Consultation outcome

Domestic Violence Disclosure Scheme guidance consultation: government response (Welsh accessible version)

Updated 7 July 2023

Pennod 1 – Cefndir yr ymgynghoriad

1.1 Cyflwyniad

Lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft y Canllawiau Cynllun Datgelu Trais Domestig ar 7 Mai 2022 a pharhaodd am wyth wythnos, gan ddod i ben ar 2 Gorffennaf 2022. Gwahoddodd yr ymgynghoriad adborth gan yr holl randdeiliaid, gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol, ac aelodau’r cyhoedd a all fod yn ymgeiswyr.

Rydym yn ddiolchgar i’r ymatebwyr ac yn gwerthfawrogi’r amser a gymerodd ystod eang o unigolion i fynegi eu barn. Mae’r Swyddfa Gartref wedi cymryd amser i ystyried yn ofalus yr holl safbwyntiau a ddarparwyd, gan nodi’r themâu sydd wedi dod i’r amlwg.

Mae ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys: Cefndir y Cynllun Datgelu Trais Domestig (Pennod 1); dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a chrynodeb o’r themâu allweddol (Pennod 2); a’r camau nesaf (Pennod 3).

1.2 Cefndir y Cynllun Datgelu Trais Domestig

Cafodd Cynllun Datgelu Trais Domestig (y “CDTD”) – y cyfeirir ato’n aml fel “Cyfraith Clare” ar ôl achos trasig Clare Wood a lofruddiwyd gan ei chyn bartner ym Manceinion Fwyaf yn 2009 – ei gyflwyno ar draws pob un o’r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2014. Roedd hyn yn dilyn cwblhau cynllun peilot 14 mis yn llwyddiannus.

Ni chyflwynodd y CDTD unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Mae’n dibynnu ar bŵer cyfraith gwlad yr heddlu i ddatgelu gwybodaeth lle bo angen i atal trosedd ac mae’n darparu strwythur a phrosesau ar gyfer arfer y pwerau hynny. Cyflwynwyd y CDTD i nodi gweithdrefnau y gallai’r heddlu eu defnyddio i ddatgelu gwybodaeth am droseddau treisgar neu gamdriniol blaenorol, gan gynnwys cam-drin emosiynol, ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi neu gam-drin economaidd gan unigolyn lle gallai hyn helpu i amddiffyn eu partner neu gyn-bartner rhag troseddu treisgar neu gamdriniol. Cynhaliwyd adolygiad o’r CDTD yn 2015.

Mae Adran 77 Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (“ y Ddeddf CD”) yn gosod y canllawiau ar gyfer y CDTD ar sail statudol drwy osod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Cartref i gyhoeddi canllawiau ar y CDTD i brif swyddogion yr heddlu. Mae’r canllawiau’n cael eu cyhoeddi cyn i Adran 77 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 ddod i rym, ac felly nid oes ganddo unrhyw effaith gyfreithiol tan hynny.

Nid yw Deddf CD yn newid y sail gyfreithiol y gall yr heddlu wneud datgeliad gwybodaeth oddi tani, ond mae’n gosod dyletswydd ar yr heddlu i ystyried y canllawiau wrth ddefnyddio’r CDTD. Mae hyn i bob pwrpas yn golygu y byddai angen i unrhyw heddlu sy’n ceisio gwyro oddi wrth y canllawiau gyfiawnhau’r cam gweithredu hwnnw gyda rheswm da – ac, os bydd her, byddai angen iddo allu dangos ei fod wedi ystyried y ddyletswydd, ond bod ganddo resymau cadarn dros fethu â chadw atynt. Ni fydd hyn yn wir nes bod y canllawiau wedi’u gosod mewn statud.

Mae’r CDTD yn cynnwys dwy elfen: yr “Hawl i Ofyn” a’r “Hawl i Wybod”. O dan yr agwedd “Hawl i Ofyn” o’r CDTD gall unigolyn neu drydydd parti perthnasol, er enghraifft aelod o’r teulu, ofyn i’r heddlu wirio a oes gan bartner presennol neu gyn- bartner orffennol treisgar neu ddifrïol. Mae’r elfen “Hawl i Wybod” yn galluogi’r heddlu i wneud datgeliad ar ei fenter ei hun os yw’n derbyn gwybodaeth am ymddygiad treisgar neu ddifrïol person a allai effeithio ar ddiogelwch y partner presennol neu gyn-bartner y person hwnnw.

1.3 Diweddariad o’r Canllawiau Cynllun Datgelu Trais Domestig

Er mwyn cefnogi creu rhwymedigaeth statudol i gyhoeddi canllawiau o dan y Ddeddf CD, ac i gynorthwyo’r heddlu ymhellach i weithio gyda’r cynllun hwn, mae’r Swyddfa Gartref wedi diweddaru Canllawiau’r Cynllun Datgelu Trais Domestig. Mae’r canllawiau’n cael eu cyhoeddi cyn i Adran 77 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 ddod i rym, ac felly nid oes ganddo unrhyw effaith gyfreithiol tan hynny.

