Fawr y mae’n rhaid darparu isafswm lefelau gwasanaeth ar ei gyfer
  • Dim ffafriaeth

Cwestiwn 26: Nodwch y rhesymau dros eich dewis yn Cwestiwn 25, gan gynnwys unrhyw ystyriaethau ar gyfer gweithredu’n ymarferol yr hoffech ein gwneud yn ymwybodol ohonynt?

Cwestiwn 27: Yn achos Opsiwn 2, pa un ydych chi’n meddwl yw’r sail fwyaf priodol ar gyfer datblygu’r map llwybrau blaenoriaethol?

  • Opsiwn 2a: Blaenoriaethu yn seiliedig ar ymestyn oriau gwasanaeth
  • Opsiwn 2b: Blaenoriaethu yn seiliedig ar ymestyn cwmpas daearyddol y gwasanaeth

Nodwch y rhesymau dros eich dewis, gan gynnwys unrhyw ystyriaethau ar gyfer gweithredu’n ymarferol yr hoffech ein gwneud yn ymwybodol ohonynt?

Cwestion 28: Pe byddem yn archwilio datblygu llwybrau blaenoriaethol, beth ydych chi’n meddwl ddylai fod y ffactor pwysicaf wrth ddylunio map llwybrau blaenoriaethol? Rhowch yr opsiynau canlynol yn nhrefn blaenoriaeth os yn bosib.

  • Gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan deithwyr i gyrraedd y gwaith neu’r ysgol, neu i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd, sy’n cael eu blaenoriaethu yn ôl lefel y galw
  • Gwasanaethau pellter hir rhwng dinasoedd
  • Gwasanaethau sy’n cysylltu ardaloedd gwledig efallai nad oes ganddynt ddewisiadau trafnidiaeth eraill
  • Llwybrau sy’n cefnogi seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus allweddol
  • Arall (nodwch)

Nodwch y rhesymau dros eich dewis.

Cwestiwn 29: Os gall gwasanaethau redeg yn ystod oriau penodol yn unig, pa gyfnodau amser ydych chi’n meddwl y dylid eu blaenoriaethu?Rhowch eich cyfnodau amser a ffefrir yn nhrefn blaenoriaeth gyda’ch opsiwn blaenoriaeth uchaf yn gyntaf.

  • Oriau brig y bore
  • Oriau brig gyda’r nos
  • Bore cynnar (cyn 7am)
  • Hwyr gyda’r nos (ar ôl 7pm)
  • Gwasanaethau yn ystod cyfnod o 12 awr (7am to 7pm)
  • Beth bynnag y gellir rhoi adnoddau iddo’n fwyaf dibynadwy, waeth beth yw’r amseriadau
  • Arall (e.e., teithio ar y penwythnos ar adegau penodol)

Nodwch y rhesymau dros eich dewis.

Cwestiwn 30: Yn dilyn cyflwyno isafswm lefelau gwasanaeth, pa lefel o wasanaeth fyddech chi’n disgwyl ei weld ar ddiwrnod streic, fel canran o’r amserlen arferol ar ddiwrnod di-streic?

Esboniwch y rhesymeg dros eich ateb. Yn eich ymateb efallai y byddwch am ystyried pa flaenoriaethau y dylid eu hystyried wrth osod yr MSL, gan gynnwys cwmpas daearyddol, amseroedd y dydd a llwybrau penodol, megis llwybrau arbennig o brysur i deithwyr; proffiliau galw yn ystod y dydd o’u cymharu ag amserlen yn ystod yr wythnos.

Cwestiwn 31: Ar wahân i opsiwn 1, 2a a 2b, oes gennych awgrymiadau pellach ar opsiynau y dylem eu hystyried ar gyfer gosod MSLs ar gyfer y rheilffordd? Oes/Nac Oes

Os oes, rhowch fanylion pellach, gan gynnwys a yw’r opsiwn arfaethedig yn berthnasol i reilffordd drom, rheilffordd ysgafn, neu’r ddau.

Cwestiwn 32: Wrth osod isafswm lefel y gwasanaeth, beth rydych chi’n meddwl fyddai’r ffactor mwyaf priodol?

