Consultation outcome

Diwygio Esemptiadau i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Updated 27 October 2025

Ni sy’n gyfrifol am wella a diogelu’r amgylchedd. Ein nod yw tyfu economi gwyrdd a chynnal cymunedau gwledig ffyniannus. Rydyn ni hefyd yn cefnogi’n diwydiannau bwyd, ffermio a physgota sy’n arwain y byd. Adran â Gweinidogion yw Defra, sy’n cael ei chefnogi gan 34 o asiantaethau a chyrff cyhoeddus.

1. Cefndir

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ddiwygio esemptiadau o fewn y system trwyddedu amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn amlinellu cwrs gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Gofynnodd yr ymgynghoriad am sylwadau ar ddiwygiadau arfaethedig i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (‘y Rheoliadau’). Byddai’r diwygiadau yn caniatáu i reoleiddwyr penodol (Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Nghymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) yn Lloegr) greu, diwygio a dileu mathau o gyfleusterau a gweithgareddau esempt nad oes angen iddynt feddu ar drwydded amgylcheddol.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Defra ar 8 Ebrill ac arhosodd ar agor tan 3 Mehefin 2025. Fe’i cynhaliwyd ar blatfform digidol Citizen Space yn: https://consult.defra.gov.uk/environmental-regulations/exemptions-reform-to-the-environmental-permitting/. Cyflwynwyd ymatebion trwy borth Citizen Space a thrwy’r ebost, gan gynnwys tystiolaeth feintiol ac ansoddol.

2. Amcan y cynigion

Mae trwyddedu amgylcheddol yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl rhag amrywiaeth eang o risgiau, megis llifogydd, llygredd dŵr ac aer, a halogi’r dirwedd â gwastraff. Mae’n gymwys i ddegau o filoedd o weithredwyr, gan amrywio o unigolion ar raddfa ddomestig hyd at safleoedd diwydiannol mawr. Gwelodd adolygiad o’r Rheoliadau ar ôl eu rhoi ar waith, a gyhoeddwyd yn 2023, fod y Rheoliadau fel petaent yn gweithredu’n effeithiol, a bod yr hierarchaeth lefelau rheolaeth sy’n sail i’r fframwaith wedi cyflawni manteision o bwys. Nododd yr adolygiad hefyd welliannau posibl, megis gwneud y fframwaith yn fwy ymatebol i newidiadau ar lawr gwlad ac anghenion y gweithredwyr. Yn yr adolygiad annibynnol o dirwedd reoleiddiol Defra gan Dan Corry, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025, argymhellwyd y dylai’r llywodraeth sicrhau trefn reoleiddio addasol trwy gyflymu diweddariadau yn y Rheoliadau i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i’r rheoleiddwyr wneud penderfyniadau synhwyrol, wedi’u seilio ar risg.

Mae’n cynigion ni a nodwyd yn y ddogfen ymgynghori yn ceisio cyflawni’r nodau a’r amcanion hyn trwy symleiddio’r trefniadau ynghylch y mathau o reolaethau sy’n gymwys i wahanol fathau o risg amgylcheddol. Ein nod yw symleiddio a chyflymu’r broses i CNC ac EA greu, diwygio a dileu mathau o gyfleusterau a gweithgareddau sydd wedi’u dosbarthu fel rhai esempt, ac nad oes angen iddynt ddal trwydded amgylcheddol. Byddai hyn yn gwneud y fframwaith trwyddedu yn fwy ymatebol i broffiliau risg amgylcheddol sy’n newid ac yn galluogi’r rheoleiddwyr i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg er mwyn cynnal lefelau cymesur o oruchwyliaeth. Mae ein cynigion yn cynnwys opsiynau i ddiogelu tryloywder ac atebolrwydd y rheoleiddwyr wrth wneud penderfyniadau ar sut y dylai’r rheolau ar gyfer cyfleusterau esempt fod yn gymwys. Byddem yn gwneud y newidiadau hyn trwy osod offeryn statudol gerbron y Senedd i ddiwygio’r Rheoliadau.

3. Trosolwg o’r ymatebwyr

Cawsom 79 o ymatebion gan ystod o unigolion, busnesau, cyrff cyhoeddus ac eraill. O’r ymatebion hyn, cyflwynwyd 64 o ymatebion trwy borth Citizen Space a chyflwynwyd 15 trwy’r ebost.

Yr ymatebion wedi’u seilio ar y math o ymatebydd

C4. Math o ymatebydd Nifer Canran[1]
Academaidd neu ymchwil 1 1%
Corff cynrychioli diwydiant neu gorff masnach 16 20%
Elusen neu fenter gymdeithasol 1 1%
Grŵp cymunedol 0 0%
Ymgynghoriaeth 11 14%
Unigolyn 7 9%
Llywodraeth leol 4 5%
Corff anllywodraethol 7 9%
Ffermwr 2 3%
Gweithredwr gwastraff 4 5%
Cwmni neu ddarparwr cyfleustodau 5 6%
Tirfeddiannwr neu reolwr tir 0 0%
Corff cyhoeddus arall 6 8%
Busnes arall 6 8%
Unrhyw ddisgrifiad arall 8 10%
Heb ateb 1 1%

Yr ymatebion wedi’u seilio ar faint y sefydliad

C6. Nifer yr aelodau staff Nifer canran
1 2 3%
2 i 9 11 14%
10 i 49 12 15%
50 i 499 10 13%
500+ 23 29%
Heb ateb 21 27%

Yr ymatebion wedi’u seilio ar y lleoliad

C7. Lleoliad Nifer Canran
Dwyrain Canolbarth Lloegr 8 10%
Dwyrain Lloegr 4 5%
Llundain 14 18%
Gogledd-ddwyrain Lloegr 0 0%
Gogledd-orllewin Lloegr 6 8%
De-ddwyrain Lloegr (heb gynnwys Llundain) 10 13%
De-orllewin Lloegr 9 11%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 8 10%
Swydd Efrog a Humber 7 9%
Cymru 7 9%
Dim un o’r uchod 1 1%
Heb ateb 5 6%

