Publication

Crynodeb o’r ymatebion ac ymateb y Llywodraeth

Published 29 September 2023

Cyflwyniad

Mae newid yn yr hinsawdd a’r twf yn y boblogaeth yn rhoi pwysau cynyddol ar ein hadnoddau dŵr. Mae’r cynlluniau rheoli adnoddau dŵr rhanbarthol diweddaraf yn nodi y bydd angen 4,000 miliwn litr yn ychwanegol o ddŵr y dydd erbyn 2050, bron i draean (28.5%) y dŵr cyhoeddus sy’n cael ei gyflenwi yn Lloegr ar hyn o bryd. Fel yr amlinellwyd yn adolygiad Asiantaeth yr Amgylchedd o’r cynlluniau adnoddau dŵr rhanbarthol sy’n dod i’r amlwg yn Lloegr, bydd angen i dros hanner hyn ddod drwy leihau’r galw am ddŵr – oddeutu 2,000 miliwn litr o ddŵr y dydd. Mae hyn tua’r un faint â’r dŵr sydd ei angen i gyflenwi dinasoedd Llundain, Caerdydd, Belfast, Glasgow a Chaeredin gyda’i gilydd.

Roedd datganiad gweinidogol ysgrifenedig Llywodraeth y DU yn 2021 ar leihau’r galw am ddŵr yn cynnwys camau “i greu rheoliadau i gyflwyno label effeithlonrwydd dŵr gorfodol a fydd yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ac annog defnyddwyr domestig a busnes i brynu cynhyrchion sy’n defnyddio dŵr yn fwy effeithlon”. Rydym hefyd yn nodi ‘Cam gweithredu 8) Cyflawni’r cynllun gorfodol i gyflwyno labeli effeithlonrwydd dŵr erbyn 2025’ yn ein map o’r Cynllun Dŵr ar effeithlonrwydd dŵr mewn datblygiadau newydd ac mewn cynlluniau ôl-osod. Bydd y polisi hwn yn helpu i gyrraedd y targed o ran y galw am ddŵr, sef lleihau’r defnydd ar y cyfenwad dŵr cyhoeddus 20% y person erbyn 2038. Gosodwyd y targed hwn o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021 (y Ddeddf) yn Lloegr ac mae’n ategu blaenoriaethau ar gyfer defnyddio dŵr mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd hefyd yn helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yn ei Strategaeth Ddŵr i Gymru a’i Ddatganiad Blaenoriaethau Strategol i annog gostyngiad yn y defnydd o ddŵr a defnydd cynaliadwy ac effeithlon o adnoddau dŵr.

Mae’r ddogfen hon yn ymateb ar y cyd gan y Llywodraethau datganoledig sy’n crynhoi’r ymatebion a gafwyd drwy’r ymgynghoriad ar y cyd ar ein cynigion polisi i gyflwyno labeli effeithlonrwydd dŵr gorfodol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 2 Medi a 25 Tachwedd 2022. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran. Rydym yn gwerthfawrogi’r holl ymatebion a gasglwyd ac rydym wedi adolygu a dadansoddi’r ymatebion hynny a byddant yn sail i’n polisi wrth symud ymlaen.

Roedd yr ymgynghoriad yn ymdrin â phedwar prif faes. Y rhain oedd:

  1. Uchelgais
  2. Dyluniad
  3. Gorfodi
  4. Effeithiau

Mae’r crynodeb hwn yn drosolwg lefel uchel o brif themâu’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’n ceisio adlewyrchu’r safbwyntiau a gynhigiwyd ond nid yw’n bosibl rhoi disgrifiad manwl o’r holl ymatebion. Cafwyd sylwadau a barn fanwl gan lawer o’r ymatebwyr. Cynhaliwyd dadansoddiad thematig i nodi’r prif faterion a godwyd. Rydym hefyd wedi nodi ymateb ein Llywodraeth a’r camau nesaf ym mhob un o’r meysydd hyn i gyflawni’r Cynllun Labelu Effeithlonrwydd Dŵr Gorfodol (MWELS).

Crynodeb

Cawsom gyfanswm o 98 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Cawsom ymatebion o bob cwr o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o blaid cyflwyno labeli effeithlonrwydd dŵr gorfodol annibynnol i gyflawni’r polisi, gyda 74% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â hyn. Roedd y mwyafrif (64%) hefyd yn cytuno â’r dull arfaethedig o ddylunio’r label. Er bod cefnogaeth i gynnwys gwybodaeth am ynni ar y label (ar gyfer tapiau a chawodydd heb fod yn rhai trydan), roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion yn cefnogi cael label annibynnol a oedd yn canolbwyntio ar wybodaeth am effeithlonrwydd dŵr. Rydyn ni am sicrhau bod y label yn canolbwyntio ar y defnydd o ddŵr, ond byddwn yn ystyried ymgyrchoedd gwybodaeth ynghylch y cysyniad bod lleihau’r defnydd o ddŵr yn lleihau’r defnydd o ynni (er enghraifft, ar gyfer cawodydd sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon). Oherwydd yr ystod amrywiol o systemau gwresogi dŵr, byddai’n anymarferol cynnwys defnydd ynni ar labeli tapiau a chawodydd.

Roedd datganiad gweinidogol ysgrifenedig 2021 ar leihau’r galw am ddŵr yn nodi y byddwn yn “creu rheoliadau i gyflwyno label effeithlonrwydd dŵr gorfodol a fydd yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ac yn annog defnyddwyr domestig a busnesau i brynu cynhyrchion sy’n defnyddio dŵr yn fwy effeithlon” yn dilyn ymgynghoriad 2019 ar fesurau i leihau defnydd personol ar ddŵr. Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi manylion y label effeithlonrwydd dŵr gorfodol.

