Consultation outcome

Crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywodraeth

Updated 12 June 2025

Cyflwyniad

Cefndir

Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar labelu bwyd yn decach. Cynhaliodd Defra yr ymgynghoriad hwn, a oedd yn ymgynghoriad ar y cyd ar draws y DU, ar ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Roedd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 8 wythnos, o 12 Mawrth tan 7 Mai 2024. Roedd yn gofyn am farn ar gynigion ar gyfer labelu bwyd yn gliriach drwy wella labelu dulliau cynhyrchu a gwledydd tarddiad.

Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar y llwyfan digidol ar-lein, Citizen Space, a oedd yn cofnodi ymatebion drwy ffurflen ar-lein. Derbyniwyd ymatebion drwy e-bost hefyd.

Trosolwg o’r ymatebwyr

Derbyniwyd cyfanswm o 31,011 o ymatebion - 30,580 ohonynt drwy e-bost a 431 drwy’r ffurflen ar-lein:

  • Roedd 30,837 (99%) o’r holl ymatebion (ffurflen ar-lein ac e-bost) gan unigolion 
  • Roedd 174 (1%) o’r ymatebion gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, diwydiant, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd 

O’r 291 o ymatebwyr unigol a ymatebodd ar y ffurflen ar-lein:

  • Roedd 88% o Loegr
  • 5% o’r Alban
  • 4% o Gymru
  • 1% o Ogledd Iwerddon
  • 3% o’r tu allan i’r DU

O blith y 141 o sefydliadau a ymatebodd ar y ffurflen ar-lein ac a ddarparodd yr wybodaeth hon:

  • Roedd gan 23% bencadlys yn Lloegr
  • 4% yn yr Alban
  • 1% yng Nghymru
  • 1% yng Ngogledd Iwerddon
  • Roedd gan 1% bencadlys y tu allan i’r DU
  • Nid oedd 70% wedi darparu gwybodaeth am y lleoliad

Gan nad oedd y rhan fwyaf o’r ymatebion e-bost wedi darparu’r wybodaeth hon, nid ydym wedi cynnwys y rhain yn y dadansoddiad hwn.

Roedd llawer o’r ymatebion gan unigolion yn defnyddio testun safonol fel rhan o ymgyrchoedd cyhoeddus. Oherwydd bod yr ymatebion hyn wedi’u personoli i wahanol raddau, nid yw’n bosib adrodd ar union nifer yr ymatebion sy’n gysylltiedig ag ymgyrchoedd.

Dyma ddadansoddiad o’r ymatebwyr a ddarparodd yr wybodaeth hon ar y ffurflen ar-lein: 

Math o ymatebwr Nifer yr ymatebwyr
Unigolyn

Rydych yn ymateb gyda barn bersonol, yn hytrach nag fel cynrychiolydd swyddogol ar ran busnes neu gymdeithas fusnes neu sefydliad arall.
307
Corff anllywodraethol

Rydych yn ymateb yn swyddogol fel cynrychiolydd corff anllywodraethol neu sefydliad nid-er-elw neu sefydliad arall.
35
Diwydiant (nifer o fusnesau)

Rydych yn ymateb yn swyddogol gan gynrychioli barn nifer o fusnesau neu, farn cymdeithas fasnach neu, gymdeithas fusnes.
17
Diwydiant (un busnes)

Rydych yn ymateb yn swyddogol gan gynrychioli barn un busnes.
38
Arall 16
Academia

Rydych yn ymateb fel arbenigwr sy’n aelod o gyfadran neu’n ymchwilydd mewn sefydliad academaidd
11
Corff yn y Sector Cyhoeddus 5
Heb nodi 2

Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ac rydym wedi ystyried yr holl ymatebion yn fanwl yn ein dadansoddiad.

Negeseuon amlwg

Labelu gwlad tarddiad

Roedd cefnogaeth i newid rheolau labelu gwlad tarddiad gorfodol fel eu bod yn berthnasol i’r cig a ddefnyddir mewn cynhyrchion cig sy’n cael eu prosesu cyn lleied â phosib, gyda’r mwyafrif bach o ymatebwyr ar-lein yn dweud bod hyn yn bwysig iawn. Soniodd yr ymatebwyr am bwysigrwydd sicrhau bod yr wybodaeth angenrheidiol ar gael i ddefnyddwyr i’w galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, ynghyd â’r manteision posib ar gyfer lles cyffredinol anifeiliaid. Roedd rhywfaint o gefnogaeth ar gyfer rhai ymyriadau eraill hefyd.

Roedd ymatebwyr nad oeddent yn credu bod newid rheolau labelu gwlad tarddiad yn bwysig yn dadlau y byddai’n ychwanegu cymhlethdod a chostau diangen i’r gadwyn gyflenwi, a bod cynlluniau labelu gwlad tarddiad gwirfoddol a rheoliadau cyfredol yn ddigonol.

Cafwyd ystod eang o safbwyntiau gan ymatebwyr pan ofynnwyd iddynt am awgrymiadau pellach ar gyfer gwella gwybodaeth am y wlad tarddiad. Er enghraifft, roedd rhai ymatebwyr yn pwysleisio’r angen i orfodi’r rheolau presennol yn fwy effeithiol; roedd rhai’n pwysleisio’r angen am ddull gweithredu cyson, safonol ar draws y DU.

Labelu dull cynhyrchu

Roedd cefnogaeth gref i ddiwygio labelu dull cynhyrchu yn orfodol, gyda dros 99% o unigolion a 69% o sefydliadau a ymatebodd yn cefnogi diwygio’r gofynion labelu gorfodol. Cyfeiriodd y rheini a oedd yn gefnogol at y manteision posib i les anifeiliaid, tryloywder i ddefnyddwyr, a ffermwyr yn bodloni neu’n rhagori ar reoliadau lles sylfaenol y DU.

Roedd ymatebwyr a oedd yn anghytuno â dull gorfodol o labelu dull cynhyrchu, gan gynnwys llawer o ymatebwyr o’r diwydiant, yn dadlau bod y cyd-destun presennol o labelu o dan arweiniad y diwydiant yn ddigonol. Mynegodd rhai ymatebwyr bryderon am gostau posib labelu gorfodol. Fodd bynnag, roedd rhai o ymatebwyr y diwydiant o blaid safoni mwy ar derminoleg drwy ddiffiniadau cyfreithiol, i fusnesau bwyd eu defnyddio’n wirfoddol, er mwyn gwella cysondeb yr wybodaeth i ddefnyddwyr.

Roedd cefnogaeth gref ar draws pob sector, gan dros 99% o unigolion ac 86% o sefydliadau, ar gyfer diwygio’r drefn labelu dull cynhyrchu yn orfodol, i fod yn berthnasol i gynhyrchion domestig ac wedi’u mewnforio.

Roedd cefnogaeth gref i ddiwygio labelu’r dull cynhyrchu i fod yn berthnasol ar draws y DU, gan 88% o unigolion a 68% o sefydliadau a ymatebodd.

Methodoleg

Dadansoddi’r Fethodoleg

Cafodd yr holl ymatebion a ddaeth i law cyn dyddiad cau’r ymgynghoriad eu cyfrif ac mae’r safbwyntiau a gyflwynwyd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad. Cyflwynodd rhai ymatebwyr atebion mewn mwy nag un fformat (er enghraifft, drwy’r ffurflen ar-lein a drwy’r e-bost). Cafodd nifer o ymatebion gan yr un ymatebydd eu hystyried fel un ymateb.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiynau caeedig (lle roedd ystod gyfyngedig o atebion i ddewis ohonynt, er enghraifft ydw neu nac ydw), a chwestiynau penagored.

Darllenwyd pob ymateb yn unigol ac eithrio:

  • ymatebion caeedig a gafwyd drwy’r ffurflen ar-lein, lle defnyddiwyd dulliau awtomatig i’w dadansoddi

  • ymatebion union yr un fath a oedd yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd cyhoeddus, a oedd yn cael eu nodi’n awtomatig ar sail cysondeb eu cynnwys gan ddefnyddio meddalwedd prosesu iaith – fodd bynnag, roedd yr holl ychwanegiadau personol at destun ymateb safonol wedi cael eu darllen yn unigol

Nodwyd pum ymgyrch, lle’r oedd unigolion yn ymateb fel rhan o ymdrech gydgysylltiedig, gan gynnwys ymgyrchoedd a drefnwyd gan yr RSPCA, Compassion in World Farming, Feedback Global a’r Humane League. Roedd un yn ymwneud â Rhan A yr ymgynghoriad (ynghylch labelu gwlad tarddiad) a phedair yn ymwneud â Rhan B yr ymgynghoriad (ynghylch labelu dull cynhyrchu), gydag ymatebion yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd yn cyfrif am dros 90% o’r holl ymatebion. Mae hyn yn dangos bod llawer iawn o ddiddordeb cyhoeddus yn y cynigion. Mae’r ymatebion hyn wedi cael eu cynnwys yn y dadansoddiad a’u hadrodd yn yr un ffordd ag ymatebion gan unigolion neu sefydliadau eraill.

Grwpiau ymbarél oedd rhai sefydliadau, gyda’u hymatebion yn cynrychioli safbwyntiau cyfunol eu sefydliadau sy’n aelodau. Roedd yr ymatebion hyn yn cyfrif fel un farn yn y dadansoddiad. Fodd bynnag, roedd eu haelodau hefyd wedi ymateb ar wahân mewn rhai achosion, ac roedd y rhain wedi’u cynnwys hefyd.

Oherwydd y nifer fawr o ymatebion gan unigolion o’i gymharu â sefydliadau, mae ymatebion gan unigolion ac ymatebion gan sefydliadau wedi cael eu hystyried a’u hadrodd ar wahân ar gyfer pob cwestiwn caeedig.

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r themâu cyffredinol a ddaeth i’r amlwg mewn ymateb i’r cwestiynau penagored, rydym hefyd wedi grwpio’r ymatebion gan sefydliadau yn bedwar grŵp eang. Rydym wedi defnyddio’r rhai mwyaf addas yn bennaf ar sail ymatebion i’r cwestiynau demograffig a, lle bo hynny’n berthnasol, ein gwybodaeth bresennol ychwanegol am y sefydliad neu sut roedd yn disgrifio ei hun ar ei wefan. Arweiniodd hyn at y grwpiau canlynol:

  • cyrff cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol y DU a chyrff mewn gwledydd eraill)

  • busnesau a sefydliadau eraill yn y diwydiant

  • cyrff anllywodraethol

  • cyrff academaidd

Mae ein dadansoddiad yn ystyried yr holl ymatebion mewn perthynas â chwestiynau’r ymgynghoriad a’i themâu cyfatebol.

Terminoleg adrodd

Nid oedd pob ymatebydd wedi ateb pob cwestiwn. Pan roddir ffigurau ar gyfer nifer yr ymatebion i gwestiwn gyda mwy nag un rhan, mae’r ffigur yn ymwneud â rhan gyntaf (rhan a) pob cwestiwn. Gall nifer yr ymatebion i rannau dilynol pob cwestiwn (er enghraifft, rhan b neu c) fod yn wahanol i nifer yr ymatebion i ran a. Ar gyfer ymatebion a gyflwynwyd drwy e-bost ac nad oeddent yn nodi’n glir pa gwestiwn roedd pob rhan o’u hymateb yn cyfeirio ato, gwnaed asesiad ar sail barn broffesiynol, er mwyn gallu cynnwys yr ymateb wrth ddadansoddi cwestiynau perthnasol.

Wrth adrodd ar wahanol ymatebion i gwestiynau caeedig, rydym wedi nodi cyfrannau o gyfanswm yr ymatebion fel canrannau. Mae canrannau’n cael eu talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.

Nid yw’r crynodeb hwn o’r ymatebion yn rhestr gynhwysfawr o’r holl syniadau a gyflwynwyd gan ymatebwyr. Ond, mae’n crynhoi’r safbwyntiau mwyaf cyffredin a fynegwyd ar gyfer gwahanol grwpiau o ymatebwyr.

Mae Tabl 1 yn cynnwys terminoleg rydym wedi’i defnyddio i ddisgrifio amlder yr ymatebion i gwestiynau penagored unigol:

Term Disgrifiad
Mwyafrif helaeth Dros 80%
Mwyafrif neu’r rhan fwyaf Dros 50% a llai na neu’n hafal i 80%
Nifer gyfartal (o ymatebwyr) Cyfartal (i’r ganran gyfan agosaf)
Nifer Dros 20% ond llai na 50%
Nifer fach, nifer, ychydig neu rai Llai na neu’n hafal i 20%

Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad: labelu gwlad tarddiad

Ar gyfer y cwestiynau labelu gwlad tarddiad (16 i 32), derbyniwyd cyfanswm o 433 ymateb ar lwyfan Citizen Space, a 49 ymateb arall drwy e-bost. Cafwyd yr ymatebion drwy lwyfan Citizen Space gan amrywiaeth eang o wahanol ymatebwyr, yn amrywio o’r rheini a oedd yn nodi eu hunain yn Gyrff Sector Cyhoeddus, Academia, Cyrff Anllywodraethol ac Unigolion. 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr roi rhagor o sylwadau (rhan ‘agored’) i rai cwestiynau (19, 20, 23 a 28), yn dibynnu ar yr ateb i ran gaeedig y cwestiwn. Er enghraifft, os oeddent wedi dewis ‘oes’ fel ateb i gwestiwn 19, roedd cwestiwn agored arall. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y gofynnwyd iddynt roi ateb pellach wedi gwneud hynny. Yn ogystal, defnyddiodd eraill y man cwestiynau agored i roi sylwadau er nad oeddent wedi dewis opsiwn a oedd yn gofyn iddynt wneud hynny. Mewn achosion o’r fath, rydym wedi ystyried y sylwadau hyn wrth lunio’r crynodeb hwn o’r ymatebion.  

Nid oedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi ymateb i’r cwestiynau agored nad oedd cwestiwn caeedig yn gysylltiedig â nhw. Yn olaf, ac eithrio cwestiwn 24, ychydig o wahaniaeth a welwyd rhwng y gwahanol fathau o randdeiliaid.

Roedd Cwestiwn 16 yn gofyn: Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw newid rheolau labelu gwlad tarddiad gorfodol fel eu bod yn berthnasol i’r cig sy’n cael ei ddefnyddio mewn cynhyrchion cig sy’n cael eu prosesu cyn lleied â phosib, fel y maent eisoes yn berthnasol i gig heb ei brosesu? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.

Cawsom 416 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 324 gan unigolion
  • 92 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Pwysig iawn 73% 60%
Pwysig 17% 23%
Niwtral 6% 9%
Ddim yn bwysig iawn 1% 1%
Ddim yn bwysig o gwbl 0% 3%
Ddim yn gwybod 3% 4%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

Er bod y mwyafrif o ymatebwyr yn credu bod newid y rheolau gorfodol ar gyfer labelu gwlad tarddiad fel eu bod yn berthnasol i gigoedd sydd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib yn bwysig iawn, roedd amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys:

  • Eglurodd llawer o’r ymatebwyr a oedd o blaid newid i’w gwneud yn orfodol labelu gwlad tarddiad y dylai defnyddwyr gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus. Tynnodd rhai ymatebwyr sylw pellach at yr angen am gysondeb rheolau ni waeth beth fo’r prosesu a bod y rheolau presennol sydd ar waith yn gamarweiniol. Er enghraifft, pan fo cynnyrch wedi’i brosesu yn y DU yn defnyddio cig wedi’i fewnforio fel cynhwysyn ac yn cael ei labelu fel cynnyrch Prydeinig neu pan ddefnyddir enw fferm sy’n swnio’n Brydeinig. Nododd ychydig o ymatebwyr hefyd bod cig sydd wedi’i brosesu cyn lleied â phosib yn cynrychioli cyfran fawr o’r farchnad, ac felly roeddent yn teimlo y dylai gael label gwlad tarddiad.

  • Mynegwyd rhywfaint o ddiddordeb gan ymatebwyr a nododd eu bod yn dymuno gweld newidiadau i gynnwys labelu lles anifeiliaid, labelu amgylcheddol a labelu dull cynhyrchu. Yn olaf, tynnodd rhai sylw at y ffaith y byddai labelu gorfodol yn golygu y byddai’r wybodaeth angenrheidiol ganddynt i gefnogi ffermwyr a’r diwydiant ym Mhrydain drwy brynu cynnyrch o Brydain.

  • Dywedodd ychydig o ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi newidiadau y gallai newid rheolau effeithio ar gytundebau masnach rhyngwladol ac ychwanegu costau at y gadwyn fwyd. Roedd rhai eraill nad oeddent yn gefnogol yn awgrymu y dylai unrhyw newidiadau i labelu fod yn wirfoddol (hynny yw, mae’r rheolau presennol yn ddigonol), y byddai mesurau newydd yn drysu defnyddwyr neu nad oes ganddynt ddigon o ddiddordeb mewn labelu i effeithio ar eu penderfyniadau prynu.

Roedd Cwestiwn 17 yn gofyn: Pa bump o gynhyrchion cig wedi’u prosesu (cyn lleied â phosib) fyddai’r pwysicaf i’w cynnwys?

Cawsom 289 ymateb i’r cwestiwn penagored hwn.

Awgrymiadau Nifer yr ymatebion
Selsig 121
Bacwn 119
Cynhyrchion cyw iâr 107
Ham 83
Porc 55
Cigoedd wedi’u coginio a’u sleisio 50
Pysgod/ bwyd môr 48
Cig eidion 44
Byrgyrs 39
Briwgig 29
Cig oen 27
Dofednod 22
Cigoedd parod 22
Cigoedd wedi’u halltu a’u mygu 18
Peis 16
Gamwn 13

Yn hytrach na dewis pum cynnyrch cig, neu yn ogystal â dewis pum cynnyrch cig, tynnodd rhai ymatebwyr sylw at grwpiau neu gategorïau bwyd eraill yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys yn y rhestr. Er enghraifft, awgrymodd rhai y dylai unrhyw reolau newydd fod yn berthnasol i’r holl gynnyrch cig neu i’r cynhyrchion cig sy’n cael eu bwyta fwyaf sydd ar y farchnad. Nododd rhai y byddai angen diffinio cigoedd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib. Ar ben hynny, gallai creu diffiniad o’r fath gael effeithiau negyddol ar fasnach ryngwladol.

Roedd Cwestiwn 18 yn gofyn: Pe na baem yn defnyddio rhestr, disgrifiwch unrhyw ddulliau eraill y byddech chi’n eu cynnig i ddiffinio pa gynhyrchion cig sydd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib sy’n cael eu cynnwys?

Cawsom 264 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored: 

  • Roedd un o’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg gan ymatebwyr yn ymwneud â grwpio cigoedd i’w cynnwys o dan gigoedd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib, gan gynnwys llawer a oedd yn awgrymu y dylai’r term gynnwys yr holl gynnyrch sy’n deillio o anifeiliaid. Roedd rhai hefyd yn awgrymu cynnwys cynhyrchion lle mai cig yw’r prif gynhwysyn, yr holl gig a brosesir cyn lleied â phosib, cig sy’n cael ei fewnforio a chynhyrchion sy’n cynnwys canran benodol o gig.