Ymatebion gan weithredwyr cyfleusterau a reolir neu gyfleusterau sy’n esempt o dan y Rheoliadau

Nifer y gweithredwyr[2] Nifer Canran o gyfanswm yr ymatebwyr
C8. Gweithredwyr cyfleusterau a reolir 50 63%
C9. Gweithredwyr cyfleusterau esempt 42 53%

Yr ymatebion wedi’u seilio ar y sectorau gweithredu

C10. Y math o ymatebydd Nifer Canran
Arllwys dŵr 44 56%
Dŵr daear 34 43%
Perygl llifogydd 31 39%
Gweithredwyr gwastraff 57 72%
Rheoli a chludo gwastraff 50 63%
Rhannau eraill o’r rheoliadau 6 8%

4. Crynodeb o’r ymatebion

Y rheoliadau

Yr ymatebion i gwestiwn 11

Ydw Nac ydw Ansicr Heb ateb
C11. Ydych chi’n cytuno y dylid rhoi’r pwerau newydd hyn i’r rheoleiddwyr arweiniol? 73% 13% 10% 4%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiwn 11

Cytunodd y mwyafrif o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad y dylid rhoi’r pwerau arfaethedig i’r rheoleiddwyr arweiniol (CNC ac EA). Cododd rhai o’r ymatebwyr bryderon am fesurau diogelu’r rheoleiddwyr, gan gwestiynu tryloywder a chryfder yr amddiffyniadau gweithdrefnol wrth i’r pwerau gael eu defnyddio.

Ein hymateb ni i gwestiwn 11

Roedd y gefnogaeth gref gan ymatebwyr yn cadarnhau ymhellach y cynnig dros roi’r pwerau hyn i CNC ac EA.

Rydyn ni’n bwriadu gwneud hyn trwy greu proses newydd a fydd yn caniatáu i’r rheoleiddwyr gyhoeddi diffiniadau ar gyfer esemptiadau a’r amodau sy’n gymwys iddynt. Rydyn ni’n bwriadu cynllunio’r broses hon i weithredu mewn ffordd debyg i’r broses sydd eisoes ar waith ar gyfer cyhoeddi rheolau safonol.

Gallai hyn gynnwys trefniadau pontio a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddwyr gyhoeddi diffiniadau cychwynnol o esemptiadau sy’n dyblygu ac yn disodli’r diffiniadau cyfredol o esemptiadau o fewn y rheoliadau sy’n rhan o’r broses newydd. Byddai hyn yn golygu na fydd esemptiadau yn cael eu diffinio yn y rheoliadau yn y dyfodol, ond ni fydd unrhyw esemptiad cyfredol yn cael ei newid oni bai a hyd nes y bydd y rheoleiddwyr yn defnyddio’r broses newydd i wneud newidiadau.

Rydyn ni’n bwriadu sicrhau bod defnyddio’r pŵer gan CNC ac EA yn destun mesurau diogelu cadarn. Bydd y rhain yn darparu lefel briodol o dryloywder a chyfle i ymgysylltu â’r cyhoedd (gweler yr adran ‘mesurau diogelu’).

Yr ymatebion i gwestiynau 12 - 17

Ydw Nac ydw Ansicr Heb ateb
C12. Ydych chi’n cytuno y dylai’r pwerau hyn fod yn gymwys i weithgareddau perygl llifogydd? 59% 5% 23% 13%
C13. Ydych chi’n cytuno y dylai’r pwerau hyn fod yn gymwys i weithrediadau gwastraff? 68% 10% 11% 10%
C14. Ydych chi’n cytuno y dylai’r pwerau hyn fod yn gymwys i arllwysiadau dŵr? 62% 8% 18% 13%
C15. Ydych chi’n cytuno y dylai’r pwerau hyn fod yn gymwys i weithgareddau dŵr daear? 59% 8% 19% 14%
C16. Ydych chi’n cytuno y dylai’r pwerau hyn, yn Lloegr yn unig, fod yn gymwys i’r gweithgareddau rheoli a chludo gwastraff os cyflwynir y rheiny yn y rheoliadau? 61% 4% 22% 14%
C17. A ddylai’r pwerau hyn fod yn gymwys i unrhyw ddosbarth arall o gyfleusterau? 19% 11% 54% 15%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiynau 12 i 17

Roedd yr ymatebwyr yn gryf o blaid cymhwyso’r pwerau arfaethedig ar draws pob un o’r pum dosbarth o gyfleusterau. Roedd gweithredwyr a phartïon eraill yn y sectorau hyn wedi’u cynrychioli’n deg yng nghyfanswm nifer yr ymatebwyr. Awgrymodd rhai o’r ymatebwyr ddosbarthiadau penodol eraill o gyfleusterau yn y fframwaith trwyddedu y dylai’r pwerau fod yn gymwys iddynt, gan gynnwys safleoedd hylosgi canolig a sylweddau ymbelydrol. Cwestiynodd nifer fach o’r ymatebwyr a fyddai’r pŵer yn hyblyg wrth ganiatáu ei ymestyn yn y dyfodol at ddosbarthiadau eraill o gyfleusterau.

Ein hymateb ni i gwestiynau 12 i 17

I ddechrau, rydyn ni’n bwriadu cymhwyso’r pŵer at y pedwar dosbarth o gyfleusterau fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad:

  • gweithgareddau perygl llifogydd
  • gweithgareddau  dŵr daear
  • gweithrediadau gwastraff
  • arllwysiadau dŵr

Yn Lloegr yn unig, bwriad diwygiadau Defra mewn perthynas â chludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff yw dod â rheoleiddio’r rhan hon o’r sector gwastraff o fewn y rheoliadau trwyddedu amgylcheddol. Fel rhan o’r diwygiadau hyn, byddwn yn sicrhau bod y pwerau arfaethedig ar gael i’w defnyddio ar gyfer y gweithgareddau hyn yn Lloegr.

