Lefelau Gwasanaeth Gofynnol mewn addysg
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r Adran Addysg yn ymgynghori’n gyhoeddus ar y dull mwyaf priodol o ddarparu lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau addysg.
Byddai unrhyw reoliadau lefelau gwasanaeth gofynnol y gallem eu gweithredu yn dilyn yr ymgynghoriad yn berthnasol ar ddiwrnodau pan fydd streicio’n digwydd mewn gwasanaethau addysg, ac yn helpu i leihau tarfu ar blant a dysgwyr ar draws lleoliadau addysg.
Pe byddai rheoliadau’n cael eu cyflwyno, byddai hynny o dan y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023.
Mae’r Ddeddf Streiciau yn diwygio’r fframwaith cyfreithiol o ran gweithredu diwydiannol drwy roi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol osod Lefelau Gwasanaeth Gofynnol ar gyfer rhai gwasanaethau allweddol, gan gynnwys addysg.