Consultation outcome

Canllawiau Cynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS) (accessible version)

Updated 7 July 2023

[DRAFFT]

1. Rhagair

  1. Mae cam-drin domestig, gan gynnwys trais domestig, yn drosedd ddinistriol sy’n chwalu bywydau dioddefwyr a theuluoedd. Yn y flwyddyn 2019/20, roedd 114 achos o ddynladdiad drwy gam-drin domestig wedi effeithio ar ddioddefwyr 16 oed ac yn hŷn, ac roedd 81 ohonynt yn fenywod[footnote 1]. Ceir diffiniad statudol o gam-drin domestig yn Neddf Cam-drin Ddomestig 2021 (“Deddf 2021”) sy’n ei nodi yn glir nad trais corfforol yn unig yw cam-drin domestig, ond gall hefyd fod yn gam-drin emosiynol, ymddygiad sy’n rheoli neu’n cymell, a cham-drin economaidd[footnote 2].

  2. Cyflwynwyd Cynllun Datgelu Trais Domestig (“DVDS”) – a gyfeirir ato yn aml fel “Cyfraith Clare” ar ôl achos trist Clare Wood, a lofruddiwyd gan ei chyn-bartner ym Manceinion Fwyaf yn 2009 – i bob un o’r 43 o heddluoedd Cymru a Lloegr ym mis Mawrth 2014 ar ôl cynllun peilot llwyddiannus o 14 mis. Cyflwynwyd DVDS i nodi gweithdrefnau y gallai’r heddlu eu defnyddio i ddatgelu gwybodaeth am droseddau treisgar neu gam-drin blaenorol, gangynnwys cam-drin emosiynol, ymddygiad sy’n rheoli neu’n cymell, neu gam-drin economaiddgan unigolyn lle gallai hyn helpu i amddiffyn ei bartner neu gyn-bartner rhag dioddef troseddau treisgar neu gam-drin. Adolygwyd DVDS yn 2015.

  3. Ni chyflwynwyd unhyw ddeddfwriaeth newydd. Mae’n dibynnuar bŵer cyfraith gyffredin yr heddlu i ddatgelu gwybodaeth lle bo angen i atal troseddu a darparu strwythur a phrosesau i arfer y pwerau hynny . Nid yw’n darparu nac yn creu pweraucyfreithiolnewydd i ddatgelu gwybodaeth ac mae’n darparu fframwaith ar gyfer datgelu o dan yr amgylchiadau penodol hyn. Nid yw’n cael unrhyw effaith ar unrhyw ddatgeliadau cyfreithlon eraill gan yr heddlu mewn amgylchiadau sydd y tu allan i strwythur DVDS.

  4. Mae Adran 77 yn gosod canllawiau ar gyfer DVDS ar sail statudol drwy osod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Cartref i gyhoeddi canllawiau ar DVDS i brif swyddogion yr heddlu[footnote 3]. Nid yw Deddf 2021 yn newid y sail gyfreithiol y gall yr heddlu ddatgelu gwybodaeth oddi ohoni, ond mae’n gosod dyletswydd ar yr heddlu i ystyried y canllawiau wrth ddefnyddio DVDS. Mae hyn i bob pwrpas yn golygu y byddai angen i unrhyw heddlu sy’n ceisio dirymu’r canllawiau gyfiawnhau’r camau gweithredu hynny gyda rheswm da - ac, os caiff ei gwestiynu, byddai angen iddynt allu dangos bod y dyletswydd wedi’i ystyried, ond bod ganddynt resymau cadarn dros fethu â glynu wrthi.

  5. Rhaid i unrhyw ddatgeliad o wybodaeth gan yr heddlu gydymffurfio ag egwyddorion y gyfraith gyffredin a sefydlwyd mewn cyfraith achosion, a chael ei wneud yn unol â deddfwriaeth gyffredinol berthnasol fel Deddf Hawliau Dynol 1998 (“HRA 1998”), Deddf Diogelu Data 2018 (“DPA 2018”) a Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (“ROA 1974”).

  6. Diben y canllawiau hyn yw cefnogi’r gwaith o gyflwyno DVDS a chynorthwyo swyddogion rheng flaen a’r rhai sy’n gweithio ym maes diogelu’r cyhoedd mewn capasiti ymarferol. Mae’n adeiladu ar y canllawiau gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2012, a’r ystyriaethau polisi a nodwyd yn adolygiad 2015 a oedd yn ehangu y Cynllun i gynnwys cyn-bartneriaid. Mae’n darparu manylion ynghylch beth yw bod mewn perthynas “personol agos” at ddibenion cael eu cysylltu yn bersonol yn ôl Deddf 2021. Dylai’r heddlu ystyried pob achos, ac a ddylid datgelu’r wybodaeth dan sylw, yn ôl ei rhinweddau ei hun a dylai ystyried ceisio cyngor cyfreithiol ar ddehongli lle mae achosion unigol yn codi materion cymhleth iawn neu anarferol.

  7. Mae’r canllawiau hyn hefyd wedi’u diweddaru i gynnwys sut y gellir defnyddio dulliau cyfathrebu gwahanol megis trwy dechnoleg a chyfryngau cymdeithasol i alluogi dioddefwyr neu ddioddefwyr posibl gael datgeliadau.

  8. Cesglir data ar ddefnydd DVDS fel rhan o Ffurflen Data Flynyddol yr heddlu (ADR) a gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS). Bydd heddluoedd yn darparu’r wybodaeth er mwyn creu darlun cywir o sut gweithredir y cynllun yn genedlaethol.

  9. Ceir diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn y canllawiau hyn yn Atodiad A.

  10. Mae’n bwysig cofio mai diben y DVDS hwn yw hwyluso datgelu lle bo angen er mwyn amddiffyn dioddefwr posibl rhag niwed. Dylid ystyried pob cais am wybodaeth o dan DVDS yn ôl rhinweddau ei hun a dylai’r heddlu ofyn am gyngor cyfreithiol pan fo angen cyn arfer eu pwerau datgelu cyfraith gyffredin. Efallai y bydd adegau pan na fyddai gwybodaeth yn cael ei datgelu yn unol â’r Cynllun Datgelu Trais Domestig, ond mae datgelu gan yr heddlu dal yn bosibl ac yn gyson â phwerau’r heddlu i rannu gwybodaeth a rhwymedigaethau cyfreithiol ehangach, mewn amgylchiadau o’r fath lle bo angen gofyn am gyngor cyfreithiol.

2. Beth yw’r Cynllun Datgelu Trais Domestig?

10. Mae gan yr heddlu bwerau cyfraith gyffredin i ddatgelu gwybodaeth, lle mae angen ar lefel gymdeithasol i wneud hynny. Yn y cyd-destun hwn, mae’r pwerau hyn yn sail i ddatgeliadau o dan y DVDS, sy’n golygu yn ymarferol y gellir rhannu gwybodaeth am hanes hysbys unigolyno drais neu gamdriniaeth, sydd fel arfer yn ymwneud ag euogfarnau neu gyhuddiad blaenorol, i’r cyhoedd lle mae angen ar frys i ddatgelu’r wybodaeth er mwyn atal troseddu pellach. Prif nod y DVDS yw cyflwyno gweithdrefnau cydnabyddedig a chyson ar gyfer arfer y pŵer hwn yn y cyd-destun hwn, i alluogi’r heddlu i ddatgelu gwybodaeth lle byddai’n diogelu aelod o’r cyhoedd a allai fod mewn perygl o niwed o drais neu gam-drin domestig. Mae’r angen i gwblhau asesiad risg ar bob cam o’r broses ddatgelu yn hanfodol i lwyddiant y cynllun, gan y bydd hyn yn llywio’r camau ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer diogelu’r dioddefwr posibl.

11. Mae’r DVDS yn cydnabod dau weithdrefn ar gyfer datgelu gwybodaeth:

Mae’r “Hawl i ofyn”yn digwydd pan fydd aelod o’r cyhoedd yn gwneud cais i’r heddlu am ddatgeliad.

Mae’r “Hawl i wybod”yn digwydd pan fydd yr heddlu yn gwneud penderfyniad rhagweithiol i ddatgelu gwybodaeth i amddiffyn dioddefwr posibl.

12. Mae’r DVDS yn darparu’r manteision canlynol:

  • a. mae’n cyflwyno gweithdrefnau cydnabyddedig a chyson ar gyfer datgelu gwybodaeth sy’n galluogi unigolyn (A) sydd/a oedd mewn perthynas bersonol agos ag unigolyn a oedd yn arfer bod yn dreisgar neu’n sarhaus (B) i wneud dewisiadau gwybodus am aros yn y berthynas honno neu am eu diogelwch personol os nad ydynt yn aros yn y berthynas bellach;
  • b. mae’n ail-ffurfio’r drefn flaenorol, lle roedd datgelu yn bennaf yn digwydd mewn ffordd adweithiol panoedd gan asiantaethau wybodaeth am droseddwr a oedd â hanes o drais blaenorol;
  • c. o dan yr “hawl i ofyn”, gall aelodau unigol o’r cyhoedd, p’un a yw’r unigolyn (A) neu drydydd parti (C), fynd ati’n rhagweithiol i geisio gwybodaeth, gan ddisgwyl y bydd yr asiantaethau sy’n gyfrifol am ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig yn gwirio a oes gwybodaeth berthnasol yn bodoli ac os felly, byddant yn ystyried ei datgelu lle bo angen i amddiffyn y dioddefwr;
  • d. o dan yr “hawl i wybod”, pan fydd asiantaeth ddiogelu yn derbyn gwybodaeth am ymddygiad treisgar a sarhaus blaenorol oBa allai achosiniwed i A, gall aelodau o’r cyhoedd ddisgwyl i’r asiantaeth ddiogelu ystyried a ddylid unrhyw ddatgeliad digwydd ac os felly i ddatgelu gwybodaeth os yw’n gyfreithlon, h.y. os yw’n angenrheidiol ac yn gymesur i amddiffyn y dioddefwr posibl rhag troseddu;
  • e. mae’n gwneud i aelodau o’r cyhoedd neu’r heddlu gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch y dioddefwr posibl.

13. Mae’r DVDS yn rhoi sylw ar ddatgelu a rheoli risg lle nodir bod ganBgollfarn, rhybudd, cerydd, neu rybudd terfynol am gam-drin domestig neu droseddau cysylltiedig; a/neu wybodaeth am ymddygiad Bsy’n rhoi sail rhesymol i’r heddlu ac asiantaethau diogelu eraill gredu bodByn peri risg o niwed iA. Mae rhestr anghyflawn o’r troseddau perthnasol yn Atodiad B.

14. Bydd perthynas bersonol agos yn wahanol o un achos i’r llall; fodd bynnag, gallai perthynas fod yn agos hyd yn oed os nad oedd yn berthynas gorfforol, rywiol, ond ei bod ond yn seiliedig ar agosatrwydd emosiynol yn unig, neu i’r gwrthwyneb, ac er y gallai ddibynnu, yn rhannol, ar p’un a oedd y rhai yn y berthynas yn ystyried ei fod yn agos, gallai fod yn agos hyd yn oed pe na bai’r eraill yn ei ystyried yn berthynas ffurfiol. Mater i’r Llys benderfynu beth fyddai’n cael ei hystyried yn berthynas bersonol agos pe bai’n berthnasol i achos o’i flaen.

15. Mae’n bwysig i bawb sy’n rhan o gyflwyno’r cynllun hwn fod dioddefwyr posibl neu ddioddefwyro drais a cham-drin domestigyn cael eu hamddiffyn rhag niwed. Drwy wneud cais am ddatgeliad, bydd person hefyd yn aml yn rhoi gwybod am bryderon am risgiau posibl i’w ddiogelwch ei hun neu ddiogelwch unigolyn arall. Dylid cwblhau asesiad risg ar bob cam o’r broses ddatgelu, adylid achosion sy’n cael eu hystyried yn risg uchelgael eu rhannu gyda MARAC neu bartneriaethau lleol cyfatebol eraill at ddibenion diogelu yn unol ag arferion asesu risg arferol yr heddluoedd er mwyn sicrhau bod unrhyw risg posibl o niwed i Ayn cael ei asesu a’i reoli’n llawn.

16. Er bod heddluoedd bob tro yn cael eu hannog i weithio’n agos gyda’r Gynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol leol (MARAC) neu fforymau diogelu lleol addas eraill neu bartneriaid perthnasol (h.y. iechyd, addysgu a gwasanaethau cymdeithasol) fel rhan o’r broses gwneud penderfyniadau, lle nad yw achosion yn cael eu hystyried yn risg uchel, gellir gwneud hyn fesul achos.

17. Dylai heddluoedd ystyried Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig Coleg Plismona ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac ymatebion amlasiantaethol (college.police.uk), Diogelwch a chymorth i Ddioddefwyr (college.police.uk) , a Risg a bregusrwydd (college.police.uk) wrth benderfynu a ddylid cyfeirio achosion at fforymau diogelu megis MARAC.

18. Nid yw’r DVDS yn disodli’r trefniadau ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yr “hawl mynediad” gan unigolion i’w data personol (a oedd yn arfer cael ei gyfeirio ato fel cais Gwrthrych am Wybodaeth) neu geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI). Os nodir yn y man cyntaf bod y cais yn un o’r mathau eraill hyn o ymholiad, yna dylid ei gyfeirio at y llwybr ar gyfer y math hwn o gais. Dylid gofyn am gyngor cyfreithiol yr heddlu lle bo angen.

19. Gall DVDS groesi â phrosesau datgelu eraill, megis Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA) a’r Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw gyda Phlant (Cyfraith Sarah). Dylid ystyried pa broses sydd fwyaf priodol i’w defnyddio ym mhob achos.