Dydyn ni ddim yn bwriadu ehangu’r pŵer i’w gymhwyso at offer symudol ar hyn o bryd, a hynny oherwydd mentrau polisi parhaus sy’n edrych ar ddiwygio esemptiadau ar gyfer safleoedd a chategorïau cysylltiedig eraill o gyfleusterau ‘diwydiannol’, gan gynnwys offer diwydiannol symudol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn gweler yr ymgynghoriad hwn ar foderneiddio trwyddedau amgylcheddol ar gyfer allyriadau diwydiannol a gaewyd ar 21 Hydref 2025.

Ar hyn o bryd, fyddwn ni ddim yn ymestyn y pŵer i ddosbarthiadau ychwanegol o gyfleusterau. Gall mentrau polisi eraill ystyried ei gymhwyso ymhellach trwy ymgyngoriadau a diwygiadau dilynol yn y dyfodol.

Yr ymatebion i gwestiynau 18 to 19

Ydw Nac ydw Ansicr Heb ateb
C18. Ydych chi’n cytuno y dylid rhoi’r pwerau hyn i Asiantaeth yr Amgylchedd mewn perthynas â chyfleusterau yn Lloegr? 80% 9% 3% 9%
C19. Ydych chi’n cytuno y dylid rhoi’r pwerau hyn i Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â chyfleusterau yng Nghymru? 75% 8% 9% 9%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiynau 18 i 19

Roedd yr ymatebion ar roi’r pwerau i CNC ac EA yn cynnwys sylwadau ar allu’r rheoleiddwyr a’r cyllid sydd ei angen i wneud y defnydd gorau o’r pwerau arfaethedig. Cododd rhai o’r ymatebwyr bryderon am ryngweithio â rheoliadau eraill a chysondeb y cymhwyso ar draws ffiniau rhanbarthol.

Ein hymateb ni i gwestiynau 18 i 19

Roedd y gefnogaeth gref gan ymatebwyr yn cadarnhau ymhellach y cynnig dros roi’r pwerau hyn i CNC ac EA. Wrth arfer y pwerau hyn, bydd angen i reoleiddwyr barchu eu cyfrifoldebau strategol a’r mesurau diogelu penodol a drafodir yn yr adran nesaf.

Dydyn ni ddim yn bwriadu ymestyn y pwerau hyn i awdurdodau lleol o gofio’u rôl gyfyngedig nhw wrth ddyroddi trwyddedau ar gyfer y dosbarthiadau o gyfleusterau sy’n rhan o’r diwygiadau hyn. Mae’r awdurdodau lleol yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r rheoleiddwyr arweiniol, ac ni ddylai ein cynnig eu hatal rhag cydweithredu fel y maent heddiw, gan gynnwys mewn perthynas â defnyddio’r pwerau newydd. Mae trwyddedau ac esemptiadau ar gyfer safleoedd diwydiannol, gan gynnwys lle mae awdurdodau lleol yn chwarae mwy o rôl, yn cael eu harchwilio yn fanylach yn ymgynghoriad Defra ynghylch moderneiddio trwyddedau amgylcheddol ar gyfer allyriadau amgylcheddol a gaewyd ar 21 Hydref 2025.

Bwriedir i’r rheoleiddwyr ddefnyddio’r pwerau hyn i wneud, diwygio a diddymu esemptiadau drwy ddefnyddio’r mecanweithiau ariannu presennol. 

Mesurau diogelu

Ymatebion ar ddiogelu’r amcanion

Ydw Nac ydw Ansicr Heb ateb
C20. Ydych chi’n cytuno y dylai rheoleiddwyr sy’n defnyddio’r pwerau hyn wneud hynny os nad ydynt yn mynd yn groes i unrhyw un o’r amcanion a’r meini prawf cymwys yn unig? 85% 3% 5% 8%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiwn 21

C21. Pa amcanion eraill a ddylai fod yn gymwys?

Rhoddodd 43 o’r ymatebwyr ymatebion o sylwedd i’r cwestiwn agored hwn. Awgrymodd rhai o’r ymatebion y gellid ychwanegu amcanion pellach sy’n gofyn i’r rheoleiddwyr ystyried:

  • egwyddorion amgylcheddol
  • egwyddorion yr economi cylchol
  • hierarchaeth gwastraff
  • bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, niwsans, neu ganlyniadau effeithlonrwydd

Gwnaeth eraill awgrymiadau am egwyddorion cyffredinol y gellid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am ddyluniad y system drwyddedu. Roedd yr egwyddorion hyn yn cynnwys ategu arloesedd a thwf, lleihau beichiau ar fusnesau a beichiau gweithredol, ac osgoi dyblygu lle mae rheoliadau amgylcheddol eraill yn gymwys i gyfleusterau.

Yn olaf, awgrymodd rhai o’r ymatebwyr y dylai amcanion neu ddibenion gweithredol penodol fod yn gymwys i swyddogaethau’r rheoleiddwyr yn y fframwaith trwyddedu. Mae’r rhain yn cynnwys darparu tryloywder, eglurder, cydweithredu a chyfrannedd.

Ein hymateb ni i gwestiwn 21

Rydyn ni’n bwriadu cymhwyso’r mesur diogelwch hwn trwy ei gwneud yn ofynnol i’r broses newydd o greu, diwygio a dirymu esemptiadau gael ei defnyddio yn unol â’r amcanion a’r meini prawf sydd eisoes yn gymwys i swyddogaethau’r rheoleiddwyr o dan y rheoliadau trwyddedu.