Yn y ddogfen hon rydym yn nodi ein hymatebion i bob thema sy’n cael sylw yn yr ymgynghoriad a’r camau nesaf ar gyfer cyflwyno’r cynllun labelu. Byddwn yn ymgysylltu â’n grŵp llywio rhanddeiliaid ar gamau nesaf y safonau dylunio a chynnyrch cyn rhoi’r cynllun ar waith yn 2025.

Dadansoddi’r Ymatebion

Cafwyd cyfanswm o 98 o ymatebion i’r ymgynghoriad gorfodol ar labelu effeithlonrwydd dŵr, gan gynnwys:

  • Cafwyd 80 o ymatebion drwy Citizen Space
  • Cafwyd 18 o ymatebion drwy e-bost

I gael rhestr o’r sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, gweler Atodiad 1. Cafodd yr ymatebwyr hynny a ofynnodd i’w cyfraniadau fod yn ddienw a’r rheini na wnaethant ymateb i’r cwestiwn eu tynnu o’r rhestr hon. Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhestr o sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Mae’r ymatebwyr a ofynnodd i’w cyfraniadau fod yn ddienw neu’r rhai sydd heb ymateb i’r cwestiwn wedi’u tynnu oddi ar y rhestr hon. Dylid nodi nad oedd pob unigolyn yn siarad ar ran eu sefydliadau gan fod rhai yn ymateb yn gyffredinol fel aelodau o’r cyhoedd yn rhoi eu barn bersonol.

Cwestiwn: “Dewiswch un o’r opsiynau canlynol i ddisgrifio eich diddordeb mewn labelu effeithlonrwydd dŵr gorfodol?”

Mae’r ffigur isod yn dangos nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ôl diddordeb. Mae’r categori “arall” yn cynnwys y rheini a oedd yn teimlo nad oeddent yn perthyn i’r categorïau a restrwyd. Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhestr o’r sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Cafodd yr ymatebwyr hynny a ofynnodd i’w cyfraniadau fod yn ddienw a’r rheini na wnaethant ymateb i’r cwestiwn eu tynnu o’r rhestr hon. Dylid nodi nad oedd pob unigolyn yn siarad ar ran eu sefydliadau gan fod rhai yn ymateb yn gyffredinol fel aelodau o’r cyhoedd yn rhoi eu barn bersonol.

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Aelod o’r Cyhoedd 38
Y diwydiant manwerthu 8
Gweithgynhyrchu 9
Sefydliadau Anllywodraethol 15
Cyflenwyr dŵr 17
Corff y Llywodraeth 2
Arall 11

Cwestiwn: “Nodwch pa wlad rydych chi’n ei hystyried wrth lenwi’r arolwg hwn?”

Mae’r ffigur isod yn dangos y dosbarthiad o ran pa wlad roedd ymatebwyr yn ei hystyried wrth ymateb i’r ymgynghoriad.

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Y DU gyfan 59
Lloegr 25
Gogledd Iwerddon 2
Yr Alban 6
Cymru 7
Dim un 1

Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac ymatebion y Llywodraeth

Uchelgais

Cwestiwn 1: A yw’r rhestr o’r cynhyrchion a ddewiswyd gennym yn gosod yr uchelgais ar y lefel briodol? Atebwch ydi neu nac ydi. Os nac ydi, eglurwch pam nad yw hynny’n wir a pha gynnyrch / cynhyrchion y gallem ni ystyried eu labelu yn y dyfodol, a pham?

Roedd hanner yr ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn cytuno â lefel yr uchelgais a amlinellwyd gan y rhestr cynhyrchion yn y ddogfen ymgynghori. O’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn, awgrymodd 29% y dylid cynnwys cawodydd trydan hefyd. Cafodd y farn hon ei chynnwys hefyd mewn ymatebion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cafwyd ymateb cryf i gynnwys systemau chwistrellu ac atodion dyfrio yn yr ardd ar gyfer pibellau a pheiriannau golchi jet. Cafodd dyfeisiau ailddefnyddio dŵr eu crybwyll hefyd mewn nifer llai o ymatebion. Awgrymodd Cymdeithas Gwneuthurwyr Ystafelloedd Ymolchi (BMA) fod cawodydd trydan yn cyfrif am oddeutu 50% o’r farchnad yn y DU. Chafodd y rhain mo’u cynnwys yn ISO31600 gan nad oeddent i’w cael yn aml iawn y tu allan i’r DU ac Iwerddon, yn hytrach nac am eu bod yn anaddas i’w labelu. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys:

  • cynhyrchion â chylch glanhau rheolaidd (er enghraifft meddalwyr dŵr)
  • dyfeisiau cyfyngu ar ddŵr wedi eu ffitio’n ddiweddarach a rhai mewnol (wedi’u plymio i’r bibell) fel awyryddion tapiau
  • dyfeisiau i gyfyngu ar lif dŵr ac offer sy’n defnyddio dŵr mewn adeiladau domestig a masnachol

Ymatebion i Gwestiwn 1

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Heb ateb 6
Nac ydi 41
Ydi 51

Cwestiwn 2: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno mai label dŵr annibynnol yn unig yw’r ffordd fwyaf priodol o gyflawni’r polisi gorfodol i labelu effeithlonrwydd dŵr?

Roedd y rhan fwyaf (74%) o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf mai label dŵr annibynnol yn unig yw’r ffordd fwyaf priodol o gyflawni’r Cynllun Labelu Effeithlonrwydd Dŵr Gorfodol.

