Consultation outcome

Government response to consultation and summary of public responses (Welsh, accessible)

Updated 2 October 2023

Ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaeth newydd ar gyfer cyllyll i fynd i’r afael â defnyddio cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau

Ymateb y llywodraeth

Cyhoeddwyd: 30 Awst 2023

Crynodeb gweithredol

1. Ar 18 Ebrill 2023, lansiodd y Swyddfa Gartref ymgynghoriad ar ‘gynigion deddfwriaeth newydd ar gyfer cyllyll i fynd i’r afael â defnyddio cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau’. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Mehefin 2023. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi barn yr ymatebwyr am y cynigion, ymateb y llywodraeth a’r camau nesaf.

2. Roedd yr ymgynghoriad yn holi barn am newidiadau arfaethedig i’r gyfraith ar gyllyll, gan gynnwys cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau. Roedd yr ymgynghoriad yn holi barn am y cynigion canlynol:

i. Cynnig 1: Cyflwyno gwaharddiad wedi’i dargedu at fathau arbennig o gyllyll twca a chyllyll mawr sy’n ymddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol heb unrhyw bwrpas ymarferol.

ii. Cynnig 2: A ddylid rhoi pwerau ychwanegol i’r heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn o hyd arbennig sydd ym meddiant pobl yn gyfreithlon os yw’r heddlu’n eu canfod yn gyfreithlon ar eiddo preifat ac mae ganddynt le rhesymol i amau bod yr eitem(au) yn debygol o gael eu defnyddio mewn trosedd.

iii. Cynnig 3: A oes angen cynyddu’r uchafswm cosb am fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd (a141 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 ac a1 Deddf Cyfyngu ar Arfau Ymosodol 1959) a’r drosedd o werthu eitemau llafn i rai dan 18 oed (a141A Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988) i ddwy flynedd, i adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn.

iv. Cynnig 4: A ddylai’r System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol wedi eu gwahardd.

v. Cynnig 5: A oes angen trosedd ar wahân o fod ym meddiant eitemau llafn gyda’r bwriad o anafu neu achosi ofn trais gydag uchafswm cosb uwch na’r trosedd presennol o fod ym meddiant arf ymosodol o dan a1 PCA 1953.

3. Datblygwyd y cynigion hyn i fynd i’r afael â defnyddio cyllyll twca mewn troseddau’n dilyn pryderon gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) bod y broblem ar gynnydd ar y strydoedd. Wrth drafod â’r heddlu, ni leisiwyd pryder penodol am gleddyfau, ac mewn trafodaeth â’r NPCC, fe wnaethom gytuno ar gyfer yr ymgynghoriad hwn i ganolbwyntio ar gyllyll ‘sombi’ a chyllyll twca. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i adolygu hyn pe bai angen gweithredol i ni ehangu’r gwaharddiad i gynnwys cleddyfau ac eitemau llafn neu arfau ymosodol eraill.

4. Roedd yr ymgynghoriad ar agor i’r cyhoedd. Ysgrifennwyd at dros 150 o randdeiliaid yn uniongyrchol i wahodd eu mewnbwn, gan godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad drwy’r cyfryngau, y Senedd ac amrywiol grwpiau rhanddeiliaid. Cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad, mi fuom yn siarad â phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol a busnesau a sefydliadau y byddai’r cynigion yn effeithio’n uniongyrchol arnynt. Gwrandawyd yn fanwl ar farn pobl y mae troseddau cyllyll a’u heffaith ddychrynllyd wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt.Roedd hyn er mwyn gallu ystyried ystod eang o farn ar gyfer datblygu polisi.

5. Mae’r cynigion yn ymwneud â materion datganoledig, sydd ond yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Byddai unrhyw gynigion deddfwriaeth a ystyrir i fod yn angenrheidiol yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig, ond byddwn yn gweithio’n agos â’r gwledydd datganoledig ar sut y gallai cynigion penodol fod yn berthnasol neu effeithio ar yr Alban a Gogledd Iwerddon.

6. Derbyniwyd cyfanswm o 2,544 ymateb i’r ymgynghoriad. Nid oedd pawb wedi ateb pob cwestiwn; felly mae’r ffigurau’n seiliedig ar yr atebion a dderbyniwyd i bob cwestiwn drwy’r arolwg ar-lein ac e-bost. Mae’r ymatebion i gyd wedi eu dadansoddi a’u hystyried yn llawn wrth baratoi’r ymateb hwn gan y llywodraeth. Hoffem ddiolch i bawb a gymrodd amser i ymateb.

7. Gallai pobl ymateb i’r ymgynghoriad naill ai drwy arolwg ar-lein ar gov.uk neu drwy e-bostio blwch post yr ymgynghoriad yn machetes-knives- consultation@homeoffice.gov.uk. Derbyniwyd y mwyafrif llethol o’r ymatebion ar-lein ond roedd rhai aelodau o’r cyhoedd, heddluoedd a rhai sy’n gweithio yn y diwydiant wedi ymateb drwy e-bost.

8. Dadansoddwyd nifer yr ymatebion a dderbyniwyd drwy bob cyfrwng fel a ganlyn:

  • Arolwg ar-lein: 2,393 (94%)

  • E-bost: 151 (6%)

9. O’r 2,544 ymateb a dderbyniwyd, cyflwynwyd tua 42 ar ran sefydliadau gyda’r gweddill wedi dod gan aelodau’r cyhoedd, gan gynnwys ymarferwyr yn ymateb fel unigolion.

10. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys busnesau, elusennau, sefydliadau’n gweithio gyda phlant mewn perygl, anturiaethwyr awyr agored, casglwyr, cymdeithasau garddio, amgueddfeydd ac asiantaethau gorfodaeth.

11. Mae’r llywodraeth wedi dadansoddi’r ymatebion i gyd, a grynhoir yn y ddogfen hon. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion o blaid y cynigion. Fodd bynnag, roedd nifer wedi codi pryderon ynghylch cynigion 1 a 2 a byddwn yn trafod y rhain yn fanwl nes ymlaen yn y ddogfen.

