Consultation outcome

Welsh: Ymateb y llywodraeth: Cynhaliaeth Plant: moderneiddio a gwella ein gwasanaeth

Updated 14 March 2022

Rhestr termau

Term Diffiniad
Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) Corff gweinyddol ar gyfer y cynlluniau cynhaliaeth plant 1993 a 2003.
Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) Corff gweinyddol ar gyfer y cynllun cynhaliaeth plant 2012.
Rhiant sy’n talu cynhaliaeth Y rhiant sydd heb brif ofal o ddydd i ddydd o’r plant sy’n gymwys am gynhaliaeth, ac sy’n gyfrifol am dalu cynhaliaeth plant. A elwir hefyd yn rhiant dibreswyl.
Rhiant sy’n cael cynhaliaeth Y rhiant gyda’r prif ofal o ddydd i ddydd o’r plant sy’n gymwys am gynhaliaeth, ac a ddylai gael cynhaliaeth plant. A elwir hefyd yn rhiant â gofal.
Incwm heb ei ennill Incwm trethadwy penodol fel incwm o gynilion a buddsoddiadau, tir neu eiddo neu ffynonellau amrywiol eraill.
Cyllid a Thollau EM (CTHEM) Awdurdod treth, taliadau a thollau’r DU.
Goddefgarwch Incwm Yn gosod y lefel y mae angen i incwm rhiant ei newid er mwyn ail-asesu eu cyfrifiad.
Gorchymyn Didynnu o Enillion (DEO) Dull i sicrhau taliadau cynhaliaeth plant a, neu, ôl-ddyledion yn uniongyrchol o gyflog rhiant sy’n talu cynhaliaeth. Mae’r cyflogwr yn didynnu’r swm yn uniongyrchol o’r cyflog.
Amrywiad Mae amrywiadau yn caniatáu ystyried rhai amgylchiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn y rheolau cyfrifo cynhaliaeth arferol. Os cytunir arno, gall amrywiad arwain at addasiad i’r cyfrifiad cynhaliaeth.
Opsiynau Cynhaliaeth Plant Gwasanaeth am ddim a ddarperir ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn rhoi gwybodaeth a chymorth diduedd i helpu rhieni i wneud dewisiadau gwybodus am gynhaliaeth plant. Rhaid i rieni gael sgwrs ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant cyn y gallant wneud cais i’r CMS.
Cytundeb Teuluol (FBA) Trefniant cynhaliaeth plant y mae rhieni’n cytuno arno rhyngddynt eu hunain, heb gynnwys y cynllun cynhaliaeth statudol. Gall FBA gynnwys cymorth ariannol a/neu anariannol.

Rhagair gweinidogol

Cyflwynwyd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn 2012. Mae’r gwasanaeth diwygiedig wedi’i gynllunio i oresgyn llawer o’r problemau sy’n gysylltiedig â’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) a oedd yn gwneud cam i deuluoedd oherwydd ei fod yn gymhleth, nid oedd yn annog cydweithredu, ac nid oedd yn darparu gwerth i drethdalwyr.

Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant diwygiedig wedi’i gynllunio i gynyddu lefelau cydweithredu rhwng rhieni sydd wedi gwahanu ac annog rhieni i gyflawni eu cyfrifoldebau i ddarparu’r cymorth ariannol sydd ei angen ar eu plant i sicrhau canlyniadau gwell mewn bywyd.

Mae llawer o rieni yn teimlo y gallant wneud y trefniadau yma rhyngddynt eu hunain heb ymyrraeth y Wladwriaeth; ond i’r rhai na allant wneud trefniant teuluol, mae’r CMS yn gweinyddu cynllun statudol ar gyfer rhieni sydd ei angen.

Buom yn ymgynghori’n ddiweddar ar ystod o gynigion i wella tegwch i’r ddau riant a chael mwy o arian i blant. Rwy’n ddiolchgar i’r amrywiaeth o randdeiliaid, rhieni ac aelodau’r cyhoedd a roddodd o’u hamser i ymateb i’n hymgynghoriad. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael awgrymiadau ar gyfer gwelliannau pellach i CMS y tu hwnt i’r rhai a nodwyd yn ein hymgynghoriad ac wrth symud ymlaen, byddwn yn archwilio sut y gallwn roi ystyriaeth ddyledus i’r awgrymiadau yma.

Cawsom gymeradwyaeth eang i’r cynigion a gynhwyswyd yn yr ymgynghoriad. Mae’r ddogfen yma yn nodi sut rwyf yn bwriadu symud ymlaen â’r cynigion hyn, ar ôl ystyried yr ymatebion.

Crynodeb gweithredol

1. Ar 18 Mehefin 2021 cyhoeddodd y Llywodraeth ymgynghoriad Cynhaliaeth Plant: Moderneiddio a Gwella Ein Gwasanaeth.

2. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Awst 2021. Derbyniwyd 123 ymateb: 8 gan sefydliadau a 113 gan unigolion preifat, gyda 30 yn cydnabod eu hunain fel rhieni sy’n talu cynhaliaeth a 40 fel rhieni sy’n cael cynhaliaeth. Mae’r rhestr lawn o’r sefydliadau sydd wedi ymateb ar gael yn Annex A.

3. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yma wedi rhoi’r cynigion canlynol ymlaen:

  • Incwm heb ei ennill a ddelir gan Gyllid a Thollau EM i gael ei gynnwys mewn cyfrifiadau CMS ochr yn ochr ag incwm a enillir gan rieni sy’n talu cynhaliaeth
  • Lleddfu gofynion tystiolaeth i rieni hunangyflogedig pan adroddir am newid sydd wedi torri’r goddefgarwch incwm
  • Dileu cyfeintiau bychain o ddyled gwerth isel (£6.99 neu lai) lle mae’r cyfrifiad cynhaliaeth wedi terfynu ond mae yna ôl-ddyledion sy’n ddyledus ac mae gwerth y ddyled gryn dipyn yn llai na chost ei chasglu
  • Dileu ôl-ddyledion lle:
    • Mae cynhaliaeth plant wedi’i didynnu o enillion rhiant sy’n talu cynhaliaeth lle mae eu cyflogwr wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr cyn i’r taliadau drosglwyddo i’r CMS; a
    • Ni allwn adennill yr ôl-ddyledion sydd heb eu talu gan yr ymddiriedolwr a oedd yn trin ansolfedd y cwmni
  • Anfon a derbyn holl hysbysiadau CMS yn ddigidol yn unig pan fydd cwsmer wedi dweud wrthym mai dyma ei dewis:
  • Gosod gofyniad ar y sefydliadau canlynol i ddarparu gwybodaeth pan ofynnir iddynt wneud hynny mewn modd amserol: darparwyr pensiwn preifat, ysgolion academi, Swyddfa Yswirwyr Moduron a phob math o gwmnïau sy’n cynnig, hyrwyddo neu werthu gwasanaethau rheoli buddsoddiad neu hwyluso masnachu cyfranddaliadau

4. Roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd ymatebion i 10 cwestiwn sy’n cwmpasu ein cynigion.

5. Nid yw’r holl ymatebwyr wedi dewis ymateb i’r cwestiynau penodol fel y gofynnwyd, gyda nifer yn dewis rhoi eu barn am y cynigion yn gyffredinol. Lle’n bosib, rydym wedi ceisio adlewyrchu’r ymatebion yma yn yr adrannau addas. Derbyniwyd nifer fawr o ymatebion gan rieni am amgylchiadau achosion unigol, ac felly mae’r rhain tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad yma.

6. Mae’r cyhoeddiad yma yn crynhoi’r prif bwyntiau a wnaed gan yr ymatebwyr ac yn darparu’r ymateb llawn y Llywodraeth iddynt. Hefyd, mae’n sefydlu sut y byddwn yn mynd ymlaen gyda’r cynigion yma er mwyn sicrhau tegwch i bawb a chael mwy o arian i blant

7. Roedd yr ymatebion cyffredinol i’n cynigion am wella cyfrifiadau cynhaliaeth plant yn bositif. Croesawyd y cynigion i ni gynnwys incwm heb ei ennill yn awtomatig pan fyddwn yn cyfrifo’r atebolrwydd yn gychwynnol (ar hyn o bryd cyfrifir yr atebolrwydd drwy gyfeirio at incwm hanesyddol yn unig, a rhaid codi cais am amrywiad er mwyn cynnwys incwm heb ei ennill).

8. Mae’r ymatebwyr wedi cynnig amrywiad o syniadau ar y cynigion i:

  • Caniatáu’r CMS i ailasesu cyfrifiad cynhaliaeth lle mae incwm rhiant hunangyflogedig wedi newid cyn i’r flwyddyn dreth berthnasol ddod i ben; ac
  • Gwneud cyfrifiad cynhaliaeth yn seiliedig ar ragamcaniad o incwm y rhiant sy’n talu cynhaliaeth am weddill y flwyddyn dreth pan fydd eu hunangyflogaeth yn newydd, hyd nes i’r wybodaeth fod ar gael gan y CTHEM yn ystod yr adolygiad blynyddol
  • Gwneud cyfrifiad ar sail datganiad gan riant sy’n talu hunangyflogedig bod eu hunangyflogaeth wedi dod i ben

9. Roedd yna nifer o ymatebion cytbwys ar gyfer cynigion i ddileu balansau ôl-ddyledion mewn achosion lle mae yna gyfeintiau bychain o ddyled gwerth isel.

10. Fe wnaethom gynnig i’r terfyn uchaf cael eu sefydlu fel £6.99. Derbyniodd hyn ymatebion cymysg oherwydd roedd yna gamddealltwriaeth a gododd o bryderon y dylai unrhyw lefel o ddyled gael ei ddileu. Hefyd, roedd yna ddadleuon yn cyflwyno’r cais i gynyddu’r terfyn uchaf o ddyled i’w ddileu.

11. Roedd ymatebwyr yn bleidiol yn gyffredinol am ein cynnig i ddileu’r balans ôl-ddyledion lle mae eu cyflogwr wedi mynd i ansolfedd, er bod rhai rhieni sy’n cael cynhaliaeth wedi datgan eu pryderon. Roedd yna ddryswch ymddangosiadol ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng cwmnïau y mae rhieni sy’n talu yn berchen arnynt a chyflogwyr sydd wedi cymryd didyniadau cyn eu ansolfedd.

12. Yn gyffredinol, mae’r cynigion i ddarparu llythyrau trwy fodd digidol wedi cael ymateb positif er bod ymatebwyr wedi bod yn glir dylai’r opsiwn i ddewis dull cyfathrebu aros mewn grym.

13. Roedd ymateb a derbyniwyd am y cynnig i ehangu’r rhestr o sefydliadau sydd â dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol yn gadarnhaol ar y cyfan.

Ymatebion

Incwm heb ei ennill

Fe wnaethom ofyn

14. Cwestiwn 1. Beth yw eich barn ar gynnwys incwm heb ei ennill y rhiant sy’n talu cynhaliaeth ochr yn ochr â’r incwm maent wedi’i ennill yn y cyfrifiad CMS cychwynnol, yn hytrach na dim ond pan ofynnir am amrywiad?

Fe wnaethoch ddweud

15. Roedd yr ymateb i’r cwestiwn yma yn gadarnhaol ar y cyfan, gan gadarnhau y byddai hyn yn rhoi adlewyrchiad mwy cywir o incwm cyflawn y rhiant sy’n talu cynhaliaeth. Roedd rhai rhieni sy’n talu cynhaliaeth yn anghytuno gyda’r cynnig, gan nodi eu bod o bosibl yn cynilo ar gyfer anghenion eu plant yn y dyfodol ac ar gyfer eu hymddeoliad. Roedd ymatebwyr eraill yn mynegi pryder y gallai gael effaith negyddol anghyfartal ar rieni sy’n talu cynhaliaeth sydd ar incwm isel.

Beth rydym yn ei wneud

16. Lle bydd incwm heb ei ennill yn cael ei ganfod yn ystod y camau sefydlu achos cychwynnol, bydd yn cael ei gynnwys yn incwm y rhiant sy’n talu cynhaliaeth ar gyfer y cyfrifiad ar yr adeg hynny.

17. Mewn achosion lle mae rhiant sy’n cael cynhaliaeth yn darparu gwybodaeth am incwm ychwanegol heb ei ennill ar gyfer y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn y cyfnod rhwng gweithredu’r newid arfaethedig a’r adolygiad blynyddol nesaf, byddwn yn sicrhau y byddant yn cael gofyn am amrywiad. Bydd hyn yn mynd i’r afael â phryderon am rieni sy’n cael cynhaliaeth sydd gydag achosion cyfredol sy’n gorfod aros tan adolygiad blynyddol yr achos i incwm heb ei ennill y rhiant sy’n talu cynhaliaeth gael ei ystyried.

18. Lle gofynnwyd am amrywiad a’i fod yn llwyddiannus o fewn y cyfnod amser a gwmpesir ym mharagraff 17, bydd y cyfrifiad yn effeithiol o’r dyddiad y rhoddir gwybod am y newid.

Gofynion tystiolaeth hunangyflogedig

Fe wnaethom ofyn

19. Cwestiwn 2. Beth yw eich barn am ein cynlluniau i wneud cyfrifiad cynhaliaeth yn seiliedig ar ddatganiad rhiant sy’n talu cynhaliaeth o’u hincwm amcangyfrifedig ar gyfer gweddill y flwyddyn dreth, hyd nes gellir cael gwybodaeth gan Gyllid a Thollau EM (CTHEM) ar yr adolygiad blynyddol?

Fe wnaethoch ddweud

20. Er bod ymatebion cadarnhaol wedi’u cael ar y cyfan mewn perthynas â’r cynnig yma, roedd gan rai ymatebwyr bryderon am ganiatáu i rieni sy’n talu cynhaliaeth ragamcanu eu henillion fel rhai hunangyflogedig newydd. Roeddent yn dweud y gallai fod yn agored i gael ei gamddefnyddio gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth ac y byddai’n ofynnol i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) roi gweithgarwch sicrwydd ar waith mewn perthynas â dyletswydd y rhiant sy’n talu cynhaliaeth i roi gwybod am unrhyw newidiadau mewn dull amserol a chywir.

Beth rydym yn ei wneud

21. Ar hyn o bryd, pan fydd rhieni sy’n talu cynhaliaeth am roi gwybod am ffigwr incwm amcangyfrifedig o hunangyflogaeth newydd, neu roi gwybod bod hunangyflogaeth wedi dod i ben, mae’n ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth benodol i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) i gefnogi hyn. Rhaid i rieni hunangyflogedig newydd ddarparu cyfrifon elw a cholled. Rhaid i rieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n rhoi gwybod bod hunangyflogaeth wedi dod i ben ddarparu tystiolaeth benodol gan Gyllid a Thollau EM (CTHEM), bod y busnes wedi dod i ben.

22. Bydd y newid yn galluogi rhieni sy’n talu cynhaliaeth i ddarparu datganiad gyda’u henillion rhagamcanol ar gyfer pobl hunangyflogedig newydd a datganiad yn cynghori bod eu hunangyflogaeth wedi dod i ben.

23. Bydd ein rhyngwyneb gyda Chyllid a Thollau EM (CTHEM) ar adeg yr adolygiad blynyddol yn dod o hyd i unrhyw anghysondebau gyda’r wybodaeth sydd wedi ei roi gan rieni sy’n talu cynhaliaeth. Bydd unrhyw wrthwynebu a fydd yn cael ei wneud gan rieni sy’n cael cynhaliaeth yn cael eu hystyried a lle mae sail resymol i amau’r wybodaeth wedi’i ddarparu, gellir gwneud ymchwiliadau pellach. Lle rydym yn fodlon y bu camliwiad, neu fethiant i ddatgelu gwybodaeth yn ymwneud gyda’r hunangyflogaeth newydd, gallai diwygiad i’r penderfyniad cynharach fod yn briodol.

24. Er ein bod yn derbyn na all defnyddio amcangyfrif o elw a ragamcanir warantu atebolrwydd cynhaliaeth hollol gywir, mae’r un peth yn wir am ofynion tystiolaethol cyfredol y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS). Bydd y newid yma yn dod â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn unol gyda gofynion dilysu cyfredol Cyllid a Thollau EM (CTHEM).

Fe wnaethom ofyn

25. Cwestiwn 3. Beth yw eich barn am ein cynnig i ailasesu cyfrifiad cynhaliaeth pan fydd incwm rhiant hunangyflogedig wedi newid cyn diwedd y flwyddyn dreth berthnasol?

Fe wnaethoch ddweud

26. Roedd llawer o ymatebwyr yn mynegi pryderon y gallai caniatáu i rieni sy’n talu cynhaliaeth roi gwybod am newidiadau o’r fath mewn incwm hunangyflogedig fod yn agored i gamddefnyddio gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth. Roeddent yn awgrymu y byddai datganiadau gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn rhoi angen i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) roi gweithgarwch sicrwydd llym ar waith i sicrhau bod rhoi gwybod newidiadau yn cael eu gwneud mewn dull amserol a chywir.

Beth rydym yn ei wneud

27. Ni fyddwn yn dilyn y cynnig yma ac yn hytrach byddwn yn ymchwilio i ffyrdd eraill o wella’r broses gyfrifo ar gyfer rhieni hunangyflogedig, sy’n lleihau’r risg o weithgarwch twyllodrus a chyfrifiadau cynhaliaeth a allai fod yn anghywir.

Dileu dyled lefel isel

Fe wnaethom ofyn

28. Cwestiynau 4 a 5. Beth yw eich barn am ein cynlluniau i ddileu balansau ôl-ddyledion mewn achosion sy’n cwrdd â’r gofynion arfaethedig a amlinellir yn y papur yma? Beth yw eich barn am ein cynnig i osod y terfyn uchaf ar gyfer achosion o’r fath, sef £6.99?

Fe wnaethoch ddweud

29. Er bod cytundeb cyffredinol gyda chynlluniau i ddileu lefelau isel o ddyled mewn rhai achosion, roedd rhai amheuon, a oedd yn deillio o bosibl o gamddealltwriaeth o’r cynnig, bod y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn edrych ar ddileu unrhyw ôl-ddyledion, waeth pa mor fach.

30. Roedd sawl barn wahanol o amgylch y trothwy ar gyfer gwneud y penderfyniad i ddileu’r ddyled. Roedd rhai yn meddwl bod y trothwy yn rhy uchel ac eraill yn rhy isel.

Beth rydym yn ei wneud

31. Bydd dileu dyled lefel isel yn cael ei wneud ar ôl-ddyledion dim ond mewn achosion ble:

  • mae’r cyfrifiad cynhaliaeth wedi dod i ben
  • mae dyled yn parhau sy’n is na’r trothwy o £6.99
  • ni ellir cysylltu gyda’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth; a
  • bod gweithredoedd olrhain safonol yn profi’n aflwyddiannus

32. Rydym wedi ystyried effaith dileu lefelau mor isel o ddyled ar y ddau riant ac wedi setlo ar drothwy sy’n taro’r cydbwysedd rhwng:

  • Parhau i annog rhieni sy’n talu cynhaliaeth i gyflawni eu rhwymedigaethau cynhaliaeth plant
  • Galluogi’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) i ganolbwyntio ei ymdrechion a’i adnoddau ar gyfer casglu dyled ar achosion lle mae’r gost o fynd ar ôl y ddyled yn fwy cyfatebol, a
  • Sicrhau bod cynhaliaeth heb ei chasglu yn cael y lleiaf o effaith â phosib ar blant

33. Byddai gosod y trothwy yn uwch yn rhoi’r neges anghywir i rieni sy’n talu cynhaliaeth am eu rhwymedigaethau. Gan mai’r gyfradd unffurf ar gyfer cynhaliaeth plant (sef yr isafswm y mae disgwyl i riant ei dalu i gwrdd gyda’i ddyletswydd statudol i gynnal eu plant) yw £7 yr wythnos, rydym yn ystyried mai gosod y trothwy ychydig yn is na’r swm yma yw’r ffordd orau i daro’r cydbwysedd yna.

34. Mae costiadau diweddar y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) a ddarparwyd i’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dangos bod y costau rhedeg blynyddol cyfartalog fesul achos tua £470 - £480. Sydd ar gyfartaledd yn £9 yr wythnos, sy’n uwch na £6.99. Lle mae’n amlwg y byddai casglu’n llwyddiannus, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn defnyddio ei adnoddau i gasglu.

Cynhaliaeth Plant heb ei gasglu pan fydd cyflogwr yn mynd yn fethdalwr

Fe wnaethom ofyn

35. Cwestiwn 6. Beth yw eich barn am ein cynnig i ddileu balansau ôl-ddyledion mewn achosion sy’n cwrdd gyda’r gofynion arfaethedig a amlinellir yn y papur yma ar gyfer rhieni sy’n talu cynhaliaeth sydd wedi gwneud taliad drwy orchymyn didynnu o enillion ac mae eu cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr cyn talu’r swm ac wedi’i ddidynnu i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS)?

Fe wnaethoch ddweud

36. Roedd pryder nad yw’r CMS yn gallu mynnu hawliadau blaenoriaeth dros gasglu didyniadau rhieni sy’n talu cynhaliaeth gan gyflogwyr sydd wedi mynd yn fethdalwr, a chafwyd camddealltwriaeth y gallent, os oedd rhieni sy’n talu cynhaliaeth hefyd yn gyflogwyr, ddargyfeirio asedau a chau’r busnes o’u gwirfodd. ffordd o osgoi talu cynhaliaeth plant.

Beth rydym yn ei wneud

37. Mae’r cynigion yma yn ymwneud ag achosion pan fo’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn gyflogai i gwmni sydd wedi dechrau achos ansolfedd ac yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn ymwneud â thaliadau sengl a ddidynnir o gyflog y rhiant ond heb eu talu i’r CMS. Nid yw’n cyfeirio at rieni hunangyflogedig na’r rheini sy’n ceisio osgoi eu rhwymedigaethau parhaus drwy ddargyfeirio asedau.

38. O dan y trefniadau presennol, dim ond fel credydwr ansicredig y gellir gwneud unrhyw hawliad gan y CMS i ymarferydd ansolfedd ac felly mae unrhyw hawliad yn gyfartal ochr yn ochr â chredydwyr ansicredig eraill. Rydym yn bwriadu ymchwilio i weld a ellir rhoi statws ffafriol i hawliadau a wneir gan y CMS, sy’n golygu y byddai unrhyw ddyledion yn cael eu talu yn o flaen y corff cyffredinol o gredydwyr ansicredig.

Anfon, derbyn a chyrchu hysbysiadau CMS yn ddigidol

Fe wnaethom ofyn

39. Cwestiwn 7. Beth ydych yn feddwl am ein cynlluniau i ddefnyddio pob math o gyfathrebu sy’n addas ar gyfer anghenion cwsmeriaid gan gynnwys digidol?

Fe wnaethoch ddweud

40. Roedd yr ymatebwyr yn gyffredinol o blaid gwella’r dull o gyfathrebu drwy ddefnyddio dulliau digidol, cyn belled â’u bod yn briodol ac nad oeddent yn rhoi unrhyw gwsmer dan anfantais.

41. Lleisiwyd rhai pryderon mewn perthynas â’r effaith bosibl ar gwsmeriaid sy’n mynd trwy gyfnod anodd, gyda phroblemau porthol yn achosi problemau mynediad ac weithiau rhwystrau iaith. Yn yr achosion hyn, byddai’n well cyfathrebu drwy’r post.

Beth rydym yn ei wneud

42. Mae deddfwriaeth CMS ar hyn o bryd yn ymrwymo’r CMS mewn rhai achosion i gyfathrebu drwy’r post gyda’i gwsmeriaid.

43. Ein nod yw sicrhau bod gan y CMS y disgresiwn i ddewis y sianel gywir i gyfathrebu â’i gwsmeriaid, lle bynnag y bo modd ac yn unol â dewisiadau cyswllt cwsmeriaid, er enghraifft cyflwyno ei hysbysiadau cwsmeriaid yn ddigidol lle mae’r cwsmer wedi nodi mai hunanwasanaeth yw ei dewis cyswllt.

44. Fel y cyfryw, rydym yn bwriadu gwneud newidiadau mewn deddfwriaeth i alluogi i fwy o hysbysiadau CMS gael eu hanfon, eu derbyn a’u cyrchu’n ddigidol, pan ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny. Bydd hyn yn galluogi’r CMS i gyfathrebu gyda chwsmeriaid drwy sianeli digidol ac yn galluogi hysbysiadau y mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt gael eu postio ar hyn o bryd i gael eu hanfon drwy fecanweithiau digidol.

45. Byddai llythyrau sy’n cynnwys gwybodaeth am ganlyniadau difrifol os bydd rhieni’n methu â gwneud taliadau cynhaliaeth plant sy’n ddyledus, yn parhau i fod trwy ddull post, yn ogystal â dull digidol ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi dweud wrthym y byddai’n well ganddynt gyfathrebu â ni drwy ddull digidol.

46. Mae CMS yn cydnabod y byddai angen llwybr amgen addas ar gyfer hysbysiadau at gwsmeriaid â gofynion hygyrchedd sy’n eu hatal rhag defnyddio gwasanaethau ar-lein, er enghraifft drwy’r post. At hynny, mae CMS yn cydnabod bod yna grŵp o’n cwsmeriaid sylfaen y byddai’r CMS yn ei chael hi’n anodd i gyfathrebu â nhw mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio. Byddwn yn gweithio i gryfhau a datblygu gweithdrefnau presennol na fyddant yn peryglu gorfodi, yn ogystal â pharhau i gynnig amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu amgen.

Fe wnaethom ofyn

47. Cwestiwn 8. Beth yw eich barn ar ein cynllun i ymestyn ein gwasanaeth ar-lein presennol i gyflogwyr ac edrych i gyfathrebu gyda thrydydd parti yn ddigidol am achosion Cynhaliaeth Plant yn y dyfodol?

Fe wnaethoch ddweud

48. Yn gyffredinol, roedd cefnogaeth i’r cynnig yma gan yr ymatebwyr a fynegodd farn ar hyn.

Beth rydym yn ei wneud

49. Dymunwn ddiogelu’r ddeddfwriaeth at y dyfodol fel nad yw wedi’i chyfyngu i ddull penodol o gyfathrebu, ond i ganiatáu cyfathrebu drwy’r post ac yn electronig gyda chyflogwyr a thrydydd parti.

50. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu gyda chyflogwyr drwy wefan Hunanwasanaeth Cyflogwyr Cynhaliaeth Plant sy’n caniatáu i gyflogwyr hysbysu’r CMS o newidiadau amrywiol a gofyn cwestiynau.

51. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu gyda thrydydd parti drwy e-bost.

52. Byddai hyn yn cyd-fynd gyda’n hymrwymiad i leihau’r baich ar gyflogwyr, sydd wedi mynegi y byddai’n well ganddynt i ni anfon cyfathrebiadau atynt drwy ddull digidol

Rheoliadau Gwybodaeth

Fe wnaethom ofyn

53. Cwestiwn 9. Oes gennych unrhyw sylwadau mewn perthynas i gynnwys darparwyr pensiwn preifat, Academïau, Swyddfa’r Diwydiant Modur a phob math o gwmnïau sy’n cynnig, hyrwyddo neu werthu gwasanaethau rheoli buddsoddiad neu’n hwyluso masnachu cyfranddaliadau i’r rhestr o bobl a sefydliadau sydd â dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol?

