Consultation outcome

Consultation document: legislation to counter state threats (Welsh) (accessible version)

Updated 12 July 2022

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau ar Ddydd Iau Mai 13, 2021.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar Ddydd Iau Gorffennaf 22, 2021.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

I: Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd.

Bydd gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y sawl a llai gael eu heffeithio gan yr argymhellion, pe bai’r ddeddfwriaeth yn cael ei ffurfio, gan gynnwys y sawl sydd mewn Diwydiant ac Ymchwil yn gystal â’r cyhoedd.

Hyd: O Ddydd Iau Mai 13 hyd at Ddydd Iau Gorffennaf 22, 2021.

Ymholiadau at:

Ymgynghoriad Bygythiadau Gwladwriaethol
Y Swyddfa Diogelwch Cartref
Y Swyddfa Gartref
5th Floor, Peel Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

CST.Consultation@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb: Darparwch eich ymateb erbyn 17:00 ar Ddydd Iau Gorffennaf 22, 2021.

Os na allwch ddefnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod yn defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i e-bostio neu ei phostio i’r manylion cyswllt uchod.

Cysylltwch â’r manylion uchod hefyd os oes angen gwybodaeth arnoch mewn unrhyw fformat arall, megis Braille, sain neu iaith arall.

Efallai na fyddwn yn gallu dadansoddi ymatebion nas cyflwynir yn y fformatau hyn a ddarperir.

Papur ymateb: Disgwylir i ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn gael ei gyhoeddi yn: Legislation to counter state threats

Rhagair gan y Gweinidog

Mae’r bygythiad o weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau yn un sy’n tyfu, yn arallgyfeirio ac yn esblygu, gan amlygu ei hun mewn nifer o wahanol ffurfiau: o seiber ymosodiadau, ymdrechion i ddwyn eiddo deallusol a gwybodaeth sensitif oddi wrth y llywodraeth, bygythiadau i seilwaith cenedlaethol allweddol, ac ymdrechion i ymyrryd mewn prosesau democrataidd. Rydym yn parhau i wynebu’r bygythiad real a difrifol hwn gan y rhai sy’n ceisio tanseilio ac ansefydlogi ein gwlad er mwyn dilyn eu hagendâu eu hunain.

Bydd y DU bob amser yn amddiffyn ei phobl a’i buddiannau, ac mae gennym hanes o ymateb yn gadarn i weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau ochr yn ochr â’n partneriaid rhyngwladol.Ynghyd â’n cynghreiriaid, mae’r DU yn cymryd camau i ddiogelu ein cymdeithasau agored a democrataidd a hyrwyddo’r system ryngwladol sy’n seiliedig ar reolau sy’n sail i’n sefydlogrwydd, diogelwch a ffyniant.

Fel rhan o’n Maniffesto, fe wnaethon ni ddau ymrwymiad sydd yn berthnasol i’r gwaith yma:

Byddwn yn buddsoddi yn yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch a rhoi’r pwerau iddyn nhw sydd eu hangen i frwydro yn erbyn bygythiadau newydd; a

Byddwn yn amddiffyn unplygrwydd ein democratiaeth, drwy gyflwyno adnabyddiaeth mewn gorsafoedd pleidleisio, atal cynaeafu pleidleisiau post a mesurau i atal unrhyw ymyrraeth tramor mewn etholiadau.

Rydym eisoes yn gwneud y DU yn fwy diogel trwy gryfhau ein gallu i atal, gwrthsefyll ac ymateb i weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau. O dan y Llywodraeth hon, mae fy adran wedi:

  • dod â phŵer newydd i rym o dan Atodlen 3 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019 i helpu i amddiffyn diogelwch y cyhoedd trwy ganiatáu i swyddog archwilio stopio, cwestiynu a, phan yw angen, cadw a chwilio, unigolion a nwyddau sy’n teithio trwy borthladdoedd y DU ac ardal y ffin at ddibenion penderfynu a yw’n ymddangos bod y person yn rhywun sydd, neu a fu, yn cymryd rhan mewn gweithgaredd gelyniaethus. Mae’r Llywodraeth hon yn parhau i ddod â’r holl offer sydd ar gael iddi ynghyd, oherwydd mae bygythiadau esblygol a thechnolegau newydd yn gwneud hynny’n fwy hanfodol nag erioed
  • gwneud yn gyhoeddus y Tîm Asesu Bygythiadau Gwladwriaethol ar y Cyd (JSTAT) a sefydlwyd yn 2017 i ddeall y bygythiad yn well a llywio ymateb y Llywodraeth. Bydd gwneud eu gwaith yn gyhoeddus yn eu cefnogi i wneud y mwyaf o’u defnyddioldeb i’r gymuned ddiogelwch genedlaethol, gan eu galluogi i estyn allan i bob rhan o’r Llywodraeth,yn ogystal â rhanddeiliaid ar draws nifer o sectorau gan gynnig y cyfle i gael gwell dealltwriaeth o fygythiadau gwladwriaethol ac yn galluogimwy o her ddadansoddol. Mae hyn hefyd yn caniatáu cyfathrebu ehangach o’r bygythiadau ar draws y Llywodraeth ac asiantaethau, yn ogystal â phartneriaid ar draws y sectorau preifat ac elusennol, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at wybodaeth i amddiffyn eu hunain yn well.
  • parhau i ddefnyddio offer a phwerau presennol, gan gynnwys pwerau mewnfudo, i amddiffyn y wlad rhag y bygythiad hwn.
  • cefnogi ein hasiantaethau cudd-wybodaeth a gorfodi’r gyfraith yn eu gwaith i wrthsefyll y bygythiadau hyn.

Ond rwyf yn cydnabod bod mwy y gallwn ni ei wneud ac mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’n hymdrechion parhaus i rymuso’r gymuned ddiogelwch genedlaethol gyfan i wrthsefyll y bygythiad llechwraidd sy’n ein hwynebu heddiw trwy gyflwyno deddfwriaeth newydd.

Rwy’n croesawu gwaith Comisiwn y Gyfraith yn eu Hadolygiad ar Ddiogelu Data Swyddogol, a ddadansoddoddy Deddfau Cyfrinachau Swyddogol yn agos,ac sy’n cydnabod bod y cynigion a gynhwysir yn yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb ar draws ystod o sectorau.Bydd yn hanfodol bod yr offer a’r pwerau rydym yn eu deddfu ar eu cyfer yn gweithio mewn cytgord â’n hymrwymiadau i gadw Prydain yn gymdeithas agored a bywiog i wneud busnes ynddi a chyda hi; ein hanes cryf ar ryddid academaidd a rhyddid y wasg; ac ar gadw ein safle fel cyrchfan fyd-eang blaenllaw ar gyfer ymchwil a datblygu.

Mae’r wlad hon yn ffodus i gael y gwasanaethau diogelwch gorau yn y byd. Rwyf yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda nhw, yn yr un modd ag y gwnaf gyda’n heddlu.Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym yr offer ar waith i gadw’r wlad hon yn ddiogel ac rwyf yn croesawu eich mewnbwn i sicrhau ein bod yn gwneud y DU yn amgylchedd mwy heriol i wladwriaethau gynnal gweithgareddau gelyniaethus ynddi ac yn cynyddu’r gost iddynt o wneud hynny.

Y Gwir Anrh. Priti Patel AS

Ysgrifennydd Cartref

Rhestr Termau Allweddol

Bygythiadau Gwladwriaethol (ST) - Term a ddefnyddir i ddisgrifiogweithredoedd agored neu gudd a drefnir gan lywodraethau tramor nad ydynt yn mynd mor bell â gwrthdaro arfog cyffredinol rhwng gwladwriaethau ond sydd serch hynny yn ceisiotanseilio neu fygwth diogelwch a buddiannau’r DU, gan gynnwys: cyfanrwydd ei democratiaeth, ei diogelwch cyhoeddus, ei fantais filwrol a’i henw da neu ffyniant economaidd. Er bod y term gweithgaredd gelyniaethus gwladwriaethol (HSA) wedi’i ddefnyddio’n gyffredinol i ddisgrifio’r bygythiad, fe’i darllenir yn aml fel gweithgaredd a gynhelir gan wladwriaethau gelyniaethus yn hytrach na gweithgaredd gelyniaethus gan wladwriaethau fel y bwriadwyd. Yn yr ymgynghoriad hwn a thrwodd i’r ddeddfwriaeth mae’r Llywodraeth yn mabwysiadu terminoleg newydd i ddisgrifio’r bygythiad.

Ysbïo – Dyma’r broses gudd o gael gwybodaeth gyfrinachol sensitif nad yw fel arfer ar gael i’r cyhoedd, gan ddefnyddio ffynonellau dynol (asiantau) neu ddulliau technegol (megis hacio i mewn i systemau cyfrifiadurol).

Tîm Asesu Bygythiadau Gwladwriaethol ar y Cyd (JSTAT) - Mae’n sefydliad asesu trawsadrannol sy’n darparu dadansoddiad o fygythiadau gwladwriaethol hybrid i’r DU ac i fuddiannau’r DU. Mae’n asesu’r bygythiad diogelwch cenedlaethol a berir gan weithgareddau megis ysbïo, llofruddio, ymyrraeth yn ein democratiaeth, bygythiadau i ddiogelwch economaidd y DU a phobl ac asedau’r DU dramor.

Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) - Mae’r NCSC yn darparu un pwynt cyswllt ar gyfer busnesau bach a chanolig, sefydliadau mwy, asiantaethau’r llywodraeth, y cyhoedd ac adrannau ar faterion sy’n ymwneud â seiberddiogelwch. Pan fydd digwyddiadau’n digwydd,maent yn darparu ymateb effeithiol i ddigwyddiadaui leihau niwed i’r DU,helpu ynghylch adfer, a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Buddsoddiad Uniongyrchol o Wledydd Tramor (FDI) - Er ei fod yn aml yn fuddiol i economi’r DU, gall FDI trwy gaffaeliadau, uno cwmnïau, cyd-fentrau a pherthnasoedd ariannol eraill hefyd fod yn risg i ddiogelwch cenedlaethol. Er enghraifft, gall gwladwriaethau tramor ei ddefnyddio i ennill rheolaeth neu ddylanwad dros, neu fynediad at, fusnes a’i asedau mewn ffordd sy’n achosi neu sydd at y diben o achosi difrod i ddiogelwch cenedlaethol y DU.

Datgeliad Anawdurdodedig - Datgeliad o wybodaeth swyddogol (o gategorïau penodol a restrir o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989) heb awdurdod cyfreithlon.

Datgeliad Sylfaenol- Datgeliad o wybodaeth swyddogol gan unigolyn sydd - yn amlaf yn rhinwedd ei broffesiwn - â mynediad at ffynhonnell sylfaenol y deunydd ac yn ei datgelu neu ei gyhoeddi.

Datgeliad Ymlaen- Datgeliad o wybodaeth swyddogol (o gategorïau penodol a restrir o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989) gan unigolyn nad oes ganddo fynediad at ffynhonnell sylfaenol y deunydd, ond sy’n ei datgelu neu’n ei gyhoeddi ymhellach, ar ôl iddo gael ei rannu â nhw gan ddatgelwr sylfaenol, heb awdurdodiad neu ar ôl iddo gael ei rannu’n gyfrinachol.

Cyflwyniad

Cefndir

Yn 2018 cyhoeddodd y Prif Weinidog ar y pryd y byddai’r Llywodraeth yn cymryd nifer o gamau i fynd i’r afael â’r bygythiad a berir i’r DU gan weithgareddau gelyniaethus gwladwriaethau tramor. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno pŵer newydd i ganiatáu i’r heddlu atal y rhai yr amheuir eu bod yn cynnal gweithgareddau gelyniaethus ar ran gwladwriaeth dramor ar y ffin ac, mewn amser arafach, i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r offer a’r pwerau sydd ar gael i wrthsefyll y bygythiad. Cyflwynwyd y cyntaf trwy Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019 a daeth i rym yn 2020.

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd y cyn Ysgrifennydd Cartref fod y Swyddfa Gartref yn gweithio tuag at gyflwyno deddfwriaeth newydd a chyhoeddodd araith y Frenhines ym mis Rhagfyr 2019 y bydd ‘mesurau yn cael eu datblygu i fynd i’r afael â gweithgareddau gelyniaethus a gynhelir gan wladwriaethau tramor’.Er bod y gwaith hwn wedi’i gychwyn yn dilyn yr ymosodiad yn Salisbury yn 2018, mae’r Llywodraeth wedi bod yn ystyried newidiadau deddfwriaethol posibl i fynd i’r afael â’r ystod lawn o fygythiadau gan wladwriaeth a’r ymgynghoriad hwn yw’r cam nesaf yn y cyfnod hwn o’r gwaith.Mae’r gwaith hwn hefyd yn cael ei lywio gan Adolygiad Comisiwn y Gyfraith ar Ddiogelu Data Swyddogol (gweler yr adran ar ddiwygio’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol am fanylion pellach.)

Wrth ystyried yr ymgynghoriad hwn, efallai y bydd ymgyngoreion hefyd am fod yn ymwybodol o’r cyd-destun diogelwch cenedlaethol a deddfwriaethol ehangach, a nodir yn Atodiad A.Mae’r adran hon yn nodi nifer o offer a rhaglenni sydd eisoes yn bodoli ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r bygythiad a bydd deddfwriaeth newydd yn y maes hwn yn ategu hynny.

Ar wahân, mae Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch y Senedd (ISC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn eu hymchwiliad i Ymyrraeth Rwsiaidd. Er nad yw’r ymgynghoriad hwn yn ymateb yn benodol i’r gwaith hwnnw ac er nad yw’r cynigion a nodir yn y ddogfen hon wedi’u targedu at unrhyw wlad benodol, efallai y bydd ymgyngoreion am ystyried cynnwys adroddiad Rwsia ac ymateb ffurfiol y Llywodraeth,wrth ystyried y cynigion a nodir isod.

Y Bygythiad

Natur y Bygythiad[footnote 1]

Mae gwladwriaethau’n cymryd rhan ac yn trefnu camau agored a chudd nad ydynt yn mynd mor bell â gwrthdaro arfog cyffredinol ond serch hynny sy’n ceisiotanseilio neu fygwth diogelwch a buddiannau’r DU, gan gynnwys: cyfanrwydd ei democratiaeth, ei diogelwch cyhoeddus, ei fantais filwrol a’i henw da neu ffyniant economaidd. Er y cyfeirir ato’n aml fel Gweithgareddau Gwladwriaethol Glyniaethus (HSA) mae’n bwysig cydnabod bod y term hwn yn cyfeirio at weithgareddau gelyniaethus a wneir gan wladwriaethau, yn hytrach na gweithgareddau a wneir gan wladwriaethau gelyniaethus.

Mae hwn yn fygythiad sy’n tyfu, arallgyfeirio a datblygu, sy’n amlygu ei hun mewn nifer o wahanol ffurfiau.Mae gwladwriaethau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gelyniaethus yn y DU neu yn ei herbyn yn dod yn fwyfwy beiddgar, gan ymddwyn yn fwy ymosodol, i hyrwyddo eu hamcanion geo-wleidyddol a thanseilio ein rhai ni.

Ar lefel strategol, mae’r gweithgareddau hyn yn ceisio tanseilio diogelwch, ffyniant, cydlyniant cymdeithasol, cydnerthedd, democratiaeth, gwerthoedd, sefydliadau a mantais strategol y DU, yn ogystal â’r system ryngwladol sy’n seiliedig ar reolau a sefydliadau cysylltiedig sy’n sail i’r hyn uchod i gyd.

A siarad yn fras, gellir rhannu’r bygythiad yn 5 categori:

  1. Bygythiad corfforol i bobl - Mae hyn yn cynnwys unrhyw niwed corfforol a gyfeirir at unigolion; gan gynnwys llofruddio, dychwelyd i wlad dan orfod ac aflonyddu. Mae nifer fach o daleithiau yn cyflwyno bygythiad corfforol i fuddiannau, dinasyddion a thrigolion y DU gartref a thramor, yn ogystal â gwladolion trydydd gwlad yn y DU.

  2. Bygythiad materol i bethau - risg ddifrod lle gallai gwladwriaethau geisio achosi difrod neu aflonyddwch i seilwaith yn faterol a/neu drwy fodd seiber. Er bod y prif bryder yn ymwneud â seilwaith y DU yn y DU neu dramor, gall y bygythiad hwn amlygu ei hun mewn ymosodiadau ar seilwaith tramor sy’n cael effaith bellach ar y DU - megis ymosodiadau ar biblinellau olew neu nwy sy’n effeithio ar brisiau tanwydd ar gyfer busnes y DU, neu ymosodiadau. ar seilwaith, sy’n rhan o gadwyni cyflenwi hanfodol y DU dramor.

  3. Mae ysbïo - sef ceisio’n gudd am wybodaeth gyfrinachol sensitif ar draws ystod o feysydd trwy gudd-wybodaeth pobl (gan gynnwys ysbïwyr neu ffynonellau dynol eraill), cudd-wybodaeth signalau (rhyng-gipio cyfathrebiadau), cudd-wybodaeth dechnegol (clustfeinio a dulliau mynediad agos eraill) a threiddio i ac aflonyddu rhwydweithiau cyfrifiadurol. Mae sectorau Llywodraeth y DU, diwydiant, y byd academaidd, amddiffyn a busnes yn cael eu targedu fel mater o drefn gan wladwriaethau tramor sy’n ceisio gwybodaeth sensitif ac mae economi’r DU yn fector sylweddol ar gyfer gweithgareddau ysbïo. Mae gan rai gwladwriaethau alluoedd ysbïo datblygedig technegol (gan gynnwys ar-lein) a rhai sy’n defnyddio ffynonellau dynol.

  4. Ymyrraeth - sy’n cynnwys ystod eang o weithgareddau lle mae gwladwriaethau’n ceisio hyrwyddo eu nodau trwy ddefnyddio dulliau cudd neu drwy dywyllu bwriad a chychwynnydd, gan gynnwys twyllwybodaeth[footnote 2], llwgrwobrwyo a gorfodi. Mae hyn hefyd yn cynnwys ymdrechion i ymyrryd yn ein democratiaeth neu broses lunio polisïau’r Llywodraeth, gan gynnwys trwy ymyrraeth mewn etholiadau a refferenda cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, yn ogystal ag ymdrechion i danseilio rhyddid academaidd. Mae nifer o wladwriaethau’n cynnal gweithgareddau parhaus sy’n ceisio ystumio amgylcheddau gwybodaeth y DU a rhyngwladol trwy ddefnyddio gweithrediadau gwybodaeth sydd yn aml yn manteisio ar raniadau presennol.

  5. Bygythiadau i fuddiannau geostrategol - gall gwladwriaethau ddefnyddio dulliau cudd a thechnegau cudd-wybodaeth yn hytrach nag ymgysylltu diplomyddol cyfreithlon igeisio herio’r drefn ryngwladol sy’n seiliedig ar reolau, gan herio buddiannau’r DU a cheisio tanseilio cynghreiriau presennol y DU. Mae gwladwriaethau hefyd yn defnyddio’r technegau hyn i geisio dylanwadu ar safonau rhyngwladol, yn arbennig ar gyfer technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, er eu buddiannau eu hunain neu er anfantais i’n rhai ni.

Gellir cyflawni’r bygythiadau uchod mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys yn uniongyrchol gan lywodraethau tramor neu wasanaethau cudd-wybodaeth dramor neu’n anuniongyrchol trwy gwmnïau neu unigolion sy’n gweithio i neu ar ran llywodraethau tramor neu wasanaethau cudd-wybodaeth dramor. Yn yr achosion olaf, gellir gwneud cydweithredu o’r fath yn fwriadol i gefnogi’r wladwriaeth, neu gallai fod yn atodol i waith arall, neu’n hollol ddiarwybod.

Un fector y gall y bygythiad ysbïo amlygu ei hun drwyddo yw trwy fuddsoddiad uniongyrchol o wlad dramor (FDI), lle rydym yn gweld dulliau newydd i danseilio buddiannau cenedlaethol y DU sy’n mynd y tu hwnt i gwmnïau’n uno a chaffaeliadau fel sydd wedi digwydd yn draddodiadol, megis; strwythuro bargeinion i guddio pwy sydd y tu ôl iddynt a chaffael asedau sensitif megis eiddo deallusol. Gall ymddygiad o’r fath heb ei reoli adael busnesau sensitif yn y DU yn agored i aflonyddu ac ysbïo.

Y DU yw un o’r lleoedd gorau i gymryd rhan mewn ymchwil gydweithredol a bydd croeso o hyd i gydweithredu ac ymgysylltu yn y DU, lle mae’n agored ac yn dryloyw. Fodd bynnag, gall gwladwriaethau ddefnyddio cydweithredu academaidd i’w galluogi i weithio gydag arbenigwyr ym meysydd ymchwil ac arloesi sydd ar flaen y gad, a chael yr allbwn sy’n deillio o’r gwaith hwnnw, i gyd heb orfod ei ddwyn (trwy ysbïo seiber traddodiadol, er enghraifft). Mae’n darparu mynediad agored i arbenigedd, rhwydweithiau TG ac ymchwil i’r rheini sydd â bwriad gelyniaethus.

Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gallu brwydro yn erbyn y bygythiadau hyn yn llawn gan garfan fwyfwy penderfynol o actorion gelyniaethus.Gall cyfranogiad gelyniaethus yn ymchwil a busnesau’r DU ddarparu cyfrwng ar gyfer mathau eraill o weithgareddau gelyniaethus megis ymyrraeth.

Effaith Bygythiadau Gwladwriaethol

Gall fod yn anodd mesur a meintioli effaith a chost gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau. Yn y rhan fwyaf o achosion mae’r gweithgareddau gelyniaethus wedi’u bwriadu a’u cynllunio i fod yn anweledig tra’u bod yn digwydd, ac am amser hir wedyn. Hyd yn oed pan nodir y gweithgaredd, efallai na fydd y gost yn weladwy i ddioddefwyr y gweithgaredd nac i’r cyhoedd yn gyffredinol am gryn amser, os o gwbl. Gall fod yn flynyddoedd neu ddim ond mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol neu ryfel, cyn gwireddu effaith lawn y gweithredoedd hynny.

Mae’r bygythiad materol i bobl yn fath mwy gweladwy o fygythiad gan wladwriaeth, yn arbennig pan fydd yn arwain at farwolaethau neu anafiadau difrifol i bobl, fel y gwelsom yn ddiweddar yn y DU a thu hwnt.Mae’r cysylltiadau rhwng y bygythiadau materol ac ysbïo yn glir. Gallai caffael data trwy ysbïo nodi gweithredwyr Prydain dramor neu unigolion sydd o dan warchodaeth y DU, a allai felly arwain yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol iddynt ddod i niwed.

Gall y bygythiad materol i leoliadau hefyd gael effaith sylweddol sy’n amrywio o effeithio ar wasanaethau hanfodol megis nwy neu drydan, i effeithio ar gadwyni cyflenwi ac felly prisiau a chyflenwad nwyddau yn y DU.

Mae adroddiad blynyddol y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ar gyfer 2020 yn nodi rhai o’r bygythiadau seiber sy’n bodoli, gan asesu, er enghraifft, y bu ymdrechion cysylltiedig â gwladwriaeth i gaffael Deunydd Deallusol (IP) yn ymwneud ag ymchwil brechlyn COVID ac yn nodi bod actorion gelyniaethus bron yn sicr wedi ceisio ymyrryd mewn etholiadau diweddar.