12. Cododd nifer o themâu allweddol, gan gynnwys:

i. Pryderon y byddai gwahardd rhai mathau o gyllyll a chyllyll twca’n cael effaith negyddol ar angen cyfreithlon pobl i fod ym meddiant a defnyddio cyllyll. Roedd y rhai a oedd yn erbyn y gwaharddiad yn credu y dylai deddfwriaeth a chamau’r llywodraeth ganolbwyntio ar dargedu troseddwyr yn lle cyflwyno mesurau a fyddai’n effeithio ar bawb ac a allai amharu ar ddefnydd cyfreithlon.

ii. Cynigiodd rai’r farn na ddylai unrhyw gyfyngiadau ar gyllyll twca amharu ar weithgareddau cyfreithlon rhai sydd eisiau defnyddio cyllyll twca fel offer gwaith ond y byddent o blaid gwaharddiad pe bai’r ddeddfwriaeth yn canolbwyntio’n glir dim ond ar gyllyll twca sy’n ‘ymddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol ac nid fel offer amaethyddol neu offer i’w defnyddio yn yr awyr agored’.

iii. Lleisiodd rai, gan gynnwys casglwyr a grwpiau ‘ail-greu golygfa’, bryderon y byddai eitemau o ddiddordeb hanesyddol yn cael eu gwahardd fel canlyniad anfwriadol i wahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll awyr agored mawr, gan awgrymu y dylai’r ddeddfwriaeth gynnwys amddiffyniad ar gyfer eitemau o bwys neu ddiddordeb hanesyddol. Awgrymodd rai hefyd y dylid eithrio eitemau wedi eu saernïo’n draddodiadol â llaw, tebyg i’r amddiffyniad presennol ar gyfer cleddyfau gyda llafnau crwm neu ar dro.

iv. Pryderon y gallai pŵer yr heddlu i atafaelu eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat arwain at i’r heddlu gymryd meddiant ar hap o eiddo preifat gan ddinasyddion sy’n ufudd i’r gyfraith.

v. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc, y gallai cynigion 3-5 effeithio’n negyddol ar bobl ifanc sydd efallai’n cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i gario’r eitem.

13. Trafodwn y themâu hyn yn fwy manwl yn yr adrannau canlynol sy’n ystyried yr ymatebion i bob un o’r cynigion yn ymgynghoriad y llywodraeth.

14. Mae’r llywodraeth yn ddiolchgar am bob ymateb ac wedi ystyried pob barn, safbwynt a thystiolaeth yn ofalus. Mae’r ymatebion wedi goleuo’r mesurau arfaethedig a bydd y llywodraeth yn mynd ati i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer y cynigion canlynol pan fydd amser seneddol yn caniatáu.

i. Gwahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll sy’n ymddangos i fod wedi cael eu dylunio nid fel offer gwaith ond i edrych yn fygythiol ac addas i’r pwrpas o ymladd.

ii. Pŵer newydd i’r heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat os yw’r heddlu yn yr eiddo’n gyfreithlon ac mae ganddynt le rhesymol i amau y defnyddir yr eitem mewn trosedd.

iii. Cynyddu’r uchafswm cosb am y trosedd o fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau peryglus ac wedi eu gwahardd, a gwerthu cyllyll i rai dan 18 oed, i ddwy flynedd.

iv. Trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais.

15. Hefyd, bydd y llywodraeth yn gofyn i’r Cyngor Dedfrydu ystyried diwygio’r Canllawiau Dedfrydu ar fod ym meddiant eitemau llafn ac arfau ymosodol fel y byddai bod ym meddiant arf wedi’i wahardd yn cael ei drin yn fwy difrifol na bod ym meddiant arf heb fod wedi’i wahardd.

16. Byddwn yn parhau i drafod â phartneriaid allweddol wrth i ni ddatblygu a gweithredu unrhyw newidiadau deddfwriaeth.

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno y dylai’r llywodraeth gymryd camau pellach i fynd i’r afael â throseddau cyllyll, ac yn enwedig defnyddio cyllyll twca a chyllyll mawr eraill mewn troseddau?

1. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o’r ymatebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

2. O’r 2,388 a atebodd y cwestiwn hwn, roedd 53% yn cytuno y dylai’r llywodraeth gymryd camau pellach i fynd i’r afael â throseddau cyllyll, yn enwedig defnyddio cyllyll twca a chyllyll mawr eraill. Roedd y 47% arall yn anghytuno bod angen cymryd camau pellach.

3. O’r rhai a atebodd ‘Nac ydw’ i’r cwestiwn, eu prif bryderon oedd na fyddai newid y gyfraith yn cael fawr ddim effaith ar droseddau cyllyll neu y byddai gwneud mwy i geisio datrys troseddau cyllyll yn cael effaith niweidiol ar rai sydd angen defnyddio cyllyll yn gyfreithlon.

Cynnig 1 - Gwahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll sy’n awgrymu nad oes unrhyw ddefnydd ymarferol iddynt ac sy’n ymddangos i fod wedi cael eu dylunio i edrych yn fygythiol ac addas i’r pwrpas o ymladd.

Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig?

4. Fe wnaethom holi barn am ychwanegu rhai mathau o gyllyll a chyllyll twca at y rhestr o arfau sydd wedi eu gwahardd o dan a141 CJA 1988. Gofynnwyd i’r ymatebwyr dicio un o’r atebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

5. Roedd cyfanswm o 2,443 o atebion i’r cwestiwn hwn.

6. O’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn, roedd 893 (37%) yn cytuno â’r cynnig i wahardd rhai mathau o gyllyll a chyllyll twca sy’n ymddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol ac addas ar gyfer ymladd, gyda 1,550 (63%) yn nodi nad oeddent yn cytuno a’r cynnig.

