Consultation outcome

Firearms safety - government response (accessible Welsh version)

Updated 20 July 2022

Ymgynghoriad Diogelwch Arfau Tanio

Ymateb y Llywodraeth

Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2022

Rhagair

Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r papur ymgynghori ‘Diogelwch Arfau Tanio’, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ar 24 Tachwedd 2020.

Mae’n cwmpasu:

  • cefndir yr ymgynghoriad,
  • crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad,
  • ymateb manwl i’r cwestiynau penodol a godwyd yn yr ymgynghoriad, ac
  • y camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Cefndir

Cyhoeddwyd y papur ymgynghori ar Ddiogelwch Arfau Tanio ar 24 Tachwedd 2020. Roedd yn gwahodd sylwadau ar ystod o faterion ynghylch diogelwch arfau tanio a godwyd gyda’r Llywodraeth yn ystod taith Deddf Arfau Ymosodol 2019 drwy’r Senedd. Roedd y papur yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer sut y gallai’r gyfraith gael ei newid i liniaru’r risgiau diogelwch y cyhoedd a allai gael eu codi gan y materion penodol hyn.

Roedd y cynigion yn ymwneud â:

Reifflau Egni Trwyn Uchel

Mewn ymateb i bryderon ynghylch y posibilrwydd o gamddefnydd difrifol a cholli bywyd pe byddai arfau tanio arbennig o bwerus, a ddisgrifir yma fel reifflau Egni Trwyn Uchel, yn mynd i ddwylo troseddwyr neu derfysgwyr, gofynnodd y Llywodraeth am farn y cyhoedd ar ba lefel o ddiogelwch uwch a fyddai’n lleihau’r risg o ddwyn a chamddefnyddio reifflau Egni Trwyn Uchel yn ddigonol.

Arfau aer

Er nad yw’r rhan fwyaf o arfau aer wedi’u trwyddedu, arfau tanio ydynt a maent yn cael eu rheoleiddio gan ddeddfwriaeth arfau tanio i atal eu camddefnydd. Yn dilyn marwolaeth drasig Benjamin Wragge, 13 oed, a laddwyd yn ddamweiniol ag arf aer yn 2016, cynhaliodd y Llywodraeth adolygiad o’r rheolaethau ar arfau aer. Roedd yr ymgynghoriad Diogelwch Arfau Tanio yn crynhoi’r ymatebion i’r adolygiad hwnnw ac yn gofyn am farn ar gynigion y Llywodraeth ar gyfer newid. Mae’r cynigion yn ymwneud â meddiant arfau aer gan rai dan 18 oed, storio’n ddiogel a chadw arfau aer yn ddiogel.

Meysydd reifflau bychain

Mae esemptiad yn y gyfraith arfau tanio sy’n caniatáu i berson redeg maes reifflau neu oriel saethu lle mai dim ond reifflau o galibr bach neu arfau aer sy’n cael eu defnyddio, heb fod angen trwydded arfau tanio. Yn ogystal, nid oes angen trwydded arfau tanio ar aelodau’r cyhoedd i saethu mewn maes neu oriel o’r fath. Defnyddir yr esemptiad hwn yn eang i gyflwyno pobl i saethu targed. Fodd bynnag, roedd gorfodi’r gyfraith wedi codi pryderon y gallai’r esemptiad ganiatáu i bobl anaddas gael mynediad at arfau tanio, gyda risgiau i ddiogelwch y cyhoedd o ganlyniad. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar wella’r rheolaethau ar feysydd reifflau bychain tra’n cadw’r manteision y mae meysydd reifflau bychain yn eu cyflwyno i chwaraeon saethu. Y cynnig allweddol oedd bod rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gweithredu maes reifflau bychan wneud cais am dystysgrif arfau tanio a chael yr archwiliadau heddlu angenrheidiol i’w cefndir a’u diogelwch.

Bwledi

Roedd gorfodi’r gyfraith wedi codi pryderon ynghylch argaeledd cydrannau bwledi, a sut y gallai troseddwyr eu defnyddio i gynhyrchu rowndiau llawn o fwledi’n anghyfreithlon. Mae cydrannau allweddol bwledi – y gyrrydd a’r preimiwr – eisoes wedi’u rheoli, ac mae troseddau’n ymwneud â meddiannu bwledi cyflawn yn anghyfreithlon.

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ynghylch a yw’r rheolaethau hyn yn parhau i fod yn ddigonol neu a ddylid eu cryfhau. Yn benodol, a ddylai fod yn drosedd meddu ar gydrannau bwledi gyda’r bwriad o gynhyrchu symiau anawdurdodedig o rowndiau cyflawn o fwledi.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 16 Chwefror 2021 ac mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion, gan gynnwys sut y dylanwadodd y broses ymgynghori ar ddatblygiad pellach y cynigion yr ymgynghorwyd arnynt.

Mae’r asesiadau effaith sy’n cyd-fynd â’r ymgynghoriad wedi’u diweddaru a gellir eu gweld yn gov.uk.

Mae fersiwn Gymraeg o’r crynodeb hwn i’w weld yn gov.uk.

Mae rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd yn Atodiad A.

Crynodeb o’r ymatebion

Fe gawsom gyfanswm o 12,758 o ymatebion i’r ymgynghoriad, yn cynnwys 12,293 o ymatebion i’r arolwg ar-lein a 465 o ymatebion drwy e-bost. Hepgorir ymatebion arolwg ar-lein a gwblhawyd yn rhannol ar y sail na chyrhaeddodd yr ymatebydd ddiwedd yr arolwg i gadarnhau eu bod yn barod i gyflwyno eu hymateb yn ffurfiol. Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion drwy’r post.
Fe ddaeth ymatebion oddi wrth amrywiaeth o randdeiliaid. Roedd oddeutu dwy ran o dair (67.7%) yr ymatebwyr wedi’u categoreiddio fel aelodau’r cyhoedd. Roedd bron i chwarter (22.8%) yr ymatebwyr yn hunan-nodi fel aelodau’r gymuned saethu.