Ymatebion i gwestiwn 2

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 32
Cytuno 40
Niwtral 9
Anghytuno 9
Anghytuno’n gryf 5
Ddim yn gwybod / dim ateb 3

Cwestiwn 3: Ym mha ffyrdd y gellir lleihau effeithiau labelu deuol ar weithgynhyrchwyr?

Cafwyd ymatebion amrywiol i gwestiwn 3 ynghylch sut y gellid lleihau effeithiau labelu deuol ar weithgynhyrchwyr. Awgrymodd rhai ymatebwyr y gellid creu un label cyfun ar gyfer ynni a dŵr. Roedd eraill yn cytuno’n gryf y dylai’r label effeithlonrwydd dŵr fod yn label annibynnol, gan ddweud y bydd cael label sy’n canolbwyntio ar ddŵr yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid adnabod a deall beth mae’r label yn ei ddweud wrthynt. Crybwyllodd 6 o bobl y byddai cael label dŵr annibynnol yn caniatáu mwy o reolaeth dros y canlynol:

  • bandiau’r labeli
  • safonau sylfaenol
  • cynnwys mathau ychwanegol o gynhyrchion

Byddai hyn yn ei wneud yn fwy hyblyg i ymateb i newidiadau yn y dyfodol. Hefyd, awgrymwyd 4 gwaith y gallem gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth a fyddai’n cynnwys y canlynol:

  • canllawiau clir
  • arferion gorau
  • esboniad o’r label

Dywedodd eraill (8) eu bod yn anghytuno â’r dull gweithredu, gan ddweud y gallai labeli deuol fod yn ddryslyd i gwsmeriaid. Dywedodd 3 mai’r Label Dŵr Unedig gwirfoddol oedd y ffordd orau o fynd ati. Er mwyn lleihau’r effaith ar weithgynhyrchwyr, nodwyd hefyd y gallai’r llywodraeth ariannu neu gynorthwyo’r cynllun hwn.

Mewn 12 ymateb, codwyd y mater o leihau effeithiau labelu deuol drwy ddefnyddio templed dylunio. Pe bai un label ynni a dŵr, awgrymwyd y gellid defnyddio gwahanol liwiau neu ddefnyddio system goleuadau traffig.

Soniodd eraill nad ydynt yn teimlo y bydd labelu deuol yn broblem oherwydd y dangoswyd ei fod yn gweithio mewn gwledydd eraill. Roedd ymatebwyr eraill yn awgrymu y byddai cael fersiwn y DU yn ddryslyd i gwsmeriaid tra bod gan yr UE fersiwn a allai fod yn wahanol, gan arwain at gostau diangen i weithgynhyrchwyr. Dywedodd un ymatebydd bod eisiau label unedig ryngwladol. Soniwyd hefyd bod angen i gynhyrchion ynni, sydd â gwybodaeth am y defnydd o ddŵr, gyd-fynd â’r label dŵr.

Ymateb y Llywodraeth

Roedd y rhestr o gynhyrchion yr ymgynghorwyd arni yn cynnwys y rhai a ragnodir gan raglenni labelu effeithlonrwydd dŵr ISO 31600:2022 – Gofynion gyda chanllawiau ar gyfer gweithredu arnynt. Mae’r cynhyrchion hyn yn cynnwys:

  • toiledau
  • wrinalau
  • tapiau sinciau cegin
  • tapiau basnau ystafell ymolchi
  • dyfeisiau allfa cawodydd heb fod yn drydanol ac atebion ar gyfer cydosod cawodydd
  • peiriannau golchi llestri
  • peiriannau golchi dillad
  • peiriannau golchi a sychu dillad cyfun.

Dylai defnyddio rhestrau cynhyrchion yr ISO wneud y canlynol:

  • lleihau costau i fusnesau yn y DU
  • gwella mynediad gweithgynhyrchwyr y DU i farchnadoedd tramor
  • cynyddu cydymffurfiaeth â’r cynllun yn y DU

Ar ôl i’r rheoliadau arfaethedig gael eu gwneud yn ddeddf, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i ddiwygio neu ymestyn y rhestr o gynhyrchion sy’n defnyddio dŵr sy’n dod o dan y rheoliadau ar ôl ymgynghori pellach yn y dyfodol. Fodd bynnag, yn sgil y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad, rydyn ni’n cynnig ychwanegu cawodydd trydan at y rhestr o gynhyrchion sy’n defnyddio dŵr y bydd y rheoliadau arfaethedig yn berthnasol iddynt. Roedd rhai rhanddeiliaid hefyd yn cynnig cynnwys cynhyrchion sy’n defnyddio dŵr yn yr awyr agored (er enghraifft, gynnau chwistrellu gyda sbardun effeithlon ar gyfer pibellau dŵr). Dydyn ni ddim yn cynnig cynnwys y rhain ar hyn o bryd, gan eu bod y tu allan i gwmpas y safon ISO a byddai hynny’n arwain at oedi cyn lansio’r cynllun gan y bydd angen y canlynol ar bob cynnyrch:

  • label a safonau cysylltiedig
  • profion a chanllawiau

Mae labeli ynni’n cynnwys rhywfaint o wybodaeth am y defnydd o ddŵr ar labeli ynni, ond y farn yw nad yw hyn yn glir ac yn syml i ddefnyddwyr ei ddeall (yn fwy penodol – mae’n rhoi un rhif ac nid yw’n defnyddio dull bandiau). Nid yw’r label hwn ar gynnyrch dŵr nad ydynt yn gysylltiedig ag ynni ac felly nid oes gwybodaeth am ddefnydd dŵr yn gysylltiedig â nhw. Ar gyfer cynhyrchion nad ydyn nhw ar hyn o bryd o fewn cwmpas y rheoliadau arfaethedig, rydyn ni’n cefnogi defnyddio dull gwirfoddol tebyg i’r Smart Watermark sy’n cael ei ddefnyddio yn Awstralia.

