Canlyniad yr ymgynghoriad

Gwella rheolau archebu profion gyrru ceir

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Manylion am y canlyniad

Cawsom 102,224 o ymatebion i’r ymholiad. Ar 12 Tachwedd 2025, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Heidi Alexander, ganlyniad yr ymgynghoriad i wella rheolau archebu profion gyrru ceir. Rydyn nhw yn:

  • dim ond gyrwyr sy’n dysgu fydd yn gallu archebu a rheoli profion gyrru ceir
  • bydd gyrwyr sy’n dysgu yn gyfyngedig i wneud hyd at 2 newid i’w prawf i gyd (er enghraifft, un newid (dyddiad neu leoliad) ac un cyfnewid)
  • dim ond i ganolfannau prawf o fewn ardal ddaearyddol benodol o’r archeb wreiddiol y gellid symud profion

Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno yng ngwanwyn 2026. Byddwn yn cyhoeddi’r canlyniad llawn gyda manylion ynghylch sut y bydd y newidiadau’n cael eu rhoi ar waith a phryd cyn gynted â phosibl.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Opsiynau i wella rheolau archebu profion gyrru ceir i wneud y system yn decach ac atal pobl rhag ailwerthu profion.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg (English).

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) eisiau eich barn ar newidiadau posibl i sut y gellir archebu a rheoli profion gyrru. Rydym yn edrych ar 2 brif faes:

  • pwy ddylai gael caniatâd i archebu a rheoli profion gyrru
  • a ddylem ni gyfyngu neu ddileu’r gallu i newid canolfannau prawf a chyfnewid profion rhwng gwahanol ddysgwyr

Nod y newidiadau hyn yw gwneud y system yn decach ac atal pobl rhag gorfod talu ffioedd gormodol am archebu profion.

Dogfennau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Tachwedd 2025 show all updates
  1. Added response to consultation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon