Crynodeb o’r ymatebion a ymateb y Llywodraeth
Updated 14 January 2026
Rhagair
-
Rhwng 4 Chwefror a 1 Ebrill 2025, cynhaliodd Defra a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd ynghylch a ddylai Cymru a Lloegr newid eu rheolaethau bwyd anifeiliaid i ganiatáu rhai proteinau anifeiliaid wedi’u prosesu mewn bwyd anifeiliaid. Nod y cynigion hyn yw diweddaru rheolaethau bwyd anifeiliaid i:
- • adlewyrchu gwybodaeth wyddonol gyfredol am enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEau)
- • agor marchnadoedd newydd i’r diwydiant
- • sicrhau chwarae teg gyda’r UE
-
Petai’r cynigion yn cael eu cyflwyno, byddent yn cynnal lefel uchel y DU o fioddiogelwch, diogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid.
-
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu crynodeb o’r ymatebion ac yn nodi ymateb y Llywodraeth. Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar ymatebion a roddwyd ar-lein trwy’r Gofod Dinasyddion, trwy e-bost ac mewn barn a fynegwyd mewn cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori. Derbyniwyd cyfanswm o 736 o ymatebion i’r ymgynghoriad (732 o ymatebion trwy’r llwyfan ar-lein Gofod Dinasyddion, a 4 ymateb e-bost).
-
Wrth ystyried y dadansoddiad cryno hwn o’r ymatebion, mae’n bwysig cofio nad yw ymgynghoriadau cyhoeddus o reidrwydd yn gynrychioliadol o’r boblogaeth ehangach. Mae hyn oherwydd gall unrhyw un gyflwyno eu barn - unigolion, sefydliadau a busnesau. Felly, dull y dadansoddi hwn oedd nid yn unig cyfrif faint o ymatebwyr oedd â barn benodol ond hefyd cynnwys dadansoddi ansoddol o’r sylwadau ychwanegol a gafwyd i ystyried yr ystod o faterion a godwyd gan ymatebwyr.
Trosolwg
-
Mae TSEau yn grŵp o glefydau niwrolegol angheuol. Yn benodol, mae TSEau yn cynnwys clefyd y crafu mewn defaid a geifr, enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE) – a elwir hefyd yn ‘glefyd y gwartheg gwallgof’ – mewn gwartheg, nychod cronig (CWD) mewn ceirw, a chlefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob (vCJD) mewn pobl.
-
Mae TSEau yn grŵp o glefydau niwrolegol angheuol. Yn benodol, mae TSEau yn cynnwys clefyd y crafu mewn defaid a geifr, enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE) – a elwir hefyd yn ‘glefyd y gwartheg gwallgof’ – mewn gwartheg, nychod cronig (CWD) mewn ceirw, a chlefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob (vCJD) mewn pobl.
-
Gwelwyd yr achos cyntaf o BSE yn y Deyrnas Unedig (DU) ym 1986, ac ers hynny mae dros 180,000 o achosion wedi cael eu cadarnhau mewn gwartheg yn y DU. Cadarnhawyd 37,056 o achosion ar anterth yr epidemig ym 1992. Mae BSE clasurol yn digwydd drwy fwyta bwyd sydd wedi’i halogi â’r cyfrwng BSE ac ystyrir ei fod yn filheintiol (trosglwyddadwy i bobl) yn sgil ei gysylltiad tybiedig â vCJD wrth fwyta cig wedi’i halogi.
-
Mae’r mesurau rheoli BSE llym a gyflwynwyd yn y DU ym 1988 (Rheoliadau Porthiant 1988), 1996 (Gorchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Diwygio) 1996), ac yn 2001 (Rheoliad (CE) Rhif 999/2001) yn gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid fferm, gyda rhai eithriadau cyfyngedig iawn. Mae hyn yn atal cyfryngau BSE rhag cael eu hailgylchu yn ôl i’r boblogaeth o anifeiliaid sy’n cnoi cil (gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr a cheirw). Mae cydymffurfiad â’r rheolaethau bwyd anifeiliaid hyn hefyd yn cael ei fonitro gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy’r Archwiliad Cenedlaethol o Fwydydd Anifeiliaid (NFA). Mae’r rheolaethau bwyd anifeiliaid hyn, ymysg mesurau rheoli BSE eraill, wedi lleihau nifer yr achosion o BSE yn sylweddol yn y DU. Dim ond 5 achos o BSE clasurol sydd wedi bod yn y DU ers 2014.
-
Mae ein dealltwriaeth o BSE a sut y caiff ei drosglwyddo hefyd wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, ac nid yw’r rheoliadau bwyd anifeiliaid bellach yn adlewyrchu gwybodaeth wyddonol gyfredol na lefel risg BSE.