  • Roedd ychydig o ymatebwyr yn hapus i fwrw ymlaen â dull rhestr ac roedd rhai am weld diffiniad o gigoedd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib.

  • Roedd ychydig o ymatebwyr am i’r dull fod yn seiliedig ar y gyfran o’r farchnad/y cigoedd sy’n cael eu bwyta fwyaf.

  • O’r rheini nad oeddent yn gefnogol, dywedodd rhai ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi gorfodi labelu tarddiad neu’n dymuno gweld rhestr wirfoddol.

  • Yn olaf, un thema arall a nodwyd gan rai ymatebwyr oedd cynnwys maen prawf lles anifeiliaid.

Roedd Cwestiwn 19 yn gofyn: A oes angen rheoleiddio mwy ar ddefnyddio baneri gwledydd ar fwyd?  Os ‘oes’, sut byddech chi’n rheoleiddio mwy ar ddefnyddio baneri gwledydd ar fwyd?

Cawsom 407 ymateb i ran gaeedig y cwestiwn hwn:

  • 280 gan unigolion
  • 127 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Oes 72% 67%
Nac oes 11% 24%
Ddim yn gwybod 17% 9%

Cawsom 244 ymateb i ran benagored y cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer rhan benagored y cwestiwn: 

  • Roedd llawer o’r ymatebwyr am weld baner yn cael ei defnyddio ar gyfer gwlad tarddiad y prif gynhwysyn yn unig, gan gynnwys lle cafodd yr anifail ei fagu a’i ladd, ac roedd rhai ymatebwyr am weld y faner yn cael ei defnyddio dim ond pan fydd y cynnyrch cyfan yn cael ei gynhyrchu yn yr un wlad. Roedd ychydig o ymatebwyr eraill am weld nifer o faneri’n cael eu defnyddio ar gyfer yr holl wledydd dan sylw.

  • Roedd rhai unigolion yn credu bod sut mae baneri’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn gamarweiniol (er enghraifft os yw baner yr Undeb yn cael ei defnyddio ar gynnyrch wedi’i wneud yn y DU sy’n cynnwys cig wedi’i fewnforio), ac nid oedd ychydig o ymatebwyr am i faneri gael eu defnyddio o gwbl.

  • Un agwedd arall a godwyd gan ymatebwyr oedd bod rhai eisiau gweld y wlad tarddiad yn ysgrifenedig ochr yn ochr â’r faner tra bod ychydig yn dymuno gweld yr ysgrifen yn lle’r faner.

  • Hefyd, awgrymodd rhai ymatebwyr rai newidiadau i’r rheolau a’r system bresennol sydd ar waith, gan ddadlau y dylid defnyddio testun mwy i wneud labelu gwlad tarddiad yn gliriach neu y dylai’r wlad honno gynrychioli lle treuliodd yr anifail y rhan fwyaf o’i fywyd.

Roedd Cwestiwn 20 yn gofyn: A ddylid cael mesurau rheoli pellach ar ddefnyddio baneri ar labeli bwyd?

Cawsom 387 ymateb i’r rhan gaeedig o’r cwestiwn:

  • 278 gan unigolion
  • 109 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Dylid 51% 63%
Na ddylid 11% 19%
Ddim yn gwybod 38% 18%

Cawsom 173 ymateb i ran benagored y cwestiwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Soniodd rhai ymatebwyr am broblemau gyda’r system bresennol, gan awgrymu bod defnyddio baneri, fel sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, yn gamarweiniol (er enghraifft os defnyddir baner yr Undeb ar gynnyrch wedi’i wneud yn y DU sy’n cynnwys cig wedi’i fewnforio); dylid cael mwy o brosesau dilysu a dylid gorfodi’r rheolau presennol.

  • Soniodd ychydig o ymatebwyr eu bod am weld baneri’n cael eu defnyddio dim ond ar gyfer gwlad tarddiad bwyd, baneri ar gyfer pob gwlad sy’n ymwneud â’r broses gynhyrchu, neu ar gyfer y prif gynhwysyn yn unig.

  • Roedd gan rai ymatebwyr rai sylwadau cyffredinol, gan gynnwys gofyn am labelu baneri’n gliriach ac yn fwy cryno ynghyd â datganiad tarddiad ysgrifenedig ochr yn ochr â’r faner.

  • Roedd rhai ymatebwyr am weld defnyddio baneri yn cael ei gyfyngu i sefyllfaoedd penodol, gan gynnwys baneri’n cael eu defnyddio dim ond os yw’r bwyd wedi cael ei gynhyrchu’n bennaf neu’n gyfan gwbl yn yr un wlad, neu ddefnyddio baner un wlad dim ond pan fydd 100% o’r cynhwysion o’r wlad honno.

  • Yn olaf, nododd rhai ymatebwyr y dylai unrhyw labelu pellach fod yn ddewisol ac nid yn orfodol.

Roedd Cwestiwn 21 yn gofyn: A ddylid cael gofyniad ychwanegol i roi gwybodaeth orfodol am darddiad ar flaen y pecyn?

Cawsom 401 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 278 gan unigolion
  • 123 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Dylid 75% 65%
Na ddylid 9% 26%
Ddim yn gwybod 16% 9%

Roedd Cwestiwn 22 yn gofyn: Beth ddylai’r maint ffont lleiaf fod ar gyfer labelu tarddiad gorfodol?

Cawsom 388 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 270 gan unigolion
  • 118 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Mwy nag uchder ‘x’ o 1.2mm 71% 47%
Aros yr un fath 9% 34%
Ddim yn gwybod 20% 19%

Roedd Cwestiwn 23 yn gofyn: A ddylai baner gwlad neu symbol arall gael ei gynnwys gyda’r ysgrifen am darddiad bwyd?

Cawsom 377 ymateb i’r rhan gaeedig o’r cwestiwn:

  • 266 gan unigolion
  • 111 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Dylai, baner y wlad 52% 48%
Dylai, symbol gwahanol (dywedwch beth) 4% 2%
Ddim yn gwybod 15% 3%
Dim angen 29% 47%

Cawsom 109 ymateb i ran ddilynol, benagored y cwestiwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer rhan benagored y cwestiwn: 

  • O’r rheini a oedd o blaid cael baner gwlad neu symbol, dywedodd nifer o ymatebwyr fod baner yn denu mwy o sylw neu’n hawdd ei deall, ac roedd ychydig o ymatebwyr eisiau cyflwyno symbol ar gyfer safonau lles anifeiliaid. Roedd nifer fach o ymatebwyr yn dymuno gweld baneri’n cael eu defnyddio dim ond pan fo’r cynnyrch i gyd yn dod o’r un wlad.

  • O’r rheini a oedd yn erbyn defnyddio baneri neu symbolau, dywedodd nifer fod gwybodaeth ysgrifenedig, glir am darddiad yn ddigon, na fydd pob defnyddiwr yn adnabod baneri, ac y bydd hi’n anodd argraffu baner oherwydd cyfyngiadau ar ddeunydd pacio ffisegol. Dywedodd ychydig y dylai baner fod yn ddewisol ac nid yn orfodol a bod y rheolau presennol yn ddigonol.

  • O’r rheini a oedd yn dymuno gweld symbolau eraill, roedd ychydig eisiau gweld symbolau cartref/Prydeinig, neu symbol clir arall hawdd ei adnabod.

  • Yn olaf, roedd rhai ymatebwyr hefyd eisiau gweld baner gwlad ochr yn ochr â thestun labelu gwlad tarddiad.

Roedd Cwestiwn 24 yn gofyn: Pa rôl ddylai’r gofynion labelu ar gyfer bwyd môr, a ddaliwyd yn wyllt neu a ffermiwyd, ei chwarae mewn annog defnyddwyr i brynu mwy o fwyd môr a ddaliwyd neu a ffermiwyd yn lleol?

Cawsom 264 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • O’r rheini a nododd eu bod yn rhanddeiliaid o fath ‘arall’, dywedodd hanner yr ymatebwyr y byddent yn hoffi gweld labeli sy’n dangos gwybodaeth am sut cafodd y bwyd môr ei ffermio a/neu ei ddal. Tynnodd nifer o’r ymatebwyr hyn sylw hefyd at y ffaith eu bod eisiau labelu i ddangos ble cafodd y bwyd môr ei ddal neu wybodaeth ar ddeunydd pacio i ddangos cynaliadwyedd y dulliau a ddefnyddiwyd.

  • O’r ymatebwyr a nododd eu bod yn Gyrff Anllywodraethol, nododd llawer ohonynt eu bod eisiau gweld gwybodaeth ar labeli am sut roedd y bwyd môr yn cael ei ffermio a/neu ei ddal, gwybodaeth am ble cafodd y bwyd môr ei ddal neu labeli i ddangos cynaliadwyedd y prosesau dal.

  • Roedd llawer o’r cyrff anllywodraethol hyn hefyd am weld gwybodaeth am borthladdoedd glanio a chynhyrchu neu labelu gwlad tarddiad gorfodol yn cael eu cyflwyno. Yn olaf, roedd llawer yn awyddus i weld gwybodaeth fanwl am les anifeiliaid ac i labelu bwyd môr gynnwys gofynion/rheolau cyfatebol fel sydd yna ar gyfer cynhyrchion eraill, fel cig.

  • O’r ymatebwyr a nododd eu bod yn ‘unigolion’, roedd yr ymatebion yn debyg i’r grwpiau ‘arall’ a’r cyrff anllywodraethol y soniwyd amdanynt uchod. Dywedodd llawer o’r ymatebwyr eu bod eisiau gweld gwybodaeth labelu ar sut roedd y bwyd môr yn cael ei ffermio a/neu ei ddal a gwybodaeth am ble cafodd y bwyd môr ei ddal.

  • Roedd rhai o’r ymatebwyr a nododd eu bod yn ddiwydiant (nifer o fusnesau neu gyrff masnach) eisiau gweld yr un rheolau labelu’n cael eu defnyddio ag ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid eraill (fel cig), ac roedd ychydig eraill eisiau cadw pethau fel y maent (dim newidiadau).

  • Roedd rhai ymatebwyr am gael rhagor o wybodaeth am labelu i gynnwys cynaliadwyedd dal a gwybodaeth fanwl am les anifeiliaid. Hefyd, roeddent yn teimlo y dylai’r un rheolau â’r rhai sy’n bodoli ar gyfer cynhyrchion eraill fod yn berthnasol, fel cig a’r rhesymeg a roddwyd gan ymatebwyr oedd eu bod yn teimlo y dylai defnyddwyr gael gwybodaeth onest a chlir i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.

  • Wrth edrych ar y canlyniadau’n gyffredinol (ar draws yr holl grwpiau rhanddeiliaid), roedd llawer o’r ymatebion am gael gwybodaeth ar labeli ynghylch sut roedd y bwyd môr yn cael ei ffermio a/neu ei ddal a lle cafodd y bwyd môr ei ddal.

  • Roedd rhai ymatebwyr hefyd eisiau gweld gwybodaeth labelu ar gynaliadwyedd dal a gwybodaeth fanwl am les anifeiliaid.

  • Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod eisiau gweld gwybodaeth am y porthladd glanio neu gynhyrchu, ac roedd eraill am weld yr un rheolau â chynhyrchion eraill (cig).

  • Dywedodd rhai ymatebwyr y dylai defnyddwyr gael gwybodaeth glir a gonest er mwyn llywio penderfyniadau prynu, ac roedd nifer fach o ymatebwyr am weld diffiniad ar gyfer y term ‘lleol’.

Roedd Cwestiwn 25 yn gofyn: Ydy gwybodaeth am darddiad bwyd yn ddigon clir pan fo’n cael ei werthu ar-lein (naill ai drwy siop groser prif ffrwd, neu lwyfan manwerthu cyffredinol arall), yn eich barn chi?

Cawsom 389 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 283 gan unigolion
  • 106 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Nac ydy, ddim digon clir 48% 43%
Mae’n amrywio 24% 28%
Ydy, mae’n ddigon clir 3% 9%
Ddim yn gwybod 25% 19%

Roedd Cwestiwn 26 yn gofyn: Pa welliannau hoffech chi eu gweld o ran sut mae gwybodaeth am darddiad bwyd yn cael ei dangos ar-lein, os o gwbl?

Cawsom 265 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored: 

  • Mynegwyd amrywiaeth eang o safbwyntiau ar gyfer y safbwynt hwn. Dywedodd llawer o’r ymatebwyr eu bod am weld gwybodaeth am darddiad yn cael ei rhoi mewn lle amlwg/yn glir ar y dudalen we. Roedd nifer hefyd eisiau gweld gwybodaeth am darddiad yn cael ei nodi yn y disgrifiad neu’r wybodaeth am y cynnyrch, yn cael ei nodi yn y teitl/is-deitl, yn cynnwys yr un wybodaeth ag ar y deunydd pacio ffisegol neu yn y siop, yr wybodaeth lawn ‘o’r fferm i’r fforc’, gwybodaeth am brosesu/cynhyrchu bwyd neu gynnwys labelu lles anifeiliaid.

  • Roedd rhai ymatebwyr am weld cynnwys gwybodaeth am wlad tarddiad yn orfodol a lleisiodd ychydig bryderon nad yw’r arferion o gynnwys gwybodaeth tarddiad ar hyn o bryd ar gyfer gwerthu ar-lein yn ddigonol, er enghraifft pan nad yw tarddiad cynnyrch bwyd yn cael ei ddangos mewn ffordd amlwg neu os yw’r disgrifiad ar-lein yn rhestru nifer o wledydd lle gellid dod o hyd i’r cynnyrch.

  • Roedd rhai ymatebwyr am weld swyddogaeth prynu cynnyrch o Brydain neu ‘chwilio yn ôl tarddiad’ ar-lein neu ddefnyddio baneri.

  • Roedd rhai o’r pwyntiau mwy cyffredinol a godwyd yn cynnwys cael templed neu ddull gweithredu cyson a safonol, ac adborth na ddylai’r wybodaeth a ddarperir fod yn gamarweiniol.

  • Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod y rheolau gwlad tarddiad yn ddigonol ar hyn o bryd neu y dylai unrhyw newidiadau fod yn wirfoddol yn hytrach nag yn orfodol.

Roedd Cwestiwn 27 yn gofyn: A ddylai fod gofyniad gorfodol i ddatgan tarddiad cig, bwyd môr a/neu gynnyrch llaeth yn y sector y tu allan i’r cartref?  Os dylai, sut fath o ofyniad ddylai hwn fod?

Cawsom 397 ymateb i’r rhan gaeedig o’r cwestiwn hwn:

  • 278 gan unigolion
  • 119 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Dylai 75% 68%
Na ddylai 8% 19%
Ddim yn gwybod 17% 13%

Cawsom 290 ymateb i ran benagored y cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer rhan benagored y cwestiwn.

  • Ysgrifennodd llawer o ymatebwyr eu bod am weld gwybodaeth am darddiad yn cael ei chyflwyno ar fwydlenni.

  • Awgrymodd rhai o’r ymatebwyr fathau eraill o wybodaeth gan gynnwys defnyddio baneri, atebion digidol (fel gwefannau neu godau QR), defnyddio posteri/byrddau arddangos, gwybodaeth ar gael ar gais neu gael dogfen wedi’i hargraffu ar wahân sy’n cynnwys gwybodaeth am gynhwysion a tharddiad, y gellir ei diweddaru’n rheolaidd.

  • Nododd ychydig o ymatebwyr hefyd eu bod yn dymuno gweld gwybodaeth am les anifeiliaid a gwybodaeth sy’n nodi o ba fferm neu ranbarth maent yn tarddu.

  • O ran y pwyntiau cyffredinol a godwyd ar y cwestiwn hwn, yn hytrach nag awgrymiadau ar fformat penodol, roedd rhai ymatebwyr am gael gwybodaeth glir ynghylch lle cafodd yr anifeiliaid eu magu/eu tyfu/eu lladd a lle cafodd y cynhyrchion eu cynhyrchu. Dywedodd rhai hefyd na ddylai cwsmeriaid gael eu camarwain ac y dylent gael gwybodaeth glir i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, neu y dylid rhoi system genedlaethol safonol ar waith.

  • Dywedodd rhai ymatebwyr na ddylai fod unrhyw ofynion gorfodol neu nad oeddent yn cefnogi unrhyw newidiadau. Roedd rhai hefyd yn awgrymu y gallai gweithredu’r newidiadau hyn fod yn feichus i fusnesau.

Roedd Cwestiwn 28 yn gofyn: A ddylai’r gofynion hyn fod yr un mor berthnasol i bob busnes bwyd ‘tu allan i’r cartref’?

Cawsom 383 ymateb i’r rhan gaeedig o’r cwestiwn:

  • 277 gan unigolion
  • 106 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Dylai 70% 73%
Na ddylai 9% 7%
Ddim yn gwybod 21% 20%

Cawsom 71 ymateb i ran ddilynol a phenagored y cwestiwn.

Crynodeb o brif themâu rhan benagored y cwestiwn:

  • Awgrymodd rhai ymatebwyr na ddylid cael unrhyw eithriadau.

  • Roedd ychydig o ymatebwyr wedi awgrymu y dylid cael eithriadau ar gyfer busnesau llai ond y dylid cynnwys busnesau mawr. Dywedodd rhai ymatebwyr y dylid cael amserlenni rhesymol ar gyfer gweithredu unrhyw reolau newydd. Rhoddodd nifer fach o ymatebwyr enghreifftiau penodol o fusnesau a ddylai gael eu heithrio, gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus, ysbytai, ysgolion, bwytai bach a chaffis a gwerthwyr bwyd stryd.

  • Dywedodd nifer fach o ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi cynigion newydd, gan egluro y gallai fod yn ormod o faich ar fusnesau a bod angen amserlenni rhesymol ar gyfer gweithredu.

Roedd Cwestiwn 29 yn gofyn: Pe bai mesurau fel tarddiad gorfodol ar gyfer cynhyrchion cig sydd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib, gwneud labelu tarddiad yn fwy amlwg, rheoli defnyddio baneri gwlad a / neu labelu tarddiad gorfodol ar gyfer y sector bwyd y tu allan i’r cartref yn cael eu cyflwyno, beth yn eich barn chi fyddai’n amserlen realistig i fusnesau weithredu polisïau o’r fath o’r adeg y cânt eu cyhoeddi?

Cawsom 377 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 266 gan unigolion
  • 111 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Blwyddyn 44% 16%
2 blynedd 29% 30%
3 blynedd 8% 19%
4 blynedd <1% 3%
5 mlynedd a mwy 2% 10%
Ddim yn gwybod 17% 22%

Roedd Cwestiwn 30 yn gofyn: Pa eithriadau y dylid eu rhoi, os o gwbl?

Cawsom 171 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Un o’r prif themâu a gododd o’r cwestiwn hwn oedd bod llawer o’r ymatebwyr wedi dweud na ddylid rhoi unrhyw eithriadau i unrhyw fusnes.