Mewn gweithdai cyn yr ymgynghoriad, roedd rhanddeiliaid yn cefnogi labelu deuol (labeli ynni a dŵr ar wahân). Fodd bynnag, mynegodd rhai bryder ynghylch baich rheoleiddio cynyddol y Cynllun Labelu Effeithiolrwydd Dŵr Gorfodol ar wneuthurwyr cynhyrchion sydd angen Label Ynni’r DU sydd eisoes yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am effeithlonrwydd dŵr (er enghraifft, peiriannau golchi llestri, peiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi a sychu dillad cyfun). Mae labelu deuol yn gyffredin mewn gwledydd eraill sydd â chynlluniau labeli dŵr. Byddwn yn sicrhau bod dyluniad y label effeithlonrwydd dŵr gorfodol a’r wybodaeth a ddarperir yn glir er mwyn cyfyngu ar unrhyw ddryswch y gallai labelu deuol ei achosi, ac ni fydd angen mwy o wybodaeth arnom am ddefnydd dŵr na’r hyn sy’n cael ei chasglu ar gyfer y label ynni.

Dyluniad

Cwestiwn 4: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod dyluniadau’r labeli enghreifftiol yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am effeithlonrwydd dŵr mewn ffordd briodol?

Roedd y mwyafrif (64%) yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai dyluniad y labeli enghreifftiol yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am effeithlonrwydd dŵr mewn ffordd briodol.

Ymatebion i Gwestiwn 4

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 29
Cytuno 33
Niwtral 13
Anghytuno 4
Anghytuno’n gryf 5
Ddim yn gwybod / Dim ateb 14

Cwestiwn 5: A oes angen unrhyw elfennau ychwanegol yn y fanyleb labelu?

Soniodd nifer o’r ymatebwyr am y syniad o godau QR (cod ymateb cyflym – math o god bar matrics) i gael rhagor o wybodaeth, yn benodol gwybodaeth am berfformiad ac arferion gorau ar gyfer cynnyrch (wrth ddefnyddio cylched golchi eco yn yr achos hwn). Yn fwy cyffredinol, roedd ymatebwyr yn dymuno cael:

  • mwy o wybodaeth dechnegol
  • gwybod sut i ddod o hyd i ollyngiadau
  • gwybod sut i ddefnyddio botymau fflysio deuol ar doiledau yn gywir
  • gwybod sut i ddefnyddio cynhyrchion yn y ffordd fwyaf effeithlon
  • gwybod sut byddai ôl-osod yn effeithio ar system

Awgrymodd sawl ymatebydd y dylid ychwanegu cyfraddau llif dŵr at y label. Drwyddi draw, roedd ymatebwyr eisiau label syml, hawdd ei ddeall gan efallai ddefnyddio cynllun lliwiau coch, oren, gwyrdd a metrig hawdd ei ddefnyddio. Awgrymwyd hefyd y gellid gwneud i’r labeli gyfateb â’r label ynni.

Cwestiwn 6: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y byddai’n fuddiol i gynnwys gwybodaeth am ynni ar y label (ar gyfer tapiau a chawodydd nad ydynt yn rhai trydanol)?

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (60%) yn cytuno y byddai’n fuddiol i gynnwys gwybodaeth am ynni ar y labeli ar gyfer tapiau a chawodydd nad ydynt yn rhai trydan.

Ymatebion i gwestiwn 6

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 35
Cytuno 24
Niwtral 10
Anghytuno 14
Anghytuno’n gryf 8
Ddim yn gwybod / Dim ateb 7

Cwestiwn 7: Beth fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o gynnwys gwybodaeth am ynni ar y label?

Mae rhai ymatebwyr yn credu y dylid cael labeli cyfun (hynny yw, un label yn unig) neu y dylai labeli dŵr gynnwys rhywfaint o wybodaeth am ynni, fel tynnu sylw at gostau a faint o ynni y gellir ei arbed drwy ddefnyddio dyfeisiau sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon. O’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn, roedd 26% yn credu y dylid cadw’r labeli ar wahân. Soniwyd y byddai ychwanegu gwybodaeth am ynni at y label yn peri dryswch i gwsmeriaid. Cyfeiriwyd at nifer o resymau, fel na fyddai defnyddwyr yn deall ffactorau defnydd ynni (fel oriau cilowat) ac mae’n bosibl y bydd y prif amcan o ddewis dyfeisiau sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon yn cael ei golli.

Cwestiwn 8: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y gofynion arddangos yn addas i sicrhau bod y label dŵr yn weladwy i’r defnyddiwr? Cofiwch gynnwys unrhyw sylwadau ychwanegol ar y cynigion uchod.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (66%) yn cytuno bod y gofynion arddangos a nodir yn yr ymgynghoriad yn addas i sicrhau bod y label dŵr yn weladwy i’r defnyddiwr. Roedd llawer o’r sylwadau ychwanegol yn cynnwys syniadau am sut i arddangos y label, gyda’r rhan fwyaf yn awgrymu y dylid cael llwyfan ar-lein y gellid ei gysylltu i god QR. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys dadansoddiad costau yn ogystal â gwybodaeth am effeithlonrwydd. Gallai hyn leddfu pryderon a godwyd ynghylch gwelededd a chydymffurfiaeth y labeli. Roedd awydd am ganllawiau clir ynghylch labelu ar-lein, o ystyried bod llawer o eitemau’n cael eu prynu ar-lein yn hytrach nag mewn siop. Roedd ymchwil a gyflwynwyd fel ymateb i’r cwestiwn ymgynghori gan Gymdeithas y Gwneuthurwyr Ystafelloedd Ymolchi yn awgrymu “mae 40% o’r cynnyrch yn cael ei brynu drwy’r gosodwr ac, felly, drwy’r rhwydwaith masnachwyr”. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i ymgysylltu y tu hwnt i labelu er mwyn cyflawni amcan y polisi o leihau’r galw am ddŵr. Codwyd mater ynghylch y dryswch posibl rhwng y label orfodol newydd a’r labeli gwirfoddol presennol, lle maen nhw’n bresennol.