-
Er bod y rheolaethau hyn yn effeithiol, cawsant eu creu mewn modd rhagofalus pan oedd gwybodaeth am BSE yn gyfyngedig. Ers hynny, mae ymchwil wedi dangos nad yw moch a dofednod yn agored i TSEau yn naturiol ac mae gwelliannau mewn dulliau profi bwyd yn ein galluogi i wahaniaethu rhwng proteinau anifeiliaid sy’n cnoi cil a phroteinau anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil os ydynt yn cael eu canfod mewn bwyd ac rydym yn gallu canfod presenoldeb protein moch neu ddofednod.
-
Yn 2021, diwygiodd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ei ddeddfwriaeth TSE i ganiatáu defnyddio ystod ehangach o broteinau anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil. Mae’r UE wedi caniatáu’r canlynol:
- • protein dofednod wedi’i brosesu mewn bwyd moch
- • protein moch wedi’i brosesu mewn bwyd dofednod
- • protein pryfed wedi’i brosesu mewn bwyd moch a dofednod
- • colagen a gelatin anifeiliaid sy’n cnoi cil mewn bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
-
Mae’r diwygiadau hyn yn rhan o fap TSE yr UE i adolygu rheolaethau BSE, yng ngoleuni’r gostyngiad yn nifer yr achosion o BSE a gwell dealltwriaeth o’r clefyd. Roedd y DU yn cefnogi’r map pan oedd yn aelod o’r UE.
-
Daeth asesiad risg o’r newidiadau arfaethedig i’r casgliad bod y rhain yn rhoi’r un lefel o warchodaeth i iechyd dyn ac anifeiliaid â’r mesurau rheoli presennol. Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn ynghylch diwygio’r ddeddfwriaeth ddomestig er mwyn rhoi’r newidiadau arfaethedig ar waith.
-
Os cyflwynir hyn, byddai mesurau diogelu allweddol yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys gwahardd protein wedi’i brosesu o anifeiliaid sy’n cnoi cil rhag cael ei fwydo i anifeiliaid sy’n cnoi cil, gofyniad gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (WOAH). Byddai rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABP) yn dal i wahardd ailgylchu o fewn yr un rhywogaeth.
Crynodeb o’r ymatebwyr
-
Cafwyd cyfanswm o 736 o ymatebion i’r ymgynghoriad (732 o ymatebion ar y llwyfan ar-lein Gofod Dinasyddion, a 4 ymateb e-bost). Cafodd unrhyw ymatebion e-bost a oedd yn ymateb yn uniongyrchol i gwestiynau unigol eu mewnbynnu i’r Gofod Dinasyddion â llaw a’u trin yn yr un modd ag ymatebion eraill ar y platfform hwnnw. Nid yw’r 4 ymateb e-bost nad oeddent yn ymateb yn uniongyrchol i gwestiynau unigol wedi’u cynnwys yn y data dadansoddol ond maent yn cael eu hystyried yn ymateb y Llywodraeth.
-
Gofynnwyd i’r holl ymatebwyr pa opsiwn sy’n eu disgrifio nhw neu eu sefydliad orau. Roedd 84 y cant o’r ymatebion a gafwyd (616) gan aelodau o’r cyhoedd. Cawsom ymatebion hefyd gan:
- • cynhyrchwyr protein pryfed
- • melinau porthiant cyfansawdd
- • gwneuthurwyr cynhwysion bwyd anifeiliaid
- • ffermwyr
- • cymdeithasau masnachu
- • lladd-dai
- • gweithfeydd rendro
- • manwerthwyr
- • swyddogion gorfodaeth
-
Roedd ymatebwyr a ddewisodd y categori ‘arall’ yn cynnwys sefydliadau lles anifeiliaid, elusennau, a sefydliad ardystio halal.
-
Roedd rhai ymatebion yn cynrychioli barn sefydliad neu fusnes cyfan, ac roedd rhai ymatebion eraill yn cynrychioli barn unigolion mewn sefydliad neu fusnes. Mae hyn wedi’i ystyried yn ymateb y Llywodraeth.
-
Mae dadansoddiad llawn o’r ymatebwyr yn Atodiad 1 (data dadansoddol).
Crynodeb o’r ymateb i’r ymgynghoriad yn ôl cynnig polisi
- Nid yw’r crynodeb hwn o’r ymatebion yn rhestr gynhwysfawr o’r holl syniadau a gafwyd gan ymatebwyr ond mae’n crynhoi’r pryderon a’r barnau mwyaf cyffredin. Felly, defnyddir ystod o dermau ansoddol, megis ‘llawer’, ‘rhai’, ‘rhan fwyaf’ ac ‘ychydig’. Noder, mae unrhyw ganrannau wedi’u talgrynnu i rifau cyfan.