Ffigur 1: Crynodeb o lwybrau y Cynllun Datgelu Trais Domestig

Crynodeb o lwybrau y Cynllun Datgelu Trais Domestig
Llwybr 1: “Eich hawl i ofyn” Llwybr 2: “Eich hawl i wybod”
Cam 1: Cyswllt cyntaf â’r heddlu gan aelod o’r cyhoedd  
Cam 2: Dilysu wyneb yn wyneb Gwybodaeth anuniongyrchol a dderbyniwyd gan yr heddlu
Cam 3: Asesiad risg llawn  
Dylid rhannu achosion perygl mwyaf gyda MARAC neu bartneriaethau lleol cyfatebol. Anogir pob achos arall i gael ei rannu â fforymau aml-asiantaethol. Anogir pob achos arall i gael ei rannu â fforymau aml-asiantaethol. Dylid rhannu achosion perygl mwyaf gyda MARAC neu bartneriaethau lleol cyfatebol. Anogir pob achos arall i gael ei rannu â fforymau aml-asiantaethol. Anogir pob achos arall i gael ei rannu â fforymau aml-asiantaethol.
Penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth Penderfyniad i beidio â datgelu gwybodaeth

Noder: gellir penderfynu i beidio â bwrw ymlaen â datgeliad, yn seiliedig ar asesiad risg priodol, ar unrhyw adeg o’r broses.

3. Y broses

Llwybr “Hawl i ofyn”

Cam 1 - Cyswllt Cyntaf â’r Heddlu

17. At ddibenion y llwybr “hawl i ofyn”, beth allai arwain at ddatgeliad o dan y cynllun hwn yw pan fydd aelod o’r cyhoedd (A neu C) yn gwneud cais uniongyrchol i’r heddlu am wybodaeth am ymddygiad treisgar neu sarhaus blaenorol B. Fodd bynnag, os bydd Cyn gwneud cais, ni fydd o reidrwydd yn cael datgeliad oherwydd gall y person mwy priodol i gael datgeliad fod yn A neu yn berson a ystyrir yn ôl yr asesiad risg fel y person gorau i ddiogelu A (e.e. rhiant, gweithiwr trydydd sector).

18. Ystyrir bod cais uniongyrchol wedi’i wneud pan fydd naill ai A neu Cyn cysylltu â’r heddlu naill ai yn bersonol mewn gorsaf heddlu neu drwy fynd ar-lein ac yn gofyn am wybodaeth benodol am droseddutreisgar neu gam-drin blaenorol B.

19. Os bydd yr heddlu yn credu ar unrhyw adeg yn ystod y cyswllt cyntaf bod A neu Cyn honni trosedd (e.e. achos penodol o weithrred dreisgar neu gam-drin) yn hytrach na gofyn am wybodaeth am droseddu treisgar neu sarhausB, yna rhaid i’r heddlu ddilyn yr adroddiad troseddu o dan weithdrefnau ymchwilio troseddol arferol. Fodd bynnag, mae’n bosibl i’r gweithdrefnau sy’n arwain at ddatgeliad o dan y DVDS hwn redeg ar y cyd ag ymchwiliad troseddol wedi’i ddigwydd o ganlyniad i honiad trosedd.

20. Os byddA neu C yn gwneud ymholiad i asiantaeth bartner yn hytrach na’r heddlu, yna dylai gweithdrefnau arferol a ddilynwyd gan yr asiantaeth bartner ar gyfer ymdrin â’r math hwn o gais fod yn berthnasol. Fodd bynnag, os bydd A neu Cyn rhoi gwybod eu bod yn gwneud ymholiad o dan y DVDS, yna dylid cyfeirio A neu Cat yr heddlu. Gall asiantaeth bartner cynorthwyo â chysylltu â’r heddlu os yw’n briodol.

21. Os bydd A neuC yn ymweld â gorsaf heddlu yn bersonol, yna rhaid rhoi cyfle iddynt wneud eu hatgyfeiriad yn breifat, gan efallai y byddant yn teimlo’n anghyfforddus yn gwneud hynny o flaen aelodau eraill o’r cyhoedd. Dylai’r heddlu ysytried ei rwymedigaeth gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol i fodloni gofynion hygyrcheddA neu C. Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan heddluoedd lleol, fodd bynnag, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod A neu C yn gallu cymryd rhan lawnyn y broses. Rhaid i staff/swyddogion heddlu sydd wedi’u penodi i gynorthwyo â’r ymgeisydd fod â dealltwriaeth lawn o’r DVDS, yn benodol rhaid iddynt fod â’r wybodaeth a’r profiad i ddarparu cyngor diogelwch am gam-drin domestig i’r ymgeisydd, lle bo angen.

22. Ar ôl y cyfarfod, os yw’n briodol, dylai’r heddlu roi pecyn gwybodaeth i A neu Cam DVDS a ddylai roi gwybodaeth iddynt am yr hyn y gallant ei wneud yn y cyfamser i ddiogelu eu hunain yn well (neu A os mai C yw’r un sy’n gwneud cais) tra’n aros am ganlyniad y cais. Dylai’r pecyn gwybodaeth fod yn addas ar gyfer gofynion iaith ymgeisydd A neu C a dylai fod sgwrs byr ar lafar yn ychwanegol i esbonio’r cynnwys a’r camu nesaf. Bydd yr heddlu yn penderfynu ar gynnwys y pecyn gwybodaeth, ond dylai gynnwys y canlynol o leiaf:

  • a. taflen i esbonio DVDS
  • b. taflenni/gwybodaeth leol sy’n darparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol (Atodiad K)
  • c. Manylion cyswllt ar gyfer yr heddlu

23. Efallai na fydd yn briodol darparu pecyn gwybodaeth i A neu C lle mae risg o’u rhoi neu eraill mewn perygl (er enghraifft, drwy dderbyn y pecyn gwybodaeth y bydd B yn cael gwybod bod A neu C wedi cysylltu â’r heddlu). Os na ddarperir pecyn gwybodaeth, bydd dal angen cael sgwrs byr ar lafar am y cynllun a’r camau nesaf.

Ceisiadau Ar-lein

24. Os bydd A neuCyn defnyddio porth ar-lein i gwblhau eu cais cyntaf, rhaid i’r porth fod yn addas ar gyfer gofynion hygyrcheddA neu C. Dylai’r porth, o leiaf, gynnig dewislen aml-iaith i alluogi’r rhai sydd ag ychydig o ddealltwriaeth yn unig o’r Saesneg i gwblhau’r cais. Rhaid i’r swyddog/staff yr heddlu a benodwyd i gynorthwyo â’r ymgeisydd fod â dealltwriaeth lawn o’r DVDS, yn benodol mae’n rhaid iddynt fod â’r wybodaeth a’r profiad i ddarparu cyngor diogelwch am gam-drin domestig i ymgeisydd A neu Clle bo angen. Rhaid i’r porth ar-lein ganiatáu i A neu Cddarparu gwybodaeth am sut a phryd y gellir cysylltu â hwy.

25. Dylai’r porth ar-lein gynnwys cysylltiadau ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig cenedlaethol a lleol.

26. Mae perygl y gallai priod neu bartner sy’n cam-drin fod yn monitro defnydd cyfrifiadur yr ymgeisydd. Dylai pyrth ar-lein sicrhau bod gwybodaeth ar gael sy’n gysylltiedig â defnydd cyfrifiadurol yn ddiogel a all ddangos i ymgeiswyr sut i ddileu hanes y rhyngrwyd neu ddefnyddio pori preifat. Dylai hefyd fod botwm ‘dianc yn gyflym’ ar byrth ar-lein sydd, pan fyddwch yn ei glicio, yn mynd â’r defnyddiwr i safle arall heb godi amheuon.

Dylid cael a rhoi gwybodaeth yn ystod y cyswllt cyntaf

27. Pan fydd y cyswllt cyntaf yn cael ei wneud yn bersonol gan A neuC, rhagwelir y caiff ei dderbyn a’i reoli gan staff ystafell reoli’r heddlu. Pan fydd swyddogion heddlu rheng flaen a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn derbyn cais ar lafar yn ystod eu dyletswyddau plismona arferol, dylent gofnodi manylion sylfaenol A neu Cac yna rhoi atgyfeiriad at staff yr ystafell reoli i gwblhau’r cyswllt cyntaf.

28. Ar ôl cael y cyswllt cyntaf, dylai staff yr ystafell reoli gymryd manylion gan A neu C a nodir yn Atodiad C.

29. Dylai pyrth ar-lein o leiaf gaglu’r manylion a nodir yn Atodiad C

Noder: mae’n hanfodol, yn ystod y cyswllt cyntaf hwn, y cytunir ar ddull cyfathrebu diogel gydag A neu C lle mae’r lleoliad, dull cyfathrebu a’r amser yn cael eu pennu gan A neu C. Mae hyn ynhanfodolar gyfer diogelu A.

30. Yn ystod y cam cyswllt cyntaf, dylai naill ai aelod staff o’r heddlu neu’r borth ar-lein hefyd hysbysu A neu C o’r canlynol:

  • a. nid yw’r DVDS yn disodli gweithdrefnau sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau gwrthrych am wybodaeth neu geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS);
  • b. gwneir datgeliad ond i’r person sydd orau i ddiogeluA rhag niwed. Y person hwn fyddAfel arfer, oni bai bod rheswm da dros beidio â datgelu iA;
  • c. bydd gwiriadau cyntaf yn cael eu cwblhau cyn gynted â phosibl ac, mewn pob achos, o fewn 24 awr[footnote 4]i:
    • i. asesu a ddylid prosesu’r cais am ddatgeliad neu beidio;
    • ii. asesu a oes perygl uniongyrchol neu ar fin digwydd oAyn cael niwedrhag B;
  • d. os penderfynir prosesu’r cais datgelu ymhellach:
    • i. bydd y cais datgelu yn cael ei gyfeirio at Uned Diogelu’r Cyhoedd yr heddlu, neu staff eraill sydd wedi’u hyfforddi yn briodol, i weithredu;
    • ii. Bydd angen cael cyfarfodgydag A neu Co fewn y 10 diwrnod gwaithnesaf;
  • e. yn y cyfarfod wyneb yn wyneb,bydd yn ofynnol i A neu Croi tystiolaeth o’i hunaniaeth ac, os maiC yw’r ymgeisydd , tystiolaeth o’i berthynas ag A , megis negeseuon testun sy’n dangos tystiolaeth o’r berthynas;
  • f. bydd yr heddlu yn anelu at gwblhau’r ymholiad o fewn 28 diwrnod ond efallai y bydd amgylchiadau esgusodol sy’n golygu y gallai gymryd mwy o amser. Bydd A neu C yn cael gwybod os bydd hynny yn digwydd;
  • g. os nodir unrhyw risgiau uniongyrchol i Aar unrhyw adeg, yna cymerir camau diogelu ar unwaith a bydd hyn yn cynnwys cynllun diogelwch cadarn a ddarperir gan yr heddlu a phartneriaid. Os penderfynir datgelu gwybodaeth i A, yna bydd hyn hefyd yn cyd-fynd â chynllun diogelwch cadwrn sy’n addas ar gyfer anghenionA.

Gwiriadau cudd-wybodaeth yn dilyn cyswllt cyntaf

31. Yn dilyn y cyswllt cyntaf, dylai aelod o staff yr heddlu gynnal gwiriadau cudd-wybodaeth yn unol â gweithdrefnau’r heddlu lleol[footnote 5] i greu darlun cyntaf am A, B,a lle bod hynny’n berthnasolC. Dyma’r safon ofynnol y gwiriadau ar y pwynt hwn:

  • a. Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC);
  • b. Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu (PND)
  • c. ViSOR (os oes gan y person farciwr ViSOR ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu).
  • d. systemau cudd-wybodaeth lleol.

32. Ni ddylid gwneud y gwiriadau hyn o flaen AneuC, i osgoi unrhyw ddatgeliad amhriodol rhag digwydd i’r person. Ni ddylai’r aelod ostaffsy’ncymryd y manylion cyswllt cyntaf yn rhoi unrhyw ddatgeliad i A neu C ar y pwynt hwn.

Penderfyniad ynghylch a ddylid prosesu Cais am Ddatgeliad

33. Mae’r wybodaeth a gesglir drwy’r gwiriadau cyswllt a chudd-wybodaeth cyntaf (naill ai wyneb yn wyneb neu drwy’r porth ar-lein) yn llywio’r asesiadrisg cyntafam Aa’r sail penderfyniad ynghylch a ddylid prosesu’r cais am ddatgeliad. Ceir templed o’r ffurflen asesu risg yn Atodiad D i gynorthwyo â’r broses hon o wneud penderfyniadau.

34. Yn unol â gweithdrefnau lleol yr heddlu, mater i aelod o staff yr heddlu fydd:

  • a. penderfynu a ddylid prosesu’r cais datgelu neu beidio yn dilyn yr asesiad risg hwn.
  • b. penderfynu sut y cysylltir ag A neu Ci brosesu’r cais datgelu, yn gyson â’r dull orau y cytunwyd arno yn y cyswllt cyntaf.

O’r camau a amlinellir uchod, os nodir bod risg uniongyrchol/ar fin digwydd o A yn cael niwed, yna RHAID CYMRYD CAMAU GWEITHREDU AR UNWAITH i ddiogelu’r rhai sydd mewn perygl.

Cam 2 - Cyfarfod wyneb yn wyneb

35. Os bydd yr heddlu, yn dilyn yr asesiad risg a gynhaliwyd o dan gam 1, yn penderfynu y dylai’r cais am ddatgeliad ddigwydd, rhaid i’r person a wnaeth y cais (naill ai A neu C) gael ei weld naill ai’n bersonol neu drwy ddefnyddio technoleg sy’n galluogi cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb [ar adeg sy’n ddiogel iddynt wneud hynny]. Bydd hyn yn sicrhau bod y cais:

  • a. yn ddilys ac nid yn faleisus; a
  • b. sefydlu rhagor o fanylion am y cais er mwyn asesu risg ymhellach a llywio penderfyniad ynghylch datgelu; a
  • c. darparu gwybodaeth a chyngor diogelwch i ddiogelu A.

36. Dylid cynnal y cyfarfod wyneb yn wyneb cyn gynted ag sy’n bosib ac, mewn unrhyw achos, ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl y cyswllt cyntaf.