Dangosir dadansoddiad o’r categorïau ymatebwyr yn y tabl isod:

Ymatebion Canran
Lles Anifeiliaid 22 0.2%
Deliwr Arfau Tanio 176 1.4%
Gorfodi’r Gyfraith 39 0.3%
Aelodau’r Cyhoedd 8,636 67.7%
Arall 660 5.2%
Y Gymuned Saethu 2,905 22.8%
Sefydliad Saethu 320 2.5%
Cyfanswm 12,758 100.1%

Sylwch na fydd pob canran yn y ddogfen hon yn dod i 100% oherwydd gwallau talgrynnu.

Mae ‘sefydliad saethu’ yn cynnwys unrhyw un a hunan-adroddodd eu bod yn cynrychioli neu’n gysylltiedig â chymdeithas neu gorff sy’n ymwneud â materion saethu.

Mae ‘cymuned saethu’ yn cynnwys unrhyw un a hunan-adroddodd eu bod yn ddefnyddiwr gwn, yn ddeiliad tystysgrif arfau tanio neu’n gysylltiedig â maes saethu neu glwb reifflau. Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys y rhai sydd â galwedigaethau sy’n ymwneud â defnyddio gynnau, megis rheoli pla a ffermio.

Mae ‘deliwr arfau tanio’ yn cynnwys unrhyw un a hunan-adroddodd eu bod yn ymwneud â masnachu gynnau, gan gynnwys gwneuthurwyr gynnau a gwerthwyr arfau tanio cofrestredig.

Mae ‘gorfodi’r gyfraith’ yn cynnwys unrhyw un a hunan-adroddodd ei fod yn aelod gweithredol o asiantaethau gorfodi’r gyfraith.

Mae ‘aelod o’r cyhoedd’ yn cynnwys unrhyw un a nododd eu bod yn aelodau’r cyhoedd neu unrhyw un nad oedd yn cysylltu ei hun yn benodol â saethu.

Mae ‘Arall’ yn cynnwys unrhyw ymatebydd lle nad oedd gwybodaeth glir ar gael (y rhan fwyaf o ymatebwyr e-bost) neu unrhyw un nad oedd ei swydd/arbenigedd yn cyfateb i’r categorïau uchod (er enghraifft, swyddogion gorfodi’r gyfraith wedi ymddeol neu newyddiadurwyr drylliau).

Ymatebion i gwestiynau penodol

Mae’r adran hon yn crynhoi’r ymatebion i’r cwestiynau penodol a ofynnwyd yn y papur ymgynghori. Mae cyfanswm yr ymatebion yn amrywio fesul cwestiwn, gan na roddodd llawer o ymatebwyr ymateb i bob cwestiwn. Bydd yn cael ei amlygu lle bo’n berthnasol os yw categorïau penodol o ymatebwyr yn wahanol i’r ymateb cyffredinol, yn hytrach na darparu dadansoddiad o’r ymatebion fesul categori o ymatebwyr ar gyfer pob cwestiwn.

Adran 1: Reifflau Egni Trwyn Uchel

C1. I ba raddau ydych chi’n ystyried y byddai’r gofynion diogelwch lefel 3 presennol, o’u pennu mewn rheolau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ddigon i liniaru’r risgiau a achosir gan reifflau egni trwyn uchel?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 8,608 69%
Cytuno 1,759 14%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 865 7%
Anghytuno 396 3%
Anghytuno’n gryf 799 6%
Cyfanswm 12,427 99%

Roedd mwyafrif (83%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai’r gofynion diogelwch lefel 3 presennol yn ddigon i liniaru’r risgiau a achosir gan reifflau egni trwyn uchel.

Roedd 9% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai gofynion diogelwch lefel 3 yn ddigonol.

Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystyrlon mewn ymateb rhwng categorïau o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn hwn.

C2. Os nad ydych yn ystyried y byddai diogelwch lefel 3 yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r risgiau, i ba raddau ydych chi’n ystyried y gallai’r amodau diogelwch ychwanegol dilynol fod yn berthnasol i storio a defnyddio’r reifflau hyn yn ddiogel?

Sylwch fod y cwestiwn hwn ar gael i’r holl ymatebwyr waeth beth fo’u hateb i’r cwestiwn blaenorol. Roedd hyn ar y sail, hyd yn oed pe byddai ymatebydd yn ateb yn flaenorol bod diogelwch lefel 3 yn ddigonol, ein bod am roi cyfle i’r ymatebydd leisio barn ar y mesurau dilynol.

A. Gosod caeadau a rhwyllau ar bob drws a ffenestr?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 130 2%
Cytuno 201 3%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 646 11%
Anghytuno 1,389 23%
Anghytuno’n gryf 3,546 60%
Cyfanswm 5,912 99%

Roedd mwyafrif (83%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai gosod caeadau neu rhwyllau ar ddrysau a ffenestri yn berthnasol i storio a defnyddio reifflau egni trwyn uchel yn ddiogel. Roedd canran arbennig o uchel (90%) yn anghytuno neu anghytuno’n gryf â’r mesur hwn ymhlith ymatebwyr a oedd wedi’u categoreiddio fel Delwyr Arfau Tanio.

Roedd 5% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai caeadau neu rhwyllau yn berthnasol.

B. Gosod CCTV

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 436 7%
Cytuno 1,081 18%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1,143 19%
Anghytuno 1,051 18%
Anghytuno’n gryf 2,277 38%
Cyfanswm 5,988 100%

Roedd dros hanner (56%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai gosod CCTV yn berthnasol i storio a defnyddio reifflau egni trwyn uchel yn ddiogel.

Roedd chwarter (25%) yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai gosod CCTV yn berthnasol. Mae hyn yn codi i hanner (50%) ar gyfer ymatebwyr a gafodd eu categoreiddio fel Gorfodi’r Gyfraith, er mai dim ond nifer fach (28) o ymatebwyr o Orfodi’r Gyfraith a atebodd y cwestiwn hwn.