7. Y rheswm mwyaf cyffredin dros beidio â bod o blaid y cynnig oedd y byddai’n effeithio ar bobl oedd angen defnyddio cyllyll a chyllyll twca’n gyfreithlon at ddibenion gwaith a hamdden. Roedd rhai’n poeni na fyddent yn gallu defnyddio cyllyll twca mewn amgylcheddau gwledig lle na fyddai’n ymarferol na’n ddymunol defnyddio offeryn pŵer arall yn eu lle. Roedd eraill yn poeni y byddai’r gwaharddiad yn effeithio ar anturiaethwyr awyr agored wrth wneud gweithgareddau lle’r oedd angen arf twca i glirio clwt o dir ar gyfer gwersylla, ayyb.

8. Roedd ymatebwyr hefyd yn ansicr pa mor effeithiol fyddai’r newid hwn i wella’r broblem o droseddau cyllyll gan fynegi barn y dylai’r llywodraeth ganolbwyntio ei hymdrechion ar rai sy’n defnyddio cyllyll fel arfau, yn lle ar fesurau fydd yn effeithio ar y boblogaeth ehangach.

9. Roedd nifer helaeth o ymatebwyr hefyd yn dadlau y byddai ychwanegu’r math yma o gyllyll at y rhestr o arfau ymosodol yn agored i ddehongliad; roeddent felly’n pwysleisio’n gryf bod angen bod yn glir ar y diffiniadau a’r disgrifiadau o’r math o gyllyll a chyllyll twca y mae’r llywodraeth yn bwriadu eu gwahardd.

10. Roedd sylwadau gan rai a atebodd ‘ydw’ i’r cwestiwn yn cynnwys y farn nad oes dim angen neu fawr ddim angen i bobl fod yn berchen ar y cyllyll a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad. Roedd eraill o’r farn bod modd dod o hyd i, a defnyddio, cyllyll eraill.

Cwestiwn 3: Gan edrych ar y nodweddion cyffredin sy’n perthyn i’r cyllyll a chyllyll twca y cynigiwn eu gwahardd, ydych chi’n cytuno y dylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at:

a) Bod yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog

b) Bod yr eitem yn cynnwys mwy nag un twll

c) Bod yr eitem o hyd arbennig

d) Unrhyw nodweddion eraill y dylid eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol.

11. Holwyd barn pobl am y tair nodwedd a ddisgrifir uchod yn rhannau a), b) ac c) y cwestiwn hwn. Mae’r nodweddion hyn, sy’n gyffredin mewn cyllyll ‘sombi’, yn ymddangos i fod yn ddeniadol i rai sydd eisiau defnyddio arf twca fel arf ymosodol yn lle offeryn gwaith – nifer o ymylon torri sy’n cyfuno ymylon llyfn a danheddog, tyllau a siapiau sy’n debycach i gyllell ffantasi na chyllell waith. Roedd rhai sy’n gweithio yn y diwydiant yn dadlau bod y nodweddion hyn yn eu gwneud yn anaddas i’r amrywiol ddibenion ymarferol a chyfreithlon y dyluniwyd cyllyll twca ar eu cyfer.

a) Bod yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog

12. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o’r atebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

13. Roedd cyfanswm o 2,386 o atebion i’r cwestiwn hwn.

14. O’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn, nid oedd y rhan fwyaf (68%) yn meddwl y dylai disgrifiad cyfreithiol gyfeirio at yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog. Roedd y 32% arall yn cytuno y dylai diffiniad gynnwys ymylon torri llyfn a danheddog.

15. Roedd ymatebwyr a oedd yn erbyn cynnwys y nodwedd yma yn y disgrifiad o’r cyllyll y cynigiwn eu gwahardd yn dadlau bod angen ymylon llyfn a danheddog yn y rhan fwyaf o gyllyll a chyllyll twca awyr agored a bod y ddwy fath o ymyl yn cael eu cynnwys am reswm da, er enghraifft i dorri canghennau neu weiren. Ar y llaw arall, dadleuai’r rhai o blaid fod angen i unrhyw ddiffiniad cyfreithiol fod mor benodol â phosib.

16. Roedd nifer fach o atebion ar-lein (125) a atebodd ‘ydw’ neu ‘nac ydw’ i’r cwestiwn hwn yn ymddangos i fod wedi dehongli bod y cwestiwn yn gofyn a ddylai fod gan lafn ymyl lefn neu ddanheddog.

b) Bod yr eitem yn cynnwys mwy nag un twll

17. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o’r atebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

18. Roedd cyfanswm o 2,330 o atebion i’r cwestiwn hwn.

19. O’r rhai a atebodd ar-lein i’r cwestiwn hwn, meddyliai 70% na ddylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at yr eitem fel bod â mwy nag un twll. Roedd y 30% arall yn cytuno y dylai diffiniad gynnwys nifer o dyllau.

20. Roedd y rhai nad oedd yn teimlo y dylai disgrifiad gynnwys nodwedd gyda mwy nag un twll yn dadlau y byddai’n effeithio ar ddefnyddio cyllyll yn gyfreithlon. Roedd enghreifftiau o ddefnydd cyfreithlon yn cynnwys tyllau yn y llafn i leihau pwysau’r gyllell, i’w gwneud yn haws i’w chario. Dywedodd lawer hefyd nad oeddent yn meddwl bod ffocws ar nifer y tyllau’n effeithiol i ddatrys y broblem o droseddau cyllyll.

21. Dadleuai rai sy’n gweithio yn y diwydiant mai mwya’n byd o dyllau sydd yn y llafn, y lleiaf effeithiol yw fel offeryn gwaith a’r lleiaf tebygol y byddai gan arf twca a ddyluniwyd fel offeryn gwaith nifer o dyllau. Roedd tua 5% o’r rhai a atebodd ‘ydw’ a 21% o’r rhai a atebodd ‘nac ydw’ i’r cwestiwn hwn yn ymddangos i naill ai rannu’r farn yma neu’n ansicr pa wahaniaeth yr oedd nifer benodol o dyllau’n ei wneud i lafn ac felly’n ansicr pam y dylid ei gynnwys fel nodwedd.