Mewn termau ariannol, gall fod yn anodd mesur a meintioli effaith gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau.Mae’r UD yn amcangyfrif bod ysbïo economaidd yn costio $400bn[footnote 3] y flwyddyn i economi’r UD a bod cost gyffredinol gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau i’r Unol Daleithiau yn gannoedd o biliynau o ddoleri[footnote 4]; nid oes ffigur tebyg wedi’i gyfrifo ar gyfer y DU eto, ond credwn ei fod yn debygol o fod yn arwyddocaol iawn.Byddai effaith sylfaenol sefyllfa lle mae’r cyhoedd yn colli hyder mewn democratiaeth Seneddol neu lle mae ‘r DU yn colli mantais strategol yn amhrisiadwy, a gall fod yn anodd neilltuo gwerthoedd i gost swyddog yn trosglwyddo gwybodaeth i wladwriaeth dramor - gallai costau gynnwys colli buddsoddi mewn galluoedd sy’n cael eu tanseilio yn ogystal â chostau adfer sy’n ceisio lliniaru effaith y niwed hwnnw.

Datblygiad y bygythiad

Mae’r bygythiad wedi datblygu ers y tro diwethaf i’r DU ddeddfu’n sylweddol ar y mater hwn. Roedd Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911 a gweithredoedd dilynol ym 1920 a 1939 yn canolbwyntio’n bennaf ar y bygythiad a achoswyd gan yr Almaen yn gynnaryn yr 20fed Ganrif. Ers hynny mae’r dirwedd fyd-eang wedi newid yn sylweddol â chydweithrediad rhwng gwladwriaethau yn cynnig buddion mewn ystod eang o feysydd. Felly, mae’r ffordd draddodiadol o ystyried bod gwladwriaethau’n elyniaethus neu heb fod yn elyniaethus, yn aml yn anwybyddu cymhlethdod cysylltiadau rhyngwladol modern mewn byd rhyng-gysylltiedig, gan gynnwys masnach ryngwladol gymhleth a chadwyni cyflenwi. Yn gyntaf oll , mae angen i’r ffocws fod ar y gweithgaredd sy’n cael ei gynnal a gallu’r DU i’w wrthwynebu.

Yn ogystal, mae technolegau newydd a’u hargaeledd masnachol eang wedi creu cyfleoedd newydd a fectorau sylweddol ar gyfer ymosod, gan ostwng y gost a’r risg i wladwriaethau i gynnal ysbïo. Yn unol â hynny, er mai dim ond nifer fach o wladwriaethau sy’n dangos yr ystod lawn o alluoedd a pharodrwydd i’w defnyddio, mae gan nifer fawr o wledydd y gallu a’r bwriad i gynnal gweithgareddau gelyniaethus yn erbyn y DU, ar ryw ffurf.

Mae nifer o dueddiadau cyfredol ac yn y dyfodol sy’n effeithio ar y bygythiad a’n hymateb:

COVID 19 - Asesiad y Llywodraeth yw er y bu nifer o newidiadau i natur y bygythiad o ganlyniad i COVID 19 (er enghraifft gostyngiad mewn bygythiad materol ond cynnydd yn y bygythiad seiber) nid yw lefel gyffredinol y risg wedi newid yn sylweddol. Fodd bynnag, mae cymdeithasau rhyng-gysylltiedig yn arbennig o agored i fygythiad pandemigau byd-eang ac mae’r dirywiad economaidd a’r anwadalrwydd a achosir gan COVID wedi cynyddu’r risg o fuddsoddiad tramor gelyniaethus ym musnes y DU, ac wedi ailadrodd pwysigrwydd amddiffyn rhai sectorau, megis ymchwil feddygol. Mae mwy o weithio gartref hefyd wedi cynyddu’r risg o ysbïo yn erbyn y Llywodraeth a busnesau fel ei gilydd.

Data - Mae arloesi technolegol wedi trawsnewid ein bywydau, gan newid y ffordd rydym yn byw, gweithio a chwarae. Ar yr un pryd, mae’r arloesi hwn wedi cyflwyno twf esbonyddol mewn data: wrth eu cynhyrchu a’u defnyddio, ac yn nibyniaeth gynyddol y byd arno.Gall y maint sylweddol o ddata’r llywodraeth, busnes, ymchwil academaidd a dinasyddion sy’n cael ei storio ar-lein fod yn adnodd amhrisiadwy ond mae hefyd yn peri risgiau. Er bod Llywodraeth y DU a’i hasiantaethau’n defnyddio data i ganfod bygythiadau diogelwch cenedlaethol ac i gadw dinasyddion yn ddiogel, gall natur gynyddol ryngwladol casglu, storio a throsglwyddo data beri risgiau ynghylch diogelwch data. Yn ogystal, gall gwladwriaethau tramor ddefnyddio’r wybodaeth i geisio cynnal gweithgareddau gelyniaethus yn erbyn y DU, gan gynnwys trwy ddefnyddio’r data i dargedu unigolion neu endidau yn y DU, neu gael gwybodaeth i’w defnyddio fel trosoledd.

Gweithrediadau twyllwybodaetha gwybodaeth- yn gynyddol, mae’r rhain wedi dod yn offer craidd i actorion gwladwriaeth ac eraill nad ydynt yn rhai gwladwriaeth fel ei gilydd i blannu anghytgord, ceisio ymyrryd yn nemocratiaeth y DU, ac amharu ar wead cymdeithas y DU trwy rannu a pholareiddio.Mae hyn wedi dod yn fygythiad esblygol oherwydd y ffordd gyflym ac eang y gall gwybodaeth ledaenu ynddi ar-lein, a’r cyflymder cynyddol y gall actorion gynhyrchu a chyfreithloni naratifau niweidiol arno.

Cwmpas ac amcanion y ddeddfwriaeth

Fel y nodir yn fanwl yn Atodiad A, mae cryn dipyn o waith yn parhau o fewn y Llywodraeth i wrthsefyll bygythiadau gan wladwriaethau. Mae hyn yn cynnwys y Rhaglen Amddiffyn Democratieth sydd yn fenter ar traws-Lywodraethol sydd yn cymryd rhalgen cydlynol o waith ymlaen er mwyn cadw unplygrwydd ein democratiaeth a’n prosesau etholiadol.

Fodd bynnag, trwy ei gwaith, a thrwy ystyried yr adolygiadau annibynnol perthnasol yn y maes hwn, mae’r Llywodraeth wedi dod i’r casgliad bod achos cymhellol dros ddeddfwriaeth newydd i fynd i’r afael â’r bygythiad. Uchelgais y Llywodraeth nawr yw creu fframwaith deddfwriaethol modern a chynhwysfawr tebyg i’r un sydd wedi datblygu ar gyfer gwrthderfysgaeth – (CT).

Fe wnaeth Deddf Terfysgaeth 2000 ddiddymu deddfwriaeth CT flaenorol i ddod yn llinell sylfaen fodern o offer a phwerau i wrthsefyll terfysgaeth. Wrth i’r bygythiad terfysgaeth ddatblygu yn y blynyddoedd ers hynny, ac wrth i safonau cyfreithiol a chyfraith achos ddatblygu, mae’r fframwaith deddfwriaethol, yn ei dro, wedi’i ddiweddaru a’i ddiwygio. Fodd bynnag, mae Deddf Terfysgaeth 2000 yn parhau i fod yn ganolbwynt ymateb CT deddfwriaethol y DU hyd heddiw.

Bwriad y Llywodraeth yw y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cyflawni rôl debyg i TACT 2000, gan ddisodli’r ddeddf sydd wedi dyddio ac, yn eistedd ochr yn ochr ag offer modern megis y pŵer archwilio porthladdoedd yn Atodlen 3 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2019 a’r Ddeddf Diogelwch a Buddsoddi Cenedlaethol, gan ddarparu llinell sylfaen fodern newydd o offer a phwerau. Er mai ein huchelgais yw i’r ddeddfwriaeth fod yn gynhwysfawr ac yn ddiogel at y dyfodol, rydym hefyd yn cydnabod, wrth i’r bygythiad ddatblygu, y gallai fod angen i’r ddeddfwriaeth gael ei diweddaru, ei diwygio neu ei hategu ag offer a phwerau newydd. Byddai hyn yn adlewyrchu’r ymagwedd a gymerwyd ar CT dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Ymhellach i asesiad o’r ddeddfwriaeth ddiogelwch genedlaethol bresennol ac yn dilyn canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith, mae’r Llywodraeth hefyd yn glir ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth swyddogol benodol yn cael ei diogelu’n ddigonol.. Fel y nodir uchod, mae datblygiadau technolegol sylweddol yn parhau i drawsnewid y ffyrdd y gellir storio a rhannu gwybodaeth ledled y byd, yn ogystal â’r ffyrdd y gellir cynnal gweithgareddau gelyniaethus dros, neu ar ran, gwladwriaethau; yr holl ffactorau nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn eu hadlewyrchu.

Felly bydd y cynigion deddfwriaethol sy’n cael eu datblygu gan y Llywodraeth yn cynnwys, o leiaf:

  • Diwygio Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911, 1920 a 1939 - mae’r Deddfau hyn yn cynnwys y troseddau ysbïo craidd sydd, fel y’i nodir yn fanylach drwy’r ymgynghoriad hwn, wedi methu â chadw i fyny â’r bygythiad a’r safonau cyfreithiol modern;
  • Diwygio Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 - sy’n llywodraethu’r gyfraith ynghylch datgelu deunydd swyddogol heb awdurdod a’i ddatgelu ymlaen; a
  • Creu Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor - offeryn newydd pwysig i helpu i frwydro yn erbyn ysbïo, ymyrraeth, ac i amddiffyn ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif, yn ogystal â darparu mwy o ymwybyddiaeth o ddylanwad gwledydd tramor sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn y DU.

Rydym hefyd yn ystyried a oes achos o blaid offer a phwerau newydd i droseddoli gweithgareddau niweidiol eraill a gynhelir gan, ac ar ran gwladwriaethau.

Wrth eu craidd mae’r cynigion deddfwriaethol hyn yn ceisio gwneud 3 pheth:

  • Moderneiddio deddfau gwrth-ysbïo presennol i adlewyrchu’r bygythiad modern a safonau deddfwriaethol modern;
  • Creu troseddau, offer a phwerau newydd i ganfod, atal ac amharu ar weithgareddau gelyniaethus yn y DU ac a dargedir arni
  • Gwella ein gallu i amddiffyn data swyddogol a sicrhau bod y troseddau cysylltiedig yn adlewyrchu’r rhwyddineb mwy y gellir gwneud niwed sylweddol ag ef.

Bydd yr offer a’r pwerau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn gwneud y DU yn amgylchedd mwy heriol i wladwriaethau gynnal gweithgareddau gelyniaethus ynddo a chynyddu’r gost iddynt o wneud hynny. Bydd yn sicrhau bod gan yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch y pwerau sydd eu hangen arnynt i gadw’r wlad yn ddiogel, amharu ar weithgareddau gelyniaethus a chosbi’r rhai sy’n cynnal gweithredoedd gelyniaethus yn erbyn y DU.

Mae’n bwysig nodi nad yw’r offer a’r pwerau a gynigir yma ar eu pennau eu hunain yn ceisio mynd i’r afael â phob agwedd ar y bygythiad a nodir uchod yn hytrach, byddant yn rhan o’r pecyn cymorth deddfwriaethol ac anneddfwriaethol presennol a datblygol ar gyfer gwrthsefyll y bygythiad. Gellir gweld rhagor o fanylion am offer a mesurau eraill yn Atodiad A.

Ar yr un pryd, rhaid i’r mesurau a fabwysiadir barchu’r fframwaith hawliau dynol; gan gydnabod, yn benodol, yr angen i amddiffyn preifatrwydd, rhyddid y wasg a rhyddid mynegiant, sef y sylfeini craidd y mae ein democratiaeth a’n cymdeithas wedi’u hadeiladu arnynt. Rydym o’r farn ei bod yn bwysig egluro, yn y cyfnod cynnar hwn, y bydd sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng hyn a mabwysiadu mesurau sy’n amddiffyn y DU yn ddigonol rhag bygythiadau gan wladwriaethau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, wrth i ni ddatblygu’r ddeddfwriaeth newydd hon.

Wrth ystyried amcanion y ddeddfwriaeth, mae’n bwysig nodi, mewn nifer fawr o achosion, y bydd gweithgareddau gelyniaethus yn cael eu cynnal trwy ddulliau cudd soffistigedig iawn a’u bwriad yw dwyn rhywfaint o wybodaeth fwyaf sensitif y DU. Mae’r ffactorau hyn yn cyfuno i greu heriau cynhenid wrth erlyn y rhai sy’n ceisio cyflawni gweithgareddau gelyniaethus, ac er y bydd y diwygiadau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn gwella ein gallu i ganfod, atal, aflonyddu ac erlyn y rhai sy’n gweithredu yn erbyn y DU a’i buddiannau, mae’n bwysig cydnabod y mae’n anochel y bydd rhai o’r heriau hyn yn aros.

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion y Llywodraeth ac yn ceisio mewnbwn i lywio’r cynigion polisi a deddfwriaethol terfynol- i wrthod bygythiadau glwadwriaethau. Bydd ymatebion yn helpu i lunio’r offer a’r pwerau hynny i sicrhau eu bod yn gynhwysfawr, yn effeithiol, yn ymarferol ac yn cydbwyso amddiffyn diogelwch cenedlaethol â’r hawliau a’r gwerthoedd pwysig yr ydym i gyd yn eu mwynhau yn y DU.

Rhennir y cynigion polisi yn yr ymgynghoriad hwn yn 43 adran fel sy’n dilyn:

Diwygio’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol

Mae’r rhan hon o’r ymgynghoriad yn ymateb i Adolygiad Comisiwn y Gyfraith o Ddiogelu Data Swyddogol, gan amlygu ble mae’r Llywodraeth yn cytuno â’u hargymhellion, yn ogystal ag amlygu’r rhai yr ydym yn bwriadu eu hystyried ymhellach a cheisio mewnbwn arnynt. Ym mhrif gorff yr ymgynghoriad hwn, mae’r Llywodraeth yn ceisio mewnbwn pellach mewn perthynas â nifer o’r argymhellion hyn, er mwyn llywio datblygiad polisi terfynol. Gellir gweld ymateb y Llywodraeth i’r holl argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn eu Hadolygiad yn Atodiad B.Bydd y cynigion hyn, ac yn benodol y rhai sy’n ymwneud â diwygio Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989, o ddiddordeb i grwpiau cyfreithiol, y cyfryngau, iawnderau sifil a hawliau cyflogaeth.

Yn y rhan hon o’r ymgynghoriad, mae’r Llywodraeth hefyd yn ystyried yr achos o blaid troseddau newydd posibl, gan gynnwys a oes achos, yn ogystal â diwygio’r troseddau ysbïo craidd yn Neddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-1939, o blaid troseddau annibynnol newydd i gwmpasu gweithgareddau gelyniaethus gan gynnwys; difrod, ysbïo economaidd ac ymyrraeth gan wledydd tramor. Ynn benodol, rydym yn croesawu barn grwpiau a busnesau cyfreithiol ar y cynigion hyn.

Fel rhan o’i chynigion, mae’r Llywodraeth o’r farn bod achos cryf hefyd o blaid ychwanegu at ddedfrydau mewn achosion lle cyflawnwyd mathau eraill o droseddoldeb, yn ystod y broses lle mae actor yn cynnal gweithgaredd gelyniaethus ar ran gwladwriaeth.

Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor

Ar ôl myfyrio ar werth a gwersi deddfwriaeth rhai partneriaid rhyngwladol, ac ar y casgliadau a’r argymhellion a nodwyd gan y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch (ISC) yn ei ‘Adroddiad Rwsia’ diweddar, mae’r ymgynghoriad yn cynnwys cynnig amlinellol ar gyfer Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor i’r DU. Yn y bôn, creu cofrestr a reolir gan y llywodraeth o weithgareddau datganedig sy’n cael eu cyflawni ar gyfer, neu ar ran, gwladwriaeth dramor.Rydym yn bwriadu ymgysylltu’n uniongyrchol â’r unigolion, sefydliadau a sectorau hyn sydd fwyaf tebygol o fod o fewn cwmpas y cynllun fel rhan o’r broses ymgynghori wrth i ni geisio sicrhau bod y cynllun yn cyflenwi’r gwerth mwyaf iddynt, ei fod yn ymarferol ac yn hygyrch, ac yn amddiffyn eu buddiannau.

Gorchmynion Sifil

Er mwyn cydnabod y ffaith y gallai fod achosion lle nad yw’n bosibl erlyn neu darfu fel arall ar unigolion yr ystyrir eu bod yn ymwneud â gweithgareddau gelyniaethus ar ran gwladwriaethau, mae’r Llywodraeth hefyd yn ystyried yr achos o blaid cynnwys pŵer pan fetho popeth arall a fyddai’n ei galluogi i orfodi ystod o gyfyngiadau ar unigolion penodol. Bydd y cynigion hyn o ddiddordeb arbennig i grwpiau cyfreithiol a hawliau dinasyddion.

Yn ogystal â’r cynigion deddfwriaethol i frwydro bygythiadau gan wladwriaethau, mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio cael mewnbwn ar unrhyw fesurau ac arfau ychwanegol eraill y byddai’r sawl a ymgynghorir â nhw yn ystyried sydd yn ddefnyddiol wrth frwydro yn erbyn y bygythiadau.

Cynnig yr Ymgynghoriad - Diwygio Deddfau Cyfrinachau Swyddogol

Y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol

Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911, 1920 a 1939 yw’r darnau craidd o ddeddfwriaeth, sy’n darparu tramgwyddau troseddol, i amddiffyn y DU rhag ysbïo a gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau. Mae Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 yn ddeddfwriaeth ategol, sy’n ffurfio’r fframwaith cyfreithiol craidd i amddiffyn categorïau penodol o wybodaeth swyddogol sensitif, trwy wneud ei datgeliad diawdurdod yn drosedd.

Beth mae pob Deddf yn ei gwmpasu?

Deddfwyd Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911 i gryfhau a diddymu darpariaethau presennol yn Neddf Cyfrinachau Swyddogol cyntaf 1889. Creodd Deddf 1911dramgwyddau troseddol ar gyfer dau fath gwahanol o ysbïo, a ddisgrifiwydgan Gomisiwn y Gyfraith fel ‘ysbïo trwy dresmasu/agosrwydd’ ac ‘ysbïo trwy gasglu gwybodaeth a chyfathrebu’. Mae hefyd yn cynnwyscyfres o fesurau ehangach yn ymwneud ag ysbïo a difrodi.

Fe wnaeth Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1920 wella a diwygio’r darpariaethau presennol yn Neddf Cyfrinachau Swyddogol 1911, er mwyn adlewyrchu dulliau mwy modern o ysbïo a chyflwyno nifer o droseddau newydd, gan gynnwys gwneud sawl darpariaeth amser rhyfel yn barhaol.

Deddfwyd Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1939 i greu dyletswydd gyfreithiol i unigolion ddarparu gwybodaeth am gyflawni troseddau ysbïo o dan Ddeddf 1911.

Mae Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 yn creu troseddau am ddatgelu gwybodaeth swyddogol sensitif heb awdurdod mewn chwe chategori gan; gweision blaenorol a phresennol y Goron, contractwyr y llywodraeth, aelodau’r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth, a’r rhai a hysbyswyd eu bod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau o dan adran 1 o’r Ddeddf, ac aelodau’r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Mae’r categorïau o wybodaeth warchodedig yn cynnwys; gwybodaeth yn ymwneud â diogelwch a chudd-wybodaeth, amddiffyn a chysylltiadau rhyngwladol, ymhlith eraill. Ni chyflwynwyd y Ddeddf hon, yn wahanol i Ddeddfau 1911-39, i fynd i’r afael yn uniongyrchol ag ysbïo neu fygythiadau gwladwriaethol eraill, ond yn hytrach, i atal peryglu data swyddogol rhag niweidio’r DU neu ei dinasyddion.

Faint o erlyniadau sy’n digwydd o dan y Deddfau?

Er y bu erlyniad llwyddiannus yn ddiweddar, ni ddefnyddir y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol, (yn arbennig yn achos Deddfau 1911-39) yn gyffredin i ddwyn erlyniadau. Mae hyn yn bennaf oherwydd natur sensitif y dystiolaeth y byddai fel rheol yn ofynnol ei datgelu er mwyn dwyn erlyniadau, ond hefyd oherwydd oedran y ddeddfwriaeth, sy’n golygu nad yw llawer o’r troseddau wedi’u cynllunio ar gyfer y byd modern. O ganlyniad mae erlyniadau yn heriol ac yn brin.

Pam diwygio’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol?

Fel y nodwyd uchod, mae graddfa ac effaith bosibl ysbïo a datgeliadau diawdurdod wedi newid yn sylweddol ers i Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-89 ddod yn gyfraith yn y lle cyntaf. Mae’r Llywodraeth o’r farn nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn cipio’r bygythiad canfyddadwy, a real iawn gan wladwriaethau, yn ddigonol, a felly mae diwygio’r holl Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol yn ganolog i allu’r DU i fynd i’r afael ag ef.

Mae diwygio Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 yn hanfodol i gryfhau gallu’r DU i fynd i’r afael â gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau, trwy sicrhau bod gwybodaeth swyddogol (a all niweidio’r genedl a’i ddinasyddion yn sylweddol os yw’n syrthio i’r dwylo anghywir) yn cael ei diogelu’n well, gan ddeddfwriaeth sydd yn galluogi troseddwyr i gael eu herlyn a’u cosbi’n briodol.

Adolygiad Comisiwn y Gyfraith ar Ddiogelu Data Swyddogol - Medi 2020

Yn 2015, comisiynodd Swyddfa’r Cabinet a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder Gomisiwn y Gyfraith i archwilio’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol fel rhan o adolygiad ehangach o Ddiogelu Data Swyddogol. Ysgogwyd tarddiad yr Adolygiad hwn gan bryder cynyddol ynghylch effaith datgeliadau anawdurdodedig o wybodaeth swyddogol, a chyflymder a graddfa cyfathrebiadau byd-eang a alluogir gan y rhyngrwyd. Fe wnaeth Gweinidog Swyddfa’r Cabinet ar y pryd, wrth wahodd Comisiwn y Gyfraith i gynnal ei Adolygiad o’r darpariaethau cyfraith droseddol sy’n amddiffyn gwybodaeth swyddogol, ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i dryloywder, a mynegodd yr angen am ffiniau cliriach fel bod y rhai sy’n gyfrifol am drin gwybodaeth swyddogol yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt, a beth yw’r canlyniadau os datgelir gwybodaeth swyddogol heb awdurdodiad.

Yn ystod eu Hadolygiad, ymgynghorodd Comisiwn y Gyfraith yn eang ar gynigion deddfwriaethol posibl. Ymgysylltodd y Llywodraeth â Chomisiwn y Gyfraith yn ystod eu proses ymgynghori yn 2017, fel y gwnaeth nifer eang o bartïon â diddordeb, gan gynnwys; sefydliadau cyfryngau a chyfreithiol, academyddion, sefydliadau anllywodraethol, ac aelodau unigol o’r cyhoedd.

Cyhoeddwyd Adolygiad terfynol y Comisiwn ar 1 Medi 2020. Hoffai’r Llywodraeth ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith am y gwaith caled, yr amser a’r ymdrech a dreuliwyd ar ddatblygu’r Adolygiad ac rydym yn annog pobl i ddarllen eu hadroddiad helaeth, am ddadansoddiad manwl ac arbenigol.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Adolygiad Comisiwn y Gyfraith yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer diwygio’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol, rhai deddfwriaethol a rhai anneddfwriaethol. Yn yr adran ddiynol, mae’r Llywodraeth yn ymateb i sawl argymhelliad craidd ar ddiwygio deddfwriaethol, lle rydym yn ceisio mewnbwn pellach. Gellir gweld ein hymateb llawn i’r holl argymhellion yn Atodiad B. O ystyried yr ystod eang o safbwyntiau cryf a fynegwyd ar y pryd, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rhai a gyfrannodd at ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ac a allai fod â barn bellach ar eu hargymhellion terfynol, neu farn y Llywodraeth yn y ddogfen hon.

Diwygio Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-1939.

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith sy’n ymwneud â’r troseddau ysbïo craidd yn Neddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-39.