C. Larymau panig ar gael lle mae’r reiffl yn cael ei storio?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 222 4%
Cytuno 561 9%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1,088 18%
Anghytuno 1,376 23%
Anghytuno’n gryf 2,694 45%
Cyfanswm 5,941 99%

Roedd dros ddwy ran o dair (68%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf fod larymau panig lle mae’r reiffl yn cael ei storio yn berthnasol i storio a defnyddio reifflau egni trwyn uchel yn ddiogel.

Roedd 13% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod larymau panig yn berthnasol i ble mae’r reiffl yn cael ei storio.

Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystyrlon mewn ymateb rhwng categorïau o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn hwn.

D. Larymau panig ar gael pan yw’r reiffl yn cael ei ddefnyddio ar faes?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 140 2%
Cytuno 359 6%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 866 15%
Anghytuno 1,444 25%
Anghytuno’n gryf 3,082 52%
Cyfanswm 5,891 100%

Roedd dros dri chwarter (77%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai larymau panig sydd ar gael pan yw reiffl yn cael ei defnyddio ar faes yn berthnasol i storio a defnyddio’n ddiogel. Roedd 81% o ymatebwyr yn y categori Sefydliadau Saethu yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r mesur hwn.

Roedd 8% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai larymau panig pan ddefnyddir reiffl ar faes yn berthnasol.

E. Dylid cadw’r bollt neu gydrannau critigol eraill ar wahân.

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 1,569 26%
Cytuno 2,089 34%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 727 12%
Anghytuno 485 8%
Anghytuno’n gryf 1,214 20%
Cyfanswm 6,084 100%

Roedd 60% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai cadw’r bolltau neu gydrannau critigol eraill ar wahân yn berthnasol i storio a defnyddio reifflau egni trwyn uchel yn ddiogel.

Roedd dros chwarter (28%) yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai hyn yn berthnasol i ddefnydd diogel a storio.

Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystyrlon mewn ymateb rhwng categorïau o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn hwn.

F. Os yw’n ymarferol, a gyda newid yn y gyfraith neu amodau tystysgrif, aelodau eraill o glwb saethu’r deiliad i ofalu am gydrannau hanfodol ar ran ei gilydd?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 198 3%
Cytuno 403 7%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 769 13%
Anghytuno 1,212 20%
Anghytuno’n gryf 3,440 57%
Cyfanswm 6,022 100%

Roedd dros dri chwarter (77%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai aelodau eraill o’r clwb saethu sy’n gofalu am gydrannau critigol i’w gilydd yn berthnasol i ddefnyddio a storio’r reifflau’n ddiogel.

Roedd 10% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai hyn yn berthnasol.

Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystyrlon mewn ymateb rhwng categorïau o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn hwn.

G. Cadw bwledi ar wahân i’r gwn mewn cabinet ar wahân a dim ond nifer fach o rowndiau o fwledi’n cael ei ganiatáu?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 634 10%
Cytuno 1,415 23%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 910 15%
Anghytuno 1,160 19%
Anghytuno’n gryf 1,952 32%
Cyfanswm 6,071 99%

Roedd dros hanner (51%) yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai cadw bwledi mewn cabinet ar wahân i’r gwn a chaniatáu ychydig bach o fwledi’n unig yn berthnasol i ddefnyddio a storio’r reifflau’n ddiogel.

Roedd traean (33%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai’r mesur hwn yn berthnasol. Roedd cytuno neu gytuno’n gryf â’r mesur hwn yn uwch ar gyfer ymatebwyr yn y categori Gorfodi’r Gyfraith (50%) a Sefydliadau Saethu (42%).

C3. I ba raddau y byddai’n well/hyfyw ei gwneud yn ofynnol i’r reifflau hyn gael eu storio mewn clwb gynnau yn unig?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 381 3%
Cytuno 130 1%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 365 3%
Anghytuno 1,416 11%
Anghytuno’n gryf 10,114 82%
Cyfanswm 12,406 100%

Roedd mwyafrif (93%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno’n gryf neu’n anghytuno y byddai’n well neu’n hyfyw ei gwneud yn ofynnol i reifflau Egni Trwyn Uchel gael eu storio mewn clwb gynnau’n unig.

Roedd 4% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai’r mesur hwn yn well neu’n hyfyw. Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystyrlon mewn ymateb rhwng categorïau o ymatebwyr ar gyfer y cwestiwn hwn.

C4. I ba raddau y byddai’n well/hyfyw ei gwneud yn ofynnol i’r reifflau hyn gael eu storio gan ddeliwr arfau tanio cofrestredig yn unig?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 330 3%
Cytuno 76 1%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 275 2%
Anghytuno 1,135 9%
Anghytuno’n gryf 10,588 85%
Cyfanswm 12,404 100%

Roedd mwyafrif (94%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno’n gryf neu’n anghytuno y byddai’n well neu’n ymarferol i reifflau Egni Trwyn Uchel gael eu storio gan ddeliwr arfau tanio cofrestredig yn unig. Roedd 96% o’r ymatebwyr a gategoreiddiwyd fel Deliwr Arfau Tanio’n anghytuno’n gryf neu’n anghytuno â’r mesur hwn.

Roedd 4% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno’n gryf neu’n cytuno y byddai’r mesur hwn yn well neu’n hyfyw.

Adran 2: Arfau Aer

C6. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r Llywodraeth ddileu’r eithriad sy’n caniatáu meddiant heb oruchwyliaeth o arfau aer gan rai dan 18 oed ar dir preifat?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 854 7%
Cytuno 894 7%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 725 6%
Anghytuno 1,699 13%
Anghytuno’n gryf 8,468 67%
Cyfanswm 12,640 100%

Roedd 80% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y dylid dileu’r eithriad sy’n caniatáu meddiant heb oruchwyliaeth o arfau aer gan rai dan 18 oed ar dir preifat. Roedd 82% o’r ymatebwyr a gategoreiddiwyd fel Aelodau’r Cyhoedd yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r mesur hwn.

Roedd 14% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylid dileu’r eithriad hwn.