37. Argymhellir yn gryf y dylai swyddogion yr heddlu neu aelodau staff yr heddlu sydd ag arbenigedd priodol, megis Uned Diogelu’r Cyhoedd, gwblhau cam hwn o’r broses gan y bydd ganddynt brofiad a gwybodaeth am reoli troseddwyr cam-drin domestig ac ymchwilio i ddigwyddiadau cam-drin domestig. Bydd yr wybodaeth a’r profiad angenrheidiol hwn yn y maes risg uchel o ddiogelu’r cyhoedd yn llywio’r cwestiynau perthnasol ac yn helpu i asesu risg.

38. Os bydd yr heddlu yn credu ar unrhyw adeg yn ystod y cyswllt cyntaf fod A neu C yn honni trosedd (e.e. achos penodol o weithred dreisgar neu gam-drin) yn hytrach na gofyn am wybodaeth am droseddu treisgar neu gam-drin blaenorol B, yna rhaid i’r heddlu ymchwilio i’r adroddiad troseddu a dilyn gweithdrefnau lleol . Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y gweithdrefnau sy’n arwain at ddatgeliad o dan y DVDS hwn redeg ar y cyd â’r ymchwiliad troseddol.

Gwaith paratoi

39. Cyn cychwyn ymholiadau ar y cais, rhaid i aelod o staff yr heddlu:

  • a. rybuddioA neu Cos ydynt yn darparu, yn fwriadol neu’n faleisus, gwybodaeth ffug i’r heddlu er mwyn ceisio cael datgeliad nad oes ganddynt hawl iddo, y gallent fod mewn perygol o gael eu herlyn, e.e. os ydynt wedi darparu manylion ffug mewn ymgais i wneud cais maleisus, gellir eu herlyn o dan Adran 5(2) Deddf Cyfraith Droseddol 1967 (pan fydd person yn achosi unrhyw adnoddau gwastraffus o’r heddlu drwy wneud adroddiad ffug i unrhyw berson yn dangos bod trosedd wedi’i chyflawni, neu i achosi pryder am ddiogelwch unrhyw berson neu eiddo, neu yn dangos bod ganddo wybodaeth sy’n hanfodol i unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu, yna fydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i garchar am chwe mis ar y mwyaf neu i ddirwy o’r un peth [lefel 4 ar y raddfa safonol] neu i’r ddau);
  • b. rybuddio A neuC os bydd yn datgelu tystiolaeth o drosedd wrth godi pryder, efallai na fydd yn bosibl cadw pethau yn gyfrinachol;
  • c. rybuddioA neu Cy dylid ond defnyddio’r wybodaeth a ddatgelir gan yr heddlu at y diben y rhannwyd h.y. er mwyn diogeluA;
  • d. sicrhau A neu Cy prosesir y cais yn gyfrinachol. Fodd bynnag, dylid cofnodi cafeat ar hyn - gellir ond sicrhau cyfrinachedd yn dilyn canlyniad y broses. Dylid egluro os bydd pryder yn codi ynghylchB, rhaid i’r heddlu ystyried a ddylid gofyn am sylwadau ganB. At hynny, os gwneir datgeliad canlyniadol i A neu C, rhaid i’r heddlu ystyried a ddylid hysbysuBbod datgeliad wedi’i wneud i A neu C.
  • e. ofyn i A neu Cam dystiolaeth adnabod. Gweler isod rhestr mathau adnabod sy’n cael eu derbyn:
    • i. pasport;
    • ii. trwydded yrru;
    • iii. math dibynadwy arall o lun adnabod;
    • iv. tystysgrif geni;
    • v. bil cyfleustodau cartrefi (trydan, nwy, treth gyngor, dŵr);
    • vi. datganiad banc.

40. Argymhellir bod angen cael llun adnabod sy’n cadarnhau dyddiad geni a’r cyfeiriad. Fodd bynnag, derbynnir efallai na fydd gan rai unigolion sy’n agored i niwed a allai wneud ceisiadau y mathau adnabod uchod. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd modd cysylltu ag asiantaeth statudol arall i gadarnhau pwy yw’r unigolyn (e.e. gweithiwr cymdeithasol, ymwelydd iechyd).

41. Os nad yw’r chwiliadau cyntaf wedi arwain at unrhyw wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r person, byddai’r heddlu’n gofyn i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol a fydd yn eu galluogi i adnabod y person yn gywir. Gall hyn gynnwys llun neu ddisgrifiad o nodweddion adnabod fel tatŵs a mannau geni, yn ogystal â manylion cyfeiriadau a mannau gwaith blaenorol.

42. Ni ddylid gwneud datgeliad i A neu C heb ddilysu hunaniaeth neu os ydynt yn dewis aros yn ddienw. Fodd bynnag, os bydd y naill neu’r llall o’r ddau ddigwyddiad hyn yn codi, dylid parhau i wirio’r wybodaeth a roddir am B ac, os nodir pryderon, yna dylid prosesu’r cais fel cyflwyniad cudd-wybodaethy gellir ei ddefnyddio i lywio mesurau diogelu ar gyferA, os byddhunaniaeth Ayn hysbys neu y gellir ei chanfod.

Gwybodaeth i’w chasglu yn ystod y cyfarfod wyneb yn wyneb

43. Ceir templed sy’n cynnwys rhestr o wybodaeth sydd angen yn ystod y cyfarfod hwn, ynghyd â’r rhybuddion a nodir ym mharagraff 33, yn Atodiad E.

44. Dylid dweud wrth A neu C y gofynnir i’r person sy’n gwneud y datgeliad lofnodi cytundeb ei fod yn cytuno bod yr wybodaeth yn gyfrinachol ac na fydd yn datgelu’r wybodaeth hon ymhellach. Rhaid rhoi rhybudd y gallai torri’r cyfrinachedd hwn arwain at achos cyfreithiol a’i fod yn dor-cyfraith o dan adran 170 Deddf Diogelu Data 2018 i berson gael neu ddatgelu data personol yn fwriadol neu’n ddifeddwl heb gael caniatâd y rheolydd data (h.y. yr asiantaeth sydd a’r wybodaeth a ddatgelir, sef yr heddlu fel arfer). Dylid esbonio hyn i’r person a dylid gofyn am eu llofnod fel tystiolaeth ei bod wedi digwydd. Os nad yw’r person yn fodlon llofnodi, bydd angen i’r heddlu ystyried a ddylid datgeliad digwydd neu beidio. Dylid cofnodi ac ystyried y canlyniad yn y broses asesu risg a gwneud penderfyniadau dilynol.

45. Ar ôl y cyfarfod, dylai swyddog/staff yr heddlu unwaith eto ddarparu gwybodaeth fel y nodir yn adran 22 a 23i A neu C am yr hyn y gallant ei wneud yn y cyfamser i ddiogeluAyn well wrth aros am ganlyniad y cais. Dylid sicrhau bod A neu C yn ymwybodol o’r amser disgwyliedig ar gyfer cwblhau’r broses.

46. Lle bo’n bosibl, ac er mwyn cael cysondeb, dylid darparu un pwynt cyswllt iA neu C, yn ddelfrydol unigolyn sydd â gwybodaeth am achos yr ymgeisydd ac sy’n gallu rhoi’r diweddariad am gynnydd yn ôl y gofyn.

47. Dylid gwneud pob ymdrech i ymgysylltu yn rhagweithiol agA neu Cdrwy gydol y broses.

O’r broses ymgeisio i benderfynu p’un ai i ddatgelu neu beidio â datgelu, dylid cyfeirio dioddefwyr at y gwasanaethau cymorth perthnasol. Rhaid darparu cymorth parhaus yn gyson drwy gydol y broses.

Cam 3 - Asesiad risg llawn

48. Yn dilyn y cyfarfod wyneb yn wyneb, rhaid i’r heddlu gynnal asesiad risg llawn yn unol â’r posibiliadau canlynol.

Posibiliad 1: yr ymgeisydd a wnaeth gais yn wreiddiol yw A

49. O dan Posibiliad 1, dylai’r ffurflen Cam-drin Domestig, Stelcian ac Aflonyddu a Thrais ar Sail Anrhydedd (DASH), neu’n debyg, gael ei chwblhau’n llawn a chyfeirioat ganllawiau cenedlaethol yr heddlu am gam-drin domestig. Lle nodir stelcio, dylid cwblhau asesiad risg S-DASH hefyd. Mae cwblhau ffurflen DASH neu ffurflen debyg yn hanfodol ar gyfer sefydlu cynllun diogelwch priodol ar gyferA.

50. Dylai’r ffurflenDASHgynnwys ail-edrych ar yr wybodaeth a gasglwyd:

  • a. yn y cyswllt cyntaf
  • b. yn y cyfarfod wyneb yn wyneb
  • c. ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC),
  • d. ar Gronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu (PND),
  • e. ViSOR,
  • f. systemau cudd-wybodaeth lleol.

51. Dylai’r ymchwil a’r gwiriadau geisio llenwi unrhyw fylchau o ran gwybodaeth a dylai’r cam hwn sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ar gael i’r heddlu am yr unigolion sy’n ymwneud â’r ymholiad wedi’i sefydlu.

52. Bydd gwiriadau hefyd yn cael eu cwblhau gydag asiantaethau eraill lle bo hynny yn briodol. Gall hyn gynnwys:

  • a. gwasanaethau cymdeithasol (pan fo’r ymgeisydd wedi rhoi caniatâd ar y ffurflen atgyfeirio neu pan fo amgylchiadau’r ymholiad yn dangos bod hyn yn angenrheidiol heb orfod gofyn am gael caniatâd);
  • b. gwasanaeth prawf;
  • c. Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC);
  • d. gwasanaethau cam-drin domestig lleol;
  • e. unrhyw asiantaeth arall a all ddarparu gwybodaeth i lywio’r asesiad risg.

Posibiliad 2: yr ymgeisydd a wnaeth gais yn wreiddiol yw C

53. O dan Posibiliad 2, ni ddylid cwblhau ffurflen DASH neu ffurflen debyg, o ystyried nad oes cyswllt uniongyrchol â’r dioddefwr. Yn hytrach, dylai’r heddlu ystyried, yn ôl paragraff 61-66 isod (“pryder” neu “dim pryder”), y dylid rhannu penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth gyda’r fforwm aml-asiantaeth ar gyferachosion risg uchel acar sail achos unigol i’r rhai nad ydynt yn cael eu hystyried yn risg uchel.

Llwybr “Hawl i Wybod”

Gwybodaeth anuniongyrchol a dderbyniwyd gan yr heddlu

54. At ddibenion y llwybr “hawl i wybod”, beth allai arwain at ddatgeliad o dan y cynllun hwn yw pan fydd yr heddlu’n derbyn gwybodaeth anuniongyrchol a allai effeithio ar ddiogelwch y dioddefwr ( A) ac nad yw wedi’i chyflwyno i’r heddlu drwy’r broses “hawl i ofyn”.

55. Mae gwybodaeth anuniongyrchol yn debygol o fod yn wybodaeth a dderbynnir gan yr heddlu o gasglu cudd-wybodaeth sy’n deillio o’r gweithgareddau canlynol:

  • a. ymchwiliad i weithred droseddol lle mae gan yr heddlu, fel rhan o’r ymchwiliad hwnnw, reswm i gredu y gallai Afod mewn perygol o niwed rhagB;
  • b. gwybodaeth am droseddu treisgar a cham-drin honedig gan B a dderbynnir gan:
    • i. asiantaethau partneriaid (statudol a/neu drydydd sector) fel rhan o rannu gwybodaeth yn rheolaidd mewn cyfarfodydd diogelu lleol;
    • ii. ffynonellau cudd-wybodaeth;
    • iii. naill ai A neu Byn dod mewn cysylltiad â’r heddlu fel rhan o’u dyletswyddau gweithredol arferol.

56. Ar ôl derbyn yr wybodaeth anuniongyrchol, dylai’r heddlu gynnal gwiriadau cudd-wybodaeth er mwyn creu darlun cyntaf am A a B. Dyma’r safon ofynnol ar gyfer y gwiriadau ar hyn o bryd:

  • a. Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC);
  • b. Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu (PND);
  • c. ViSOR (os oes ganA a/neu B farciwr ViSOR ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu);
  • d. systemau cudd-wybodaeth lleol.

57. Dylid defnyddio prosesau o dan y Model Cudd-wybodaeth Cenedlaethol hefyd i bennu, cyn belled ag y bo modd, gywirdeb yr wybodaeth anuniongyrchol a dderbynnir.

58. Er mwyn sicrhau bod yr ymateb diogelu yn gymesur ac yn unol â’r risgiau a nodwyd, gall yr heddlu flaenoriaethu pa ddatgeliadau posibl fydd yn cael asesiad risg llawn. Wrth gynorthwyo â’r broses o flaenoriaethu, dylid ystyried y canlynol: - a. os ystyrir bod Ayn wynebu risg “uchel”, “canolig” neu “isel” o gael niwed gan B; - b. a yw Ayn gysylltiedig â chyflawnwr sydd â hanes o gam-drin domestig.

59. Gall yr heddlu benderfynu i beidio â phrosesu’r datgeliad ar ôl cwblhau gwiriadau cudd-wybodaeth. Dylid cofnodi’r penderfyniad hwn yn briodol.

Rhannu gwybodaeth gyda’r fforwm aml-asiantaeth lleol

60. Ar yr adeg hon o broses y Cynllun Datgelu, rhagwelir, o naill ai’r llwybrau “hawl i ofyn” neu “hawl i wybod”, y bydd digon o wybodaeth wedi’i chasglu a’i gwirio i benderfynu a oes risg gredadwy o A yn cael niwed o droseddu treisgar a cham-drin a/neu ymddygiad gan Byn bodoli. Dylai’r heddlu gategoreiddio naill ai’r cais datgelu (o dan “hawl i ofyn”) neu’r wybodaeth anuniongyrchol a dderbyniwyd (o dan “hawl i wybod”) naill ai fel “pryder” neu “dim pryder” cyn gwneud y penderfyniad terfynol i’w ddatgelu neu beidio. A chynnwys fforwm amlasiantaeth lleol perthnasol neubartneriaethau lleol cyfateboli gefnogi’r dewis i ddatgelu yn cael ei annog ym mhob achos. Dylidrhannuachosion risg uchel gyda MARAC neu gyfwerth fel rhan o’r broses gwneud penderfyniadau. Lle nad yw achosion yn cael eu hystyried yn risg uchel, dylid ystyried y penderfyniad i rannu gyda fforwm amlasiantaethol fel rhan o’r broses ddatgelu fesul achos.

