Consultation outcome

Government response to Extraction of Information from electronic devices: code of practice (Welsh accessible version)

Updated 16 March 2023

Echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig: cod ymarfer

Ymateb y Llywodraeth i ymgynghoriad cyhoeddus

Cyhoeddwyd ar: 17 Hydref 2022

Cyflwyniad

1. Mae Deddf yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd (PCSC) 2022 yn cyflwyno sail gyfreithiol glir i bersonau awdurdodedig[footnote 1] gael ac echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig, lle mae defnyddiwr y ddyfais yn cytuno. Gyda chymaint mwy o’n bywydau yn cael eu byw ar-lein, gall y gallu i echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau fod yn ffactor hollbwysig wrth ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell. Rhaid i ni sicrhau bod dioddefwyr a thystion yn hyderus y cânt eu trin â sensitifrwydd ac urddas wrth riportio troseddau a bod eu hawliau i breifatrwydd yn cael eu diogelu.

2. Gall person awdurdodedig arfer pwerau echdynnu gwybodaeth at ddibenion:

  • atal, canfod, ymchwilio neu erlyn trosedd

  • helpu i ddod o hyd i berson coll

  • amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol

3. Mae’r pwerau hyn yn cryfhau’r gyfraith i sicrhau bod dull cyson o ofyn am wybodaeth o ffonau a dyfeisiau electronig eraill, ac ym mhob achos, mai dim ond pan fo angen a’i fod yn gymesur y gwneir ceisiadau i echdynnu gwybodaeth a gedwir ar ddyfais electronig, yn unol â llinell ymholi resymol.

4. Cefnogir pwerau echdynnu gwybodaeth gan god ymarfer statudol sy’n rhoi canllawiau i bersonau awdurdodedig ynghylch pryd a sut i arfer y pwerau hyn. Rhaid i bersonau awdurdodedig sy’n defnyddio’r pwerau roi sylw dyledus i’r cod, sy’n golygu bod y cod yn ddarn pwysig o ganllawiau, y bydd yn dderbyniol fel tystiolaeth a gallai methu â chydymffurfio â’r cod arwain at gamau gan y llys.

5. Ym mis Mai 2022, lansiodd y Swyddfa Gartref ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ‘Echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig: cod ymarfer’ drafft i geisio barn am y canllawiau yr oedd yn eu cynnwys ar gyfer personau awdurdodedig sy’n ceisio arfer pwerau echdynnu gwybodaeth yn y Ddeddf Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd (PCSC) 2022.

6. Y ddogfen hon yw’r adroddiad ôl-ymgynghoriad ar gyfer y papur ymgynghori ac mae’n rhoi crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd ac ymateb y llywodraeth iddynt. Mae’n cwmpasu:

  • cefndir yr ymgynghoriad

  • crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad

  • ymateb manwl i’r cwestiynau penodol ym mhapur yr ymgynghoriad

  • casgliad a’r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad hwn

  • egwyddorion yr ymgynghoriad

Manylion cyswllt

7. Gellir cael rhagor o gopïau o’r adroddiad hwn a’r papur ymgynghori drwy gysylltu ag extractionofinformationcode@homeoffice.gov.uk neu drwy ysgrifennu at yr Uned Data a Hunaniaeth yn y cyfeiriad isod:

Yr Uned Data a Hunaniaeth
Extraction of information code of practice
Home Office
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

E-bost: extractionofinformationcode@homeoffice.gov.uk

8. Mae’r adroddiad hwn hefyd ar gael yn Extraction of information from electronic devices: code of practice.

9. Gellir gwneud cais am fersiynau o’r cyhoeddiad hwn mewn fformatau amgen gan extractionofinformationcode@homeoffice.gov.uk.

Cwynion neu sylwadau

10. Os oes gennych unrhyw gŵynion neu sylwadau am y broses ymgynghori, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Cefndir

11. Lansiwyd papur yr ymgynghoriad ar ‘Echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig: cod ymarfer’ ar 17 Mai 2022. Roedd yn ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn gwahodd ymatebwyr i roi sylwadau, safbwyntiau neu bryderon am y cod ymarfer drafft, a baratowyd gan y Swyddfa Gartref ac a oedd yn cynnwys canllawiau ar y pwerau yn adrannau 37(1) a 41(1) o Ddeddf yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd (PCSC) 2022.

12. Roedd papur yr ymgynghoriad yn nodi’r pwerau a gyflwynwyd yn Neddf PCSC 2022 a’r gofyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi cod ymarfer yn cynnwys canllawiau ar ddefnyddio’r pwerau hyn. Enwodd yr ymgynghoriad hefyd nifer o ymgyngoreion statudol y mae’n rhaid ymgynghori â hwy ar y cod hwn.

13. Gofynnodd yr ymgynghoriad i ymatebwyr ystyried y canllawiau a ddarperir ym mhob rhan o’r cod ymarfer a darparu ymateb ynghylch a ydynt yn ‘cytuno’n gryf’, ‘cytuno’, ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’, ‘anghytuno’ neu ‘anghytuno’n gryf’ gyda’r cwestiynau a ofynnir. Lle bo’n berthnasol, gofynnwyd iddynt ystyried hyn ar wahân ar gyfer y pŵer yn Adran 37 ac ar gyfer y pŵer yn Adran 41. Gofynnwyd ymhellach iddynt ystyried a ellid rhoi’r canllawiau yn y cod ar waith yn weithredol, a oedd unrhyw fylchau yn y canllawiau y dylid mynd i’r afael â nhw ac a oedd y cod yn cynnwys yr holl ddolenni perthnasol i wybodaeth arall. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn gallu rhoi sail resymegol dros eu hateb.

14. Ar y cychwyn roedd y cyfnod ymgynghori i fod i redeg am 8 wythnos a chau ar 12 Gorffennaf, ond cafodd hyn ei ymestyn o wythnos i sicrhau bod pawb â buddiant ac ymgyngoreion statudol yn gallu ymateb, felly daeth i ben ar 19 Gorffennaf. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys sut mae’r ymatebion hyn wedi helpu i lunio drafft terfynol y cod.

15. Gellir dod o hyd i bapur ymateb Saesneg yn Extraction of information from electronic devices: code of practice.

16. Ceir rhestr o’r mathau o ymatebwyr sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn yn Atodiad A.

Crynodeb o’r ymatebion

Sut y derbyniwyd ymatebion

17. Derbyniwyd cyfanswm o 83 o ymatebion i bapur yr ymgynghoriad. O’r rhain:

  • Derbyniwyd 31 trwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost GOV.UK a sefydlwyd ar gyfer yr ymgynghoriad

  • Derbyniwyd 52 ar-lein trwy ddolen arolwg yr ymgynghoriad

18. Roedd pymtheg o’r e-byst a ddychwelwyd, o gymysgedd o fathau o ymatebwyr, yn ymatebion thematig i’r cod. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag ymateb i’r cwestiynau penodol a nodwyd ym mhapur yr ymgynghoriad, eu bod wedi darparu crynodeb cyffredinol o adborth ar y cod ymarfer drafft, megis adborth ar gymhwyso’r Ddeddf Hawliau Dynol a’r Ddeddf Diogelu Data a ddarparwyd gan y cod drafft. Roeddent yn cynnwys sylwadau ar agweddau ar y cod yr oeddent yn eu croesawu a meysydd yr oeddent yn teimlo eu bod ar goll neu fod angen eu diwygio.

Mathau o ymatebwyr

19. O’r 52 o ymatebion ar-lein ni roddodd 17 ymateb i unrhyw gwestiynau.

20. Daeth yr ymatebion ar-lein gan y mathau dilynol o ymatebwyr:

  • Roedd 14 gan bersonau awdurdodedig a enwir yn Atodlen 3 i’r ddeddf

  • Roedd 1 gan gorff arall y llywodraeth

  • Roedd 1 gan sefydliad trydydd sector/anllywodraethol

  • Ni chofnododd 36 enw na nodi’r math o sefydliad yr oeddent yn ei gynrychioli

21. Daeth y 31 ymateb e-bost gan y mathau dilynol o ymatebwyr:

  • Roedd 11 gan bersonau awdurdodedig a enwir yn Atodlen 3 i’r ddeddf

  • Roedd 6 gan Gomisiynwyr Annibynnol

  • Roedd 5 gan gyrff eraill y llywodraeth

  • Roedd 4 gan sefydliad trydydd sector/anllywodraethol

  • Roedd 3 gan gyrff proffesiynol cyfreithiol

  • Roedd 2 gan aelodau o’r cyhoedd

22. Roedd un o’r ffurflenni trydydd sector/sefydliadau anllywodraethol a dderbyniwyd drwy e-bost yn cynrychioli safbwyntiau cydweithredol 9 sefydliad anllywodraethol (NGO). Roedd y cyrff anllywodraethol hyn yn amrywiaeth o grwpiau cymdeithas sifil a rhai a oedd yn canolbwyntio ar breifatrwydd.

Adborth cadarnhaol

23. Rhoddodd arolwg yr ymgynghoriad gyfle i’r holl ymatebwyr roi sylwadau ochr yn ochr â’u hatebion i’r cwestiynau ym mhapur yr ymgynghoriad i roi rhagor o fanylion am eu hadborth ar y cod ymarfer. Roedd y rhain yn cynnwys adborth cadarnhaol ar y cyfan am eglurder y cod ag un person awdurdodedig yn darparu sylw yn nodi:

Mae’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar yr amgylchiadau lle gellir defnyddio’r pwerau a bodloni’r gofynion yn glir, yn hawdd i’w deall ac yn ddiamwys mewn perthynas â dioddefwyr a thystion.

Dywedodd sylw pellach gan berson awdurdodedig arall:

Mae’r canllawiau’n nodi’n glir yr amgylchiadau a’r seiliau dros ddefnyddio’r pwerau hyn.

24. Cawsom hefyd sylwadau gan ymatebwyr ar y meysydd o’r cod yr oeddent yn credu eu bod yn ddefnyddiol ac o gymorth i berson awdurdodedig gael manylion amdanynt wrth arfer y pwerau hyn. Roedd y rhain yn cynnwys adborth cadarnhaol ar:

  • yr adran diogelu data, GDPR a hawliau dynol

  • y canllawiau sy’n ymwneud â phlant ac oedolion heb alluedd a’r angen i gael eu barn o ystyried na allant gytuno eu hunain i echdynnu eu gwybodaeth

  • y manylion a ddarperir ar sut i benderfynu ar y pŵer cyfreithiol cywir i’w ddefnyddio a sut i gadarnhau bod echdynnu gwybodaeth yn angenrheidiol ac yn gymesur

Crynodeb o’r adborth a ddygwyd ymlaen

25. Cawsom sylwadau gan ymatebwyr ar ganllawiau ychwanegol yr oeddent yn teimlo bod angen eu cynnwys yn y cod neu lle’r oedd angen diwygiadau. Dadansoddwyd yr holl sylwadau er mwyn nodi meysydd lle’r oedd ymatebwyr yn credu y dylid ei ddiweddaru naill ai oherwydd bod y drafft yn cael ei ystyried yn aneglur, yn gamarweiniol neu wedi cynnig canllawiau annigonol i bersonau awdurdodedig ynghylch pryd a sut i echdynnu gwybodaeth o ddyfais electronig.

26. Fe wnaeth llawer o ymatebwyr roi enghreifftiau o eiriad penodol neu awgrymu themâu/pynciau yr hoffent i’r cod eu cynnwys. Adolygwyd yr holl awgrymiadau a lle roedd yn bosibl, mae’r rhain wedi’u derbyn a’u diweddaru o fewn y cod ymarfer. Mae hyn wedi cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddiweddariadau i’r agweddau dilynol ar y cod ymarfer:

  • y camau y dylid eu cymryd o ran gwybodaeth a echdynnir ond nad yw’n berthnasol i’r ymchwiliad

  • cyfeirio at a chipio agweddau ar ddeddfwriaeth arall, megis cyfeirio at warcheidwaid annibynnol, sy’n rolau penodol a grëwyd o dan a.21 Deddf Masnachu mewn Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015 a phwy all gynorthwyo wrth wneud penderfyniad ar ran plentyn

  • y mathau o ddyfeisiadau y mae pwerau echdynnu gwybodaeth yn ymwneud â hwy; gan fod rhai ymatebwyr yn teimlo bod y canllawiau yn y cod wedi’u hanelu’n bennaf at echdynnu gwybodaeth o ffôn symudol ac y dylid cynnwys rhagor o fanylion ar gyfer mathau eraill o ddyfeisiau electronig, megis dyfeisiau teledu cylch cyfyng

  • ehangder y diffiniad o fregusrwydd a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn agored i niwed, yn ogystal â’r cymorth y dylid ei gynnig i bobl agored i niwed a’r angen i gynnwys cyfeiriadau penodol at y Cod Dioddefwyr

  • manylion y wybodaeth y dylid ei darparu i ddefnyddiwr y ddyfais o fewn yr hysbysiad ysgrifenedig

  • y camau i’w cymryd pan yw gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei hechdynnu

  • dehongli agweddau penodol ar y pwerau echdynnu gwybodaeth yn y cod, megis yr hyn a olygir wrth ‘yn union cyn iddynt fynd ar goll’, ac ‘yn union cyn eu marwolaeth’ mewn perthynas ag amgylchiadau lle nad oes angen cytundeb gan ddefnyddiwr y ddyfais

  • mwy o fanylion a gwell mesurau diogelu i egluro beth yw ystyr cytundeb, gan gynnwys sut y dylid cofnodi cytundeb, darparu cyfieithydd ar y pryd i ddefnyddiwr y ddyfais lle bo angen, a pha ddulliau eraill o gael y wybodaeth sydd wedi’u harchwilio

  • manylion am ganlyniadau posibl methu â chydymffurfio â’r cod ymarfer

Crynodeb o adborth na ddygwyd ymlaen

27. Ni ellid mabwysiadu’r holl adborth a gawsom yn fersiwn derfynol y cod ymarfer. Mae hyn yn cynnwys y dilynol:

  • cynnwys astudiaethau achos neu senarios lle bydd y pwerau’n cael eu harfer

  • rhagor o fanylion am y defnydd o bwerau eraill neu ddarnau o ddeddfwriaeth, megis canllawiau pellach ar bwerau PACE a chynnwys manylion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

  • gofyniad y dylai personau awdurdodedig gaffael opsiynau technoleg sy’n sicrhau y gellir defnyddio’r dulliau echdynnu mwyaf dewisol wrth echdynnu gwybodaeth electronig

  • rhagor o fanylion am echdynnu gwybodaeth a materion cysylltiedig nad ydynt wedi’u cynnwys yn y pwerau yn y ddeddf, megis:

    • canllawiau ar echdynnu data electronig sy’n cael ei storio o bell

    • darparu cyngor cyfreithiol am ddim i ddioddefwyr

    • casglu deunydd trydydd parti, megis cofnodion addysg neu feddygol

    • hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad annibynnol o’r cais sy’n cael ei wneud i echdynnu gwybodaeth o’u dyfais electronig drwy’r pwerau hyn

28. Mae llawer o’r materion hyn y tu allan i gwmpas naill ai’r Ddeddf PCSC neu’r cod ac felly ni ellid eu cynnwys. Mewn rhai achosion, byddai angen deddfwriaeth bellach neu newidiadau gweithredol sylweddol i weithredu’r adborth a dderbyniwyd.

29. Ni ddygwyd ymlaen yr argymhelliad i ddioddefwyr allu gwneud eu cais eu hunain am adolygiad annibynnol o’r cais echdynnu gwybodaeth y gofynnwyd iddynt gytuno arno. Mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn cynnal cynllun peilot gyda heddlu Thames Valley sy’n rhoi cyfle i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol herio ceisiadau’r heddlu i gyrchu gwybodaeth bersonol, megis deunydd digidol a deunydd a gedwir gan drydydd partïon (megis meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol neu ysgolion ac ati). Mae’r peilot hwn yn caniatáu i ddioddefwyr ofyn am adolygiad gan uwch swyddog i benderfynu a yw’r cais am wybodaeth yn gymesur ac yn unol â thrywyddau ymholi rhesymol. Mae’r peilot hwn yn mynd rhagddo ac mae angen ei werthuso cyn ystyried gweithredu ehangach.

30. Mae manylion penodol am yr hyn sydd wedi’i ddatblygu a’r hyn na chafodd ei ddatblygu yn fersiwn derfynol y cod ymarfer yn dilyn yr adborth gan ymatebwyr i’w gweld yn yr adran ‘Ymatebion i gwestiynau penodol’ isod.

Ymatebion i gwestiynau penodol

C1 (a) I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar yr amgylchiadau pan ellir defnyddio’r pwerau a’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni ar gyfer adran 37?

Ymateb i C1 a Cyfanswm
Cytuno’n gryf 5
Cytuno 21
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 8
Anghytuno 6
Anghytuno’n Gryf 2
Gwag (dim ymateb) 41
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

31. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘cytuno’n gryf’, neu’n ‘cytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd deuddeg gan bersonau awdurdodedig, dau gan gorff y llywodraeth, dau gan Gomisiynwyr Annibynnol, un gan gorff proffesiynol cyfreithiol, un gan aelod o’r cyhoedd ac ni nododd wyth o ble yr oeddent yn dod.

32. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘anghytuno’ neu’n ‘anghytuno’n gryf’, roedd tri gan sefydliadau trydydd sector/cyrff anllywodraethol, ni nododd tri eu sefydliad ac roedd dau gan bersonau awdurdodedig. Dywedodd un o’r rhai a oedd yn ‘anghytuno’ â’r canllawiau yn yr adran hon y dylai’r cod hwn gynnwys canllawiau ynghylch pryd y dylid defnyddio pwerau eraill. Gofynnodd un arall am i’r esboniad o beth yw dyfais electronig gael ei ehangu gan eu bod yn teimlo bod y cod yn canolbwyntio’n ormodol ar ganllawiau yn ymwneud â ffonau symudol.

33. Ymatebodd y rhai a oedd yn ‘cytuno’ â’r canllawiau yn yr adran hon ei bod yn nodi gofynion Deddf PCSC yn glir ac yn gywir.

34. Roedd sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan ymatebwyr yn cynnwys ceisiadau i ddibenion Adran 37 gael eu datgan ar ddechrau’r rhan hon o’r cod er mwyn sicrhau bod personau awdurdodedig yn glir at ba ddibenion yr oedd yr adran yn ymwneud â hwy. Gofynnodd eraill am eglurhad ynghylch sut y dylid defnyddio’r pwerau hyn lle gallai fod gan ddyfais ddefnyddwyr lluosog ac am eglurhad pellach ar yr hyn y mae’r term ‘yn union cyn iddynt fynd ar goll’ yn ei olygu wrth ystyried defnyddio’r pwerau pan fo person ar goll.

35. Gofynnodd nifer o ymatebwyr am ragor o fanylion ynghylch canlyniadau methu â dilyn y cod a gofynnwyd am enghreifftiau o ba rannau o god moeseg yr heddlu y gellid eu torri pe byddai swyddog heddlu yn methu â chadw at y cod ymarfer hwn.

36. Cafwyd adborth pellach gan ymatebwyr lluosog i ddiffinio ‘niwed’ a ‘niwed difrifol’ ac i gynnwys rhagor o wybodaeth am bwerau eraill y gellir eu defnyddio i echdynnu gwybodaeth pan fo defnyddiwr dyfais yn gwrthod darparu cytundeb o dan bwerau’r Ddeddf PCSC.

37. Nid ydym wedi bwrw ymlaen â’r awgrym i gynnwys gwybodaeth am bwerau eraill y gellir eu defnyddio i echdynnu gwybodaeth gan fod y cod ymarfer hwn yn canolbwyntio’n unig ar arfer pwerau echdynnu gwybodaeth o fewn y Ddeddf PCSC.

38. Mae’r cyfeiriadau at ‘niwed’ a ‘niwed difrifol’ yn y Ddeddf yn seiliedig ar y geiriad yn Neddf Diogelu Data (DPA) 2018. Nid oes diffiniad yn y DPA ar gyfer y termau hyn y tu hwnt i ‘niwed’ sy’n golygu niwed corfforol a meddyliol ill dau. Nid yw diffiniad penodol ar gyfer y termau hyn wedi’i gynnwys yn y cod ymarfer ychwaith y tu hwnt i gadarnhau y gall ‘niwed’ hefyd gynnwys cam-drin ariannol neu reolaeth orfodol.

39. Mae’r cod wedi’i ddiweddaru i:

  • egluro at ba ddibenion y gellir defnyddio’r pŵer yn Adran 37

  • ymhelaethu ar ganlyniadau methu â chadw at y cod

  • cynorthwyo’r darllenydd i gael canllawiau pellach ar yr hyn y mae ‘yn union cyn iddynt fynd ar goll’ yn ei olygu

  • darparu rhagor o fanylion am ddyfeisiau electronig cymwys, fel ei bod yn amlwg nad yw’r canllawiau’n cyfeirio at echdynnu gwybodaeth o ffonau symudol yn unig

  • cynnwys manylion ar sut i symud ymlaen os oes gan ddyfais ddefnyddwyr lluosog

C1 (b) I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar yr amgylchiadau pan ellir defnyddio’r pwerau a’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni ar gyfer adran 41?

Ymateb i C1 b Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 3
Cytuno 17
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 10
Anghytuno 4
Anghytuno’n gryf 1
Gwag (dim ymateb) 48
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

40. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd un ar ddeg yn bersonau awdurdodedig, roedd un gan gorff y llywodraeth, un gan Gomisiynydd Annibynnol, un gan gorff proffesiynol cyfreithiol, un gan aelod o’r cyhoedd ac ni nododd pump o ble yr oeddent yn dod.

41. O’r rhai a ymatebodd ag ‘anghytuno’n gryf’ neu ‘anghytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd un gan berson awdurdodedig, un gan drydydd sector/sefydliad anllywodraethol ac ni nododd tri o ble yr oeddent yn dod.

42. Gofynnodd ymatebydd a oedd yn ‘cytuno’ fod y canllawiau yn yr adran hon yn briodol hefyd i’r cod gynnwys rhagor o wybodaeth am y pwerau atafaelu sydd ar gael i grwneriaid.

43. Gofynnodd dau ymatebydd am wybodaeth ychwanegol am yr hyn y mae ‘yn union cyn iddynt farw’ yn ei olygu wrth ddefnyddio’r pŵer yn adran 41. Gofynnodd comisiynydd annibynnol am eglurder yn y cod ynghylch cyfraith diogelu data a phersonau sydd wedi marw.

Ymateb y Llywodraeth

44. Er mwyn sicrhau bod y darllenydd yn deall yn iawn beth a olygir wrth ‘yn union cyn iddynt farw’, rydym wedi darparu esboniad mwy cynhwysfawr wedi’i ategu gan enghraifft. Rydym hefyd wedi darparu rhagor o fanylion am yr ystyriaethau y dylid eu gwneud wrth archwilio dyfais person ymadawedig a allai gynnwys gwybodaeth bersonol person byw adnabyddadwy arall.

45. Nid yw’r cod wedi’i ddiweddaru i gynnwys canllawiau ar bwerau eraill sydd ar gael i grwneriaid gan nad yw hyn yn dod o fewn cylch gorchwyl y cod hwn.

C2. (a) I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar arfer y pwerau yn unol â deddfwriaeth diogelu data a hawliau dynol ar gyfer adran 37?

Ymateb i C2 a Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 4
Cytuno 24
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 5
Anghytuno 1
Anghytuno’n gryf 3
Gwag (dim ymateb) 46
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

46. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd pymtheg yn bersonau awdurdodedig, dau gan gomisiynwyr annibynnol, dau gan gorff y llywodraeth, un gan gorff proffesiynol cyfreithiol, un gan aelod o’r cyhoedd ac ni nododd saith o ble yr oeddent yn dod.

47. O’r rhai a ymatebodd ag ‘anghytuno’n gryf’ neu ‘anghytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd tri gan sefydliadau trydydd sector/anllywodraethol ac ni nododd un o ble yr oedd yn dod.

48. Dywedodd nifer o ymatebwyr eu bod yn cael y canllawiau yn glir ac yn gryno a’u bod yn rhoi digon o fanylion am ystyriaethau diogelu data a hawliau dynol. O’r rhai a oedd yn ‘anghytuno’n gryf’, roedd dau yn drydydd sector/cyrff anllywodraethol a oedd yn ymwneud â gweithgarwch ehangach y llywodraeth ar hawliau dynol a diwygio data a sut y byddai newidiadau i ddeddfwriaeth yn y dyfodol yn effeithio ar y warchodaeth gyfreithiol bresennol a ddarperir.

49. Gofynnwyd am eglurder ynghylch sut mae Erthygl 6 o’r HRA yn rhyngweithio â’r cod ymarfer, a gwnaed yr awgrymiadau dilynol:

  • awgrymodd un corff proffesiynol fod angen canllawiau pellach i egluro sut mae Erthygl 8 ac Erthygl 6 yn rhyngweithio ac y gellir eu pwyso a’u mesur yn erbyn ei gilydd

  • dywedodd un comisiynydd annibynnol ei fod yn falch o weld hawliau Erthygl 8 “yn cael blaenoriaeth” yn y cod

  • gofynnodd un ymatebydd am ddolen uniongyrchol i’r Ddeddf Diogelu Data (DPA) 2018

  • awgrymodd sefydliad cymdeithas sifil y dylai’r cod fynnu bod pob llu yn cynnal asesiad o’r effaith ar ddiogelu data ac asesiad effaith cydraddoldeb cyn defnyddio’r pwerau

50. Argymhellodd comisiynydd annibynnol arall fod angen eglurder pellach ar y gwahaniaethau rhwng ‘cytundeb’ a ‘chydsyniad’ o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Ymateb y Llywodraeth

51. Mewn ymateb i’r adborth rydym wedi’i dderbyn ar y cwestiwn hwn, rydym wedi:

  • ehangu’r canllawiau presennol yn Rhan 2: Hawliau Dynol a Diogelu Data i gynnwys cyfeirio at Ddeddf Cydraddoldeb 2010

  • ychwanegu cyfeiriadau ychwanegol at ganllawiau presennol perthnasol, megis canllawiau’r twrnai cyffredinol ar ddatgelu, i gynorthwyo personau awdurdodedig i gydbwyso’r hawl Erthygl 8 ECHR i fywyd preifat a theuluol a’r hawl i dreial teg o dan Erthygl 6 ECHR

  • cynnwys argymhelliad y dylai awdurdodau a enwir yn Atodlen 3 ystyried a oes angen cwblhau neu ddiweddaru asesiad effaith diogelu data presennol

  • ychwanegu cyfeiriad uniongyrchol at yr asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y ddeddf sy’n dangos cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)

  • darparu eglurder ar y gwahaniaethau rhwng darparu dyfais yn wirfoddol, y cytundeb i echdynnu gwybodaeth ohoni, a phrosesu gwybodaeth gan ddefnyddio ‘cydsyniad’ o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 gan ei gwneud yn glir na ddylai ‘cydsyniad’ gael ei ystyried yn awdurdod priodol yn y rhan fwyaf o achosion i brosesu gwybodaeth bersonol

C2. (b) I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar arfer y pwerau yn unol â deddfwriaeth diogelu data a hawliau dynol ar gyfer adran 41?

Ymateb i C2 b Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 5
Cytuno 18
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 7
Anghytuno 1
Anghytuno’n gryf 1
Gwag (dim ymateb) 51
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

52. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd un ar ddeg gan bersonau awdurdodedig, dau gan gorff y llywodraeth, un gan gomisiynydd annibynnol, un gan gorff proffesiynol cyfreithiol, un gan aelod o’r cyhoedd ac ni nododd saith o ble roeddent yn dod.

53. O’r rhai a ymatebodd ag ‘anghytuno’n gryf’ neu ‘anghytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd un gan sefydliad trydydd sector/anllywodraethol, ac ni nododd un o ble yr oedd yn dod.

54. Awgrymodd person awdurdodedig fod yr adran hon o’r cod yn effeithiol o ran nodi’r hawliau a gadarnhawyd i unigolion gan y ddeddfwriaeth a’r cyfundrefnau rhestredig ond argymhellodd y dylid darparu canllawiau pellach ar sut mae Erthygl 6 o’r HRA yn rhyngweithio â’r cod ymarfer. Dywedodd aelod o’r cyhoedd a heddlu fod yr adran hon o’r cod yn syml ac yn glir. Mynegodd ymatebydd dienw bryder ei fod yn credu bod y pwyslais ar ddiogelu hawliau preifatrwydd defnyddwyr dyfeisiau yn risg tegwch i’r diffynnydd. Argymhellodd comisiynydd annibynnol fod y cod yn pwysleisio bod rhaid i bersonau awdurdodedig barhau i fodloni gofynion deddfwriaeth diogelu data pan fo dyfais person ymadawedig yn debygol o gynnwys gwybodaeth bersonol yn ymwneud â phersonau byw adnabyddadwy.

Ymateb y Llywodraeth

55. Yn dilyn adolygiad o’r sylwadau a dderbyniwyd, gwnaed y newidiadau dilynol i’r cod ymarfer:

  • mae canllawiau pellach wedi’u hychwanegu at Ran 2: adran Hawliau Dynol a Diogelu Data, sy’n pwysleisio’r angen i gydbwyso hawl Erthygl 8 ECHR i fywyd preifat a theuluol â’r hawl i brawf teg o dan Erthygl 6 ECHR

  • mae rhagor o fanylion wedi’u darparu i’w gwneud yn glir yn y cod bod rhaid bodloni’r holl ofynion deddfwriaethol, gan gynnwys rheolau datgelu, a’u dilyn, wrth ddefnyddio pwerau echdynnu adran 37 neu 41

  • mae pwyslais wedi’i roi ar yr angen i bersonau awdurdodedig ystyried deddfwriaeth diogelu data hyd yn oed wrth archwilio dyfais person ymadawedig oherwydd y tebygolrwydd ei bod yn cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â phobl fyw adnabyddadwy

C3. (a) I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau a gynigir yn y cod ar asesu anghenraid, cymesuredd, perthnasedd i drywydd ymholi rhesymol neu gred resymol wrth benderfynu pryd y dylid defnyddio’r pwerau yn adrannau 37 a 41 ar gyfer adran 37?

Ymateb i C3 a Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 5
Cytuno 19
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 3
Anghytuno 4
Anghytuno’n gryf 2
Gwag (dim ymateb) 50
Cyfanswm 83

56. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’, roedd un ar bymtheg yn bersonau awdurdodedig, ni nododd pedwar o ble yr oeddent yn dod, roedd un yn gomisiynydd annibynnol, un yn gorff y llywodraeth, un yn aelod o’r cyhoedd, roedd un o gorff proffesiynol cyfreithiol ac ni nododd pedwar o ble yr oeddent yn dod.

57. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘anghytuno’n gryf’, neu’n ‘anghytuno’ roedd dau yn gomisiynwyr annibynnol, roedd un yn berson awdurdodedig, un o sefydliad trydydd sector/anllywodraethol ac ni nododd dau o ble yr oeddent yn dod.

58. Rhai o’r ymatebion gwag yw’r rhai lle cyflwynwyd datganiad e-bost ag ymateb thematig i’r arolwg nad oedd yn cynnig ymatebion i gwestiynau penodol. Mae unrhyw wybodaeth berthnasol yn yr ymatebion hynny wedi’i hystyried yn yr adran hon. Roedd adborth yn yr adran hon yn cynnwys y dylai fod cyfyngiadau amser ar echdynnu, storio a chadw.

59. Dywedodd ymatebwyr a oedd yn cytuno â’r adran hon ei bod wedi’i chynllunio’n dda, yn glir ac ychwanegodd un ei bod yn falch o weld cyfeiriadau at ddyfarniad Bater-James.[footnote 2] Dywedodd ymatebwyr hefyd y dylai’r cod amlygu hyfforddiant neu ganllawiau perthnasol eraill y dylai personau awdurdodedig eu dilyn wrth wneud penderfyniadau am anghenraid a chymesuredd. Gofynnodd un arall i’r canllawiau ynghylch y swyddog sancsiynu gael eu hehangu i sicrhau nad yw’r cyrff hynny sydd â safbwynt bresennol ar raddfa neu reng person a all gyflawni’r rôl hon yn gwrthdaro â’r canllawiau yn y cod.

60. Cyfeiriodd y rhai a oedd yn anghytuno â’r canllawiau yn yr adran hon at eu cefnogaeth i sylwadau un o’r comisiynwyr annibynnol a geisiodd ganllawiau pellach a manylach ar ddulliau llai ymwthiol a sut i fodloni’r prawf ‘rhesymol ymarferol’ yn ogystal â cheisio senarios i egluro’r defnydd o’r pwerau yn well. Dywedodd y comisiynydd annibynnol hwn hefyd nad oedd y cod yn nodi’n gywir y sefyllfa yn Neddf Diogelu Data 2018 bod rhaid i’r broses echdynnu data gael ei lleihau, ac ymhellach y dylai’r cod osod y disgwyliad bod heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio’r hysbysiad prosesu digidol (DPN) a grëwyd gan yr NPCC fel yr hysbysiad ysgrifenedig. Ymatebodd comisiynydd annibynnol arall, a oedd yn cefnogi’r un cyntaf, hefyd y dylid egluro’r cod ar y sefyllfa ynghylch defnyddwyr lluosog, beth yw ystyr pwysau gormodol, sut i asesu gwerth y wybodaeth a geisir. Galwodd y ddau gomisiynydd annibynnol hyn am i’r cod gynnwys cyfarwyddyd i gynnig cyngor cyfreithiol am ddim i ddioddefwyr.

61. Roedd ymatebwr arall yn ymwneud yn benodol â chymhwyso’r pwerau hyn i wahanol fathau o CCTV.

Ymateb y Llywodraeth

6. Mae’r newidiadau olynol wedi’u gwneud i’r cod ymarfer yn dilyn yr adborth i’r cwestiwn hwn:

  • mae adran wedi’i chynnwys yn y cod ymarfer ar gadw a dileu gwybodaeth a echdynnwyd

  • canllawiau wedi’u diweddaru ar y rheng neu’r radd neu’r swyddog sy’n sancsiynu

  • canllawiau wedi’u diweddaru ar y ffyrdd y gall person awdurdodedig fod yn fodlon nad oes unrhyw ddulliau eraill o gael yr wybodaeth a geisir a sut i asesu a fyddai’n rhesymol ymarferol defnyddio dulliau eraill

  • geiriad wedi’i ddiweddaru ynghylch y rhwymedigaethau ynghylch lleihau data yn Neddf Diogelu Data 2018

  • wedi diweddaru’r sefyllfa ynghylch y defnydd o DPN NPCC gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr

  • ychwanegwyd canllawiau ar sut y dylai person awdurdodedig symud ymlaen os oes gan ddyfais ddefnyddwyr lluosog

  • ychwanegwyd enghraifft o’r hyn a all olygu pwysau gormodol i sicrhau bod hyn yn cael ei osgoi pan fydd person awdurdodedig yn ceisio gwybodaeth o ddyfais

  • mae canllawiau pellach wedi’u cynnwys ynglŷn â chymhwysiad priodol y pwerau wrth echdynnu gwybodaeth o CCTV

63. Ni ellir gweithredu’r cais i gynnwys yn y cod y dylid cynnig cyngor cyfreithiol am ddim i bob dioddefwr ar hyn o bryd. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymgynghori ar opsiynau i wella cymorth cyfreithiol neu gyngor i ddioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol difrifol ynghylch ceisiadau am wybodaeth bersonol, gan gynnwys ceisiadau gan yr heddlu i lawrlwytho ffonau symudol a chofnodion cyfryngau cymdeithasol. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu a bydd y camau nesaf yn cael eu cyhoeddi maes o law.

64. Yn ogystal, nid yw’r cais i gynnwys terfynau amser ar y broses echdynnu wedi’i gynnwys yn y cod ymarfer oherwydd yr ystod o alluoedd technegol sydd ar gael o fewn gwahanol heddluoedd a mathau o ddyfeisiau a modelau a fyddai’n effeithio ar faint o amser mae’r broses echdynnu yn ei gymryd. Fodd bynnag, rydym wedi nodi bod rhaid i bersonau awdurdodedig ddewis y dull echdynnu mwyaf dewisol sydd ar gael iddynt wrth ymgymryd â’r broses hon a sicrhau bod dyfeisiau’n cael eu dychwelyd i ddefnyddiwr y ddyfais cyn gynted â phosibl.

C3. (b) I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau a gynigir yn y cod ar asesu anghenraid, cymesuredd, perthnasedd i drywydd ymholi rhesymol neu gred resymol wrth benderfynu pryd y dylid defnyddio’r pwerau yn adrannau 37 a 41 ar gyfer adran 41?

Ymateb i C3 b Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 4
Cytuno 14
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 5
Anghytuno 1
Anghytuno’n gryf 1
Gwag (dim ymateb) 58
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

65. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’ â’r canllawiau yn yr adran hon roedd deuddeg yn cynrychioli personau awdurdodedig, ni nododd tri eu sefydliad, roedd un yn cynrychioli corff y llywodraeth, un yn gorff proffesiynol cyfreithiol ac un yn a aelod o’r cyhoedd.

66. O’r ymatebwyr sy’n weddill a nododd ymateb, ymatebodd pedwar person awdurdodedig ac un ymatebydd na ddatganodd ei sefydliad nad oeddent ‘yn cytuno nac yn anghytuno’. Ymatebodd un sefydliad trydydd sector/anllywodraethol eu bod yn ‘anghytuno’ ac ymatebodd un ei fod yn ‘anghytuno’n gryf’, na ddatganodd ei sefydliad.

67. Ar y cyfan roedd ymatebwyr yn gefnogol i’r manylion a’r canllawiau a gynigir yn yr adran hon, gofynnodd un ymatebydd am ganllawiau pellach ar yr hyn y mae ‘yn union cyn iddynt farw’ yn ei olygu a sut i gymhwyso hyn. Gofynnodd un arall am ganllawiau pellach ar sut i sicrhau bod yr holl ddulliau eraill o gael y wybodaeth wedi’u hystyried a gofynnodd un arall a allai’r cod gynnwys mwy o wybodaeth am y pwerau sydd ar gael i grwner. Yn ogystal, gofynnodd un ymatebydd am eglurhad tebyg (fel yn C3 a) ar radd neu reng y swyddog sy’n sancsiynu.

68. Rydym wedi cymryd y camau dilynol mewn ymateb i’r adborth a gafwyd ar y cwestiwn hwn:

  • wedi diweddaru’r cod ag esboniadau ychwanegol ar sut i ddehongli ‘yn union cyn iddynt farw’

  • wedi diweddaru canllawiau ar reng neu radd y swyddog sy’n sancsiynu

  • wedi diweddaru canllawiau ar y ffyrdd y gall person awdurdodedig fod yn fodlon nad oes unrhyw ddulliau eraill o gael y wybodaeth a geisir

69. Nid yw’r cod yn cynnwys canllawiau pellach ar bwerau crwner gan nad yw hyn yn dod o fewn cylch gorchwyl y cod hwn.

C4. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar sut mae awdurdodau yn bodloni’r gofynion a nodir yn adran 37(1) yn y Ddeddf, i sicrhau bod person wedi darparu ei ddyfais yn wirfoddol ac wedi cytuno i echdynnu gwybodaeth ohoni?