Ymatebion i gwestiwn 8

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 26
Cytuno 38
Niwtral 13
Anghytuno 6
Anghytuno’n gryf 3
Ddim yn gwybod / Dim ateb 12

Ymateb y Llywodraeth

Byddwn yn gweithio gyda’n grŵp o randdeiliaid arbenigol i gwblhau’r dyluniad ar sail y dyluniad a gynigir yn y ddogfen ymgynghori ac a gefnogir gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr. Byddwn yn edrych ar yr opsiwn o gynnwys cod QR a gwybodaeth ychwanegol gyda dolen i’r gronfa ddata labelu. Er bod yna gefnogaeth i gynnwys gwybodaeth am ynni ar y label (ar gyfer tapiau a chawodydd heb fod yn rhai trydanol), roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cefnogi label annibynnol a oedd yn canolbwyntio ar wybodaeth am effeithlonrwydd dŵr (Cwestiwn 2). Rydyn ni am sicrhau bod y label yn canolbwyntio ar y defnydd o ddŵr, ond byddwn ni’n ystyried ymgyrchoedd gwybodaeth ynghylch y cysyniad bod lleihau’r defnydd o ddŵr yn lleihau’r defnydd o ynni (er enghraifft, ar gyfer cawodydd sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon). Gellid gwreiddio hyn yn y wybodaeth sydd ar gael drwy’r cod QR. Oherwydd yr ystod amrywiol o systemau gwresogi dŵr, mae’n anymarferol cynnwys defnydd ynni ar gyfer tapiau a chawodydd. Bydd hyn hefyd yn mynd i’r afael â galwadau i symleiddio dyluniad y label.

Byddwn ni’n datblygu ein cynllun labelu ar sail y gofynion arddangos a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori sy’n cael ei ategu gan ymatebion ac yn ystyried y ffordd orau o orfodi bod y label yn cael ei gynnwys wrth werthu ar-lein. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda’r grŵp rhanddeiliaid arbenigol i drafod marchnata, hyrwyddo ac addysg am y label i sicrhau y gall gosodwyr fod yn hyderus wrth argymell dyfeisiau sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon. Rydyn ni’n argymell mai dim ond label effeithlonrwydd dŵr gorfodol y DU y dylid ei arddangos i leihau dryswch posibl i ddefnyddwyr.

Gorfodi

Cwestiwn 9: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r wybodaeth rydyn ni’n ei chynnig ar gyfer y gronfa ddata yn atodiad E?

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (53%) yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’n cynigion mewn perthynas â pha wybodaeth i’w chynnwys mewn cronfa ddata o labeli dŵr. Nid oedd tua 19% yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwn, neu nid oedd ganddynt ateb iddo. At ei gilydd, roedd yr ymatebwyr yn gefnogol i gael cronfa ddata, fodd bynnag, nid oedd 20% yn credu bod rheswm i ychwanegu gwybodaeth am gostau ac aeth rhai gam ymhellach, gan ddweud nad oedd angen gwybodaeth am lefelau sŵn. Dim ond un wnaeth sylw ar y delweddau, gan nodi na ddylid eu defnyddio a dim ond un a soniodd am yr angen i gynnwys enwau’r gwneuthurwyr. Dywedodd dau o’r ymatebion na ddylai’r label fod yn berthnasol i ddyfeisiau morol. Canolbwynt llawer o’r ymatebion oedd pwy fyddai’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am orfodi/diweddaru’r gronfa ddata.

Ymatebion i gwestiwn 9

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 18
Cytuno 34
Niwtral 12
Anghytuno 9
Anghytuno’n gryf 6
Ddim yn gwybod / dim ateb 19

Cwestiwn 10: A ddylid cynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol i’r hyn a nodir yn atodiad E mewn cronfa ddata?

Nid oedd mwyafrif bychan o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn (51 ymateb) yn credu bod angen cynnwys gwybodaeth ychwanegol mewn cronfa ddata. Soniwyd dro ar ôl tro am yr angen i gynhyrchion gydymffurfio â rheoliadau ffitiadau dŵr ac y dylid eu profi am ollyngiadau ac y gellid rhoi ardystiad am hyn a fyddai’n cael ei gyhoeddi ar-lein gyda’r cynnyrch. Awgrym arall oedd y dylid dangos sgôr y cynnyrch wrth ymyl y cynnyrch ar-lein. Gofynnodd sawl ymatebydd hefyd am gynnwys cyfradd llif dŵr y cynllun.

Ymatebion i gwestiwn 10

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Ddim yn gwybod / dim ateb 8
Nac ydi 51
Ydi 39

Cwestiwn 11: A oes unrhyw safonau neu reoliadau sy’n bodoli eisoes y tu hwnt i’r rheini a restrir ar dudalennau 99 - 104 o adroddiad technegol yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST), a allai, yn eich barn chi, fod â goblygiadau o ran darparu labeli effeithlonrwydd dŵr gorfodol?