  • Er gwaethaf hyn, awgrymodd nifer o ymatebwyr y dylid eithrio busnesau bach, busnesau tecawê neu’r sector y tu allan i’r cartref, neu y dylid ystyried eithriadau fesul achos.

  • Er nad oeddent yn nodi math penodol o fusnes, nododd ychydig o ymatebwyr y dylid rhoi amserlenni hirach ar gyfer cydymffurfio neu y dylid caniatáu i fusnesau ‘werthu’ stoc nad yw’n cydymffurfio ag unrhyw reolau newydd.

Dywedodd ychydig o ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi cyflwyno rheolau labelu gorfodol newydd, a dywedodd ychydig eu bod yn ansicr ynghylch eithriadau.

Roedd Cwestiwn 31 yn gofyn: A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar sut i leddfu costau a chymhlethdod gweithredu’r newidiadau hyn?

Cawsom 131 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y cwestiwn hwn. Roedd rhai ymatebwyr am weld amserlenni rhesymol a chlir ac i’r llywodraeth ymgynghori â rhanddeiliaid.

  • Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo na ddylai’r newidiadau hyn arwain at gostau ychwanegol (neu gyn lleied o gostau â phosib) ac roedd eraill yn awyddus i weld cymorth ariannol/cefnogaeth gan y llywodraeth.

  • Cododd ymatebwyr rai pwyntiau gwahanol ynghylch yr hyn y gallai’r llywodraeth ei wneud i helpu i leddfu costau a chymhlethdodau. Roedd y rhain yn cynnwys nifer fach o ymatebwyr a oedd am weld unrhyw newidiadau’n cyd-fynd â diwygiadau eraill (gan gynnwys diwygiadau’r UE), llunio canllawiau a dogfennau cymorth, cyflwyno fesul cam/fesul dipyn gan ddechrau gyda busnesau mawr, mwy o ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd ac ymwybyddiaeth, rhoi’r pwysau ariannol ar y cyfanwerthwr, cyflwyno tariffau neu dreth neu ar fewnforion ac ymgynghori â rhanddeiliaid.

Roedd Cwestiwn 32 yn gofyn: A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer gwella gwybodaeth am wlad tarddiad?

Cawsom 147 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Cafwyd amrywiaeth eang o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Tynnodd ychydig o ymatebwyr sylw at y ffaith bod angen i’r wlad tarddiad fod yn gliriach, a soniodd rhai eraill am yr angen i gyflwyno labeli clir am les anifeiliaid a safoni defnyddio baner gyda thestun.

  • Dywedodd ymatebwyr eraill eu bod yn dymuno gweld y cynigion hyn yn cael eu hymestyn i gynnwys cynhyrchion/diwydiannau eraill, i sicrhau bod defnyddwyr bob amser yn cael gwybodaeth am darddiad a dull cynhyrchu/lladd ar y labeli.

  • Pwysleisiodd nifer o ymatebwyr bod angen systemau olrhain priodol er mwyn gallu olrhain o’r fferm i’r fforc, gorfodi’r rheolau’n llymach, osgoi arferion camarweiniol a chael gwybodaeth glir a darllenadwy ar ddeunydd pacio.

  • Dywedodd ychydig o ymatebwyr eu bod eisiau gweld dull gweithredu safonol ar draws y DU.

  • Yn olaf, nid oedd rhai ymatebwyr o blaid cyflwyno rheolau labelu newydd.

Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad: labelu dull cynhyrchu

Dulliau labelu (Cwestiynau 33 a 34)

Roedd Cwestiwn 33 yn gofyn: Ydych chi’n cytuno y dylai labelu dull cynhyrchu fod yn orfodol? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda. Os ateboch chi ‘nac ydw’, rhowch fanylion unrhyw ddulliau eraill a fyddai, yn eich barn chi, yn effeithiol o ran darparu gwybodaeth gyson a hygyrch am y dull cynhyrchu i ddefnyddwyr.

Cawsom 30,385 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 30,228 gan unigolion

  • 157 gan sefydliadau

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw 100% 69%
Nac ydw 0% 25%
Ddim yn gwybod 0% 6%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn cefnogi labelu dull cynhyrchu gorfodol yn dadlau bod labelu gorfodol yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth glir a chyson am gynnyrch i’w galluogi i wneud penderfyniadau prynu ar sail gwybodaeth yn unol â’u gwerthoedd. Awgrymodd ymatebwyr unigol, yn benodol, nad yw’r labelu presennol yn ddigonol oherwydd yr amrywiaeth o derminoleg a delweddau sy’n cael eu defnyddio. Roedd llawer hefyd yn teimlo y gallai rhywfaint o’r wybodaeth a roddir ar labeli ar hyn o bryd fod yn gamarweiniol i ddefnyddwyr, ac roeddent yn awgrymu bod labelu gorfodol yn arbennig o angenrheidiol er mwyn sicrhau tryloywder i ddefnyddwyr am gynhyrchion lles is, sy’n annhebygol o gael eu labelu’n wirfoddol felly.

  • Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd o blaid dull gweithredu gorfodol hefyd yn dadlau y byddai labelu gorfodol yn decach i ffermwyr. Yn benodol, nododd unigolion a chyrff anllywodraethol y bydd labelu gorfodol yn arwain at fwy o degwch i ffermwyr, gan ganiatáu i’r ffermwyr hynny sy’n cynhyrchu i safonau uwch wahaniaethu rhwng eu cynnyrch nhw a chynnyrch â lefelau lles is, a allai elwa ar hyn o bryd o ddefnyddio terminoleg marchnata heb ei diffinio.

  • Roedd y mwyafrif o ymatebwyr a oedd yn cytuno â labelu gorfodol hefyd yn awgrymu y byddai’n rhoi cyfle i wella lles anifeiliaid yn sylweddol drwy gymell cynhyrchu â lefelau lles uwch i ddiwallu’r galw gan ddefnyddwyr. Cyfeiriodd llawer o ymatebwyr at labelu wyau yn eu plisgyn fel llwyddiant labelu dull cynhyrchu yn orfodol, a arweiniodd at newid sylweddol i gynhyrchu tua 80% o wyau di-gaets yn y DU.

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn anghytuno â labelu gorfodol, gan gynnwys llawer o ymatebwyr o’r diwydiant, yn dadlau bod y cyd-destun presennol o labelu gwirfoddol ac o dan arweiniad y diwydiant yn ddigonol. Mynegodd ymatebwyr bryderon am gostau posib labelu gorfodol a bod y dull cynhyrchu yn brocsi amherffaith ar gyfer lles anifeiliaid oherwydd yr amrywiaeth o ran lles mewn systemau cynhyrchu. Roedd rhai o ymatebwyr y diwydiant o blaid safoni mwy ar derminoleg drwy ddiffiniadau cyfreithiol, i fusnesau bwyd eu defnyddio’n wirfoddol, er mwyn gwella cysondeb yr wybodaeth i ddefnyddwyr.

Roedd Cwestiwn 34 yn gofyn: Ydych chi’n cytuno y dylai unrhyw drefniadau newydd ar gyfer labelu dull cynhyrchu gorfodol fod ar gyfer cynhyrchion domestig ac a fewnforiwyd? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.

Cawsom 30,378 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 30,231 gan unigolion
  • 147 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw 100% 86%
Nac ydw 0% 9%
Ddim yn gwybod 0% 5%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd unigolion a sefydliadau a oedd yn cytuno y dylai labelu fod yn berthnasol i gynnyrch domestig a chynnyrch wedi’i fewnforio, wedi nodi’r rhesymau canlynol:
    • Cysondeb - roedd ymatebwyr yn dadlau y byddai dilyn dull cyson o labelu ar draws pob cynnyrch yn galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau prynu ar sail gwybodaeth yn unol â’u gwerthoedd.
    • Tegwch - roedd ymatebwyr, gan gynnwys llawer o’r diwydiant a’r mwyafrif helaeth o unigolion, yn dadlau y dylai labelu gorfodol fod yn berthnasol i gynhyrchion domestig a chynhyrchion wedi’u mewnforio er mwyn sicrhau tegwch i gynhyrchwyr. Nododd rhai ymatebwyr y byddai hyn yn atal cynnyrch domestig rhag gorfod cystadlu â chynhyrchion wedi’u mewnforio, heb eu labelu, a allai fod wedi cael eu cynhyrchu i safonau is.
  • Fodd bynnag, cododd rhai sefydliadau diwydiant a chyrff sector cyhoeddus bryderon am darfu posib ar fasnach, effeithiau ariannol anghymesur i allforwyr ac ymarferoldeb labelu mewnforion, oherwydd amrywiadau mewn safonau rhwng gwahanol wledydd.

Egwyddorion i leihau’r effaith ar fusnesau (Cwestiynau 35 i 37)

Roedd Cwestiwn 35 yn gofyn: Pa newidiadau y byddai angen i’ch busnes eu gwneud er mwyn cyflwyno cynllun labelu dull cynhyrchu gorfodol?

Cawsom 64 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Awgrymodd llawer o ymatebwyr, gan gynnwys llawer o’r diwydiant a’r mwyafrif o ffermwyr unigol, mai ychydig iawn o newidiadau fyddai i’w busnesau.

  • Fodd bynnag, awgrymodd y mwyafrif o ymatebwyr o’r diwydiant y byddai’n rhaid iddynt wneud newidiadau i’w busnes, fel ailgynllunio a newid deunydd pacio a chyflwyno dulliau cadw cofnodion, gwahanu cynnyrch a chasglu data ychwanegol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y byddai angen iddynt wneud buddsoddiadau cyfalaf fel uwchraddio systemau TG a chyfleusterau storio cynnyrch ychwanegol.

Roedd Cwestiwn 36a yn gofyn: Ydych chi’n meddwl bod y cyfnod gweithredu arfaethedig o 18 mis, er mwyn lleihau’r gost a fyddai’n gysylltiedig â chyflwyno labelu gorfodol newydd, yn briodol?

Cawsom 423 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 304 gan unigolion

  • 119 gan sefydliadau

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Tua iawn 37% 43%
Rhy hir 41% 10%
Rhy fyr 7% 34%
Ddim yn gwybod 15% 13%

Roedd Cwestiynau 36b a 36c yn gofyn: Os nad ydych yn cytuno â’r cyfnod gweithredu arfaethedig, pa gyfnod gweithredu ydych chi’n meddwl y dylid ei roi i helpu i leihau’r gost a fyddai’n gysylltiedig â chyflwyno labelu gorfodol newydd? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • O’r ymatebwyr unigol nad oeddent yn cytuno â’r cyfnod gweithredu arfaethedig, roedd mwyafrif helaeth yn galw am gyfnod gweithredu o 12 mis neu lai, gan nodi pwysigrwydd gwella tryloywder i ddefnyddwyr a lles anifeiliaid yn ddi-oed. Roedd y mwyafrif o ffermwyr ac ymatebwyr unigol o’r diwydiant bwyd yn awgrymu bod cyfnod o 18 mis neu lai yn ddigon.

  • Awgrymodd y mwyafrif o gyrff anllywodraethol lles gyfnod gweithredu o 12 mis neu lai, gan nodi bod angen gwella tryloywder i ddefnyddwyr ar frys; fodd bynnag, awgrymodd rhai cyrff anllywodraethol gyfnod gweithredu o 2 i 3 blynedd i ganiatáu amser i roi systemau olrhain ar waith. Nododd un corff anllywodraethol fod dull gorfodol o labelu wyau yn eu plisgyn wedi cael ei gyflwyno gyda blwyddyn o amser paratoi.

  • Awgrymodd mwyafrif helaeth o ymatebwyr y diwydiant y dylai’r cyfnod gweithredu fod yn hirach, gyda’r mwyafrif yn awgrymu 3 i 5 mlynedd. Roedd y rhesymau a roddwyd dros gyfnod gweithredu hirach yn cynnwys lleihau gwastraff deunydd pacio a chaniatáu amser i fusnesau ddiweddaru deunydd pacio a rhoi gofynion casglu data ar waith drwy eu cadwyni cyflenwi. Soniodd eraill am yr angen i ganiatáu digon o amser i ddefnyddio stoc sydd wedi’i rewi ar hyn o bryd, i asesu a gwneud unrhyw newidiadau i arferion cynhyrchu presennol ac i gynnal gwaith ymchwil ac addysg i ddefnyddwyr.

Roedd Cwestiwn 37 yn gofyn a oes unrhyw ffyrdd eraill o leihau’r gost a fyddai’n gysylltiedig â chyflwyno gofynion labelu gorfodol newydd. 

Cawsom 82 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd ymatebion gan unigolion yn cynnwys awgrymiadau y gellid lleihau costau drwy gael cymorth ariannol gan y llywodraeth a chanllawiau clir ac amserol i fusnesau. Awgrymodd rhai ymatebwyr gymorth ariannol ychwanegol neu gyfnodau gweithredu hirach ar gyfer busnesau bach a chanolig. Awgrymodd eraill y gallai label â dyluniad syml neu ganiatáu rhoi sticeri dros labeli leihau costau.

  • Roedd awgrymiadau ychwanegol gan gyrff anllywodraethol yn cynnwys defnyddio cynlluniau gwarantu presennol i ddangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion labelu newydd, defnyddio labeli digidol drwy godau QR yn arwain at wybodaeth ar-lein er mwyn rhoi llai o’r wybodaeth ddiweddaraf ar labeli deunydd pacio, awtomeiddio arolygiadau ar ffermydd yn rhannol a’u rhoi ar waith yn raddol.

  • Roedd awgrymiadau pellach gan y diwydiant yn cynnwys cyd-fynd ag unrhyw newidiadau ehangach i’r gofynion labelu.

Cwmpas y labelu (Cwestiynau 38 i 46)

Rhywogaethau (Cwestiwn 38)

Roedd Cwestiwn 38 yn gofyn: ‘Ydych chi’n cytuno y dylai diwygiadau labelu ganolbwyntio i ddechrau ar foch, ieir bwyta ac ieir dodwy? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom gyfanswm o 13,414 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 13,270 gan unigolion
  • 144 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw, rwy’n cytuno y dylai labelu ganolbwyntio ar y tair rhywogaeth hyn yn unig i ddechrau 98% 35%
Ydw, ond rwy’n credu y dylai labelu gynnwys mwy o rywogaethau da byw o’r dechrau 2% 37%
Ydw, rwy’n cytuno y dylai labelu ganolbwyntio ar y tair rhywogaeth hyn yn unig i ddechrau 0% 0%
Ydw, ond rwy’n credu y dylai labelu gynnwys mwy o rywogaethau da byw o’r dechrau 0% 0%
Nac ydw, rwy’n credu y dylai labelu ganolbwyntio ar lai o rywogaethau da byw neu rai gwahanol 0% 7%
Ddim yn gwybod 0% 6%
Arall (eglurwch isod) 0% 15%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd y mwyafrif helaeth o unigolion, y mwyafrif o gyrff cyhoeddus a llawer o gyrff anllywodraethol ac academyddion yn cytuno â’r rhywogaethau arfaethedig cychwynnol, gan nodi’r rhesymau a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys mai dyma’r rhywogaethau sy’n cael eu ffermio fwyaf a bod ganddynt y gwahaniaeth mwyaf mewn systemau cynhyrchu yn ogystal â’r safonau presennol i adeiladu arnynt. Awgrymodd y mwyafrif o’r ymatebwyr hyn hefyd y dylid ymestyn y gofynion labelu yn y dyfodol i gynnwys yr holl gig a chynnyrch llaeth, er mwyn dod â manteision ehangach i ddefnyddwyr, ffermwyr, busnesau bwyd ac anifeiliaid sy’n cael eu ffermio, gyda rhai ymatebwyr yn galw am amserlen glir i ehangu i rywogaethau eraill. Roedd cefnogaeth gref yn arbennig i gynnwys gwartheg llaeth yn y dyfodol, gyda’r ymatebwyr yn cyfeirio at bryderon ynghylch lles a dryswch defnyddwyr ynghylch dulliau cynhyrchu.

  • Roedd y mwyafrif o sefydliadau’r diwydiant, llawer o academyddion a chyrff anllywodraethol lles a lleiafrif o unigolion yn teimlo y dylai labelu gynnwys mwy neu’r holl rywogaethau da byw o’r cychwyn cyntaf. Ymhlith y rhesymau a roddwyd oedd y galw gan ddefnyddwyr am wybodaeth ar draws yr holl gynnyrch anifeiliaid, i sbarduno gwelliannau lles ar draws y sector da byw cyfan ac i sicrhau tegwch i ffermwyr a busnesau bwyd ar draws gwahanol sectorau, gan gynnwys rhoi’r cyfle i ffermwyr da byw eraill wahaniaethu rhwng eu cynnyrch lles lefel uwch. Roedd unigolion a chyrff anllywodraethol yn cefnogi cynnwys pysgod wedi’u ffermio, yn enwedig mewn diwygiadau cychwynnol, gan nodi pryderon ynghylch lles a’r nifer fawr o bysgod sy’n cael eu bwyta yn y DU.

  • Awgrymodd nifer fach o ymatebwyr y dylid canolbwyntio ar nifer lai o rywogaethau i ddechrau, er mwyn treialu’r diwygiadau cyn eu cyflwyno’n ehangach. Roedd ieir dodwy ac ieir bwyta yn cael eu hawgrymu gan amlaf fel rhywogaethau cychwynnol oherwydd gwybodaeth sefydledig am ddull cynhyrchu’r rhywogaethau hyn.

Lefel y prosesu (Cwestiynau 39 i 43)

Roedd Cwestiwn 39 yn gofyn: ‘Pa mor bwysig, yn eich barn chi, yw bod label dull cynhyrchu yn cynnwys cynhyrchion anifeiliaid sydd wedi’u prosesu yn ogystal â rhai heb eu prosesu? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 5,251 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 5,136 gan unigolion 
  • 115 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Pwysig iawn 41% 64%
Pwysig 59% 17%
Niwtral 0% 4%
Ddim yn bwysig iawn 0% 4%
Ddim yn bwysig o gwbl 0% 7%
Ddim yn gwybod 0% 4%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • O blith yr ymatebwyr a oedd yn cytuno y dylid cynnwys cynhyrchion wedi’u prosesu, y rhesymau a nodwyd amlaf oedd y dylid cael tryloywder a chysondeb ar draws cynhyrchion, faint bynnag maent yn cael eu prosesu, i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Nododd rhai ymatebwyr fod cynnyrch wedi’i brosesu yn cyfrif am gyfran uchel o’r cynnyrch sy’n cael ei werthu ar gyfer rhai rhywogaethau. Roedd llawer o’r ymatebwyr hyn, yn enwedig unigolion, yn dadlau y bydd cynnwys cynnyrch wedi’i brosesu yn helpu i sicrhau nad yw cynnyrch sydd â safonau is yn cuddio y tu ôl i ddatganiadau marchnata heb eu diffinio.

  • O blith yr ymatebwyr nad oeddent yn cytuno â chynnwys cynnyrch wedi’i brosesu, y prif reswm a nodwyd oedd y cymhlethdod a’r gost o ymestyn y label i gig wedi’i brosesu. Roedd rhai ymatebwyr o’r diwydiant hefyd yn anghytuno â’r awgrym bod safonau lles is yn fwy cyffredin mewn cynnyrch wedi’i brosesu.