Gweithredoedd Yn Paratoi ar gyfer Ysbïo

Yn argymhelliad 9 eu Hadolygiad mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnig y dylid cadw’r drosedd o gyflawni gweithred i baratoi ar gyfer ysbïo.

Croesawn yr argymhelliad hwn. Mae’n bwysig bod gorfodi’r gyfraith yn gallu arestio’r sawl sy’n bwriadu ysbio ar lefel baratoadol, gan mai dyma’r ffordd orau o sicrhau bod gwybodaeth sensitif yn aros yn ddiogel. Rydym hefyd yn ystyried yr achos dros ledaenu’r drosedd fel ei fod yn cwmpasu gweithredoedd paratoadol sy’n gysylltiedig â gweithredoedd gelyniaethus gan wladwriaethau eraill, tu allan i ysbio, fel difrod neu ymyrraeth dramor. Drwy gynnal a lledaenu trosedd o’r math hwn, byddem yn ceisio troseddoli gweithredoedd perthnasol a wneir wrth arwain at weithgarwch gelyniaethus, fyddai’n galluogi’r heddlu i ymyrryd ar adeg gynnar cyn gallai’r gweithredoedd paratoadol hyn droi mewn i niwed difrifol.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

1) Ydych chi’n credu y gallai trosedd gweithredoedd paratoadol i weithgaredd gelyniaethus gan wladwriaethau fod yn ychwanegiad gwerthfawr at gyfraith droseddol fodern, yng ngoleuni’r bygythiad?

2) A oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut y gallai trosedd o’r natur hon weithio’n ymarferol?

Cwmpas tiriogaethol troseddau Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-39

Yn argymhelliad 10 eu Hadolygiad, mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnig y dylid ehangu cwmpas tiriogaethol troseddau yn Neddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-39 fel y gellir eu cyflawni waeth beth yw cenedligrwydd yr unigolyn sy’n troseddu. Mae’r Comisiwn yn mynd ymhellach i awgrymu model ‘cyswllt sylweddol’, rhwng ymddygiad yr unigolyn a buddiannau’r Deyrnas Unedig, nad yw’n gyfyngedig trwy gyfeirio at genedligrwydd neu rôl swyddogol yr unigolyn dan sylw. Mae’r Comisiwn yn awgrymu y dylid diffinio “cyswllt sylweddol” i gynnwys nid yn unig yr achos lle mae’r diffynnydd yn gyflogai neu’n gontractiwr y Goron, ond hefyd yr achos lle mae’r ymddygiad yn ymwneud â safle neu ddata sy’n eiddo i Lywodraeth y DU neu sy’n cael ei reoli ganddi (waeth beth yw cenedligrwydd y diffynnydd).

Ar y cyfan rydym yn croesawu’r argymhelliad y dylid diweddaru cwmpas tiriogaethol troseddau o dan Ddeddfau 1911-39 ac yn cytuno nad yw’r sefyllfa gyfreithiol gyfredol, sydd ond yn berthnasol i ddinasyddion neu ddeiliaid Prydain dramor, yn ddigonol i amddiffyn asedau Prydain gartref ac mewn mannau eraill. Mae natur y bygythiad ac ôl troed byd-eang Llywodraeth Ei Mawrhydi, yn ogystal â symudiad unigolion ledled y byd a datblygiadau mewn technoleg seiber, wedi newid y ffordd y mae ysbïo’n cael ei gynnal. Felly, mae’r Llywodraeth yn cytuno y dylid ehangu cymhwysiad tiriogaethol troseddau ysbïo, fel y gellir eu cyflawni waeth beth yw cenedligrwydd neu leoliad yr unigolyn sy’n troseddu ac fel eu bod yn berthnasol pan ywbuddiannau’r DU yn cael eu niweidio gan ysbïo, neu os yw asedau, safleoedd neu wybodaeth y DU yn destun ysbïo.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

3) A ydych chi’n credu y byddai’n werth ystyried fformiwla ‘cyswllt sylweddol’ i ddod ag ysbïo yn erbyn asedau yn y DU o dramor? Sut ydych chi’n credu y gallai hyn weithio’n ymarferol?

4) A oes unrhyw beth yr ydych chi’n ystyried y byddai’r model hwn yn ei fethu y dylid ei gipio?

Diwygio Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith sy’n ymwneud â darpariaethau sy’n troseddoli unigolion am ddatgelu gwybodaeth swyddogol heb awdurdodiad, o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989. Mae Deddf 1989 yn cynnwys nifer o wahanol droseddau sy’n berthnasol i ddatgelu categorïau penodol o wybodaeth, gan gynnwys; gwybodaeth yn ymwneud â diogelwch a chudd wybodaeth, amddiffyn a chysylltiadau rhyngwladol.

Gellir cyflawni’r troseddau yn adrannau 1 i 4 o’r Ddeddf dim ond gan weision y Goron (gan gynnwys aelodau’r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth), contractwyr y llywodraeth, neu’r rhai a hysbysir o dan adran 1 eu bod yn ddarostyngedig i’w darpariaethau. Cyfeirir yn aml at droseddau a gyflawnir yn yr adrannau hyn fel datgeliadau sylfaenol. Gall unrhyw un gyflawni’r troseddau yn adrannau 5 a 6 a maent yn ymdrin â datgeliadau gan y rhai nad oes ganddynt fynediad at brif ffynhonnell y deunydd, ond sy’n ei datgelu neu ei gyhoeddi ymhellach, ar ôl iddi gael ei rhannu gyda nhw gan ddatgelwr sylfaenol heb awdurdod, neu yn gyfrinachol. Cyfeirir yn aml at droseddau a gyflawnir yn yr adrannau hyn fel datgeliadau ‘ymlaen’.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod Comisiwn y Gyfraith wedi ystyried a chyflwyno eu hargymhellion ar Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 fel pecyn o ddiwygiadau arfaethedig.At ddibenion yr ymateb hwn, rydym wedi ystyried rhinweddau pob argymhelliad yn unigol. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o’r rhyngweithio rhwng yr argymhellion a byddwn yn ystyried hyn ymhellach, wrth ddatblygu cynigion ar gyfer diwygio Deddf 1989, gan ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.

Y gofyniad i brofi difrod

Yn argymhelliad 11 eu Hadolygiad, mae Comisiwn y Gyfraith yn awgrymu na ddylai’r troseddau datgelu anawdurdodedig yn adrannau 1-4 o’r Ddeddf - sy’n berthnasol dim ond i gyn-weision y Goron neu rai sy’n weision ar hyn o bryd, contractwyr y llywodraeth neu’r rhai a hysbyswyd - fod angen prawf neu debygolrwydd o ddifrod mwyach. Yn lle hynny, maent yn awgrymu cyflwyno elfen fai goddrychol penodol y gellid ei modelu o amgylch a oedd y diffynnydd yn gwybod, yn credu, neu’n ddi-hid ynghylch a fyddai’r datgeliad, neu a oedd yn debygol o, beryglu achosi, neu a oedd yn gallu achosi difrod. Mae’r Comisiwn hefyd yn argymell y dylai troseddau yn adrannau 5 a 6 o’r Ddeddf barhau i fod yn seiliedig ar brawf neu debygolrwydd o ddifrod.

Yn ogystal, yn argymhelliad 12, mae’r Comisiwn yn cynnig na ddylid diwygio’r drosedd datgelu anawdurdodedig yn adran 1(1) y Ddeddf - sy’n ymwneud ag unigolion yr hysbyswyd eu bod yn ddarostyngedig i’w darpariaethau (yn fwyaf cyffredin gweision a chontractwyr y Goron) i ofyn am brawf bod datgeliadau’n niweidiol. Maent hefyd yn cynnig y dylai’r amddiffyniad yn adran 1(5) nad yw unigolyn yn gwybod ac nad oes ganddo unrhyw sail resymol i gredu bod y deunydd a ddatgelir yn ymwneud â diogelwch neu gudd-wybodaeth barhau i fod yn berthnasol.

Mae’r Llywodraeth yn croesawu argymhellion y Comisiwn na ddylai troseddau yn adrannau 1 i 4 y Ddeddf - sy’n ymwneud â gweision y Goron, contractwyr y llywodraeth a’r rhai sy’n cael eu hysbysu - ei gwneud yn ofynnol i’r Erlyniaeth gyflwyno prawf neu debygolrwydd o ddifrod mwyach, ac na ddylai troseddau sy’n groes i adran 1(1) Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 gael ei diwygio i fynnu prawf o ddifrod. Rydym yn cytuno â’r Comisiwn bod y gofyniad hwn yn anghywir mewn egwyddor ac yn creu materion ymarferol go iawn, gan weithredu fel rhwystr i erlyniadau posibl. Yn ymarferol,byddai profi difrod mewn system farnwrol agored yn debygol o alw am ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol ychwanegol, a allai yn ei dro achosi difrod sylweddol pellach, sy’n golygu bod amharodrwydd yn aml i erlyn.Fodd bynnag, rydym yn nodi, er y byddai dileu’r gofyniad am ddifrod, am y rheswm hwn, yn dileu un rhwystr i erlyn troseddau yn adrannau 1-4 o’r Ddeddf, byddai’r heriau presennol sy’n ymwneud â’r gofyniad i ddatgelu gwybodaeth (sensitif iawn yn aml) fel tystiolaeth, trwy’r datgeliad troseddol arferol mewn llys agored, yn dal i aros. Byddwn yn ystyried rhinweddau’r argymhelliad hwn ymhellach wrth ddatblygu deddfwriaeth.

Rydym hefyd yn derbyn yr argymhelliad y dylai’r ‘amddiffyniad’ o beidio â gwybod neu fod â sail resymol i gredu bod deunydd a ddatgelir yn ymwneud â diogelwch neu gudd wybodaeth (ac felly yng nghwmpas adran 1(1)) barhau i fod yn berthnasol.

Yn ogystal, mae’r Llywodraeth yn nodi’r argymhellion ychwanegol y dylid cael elfen fai goddrychol eglur ar gyfer adrannau 1 i 4 ac y dylai’r troseddau yn Adrannau 5 a 6 barhau i gynnwys y gofyniad i ddangos prawf neu’r tebygolrwydd o ddifrod. Byddwn yn archwilio’r ddau awgrym hyn ymhellach, ond rydym o’r farn bod gan ddatgeliadau sylfaenol a datgeliadau ymlaen y potensial i achosi meintiau cyfartal o niwed.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

5) A ydych chi’n cytuno â chynigion y Comisiwn mewn perthynas ag elfen ddiffyg goddrychol ar gyfer troseddau adrannau 1-4, yn lle gofyniad am ddifrod?

6) A ydych chi’n cytuno y dylai’r gofyniad i brofi difrod aros ar gyfer troseddau o dan adrannau 5 a 6 o’r Ddeddf bresennol? Os felly, pam?

Dedfrydu ar gyfer troseddau datgelu diawdurdod

Mae Comisiwn y Gyfraith, yn argymhelliad 14 eu Hadolygiad, yn awgrymu nad yw dedfryd uchaf o ddwy flynedd o garchar yn rhoi pwerau digonol i’r llys mewn achosion difrifol iawn o ddatgelu diawdurdod, ac y dylai’r Senedd ystyried cynyddu dedfrydau uchaf ar gyfer rhai troseddau o dan Ddeddf 1989. Mae’r Comisiwn hefyd yn argymell y dylid ystyried a ddylid gwahaniaethu, o ran dedfryd, rhwng y troseddau yn adrannau 1-4 a 5-6 y Ddeddf.

Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r argymhelliad nad yw dedfryd uchaf o ddwy flynedd yn rhoi pwerau digonol i’r llys yn yr achosion mwyaf difrifol o ddatgelu diawdurdod. Ers pasio’r Ddeddf ym 1989, fe fu datblygiadau digynsail mewn technoleg cyfathrebu (gan gynnwys storio data ac offer trosglwyddo data’n gyflym) sydd, yn ein barn ni, yn golygu bod datgeliadau diawdurdod bellach yn gallu achosi difrod llawer mwy difrifol nag a fyddai wedi bod yn bosibl yn flaenorol.

O ganlyniad, nid ydym o’r farn bod gwahaniaeth o reidrwydd o ran difrifoldeb rhwng ysbïo a’r datgeliadau diawdurdod mwyaf difrifol, yn yr un modd ag yr oedd ym 1989. Er bod gwahaniaethau o ran mecaneg ac ysgogiadau troseddau ysbïo a datgelu diawdurdod, mae achosion lle gallai datgeliad diawdurdod fod yr un mor ddifrifol neu’n fwy difrifol, o ran bwriad a/neu ddifrod. Er enghraifft, erbyn hyn gall ystod eang o actorion gelyniaethus gyrchu a defnyddio dogfennau sydd ar gael ar-lein, ond yn aml bydd ysbïo dim ond er budd un wladwriaeth neu actor. Mewn achosion difrifol, gallai datgelu hunaniaeth asiantau sy’n gweithio i gymuned gudd-wybodaeth y DU yn ddiawdurdod, er enghraifft, arwain yn syth at fygythiad uniongyrchol a difrifol i fywyd. Yn ogystal, gallai datgelu gwybodaeth yn ddiawdurdod hefyd ddarparu gwybodaeth allweddol sy’n ymwneud â galluoedd amddiffyn craidd y DU i actorion gelyniaethus lluosog, er enghraifft, a allai yn y pen draw wneud y galluoedd hyn yn aneffeithiol o ganlyniad.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

7) A ydych chi’n cytuno y dylid cynyddu’r dedfrydau uchaf ar gyfer rhai troseddau o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989?

8) A ydych chi’n credu y dylid gwahaniaethu rhwng dedfrydu rhwng troseddau datgelu sylfaenol - a gyflawnir gan aelodau’r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth, gweision y Goron, contractwyr y llywodraeth a’r rhai sy’n cael eu hysbysu - a throseddau datgelu ymlaen - y gall aelodau’r cyhoedd eu cyflawni?

Pwerau fetio cyfreithwyr er mwyn amddiffyn gwybodaeth swyddogol

Mae Comisiwn y Gyfraith yn darparu pecyn o argymhellion yn eu Hadolygiad, sy’n ymwneud ag arferion fetio a diogelwch cyfreithwyr sy’n delio â gwybodaeth swyddogol, yn argymhellion 15-17.

Yn argymhelliad 15, mae’r Comisiwn yn awgrymu bod cyrff proffesiynol sy’n gyfrifol am y Codau Ymddygiad ar gyfer cyfreithwyr sy’n ymarfer - yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a’r Bwrdd Safonau’r Bar - yn ystyried cynnwys canllawiau penodol ar bwysigrwydd cynnal cyfrinachedd mewn achosion sy’n ymwneud â’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol, a’r rhwymedigaeth i beidio â derbyn datgeliadau oni bai fod ganddynt y cliriad diogelwch a’r sicrwydd safle priodol ar gyfer cyfreithwyr sy’n ymarfer.

Yn ogystal, mae argymhelliad 16 yn cynnig - pan yw unigolyn na chaiff ei ‘hysbysu’ ei fod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 1(1) (ac nad yw’n destun ymchwiliad troseddol perthnasol) yn gwneud datgeliad i gyfreithiwr cymwys at ddibenion cael cyngor cyfreithiol - dylai’r datgeliad hwnnw fod yn ddatgeliad awdurdodedig, yn amodol ar ddiwallu mesurau diogelu penodol. Y mesurau diogelu y mae’r Comisiwn yn eu cynnig yw; (i). rhaid i’r cynghorydd cyfreithiol fod yn ddarostyngedig i rwymedigaethau proffesiynol, naill ai trwy Fwrdd Safonau’r Bar neu’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr; a (ii) rhaid i’r cyfreithiwr y mae’r datgeliad yn cael ei wneud iddo fod wedi cael ei fetio am ddiogelwch i’r lefel briodol ac wedi cael sicrwydd systemau/safle.

Mae’r Comisiwn hefyd yn cynnig, yn argymhelliad 17, pan yw gwas y Goron, contractiwr y llywodraeth neu berson hysbysedig dan amheuaeth mewn ymchwiliad troseddol, ac yn gwneud datgeliad i gynghorydd cyfreithiol cymwys at ddibenion cyngor cyfreithiol, y dylid awdurdodi datgelu at ddibenion adrannau 1 i 4 o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989, os oes gan y cynghorydd cyfreithiol gliriad diogelwch i’r lefel briodol a’i fod wedi cael sicrwydd systemau/safle.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn croesawi pecyn Comisiwn y Gyfraith o argymhellion mewn perthynas â diogelwch a gofynion fetio ar gyfreithwyr. Mae cael mynediad at y system gyfreithiol yn rhan greiddiol o system gyfreithiol y DU ac rydym yn cefnogi pob ymgais i sicrhau mynediad, wrth geisio am gyngor yn y maes sensitif a chymhleth hwn. Fodd bynnag, dylid cydbwyso mynediad o’r fath gyda gofyniad i ddiogelu deunydd swyddogol sensitif, a allai beryglu bywyd a/neu achosi niwed sylweddol i ddiogelwch cenedlaethol petai’n cael e ryddhau. Byddwn yn ystyried opsiynau wrth drafod deddfwriaeth, sydd yn cydbwyso’r gofynion hyn gyda phwysigrwydd pobl yn gallu ceisio am gyngor cyfreithiol annibynnol, a byddwn yn tynnu ar y safbwyntiau a fynegwyd yn yr Adolygiad yn unol â hynny.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

9) A ydych chi’n cytuno ag argymhellion arfaethedig y Comisiwn ar sut y gellid amddiffyn deunydd swyddogol sensitif yn well yn ystod y broses o gael cyngor cyfreithiol?

10) A oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill ar sut y gellir sicrhau bod gwybodaeth swyddogol sensitif yn cael ei diogelu’n ddigonol yn ystod y broses o gael cyngor cyfreithiol?

Categorïau gwybodaeth a ddiogelir

Yn argymhellion 19 ac 20 o’u Hadolygiad, mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnig na ddylid culhau’r categorïau gwybodaeth a ddiogelir ar hyn o bryd yn Neddf 1989, ac os ymgymerir â diwygio’r Ddeddf, dylid archwilio’r posibilrwydd o ddiffinio’r categorïau gwybodaeth yn fwy manwl fel blaenoriaeth. Maent hefyd yn argymell na ddylid ehangu’r categorïau gwybodaeth i gynnwys gwybodaeth economaidd i’r graddau y mae’n ymwneud â diogelwch gwladol.

Fel rhan o’r diwygiad deddfwriaethol, byddwn yn ystyried a ddylid diwygio categoriau’r wybodaeth a ddiogelir[footnote 5], er mwyn adlewyrchu dablygiadau technolegol a chendlaethol ers i’r ddeddfwriaeth gael ei weithredu, ac i sicrhau bod y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei ddiogelu am y dyfodol.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

11) A oes gennych farn ynghylch a ddylid diwygio’r categorïau o wybodaeth warchodedig?

12) Yn eich barn chi, a oes math o wybodaeth swyddogol sensitif nad yw’n cael ei warchod ar hyn o bryd gan y Ddeddf bresennol a ddylai fod mewn deddfwriaeth ddiwygiedig?

Cwmpas tiriogaethol troseddau Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989

Yn argymhelliad 21 o’u Hadolygiad, mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnig y dylid diwygio cwmpas tiriogaethol troseddau yn adrannau 1 i 4 o Ddeddf 1989, fel bod contractiwr y llywodraeth neu berson hysbysedig yn cyflawni trosedd pan yw’n gwneud datgeliad diawdurdod dramor, ni waeth a yw’n ddinesydd Prydeinig ai peidio.

Mae’r Llywodraeth yn cytuno bod angen newid maint tiriogaethol y troseddau yn Neddf 1989 a byddwn yn ystyried mabwysiadu fersiwn o’r fformiwleiddiad a gynigiwyd gan y Comisiwn, fel rhan o ddiwygio deddfwriaethol. Byddwn hefyd yn ystyried a ddylid ymestyn cwmpas tiriogaethol y troseddau o dan adrannau 5 a 6 (datgeliadau ymlaen gan drydydd parti), er mwyn dod â dinasyddion Prydain a’r rheini sydd â hawl i aros yn y DU i mewn i’r cwmpas, pan ydynt dramor.

Mae’r bygythiad difrifol a berir i fuddiannau’r DU gan y rhai sy’n cyflawni datgeliadau diawdurdod niweidiol yn bodoli nid yn unig yn achos dinasyddion Prydain, ond hefyd yn achos y rhai sy’n elwa o statws preswyl a statws preswylydd sefydlog. Rydym yn nodi nad yw’r Adolygiad yn benodol ynghylch a ddylai hyn fod yn berthnasol i bobl a hysbyswyd yn flaenorol, contractwyr y llywodraeth a gweision y Goron, sy’n rhywbeth y byddem hefyd yn ceisio ei ystyried, yn fwy manwl.

Yn ychwanegol i hyn, nid yw Deddf 1989 yn cynnwys erlyn unigolion o dramor, hyd yn oed mewn achosion lle byddai’r unigolyn wedi gwybod (neu hyd yn oed fwriadu) i’r dadgeliad achosi niwed. Fe all fod yna amgylchiadau lle dylai’r Goron fedri ystyried erlyniad yn erbyn dinasyddion sydd heb fod yn Brydeinig, am ddatgeliad heb ei awdurdodi, a achosodd niwed drwy’r datgeliad, y byddwn yn ei ystyried ymhellach.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

13) A ydych chi’n credu y dylai cwmpas alltiriogaethol troseddau yn adrannau 1-4 fod yn berthnasol i bobl a hysbyswyd yn flaenorol, gweision y Goron a chontractwyr, yn ogystal â’r rhai a gyflogir ar hyn o bryd?

14) A ydych chi’n credu y dylid ymestyn cwmpas alltiriogaethol troseddau yn adrannau 5-6 i ddod â dinasyddion Prydain, preswylwyr a’r rheini sydd â statws preswylydd sefydlog (gan gynnwys y rhai sydd wedi’u lleoli dramor) i’r cwmpas pan y’i cyflawnir dramor?

15) A ydych chi’n credu bod achos o blaid ymestyn cwmpas alltiriogaethol troseddau yn adrannau 5-6 i bawb, waeth beth yw eu cenedligrwydd?

Datgelu gwybodaeth er “budd y cyhoedd”

Mae argymhellion terfynol Comisiwn y Gyfraith yn ymwneud â datgelu gwybodaeth a allai fod er “budd y cyhoedd”.

Yn argymhelliad 32 eu Hadroddiad, mae’r Comisiwn yn cynnig y dylid sefydlu Comisiynydd Statudol annibynnol â’r pwrpas o dderbyn ac ymchwilio i honiadau o ddrygioni neu droseddoldeb, lle fel arall byddai datgelu’r pryderon hynny yn drosedd o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Maent yn cynnig y byddai’n rhaid i Gomisiynydd o’r fath fod yn fecanwaith ymchwiliol effeithiol ac felly byddai’n rhaid iddo nid yn unig fod yn annibynnol, ond hefyd yn gallu gweithredu’n gyflym, a chael yr awdurdod cyfreithiol i orfodi cydweithredu â’i ymchwiliadau. Mae’r Comisiwn hefyd yn argymell y dylai fod gan achwynydd hawl apelio yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynydd Statudol ac y dylid ehangu awdurdodaeth y Tribiwnlys Pwerau Ymchwilio, fel y gall glywed apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynydd Statudol.

Er mwyn cefnogi’r swyddogaeth hon, mae’r Comisiwn hefyd yn argymell cyflwyno Amddiffyniad Budd y Cyhoedd, gan amlinellu yn argymhelliad 33 eu Hadolygiad; ni ddylai person fod yn euog o drosedd o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 os yw’r person hwnnw’n profi, ar sail tebygolrwydd,: (a) ei fod er budd y cyhoedd i’r wybodaeth a ddatgelwyd fod yn hysbys i’r derbynnydd; a (b) bod modd y datgeliad er budd y cyhoedd.