Ymateb i C4 Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 3
Cytuno 17
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 3
Anghytuno 6
Anghytuno’n gryf 1
Gwag (dim ymateb) 53
Cyfanswm 83

70. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd pedwar ar ddeg gan bersonau awdurdodedig, dau gan gorff y llywodraeth, un gan gomisiynydd annibynnol, un gan gorff proffesiynol cyfreithiol ac ni nododd dau o ble roeddent yn dod.

71. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘anghytuno’n gryf’ neu’n ‘anghytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd tri gan bersonau awdurdodedig, dau gan gomisiynwyr annibynnol, un gan sefydliad trydydd sector/anllywodraethol, ac ni nododd un o ble roeddent yn dod.

72. O’r rhai a ymatebodd ‘cytuno’n gryf’, ‘cytuno’, neu ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’, dywedodd un person awdurdodedig ei fod o’r farn bod y cod drafft yn darparu canllawiau clir a defnyddiol ar sut i sicrhau bod person wedi darparu dyfais yn wirfoddol. a bod cytundeb ynghylch pa wybodaeth y gellid ei hechynnu ohoni. Dywedodd person awdurdodedig arall ei fod yn hyderus y byddai’r canllawiau yn eu cynorthwyo i gydymffurfio â dyletswyddau o ran echdynnu data. Roedd adborth arall yn cynnwys sylwadau a oedd yn ddefnyddiol iddynt fod y cod yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu ddefnyddio hysbysiadau prosesu data (DPN). Awgrymodd un person awdurdodedig y dylai’r canllawiau ar y DPNs a’r ffurflenni eu hunain fod yn symlach. Roedd un corff proffesiynol yn cefnogi’r gofyniad i ddarparu hysbysiad ysgrifenedig a chael cytundeb ysgrifenedig.

73. O’r rhai a ymatebodd ‘anghytuno’ neu ‘anghytuno’n gryf’, roedd un ymatebwr dienw yn ‘anghytuno’n gryf’ â’r gofyniad i ddefnyddwyr dyfeisiau wirfoddoli eu dyfais yn rhydd gan eu bod yn credu y gallai hyn arwain at gamweinyddu cyfiawnder lle gallai achwynydd wneud cyhuddiad ffug ac yna peidio â darparu cytundeb i wybodaeth gael ei hechdynnu o’u dyfais. Gofynnodd nifer o ymatebwyr o’r heddlu am ganllawiau pellach ar sut i osgoi pwysau diangen wrth geisio cytundeb ac ymgysylltu â defnyddwyr dyfeisiau. Argymhellodd un comisiynydd annibynnol y dylid cynnig cymorth sefydliad sy’n gallu darparu cymorth eiriolwr trais domestig annibynnol (IDVA) neu gymorth eirioli arall i ddioddefwyr cam-drin domestig. Argymhellwyd hefyd, pan fo dioddefwr yn dod o gymuned leiafrifol, y dylid cynnig yr opsiwn iddo gael ei atgyfeirio at sefydliad arbenigol sy’n cael ei redeg gan, neu ar gyfer, y gymuned leiafrifol honno, ac y dylid darparu’r hysbysiad ysgrifenedig mewn amrywiaeth o ieithoedd, gan gynnwys braille, iaith arwyddion ac mewn fformat hawdd ei ddarllen. Roedd y comisiynydd annibynnol hwn yn llwyr gefnogi’r argymhelliad a wnaed gan Ymateb y Cyrff Anllywodraethol i’r ymgynghoriad, sef, lle mae iaith yn rhwystr i unigolyn ddeall unrhyw agwedd ar y cais, bod rhaid sicrhau bod cyfieithydd ar y pryd neu gymorth cyfathrebu arall ar gael, fel arall ni ellir barnu bod y person wedi rhoi cytundeb. Gofynnodd heddlu am ganllawiau pellach ar gymhwyso’r pwerau echdynnu mewn achosion brys a lle’r oedd dyfeisiau lluosog yn perthyn i’r un achwynydd neu dyst yr oedd angen eu harchwilio.

Ymateb y Llywodraeth

74. Mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwyd i’r cwestiwn hwn, rydym wedi:

  • diweddaru’r cod gyda mwy o eglurder ynghylch pa wybodaeth y mae angen ei darparu i ddefnyddiwr dyfais yn ysgrifenedig ac mae adran hysbysiad a chytundeb ysgrifenedig y cod wedi’i gwella i’w gwneud yn gliriach fyth pa wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu i ddefnyddiwr dyfais

  • ychwanegu enghraifft o’r hyn a allai olygu pwysau gormodol i sicrhau bod hyn yn cael ei osgoi pan yw person awdurdodedig yn ceisio gwybodaeth o ddyfais

  • cynnwys argymhelliad i atgyfeirio defnyddiwr dyfais at, neu geisio cymorth, nifer o wahanol weithwyr proffesiynol yn ystod y broses, i Rannau 4 a 5 o’r cod. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cyfieithydd iaith, cyfryngwr, Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol (IDVA), neu Gynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA). Yn ogystal, pan fo’r dioddefwr yn dod o gymuned leiafrifol, mae’r cod bellach yn datgan y dylid cynnig yr opsiwn i’r dioddefwr gael ei atgyfeirio at sefydliad arbenigol sy’n cael ei redeg gan, neu ar gyfer y gymuned leiafrifol honno

  • ei gwneud yn glir yn y cod bod rhaid darparu gwasanaeth cyfieithydd pan nad yw’r person yn siarad Saesneg neu’n fyddar

  • ychwanegu eglurder ychwanegol at y cod i gadarnhau’r gofynion ar gyfer pryd y gall swyddog sancsiynu roi awdurdod llafar brys i archwilio dyfais

  • diweddaru canllawiau ar y broses ar gyfer cael cytundeb lle mae mwy nag un ddyfais berthnasol gyda gwybodaeth sy’n cefnogi’r trywydd ymholi rhesymol

C5. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar sut i adnabod pan ywperson yn agored i niwed?

Ymateb i C5 Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 5
Cytuno 15
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 2
Anghytuno 3
Anghytuno’n gryf 2
Gwag (dim ymateb) 56
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

75. O’r rhai a ymatebodd ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’ â’r canllawiau yn yr adran hon, roedd tri ar ddeg gan bersonau awdurdodedig, un gan sefydliad trydydd sector/anllywodraethol, dau gan gorff llywodraeth, un gan aelod o’r cyhoedd, un gan gorff proffesiynol cyfreithiol ac ni nododd dau o ble roeddent yn dod.

76. O’r rhai a ymatebodd naill ai ‘anghytuno’n gryf’ neu ‘anghytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd dau gan bersonau awdurdodedig, dau gan gomisiynwyr annibynnol ac ni nododd un o ble roedd yn dod.

77. Dywedodd un o’r ymatebwyr hynny a oedd yn ‘cytuno’n gryf’, ‘Mae’n amlwg iawn o’r canllawiau ar sut i adnabod person agored i niwed’ dywedodd un arall a ‘gytunodd’ â’r canllawiau yn y rhan hon o’r cod, ‘rydym yn cytuno â’r canllawiau hyn , ac yn credu ei fod yn darparu fframwaith clir ar gyfer asesu a yw person yn agored i niwed.’ Roedd un arall yn ‘cytuno’ ond roedd yn pryderu bod y drafft yn awgrymu bod yr holl bobl hyn yn agored i niwed yn hytrach nag y gallent fod yn agored i niwed. Teimlai un arall a oedd yn ‘cytuno’ fod hwn yn faes cymhleth ac y gellid gwneud mwy i egluro ehangder y diffiniad o bwy allai fod yn agored i niwed.

78. Teimlai’r rhai a oedd yn ‘anghytuno’ â’r canllawiau yn yr adran hon nad oedd y canllawiau’n nodi’n ddigonol sut y gallai trawma effeithio ar ddioddefwr neu oroeswr ac y dylid ymgynghori ymhellach â’r adran hon â sefydliadau cam-drin domestig. Teimlai un arall nad oedd y canllawiau’n egluro sut y gallai gwendidau gorgyffwrdd, gan ddweud ‘gallai’r ymagwedd y gallai fod angen i berson awdurdodedig ei mabwysiadu gyda rhywun sy’n agored i niwed oherwydd trawma fod yn wahanol i’r ymagwedd y mae’n ei fabwysiadu gyda rhywun sy’n agored i niwed oherwydd anabledd dysgu , a all, yn dibynnu ar ddifrifoldeb, olygu eu bod hefyd yn perthyn i’r categori o fod yn oedolyn heb alluedd’.

Ymateb y Llywodraeth

79. Mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwyd ar y cwestiwn hwn, rydym wedi:

  • diweddaru’r cod i gynnig canllawiau pellach ar effaith trawma a thrawma sy’n gorgyffwrdd

  • darparu canllawiau manwl a phenodol ar y defnydd o’r pwerau pan fo defnyddiwr y ddyfais yn oedolyn heb alluedd wedi’i gynnwys yn Rhan 6 o’r cod ond lle mae’n berthnasol mae wedi’i amlygu eto yma

  • diweddaru’r cod gyda’r canllawiau ar bwysigrwydd sicrhau bod gan ddefnyddiwr y ddyfais fynediad at gymorth annibynnol gan wasanaeth proffesiynol, megis Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol (IDVA)

80. Rydym wedi diweddaru’r cod ymarfer gyda newidiadau a awgrymir er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig. Am y rheswm hwn ac oherwydd diffyg amser ychwanegol yn y cyfnod ymgynghori, ni fu’n bosibl gweithredu mewn ymateb i’r awgrym i ymgynghori ymhellach â’r rhai sy’n cynrychioli dioddefwyr cam-drin domestig.

C6. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar sut y dylid cefnogi person agored i niwed?