61. Dylai heddluoedd ystyried Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig Coleg Plismona ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac ymatebion amlasiantaethol (college.police.uk), Diogelwch a chymorth i Ddioddefwyr (college.police.uk) , a Risg a bregusrwydd (college.police.uk) wrth benderfynu a ddylid cyfeirio achosion at fforymau diogelu megis MARAC.

Categoreiddio “pryder” neu “dim pryder”

62. Mae “pryder” yn digwydd os byddAmewn perygl o gael niwed ganB, yn seiliedig ar broffil teg o Bsy’n ystyried y ffactorau canlynol:

  • a. mae gan Beuogfarnau am drosedd sy’n ymwneud â cham-drin domestig (gweler Atodiad B am restr o droseddau) ; a/neu
  • b. mae B yn gyflawnwr sydd â hanes o gam-drin domestig; a/neu
  • c. mae gwybodaeth am droseddu treisgar a cham-drin blaenorolB a all gynnwys:
    • i. achosion na phroseswyd; a/neu
    • ii. wybodaeth am droseddau treisgar neu gam-drin; a/neu
    • iii. ymddygiad blaenorol o bryder tuag at bartneriaid blaenorol. Gall hyn gynnwys patrwm o ymddygiad sy’n awgrymu bodB wedi stelcio neu ddangos ymddygiad sy’n cymell dros bartneriaid blaenorol, gan gynnwys ar ôl diwedd perthynas.

a/neu

  • d. fod ymddygiad sy’n peri pryder gan Bsy’n cael ei ddangos tuag at A. Gall hyn gynnwys patrwm o ymddygiad sy’n dangos bodB yn stelcian neu ddangos ymddygiad sy’n cymell dros A.

63. Mae ROA 1974 yn nodi bod, yn y mwyafrif o amgylchiadau, euogfarnau yn cael eu hystyried fel ‘wedi cwblhau’ ar ôl nifer o flynyddoedd ac nad oes angen eu datgelu. Fodd bynnag, nid yw’r ROA yn gwahardd datgelu euogfarnau sydd wedi eu cwblhau. Mae swyddogion heddlu yn cael penderfynu yn ystod eu dyletswyddau i ddatgelu euogfarnau sydd wedi’u cwblhau o dan y DVDS neu beidio ond dylent ystyried pryd oedd y gollfarn wrth iddyn nhw benderfynu. Os yw datgelu collfarn yn rhan o’u dyletswyddau, ni fydd yr heddlu yn agored i gael eu herlyn o dan y ROA. Mae angen i unrhyw ddatgeliad a wneir gan yr heddlu o dan y DVDS hefyd fod yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur, ac yn unol â deddfwriaeth sylfaenol berthnasol arall; er enghraifft, HRA 1998 a DPA 2018. Dylai’r heddlu ystyried gofyn am gyngor cyfreithiol os ydynt yn ystyried datgelu gwybodaeth.

64. Os bydd “pryder”, rhaid i’r heddlu ystyried a ddylid gofyn am sylwadau gan B i sicrhau bod gan yr heddlu yr holl wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad ynghylch datgelu. Fel rhan o’r ystyriaeth hon, rhaid i’r heddlu hefyd ystyried a oes rhesymau da dros beidio â gofyn am gynrychiolaeth, megis yr angen i ddatgelu gwybodaeth mewn argyfwng neu gallai ofyn am gynrychiolaeth yn rhoi A mewn perygl.

65. Mae “dim pryder” yn berthnasol lle nad oes gan B :

  • a. unrhyw gollfarnau am drosedd sy’n gysylltiedig â thrais a cham-drin domestig, gan gynnwys euogfarnau sydd wedi’u cwblhau; a/neu
  • b. nad oes unrhyw cudd-wybodaeth neu wybodaeth sy’n awgrymu y gallai ymddygiad B yn achosi niwed i A; a/neu
  • c. nid oes digon o gudd-wybodaeth na gwybodaeth i gofnodi pryder.

66. Dylid cyrraedd y cam hwn o’r broses ddim mwy na 5 diwrnod gwaith o’r cyfarfod wyneb yn wyneb (o dan “hawl i ofyn”) neu ar ôl derbyn yr wybodaeth anuniongyrchol (o dan “hawl i wybod”).

67. Unwaith y bydd yr heddlu wedi penderfynu a ellir categoreiddio’r achos cyntaf fel “pryder” neu “ddim pryder”, mae’n arfer gorau ac felly’n cael ei annog y dylid cyfeirio’r penderfyniad terfynol i ddatgelu ym mhob achos at y fforwm amlasiantaeth lleol i’w ystyried yn eu cyfarfod nesaf. Dylid cyfeirio achosion sy’n cael eu hystyried yn risg uchel at MARAC, neu debyg, yn unol ag arferion asesu risg a diogelu arferol yr heddluoedd. Mater i’r heddlu fydd gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a yw’r achos yn “pryder” neu “dim pryder” ac, o ganlyniad, a ddylid gwneud datgeliad neu beidio.

Os nodir bod risg uniongyrchol/ar fin digwydd o A yn cael niwed, yna RHAID I’R HEDDLU GYMRYD CAMAU GWEITHREDU AR UNWAITH i ddiogelu’r rhai sydd mewn perygl.

68. Ar gyfer achosion a nodwyd fel rhai risg uchel neu, ar gyfer pob achos arall, lle defnyddir fforwm amlasiantaeth lleol, dylai hwn fod y Gynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC) yn ddelfrydol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylai’r fforwm fod yn gorff aml-asiantaeth a all gynnwys rhai neu bob un o’r asiantaethau canlynol:

  • Heddlu
  • Gwasanaeth Prawf
  • Gwasanaeth Carchardai
  • Iechyd
  • Tai
  • Addysg
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cynghorwr Annibynnol Trais yn y Cartref (IDVA)

Cynrychiolydd o bob un o’r canlynol:

  • gwasanaeth cymorth i fenywod
  • gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr
  • gwasanaeth cymorth i ddynion
  • rhaglen gyflawnwyr

69. Ni ddylai isafswm nifer y cyrff sy’n ffurfio’r fforwm amlasiantaeth lleol fod yn llai na thri, ac yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth prawf a’r IDVA.

70. Dylai’r fforwm amlasiantaeth lleol ystyried yr atgyfeiriad ddim mwy nag 20 diwrnod gwaith ar ôl i’r heddlu gategoreiddio “pryder” neu”dim pryder”.

Egwyddorion y mae’n rhaid i’r fforwm aml-asiantaeth lleol neu’r tîm arbenigol cam-drin domestig eu hystyried wrth benderfynu a ddylid datgelu neu beidio

71. Mae tair egwyddor y mae’n rhaid i’r fforwm amlasiantaeth lleol ei hystyried cyn hysbysu’r heddlu ar y penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth sy’n diogeluA.

Egwyddor 1: Prawf datgelu tri cham

72. Mae gan yr heddlu bŵer cyfraith gyffredin i ddatgelu gwybodaeth am unigolyn lle mae angen gwneud hynny i amddiffyn unigolyn arall rhag niwed. Dylid bodloni’r prawf tri cham canlynol cyn gwneud penderfyniad datgeliad:

  • a. mae’n rhesymol dod i’r casgliad bod angen cael datgeliad o’r fath er mwyn amddiffyn A rhag dioddef trosedd;
  • b. mae angen brys am ddatgeliad o’r fath, sy’n ystyried bod
    • i) achos rhesymol dros amau y byddai person yn debygol o ddioddef niwed a
    • ii) sail i gwblhau bod angen cael datgeliad er mwyn diogelu eu lles.
  • c. mae ymyrryd â hawliauB, gan gynnwyshawliau Bo dan Erthygl 8 Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, i gael gwybodaeth am ei g/chollfarnau blaenorol wedi’i chadw yn gyfrinachol yn angenrheidiol ac yn gymesurer mwyn atal troseddu. Mae hyn yn golygu cydbwyso canlyniadau ar gyfer Bos datgelir ei f/manylion yn erbyn math a graddau’r risgiau a gallaiByn eu hachosii A. Mae’r cam hwn o’r prawf yn ystyried y canlynol:
    • i. a ddylid gofyn iBa yw e/hi yn dymuno cyflwyno sylwadau, er mwyn sicrhau bod gan yr heddlu yr holl wybodaeth angenrheidiol sydd ar gael iddynt i gynnal yr ymarferyn deg, a
    • ii. pha wybodaeth sydd angen ei datgelu - e.e. efallai na fydd angen dweud wrth yr ymgeisydd union fanylion y trosedd er mwyn i’r ymgeisydd gymryd camau i ddiogeluA.

73. Efallai y bydd pryderon sy’n ymwneud ag ymddygiad presennolBtuag atAyn y cais datgelu e.e. ymddygiad o gam-drin neu fod yn fygythiol. Os bydd hynny yn digwydd, er nad oes unrhyw wybodaeth wedi’i chofnodi gan yr heddlu nac asiantaethau eraill i’w datgelu i’r ymgeisydd, gellir cysylltu â’r ymgeisydd o hyd i siarad am bryderon y fforwm amlasiantaethol ynghylch ymddygiadpresennolB. Dylai’r drafodaeth hon gynnwys camau y dylai’r ymgeisydd eu cymryd ynghylch y pryderon hyn i ddiogeluArhag risg o gael niwedgan B. Bydd y fforwm yn ystyried pa fesurau diogelu y gellid eu cyflwyno i gefnogiA yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor, ac yn sefydlu rolau a chyfrifoldebau pob asiantaeth i sicrhau bod y cynllun diogelwch yn parhau i ganolbwyntio ar y dioddefwr.

Egwyddor 2: Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

74. Gall gwybodaeth a ystyrir i’w datgelu gynnwys data personol sensitif (megis gwybodaeth am euogfarnau blaenorol person) ac felly rhaid i’r fforwm aml-asiantaeth lleol neu’r fforwm gwneud penderfyniadau hefyd fod yn fodlon bod datgelu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 sy’n nodi’r fframwaith ar gyfer cyfraith diogelu data yn y DU. Mae’n diweddaru ac yn disodli Deddf Diogelu Data 1998, a daeth i rym ar 25 Mai 2018. Diwygiwyd ef ar 1 Ionawr 2021 gan reoliadau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i adlewyrchu statws y DU y tu allan i’r UE.

75. mae’n eistedd ochr yn ochr â GDPR y DU ac yn ei ategu - er enghraifft drwy ddarparu eithriadau. Mae hefyd yn nodi rheolau diogelu data unigol ar gyfer awdurdodau gorfodi’r gyfraith, yn ymestyn diogelwch data i rai meysydd eraill megis diogelwch ac amddiffyn cenedlaethol, ac yn nodi swyddogaethau a phwerau’r Comisiynydd Gwybodaeth.

76. Mae gwybodaeth a chanllawiau ar ddefnyddio Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) i’w gweld ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn https://ico.org.uk

Egwyddor 3: Hysbysu B o’r datgeliad

77. Rhaid ystyried hefyd a ddylid dweud wrth B y gellir datgelu gwybodaeth amdano/amdani i’r ymgeisydd. Rhaid i benderfyniad o’r fath fod yn seiliedig ar asesiad o’r risg o niwed i A, pe baiB yn cael gwybod. Rhaid ystyried yn ofalus a fyddai gwneud datgeliad iBbotensial i gynyddu’r risg o niwed iA. Os oedd posibiliad o hynny yn digwydd, ni ddylid rhoi datgeliad i B.

78. Os bydd Byn cael gwybod y bydd datgeliad yn cael ei wneud i’r ymgeisydd, yna dylid hysbysu B yn bersonol a rhoi gwybodaeth iddo am y DVDS a’r goblygiadau ar gyfer B. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i asiantaethau gyfeirioBi wasanaethau cymorth perthnasol i adael iB ystyried ei h/ymddygiad troseddol.

79. Mae Atodiad H yn cynnwys templed rhestr wirio i’r fforwm amlasiantaeth lleol gyfeirio ato, sy’n crynhoi’r tair egwyddor a nodir yn yr adran hon o’r canllawiau.

Penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth

80. Os penderfynir datgelu gwybodaeth oherwydd ystyrir bod perygl o niwed iAsy’n golygu bod rheswm da dros ddatgelu, yna dylid ystyried y canlynol:

  • a. beth fydd yn cael ei ddatgelu?

Bydd yr heddlu’n ystyried geiriad penodol wrth wneud datgeliad sy’n cynnwys digon o wybodaeth i ganiatáu i’r derbynnydd wneud dewis gwybodus o ran ei berthynas neu gysylltiad â B. Rhaid i’r datgeliad gynnwys cynllun diogelwch cadarn sy’n addas ar gyfer anghenionA ac sy’n seiliedig ar yr holl wybodaeth berthnasol, sy’n nodi’r gwasanaeth a ddarperir a’r partneriaid neu asiantaethau perthnasol a fydd yn darparu cymorth parhaus i A.

Gall digon o wybodaeth gynnwys yr amgylchiadau lle y cyflawnwyd trosedd flaenorol. Er enghraifft, os yw troseddau blaenorol wedi’u cyflawni pan oedd B yn feddw, yna gellid cynnwys hwn, o ran cyd-destun, yn y datgeliad.

  • b. at bwy y dylid gwneud datgeliad?

Dylid darparu’r datgeliad i’r person(au) sydd orau ar gyfer diogeluA. Er rhagwelir y bydd y mwyafrif o’r datgeliadau yn cael ei wneud i A, efallai na fydd yn briodol gwneud hynny ym mhob achos. Bydd y broses benderfynu at bwy i’w datgelu yn dilyn yr wybodaeth a gasglwyd fel rhan o’r broses DVDS ac asesiadau risg dilynol.

  • c. sut y dylid datgelu digwydd?

Yr heddlu fydd yn datgelu’r wybodaeth, ond dylai’r fforwm amlasiantaethol, pan defnyddir, ystyried a oes asiantaethau eraill a ddylai hefyd fod yn rhan o’r gwaith o ddarparu, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd wrth law. Mae’n arfer da ystyried dull cyd-asiantaeth o ymdrin â darparu datgeliad.

Argymhellir yn gryf y dylid datgelu naill ai’n bersonol neu drwy ddefnyddio technoleg lle mae modd cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb. Yn unol â gweithdrefnau diogelu, mae’n hanfodol bod y datgeliad yn digwydd ar adeg a lleoliad diogel i gwrdd ag anghenion penodolA.

81. Os bydd datgeliad yn digwydd, yna rhaid i’r person sy’n derbyn y datgeliad dderbyn yr wybodaeth ganlynol:

  • a. dylid ond defnyddio datgeliad at y diben y rhannwyd h.y. er mwyn diogeluA;
  • b. gofynnir i’r person sy’n derbyn datgeliad i lofnodi cytundeb neu roi cadarnhad ar lafar ei fod yn cytuno bod yr wybodaeth yn gyfrinachol ac na fydd yn datgelu’r wybodaeth hon ymhellach;
  • c. dylid rhoi rhybudd y gallai achos cyfreithiol ddigwydd os torrir y cyfrinachedd hwn. Dylid esbonio hyn i’r person a rhaid iddo lofnodi’r cytundeb.

82. Os nad yw’r person yn fodlon llofnodi’r cytundeb neu roi cadarnhad ar lafar, bydd angen i’r heddlu ystyried a ddylid parhau i wneud datgeliad. Dylid cofnodi ac ystyried y canlyniad yn yr asesiad risg, y broses gwneud penderfyniad a’r cynllun diogelwch.

83. Ni fydd gohebiaeth ysgrifenedig ar unrhyw adeg ynghylch manylion y datgeliad yn cael ei hanfon neu ei gadael gyda’r ymgeisydd yn gysylltiedig â datgelu gwybodaeth. Byddai risg posibl i ffynonellau cudd-wybodaeth, dioddefwyr a chyflawnwyr pe bai gwybodaeth ysgrifenedig o’r fath yn mynd i’r person anghywir.

Ceir templed yn Atodiad H y gellir ei defnyddio i gofnodi datgeliad. Dylai’r hyn a ddywedir wrth yr ymgeisydd gael ei gofnodi air am air ar y ffurflen hon, ei lofnodi, ac yna ei gadw gan yr heddlu. Ni ddylid rhoi’r ffurflen i’r ymgeisydd o dan unrhyw amgylchiadau.

84. Os yw’n briodol, dylai’r person sy’n derbyn datgeliad gael gwybodaeth i’w alluogi i ddiogeluAyn y dyfodol. Yr heddlu sy’n cael penderfynu ar gynnwys y pecyn gwybodaeth, ond dylai gynnwys o leiaf:

  • a. taflen i esbonio’r Cynllun Datgelu Trais Domestig
  • b. taflenni lleol sy’n darparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth lleol

Penderfyniad i beidio â datgelu gwybodaeth

85. Os penderfynir peidio â datgelu gwybodaeth oherwydd ystyrir nad oes unrhyw risg o niwed i Asy’n cyfiawnhau datgeliad, yna dylid dilyn y camau hyn:

  • a. os yw’r penderfyniad i beidio â datgelu wedi’i wneud yn dilyn y llwybr “hawl i wybod”, yna dylid cofnodi’r penderfyniad i beidio â datgelu a’r rhesymau. Gall cofnodi’r penderfyniad fel hyn lywio penderfyniadau datgelu a wneir yn y dyfodol am B.
  • b. os yw’r penderfyniad i beidio â datgelu wedi’i wneud yn dilyn y llwybr “hawl i ofyn”, yna dylid cymryd y camau canlynol:
    • i. argymhellir yn gryf y dylid hysbysu’r ymgeisydd yn bersonol neu, drwy ddull cyfathrebu diogel os yw’n briodol, oherwydd y gallai unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig neu ymweliad cartref o bosib roi A mewn mwy o berygl. Dylid dweud wrth yr ymgeisydd nad oes unrhyw wybodaeth i’w datgelu o ystyried yr wybodaeth/manylion a ddarparwyd gan yr ymgeisydd a chanlyniad y gwiriadau o’r manylion hyn.
    • ii. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yr ymgeisydd yn cael gwybod am gyfyngiadau casglu gwybodaeth. Dylid rhoi gwybod iddynt nad yw dim gwybodaeth neu ddiffyg gwybodaeth yn golygu nad oes unrhywbeth i’w ddatgelu neu nad oes sail i unrhyw bryderon. Dylid dweud wrth yr ymgeisydd nad yw dim gwybodaeth neu ddiffyg gwybodaeth i’w datgelu yn golygu nad oes unrhyw risg o niwed i A, a dylai’r ymgeisydd barhau i fod yn ofalus a rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn y dyfodol. Mae’r cyswllt hwn hefyd yn rhoi cyfle i ddarparu gwybodaeth ddiogelu a chyfeiriadau at wasanaethau cymorth perthnasol.
    • iii. Ceir templed yn Atodiad 1 y gellir ei defnyddio i gyflwyno geiriad addas.
    • iv. dylid rhoi pecyn gwybodaeth i’r ymgeisydd i helpu ddiogelu A yn y dyfodol, ond ni ddylai’r pecyn gwybodaeth gynnwys gohebiaeth ysgrifenedig ynghylch manylion y penderfyniad datgelu ar unrhyw adeg. Byddai perygl posibl o Ayn cael niwed pe bai trydydd parti a/neu B yn cael gwybodaeth ysgrifenedigo’r fath.
    • v. Ni fydd B yn cael gwybod os na fydd yr ymgeisydd yn derbyn datgeliad.

Rheoli’r cyflawnwr

86. P’un a wneir penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth i ddiogeluA, dylai’r heddlu neu fforwm amlasiantaeth lleol hefyd ystyried a ddylid cyfeirio B at fframwaith lleol priodol ar gyfer rheoli troseddwyr. Gwneir penderfyniad o’r fath yn seiliedig ar y risg o niwed a achosir ganymddygiad troseddol BIi’r gymuned leol, a gall opsiynau gynnwys cael ei gyfeirio naill ai at y:

  • a. Trefniant Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA) lleol neu
  • b. Cynllun Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM) lleol.

87. Dylai’r fforwm amlasiantaeth lleol ddefnyddio’r meini prawf asesu risg sy’n cael ei weithredu gan gynlluniau MAPPA ac IOM lleol i benderfynu ar y cynllun priodol posib ar gyfer cyfeirio B ato.

Cadw cofnod o’r Cynllun Datgelu

88. Pan fydd pob achos yn cael eu cwblhau (beth bynnag fo’r canlyniad ac ar unrhyw adeg yn y broses), rhaid cyflwyno adroddiad cudd-wybodaeth terfynol i systemau’r heddlu a systemau gwybodaeth asiantaethau lleol i gofnodi’r cais/gwybodaeth a dderbyniwyd, canlyniadau a manylion pob un sy’n rhan ohono. Dylid cadw cofnod hefyd o nodweddion fel rhyw, ethnigrwydd ac anabledd, ac a yw’r cais wedi’i gyflwyno gan drydydd parti at ddibenion casglu data ai peidio.

89. Bydd hyn cael ei weld fel darn gwerthfawr o wybodaeth, a fydd yn cael ei adfer i bob heddlu drwy’r system PND. Byddai’n caniatáu i unrhyw batrymau lle mae ganBlawer o geisiadau datgelu a wneir yn ei erbyn gael eu nodi i helpu i ddiogelu A.

90. Rhaid cofnodi yn llawn unrhyw benderfyniadau a wneir o ganlyniad i’r DVDS hwn ac mewn fformat a fyddai’n addas i’w archwilio mewn unrhyw adolygiad ffurfiol gan gynnwys adolygiad barnwrol neu honiadau o esgeulustod.

91. Mae hefyd yn hanfodol bod unrhyw wybodaeth berthnasol sy’n dod i’r amlwg fel rhan o’r broses hon yn cael ei rhannu fel y bo’n briodol gyda’r holl asiantaethau perthnasol, yn unol ag egwyddorion rhannu gwybodaeth a datgelu fel y mynegir yn y ddogfen ganllaw hon.

Tabl 1 – Amserlenni Uchaf Awgrymedig

Hawl i ofyn Hawl i wybod
Cyswllt a wnaed Gwybodaeth anuniongyrchol a dderbyniwyd Gwybodaeth anuniongyrchol a dderbyniwyd
Cam 1 – Gwiriadau Cyswllt Cyntaf Wedi’i gwblhau o fewn 24 awr o’r Cyswllt Cyntaf  
Cam 2 – cyfarfod wyneb yn wyneb Wedi’i gwblhau o fewn 10 diwrnod gwaith o’r gwiriadau Cyswllt Cyntaf  
Cam 3 – asesiad risg llawn Wedi’i gwblhau o fewn 5 diwrnod gwaith o’r cyfarfod wyneb yn wyneb Gwiriadau cudd- wybodaeth a waned Wedi’i gwblhau o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn yr wybodaeth anuniongyrchol

Mae cyfeirio at fforwm aml-asiantaeth lleol neu fforwm gwneud penderfyniadau yn digwydd ddim hwyrach nag 20 diwrnod gwaith o naill ai “Cam 3 – asesiad risg llawn” (o dan “hawl i ofyn”) neu “Gwiriadau cudd- wybodaeth a wnaed” (o dan “hawl i wybod”)

Atodiad A – Diffiniadau

Ceir y diffiniadau canlynol at ddibenion y ddogfen ganllaw hon:

A – yw’r partner sydd mewn, neu a oedd yn gynt, mewn perthynas agos ag unigolyn a allai fod yn dreisgar a/neu yn gam-drin (B).

ymgeisydd – yn golygu’r person sy’n gwneud y cais o dan “hawl i ofyn”.

cais– yn golygu’r ymholiadau hynny o dan “hawl i ofyn” sy’n cael eu prosesu fel ceisiadau ffurfiol am ddatgelu trais domestig, ac eithrio ceisiadau nad ydynt yn geisiadau cynllun datgelu ‘llawn’ h.y. fetio a gwahardd, cyfleoedd am rannu cudd-wybodaeth.

B – yr unigolyn a allai fod yn dreisgar a/neu yn gam-drin sydd/a oedd mewn perthynas agos â phartner (A).

C – trydydd parti sydd â rhyw fath o gyswllt ag A. Gallai hyn gynnwys unrhyw drydydd parti fel rhiant, cymydog neu ffrind.

cam-drin domestig- yn diffinio o danAdran 1 Deddf Cam-drin Domestig 2021 fel unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o achosion o gam-drin rhwng pobl 16 oed ac yn hyn sydd yn cysylltu yn bersonol â’i gilydd. Mae hyn yn mynd pell tu hwnt i drais partner agos (IPV) yn y cartref. Gall cam-drin domestig ddod o dan unrhyw rai o’r ymddygiadau canlynol, a gallant ddigwydd mewn unrhyw le: cam-drin seicolegol neu rywiol; ymddygiad treisgar neu fygythiol; ymddygiad rheoli neu’n cymell; cam-drin economaidd; cam-drin seicolegol, emosiynol neu arall. Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cydnabod y gall cam-drin domestig effeithio ar blant drwy ei weld, ei glywed neu ei brofi.

datgelu – y weithred o ddatgelu gwybodaeth benodol i A neu C am euogfarnau B am droseddau treisgar a pherthnasol nad ydynt yn dreisgar ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall yr ystyrir bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i ddiogelu A rhag niwed.

niwed – yn cynnwys unrhyw frifo a ddisgwylir i ymyrryd ag iechyd neu gysur y dioddefwr; nid oes angen i frifo o’r fath fod yn barhaol ond rhaid iddo fod yn fwy na dros dro a bach.

gwybodaeth anuniongyrchol - yn golygu, o dan “hawl i wybod”, bod yr heddlu yn derbyn gwybodaeth a allai effeithio ar ddiogelwch A ac nad yw wedi’i chyflwyno i’r heddlu drwy’r broses “hawl i ofyn”.

rhannu gwybodaeth – rhannu gwybodaeth rhwng yr holl asiantaethau (statudol ac anstatudol) sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Datgelu Trais Domestig.

perthynas bersonol agos – yn golygu perthynas rhwng dau berson, waeth beth yw eu rhyw, y gellir eu hystyried yn rhesymol i fod yn gorfforol ac yn emosiynol agos. Dylai’r Heddlu ystyried hyn fesul achos a dylent ystyried gofyn am gyngor cyfreithiol wrth ystyried datgelu a yw’r gofyniad am berthynas bersonol agos wedi’i fodloni neu beidio.

fforwm aml-asiantaeth – yn golygu’r fforwm lleol o asiantaethau diogelu, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a’r trydydd sector sydd wedi’i ffurfio i gynghori a fyddai datgelu yn briodol mewn achos penodol. Yn ddelfrydol, dylai hwn fod yn Gynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC) neu, os nad yw hyn yn bosibl, fforwm priodol arall sy’n cwrdd ag anghenion lleol a all gyflawni canlyniadau disgwyliedig y Cynllun Datgelu Trais Domestig. Yn sylfaenol, yr heddlu, fel rhai sy’n perchen ar yr wybodaeth, fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio.

MAPPA- Mae Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd mewn lle i sicrhau bod troseddwyr treisgar a rhywiol yn cael eu rheoli yn dda.

wedi’u cysylltu yn bersonol – yn diffinio o dan adran 2 Deddf Ddomestig 2021 fel dau berson sy’n briod neu sydd wedi bod yn briod, sydd mewn partneriaid sifil neu sydd wedi bod, wedi cytuno i briodi ei gilydd (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio); wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (p’un a yw’r cytundeb wedi dod i ben ai peidio); yn berthynas bersonol agos â’i gilydd neu wedi bod mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd neu os ydynt yn perthyn i’w gilydd.

trosedd di-drais perthnasol – yn golygu trosedd nad yw’n cynnwys defnyddio unrhyw rym neu anaf i berson arall ond a allai achosi ofn neu ofid neu barhau i roi’r dioddefwr mewn perygl, er enghraifft drwy fygythiad o niwed, ymddygiad rheoli neu’n cymell neu stelcian.

cyflawnwr hanesyddol – at ddibenion y cynllun datgelu hwn, defnyddir y diffiniad a fynegir gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

lle mae rhywun drwgdybiedig wedi cyflawni trais domestig yn erbyn dau neu fwy o ddioddefwyr neu achwynwyr gwahanol, dylid eu hystyried yn ‘gyflawnwr hanesyddol’.

trosedd treisgar – yn golygu trosedd sy’n arwain at, neu sydd wedi’u bwriadu neu sy’n debygol o ddigwydd, farwolaeth neu anaf corfforol person.

Gweler yn Atodiad B y ddogfen ganllaw hon rhestr anghyflawn o droseddau y gellir eu datgelu o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig.

Atodiad B – Rhestr anghyflawn o droseddau lle gellir datgelu euogfarnau a/neu honiadau o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig

Mae’r rhestr ganlynol yn nodi’r troseddau lle gellir datgelu collfarn neu honiad o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig. Nid yw’r rhestr yn gyflawn ac mae’n ganllaw yn unig i’r mathau o droseddau y gellir eu datgelu.

Curo

Ymosodiad cyffredin

Llofruddiaeth

Dynladdiad

Herwgipiad

Carchariad ffug

O dan Ddeddf Troseddau yn erbyn Person 1861:

adran 4 (bwriad llofruddiaeth)

adran 16 (bygwth i ladd).

adran 18 (clwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol).

adran 20 (clwyfo maleisus).

adran 21 (ceisio tagu, mygu neu dagu i gyflawni neu gynorthwyo i gyflawni trosedd na ellir ei rhagweld).

adran 23 (rhoi gwenwyn yn faleisus ayyb er mwyn peryglu bywyd neu achosi niwed corfforol difrifol).

adran 28 (achosi anaf corfforol drwy ddefnyddio ffrwydradau).

adran 29 (defnyddio ffrwydradau ayyb gyda’r bwriad o wneud niwed corfforol difrifol).

adran 30 (gosod ffrwydradau gyda’r bwriad o wneud anaf corfforol).

adran 31 (gosod gynnau sbring ac ati gyda’r bwriad o wneud niwed corfforol difrifol).

adran 35 (anafu person drwy yrru yn ffyrnig).

adran 38 (ymosod gyda’r bwriad o wrthsefyll arestio).

adran 47 (ymosod sy’n achosi niwed corfforol).

O dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986

adran 1 (terfysg).

adran 2 (anhrefn dreisgar).

adran 3 (codi cynnwrf).

adran 4 (ofn neu bryfociad trais)

adran 4A (aflonyddu bwriadol, dychryn neu ofid)

adran 5 (aflonyddu, dychryn neu ofid)

O dan Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol 1883:

adran 2 (achosi ffrwydrad sy’n debygol o beryglu bywyd neu eiddo).

adran 3 (ceisio achosi ffrwydrad, neu wneud neu gadw ffrwydrad gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu eiddo).

O dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933

adran 1 (creulondeb i blant)

O dan Ddeddf Arfau Tanio 1968

adran 16 (meddu ar arf tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd)

adran 16A (meddu ar arf tân gyda’r bwriad o achosi ofn trais)

O dan Ddeddf Dwyn 1968:

adran 7 (dwyn)

adran 8 (lladrad neu ymosodiad gda’r bwriad o ddwyn)

adran 9 (lladrad gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol)

adran 10 (lladrad gwaethygedig)

adran 21 (blacmel)

O dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971

adran 1 (difrod troseddol gan gynnwys llosgi bwriadol)

O dan Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977

adran 6 (trais ar gyfer sicrhau mynediad)

O dan Ddeddf Ymgais Droseddol 1981

adran 1 (ceisio cyflawni trosedd)

O dan Ddeddf Cipio Plant 1984

adran 1 (trosedd cipio plentyn gan riant ac ati)

adran 2 (trosedd cipio plentyn gan bersonau eraill)

O dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994

adran 51 (bygythiadau, ac ati, o dystion, rheithgorau ac eraill)

O dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998

adran 29 (ymosodiadau a waethygir yn hiliol neu’n grefyddol)

adran 30 (difrod troseddol a waethygir yn hiliol neu’n grefyddol)

adran 31 (troseddau trefn gyhoeddus a waethygir yn hiliol neu’n grefyddol) 35

adran 31 (aflonyddu ar sail hil neu grefydd)

O dan Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004

adran 5 (achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed)

O dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003:

adran 1 (treisio)

adran 2 (ymosodiad drwy dreiddio)

adran 3 (ymosodiad rhywiol)

adran 4 (achosi person i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol heb ganiatâd)

adran 5 (treisio plentyn o dan 13 oed)

adran 6 (ymosod ar blentyn o dan 13 oed drwy dreiddio)

adran 7 (ymosodiad rhywiol ar blentyn o dan 13 oed)

adran 8 (yn achosi neu’n annog plentyn o dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol)

adran 9 (gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn)

adran 10 (achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol)

adran 11 (cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol o flaen plentyn)

O dan Deddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr ac ati) 2004

adran 4 (masnachu pobl i’w hecsbloetio)

O dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015

adran 1 (caethwasiaeth, gwas, llafur gorfod neu orfodol

O dan Ddeddf Troseddau Difrifol

adran 76 (ymddygiad rheoli neu’n cymell)

Deddf Amddiffyn rhag Aflonyddu 1997

adran 2 (trosedd aflonyddu)

adran 2A (trosedd stelcian)

adran 4 (rhoi pobl mewn ofn trais)

adran 4A (stelcian sy’n ymwneud ag ofn trais neu ofn neu ofid difrifol)

Atodiad C – Templed o’r Safon Ofynnol o Wybodaeth i’w Chael a Gwiriadau i’w Cwblhau yn ystod y Cam Cyswllt Cyntaf (naill ai drwy gais ar-lein neu wyneb yn wyneb)

(Rhif cyfeirnod unigryw i’w roi i bob ymholiad a chyfeirio ato drwy gydol y broses)

Cofnod Swyddog:

Dyddiad:

Manylion cyswllt:

Manylion yr Ymgeisydd:

Enw (gan gynnwys unrhyw enwau eraill a ddefnyddir, h.y. enw cyn priodi):

Dyddiad geni:

Lleoliad geni:

Cyfeiriad:

Tarddiad ethnig:

Rhyw:

Dewis Iaith:

Dewis Dull Cyswllt (Diogelwch):

Amser:

Dydd:

Dull:

Manylion yr Unigolyn:

Enw (gan gynnwys unrhyw enwau eraill a ddefnyddir):

Dyddiad geni:

Lleoliad geni:

Rhyw:

Tarddiad ethnig:

Cyfeiriad gan gynnwys cyfeiriad(au) blaenorol:

Lle gwaith/cyflogaeth:

Manylion y Person mewn Perygl (os nad yw’n ymgeisydd):

Enw (gan gynnwys unrhyw enwau eraill a ddefnyddir):

Dyddiad geni:

Lleoliad geni:

Rhyw:

Tarddiad ethnig:

Cyfeiriad gan gynnwys cyfeiriad(au) blaenorol:

Lle gwaith/cyflogaeth:

Manylion Plant:

Enw (gan gynnwys unrhyw enwau eraill a ddefnyddir):

Cyfeiriad:

Oedran (bras amcan os oes angen):

Perthynas:

Natur y berthynas rhwng yr unigolyn a’r person sydd mewn perygl:

Sut fyddech chi’n disgrifio’r berthynas:

Hyd y berthynas:

Pryderon:

Pa bryderson sydd gyda nhw o ran y person sydd mewn perygl?:

Elfennau o risg:

A yw’r unigolyn yn gwybod bod yr ymholiad wedi’i wneud?:

Pryderon am yr unigolyn yn gwybod eich bod yn gwneud y cais hwn:

Gwybodaeth i’w Darllen i’r Ymgeisydd:

Nid yw’n disodli’r gweithdrefnau presennol

Rhoddir datgeliad ond i berson sydd mewn perygl a/neu berson sydd mewn sefyllfa i ddiogelu

Amserlen 24 awr ar gyfer gwiriadau i ddileu risg uniongyrchol

Mae cyfarfod wyneb yn wyneb yn dilyn o fewn 10 diwrnod

Prawf Adnabod angenrheidiol

Bydd yr ymholiad yn cael ei gwblhau o fewn 28 diwrnod

Ydych chi’n ystyried eich hun i fod mewn perygl o’r unigolyn?

Cafeat: Mae’r sawl sy’n llenwi’r ffurflenni yn gyfrifol am gwblhau’r holl wiriadau perthnasol, dim datgeliad ar y pwynt hwn (i’w gwblhau o fewn 24 awr)

Os bydd trosedd yn cael ei adrodd, mae dyletswydd i ymateb a chynnal ymchwiliad yn unol â’r gweithdrefnau gweithredu arferol (bydd y broses Datgelu yn rhedeg ochr yn ochr ag unrhyw ymchwiliad sy’n parhau)

Atodiad D – Templed ar gyfer Gwiriadau Cyntaf/Asesiad Risg

Dyma’r safon ofynnol o wiriadau sydd angen yn ystod y cam cyswllt cyntaf hwn. Bydd yr Heddluoedd yn cael penderfynu os ydynt yn teimlo bod gwiriadau pellach yn angenrheidiol. Bydd Heddluoedd unigol yn penderfynu sut caiff y gwiriadau hyn eu cofnodi.

Gwiriadau wedi’u Cwblhau ar Unigolyn:

Swyddog sy’n cofnodi:

Dyddiad:

PNC:

PND:

Gwiriad cudd-wybodaeth:

Offeryn DASH:

Gwiriadau wedi’u Cwblhau ar Ymgeisydd (os nad Person mewn Perygl):

PNC:

Cudd-wybodaeth:

Gwiriadau wedi’u Cwblhau ar Berson mewn Perygl:

PNC:

Cudd-wybodaeth:

DASH:

Os bydd trosedd yn cael ei adrodd, mae dyletswydd i ymateb a chynnal ymchwiliad yn unol â’r gweithdrefnau gweithredu arferol (bydd y broses Datgelu yn rhedeg ochr yn ochr ag unrhyw ymchwiliad sy’n parhau)

Asesiad Risg

A oes Perygl Uniongyrchol neu Ar Fin Digwydd o Niwed wedi’i nodi ar y pwynt hwn?

Oes (camau i’w cymryd ar unwaith i ddiogelu’r rhai sydd mewn perygl yn unol â gweithdrefnau safonol a chofnodi’r camau isod):

NEU

Nac oes (unrhyw fanylion perthnasol i’w cofnodi wrth wneud y penderfyniad hwn):

Swyddog/Staff sy’n ei gwblhau:

Dyddiad:

Gwybodaeth Ychwanegol:

Crynodeb byr o’r wybodaeth sy’n hysbys ar hyn o bryd, canlyniad y gwiriadau a wnaed a sylwadau gan Oruchwylwyr i gefnogi’r penderfyniad a wnaed

Atodiad E - Templed ar gyfer cyfarfod Wyneb yn Wyneb

Safon ofynnol o wybodaeth i’w chael a gwiriadau i’w cwblhau yn ystod y cam Wyneb yn Wyneb

(Cyfeirnod unigryw i’w roi i bob ymholiad a chyfeiriad i’w wneud drwy gydol y broses)

Cofnod Swyddog:

Dyddiad: Lleoliad:

Y rhai sy’n bresennol:

Manylion yr Ymgeisydd:

Enw:

Dyddiad geni:

Lleoliad geni:

Cyfeiriad:

Tarddiad ethnig:

Dilysu Hunaniaeth (angen llun ffoto adnabod):

Rhif – pasbort:

Rhif – Trwydded Yrru:

Tystysgrif Geni:

Arall:

Manylion Pellach:

Rheswm dros gysylltu a gwneud cais?:

Disgrifiwch hanes y berthynas:

Caniatâd:

Rhybudd am ddarparu gwybodaeth ffug

Rhybudd o ddatgelu gwybodaeth bellach a dderbyniwyd

Enw:

Llofnod:

Dyddiad:

Cofnod Swyddog:

Dyddiad:

Cafeat: Cyfrifoldeb y sawl sy’n llenwi’r ffurflen yw gwneud yr holl wiriadau perthnasol, dim datgeliad ar y pwynt hwn (er bod yn cael ei weld yn ddiangen ailadrodd manylion a gwiriadau’r person, gallai fod yn arfer da cael blwch ticio neu ganllawiau i sicrhau nad oes un o’r unigolion wedi dod i sylw ers y gwiriad cyswllt cyntaf. Yn ôl disgresiwn yr Heddluoedd, gellid sicrhau gwiriadau pellach mewn perthynas ag ymholiadau rhyngwladol, CETS, ac ati).

Bydd gwiriadau PND ychwanegol yn cael eu cwblhau ar y pwynt hwn ac ystyrir y canlynol:

Gwiriadau wedi’u Cwblhau ar Unigolyn:

Swyddog sy’n cofnodi:

Dyddiad:

PNC:

PND:

Gwiriad cudd-wybodaeth:

DASH:

Gwiriadau wedi’u Cwblhau ar Ymgeisydd (os nad Person mewn Perygl):

PNC:

Cudd-wybodaeth:

Gwiriadau wedi’u Cwblhau ar Berson mewn Perygl:

PNC:

Cudd-wybodaeth:

DASH:

A oes unrhyw risg uniongyrchol neu sydd ar fin digwydd o ffactorau niwed wedi’u nodi ar hyn o bryd? (Camau diogelu i’w gymryd ar y pwynt hwn fel y bo angen)

Atodiad F – Egwyddorion rhannu gwybodaeth

Mae gweithredu’r Cynllun Datgelu Trais Domestig yn llwyddiannus yn dibynnu ar rannu gwybodaeth yn briodol rhwng asiantaethau a datgelu gwybodaeth i drydydd parti er mwyn diogelu’r cyhoedd. I fod yn glir, rhannu gwybodaeth yw rhannu gwybodaeth rhwng yr holl asiantaethau (statudol ac anstatudol) sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Datgelu Trais Domestig.

Dylai asiantaethau sy’n gyfrifol am rannu a datgelu gwybodaeth o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig fod yn gyfarwydd â Chod Ymarfer Rhannu Data Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a chod ICO am eithriad DPA yn adran 29 Deddf Diogelu Data ynghylch atal troseddu, sydd ar gael ar wefan ICO yn https://ico.org.uk.

Pwrpas rhannu gwybodaeth yn y cyd-destun hwn yw galluogi’r asiantaethau perthnasol (statudol ac anstatudol) i gydweithio’n fwy effeithiol wrth asesu risgiau ac ystyried sut i’w rheoli. Mae hyn yn cyfeirio at rannu’r holl wybodaeth sydd ar gael sy’n berthnasol, fel nad oes unrhywbeth yn cael ei anwybyddu, ac nad yw diogelu’r cyhoedd yn cael ei beryglu. Fodd bynnag, mae rhai egwyddorion sydd rhaid cael eu hystyried wrth ystyried a ddylid rhannu gwybodaeth neu beidio.

Rhaid ystyried rhannu a datgelu gwybodaeth fesul achos bob tro er mwyn penderfynu a yw rhannu gwybodaeth yn gyfreithlon, h.y. yn angenrheidiol ac yn gymesur.

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig yn gyfrifoldeb yr asiantaeth sy’n ei chadw. Er enghraifft, bydd y Gwasanaeth Prawf yn cadw gwybodaeth am eu goruchwyliaeth statudol o gyflawnwr, ac mae’r heddlu yn cadw gwybodaeth am reoli’r troseddwr ar wahân.

Rhaid bod rhannu gwybodaeth yn cadw cyfraith gwlad a deddfwriaeth. Er bod asiantaethau anstatudol fel arfer wedi’u rhwymo gan ddyletswydd cyfrinachedd cyfraith gyffredin (sy’n ei gwneud yn ofynnol na ddylid defnyddio na datgelu gwybodaeth a ddarperir ymhellach ar ffurf adnabyddadwy ac eithrio fel y deellir yn wreiddiol gan y darparwr, neu gyda’i ganiatâd dilynol), mae cyfraith achosion wedi sefydlu amddiffyniad i dorri cyfrinachedd os bydd datgeliad er budd y cyhoedd. Mae’n ddigon posibl y bydd atal, canfod, ymchwilio a chosbi troseddau difrifol ac atal cam-drin neu niwed difrifol yn dod â budd cyhoeddus digon cryf i ddileu’r ddyletswydd cyfrinachedd.

Rhaid bod rhannu gwybodaeth yn cydymffurfio â’r egwyddorion diogelu data a nodir yn y DPA a’u ailgyflwyno yng Nghod Ymarfer yr ICO. Gyda phethau eraill, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu fod yn gywir ac yn gyfredol; rhaid bod yn cael ei chadw yn ddiogel; ac ni ddylid ei gadw am fwy o amser nag sydd angen. Mae rhai gwahaniaethau rhwng yr egwyddorion yn y darnau perthnasol o ddeddfwriaeth: GDPR y DU a Rhan 2 DPA 2018ar gyfer prosesu data cyffredinol; a Rhan 3 DPA 2018 ar gyfer prosesu gorfodi’r gyfraith. Dylech gyfeirio at y canllawiau manwl ar wefan yr ICO.

Mewn amgylchiadau arferol, bydd data ond yn cael ei drin gyda chaniatâd data yr unigolyn, yn glir, ac ond mewn ffyrdd y byddai’r unigolyn yn ei ddisgwyl yn rhesymol. Fodd bynnag, mae adran 29(1) y DPA yn eithriad pwysig i’r gofyniad i gydymffurfio ag egwyddor data 1 os oes angen rhannu data personol er mwyn atal a chanfod troseddau (mae canllawiau ar adran 29 ar gael ar wefan ICIO). O dan y DVDS, bydd yn briodol i’r wybodaeth gael ei rhannu o dan yr eithriad hwn a heb ganiatâd data yr unigolyn (B) os gellir dangos bod angen cael rhannu o’r fath er mwyn atal trosedd yn erbyn A. Fodd bynnag, yn achos data personol, rhaid bodloni amod Atodlen 2 a rhaid bodloni amod o Atodlen 2 ac Atodlen 3 yn achos data personol sensitif. Mae’n hefyd yn bwysig nodi bod yn rhaid i wybodaeth o’r fath sy’n cael ei rhannu gydymffurfio â’r egwyddorion diogelu data sydd ar ôl. Dylid ystyried defnyddio’r eithriad fesul achos.

Rhaid bod rhannu data hefyd yn cydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998 (HRA). Mae Erthygl 8 o’r ECHR, a nodir effaith ddomestig gan yr HRA, yn rhoi hawl i barch at fywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth. Os bydd unrhyw ymyrryd â’r hawl hon gan awdurdod cyhoeddus (fel asiantaeth cyfiawnder troseddol), rhaid fod yn “angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch cenedlaethol, diogelwch y cyhoedd neu les economaidd y wlad, er mwyn atal anhrefn neu droseddu, er mwyn diogelu iechyd neu foesau, neu er mwyn diogelu hawliau a rhyddid pobl eraill. “

Gall rhannu gwybodaeth bersonol am gyflawnwr posibl gael ei weld fel ymyrryd â hawl person i fywyd preifat a theuluol. Er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 8 Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, rhaid dangos bod unrhyw ymyrraeth o’r fath yn angenrheidiol ac yn gymesur wrth geisio cyflawni nod cyfreithlon, megis diogelwch y cyhoedd neu atal anhrefn neu droseddu.

Mewn cyfraith hawliau dynol, mae’r syniad o gymesuredd yn golygu gwneud dim mwy nag sy’n angenrheidiol wrth geisio cyflawni nod cyfreithlon. Y chwe egwyddor diogelu data gorfodi’r gyfraith o dan Rhan 3, Pennod 2 Deddf Diogelu Data 2018 yw’r prif gyfrifoldebau y dylech eu dilyn wrth brosesu data personol at ddibenion gorfodi’r gyfraith. Mae’r drydedd egwyddor yn gofyn body data personol yr ydych yn ei brosesu yn ddigonol, yn berthnasol ac nid yn ormodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cyfyngu’r data i’r hyn sy’n angenrheidiol at y diben(ion) yr ydych yn ei brosesu.

Atodiad G – Rhestr wirio templed ar gyfer y broses gwneud penderfyniadau datgelu gan y fforwm aml-asiantaeth lleol

Adran 1 – Cwestiynau i’w ystyried

A yw B yn adnabyddus am euogfarnau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig?

Lle mae B yn adnabyddus am euogfarnau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, a yw’r Cais am Ddatgeliad yn tynnu sylw at bryderon diogelu wrth ystyried natur yr hanes blaenorol hwn?

A yw B yn adnabyddus am droseddau eraill sy’n ymwneud â diogelu (gan gynnwys cudd-wybodaeth, torri gorchmynion sifil, aflonyddu neu waharddebau, ac ati, Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu neu wybodaeth a gafwyd drwy wiriadau lleol)?

Os yw B yn adnabyddus am droseddau/cudd-wybodaeth/gwybodaeth sy’n berthnasol i ddiogelu a’u bod mewn perthynas agos, ystyriwch y llwybr canlyniadau ‘pryderon’.

Ailystyriwch a oes risg uniongyrchol/ar fin digwydd o niwed wedi’i nodi ac, os felly, cymerwch gamau ar unwaith i ddiogelu person(au) sydd mewn perygl.

Adran 2 - Adolygu canlyniad y camau cyswllt cyntaf ac wyneb yn wyneb

A godwyd pryderon fel rheswm dros wneud y cais?

A godwyd ymddygiad yr unigolyn/sylwadau yr ymgeisydd fel rheswm dros wneud y cais?

O ran yr holl gwestiynau uchod, rhaid ystyried pam.

Ailystyriwch a oes risg uniongyrchol/ar fin digwydd o niwed wedi’i nodi ac, os felly, cymerwch gamau ar unwaith i ddiogelu person(au) sydd mewn perygl.

Adran 3 – Gwybodaeth bellach

A oes unrhyw wybodaeth arall, nad yw wedi’i chynnwys yn y cwestiynau uchod, sy’n tynnu sylw at bryderon diogelu?

Os oes, rhowch fanylion llawn ac ystyriwch lwybr canlyniadau ‘pryderon’.

PRYDERON: Oes / Nac oes (dileer fel y bo’n berthnasol)

Rhesymau a chyfiawnhad dros y llwybr canlyniadau a ddewiswyd (testun rhydd):

Swyddog/Asiantaethau a gynrychiolir ac a gwblhawyd:

PENDERFYNIAD: Datgelu/Peidio â Datgelu (dileer fel y bo’n berthnasol)

A OES YSTYRIAETH WEDI’I RHOI I WAHODD B I GYFLWYNO SYLWADAU:

Oes / Nac oes (diller fel y bo’n berthnasol)

Rhesymau a chyfiawnhad dros y llwybr canlyniadau a ddewiswyd (testun rhydd):

Swyddog/Asiantaethau a gynrychiolir ac a gwblhawyd:

A OES YSTYRIAETH WEDI’I RHOI I HYSBYSU B O’R DATGELIAD:

Oes / Nac oes (diller fel y bo’n berthnasol)

Rhesymau a chyfiawnhad dros y llwybr canlyniadau a ddewiswyd (testun rhydd):

Swyddog/Asiantaethau a gynrychiolir ac a gwblhawyd:

A OES YSTYRIAETH WEDI’I RHOI I GYFEIRIO B AT FFRAMWAITH LLEOL PRIODOL AR GYFER RHEOLI TROSEDDWYR (e.e. MAPPA, IOM)

Oes / Nac oes (diller fel y bo’n berthnasol)

Rhesymau a chyfiawnhad dros y llwybr canlyniadau a ddewiswyd (testun rhydd):

Swyddog/Asiantaethau a gynrychiolir ac a gwblhawyd:

Adran 4 – Awdurdod Cyfreithiol

Ystyriwch yn ofalus Pŵer Cyfraith Gyffredin i ddatgelu gwybodaeth am euogfarnau person pan fydd angen cael datgeliad o’r fath i ddiogelu’r cyhoedd rhag troseddu;

A

Ni fyddai datgelu gwybodaeth yn torri Deddf Hawliau Dynol 1998, Deddf Diogelu Data 2018 nac yn torri cyfrinachedd.

Atodiad H – Templed sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol i’w datgelu (gan gynnwys ffurflen o eiriau)

Templed i’w gadw gan yr Heddlu

Adran 1 – Manylion y Person sy’n derbyn Gwybodaeth am Ddatgeliad

Cyfenw:

Enw(au) cyntaf:

Dyddiad geni:

Cyfeiriad:

Adran 2 – Manylion Gwybodaeth am Ddatgeliad

Cyfenw:

Enw(au) cyntaf:

Dyddiad geni:

Adran 3 – Manylion y Cyfarfod Datgelu

Amser:

Dyddiad:

Asiantaeth:

Personau sy’n bresennol:

Rôl:

Adran 4 – Cytundeb gan Berson sy’n Derbyn Gwybodaeth am Ddatgeliad

Dylid darllen yr wybodaeth ganlynol fel y mae’n ymddangos isod (gair am air) i’r unigolyn sy’n derbyn gwybodaeth am ddatgeliad. Os nad yw’r unigolyn yn cytuno gyda’r cytundeb hwn, dylech ystyried yn ofalus a ddylai’r ddatgeliad fynd yn ei flaen ar y pwynt hwn. Rhaid ystyried y penderfyniad i barhau/peidio â pharhau cyn yr ymweliad ei hun a dylid ei gynnwys yn y cam asesu risg/gwneud penderfyniadau. Hefyd, rhowch fanylion cyswllt pellach i’r unigolyn y gellir eu defnyddio 24/7 rhag ofn y bydd pryderon pellach ynghylch amddiffyn plant.

Cyn derbyn unrhyw wybodaeth am ddatgelu, rhaid i chi ddeall yn glir sut y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth a ddatgelir i chi.

Gallwch:

ddefnyddio’r wybodaeth hon i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel;

ddefnyddio’r wybodaeth i gadw eich plentyn/plant yn ddiogel;

ofyn pa gymorth sydd ar gael;

ofyn gyda phwy y dylech gysylltu os ydych chi’n meddwl bod chi neu arill mewn perygl; a

gofyn am gyngor ar sut i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel.

Ni allwch:

rannu’r wybodaeth a ddatgelwyd i chi gydag unrhyw berson arall. Os ydych yn teimlo bod angen i chi rannu’r wybodaeth gyda pherson arall, rhaid i chi gysylltu â’r person neu’r adran a ddatgelodd yr wybodaeth hon i chi a gofyn am eu caniatâd i wneud hynny.

Gall methu â chadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol arwain at gychwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Gofynnir i chi lofnodi cytundeb i gadw at yr uchod a chadw’r wybodaeth a ddatgelwyd i chi yn gyfrinachol. Os nad ydych yn cytuno i lofnodi’r cytundeb hwn, gall olygu na fyddwch yn derbyn gwybodaeth am ddatgeliad.