Roedd y rhan fwyaf o’r 22 ymateb i’r cwestiwn hwn yn deillio o’r sectorau canlynol:

  • cyflenwyr dŵr (7)
  • gweithgynhyrchwyr (5)
  • cyrff anllywodraethol (3)

Argymhellodd nifer (9) yr angen i gynnwys Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Soniwyd hefyd y dylid cynnwys mecanwaith adolygu tebyg i’r hyn sydd gan Gynllun Labelu Effeithlonrwydd Dŵr Awstralia o ran ei gostau a’i fanteision bob pum mlynedd, gydag adroddiad yn cynnwys argymhellion i wella’r cynllun.

Cwestiwn 12: Amlinellwch y meini prawf y dylai’r awdurdod gorfodi eu bodloni yn eich barn chi, ac eglurwch eich rhesymau dros hynny.

O’r 57 o ymatebwyr, soniodd 20 yn benodol y dylai’r awdurdod archwilio labeli a arddangosir a rhoi sylw i faterion nad oeddynt yn bodloni’r safonau. Roedd 11 o ymatebion yn nodi’r angen i’r awdurdod wirio’r profion sydd wedi cael eu cynnal i sicrhau nad oedd unrhyw adroddiadau ffug. Crybwyllwyd y dylid hefyd cael proses adolygu ac adrodd bob 5 mlynedd a fyddai’n darparu gwybodaeth am unrhyw gamau gorfodi a gymerid. Roedd rhai o’r ymatebwyr yn sôn am yr angen i’r awdurdod gorfodi allu rhoi dirwyon er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Soniwyd hefyd y dylai fod gan yr awdurdod gorfodi rywfaint o allu i hyrwyddo’r label.

Cwestiwn 13: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynllun gorfodi ar gyfer labeli effeithlonrwydd dŵr gorfodol?

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (62%) yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cynllun gorfodi arfaethedig.

Ymatebion i gwestiwn 13

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 28
Cytuno 32
Niwtral 16
Anghytuno 2
Anghytuno’n gryf 6
Ddim yn gwybod / dim ateb 14

Cwestiwn 14: Oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach am y cynllun gorfodi?

Nodwyd bod angen ariannu’r drefn orfodi’n ddigonol i sicrhau ei bod yn effeithiol. Un testun pryder a godwyd yw y bydd y gost yn cael ei throsglwyddo i ddefnyddwyr. Crybwyllwyd y dylai fod yn symlach i’r gwneuthurwyr ei brofi hefyd, fel nad yw’n peri dryswch iddynt. Mewn sawl ymateb, crybwyllwyd dibynadwyedd profion a rôl gryfach profi cynnyrch fel rhywbeth a ddylai fod yn agwedd allweddol ar orfodaeth. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn awgrymu y dylid rhannu unrhyw fetrigau perfformiad gyda’r cyhoedd.

Ymateb y Llywodraeth

Ar ôl creu’r rheoliadau, byddwn yn dechrau datblygu cronfa ddata i alluogi defnyddwyr i gael gafael ar wybodaeth am effeithlonrwydd dŵr cynhyrchion sy’n defnyddio dŵr yng nghwmpas y Cynllun Labelu Effeithiolrwydd Dŵr Gorfodol. Bydd hyn yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus wrth brynu. Defra sy’n gweinyddu’r gronfa ddata ac roedd yr asesiad effaith yn cyfrifo’r costau. Bydd angen i gynhyrchion gydymffurfio â Rheoliadau Ffitiadau a Gosodion 1999 a bydd angen tystiolaeth eu bod wedi cael eu profi gan ddarparwr achrededig er mwyn cael eu labelu, a bydd y gronfa ddata yn egluro hyn.

Rydyn ni’n cynnig adrodd ar y cynllun labelu fel rhan o’n hadroddiadau blynyddol ar y Targed Galw am Ddŵr a’r Cynllun Gwella Amgylcheddol a osodwyd o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021. Byddwn ni’n adolygu’r cynllun labelu yn unol â dyddiadau adolygu’r Targed Galw am Ddŵr ar gyfer Lloegr a nodir yn Neddf yr Amgylchedd 2021.

Gan fod y rhan fwyaf o’r ymatebion yn cytuno â’n dull gweithredu arfaethedig ar gyfer y drefn orfodi, byddwn yn datblygu’r polisi hwn ymhellach ac yn trafod gyda phartneriaid ynglŷn â sut i’w gyflawni. Rydyn ni’n cynnig y dylid rhestru rheoliadau’r Cynllun Labelu Effeithiolrwydd Dŵr Gorfodol ac ISO ar labelu ar y rhestr safonau dynodedig, a fyddai hefyd yn gosod mandad ar gyfer y gofynion profi.

Effeithiau

Cwestiwn 15: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod pob un o’r canlynol yn gywir?

Mae barn yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad wedi’i hollti, gyda:

  • 28% yn cytuno
  • 14% yn anghytuno
  • 24% yn niwtral.

Cafwyd nifer o ymatebion a oedd yn mynegi pryder neu rwystredigaeth nad oedd yn rhwydd cael gafael ar y data i gefnogi’r ffigurau a amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori er mwyn gallu eu herio. Awgrymodd nifer fach o ymatebwyr fod y manteision yn cael eu tanbrisio, gan nad oedd yn cynnwys offer allanol, fel pibellau dŵr.

Ymatebion i gwestiwn 15

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 7
Cytuno 21
Niwtral 24
Anghytuno 9
Anghytuno’n gryf 5
Ddim yn gwybod / dim ateb 32

Cwestiwn 16: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y costau a’r bendithion yn gywir?