Ar ddechrau’r ddarpariaeth a fydd yn gosod y canllawiau mewn statud, bydd gofyn i’r heddlu ddatgelu gwybodaeth am gyflawnwyr yn gyflymach. Bydd gan yr heddlu 28 diwrnod i ddatgelu’r wybodaeth, sy’n llai na’r canllawiau presennol o 35 diwrnod.

Bydd hyn yn golygu y dylai dioddefwyr a darpar ddioddefwyr gael y wybodaeth a allai fod yn hanfodol i’w diogelwch yn gynt.

Bwriad y canllawiau wedi’u diweddaru yw darparu:

  • gwybodaeth glir am y broses CDTD, trwy’r llwybrau “Hawl i Ofyn” a “Hawl i Wybod”
  • canllawiau i’r heddlu ac asiantaethau eraill sy’n ymwneud â chyfiawnder troseddol a cham-drin domestig ar amgylchiadau lle dylid defnyddio’r CDTD a chan bwy
  • arferion gorau ar gyfer rheoli ceisiadau a dderbynnir ar-lein, gan gynnwys nodi bod yn rhaid darparu dolenni i wasanaethau cam-drin domestig arbenigol, a bod yn rhaid i fesurau diogelwch fel diangfeydd cyflym fod ar waith ar byrth ar-lein i helpu i amddiffyn ymgeiswyr
  • amserlenni wedi’u diweddaru ar gyfer datgeliadau CDTD

Pennod 2 – Dadansoddiad o’r ymgynghoriad a chrynodeb o themâu allweddol

2.1 Crynodeb o’r ymatebion

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y canllawiau CDTD wedi’u diweddaru am wyth wythnos o 7 Mai i 2 Gorffennaf 2022. Roedd gan yr ymatebwyr yr opsiwn i ymateb i’r ymgynghoriad drwy lwyfan ymgynghori ar-lein neu drwy e-bost.

Derbyniodd yr ymgynghoriad 240 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd hyn yn cynnwys 53 o ymatebion i’r arolwg wedi’u cwblhau, 169[footnote 1] o ymatebion gwag i’r arolwg a 18 o ymatebion e-bost. Mae’r holl ymatebion wedi’u dadansoddi a’u hystyried yn llawn. Mae Canllawiau Statudol CDTD wedi’u hadolygu a’u diweddaru, gan ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd.

Rydym yn ddiolchgar i’r holl ymatebwyr a rannodd eu profiad gyda ni.

2.2 Trosolwg o ymatebwyr

Ymatebodd amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion i’r ymgynghoriad hwn. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion a dderbyniwyd gan unigolion fel rhan o sefydliad. Derbyniwyd ymatebion gan ddarparwyr gwasanaethau ar gyfer ffurfiau o drais yn erbyn menywod a merched1 (VAWG), gan gynnwys gwasanaethau cam-drin domestig, plismona, awdurdodau lleol, a thimau tai a digartrefedd lleol.

Estynnodd yr ymgynghoriad wahoddiad i ymatebwyr ateb cyfanswm o 14 cwestiwn. Gofynnodd cwestiynau 1-5 am wybodaeth am yr unigolyn neu’r sefydliad a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Mae crynodeb y rhai a ymatebodd drwy’r arolwg clyfar wedi’u crynhoi yn y tablau isod. Mae’r rhai wedi’u nodi fel a ganlyn:

  • Cwestiwn 1 – Ydych chi’n ymateb fel unigolyn, fel rhan o sefydliad neu ar ran sefydliad?
  • Cwestiwn 2 – Os ydych yn ymateb ar ran neu fel rhan o sefydliad, pa fath o sefydliad yw?
  • Cwestiwn 3 – Beth yw enw’r sefydliad?
  • Cwestiwn 4 – Beth yw eich cyfeiriad e-bost?
  • Cwestiwn 5 – O’r rhestr isod, ble ydych chi neu eich sefydliad wedi’i leoli?

Tabl 1

MaeTabl 1 yn darparu dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn ôl y math o ymatebydd.

Tabl 1: Math o ymatebydd i’r ymgynghoriad Canran Ymateb (o ymatebion heb fod yn wag) Cyfanswm Ymateb
Unigolyn 17% 9
Ar ran sefydliad 40% 21
Fel rhan o sefydliad 43% 23
Cyfanswm ymatebion heb fod yn wag   53
Ymatebion gwag   169
Cyfanswm ymatebion   222

Tabl 2

MaeTabl 2 yn darparu dadansoddid o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn ôl sefydliad, i’r bobl hynny a ymatebodd fel rhan o neu ar ran sefydliad.