Ymateb i C6 Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 4
Cytuno 15
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 4
Anghytuno 1
Anghytuno’n gryf 1
Gwag (dim ymateb) 58
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

81. O’r rhai a ddewisodd ‘cytuno’n gryf’, neu ‘cytuno’ mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd pedwar ar ddeg yn bersonau awdurdodedig, dau gan gorff y llywodraeth, un gan gorff proffesiynol cyfreithiol, un gan aelod o’r cyhoedd ac un gan rywun na ddatganodd eu sefydliad.

82. O’r rhai a ymatebodd eu bod yn ‘anghytuno’n gryf’ neu’n ‘anghytuno’ â’r canllawiau, roedd un gan gomisiynydd annibynnol, ac ni nododd un o ble yr oedd yn dod.

83. O’r rhai sy’n ‘cytuno’, dywedodd un ymatebwr ‘Rydym yn cytuno â’r canllawiau, a fydd yn ein cynorthwyo i gefnogi a diogelu pobl agored i niwed’. Dywedodd ymatebydd arall a ddewisodd ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’ y ‘dylid crybwyll y Cod Dioddefwyr’ a’n cyfrifoldebau i ddioddefwyr agored i niwed yn yr adran hon’.

84. Dywedodd y comisiynydd annibynnol a ymatebodd ei fod yn ‘anghytuno’ â’r canllawiau yn yr adran hon y dylai’r cymorth a gynigir fod yn arbenigol, lle bo’n bosibl, a galwodd eto am gynnig cyngor cyfreithiol annibynnol am ddim i bob dioddefwr. Ategwyd y sylw hwn gan grwpiau eraill sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr.

Ymateb y Llywodraeth

85. Mae’r cod wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu y dylid cynnig cymorth arbenigol i bobl agored i niwed ac efallai na fydd aelod o’r teulu yn gallu helpu yn yr un modd. Mae’r cod hefyd wedi’i ddiweddaru gyda chyfeiriadau penodol at Gynghorwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVA) a phryd y dylid cynnig cymorth gan IDVA.

86. Rydym wedi diweddaru’r cod gyda rhagor o fanylion i’w gwneud yn glir, os yw’r unigolyn yn ddioddefwr ac yn oroeswr cam-drin domestig, y dylid cynnig atgyfeiriad iddo at sefydliad a all ddarparu cymorth eiriolwr trais domestig annibynnol neu gymorth eirioli arall. Rydym hefyd wedi ei gwneud yn glir, lle mae dioddefwr hefyd yn dod o gymuned leiafrifol, y dylid cynnig ei atgyfeirio i sefydliad arbenigol sy’n cael ei redeg gan, neu ar gyfer y gymuned leiafrifol honno.

87. Fel y nodwyd yn flaenorol, ni ellir cynnwys y cais i bob dioddefwr gael cynnig cyngor cyfreithiol annibynnol am ddim yn y cod ymarfer hwn. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymgynghori ar opsiynau i wella cymorth neu gyngor cyfreithiol i ddioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol difrifol ynghylch ceisiadau am wybodaeth bersonol, gan gynnwys ceisiadau gan yr heddlu am lawrlwythiadau ffonau symudol a chofnodion cyfryngau cymdeithasol. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu a bydd y camau nesaf yn cael eu cyhoeddi maes o law.

C7. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ynghylch pwy sy’n cael ei ystyried yn blentyn, sut mae’n rhaid i awdurdodau eu cynnwys a’u cefnogi lle bo modd, a phwy all wneud penderfyniadau ar eu rhan?

Ymateb i C7 Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 5
Cytuno 13
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 6
Anghytuno 1
Anghytuno’n gryf 1
Gwag (dim ymateb) 57
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

88. O’r rhai a ymatebodd ‘cytuno’n gryf’ neu ‘cytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd tri ar ddeg gan bersonau awdurdodedig, un gan gorff y llywodraeth, un gan gomisiynydd annibynnol, un gan aelod o’r cyhoedd ac nid oedd dau yn datgan o ble roeddent yn dod.

89. O’r rhai a ymatebodd ‘anghytuno’n gryf’ neu ‘anghytuno’, roedd un gan gorff y llywodraeth, ac ni nododd un o ble roedd yn dod.

90. O’r rhai a ymatebodd ‘cytuno’n gryf’ neu ‘cytuno’, dywedodd un heddlu “Mae’r adran hon yn nodi’n glir pwy yr ystyrir ei fod yn blentyn; mae hyn yn galluogi asesiad priodol o anghenion unigol, creu pecyn cymorth pwrpasol a diffinio pwy ddylai’r person cyfrifol fod mewn amgylchiadau penodol”. Argymhellodd heddlu arall fod y cod yn ehangu’r diffiniad o niwed i gynnwys rheolaeth orfodol a cham-drin ariannol. Argymhellodd comisiynydd annibynnol y dylai’r cod bwysleisio, er bod unrhyw un o dan 18 oed yn cael ei ddosbarthu fel plentyn ar gyfer y pwerau hyn, o dan gyfraith diogelu data ar gyfer gweithgareddau prosesu cyffredinol, ac eithrio gwasanaethau cymdeithas wybodaeth, nad oes oedran diffiniedig ar gyfer plentyn, ac mae ganddynt yr un hawliau ag oedolion dros eu data personol. Hyd yn oed gyda phenodiad ‘unigolyn amgen’, dylai fod gan blant â galluedd y gallu i arfer eu hawliau o dan gyfraith diogelu data.

91. O’r rhai a ymatebodd ‘anghytuno’, gofynnodd un corff y llywodraeth pam na chyfeiriwyd at warcheidwaid annibynnol o dan yr adran ynghylch pwy all wneud penderfyniadau ar ran plentyn oherwydd bod rolau penodol wedi’u nodi mewn statud yn y Deddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chefnogaeth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015.

92. Awgrymodd comisiynydd annibynnol a ymatebodd ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’ â’r canllawiau yn yr adran hon y byddai’r cod yn elwa o ganllawiau ar gyfer pan fydd plentyn yn gwneud honiad yn erbyn rhywun yn y sefydliad sy’n gofalu amdano neu’n cynrychioli ei fuddiannau.

93. Dywedodd un o gyrff y llywodraeth, na nododd ymateb i’r adran hon ac a adawodd ei ymateb yn wag, y dylai’r cod gynnwys geiriad penodol i sicrhau bod y rhai sy’n cynrychioli plentyn yn gweithredu er eu lles gorau ac er eu budd.

Ymateb y Llywodraeth

94. Mae’r newidiadau dilynol wedi’u gwneud yn dilyn yr adborth a dderbyniwyd i’r cwestiwn hwn:

  • mae diffiniad o niwed yn y cod wedi’i ehangu i gynnwys rheolaeth drwy orfodaeth a cham-drin ariannol

  • ychwanegwyd pwyslais bod gan blant yr un hawliau ag oedolion dros eu data personol o dan ddeddfwriaeth diogelu data

  • mae ‘Rhan 5: Defnydd o bŵer Adran 37 gyda phobl agored i niwed’ wedi’i diweddaru i gynnwys cyfeiriad at warcheidwaid annibynnol

  • canllawiau ar gyfer pan yw plentyn yn gwneud honiad yn erbyn rhywun yn y sefydliad sy’n gofalu amdano wedi’i ychwanegu at Ran 6

  • mae’r geiriad awgrymedig y gofynnodd corff y llywodraeth amdano i sicrhau bod y rhai sy’n cynrychioli plentyn yn gweithredu er eu lles gorau ac er eu lles wedi’i ddiwygio

  • mae’r adran person cyfrifol (plant)’ wedi’i gwella i’w gwneud yn glir, pan fo’r penderfyniadau wedi’u gwneud ar ran y plentyn gan berson cyfrifol, bod rhaid i’r person awdurdodedig, oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny, hysbysu rhiant neu warcheidwad bod y pŵer wedi’i ddefnyddio ac at ba ddiben a chyn gynted â phosibl

  • mae’r adran hon hefyd wedi’i diweddaru i’w gwneud yn glir, pan nad yw’n briodol hysbysu rhiant neu warcheidwad oherwydd eu bod yn cael eu hamau yn yr ymchwiliad, neu pan fo’r person awdurdodedig yn credu y byddai datgelu bod yr wybodaeth honno wedi’i hechdynnu yn rhoi’r plentyn mewn perygl, dylai’r person awdurdodedig ystyried hysbysu rhiant neu warcheidwad arall

C8. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar bwy sy’n cael ei ystyried yn oedolyn heb alluedd, sut mae’n rhaid i awdurdodau eu cynnwys a’u cefnogi lle bo modd, a phwy all wneud penderfyniadau ar eu rhan?

Ymateb i C8 Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 6
Cytuno 8
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 7
Anghytuno 2
Anghytuno’n gryf 0
Gwag (dim ymateb) 60
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

95. O’r rhai a ymatebodd ‘cytuno’n gryf’ neu ‘cytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd deg gan bersonau awdurdodedig, un gan gorff y llywodraeth, un gan aelod o’r cyhoedd ac ni nododd dau o ble roeddent yn dod.

96. Ni ymatebodd unrhyw un ‘anghytuno’n gryf’ i’r cwestiwn hwn, ond o’r rhai a ymatebodd ‘anghytuno’ roedd un gan gorff y llywodraeth, ac roedd un yn gomisiynydd annibynnol.

97. O’r rhai a ymatebodd ‘cytuno’ neu ‘cytuno’n gryf’, dywedodd un heddlu “Mae’r adran hon yn nodi’n glir pwy sy’n cael ei ystyried yn oedolyn heb alluedd; mae hyn yn galluogi asesiad priodol o anghenion unigol, creu pecyn cymorth pwrpasol a diffinio pwy ddylai’r person cyfrifol fod mewn amgylchiadau penodol”. Dywedodd un arall fod yr adran yn glir iawn.

98. O’r rhai a ddewisodd ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’, awgrymodd un ymateb gan berson awdurdodedig y gallai’r adran hon o’r cod fod yn gliriach gan y gallai capasiti fod yn fater tymor byr a hirdymor. Argymhellwyd cyfeirio at rôl y gwarcheidwad annibynnol ac i sicrhau, lle y penodir, bod rhaid cysylltu â hwy ym mhob penderfyniad ynghylch y cytundeb.

99. Argymhellodd comisiynydd annibynnol y dylai gwasanaethau arbenigol sy’n gweithio’n agos gyda dioddefwyr anabl a goroeswyr cam-drin domestig allu darparu cymorth i’r defnyddiwr dyfais i wneud penderfyniad gwybodus ac y dylai’r cod ymarfer fod yn gwbl glir iddynt ei ddilyn hefyd.

Ymateb y Llywodraeth

100. Rydym wedi gwneud y newidiadau dilynol i’r cod ymarfer mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwyd i’r cwestiwn hwn:

  • cyfeiriwyd at rôl y gwarcheidwad annibynnol yn ‘Rhan 5: Defnyddio pŵer Adran 37 gyda phobl agored i niwed’

  • rydym wedi diwygio a gwella’r cod i egluro’n well y ffyrdd niferus y gallai person fod yn agored i niwed a’r ffyrdd posibl y gall effeithio ar alluedd yn y tymor byr a’r hirdymor

  • rydym hefyd wedi cynnwys cyfeiriad at y gwasanaethau cymorth arbenigol y dylid cyfeirio dioddefwyr atynt am gymorth ychwanegol ac rydym yn cytuno ei bod yn hanfodol bwysig bod y cod yn gwbl glir i bawb a fydd yn ei ddilyn, gan gynnwys y gwasanaethau hyn

C9. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r canllawiau y mae’r cod ymarfer yn eu darparu ar ddyfeisiadau cymwys ar gyfer echdynnu, a’r argymhelliad y dylid defnyddio echdynnu dethol lle bo modd i leihau’r ymyrraeth i breifatrwydd defnyddiwr y ddyfais?

Ymateb i C9 Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 1
Cytuno 16
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1
Anghytuno 5
Anghytuno’n gryf 3
Gwag (dim ymateb) 57
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

101. O’r rhai a ymatebodd ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd un ar ddeg gan bersonau awdurdodedig, un gan gorff y llywodraeth, un gan gomisiynydd annibynnol, un gan aelod o’r cyhoedd, un gan gorff proffesiynol cyfreithiol ac ni nododd dau o ble reoddent yn dod.

102. O’r rhai a ymatebodd ‘anghytuno’n gryf’ neu ‘anghytuno’ i’r cwestiwn hwn, roedd chwech gan bersonau awdurdodedig ac ni nododd dau o ble reoddent yn dod.

103. Gofynnodd nifer o ymatebwyr am eglurder ynghylch pa ddyfeisiau electronig sy’n dod o fewn cylch gorchwyl pwerau echdynnu Adran 37 ac Adran 41 a chwestiynwyd a fyddai’r cod yn rheoli echdynnu deunydd teledu cylch cyfyng.

104. Gofynnwyd a oedd pwerau a chod ymarfer Deddf PCSC wedi’u bwriadu i helpu i adfer deunydd electronig o gamerâu dangos, fideo a wisgir ar y corff neu ddyfeisiau electronig personol eraill.

105. Awgrymodd rhai ymatebwyr ym maes gorfodi’r gyfraith y dylid eithrio teledu cylch cyfyng yn benodol o’r cod ar y sail y byddai ei gynnwys yn gofyn am newidiadau sylweddol i arferion adfer teledu cylch cyfyng presennol yr heddlu.

106. Gofynnwyd a oedd bwriad i’r cod ymarfer gael ei ddefnyddio mewn amgylchiadau lle nad oedd y wybodaeth a dynnwyd o ddyfais yn gyfystyr â gwybodaeth bersonol.

Ymateb y Llywodraeth

107. Mae’r adran o’r enw: Rhan 3: Arfer y pwerau hyn wedi’i diweddaru i gynnwys diffiniad ehangach o’r hyn sy’n ddyfais gymwysadwy at ddibenion pwerau Adran 37 ac Adran 41, a chanllawiau penodol ar gyfer adennill teledu cylch cyfyng.

108. Mae’r cod wedi’i gryfhau i’w gwneud yn glir y gellir defnyddio’r pwerau i gael gwybodaeth o unrhyw ddyfais electronig neu o’i chydran, lle mae gwybodaeth yn cael ei storio’n electronig arni, ac nad yw’n hygyrch drwyddo yn unig, gan ei gwneud yn gwbl glir nad yw pwerau yn caniatáu ar gyfer echdynnu gwybodaeth sy’n cael ei storio ac eithrio ar ddyfais.

109. Mae’r cod yn darparu canllawiau ar gymhwyso’r pwerau ar gyfer teledu cylch cyfyng yn briodol ac yn awgrymu y gallai fod yn fwy priodol i bersonau awdurdodedig ddefnyddio pwerau amgen a phwerau presennol i gael a phrosesu deunydd teledu cylch cyfyng oherwydd natu,r sydd yn aml yn hapfasnachol, llinellau ymholi CCTV a all ei gwneud yn anodd bodloni gofynion pwerau Adran 37 ac Adran 41.

110. Mae adran ‘Echdynnu gwybodaeth’ y cod wedi’i diweddaru i’w gwneud yn glir bod rhaid i’r person awdurdodedig ystyried y pŵer a ddefnyddir i gael y ddyfais a’r pwerau a ddefnyddir i echdynnu’r wybodaeth, a phan fo gwybodaeth bersonol yn cael ei hechdynnu a’i phrosesu, rhaid bodloni holl ofynion deddfwriaeth diogelu data.

111. Mae’r cod hefyd wedi’i ddiweddaru i gynnwys argymhelliad gan gomisiynydd annibynnol y dylai’r cod fod yn gwbl glir wrth nodi na ddylai’r wybodaeth a echdynnir fod yn fwy na’r hyn sy’n berthnasol ac na ddylai cyflymder yr echdynnu gael ei flaenoriaethu dros y gallu i wneud gwaith echdynnu dethol.

C10. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r ymagwedd y mae’r cod ymarfer yn ei ddarparu ar sut i asesu a rheoli’r risg o gael deunydd cyfrinachol, a sut i symud ymlaen pan gaiff ei gaffael yn anfwriadol?

Ymateb i C10 Ymateb cyffredinol
Cytuno’n gryf 1
Cytuno 14
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 5
Anghytuno 4
Anghytuno’n gryf 0
Gwag (dim ymateb) 59
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

112. O’r ymatebion i’r ymagwedd y mae’r cod ymarfer yn ei ddarparu ar sut i asesu a rheoli’r risg o gaffael deunydd cyfrinachol a sut i symud ymlaen pan gaiff ei gasglu’n anfwriadol, roedd un yn ‘cytuno’n gryf’, ac roedd pedwar ar ddeg o ymatebwyr yn ‘cytuno’. Daeth yr ymatebion hyn gan ddeuddeg o bobl awdurdodedig ac roedd dau gan ymatebwyr na ddywedodd o ble roeddent yn dod.

113. Dywedodd yr ymatebwyr hyn fod y cod yn diffinio gwybodaeth gyfrinachol yn glir a chroesawyd cynnwys yr adran hon a pha mor gynhwysfawr ydoedd. Teimlai rhai ymatebwyr fod angen cynnwys manylion mwy pendant ynglŷn â pha gamau y dylid eu cymryd pan geir gwybodaeth gyfrinachol yn anfwriadol, gan gynnwys a ddylai defnyddiwr y ddyfais, neu unrhyw un arall, fod yn ymwybodol o hyn ac os felly, sut y dylid ei hysbysu. Yn yr un modd, gwnaeth rhai sylwadau ar yr hyn y dylid ei wneud gyda data a geir yn y gwaith echdynnu nad yw’n berthnasol i’r ymchwiliad. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr hyn gan yr heddlu neu’n fathau o bersonau awdurdodedig.

114. O’r ymatebion ‘gwag’ i’r cwestiwn hwn, gwnaed sylw ar gysondeb yr iaith a ddefnyddir yn yr adran hon o’r cod ymarfer gan fod y canllawiau’n cyfeirio at wybodaeth gyfrinachol a deunydd cyfrinachol. Mae sylwadau hefyd wedi’u gwneud y dylid cynnwys canllawiau pellach ar sut i leihau’r risg o gael gwybodaeth gyfrinachol yn y lle cyntaf a pha gamau y gall unigolyn eu cymryd yn erbyn person awdurdodedig pan fydd eu gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei hechdynnu. Roedd yr adborth hefyd yn cynnwys ceisiadau i’r personau awdurdodedig fod yn fwy eglur wrth ofyn i ddefnyddiwr y ddyfais a oes gwybodaeth gyfrinachol neu ddeunydd breintiedig ar eu dyfais gan y byddai’n rhy anodd i’r person awdurdodedig bennu hyn ar ôl echdynnu.

115. Yr ymatebwyr a ddewisodd ‘anghytuno’ oedd tri pherson awdurdodedig ac un corff proffesiynol cyfreithiol a roddodd adborth ychwanegol am eu rhesymau dros hyn, a oedd yn cynnwys sylwadau ynghylch egluro at bwy y mae’r cod yn cyfeirio wrth grybwyll person awdurdodedig, gan fod unigolion lluosog yn debygol o fod yn gysylltiedig ag echdynnu gwybodaeth o ddyfais. Roedd y sylwadau hefyd yn cynnwys adborth ar y canllawiau a ddarperir yn y cod ynghylch gwybodaeth a ddiogelir gan fraint broffesiynol gyfreithiol a’r diffiniad a gynhwyswyd ar hyn.

116. Fe wnaeth yr ymatebwyr a ddewisodd ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’ sylwadau a oedd yn cyfeirio’n bennaf at y ffaith bod strwythur y ddogfen wedi newid a bod yr adran ar wybodaeth gyfrinachol wedi symud o Ran 8 o’r cod ymarfer i Ran 3 a oedd wedi drysu rhai ymatebwyr. Roedd un sylw a roddodd adborth ar y canllawiau yn y cod sy’n cyfeirio at olygu a dileu gwybodaeth, nad yw’n berthnasol i’r ymchwiliad. Roedd yr adborth yn rhoi cyngor bod y canllawiau hyn yn gwrthdaro â deddfwriaeth arall ac felly awgrymwyd cyfeirio yn lle hynny at bolisïau a gweithdrefnau mewnol pan echdynnir gwybodaeth nad yw’n berthnasol.