Dyma’r amcanion a’r meini prawf perthnasol:

Gweithgareddau perygl llifogydd

  • Rheoli perygl llifogydd
  • Rheoli effeithiau ar draenio tir
  • Diogelu’r amgylchedd

Gweithrediadau gwastraff

Diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd fel y disgrifir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb y Fframwaith Gwastraff. Er enghraifft, sicrhau bod gwaith rheoli gwastraff yn cael ei wneud heb beryglu iechyd pobl, heb niweidio’r amgylchedd, ac, yn benodol:

  • heb risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
  • heb beri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • heb effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Gweithgareddau arllwys dŵr

Rhaid i weithgareddau esempt beidio ag achosi llygredd mewn dyfroedd croyw mewndirol, dyfroedd arfordirol, neu ddyfroedd tiriogaethol perthnasol.

Gweithgareddau dŵr daear

Atal mewnbynnu unrhyw sylwedd peryglus i ddŵr daear; a chyfyngu ar fewnbwn llygryddion nad ydynt yn beryglus i ddŵr daear. Sicrhau nad yw mewnbynnau o’r fath yn achosi llygredd i ddŵr daear.

Dydyn ni ddim yn bwriadu cynnwys unrhyw amcanion neu amodau pellach sy’n gymwys i’r broses newydd. Bydd dal angen i’r rheoleiddwyr gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol perthnasol eraill a pharchu egwyddorion ehangach sy’n berthnasol i’w swyddogaethau trwyddedu amgylcheddol megis:

  • egwyddorion amgylcheddol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021
  • dyletswydd twf
  • cod y rheoleiddwyr
  • dyletswyddau statudol EA i ddiogelu a gwella’r amgylchedd wrth gefnogi datblygu cynaliadwy

Ymatebion ar ddiogelu risg amgylcheddol

Ydw Nac ydw Ansicr Heb ateb
C22. Ydych chi’n cytuno y dylai’r pwerau hyn fod ar gael i esemptio math o gyfleuster rhag yr angen i ddal trwydded i weithredu os yw’r gweithgaredd hwnnw’n cael ei asesu fel risg isel? 72% 9% 9% 10%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiwn 23

C23. Sut dylai lefel y risg gael ei diffinio?

Ymatebodd 60 o ymatebwyr i’r cwestiwn agored hwn. Cafwyd adborth manwl ar fethodoleg asesu risg, a chefnogaeth gyffredinol i ystyried y model ffynhonnell risg – llwybr – derbynnydd. Awgrymodd rhai o’r ymatebion fod tryloywder a chysondeb yn bwysig.

Awgrymodd rhai o’r ymatebion na ddylai’r rheoleiddwyr gael dileu esemptiad sy’n gymwys i fath o gyfleuster a aseswyd fel un sy’n cario risg isel.

Awgrymodd ymatebion eraill y dylai cymhwysedd y gweithredwr a ffactorau lleol gael eu hystyried.

Ein hymateb ni i gwestiwn 23

Er bod asesiadau o risg yn cael eu defnyddio’n gyffredin yn y system drwyddedu bresennol, nid yw’r rheoliadau yn eu gwneud yn ofynnol yn benodol. Yn ymarferol, caiff y rheoleiddwyr ddewis defnyddio asesiadau risg sy’n benodol i’r safle neu rai generig er mwyn gosod amodau priodol ar gyfer trwyddedau pwrpasol neu setsetiau o reolau safonol. Mae cyhoeddi’r asesiadau hyn yn ystod yr ymgynghori yn hybu tryloywder ac yn helpu i fwydo ymatebion y cyhoedd.

Rydym o’r farn bod y trefniadau presennol wedi’u gweld yn gweithio’n dda ar gyfer cyfleusterau dan reolaeth sydd angen trwydded. Maent yn rhoi hyblygrwydd i’r rheoleiddwyr ac yn dal i ofyn rheolaethau manwl ar gyfer risg yn ogystal â monitro cydymffurfiaeth. Er hynny, ni fyddai’r lefel hon o hyblygrwydd yn briodol i reoleiddwyr sy’n dylunio esemptiadau, a all osod amodau cymharol lac ar y gweithredwyr, ac maent yn gymesur ar gyfer cyfleusterau sydd â lefel risg gymharol isel yn unig.

Rydyn ni’n bwriadu ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddwyr gyhoeddi asesiad o risg wrth ymgynghori ar gynigion i ddefnyddio’u pwerau newydd arfaethedig i wneud esemptiad newydd neu adolygu esemptiad presennol. Dylai hyn ddarparu tryloywder yn y broses a chaniatáu i’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad herio’r cynigion os ydynt o’r farn eu bod yn amhriodol.

Rydyn ni o’r farn y dylai’r rheoleiddwyr gael rhyddid i ddewis pa fethodoleg asesu risg bynnag y maent o’r farn ei bod yn briodol adeg gwneud y cynigion. Gan hynny, dydyn ni ddim yn bwriadu gosod meini prawf ar gyfer yr asesiadau risg y byddent yn eu defnyddio.

Mae’n debygol y byddai’r asesiadau hyn yn debyg i’r asesiadau sydd eisoes yn cael eu gwneud yn gyson pan fo rheoleiddwyr yn paratoi rheolau safonol. Mae’r rhain yn gwerthuso risgiau generig ar gyfer math o gyfleuster drwy ddefnyddio’r model ffynhonnell-llwybr-derbynnydd. Byddai amodau esemptiad, a allai gynnwys meini prawf ynglŷn â’r lleoliad, yn debygol o anelu at dorri neu gyfyngu ar unrhyw gysylltiadau ffynhonnell-llwybr-derbynnydd.

Ni fyddwn ychwaith yn cyfyngu ar ddefnyddio’r pŵer yn ôl unrhyw sgôr risg a aseswyd. Rydyn ni o’r farn y byddai hyn yn anymarferol heb feini prawf penodol ar gyfer asesu risg.

Mae’r dull hwn yn ceisio gwella hyblygrwydd a helpu i ddiogelu’r fframwaith trwyddedu yn y dyfodol trwy ganiatáu i ddulliau asesu addasu mewn ymateb i ddatblygiadau sy’n newid ein dealltwriaeth o risg amgylcheddol, megis technolegau sy’n dod i’r amlwg ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd penderfyniadau’r rheoleiddwyr yn dal yn ddarostyngedig i’r amcanion cymwys yn ogystal ag unrhyw ganllawiau neu gyfarwyddiadau gan y llywodraeth yn y dyfodol.

Ni fyddwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddwyr gyhoeddi asesiadau o risg wrth ddefnyddio’r pŵer i ddirymu esemptiadau. Ond, fe gaiff y rheoleiddwyr ddewis gwneud hynny er mwyn cyflawni amcanion perthnasol pob dosbarth o gyfleusterau.

Ni fyddwn ychwaith yn cyflwyno unrhyw ofynion newydd yn y ddeddfwriaeth i ystyried gofynion gweithredwyr neu ffactorau lleol. Rydyn ni o’r farn bod trefniadau hirsefydlog ar gyfer asesu cymhwysedd gweithredwyr ac effaith amgylcheddol eisoes yn ddigonol yn y system trwyddedu amgylcheddol.

Ymatebion i’r mesur diogelu yn gofyn am ymgynghori

Ydw Nac ydw Ansicr Heb ateb
C24. Ydych chi’n cytuno y dylai’r rheoleiddwyr gael defnyddio’r pwerau hyn dim ond ar ôl iddynt gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chyhoeddi ymateb iddo? 75% 9% 11% 5%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiwn 24

Er nad oedd cwestiwn agored yn gwahodd sylwadau pellach ar y mesur diogelu hwn, rhoddodd rhai o’r ymatebwyr sylwadau ar wahân. Roedd y rhain yn cynnwys awgrymiadau:

  • y gallai ymgyngoriadau dargedu rhanddeiliaid perthnasol heb ymgysylltu â’r cyhoedd
  • y dylai lefel yr ymgynghori fod yn gymesur ag effaith y newidiadau sy’n cael eu cynnig
  • y dylid rhoi ymatebion clir i bob ymgynghoriad

Ein hymateb ni i gwestiwn 24

Mae ymgysylltu â’r rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys gweithredwyr cyfleusterau dan reolaeth, yn helpu i sicrhau bod modd i’r rheoleiddio gael ei ystyried yn llawn. Mae hwyluso gwaith craffu cyn newidiadau arwyddocaol yn y rheoliadau, gyda chymorth asesiad o’r effaith, yn gwella’r ddealltwriaeth o’r effeithiau ac yn caniatáu i addasiadau gael eu gwneud, lle bernir bod hynny’n briodol.

Ar hyn o bryd, mae ymgyngoriadau eisoes yn rhan bwysig o’r broses drwyddedu. Yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau o gyfleusterau, mae’r rheoleiddwyr yn ymgynghori cyn cytuno ar unrhyw reolau safonol, a chyn rhoi unrhyw drwyddedau pwrpasol. Rydyn ni o’r farn y dangoswyd bod y gweithdrefnau presennol i ategu hyn yn perfformio’n effeithiol.

Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddwyr gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn defnyddio’r pwerau newydd arfaethedig. Bydd hyn yn ceisio darparu tryloywder a gwneud y mwyaf o’r cyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid gwybodus, a ddylai ddarparu ar gyfer proses fwy effeithlon a chanlyniadau gwell. Caiff y rheoleiddwyr ddewis cyhoeddi’r rhain ochr yn ochr ag unrhyw asesiadau perthnasol o risg ac amodau arfaethedig. Bydd y rheoleiddwyr yn gallu targedu ymgyngoriadau at weithredwyr perthnasol gweithgareddau a’r cymunedau yr effeithir arnynt neu sydd â diddordeb mawr.

Fyddwn ni ddim yn gofyn i’r rheoleiddwyr ymgynghori wrth ddefnyddio’r broses newydd i wneud mân newidiadau gweinyddol. Gall y rhain gynnwys diwygiadau i fynd i’r afael â gwallau teipograffig a materion fformatio, neu fân ddiweddariadau i sicrhau cywirdeb neu gydymffurfiaeth heb effeithio ar y cynnwys craidd, y diben neu’r risg.

Ymatebion ar y mesur diogelwch ynghylch sawl cyfleuster ar un safle

Dylai Na Ansicr Heb ateb
C25. Pan ddefnyddir y pŵer hwn i esemptio cyfleusterau o’r gofynion trwyddedu, a ddylid cael terfyn ar nifer neu gyfanswm graddfa’r cyfleusterau ar un safle heb drwydded? 56% 24% 14% 6%

Roedd y gyfres yma o gwestiynau agored yn caniatáu i’r ymatebwyr ateb cwestiynau ynglŷn â gwahanol fathau o gyfleusterau.

Dyma nifer yr ymatebion a ddaeth i law:

Cwestiwn Nifer yr ymatebion a ddaeth i law
C26. Sut dylai terfyn o’r fath gael ei osod ar gyfer gweithgareddau perygl llifogydd? 33
C27. Sut dylai terfyn o’r fath gael ei osod ar gyfer gweithrediadau gwastraff (y tu hwnt i’r cynlluniau presennol na ddylai cyfanswm pob math o wastraff ar safle fod yn fwy na’r terfyn isaf yn yr esemptiadau a gofrestrwyd)? 44
C28. Sut dylai terfyn o’r fath gael ei osod ar gyfer gweithgareddau arllwys dŵr? 38
C29. Sut dylai terfyn o’r fath gael ei osod ar gyfer gweithgareddau dŵr daear? 34
C30. Sut dylai terfyn o’r fath gael ei osod ar gyfer gweithgareddau rheoli a chludo gwastraff? 34
C31. Oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach ar sut y byddai terfynau o’r fath yn cael eu gosod? 23

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiynau 26 i 31

Nodwyd themâu cyson ar draws yr ymatebion sy’n berthnasol i sawl dosbarth o gyfleusterau. Mae’r rhain yn cynnwys ystyriaethau allweddol ar gyfer gosod terfynau—megis risg gronnol, anhawster wrth ddiffinio ffiniau daearyddol, a thriniaeth deg i weithredwyr a’u cadwyni cyflenwi. Cynigiodd ymatebwyr hefyd ddulliau amgen, gan gynnwys cynnwys amodau ar gyfer safleoedd penodol, hanes cydymffurfiaeth y gweithredwyr, a defnyddio dulliau megis fframweithiau asesu neu fatricsau cydnawsedd.

Roedd y sylwadau cyffredinol eraill yn cynnwys y dylai unrhyw brosesau a ddefnyddid i osod terfynau gael eu seilio ar dystiolaeth, bod yn amodol ar apêl, a chael eu gwerthuso mewn adolygiad ar ôl gweithredu.

Awgrymodd rhai o’r ymatebwyr nad oedd angen terfyn eang o’r math yr ymgynghorwyd arno ac y gallai dull syml atal gweithgareddau defnyddiol rhag digwydd, a hynny’n anfwriadol.

O ran perygl llifogydd, arllwysiadau dŵr, a gweithgareddau dŵr daear, nododd rhai o’r ymatebwyr nad yw’r cysyniad o ‘safle sengl’ yn briodol at ddibenion asesu effaith nifer y cyfleusterau sydd wedi’u hesemptio mewn ardal, gan fod risg yn cronni i’r derbynyddion ar draws gorlifdir neu gwrs dŵr. Gall yr effeithiau ddibynnu ar y deunyddiau dan sylw, capasiti’r cyrff dŵr lleol, a ffactorau tymhorol, megis dŵr ffo ar yr wyneb.

O ran gweithrediadau gwastraff, nododd rhai o’r ymatebwyr y byddai’r diwygiadau ar wahân a fydd yn cyfyngu ar esemptiadau gwastraff yn ôl terfyn isaf unrhyw esemptiad cofrestredig yn cyflawni bwriadau’r cynnig hwn. Nododd eraill fod risgiau cronnol yn dibynnu ar senarios gwaethaf ac y gallai’r rhain godi o ganlyniad i drin neu gymysgu deunyddiau risg uchel.

Ein hymateb ni i gwestiynau 26 i 31

Mae’r mwyafrif o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cysyniad o osod cyfyngiadau ar gael nifer o esemptiadau ar un safle. Ond, doedd dim consensws clir ar sut y dylai hyn gael ei roi ar waith.

Mae’r canlyniadau’n dangos na fyddai terfyn eang ar draws pob math o risg llifogydd, arllwysiadau dŵr, neu weithgareddau dŵr daear yn gallu ymateb yn effeithiol i natur y risgiau sy’n gysylltiedig â phob math unigol o gyfleuster. Gan hynny, fyddwn ni ddim yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddwyr gyfyngu ar nifer yr esemptiadau y gellir eu gweithredu ar unrhyw un safle. Yn hytrach, bydd gan y rheoleiddwyr ddisgresiwn i ddiffinio cwmpas a chyfyngiadau’r gweithgareddau adeg arfer y pŵer. Nhw sydd yn y sefyllfa orau i bennu’r amodau priodol a ddylai fod yn gymwys i fath penodol o gyfleuster, yn unol â’r amcanion perthnasol a chan ystyried asesiad o risg.

Mae terfynau ar esemptiadau gwastraff yn cael eu symud ymlaen o dan y diwygiadau polisi[diwygiadau polisi] mewn trwyddedau gwastraff. Ni fydd y polisi a drafodir yma yn effeithio ar hyn.

Mesurau diogelu ychwanegol

Ymatebion
  Dylai Na ddylai Ansicr Heb ateb
C32. A ddylai unrhyw ddulliau diogelu eraill gael eu defnyddio wrth i’r pwerau hyn gael eu defnyddio? 42% 15% 30% 13%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiwn 32

Rhoddodd 35 o’r ymatebwyr ymatebion o sylwedd i’r adran agored o’r cwestiwn hwn. Awgrymodd rhai y dylid caniatáu trefniant pontio ar gyfer esemptiadau a fyddai’n cael eu dirymu, gan ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddwyr hysbysu’r gweithredwyr a chaniatáu amser iddynt sicrhau trwydded. Awgrymodd eraill y dylai unrhyw brosesau newydd fod yn destun apêl a chael eu dylunio i weithredu yn dryloyw ac yn gyson.

Ein hymateb ni i gwestiwn 32

Dydyn ni ddim yn cynnig gosod unrhyw fesurau diogelu penodol ychwanegol wrth arfer y pŵer hwn.

Byddem yn disgwyl, lle bo’n briodol, y bydd rheoleiddwyr yn gwneud trefniadau addas i hysbysu’r gweithredwyr dan sylw am unrhyw newidiadau a darparu trefniadau pontio. Ochr yn ochr â’i gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddwyr ymgynghori â’r cyhoedd ar newidiadau arfaethedig i esemptiadau a chyhoeddi asesiadau risg cysylltiedig, byddai darpariaethau eraill sydd eisoes yn y rheoliadau yn sicrhau tryloywder, megis y rhai ynglŷn â dyletswyddau’r rheoleiddwyr o ran cyfranogiad cyhoeddus.