  • Oriau gweithredu
  • Mwy o lwybrau yn rhedeg
  • Mwy o orsafoedd ar agor
  • Gwell gwasanaethau at ddibenion cymudo
  • Gwell gwasanaethau at ddibenion hamdden
  • Ffactor arall (nodwch)
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl hyn.

Cwestiwn 33: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno ei bod hi’n bwysig bod MSLs yn berthnasol yn gyson ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban?

Rhowch fanylion i gefnogi eich ymateb, os dymunwch.

Cwestiwn 34: Os ydych chi’n ymwneud â gweithredu gwasanaethau rheilffordd, pa rai ydych chi’n ystyried yw’r ystyriaethau gweithredol allweddol wrth osod MSLs ar gyfer gwasanaethau sy’n rhedeg rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban.

Rhowch fanylion i gefnogi eich ymateb, os dymunwch.

Cwestiwn 35: Os ydych yn defnyddio, neu’n rheoli, gwasanaethau sy’n rhedeg rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban, amlinellwch eich profiad o sut mae hyn yn gweithredu os oes streiciau mewn un rhan o Brydain Fawr ond nid un arall.

Cwestiwn 36: A oes unrhyw faterion sy’n benodol i wasanaethau yn yr Alban a/neu Gymru y dylid eu hystyried mewn perthynas â darparu MSLs?Er enghraifft:

  • Lefel y gwasanaeth sydd ar gael ar ddiwrnodau streic
  • Cysylltedd ar ddiwrnodau streic ar draws yr ardal dan sylw

Materion eraill rydych chi’n ystyried eu bod yn berthnasol i osod MSL ar gyfer yr Alban neu Gymru.

Cwestiwn 37: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno ei bod hi’n bwysig bod MSLs yn berthnasol yn gyson ar draws Awdurdodau Cyfun y Maer, Awdurdodau Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a ffiniau Partneriaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban?

Nodwch a yw eich ymateb yn perthyn i’ch rôl fel darparwr gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol i deithwyr, neu Awdurdod Cyfun Maerol, Awdurdod Trafnidiaeth Lleol, Cydbwyllgor Corfforaethol neu Cyfrifoldebau Partneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol neu’r ddau.

Cwestiwn 38: A oes unrhyw faterion sy’n benodol i wasanaethau a ddarperir mewn ardaloedd Awdurdod Cyfun Maerol, Awdurdod Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgor Corfforaethol neu Bartneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol y dylid eu hystyried mewn perthynas â darparu MSLs?Er enghraifft:

  • Lefel y gwasanaeth sydd ar gael ar ddiwrnodau streic, gan gynnwys cysondeb ar draws rhanbarthau
  • Cysylltedd ar ddiwrnodau streic ar draws gwahanol ranbarthau
  • Materion eraill rydych chi’n ystyried eu bod yn berthnasol i osod MSLs ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban yng nghyd-destun rolau strategaeth trafnidiaeth leol

Nodwch a yw eich ymateb yn ymwneud â’ch rôl fel darparwr gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol i deithwyr, neu Awdurdod Cyfun Maerol, Awdurdod Trafnidiaeth Leol, Cyd-bwyllgor Corfforaethol neu gyfrifoldebau Partneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol neu’r ddau.

Atodiad D: Egwyddorion yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori allweddol y Llywodraeth.

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y broses ymgynghori, cysylltwch â:

Cydlynydd yr Ymgynghoriad
Yr Adran Drafnidiaeth
Zone 1/29 Great Minster House
Llundain SW1P 4DR

E-bost consultation@dft.gsi.gov.uk


  1. Arolwg Teithio Cenedlaethol 2021 (2022). NTS0409: Nifer cyfartalog o deithiau (cyfraddau teithiau) yn ôl pwrpas a phrif fodd: Lloegr, o 2002. https://www.gov.uk/government/statistics/national-travel-survey-2021 

  2. Streiciau’r rheilffordd Yr Adran Drafnidiaeth (2023): Deall yr effaith ar deithwyr (crynodeb) https://www.gov.uk/government/publications/rail-strikes-understanding-the-impact-on-passengers 