CYTUNDEB

Rwy’n deall cynnwys yr adran uchod ynghylch sut y gallaf ddefnyddio’r wybodaeth a ddatgelwyd i mi yn y cyfarfod hwn. Deallaf fod yr wybodaeth yn gyfrinachol ac y gallai achosion cyfreithiol yn fy erbyn ddigwydd pe bawn i’n torri’r cyfrinachedd hwn. Cytunaf i gadw at yr amodau hyn yn gysylltiedig â’r wybodaeth a ddatgelir imi yn y cyfarfod hwn:

Llofnod (y person sy’n derbyn gwybodaeth am ddatgeliad):

Amser:

Dyddiad:

Adran 5 – Manylion Datgelu Gwybodaeth (I BEIDIO A CHAEL i’w adael gyda’r ymgeisydd mewn unrhyw fformat)

Union ffurf y geiriau sy’n cael eu datgelu:

Adran 6 – Datganiad

Rwyf wedi derbyn ac yn deall yn iawn yr wybodaeth sydd wedi’i rhannu gyda mi heddiw. Rwy’n deall y rhybuddion a roddwyd i mi am gyfrinachedd yr wybodaeth hon.

Llofnod (y person sy’n derbyn gwybodaeth am ddatgeliad):

Amser:

Dyddiad:

Adran 7 – Awdurdod a Therfynu sy’n canolbwyntio ar y Dinesydd

Dylid cytuno ar gynllun dilynol priodol ar gyfer y person sy’n cael ei ddatgelu. Dylai hyn ystyried pa gamau y dylid cynghori’r person i’w cymryd nawr i ddiogelu eu plentyn/plant. Dylid cyfeirio dioddefwyr at y gwasanaethau cymorth perthnasol drwy dderbyn dolen neu daflen (Atodiad K). Dylid parhau i ddarparu cymorth gofal yn barhaus drwy’r broses.

Dylid egluro hyn i’r person a dylid egluro yn glir y canlyniadau posibl o fethu â dilyn y cyngor hwn.

Pecyn Awdurdod wedi’i roi neu wedi’i gyfeirio at y wefan? Ydw / Nac ydw

(diller fel y bo’n berthnasol)

Dylai’r cynllun nodi pa asiantaeth sy’n gyfrifol am sicrhau bod y person yn dilyn cyngor i ddiogelu’r plentyn/plant dan sylw; gall hyn fod yn Heddlu, Gofal Cymdeithasol Plant neu asiantaeth briodol arall. Dylid nodi pa asiantaeth fydd yn rhoi unrhyw gymorth i’r person i gynorthwyo gyda hyn; gall hyn fod yn Heddlu, Gofal Cymdeithasol Plant neu asiantaeth/elusen briodol arall (e.e. Cymorth i Fenywod, Stop it Now!).

Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu bryderon pellach, cysylltwch â:

Enw’r Swyddog/Staff:

Rhif Swyddfa:

Enw’r adran:

Rhif Cyswllt 24/7:

Swyddog/Staff yn Datgelu

Swyddog/Staff sy’n ei gwblhau:

Amser:

Dyddiad:

Adran Gwybodaeth Ychwanegol

Rhif Adran:

Manylion:

Atodiad I – Templed geiriau ar gyfer dim datgeliad

Templed i’w gadw gan yr heddlu

Cyfeirnod yr Achos:

Annwyl (nodwch enw’r ymgeisydd):

Mae’r broses ddatgelu yn gyfle ffurfiol i gysylltu â’r Heddlu er mwyn gwneud cais am wybodaeth am unigolyn a enwir sydd mewn perthynas. Os bydd gan yr unigolyn hwn euogfarnau am faterion sydd o ran natur yn ddomestig, rhoddir ystyriaeth ofalus i ddatgelu gwybodaeth i berson sydd mewn perygl a/neu berson sydd mewn sefyllfa i ddiogelu’r unigolyn hwnnw. Gellir datgelu hefyd pan fydd gwybodaeth arall yn awgrymu bod yr unigolyn yn peri risg o niwed ac mae angen datgelu er mwyn cadw rhywun yn ddiogel.

Yn gysylltiedig â’r ymholiad a wnaethoch o dan y cyfeirnod achos uchod, o’r wybodaeth a wnaethoch ei rhoi i’r Heddlu a’r gwiriadau a wnaed ar y manylion hyn, gallwn gadarnhau, yn unol â’r meini prawf a nodir uchod, nad oes gan yr Heddlu unrhyw wybodaeth i’w datgelu yn gysylltiedig â’r unigolyn a nodir eich cais. Fodd bynnag, mae diffyg gwybodaeth yn golygu nad oes unrhyw beth i’w ddatgelu a allai fod o risg o niwed A

Er nad oes gwybodaeth i’w datgelu y tro hwn, rhaid i chi fod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion y bydd yr unigolyn hwn yn peri risg o niwed. Mae’r penderfyniad yn yr achos hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael i wasanaeth yr Heddlu ar hyn o bryd. Ni fydd yr Heddlu byth yn gallu cynnig sicrwydd pendant am y risg a achosir gan unrhyw unigolyn. Am rhagor o wybodaeth am ddiogelu, cyfeiriwch at y Pecyn Ymgeisydd a ddarperir fel rhan o’r broses.

Diolch yn fawr i chi am wneud cais o dan y Broses Ddatgelu ac hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ailadrodd y ffaith bod eich ymholiad yn gam cadarnhaol tuag at gadw pobl yn ddiogel.

Os oes gennych unrhyw bryderon pellach yn y dyfodol am eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun arall, dylech roi gwybod i’r Heddlu neu ffoniwch y Llinell Gymorth Cam-drin Domestig am eich pryderon ar y rhifau ffôn cyswllt a ddarperir.

Wedi’i lofnodi:

Swyddog/Aelod o staff:

Rheng/Rôl:

Rhif:

Gorsaf/Adran:

Dyddiad:

Rhif Ffôn Lleol yr Heddlu:

Llinell Gymorth Cam-drin Domestig:

Atodiad J – Cymorth sydd ar gael ar gyfer Dioddefwyr

  • Llinell gymorth Rhadffôn Cam-drin Domestig Cenedlaethol 24 awr – 0808 2000 247
  • Age UK – sefydliad sy’n cefnogi pobl hŷn a dioddefwyr cam-drin pobl hŷn ar 0800 678 1602. Maent ar agor rhwng 8yb a 7yp, 365 diwrnod y flwyddyn
  • Gofynnwch am ANI – cynllun gair côd i ddioddefwyr ddefnyddio i gael cymorth o le diogel fel eu fferyllfa leol. Eu rhif ffôn cyswllt yw 0191 287 7028 , maent ar agor rhwng 8:45yb a 4.30yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • Broken Rites - grŵp sy’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth ar y cyd i briod sydd wedi gwahanu ac ysgaru a phartneriaid clerigwyr, gweinidogion a Swyddogion Fyddin yr Eglwys. Ebostiwch enquiries@brokenrites.org
  • Clinks – sefyliad sy’ncefnogi’r sector gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl yn y system cyfiawnder troseddol a’u teuluoedd. Mae gan Clinks gyfeiriadur o wasanaethau, er nad yw’n gynhwysfawr, ac mae ganddynt brofiad o gefnogi menywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Eu rhif ffôn yw 020 7383 0966
  • Dogs Trust Freedom Project – gwasanaeth maethu cŵn arbenigol ar gyfer diddefwyr sy’n dianc rhag cam-drin domestig. Eu rhif cyswllt yw 020 7837 0006 (Llun-Gwener 9yb-5yp).
  • Llinell Gymorth Ymateb i Gam-drin Hestia – llinell gyngor arbenigol sy’n cefnogi cyflogwyr i helpu staff sy’n profi cam-drin domestig drwy ffonio 0203 879 3695 neu ebostio Adviceline.EB@hestia.org 9yb-5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Hourglass- sefydliad arbenigol sy’n ceisio rhoi terfyn ar niwed, cam-drin a chamfanteisio ar bobl hŷn yn y DU. Gellir cysylltu â’u llinell gymorth dros y ffôn ar 0808 808 8141, drwy anfon neges destun at 07860 052906 neu drwy anfon ebost at helpline@wearehourglass.org.
  • Galop – sefydliad arbenigol ac elusen gwrth-drais LHDTC sy’n cynnig cymorth i ddioddefwyr LHDTC. Eu Llinell Gymorth Cam-drin Domestig yw 0800 999 5428.
  • Imkaan - sefydliad menywod sy’n darparu cymorth penodol i fenywod du a lleiafrifoedd ethnig. Eu rhif ffôn cyswllt yw 44 20 7842 8525, ac maent ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10yb a 5yp. 57
  • Cymorth i Fenywod Iddewig – sefydliad arbenigol sy’n cefnogi menywod Iddewig a phlant sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig. Eu llinell gymorth yw 0808 801 0500 ac maent ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau o 9.30yb. i 9.30yp. (ac eithrio gwyliau Iddewig a gwyliau banc).
  • Llinell gymorth Karma Nirvana HBA - sefydliad arbenigol sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin “anrhydedd” a phriodasau dan orfod. Eu llinell gymorth yw 0800 599 9247 ac maent ar agor rhwng 9yb a 5yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Menter ManKind - sefydliad arbenigol sy’n cefnogi dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig a’u plant. Ffoniwch 01823 334244 i siarad â nhw yn gyfrinachol, maent ar agor yn ystod yr wythnos rhwng 10yb a 4yp.
  • Llinell Gyngor i Ddynion – Gallwch ffonio 0808 801 0327 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9yb a 8yp neu ebostio info@mensadviceline.org.uk
  • Rhwydwaith Menywod Mwslimaidd - sefydliad arbenigol sy’n cefnogi menywod a merched Mwslimaidd. Eu llinell gymorth yw 0800 999 5786/ 0303 999 5786 neu ebostiwch: info@mwnhelpline.co.uk
  • Llinell gymorth Cam-drin Domestig LHDTC Genedlaethol – 0800 999 5428 o ddydd Llun i ddydd Gwener 10yb-5yp.
  • Llinell gymorth Stelcio Genedlaethol – 0808 802 0300 9.30yb i 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • NSPCC – Elusen plant flaenllaw’r DU sy’n gweithio i atal camdriniaeth, ailadeiladu bywydau plant a chefnogi teuluoedd. Eu rhif ffôn cyswllt yw 0808 800 5000 neu ebostiwch help@nspcc.org.uk.
  • Llinell gymorth FGM yr NSPCC – 0800 028 3550 neu ebostiwch fgm.help@nspcc.org.uk.
  • Paladin – sefydliad sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr stelcian. Cysylltwch â ni ar 020 3866 4107 neu e-bostiwch: info@paladinservice.co.uk
  • Refuge - sefydliad sy’n rhoi cymorth i bawb sy’n dioddef cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched. Eu Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol yw 0808 2000 247
  • Respect - sefydliad sy’n gweithio gyda dynion sy’n dioddef cam-drin domestig a throseddwyr cam-drin domestig ar 0808 8024040 neu ewch i respectphoneline.org.uk
  • Restored – sefydliad arbenigol sy’n gweithio i fynd i’r afael â cham-drin domestig drwy ffurfio partneriaeth ag eglwysi a sefydliadau Cristnogol. Eu rhif ffôn cyswllt yw 0203 9063 930. 58
  • Llinell gymorth Pornograffi Dial – ar agor rhwng 10yb a 4yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ffoniwch 0345 600 0459 neu ebostiwch help@revengepornhelpline.org.uk
  • Gwasanaeth Cam-drin Domestig Iechyd Iaith Arwyddion – gwasanaeth cam-drin domestig arbenigol i gefnogi iechyd a lles pobl Fyddar. Ffoniwch 0203 947 2600 neu Anfonwch neges destun 07966 976749.
  • Cymorth i Fenywod Solace - sefydliad sy’n cefnogi pob dioddefwr trais yn erbyn menywod a merched. Ffoniwch 0808 802 5565
  • Southall Black Sisters - sefydliad sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr o leiafrifoedd ethnig a menywod mudol. Gallwch gysylltu â’u Llinell Gymorth ar 020 8571 9595, rhwng 9:00yb a 5:00yp o Ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Cadwch yn Ddiogel Dwyrain Llundain - sefydliad arbenigol sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig anabl a byddar. Ffoniwch neu anfonwch SMS/Neges destun: 07865 340 122
  • Goroesi Cam-drin Economaidd - sefydliad arbenigol sy’n ymroddedig i gefnogi rhai sy’n dioddef cam-drin economaidd. E-bostiwch info@survivingeconomicabuse.org.
  • Uned Priodasau dan Orfod y DU – 020 7008 0151
  • Cymorth i Ddioddefwyr - gwasanaeth arbenigol sy’n helpu unrhywun sydd wedi’u heffeithio gan unrhyw fath o droseddau, nid yn unig y rhai sy’n ei brofi yn uniongyrchol, ond hefyd eu ffrindiau, eu teulu ac unrhyw rai eraill sy’n gysylltiedig.
  • Cymorth i Fenywod - sefydliad sy’n cefnogi menywod y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Sefydliadau sy’n benodol i Gymru
  • Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – 0808 801 0800 ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Llinell Gymorth Dyn Cymru – sefydliad yn cefnogi dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. 0808 801 0321 neu anfonwch e-bost at cefnogaeth@dynwales.org (cymorth i ddioddefwyr dynion)
  • Cymorth i Ferched Cymru - sefydliad yn cefnogi merched Cymru sydd wedi dioddef cam-drin domestig.
  • BAWSO - sefydliad arbenigol sy’n cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig
  1. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/appendixtableshomicid 

  2. Deddf Cam-Drin Ddomestig 2021 (legislation.gov.uk) 

  3. Deddf Cam-Drin Ddomestig 2021 (legislation.gov.uk) 

  4. Noder bod yr amserlenni a ddarperir yn ganllaw yn unig. Dylai disgresiwn gael ei ddefnyddio gan yr heddlu, yn seiliedig ar asesiad risg, i bennu amserlenni priodol ar gyfer gweithredu. 

  5. Gall staff ystafell reoli’r heddlu, neu staff o Uned Diogelu’r Cyhoedd, neu staff eraill sydd wedi’u hyfforddi’n briodol, gynnal y gwiriadau fel y mae gweithdrefnau’r heddlu lleol yn penderfynu arnynt.