Canlyniad yr ymgynghoriad

Labelu effeithlonrwydd dŵr gorfodol yn y DU

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Manylion am y canlyniad

Cafwyd cyfanswm o 98 o ymatebion. Roedd hyn yn cynnwys 80 o ymatebion a ddaeth i law drwy CitizenSpace a 18 o ymatebion a ddaeth i law drwy’r ebost. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 2 Medi a 25 Tachwedd 2022.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Defra yn gweithio gyda’r sefydliadau a gymerodd ran yn ein gweithdai cyn-ymgynghori a’n grŵp llywio i gwblhau dyluniad y label a’r safonau ar gyfer pob cynnyrch. Byddwn hefyd yn cwblhau’n polisi a’n dull gweithredu. Rydyn ni’n anelu at osod yr is-ddeddfwriaeth yn 2024 a byddwn yn datblygu:

  • y gronfa ddata cynhyrchion
  • y dull labelu cyffredinol
  • system gofrestru
  • gwefan
  • dull o hyrwyddo a marchnata’r label

Ein nod yw lansio’r label newydd yn 2025.

Gallwch hefyd ddarllen am yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Hoffem glywed eich barn ar ein cynlluniau i gyflwyno labeli effeithlonrwydd dŵr gorfodol ar draws holl wledydd y DU.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn roedd ar wefan arall.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn bwriadu labelu cynhyrchion sy’n defnyddio dŵr fel tapiau, cawodydd, toiledau, peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad. Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi:

  • ein dull gweithredu arfaethedig
  • y cynhyrchion a gwmpesir gan y label
  • dyluniad a nodweddion y label
  • sut y dangosir y label
  • safonau i ategu’r label

Bydd eich ymatebion yn siapio datblygiad prosesau, canllawiau ac is-ddeddfwriaeth.

Gallwch hefyd ddarllen am yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg.

Cyhoeddwyd ar 29 September 2023