C7. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r Llywodraeth egluro’r drosedd o fethu â chymryd ‘rhagofalon rhesymol’ i atal plant dan oed rhag cael arfau aer fel bod rhaid i ‘ragofalon rhesymol’ gynnwys cloi’r arf aer i ffwrdd o’r golwg pryd bynnag y bydd pobl ifanc dan 18 oed ar y safle pan nad yw’n cael ei ddefnyddio a storio’r bwledi ar wahân?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 4,933 39%
Cytuno 3,147 25%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1,050 8%
Anghytuno 1,160 9%
Anghytuno’n gryf 2,346 19%
Cyfanswm 12,636 100%

Roedd bron i ddwy ran o dair (64%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylai’r Llywodraeth egluro bod rhaid i ‘ragofalon rhesymol’ gynnwys cloi arfau aer i ffwrdd o’r golwg a storio bwledi ar wahân. Roedd hyn ychydig yn uwch (69%) ymhlith ymatebwyr a gategoreiddiwyd fel Sefydliadau Saethu.

Roedd 28% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y dylid gwneud yr eglurhad hwn.

C8. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r Llywodraeth weithio gyda diwydiant i wella’r modd y caiff arfau aer eu cadw a’u trin yn ddiogel, er mwyn sicrhau bod dyfeisiau diogelwch cartref yn cael eu cyflenwi â phob arf aer newydd; ac y dylai delwyr esbonio pwysigrwydd trin a storio arfau aer newydd yn ddiogel i brynwyr arfau aer newydd yn y man gwerthu?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 1,859 15%
Cytuno 7,193 57%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1,273 10%
Anghytuno 884 7%
Anghytuno’n gryf 1,425 11%
Cyfanswm 12,634 100%

Roedd bron i dri chwarter (72%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylai’r Llywodraeth weithio gyda’r diwydiant i wella’r mesurau a amlinellwyd yng nghwestiwn 8. Roedd 77% o’r ymatebwyr a gategoreiddiwyd fel Sefydliadau Saethu yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cwestiwn hwn. Roedd canran is (65%) ar gyfer ymatebwyr a gategoreiddiwyd fel Delwyr Arfau Tanio.

Roedd 18% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r dull hwn.

Adran 3: Meysydd reifflau bychain

C10. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i berson gael tystysgrif arfau tanio er mwyn gweithredu maes reifflau bychan?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 3,083 25%
Cytuno 6,037 48%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 896 7%
Anghytuno 900 7%
Anghytuno’n gryf 1,627 13%
Cyfanswm 12,543 100%

Roedd bron i dri chwarter (73%) o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylai person sy’n gweithredu maes reifflau bychan gael tystysgrif arfau tanio. Roedd dros dri chwarter (78%) yr ymatebwyr a gategoreiddiwyd fel Sefydliadau Saethu yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r mesur hwn.

Roedd 20% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r mesur hwn.

C11. I ba raddau ydych chi’n cytuno mai dim ond reifflau nad ydynt yn fwy na .22 y dylid eu hystyried yn reifflau bychain at ddibenion y ddarpariaeth?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 2,422 19%
Cytuno 6,823 55%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1,299 10%
Anghytuno 754 6%
Anghytuno’n gryf 1,213 10%
Cyfanswm 12,511 100%

Roedd bron i dri chwarter (74%) yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf mai dim ond reifflau heb fod yn fwy na .22 y dylid eu hystyried yn reifflau bychain at y diben a amlinellwyd.

Roedd 16% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r dull hwn. Roedd bron i draean (30%) o’r ymatebwyr yn y categori Gorfodi’r Gyfraith yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r mesur hwn.

C12. I ba raddau ydych chi’n cytuno na ddylai reifflau .22 sy’n hunan-lwytho gael eu hystyried yn reifflau bychain at ddibenion y ddarpariaeth?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 1,174 9%
Cytuno 1,160 9%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1,327 11%
Anghytuno 2,031 16%
Anghytuno’n gryf 6,827 55%
Cyfanswm 12,519 100%

Roedd bron i dri chwarter (71%) yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf na ddylid ystyried reifflau .22 sy’n hunan-lwytho yn reifflau miniatur.

Roedd 18% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf na ddylai reifflau .22 sy’n hunan-lwytho gael eu hystyried yn reifflau bychain. Roedd y ganran hon yn uwch ymhlith ymatebwyr yn y categori Sefydliadau Saethu (21%) a Chymuned Saethu (22%).

Adran 4: Bwledi

C14. I ba raddau ydych chi’n ystyried y dylid ei gwneud yn drosedd meddu ar gydrannau bwledi gyda’r bwriad o gynhyrchu symiau anawdurdodedig o rowndiau cyflawn o fwledi?

Ymatebion Canran
Cytuno’n gryf 1,729 14%
Cytuno 6,072 48%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1,179 9%
Anghytuno 1,162 9%
Anghytuno’n gryf 2,399 19%
Cyfanswm 12,541 99%

Roedd 62% o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylid gwneud yn drosedd meddu ar gydrannau bwledi gyda’r bwriad o gynhyrchu symiau anawdurdodedig o rowndiau cyflawn o fwledi.

Roedd dros chwarter (28%) yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y dylai hyn fod yn drosedd. Roedd y ganran hon yn uwch ymhlith ymatebwyr yn y categori Delwyr Arfau Tanio (34%), Gorfodi’r Gyfraith (32%) a Chymuned Saethu (31%).

Asesiad Effaith, Cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg

Asesiad Effaith

Mae asesiadau effaith wedi’u diweddaru sy’n nodi sut mae’r cynigion hyn yn debygol o effeithio ar fusnesau, elusennau, y sector gwirfoddol neu’r sector cyhoeddus i’w gweld yn gov.uk.

Cydraddoldebau

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ynghylch a sut y gallai’r cynigion effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r pwyntiau a godwyd yn cael eu trafod yn yr asesiadau effaith wedi’u diweddaru.

Prawf Effaith ar yr Iaith Gymraeg

Cyhoeddwyd fersiwn Gymraeg o’r papur ymgynghori ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg. Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion a gododd unrhyw faterion penodol i Gymru neu siaradwyr Cymraeg. Mae fersiwn Gymraeg o’r crynodeb hwn i’w weld yn gov.uk.

Casgliad a’r camau nesaf

Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a hoffem ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i anfon eu barn.

Reifflau Egni Trwyn Uchel

Mewn ymateb i bryderon ynghylch y posibilrwydd o gamddefnydd difrifol a cholli bywyd pe byddai arfau tanio arbennig o bwerus, a ddisgrifir yma fel reifflau Egni Trwyn Uchel (reifflau HME), yn mynd i ddwylo troseddwyr neu derfysgwyr, gwnaethpwyd darpariaeth yn y Bil Arfau Ymosodol i wahardd pob reiffl sy’n gallu gollwng bwled ag egni cinetig o fwy na 13,600 o joules wrth drwyn yr arf. Cafodd hyn ei drafod yn helaeth yn y Senedd yn ystod camau cynnar y Bil pan godwyd pryderon ynghylch cymesuredd gwahardd reifflau HME. Ar ôl ystyriaeth bellach, tynnwyd y ddarpariaeth yn y Bil yn ôl ar y sail y byddai’r Llywodraeth yn rhoi’r dewisiadau amgen ar brawf ymhellach drwy ymgynghoriad cyhoeddus.

Awgrymwyd yn lle hynny y byddai gwell diogelwch ynghylch eu storio a’u cludo yn lliniaru’r risg o ddwyn a chamddefnyddio’n ddigonol ac fe wnaeth Deddf Arfau Ymosodol 2019 ddiwygio Deddf Arfau Tanio 1968 yn unol â hynny. Creodd hyn ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheolau’n rhagnodi amodau diogelwch gofynnol ar gyfer storio a chludo reifflau HME yn ddiogel, a fyddai’n cael eu gosod ar dystysgrif arf tanio’r perchennog. Cyn gwneud y rheolau, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â phersonau y mae’n debygol y byddant yn effeithio arnynt.

Gofynnodd y Llywodraeth am farn ynghylch pa lefel o ddiogelwch gwell a fyddai’n lleihau’r risg o ddwyn a chamddefnyddio reifflau HME yn ddigonol. Roedd mwyafrif (83%) yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai pennu gofynion diogelwch lefel 3, fel y nodir yn [Llawlyfr Diogelwch Arfau Tanio 2020](, yn ddigon i liniaru’r risgiau. Bydd hyn yn golygu bod angen cadw’r reiffl mewn cabinet gynnau diogel; gosod systemau cloi diogel ar ddrysau allanfa a phob ffenestr hygyrch; gosod larwm tresmaswyr sy’n rhybuddio’r heddlu os oes byrgleriaeth; a storio bwledi a chydrannau hawdd eu symud ar wahân. Roedd lleiafrif (9%) yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf ac awgrymodd rhai y dylid gwahardd arfau o’r fath i atal camddefnydd gan berchnogion trwyddedig eu hunain.

Er na ellir diystyru’r risg y bydd grwpiau eithafol neu derfysgwyr yn ceisio reifflau HME, nododd ymatebwyr fod reifflau o’r fath yn annhebygol o fod yn ddeniadol i droseddwyr gan fod reifflau HME yn swmpus, yn drwm iawn ac yn anodd eu gweithredu a hyd yn oed yn anoddach i’w cuddio. Nid oedd yr achos unigol o ddwyn un yn y blynyddoedd diwethaf yn ladrad wedi’i dargedu a chadarnhaodd cynrychiolwyr gorfodi’r gyfraith mai gynnau haels

a gynnau llaw yw’r arfau tanio y mae grwpiau troseddau trefniadol yn chwilio amdanynt fwyaf. Dylai diogelwch felly fod yn gymesur gan ystyried yr holl ffactorau, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob achos. Mae’r heddlu’n hyddysg wrth ymdrin â phryderon diogelwch o ran arfau tanio a nodi bygythiadau lleol neu genedlaethol, a byddai diogelwch lefel 3 yn caniatáu iddynt bennu pa bynnag lefelau o ddiogelwch y maent yn eu hystyried yn angenrheidiol.

Nid oedd mwyafrif clir o blaid ychwanegu gofynion ychwanegol y tu hwnt i lefel 3 ar gyfer y reifflau hyn, o gofio bod y lefel hon o ddiogelwch yn cael ei hystyried yn ddigonol ar gyfer storio arfau tanio a waherddir o dan adran 5 o Ddeddf Arfau Tanio 1968. O’r rhai a ymatebodd, roedd mwyafrif (yn amrywio o 51% i 93%) yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai’r rhan fwyaf o’r mesurau a awgrymwyd yn berthnasol. Cadw’r bollt neu gydrannau critigol eraill ar wahân oedd yr unig fesur yr oedd mwyafrif (60%) o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y byddai’n berthnasol.

Y prif resymau a gyflwynwyd oedd:

• byddai gofyniad am gaeadau, rhwyllau a CCTV yn gosod baich cost afresymol ar ddeiliaid tystysgrifau. Gall fod yn anymarferol mewn ardaloedd cadwraeth neu adeiladau rhestredig a gallai dynnu sylw at eiddo fel eiddo a allai gynnwys eitemau sy’n werth eu dwyn;

• mae larymau panig yn anymarferol ar y meysydd anghysbell lle mae defnyddwyr reifflau HME yn saethu;

• ei bod eisoes yn arfer gorau ac nid yw’n afresymol mynnu bod cydran hanfodol fel y bollt neu’r bloc llodrau yn cael ei gadw ar wahân i dderbynnydd y reiffl sy’n cael ei gludo ac, os yw’n briodol, mewn storfa;

• ei bod yn afresymol ac yn anymarferol i rannau o reiffl deiliad tystysgrif gael eu storio gan aelodau eraill y clwb neu gan ddeliwr arfau tanio cofrestredig (RFD). Byddai hyn yn golygu y byddai’n rhaid i gydrannau gael eu hadfer sawl diwrnod cyn saethu, efallai dim ond yn ystod oriau agor RFD, eu dychwelyd wedyn a’u storio ar safle deiliad y dystysgrif yn y cyfamser;

• mae swm y bwledi y gall deiliad tystysgrif ei feddu eisoes wedi’i reoleiddio ac fel arfer yn cael ei storio ar wahân fel arfer gorau;

• mae’r meysydd a ddefnyddir ar gyfer saethu targed pellter hir mewn lleoliadau anghysbell. Hyd yn oed pe byddai cyfleusterau storio reifflau ar gael, byddent yn llawer mwy agored i ladrad. Ar ben hynny, mae arfau tanio sydd wedi’u crynhoi mewn un lleoliad yn fwy tebygol o ddenu ymosodiad.

Gan ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd, mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio adran 53 o Ddeddf Arfau Tanio 1968 i fandadu diogelwch lefel 3 ar gyfer reifflau HME trwy newid y Rheolau ArfauTanio. Ochr yn ochr â’r newid hwn, bydd y Llawlyfr Diogelwch Arfau Tanio yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod meddu ar reifflau HME yn ffactor risg ar gyfer cymhwyso mesurau diogelwch lefel 3 a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i storio a chludo cydrannau hanfodol a bwledi ar wahân.

Arfau Aer

Nid oes angen i’r rhan fwyaf o arfau aer yng Nghymru a Lloegr gael eu trwyddedu i ganiatáu meddiant ar yr amod eu bod â phŵer is, sy’n golygu eu bod yn gallu gollwng taflegryn ag egni cinetig o 12 troed-bwys neu lai ar gyfer reifflau aer a 6 troed-bwys neu lai ar gyfer pistolau aer. Fodd bynnag, mae deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau ar gael sy’n berthnasol i feddiant arfau aer, sy’n llywodraethu sut y gellir eu defnyddio a chan bwy, a gosod terfynau oedran ar gyfer eu meddiant.

Roedd cynigion yr ymgynghoriad ar arfau aer yn dilyn adolygiad cynharach o reoleiddio arfau aer yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd yr adolygiad o ganlyniad i argymhellion a wnaed gan y crwner ynghylch marwolaeth Benjamin Wragge, 13 oed, a laddwyd yn ddamweiniol ag arf aer yn 2016. O ganlyniad i hyn, mae cynigion yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar feddiant arfau aer gan rai dan 18, storio diogel a chadw arfau aer yn ddiogel.

Derbyniodd dau o dri chynnig y Llywodraeth ar arfau aer gefnogaeth gref. Roedd 64% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylai’r Llywodraeth egluro’r drosedd o fethu â chymryd ‘rhagofalon rhesymol’ i atal plant dan oed rhag cael arfau aer fel bod rhaid i ‘ragofalon rhesymol’ gynnwys cloi’r arf aer i ffwrdd o’r golwg pan nad yw’n cael ei ddefnyddio a storio’r bwledi ar wahân pryd bynnag y mae pobl ifanc dan 18 oed ar y safle. Roedd 28% o’r rhai a ymatebodd yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf. Fe wnaeth rhai ymatebwyr sylwadau ar yr angen i ystyried yn ofalus y diffiniad o ‘cloi i ffwrdd o’r golwg’ wrth lunio deddfwriaeth.

Roedd bron i dri chwarter (72%) o’r rhai a ymatebodd yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cwestiwn am y Llywodraeth yn gweithio gyda diwydiant i wella’r gwaith o gadw a thrin arfau aer yn ddiogel, i sicrhau bod dyfeisiau diogelwch cartref yn cael eu cyflenwi â’r holl arfau aer newydd, a bod delwyr yn esbonio pwysigrwydd trin a storio arfau aer newydd yn ddiogel i brynwyr arfau aer newydd yn y man gwerthu.

Ar ôl ystyried yr ymatebion a ddaeth i law yn ofalus, mae’r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â’r ddau gynnig hyn – ar egluro ‘rhagofalon rhesymol’ ac ar weithio gyda diwydiant i wella diogelwch a diogeledd. Er mwyn egluro’r drosedd o fethu â chymryd ‘rhagofalon rhesymol’, bydd angen newid y Rheolau Arfau Tanio maes o law.

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn gwrthwynebu’r cynnig i ddileu’r eithriad sy’n caniatáu i rai dan 18 oed feddiannu arfau aer heb oruchwyliaeth ar dir preifat gyda chaniatâd y deiliad. Roedd 80% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r cynnig hwn, tra bod 14% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf. Dywedodd rhai ymatebwyr y byddai dileu’r eithriad yn rhwystro’r gallu i reoli plâu ar ffermydd, y byddai’n anfanteisiol i giperiaid dan hyfforddiant, a bod arfau aer yn gyflwyniad defnyddiol i saethu gan helpu i ennyn cyfrifoldeb ymhlith pobl ifanc. Dywedodd rhai ymatebwyr na fyddai’n gymesur dileu’r eithriad 14-17 o ystyried y lefelau isel o gamddefnydd difrifol o arfau aer, ac y dylid gorfodi’r ddeddfwriaeth bresennol yn well. Yn gyffredinol, roedd y rhai o gefndir saethu’n gwrthwynebu, tra bod cynrychiolwyr gorfodi’r gyfraith ac aelodau o deulu’r rhai a laddwyd neu a anafwyd mewn digwyddiadau saethu arfau aer yn gefnogol. Roedd arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (ar y pryd) ar gyfer trwyddedu arfau tanio’n cefnogi pob un o’r tri chynnig, fel y gwnaeth Uned Troseddau Bywyd Gwyllt yr Heddlu Metropolitanaidd.

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r safbwyntiau cryf a gwrthwynebol a gyflwynwyd mewn perthynas â’r cynnig hwn. At ei gilydd, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r gwelliant i ddileu’r eithriad 14-17 oed ar gyfer arfau aer oherwydd y lefel uchel iawn o wrthwynebiad i’r mesur hwn gydag 80% o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus yn gwrthwynebu ei gyflwyno. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn cadw’r eithriad sy’n caniatáu meddiant arfau aer gan rai 14-17 oed ar dir preifat gyda chaniatâd, dan adolygiad, gyda’r posibilrwydd y gellid cymryd camau pellach yn y dyfodol. Mae’r mesurau i wella diogelwch arfau aer y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn cynnwys egluro’r ‘rhagofalon rhesymol’ y mae’n rhaid eu cymryd i gadw arfau aer wedi’u storio’n ddiogel ac i ffwrdd oddi wrth blant, a gweithio gyda diwydiant fel eu bod yn cymryd camau i gyfleu’r angen am drin yn ddiogel a diogelwch pan yw arfau aer yn cael eu prynu, a gyda’i gilydd dylai’r mesurau hyn helpu i ddod â gwelliannau i defnyddio a storio arfau aer yn ddiogel, yn arbennig mewn perthynas â phlant.

Meysydd reifflau bychain

Mae adran 11(4) o Ddeddf Arfau Tanio 1968 yn darparu esemptiad cyfreithiol sy’n caniatáu i berson redeg maes reifflau neu oriel saethu lle mai dim ond reifflau neu arfau aer o safon fach a ddefnyddir, heb fod angen tystysgrif arfau tanio. Yn ogystal, nid oes angen tystysgrif arfau tanio ar aelodau’r cyhoedd i saethu mewn maes neu oriel o’r fath. Defnyddir yr esemptiad yn eang i gyflwyno pobl i saethu dargedau. Fodd bynnag, mae pryderon y gallai’r esemptiad ganiatáu i bobl anaddas gael mynediad at arfau tanio, gyda risgiau canlyniadol i ddiogelwch y cyhoedd.

Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar gyflwyno rheolaethau newydd ar gyfer meysydd reifflau bychain tra’n cadw’r manteision y mae’r meysydd hyn yn eu cyflwyno i chwaraeon saethu. Y cynnig allweddol yw bod rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gweithredu maes reifflau bychan wneud cais am dystysgrif arfau tanio a chael y gwiriadau angenrheidiol gan yr heddlu i’w cefndir a’u haddasrwydd, ynghyd ag archwiliad o’r trefniadau ar gyfer storio’r arfau tanio’n ddiogel. Byddai hyn yn sicrhau na fyddai personau anaddas, megis y rhai y gwrthodwyd tystysgrif arfau tanio neu wn haels neu y mae eu tystysgrif wedi’i dirymu ar sail addasrwydd, yn gallu defnyddio’r esemptiad i osgoi craffu priodol.

Roedd cefnogaeth gref yn yr ymgynghoriad i’r cynnig hwn, gyda 73% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylai fod yn ofynnol i berson sy’n gweithredu maes reifflau bychan gael tystysgrif dryll. Roedd cefnogaeth gref hefyd (gyda 74% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf) i’r cynnig mai dim ond reifflau heb fod yn fwy na .22 y dylid eu hystyried fel reifflau bychan at ddiben yr esemptiad.

Cynigiwyd y newid yn y diffiniad o reiffl bach, o ‘ddim yn fwy na chalibr .23 modfedd’ a nodir yn y ddeddfwriaeth bresennol, oherwydd y datblygiadau technegol sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd gyda’r canlyniad y gall arfau mwy pwerus ddod o fewn y diffiniad presennol na’r arfau tanio â phŵer is y bwriedir i’r esemptiad maes reifflau bychan fod yn berthnasol iddynt. Gan ystyried yr ymatebion hyn, mae’r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â’r newid arfaethedig i Ddeddf Arfau Tanio 1968 fel bod yr esemptiad maes reifflau bychan yn gyfyngedig i arfau tanio .22.

Roedd ymatebion gan gynrychiolwyr gorfodi’r gyfraith, er eu bod yn cefnogi’r cynnig i ardystio gweithredwr maes reifflau bychan, hefyd yn nodi’r angen am reolaethau cysylltiedig i sicrhau bod y fath feysydd yn gweithredu’n ddiogel, gyda goruchwyliaeth briodol o’r cyfranogwyr ac archwilio’r maes arfaethedig. gan yr heddlu. Pwysleisiodd arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer trwyddedu arfau tanio fod angen ymgorffori agweddau diogelwch fel y rhain. Ar ôl ystyried yr ymatebion a ddaeth i law, mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno gofyniad i weithredwr maes reifflau bychan gael tystysgrif arfau tanio. Ochr yn ochr â’r newid hwn, bydd diwygio canllawiau’r Swyddfa Gartref a chyflwyno amodau newydd sy’n ymwneud â meysydd reifflau bychain, yn sicrhau y bydd y meysydd reifflau bychain yn cael eu gweithredu yn y dyfodol o fewn fframwaith sicr a diogel.

Bydd y newidiadau hyn yn galw am ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol a chânt eu cyflwyno pan fydd amser Seneddol yn caniatáu.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiwn yn gofyn am farn ynghylch a ddylid eithrio arfau tanio hunan-lwytho o’r esemptiad maes reifflau bychan, er na chyflwynwyd hyn yn yr ymgynghoriad fel cynnig. Ar hyn o bryd, gellir defnyddio arfau tanio hunan-lwytho ar feysydd reifflau bychain. Roedd yr ymatebion yn adlewyrchu gwrthwynebiad cryf i eithrio arfau tanio hunan-lwytho, gyda 71% o ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, a 18% o ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf. Roedd yr ymatebion gan gynrychiolwyr gorfodi’r gyfraith yn gymysg, ac roedd cydnabyddiaeth y gall y gallu i ddefnyddio arfau tanio hunan-lwytho gynorthwyo saethwyr anabl gan fod angen llai o ddeheurwydd llaw arnynt. O ystyried y bydd trefniadau’r dyfodol ar gyfer meysydd reifflau bychain yn ymgorffori rheolaethau i sicrhau goruchwyliaeth briodol ac amgylchedd diogel, nid yw’r Llywodraeth yn bwriadu ar hyn o bryd i ddileu’r gallu i ddefnyddio arfau tanio hunan-lwytho. Fodd bynnag, bydd yr agwedd hon yn cael ei hadolygu rhag ofn y bydd angen ystyried tynhau’r trefniadau ymhellach yn y dyfodol.

Yn olaf, nododd nifer o ymatebwyr y dylid eithrio arfau aer pŵer is (y rhai nad ydynt yn dod o fewn y diffiniad o ‘arbennig o beryglus’ gan eu bod yn reifflau aer heb fod yn fwy na 12 troed-bwys neu bistolau aer heb fod yn fwy na 6 troed-bwys) o’r gofyniad newydd am dystysgrif. Mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r farn hon, ar y sail nad yw’r arfau aer hyn yn cael eu trwyddedu yng Nghymru a Lloegr. Felly, os yw’r maes reifflau bychan neu’r oriel yn defnyddio arfau aer pŵer is yn unig, bydd yn parhau i fod yn wir nad oes angen tystysgrif arfau tanio ar y gweithredwr.

Bwledi

Er bod cydrannau allweddol bwledi – y gyrrydd a’r preimiwr – eisoes wedi’u rheoli, a bod troseddau’n ymwneud â meddiant bwledi cyflawn yn anghyfreithlon, mae gorfodi’r gyfraith wedi mynegi pryderon nad yw’r rheolaethau hyn yn ddigonol i atal troseddwyr rhag gweithgynhyrchu bwledi’n anghyfreithlon. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ynghylch a yw’r rheolaethau presennol ar gydrannau bwledi’n parhau i fod yn ddigonol neu a ddylid eu cryfhau drwy ei gwneud yn drosedd i feddu ar gydrannau gyda’r bwriad o gydosod symiau anawdurdodedig o fwledi.

Roedd mwyafrif (62%) o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylid ei gwneud yn drosedd meddu ar y cydrannau hyn gyda’r bwriad o gynhyrchu rowndiau cyflawn o fwledi. Roedd dros chwarter (28%) yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y dylai hyn fod yn drosedd.

Er eu bod yn cefnogi trosedd newydd mewn egwyddor, tynnodd llawer o ymatebwyr sylw at y ffaith bod nifer fawr o saethwyr sy’n parchu’r gyfraith yn ail-lwytho bwledi i wella cywirdeb ac i roi bwledi iddynt (er enghraifft ar gyfer arfau saethu hen ffasiwn neu hanesyddol) nad yw ar gael yn fasnachol, yn ogystal ag arbed costau.

Roedd hefyd ystod eang o amgylchiadau lle mae cydrannau diegni ffrwydron bwledi megis casys cetris gwag, bwledi, saethiadau, haels ac ati’n cael eu meddiannu at ddibenion cwbl gyfreithlon megis cynhyrchu ffilmiau a theatr; ffurfio rhan o gasgliadau hynafol neu filitaraidd; yn cael eu hymgorffori mewn gwrthrychau bach neu ategolion ffasiwn; neu’n cael eu defnyddio gan ddarparwyr hyfforddiant diogelwcharfau tanio.

Roedd yn bwysig felly bod unrhyw ddeddfwriaeth yn cael ei drafftio yn y fath fodd fel nad oedd yn anfwriadol yn troseddoli’r rhai sy’n meddu’n gyfreithlon ar fwledi neu gydrannau ohono, ac nad ydynt yn bwriadu gweithgynhyrchu rowndiau anawdurdodedig.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod bwriad yn seiliedig ar gyflwr meddwl hynod oddrychol, unigol ac y byddai’n rhaid cymryd pob achos yn ôl ei rinweddau gan ystyried y dehongliad llym o adran 8 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1967. Yn ogystal â dangos bwriad troseddol, dylai unrhyw ddeddfwriaeth fod yn berthnasol dim ond mewn achosion pan fo person diawdurdod yn meddu ar yr holl gydrannau angenrheidiol sef cas, bwled, gyrrydd a phreimwr.

Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus, mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei gwneud yn drosedd i feddu ar gydrannau gyda’r bwriad o gydosod symiau anawdurdodedig o fwledi. Bydd hyn yn galw am ddeddfwriaeth sylfaenol i ddiwygio darpariaethau Deddf Arfau Tanio 1968, a fydd yn cael ei dwyn ymlaen pan fydd amser Seneddol yn caniatáu. Bydd y drosedd yn cael ei drafftio mewn ffordd gytbwys er mwyn bodloni’r pryderon clir na ddylai effeithio’n andwyol ar lwytho bwledi gartref yn gyfreithlon neu ddefnyddiau cyfreithlon eraill. Er y byddai meddu ar yr holl gydrannau’n mynd tuag at brofi bwriad troseddol, credwn y gallai troseddwyr sy’n ceisio bwlch ecsbloetio hyn ymhellach drwy wneud hyn yn amod erlyn angenrheidiol.

Ar 20 Mehefin 2022, cyflwynwyd Bil Arfau Tanio yn Nhŷ’r Cyffredin fel Bil cyflwyno. Gorchmynnwyd y dylai’r Bil gael ei ddrafftio a’i fod yn barod ar gyfer Ail Ddarlleniad ym mis Mawrth 2023.

Egwyddorion ymgynghori

Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth wedi’u nodi yn Egwyddorion Ymgynghori Swyddfa’r Cabinet 2018.

Atodiad A – Rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd

British Association for Shooting and Conservation

BIAZA (British and Irish Association of Zoos and Aquariums)

British Shooting Sports Council

Cats Protection

Deactivated Weapons Association

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Heddlu Essex

Aelodau teulu dioddefwyr saethu arfau aer a’u Asau

Fifty Calibre Shooters Association

Gun Control Network

Gun Trade Association

Historical Breechloading Smallarms Association

Heddlu Metropolitan, Uned Troseddau Bywyd Gwyllt

NABIS (National Ballistics Intelligence Service)

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

National Rifle Association

National Small-bore Rifle Association

Heddlu Swydd Northampton

Arweinydd NPCC ar Ddefnydd Troseddol o Arfau Tanio

Arweinydd NPCC ar Drwyddedu Arfau Tanio

RSPCA

Scottish Association for Country Sports

Urdd Siewmyn Prydain Fawr

Society of Independent Roundabout Proprietors

Vintage Arms, Scotland

Roedd gweddill yr ymatebion gan unigolion neu gan ymatebwyr na roddodd unrhyw wybodaeth adnabod.

© Hawlfraint y Goron 2022

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/government/publications.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn public.enquiries@homeoffice.gov.uk.