Rydym yn nodi’r argymhellion hyn a byddwn yn ystyried yn fanylach gynigion sy’n ymwneud â Chomisiynydd Statudol ac Amddiffyniad Budd y Cyhoedd. Fel rhan o’r ystyriaethau hyn, byddwn hefyd yn myfyrio ar sylwadau’r Comisiwn ynghylch cydnawsedd y Ddeddf ag Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol - yr hawl i ryddid mynegiant.O’n hystyriaethau cychwynnol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod troseddau presennol yn gydnaws ag Erthygl 10 ac y gallai’r cynigion hyn mewn gwirionedd danseilio ein hymdrechion i atal datgeliadau diawdurdod niweidiol, na fyddai er budd y cyhoedd.

Mae mesurau diogelu eisoes yn bodoli (gan gynnwys prosesau sy’n bodoli eisoes ar gyfer chwythwyr chwiban y Llywodraeth) sy’n caniatáu iddynt godi pryderon heb orfod ymgymryd â datgeliad diawdurdod. Mae’r prosesau hyn yn cynnwys; y posibilrwydd o godi pryder y tu mewn i’w sefydliad eu hunain, gyda Swyddfa’r Cabinet, Comisiwn y Gwasanaeth Sifil, a hyd yn oed cadeirydd Pwyllgor Cudd wybodaeth a Diogelwch y Senedd. Ar gyfer aelodau blaenorol a phresennol yr asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth, mae swyddfeydd ychwanegol y gellir gwneud datgeliadau iddynt, gan greu set arall o fesurau diogelu ar gyfer y garfan honno. Bydd unrhyw benderfyniad i erlyn yn destun prawf budd y cyhoedd gan Wasanaeth Erlyn y Goron, ac yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen caniatâd y Twrnai Cyffredinol i erlyn.Mae effeithiolrwydd mecanweithiau a mesurau diogelu presennol ar draws y Llywodraeth yn allweddol i weithrediad y troseddau hyn, a bydd y Llywodraeth yn adolygu eu gweithrediad, er mwyn asesu argymhellion y Comisiwn ar gyfer Comisiynydd Statudol, wrth archwilio opsiynau ar gyfer diwygio Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Mae rhyddid y wasg yn rhan annatod o brosesau democrataidd y DU, felly hefyd y gallu i unigolion chwythu’r chwiban a dwyn sefydliadau i gyfrif, pan yw honiadau difrifol o ddrygioni.Fodd bynnag, mae’n haid sicrhau cydbwysedd â diogelu gwybodaeth swyddogol (gan gynnwys gwybodaeth ddiogelwch genedlaethol), lle gallai ei pheryglu niweidio’r DU, ei dinasyddion neu fuddiannau, o ystyried y gall datgelu anghyfreithlon a/neu gyhoeddi dogfennau sensitif yn ddiweddarach arwain at niwed difrifol mewn llawer o achosion. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi bod argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn sicrhau’r cydbwysedd cywir yn y maes hwn.

Ein pryder sylfaenol yw mai anaml (os byth) y bydd unigolyn sy’n ceisio gwneud datgeliad diawdurdod, p’un ai yn y Llywodraeth neu fel arall yn meddu ar ddeunydd swyddogol, yn gallu barnu’n gywir a yw budd y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth yn gorbwyso’r risgiau yn erbyn datgelu. Hyd yn oed os gwneir yr achos wedyn nad oedd y datgeliad er budd y cyhoedd, a bod y person a gyhoeddodd y wybodaeth wedi cyflawni trosedd, nid yw hyn yn dadwneud y difrod posibl a achosir gan y datgeliad.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

16) A ydych chi’n cefnogi creu Comisiynydd Statudol o bosibl i gefnogi prosesau chwythu’r chwiban? Os felly, pam?

17) A oes gennych unrhyw dystiolaeth pam y byddai prosesau chwythu chwiban presennol y llywodraeth yn galw am greu Comisiynydd Statudol?

18) A oes gennych farn ynghylch a ddylai Amddiffyniad Budd y Cyhoedd fod yn rhan angenrheidiol o ddeddfwriaeth yn y dyfodol?

Crynodeb o gwestiynau ar gyfer ymgyngoreion ynglŷn â diwygio Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol

Diwygio Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-39

1) A ydych chi’n credu y gallai trosedd gweithredoedd sy’n paratoadol i weithgaredd gelyniaethus gan wladwriaethau fod yn ychwanegiad gwerthfawr at gyfraith droseddol fodern, yng ngoleuni’r bygythiad?

2) A oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut y gallai trosedd o’r natur hon weithio’n ymarferol?

3) A ydych chi’n credu y byddai’n werth ystyried fformiwla ‘cyswllt sylweddol’ i ddod ag ysbïo yn erbyn asedau yn y DU o dramor? Sut ydych chi’n credu y gallai hyn weithio’n ymarferol?

4) A oes unrhyw beth yr ydych chi’n ystyried y byddai’r model hwn yn ei fethu y dylid ei gipio?

Diwygio Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989

5) A ydych chi’n cytuno â chynigion y Comisiwn mewn perthynas ag elfen ddiffyg goddrychol ar gyfer troseddau adrannau 1-4, yn lle gofyniad am ddifrod?

6) A ydych chi’n cytuno y dylai’r gofyniad i brofi difrod aros ar gyfer troseddau o dan adrannau 5 a 6 o’r Ddeddf bresennol? Os felly, pam?

7) A ydych chi’n cytuno y dylid cynyddu’r dedfrydau uchaf ar gyfer rhai troseddau o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989?

8) A ydych chi’n credu y dylid gwahaniaethu rhwng dedfrydu rhwng troseddau datgelu sylfaenol - a gyflawnir gan aelodau’r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth, gweision y Goron, contractwyr y llywodraeth a’r rhai sy’n cael eu hysbysu - a throseddau datgelu ymlaen - y gall aelodau’r cyhoedd eu cyflawni?

9) A ydych chi’n cytuno ag argymhellion arfaethedig y Comisiwn ar sut y gellid amddiffyn deunydd swyddogol sensitif yn well yn ystod y broses o gael cyngor cyfreithiol?

10) A oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill ar sut y gellir sicrhau bod gwybodaeth swyddogol sensitif yn cael ei diogelu’n ddigonol yn ystod y broses o gael cyngor cyfreithiol?

11) A oes gennych farn ynghylch a ddylid diwygio’r categorïau o wybodaeth warchodedig?

12) Yn eich barn chi, a oes math o wybodaeth swyddogol sensitif nad yw ar hyn o bryd yn cael ei warchod gan y Ddeddf bresennol, a ddylai fod mewn deddfwriaeth ddiwygiedig?

13) A ydych chi’n credu y dylai cwmpas alltiriogaethol troseddau yn adrannau 1-4 fod yn berthnasol i bobl a hysbyswyd yn flaenorol, gweision y Goron a chontractwyr, yn ogystal â’r rhai a gyflogir ar hyn o bryd?

14) A ydych chi’n credu y dylid ymestyn cwmpas alltiriogaethol troseddau yn adrannau 5-6 i ddod â dinasyddion Prydain, preswylwyr a’r rheini â statws preswylydd sefydlog (gan gynnwys y rhai sydd wedi’u lleoli dramor) i’r cwmpas pan y’i cyflawnir dramor?

15) A ydych chi’n credu bod achos o blaid ymestyn cwmpas alltiriogaethol troseddau yn adrannau 5-6 i bawb, waeth beth yw eu cenedligrwydd?

16) A ydych chi’n cefnogi creu Comisiynydd Statudol o bosibl i gefnogi prosesau chwythu’r chwiban? Os felly, pam?

17) A oes gennych unrhyw dystiolaeth pam y byddai prosesau chwythu chwiban y llywodraeth yn galw am greu Comisiynydd Statudol?

18) A oes gennych farn ynghylch a ddylai Amddiffyniad Budd y Cyhoedd fod yn rhan angenrheidiol o ddeddfwriaeth yn y dyfodol?

19) A oes gennych unrhyw farn neu dystiolaeth yr hoffech eu darparu ar unrhyw un o argymhellion terfynol eraill Comisiwn y Gyfraith, neu ymateb y Llywodraeth, yn Atodiad B?

Cryfhau diwygio Deddfau Cyfrinachau Swyddogol i fynd i’r afael â bygythiad gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau

Ar wahân i argymhellion Comisiwn y Gyfraith, rydym yn ystyried a oes cyfiawnhad i greu troseddau a darpariaethau ychwanegol fel rhan o ddiwygio Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-1939, er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiad.

Ysbïo economaidd, difrod ac ymyrraeth tramor

Rydym yn ymwybodol y gallai fod angen mynd i’r afael â niweidiau ychwanegol yn ymwneud â gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau, na fydd efallai’n cael eu cipio gan ddiwygio’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol yn unig.

Mae’r niweidiau hyn yn cynnwys:

  • Difrod -sy’n ymgorffori nifer o weithgareddau posib sy’n cael eu cyflawni i; ddinistrio, difrodi, addasu neu rwystro seilwaith, swyddogaethau neu sefydliadau allweddol, er mantais wleidyddol neu filwrol.
  • Ysbïo economaidd - neu weithgareddau gan wladwriaethau i alluogi dwyn cyfrinachau masnach; ac
  • Ymyrraeth gan wledydd tramor - sydd, fel y nodwyd yn y cyflwyniad, yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau lle mae gwladwriaethau’n ceisio hyrwyddo eu nodau trwy ddefnyddio dulliau cudd, neu drwy dywyllu bwriad a chychwynnydd, gan gynnwys; twyllwybodaeth, llwgrwobrwyo a gorfodi.

Rydym yn ystyried bod rhai o’r niweidiau hyn eisoes yn cael eu cipio, i raddau, gan droseddau presennol y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol neu y byddant trwy ddiwygio. Er enghraifft; gall troseddau sy’n gysylltiedig ag ysbïo o dan Ddeddf 1911 eisoes gwmpasu dwyn cyfrinachau masnach, neu dresmasu gan actor gelyniaethus sy’n mynd i le gwaharddedig i gyflawni difrod. Hefyd efallai fod gweithgareddau ymyrraeth gan wledydd tramor eisoes yn cael eu cipio gan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol ar ffurf hacio a datgelu gwybodaeth sydd wedi’i dwyn.

Yn ogystal, gallai troseddau eraill yn y llyfr statud fynd i’r afael â rhywfaint o’r gweithgareddau hyn a’r niweidiau sy’n deillio o hyn, yn arbennig o ran gweithredoedd difrod, a allai eisoes gael eu cipio gan lu o droseddau ym maes cyfraith gyffredin, megis; difrod troseddol, camddefnyddio cyfrifiaduron a dwyn. Gellir cyflawni troseddau eraill, mwy cyffredinol, hefyd wrth gynnal ysbïo economaidd, gan gynnwys; camymddwyn mewn swydd gyhoeddus (os cyflawnir ef gan ddeiliad swydd gyhoeddus), cynllwynio i dwyllo, a throseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990, Deddf Twyll 2006, neu Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010, ymhlith eraill.

Wrth i ni ddatblygu cynigion deddfwriaethol, byddwn yn ystyried a oes gofyniad i greu troseddau annibynnol ar gyfer difrod, ysbïo economaidd ac ymyrraeth gan wledydd tramor, er mwyn mynd i’r afael â’r niweidiau hyn yn benodol, yn amodol ar a ydynt yn cael eu cwmpasu gan; ddiwygio’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol, Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor newydd, a deddfwriaeth berthnasol arall.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

20) A oes unrhyw niweidiau sy’n dod o dan y penawdau eang hyn (difrod, ysbïo economaidd, ac ymyrraeth dramor) nad ydynt yn cael eu cipio ar hyn o bryd yn y ddeddfwriaeth bresennol?

21) A oes achos o blaid troseddau annibynnol ar gyfer difrod, ysbïo economaidd, ac ymyrraeth dramor?

Gwarantau chwilio o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1911

O dan Adran 9 Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911, gall llys awdurdodi gwarant chwilio i’r heddlu lle mae sail resymol dros amau bod trosedd o dan y Ddeddf wedi’i chyflawni, neu ar fin ei chyflawni. Bydd y warant yn caniatáu i’r heddlu; fynd i mewn a chwilio unrhyw le a enwir yn y warant, ac i chwilio pawb a geir yno, ac atafaelu unrhyw ddeunydd perthnasol. Pan yw “argyfwng mawr” y mae angen gweithredu amdano ar unwaith, gall Uwch-arolygydd awdurdodi gwarant.

Ni chanfuwyd bod pwerau chwilio eraill a ddarperir o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) yn darparu’r pwerau ataliol cyflym sydd eu hangen ar yr heddlu yng Nghymru a Lloegr i fynd i’r afael â’r bygythiad ysbïo. Mae hyn oherwydd:

  • Mae PACE yn galw am seiliau rhesymol dros “gredu” bod trosedd dditiadwy wedi’i chyflawni.. Mae’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol yn caniatáu ar gyfer chwiliadau lle mae sail resymol dros “amau” bod trosedd yn, neu ar fin, cael ei chyflawni;
  • Nid yw pwerau PACE ar eu hunain yn caniatáu chwilio am ddeunydd sydd wedi’i eithrio neu ddeunydd gweithdrefn arbennig, pan na chredir bod trosedd wedi’i chyflawni eto, heb ddarpariaeth mewn Deddf arall i ganiatáu ar gyfer hyn; ac
  • Nid yw PACE ar ei hunan yn caniatáu i uwch-arolygydd gyhoeddi gwarantau chwilio mewn achosion brys.

Fel y nodwyd uchod, mae gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau tramor yn cyflwyno heriau sylweddol, oherwydd actorion galluog sydd ag adnoddau da, sy’n defnyddio dulliau cudd. Yn unol â hynny, yn aml efallai na fydd yn bosibl cynhyrchu’r dystiolaeth angenrheidiol i ddiwallu’r gofynion ar gyfer cael gwarant chwilio o dan PACE. Ymhellach, mae deunydd sydd wedi’i eithrio o dan PACE (megis cofnodion personol sy’n ymwneud â galwedigaeth rhywun sydd dan amheuaeth, er enghraifft) yn aml yn arbennig o berthnasol mewn ymchwiliadau’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol, lle gall deunydd o’r fath fod yn dystiolaeth ganolog mewn trosedd. Mae’r pŵer ychwanegol i chwilio am hyn mewn achosion Deddfau Cyfrinachau Swyddogol yn hanfodol i effeithiolrwydd ymchwiliadau.

Mae pŵer chwilio presennol Adran 9 felly’n galluogi’r heddlu i ymateb i’r bygythiad a’r aflonyddu, archwilio a dod o hyd i dystiolaeth o weithgarwch gelyniaethus gan wladwriaethau, pan fydd gofyn. Daw hyn gyda’r diogelwch fod angen i’r Llys gael ei ddarbwyllo ymhob achos cyn codi gwarant. Gan hynny, ceisiwn gario darpariaeth Adran 9 i mewn i’r ddeddfwriaeth ddiwygiedig. Yn ychwanegol i hyn, byddwn hefyd yn ystyried p’un a oes angen arfau ymchwiliol estynedig eraill er mwyn cefnogi’r troseddau a phwerau newydd yn y ddeddfwriaeth.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

22) A oes gennych unrhyw bryderon ynghylch parhad y pŵer hwn? Os felly, pa fath o gamau lliniaru y gellid eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r pryderon hyn?

Gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau fel ffactor gwaethygol wrth ddedfrydu

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud cysylltiad â gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau yn ffactor gwaethygol wrth ddedfrydu.

Defnyddir ffactorau gwaethygol yn ystod y dedfrydu i gynyddu difrifoldeb trosedd a chynorthwyo’r llys i benderfynu ar y ddedfryd fwyaf priodol i droseddwr. Wrth bennu dedfryd, mae’r llys yn ystyried ffactorau gwaethygol sy’n gwneud y drosedd yn fwy difrifol, a ffactorau a allai leihau difrifoldeb, neu adlewyrchu mesurau lliniaru personol. Mater i’r llys yw penderfynu’n annibynnol faint o bwysau y dylid eu rhoi i unrhyw ffactorau gwaethygol neu fesurau lliniaru a chynyddu neu leihau dedfryd yn unol â hynny.

Mae ffactorau gwaethygol yn galluogi’r llysoedd i gydnabod ymddygiad ehangach a allai gefnogi cosbau troseddol uwch. Er enghraifft, gall unigolion sy’n cyflawni troseddau dwyn neu ddifrod i eiddo hefyd fod yn cyflawni gweithgareddau gelyniaethus ar ran gwladwriaeth, wrth gyflawni’r troseddau hynny. Byddai’r mesur yn golygu, os bydd actor gelyniaethus yn cael ei erlyn a’i euogfarnu o drosedd y tu allan i’n deddfwriaeth arfaethedig ond y gellir profi cysylltiad â gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau, rhaid i’r llys ystyried y cysylltiad hwn wrth bennu cosb y troseddwr. Rydym yn ystyried y dylai ffactor gwaethygol o’r fath fod yn berthnasol i bob trosedd yn neddfwriaeth y DU, y tu allan i’r ddeddfwriaeth hon, i ddarparu ar gyfer y bygythiad eang sy’n datblygu, sy’n debygol o newid a symud ymlaen yn gyflym dros y blynyddoedd i ddod. Bydd adlewyrchu’r bygythiad hwn yng nghyfraith droseddol y DU fel hyn hefyd yn anfon neges gref i wladwriaethau eraill na fydd y DU yn goddef gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau.

Cynnig yr Ymgynghoriad - Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIR)

Cyflwyniad

Fel y nodwyd ar ddechrau’r ddogfen ymgynghori hon, mae’r DU yn wynebu ystod o fygythiadau gan wladwriaethau. Mae’r Llywodraeth wedi cynnig pecyn cynhwysfawr o fesurau i gryfhau deddfwriaeth bresennol i darfu ar, rhwystro ac atal gweithgareddau o’r fath. Rydym o’r farn mai rhan bwysig o’r pecyn hwn, ac un o’r arfau allweddol wrth gyflawni’r amcanion hynny, fyddai cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIR) - creu cofrestr a reolir gan y llywodraeth o weithgareddau datganedig sy’n cael eu cyflawni dros, neu ar ran, gwladwriaeth dramor. Ar ôl myfyrio ar werth a gwersi cynlluniau tebyg yn yr Unol Daleithiau[footnote 6]ac Awstralia[footnote 7], ac ar y casgliadau a’r argymhellion a nodwyd gan y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch (ISC) yn ei ‘Adroddiad Rwsia’ diweddar, mae’r adran hon yn amlinellu pam y gallai cynllun yn y DU gwneud cyfraniad pwysig at liniaru’r bygythiadau gan wladwriaethau.

Egwyddorion y cynnig hwn o’r ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio cael eich mewnbwn er mwyn helpu i ddatblygu dyluniad y cynllun FIR ac, yn benodol, i sicrhau bod ei ofynion yn gymesur, yn glir ac yn ymarferol. Mae’r cynnig sy’n dilyn yn darparu trosolwg o’r bygythiadau penodol i’r DU y gallai’r cynllun hwn helpu i fynd i’r afael â hwy.Mae’n ystyried sut y gellid creu cynllun yn y DU i wneud y mwyaf o’i ddefnyddioldeb yn erbyn y bygythiad, ac i’r graddau y mae hynny’n bosibl, liniaru unrhyw ganlyniadau anfwriadol a achosir ganddo.Rydym yn rhagweld y bydd unigolion, sefydliadau a sectorau sy’n fwy tebygol o gael eu heffeithio gan ofynion y cynllun oherwydd eu bod yn agored i fygythiadau syn peri’r pryder mwyaf (gweler ‘pa fygythiadau y gallai’r cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor helpu i fynd i’r afael â nhw?’ isod ). Rydym yn bwriadu ymgysylltu’n uniongyrchol â’r unigolion, sefydliadau a sectorau hyn fel rhan o’r broses ymgynghori. Rydym yn ceisio sicrhau bod y cynllun yn cyflenwi’r gwerth mwyaf iddynt, ei fod yn ymarferol ac yn hygyrch, ac yn amddiffyn eu buddiannau. Fodd bynnag, rydym yn croesawu mewnbwn gan yr holl ymatebwyr eraill sydd â diddordeb.

Mae’n bwysig i fod yn eglur nad yw’r Llywodraeth yn bwriadau i’r cynllun hwn greu unrhyw rwystrau neu ataliaeth i’r sawl sydd yn gweithio dros, neu ar ran gwladawroaeth dramor, i ymgysylltu mewn gweithgareddau cyfreithlon yn y DU. Nid yw’n fwriad chwaith gan y Llywodraeth i’r cynllun hwn atal neu rwystro cydweithrediadi. Mae’r DU yn falch iawn o fod yn un o’r cymdeithasau mwyaf agored, teg a chynhwysol. Yn yr ysbryd hwn mae’r Llywodraeth yn pwysleisio y bydd croeso’n parhau i fod tuag at gydweithio ac ymgysylltu o fewn y DU, pan yw’n agored a thryloyw. Bwriad y cynllun yw sicrhau fod gweithgreddau penodol a ymgymerir ar ran gwladwriaeth dramor yn cael eu datgan yn agored a heb fod yn guddiedig.

Wrth ddatblygu’r cynllun FIR hwn rydym yn cydnabod fod Cytundeb Belffast (Gwener y Groglith) ac amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon yn galw am ofal a sylw arbennig. Mae’r Llywodraeth yn glir nad yw’n fwriad gan y ddeddfwriaeth i ymyrryd ag egwyddorion sylfaenol ac ysbryd y Cytundeb. Mae’n cydnabod bod unigolion a phleidiau gwleidyddol yn gweithredu’n gyfreithlon o fewn y ddwy awdurdodaeth ar ynys Iwerddon a byddant yn datblygu a gweithredu’r argymhellon hyn mewn modd nad sy’n ymyrryd ar eu gallu i wneud hynny. Byddem yn croesawu mewnbwn, fel rhan o’r ymgynghoriad, ynglŷn â sut y gellir datblygu’r cynllun FIR, neu argymhellion deddfwriaethol ehangach yn unol â’r bwriad hwnnw.

Sut allai cynllun fel hwn weithio?

Byddai cynllun i’r DU yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion sydd o fewn cwmpas y gofynion gofrestru gweithgaredd yn y DU sy’n cael ei wneud dros, neu ar ran, gwladwriaeth dramor. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau sydd wedi’u comisiynu’n uniongyrchol gan wladwriaeth dramor, yn ogystal â gweithgareddau sydd wedi’u cyfarwyddo gan unigolyn neu endid sy’n destun dylanwad neu reolaeth sylweddol gan y wladwriaeth dramor (y cyfeirir ato yn y ddogfen hon fel actor sy’n gysylltiedig â’r wladwriaeth dramor. Ar gyfer unrhyw weithgaredd sydd wedi’i gofrestru, byddai angen i’r unigolyn hefyd ddatgan y trefniant sylfaenol â gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaethol dramor.Os yw’r unigolyn yn methu â chofrestru neu’n darparu gwybodaeth ffug, gallent wynebu camau gorfodi.

Byddai cofrestr o weithgareddaua wneir ar ran gwladwriaeth dramor yn darparu offeryn pwysig i’r llywodraeth darfu ar weithgareddau gelyniaethus. Byddai unigolyn mewn perygl o gyflawni tramgwydd troseddol trwy beidio â chofrestru neu drwy gofrestru gwybodaeth ffug. Byddai’r cosbau cysylltiedig am beidio â chydymffurfio yn darparu ffordd arall o erlyn actorion gelyniaethus. Byddai cynllun o’r fath yn cynyddu’r risg i wladwriaethau tramor sy’n ceisio cynnal gweithgareddau gelyniaethus ac yn helpu i adeiladu cydnerthedd yn erbyn cael eu tynnu i mewn yn ddiarwybod i ymyrraeth[footnote 8]. Trwy fwy o dryloywder, byddai’r cynllun hefyd yn cynyddu dealltwriaeth o lefel dylanwad tramor ym materion y DU, gan gynnwys y llywodraeth a meysydd o ddiddordeb diogelwch cenedlaethol.