Fe wnaethoch ddweud

54. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn croesawu’r cynnig i gyflwyno’r pŵer newydd yma. Teimlai ymatebwyr y byddai hyn yn bŵer effeithiol ond roeddynt yn argymell bod yn ofalus wrth ddefnyddio a storio data mewn perthynas â GDPR.

Beth rydym yn ei wneud

55. Rydym yn bwriadu bwrw ymlaen ag ychwanegu darparwyr pensiwn preifat, perchnogion academi, Biwro’r Diwydiant Moduro a phob math o gwmnïau sy’n cynnig, yn hyrwyddo neu’n gwerthu gwasanaethau rheoli buddsoddiadau neu’n hwyluso masnachu cyfranddaliadau at y rhestr o’r rhai y gall y CMS ofyn amdanynt i ddarparu gwybodaeth berthnasol ar gyfer cyfrifo, casglu a gorfodi cynhaliaeth plant. Drwy gynnwys y sefydliadau yma, mae’n gwneud y broses iddynt gyflenwi gwybodaeth y gofynnwyd amdani i’r CMS yn llawer symlach. Yn flaenorol, byddai arolygydd wedi gorfod ymweld â’i safle. Nawr byddant yn gallu ymateb i geisiadau am wybodaeth trwy ddulliau digidol diogel. Mae hyn yn llawer mwy cyfleus ac yn llai ymwthiol i’r sefydliadau yma.

56. Defnyddir ein pwerau i ofyn am wybodaeth wrth gasglu gwybodaeth at ddiben:

  • olrhain y rhiant sy’n talu cynhaliaeth
  • cyfrifo cynhaliaeth
  • cynnal yr achos; neu
  • gorfodi ôl-ddyledion cynhaliaeth plant

57. Mae unrhyw ddata personol a ddarperir neu a ddefnyddir gan y CMS yn cael ei lywodraethu gan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

58. Byddwn yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid a’r cyhoedd mewn perthynas â phryderon a godwyd ynghylch prosesu a chadw gwybodaeth a ddarperir o dan unrhyw bwerau newydd yr ydym yn gweithio gyda pholisi GDPR a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llawn.

Fe wnaethom ofyn

59. Cwestiwn 10. A oes gennych unrhyw sylwadau mewn perthynas â chynnwys perchnogion academi yn y rhestr o bersonau a sefydliadau sydd â dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol pan fo dyletswydd rhannu data eisoes rhwng perchennog academi ac awdurdodau lleol?

Fe wnaethoch ddweud

60. O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn yma, roedd yr ymateb aruthrol yn gadarnhaol o ran caniatáu cynnwys perchnogion academi yn y rhestr

Beth rydym yn ei wneud

61. Yn unol â’n hymateb i gwestiwn 9, byddwn yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid a’r cyhoedd mewn perthynas â phryderon a godwyd ynghylch prosesu a chadw gwybodaeth a ddarperir o dan unrhyw bwerau newydd ein bod yn gweithio gyda pholisi GDPR a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i sicrhau hynny. Rydym yn cydymffurfio’n llawn

62. Rydym yn anelu i ddatblygu’r newid yma, gan gasglu data a fydd yn ein helpu i gysylltu gyda rhieni sy’n talu cynhaliaeth, ac os oes angen, cymryd camau gorfodi mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio.

Pwyntiau a godwyd y tu allan i derfynau’r ymgynghoriad

63. Roedd sawl pwynt wedi’u codi gan ymatebwyr nad oeddent wedi’u cwmpasu yn y cynigion a oedd wedi’u gosod yn yr ymgynghoriad ac mae’r rhain wedi’u cofnodi. Roedd yr adrannau oedd wedi’u cwmpasu fel a ganlyn.

Rhannu gofal

64. Yr adborth cyffredinol ynglŷn â rhannu gofal oedd bod y cyfraddau presennol ar gyfer lleihau cyfrifiadau cynhaliaeth plant yn annheg ar y rhiant sy’n talu cynhaliaeth.

65. Roedd nifer o ymatebwyr yn sôn bod rhannu gofal yn cael ei ddefnyddio gan y rhiant sy’n cael cynhaliaeth fel ffordd o reoli yn erbyn y rhiant sy’n talu cynhaliaeth pan fydd anghytundebau’n codi yn yr achos.

66. Roedd yn ymddangos bod y gwahaniaeth rhwng rhannu gofal cyfartal a gofal cyfartal o ddydd i ddydd yn bwynt tensiwn allweddol rhwng rhieni. Yn benodol, rydym yn ymwybodol y gall ein gwybodaeth am rannu gofal cyfartal fod yn gamarweiniol ac yn aneglur i’n cwsmeriaid. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn awyddus i edrych ar wella ein defnydd o derminoleg, cyfeirio a darparu adnoddau i helpu pob rhiant sydd wedi gwahanu i ddod i gytundeb ar rannu gofal (waeth beth fo’u hymglymiad gyda’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant).

