Gwarchod adar gwyllt y gellir eu hela yn well
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym ni eisiau gwybod beth rydych chi’n ei feddwl o’r newidiadau deddfwriaethol yr ydym yn eu cynnig i adlewyrchu anghenion cadwraeth rhai rhywogaethau adar gwyllt yn y Deyrnas Unedig.
Mae pob aderyn gwyllt yn cael ei warchod dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ond mae eithriadau yn caniatáu i rai rhywogaethau, sy’n cael eu rhestru ar atodlen o’r Ddeddf, i gael eu saethu at ddibenion hamdden a chynaeafu. Mae hyn yn effeithio’n bennaf ar hwyaid, gwyddau ac adar hirgoes. Rydym ni eisiau sicrhau bod saethu’r adar hyn yn gynaliadwy.
Rydym ni’n cynnig:
- tynnu rhai rhywogaethau oddi ar y rhestr
- ymestyn y tymor gwaharddedig i rai rhywogaethau
- ychwanegu ysguthan at yr atodlen er mwyn cyflwyno tymor gwaharddedig yn ystod ei chyfnod bridio