Consultation outcome

Welsh: Cynhaliaeth Plant: moderneiddio a gwella ein gwasanaeth

Updated 14 March 2022

Applies to England, Scotland and Wales

Rhestr Termau

Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) Corff gweinyddol ar gyfer y cynlluniau cynhaliaeth plant 1993 a 2003
Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) Corff gweinyddol ar gyfer y cynllun cynhaliaeth plant 2012
Rhiant sy’n talu cynhaliaeth Y rhiant sydd heb brif ofal o ddydd i ddydd o’r plant sy’n gymwys am gynhaliaeth, ac sy’n gyfrifol am dalu cynhaliaeth plant. A elwir hefyd yn rhiant dibreswyl.
Rhiant sy’n cael cynhaliaeth Y rhiant gyda’r prif ofal o ddydd i ddydd o’r plant sy’n gymwys am gynhaliaeth, ac a ddylai gael cynhaliaeth plant. A elwir hefyd yn rhiant â gofal.
Incwm heb ei ennill Incwm trethadwy penodol fel incwm o gynilion a buddsoddiadau, tir neu eiddo neu ffynonellau amrywiol eraill.
Cyllid a Thollau EF (HMRC) Awdurdod treth, taliadau a thollau’r DU.
Goddefgarwch Incwm Yn gosod y lefel y mae angen i incwm rhiant ei newid er mwyn ail-asesu eu cyfrifiad
Gorchymyn Didynnu o Enillion (DEO) Dull i sicrhau taliadau cynhaliaeth plant a, neu, ôl-ddyledion yn uniongyrchol o gyflog rhiant sy’n talu cynhaliaeth. Mae’r cyflogwr yn didynnu’r swm yn uniongyrchol o’r cyflog.
Amrywiad Mae amrywiadau yn caniatáu ystyried rhai amgylchiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn y rheolau cyfrifo cynhaliaeth arferol. Os cytunir arno, gall amrywiad arwain at addasiad i’r cyfrifiad cynhaliaeth

Crynodeb gweithredol

1. Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar nifer o newidiadau deddfwriaethol arfaethedig gyda’r nod o foderneiddio a gwella ein gwasanaeth.

Incwm heb ei ennill

2. Rydym am sicrhau bod y cyfrifiad cynhaliaeth plant yn adlewyrchu ffynonellau incwm rhieni sy’n talu cynhaliaeth yn gywir.

3. Mae mynediad i wybodaeth a adroddir i Gyllid a Thollau EF yn caniatáu i’r CMS gael ystod ehangach o wybodaeth incwm. Mae hyn yn caniatáu i’r CMS gyfrifo atebolrwydd yn gyflymach ac yn fwy cywir. Er bod y system yma yn gweithio’n dda i’r mwyafrif o’n cleientiaid, rydym yn ymwybodol o achosion lle mae incwm y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn fwy cymhleth ac efallai na chaiff ei adlewyrchu’n llawn yn y prosesau cyfredol.

4. Rydym yn ceisio barn ar wneud newidiadau mewn deddfwriaeth sy’n galluogi i’r cyfrifiad cynhaliaeth plant gynnwys incwm heb ei ennill na allwn o bosib ei ddal ar hyn o bryd yn y cyfrifiad cynhaliaeth plant. Byddai hyn yn lleihau’r cwmpas i rieni drefnu eu materion ariannol i leihau eu hatebolrwydd ariannol am eu plant.

Gofynion tystiolaeth hunangyflogaeth

5. Mae’r rheolau ar gyfer ystyried newidiadau incwm yn wahanol ar gyfer rhieni cyflogedig a hunangyflogedig.

6. Rydym yn ceisio barn ar welliannau deddfwriaethol a allai ganiatáu newidiadau incwm hunangyflogedig y tu allan i’r adolygiad blynyddol, lle bu colled incwm ac nid oes ffurflen dreth newydd sy’n adlewyrchu colli incwm wedi’i chyflwyno i Gyllid a Thollau EF. Rydym yn bwriadu gwneud hyn trwy’r defnydd dewisol o amcangyfrifon incwm.

7. Bydd y newidiadau yma o fudd i’r hunangyflogedig trwy sicrhau bod eu hincwm yn cael ei adlewyrchu’n fwy cywir yn y cyfrifiad cynhaliaeth plant.

Diddymu dyled lefel isel

8. Hoffem gyflwyno pwerau a fydd yn caniatáu i’r CMS ddiddymu cyfeintiau bach o ôl-ddyledion cynhaliaeth plant lefel isel mewn amgylchiadau penodol. Mae’r cynnig yma yn ymwneud â symiau bach lle mae gwerth y ddyled gryn dipyn yn llai na chost ei chasglu.