Roedd Cwestiwn 40 yn gofyn: Ydych chi’n cytuno y dylai labeli gynnwys cynhyrchion porc, cyw iâr ac wyau sy’n cael eu prosesu cyn lleied â phosib? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.

Ar gyfer porc, cawsom 14,370 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 14,254 gan unigolion

  • 116 gan sefydliadau

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw, dylai labelu gynnwys cynhyrchion sy’n cael eu prosesu cyn lleied â phosib 1% 35%
Ydw, ond dylai labelu gynnwys mwy o gynhyrchion sy’n cael eu prosesu o’r dechrau 99% 41%
Nac ydw, dylai labelu ond cynnwys cynhyrchion heb eu prosesu 0% 9%
Ddim yn gwybod 0% 15%

Ar gyfer cyw iâr, cawsom 14,369 ymateb i’r cwestiwn:

  • 14,252 gan unigolion

  • 117 gan sefydliadau

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw, dylai labelu gynnwys cynhyrchion sy’n cael eu prosesu cyn lleied â phosib 1% 31%
Ydw, ond dylai labelu gynnwys mwy o gynhyrchion sy’n cael eu prosesu o’r dechrau 99% 47%
Nac ydw, dylai labelu ond cynnwys cynhyrchion heb eu prosesu 0% 9%
Ddim yn gwybod 0% 13%

Ar gyfer wyau, cawsom 14,361 ymateb:

  • 14,249 gan unigolion
  • 112 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw, dylai labelu gynnwys cynhyrchion sy’n cael eu prosesu cyn lleied â phosib 1% 34%
Ydw, ond dylai labelu gynnwys mwy o gynhyrchion sy’n cael eu prosesu o’r dechrau 99% 43%
Nac ydw, dylai labelu ond cynnwys cynhyrchion heb eu prosesu i ddechrau 0% 6%
Ddim yn gwybod 0% 17%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd y mwyafrif helaeth o’r rhai a ymatebodd â sylwadau ar draws pob sector yn cytuno bod angen cysondeb, eglurder a thryloywder ar draws pob cynnyrch.

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cefnogi labelu cynhyrchion sydd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib, gan gynnwys y mwyafrif o unigolion, o blaid eu cynnwys oherwydd bod llawer o fwydydd wedi’u prosesu yn cael eu bwyta yn y DU, er mwyn sicrhau’r effaith orau o ganlyniad i labelu ac er mwyn lleihau mannau gwan posib.

  • Roedd yr ymatebion hefyd yn awgrymu bod y trefniadau gwirfoddol presennol ar labelu cynnyrch wedi’i brosesu, fel defnyddio wyau maes mewn mayonnaise neu gacennau, yn dangos bod labelu cynnyrch wedi’i brosesu yn ymarferol ac yn cael ei ystyried yn fuddiol gan fusnesau bwyd. Awgrymodd ymatebwyr y gallai labelu cynnyrch sy’n cael ei brosesu cyn lleied â phosib helpu cynhyrchwyr a manwerthwyr i gael mwy o gydnabyddiaeth yn y farchnad am amrywiaeth ehangach o gynnyrch ac o bosib hwyluso gostyngiad mewn prisiau ar doriadau premiwm, oherwydd bod llai o ddibyniaeth ar ychwanegu at bris dim ond ychydig o gynnyrch y mae galw mawr amdano (fel brestiau cyw iâr) i adennill unrhyw gostau ychwanegol cynhyrchu lles uwch.

  • O’r rheini nad oeddent yn cytuno, roedd llawer yn mynegi pryderon ynghylch cymhlethdod a chost labelu cynnyrch sy’n cael ei brosesu cyn lleied â phosib. Tynnodd ymatebwyr sylw at yr angen am gael diffiniad clir o ‘brosesu cyn lleied â phosib’, oherwydd gallai dehongliad anghyson arwain at ddryswch ymysg defnyddwyr. Roedd rhai’n awgrymu treialu gofynion labelu gyda chynnyrch heb ei brosesu ac ymestyn i gynnyrch wedi’i brosesu cyn lleied â phosib pe bai galw gan ddefnyddwyr.

Roedd Cwestiwn 41a yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno ei bod yn bwysig bod y cynhyrchion canlynol a brosesir yn cael eu labelu â safonau dull cynhyrchu?’

Yn gyffredinol, roedd y mwyafrif helaeth o unigolion a’r mwyafrif o sefydliadau yn cytuno â chynnwys pob un o’r cynhyrchion a brosesir, heb fawr o amrywiad yn yr ymatebion rhwng pob cynnyrch, fel y gwelir yn y tabl isod.

Cyfanswm nifer yr ymatebion Cytuno’n gryf Cytuno Niwtral Anghytuno Anghytuno’n gryf Ddim yn gwybod
Bacwn 314 92% 6% 0% 0% 1% 1%
Selsig 313 93% 5% 0% 0% 1% 1%
Gamwn 313 93% 5% 0% 0% 1% 1%
Cig porc wedi’i goginio a’i sleisio 312 93% 5% 0% 0% 1% 1%
Wyau selsig 313 90% 6% 1% 1% 1% 1%
Cyw iâr mewn briwsion bara 313 93% 5% 0% 0% 1% 1%
Cyw iâr sy’n barod i’w goginio 311 94% 4% 0% 0% 1% 1%
Cig cyw iâr wedi’i goginio a’i sleisio 313 93% 5% 0% 0% 1% 1%
Gwynwy 311 89% 6% 1% 1% 1% 2%
Wyau wedi’u berwi’n galed 313 89% 7% 1% 1% 1% 1%
Quiche 312 88% 8% 1% 1% 1% 1%
Cigoedd wedi’u marinadu 312 91% 6% 1% 0% 1% 1%

Mae ymatebion gan sefydliadau wedi’u crynhoi yn y tabl isod:

Cyfanswm nifer yr ymatebion Cytuno’n gryf Cytuno Niwtral Anghytuno Anghytuno’n gryf Ddim yn gwybod
Bacwn 113 64% 9% 3% 4% 11% 9%
Selsig 114 65% 8% 3% 4% 11% 9%
Gamwn 113 65% 9% 3% 4% 11% 8%
Cig porc wedi’i goginio a’i sleisio 114 65% 9% 3% 4% 10% 9%
Wyau selsig 1112 62% 12% 4% 4% 9% 9%
Cyw iâr mewn briwsion bara 113 65% 12% 3% 4% 8% 8%
Cyw iâr sy’n barod i’w goginio 113 64% 12% 4% 5% 8% 7%
Cig cyw iâr wedi’i goginio a’i sleisio 113 65% 12% 3% 5% 8% 7%
Gwynwy 112 62% 11% 4% 5% 8% 10%
Wyau wedi’u berwi’n galed 113 59% 13% 5% 5% 8% 10%
Quiche 113 61% 11% 5% 4% 9% 10%
Cigoedd wedi’u marinadu 113 64% 14% 3% 4% 8% 7%

Roedd Cwestiwn 41b yn gofyn: ‘Os hoffech chi gynnig blaenoriaeth labelu arall, nodwch hyn isod os gwelwch yn dda.’

Cawsom 145 ymateb i’r cwestiwn hwn.

  • Roedd y mwyafrif o ymatebion yn syml yn galw am labelu pob cynnyrch sy’n tarddu o anifeiliaid, gan gynnwys cynnyrch anifeiliaid sy’n cael eu ffermio ac anifeiliaid gwyllt.

  • Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid cynnwys porc, cyw iâr neu gynhyrchion wyau ychwanegol, gan gynnwys wy mewn mayonnaise, wyau wedi’u sychu drwy rewi, eitemau charcuterie, byrgyrs, prydau parod, brechdanau a nwyddau wedi’u pobi fel cacennau.

Roedd Cwestiwn 42 yn gofyn: ‘Pe na baem yn defnyddio rhestr, disgrifiwch unrhyw ddulliau eraill y byddech chi’n eu cynnig i ddiffinio pa gynhyrchion sydd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib sy’n cael eu cynnwys?’

Cawsom tua 134 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, er nad oedd llawer o’r rhain yn awgrymu dulliau eraill. 

  • Roedd y mwyafrif o ymatebwyr - unigolion ac ymatebwyr o’r diwydiant yn benodol - yn awgrymu y gallem ddiffinio pa gynhyrchion sy’n cael eu prosesu cyn lleied â phosib sy’n cael eu cynnwys ar sail trothwy sylfaenol o gynnwys cynnyrch anifeiliaid, yn unol â’r dull a ddefnyddiwyd ar gyfer diffiniadau presennol o rai cynhyrchion cig o dan Reoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Lloegr) 2014.

  • Roedd rhai’n awgrymu diffinio pa eitemau sy’n cael eu cynnwys yn ôl y weithdrefn sy’n berthnasol iddynt (er enghraifft, halltu, blendio, coginio ac ati), gan adeiladu ar y diffiniadau presennol o gynhyrchion wedi’u prosesu a heb eu prosesu. Awgrymodd eraill y posibilrwydd o ddefnyddio categorïau manwerthu eang fel cigoedd wedi’u hoeri.

  • Awgrymodd rhai y byddai angen diweddaru dull rhestr yn rheolaidd er mwyn addasu i arloesi yn y maes cynnyrch bwyd ac unrhyw newidiadau mewn patrymau defnyddio. Mynegodd rhai bryderon hefyd y byddai defnyddio rhestr yn golygu bod gofyn cael diffiniadau clir er mwyn osgoi eitemau heb eu categoreiddio mewn camgymeriad a ‘helwriaeth’ bosib, er enghraifft drwy newid enw eitemau i osgoi gofynion labelu.

Roedd Cwestiwn 43a yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i labelu safon cynhyrchu dim ond un cynhwysyn, wrth labelu cynhyrchion sy’n cael eu prosesu cyn lleied â phosib (er enghraifft wyau selsig)?’

Cawsom 411 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 297 gan unigolion 

  • 114 gan sefydliadau 

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 14% 9%
Cytuno 13% 14%
Niwtral 9% 10%
Anghytuno 25% 29%
Anghytuno’n gryf 31% 29%
Ddim yn gwybod 8% 9%

Roedd Cwestiwn 43b yn gofyn: ‘Ydych chi’n cytuno â’n cynnig i bennu safonau cynhyrchu ar sail y safon lles anifeiliaid isaf mewn batsh?’

Cawsom 432 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 313 gan unigolion 

  • 119 gan sefydliadau 

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw, rwy’n cytuno y dylid labelu’r safon isaf 78% 55%
Nac ydw, rwy’n credu y dylid labelu cynhyrchion fel rhai sy’n cynnwys cymysgedd o safonau lles 17% 25%
Nac ydw, rwy’n credu y dylid labelu’r safon uchaf 3% 6%
Anghytuno 0% 2%
Ddim yn gwybod 2% 12%

Sut mae cynnyrch yn cael ei becynnu (Cwestiynau 44 a 45)

Roedd Cwestiwn 44 yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i labelu’r holl gynhyrchion porc, cyw iâr ac wyau heb eu prosesu neu wedi’u prosesu cyn lleied â phosib, sy’n dod o fewn y cwmpas, p’un a ydynt wedi cael eu pecynnu ar gais y defnyddiwr, wedi eu rhag-becynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol neu eu rhag-becynnu mewn ffatri cyn eu gwerthu? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 426 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 309 gan unigolion 

  • 117 gan sefydliadau 

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 82% 58%
Cytuno 14% 20%
Niwtral 2% 6%
Anghytuno 0% 6%
Anghytuno’n gryf 1% 6%
Ddim yn gwybod 1% 4%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd y mwyafrif o ymatebwyr ar draws pob grŵp yn dymuno cael tryloywder a chysondeb ni waeth sut na phryd y cafodd eitem ei phecynnu, gan ddweud y byddai hyn yn helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau.

  • Cododd y rhai a oedd yn anghytuno bryderon ynghylch cymhlethdod anghymesur a’r posibilrwydd o wallau wrth wahanu a labelu bwydydd ‘rhydd’, a chost dilysu honiadau am yr eitemau hyn. Teimlai rhai ymatebwyr y byddai darparu gwybodaeth adeg prynu, er enghraifft, ar y cownter cig, yn ddigon yn hytrach na labelu ar y deunydd pacio.

Roedd Cwestiwn 45 yn gofyn: ‘Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid labelu’r holl gynhyrchion heb eu prosesu a’r rhai sydd wedi’u prosesu cyn lleied â phosib, sy’n dod o fewn y cwmpas, p’un a ydynt yn cael eu gwerthu mewn siopau, archfarchnadoedd, tai bwyta, caffis neu gan fanwerthwyr ar-lein? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 28,537 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 28,423 gan unigolion  

  • 114 gan sefydliadau 

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 100% 60%
Cytuno 0% 17%
Niwtral 0% 4%
Anghytuno 0% 6%
Anghytuno’n gryf 0% 9%
Ddim yn gwybod 0% 4%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd y mwyafrif o ymatebwyr, yn enwedig unigolion, yn galw am gysondeb o ran labelu ar draws yr holl siopau. Roedd y rhesymau a nodwyd yn cynnwys manteision o ran tryloywder defnyddwyr, lles anifeiliaid a ffermwyr yn bodloni safonau lles uwch, ac osgoi creu mannau gwan posib. Awgrymodd ymatebwyr fod llawer o gynnyrch eisoes yn cael eu gwahanu a’u gwerthu ar sail ansawdd ar draws y safleoedd gwerthu hyn ac felly mae’n annhebygol y byddai ymestyn y broses hon i gynnwys safonau cynhyrchu yn cael effaith sylweddol.

  • Fodd bynnag, roedd ymatebwyr o’r diwydiant a rhai cyrff cyhoeddus yn teimlo y byddai ymestyn y labelu i bob safle yn anghymesur o gymhleth a chostus, yn enwedig gan fod llawer ohonynt yn fusnesau bach gyda chyflenwyr a bwydlenni deinamig sy’n newid yn barhaus. Nododd rhai ymatebwyr fod y safleoedd hyn yn defnyddio dulliau eraill i roi gwybodaeth i’w cwsmeriaid.

Sector gwasanaeth bwyd (Cwestiwn 46)

Roedd Cwestiwn 46 yn gofyn ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig y dylid labelu cynnyrch sy’n cael ei werthu drwy’r sector manwerthu yn unig? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 15,574 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 15,458 gan unigolion   

  • 116 gan sefydliadau   

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 0% 4%
Cytuno 0% 12%
Niwtral 0% 10%
Anghytuno 0% 27%
Anghytuno’n gryf 99% 42%
Ddim yn gwybod 0% 5%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:            

  • Roedd y mwyafrif o ymatebwyr a oedd yn anghytuno y dylai labelu fod yn berthnasol i gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu drwy’r sector manwerthu yn unig, gan gynnwys y mwyafrif o unigolion a chyrff anllywodraethol a llawer o ymatebwyr o’r diwydiant, yn dadlau y dylai labelu fod yn berthnasol ar draws pob sector oherwydd pwysigrwydd tryloywder i ddefnyddwyr yn y sector gwasanaeth bwyd.

  • Ar ben hynny, roedd llawer o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno, gan gynnwys y mwyafrif o ymatebwyr o’r diwydiant a llawer o gyrff anllywodraethol, yn teimlo y dylai’r sector gwasanaeth bwyd fodloni’r un safonau â’r sector manwerthu a’i fod yn annheg os nad yw labelu’n cael ei ddefnyddio’n gyson ar draws gwahanol sectorau.

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cytuno y dylai labelu fod yn berthnasol i’r sector manwerthu yn unig yn teimlo y byddai’n rhy gymhleth cyflwyno labelu ar gyfer y sector gwasanaethau bwyd, oherwydd cadwyni cyflenwi mwy deinamig a newidiol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y byddent yn hoffi gweld labelu dull cynhyrchu yn dechrau gyda’r sector manwerthu ac yna’n ehangu i’r sector gwasanaeth bwyd yn ddiweddarach.

Diffinio safonau cynhyrchu (Cwestiynau 47 i 54)

Safonau’n seiliedig ar fewnbynnau (Cwestiynau 47 i 48)

Roedd Cwestiwn 47 yn gofyn i ymatebwyr: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai safonau fod yn seiliedig ar fewnbynnau sy’n bwysig i les, o ystyried y diffyg enghreifftiau o labeli sy’n seiliedig ar ganlyniadau lles a’r cymhlethdod ychwanegol y byddai hyn yn ei olygu i’r gadwyn gyflenwi? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 443 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 302 gan unigolion 

  • 141 gan sefydliadau  

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 63% 30%
Cytuno 21% 30%
Niwtral 5% 10%
Anghytuno 5% 11%
Anghytuno’n gryf 1% 15%
Ddim yn gwybod 5% 4%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cefnogi pennu’r safonau ar sail mewnbynnau yn awgrymu eu bod yn symlach i’w monitro, ac felly’n ddull mwy gwrthrychol o fesur amodau magu anifeiliaid. Roedd rhai ymatebwyr, cyrff anllywodraethol yn benodol, yn dadlau bod mewnbynnau yn benderfynydd allweddol o ran lles gan eu bod yn disgrifio’r amgylchedd ffisegol lle caiff anifeiliaid eu magu, ac felly ‘potensial lles’ system. Ar ben hynny, roedd ymatebwyr a oedd yn cefnogi seilio’r safonau ar fewnbynnau yn awgrymu bod mewnbynnau’n symlach i ddefnyddwyr eu deall na chanlyniadau lles.

  • Cyfeiriodd ymatebwyr at faterion yn ymwneud â monitro canlyniadau lles, fel rheoli ansawdd, y nifer fawr o anifeiliaid sydd eu hangen i gael canlyniadau ystadegol gadarn a’r pwysau cynyddol ar ffermwyr i arolygu. Awgrymodd ymatebwyr fod angen gwneud rhagor o waith i ddiffinio’r mesurau canlyniadau gorau ar gyfer pob rhywogaeth a chanfod lle gellid gosod unrhyw drothwyon, yn enwedig ar gyfer mesurau ymddygiad. Awgrymodd rhai ymatebwyr hefyd y byddai amrywiadau mewn canlyniadau lles ar ffermydd a allai ddigwydd o un batsh i’r llall yn ychwanegu cymhlethdod at gadwyni cyflenwi, gan y gallai fod angen diweddaru labeli yn rheolaidd, i adlewyrchu haen label pob batsh.

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn anghytuno â defnyddio mewnbynnau yn awgrymu bod canlyniadau yn ddangosydd gwell ar gyfer lles. Roedd rhai ymatebwyr, yn enwedig y rheini o’r diwydiant, yn dadlau nad yw canlyniadau o reidrwydd yn dibynnu ar y system gynhyrchu, gan gyfeirio at enghreifftiau o systemau dan do sy’n gallu sicrhau canlyniadau uwch na systemau yn yr awyr agored. Felly, awgrymodd ymatebwyr y gallai dibynnu’n llwyr ar fewnbwn fod yn fesur camarweiniol o les i ddefnyddwyr.

  • Awgrymodd rhai ymatebwyr, gan gynnwys nifer o gyrff anllywodraethol a chyrff y diwydiant, y dylid datblygu safonau dros amser i gynnwys mewnbynnau a chanlyniadau pan fydd dull safonol ac ymarferol ar gael. Roedd ymatebwyr hefyd yn awgrymu y gellid defnyddio data canlyniadau lles i asesu a yw mewnbynnau yn ddangosyddion lles dibynadwy.

Roedd Cwestiwn 48 yn gofyn ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’i gwneud yn ofynnol i asesu canlyniadau lles ar gyfer cynhyrchion sy’n cael eu labelu’n haen 3 ac uwch? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 427 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 291 gan unigolion
  • 136 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 50% 32%
Cytuno 30% 27%
Niwtral 4% 12%
Anghytuno 3% 10%
Anghytuno’n gryf 1% 13%
Ddim yn gwybod 12% 6%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cytuno y dylid cynnal asesiadau lles ar gyfer cynhyrchion sy’n cael eu labelu’n haen 3 ac uwch yn teimlo bod hyn yn bwysig er mwyn i ddefnyddwyr gael tryloywder a gallu ymddiried mewn unrhyw gynllun labelu. Fodd bynnag, roedd rhai ymatebwyr yn dadlau y dylai haenau is hefyd gynnwys asesu canlyniadau i sicrhau tegwch ar draws gwahanol systemau cynhyrchu a sicrhau nad yw’r gofyniad hwn yn creu datgymhelliad i ffermwyr rhag symud i’r haenau uwch. Awgrymodd ymatebwyr ei bod yn bwysig annog gwelliannau mewn ymateb i asesu canlyniadau, gan awgrymu y gellid cyflawni hyn naill ai drwy fynnu bod ffermydd sydd â chanlyniadau gwael yn cyflwyno cynlluniau gweithredu mewn ymateb i’r rhain ac asesu effeithiolrwydd eu camau gweithredu i ddatrys unrhyw broblemau a nodwyd, fel y cynigir yn yr ymgynghoriad, neu drwy ddefnyddio canlyniadau asesu canlyniadau i lywio’r haen label sy’n berthnasol i gynnyrch o’r anifeiliaid hynny.

  • Rhoddodd ymatebwyr nad oeddent o blaid cynnwys asesu canlyniadau ar gyfer haenau 3 ac uwch amrywiaeth o resymau pam na ddylid cynnwys y rhain. Roedd rhai ymatebwyr, gan gynnwys llawer o’r diwydiant, yn dadlau y byddai cynnwys asesu canlyniadau yn cynyddu costau, ac yn rhy gymhleth a beichus ar gyfer ffermwyr, a allai eu datgymell rhag symud i haenau uwch.

Metrigau safonol (Cwestiynau 49 i 50)

Roedd Cwestiwn 49 yn gofyn ‘A oes metrigau ychwanegol y dylid eu cynnwys yn y safonau (a nodir yn y tabl uchod), yn eich barn chi? Os oes, rhestrwch y metrig(au) arfaethedig ac eglurwch eich rhesymeg’.

Cawsom 137 ymateb ar gyfer ieir dodwy, 129 ymateb ar gyfer ieir bwyta a 133 ymateb ar gyfer moch.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Cafwyd nifer o awgrymiadau ar gyfer metrigau ychwanegol i’w cynnwys yn y safonau, yn enwedig gan gyrff anllywodraethol ac academyddion. Dyma’r metrigau ychwanegol a awgrymwyd amlaf ar draws pob rhywogaeth:

    1. Cynnwys mesurau canlyniadau lles penodol, fel lefelau clefydau, anafiadau, marwoldeb, ymddygiad cadarnhaol, a’r amser a dreulir yn yr awyr agored
    2. Dangosyddion amgylcheddol, fel lefelau sŵn, lleithder, ansawdd aer a thymheredd, ansawdd sbwriel, rheoli.
    3. Maint y cefnaint neu’r haid
    4. Oedran adeg lladd
    5. Mynediad at ofal milfeddygol a chynllunio iechyd
    6. Math o fwyd anifeiliaid a mynediad ato
    7. Defnyddio gwrthfiotigau
    8. Defnyddio teledu cylch cyfyng i fonitro cefneiniau/heidiau
  • Y metrigau ychwanegol a awgrymwyd amlaf ar gyfer ieir dodwy ac ieir bwyta yn benodol, oedd ansawdd y maes, gan gynnwys mynediad at gysgod a lloches

  • Dyma’r metrigau ychwanegol a awgrymwyd amlaf ar gyfer moch yn benodol:

    1. Digon o gysgod yn ystod yr haf
    2. Trefniadau torri dannedd a bylchu clustiau
    3. Systemau gwlâu a darparu gwellt
    4. Oed diddyfnu
Roedd Cwestiwn 50 yn gofyn ‘A oes unrhyw fetrig(au) arfaethedig rydych chi’n credu NA DDYLID eu cynnwys yn y safonau drafft? Os oes, eglurwch pam.’

Cawsom:

  • 67 ymateb ar gyfer ieir dodwy 
  • 67 ymateb ar gyfer ieir bwyta 
  • 69 ymateb ar gyfer moch 

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Dyma rai o fetrigau penodol roedd rhai ymatebwyr wedi awgrymu na ddylent fod yn rhan o’r safonau:
    1. Tocio pigau: roeddent yn dadlau y byddai gadael y pigau fel y maent yn gallu arwain at ganlyniadau lles gwaeth i ieir pan fyddai achosion o bigo plu yn digwydd.
    2. Mynediad i’r awyr agored i foch, ieir dodwy ac ieir bwyta: roeddent yn dadlau bod materion sy’n ymwneud â thymheredd eithafol, tywydd garw a rheoli clefydau yn golygu nad yw mynediad i’r awyr agored bob amser yn ddymunol nac yn bosib mewn rhai ardaloedd.

Gosod safonau haenog (Cwestiynau 51 i 52)

Roedd Cwestiwn 51 yn gofyn ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno â’r system haenog arfaethedig uchod?’

Cawsom 441 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 293 gan unigolion
  • 148 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 48% 27%
Cytuno 33% 28%
Niwtral 6% 13%
Anghytuno 4% 10%
Anghytuno’n gryf 4% 19%
Ddim yn gwybod 5% 3%
Roedd Cwestiwn 52 yn gofyn ‘Os hoffech awgrymu newidiadau i’r lefelau lle mae safonau unigol yn cael eu gosod yn yr haenau drafft, sydd ar gael yn Atodiad B, a fyddech cystal â gwneud hynny.  Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom:

  • 13,008 ymateb ar gyfer ieir dodwy 
  • 13,007 ymateb ar gyfer ieir bwyta  
  • 13,014 ymateb ar gyfer moch 

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cytuno â’r system haenog arfaethedig yn teimlo bod haenau yn cynnig strwythur defnyddiol ar gyfer y safonau ac yn ffordd synhwyrol o wahaniaethu rhwng systemau cynhyrchu. Roeddent hefyd yn teimlo bod yr haenau’n syml ac yn ddealladwy i ddefnyddwyr ac y byddent felly’n eu helpu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.

  • Roedd ymatebwyr nad oeddent yn cytuno â’r system haenog arfaethedig, yn enwedig ymatebwyr o’r diwydiant, yn dadlau:
    • nid yw dulliau cynhyrchu o reidrwydd yn nodi lefel lles anifail, felly mae defnyddio system haenog i gynrychioli gwahanol systemau cynhyrchu yn fesur goddrychol o lefel y lles ym mhob system
    • dylai haenau labeli gyd-fynd yn union â’r safonau marchnata wyau presennol ar gyfer ieir, a safonau cynlluniau gwarant ffermydd ar gyfer moch ac ieir bwyta, er mwyn cadw pethau’n syml ac osgoi rhoi baich ychwanegol ar fusnesau ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi
  • Awgrymodd ymatebwyr amrywiaeth o newidiadau i’r haenau, sy’n cael eu crynhoi isod:
    • Gosod safonau craidd Tractor Coch mewn haen sy’n uwch na’r llinell sylfaen. Awgrymodd rhai ymatebwyr, yn enwedig o’r diwydiant, y byddai cynnwys cynhyrchion sy’n bodloni safonau craidd y Tractor Coch yn yr haen 4 arfaethedig, ynghyd â chynhyrchion sy’n bodloni haen sylfaenol gyfreithiol y DU, yn datgymell ffermwyr sy’n perthyn i gynllun gwarant y Tractor Coch rhag parhau i fodloni safonau sy’n uwch na’r llinell sylfaen gyfreithiol ac felly’n arwain at ostwng safonau lles. Felly, awgrymodd yr ymatebwyr hyn y dylid cydnabod safonau craidd y Tractor Coch fel haen ar wahân i linell sylfaen gyfreithiol y DU.
    • Roedd rhai ymatebwyr, yn enwedig cyrff anllywodraethol, academyddion ac unigolion, yn awgrymu bod angen mwy o uchelgais ar draws yr haenau i hyrwyddo safonau lles uwch. Roedd hyn yn cynnwys cynyddu’r gofynion o ran gofod ar gyfer haenau 3 a 4, gan gynnwys mynediad yn yr awyr agored ar gyfer haen 3, mwy o amodau ar ofynion golau/tywyll ar gyfer ieir bwyta haen 3, peidio â chaniatáu rhoi moch haen 3 mewn crât dros dro a chynnwys rhagor o fanylion o ran gofynion mynediad yn yr awyr agored. Yn ogystal, awgrymodd ymatebwyr ychwanegu rhagor o fanylion am gyfoethogi derbyniol, yn enwedig ar gyfer ieir dodwy haen 3.
    • Cael gwared ar fynediad yn yr awyr agored fel maen prawf ar gyfer haenau uwch. Roedd rhai ymatebwyr, yn enwedig o’r diwydiant, yn dadlau nad yw systemau awyr agored o reidrwydd yn cyfateb i ganlyniadau lles gwell. Awgrymodd rhai ymatebwyr hefyd, oherwydd nad yw systemau awyr agored yn ymarferol ym mhob ardal ddaearyddol, na ddylai fod yn ofyniad ar gyfer yr haenau uwch.  Roedd eraill, yn enwedig cyrff anllywodraethol, yn dadlau bod mynediad yn yr awyr agored yn darparu mwy o botensial o ran lles na systemau dan do ac y dylai felly fod yn faen prawf ar gyfer yr haenau uwch.
  • Roedd safbwyntiau croes am gynyddu neu leihau nifer yr haenau.
    • Roedd rhai ymatebwyr yn dadlau y byddai llai o haenau yn symlach i ddefnyddwyr a’r gadwyn gyflenwi, tra bod eraill yn dadlau dros gynyddu nifer yr haenau. Roedd hyn yn arbennig o wir am safonau moch, lle roedd y mwyafrif o unigolion yn dadlau y byddai mwy o amrywiad mewn systemau cynhyrchu moch yn cyfiawnhau cynnwys haenau ychwanegol i gyfleu’r gwahaniaethau hyn. Er enghraifft, roedd ymatebwyr yn awgrymu rhannu magu yn yr awyr agored a bridio yn yr awyr agored yn haenau ar wahân, ac roedd rhai ymatebwyr yn nodi y byddai hynny’n cyd-fynd yn well â’r Cod Tarddiad Porc sydd eisoes yn bodoli.
    • Cafwyd rhai awgrymiadau i uno’r ddwy haen uchaf ar gyfer pob rhywogaeth; fodd bynnag, roedd y mwyafrif helaeth o unigolion yn dadlau dros gadw’r gwahaniaeth rhyngddynt er mwyn sicrhau digon o wahaniaeth er mwyn i ffermwyr gael eu gwobrwyo am gyrraedd y safon uchaf.
  • Awgrymwyd dileu’r gofyn am ferandas o’r ddwy haen uchaf ar gyfer ieir dodwy ac ieir bwyta, yn enwedig gan ymatebwyr o’r diwydiant, gyda rhai ymatebwyr yn dadlau nad yw ferandas yn ymarferol, yn enwedig i ffermwyr sy’n denantiaid. Ond roedd eraill, yn enwedig cyrff anllywodraethol, yn dadlau bod gan ferandas fudd amlwg o ran lles ac y dylid felly eu cynnwys.

Cyfnod bywyd sy’n dod o dan y safonau (Cwestiynau 53 i 54)

Roedd Cwestiwn 53a) yn gofyn ‘Ydych chi’n cytuno â’r cynnig uchod sy’n nodi i ba gyfnod bywyd y mae’r safonau drafft yn berthnasol ar gyfer pob sector? Eglurwch pam os gwelwch yn dda.’

Cawsom 15,554 ymateb i Gwestiwn 53a ar gyfer ieir dodwy:

  • 15,431 gan unigolion
  • 123 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydy, mae’r cyfnod amser yn iawn 0% 28%
Na, mae’n rhy hir 0% 3%
Na, mae’n rhy fyr 99% 41%
Ddim yn gwybod 0% 28%

Cawsom 15,543 ymateb i Gwestiwn 53a ar gyfer ieir bwyta:

  • 15,421 gan unigolion 

  • 122 gan sefydliadau

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydy, mae’r cyfnod amser yn iawn 0% 43%
Na, mae’n rhy hir 0% 3%
Na, mae’n rhy fyr 99% 29%
Ddim yn gwybod 0% 25%

Cawsom 15,535 ymateb i Gwestiwn 53a ar gyfer moch:

  • 15,414 gan unigolion
  • 121 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydy, mae’r cyfnod amser yn iawn 0% 41%
Na, mae’n rhy hir 0% 2%
Na, mae’n rhy fyr 99% 26%
Ddim yn gwybod 0% 31%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiynau penagored:

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn teimlo bod y cyfnod bywyd yn rhy fyr yn dadlau y dylid cynnwys cywion bridio, cywennod magu a chywion gwryw yn y sector ieir dodwy, dylid cynnwys stoc teidiau a neiniau yn y sector moch ac y dylid cynnwys bridwyr cywion brwylio yn y sector ieir bwyta.

  • Dadleuodd y mwyafrif helaeth o unigolion a’r mwyafrif o gyrff anllywodraethol y dylid cynnwys dull lladd, naill ai fel rhan o’r safonau neu fel label ar wahân. Roedd yr ymatebwyr hyn yn awgrymu bod dull lladd, er enghraifft, a oedd anifeiliaid yn cael eu pensyfrdanu, ac ar gyfer moch, a oedd CO2 yn cael ei ddefnyddio i bensyfrdanu, yn gallu chwarae rhan fawr mewn lles cyffredinol anifail. Yn yr un modd, roedd y mwyafrif o unigolion a llawer o gyrff anllywodraethol yn dadlau y dylid cynnwys math o gludiant, gan awgrymu y gall hyn fod yn arbennig o anodd i anifeiliaid ac y dylai felly gael ei gynnwys fel rhan o’r safonau neu ei gynnwys fel label ar wahân.

  • Fodd bynnag, dywedodd y mwyafrif o ymatebwyr, gan gynnwys y mwyafrif o ymatebwyr unigol ac o’r diwydiant, y dylai’r meini prawf a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng yr haenau ymwneud â’r cyfnod magu ar y fferm yn unig. Dadleuodd ymatebwyr y byddai cyflwyno cludiant a stoc bridio at yr haenau yn cyflwyno lefel o gymhlethdod a gwrthddywediadau posib, lle mae anifeiliaid yn treulio rhywfaint o’u bywydau mewn gwahanol fathau o systemau, a fyddai’n ei gwneud hi’n anodd categoreiddio cynnyrch yn haenau. Awgrymodd ymatebwyr hefyd y gall labeli cynlluniau gwarant ffermydd helpu i ddarparu mwy o fanylion am hyd bywyd llawn, er enghraifft, dull lladd, a allai ddarparu gwybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â label dull cynhyrchu i ddefnyddwyr sy’n poeni am hyn.

Roedd Cwestiwn 54 yn gofyn ‘Rydym yn ystyried ymestyn cyfnod ieir dodwy i gynnwys y cyfnod magu cywennod. A oes gennych unrhyw farn ar sut gellid gwneud hyn yn ymarferol ac ar effeithiau dull o’r fath?’

Cawsom 156 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau gan ymatebwyr ar sut gellid ymestyn cyfnod y ddarpariaeth ar gyfer ieir dodwy i gynnwys y cyfnod magu cywennod yn ymarferol. Roedd yr ymatebwyr a oedd o blaid cynnwys y cyfnod magu cywennod yn y safonau yn teimlo, gan fod y cyfnod hwn yn berthnasol i iechyd a lles ieir sy’n oedolion, y dylid ei gynnwys yn y safonau.

  • Roedd ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi cynnwys y cyfnod magu cywennod yn awgrymu y byddai ymestyn y cyfnod yn rhy gymhleth i’w weithredu gan y byddai’n cyflwyno gofynion ychwanegol ar gyfer olrhain a monitro. Awgrymwyd hefyd, gan fod cynlluniau gwirfoddol, fel Cod Ymarfer Cynllun Nod y Llew ac RSPCA Assured eisoes yn cynnwys safonau ar gyfer magu cywennod, y gallai ychwanegu safonau ychwanegol fod yn ddyblygol.

Fformat labeli a therminoleg (Cwestiynau 55 i 64)

Cyflwyno haen y cynnyrch yn effeithiol ar y label (Cwestiynau 55 i 56)

Roedd Cwestiwn 55 yn gofyn: ‘Pa un o’r canlynol fyddai fwyaf effeithiol ar gyfer dangos haen y cynnyrch ar label? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 5,241 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 5,107 gan unigolion
  • 134 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Rhifau 1% 15%
Llythrennau 97% 19%
Sêr 2% 24%
Llythrennau neu Rifau 0% 0%
Dewis arall 0% 5%
Dydw i ddim eisiau gweld yr haen wedi’i chynnwys yn fformat y label 0% 23%
Ddim yn gwybod 0% 14%
Roedd Cwestiwn 56 yn gofyn: ‘A ddylai’r label gynnwys lliwiau sy’n cyfateb i bob haen, yn eich barn chi? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda. Os dylai, awgrymwch liw ar gyfer pob haen. A oes unrhyw effeithiau o ran cynnwys lliw y dylid eu hystyried?’

Cawsom 421 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 291 gan unigolion
  • 130 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Dylai, mae’n bwysig cynnwys lliwiau 65% 52%
Na ddylai, nid yw’n bwysig cynnwys lliwiau 20% 30%
Ddim yn gwybod 15% 18%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer cwestiynau penagored:

  • Roedd ymatebwyr nad oeddent yn dymuno gweld yr haen yn cael ei chynnwys ar fformat y label, yn arbennig y rheini o’r diwydiant, yn dadlau bod safonau lles anifeiliaid yn rhy gymhleth i’w symleiddio ar un label, ac y byddai ceisio gwneud hynny yn arwain at ddryswch ymhlith defnyddwyr.

  • Ar draws pob math o sefydliad a math o unigolion, roedd cytundeb ynghylch rhai elfennau. Roedd y themâu cyffredin ar draws yr holl grwpiau yn cynnwys:
    • Eglurodd ymatebwyr a oedd yn ffafrio defnyddio llythrennau yn nyluniad y label eu bod yn ei chael hi’n haws deall pa haen yw’r haen uchaf a pha un yw’r isaf, o’i gymharu â rhifau a sêr, a allai fod yn gamarweiniol.
    • Roedd llawer o ymatebwyr yn credu ei bod yn bwysig cynnwys sbectrwm o liwiau gwyrdd i goch i gyd-fynd â phob haen, gan nodi er bod lliwiau’n helpu i gyfleu gwybodaeth yn gyflym, y dylid cynnwys dangosydd arall, fel gradd llythyren, fel bod y rheini sy’n ddall i liwiau yn dal i allu deall y label.
  • Roedd ymatebwyr nad oeddent yn credu ei bod yn bwysig cynnwys lliwiau yn darparu amrywiaeth o ddadleuon dros hyn, gan gynnwys:
    • gallai lliwiau orsymleiddio’r label neu wrthdaro â lliwiau presennol ar labeli er enghraifft, labelu maeth
    • gall lliwiau fod yn ddrutach i’w hargraffu

Terminoleg labeli

Roedd Cwestiwn 57 yn gofyn: ‘A ddylai’r label gynnwys terminoleg sy’n disgrifio’r dull cynhyrchu a lefel y lles?’

Cawsom 15,198 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 15,059 gan unigolion  

  • 139 gan sefydliadau  

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Dylai, y ddau 2% 45%
Na ddylai, disgrifiad o’r dull cynhyrchu yn unig 98% 20%
Na ddylai, disgrifiad o lefel y lles yn unig 0% 5%
Na ddylai, ni ddylai’r label gynnwys termau disgrifiadol 0% 13%
Arall 0% 8%
Ddim yn gwybod 0% 9%
Roedd Cwestiwn 58 yn gofyn: ‘Rhannwch unrhyw sylwadau am y dewis o derminoleg labelu ar sail y safonau drafft yn Atodiad B.’

Cawsom 74 ymateb ar derminoleg lefel lles a 90 ymateb ar derminoleg dull cynhyrchu.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi’r label yn cynnwys terminoleg am lefelau lles, gan gynnwys y mwyafrif o unigolion a rhai o ymatebwyr o’r diwydiant, yn dadlau bod terminoleg lefelau lles yn gallu bod yn oddrychol, ac felly’n gamarweiniol i ddefnyddwyr. Roedd rhai ymatebwyr, yn enwedig y rheini o’r diwydiant, hefyd yn dadlau y byddai cynnwys term am lefel lles yn gwneud y label yn rhy brysur.

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cefnogi cynnwys dull cynhyrchu a therminoleg lefel lles yn teimlo mai gorau po fwyaf o wybodaeth sydd ar gael, ac y byddai terminoleg lefel lles yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus yn unol â’u gwerthoedd.

  • Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo nad oedd y term ‘safonol’ ar gyfer y dull cynhyrchu yn glir, ac yn hytrach yn awgrymu defnyddio’r term ‘safon ofynnol’.

Roedd Cwestiwn 59 yn gofyn: ‘Os ydych chi wedi cynnig safonau cynhyrchu amgen yn eich atebion i gwestiynau blaenorol, awgrymwch derminoleg ar gyfer y labeli i gyd-fynd â’ch cynigion.’

Cawsom 39 ymateb i’r cwestiwn hwn. Cawsom amrywiaeth o ymatebion yn rhannu awgrymiadau o derminoleg ar gyfer safonau cynhyrchu amgen. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a gafwyd i’r cwestiwn hwn os bydd y polisi’n cael ei ddatblygu eto yn y dyfodol.

Ystyriaethau eraill o ran fformat labeli (Cwestiynau 60 i 64)

Roedd Cwestiwn 60 yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cefnogi cynnwys llun sy’n dangos y dull cynhyrchu? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 431 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 293 gan unigolion
  • 138 gan sefydliadau 
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cefnogi’n gryf 47% 25%
Cefnogi 17% 17%
Niwtral 18% 16%
Gwrthwynebu 9% 14%
Gwrthwynebu’n gryf 3% 22%
Ddim yn gwybod 6% 6%

Crynodeb o’r ymatebion i’r cwestiwn penagored:

  • Eglurodd ymatebwyr a oedd o blaid cynnwys llun, gan gynnwys y mwyafrif o gyrff anllywodraethol a llawer o unigolion, y gall lluniau helpu i gyfleu gwahanol systemau cynhyrchu yn fwy llwyddiannus na geiriau, a’u bod yn helpu i wneud yr wybodaeth yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr.

  • Roedd ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi cynnwys llun, gan gynnwys rhai unigolion a llawer o ymatebwyr o’r diwydiant, yn dadlau nad yw’n bosibl cynrychioli gwahanol systemau cynhyrchu yn gywir mewn llun ac y gallent gamarwain defnyddwyr drwy orsymleiddio gwahanol systemau.

Cynnwys logo’r cynllun gwarant ar y label (Cwestiwn 61)

Roedd Cwestiwn 61 yn gofyn: ‘A ddylai’r label gynnwys lle ar gyfer logo cynllun gwarantu?’

Cawsom 381 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 273 gan unigolion  
  • 108 gan sefydliadau 
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Dylai – dylai logo’r cynllun gwarant fod yn rhan o’r label 32% 33%
Efallai – byddai’n dibynnu ar logo’r cynllun gwarant 35% 23%
Na ddylai – dylai logo’r cynllun gwarant fod ar wahân i’r label 17% 33%
Ddim yn gwybod 16% 10%

Roedd Cwestiwn 61b) yn gofyn: ‘Ydy hi’n bwysig bod y label yn dweud wrth ddefnyddiwr a yw’r cynnyrch yn dod o fferm warantedig ai peidio? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 368 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 264 gan unigolion   

  • 104 gan sefydliadau  

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydy – mae’n bwysig bod y label yn rhoi’r wybodaeth hon 61% 51%
Nac ydy – nid yw’r wybodaeth hon yn berthnasol i’r label 19% 35%
Ddim yn gwybod 20% 14%

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cefnogi cynnwys logos y cynllun gwarant ar y label yn teimlo y gallai cynlluniau gwarant roi hyder i ddefnyddwyr lle gallent fod eisoes yn adnabod logos y cynllun gwarant. Teimlai eraill ei bod yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr wybod bod cynnyrch yn cael ei warantu.

  • Roedd llawer o’r ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi cynnwys logos cynlluniau gwarant ar y label yn awgrymu nad oes gan ddefnyddwyr hyder mewn cynlluniau gwarant, ac felly byddai eu cynnwys yn tanseilio’r label. Ar ben hynny, roedd rhai ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi cynnwys logos cynlluniau gwarant ar y label yn awgrymu nad oes gan ddefnyddwyr ddealltwriaeth o gynlluniau gwarant a safonau cysylltiedig ac y gallai cynnwys logos o’r fath felly ddrysu defnyddwyr.

  • Roedd rhai ymatebwyr o blaid cynnwys cynlluniau gwarant ar y pecyn, ar wahân i’r label dull cynhyrchu er mwyn osgoi dryswch i ddefnyddwyr a sicrhau bod yr ystod lawn o safonau, fel y dull lladd a’r gallu i olrhain, sy’n dod o dan gynlluniau gwarant, yn cael eu cyfleu’n glir i ddefnyddwyr.

Sylwadau ar y label enghreifftiol (Cwestiwn 62)             

Roedd Cwestiwn 62 yn gofyn: ‘Rhannwch sylwadau ar y label enghreifftiol.’

Cawsom 278 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod gormod o wybodaeth wedi’i chynnwys ar y label enghreifftiol, a allai ddrysu defnyddwyr. I’r gwrthwyneb, roedd ymatebwyr eraill yn teimlo bod angen rhagor o fanylion ar y label i egluro beth mae’r safonau’n ei olygu, fel esboniad o’r hyn y mae termau fel ‘uwch’ yn ei olygu.

  • Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid newid y raddfa lliwiau i ddefnyddio sbectrwm coch-gwyrdd mwy traddodiadol, yn unol â labeli maeth ar hyn o bryd, a defnyddio oren yn lle’r haen borffor.

  • Roedd rhifau’r haenau yn drysu rhai ymatebwyr, ac roeddent yn ffafrio naill ai diwygio’r haenau fel mai 5 yw’r haen uchaf ac 1 yw’r haen isaf, neu ddefnyddio llythrennau yn lle hynny.

Rhoi dolen at ragor o wybodaeth ar y label (Cwestiwn 63)  

Roedd Cwestiwn 63 yn gofyn: ‘Ydych chi o blaid cynnwys dolen i ragor o wybodaeth ar y label?’

Cawsom 423 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 291 gan unigolion
  • 132 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw 81% 73%
Nac ydw 10% 14%
Ddim yn gwybod 9% 13%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Yr awgrym mwyaf cyffredin o ran sut gellid darparu rhagor o wybodaeth, oedd cynnwys cod QR neu URL i dudalen we gyda rhagor o wybodaeth, fel tudalen GOV.UK.

  • Roedd ymatebwyr nad oeddent o blaid darparu dolen at ragor o wybodaeth yn rhoi amrywiaeth o resymau dros hynny. Roedd rhai yn awgrymu y dylai’r holl wybodaeth berthnasol fod ar y label, ac eraill yn awgrymu y gallai defnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

  • Yr awgrym mwyaf cyffredin ar gyfer cyfeirio defnyddwyr at wybodaeth ychwanegol ar-lein oedd cynnwys arwyddion mewn siopau, fel posteri.

Roedd Cwestiwn 64 yn gofyn: ‘Rhannwch unrhyw sylwadau eraill ar fformat y labeli a’r derminoleg.’

Rhoddodd 41 o ymatebwyr sylwadau ychwanegol ar derminoleg a fformat y labeli. Mae sylwadau mewn ymateb i’r cwestiwn hwn wedi’u cynnwys yn y crynodebau o’r cwestiynau uchod ar fformat y labeli a’r derminoleg.

Monitro a gorfodi (Cwestiynau 65 i 73)

Roedd Cwestiwn 65 yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r system arfaethedig o Weithredwyr Busnes Bwyd yn bod yn gyfrifol am sicrhau bod y labeli sy’n cael eu defnyddio ar eu cynnyrch yn gywir? Eglurwch eich ateb a rhannwch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.’

Cawsom 342 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 237 gan unigolion
  • 105 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cefnogi’n gryf 35% 31%
Cefnogi 25% 31%
Niwtral 10% 11%
Gwrthwynebu 4% 8%
Gwrthwynebu’n gryf 8% 10%
Ddim yn gwybod 18% 9%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer cwestiwn penagored:

  • Roedd llawer o’r ymatebion i’r cwestiwn hwn, yn enwedig gan gyrff anllywodraethol ac unigolion, yn awgrymu bod angen gorfodi annibynnol ochr yn ochr â chyfrifoldeb Gweithredwyr Busnes Bwyd i sicrhau bod y labelu’n gywir, ac roeddent yn poeni am roi gormod o gyfrifoldeb ar Weithredwyr Busnes Bwyd.

  • I’r gwrthwyneb, roedd ymatebwyr eraill, yn enwedig y rheini o’r diwydiant, yn dadlau, oherwydd bod Gweithredwyr Busnes Bwyd yn gyfrifol yn gyfreithiol ar hyn o bryd am sicrhau cywirdeb y labelu presennol, mai dyma pwy ddylai fod yn gyfrifol am unrhyw gynllun labelu newydd.

Roedd Cwestiwn 66 yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynnig y gallai Gweithredwr Busnes Bwyd ddefnyddio bod yn aelod o gynllun gwarant ffermydd cydnabyddedig i helpu i wirio’r safonau cynhyrchu ar gyfer ffermwyr y DU? Eglurwch eich ateb a rhannwch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.’

Cawsom 335 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 230 gan unigolion 
  • 105 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cefnogi’n gryf 26% 29%
Cefnogi 31% 34%
Niwtral 9% 12%
Gwrthwynebu 7% 10%
Gwrthwynebu’n gryf 8% 7%
Ddim yn gwybod 19% 8%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd yr ymatebwyr a oedd yn cefnogi defnyddio aelodaeth o gynllun gwarant ffermydd i wirio’r safonau cynhyrchu yn rhoi amrywiaeth o resymau dros hynny:
    • Roedd llawer o’r ymatebwyr, gan gynnwys y mwyafrif o gyrff anllywodraethol a llawer o’r diwydiant, yn dadlau y byddai hyn yn arwain at lai o ddyblygu arolygiadau gwarant ffermydd a’r baich ar ffermwyr.
    • Roedd llawer o ymatebwyr, gan gynnwys llawer o gyrff anllywodraethol ac ymatebwyr o’r diwydiant, yn dadlau y byddai defnyddio cynlluniau gwarant ffermydd yn rhoi hygrededd i wirio safonau.
    • Awgrymodd rhai ymatebwyr fod angen arolygiaeth ychwanegol gan y llywodraeth i sicrhau cysondeb a chywirdeb wrth ddilysu safonau cynhyrchu.
  • Roedd ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi dibynnu ar aelodaeth o gynllun gwarant ffermydd, gan gynnwys llawer o unigolion a chyrff anllywodraethol, yn dadlau nad yw cynlluniau gwarant yn gredadwy, gan nodi ymchwiliadau diweddar a oedd wedi canfod nad oedd ffermydd gwarantedig yn cyrraedd safonau gofynnol y cynllun.

Roedd Cwestiwn 67 yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynnig i ddefnyddio canllawiau i gydnabod cyrff mewn gwledydd eraill i helpu i gefnogi’r broses o ddilysu labeli ar gyfer marchnad y DU? Eglurwch eich ateb a rhannwch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.’

Cawsom 328 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 227 gan unigolion 
  • 101 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cefnogi’n gryf 24% 23%
Cefnogi 32% 40%
Niwtral 14% 11%
Gwrthwynebu 4% 5%
Gwrthwynebu’n gryf 3% 7%
Ddim yn gwybod 23% 14%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Cyfeiriodd ymatebwyr a oedd yn cefnogi’r cynnig at y rhesymau canlynol:
    • Hyrwyddo cysoni safonau’n rhyngwladol a hwyluso masnach drwy sicrhau tegwch i gynhyrchion rhyngwladol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y gallai hyn hefyd gymell gwella safonau lles anifeiliaid mewn gwledydd eraill.
    • Symleiddio’r broses gydymffurfio a llai o faich o ran costau i fusnesau ac awdurdodau’r DU, gyda rhai ymatebwyr yn awgrymu bod y dull gweithredu hwn eisoes yn cyd-fynd â’r arferion presennol.
    • Fodd bynnag, roedd rhai ymatebwyr a oedd yn cefnogi’r cynnig yn rhybuddio y byddai angen proses fonitro a gorfodi gadarn ar gyfer y dull gweithredu hwn i ddilysu safonau mewn gwledydd eraill.
  • Mynegodd ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig hwn bryderon ynghylch pa mor ddibynadwy y byddai safonau’n cael eu dilysu mewn gwledydd eraill, gyda rhai’n awgrymu bod angen i’r DU neu awdurdodau lleol gyflawni rhagor o wiriadau sicrwydd.
  • Ar ben hynny, awgrymodd rhai ymatebwyr, yn enwedig o’r diwydiant, y dylai fod yn ofynnol i’r holl gynhyrchion sy’n cael eu mewnforio fodloni set o safonau sylfaenol sy’n cymharu â chynnyrch domestig er mwyn cael mynediad at farchnad y DU.

Roedd Cwestiwn 68 yn gofyn: ‘Nodwch unrhyw gyrff neu gynlluniau gwarant sy’n gweithredu dramor a fyddai, yn eich barn chi, yn cyfateb i un neu ragor o’r haenau drafft gwahanol, a nodir yn Atodiad B.’

Cawsom 34 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Roedd ymatebwyr i’r cwestiwn hwn wedi darparu gwahanol awgrymiadau o gynlluniau gwarant a chyrff sy’n gweithredu y tu allan i’r DU neu wledydd sydd â chynlluniau presennol.

Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys Beter Leven (yn yr Iseldiroedd), Tierschutzbund and Haltungsforum (yn yr Almaen), Etiquette Bien-Etre Animal (yn Ffrainc), CIWF Italia/Legambiente (yn yr Eidal), Bedre Dyrevelfaerd (yn Denmarc), BePork (yng Ngwlad Belg) ac SPCA Certified (yn Seland Newydd). Awgrymodd ymatebwyr hefyd y byddai cynlluniau achredu organig a Phartneriaethau Anifeiliaid Byd-eang sy’n gweithredu mewn gwahanol wledydd yn cyfateb i un neu ragor o’r haenau labeli drafft.

Cwestiwn 69: ‘I ba raddau ydych chi’n cefnogi neu’n gwrthwynebu cynnig proses lle gellid cynnwys cydnabyddiaeth ar lefel gwlad yn y canllawiau pe bai safonau gofynnol cyfreithiol gwlad yn bodloni safonau haen benodol? Eglurwch eich ateb a rhannwch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.’

Cawsom 323 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 225 gan unigolion

  • 98 gan sefydliadau

Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cefnogi’n gryf 17% 12%
Cefnogi 29% 40%
Niwtral 18% 13%
Gwrthwynebu 8% 10%
Gwrthwynebu’n gryf 5% 8%
Ddim yn gwybod 23% 16%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cefnogi defnyddio cydnabyddiaeth ar lefel gwlad yn dadlau bod hyn yn ddull teg a fyddai’n hwyluso masnach drwy hyrwyddo cydnabyddiaeth gilyddol o safonau rhwng gwledydd, gan nodi y gallai hefyd annog gwledydd eraill i fabwysiadu safonau lles uwch.

  • Dadleuodd ymatebwyr hefyd y byddai’r dull hwn yn lleihau’r baich ar gyfer Gweithredwyr Busnes Bwyd ac asiantaethau’r DU; fodd bynnag, roedd rhai ymatebwyr a oedd yn cefnogi’r dull hwn yn rhybuddio y byddai angen iddo fod yn seiliedig ar fonitro a gorfodi safonau sylfaenol rhyngwladol mewn modd cadarn a dibynadwy.

  • Cyfeiriodd ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu defnyddio cydnabyddiaeth ar lefel gwlad hefyd at bryderon ynghylch amrywioldeb mewn prosesau monitro a gorfodi cenedlaethol, gyda rhai’n awgrymu bod angen arolygu annibynnol. Roedd ymatebwyr hefyd wedi awgrymu, ochr yn ochr â’r dull hwn, bod angen cydnabod safonau cynhyrchu rhyngwladol sy’n mynd y tu hwnt i’w llinell sylfaen genedlaethol berthnasol.

Roedd Cwestiwn 70 yn gofyn: ‘O dan y cynigion uchod, byddai angen i gynlluniau gwarant ffermydd gyflwyno tystiolaeth ddogfennol eu bod yn ardystio i un neu ragor o safonau’r label, er mwyn cael eu cynnwys ar gofrestr y llywodraeth. Pa mor aml ydych chi’n teimlo y dylid ailgyflwyno’r dystiolaeth hon, er mwyn sicrhau bod y gofrestr yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol?’