Mae llwyddiant bygythiadau gwladwriaethol yn erbyn y DU yn dibynnu ar y gweithgaredd yn parhau i fod yn gudd. Mae hefyd yn aml yn dibynnu ar berthnasoedd ag unigolion yn y DU, neu’n gweithio ar ei rhan i gefnogi a hwyluso’r gweithgaredd. Byddai cynllun i’r DU yn cynyddu’r risg i actorion gelyniaethus sy’n bwriadu cuddio eu gweithgareddau, yn ogystal â’r rhai sy’n cytuno i hwyluso gweithgareddau o’r fath yn gudd.

Pa fygythiadau y gallai’r cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor helpu i fynd i’r afael â nhw?

Mae’r Llywodraeth o’r farn y gallai cynllun i’r DU ddarparu offeryn amlbwrpas y gellid ei ddefnyddio i gefnogi ymdrechion i frwydro yn erbyn ysbïo, ymyrraeth, ac i amddiffyn ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif sy’n hanfodol i ddiogelwch a ffyniant cenedlaethol y DU.

  • Ysbïo Ystyr hwn yw ceisio gwybodaeth gyfrinachol sensitif yn gudd ar draws ystod o feysydd trwy gudd-wybodaeth ddynol, cudd-wybodaeth signalau, cudd wybodaeth dechnegol a threiddio ac aflonyddu rhwydweithiau cyfrifiadurol.Mae sectorau Llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, amddiffyn a busnes y DU yn cael eu targedu fel mater o drefn gan wladwriaethau tramor sy’n ceisio gwybodaeth sensitif.
  • Ymyrraeth. Adroddwyd ar enghreifftiau o ymyrraeth mewn sawl cyd-destun, gan gynnwys targedu digwyddiadau democrataidd yn ddomestig a thramor trwy weithrediadau gwybodaeth a dosbarthu cyllid (fel y disgrifir yn yr ISC ‘Adroddiad Rwsia’).
  • Trosglwyddo data sy’n gysylltiedig ag ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif. Mae’r DU yn mwynhau arweinyddiaeth ymchwil mewn sawl maes pwysig. Mae’n un o’r lleoedd gorau i gymryd rhan mewn ymchwil gydweithredol. Oherwydd hyn mae ein sector ymchwil yn cael ei dargedu gan actorion gelyniaethus sy’n ceisio caffael gwybodaeth sensitif a fyddai o fudd i wladwriaethau tramor ac ar draul diogelwch a ffyniant cenedlaethol y DU.Maent yn gwneud hyn trwy geisio sicrhau mynediad i’r ymchwil, neu i unigolion sy’n gweithio ar ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif ac sy’n meddu ar arbenigedd a ‘gwybodaeth’ berthnasol.

Sut allai cynllun i’r DU helpu i fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn?

Gallai cynllun i’r DU helpu’r Llywodraeth i frwydro yn erbyn ysbïo, ymyrraeth a diogelu ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif yn y ffyrdd sy’n dilyn

  • Galluogi tarfu ar weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau. Byddai’r cynllun yn gosod cosbau am beidio â chydymffurfio â’r gofynion cofrestru (gan gynnwys am beidio â chofrestru gweithgaredd cymwys neu ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol). Rhagwelir na fyddai llawer o’r unigolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gelyniaethus neu ymyrraeth ar ran gwladwriaeth dramor yn datgan hyn trwy gofrestru â’r cynllun neu y byddent yn cofrestru gwybodaeth ffug neu gamarweiniol. Pe byddent yn ceisio cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn heb gofrestru’n briodol, byddent yn agored i gael eu herlyn. Pe byddai unigolyn yn cofrestru ei weithgaredd gelyniaethus neu ymyrraeth â’r cynllun, byddai mewn perygl o ddatgelu ei weithgareddau a allai fod yn niweidiol i’r rhai sydd â mynediad i’r gofrestr, a fyddai’n tanseilio eu hamcanion ac yn caniatáu cymryd mesurau amddiffynnol.
  • Cynyddu’r risg o gynnal gweithgareddau gelyniaethus. Rydym o’r farn y byddai’r gofynion a’r cosbau am beidio â chydymffurfio sy’n gysylltiedig â’r cynllun hefyd yn cynyddu’r risg i’r rhai sy’n ceisio cymryd rhan mewn gweithgareddau gelyniaethus neu ymyrraeth dros, neu ar ran, gwladwriaethau tramor. Byddai costau ymarferol a chostau ynghylch enw da i wladwriaethau wrth gynnal gweithgareddau ymyrraeth gudd a osodir trwy fygythiad erlyniad, neu erlyniad gwirioneddol, am beidio â chofrestru. Gallai wneud i unigolion feddwl ddwywaith cyn ceisio ymgymryd â gweithgaredd o’r fath os oes risg uwch i’r gweithgaredd hwnnw a’i gysylltiadau â gwladwriaethau tramor gael eu datgelu, neu trwy ddenu sylw’r system cyfiawnder troseddol.
  • Adeiladu cydnerthedd i fygythiadau gwladwriaethol a chynyddu tryloywder. Rydym hefyd o’r farn y gallai’r cynllun helpu i amddiffyn unigolion rhag cael eu defnyddio’n ddiarwybod gan wladwriaethau tramor i ymgymryd â gweithgaredd gelyniaethus, yn arbennig y rhai a allai weithio mewn meysydd sy’n debygol o fod yn destun dylanwad megis prosesau gwleidyddol y DU. Bwriad y cynllun yw annog unigolion i ymgymryd â diwydrwydd dyladwy cyn dechrau perthynas ag unigolyn neu sefydliad arall, neu ymgymryd â gweithgaredd drosto. Byddai hyn yn arbennig o bwysig mewn meysydd sy’n peri pryder ynghylch diogelwch gwladol. Fel budd ychwanegol, byddai cynyddu tryloywder trwy’r wybodaeth ar y gofrestr yn rhoi mwy o ymwybyddiaeth o ddylanwad tramor sy’n cael ei arfer yn y DU ar hyn o bryd i wneuthurwyr penderfyniadau’r Llywodraeth, sectorau sensitif yn y gymuned ddiogelwch genedlaethol ac, os cyhoeddir rhannau o’r gofrestr (gweler isod), y cyhoedd.

Pa fuddion fyddai cynllun i’r DU yn eu cynnig yn ychwanegol at offer eraill y Llywodraeth?

Y prif wahaniaeth rhwng cynllun cofrestru i’r DU ac offer eraill y llywodraeth, y rhai sydd ar gael heddiw a’r rhai sy’n cael eu hystyried fel rhan o’r pecyn mesurau hwn, yw y byddai cynllun i’r DU yn caniatáu erlyn unigolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gelyniaethus yn seiliedig ar fethiant i cofrestru wrth gynnal gweithgareddau penodol, yn hytrach nag am gyflawni’r weithred elyniaethus. Mae hyn yn cynnig dau brif fudd:

  • Ffordd arall o erlyn Yn draddodiadol, roedd yn anodd cael tystiolaeth am droseddau sy’n ymwneud â bygythiadau gan wladwriaethau, ac felly hefyd eu herlyn. Un o’r rhesymau yw bod darparu tystiolaeth o ysbïo yn aml yn cynnwys gwybodaeth sensitif dros ben a gall gyflwynoi risgiau i ddiogelwch cenedlaethol os caiff ei datgelu mewn achos llys. Byddai’r cynllun yn darparu modd i erlyn actorion gelyniaethus hysbys heb o reidrwydd orfod datgelu’r dystiolaeth fwyaf sensitif. Er enghraifft, trwy erlyn am fethiant i gofrestru o dan y cynllun yn hytrach na throsedd ysbïo, dim ond tystiolaeth o gyflawni gweithgaredd cofrestradwy dros neu ar ran gwladwriaeth dramor neu actor gwladwriaeth dramor y mae angen i’r erlyniad ei ddatgelu.
  • Modd o aflonyddu ar weithgarwch gelyniaethus ar gyfnod cynharach. Mae’r rhan fwyaf o arfau sydd gan y Llywodraeth i wrthwynebu gweithgarwch gelyniaethus wedi canolbwyntio ar greu troseddau ar gyfer gweithgarwch andwyol a gafodd ei weithredu gan actorion gelyniaethus. Mae hyn yn galw am i drosedd a niwed i Lywodraeth Ei Mawrhydi fod wedi digwydd, neu weithred baratoadol y gellir ei brofi, cyn y gellir erlyn unigolyn. Er gall hwn gynnig peth effaith ataliol, cyfyng yw’r gallu i’w ddefnyddio - nid yw’n cynnig opsiynau i’r Llywodraeth darfu ar weithgarwch niweidiol cyn i niwed i’r DU ddigwydd. Drwy ofyn ar unigolyn i ddatgan ei ymrwymiad mewn gweithgarwch a gafodd ei gyfarwyddo gan wladwriaeth tramor neu actor sy’n perthyn i wladwriaeth tramor, gyda throseddau am ddiffyg cydymffurfiaeth, gallai’r cynllun gynnig modd o ymyrryd ar adeg cynt yn ystod y gweithgarwch a chyn iddo droi’n weithred elyniaethus niweidiol.

A ddylai gweithgaredd cofrestredig fod yn weladwy i’r llywodraeth ehangach a’r cyhoedd?

Byddai buddion cydnerthedd a thryloywder y cynllun yn cael eu hehangu pe byddai’r llywodraeth a’r cyhoedd yn gallu gweld gwybodaeth benodol sydd wedi’i chofrestru.Felly mae’r Llywodraeth yn ystyried sicrhau bod gwybodaeth benodol am unigolion cofrestredig, gweithgareddau cofrestredig a’u perthnasoedd â gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor, ar gael i’r cyhoedd.Gall mynediad at wybodaeth sydd wedi’i chofrestru â’r cynllun gan y rhai sy’n ymwneud â’r sectorau perthnasol hefyd gynyddu’r risg i’r rhai sy’n parhau i guddio eu gweithgareddau. Y rheswm am hyn yw y byddai hygyrchedd ehangach gwybodaeth gofrestredig yn debygol o arwain at fwy o graffu ar bwy sydd wedi, ac yn bwysig pwy sydd heb, gofrestru eu gweithgaredd â’r cynllun. Gallai hyn fod yn offeryn gwerthfawr i sectorau penodol sydd â chymhelliant cryf i amddiffyn eu gwaith neu uniondeb eu swyddogaethau. Byddai cofrestr gyhoeddus yn galluogi’r rhai sy’n gweithio yn y sector i barhau i gymryd rhan mewn cydweithredu rhyngwladol pwysig ag unigolion a sefydliadau sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth â mwy o hyder.

Wrth ystyried gwneud gwybodaeth benodol yn hygyrch i’r cyhoedd, rydym hefyd yn ymwybodol y gallai fod sefyllfaoedd lle byddai angen i wybodaeth ar y gofrestr aros yn breifat. Er enghraifft, lle byddai’r wybodaeth yn bygwth buddiannau diogelwch cenedlaethol, lle gallai roi diogelwch unigolyn mewn perygl, neu lle ei fod yn fasnachol sensitif. Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai na fydd cyhoeddi enw’r unigolyn a’i weithgaredd bob amser yn briodol a gallai hyd yn oed eu gwneud yn darged recriwtio deniadol i actorion gelyniaethus. Byddai hyn yn mynd yn groes i ddibenion y cynllun. Mae hwn yn faes yr hoffem ei archwilio ymhellach trwy’r ymgynghoriad i benderfynu sut y gallai proses i werthuso achosion o’r fath weithio’n ymarferol.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

23) Beth ydych chi’n credu fyddai’r goblygiadau i chi, eich cyflogwr, neu’ch sector wrth sicrhau bod gwybodaeth benodol am unigolion cofrestredig, eu gweithgareddau cofrestredig a’u cysylltiadau cofrestredig â gwladwriaeth dramor ar gael i’r cyhoedd?

(Negyddol iawn - Negyddol - Dim effaith - Cadarnhaol - Cadarnhaol iawn)

Sylwadau:

Pwy fyddai’n ofynnol iddynt gofrestru eu gweithgareddau?

Nod y broses ymgynghori hon yw cefnogi datblygu cynllun a fydd yn hybu ymdrechion i frwydro yn erbyn ysbïo, ymyrraeth, ac i amddiffyn ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif sy’n hanfodol i ddiogelwch a ffyniant cenedlaethol y DU.Er mwyn cyflawni’r buddion a ddisgrifir uchod, byddai’r cynllun yn galw am ddatgan gweithgareddau penodol sy’n cael eu cyflawni dros, neu ar ran, gwladwriaeth dramor. Felly byddai angen i’r gofynion cofrestru adlewyrchu tair ystyriaeth allweddol: i) gweithgaredd sy’n cael ei wneud yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar gyfer gwladwriaeth dramor; ii) y math o gyfarwyddyd a roddir gan wladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor; a iii) y math o weithgareddau sydd i’w cofrestru.

Mae buddion y cynllun yn dibynnu ar y ffaith bod y gofynion yn ymarferol, ond hefyd yn orfodadwy lle mae diffyg cydymffurfio wedi’i nodi. Barn y Llywodraeth, felly, yw y bydd trefnu bod cofrestru gweithgaredd yn gyfrifoldeb yr unigolyn, yn hytrach na sefydliad, yn debygol o fod yn fwy effeithiol o safbwynt cydymffurfio a gorfodi.

  • Gweithgaredd a gyflawnir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar gyfer gwladwriaeth dramor. Mae gweithgaredd gelyniaethus yn parhau i gael ei gomisiynu yn uniongyrchol gan wladwriaethau tramor trwy eu gweithredwyr a’u hasiantau.Fodd bynnag, gellir ymgymryd â gweithgaredd gelyniaethus o’r fath hefyd ar ran gwladwriaethau tramor gan actorion sy’n ymddangos yn breifat neu’n annibynnol a sy’n destun dylanwad neu reolaeth sylweddol gan wladwriaeth dramor (actorion sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor). Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn effeithiol yn erbyn y ddau amlygiad o weithgaredd gelyniaethus, ac er mwyn osgoi creu bwlch y gellid camfanteisio arno, dylai’r gofyniad i gofrestru gweithgareddau penodol nid yn unig fod yn berthnasol i unigolion sy’n gweithredu’n uniongyrchol dros wladwriaeth dramor, ond dylai hefyd fod yn berthnasol i’r rheini sy’n gweithredu dros y wladwriaeth yn anuniongyrchol trwy actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor. Rydym yn croesawu barn ar sut y dylid diffinio’r telerau hyn.
  • Cyfarwyddyd a roddir gan wladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor. Ystyriaeth allweddol arall yw’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ymgymryd â gweithgaredd ‘dros, neu ar ran, gwladwriaeth dramor’. Barn y Llywodraeth yw na ddylai fod yn ofynnol i unigolyn gofrestru o dan y cynllun dim ond oherwydd bod ganddo gysylltiad â gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor. Yn hytrach, dylai’r berthynas â gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig gwladwriaeth dramor gynnwys elfen o gyfarwyddyd.Er enghraifft, gorchymyn neu gais. Byddem yn croesawu adborth ar y gwahanol fathau o gyfarwyddyd y gellid eu cynnwys yn y gofynion.
  • Gweithgareddau y gellid eu cofrestru o dan y cynllun. Er mwyn cynyddu’r risg i’r rhai sy’n ceisio cymryd rhan mewn ysbïo, ymyrraeth, neu ddwyn ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif, byddai angen i’r cynllun ei gwneud yn ofynnol i gofrestru gweithgareddau sy’n ymwneud â meysydd penodol o fygythiad Gallai’r mathau o weithgaredd yr ydym yn eu hystyried ar hyn o bryd gynnwys lobïo, cyllido ymgyrchu gwleidyddol, gwaith melinau trafod, cyfathrebu gwleidyddol a chysylltiadau cyhoeddus; neu gaffael syniadau, gwybodaeth neu dechnegau lle cânt eu cynhyrchu gan sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg sensitif penodol. Bydd ymgysylltu trwy’r ymgynghoriad yn hanfodol wrth gynorthwyo’r Llywodraeth i brofi a mireinio ei meddwl. Rydym yn bwriadu defnyddio’r broses ymgynghori hon i bennu’r mathau o weithgareddau y dylai’r gofynion eu cynnwys, ac i’r gwrthwyneb na ddylent eu cynnwys, a gweithio ag unigolion, sefydliadau a sectorau yr effeithir arnynt i’w diffinio yn y ffordd fwyaf effeithiol ac ymarferol.Gan fod hyn wedi bod yn destun pryder mewn gwledydd eraill, rydym am fod yn glir o’r cychwyn cyntaf y byddai’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i unigolyn gofrestru os yw’n cael ei gyfarwyddo gan wladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor. Mae’n annhebygol y bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, myfyrwyr tramor, neu fyfyrwyr ar ysgoloriaethau o wledydd eraill.

Ystyriaeth arall yw sut mae’r cynllun yn ymdrin â gweithgarwch gelyniaethus o dramor. Fel man cychwyn, bwriadwn ddylunio’r cynllun i fod yn gymwys ar gyfer gweithgarwch a gafodd ei gynnal o fewn y DU. Fodd bynnag rydym yn ymwybodol o weithgarwch cynyddol y sawl sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch gelyniaethus nad sydd angen bod yn bresennol yn gorfforol yn y DU. Rydym felly yn ystyried p’un a ellid ymestyn gofynion y cynllun i weithgarwch penodol a gynhelir tu allan i’r DU, ond lle bydd effeithiau’r gweithgarwch hwnnw yn digwydd o fewn y DU. Byddem yn croesawu barn ymatebwyr ynglŷn â’r mater hwn.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

24) A ydych chi’n credu y dylai gofynion y cynllun fod yn berthnasol i unigolion, sefydliadau, neu’r ddau? Pa fanteision neu anfanteision ydych chi’n eu rhagweld?

25) Pa actorion ydych chi’n credu y dylid eu cynnwys yn y diffiniad o ‘wladwriaeth dramor’ neu ‘actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor’ at ddibenion gofynion y cynllun?

26) Maniffesto’r Llywodraeth hwn sydd wedi ymrwymo i amddiffyn unplygrwydd ein democratiaeth drwy rwystro ymyrraeth estron mewn etholiadau. Gyda hwn mewn cof, oes yna unrhyw gategorïau eraill o actorion estron fyddech chi’n awgrymu y dylid eu cynnwys o fewn cwmpas y cynllun hwn i gefnogi ymrwymiad y Llywodraeth, ac i frwydro yn erbyn ymyrraeth o dramor mewn gwleidyddiaeth ddomestig a’n prosesau democrataidd?

27) Sut ydych chi’n credu y dylid diffinio’r ‘cyfarwyddyd’, lle mae’n cael ei roi gan y wladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â’r wladwriaeth dramor mewn perthynas â’r gweithgaredd cofrestredig?

28) Yn eich barn chi, pa weithgareddau y dylid eu cofrestru o dan y cynllun a sut ydych chi’n credu y byddai hyn yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r meysydd bygythiad allweddol (ysbïo, ymyrraeth, trosglwyddo ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif)?

29) A ydych chi’n credu y dylai gofynion y cynllun ymestyn i weithgaredd penodol a gynhelir o’r tu allan i’r DU, lle mae effeithiau’r gweithgaredd hwnnw’n digwydd yn y DU? Pa fuddion neu faterion ydych chi’n eu rhagweld ag ymagwedd o’r fath?

Sut y gellid gwneud y rhai yr effeithir arnynt yn ymwybodol o’r gofynion?

Rydym o’r farn y byddai angen uned bwrpasol o fewn adran y llywodraeth i ddarparu cymorth i’r cynllun o ddydd i ddydd. Rydym yn ystyried nifer o ffyrdd i sicrhau bod aelodau’r cyhoedd, sectorau yr effeithir arnynt a rhanddeiliaid rhyngwladol yn ymwybodol o unrhyw ofynion newydd y gellid eu cyflwyno trwy gynllun i’r DU. Gallai llawer o’r gweithgareddau hyn fod yn gyfrifoldeb yr uned bwrpasol, gan gynnwys trwy gyfathrebiadau wedi’u targedu, creu gwefan bwrpasol i’r cynllun a chyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ymholiadau a gohebiaeth.

Bydd y Llywodraeth yn chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio mecanweithiau presennol i gyfathrebu gofynion y cynllun a chefnogi ei orfodi.Er enghraifft, defnyddio’r system fewnfudo i hysbysu ymwelwyr â’r DU o dramor o’r gofynion cofrestru neu drwy integreiddio’r gofynion cofrestru mewn offer a systemau eraill.

Rydym hefyd yn ystyried cynnwys pŵer hysbysiad[footnote 9], y gellir ei ddefnyddio gan y Llywodraeth, os oes angen, i egluro i unigolyn neu endyd eu bod nhw (naill yn llwyr neu’n rhannol) yn bodloni’r diffiniad o wladwriaeth dramor neu actor yn gweithio dros wladwriaeth dramor er dibenion y cynllun. Gallai hyn gefnogi’r cynllun mewn dau ffordd: yn gyntaf, byddai’n helpu i egluro tu hwnt i amheuaeth yr ystyrir bod unigolyn neu endyd yn gweithio i wladwriaeth dramor neu’n actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor, yn sicrhau bod yr unigolion sy’n gweithio iddyn nhw yn hollol ymwybodol o’u goblygiadau i gofrestru eu gweithgarwch; yn ail, byddai’n ei gnwued hi’n it fwy anodd i’r sawl sy’n ceisio cuddio neu gymylu eu cysylltiadau i wladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth i wneud hynny. Anelwn i ddefnyddio’r broses ymgynghori hyn i benderfynu sut gallai’r fath bŵer weithio’n ymarferol ac adnabod unrhyw fesurau diogelu sydd eu hangen (e.e. proses gwneud penderfyniadau, adolygiadau ac apeliadau clir).

Cwestiynau i ymgyngoreion:

30) Pa sianeli sydd ar gael i’ch sector i gyfathrebu unrhyw ofynion cofrestru i unigolion? P’un yw’r ffordd orau o ddefnyddio’r rhain?

31) A ydych chi’n credu y byddai o fudd i ddeddfu ar gyfer pŵer hysbysu y gellid ei ddefnyddio i egluro statws unigolyn neu endid fel gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor? Pa oblygiadau ydych chi’n credu y byddent yno i’r unigolyn neu’r endid hysbysedig?

Sut fyddai unigolyn yn cofrestru ei weithgaredd â’r cynllun?

Mae’n fater o ofal arbennig i ni ein bod yn sicrhau fod y broses o gofrestru yn un syml, hawdd ei drin a chyflym. I nifer o bobl, y modd mwyaf syml o gofrestu fyddai drwy borthol neu wasanaeth ar-lein un-pwrpas. Croesawn adborth ar p’un a ddylai ffyrdd amgen o gofrestru fod ar gael, gan gynnwys awgrymiadau ynglŷn â lle gellir integreiddio’r holl ofynion cofrestru gyda offer eraill a phrosesau’r Llywodraeth sy’n gofyn am wybodaeth tebyg.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

32) A ydych chi’n ystyried bod angen darparu modd arall ar gyfer cofrestru yn ychwanegol at gofrestru ar-lein (e.e. ffurflenni y gellir eu hargraffu y gellir eu postio)?

33) A oes mecanweithiau llywodraethol presennol y mae eich sector yn dibynnu arnynt, y credwch y gallai’r cynllun integreiddio eu gofynion â hwy? Beth yw’r mecanweithiau hyn?

Pryd fyddai angen i unigolyn gofrestru ei weithgaredd a pha wybodaeth y byddai’n ofynnol iddo ei darparu?