Y cynnig i ganiatáu protein dofednod wedi’i brosesu mewn bwyd moch
Dadansoddiad
-
Mewn ymateb i’r cynnig i ganiatáu protein dofednod wedi’i brosesu mewn bwyd moch:
- • Roedd 71 o ymatebwyr yn cytuno
- • Roedd 610 o ymatebwyr yn anghytuno
- • Roedd 51 o ymatebwyr ddim yn gwybod
-
O’r ymatebwyr a oedd o blaid y cynnig, nododd llawer y dystiolaeth wyddonol y tu ôl i’r diogelwch. Soniodd llawer o ymatebwyr am fanteision amgylcheddol posibl defnyddio protein anifeiliaid wedi’i brosesu sy’n cael ei allforio ar hyn o bryd i leihau’r ddibyniaeth ar fwyd anifeiliaid sy’n seiliedig ar ffa soia wedi’i fewnforio a chefnogi economi gylchol. Ar ôl i’r UE weithredu’r newidiadau hyn i reolaethau bwyd anifeiliaid yn 2021, mae’r diwydiant eisiau sicrhau chwarae teg gyda’r farchnad Ewropeaidd. Ar hyn o bryd, gall moch sydd wedi’u mewnforio o’r UE gael eu bwydo ar brotein dofednod wedi’i brosesu a’u mewnforio fel cynnyrch i’r DU. Soniodd ychydig o ymatebion hefyd am werth maethol protein dofednod wedi’i brosesu a’r cyfle economaidd. Byddai gweithfeydd prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n cynhyrchu protein dofednod neu foch wedi’i brosesu yn gallu gwerthu i farchnad Prydain Fawr i’w ddefnyddio wrth gynhyrchu bwyd moch a dofednod.
-
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â’r cynnig yn aelodau o’r cyhoedd. Cododd llawer bryderon am risg bosibl i fioddiogelwch ac iechyd y cyhoedd. Roedd llawer o’r ymatebwyr yn pryderu am risg TSE, a soniodd rhai am y risg gan bathogenau eraill. Roedd llawer o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu’r newidiadau oherwydd rhesymau moesegol a phryderon nad yw protein dofednod wedi’i brosesu yn rhan o ddeiet naturiol mochyn. Roedd rhai o’r ymatebwyr hyn yn ffafrio symud tuag at opsiynau mwy seiliedig ar blanhigion a lleihau’r ddibyniaeth ar gynhyrchion anifeiliaid. Cawsom hefyd nifer o ymatebion gan ffermwyr yn pryderu am ganfyddiad defnyddwyr petai’r cynnig hwn yn cael ei gyflwyno.
Barn y Llywodraeth
-
O ran diogelwch y newidiadau arfaethedig, mae Defra a Llywodraeth Cymru wedi cael sicrwydd y byddai’r newidiadau yn cynnal y lefelau presennol o fioddiogelwch ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliodd APHA asesiadau risg ar yr effaith bosibl ar iechyd anifeiliaid o fabwysiadu’r un newidiadau hyn ym Mhrydain Fawr. Roedd yr asesiadau risg hyn yn dangos bod y risg gyffredinol o anifail yn y DU yn cael ei heintio â TSE oherwydd y llacio deddfwriaethol hyn yn isel iawn ac amcangyfrifir na fydd yn cynyddu lefel na lledaeniad haint TSE. Daeth Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF), pwyllgor o arbenigwyr annibynnol sy’n darparu cyngor i’r Llywodraeth ar gwestiynau sy’n ymwneud â materion microbiolegol a bwyd, i’r casgliad bod yr asesiadau risg yn darparu sicrwydd iechyd y cyhoedd ar gyfer y newid polisi hwn os bydd rheolaethau BSE allweddol eraill yn parhau i fod ar waith. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran annibynnol, anweinidogol y Llywodraeth a’r Awdurdod Cymwys ar gyfer polisi bwyd anifeiliaid, diogelwch bwyd a hylendid yn y DU. Yn seiliedig ar y cyngor hwn gan ACMSF, penderfynodd yr ASB nad oes angen asesiad risg iechyd y cyhoedd mewn perthynas â mabwysiadu’r newidiadau hyn. Cafodd y rheolaethau presennol eu creu mewn modd rhagofalus pan oedd gwybodaeth am BSE yn gyfyngedig. Ers hynny, mae ymchwil wedi dangos nad yw moch a dofednod yn agored i TSEau yn naturiol.