  3. Gwaith maes ar gyfer streiciau’r Rheilffordd: Deall yr effaith ar deithwyr a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Hydref 2022 mewn pedwar cam. Cafodd teithwyr eu dal ar deithiau ar draws y rhwydwaith yn yr wythnosau yn dilyn streic a’u holi am yr wythnos ddiweddaraf o streiciau. Cwblhaodd 17,383 o deithwyr holiadur. Nid yw’r arolwg hwn yn cynnwys Rheilffordd Ysgafn 

  4. CEBR(2022). https://cebr.com/reports/eight-months-of-strike-action-to-have-cost-the-uk-economy-at-least-1-7bn-adding-to-existing-recessionary-pressures/ 

  5. Canllaw ar Erthygl 11 - Rhyddid ymgynnull a chysylltu, PDF (coe.int) 

  6. Memo ECHR y Bil streiciau, PDF (parliament.uk) 

  7. Casgliad o benderfyniadau ynghylch y cynnwys CFA (ilo.org) 

  8. Data mewnol heb ei gyhoeddi Yr Adran Drafnidiaeth. 

  9. Mae data o 2019 ac yn gynharach wedi cael eu defnyddio yma i ddisgrifio elfennau allweddol o’r sector trafnidiaeth. Mae’r pandemig COVID wedi effeithio’n helaeth ar ddata mwy diweddar, a arweiniodd at effeithiau sylweddol ar y sector trafnidiaeth, yn enwedig drwy ostyngiad mewn defnydd. Mae data ôl-COVID yn adlewyrchu sefyllfa adfer tymor byr o’r sector, ac felly disgwylir y bydd data cyn COVID yn rhoi disgrifiad gwell o’r sector trafnidiaeth dros y tymor hwy, y disgwylir i’r ddeddfwriaeth arfaethedig fod yn berthnasol ar ei gyfer. Dylid nodi bod cyfyngiadau i’r dull hwn oherwydd ni ddisgwylir i effeithiau’r pandemig ar y sector trafnidiaeth gael eu cyfyngu i’r tymor byr yn unig. 

  10. Arolwg Teithio Cenedlaethol 2021 (2022). NTS0303: Nifer cyfartalog o deithiau a phellter a deithiwyd gan y prif fodd: Lloegr, o 2002

  11. Arolwg o’r llafurlu (2019). Dull arferol o deithio i’r gwaith yn ôl ardal deithio i’r gwaith yn y DU: Hydref i Ragfyr 2019

  12. Streiciau’r rheilffordd Yr Adran Drafnidiaeth (2023): Deall yr effaith ar deithwyr (crynodeb) 

  13. Arolwg Teithio Cenedlaethol (2022). Nifer cyfartalog o deithiau (cyfraddau teithiau) yn ôl y diben a’r prif fodd: Lloegr, 2002 ymlaen. https://www.gov.uk/government/statistics/national-travel-survey-2021. Mae ffigyrau o 2019 wedi’u cynnwys yma oherwydd effaith adfer o COVID-19 ar ddata sydd ar gael ar gyfer 2020 a 2021. 

  14. Arolwg Teithio Cenedlaethol: Ystadegau rheilffordd ysgafn a thramiau (LRT), Tabl LRT0401a, yn seiliedig ar nifer y camau a deithiwyd fesul person. Oherwydd ffigyrau maint sampl bach mae ffigyrau yn seiliedig ar gyfartaledd o 8 mlynedd (2012 – 2019) 

  15. Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (2020). Cyllid y Diwydiant Rheilffordd (DU) - 2019-20 (orr.gov.uk). Mae ffigyrau o 2019-20 wedi’u cynnwys yma oherwydd effaith adfer o COVID-19 ar ddata mwy diweddar. 

  16. CEBR (2022). https://cebr.com/reports/eight-months-of-strike-action-to-have-cost-the-uk-economy-at-least-1-7bn-adding-to-existing-recessionary-pressures/ 

  17. Mewnwelediad o’r diwydiant wedi’i ddarparu gan Network Rail. Gweler Atodiad E am ragor o fanylion

  18. Mewnwelediad o’r diwydiant wedi’i ddarparu gan Network Rail. Gweler Atodiad E am ragor o fanylion