Cawsom 176 ymateb i’r cwestiwn hwn. Roedd y mwyafrif o ymatebwyr ar draws pob grŵp yn awgrymu y dylai cynlluniau gwarant ffermydd ailgyflwyno tystiolaeth ddogfennol bob blwyddyn; fodd bynnag, awgrymodd nifer o ymatebwyr o blith y cyhoedd, cyrff anllywodraethol, academyddion a’r diwydiant amlder is o hyd at bum mlynedd.

Roedd Cwestiwn 71 a) yn gofyn: ‘Mewn achosion lle nad yw Gweithredwr Busnes Bwyd wedi cyflawni ei gyfrifoldeb i labelu cynnyrch yn gywir, rydym yn cynnig sicrhau bod modd erlyn yn yr achosion mwy difrifol o beidio â chydymffurfio. I ba raddau ydych chi’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynnig hwn?

Cawsom 335 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 236 gan unigolion
  • 99 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cefnogi’n gryf 72% 44%
Cefnogi 17% 26%
Niwtral 3% 6%
Gwrthwynebu 0% 3%
Gwrthwynebu’n gryf 0% 8%
Ddim yn gwybod 7% 13%

Roedd Cwestiwn 71b) yn gofyn: ‘Os ydych chi’n gwrthwynebu’r cynnig i ganiatáu erlyniadau troseddol am beidio â chydymffurfio, pa ddewis arall fyddai’n well gennych chi? Er enghraifft, sancsiynau sifil. Eglurwch eich ateb a rhannwch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.’

Cawsom 45 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Yr awgrym mwyaf cyffredin ar gyfer dewisiadau amgen i erlyniadau troseddol oedd sancsiynau sifil, gan gynnwys dirwyon neu gosbau ariannol.

  • Roedd y mwyafrif o ymatebwyr o’r diwydiant a ymatebodd i’r cwestiwn hwn yn awgrymu y dylid rhoi cyngor i’r rhai nad ydynt yn cydymffurfio ynghylch sut mae angen iddynt wella, neu fel arall y dylid cyflwyno system rybuddio.

Roedd Cwestiwn 71 c) yn gofyn: ‘Pe bai sancsiynau troseddol neu sifil ar gael, beth ddylai’r cosbau priodol fod yn eich barn chi? Eglurwch eich ateb a rhannwch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.’

Cawsom 133 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Awgrymodd llawer o ymatebwyr, gan gynnwys y mwyafrif o ymatebwyr o’r diwydiant a llawer o gyrff anllywodraethol, y dylai cosbau fod yn gymesur â’r diffyg cydymffurfio. Awgrymodd rhai ymatebwyr, yn enwedig cyrff anllywodraethol, fod yn rhaid i gosbau fod yn ddigon i weithredu fel rhwystr.

  • Roedd llawer o’r ymatebwyr, yn enwedig aelodau o’r cyhoedd a chyrff anllywodraethol, wedi awgrymu atal gweithrediadau’r Gweithredwyr Busnes Bwyd, neu ddedfryd o garchar wedi’i gohirio am beidio â chydymffurfio.

Roedd Cwestiwn 72 yn gofyn: ‘Ydych chi’n teimlo bod angen hefyd i arolygiadau gan y llywodraeth fod yn rhan o’r ardystiad ar gyfer y safonau labelu? Eglurwch eich ateb a rhannwch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.’

Cawsom 408 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 288 gan unigolion  
  • 120 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw, mae angen i’r llywodraeth arolygu 81% 51%
Nac ydw, nid oes angen i’r llywodraeth arolygu 7% 37%
Ddim yn gwybod 12% 12%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Rhoddodd ymatebwyr a ddywedodd fod angen i’r llywodraeth arolygu amrywiaeth o resymau dros hynny. Roedd llawer o’r ymatebwyr, yn enwedig ymatebwyr unigol a chyrff anllywodraethol, yn teimlo bod arolygiadau gan y llywodraeth ar y fferm yn angenrheidiol er mwyn cynyddu hygrededd unrhyw gynllun labelu a sicrhau atebolrwydd i gynhyrchwyr.

  • Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylai’r llywodraeth arolygu cynlluniau gwarant i sicrhau eu bod yn cynnal y safonau a bennir ganddynt.

  • Roedd ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi arolygiadau ychwanegol y llywodraeth, gan gynnwys llawer o ymatebwyr o’r diwydiant, yn dadlau bod arolygiadau presennol o gynlluniau gwarant yn ddigonol ac y byddai arolygiadau gan y llywodraeth yn gostus ac yn fiwrocrataidd.

Roedd Cwestiwn 72c) yn gofyn: ‘Sut gallai system o’r fath, lle mae llywodraeth yn chwarae rhan wrth ardystio safonau, weithredu ar gyfer cynnyrch wedi’i fewnforio? Eglurwch eich ateb a rhannwch unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol, gan gynnwys unrhyw enghreifftiau o systemau presennol rydych yn ymwybodol ohonynt.’

Cawsom 128 ymateb i’r cwestiwn hwn. Crynodeb o’r prif themâu:

Roedd amrywiaeth o safbwyntiau ymysg y rheini a ymatebodd i’r cwestiwn hwn; gyda diffyg consensws ynghylch pa rôl y dylai’r llywodraeth ei chwarae. Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid cynnal gwiriadau:

  • Yn y wlad gynhyrchu dramor, er enghraifft, gan y llywodraeth sy’n gweithio gyda llywodraethau tramor neu gyrff arolygu trydydd parti annibynnol dramor, i ardystio safonau yn y wlad gynhyrchu. Awgrymodd rhai y gallai hyn weithio yn yr un modd â chydnabyddiaeth gilyddol o safonau ardystio organig rhwng gwledydd.

  • Er enghraifft, yn y DU gan gyrff priodol y llywodraeth sy’n cynnal arolygiadau yn y lleoliad mewnforio. Er enghraifft, awgrymodd ymatebwyr y gallai arolygiadau fod ar yr un ffurf ag arolygiadau presennol o dan y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, fel y rheolaethau ffytoiechydol.

  • Yn y wlad gynhyrchu dramor ac yn y DU.

Roedd Cwestiwn 72d) yn gofyn: ‘Rhannwch unrhyw effeithiau ychwanegol rydych chi’n teimlo allai ddeillio o fynnu bod y llywodraeth yn ardystio ac yn arolygu, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol.’

Cawsom 50 ymateb i’r cwestiwn hwn. Roedd yr effeithiau ychwanegol a awgrymwyd gan ymatebwyr yn cynnwys:

  • Costau a baich amser ychwanegol ar adnoddau’r llywodraeth.

  • Cost a baich amser ychwanegol ar ffermwyr a busnesau eraill, gyda rhai ymatebwyr yn nodi’r pwysau presennol sy’n gysylltiedig â’r archwiliadau ar hyn o bryd. Awgrymodd rhai ymatebwyr y gallai hyn arwain at brisiau uwch i ddefnyddwyr.

  • Effeithiau posibl ar y gadwyn gyflenwi fel colli cynhyrchion darfodus yn achos unrhyw oedi a achosir gan arolygiadau’r llywodraeth, neu oedi o ran dod â chynnyrch i’r farchnad oherwydd mwy o fiwrocratiaeth.

  • Dywedodd rhai ymatebwyr na fyddai’r mesurau arfaethedig newydd yn cael fawr o effaith. Fodd bynnag, awgrymodd eraill y byddai goruchwyliaeth ychwanegol gan y llywodraeth yn rhoi mwy o atebolrwydd, gan arwain at safonau lles gwell a mwy o ymddiriedaeth gan ddefnyddwyr yn y cynllun labelu.

Roedd Cwestiwn 73 yn gofyn: ‘Rhannwch unrhyw sylwadau pellach ar y cynigion monitro a gorfodi.’

Cawsom 48 ymateb i’r cwestiwn hwn. Roedd y sylwadau mewn ymateb i’r cwestiwn hwn yn ymwneud â’r cwestiynau blaenorol ac maent wedi’u cynnwys yn y crynodebau o’r cwestiynau perthnasol ar fonitro a gorfodi.

Effeithiau ar fusnesau (Cwestiynau 74 i 78)

Cwmpas daearyddol (Cwestiynau 74 i 76)

Roedd Cwestiwn 74 yn gofyn: ‘Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai ein dull arfaethedig ar gyfer gofynion labelu dull cynhyrchu fod yn berthnasol ar lefel y DU gyfan? Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich barn.’

Cawsom 399 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 287 gan unigolion  
  • 112 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 88% 68%
Cytuno 9% 16%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1% 4%
Anghytuno 0% 1%
Anghytuno’n gryf 0% 4%
Ddim yn gwybod 2% 7%

Cawsom 112 o sylwadau testun rhydd i’r cwestiwn penagored, ond ychydig iawn o dystiolaeth a ddarparwyd.

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn cefnogi dull gweithredu ar draws y DU yn awgrymu y byddai’n gyson ac yn llai dryslyd i ddefnyddwyr sy’n gwerthfawrogi tryloywder a lles anifeiliaid ledled y DU.

  • Awgrymodd eraill y byddai dull gweithredu ar draws y DU yn decach i ffermwyr ac yn codi safonau lles ledled y DU.

  • Roedd rhai ymatebwyr, yn arbennig y rhai o’r diwydiant, yn cytuno y dylai gofynion fod yn berthnasol ar draws y DU, gan y byddai hyn yn symlach ac yn llai costus i fusnesau ac yn osgoi rhwystrau mewnol i fasnachu, gan fod cadwyni cyflenwi ar draws y DU yn gyffredinol.

  • Mynegodd ymatebwyr bryderon hefyd y gallai dull gweithredu ar draws Prydain Fawr greu bylchau posib a fyddai’n tanseilio’r amcanion polisi ac a allai roi grym cynhyrchwyr Prydain Fawr o dan anfantais pe gellid gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon ym Mhrydain heb yr un gofynion labelu.

  • Nododd ymatebwyr a oedd yn anghytuno â dull gweithredu ar draws y DU, y byddai angen i unrhyw ddull gweithredu gyd-fynd â Fframwaith Windsor

Roedd Cwestiwn 75 a) yn gofyn: ‘Pa effeithiau gwahaniaethol y byddai’r cynigion hyn yn eu cael arnoch chi a/neu eich busnes pe bai’r dull gorfodol o ran gofynion labelu dull cynhyrchu yn berthnasol ledled Prydain yn unig, a bod egwyddorion Deddf Marchnad Fewnol y DU (UKIM) yn parhau i fod yn berthnasol, fel bod nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon sy’n symud o Ogledd Iwerddon i Brydain, ac nad ydynt yn bodloni’r gofynion labelu dull cynhyrchu, yn gallu cael eu gwerthu ar farchnad Prydain Fawr?’

Cawsom 58 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Awgrymodd llawer o fusnesau a chymdeithasau masnachu y byddai gofynion labelu ledled Prydain Fawr yn cynyddu cymhlethdod a chost gweithrediadau, ac yn achosi tarfu ar y gadwyn gyflenwi; fodd bynnag, awgrymodd rhai busnesau na fyddai fawr o effaith arnynt, os o gwbl.

  • Awgrymodd rhai ymatebwyr y gallai dull labelu ledled Prydain Fawr roi mantais annheg i gynnyrch Gogledd Iwerddon dros gynnyrch Prydain oherwydd costau cydymffurfio uwch i fusnesau Prydain Fawr a mwy o fynediad i’r farchnad i nwyddau o Ogledd Iwerddon nad ydynt yn bodloni’r gofynion labelu. Awgrymodd rhai y gallai hyn annog busnesau Prydain Fawr i symud gwaith cynhyrchu i Ogledd Iwerddon ac i gwmnïau fewnforio drwy Ogledd Iwerddon.

  • Mynegodd ymatebwyr bryderon hefyd ynghylch tryloywder a dryswch defnyddwyr, gyda llawer o unigolion yn awgrymu y byddent yn osgoi prynu cynnyrch o Ogledd Iwerddon pe na baent yn bodloni gofynion labelu Prydain Fawr.

Roedd Cwestiwn 75b) yn gofyn: ‘Sut byddai eich busnes yn rheoli’r effeithiau hyn pe bai gofynion labelu dull cynhyrchu yn berthnasol ledled Prydain?’

Cawsom 31 ymateb i’r cwestiwn hwn, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt gan ymatebwyr o’r diwydiant.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd ymatebion gan fusnesau a chymdeithasau masnachu yn awgrymu y byddai gofynion labelu ledled Prydain Fawr yn ychwanegu cymhlethdod i fusnesau domestig a rhyngwladol, fel mwy o ddidoli ar sail stoc a llai o hyblygrwydd yn y gadwyn gyflenwi ac felly byddai’n cynyddu costau.

  • Awgrymodd un manwerthwr sy’n gweithredu ledled y DU y gallai’r materion hyn arwain at lai o gynnyrch yn cael ei gyflenwi i Ogledd Iwerddon. Fodd bynnag, awgrymodd ymatebwyr eraill y gellid rheoli effeithiau heb arwain at effaith sylweddol, gyda chyfnod gweithredu rhesymol.

Roedd Cwestiwn 76 a) yn gofyn: ‘Pa effeithiau gwahaniaethol y byddai’r cynigion hyn yn eu cael arnoch chi a/neu eich busnes pe bai dull gorfodol yn berthnasol o ran gofynion labelu dull cynhyrchu ledled Prydain yn unig, mewn perthynas â symud nwyddau o Brydain i Ogledd Iwerddon? Sut byddai eich busnes yn rheoli’r effeithiau hyn pe bai’r gofynion labelu dull cynhyrchu yn berthnasol ar draws Prydain Fawr?’

Cawsom 32 ymateb i’r cwestiwn hwn, gyda’r mwyafrif helaeth o ddiwydiant a sefydliadau masnach.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Awgrymodd y mwyafrif helaeth o ymatebwyr y byddai cymhlethdod a chost cynhyrchu, cyflenwi ac allforio ychwanegol pe bai’r cynigion yn berthnasol ledled Prydain yn unig.

  • Mynegodd un ymatebwr o’r diwydiant bryderon ynghylch gofynion labelu aml-haen ar draws Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd, ac awgrymodd rhanddeiliad arall o’r diwydiant y gallai cynnyrch Gogledd Iwerddon fod o dan anfantais os yw’n cael ei ystyried o safon is oherwydd absenoldeb y label.

Roedd Cwestiwn 76b) yn gofyn: Sut byddai eich busnes yn rheoli’r effeithiau hyn pe bai’r gofynion ar gyfer labelu dulliau cynhyrchu yn berthnasol ar draws Prydain Fawr?

Cafwyd 21 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion yn awgrymu y byddai gofynion labelu sy’n berthnasol ar draws Prydain Fawr yn ychwanegu cymhlethdod a chost sylweddol i fusnesau.

  • Awgrymodd un manwerthwr sy’n gweithredu ledled y DU y byddai angen iddo fuddsoddi mewn staff ychwanegol, lle storio a chludiant er mwyn rheoli’r angen i ddidoli cynnyrch sy’n gorfod cael labeli gwahanol ar gyfer gwahanol farchnadoedd.

  • Mynegodd manwerthwr arall bryderon hefyd am gymhlethdod a chost gwahaniaethau posibl ac awgrymodd y byddai’n cymryd unrhyw gamau sydd ar gael i osgoi’r angen i labelu cynnyrch ar wahân ar gyfer marchnadoedd Prydain a Gogledd Iwerddon.

Cefnogi busnesau bach a chanolig (Cwestiynau 77 i 78)                                                                                                

Roedd Cwestiwn 77 yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno y byddai’r eithriad hwn yn lliniaru’r baich ar fusnesau bach?’

Cawsom 299 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 209 gan unigolion  
  • 90 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 12% 17%
Cytuno 23% 23%
Niwtral 22% 14%
Anghytuno 7% 12%
Anghytuno’n gryf 9% 7%
Ddim yn gwybod 27% 27%
Roedd Cwestiwn 78 yn gofyn: ‘Pa eithriadau eraill allai liniaru effeithiau ein cynigion ar fusnesau bach a chanolig?’

Cawsom 79 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd llawer o ymatebwyr yn anghytuno â chynnwys unrhyw eithriadau ar gyfer busnesau bach a chanolig. Roedd y rhesymau a roddwyd dros hyn yn cynnwys y byddai eithriadau’n tanseilio amcanion polisi i gynyddu tryloywder i ddefnyddwyr a gwella lles anifeiliaid.

  • Roedd llawer o ymatebwyr, yn enwedig o’r diwydiant, hefyd yn dadlau na ddylai eithriadau fod yn berthnasol i sicrhau tegwch ar draws y sector bwyd ac i osgoi creu mannau gwan. Awgrymodd rhai cyrff anllywodraethol ac unigolion hefyd y gallai eithriadau i fusnesau bach a chanolig roi busnesau bach o dan anfantais, y gallent fod yn gwerthu cynnyrch lles uwch, ond na fyddent yn cael eu gwobrwyo am gyrraedd y safonau hyn heb label.

  • O’r ymatebion a oedd yn awgrymu eithriadau ychwanegol neu fesurau lliniaru eraill ar gyfer busnesau bach a chanolig, roedd yr awgrymiadau’n cynnwys cymorth ariannol ac amser ychwanegol i drosglwyddo, gofynion cydymffurfio symlach, eithriadau tymhorol i fusnesau sy’n gweithredu ar sail dymhorol ac eithriadau ar gyfer gwerthu o ffermydd yn uniongyrchol.

Asesiad o Effaith (Cwestiynau 79 i 90)

Costau Uniongyrchol (Cwestiynau 79 i 83)

Roedd Cwestiwn 79 yn gofyn: ‘Ar sail ymatebion i gais am dystiolaeth yn 2021, rydym yn deall bod labeli’r rhan fwyaf o gynnyrch bwyd yn cael eu hadnewyddu’n rheolaidd bob 1 i 3 blynedd. Ar gyfer ein hamcangyfrif canolog, rydym yn tybio y gall 80% o’r newidiadau i labeli ddigwydd fel rhan o’r gwaith adnewyddu arferol. Ydych chi’n cytuno â’r amcangyfrif hwn? Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb.’

Cawsom gyfanswm o 284 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 201 gan unigolion 
  • 83 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Ydw 13% 10%
Nac ydw 2% 26%
Ddim yn gwybod 85% 64%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd y mwyafrif o ymatebwyr unigol yn meddwl bod yr amcangyfrif yn ymddangos yn rhesymol ar y cyfan.

  • Cafwyd safbwyntiau cymysg ymysg y sefydliadau a ymatebodd. Credai llawer y byddai cost y newidiadau i’r labelu yn fwy na’r amcangyfrif, gyda rhai’n nodi y gall adnewyddu’n rheolaidd ddigwydd yn llai aml na 3 blynedd. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr eraill o’r diwydiant yn credu y byddai’r costau’n is na’r amcangyfrif ac yn awgrymu bod y labelu’n cael ei ddiweddaru’n amlach na’r hyn a ragdybiwyd yn yr ymgynghoriad.