22. Dywedodd rai bod angen bod yn glir ynghylch ble y byddai’r tyllau yn y gyllell, a fyddai’n cynnwys tyllau yn y carn a / neu yn y llafn.

c) Bod yr eitem o hyd arbennig

23. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o’r atebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

24. Roedd cyfanswm o 2,353 o atebion i’r cwestiwn hwn.

25. O’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn, nid oedd 73% yn cytuno y dylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at fod yr eitem o hyd arbennig.

26. Un pryder a leisiwyd gan 27% o’r rhai a atebodd ‘na’ i’r cwestiwn hwn oedd y byddai’n effeithio’n andwyol ar rai sydd â rheswm cyfreithlon dros ddefnyddio’r cyllyll hyn. Rheswm arall a roddodd 26% o’r rhai a atebodd ‘na’ oedd y byddai cynnwys hyd yn y disgrifiad yn aneffeithiol i ddatrys troseddau cyllyll.

27. Roedd y rhai nad oedd yn cytuno ar gynnwys hyd fel nodwedd yn y disgrifiad yn dadlau mai hira’n byd oedd y gyllell, yr anoddaf y byddai i’w chuddio; felly’r lleiaf tebygol y byddai’r eitem yn cael ei defnyddio mewn troseddau. Roedd eraill yn erbyn ffocws ar hyd am reswm hollol wahanol: roeddent yn meddwl y gellid defnyddio eitemau o unrhyw hyd mewn troseddau ac, felly, y dylai’r llywodraeth fynd yn bellach ac ystyried cyfyngu ar eitemau o unrhyw hyd.

d) A oes unrhyw nodweddion eraill y dylid eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol?

28. Roeddem eisiau rhoi cyfle i’r ymatebwyr rannu unrhyw nodweddion eraill y teimlent oedd angen eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol. Roedd hwn yn gwestiwn testun rhydd.

29. Roedd cyfanswm o 1,394 o atebion i’r cwestiwn hwn.

30. O’r rhai a atebodd y cwestiwn, awgrymodd 127 nodwedd arall, gyda 127 o atebion pellach yn gwneud awgrymiadau ar y polisi. Ni ystyriwyd bod atebion eraill a gafwyd yn cynnig nodwedd wahanol y gallai’r llywodraeth ystyried ei chynnwys mewn unrhyw ddisgrifiad.

31. Roedd y nodweddion eraill a awgrymwyd yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i: lliw’r llafn, pigau ar y carn, ongl neu siâp y llafn, pwysau’r llafn, deunydd y llafn a llafn wedi’i wneud i edrych fel rhywbeth arall.

Cwestiwn 4: Gan edrych ar hyd y mathau o gyllyll a chyllyll twca y cynigiwn eu gwahardd, gwahoddwn farn am beth ddylai’r lleiafswm hyd fod:

a) 8” (20.32cm)

b) 9” (22.86cm)

c) 10” (25.4 cm)

d) Unrhyw hyd arall?

32. Roedd hwn yn gwestiwn amlddewis a gallai’r ymatebwyr ddewis un opsiwn.

Roedd cyfanswm o 1,847 o atebion i’r cwestiwn hwn.

33. O’r rhai a atebodd:

  • dewisodd 22% opsiwn a;

  • dewisodd 1% opsiwn b;

  • dewisodd 5% opsiwn c; a

  • dewisodd 72% opsiwn d.

34. O’r rhai a ddewisodd opsiwn ‘d’, dywedodd 23% na ddylid cael lleiafswm hyd ac felly na ddylai’r llywodraeth nodi hyd fel nodwedd yn y disgrifiad.

35. Gwnaed cyfanswm o 129 o awgrymiadau ar gyfer ‘hyd arall’. Roedd y rhain yn amrywio o gyn fyrred â 1cm i 2,000 modfedd. Gwnaed nifer fach o awgrymiadau rhwng 2 a 5 modfedd ac felly hefyd rhwng 12 a 24 modfedd.

Cwestiwn 5: Hoffem ddeall a oes angen, a beth yw’r angen presennol yn y DU am gyllyll twca a chyllyll awyr agored mawr.

36. Nid yw’r llywodraeth yn ystyried gwahardd cyllyll twca gyda defnyddiau cyfreithlon fel amaethyddiaeth ayyb. Roeddem felly’n ceisio deall beth yr ystod lawn o ddefnyddiau cyfreithlon.

37. Roedd cyfanswm o 2,104 o atebion i’r cwestiwn hwn.

38. Yn fyr, tynnwyd sylw at y defnyddiau cyfreithlon canlynol: amaeth, coedwigaeth, gwersylla, crefft y gwyllt, garddio, pysgota, deifio, saethu a chadwraeth, clirio afonydd ayyb a chasglu cyllyll o ddiddordeb arbennig neu gyllyll hynafol.

Ymateb y llywodraeth

39. Safiad y llywodraeth ar hyn yw bod angen gwneud mwy i ddatrys y defnydd o gyllyll twca a chyllyll ‘sombi’ mewn troseddau. Ar ôl ystyried yr atebion yn fanwl, bydd y llywodraeth yn cynnig cyflwyno gwaharddiad ar rai mathau o gyllyll mawr sy’n ymddangos i fod yn apelio at rai sydd eisiau eu defnyddio fel arfau ymosodol – er enghraifft cyllyll ‘sombi’ neu fathau penodol o gyllyll twca.

40. Noda’r llywodraeth fod rhai wedi dadlau y dylai unrhyw ddiffiniad fod yn eang ac nid yn rhy benodol. Fodd bynnag, rhaid i ni roi eglurder i asiantaethau gorfodaeth, gwerthwyr, mewnforwyr a pherchnogion yn gyffredinol i’w helpu i asesu a yw eitem sydd eisoes yn eu meddiant, yn ystyried cael yn eu meddiant, neu ei gweithgynhyrchu a gwerthu, yn gyfreithlon neu wedi’i gwahardd. Hefyd, ni all unrhyw ddiffiniad cyfreithlon fod mor eang fel bo’n cynnwys eitemau llafn sydd y tu allan i sgôp y gwaharddiad hwn.

41. Mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn ystyried disgrifiad o’r eitemau y dymunwn eu gwahardd. Ar ôl cael adborth gan ymatebwyr, rydym yn edrych ar y nodweddion canlynol:

  • Ymylon torri – llyfn a danheddog

  • Blaen pigog miniog

  • Hyd y llafn

  • Tyllau yn y llafn

  • Nodweddion eraill – pigau, ymwthiadau, bachau

42. Ymyl dorri lefn / ddanheddog: Roedd llawer yn poeni y byddai’r disgrifiad o’r cyllyll twca a’r cyllyll y cynigiwn eu gwahardd yn cynnwys ymyl ddanheddog. Roeddent yn poeni y gallai cyllyll ag un ymyl ddanheddog, fel cyllyll bara a rhai cyllyll caws, gael eu gwahardd. Ein meddwl ar hyn o bryd yw er mwyn i eitemau llafn gael eu gwahardd o dan ein cynigion, byddai’n rhaid iddynt fod ag ymyl lefn a danheddog, yn ogystal â rhai o’r nodweddion eraill yn y disgrifiad.

43. Mwy nag un twll: Yn ôl yr arbenigwyr diwydiant a ymatebodd, mae un twll yn aml yn nodwedd o gyllyll awyr agored a rhai mathau o gyllyll twca, a bod y twll yno er mwyn gallu hongian y gyllell. Rydym felly wedi cynnwys ‘mwy nag un twll’ yn y disgrifiad gyda’r bwriad o osgoi cynnwys cyllyll a chyllyll twca a ddefnyddir yn gyffredin, ac a ddyluniwyd, fel offer gwaith.

44. Hyd: Roedd y rhan fwyaf a atebodd y cwestiwn hwn yn dadlau y gallai cyllyll o unrhyw hyd fod yn beryglus o’u defnyddio fel arfau ymosodol ac na ddylai hyd fod yn berthnasol i’r disgrifiad o gyllyll twca a chyllyll y dymunwn eu gwahardd, oherwydd byddai nodi unrhyw hyd yn cyfyngu ar effaith y ddeddfwriaeth ac ar bwerau’r heddlu i atafaelu’r eitemau.

45. Credwn fod angen i ni nodi isafswm hyd ar gyfer eitemau i’w hatafaelu o dan y gwaharddiad er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol, fel gwahardd cyllyll gwaith sydd eu hangen ar gyfer tasgau pob dydd. Ein bwriad yw nodi’r hyd hwn fel 8 modfedd oherwydd dyma’r hyd byrraf a’r ail opsiwn a ffafrir fwyaf gan yr ymatebwyr.

46. Nodweddion eraill: Rydym wedi ystyried yr awgrymiadau a wnaed ar gyfer nodweddion ychwanegol, fel lliw, deunydd a phwysau. Awgrymodd rai y dylid cynnwys geiriau a delweddau sy’n ysgogi trais. Fodd bynnag, credwn fod y nodweddion y cynigiwn iddynt fod yn y disgrifiad yn taro’r cydbwysedd iawn rhwng cynnwys ystod ehangach o ddyluniadau ond heb fod yn rhy benodol, ac ar yr un pryd yn rhoi eglurder i werthwyr, perchnogion, prynwyr, asiantaethau gorfodaeth a’r llysoedd ar adnabod yn ddigamsyniol a yw eitem wedi’i gwahardd neu beidio.

47. Mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried a ddylid cynnwys amddiffyniad ar gyfer eitemau o bwys hanesyddol.

48. Isod rhoddwn enghreifftiau o’r mathau o gyllyll yr ystyriwn eu cynnwys o fewn sgôp y gwaharddiad.

Cyllell dwca ‘sombi’ 20” / 50cm.

Cyllell dwca ‘anialwch’ 17.3” / 44cm.

Cyllell hela ‘ffantasi’ 15” / 38cm.

Cyllell ‘ffantasi’ 10.5” / 26.5cm.

Cyllell dwca-kukri hybrid 9.5” / 24.13cm.

Cyllell ‘Rambo’ 9” / 22.86 cm.

Cyllell dwca ‘Cytlas’ 18” / 45.72cm.

49. Isod rhoddir enghreifftiau o’r math o lafnau na fwriadwn eu cynnwys yn sgôp y gwaharddiad. Soniwyd am y llafnau hyn gan rai a oedd yn poeni y gallai’r gwaharddiad gynnwys yr offer gwaith cyfreithlon hyn.

Cyllyll twca gyda blaenau aflem yn bennaf.

Bilygau a phladuron gydag un ymyl dorri

Llifau llaw a chyllyll gydag un math o ymyl dorri – llyfn neu ddanheddog

Maguro Bocho (cyllell diwna)

Llifau a chyllyll dwy handlen, hyd yn oed os oes ganddynt ddau fath o ymyl dorri neu dyllau yn y llafn

50. Mae’r llywodraeth yn ffyddiog y bydd y manylebau hyn yn gadael i’r rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio cyllyll twca fel offer gwaith am resymau cyfreithlon barhau i wneud hynny, ac y bydd rhai sy’n defnyddio cyllyll sy’n cael eu cynnwys yn y gwaharddiad am resymau cyfreithlon yn gallu dod o hyd i opsiynau eraill sy’n addas.

51. Byddwn yn parhau i adolygu’r rhestr o arfau ymosodol a waherddir, gan gynnwys a oes angen gweithredol i ni ehangu’r gwaharddiad yn y dyfodol i gynnwys rhai cleddyfau ac eitemau llafn neu arfau ymosodol eraill.

Cynnig 2 – Y pŵer i atafaelu a chadw / dinistrio rhai mathau o eitemau llafn a gedwir ar eiddo preifat os yw’r heddlu yn yr eiddo preifat yn gyfreithlon a gyda lle rhesymol i amau y gallent gael eu defnyddio mewn troseddau difrifol.

Cwestiwn 6: Ydych chi’n cytuno bod y pŵer newydd arfaethedig yn angenrheidiol a chymesur?

52. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o’r atebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

53. Roedd cyfanswm o 2,379 o atebion i’r cwestiwn hwn.

54. O’r atebion a gawsom i’r cwestiwn hwn, roedd 58% yn anghytuno â’r cynnig a 42% yn cytuno bod y pŵer newydd arfaethedig yn angenrheidiol a chymesur.

55. Y prif bryderon a leisiwyd oedd y gallai’r pŵer fod yn agored i ddehongliad ac y gallai’r heddlu ei ddefnyddio’n fympwyol neu’n anghywir, a’r posibilrwydd y gallai effeithio ar bobl sy’n defnyddio cyllyll yn gyfreithlon.

56. Roedd atebion eraill o blaid pŵer a allai helpu i atal troseddau yn y dyfodol a gwarchod dioddefwyr trais neu droseddu yn y dyfodol. Nodwyd hefyd y gallai’r pŵer fod yn ddefnyddiol iawn mewn sefyllfaoedd cam-drin domestig lle y mae risg sylweddol ond, ar hyn o bryd, dim pwerau i atafaelu arfau.

57. Roedd yr atebion hefyd yn awgrymu bod angen cael hawl i unioni cam i herio penderfyniad yr heddlu (gwnaed sylwadau pellach ar y pwynt hwn wrth ateb C8).

Cwestiwn 7: Gwahoddwn farn ynghylch a ddylai’r pwerau gynnwys unrhyw gyllell ar eiddo preifat neu ddim ond cyllyll o hyd arbennig.

a) Unrhyw gyllell ar eiddo preifat

b) Cyllyll o hyd arbennig

58. Roedd hwn yn gwestiwn aml-ddewis a gallai’r ymatebwyr ddewis un opsiwn. Derbyniwyd cyfanswm o 1,548 o ymateb i’r cwestiwn hwn, gyda 996 yn dewis peidio ag ateb y cwestiwn.

  • dewisodd 32% opsiwn a;

  • dewisodd 29% opsiwn b; a

  • ni ddewisodd 39% unrhyw opsiwn.

59. Roedd rhai ymatebwyr, gan gynnwys rhai a ddewisodd opsiwn ‘a’ neu ‘b’, yn meddwl y dylid cael trydydd opsiwn i gynnwys y farn nad oedd yr ymatebwr yn cytuno gyda’r un o’r ddau opsiwn ac na ddylai’r cynnig gynnwys unrhyw gyllell.

60. Roedd rhai a ddewisodd opsiwn ‘a’ wedi gwneud sylwadau y byddai defnyddio’r pŵer i atafaelu unrhyw gyllell yn cynnwys unrhyw gyllell y gellid ei defnyddio mewn trosedd gan osgoi unrhyw fannau gwan o ran hyd y gyllell.

61. Roedd rhai a ddewisodd opsiwn ‘b’ wedi gwneud sylwadau pe bai’r pŵer yn cael ei ddefnyddio i atafaelu pob cyllell, y byddai’n cynnwys cyllyll cegin.

Cwestiwn 8: Gwahoddwn farn gan ymatebwyr ynghylch a ddylid cael hawl i apelio i’r llysoedd er mwyn adennill eitem a atafaelwyd neu a ddylai’r hawl i unioni cam fod drwy broses gwynion yr heddlu’n unig.

62. Gofynnwyd am farn pobl ynghylch a ddylid cael hawl i apelio i’r llysoedd neu hawl i unioni cam er mwyn adennill eitem a atafaelwyd gan yr heddlu.

63. Roedd cyfanswm o 1,933 wedi ateb y cwestiwn hwn. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd cytundeb y dylid cael hawl i apelio. Yr ail ymateb mwyaf cyffredin oedd gan rai a gytunodd y dylai fod gan bobl hawl i apelio, ond nid oeddent yn glir beth a fyddai’r opsiwn gorau ganddynt o wneud hyn. Dywedodd 107 o’r ymatebwyr yn gwbl glir eu bod yn meddwl y dylai’r hawl i unioni cam fod drwy broses gwynion yr heddlu’n unig.

64. Lleisiwyd pryderon a oedd gan y llysoedd gapasiti i ddelio ag apeliadau o’r fath.

Ymateb y llywodraeth

65. Mae’r llywodraeth eisiau sicrhau bod gan yr heddlu’r pwerau angenrheidiol i dorri lawr ar droseddau cyllyll. Fodd bynnag, fel y gwelwn o astudiaethau achos 1-3 yn y ddogfen ymgynghori, ar hyn o bryd os yw’r heddlu’n dod o hyd i gyllell dwca neu eitem gyfreithlon arall gyda llafn yng nghartref rhywun a gyda lle rhesymol i amau y defnyddir yr eitem mewn trais neu drosedd difrifol, nid oes ganddynt unrhyw bwerau os na chredir fod yr eitem yn dystiolaeth mewn ymchwiliad troseddol.

66. Bydd y llywodraeth felly’n cynnig cyflwyno pwerau newydd i’r heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat os yw’r heddlu yn yr eiddo’n gyfreithlon ac mae ganddynt le rhesymol i amau y bydd yr eitem(au) yn debygol o gael eu defnyddio mewn trais neu drosedd difrifol.

67. Mae’r llywodraeth yn glir y gellid ond defnyddio’r pŵer hwn os yw’r heddlu yn yr eiddo preifat yn gyfreithlon ac y gellid ond atafaelu unrhyw eitem gyda llafn os oes gan yr heddlu le rhesymol i amau y gellid defnyddio’r eitem mewn trais neu drosedd difrifol. Byddai’r cyfrifoldeb yn llwyr ar yr heddlu i gyfiawnhau eu hamheuaeth bod yr eitem yn debygol o gael ei defnyddio mewn trosedd. Lleisiwyd nifer o’r pryderon gan ymatebwyr a oedd yn rhagdybio y byddai’r heddlu’n cael pwerau i fynd i mewn i eiddo i chwilio am eitemau llafn y gellid eu defnyddio mewn trosedd. Nid hynny’r ydym yn ei gynnig. Byddai’r heddlu ond yn gallu defnyddio’r pŵer hwn os oeddent eisoes yn yr eiddo’n gyfreithlon, er enghraifft os oedd ganddynt eisoes bŵer i fynd i’r eiddo mewn cysylltiad â throsedd.