Tabl 2: Math o sefydliad Canran Ymateb (o ymatebion heb fod yn wag) Cyfanswm Ymateb
Awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr 19% 8
Heddluoedd 16% 7
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) 11% 5
Gwasanaethau cymorth cam-drin domestig arbenigol a thrais arall yn erbyn menywod a merched 20% 9
Timau tai a digartrefedd lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig 9% 4
Blynyddoedd cynnar, gofal plant, ysgolion, colegau a lleoliadau addysg uwch 0% 0
Darparwyr gofal cymdeithasol plant 2% 1
Darparwyr gofal cymdeithasol oedolion 0% 10
GIG Lloegr a Gwella’r GIG ( o 2022, GIG Lloegr) 0% 0
Grwpiau Comisiynu Clinigol (o 2022 ymlaen, Systemau Gofal Integredig) 7% 3
Ymddiriedolaethau GIG ac Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG 0% 0
Cyflogwyr 0% 0
Gwasanaethau Carchardai a Phrawf EF 0% 0
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF 0% 0
Canolfan Byd Gwaith 0% 0
Grwpiau cymunedol a ffydd 0% 0
Arall 16% 7
Cyfanswm ymatebion heb fod yn wag   44

Tabl 3

MaeTabl 3 yn darparu dadansoddid o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn ôl rhanbarth lle mae’r unigolyn neu’r sefydliad wedi’i leoli.

Tabl 3: Ymgynghoriad ymatebydd a rhanbarth Cyfanswm ymatebion (canran) Cyfanswm ymatebion
Gogledd-ddwyrain 6% 3
Gogledd Orllewin 17% 9
Swydd Efrog a’r Humber 9% 5
Dwyrain Canolbarth Lloegr 11% 6
Gorllewin Canolbarth Lloegr 4% 2
Dwyrain Lloegr 2% 1
Llundain 8% 4
De-ddwyrain 11% 6
De Orllewin 23% 12
Cymru 6% 3
Cenedlaethol 4% 2
Ymatebion gwag   169
Cyfanswm   222

2.3 Methodoleg dadansoddi

Cynlluniwyd yr ymgynghoriad mewn ffordd fodiwlaidd i adlewyrchu pob adran yn y canllawiau drafft ac i ganiatáu ymatebwyr i ganolbwyntio ar y meysydd sydd o ddiddordeb neu fwyaf perthnasol iddynt.

Gofynnodd yr ymgynghoriad am adborth meintiol ac ansoddol ar y canllawiau drafft. Roedd yr holiadur yn caniatáu i ymatebwyr ateb ‘ydw/oes’ neu ‘na’ i bob cwestiwn, ac roedd blychau testun rhydd yn caniatáu i ymatebwyr ddarparu cyflwyniadau naratif a thystiolaeth bellach neu astudiaethau achos.

Yn ogystal â’r swyddogaeth holiadur ar-lein, roedd modd hefyd i gyflwyno ymholiadau ac ymatebion sylweddol i fewnflwch ymgynghoriad pwrpasol.

Defnyddiwyd dadansoddiad meintiol ac ansoddol, yn unol ag arfer gorau’r Llywodraeth. Er bod y llwyfan ‘ar-lein’ yn gallu cynhyrchu niferoedd o gwestiynau ydw/nac ydw, roedd pob ymateb yn cael ei ddadansoddi â llaw i gael safbwyntiau ansoddol.

Nodwyd themâu allweddol a ddaeth i’r amlwg drwy gyfres o ‘dagiau’. Bu’r fethodoleg hon yn gymorth i dynnu allan y data a ddeilliodd o’r ymgynghoriad o ran niferoedd yr ymatebwyr yn mynegi safbwynt penodol.

2.4 Crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd

Mae’r adran hon yn darparu crynodeb o’r ymgynghoriad ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad. Nid yw’n ceisio cipio’r holl adborth a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad, nac ychwaith yn ymdrin â materion sydd y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. Defnyddiwyd yr adborth hwn i lywio adolygiad y canllawiau.

Mae’r adran hon hefyd yn crynhoi’r newidiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud i’r canllawiau, ar ôl ystyried yn ofalus yr holl gyfarfodydd adborth i’r ymgynghoriad.

Codwyd llawer o faterion ychwanegol yn ddefnyddiol hefyd. Mae’r rhain yn disgyn y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn ond serch hynny maent yn berthnasol i gam- drin domestig a niwed cysylltiedig.