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion yn niwtral neu ddim yn gwybod neu heb ateb y cwestiwn. Roedd tua 33% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r costau a’r manteision ac roedd 19% yn anghytuno. Cyfeiriodd llawer o ymatebion at chwyddiant diweddar a chostau ynni fel rheswm dros beidio â chredu bod y costau a’r manteision yn gywir. Fodd bynnag, gwnaed achosion dros gael costau uwch, ac yn ychwanegol at hynny, i’r arbedion posibl fod yn fwy hefyd. Cafwyd sylwadau hefyd gan nifer fach o randdeiliaid a oedd yn dadlau y byddai costau rhedeg y label dŵr unedig gwirfoddol yn is na chost y label gorfodol arfaethedig.

Ymatebion i gwestiwn 16

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 5
Cytuno 27
Niwtral 16
Anghytuno 10
Anghytuno’n gryf 9
Ddim yn gwybod / dim ateb 31

Cwestiwn 17: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod yna effaith gyfyngedig ar gwmnïau llai?

Roedd tua 31% yn anghytuno bod yna effaith gyfyngedig ar gwmnïau llai, gyda 24% yn cytuno ac 16% yn niwtral. Roedd y sylwadau’n canolbwyntio’n bennaf ar y materion y byddai busnesau bach yn eu hwynebu o ran meysydd fel costau cydymffurfio, costau argraffu labeli a chostau ychwanegol mewn ystafelloedd arddangos.

Ymatebion i gwestiwn 17

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 8
Cytuno 16
Niwtral 16
Anghytuno 19
Anghytuno’n gryf 12
Ddim yn gwybod / dim ateb 27

Cwestiwn 18: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n hasesiad o’r effeithiau o ran cydraddoldeb? Rhowch unrhyw wybodaeth i gefnogi eich barn.

Cafwyd 31 o ymatebion i’r cwestiwn. Roedd tua hanner (47%) yn cytuno â’n hasesiad o’r effeithiau ar gydraddoldeb a doedd 28% ddim yn gwybod neu heb ateb y cwestiwn. O’r rhain, amlinellodd 5 ymatebydd eu syndod nad oes safonau gofynnol a bod angen i’r polisi terfynol gynnwys safonau sylfaenol. Soniodd sawl un y dylid cael rhai eithriadau i’r label, yn enwedig pan fydd yn ymwneud ag agwedd ar iechyd a diogelwch. Er enghraifft, yn y maes meddygol. Crybwyllodd un ymatebydd hefyd y dylid eithrio cynhyrchion morol oherwydd y diffyg dŵr maen nhw’n ei ddefnyddio. Awgrymwyd y dylid cyfyngu eithriadau labelu i achosion lle mae angen cyfraddau uwch o lif dŵr oherwydd amodau amgylcheddol lleol a’r defnydd a fwriedir ei wneud o’r cynnyrch, er enghraifft defnydd meddygol a diogelwch.

Ymatebion i gwestiwn 18

Ymatebion Nifer yr ymatebion
Cytuno’n gryf 20
Cytuno 26
Niwtral 8
Anghytuno 10
Anghytuno’n gryf 7
Ddim yn gwybod / dim ateb 27

Cwestiwn 19: Yn ogystal â’r cwestiynau blaenorol, a oes unrhyw wybodaeth arall yr hoffech ei rhannu ynghylch y labeli effeithlonrwydd dŵr gorfodol arfaethedig yn y DU?

Yn bennaf, roedd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn yn amlinellu safbwynt cyffredinol yr ymgynghorai a oedd yn amlinellu cefnogaeth ac yn atgyfnerthu pwyntiau a wnaed drwy gydol eu hymatebion i’r ymgynghoriad. Er enghraifft, codi’r angen am safonau sylfaenol ac ehangu ein huchelgais o ran yr ystod o gynhyrchion sydd wedi cael eu cynnwys, fel pibellau dŵr. Soniwyd hefyd am y label dŵr unedig gwirfoddol sydd eisoes yn bodoli ym marchnad y DU.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r ymchwil annibynnol a waned gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i adolygu costau a manteision y gwahanol opsiynau ar gyfer label effeithlonrwydd dŵr sydd ar gael i’r cyhoedd (Adroddiad Technegol Cam 1 Labelu Dŵr). Adolygwyd yr adroddiad gan gymheiriaid a’i ddiweddaru mewn camau pellach i ddarparu gwybodaeth fwy penodol am effeithiau’r rhaglen labelu.

Byddwn yn diweddaru ffigurau lle bo hynny’n briodol i ystyried effaith chwyddiant mewn costau yn ogystal â buddion o ran biliau dŵr ac ynni. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr Asesiad Effaith a fydd yn cyd-fynd â’r offeryn statudol i gyflawni’r cynllun labelu. Byddwn yn ystyried effeithiau cydraddoldeb ar gyfer y sector morol yn ogystal ag iechyd a diogelwch wrth ddatblygu’r label yn y dyfodol, gan gynnwys safonau sylfaenol ar gyfer cynnyrch.

Nodwyd y canlynol yn ymateb Ofwat, rheoleiddiwr economaidd y cwmnïau dŵr:

“Rydym yn falch o weld bod y cynigion ar gyfer y label annibynnol yn berthnasol i’r DU gyfan ac yn cynnwys ystod gynhwysfawr o gynnyrch a chyfarpar sy’n defnyddio dŵr. Rydyn ni’n arbennig o gefnogol i gynigion i symleiddio’r label a fydd i’w weld yn amlwg ar gynnyrch yn y man gwerthu” ac “o ystyried y ffocws parhaus ar gadernid, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd cyflenwadau dŵr, byddem yn falch iawn o weld cynnydd cyflym o ran creu cysylltiad rhwng y labeli effeithlonrwydd dŵr arfaethedig â rheoliadau adeiladu a safonau gofynnol.”