-
O ran y risg gan bathogenau eraill, mae protein anifeiliaid wedi’i brosesu yn deillio’n gyfan gwbl o ddeunydd categori 3. Mae anifeiliaid sy’n dangos unrhyw arwyddion o glefyd trosglwyddadwy i bobl neu anifeiliaid wedi’u heithrio rhag cael eu defnyddio fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 3. Rhaid trin deunydd categori 3 gyda dulliau prosesu a restrir yn Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 142/2011 ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae’r dulliau hyn wedi’u dylunio i ddileu firws a bacteria o fewn y cynnyrch.
-
Mae Defra a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr ymatebwyr sy’n anghytuno â’r cynnig hwn am resymau moesegol a phryderon na fyddai protein dofednod wedi’i brosesu yn rhan naturiol o ddeiet mochyn. Fodd bynnag, mae moch yn hollysyddion ac mae cyfraddau cynnwys protein dofednod wedi’i brosesu mewn bwyd anifeiliaid yn yr UE fel arfer yn yr amrediad 5 i 10 y cant. Mae’r newidiadau hyn yn gyfle i’r diwydiant ddefnyddio deunydd categori 3 ar gyfer protein anifeiliaid wedi’i brosesu – sydd ar hyn o bryd yn cael ei allforio yn bennaf ar gyfer y farchnad bwyd anifeiliaid anwes – a’i werthu i farchnad ddomestig Prydain Fawr ar gyfer bwyd anifeiliaid. Gallai hyn gynyddu cynaliadwyedd y diwydiant.
-
Mae Defra a Llywodraeth Cymru yn cydnabod pryderon ynghylch canfyddiadau defnyddwyr o ganiatáu i rai proteinau anifeiliaid wedi’u prosesu gael eu bwydo i dda byw. Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau cyfathrebu effeithiol ar ddiogelwch y newidiadau.
Y cynnig i ganiatáu protein pryfed wedi’i brosesu mewn bwyd moch a dofednod
Dadansoddiad
-
Mewn ymateb i’r cynnig i ganiatáu protein moch wedi’i brosesu mewn bwyd dofednod:
- • Roedd 72 o ymatebwyr yn cytuno
- • Roedd 614 o ymatebwyr yn anghytuno
- • Roedd 46 o ymatebwyr ddim yn gwybod
-
Roedd y prif resymau pam bod ymatebwyr o blaid y cynnig i raddau helaeth yr un fath â’r rhesymau a roddwyd o blaid y cynnig i ganiatáu protein dofednod wedi’i brosesu mewn bwyd moch. O’r ymatebwyr a oedd o blaid y cynnig, nododd llawer y dystiolaeth wyddonol y tu ôl i’r diogelwch. Soniodd llawer o ymatebwyr am fanteision amgylcheddol posibl defnyddio protein anifeiliaid wedi’i brosesu sy’n cael ei allforio ar hyn o bryd i leihau’r ddibyniaeth ar fwyd anifeiliaid sy’n seiliedig ar ffa soia wedi’i fewnforio a chefnogi economi gylchol. Ar ôl i’r UE weithredu’r newidiadau hyn i reolaethau bwyd anifeiliaid yn 2021, mae’r diwydiant eisiau sicrhau chwarae teg gyda’r farchnad Ewropeaidd. Ar hyn o bryd, gall dofednod sydd wedi’u mewnforio o’r UE gael eu bwydo ar brotein moch wedi’i brosesu a’u mewnforio fel cynnyrch i’r DU. Soniodd ychydig o ymatebion hefyd am werth maethol protein moch wedi’i brosesu a’r cyfle economaidd. Byddai gweithfeydd prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n cynhyrchu protein moch neu ddofednod wedi’i brosesu yn gallu gwerthu i farchnad Prydain Fawr i’w ddefnyddio wrth gynhyrchu bwyd dofednod a moch.
-
Yn debyg i’r cynnig blaenorol, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â’r cynnig yn aelodau o’r cyhoedd. Cododd llawer bryderon am risg bosibl i fioddiogelwch ac iechyd y cyhoedd. Roedd llawer o’r ymatebwyr yn pryderu am risg TSE, a soniodd rhai am y risg gan bathogenau eraill. Roedd llawer o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu’r newidiadau oherwydd rhesymau moesegol a phryderon nad yw protein moch wedi’i brosesu yn rhan o ddeiet naturiol iâr. Roedd rhai o’r ymatebwyr hyn yn ffafrio symud tuag at opsiynau mwy seiliedig ar blanhigion a lleihau’r ddibyniaeth ar gynhyrchion anifeiliaid. Cawsom ychydig o ymatebion gan ffermwyr yn pryderu am ganfyddiad defnyddwyr petai’r cynnig hwn yn cael ei gyflwyno. Cawsom hefyd ychydig o ymatebion yn nodi y byddai’r cynnig hwn yn effeithio ar ofynion deietegol crefyddol.