Roedd Cwestiwn 80 yn gofyn: ‘Os ydych chi’n gallu rhoi ffigur cyfredol ar gyfer cost y newidiadau i labeli fesul SKU, gwnewch hynny isod os gwelwch yn dda. Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ymateb.’

Cawsom lai na 10 ymateb i’r cwestiwn hwn. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i’r cwestiwn hwn os bydd y polisi’n cael ei ddatblygu yn y dyfodol.

Roedd Cwestiwn 81 yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n tybiaeth y bydd yr holl gynhyrchwyr yn wynebu costau ymgyfarwyddo a chydymffurfio o ganlyniad i’r gofynion labelu arfaethedig hyn? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 271 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 186 gan unigolion  
  • 85 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 16% 38%
Cytuno 31% 25%
Niwtral 10% 7%
Anghytuno 3% 3%
Anghytuno’n gryf 1% 0%
Ddim yn gwybod 39% 27%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd yr ymatebwyr a oedd yn cytuno y byddai’r holl gynhyrchwyr yn wynebu costau ymgyfarwyddo a chydymffurfio wedi rhoi amrywiaeth o resymau, gan gynnwys:
    • Awgrymodd rhai ymatebwyr, yn enwedig o’r diwydiant, y bydd angen i bob busnes dreulio amser yn ymgyfarwyddo â goblygiadau gofynion labelu newydd.
    • Awgrymodd rhai ymatebwyr hefyd y byddai costau cydymffurfio er mwyn bodloni gofynion archwilio ychwanegol a llafur ychwanegol cysylltiedig, yn benodol, sy’n gysylltiedig â chasglu data canlyniadau lles.
  • Fodd bynnag, awgrymodd rhai ymatebwyr, gan gynnwys cyrff y diwydiant ac unigolion, na fyddai llawer o gostau ymgyfarwyddo a chydymffurfio i rai busnesau, fel cynhyrchwyr sydd eisoes yn aelodau o gynlluniau gwarant neu sy’n gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr, ac i lawer o fanwerthwyr sydd eisoes angen olrhain y gadwyn gyflenwi yn llawn.
Roedd Cwestiwn 82 yn gofyn: ‘Rhowch unrhyw dystiolaeth bellach ynghylch costau olrhain tebygol i fusnesau. Nodwch y sector neu’r grŵp y mae’r dystiolaeth hon yn berthnasol iddo, a defnyddiwch enghreifftiau ymarferol os yw hynny’n ddefnyddiol.’

Cawsom 34 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Dywedodd y mwyafrif o ymatebwyr o’r diwydiant y dylai unrhyw ofynion olrhain ychwanegol sy’n cael eu creu gan y polisi labelu dull cynhyrchu ffitio i’r arferion olrhain presennol, ac y gallent wneud hynny. Ar ben hynny, dywedodd nifer o ymatebwyr yn y diwydiant fod modd archwilio cadwyni cyflenwi eisoes ar gyfer olrhain dull cynhyrchu. Fodd bynnag, awgrymodd llawer o ymatebwyr eraill o’r diwydiant y byddai unrhyw ofynion olrhain ychwanegol yn arwain at gostau newydd i fusnesau oherwydd costau cynnal archwiliad, os nad yw’r gofynion olrhain newydd yn cyd-fynd â’r gweithdrefnau archwilio presennol.

  • Roedd llawer o’r cyrff anllywodraethol a ymatebodd yn teimlo y dylid integreiddio unrhyw ofynion olrhain ychwanegol â’r galluoedd presennol ac y byddai unrhyw gostau ychwanegol yn fychan iawn gan fod angen olrhain y gadwyn gyflenwi yn llawn yn barod ar gyfer llawer o fanwerthwyr a chynlluniau gwarantu.

Roedd Cwestiwn 83 yn gofyn: ‘Darparwch unrhyw ddata ar lefel cwmni ynghylch costau archwiliad (er enghraifft, y costau i’ch busnes o gael arolygu cynllun gwarant fferm).’

Cawsom 25 ymateb i’r cwestiwn hwn gan amrywiaeth o gategorïau gwahanol o ymatebwyr. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i’r cwestiwn hwn os bydd y polisi’n cael ei ddatblygu yn y dyfodol.

Costau Anuniongyrchol (Cwestiynau 84 i 85)

Roedd Cwestiwn 84a yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n tybiaeth fod manwerthwyr yn gosod prisiau yn ôl categori cynnyrch neu lefel busnes? Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich barn.’

Cawsom 267 ymateb i’r cwestiwn:

  • 192 gan unigolion  
  • 75 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 10% 9%
Cytuno 22% 28%
Niwtral 10% 8%
Anghytuno 4% 4%
Anghytuno’n gryf 1% 7%
Ddim yn gwybod 53% 44%

Ni ddarparwyd llawer o dystiolaeth mewn ymateb i’r cwestiwn hwn. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i’r cwestiwn hwn os bydd y polisi’n cael ei ddatblygu yn y dyfodol.

Roedd Cwestiwn 85a yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n tybiaeth y byddai elw busnesau bwyd yn gyffredinol yn aros yr un fath yn y tymor hir? Eglurwch eich ateb, os gwelwch yn dda.’

Cawsom 268 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 193 gan unigolion
  • 75 gan sefydliadau 
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno 31% 19%
Anghytuno 0% 1%
Anghytuno, rwy’n credu y byddai’r elw’n gostwng yn gyffredinol yn y tymor hir 6% 19%
Anghytuno, rwy’n credu y byddai’r elw yn cynyddu’n gyffredinol yn y tymor hir 14% 5%
Ddim yn gwybod 49% 56%

Ni ddarparwyd llawer o dystiolaeth mewn ymateb i’r cwestiwn hwn. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i’r cwestiwn hwn os bydd y polisi’n cael ei ddatblygu yn y dyfodol.

Penderfyniadau busnes (Cwestiynau 86 i 89)

Roedd Cwestiwn 86a yn gofyn: ‘Sut ydych chi’n rhagweld y byddai nifer y cynhyrchion lles uwch (haen 1-3) heb eu prosesu ac wedi’u prosesu cyn lleied â phosib, sydd ar y silffoedd ac o fewn y cwmpas, yn newid oherwydd yr ymyriad hwn?’

Ar gyfer porc, cawsom 262 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 182 gan unigolion  
  • 79 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cynyddu 48% 27%
Aros yr un fath 5% 15%
Gostwng 2% 6%
Ddim yn gwybod 45% 52%

Ar gyfer cyw iâr, cawsom 252 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 183 gan unigolion 
  • 74 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cynyddu 49% 28%
Aros yr un fath 4% 22%
Gostwng 2% 5%
Ddim yn gwybod 45% 45%

Ar gyfer wyau, cawsom 253 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 182 gan unigolion  
  • 71 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cynyddu 48% 27%
Aros yr un fath 7% 20%
Gostwng 1% 3%
Ddim yn gwybod 44% 50%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn teimlo y byddai nifer y cynhyrchion lles uwch yn cynyddu, yn cyfeirio at ddiddordeb y cyhoedd mewn lles anifeiliaid, ac yn awgrymu y byddai ymddygiad prynu felly yn newid mewn ymateb i fwy o dryloywder. Cyfeiriodd llawer o’r ymatebwyr hyn at yr achos o labelu wyau yn eu plisgyn, a arweiniodd at newid sylweddol yn y galw gan ddefnyddwyr am wyau lles uwch, fel tystiolaeth y gall newid o’r fath ddigwydd yn y farchnad.

  • Roedd ymatebwyr a oedd yn teimlo y byddai nifer y cynhyrchion lles uwch yn aros yr un fath neu’n gostwng yn awgrymu mai’r pris yw’r ffactor pwysicaf i ddefnyddwyr wrth iddynt benderfynu beth i’w brynu, a bod cynhyrchion lles uwch eisoes yn cael eu labelu ar sail wirfoddol yn y farchnad.

Roedd Cwestiwn 87 yn gofyn: ‘Pa ganran o’r holl ddofednod a chig moch sydd wedi’u mewnforio ond heb eu prosesu a’u prosesu cyn lleied â phosib, ydych chi’n credu sy’n cael ei defnyddio mewn cynhyrchion wedi’u prosesu (y sector manwerthu a’r sector tu allan i’r cartref)? Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich barn.’

Cawsom 124 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 86 gan unigolion
  • 38 gan sefydliadau
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Llai na 25% 1% 3%
25% i 50% 29% 18%
50% i 75% 44% 45%
Mwy na 75% 26% 29%
Ddim yn gwybod 0% 5%

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Ar draws yr holl grwpiau o ymatebwyr, eglurodd llawer mai dyfalu oedd eu hamcangyfrif ar gyfer y ffigur hwn, oherwydd cymhlethdod y gadwyn gyflenwi ac am nad oes llawer o ddata ar gael. Awgrymodd rhai ymatebwyr fod cig yn aml yn cael ei fewnforio oherwydd ei bris is ac felly y gallai ddeillio o safonau lles is, felly mae’n fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio mewn cynhyrchion wedi’u prosesu lle mae llai o ardystio safonau.

  • Ar gyfer porc yn benodol, awgrymodd un sefydliad, yn seiliedig ar archwiliad Porkwatch AHDB mewn siopau, a gofnododd bod 88% o’r prif borc ffres sy’n cael ei arddangos yn dod o Brydain ar gyfartaledd yn 2023, a data mewngludo ar gyfer porc ffres ac wedi’i rewi, bod cyfran sylweddol o gig moch wedi’i fewnforio yn cael ei ddefnyddio mewn cynhyrchion wedi’u prosesu.

Roedd Cwestiwn 88 yn gofyn: ‘Rhowch fanylion unrhyw effeithiau ychwanegol y gallwch eu nodi i fusnesau (domestig neu dramor) o ganlyniad i gymhwyso’r cynigion i gynhyrchion sy’n cael eu mewnforio. Sut ydych chi’n meddwl y bydd y gofynion labelu yn effeithio ar gost a/neu faint o gynhyrchion sy’n cael eu mewnforio?  Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ateb.’

Cawsom 49 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu ar gyfer y cwestiwn penagored:

  • Awgrymodd llawer o ymatebwyr y gallai cost cynhyrchion sy’n cael eu mewnforio gynyddu o ganlyniad i’r gofynion labelu, yn enwedig os yw cynhyrchwyr yn dewis buddsoddi mewn systemau lles uwch, a allai arwain at brisiau uwch ar gyfer cynhyrchion sy’n cael eu mewnforio.

  • Roedd ymatebwyr hefyd yn awgrymu y byddai’r galw am gynhyrchion lles is, fel y rhai hynny nad ydynt yn bodloni safonau sylfaenol y DU yn gostwng, a allai arwain at lai o fewnforion.

  • Awgrymodd nifer fach o ymatebwyr o’r diwydiant y gallai’r gofynion labelu arwain at lai o ddewis o gynnyrch i ddefnyddwyr. I’r gwrthwyneb, nid oedd un manwerthwr yn rhagweld unrhyw effaith ar gost na faint o gynhyrchion a fewnforir, gan ddweud ei fod eisoes yn ofynnol i gynhyrchion sy’n cael eu mewnforio fodloni safonau lles y DU.

  • Mynegodd rhai ymatebwyr bryderon hefyd bod y gofynion labelu yn ystyried rheolau perthnasol Sefydliad Masnach y Byd, er mwyn sicrhau bod cynhyrchion domestig a chynhyrchion wedi’u mewnforio yn cael eu trin yn deg.

Roedd Cwestiwn 89 yn gofyn: ‘A oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach am ein Hasesiad o Effaith neu unrhyw dystiolaeth arall yr hoffech ei rhannu â ni?’

Cawsom 23 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Awgrymodd rhai ymatebwyr fod y manteision i les anifeiliaid yn debygol o fod yn sylweddol ac y dylid eu mesur ymhellach. Awgrymodd eraill y dylid cynnwys manteision pellach fel defnyddio llai o wrthfiotigau a llai o achosion o glefydau yn yr asesiad hefyd.

  • Mynegodd rhai ymatebwyr o’r diwydiant bryderon bod angen rhagor o dystiolaeth i ddangos y bydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo gan y farchnad am symud i systemau cynhyrchu lles uwch.

  • Nododd rhai cyrff cyhoeddus yr angen i ystyried y costau i’r llywodraeth i fonitro a gorfodi’r gofynion labelu.

Effeithiau Ychwanegol

Roedd Cwestiwn 90 a) yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno bod y cynigion yn debygol o wella neu effeithio ar gysylltiadau rhwng grwpiau yn y categorïau canlynol a warchodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010): oedran, ailbennu rhywedd, bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth, anabledd, hil gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol?’

Cawsom 286 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 209 gan unigolion  
  • 77 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 8% 5%
Cytuno 5% 6%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 40% 21%
Anghytuno 6% 7%
Anghytuno’n gryf 7% 7%
Ddim yn gwybod 34% 56%
Roedd Cwestiwn 90 b a c yn gofyn: ‘I ba raddau ydych chi’n cytuno bod y cynigion yn debygol o fod yn gyfle i wella neu’n debygol o effeithio ar gysylltiadau rhwng grwpiau yn y categorïau canlynol a warchodir o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb Gogledd Iwerddon: pobl o wahanol gred grefyddol, barn wleidyddol, grŵp hiliol, oedran, statws priodasol neu gyfeiriadedd rhywiol, dynion a menywod yn gyffredinol, pobl ag anabledd a phobl heb anabledd, rhwng pobl â dibynyddion a phobl heb ddibynyddion? Rhowch unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich barn.’

Cawsom 282 ymateb i’r cwestiwn hwn:

  • 205 gan unigolion  
  • 77 gan sefydliadau  
Ymateb Unigolion Sefydliadau
Cytuno’n gryf 8% 3%
Cytuno 6% 4%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 33% 23%
Anghytuno 6% 6%
Anghytuno’n gryf 6% 7%
Ddim yn gwybod 41% 57%

Cawsom nifer gyfyngedig o ymatebion i’r cwestiynau penagored. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion hyn yn awgrymu na fyddai unrhyw effaith na chyfle i wella’r cysylltiadau rhwng y grwpiau hyn.

Diwygiadau ehangach i labelu (Cwestiwn 91)

Roedd Cwestiwn 91 yn gofyn: ‘Rydym yn cydnabod y gallai ymatebwyr i’r ymgynghoriad hwn ddymuno sôn am feysydd eraill lle gallai diwygiadau labelu wella tryloywder a chysondeb, rhoi gwybodaeth well i ddefnyddwyr a galluogi ffermwyr i gael gwobr deg yn y farchnad am gynhyrchu bwyd o ansawdd a safon uchel. Rhannwch unrhyw feysydd ychwanegol y gallai diwygiadau labelu gael eu hystyried ar eu cyfer yn y dyfodol ac a allai arwain at y manteision uchod. Dylech gynnwys tystiolaeth os yw ar gael.’

Cawsom 106 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Crynodeb o’r prif themâu:

  • Roedd yr awgrymiadau mwyaf cyffredin a godwyd mewn ymateb i’r cwestiwn hwn yn ymwneud â labelu’r dull lladd, labelu carbon a labelu’r effaith amgylcheddol ac ymestyn y cynigion ar gyfer labelu dull cynhyrchu i gynnwys ystod ehangach o rywogaethau neu ystod ehangach o gynhyrchion.

  • Roedd nifer fach o’r ymatebion yn tynnu sylw at awgrymiadau eraill ar gyfer diwygio’r broses labelu’n ehangach, gan gynnwys:

    • Defnyddio plaladdwyr (awgrymwyd hyn fel rhan o’r broses o labelu effaith amgylcheddol ehangach, ac ar wahân)
    • Bwydydd wedi’u haddasu/dyfeisio’n enetig neu wedi’u bridio’n fanwl
    • Bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth, neu’r graddau y mae bwyd yn cael ei brosesu
    • Bwydydd llysieuol a figan
    • Gwybodaeth am gynnwys neu fath o fwyd anifeiliaid, gan gynnwys a gafodd yr anifail ei fwydo â glaswellt ac a oedd y bwyd anifeiliaid yn cynnwys carsinogenau posib

Ymateb y Llywodraeth

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y cyd hwn gan Lywodraeth Geidwadol y DU o dan Sunak, 2022 i 2024, ynghyd â’r Llywodraethau Datganoledig.

Labelu gwlad tarddiad 

O ran labelu gwlad tarddiad, rydym wedi nodi bod y mwyafrif o ymatebwyr yn cefnogi cynnwys gwybodaeth am darddiad, ochr yn ochr â’r risgiau a’r rhwystrau sydd wedi’u codi ynghylch newidiadau. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dystiolaeth hon yn barhaus wrth i ni ystyried blaenoriaethau Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig o ran labelu bwyd a gwybodaeth am fwyd.

Labelu dull cynhyrchu  

O ran labelu dull cynhyrchu, ar ôl ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ynghyd ag ymatebion i’r Cais blaenorol am Dystiolaeth yn 2021 ar labelu lles anifeiliaid, mae Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig yn cydnabod y gefnogaeth gref gan aelodau o’r cyhoedd a llawer o randdeiliaid eraill i ddarparu gwybodaeth gliriach i ddefnyddwyr am safonau lles eu bwyd. 

Rydym wedi clywed ac wedi deall y safbwyntiau a godwyd ar fanylion y cynigion ymgynghori gan y nifer o bartïon sydd â diddordeb sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ac sy’n cael eu crynhoi yn y ddogfen hon. Byddwn yn ystyried pob barn wrth i ni symud ymlaen, a byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys rhanddeiliaid y diwydiant ffermio a bwyd, milfeddygon, gwyddonwyr a chyrff anllywodraethol fel rhan o’r gwaith datblygu polisi parhaus hwn.  

Mae system fwyd y DU wedi’i hintegreiddio’n llawn ar draws y pedair gwlad, er bod labelu bwyd a lles anifeiliaid yn gyfrifoldebau polisi datganoledig. Gan gydnabod hyn, bydd Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig yn parhau i weithio’n agos gyda’i gilydd ar y mater hwn, gan ystyried y cynlluniau a’r strategaethau bwyd presennol ar draws y pedair gwlad, fel gwaith Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â pholisi bwyd yn y ddogfen Bwyd o Bwys: Cymru a gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Cenedl Bwyd Da yn genedlaethol.  

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno’r rhaglen fwyaf uchelgeisiol ar gyfer lles anifeiliaid mewn cenhedlaeth. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r system fwyd i greu strategaeth fwyd uchelgeisiol a fydd yn paratoi’r system fwyd i lwyddo ac yn sicrhau y gall fwydo’r genedl, gwireddu ei photensial ar gyfer twf economaidd, diogelu’r blaned, a rhoi maeth i unigolion, yn awr ac yn y dyfodol.

Byddwn yn ystyried rôl bosib diwygio labelu dull cynhyrchu fel rhan o waith Llywodraeth y DU yn datblygu dull cyffredinol o ymdrin â lles anifeiliaid a’r strategaeth fwyd ehangach, gan gydnabod y gefnogaeth gref gan y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill am wybodaeth gliriach am fwyd o ran safonau lles.  Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Llywodraethau Datganoledig ar hyn.