Roedd cwestiynau 6-18 yn benagored a gofynnwyd am wybodaeth am gynnwys ac eglurder y canllawiau drafft. Mae’r rhain wedi’u nodi fel a ganlyn:

  • Cwestiwn 6 – Oes gennych unrhyw sylwadau ar yr adran ‘Cam 1 Cyswllt Cychwynnol gyda’r heddlu’, gan gynnwys ar geisiadau ar-lein, o ran cynnwys neu eglurder? Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.
  • Cwestiwn 7 – Oes gennych unrhyw sylwadau ar yr adran ‘Cyfarfod wyneb yn wyneb’, o ran cynnwys neu eglurder? Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.
  • Cwestiwn 8 – Oes gennych unrhyw sylwadau ar yr adran ‘Cam 3 Asesiad Risg Llawn’, o ran cynnwys neu eglurder? Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.
  • Cwestiwn 9 – Oes gennych unrhyw sylwadau ar Baragraff 64 ‘Rhannu gwybodaeth gyda’r fforwm aml-asiantaeth lleol’ o ran cynnwys neu eglurder? Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.
  • Cwestiwn 10 – Oes gennych unrhyw sylwadau ar Baragraff 75 (‘Egwyddorion mae’n rhaid i’r fforwm aml-asiantaeth lleol neu’r tîm cam-drin domestig arbenigol eu hystyried wrth benderfynu a ddylid datgelu’) o ran cynnwys neu eglurder? Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.
  • Cwestiwn 11 – Oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch cynnwys neu eglurder ar yr amserlenni ar gyfer datgelu a amlinellir yn y canllawiau? Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.
  • Cwestiwn 12 – Ydych chi’n meddwl bod unrhyw rwystrau allweddol eraill yn wynebu asiantaethau rheng flaen o ran defnyddio Cynllun Datgelu Trais Domestig? Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.
  • Cwestiwn 13 – Ydych chi’n meddwl bod unrhyw ffyrdd trosfwaol y gellid gwella’r canllawiau? Rhowch sylwadau. Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.
  • Cwestiwn 14 – Ydych chi’n meddwl bod unrhyw fylchau sylweddol yn y canllawiau y dylid mynd i’r afael â hwy? Rhowch “Na” os nad oes gennych farn.

Dylid nodi nad oedd yn rhaid i ymatebwyr ateb pob un o’r cwestiynau uchod.

2.5 Themâu a materion allweddol

Cafodd yr holl atebion i bob cwestiwn eu hadolygu a’u categoreiddio (‘tagio’) o dan themâu allweddol ar gyfer dadansoddiad thematig. Mae pob ymateb, drwy’r arolwg clyfar a thrwy e-bost wedi’u dadansoddi ac mae’r materion mwyaf cyson a pherthnasol a godwyd wedi’u crynhoi fel a ganlyn:

  • eglurder ynghylch yr hyn sy’n diffinio personau ‘A’, ‘B’, ‘C’ a thrydydd parti a’u rolau yn y broses
  • rhyngweithio wyneb yn wyneb gorfodol drwy gydol y broses ddatgelu yn erbyn cyswllt ffôn
  • diogelu personau ‘A’, ac unrhyw blant perthnasol, yn unol â Deddf Cyfraith Teulu 1996, yn arbennig wrth gynnwys personau ‘B’ yn y broses
  • atgyfeiriadau i MARAC neu baneli aml-asiantaeth lleol a’u diben yn y broses
  • asesiadau risg
  • hyfforddiant, adnoddau a dealltwriaeth yr heddlu

Yn yr adran ganlynol rydym wedi defnyddio’r termau “nifer fawr” i gyfeirio at themâu neu sylwadau a oedd yn hynod gyffredin yn yr ymatebion a dderbyniwyd lle nad oeddent yn wag a “rhai” i gyfeirio at sylwadau a godwyd i raddau llai ond mewn lleiafrif sylweddol o ymatebion.

Eglurder ar beth sy’n diffinio personau ‘A’, ‘B’, ‘C’ a thrydydd parti a’u rolau yn y broses

Ymateb i’r ymgynghoriad

Roedd nifer fawr o ymatebwyr wedi awgrymu bod y diffiniadau o bersonau A, B, C a thrydydd parti yn creu dryswch. Roedd tystiolaeth anecdotaidd bod heddluoedd, oherwydd diffyg eglurder, wedi bod yn gyndyn i fwrw ymlaen â’r CDTD ar y sail hon, er enghraifft os oeddent yn meddwl nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y CDTD. Awgrymwyd hefyd y dylid ehangu’r diffiniad ar gyfer person A i gynnwys y rheini a allai fod wedi bod yn gysylltiedig “yn achlysurol” neu lle nad oedd y naill barti na’r llall yn ystyried ei bod yn berthynas ffurfiol, a’i gwneud yn gliriach y gallai person A fod mewn perthynas agos flaenorol gyda pherson B.