Barn y Llywodraeth
-
Mae Defra a Llywodraeth Cymru wedi cael sicrwydd y byddai’r newidiadau yn cynnal y lefelau presennol o fioddiogelwch ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliodd APHA asesiad risg ar yr effaith bosibl ar iechyd anifeiliaid o fabwysiadu’r un newidiadau hyn ym Mhrydain Fawr. Roedd yr asesiad risg hwn yn dangos bod y risg gyffredinol o anifail yn y DU yn cael ei heintio â TSE oherwydd y llacio deddfwriaethol hyn yn isel iawn ac amcangyfrifir na fydd yn cynyddu lefel na lledaeniad haint TSE. Mae protein anifeiliaid wedi’i brosesu yn deillio’n gyfan gwbl o ddeunydd categori 3, sydd wedi cael ei drin yn unol â Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 142/2011 ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae’r dulliau hyn wedi’u dylunio i ddileu firws a bacteria o fewn y cynnyrch. Cafodd y rheolaethau presennol eu creu mewn modd rhagofalus pan oedd gwybodaeth am BSE yn gyfyngedig. Ers hynny, mae ymchwil wedi dangos nad yw moch a dofednod yn agored i TSEau yn naturiol.
-
Mae Defra a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr ymatebwyr sy’n anghytuno â’r cynnig hwn am resymau moesegol a phryderon na fyddai protein moch wedi’i brosesu yn rhan naturiol o ddeiet iâr. Fodd bynnag, mae ieir yn hollysyddion ac mae cyfraddau cynnwys protein moch wedi’i brosesu mewn bwyd anifeiliaid yn yr UE fel arfer yn yr amrediad 5 i 10 y cant. Mae’r newidiadau hyn yn gyfle i’r diwydiant ddefnyddio deunydd categori 3 ar gyfer protein anifeiliaid wedi’i brosesu – sydd ar hyn o bryd yn cael ei allforio yn bennaf ar gyfer y farchnad bwyd anifeiliaid anwes – a’i werthu i farchnad Brydain Fawr ar gyfer bwyd da byw. Gallai hyn gynyddu cynaliadwyedd y diwydiant.
-
Mae Defra a Llywodraeth Cymru yn cydnabod pryderon ynghylch canfyddiadau defnyddwyr o ganiatáu protein moch wedi’i brosesu mewn bwyd dofednod a byddant yn gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau cyfathrebu effeithiol ar ddiogelwch y cynigion.
-
O ran gofynion deietegol crefyddol, ni fydd anifeiliaid sy’n cael eu magu ar ddeiet rhannol gigysol yn cael eu hystyried yn halal na kosher. Mae Defra wedi ystyried sut y gall y cynigion hyn effeithio ar ofynion deietegol crefyddol ac wedi cysylltu ag awdurdodau ardystio halal a kosher, sy’n arbenigwyr yng nghyfraith Sharia a Kashrut. Cyfarfu Defra ag un o’r prif gynlluniau ardystio halal yn y DU yn ystod y cyfnod ymgynghori. Gwnaethant roi sicrwydd i ni eu bod yn gallu olrhain cynhyrchion yn ôl i’r felin fwyd anifeiliaid i sicrhau defnyddwyr bod y bwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â chyfraith Sharia. Gwnaethom hefyd gysylltu ag awdurdodau ardystio kosher, ond ni chawsom ymateb i’r ymgynghoriad. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i brotein moch, dofednod a phryfed wedi’i brosesu gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid dyframaethu a gellir eisoes mewnforio anifeiliaid sy’n cael eu magu ar y deietau hyn yn yr UE i’r DU.
Y cynnig i ganiatáu protein pryfed wedi’i brosesu mewn bwyd moch a dofednod
Dadansoddiad
-
Mewn ymateb i’r cynnig i ganiatáu protein pryfed wedi’i brosesu mewn bwyd moch a dofednod:
- • Roedd 119 o ymatebwyr yn cytuno
- • Roedd 599 o ymatebwyr yn anghytuno
- • Roedd 14 o ymatebwyr ddim yn gwybod
-
O’r ymatebwyr a oedd o blaid y cynnig, nododd llawer y dystiolaeth wyddonol y tu ôl i’r diogelwch a’r ffaith bod pryfed yn rhan naturiol o ddeiet moch a dofednod. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr hyn yn tynnu sylw at brotein pryfed wedi’i brosesu fel ateb posibl i leihau’r ddibyniaeth ar fewnforion protein sy’n seiliedig ar ffa soia, sy’n cael effaith amgylcheddol negyddol, a symud at economi fwy cylchol. Soniodd rhai ymatebwyr am y cyfleoedd ar gyfer twf ac arloesi yn y diwydiant protein pryfed. Roedd llawer o ymatebwyr hefyd yn ffafrio sicrhau chwarae teg â marchnad yr UE. Ar hyn o bryd, gall moch a dofednod yr UE gael eu bwydo ar brotein pryfed wedi’i brosesu a’u mewnforio fel cynnyrch i’r DU.