Costau a buddion

Ymatebion ar y costau

Ydw Nac ydw Ansicr Heb ateb
C33. Ydych chi’n credu y bydd y pwerau hyn yn gosod unrhyw gostau neu faich ychwanegol arnoch chi’ch hun neu’ch sefydliad? 35% 32% 28% 5%
C34. Ydych chi’n credu y gallai’r pwerau hyn arwain at niwed i’r amgylchedd neu i iechyd pobl? 15% 52% 23% 10%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiynau 33 i 34

Un thema ar draws yr ymatebion oedd pryder am gostau cynyddol posibl i’r gweithredwyr, yn enwedig o ran mwy o faich gweinyddol gyda mwy o waith papur, monitro, ac amser yn cael ei dreulio’n ymateb i ymgyngoriadau dan arweiniad y rheoleiddwyr. Soniwyd hefyd am ansicrwydd ynghylch sut a phryd y bydd y pwerau newydd yn cael eu defnyddio, gyda phryderon y gallai mwy o hyblygrwydd rheoleiddio arwain at ansicrwydd a’i gwneud yn anodd i’r gweithredwyr gynllunio buddsoddiadau yn hyderus. Er mwyn lliniaru’r pryder hwn, soniodd yr ymatebwyr eu bod am weld proses deg a thryloyw ar gyfer gweithredu newidiadau, gyda deialog barhaus rhwng y llywodraeth, y rheoleiddwyr a’r diwydiant.

Mynegodd sawl rhanddeiliad ansicrwydd ynghylch costau posibl y pwerau rheoleiddio arfaethedig, gan nodi y bydd yr effaith ariannol yn dibynnu ar sut mae’r pwerau’n cael eu gweithredu. Yn ôl eraill, os bydd y gweithredwyr yn syml yn darparu’r un wybodaeth ag y maent nawr, efallai na fydd unrhyw gostau ychwanegol o gwbl.

Nododd ymatebwyr hefyd bryderon am y goblygiadau i’r rheoleiddwyr o ran adnoddau a chostau. Er bod rhai ymatebwyr yn disgwyl y bydd esemptiadau cofrestredig yn dal yn rhad ac am ddim, maent yn cydnabod y bydd eu gweinyddu yn dal i dynnu costau, gan arwain at bryderon ynghylch sut y bydd y rheoleiddwyr yn ariannu’r gwaith ychwanegol.

Soniodd ymatebwyr y dylai esemptiadau fod yn gymwys i weithgareddau sy’n peri risgiau gwirioneddol isel i iechyd dynol a’r amgylchedd yn unig. Nodwyd hefyd, os yw’r pwerau’n cael eu defnyddio’n gyfrifol ac yn dryloyw gyda mesurau diogelu priodol ar waith, y gallent symleiddio’r rheoleiddio heb gynyddu niwed. Er hynny, o’u camddefnyddio neu o’u gweithredu’n wael, soniodd rhai ymatebwyr y gallent ganiatáu i weithgareddau risg uwch lithro drwodd heb oruchwyliaeth ddigonol. Mae rhai ymatebion hefyd yn tynnu sylw at yr angen i ystyried effeithiau cronnol llawer o weithgareddau risg isel, a allai gyda’i gilydd fod yn fwy o risg os nad ydynt yn cael eu rheoli’n iawn.

Ymatebion am y buddion

Ydw Nac ydw Ansicr Heb ateb
C35. Ydych chi’n credu y bydd y pwerau hyn yn arwain at unrhyw fuddion i chi’ch hun neu i’ch sefydliad? 46% 15% 33% 6%
C36. Ydych chi’n credu y gallai’r pwerau hyn arwain at fuddion ychwanegol i’r amgylchedd neu i iechyd pobl? 43% 14% 32% 11%

Sylwadau’r ymatebwyr ar gwestiynau 35 i 36

Nododd sawl ymatebydd y gallai’r diwygiadau arwain at reoleiddio mwy cymesur yn seiliedig ar risg amgylcheddol gwirioneddol, gan arwain at arbedion amser a chostau i weithredwyr drwy lai o ffioedd am geisiadau am drwyddedau a llai o waith gweinyddol. Mae rhai rhanddeiliaid hefyd yn croesawu’r posibilrwydd o reolau cliriach a mwy cyson o’u cymharu â’r ddibyniaeth bresennol ar Ddatganiadau Safbwynt Rheoleiddiol (RPSs), gan helpu busnesau i weithredu â mwy o hyder.

Tanlinellodd sawl ymatebydd fanteision posibl prosesau rheoleiddio cyflymach a mwy effeithlon. Nododd ymatebwyr y gallai penderfyniadau cyflymach ar drwyddedau ac amserau prosesu cyflymach leihau’r oedi i’r diwydiant, gan helpu busnesau i weithredu â mwy o sicrwydd. Soniwyd y gallai’r hyblygrwydd ychwanegol hwn alluogi’r rheoleiddwyr i ganolbwyntio ymdrechion ar y gweithgareddau mwyaf niweidiol i’r amgylchedd, gan wella diogelwch i’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Nododd ymatebwyr hefyd y gallai system fwy addasadwy ganiatáu i esemptiadau gael eu dileu yn gynt mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio eang a chaniatáu camau gorfodi cyflymach.

Rhoddodd llawer o randdeiliaid groeso i’r potensial i’r pwerau rheoleiddio arfaethedig helpu i leihau gweithgarwch troseddol yn y sector gwastraff. Nododd ymatebwyr fod y system bresennol yn aml yn cael ei hecsbloetio gan weithredwyr anghyfreithlon sy’n tanseilio busnesau cyfreithlon trwy weithredu y tu allan i reolau trwydded neu esemptiadau. Credid bod fframwaith rheoleiddio mwy cadarn ac ystwyth yn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn trwy alluogi penderfyniadau cyflymach a diweddariadau mwy hyblyg i esemptiadau, gan gau bylchau sy’n cael eu cam-drin.