Gwnaethpwyd argymhellion y dylid aralleirio’r diffiniadau o A, B, C a thrydydd parti gydag eglurder ar rôl pob person yn y broses, yn enwedig i glirio dryswch ynghylch y gwahaniaeth rhwng personau C a thrydydd parti.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r diffiniadau ar gyfer personau A, B, C a thrydydd parti wedi’u hadolygu yn y canllawiau er mwyn darparu eglurder ynghylch at bwy y maent yn cyfeirio a’u rôl yn y broses. Mae hyn yn cynnwys ehangu’r diffiniad o berson A a darparu eglurder ar y gwahaniaeth rhwng person C (ymgeisydd), a thrydydd parti arall y gwneir datgeliad iddo.

Rhyngweithio wyneb yn wyneb gorfodol drwy gydol y broses ddatgelu yn erbyn cyswllt ffôn

Ymateb i’r ymgynghoriad

Er bod llawer o ymatebwyr yn cymeradwyo cynnwys technoleg wyneb yn wyneb yn y canllawiau wedi’u diweddaru, teimlai llawer o ymatebwyr nad oedd hyn yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod y CDTD yn gynhwysol i wahanol anghenion yr holl ymgeiswyr. Argymhellodd yr ymatebwyr y dylid ychwanegu cyfathrebiad ffôn fel opsiwn i gysylltu â’r ymgeisydd ac fel modd o ddatgelu. Roeddent yn argymell hyn ar y sail efallai nad yw ymgeiswyr eisiau cyfarfod yn bersonol, ac nad yw bob amser yn ddiogel iddynt wneud hynny ac efallai na fyddant yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio galwadau fideo. Roedd llawer o ymatebwyr a argymhellodd caniatáu cyfathrebu dros y ffôn a datgelu gwybodaeth yn amodi’r angen am hyn trwy gyfiawnhau’r gallu i fedru sefydlu manylion pellach o hyd i asesu risg, asesu a yw’r cais yn ddilys a chynnig diogelwch pob gwybodaeth drwy alwad ffôn. Roeddent hefyd yn cydnabod, er nad yw hyn yn addas ym mhob achos, y gallai fod mewn rhai achosion ac y dylid ei asesu fesul achos a’i ychwanegu fel opsiwn cymesur yn y canllawiau.

Fodd bynnag, dadleuodd rhai ymatebwyr i’r gwrthwyneb wrth ystyried y ffôn fel modd o gysylltu â’r ymgeisydd neu fel modd o ddatgelu. Roeddent yn dadlau y byddai’n anoddach diogelu’r ymgeisydd drwy’r dull hwn a bod cyswllt wyneb yn wyneb yn hanfodol i gadarnhau cyfreithlondeb ymgeisydd a sefydlu risg yn drylwyr er mwyn llunio cynllun diogelwch.

Ymateb y Llywodraeth

Ar ôl ystyried adborth yr ymgynghoriad a’r dadleuon o blaid ac yn erbyn defnyddio cyfathrebu ffôn yn y broses CDTD, ar ôl pwyso a mesur rydym wedi cynnwys yr opsiwn i ddefnyddio ffonau fel cyfrwng cyfathrebu yn y CDTD. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn ar y sail bod y CDTD trwy ehangu’r dulliau o gyfathrebu o fewn y broses, yn fwy hygyrch i bawb a allai fod angen ei ddefnyddio, gan gynnwys y rhai mewn cymunedau gwledig, neu’r rhai nad oes ganddynt dechnoleg i wneud galwadau fideo. Mae hyn felly yn rhoi mwy o ymreolaeth i’r heddlu i ddefnyddio’r dull a ystyrir orau ar gyfer y dioddefwr fesul achos ac yn rhoi anghenion y dioddefwyr wrth galon y CDTD. Mae’r canllawiau fodd bynnag yn rhybuddio bod yn rhaid dal i ddilyn yr holl weithdrefnau diogelu a’u cyflawni’n briodol wrth ddefnyddio cyfathrebu teleffon a’r un camau er mwyn sicrhau bod y dioddefwr yn cael ei ddiogelu’n ddigonol, yn ogystal â’r angen i sicrhau gwiriad o hunaniaeth yr unigolyn y mae’r datgeliad yn cael ei wneud iddo. Byddwn yn parhau i adolygu hyn.

Diogelu A, a lle bo’n berthnasol, unrhyw blant perthnasol yn unol â Deddf Cyfraith Teulu 1996, yn arbennig wrth ymwneud â phersonau B yn y broses.

Ymateb i’r ymgynghoriad

Nodwyd mewn rhai ymatebion i’r ymgynghoriad bod ymestyn y diffiniad o berthynas bersonol agos, yn seiliedig ar y diffiniad o ‘bersonol gysylltiedig’ yn y Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn newid i’w groesau a fydd yn annog datgelu lle mae perthnasoedd, er enghraifft, yn y camau cynnar neu’n fwy “achlysurol” eu natur gan ganiatáu i fwy o ddioddefwyr posibl gael eu cyrraedd. Ond roedd nifer fawr o ymatebwyr wedi awgrymu y gallai’r canllawiau fynd ymhellach i bwysleisio diogelwch dioddefwyr ac unrhyw blant perthnasol yn unol â Deddf Cyfraith Teulu 1996. Roedd pryder penodol ynghylch y goblygiad y gellir cysylltu â B cyn gwneud penderfyniad am ddatgelu mewn achosion lle gellid barnu ei bod yn angenrheidiol i B geisio sylwadau. Roedd yr ymatebwyr yn rhagdybio bod risg y byddai hyn, mewn llawer o achosion, yn peri risg i A ac yn tanseilio caniatâd A i ddatgeliad.

O ystyried bod Deddf CDTD yn cydnabod plant yn benodol fel dioddefwyr os ydynt yn gweld, yn clywed neu’n profi effeithiau cam-drin, fe wnaeth nifer fawr o ymatebwyr hefyd gynnig sylwadau ar yr angen am y pwyslais ar blant fel dioddefwyr a’u diogelwch trwy gydol y canllawiau.

Felly gwnaed argymhellion y dylid ail-ystyried diogelwch dioddefwyr, gan gynnwys diogelwch unrhyw blant perthnasol, yn unol â Deddf Cyfraith Teulu 1996, trwy gydol y camau er mwyn sicrhau bod diogelwch A wrth wraidd y broses drwyddi draw.

Argymhellwyd hefyd gan rai, o dan yr amgylchiadau hynny lle gallai fod angen i B fod yn ymwneud â’r broses, na ddylid ceisio sylwadau gan B heb yn gyntaf roi cyfle i A dynnu’r cais yn ôl er mwyn negyddu’r risg o niwed.

Ymateb y Llywodraeth

Mewn ymateb i adborth y dylai diogelwch dioddefwr, a diogelwch unrhyw blant perthnasol, yn unol â Deddf Cyfraith Teulu 1996, fod o’r pwys mwyaf trwy gydol y broses, rydym wedi adolygu’r canllawiau er mwyn sicrhau bod pwyslais yn cael ei roi ar ddiogelwch y dioddefwr ym mhob cam o’r broses CDTD ac i sicrhau bod dioddefwyr, a lle bo’n berthnasol, eu plant, wrth galon y broses. Rydym wedi sicrhau bod diogelwch dioddefwr yn cael ei drafod yn y canllawiau, ar bob cam, a bod y canllawiau yn cyfeirio’n benodol at ddiogelu plant, gan gynnwys cyfeirio at y defnydd o Ymgyrch Encompass lle bo angen.

Rydym hefyd wedi ychwanegu gofyniad, os oes angen cynnwys B yn y broses, bod yn rhaid hysbysu person A neu’r ymgeisydd a rhoi’r cyfle iddynt dynnu eu cais yn ôl er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu rhoi mewn unrhyw berygl ac i sicrhau tryloywder yn y broses.

Atgyfeiriadau i MARAC neu baneli aml-asiantaeth lleol a’u diben yn y broses

Ymateb i’r ymgynghoriad

Tynnodd nifer fawr o ymatebwyr sylw at y ffaith bod defnydd a diben MARACs neu baneli penderfyniadau aml-asiantaeth lleol ym mhroses benderfynu CDTD yn aneglur, gyda rhai yn nodi bod eu diben fel y cynigir yn y canllawiau drafft yn wrthgynhyrchiol. Awgrymwyd bod y canllawiau ar ddiben MARACs a phaneli penderfyniadau aml-asiantaeth lleol yn y CDTD yn arwain at ddryswch ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol i ddatgelu gwybodaeth. Codwyd hefyd gyda’r amod yn y canllawiau y dylid cyfeirio pob achos at MARAC neu banel penderfynu aml-asiantaeth lleol fel rhan o’r broses CDTD, y byddai’r broses yn cael ei gohirio ac felly ni chyflawnwyd yr amserlen fyrrach newydd o 28 diwrnod. Tynnodd rhai ymatebwyr sylw hefyd y byddai’r disgwyliad y dylid cyfeirio pob achos at MARAC neu fforwm aml-asiantaeth lleol yn arwain at broblemau gallu ac adnoddau yn eu heddluoedd a fyddai’n golygu na fyddai cymaint o geisiadau CDTD yn gallu cael eu trin pe bai’r gofyniad hyn yn digwydd.

Argymhellwyd bod y canllawiau yn nodi mai dim ond achosion a amlygwyd fel rhai risg uchel y dylid eu cyfeirio at MARAC ac y dylid ystyried hyn fesul achos.