-
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â’r cynigion yn aelodau o’r cyhoedd. Roedd rhai yn pryderu am risgiau posibl trosglwyddo clefydau a phathogenau. Roedd rhai yn anghytuno am resymau moesegol.
-
Cododd rhai ymatebwyr bryderon am effaith amgylcheddol bwydo protein pryfed wedi’i brosesu i foch a dofednod, yn enwedig am faint o drydan sydd ei angen i ffermio pryfed. Tynnodd rhai ymatebwyr sylw at y cyfyngiadau i gynaliadwyedd ffermio pryfed oherwydd rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid presennol sy’n cyfyngu ar fwydo is-haenau penodol i bryfed.
-
Cododd 191 o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â’r cynnig bryderon am les pryfed. O’r rhain, roedd 71 hefyd yn anghytuno â’r cynigion eraill yn yr ymgynghoriad hwn, ond dim ond wedi codi lles pryfed fel pryder. Fe wnaethant godi’r posibilrwydd o ymdeimlad pryfed a’r diffyg safonau lles ar gyfer pryfed a ffermir.
Ymateb y Llywodraeth
-
O ran y potensial ar gyfer trosglwyddo clefydau a pathogenau, daeth asesiad risg APHA i’r casgliad na fyddai’r cynnig hwn yn cynyddu’r risg TSE. Nid yw pryfed yn cael eu hystyried yn agored i haint TSE. Eto, rhaid i brotein anifeiliaid wedi’i brosesu ddeillio’n gyfan gwbl o ddeunydd categori 3, sydd wedi cael ei drin yn unol â Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 142/2011 ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae’r dulliau hyn wedi’u dylunio i ddileu firws a bacteria o fewn y cynnyrch.
-
O ran effaith amgylcheddol caniatáu protein pryfed wedi’i brosesu mewn bwyd moch a dofednod, mae Defra wedi cynnal Asesiad Cylch Bywyd ar Brosesau Cynhyrchu Protein Pryfed y DU ar gyfer Bwyd Moch a Dofednod a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025. Mae’r canlyniadau’n awgrymu ‘efallai nad protein pryfed yw’r ateb i ddatgarboneiddio’r diwydiant bwyd anifeiliaid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, o dan yr amodau cynhyrchu cywir a chyda galw cynyddol am gyd-gynhyrchion y system prydau pryfed, gallai fod lle iddo wrth ddatgarboneiddio bwyd anifeiliaid, yn enwedig pan mae’n cael ei ystyried ochr yn ochr â ffactorau eraill y tu hwnt i’r Asesiad Cylch Bywyd megis gorbysgota neu ddatgoedwigo a newid defnydd tir anuniongyrchol ar gyfer ffa soia.’ Rydym yn ymwybodol o arloesedd yn y sector protein pryfed sy’n nodi is-haenau pryfed newydd. Yn ôl rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, fel anifeiliaid a ffermir, gwaherddir bwydo tail, gwastraff arlwyo, a deunydd porthiant sy’n cynnwys gwastraff arlwyo neu sy’n deillio ohono, i bryfed.
-
O ran lles pryfed, nid yw pryfed yn rhan o gwmpas Deddf Lles Anifeiliaid 2006 ac nid ydynt yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol fel rhai sydd ag ymdeimlad o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid (Ymdeimlad) 2022. Rydym yn ymwybodol o ddiddordeb academaidd ac ehangach yn yr agweddau hyn ar gynhyrchu protein pryfed. Fodd bynnag, roedd yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y risg TSE sy’n gysylltiedig â bwydo proteinau i anifeiliaid.
Y cynnig i ganiatáu colagen a gelatin anifeiliaid sy’n cnoi cil mewn bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
Dadansoddiad
-
Mewn ymateb i’r cynnig i ganiatáu colagen a gelatin anifeiliaid sy’n cnoi cil mewn bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil:
- • Roedd 57 o ymatebwyr yn cytuno
- • Roedd 579 o ymatebwyr yn anghytuno
- • Roedd 96 o ymatebwyr ddim yn gwybod
-
O’r ymatebwyr a oedd o blaid y cynnig, nododd llawer y dystiolaeth wyddonol y tu ôl i ddiogelwch y cynigion. Roedd y diwydiant yn ffafrio sicrhau chwarae teg â’r UE. Soniodd rhai fod colagen a gelatin anifeiliaid sy’n cnoi cil eisoes yn cael eu defnyddio mewn bwyd a fwyteir gan bobl ac mewn cynhyrchion fferyllol.