Tynnodd ymatebwyr sylw at fanteision posibl y newidiadau arfaethedig o ran yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd, gan gynnwys gwell ansawdd aer a dŵr. Soniwyd hefyd y gallai’r diwygiadau hwyluso adferiad amgylcheddol cyflymach mewn ymateb i ddigwyddiadau llygredd ac y gallai’r gallu i gael gwared ar esemptiadau yn gyflym leihau’r angen am gamau adfer costus.

Ein hymateb ni i gwestiynau 33 i 36

Mae ymatebion i’r cwestiynau ar gostau a buddion yn adlewyrchu safbwyntiau a phryderon a godwyd mewn ymateb i adrannau eraill o’r ymgynghoriad. Mae’r ddogfen hon eisoes wedi ymateb i’r pryderon hyn yn adran 4: crynodeb o’r ymatebion. Cynhyrchwyd asesiad de minimis ochr yn ochr â’r ymgynghoriad a bydd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r dystiolaeth ychwanegol a ddarparwyd gan ymatebwyr.

5. Y ffordd ymlaen

O gofio’r gefnogaeth gyffredinol i’r cynigion hyn, ein bwriad yw cyflwyno’r newidiadau hyn drwy ddiwygiadau i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae Defra yn bwriadu cymryd camau priodol fel y gellir gwneud y diwygiadau gofynnol i’r Rheoliadau yn Lloegr yn 2026. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r angen i weithredu’r newidiadau hyn ond, oherwydd amseriad y cyhoeddiad hwn, ni fydd yn gwneud penderfyniad ar ddiwygiadau i reoliadau tan ar ôl etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026.

Bydd y newidiadau hyn ym mhwerau’r rheoleiddwyr ar esemptiadau yn cael eu gwerthuso fel rhan o’r adolygiad nesaf ar ôl gweithredu’r rheoliadau llawn a ddisgwylir yn 2028.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r rheoleiddwyr i adolygu’r canllawiau ar weithredu o dan esemptiadau yn gyson a byddwn yn ceisio’u diweddaru yn ôl yr angen.

Mae’r diwygiadau arfaethedig hyn yn ategu gwaith i symleiddio’r Rheoliadau ymhellach a darparu cysondeb i’r gweithredwyr drwy’r cynigion ar wahân i ddiwygio trwyddedau diwydiannol, rheoleiddio gwaith codi dŵr a chronni dŵr, a diogelwch cronfeydd dŵr. Maent hefyd yn cyflawni argymhelliad Dan Corry yn ei adolygiad diweddar o dirwedd reoleiddio Defra i rymuso’r rheoleiddwyr i wneud penderfyniadau synhwyrol sy’n seiliedig ar risg.

Pan ddaw’r pwerau newydd i rym, rydyn ni’n rhag-weld y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn eu defnyddio i gyflwyno esemptiadau wedi’u targedu sydd wedi’u cynllunio i gefnogi prosiectau adeiladu ledled Lloegr. Bydd yr esemptiadau hyn yn gymwys i weithgareddau risg isel a gweithgareddau dros dro yn aml sy’n gysylltiedig yn gyffredin ag adeiladu, megis:

  • Draenio safleoedd — gan gynnwys sianelu ac arllwys dŵr heb ei halogi (e.e. dŵr glaw a dŵr a gynhyrchir yn ystod y gwaith adeiladu) ar hyd ffosydd dros dro, cwlfertau, cwteri a draeniau
  • Gwaith ymchwilio ar safleoedd
  • Gweithrediadau dad-ddyfrio
  • Storio deunyddiau gwastraff anadweithiol sydd wedi’u mewnforio dros dro (er enghraifft, byndiau sgrinio gweledol)
  • Gosod rhwystrau dŵr llifogydd dros dro
  • Gwaith tir o fewn gorlifdiroedd (er enghraifft, cloddio sylfeini neu baratoi llwyfannau gwaith ar gyfer offer mawr)

Mae’r fenter hon yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i symleiddio trwyddedau amgylcheddol ar gyfer gweithgareddau risg isel o fewn y broses gynllunio, fel yr amlinellir ym mhapur polisi’r Trysorlys ‘New approach to ensure regulators and regulation support growth’ a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Trwy ddefnyddio’r pwerau arfaethedig i weithredu’r newidiadau hyn, bydd tryloywder yn cael ei ymgorffori yn y broses. Bydd y mesurau diogelu y manylir arnynt yn y ddogfen hon yn gymwys, gan ei gwneud yn ofynnol i Asiantaeth yr Amgylchedd ymgynghori ar unrhyw esemptiadau arfaethedig — gan gynnwys y rheolaethau a’r amodau priodol sydd eu hangen i gynnal amddiffyniadau amgylcheddol.

Bydd hyn yn sicrhau rheoleiddio cymesur: goruchwyliaeth gadarn ar weithgareddau niweidiol, ochr yn ochr â hawddfreintiau synhwyrol sy’n atal gweithrediadau dros dro risg isel rhag gosod baich diangen ar y system gan gynnal amddiffyniadau i gymunedau lleol a’r amgylchedd yr un pryd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r ddogfen hon, cysylltwch â: EnvRegs@Defra.gov.uk.


[1] Mae’r canrannau wedi’u talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf – gallai hyn olygu bod rhai cyfansymiau canrannol yn fwy na 100%

[2] Mae’r cyfanswm yn fwy na 79 (nifer llawn yr ymatebwyr) gan fod rhai gweithredwyr yn weithredwyr gweithgareddau a ganiateir a gweithgareddau esempt.