Pwysleisiodd nifer fawr o’r ymatebwyr y ffaith y dylai’r canllawiau nodi’n glir mai’r heddlu sydd â’r penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth ac na ddylai unrhyw ymgynghoriad gyda fforymau aml-asiantaeth fel rhan o’r broses a nodir yn y canllawiau effeithio ar benderfyniadau datgelu.

Ymateb y Llywodraeth

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae diben MARACs neu baneli penderfynu aml- asiantaeth lleol yn y broses wedi’i ail-fframio. Rydym wedi dileu unrhyw oblygiad y dylai pob achos gael ei gyfeirio at MARAC neu gyfwerth fel rhan o’r broses benderfynu. Rydym wedi awgrymu hefyd ei bod yn arfer da i rannu achosion CDTD gyda fforymau aml-asiantaeth i ddarparu ystyriaethau ychwanegol ynghylch datgelu, ac at ddibenion rhannu gwybodaeth; fodd bynnag mae’r canllawiau yn hollol glir bod y penderfyniad terfynol ynghylch datgelu yn gorffwys gyda’r heddlu. Er hyn, rydym

wedi egluro a phwysleisio’r gofyniad bod yn rhaid i unrhyw achos a amlygir fel un risg uchel yn y broses gael ei rannu â MARAC neu fforwm penderfynu aml- asiantaeth lleol er mwyn sicrhau bod diogelwch y dioddefwr ar flaen y gad yn y CDTD a bod gweithdrefnau ffurfiol yn cael eu dilyn. Nid yw lefelau risg ymgeiswyr yn statig ychwaith, ac mae’r canllawiau yn nodi’n glir y dylid ailedrych ar hyn yn barhaus.

Asesiadau risg yn y CDTD

Ymateb i’r ymgynghoriad

Dywedodd rhai o’r ymatebwyr nad oedd y gofyniad yn y canllawiau i gynnal asesiad risg llawn (Asesiad Risg Cam-drin Domestig (DARA), Cam-drin Domestig, Stelcio a Thrais ar Sail ‘Anrhydedd’ (DASH) neu gyfwerth) yn dilyn y cyfarfod cychwynnol gydag A ddim yn gymesur. Roeddent yn teimlo ei bod yn anymarferol ac yn ddiangen cynnal asesiad risg llawn pan na fyddai ymgeisydd o bosibl yn ddioddefwr neu mewn perygl. Argymhellwyd yn lle hynny bod cynllun parhaus yn cael ei lunio, sefydlu unrhyw risg i A, ac ystyried asesiad risg llawn fesul achos. Dywedasant hefyd y dylid ailedrych ar yr angen am asesiad risg llawn drwy gydol y broses CDTD ac y gweithredir ar unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau yn unol â hynny. Ni wnaeth llawer o ymatebwyr gynnig sylwadau ar y maes hwn.

Dywedodd rhai ymatebwyr hefyd fod y canllawiau, ar brydiau, yn cyfeirio at A fel y dioddefwr y credent ei bod yn anghywir o ystyried na fydd A bob amser o reidrwydd yn ddioddefwr. Argymhellwyd ar y sail hon fod y geiriad yn cael ei newid.

Ymateb y Llywodraeth

Bellach nid oes angen i’r canllawiau gynnal asesiad risg llawn (DARA, DASH neu gyfwerth) yn dilyn y cyfarfod cychwynnol ar gyfer pob achos. Yn hytrach, mae’n rhoi pwyslais ar gynllunio diogelwch parhaus. Dylai’r person sy’n gwneud y cyswllt cychwynnol, sy’n trin yr achos wedyn ac felly’n dyfeisio’r cynllun diogelwch, feddu ar lefel briodol o arbenigedd cam-drin domestig. O dan yr amgylchiadau hynny lle nad oes swyddog gyda’r lefel yma o wybodaeth ar gael, mae’r canllawiau yn nodi y dylid defnyddio cwestiynau mewn DARA, DASH neu gyfwerth fel ysgogiad i gasglu gwybodaeth berthnasol i sefydlu risg a dyfeisio’r cynllun diogelwch. Mae’r canllawiau hefyd yn nodi, yn ystod y cyswllt cychwynnol, neu ar unrhyw gam o’r broses, os yw’n ymddangos bod A yn datgelu digwyddiad o gam-drin domestig, rhaid cynnal DARA, DASH neu gyfwerth llawn i sicrhau bod A ac unrhyw blant yn cael eu diogelu’n briodol. Mae’r canllawiau yn nodi’r angen i ailymweld ac ailystyried yr angen am asesiad risg ar bob cam o’r broses fel rhan o gynllunio diogelwch parhaus.