-
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â’r cynigion yn aelodau o’r cyhoedd. Y prif bryderon a godwyd oedd risg TSE a phryderon moesegol. Cododd rhai ymatebwyr bryderon am ganfyddiadau defnyddwyr o’r cynnig hwn.
Ymateb y Llywodraeth
- Mae Defra a Llywodraeth Cymru wedi cael sicrwydd y byddai’r newidiadau yn cynnal y lefelau presennol o fioddiogelwch ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Daeth asesiadau risg APHA i’r casgliad na fyddai’r risg TSE yn cynyddu petai’r cynigion hyn yn cael eu cyflwyno. Bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant i gyfathrebu diogelwch y cynigion hyn i ddefnyddwyr.
Mesurau arfaethedig i atal croes-halogiad yn y gadwyn fwyd anifeiliaid
Dadansoddiad
-
Mewn ymateb i’r mesurau arfaethedig i atal croes-halogiad yn y gadwyn fwyd anifeiliaid:
- • Roedd 151 o ymatebwyr yn cytuno
- • Roedd 343 o ymatebwyr yn anghytuno
- • Roedd 238 o ymatebwyr ddim yn gwybod
-
Roedd rhai ymatebwyr o’r farn nad oedd y mesurau arfaethedig yn ddigon cadarn, gan nodi cymhlethdodau’r gadwyn fwyd anifeiliaid. Roedd rhai yn pryderu am ddiffyg cydymffurfio ac effeithiau economaidd ac enw da posibl hyn ar y diwydiant.
-
Esboniodd rhai cymdeithasau masnachu y gallai’r mesurau fod yn anodd ac yn gostus i’w gweithredu, gan nodi bod ‘y rhan fwyaf o felinau monogastrig yn cynhyrchu ystod o fwydydd anifeiliaid ar gyfer gwahanol rywogaethau gan ddefnyddio’r un llinellau cynhyrchu gyda cherbydau storio a chyflenwi a rennir, sy’n ei gwneud yn gostus ac yn anymarferol eu gosod ar wahân yn gyfan gwbl yn ffisegol’. Gwnaethant hefyd dynnu sylw at yr angen am ganllawiau clir ar y mesurau.
-
Tynnodd rhai ymatebwyr, cynhyrchwyr protein pryfed yn bennaf, sylw at y ffaith nad yw pryfed yn agored yn naturiol i TSEau ac ‘yn wahanol i broteinau mamaliaid ac adar, mae pryfed yn ddadelfenwyr naturiol, sy’n meddu ar briodweddau gwrthficrobaidd cynhenid sy’n lliniaru risgiau pathogenau.’ Fe wnaethant gwestiynu’r angen i’w gosod ar wahân yn gyfan gwbl a allai arafu mabwysiadu gan y diwydiant.
Ymateb y Llywodraeth
-
Mae Defra wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ac APHA i ddatblygu gofynion croes-halogiad arfaethedig a fydd yn monitro ac yn atal croes-halogiad ar draws y gadwyn fwyd anifeiliaid. Os bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu, byddai APHA yn cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar y newidiadau, sy’n egluro’r gofynion deddfwriaethol i atal croes-halogiad yn y gadwyn fwyd a’r gadwyn fwyd anifeiliaid. Byddai’n adeiladu ar y nodyn cyfarwyddwyd presennol ar reolaethau bwyd anifeiliaid yn y Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a gyhoeddwyd yn 2018. Byddai llwybrau gorfodi presennol yn berthnasol i’r rheolaethau newydd.