Mae gan y cwestiwn pryd y dylid ei gwneud yn ofynnol i unigolyn gofrestru ei weithgaredd oblygiadau ymarferol yn ogystal â goblygiadau ar gyfer defnyddioldeb y cynllun. Un o fuddion posibl y cynllun yw galluogi tarfu ar weithgaredd gelyniaethus cyn i’r gweithgaredd arwain at niwed i’r DU. Felly rydym yn ystyried a ddylai’r gofyniad i gofrestru fod yn berthnasol cyn i’r gweithgaredd a wneir ar gyfer gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor ddechrau. Gallai hyn fod yn arbennig o bwysig lle mae’r cofrestriad yn ymwneud â gweithgaredd sy’n digwydd ar fyr rybudd, yn fyr iawn o ran hyd neu’n cynnwys unigolyn sy’n teithio i’r DU am gyfnod cyfyngedig iawn o amser. Byddem yn croesawu adborth gan ymatebwyr ar oblygiadau ymarferol gweithredu’r gofynion yn y fath fodd. Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i ystyried amserlenni ar gyfer darparu gwybodaeth a sut y byddai hyn yn effeithio ar y rhai sydd eisoes wedi dechrau gweithgaredd cofrestradwy cyn i ofynion y cynllun ddod i rym - fel y nodwyd uchod, nid bwriad y cynllun yw gweithredu fel rhwystr i, neu atal fel arall, y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfreithlon.

Fel rhan o’r broses gofrestru, byddem yn disgwyl i gynllun i’r DU alw am gyfuniad o fanylion personol (e.e. enwau, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif pasbort/modd adnabod cenedlaethol a chyflogwr) a manylion allweddol y gweithgaredd sy’n cael ei gofrestru (e.e. pwrpas, hyd a chysylltiadau â gwladwriaeth dramor neu bennaeth). Dim ond y fath ddata sy’n angenrheidiol i wahaniaethu un unigolyn cofrestredig oddi wrth un arall fyddai’n cael ei wneud yn gyhoeddus (i gynnwys enw a chyflogwr o leiaf).

Bydd yn bwysig i’r gofyniad i gofrestru fod mor glir a syml â phosibl, gan y bydd hyn yn rhan annatod o’i effeithiolrwydd a chyflenwi amcanion y cynllun. Felly, byddem yn croesawu adborth ar sut y gellid cyflawni hyn a pha heriau y gallai hyn eu creu. Byddem yn croesawu adborth yn benodol ar y wybodaeth y gallai’r cynllun alw amdani gan yr unigolyn cofrestredig ac unrhyw risgiau neu heriau wrth ddarparu hyn cyn i’r gweithgaredd ddigwydd.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

34) Yn eich barn chi, beth fyddai’r goblygiadau i chi, eich cyflogwr, neu’ch sector o ofyniad i gofrestru gweithgaredd (pan ymgymerir ag ef ar gyfer gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor) cyn iddo ddechrau?

(Negyddol iawn - Negyddol - Dim effaith - Cadarnhaol - Cadarnhaol iawn)

Sylwadau:

A fyddai gofyniad i gadw gwybodaeth gofrestru’n gyfredol?

Bydd effeithiolrwydd parhaus y cynllun i gyflawni ei amcanion yn dibynnu ar wybodaeth gywir a chyfredol. Felly, os yw person a gofrestrodd yn dod yn ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn â’i weithgarwch presennol neu berthynas gyda gwladwriaeth dramor neu actor mewn cyswllt â gwladwriaeth wedi newid, argymhellir y dylent fod yn gyfrifol am ddiweddaru’r gofrestr yn unol â hynny. Ar gyfer gweithgarwch cyson, neu weithgarwch sy’n digwydd dros gyfnod sylweddol, rydym yn ystyried p’un a fyddai angen cael datganiadau atodol cyfnodol. Byddem yn croesawu adborth ar yr enghreifftiau ac opsiynau hyn er mwyn ein helpu ni i benderfynu ar yr ymagwedd fwyaf syml ac effeithlon.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

35) Beth yn eich barn chi yw’r ymagwedd fwyaf syml ac effeithlon o sicrhau bod gwybodaeth gofrestredig yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfoes?

Beth allai’r canlyniadau fod o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfio â gofynion y cynllun?

Er mwyn i weithgaredd fod yn gofrestradwy o dan y cynllun, rydym yn ystyried y dylai alw am fath o gyfarwyddyd neu gais gan wladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor. Felly mae’r Llywodraeth yn rhagweld na fyddai’r mwyafrif helaeth o ymgysylltu â gwladwriaeth dramor neu actorion sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion gofrestru o dan y cynllun.Fodd bynnag, er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y cynllun, ac yn unol â chynlluniau tebyg yn yr UD ac Awstralia, rydym yn cynnig bod unigolyn yn atebol i fod wedi cyflawni trosedd os nad yw wedi cydymffurfio â rhwymedigaeth yn unol â gofynion y cynllun.

Mae’r Llywodraeth o’r farn y byddai hyn yn cynyddu’r risg i unigolion a fyddai’n ceisio osgoi eu rhwymedigaethau cofrestru. Gallai troseddau gynnwys unigolyn sy’n ymgymryd â gweithgaredd cofrestradwy heb gofrestru’r gweithgaredd hwnnw â’r cynllun, neu unigolyn sy’n darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol wrth gofrestru.

Ystyriwn felly, fod yn rhaid i’r cosbau arfaethedig adlewyrchu goblygiadau posib y gweithgarwch a gynhelir dros ac ar ran gwladwriaethau tramor ac sydd yn elyniaethus o ran natur. O ystyried bod y gosb ariannol yn unig yn annhebygol o gynnig yr ataliad angenrheidiol i’r sawl sy’n ceisio cymryd rhan mewn gweithgarwch gelyniaethus, rydym yn argymell y dylai gwrthod cydymffurfio â’r cynllun ddenu dedfryd o garchar. Rydym hefyd o’r farn y gallai fod rhinwedd yn y defnydd o gosb ariannol y gellid ei ddefnyddio mewn cyfuniad â neu yn lle dedfryd o garchar pan yw’n briodol. Rydym hefyd yn cydnabod y gellid fod yna achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a ddaw o ganlyniad i gamgymeriad gwirioneddol, a bwriadwn i’’r troseddau gael eu dylunio i weddu i amgylchiadau o’r fath. Byddem yn croesawu eich adborth ynglŷn â’r ymagwedd arfaethedig a’r ystod posib o gosbau sydd ar gael.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

36) A ydych chi’n ystyried y dylid llunio troseddau a chosbau am beidio â chydymffurfio i ddarparu ar gyfer ystod o amgylchiadau, gan gynnwys diffyg cydymffurfio bwriadol ac anfwriadol?

37) Beth ydych chi’n credu byddai goblygiadau’r cynllun hwn ar gyfer eich sector? Ble ydych chi’n ei weld yn eich helpu ac yn creu rhwystrau?

(Negyddol iawn - Negyddol - Dim effaith - Cadarnhaol - Cadarnhaol iawn)

Sylwadau:

Crynodeb o’r cwestiynau ar gyfer ymgyngoreion ar FIRS

23. Yn eich barn chi, beth fyddai’r goblygiadau i chi, eich cyflogwr, neu’ch sector o ran sicrhau bod gwybodaeth benodol am unigolion cofrestredig, eu gweithgareddau cofrestredig a’u cysylltiadau cofrestredig â gwladwriaeth dramor ar gael i’r cyhoedd?

24. Ydych chi’n credu y dylai gofynion y cynllun fod yn berthnasol i unigolion, sefydliadau, neu’r ddau? Pa fanteision neu anfanteision ydych chi’n eu rhagweld?

25. Pa actorion ydych chi’n credu y dylid eu cynnwys yn y diffiniad o ‘wladwriaeth dramor’ neu ‘actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor’ at ddibenion gofynion y cynllun?

26. Maniffesto’r Llywodraeth hwn sydd wedi ymrwymo i amddiffyn unplygrwydd ein democratiaeth drwy rwystro ymyrraeth estron mewn etholiadau. Gyda hwn mewn cof, oes yna unrhyw gategorïau eraill o actorion estron fyddech chi’n awgrymu y dylid eu cynnwys o fewn cwmpas y cynllun hwn i gefnogi ymrwymiad y Llywodraeth, ac i frwydro yn erbyn ymyrraeth o dramor mewn gwleidyddiaeth ddomestig a’n prosesau democrataidd?

27. Sut ydych chi’n credu y dylid diffinio’r ‘cyfarwyddyd’, lle mae’n cael ei roi gan y wladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â’r wladwriaeth dramor mewn perthynas â’r gweithgaredd cofrestradwy?

28. Yn eich barn chi, pa weithgareddau a ddylai fod yn gofrestradwy o dan y cynllun a sut ydych chi’n credu y byddai hyn yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r meysydd bygythiad allweddol (ysbïo, ymyrraeth, trosglwyddo ymchwil mewn meysydd pwnc sensitif)?

29. Ydych chi’n credu y dylai gofynion y cynllun ymestyn i weithgaredd penodol a gynhelir o’r tu allan i’r DU, lle mae effeithiau’r gweithgaredd hwnnw’n digwydd yn y DU? Pa fuddion neu faterion ydych chi’n eu rhagweld ag ymagwedd o’r fath?

30. Pa sianeli sydd ar gael i’ch sector i gyfathrebu unrhyw ofynion cofrestru i unigolion?Beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio’r rhain?

31. Ydych chi’n credu y byddai budd mewn deddfu ar gyfer pŵer hysbysu y gellid ei ddefnyddio i egluro statws unigolyn neu endid fel gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor? Pa oblygiadau ydych chi’n credu y byddent yn wynebu’r unigolyn neu’r endid hysbysedig?

32. Ydych chi’n ystyried bod angen darparu dull arall ar gyfer cofrestru yn ychwanegol at gofrestru ar-lein (e.e. ffurflenni y gellir eu hargraffu y gellir eu postio)?

33. A oes mecanweithiau llywodraethol presennol y mae eich sector yn dibynnu arnynt, y credwch y gallai’r cynllun integreiddio eu gofynion â hwy? Beth yw’r mecanweithiau hyn?

34. Yn eich barn chi, beth fyddai’r goblygiadau i chi, eich cyflogwr, neu’ch sector o ofyniad i gofrestru gweithgaredd (pan ymgymerir ag ef ar gyfer gwladwriaeth dramor neu actor sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth dramor) cyn iddo ddechrau?

35. Beth yn eich barn chi yw’r ymagwedd fwyaf syml ac effeithlon at sicrhau bod gwybodaeth gofrestredig yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfoes?

36. Ydych chi’n ystyried y dylid llunio troseddau a chosbau am beidio â chydymffurfio i ddarparu ar gyfer ystod o amgylchiadau, gan gynnwys peidio â chydymffurfio bwriadol ac anfwriadol?

37. Beth ydych chi’n credu byddai goblygiadau’r cynllun hwn ar gyfer eich sector? Ble ydych chi’n ei weld yn eich helpu ac yn creu rhwystrau?

Cynnig yr Ymgynghoriad - Gorchmynion Sifil

Er mai’r dull a ffefrir gan y Llywodraeth bob amser fydd ceisio erlyniad troseddol pan ganfyddir bod unigolyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n drosedd, cydnabyddir y gallai fod amgylchiadau lle nad yw’n bosibl cyflwyno tystiolaeth i gefnogi erlyniad, neu gymryd camau mewnfudo yn erbyn unigolyn lle nad yw’n wladolyn y DU. Er enghraifft, gall fod achos cudd-wybodaeth cryf i awgrymu bod unigolyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd gelyniaethus, ond â thystiolaeth gyfyngedig y gellid ei defnyddio’n agored i gefnogi erlyniad troseddol.

Yn absenoldeb erlyniad, gallai’r unigolion hyn barhau i weithredu mewn ffyrdd sy’n achosi niwed sylweddol i’r DU a’i buddiannau. Er y gall, ac y byddai, yr heddlu yn parhau i ymchwilio i unigolion â’r bwriad o adeiladu sylfaen dystiolaeth ar gyfer erlyn, o dan yr amgylchiadau hyn gallai cyflwyno mesurau ataliol a chyfyngol, trwy Orchymyn Sifil, fod yn offeryn defnyddiol i liniaru’r risgiau a berir gan y rhai a allai fod yn rhan o weithgaredd o’r fath. Byddai Gorchymyn Sifil yn ategu’r mesurau eraill sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r ddeddfwriaeth, gan ddarparu cyfres lawn o fesurau i’w defnyddio gan bartneriaid gweithredol.

Felly rydym yn ystyried creu Gorchymyn Sifil newydd i liniaru’r risg a berir gan unigolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gelyniaethus. Er enghraifft, lle mae unigolyn yn cymryd rhan mewn ysbïo, difrod, niweidiau materol, ymyrraeth neu weithgaredd sy’n galluogi unrhyw un o’r rhain. Gallai’r gorchymyn gynnwys ystod o fesurau cyfyngol ac ataliol, gan gynnwys mesurau i atal unigolyn rhag cymdeithasu â phobl benodol neu rhag ymweld â lleoliadau sensitif penodedig. Rydym yn ystyried y gallai’r cyfyngiadau hyn gael eu defnyddio i’w gwneud yn anoddach i unigolyn gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath, yn ogystal â darparu ataliad sylweddol yn erbyn y rhai a allai fod yn agored i niwed ac yn agored i orfodaeth a dylanwad gan wladwriaeth dramor.

Er bod y Llywodraeth yn dal i ystyried pa olwg fyddai ar model o’r fath, gan gynnwys y prawf am orfodi’r gofrchymyn, ein barn gychwynnol yw bydd ai natur ataliol y mesurau yn benthyg ei hunain yn dda i fod yn orchymyn a allai gael ei orfodi gan yr adran weithredol yn hytrach na’r llysoedd.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

38) A ydych chi’n credu bod mesurau ataliol a chyfyngol yn ffordd ddymunol o fynd i’r afael â’r bygythiad a achosir gan y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gelyniaethus lle nad yw erlyn yn hyfyw?

Cwestiynau ychwanegol i ymgyngoreion

O ystyried natur esblygol y bygythiad a’r trafodaethau parhaus yn y Senedd a thu hwnt, ynglŷn â’r bygythiad ac ymateb y Llywodraeth iddo, byddem yn croesawu mewnbwn gan yr ymgyngoreion ynglŷn â ph’un a oes yna unrhyw fesurau ychwanegol y gellid eu cyflwyno neu os oes yna unrhyw ddeddfwriaeth sydd yn bodoli eisoes y gellir ei ddiwygio neu ddiweddaru i gyfeirio at y bygythiad.

Cwestiynau i ymgyngoreion:

39) Yn ychwanegol i’r argymhellion polisi a amlinellir uchod, oes yna unrhyw arfau neu bwerau ychwanegol neu ddiwygiedig y gellid eu defnyddio er mwyn cyfeirio at y bygythiadau a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn, fel diwygio teyrnfradwriaeth?

Manylion cyswllt a sut i ymateb

Ymatebwch gan ddefnyddio’r system ar-lein.

Cyflwynwch eich ymateb erbyn Dydd Iau, Gorffennaf 22, 2021 am 17:00.

Os na allwch ddefnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod yn defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon trwy e-bost neu ei phostio at:

Ymgynghoriad Bygythiadau Gwladwriaethol,
Y Swyddfa ar gyfer Diogelwch a Gwrthderfysgaeth,
Y Swyddfa Gartref
5th Floor, Peel Building
2 Marsham Street
LLUNDAIN SW1P 4DF

E-bost: CST.Consultation@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gŵynion neu sylwadau ynghylch y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Copïau ychwanegol

Gellir cael copïau papur pellach o’r ymgynghoriad hwn o’r cyfeiriad hwn ac mae hefyd ar gael ar-lein yn: Legislation to counter state threats.

Gellir gofyn am fersiynau fformat amgen o’r cyhoeddiad hwn gan: CST.Consultation@homeoffice.gov.uk

Cyhoeddi’r ymateb

Cyhoeddir papur yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ochr yn ochr â chyflwyno deddfwriaeth i’r Senedd. Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno cyn gynted ag y bydd amser Seneddol yn caniatáu ar ôl ystyried ymatebion yr ymgynghoriad.Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein yn: Legislation to counter state threats.

Grwpiau cynrychiadol

Gofynnir i grwpiau cynrychiolwyr roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan ydynt yn ymateb.

Cyfrinachedd

Gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf y rhain yw Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Deddf Diogelu Data 1998 (DPA) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004). Os ydych am i’r wybodaeth rydych yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y FOIA, fod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n delio, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau hyder. O gofio hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro i ni pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth rydych wedi’i darparu’n gyfrinachol. Os derbyniwn gais am ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd ym mhob amgylchiad.

Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG ynddo’i hun yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref. Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu’ch data personol yn unol â’r DPA ac yn y mwyafrif o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon.

Effaith Cynigion

Asesiad Effaith

Mae’r Swyddfa Gartref yn cydnabod y gallai’r cynigion hyn, ac yn benodol creu’r Cynllun FIRS, effeithio ar fusnes, elusennau a chyrff gwirfoddol. Disgwylir i effaith diwygio Deddfau Cyfrinachau Swyddogol a thramgwyddau troseddol newydd a diwygiedig ar y sector cyhoeddus, megis yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, fod yn gymharol fach. Bydd costau’n gysylltiedig â chreu a gweithredu’r cynllun FIRS. Bydd y rhain yn cael eu costio a’u nodi’n fanylach wrth i gwmpas a natur y cynllun gael eu cwblhau.Isod, amlinellir rhai o’r gwahanol gostau a buddion yr ydym yn disgwyl y byddant yn gysylltiedig â’r cynigion a amlinellir yn y ddogfen hon.

Grŵp rhanddeiliaid Buddion posibl
Busnesau / sefydliadau Llai o risg i fusnesau/sefydliadau o weithgareddau a dylanwad gelyniaethus
Y Sector Cyhoeddus Budd o osgoi costau posibl gweithgareddau gelyniaethus, e.e. y rhai a dynnir gan y gwasanaethau brys pe byddai ymosodiad
Cymdeithas - Budd o atal gweithgareddau gelyniaethus, h.y. osgoi costau economaidd a chymdeithasol ymosodiad posib
- Mwy o dryloywder mewn gweithgareddau gwleidyddol a busnes
- Budd o amharu ar weithgareddau gelyniaethus, e.e. nodi a chosbi troseddwyr
- Canlyniadau anfwriadol posibl o ganlyniad i’r cynigion
Grŵp rhanddeiliaid Costau posibl
Busnesau / sefydliadau - Costau ymgyfarwyddo â newidiadau i ddeddfwriaeth
- Posibilrwydd o golli gweithgareddau busnes oherwydd y Cynllun FIR
- Costau gweinyddol cadw cofnodion
Y Sector Cyhoeddus - Costau gorfodi: yn gysylltiedig â mwy o droseddau y gellir eu herlyn trwy ddiwygio’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol
- Fetio Cyfreithiol - Byddai’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau’r Bar yn gyfrifol am drefnu cliriad diogelwch priodol ar gyfer cyfreithwyr sy’n ymwneud ag achosion cymwys
- Costau gweithredu a rhedeg y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIR)
- Costau gorfodi
- Costau cyfiawnder troseddol sy’n gysylltiedig â pheidio â chydymffurfio
Cymdeithas / unigolion Costau cofrestru i unigolion, gan gynnwys ffi gofrestru (os yw’n berthnasol) a’r amser a gymerir i gofrestru a darparu gwybodaeth ategol

Cyhoeddir asesiad effaith llawn ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth wrth iddi gael ei chyflwyno i’r Senedd.

Wrth ymateb i’r cwestiynau yn y ddogfen hon byddem yn croesawu unrhyw adborth ar effeithiau cymdeithasol ac economaidd y cynigion er mwyn llywio ein dadansoddiad.

Datganiad Cydraddoldebau

Mae adran 149 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion ac Adrannau, wrth arfer eu swyddogaethau, i roi ‘sylw dyledus’ i’r angen i ddileu ymddygiad sy’n anghyfreithlon o dan Ddeddf 2010, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng gwahanol grwpiau a meithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol grwpiau. Bydd y Swyddfa Gartref yn cynnal asesiad llawn o effaith cydraddoldeb y cynigion wrth iddi ddatblygu’r ddeddfwriaeth yn fwy manwl.

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar effaith y cynigion hyn er mwyn llywio ein dadansoddiad.

Datganoli

Mae’r cynigion yn y ddogfen hon yn ymwneud â diogelwch gwladol sy’n fater a gedwir yn ôl. Serch hynny, mae’r Llywodraeth yn ymwybodol bod rhai darpariaethau arfaethedig ar gyfer y ddeddfwriaeth hon yn cyffwrdd â nifer o feysydd cymhwysedd datganoledig. Er enghraifft, byddai darpariaeth i greu ffactor gwaethygol wrth ddedfrydu ar gyfer gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau yn effeithio ar feysydd datganoledig o ran troseddau a dedfrydu.Bydd y Llywodraeth yn gweithio’n agos gyda’r Gweinyddiaethau Datganoledig wrth iddi baratoi’r ddeddfwriaeth.

Fel a nodwyd, wrth ddatblygu’r cynllun FIR hwn, rydym yn cydnabod fod Cytundeb Belffast (Gwener y Groglith) ac amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon yn galw am ofal a sylw arbennig. Mae’r Llywodraeth yn glir nad yw’n fwriad gan y ddeddfwriaeth i ymyrryd ag egwyddorion sylfaenol ac ysbryd y Cytundeb. Byddem yn croesawu mewnbwn yn enwedig, fel rhan o’r ymgynghoriad, ynglŷn â sut y gellir datblygu’r cynllun FIR, neu argymhellion deddfwriaethol ehangach yn unol â’r bwriad hwnnw.

Egwyddorion yr ymgynghoriad

Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth wedi’u nodi yn egwyddorion yr ymgynghoriad.

Atodiad A - Cyd-destun deddfwriaethol

Deddfwriaeth Bygythiadau Gwladwriaethol

Atodlen 3 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019 - Mae’r ddeddfwriaeth hon, a gyflwynwyd yn dilyn yr ymosodiad yng Nghaersallog, yn darparu pŵer i stopio, cwestiynu, chwilio a chadw unigolion mewn porthladd yn y DU neu ardal Ffin Gogledd Iwerddon er mwyn penderfynu a ydyn nhw, neu a fuon nhw, yn cymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n bygwth diogelwch gwladol y DU.

’'’Deddfwriaeth berthnasol arall

Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 - Mae hon yn darparu ystod o offer a phwerau i gael cyfathrebiadau a data ynghylch cyfathrebu. Mae’r offer ymchwilio yn y ddeddfwriaeth hon yn chwarae rhan allweddol wrth ymchwilio i weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau.

Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a Bil Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol (Ymddygiad Troseddol) - mae RIPA yn cynnwys pwerau pellach y gellir eu defnyddio i ymchwilio i ac aflonyddu ar weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau gan gynnwys defnyddio Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol. Bydd y Bil CHIS (CC) yn diwygio RIPA i ddarparu pŵer statudol i’r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a nifer gyfyngedig o awdurdodau cyhoeddus eraill barhau i awdurdodi Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol (CHIS) i gymryd rhan mewn ymddygiad troseddol lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur i wneud hynny.

Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990 - Mae hon yn creu troseddau am fynediad diawdurdod i ddata sy’n cael eu storio ar gyfrifiadur; cyrchu cyfrifiadur â’r bwriad o gyflawni gweithgaredd anghyfreithlon pellach, megis dwyn data i’w defnyddio mewn twyll neu flacmel; neu gyflawni gweithredoedd diawdurdod â’r bwriad o amharu ar, neu yn fyrbwyll o ran amharu ar weithrediad cyfrifiadur neu ddata a gedwir arno (gan gynnwys gosod feirws neu faleiswedd arall). Mae’r troseddau hyn yn debygol o fod yn berthnasol i ystod o weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau.