67. Roedd sawl ymateb yn dweud bod trefniadau gweld eu plant wedi chwalu ar ôl i achos CMS gael ei agor.

Incwm Gros yn erbyn Incwm Net

68. Roedd nifer o ymatebwyr yn teimlo nad oedd cyfrifo cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm gros y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn hytrach na’r incwm net, yn adlewyrchu cyflog clir. Roedd gan nifer o rieni sy’n talu cynhaliaeth geir cwmni ac roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu hasesu’n annheg oherwydd goblygiadau treth y rhain.

Incwm Rhiant Sy’n Cael Cynhaliaeth

69. Roedd nifer o ymatebion y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn datgan pryderon nad oedd incwm neu enillion y rhiant sy’n cael cynhaliaeth yn cael eu hystyried wrth gyfrifo swm y gynhaliaeth sy’n ddyledus. Roedd sawl rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn dweud eu bod yn cael eu rhoi mewn caledi ariannol tra’u bod yn teimlo bod y rhiant sy’n cael cynhaliaeth mewn sefyllfa ariannol llawer gwell.

Twyll a Ffordd o Fyw Anghyson

70. Roedd ymatebwyr hefyd yn pryderu nad oedd rhieni sy’n cael cynhaliaeth bellach yn gallu gwneud cais am amrywiad i’r cyfrifiad cynhaliaeth lle’r oedd yn amlwg bod ffordd o fyw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn anghyson â’u hincwm datganedig. Roedd nifer o ymatebion yn dweud na allai incwm y rhiant sy’n talu cynhaliaeth gefnogi’r ffordd o fyw a oedd ganddynt mewn unrhyw ffordd. Roedd ymatebwyr yn amau datganiadau twyllodrus gan rieni sy’n talu cynhaliaeth, mewn perthynas â’u hincwm a’u henillion i ostwng y cyfrifiad cynhaliaeth. Roedd nifer o enghreifftiau wedi’u rhoi o dwyll honedig yn cael ei wneud gan y rhieni sy’n talu cynhaliaeth.

Goddefiant 25%

71. Roedd nifer fach o ymatebion yn anghytuno gyda’r goddefiant o 25% ar incwm sy’n cael ei ddefnyddio, gan nodi newidiadau diweddar i ffyrlo ac incwm. Awgrymiadau yw y dylai hyn fod yn is er mwyn caniatáu i gyfrifiadau mwy cywir gael eu rhoi mewn grym.

Gorfodi Cilyddol o Orchmynion Cynhaliaeth

72. Roedd 2 ymateb yn awgrymu y dylai’r CMS fod yn gweithio’n agosach gyda Gorfodi Cilyddol o Orchmynion Cynhaliaeth (REMO) i sicrhau canlyniadau wrth fynd ar drywydd rhieni sy’n talu cynhaliaeth a oedd wedi symud dramor ac a oedd felly allan gydag awdurdodaeth CMS.

Camau nesaf

73. Rydym yn bwriadu gwneud newidiadau mewn is-ddeddfwriaeth fel y bydd amser seneddol yn caniatáu, i ddod â newidiadau mewn grym i:

  • Rheoliadau Gwybodaeth Cynhaliaeth Plant 2008 i ehangu rheoliadau gwybodaeth i gynnwys darparwyr pensiwn preifat, perchnogion academi, y Swyddfa Yswirwyr Moduron a phob math o gwmnïau sy’n cynnig, yn hyrwyddo neu’n gwerthu gwasanaethau rheoli buddsoddi neu’n hwyluso masnachu cyfranddaliadau
  • Diweddaru holl reoliadau’r CMS sy’n ymdrin gyda chyfathrebu, er mwyn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno hysbysiad neu hysbysiadau i gwsmeriaid a thrydydd parti, fel cyflogwyr, yn ysgrifenedig drwy’r post neu drwy ddulliau electronig

74. Yn ddiweddarach, rydym yn bwriadu gwneud newidiadau mewn rheoliadau i incwm heb ei ennill, i ddileu dyled lefel isel a chynhaliaeth na fydd yn cael ei gasglu pan fydd cyflogwr yn mynd yn fethdalwr, yn ddiweddarach.

Atodiad A

Sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad

Gingerbread
Families Need Fathers (FNF)
Law Society
Family Law in Partnership (FLiP)
National Association for Child Support Action (NACSA)
Motor Insurers’ Bureau (MIB)
Public and Commercial Services Union (PCS)