Hyfforddiant, adnoddau a dealltwriaeth yr heddlu o’r CDTD

Ymateb i’r ymgynghoriad

Tra bod ymatebwyr wedi croesawu bod canllawiau’r CDTD yn cael eu diweddaru a’u gosod mewn statud, codwyd pryderon ynghylch hyfforddiant a gwybodaeth ddigonol am y cynllun ac adnoddau’r heddlu i weithredu a defnyddio’r CDTD yn llawn.

Teimlai’r ymatebwyr hyn fod angen hyfforddiant pellach mewn perthynas â sut mae’r CDTD yn gweithio. Roeddent hefyd yn teimlo bod angen hyfforddiant pellach i sicrhau bod dealltwriaeth gyffredinol bod cam-drin domestig yn ehangach na thrais corfforol yn unig, fel y gellir deall a chydnabod cymhlethdodau cam-drin yn llawn.

Cododd rhai ymatebwyr bryderon hefyd am achosion dioddefwyr nad oeddent yn cael eu hymchwilio’n rhagweithiol a gwybodaeth yn cael ei rannu, yn aml oherwydd diffyg dealltwriaeth o natur cam-drin domestig a diffyg adnoddau heddlu, yn enwedig wrth ddefnyddio rhan “Hawl i Wybod” y CDTD.

Ymateb y Llywodraeth

Er bod yr argymhellion hyn y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad, mae’r Llywodraeth wedi nodi ac yn cydnabod y pryderon hyn. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r Coleg Plismona i annog pobl i fanteisio ar y rhaglen Materion Trais Domestig er mwyn safoni ymateb yr heddlu i’r gamdriniaeth a hybu dealltwriaeth yr heddlu o droseddau o’r natur yma.

Pennod 3 – Casgliad, camau nesaf a manylion cyswllt

3.1 Casgliad a chamau nesaf

Hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd i ymgynghoriad y Cynllun Datgelu Trais Domestig Canllawiau ac a gyfrannodd at ailddrafftio’r canllawiau. O’r ymatebion a dderbyniwyd roedd consensws cyffredinol yn cefnogi ein hymagwedd bresennol; fodd bynnag, amlygwyd nifer o feysydd lle y gellid cryfhau’r canllawiau, yn enwedig o ran asesiadau risg a diogelu, diben MARACs neu gyfwerth yn y broses, datgeliadau teleffon ac adnoddau heddlu. Gan ystyried yr ymatebion s gyflwynwyd i’r ymgynghoriad hwn, rydym wedi diweddaru’r canllawiau, sydd wedi’u cyhoeddi ar GOV.UK ar 20 Chwefror 2023 ochr yn ochr ag ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad. Nid yw’r canllawiau’n cael unrhyw effaith nes bod adran 77 o’r Ddeddf wedi’i chychwyn.

Bwriedir i’r canllawiau hyn gael eu darllen ochr yn ochr â Chanllawiau Statudol Cam-drin Domestig, Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiolm(Cymru) Act 2015 a Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) ar ei newydd wedd a ddilynwyd gan Gynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig a Datganiad Sefyllfa ar Ddioddefwyr Gwryw o droseddau a ystyriwyd yn y Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched ar draws y Llywodraeth a’r Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig.

Mae’r Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig yn nodi’r manylion am yr ystod o fesurau y mae Llywodraeth EF yn eu cymryd i alluogi’r system gyfan i weithredu’n fwy cydlynol ac effeithiol. Mae’r Strategaeth Mynd i’r Afael â VAWG a’r Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig yn cael eu cefnogi gan Ddatganiad Disgwyliadau Cenedlaethol diwygiedig, sy’n darparu canllawiau clir a chyson ar gyfer ardaloedd lleol ar sut i gomisiynu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr pob math o drais yn erbyn menywod a merched.

Hoffem unwaith eto ddiolch i’r holl unigolion a sefydliadau sydd wedi cymryd amser i gyflwyno eu sylwadau a thystiolaeth i lywio datblygiad y Canllawiau Cynllun Datgelu Trais Domestig

3.2 Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ymateb y llywodraeth i’r Canllawiau Cam-drin Domestig, cysylltwch â:

Tîm Cyflawnwyr Cam-drin Domestig a Phlismona

Uned Cam-drin Rhyngbersonol
5ed Llawr, Adeilad Fry
Swyddfa Gartref
2 Marsham Street
Llundain, SW1P 4DF

CDTD-ymgynghoriad@swyddfagartref.gov.uk

Atodiad A – Geirfa o acronymau

DARA – Asesiad Risg Cam-drin Domestig

DASH – Cam-drin Domestig, Stelcio ac Asesiad Trais ar Sail Anrhydedd

CDTD – Cynllun Datgelu Trais Domestig

CHTh – Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

VAWG – Trais yn Erbyn Menywod a Merched

  1. Rydym yn diffinio ymatebion gwag fel y rhai lle na roddwyd gwybodaeth heibio i gwestiwn 5