Bil Gwrthderfysgaeth a Dedfrydu- Ymhlith pethau eraill bydd y Bil hwn yn galluogi’r Llysoedd i ystyried a yw unrhyw drosedd ddifrifol yn gysylltiedig â therfysgaeth, yn hytrach na chyfyngu’r Llysoedd i restr ddiffiniedig. Pan yw’r Llysoedd yn nodi cysylltiad terfysgaeth ar adeg dedfrydu, er enghraifft mewn trosedd sy’n ymwneud ag arfau tanio, yna gall hyn arwain at ddedfrydau llymach. Mae’r ymagwedd newydd hon yn debyg i’r un a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn ar gyfer ffactor gwaethygol newydd wrth ddedfrydu.

Bil Diogelwch a Buddsoddiadau Cenedlaethol - Bydd y Bil hwn, a gyflwynwyd i’r Senedd ar 11 Tachwedd, yn sefydlu cyfundrefn statudol newydd i’r Llywodraeth graffu ar, ac ymyrraeth â, buddsoddiadau at ddibenion amddiffyn diogelwch cenedlaethol. Fel economi agored, rydym yn croesawu masnach a buddsoddiadau gan wledydd tramor lle mae’n cefnogi twf a swyddi yn y DU. Ni fydd y Llywodraeth yn derbyn buddsoddiadau sy’n peryglu ein diogelwch gwladol ac mae’r Bil yn darparu rhagweladwyedd a thryloywder i fusnesau trwy nodi llinellau amser clir ar gyfer pob cam o’r broses sgrinio i’r Llywodraeth ystyried hysbysiadau ac asesu trafodiadau posibl o fudd diogelwch gwladol.

Deddfwriaeth uniondeb etholiadol - Ymrwymodd y Llywodraeth, yn ei Maniffesto, i ‘amddiffyn uniondeb ein democratiaeth, trwy gyflwyno modd adnabod i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, atal cynaeafu pleidleisiau post a mesurau i atal unrhyw ymyrraeth gan wledydd tramor mewn etholiadau’. Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o gryfhau uniondeb ein system etholiadol a rhoi hyder i’r cyhoedd fod ein hetholiadau yn fodern, yn deg ac yn ddiogel. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar fesurau uniondeb etholiadol pan fydd amser Seneddol yn caniatáu.

Gwaith perthnasol arall

Amddiffyn Democratiaeth - Mae Amddiffyn Democratiaeth yn rhaglen draws Lywodraethol i gynnal uniondeb ein prosesau democratiaeth ac etholiadol. Ei amcanion strategol yw:

  • gwarchod a diogelu prosesau, systemau a sefydliadau democrataidd y DU rhag ymyrraeth;
  • cryfhau uniondeb etholiadau’r DU;
  • annog parch at gyfranogiad democrataidd agored, teg a diogel; a
  • hyrwyddo trafodaeth agored sy’n seiliedig ar ffeithiau, gan gynnwys ar-lein.

Mae’r Llywodraeth yn bwrw ymlaen â rhaglen waith gydlynol i ddiogelu uniondeb a diogelwch ein prosesau democrataidd. Rydym yn cryfhau ein fframwaith deddfwriaethol, yn ysgogi polisi ar draws y Llywodraeth, yn gwella galluoedd ac yn ymgysylltu â phartneriaid, gan gynnwys y Gweinyddiaethau Datganoledig mewn perthynas â’u cyfrifoldebau am etholiadau deddfwrfeydd ddatganoledig ac awdurdodau lleol, i ehangu ein hymdrechion a sicrhau’r effaith fwyaf bosibl i’n gwaith.

Twyllwybodaeth - Barn y Llywodraeth yw, er mwyn lleihau effaith bosibl twyllwybodaeth, rhaid i ni ystyried nid yn unig yr actorion dan sylw, ond yr amgylchedd sy’n eu galluogi i ledaenu ac ymhelaethu ar anwireddau, a’r gynulleidfa y maent yn ei chyrraedd. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael â mater twyllwybodaeth.

Mewn ymateb i gylchrediad eang twyllwybodaeth a chamwybodaeth yn ymwneud â Covid-19, safodd yr Uned Gwrth-dwyllwybodaeth dan arweiniad DCMS ar 5 Mawrth 2020. Mae’r Uned yn dwyn ynghyd alluoedd monitro a dadansoddi traws Lywodraethol i ddarparu darlun cynhwysfawr o raddau, cwmpas a chyrhaeddiad twyllwybodaeth a chamwybodaeth sy’n gysylltiedig â Covid-19, ac i weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael ag ef. Yn flaenorol, roedd yr Uned wedi’i defnyddio yn Etholiad Senedd Ewrop a’r Etholiad Cyffredinol yn 2019.

Ym mis Rhagfyr 2020 cyhoeddodd y Llywodraeth Ymateb Llawn y Llywodraeth i’r Ymgynghoriad Niweidiau Ar-lein y Papur Gwy sy’n nodi’r disgwyliadau newydd ar gwmnïau i gadw eu defnyddwyr yn ddiogel ar-lein, a chadarnhaodd mai Ofcom yw’r rheolydd ar gyfer Niweidiau Ar-lein. Bydd gan y deddfau newydd fesurau cadarn a chymesur i ddelio â thwyllwybodaeth ar-lein a allai achosi niwed corfforol neu seicolegol sylweddol i unigolyn, megisl cynnwys gwrth-frechu ynghylch COVID-19.

Bydd y ddeddfwriaeth sydd ar ddod yn rhoi ystod o offer i Ofcom i fynd i’r afael â thwyllwybodaeth gan gynnwys: gofynion adrodd tryloywder; defnyddio llythrennedd cyfryngau i adeiladu gwytnwch cynulleidfaoedd i dwyllwybodaeth; cyflwyno ymchwil gefnogol ar dwyllwybodaeth; a sefydlu gweithgor arbenigol i adeiladu consensws a gwybodaeth dechnegol ar sut i fynd i’r afael â thwyllwybodaeth. Bydd y ddeddfwriaeth yn barod yn ddiweddarach eleni.

Y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) - mae ATAS yn berthnasol i bob myfyriwr rhyngwladol (ar wahân i genhedloedd eithriedig) sy’n destun rheolaeth fewnfudo yn y DU ac sy’n bwriadu astudio ar lefel ôl-raddedig mewn pynciau sensitif penodol. Y pynciau yw’r rhai lle y gellid defnyddio gwybodaeth myfyrwyr mewn rhaglenni i ddatblygu Technoleg Filwrol Gonfensiynol Uwch (ACMT), arfau distryw mawr (WMDs) neu eu dull o gyflenwi. Rhaid i’r myfyrwyr hyn wneud cais am dystysgrif Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) cyn y gallant astudio yn y DU. Caiff ATAS ei ehangu ar Fai 21 i gynnwys unigolion (heblaw am genhedloedd sydd wedi eu heithrio) sy’n cynnal ymchwil i fewn i’r un ardaloedd amlder sensitif hyn.

Rheolaethau allforio - Mae allforio nwyddau a thechnoleg a reolir yn cael ei reoleiddio trwy system o drwyddedu allforio ac mae’n cynnwys eitemau milwrol, eitemau defnydd deuol (eitemau â defnydd sifil a milwrol), arfau tanio, eitemau y gellir eu defnyddio ar gyfer artaith neu’r gosb eithaf a nwyddau sy’n destun sancsiynau masnach.

Atodiad B - Ymateb y Llywodraeth i argymhellion Comisiwn y Gyfraith

Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-39

Argymhelliad Comisiwn y Gyfraith Ymateb y Llywodraeth
Argymhelliad 1 - Dylai statud newydd - sy’n cynnwys iaith fodern a darpariaethau wedi’u diweddaru -ddisodli Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 - 39. Mae’r Llywodraeth yn cytuno bod angen statud newydd ag iaith fodern a darpariaethau diwygiedig i fynd i’r afael â bygythiadau cyfredol ac yn y dyfodol a achosir gan ysbïo a gweithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau tramor. Felly mae’r Llywodraeth yn bwriadu diddymu Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-39, â’r bwriad o ddiwygio a chryfhau’r darpariaethau presennol.
Argymhelliad 2 - Mewn unrhyw statud newydd i ddisodli Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911, dylid disodli’r cysyniad o “elyn” yn Adran 1 â’r cysyniad o “grym tramor”. Dylid defnyddio diffiniad Canada o “grym tramor”, gan gynnwys cyfeiriad at grwpiau ac endidau terfysgol a gyfarwyddir gan lywodraeth dramor, fel man cychwyn ar gyfer drafftio’r elfen honno o ddarpariaeth newydd. Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r argymhelliad y dylid diweddaru’r term “gelyn”. Mae’n hen ffasiwn, nid yw’n adlewyrchu’r bygythiad a berir gan actorion nad ydynt yn rhai Gwladwriaeth, ac mae’n peryglu niweidio cysylltiadau dwyochrog wrth gysylltu gwlad â’r term “gelyn” fel rhan o erlyniad troseddol.

Rydym yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cipio gweithgareddau gelyniaethus gan ystod eang o actorion, megis endidau sydd o dan ddylanwad llywodraeth dramor, neu’n gweithredu ar ei rhan, ond nad yw wedi’i chyfarwyddo a’i rheoli gan y llywodraeth honno.

Bydd angen ystyried ymhellach i sicrhau bod diffiniad yn cael ei ddewis i gipio bygythiadau o’r fath yn benodol.
Argymhelliad 3 - Mewn unrhyw statud newydd i ddisodli Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911, dylid cadw’r term “diogelwch a buddiannau’r wladwriaeth”. Rydym yn croesawu’r argymhelliad y dylid cadw’r term “diogelwch neu fuddiannau’r wladwriaeth”. Profiad Llywodraeth Ei Mawrhydi a llywodraethau Gwladwriaethau cynghreiriol yw bod ysbïo yn aml yn cael ei dargedu at, ac yn gallu gwneud, difrod sylweddol i ystod eang o fuddiannau cenedlaethol.
Argymhelliad 4 - Dylai unigolyn fod yn atebol yn droseddol am drosedd ysbïo os oes ganddo ef neu hi bwrpas y mae ef neu hi’n gwybod, neu os oes ganddo ef neu hi sail resymol dros gredu sy’n niweidiol i ddiogelwch a buddiannau’r wladwriaeth. Rydym yn croesawu’r argymhelliad y dylid diweddaru troseddau ysbïo, er mwyn darparu mesurau diogelwch pwysig i atal erlyn yn llwyddiannus y rhai efallai nad oes ganddynt reswm i gredu bod eu hymddygiad yn niweidiol (er enghraifft, lle cânt eu camarwain ynghylch natur eu gweithredoedd neu darged), wrth ganiatáu trosedd ddigon cadarn i ddelio â’r rhai a weithredodd yn fwriadol neu lle y dylent, yn yr holl amgylchiadau, fod wedi gwybod yn rhesymol neu amau y byddai eu gweithgareddau’n niweidiol.
Argymhelliad 5 - Mewn unrhyw statud newydd i ddisodli Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911, dylid parhau i benderfynu’n wrthrychol ar y gofyniad bod ymddygiad y diffynnydd yn gallu bod o fudd i grym tramor.

Ni ddylai fod unrhyw ofyniad i brofi bod y diffynnydd yn bersonol yn gwybod neu’n credu bod gan ei ymddygiad y fath allu.
Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r argymhelliad hwn ac yn cytuno y dylai’r ffaith bod ymddygiad yn gallu bod o fudd i bŵer neu endid tramor barhau i fod yn bwynt i’w benderfynu yn wrthrychol gan y rheithgor. Rydym yn ystyried bod hyn yn adlewyrchu ysbryd y drosedd wreiddiol yn ddigonol wrth sicrhau bod y mesur yn cyd-fynd â chyfraith droseddol fodern.
Argymhelliad 6 - Dylai’r rhestr o leoedd gwaharddedig gael ei drafftio i adlewyrchu’r bygythiad ysbïo modern.

Dylai fod gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer, trwy offeryn statudol sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol, i ddiwygio’r rhestr o leoedd gwaharddedig lle mae’n briodol gwneud hynny er budd diogelwch neu fuddiannau’r wladwriaeth.

Mae’n ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried cymryd camau i hysbysu’r cyhoedd o effaith unrhyw orchymyn dynodi, gan gynnwys yn arbennig, trwy arddangos hysbysiadau ar neu ger y safle y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef lle mae hynny’n briodol.
Rydym yn cytuno â’r argymhelliad y dylid drafftio’r rhestr o leoedd gwaharddedig i adlewyrchu’r bygythiad ysbïo modern. Mae’r rhestr gyfredol o safleoedd yn annigonol ac yn gadael rhai mathau o safleoedd, sy’n dal gwybodaeth sensitif, yn agored i weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau.

Rydym yn nodi’r argymhelliad y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol gael y pŵer, trwy’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol, i ddiwygio’r rhestr o leoedd gwaharddedig lle mae’n briodol gwneud hynny er budd diogelwch cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym yn ystyried bod gofyniad am bŵer sy’n galluogi’r Llywodraeth i ddynodi safleoedd ar gyflymder, i warchod safleoedd sensitif a allai’n sydyn wynebu bygythiad cynyddol a/neu sydd angen eu gwarchod dros dro. Mae hwn yn fater yr ydym yn bwriadu ei archwilio mwy wrth ddatblygu deddfwriaeth newydd. Rydym hefyd yn nodi’r argymhelliad y byddai’n ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried cymryd camau i hysbysu’r cyhoedd o effaith unrhyw orchymyn dynodi, gan gynnwys defnyddio arwyddion lle mae hynny’n briodol. Bydd angen cydbwyso hyn yn erbyn gwarchod safleoedd lle gallai hysbysu’r cyhoedd gynyddu’r bygythiad.
Argymhelliad 7 - Ni ddylai fod unrhyw gyfyngiad o hyd ar bwy all gyflawni’r troseddau a geir yn Neddf Cyfrinachau Swyddogol 1911 nac mewn unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Dylai troseddau ysbïo ar wahân trwy dresmasu ac ysbïo trwy gasglu neu gyfathrebu gwybodaeth barhau.

Dylai’r drosedd ysbïo trwy dresmasu hefyd barhau i fod yn berthnasol i’r rhai sy’n mynd at, archwilio, symud dros, neu fynd i mewn i unrhyw le gwaharddedig o fewn ystyr y Ddeddf. Dylai’r drosedd casglu a chyfathrebu barhau i allu cael ei chyflawni nid yn unig gan rywun sy’n cyfathrebu gwybodaeth, ond hefyd gan rywun sy’n ei chael.

Mae cyfeiriadau yn Neddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 a 1920 at fraslun, cynllun, model, nodyn a chyfrinair swyddogol cyfrinachol a gair cod yn anacronistig a dylid eu disodli â “dogfen, gwybodaeth neu erthygl arall”. Dylid diffinio gwybodaeth i gynnwys unrhyw raglen neu ddata a gedwir ar ffurf electronig.
Rydym yn cytuno â’r argymhellion ar ddiwygio sut mae troseddau ysbïo’n cael eu creu. Rydym yn croesawu’n arbennig cadw’r elfennau o droseddau ysbïo a gyflawnir gan y rhai sydd yn cael gwybodaeth, ac yn mynd at neu yn archwilio lleoedd gwaharddedig.

Rydym yn nodi bod Comisiwn y Gyfraith yn ystyried y dylai’r drosedd ysbïo trwy dresmasu barhau i fod yn berthnasol i’r rhai sy’n mynd at, archwilio, symud drosodd neu fynd i mewn i unrhyw le gwaharddedig o fewn ystyr y Ddeddf. Fel yr amlinellwyd uchod, credwn y dylid cadw’r drosedd hon mewn cyfundrefn lleoedd gwaharddedig sydd wedi’i diwygio a’i moderneiddio a byddwn yn ceisio cipio hanfod wreiddiol y drosedd, gan ei diweddaru â safonau cyfraith droseddol fodern.

Rydym yn cytuno â’r argymhelliad i ddiweddaru terminoleg sy’n cyfeirio at gategorïau sydd wedi’u diffinio’n gul fel ‘brasluniau, cynlluniau a modelau.’ Mae gwaith parhaus wedi canfod bod Deddfau 1911-39 wedi’u drafftio’n rhy gul, â therminoleg nad yw’n adlewyrchu’r bygythiad ysbïo modern. Byddwn yn ceisio sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn mabwysiadu iaith sy’n gyfredol ac wedi’i diogelu’n briodol at y dyfodol.
Argymhelliad 8 - Dylid diddymu Adrannau 1(2) Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911 ac adran 2(2) Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1920. O ystyried yr anhawster i gysoni’r darpariaethau hyn ag egwyddorion cyfreithiol modern, mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r argymhelliad hwn. Fodd bynnag, rydym yn ystyried y bydd angen diffinio’r modd llunio elfennau troseddau ysbïo yn y dyfodol gan roi sylw dyledus i ymarferoldeb erlyn. Er enghraifft, rhaid i’r modd llunio ystyried yr heriau sy’n gysylltiedig â chael tystiolaeth o bobl yn ymddwyn yn gudd, a’r materion sy’n gysylltiedig â datgelu cudd-wybodaeth yn y llys, fel y gellir profi troseddau’n realistig.
Argymhelliad 9 - Dylid diddymu Adran 7 Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911 ac adran 2(1) ac adran 6 Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1920 heb eu disodli.

Dylid cadw’r drosedd o wneud gweithred i baratoi i ysbïo. Ac eithrio hynny, dylid diddymu adran 7 Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1920.
Rydym yn croesawu’r argymhelliad hwn. Mae’n bwysig bod y system gorfodi’r gyfraith yn gallu arestio’r rhai sy’n ceisio cynnal ysbïo ar gam paratoi, gan mai dyma’r ffordd orau o sicrhau bod gwybodaeth sensitif yn dal i fod yn ddiogel.

Rydym hefyd yn ystyried yr achos dros ehangu’r drosedd i fod yn berthnasol i weithredoedd paratoadol i fathau eraill o weithgareddau gelyniaethus gan wladwriaethau, y tu allan i ysbïo, megis difrod neu ymyrraeth gan wledydd tramor. Trwy gynnal ac ehangu trosedd o’r math hwn, byddem yn ceisio troseddoli gweithredoedd perthnasol a gyflawnwyd yn y cyfnod cyn gweithgaredd gelyniaethus, a fyddai’n galluogi’r heddlu i ymyrryd yn gynnar cyn y gall y gweithredoedd paratoadol hyn arwain at niwed difrifol.
Argymhelliad 10 - Dylid ehangu cwmpas tiriogaethol y troseddau a gynhwysir yn Neddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911-1939 fel y gellir eu cyflawni waeth beth yw cenedligrwydd yr unigolyn. Dylai’r prawf fod a oes “cysylltiad sylweddol” rhwng ymddygiad yr unigolyn a buddiannau’r Deyrnas Unedig

Dylid diffinio “cyswllt sylweddol” i gynnwys nid yn unig yr achos lle mae’r diffynnydd yn gyflogai neu’n gontractiwr y Goron, ond hefyd yr achos lle mae’r ymddygiad yn ymwneud â safle neu ddata y mae llywodraeth y DU yn berchen arno neu’n ei reoli (waeth beth yw hunaniaeth y diffynnydd).

Er mwyn sicrhau bod asedau sensitif y DU dramor yn cael yr amddiffyniad mwyaf posibl, dylai unrhyw ddiffiniad newydd o “le gwaharddedig” (gweler argymhelliad 6) ddarparu’n benodol y gall lleoedd o’r fath fod dramor.
Ar y cyfan rydym yn croesawu’r argymhelliad y dylid diweddaru cwmpas tiriogaethol troseddau o dan Ddeddfau 1911-39 ac yn cytuno nad yw’r sefyllfa gyfreithiol gyfredol, sydd ond yn berthnasol i ddinasyddion neu ddeiliaid Prydain dramor, yn ddigonol i amddiffyn asedau Prydain gartref ac mewn mannau eraill.

Mae natur y bygythiad ac ôl troed byd eang Llywodraeth Ei Mawrhydi, yn ogystal â symudiad unigolion ledled y byd a datblygiadau mewn technoleg seiber, wedi newid y ffordd y mae ysbïo’n cael ei gynnal. Felly, mae’r Llywodraeth yn cytuno y dylid ehangu cymhwysiad tiriogaethol troseddau ysbïo, fel y gellir eu cyflawni waeth beth yw cenedligrwydd neu leoliad yr unigolyn sy’n troseddu ac fel eu bod yn berthnasol pan ywbuddiannau’r DU yn cael eu niweidio gan ysbïo, neu os yw asedau, safleoedd neu wybodaeth y DU yn destun ysbïo. Mae’r Llywodraeth yn ystyried ai’r model ‘cyswllt sylweddol’ (fel y gwelir yn neddfwriaeth arall y DU) yw’r model cywir i gwmpasu ysbïo yn erbyn asedau yn y DU o wlad dramor, neu ar safle yn y DU neu wybodaeth sy’n seiliedig dramor.

Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989

Argymhelliad Comisiwn y Gyfraith Ymateb y Llywodraeth
Argymhellion 11 a 12 -

11 - Ni ddylai’r troseddau hynny o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 sy’n ymwneud â gweision y Goron neu gontractwyr y llywodraeth ac sy’n galw am brawf neu debygolrwydd o ddifrod (adran 1(3); adran 2(1); adran 3(1); adran 4(1) alw am brawf neu debygolrwydd o’r fath erbyn hyn. Yn lle, dylai fod elfen fai goddrychol benodol. Bydd angen gwneud rhagor o waith i benderfynu ar yr elfen fai fwyaf priodol (h.y. bod y diffynnydd (i) yn gwybod, (ii) yn credu; neu (iii) yn ddi-hid ynghylch a fyddai’r datgeliad (a) yn achosi difrod; (b) yn debygol o achosi difrod; (c) yn peryglu achosi difrod; neu (d) yn gallu achosi difrod). Dylai adrannau 5 a 6 barhau i fod yn seiliedig ar brawf neu debygolrwydd o ddifrod.

12 - Ni ddylid diwygio’r drosedd sy’n groes i adran 1(1) Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 i alw am brawf bod y datgeliad yn niweidiol

Dylai’r “amddiffyniad” a gynhwysir ar hyn o bryd yn adran 1(5) Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989, o beidio â gwybod a bod heb sail resymol i gredu y dylai’r deunydd a ddatgelir yn ymwneud â diogelwch neu gudd wybodaeth barhau i fod yn berthnasol.
Mae’r Llywodraeth yn croesawu argymhellion y Comisiwn na ddylai troseddau yn adrannau 1 i 4 y Ddeddf -sy’n ymwneud â gweision y Goron, contractwyr y llywodraeth a’r rhai sy’n cael eu hysbysu - ei gwneud yn ofynnol i’r Erlyniaeth gyflwyno prawf neu debygolrwydd o ddifrod mwyach, ac na ddylai troseddau sy’n groes i adran 1(1) Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 gael ei diwygio i fynnu prawf o ddifrod. Rydym yn cytuno â’r Comisiwn bod y gofyniad hwn yn anghywir mewn egwyddor ac yn creu materion ymarferol go iawn, gan weithredu fel rhwystr i erlyniadau posibl. Yn ymarferol,byddai profi difrod mewn system farnwrol agored yn debygol o alw am ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol ychwanegol, a allai yn ei dro achosi difrod sylweddol pellach, sy’n golygu bod amharodrwydd yn aml i erlyn. Fodd bynnag, rydym yn nodi, er y byddai dileu’r gofyniad am ddifrod, am y rheswm hwn, yn dileu un rhwystr i erlyn troseddau adran 1-4 o’r Ddeddf, byddai’r heriau presennol sy’n ymwneud â’r gofyniad i ddatgelu gwybodaeth (sensitif iawn yn aml) fel tystiolaeth, trwy’r datgeliad troseddol arferol mewn llys agored, yn dal i aros. Byddwn yn ystyried rhinweddau’r argymhelliad hwn ymhellach wrth ddatblygu deddfwriaeth.