-
Ym Mhrydain Fawr, mae cydymffurfiad â’r rheolaethau bwyd anifeiliaid yn cael ei fonitro drwy’r Archwiliad Cenedlaethol o
Fwydydd Anifeiliaid (NFA), sef rhaglen fonitro cydymffurfiaeth a gynhelir gan APHA, asiantaeth weithredol Defra sy’n gyfrifol am gadw golwg ar TSE ym Mhrydain Fawr. Mae’r rhaglen arolygu a samplu hon, a gynhelir ar wahanol gamau o’r gadwyn bwyd anifeiliaid, yn monitro presenoldeb cynhwysion gwaharddedig sy’n dod o anifeiliaid yn y bwyd. Cyn gweithredu unrhyw newidiadau arfaethedig, byddai APHA yn adolygu’r Archwiliad Cenedlaethol o Fwydydd Anifeiliaid (NFA) i sicrhau bod profion yn adlewyrchu’r newidiadau. -
Mae Defra a Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall y gofynion croes-halogiad fod yn gostus ac yn anodd eu gweithredu, fodd bynnag, mae’r rhain wedi’u dylunio i beidio â bod yn niweidiol i’r arferion cyfredol. Mae’r cynigion hyn yn ddadreoleiddiol, a byddai’n benderfyniad masnachol i fusnesau unigol a ddylid gweithredu’r newidiadau. Mae angen eu gosod ar wahân yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau nad oes croes-halogiad a allai arwain at ailgylchu o fewn yr un rhywogaeth. Mae hyn wedi’i wahardd mewn rheoliadau ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Y camau nesaf
-
Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad, roedd Defra a Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â’r holl gynigion. Fodd bynnag, cyhoeddodd y Llywodraeth yn ddiweddar ei bwriad i ailosod perthynas y DU â’r UE a mynd ar drywydd cytundeb SPS i gyd-fynd yn ddeinamig â rheolau’r UE. Felly, ni fyddwn nawr yn gwneud y newidiadau hyn yn annibynnol a byddwn yn gwneud hynny yn hytrach mewn proses yn y dyfodol lle bydd y DU yn gweithredu cytundeb SPS gyda’r UE.
-
Cyn gweithredu’r newidiadau, bydd APHA yn cynnal adolygiad o’r Archwiliad Cenedlaethol o Fwydydd Anifeiliaid (NFA) i sicrhau bod y rhaglen monitro cydymffurfiaeth yn adlewyrchu’r newidiadau. Bydd hyn yn cynnwys nodyn cyfarwyddyd wedi’i ddiweddaru ar reolaethau bwyd anifeiliaid ar gyfer y diwydiant sy’n esbonio’r gofynion deddfwriaethol i atal croes-halogiad yn y gadwyn bwyd anifeiliaid.
-
Bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau cyfathrebu effeithiol â’r cyhoedd ac ar draws y gadwyn fwyd anifeiliaid pan fydd y newidiadau yn cael eu gweithredu.
Atodiad 1: data dadansoddol
Cwestiwn 1: Pa un o’r canlynol sy’n eich disgrifio chi, eich daliad, neu eich sefydliad, orau?
| Ymateb | Nifer yr ymatebwyr |
|---|---|
| Aelod o’r cyhoedd | 616 |
| Arall | 30 |
| Cynhyrchwr protein pryfed | 20 |
| Ffermwr dofednod | 14 |
| Cymdeithas masnachu | 12 |
| Ffermwr gwartheg | 9 |
| Ffermwr arall | 9 |
| Melin porthiant cyfansawdd | 5 |
| Gwneuthurwr cynhwysion bwyd anifeiliaid | 4 |
| Manwerthwr | 4 |
| Ffermwr defaid | 3 |
| Lladd-dy | 2 |
| Ffermwr moch | 2 |
| Swyddog gorfodaeth | 1 |
| Gwaith rendro | 1 |
| Gwaith torri | 0 |
| Cludwr | 0 |
| Cyfanswm | 732 |
Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â chaniatáu protein dofednod wedi’i brosesu mewn bwyd moch?
| Ymateb | Nifer yr ymatebwyr |
|---|---|
| Ydw | 71 |
| Nac ydw | 610 |
| Ddim yn gwybod | 51 |
Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno â chaniatáu protein moch wedi’i brosesu mewn bwyd dofednod?
| Ymateb | Nifer yr ymatebwyr |
|---|---|
| Ydw | 72 |
| Nac ydw | 614 |
| Ddim yn gwybod | 46 |
Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno â chaniatáu protein pryfed wedi’i brosesu mewn bwyd moch a dofednod?
| Ymateb | Nifer yr ymatebwyr |
|---|---|
| Ydw | 119 |
| Nac ydw | 599 |
| Ddim yn gwybod | 14 |
Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â chaniatáu colagen a gelatin anifeiliaid sy’n cnoi cil mewn bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil?
| Ymateb | Nifer yr ymatebwyr |
|---|---|
| Ydw | 57 |
| Nac ydw | 579 |
| Ddim yn gwybod | 96 |
Cwestiwn 6: Ydych chi’n cytuno â’r mesurau arfaethedig i atal croes-halogi yn y gadwyn bwyd anifeiliaid?
| Ymateb | Nifer yr ymatebwyr |
|---|---|
| Ydw | 151 |
| Nac ydw | 343 |
| Ddim yn gwybod | 238 |