Rydym yn tynnu sylw at hyn gan fod labelu yn bolisi galluogi allweddol i gwmnïau dŵr er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein Targed statudol o ran y Galw am Ddŵr ar gyfer Lloegr.

Y camau nesaf

Yn seiliedig ar brisiau 2019, gallai’r label arbed:

  • £125 miliwn ar filiau dŵr dros 10 mlynedd
  • £147 miliwn ar filiau ynni dros 10 mlynedd
  • 1,200 miliwn litr o ddŵr y dydd (cyfwerth â 480 o byllau nofio Olympaidd)

Mae gweithredu’r label effeithlonrwydd dŵr gorfodol arfaethedig yn bolisi galluogi ar gyfer cwmnïau dŵr a’r sector adeiladu i’n helpu i gyrraedd Targed Statudol Lloegr o ran y Galw am Ddŵr a’r targedau interim anstatudol a osodwyd o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021. Bydd darparu gwybodaeth glir am effeithlonrwydd dŵr ar gynhyrchion yn galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Yna gellir cefnogi’r penderfyniadau hyn gyda chyfathrebiadau a chymhellion.

Byddwn yn defnyddio’r ymatebion i’r ymgynghoriad i lywio’r gwaith o gyflawni’r label effeithlonrwydd dŵr gorfodol i’w gyflwyno gan ddefnyddio pwerau o dan adran 52 ac atodlen 6 Deddf yr Amgylchedd 2021. Mae effeithlonrwydd dŵr yn faes polisi lle mae’r cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli ac felly byddwn yn bwrw ymlaen a hyn ar y cyd â’r canlynol:

  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth yr Alban
  • Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon

Byddwn yn gweithio gyda’r sefydliadau sy’n rhan o’n gweithdai cyn yr ymgynghoriad a’n grŵp llywio i gwblhau’r gwaith o ddylunio labeli a safonau ar gyfer pob cynnyrch. Byddwn hefyd yn cwblhau ein polisi a’n dull gorfodi. Ein nod yw cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth yn 2024 a byddwn yn datblygu:

  • y gronfa ddata cynnyrch
  • dull cyffredinol o labelu
  • system gofrestru
  • ein gwefan
  • dull o hyrwyddo a marchnata’r label

Ein nod yw lansio hyn i gyd yn 2025.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi yn Cynllun Dŵr y byddwn yn ymgynghori ar safonau effeithlonrwydd dŵr sylfaenol, ac yn mynd ati i’w datblygu, gan gynnwys ar gyfer cawodydd, tapiau, toiledau yn dilyn lansiad y Cynllun Labelu Effeithlonrwydd Dŵr Gorfodol.

Rydyn ni’n cynnig y dylid cyflwyno hyn yn raddol yn dilyn ymgynghori pellach. Byddwn hefyd yn cysylltu datblygiad y label â’r camau gweithredu a nodir yn y map ar gyfer y cynllun gwella amgylcheddol ar effeithlonrwydd dŵr mewn datblygiadau newydd a chynlluniau ôl-osod. Byddwn ni hefyd yn cynnal adolygiad o effeithlonrwydd y label ar ôl 5 mlynedd. Fel rhan o hyn byddwn yn ystyried cynnwys cynhyrchion eraill sydd o dan sylw.

Atodiad 1

Rhestr o’r sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad.

  • Affinity Water
  • Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Offer Domestig (AMDEA)
  • Anglian Water
  • B&Q
  • Cymdeithas y Gwneuthurwyr Ystafelloedd Ymolchi
  • BEAMA
  • Berkeley Group
  • BLANCO GmbH + Co. KG
  • Blueprint for Water
  • British Marine
  • Consortiwm Adwerthu Prydain
  • Ffederasiwn y Masnachwyr Adeiladwyr
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Clwb Carafanau a Chartrefi Modur
  • Cyngor y Defnyddwyr Dŵr (CCW)
  • Cymdeithas Chiltern
  • Confinidustria Ceramica
  • Ymgynghori
  • Cyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon
  • Consumer Scotland
  • Croydex Ltd
  • Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
  • Essex and Suffok Water
  • Gwasanaethau Ariannol
  • Grundfos Pumps Ltd
  • Hafren Dyfrdwy
  • Cyngor Hampshire
  • IKEA
  • Ymgynghorydd annibynnol
  • Independent Water Networks Limited (IWNL)
  • Jacobs
  • Janet Manning Consulting
  • JPJN Partners Cyf
  • Kiwa Watertec
  • Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Wleidyddol Llandudno
  • Mace
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Neoperl
  • NH65 Consultancy
  • Northern Ireland Water
  • Northumbria Water Cyf
  • Owl Cottage Accessible Holidays
  • PJH
  • Portsmouth Water
  • Raison Home UK LTD
  • Recoup Energy Solutions Ltd
  • Scottish Water
  • Severn Trent Water
  • South Staffs Water a Cambridge Water
  • South West Water Ltd
  • StH Westco
  • Thames Water
  • Sefydliad Gosod Ceginau, Ystafelloedd Gwely ac Ystafelloedd Ymolchi Prydain
  • The Rivers Trust
  • UKGBC
  • Cymdeithas Labeli Dŵr Unedig (UWLA)
  • Water Regs UK
  • Water Resources West
  • Water2050
  • Waterwise
  • Dŵr Cymru
  • Worshipful Company of Water Conservators
  • Cynllun Cynghori ar y Rheoliadau Dŵr (WRAS )
  • Canolfan Ymchwil Dŵr (WRc)
  • Water Resources East
  • Yorkshire Water