Ymateb y Llywodraeth

117. Mae’r cod ymarfer wedi’i ddiweddaru i gynnwys canllawiau pellach ar y camau i’w cymryd os bydd person awdurdodedig yn caffael gwybodaeth gyfrinachol yn anfwriadol. Mae’r cyfeiriadau at ddeunydd cyfrinachol bellach wedi’u diwygio fel bod cysondeb yn yr iaith a ddefnyddir yn yr adran hon o’r cod. Mae canllawiau hefyd wedi’u cynnwys i nodi y dylai’r person awdurdodedig ofyn i ddefnyddwyr dyfeisiau a yw’n debygol y bydd gwybodaeth gyfrinachol ar eu dyfais er mwyn lleihau’r risg o’i chael yn y lle cyntaf.

118. Mae’r cod ymarfer yn dal i gyfeirio at ‘bersonau awdurdodedig’ sy’n cymryd camau penodol yn hytrach na rolau swydd penodol oherwydd er y bydd mwy nag un person yn debygol o fod yn gysylltiedig â phrosesau echdynnu gwybodaeth, gall y rolau hyn amrywio rhwng sefydliadau. Fodd bynnag, mae mwy o gyfeiriadau at gyfeirio at ganllawiau, polisïau ac arferion lleol. Mae’r cod hefyd wedi’i ddiweddaru i egluro’r camau penodol y dylid eu cymryd pan echdynnir gwybodaeth sy’n ymwneud â braint broffesiynol gyfreithiol.

C11. Yn eich barn chi a yw’r ymagwedd a awgrymir ar gyfer defnyddio’r pwerau y manylir arnynt yn y cod yn un y gellir ei roi ar waith yn weithredol?

Ymateb i C11 Ymateb cyffredinol
Ydy 18
Nac ydy 6
Gwag (dim ymateb) 59
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

119. O’r rhai a ymatebodd ‘ydy’, roedd pedwar ar ddeg yn bersonau awdurdodedig, un yn gorff y llywodraeth, un yn gomisiynydd annibynnol ac ni nododd dau o ble roeddent yn dod. Dywedodd personau awdurdodedig a gytunodd y gellir gweithredu’r ymagwedd fod llawer o agweddau (fel defnyddio’r hysbysiad prosesu digidol) eisoes yn cael eu defnyddio.

120. O’r rhai a atebodd ‘nac ydy’, roedd dau yn bersonau awdurdodedig, un gan gomisiynydd annibynnol, un o gorff y trydydd sector/corff anllywodraethol ac ni nododd dau o ble roeddent yn dod.

121. O’r rhai a ymatebodd nad oedd modd gweithredu’r ymagwedd yn y cod, roedd un yn pryderu ynghylch cymhwyso’r pwerau i deledu cylch cyfyng, ac un arall yn pryderu am y cyngor ynghylch dyfeisiau â defnyddwyr lluosog. Dywedodd eraill fod yr ymagwedd yn dda, ond teimlent na fyddai’n dod â’r newid diwylliannol dymunol ac roedd un arall yn ymwneud â defnyddio’r pwerau fel rhan o stopio a chwilio.

Ymateb y Llywodraeth

122. Rydym wedi mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â defnyddio’r pwerau gyda mathau o deledu cylch cyfyng ac mae’r canllawiau ar ddefnyddio’r pwerau yn nodi’n glir o dan ba amgylchiadau y gellir eu defnyddio a sut y caniateir eu defnyddio.

123. Mae’r cod a’r pwerau yn rhan o ymateb ehangach y llywodraeth i wella arferion plismona yn y maes hwn, gan gynnwys hyfforddiant, ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn cyfrannu at newid diwylliant yn yr ayagwedd at ofyn am wybodaeth gan ddioddefwyr a thystion.

C12. A oes unrhyw fylchau yn y canllawiau y dylid rhoi sylw iddynt?

Ymateb i C12 Ymateb cyffredinol
Oes 21
Nac oes 8
Gwag (dim ymateb) 54
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

124. O’r rhai a ymatebodd ‘oes’, roedd pedwar ar ddeg gan bersonau awdurdodedig, tri gan sefydliadau trydydd sector/anllywodraethol, dau yn gomisiynwyr annibynnol, un gan gorff llywodraeth, ac ni nododd un o bleroedd yn dod.

125. O’r rhai a atebodd ‘nac oes’, roedd tri yn bersonau awdurdodedig, tri heb ddatgan o ble roeddent yn dod, un yn gomisiynydd annibynnol, ac un yn gorff y llywodraeth.

126. Cyflwynodd yr ymatebwyr a adroddodd fod bylchau yn y canllawiau nifer o feysydd i’w hystyried gan gynnwys:

  • y broses os nodir trywyddau ymholi pellach ar ôl echdynnu

  • a ddylai cod arall gynnwys mwy am yr ystod o ddyfeisiadau electronig y mae’r pwerau’n berthnasol iddynt

  • a ddylai’r cod gynnig canllawiau pellach ar ddefnyddio’r pwerau pan fo person ar goll neu wedi marw

  • y broses ar gyfer ystyried gwybodaeth gyfrinachol

  • rhagor o wybodaeth am gadw a gwaredu gwybodaeth

  • canlyniadau methu â chadw at y cod

  • sut i sicrhau bod personau awdurdodedig yn glir bod y ddyfais yn debygol o gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â thrydydd partïon na ofynnir iddynt gytuno i’w gwybodaeth gael ei hechdynnu

  • rhagor o wybodaeth yn y cod am dynnu cytundeb yn ôl

Ymateb y Llywodraeth

127. Mae’r holl elfennau a godwyd mewn ymateb i’r cwestiwn hwn wedi’u casglu a diwygiadau wedi’u gwneud i adrannau perthnasol y cod. Er enghraifft, mae Rhan 3 wedi’i diweddaru gyda chanllawiau ar yr ystod o ddyfeisiau electronig y gallai’r pwerau fod yn berthnasol iddynt ac mae Rhan 1 wedi’i diweddaru gyda rhagor o fanylion am ganlyniadau methu â chadw at y cod.

C13. A yw’r cod yn cynnwys dolenni i’r holl ddeunydd perthnasol y byddai ei angen ar berson awdurdodedig er mwyn sicrhau defnydd cyfreithlon o’r pwerau?

Ymateb i C13 Ymateb cyffredinol
Ydy 13
Nac ydy 9
Gwag (dim ymateb) 61
Cyfanswm 83

Crynodeb o’r adborth

128. O’r rhai a ymatebodd ‘ydy’, roedd naw gan bersonau awdurdodedig, dau gan gorff y llywodraeth ac ni nododd dau o ble roeddent yn dod.

129. O’r rhai a atebodd ‘nac ydy’, roedd chwech gan bersonau awdurdodedig, dau yn gomisiynwyr annibynnol ac ni nododd un o ble roedd yn dod.

130. Argymhellodd nifer o ymatebwyr y dylai’r cod ddarparu rhai dolenni ychwanegol i ganllawiau, arferion cymeradwy, deddfwriaeth, cyfraith achosion neu ddogfennaeth ddefnyddiol eraill. Ystyriwyd pob cais yn ofalus a lle bo’n briodol mae’r dolenni ychwanegol wedi’u darparu yn y cod.

Asesiad effaith, Cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg

Asesiad effaith

131. Cyhoeddwyd asesiad effaith ar gyfer y mesurau hyn, gan gynnwys y cod ymarfer, i gefnogi pasio Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022. Gellir dod o hyd iddo yn: Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022: dogfennau trosfwaol.

Cydraddoldebau

132. Cynhyrchwyd asesiad o’r effaith ar gydraddoldebau ar gyfer Deddf PCSC 2022 lle buom yn ystyried effaith y pwerau ar y rhai â nodweddion gwarchodedig. Gellir dod o hyd i hwn yn: https://www.gov.uk/government/publications/police-crime-sentencing-and-courts-bill-2021-equality-statements/home-office-measures-in-the-police-crime-sentencing-and-courts-bill-equalities-impact-assessment.

133. Lle cododd ymatebwyr faterion yn ymwneud â’r canllawiau a sut y gallent effeithio ar y rheini â nodweddion gwarchodedig, mae’r cod wedi’i ddiweddaru ag unrhyw newidiadau neu eglurhad perthnasol.

Prawf effaith ar yr Iaith Gymraeg

134. Bydd yr ymateb hwn a’r cod ymarfer ar gael yn Gymraeg.

Casgliad a chamau nesaf

135. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ac wedi helpu i lunio Echdynnu Gwybodaeth: Cod ymarfer.

136. Mae’r cod wedi’i ddiweddaru a bydd y fersiwn terfynol yn cael ei osod gerbron y Senedd i’w gymeradwyo. Dim ond ar ôl iddo gael ei drafod yn nau Dŷ’r Senedd a phan fydd y ddau Dŷ wedi’i gymeradwyo’n benodol y daw’r cod i rym.

Egwyddorion yr ymgynghoriad

137\ . Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth wedi’u nodi yn Egwyddorion Ymgynghoriad Swyddfa’r Cabinet 2018.

Atodiad A – Rhestr o ymatebwyr

Math o ymatebydd Ar-lein E-bost
Person awdurdodedig 14 11
Cyrff y llywodraeth 1 5
Comisiynwyr annibynnol 0 6
Cyrff proffesiynol 0 3
Trydydd sector/anllywodraethol 1 4
Aelod o’r cyhoedd 0 2
Heb ei nodi 36 0
Cyfanswm 52 31
  1. Person awdurdodedig yw rhywun a enwir o dan Atodlen 3 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd 2022 y caniateir iddo arfer pwerau echdynnu gwybodaeth. 

  2. Bater-James & Anor v R. [2020] EWCA Crim 790 (23 Mehefin 2020) (bailii.org)