Ymgynghoriad caeedig

Diwygio’r systemau lesddaliad a chyfunddaliad yng Nghymru a Lloegr

Applies to England and Wales

Rydym yn dadansoddi eich adborth

Dewch yn ôl at y wefan hon yn fuan i lwytho'r canlyniad i lawr ar gyfer yr adborth cyhoeddus hwn.

Crynodeb

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar nifer o ddiwygiadau i’r system lesddaliad a chyfunddaliad yn dilyn argymhellion yn adroddiadau Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2020.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar nifer o argymhellion Comisiwn y Gyfraith a fyddai’n ehangu’r mynediad at ryddfreino (prynu’r rhydd-ddaliad) a’r ‘hawl i reoli’ adeilad. Byddai’r argymhellion yn cynyddu’r ‘cyfyngiad amhreswyl’ o 25% i 50% gan ganiatáu i lesddeiliaid mewn adeiladau gyda hyd at 50% o’r gofod llawr yn amhreswyl i brynu eu rhydd-ddaliad neu hawlio hawl i reoli. Rydym hefyd yn ystyried argymhellion sy’n caniatáu i lesddeiliaid fynnu bod landlord yn cymryd prydlesau am unrhyw unedau nad ydynt yn cymryd rhan yn dilyn rhyddfreinio cyfun; cyflwyno cyfyngiad amhreswyl ar gaffael rhydd-ddaliad unigol; a newidiadau i hawliau pleidleisio mewn cwmnïau hawl i reoli.

O ran Cyfunddaliad, rydym yn ystyried sut y gall cynhyrchion rhanberchenogaeth weithio mewn lleoliadau cyfunddaliad; a darparu gwybodaeth ar gyfer prynu a gwerthu eiddo cyfunddaliad.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru wedi ystyried yr argymhellion hyn gan Gomisiwn y Gyfraith ac yn cytuno mewn egwyddor y byddai’r cynigion yma yn cyflawni’r nodau yr ydym wedi eu gosod o ran ehangu’r mynediad at ryddfreinio a’r hawl i reoli ac adfywio cyfunddaliad fel daliadaeth at y dyfodol. Rydym yn ymgynghori i sicrhau bod y rhai y bydd y cynigion hyn yn effeithio arnynt yn cael cyfle addas i rannu eu barn ar effaith y newidiadau hyn cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.

Dogfennau

Cyhoeddwyd ar 11 January 2022