Rydym hefyd yn derbyn yr argymhelliad y dylai’r ‘amddiffyniad’ o beidio â gwybod neu fod â sail resymol i gredu bod deunydd a ddatgelir yn ymwneud â diogelwch neu gudd-wybodaeth (ac felly yng nghwmpas adran 1(1)), barhau i fod yn berthnasol. Yn ogystal, mae’r Llywodraeth yn nodi’r argymhellion ychwanegol y dylid cael elfen fai goddrychol ar gyfer adrannau 1 - 4 ac y dylai’r troseddau yn Adrannau 5 a 6 barhau i gynnwys y gofyniad i ddangos prawf neu’r tebygolrwydd o ddifrod.

Byddwn yn archwilio’r ddau awgrym hyn ymhellach, ond rydym yn ystyried bod gan ddatgeliadau sylfaenol ac ymlaen y potensial i achosi’r un meintiau o niwed.
 
Argymhelliad 13 - Dylid egluro’r diffiniad o “aelod” o’r gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth i olygu unrhyw unigolyn a gyflogir neu a gontractir gan y gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth neu sy’n cael ei secondio iddynt neu sydd ynghlwm wrthynt.

Dylai fod gofyniad statudol i gyhoeddi canllawiau ar y broses hysbysu. Dylai’r canllawiau nodi pa gategorïau o swyddi sy’n destun hysbysu a sut y gall unigolyn herio penderfyniad i’w hysbysu ef neu hi.
Rydym yn croesawu’r argymhelliad y dylid diffinio’r diffiniad o “aelod” o’r gwasanaethau diogelwch a chudd wybodaeth yn gliriach mewn unrhyw ddeddfwriaeth newydd.

Rydym yn nodi’r argymhelliad y dylid bod gofyniad statudol i gyhoeddi canllawiau ar y broses hysbysu. Rydym yn bwriadu archwilio opsiynau ar gyfer adolygu’r broses hysbysu, wrth i ni ddatblygu cynigion ar gyfer diwygio’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol.
 
Argymhelliad 14 - Nid yw dedfryd uchaf o ddwy flynedd o garchar yn rhoi pwerau digonol i’r llys mewn achosion difrifol iawn.

Dylai’r Senedd ystyried dedfrydau ag uchafswm uwch ar gyfer rhai troseddau o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989. Dylid ystyried hefyd a ddylid tynnu gwahaniaeth o ran y ddedfryd uchaf rhwng y troseddau yn adrannau 1 i 4 Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 a’r troseddau yn adrannau 5 i 6.
Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r argymhelliad nad yw dedfryd uchaf o ddwy flynedd yn rhoi pwerau digonol i’r llys yn yr achosion mwyaf difrifol o ddatgelu diawdurdod.

Ers pasio’r Ddeddf ym 1989, fe fu datblygiadau digynsail mewn technoleg cyfathrebu (gan gynnwys storio data ac offer trosglwyddo data’n gyflym) sydd, yn ein barn ni, yn golygu bod datgeliadau diawdurdod bellach yn gallu achosi difrod llawer mwy difrifol nag a fyddai wedi bod yn bosibl yn flaenorol. O ganlyniad, nid ydym yn ystyried bod gwahaniaeth o reidrwydd o ran difrifoldeb rhwng ysbïo a’r datgeliadau diawdurdod mwyaf difrifol, yn yr un modd ag yr oedd ym 1989.

Er bod gwahaniaethau o ran mecanweithiau ac ysgogiadau y tu ôl i droseddau ysbïo a datgelu heb awdurdod, mae achosion lle gallai datgelu heb awdurdod fod yr un mor neu’n fwy difrifol, o ran bwriad a/neu ddifrod. Er enghraifft, erbyn hyn gall ystod eang o actorion gelyniaethus gyrchu a defnyddio dogfennau sydd ar gael ar-lein, ond yn aml bydd ysbïo dim ond er budd un wladwriaeth neu actor.

Mewn achosion difrifol, gallai datgelu heb awdurdod hunaniaeth asiantau sy’n gweithio i gymuned cudd-wybodaeth y DU, er enghraifft, arwain yn uniongyrchol at fygythiad agos a difrifol i fywyd. Yn ogystal, gallai datgelu gwybodaeth yn ddiawdurdod hefyd ddarparu gwybodaeth allweddol sy’n ymwneud â galluoedd amddiffyn craidd y DU i actorion gelyniaethus lluosog, er enghraifft, a allai yn y pen draw wneud y galluoedd hyn yn aneffeithiol o ganlyniad.
 
Argymhellion 15 - 17 -

15 - Mae’r cyrff proffesiynol sy’n gyfrifol am y Codau Ymddygiad ar gyfer cyfreithwyr sy’n ymarfer - yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau’r Bar - yn ystyried cynnwys canllawiau penodol ar bwysigrwydd cynnal cyfrinachedd mewn achosion sy’n ymwneud â’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol, a’r rhwymedigaeth i beidio â derbyn datgeliadau oni bai fod ganddynt y cliriad diogelwch a sicrwydd safle priodol.

16 – Pan yw person nad yw’n ddarostyngedig i adran 1(1) Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 nad yw’n destun ymchwiliad troseddol perthnasol yn gwneud datgeliad i gyfreithiwr cymwys at ddiben cael cyngor cyfreithiol, dylai’r datgeliad hwnnw fod yn ddatgeliad awdurdodedig, yn amodol ar fodloni mesurau diogelu penodol. Mae’r mesurau diogelwch fel sy’n dilyn: (i) rhaid i’r cynghorydd cyfreithiol fod yn ddarostyngedig i rwymedigaethau proffesiynol, naill ai trwy Fwrdd Safonau’r Bar neu’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr; a (ii) rhaid i’r cyfreithiwr y mae’r datgeliad yn cael ei wneud iddo fod wedi mynd trwy fetio diogelwch i’r lefel briodol ac wedi cael sicrwydd systemau/safle.

17 – Pan yw Gwas y Goron, contractiwr y llywodraeth neu berson hysbysedig dan amheuaeth mewn ymchwiliad troseddol ac yn gwneud datgeliad i gynghorydd cyfreithiol cymwys at ddibenion cyngor cyfreithiol, dylid awdurdodi’r datgeliad hwnnw at ddibenion adrannau 1-4 Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 os oes gan y cynghorydd cyfreithiol gliriad diogelwch i’r lefel briodol, o ystyried natur y wybodaeth a ddiogelir, a’i fod wedi cael sicrwydd systemau/safle.
Mae’r Llywodraeth yn croesawu pecyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â gofynion diogelwch a fetio ar gyfreithwyr. Mae mynediad at gynrychiolaeth gyfreithiol yn rhan greiddiol o system gyfreithiol y DU ac rydym yn llwyr gefnogi pob ymgais i sicrhau mynediad, wrth geisio cyngor yn y maes cymhleth a sensitif hwn.

Fodd bynnag, rhaid cydbwyso mynediad o’r fath â’r gofyniad i ddiogelu deunydd swyddogol sensitif, y gallai ei ryddhau achosi bygythiad i fywyd, a/neu niwed sylweddol i ddiogelwch cenedlaethol. Byddwn yn ystyried ffyrdd o greu cyfundrefn wrth ddatblygu deddfwriaeth, sy’n cydbwyso’r gofynion hyn â’r pwysigrwydd bod pobl yn gallu ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol, a byddwn yn tynnu ar y safbwyntiau a gyflwynwyd yn yr Adolygiad yn unol â hynny.
 
Argymhelliad 18 - Dylid ei gwneud yn glir bod cyhoeddi ymlaen llaw yn ffactor y dylai asiantaethau erlyn, llysoedd a rheithgorau ei ystyried wrth benderfynu a oedd datgeliad diawdurdod yn niweidiol at ddibenion troseddau adrannau 5 a 6 o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Dylid ei gwneud yn glir nad yw’n drosedd at ddibenion adrannau 1(3) i 4 i gyfathrebu gwybodaeth sydd eisoes wedi’i chyfathrebu i’r cyhoedd neu sydd ar gael i’r cyhoedd ag awdurdod cyfreithlon.
Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r argymhellion hyn, mewn egwyddor, ac fel rhan o waith deddfwriaethol yn y maes hwn, byddwn yn ystyried a oes angen creu prawf mwy eglur ynghylch gwybodaeth sydd yn y parth cyhoeddus/wedi’i ddosbarthu’n eang yn gyfreithlon. Gall hyn fod yn wir, er enghraifft, pe byddem yn ceisio dilyn deddfwriaeth nad oedd yn ymgorffori gofyniad difrod.

Gallwn weld teilyngdod yn yr argymhelliad y dylid egluro nad yw’n drosedd i aelod o’r asiantaethau diogelwch a chudd wybodaeth, neu berson hysbysedig, gyfathrebu gwybodaeth sydd eisoes yn y parth cyhoeddus ag awdurdod cyfreithlon. Byddwn yn ystyried hyn fel rhan o waith deddfwriaethol yn y maes hwn.
 
Argymhellion 19 a 20 -

19 – Ni ddylid culhau’r categorïau o wybodaeth a ddiogelir ar hyn o bryd gan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar gyfer unrhyw ddiwygio o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989, dylid archwilio fel blaenoriaeth ar y posibilrwydd o ddiffinio’r categorïau gwybodaeth yn fwy manwl.

20 – Ni ddylid ehangu’r categorïau o wybodaeth a ddiogelir gan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 i gynnwys gwybodaeth economaidd i’r graddau y mae’n ymwneud â diogelwch cenedlaethol.
Fel rhan o ddiwygio deddfwriaeth, byddwn yn ystyried a ddylid newid natur neu gwmpas y categorïau gwybodaeth a ddiogelir[footnote 10], i adlewyrchu datblygiadau technolegol a diogelwch cenedlaethol ers i’r ddeddfwriaeth gael ei deddfu, ac i sicrhau bod deddfwriaeth newydd yn cael ei diogelu yn y dyfodol. Argymhelliad 21 - Dyliddiwygio cwmpas tiriogaethol adrannau 1 i 4 Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 fel bod contractiwr llywodraeth neu berson hysbysedig yn cyflawni trosedd pan yw ef neu hi’n gwneud datgeliad diawdurdod dramor p’un a yw’n ddinesydd Prydeinig ai peidio. Mae’r Llywodraeth yn cytuno bod angen newid maint tiriogaethol y troseddau yn Neddf 1989 a byddwn yn ystyried mabwysiadu fersiwn o’r fformiwleiddiad a gynigiwyd gan y Comisiwn, fel rhan o ddiwygio deddfwriaethol. Byddwn hefyd yn ystyried a ddylid ymestyn cwmpas tiriogaethol y troseddau o dan adrannau 5 a 6 (datgeliadau ymlaen gan drydydd parti), er mwyn dod â dinasyddion Prydain a’r rheini sydd â hawl i aros yn y DU i mewn i’r cwmpas, pan ydynt dramor.

Mae’r bygythiad difrifol a berir i fuddiannau’r DU gan y rhai sy’n cyflawni datgeliadau diawdurdod niweidiol yn bodoli nid yn unig yn achos dinasyddion Prydain, ond hefyd yn achos y rhai sy’n elwa o statws preswyl a statws preswylydd sefydlog. Rydym yn nodi nad yw’r Adolygiad yn benodol ynghylch a ddylai hyn fod yn berthnasol i bobl a hysbyswyd yn flaenorol, contractwyr y llywodraeth a gweision y Goron, sy’n rhywbeth y byddem hefyd yn ceisio ei ystyried, yn fwy manwl.

Yn ogystal, mae troseddau Deddf 1989 yn eithrio erlyn unigolion eraill dramor, hyd yn oed mewn achosion lle byddai’r unigolyn wedi gwybod (neu yn wir wedi bwriadu) i’r datgeliad achosi difrod. Efallai y bydd amgylchiadau lle dylai’r Goron allu ystyried erlyniad yn erbyn dinasyddion nad ydynt yn Brydeinig am ddatgeliad diawdurdod, sydd wedi achosi difrod trwy eu datgeliad, yr hyn y byddwn yn ei ystyried ymhellach.
Argymhellion 22 - 24 -

22 - Dylai fod adolygiad o droseddau datgelu diawdurdod â’r nod, yn benodol, o greu mwy o gydlyniaeth a chysondeb o ran yr amddiffyniadau sydd ar gael a’r cosbau sy’n berthnasol.

23 – Os cynhelir adolygiad graddfa eang o’r troseddau datgelu amrywiol, dylai gynnwys adran 170 o Ddeddf Diogelu Data 2018 er mwyn cyflawnrwydd ac mewn ymdrech i sicrhau’r gydlyniaeth fwyaf.

24 – Dylai troseddau datgelu diogelwch cenedlaethol fod yn rhan o’r adolygiad o droseddau datgelu amrywiol a argymhellir uchod.
Mae’r Llywodraeth yn nodi’r argymhellion hyn a bydd yn archwilio opsiynau ar gyfer adolygu, os yw’n berthnasol, fel rhan o ddiwygio deddfwriaethol.  
Argymhellion 25 - 28 -

25 – Dylai’r Protocol ar Ymchwiliadau Datgelu heb Ganiatâd gael ei adolygu a’i ddiweddaru, mewn ymgynghoriad ag Adrannau’r Llywodraeth, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr Heddlu Metropolitanaidd, y Twrnai Cyffredinol, ac unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb.

26 – Dylid ystyried, fel rhan o’r adolygiad o’r Protocol, fecanwaith priodol ar gyfer goruchwylio ei weithredu.

27 – Dylid diweddaru canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron “Erlyn Achosion lle mae Gweision Cyhoeddus wedi Datgelu Gwybodaeth Gyfrinachol i Newyddiadurwyr” i adlewyrchu datblygiadau mewn cyfraith achosion ac i gyfeirio at y Protocol.

28 – Dylai’r Protocol gael ei gyhoeddi’n fwy hygyrch ar-lein â gwybodaeth yn nodi pryd y daeth i rym ac yn manylu ar unrhyw ddiwygiadau.
Mae’r Llywodraeth yn nodi argymhellion y Comisiwn mewn perthynas â Phrotocol ar Ymchwiliadau Datgelu heb Ganiatâd a chanllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar “Erlyn Achosion lle mae Gweision Cyhoeddus wedi Datgelu Gwybodaeth Gyfrinachol i Newyddiadurwyr,” a bydd yn eu hystyried ymhellach.  
Argymhellion 30 a 31 -

30 – Dylid diwygio canllawiau [Gwasanaeth Erlyn y Goron] ar wiriadau rheithgor awdurdodedig er mwyn nodi, os cynhaliwyd gwiriad rheithgor awdurdodedig, yna rhaid dwyn hyn i sylw cynrychiolwyr yr amddiffyniad a’r barnwr.

31 – Dylid cynnal adolygiad ar wahân i werthuso i ba raddau y mae’r mecanweithiau cyfredol yn y broses treial troseddol yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng yr hawl i dreial teg a’r angen i ddiogelu deunydd sensitif.
Rydym yn nodi’r argymhellion hyn i ganllawiau ar gyfer gwiriadau rheithgor awdurdodedig gael eu diwygio ac i gael adolygiad ar wahân o’r mecanwaith cyfredol yn y broses treial troseddol. Bydd y Llywodraeth yn ystyried y rhain ymhellach.  
Argymhellion 32 a 33 -

32 – Dylid sefydlu Comisiynydd Statudol annibynnol â’r pwrpas o dderbyn ac ymchwilio i honiadau o ddrygioni neu droseddoldeb, lle byddai datgelu’r pryderon hynny fel arall yn drosedd o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Byddai’n rhaid i’r Comisiynydd hwnnw fod yn fecanwaith ymchwilio effeithiol: felly byddai’n rhaid iddo nid yn unig fod yn annibynnol, ond hefyd gallu gweithredu’n gyflym a chael yr awdurdod cyfreithiol i orfodi cydweithredu â’i ymchwiliadau.

Dylai fod hawl i’r achwynydd apelio yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynydd Statudol. Dylid ehangu awdurdodaeth y Tribiwnlys Pwerau Ymchwilio fel y gall wrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynydd Statudol.

33 – Ni ddylai person fod yn euog o drosedd o dan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 os yw’r person hwnnw’n profi, ar sail tebygolrwydd,: (a) ei bod er budd y cyhoedd i’r wybodaeth a ddatgelwyd fod yn hysbys i’r derbynnydd; a (b) bod dull y datgelu er budd y cyhoedd. Nid yw Comisiwn y Gyfraith yn gwneud unrhyw argymhelliad pellach y tu hwnt i hyn mewn perthynas â ffurf yr amddiffyniad.
Rydym yn nodi’r argymhellion hyn a byddwn yn ystyried yn fanylach gynigion sy’n ymwneud â Chomisiynydd Statudol ac Amddiffyniad Budd y Cyhoedd. Fel rhan o’r ystyriaethau hyn, byddwn hefyd yn myfyrio ar sylwadau’r Comisiwn ynghylch cydnawsedd y Ddeddf ag Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol - yr hawl i ryddid mynegiant. O’n hystyriaethau cychwynnol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod troseddau presennol yn gydnaws ag Erthygl 10 ac y gallai’r cynigion hyn mewn gwirionedd danseilio ein hymdrechion i atal datgeliadau diawdurdod niweidiol, na fyddai er budd y cyhoedd.

Mae mesurau diogelu eisoes yn bodoli (gan gynnwys prosesau sy’n bodoli eisoes ar gyfer chwythwyr chwiban y Llywodraeth) sy’n caniatáu iddynt godi pryderon heb orfod ymgymryd â datgeliad diawdurdod. Mae’r prosesau hyn yn cynnwys; y posibilrwydd o godi pryder y tu mewn i’w sefydliad eu hunain, gyda Swyddfa’r Cabinet, Comisiwn y Gwasanaeth Sifil, a hyd yn oed cadeirydd Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch y Senedd. Ar gyfer aelodau blaenorol a phresennol yr asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth, mae swyddfeydd ychwanegol y gellir gwneud datgeliadau iddynt, gan greu set arall o fesurau diogelu ar gyfer y garfan honno. Bydd unrhyw benderfyniad i erlyn yn destun prawf budd y cyhoedd gan Wasanaeth Erlyn y Goron, ac yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen caniatâd y Twrnai Cyffredinol i erlyn. Mae effeithiolrwydd mecanweithiau a mesurau diogelu presennol ar draws y Llywodraeth yn allweddol i weithrediad y troseddau hyn, a bydd y Llywodraeth yn adolygu eu gweithrediad er mwyn asesu argymhellion y Comisiwn ar gyfer Comisiynydd Statudol, wrth archwilio opsiynau ar gyfer diwygio Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Mae rhyddid y wasg yn rhan annatod o brosesau democrataidd y DU, felly hefyd y gallu i unigolion chwythu’r chwiban a dwyn sefydliadau i gyfrif, pan yw honiadau difrifol o ddrygioni. Fodd bynnag, mae’n haid sicrhau cydbwysedd â diogelu gwybodaeth swyddogol (gan gynnwys gwybodaeth ddiogelwch genedlaethol), lle gallai ei pheryglu niweidio’r DU, ei dinasyddion neu fuddiannau, o ystyried y gall datgelu anghyfreithlon a/neu gyhoeddi dogfennau sensitif yn ddiweddarach arwain at niwed difrifol mewn llawer o achosion. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi bod argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn sicrhau’r cydbwysedd cywir yn y maes hwn.

Ein pryder sylfaenol yw mai anaml (os byth) y bydd unigolyn sy’n ceisio gwneud datgeliad diawdurdod, p’un ai yn y Llywodraeth neu fel arall yn meddu ar ddeunydd swyddogol, yn gallu barnu’n gywir a yw budd y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth yn gorbwyso’r risgiau yn erbyn datgelu. Hyd yn oed os gwneir yr achos wedyn nad oedd y datgeliad er budd y cyhoedd, a bod y person a gyhoeddodd y wybodaeth wedi cyflawni trosedd, nid yw hyn yn dadwneud y difrod posibl a achosir gan y datgeliad.
 
  1. Mae’r asesiad hwn wedi’i lywio gan waith y Tîm Asesu Bygythiadau Gwladwriaethol ar y Cyd (JSTAT) ac maent yn cytuno bod hyn yn adlewyrchiad cywir o’r bygythiad yn y DU. Corff asesu annibynnol yw JSTAT. Yn hynny o beth, er bod eu gwaith wedi llywio’r asesiad bygythiad nid ydynt yn rhan o’r polisïau a’r ymatebion a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn, ac nid ydynt ychwaith yn mabwysiadu barn arnynt. 

  2. Diffinnir twyllwybodaeth yma fel creu a/neu rannu gwybodaeth ffug neu ei chamddefnyddio â’r bwriad o dwyllo neu gamarwain cynulleidfaoedd. 

  3. Diweddariad i Adroddiad y Comisiwn IP - Dwyn Eiddo Deallusol Americanaidd: Ailasesiadau o’r Her a Pholisi’r Unol Daleithiau, Swyddfa Genedlaethol Ymchwil Asiaidd 2017. 

  4. Strategaeth Gwrth-guddwybodaeth Genedlaethol Unol Daleithiau America 2020-2022. 

  5. Mae’r categorïau o wybodaeth a ddiogelir gan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 yn cynnwys; Diogelwch a; Cudd-wybodaeth; Amddiffyn; Cysylltiadau Rhyngwladol; Trosedd a Phwerau ymchwilio arbennig; a gwybodaeth Diogelwch, Cudd-wybodaeth, Amddiffyn, neu Berthnasau Rhyngwadol a gyfathrebir yn gyfrinachol i Wladriaeth neu sefydliad rhyngwladol arall. 

  6. Deddf Cofrestru Asiantau Tramor yr UD (FARA) 1938 - Yr Adran Gyfiawnder, ‘Deddf Cofrestru Asiantau Tramor’ a Cod UD 18 Adran UD 951 - Yr Adran Gyfiawnder, ‘Statudau cysylltiedig â FARA’

  7. Deddf Cynllun Tryloywder Dylanwad Tramor Awstralia (FITS) 2018 - Adran y Twrnai Cyffredinol. ‘Deddf Cynllun Tryloywder Dylanwad Tramor’

  8. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn (gweler yr adran ar y bygythiad ar dudalen 7), deellir bod ‘ymyrraeth’ yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau lle mae gwladwriaethau’n ceisio hyrwyddo eu nodau trwy ddefnyddio dulliau cudd neu drwy dywyllu bwriad a chychwynydd, gan gynnwys twyllwybodaeth, llwgrwobrwyo a gorfodi. Mae hyn hefyd yn cynnwys ymdrechion i ymyrryd yn ein democratiaeth neu broses lunio polisïau’r Llywodraeth, gan gynnwys trwy ymyrraeth mewn etholiadau a refferenda cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, yn ogystal ag ymdrechion i danseilio rhyddid academaidd. Mae nifer o wladwriaethau’n cynnal gweithgareddau parhaus sy’n ceisio ystumio amgylcheddau gwybodaeth y DU a rhai rhyngwladol trwy ddefnyddio gweithrediadau gwybodaeth, sydd yn aml yn chwarae ar raniadau presennol. 

  9. Pwynt allweddol i’w nodi yw na fyddai’r pŵer hwn yn dynodi nac yn brandio unigolyn neu endid fel actor gelyniaethus. Yn hytrach, byddai’n darparu eglurder i gefnogi cydymffurfiedd â’r cynllun. 

  10. Mae’r categorïau o wybodaeth a ddiogelir gan Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 yn cynnwys; Diogelwch a Chudd-wybodaeth; Amddiffyn; Pwerau Ymchwilio Arbennig a Throsedd: a Diogewlch, Cudd-wybodaeth, Amddiffyn neu wybodaeth Cysylltiadau Rhyngwladol a gyfathrebwyd yn gyfrinachol i wladwriaeth neu sefydliad rhyngwladol arall.