68. Mae’r llywodraeth yn cynnig y dylid ymdrin ag unrhyw wrthwynebiadau i atafaelu o dan y pŵer hwn drwy broses gwynion fewnol yr heddlu gan yr heddlu perthnasol neu Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Os yw’r achwynydd yn anghytuno â phenderfyniad yr heddlu neu’r IOPC, byddai’n bosib apelio i lys.

69. Byddwn yn parhau i ddatblygu’r cynnig hwn gan ystyried y pryderon a leisiwyd, ac yn deddfu pan fydd amser seneddol yn caniatáu.

Cynnig 3 – Cynyddu’r uchafswm cosb am y troseddau o werthu, ayyb, arfau ymosodol peryglus ac wedi eu gwahardd, a gwerthu cyllyll i rai dan 18 oed, i 2 flynedd.

Cwestiwn 9: Ydych chi’n meddwl bod y troseddau o werthu cyllyll i rai dan 18 oed, a gwerthu arfau ymosodol wedi eu gwahardd, mor ddifrifol fel y dylai’r uchafswm cosb fod yn ddwy flynedd?

70. Fe wnaethom holi barn yr ymatebwyr am gynyddu’r uchafswm cosb am y trosedd o werthu cyllyll, a gwerthu arfau ymosodol peryglus wedi eu gwahardd, i bobl dan 18 oed, i 2 flynedd. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o’r atebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

71. Roedd cyfanswm o 2,348 o atebion i’r cwestiwn hwn.

72. Roedd y mwyafrif (59%) yn cytuno â’r cynnig hwn.

73. Roedd nifer o ymatebwyr a feddyliai nad oedd yr uchafswm cosb o ddwy flynedd yn ddigon ac y dylai’r uchafswm cosb fod yn fwy.

74. Dywedodd rai na ddylid cosbi rhai sy’n gwerthu cyllyll a gwneud y gwiriadau angenrheidiol os yw’r person sy’n prynu’r gyllell yn defnyddio ID rhywun arall neu ID ffug.

75. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc, y gallai’r cynnig hwn effeithio’n negyddol ar bobl ifanc sydd efallai’n cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i gario’r eitem.

Ymateb y llywodraeth

76. Pwrpas y mesur hwn yw cynyddu’r uchafswm cosb am yr achosion mwyaf difrifol o werthu cyllyll i rai dan 18 oed. Ni fwriedir i’r mesur hwn gael ei ddefnyddio i gyhuddo gwerthwyr a gymrodd bob cam rhesymol i gadarnhau oed y person, a heb unrhyw reswm i gredu bod yr unigolyn dan 18 oed. Mae’r gyfraith bresennol eisoes yn cynnwys amddiffyniad ‘diwydrwydd dyladwy’ os yw’r gwerthwr yn gallu dangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i gadarnhau oed.

77. Bydd y mesur hefyd yn dod â’r trosedd o fewn cylch gwaith pwerau PACE, sy’n allweddol fel bo’r heddlu’n gallu ymchwilio i rai o’r troseddau mwyaf difrifol, er enghraifft rhai sy’n gwerthu cyllyll yn breifat i rai dan 18 oed, neu sy’n gwerthu arfau wedi eu gwahardd drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu apiau negeseua personol.

78. Nodwn y pryderon a leisiodd rai y gallai pobl ifanc fregus gael eu lled-orfodi i gario a chyflenwi cyllyll ac y gallai’r cynnig hwn effeithio arnynt yn negyddol. Fodd bynnag, bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol gan ystyried yr amgylchiadau a ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

79. Mae’r llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunanamddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, mae’n drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau o’r fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

80. Bydd y llywodraeth yn cynnig cynyddu’r uchafswm cosb am fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau ymosodol wedi eu gwahardd, a’r trosedd o werthu eitemau llafn i ran dan 18 oed, i ddwy flynedd pan fydd amser seneddol yn caniatáu.

Cynnig 4: A ddylai’r System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd.

Cwestiwn 10: A ddylai’r System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol pobl sydd ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd?

81. Gofynnwyd am farn ymatebwyr ynghylch a ddylid trin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllell wedi’i gwahardd. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o’r atebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

82. Roedd cyfanswm o 2,333 o atebion i’r cwestiwn hwn.

83. Roedd y mwyafrif (65%) yn cytuno â’r cynnig hwn, gyda sylwadau gan rai’n sôn am yr effaith hollol andwyol y mae troseddau cyllyll yn ei gael ar fywydau a chymunedau ac y bydd y newid hwn yn adlewyrchu difrifoldeb y trosedd yn well.

84. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc, y gallai’r cynnig hwn effeithio’n negyddol ar bobl ifanc sydd efallai’n cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i gario’r eitem.

Ymateb y llywodraeth

85. Nodwn y pryderon a leisiwyd bod gan y cynnig hwn botensial i effeithio ar bobl fregus a allai gael eu lled-orfodi i gario cyllyll. Lleisiwyd pryderon tebyg am gynnig 3. Bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol gan ystyried ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

86. Mae’r llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunan-amddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, mae’n drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau o’r fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

87. Bydd y llywodraeth yn gofyn i’r Cyngor Dedfrydu ystyried diwygio’r canllawiau dedfrydu ar fod ym meddiant o eitemau llafn / arfau ymosodol i drin bod ym meddiant o arf wedi’i wahardd yn gyhoeddus yn fwy difrifol.

Cynnig 5 - Trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais.

Cwestiwn 11: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig?

88. Gofynnwyd i ymatebwyr a oeddent yn meddwl y dylai’r llywodraeth gyflwyno trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o’r atebion canlynol gan egluro’r rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

89. Roedd cyfanswm o 2,361 o atebion i’r cwestiwn hwn.

90. Roedd y mwyafrif (64%) a atebodd y cwestiwn yn cytuno â’r cynnig hwn. Roedd rhai a oedd o blaid y cynnig hwn yn dadlau nad yw’r gyfraith bresennol yn cydnabod pa mor ddifrifol yw cario cyllell gyda’r bwriad o godi ofn a’i bod yn fwy tebygol y gallai’r sefyllfa waethygu gan arwain at niwed neu fygythiad i fywyd. Pwysleisiodd ymatebwyr fod angen gweithredu cyn i’r digwyddiad o fygwth person arall ddigwydd.

91. Roedd rhai’n cytuno â’r cynnig ond gan rannu’r farn eu bod yn meddwl y byddai’n anodd profi bwriad i beryglu bywyd neu achosi ofn trais wrth gario eitem llafn.

92. Roedd rhai hefyd o’r farn bod y gyfraith bresennol eisoes yn darparu ar gyfer hyn; roedd y mwyafrif a wnaeth y sylwadau hyn wedi dewis ‘nac ydw’ fel ateb i’r cwestiwn hwn.

93. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc, y gallai’r cynnig hwn effeithio’n negyddol ar bobl ifanc sydd efallai’n cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i gario’r eitem.

Ymateb y llywodraeth

94. Bydd y llywodraeth yn cynnig cyflwyno trosedd ar wahân o fod ym meddiant eitemau llafn gyda’r bwriad o anafu neu achosi ofn trais gydag uchafswm cosb uwch na’r trosedd presennol o fod ym meddiant arf ymosodol, pan fydd amser seneddol yn caniatáu.

95. Credwn fod bwlch yn y gyfraith ar gyllyll rhwng bod ym meddiant syml o gyllell, a bod ym meddiant a bygwth person arall. Mae’r cynnig hwn yn adlewyrchu’r gyfraith bresennol ar arfau tanio sydd wedi’i gweithredu’n effeithiol gan erlynwyr. Rydym yn disgwyl i’r cynnig hwn helpu’r heddlu i fynd i’r afael â thrais cyn i’r niwed ddigwydd a lle y mae tystiolaeth, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol, o ymddygiad gwawdio neu fygythiol.

96. Nodwn y pryderon a leisiwyd bod gan y cynnig hwn botensial i effeithio ar bobl fregus a allai gael eu lled-orfodi i gario cyllyll. Bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol ac yn ystyried ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

97. Mae’r llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunan-amddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, mae’n drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau o’r fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

Busnes a Masnach

98. Roedd cwestiynau eraill yr ymgynghoriad yn casglu gwybodaeth gan y sector busnes a masnach yn ogystal â barn pobl am nodweddion a warchodir. Defnyddir yr atebion i’r cwestiynau hyn i ddiweddaru’r asesiadau effaith perthnasol.

99. Mae’r llywodraeth wedi nodi’r pryderon a leisiwyd a bydd yn ystyried goblygiadau llawn y cynigion hyn mewn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu y gallai’r cynigion hyn effeithio mwy ar bobl gyda rhai nodweddion a warchodir nag eraill, ond ystyriwn fod modd lliniaru unrhyw effeithiau negyddol yn foddhaol neu eu cyfiawnhau’n wrthrychol fel ffordd gymesur o gyflawni’r nod cyfreithlon o geisio datrys troseddu difrifol.

Methodoleg Ddadansoddi’r Ymgynghoriad

  • Roedd geiriad y cwestiynau a ddisgrifir yn y ddogfen hon yr un fath ag yng nghwestiynau’r ymgynghoriad llawn ar gov.uk.

  • Rydym wedi dadansoddi’r ymatebion a bu’n rhaid i ni hefyd lunio barn am ba ohebiaeth oedd yn cael ei chyfri’n ymateb ffurfiol. Penderfynwyd peidio â chynnwys ymatebion anghyflawn / rhannol i’r arolwg ar-lein ar y sail nad oedd yr ymatebwr wedi cyflwyno’r data’n ffurfiol ac efallai heb fwriadu i’w ymateb gael ei ddarllen.

  • Cafodd data o’r ymatebion i’r cwestiynau meintiol (caeedig) (hynny yw, rhai a oedd yn gwahodd ymatebwyr i ddewis ateb) ei dynnu allan a’i ddadansoddi. Cafodd pob ymateb ansoddol hefyd (hynny yw, ymatebion i gwestiynau agored neu os oedd ymatebwr wedi cyflwyno llythyr neu e-bost yn lle ateb cwestiynau penodol) hefyd eu logio a’u dadansoddi. Gwnaed hyn drwy godio’r ymatebion er mwyn adnabod themâu a oedd yn codi’n aml. Mae’r canfyddiadau wedi eu hadrodd yn y ddogfen hon.

  • Mae elfen o oddrychedd wrth godio atebion ansoddol ac mae hyn wedi’i leihau drwy weithredu mesurau sicrhau ansawdd ychwanegol.

  • Derbyniwyd nifer o ymatebion manwl i’r ymgynghoriad oedd ddim yn cadw at y strwythur ffurfiol a’r cwestiynau a ofynnwyd. Cafodd y rhain eu bwydo i ymateb y llywodraeth.

  • Mae’r canrannau i gyd wedi eu cyfrifo i’r rhif cyfan agosaf.

  • Roedd gwahanol gwestiynau wedi derbyn nifer wahanol o ymatebion. Mae’r ffigurau felly’n seiliedig ar yr ymatebion ysgrifenedig i bob cwestiwn.

  • Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys rhai cwestiynau aml-ddewis a rhai testun rhydd. Rydym wedi cynnwys yr ymatebion mwyaf cyffredin i’r cwestiynau testun rhydd.

  • Roedd llawer o’r ymatebion testun rhydd yn gwneud mwy nag un pwynt. Er enghraifft, roedd llawer o’r ymatebion testun rhydd yn nodi nifer o fanteision, neu nifer o broblemau. Gallai’r canrannau ar gyfer faint o ymatebion oedd yn mynegi pob barn felly adio i fwy na 100%.

Os oes gennych unrhyw gŵyn neu sylw am broses yr ymgynghoriad, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.