9. Nid yw’r pwerau cyfredol yn caniatáu i ni ddiddymu’r ôl-ddyledion lefel isel yma sy’n gadael dyled ar systemau TG CMS, ar gost i’r trethdalwr. Heb newid i’r rheoliadau, gallai’r gost yma barhau am ddegawdau a byddai achosion yn parhau ar agor

Cynhaliaeth Plant heb ei gasglu pan ddaw cyflogwr yn fethdalwr

10. Rydym yn ceisio barn ar ein hymagwedd tuag at achosion lle gwnaed didyniad ar gyfer cynhaliaeth plant o enillion y rhiant sy’n talu cynhaliaeth (a elwir yn Orchymyn Didynnu o Enillion, DEO) ond mae’r cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr ac nid yw’r swm a ddidynnwyd wedi’i dalu i’r CMS.

11. Ar hyn o bryd, o dan yr amgylchiadau yma, mae’n ofynnol i’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth gyflwyno hawliad i’r ymarferydd ansolfedd er mwyn cael ad-daliad o’r swm a ddidynnwyd trwy’r DEO ond sydd heb ei dalu drosodd i’r CMS eto.

12. Mae hyn yn golygu, os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn aflwyddiannus yn adennill y swm gan yr ymarferydd ansolfedd, ni fydd y rhiant sy’n cael cynhaliaeth yn cael y taliad. Bydd y swm yma yn cael ei drin fel ôl-ddyledion a bydd y CMS yn parhau i’w orfodi.

13. Rydym yn cynnig y bydd gan y CMS gyfrifoldeb i gyflwyno hawliad yn uniongyrchol i’r ymarferydd ansolfedd ym mhob achos. Nid yw’r CMS yn sicr o gael taliad. Os mai dim ond rhan neu ddim o’r ôl-ddyledion sy’n cael eu hadennill, bydd yr ôl-ddyledion yn cael eu dileu a’r rhieni yn cael eu hysbysu. Anfon, derbyn a chyrchu hysbysiadau CMS yn ddigidol

14. Rydym wedi ymrwymo i wella’r gwasanaethau rydyn yn eu darparu i’n cwsmeriaid yn barhaus. Rydym nawr eisiau moderneiddio’r CMS ymhellach trwy wneud newidiadau mewn deddfwriaeth i alluogi anfon, derbyn a chyrchu mwy o hysbysiadau CMS yn ddigidol.

15. Ar hyn o bryd, mae ein deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyflwyno rhai llythyrau trwy ddull post. Hoffem gyfathrebu gyda’n cwsmeriaid trwy’r dull sydd orau ganddynt felly rydym yn cynnig gwneud newidiadau yn ein rheoliadau i alluogi’r CMS i gyflwyno hysbysiadau cwsmeriaid trwy ein gwasanaeth ar-lein.

16. Byddwn yn cadw ein gwasanaeth post ar gyfer cwsmeriaid nad yw gwasanaeth ar-lein yn briodol ar eu cyfer ac ar gyfer llythyrau pwysig ynghylch gorfodi dyled sy’n manylu ar ganlyniadau difrifol.

17. Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal ein hymrwymiad i leihau’r baich ar gyflogwyr, rydym hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau mewn deddfwriaeth i alluogi’r CMS i anfon hysbysiadau trwy ddulliau digidol at gyflogwyr a thrydydd parti.

Rheoliadau Gwybodaeth

18. Rydym am symleiddio ein gwasanaeth i’w gwneud hi’n haws i’n cwsmeriaid a’n trydydd parti. Gyda hyn mewn golwg, hoffem ehangu’r rhestr o sefydliadau y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â cheisiadau am wybodaeth i ddarparwyr pensiwn preifat, perchnogion academi , Swyddfa Yswirwyr Modur a phob math o gwmnïau sy’n cynnig, hyrwyddo neu werthu gwasanaethau rheoli buddsoddiad neu hwyluso masnachu cyfranddaliadau.

19. Defnyddir pwerau i ofyn am wybodaeth i gasglu gwybodaeth sy’n angenrheidiol at ddibenion megis cyfrifo cynhaliaeth neu orfodi ôl-ddyledion.

20. Bydd ein cynnig yn ein galluogi i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i gael gwybodaeth, a ddylai yn ei dro, ganiatáu i rieni dderbyn taliadau ynghynt.

Cyflwyniad

21. Cyflwynwyd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn 2012. Mae’r gwasanaeth diwygiedig wedi’i gynllunio i oresgyn llawer o’r problemau sy’n gysylltiedig â’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) a bod yn fwy cost-effeithiol i’w gweinyddu.

22. Bwriad diwygiadau cynhaliaeth plant 2012 oedd cynyddu lefelau cydweithredu rhwng rhieni sydd wedi gwahanu, ac annog rhieni i gyflawni eu cyfrifoldebau i roi’r gefnogaeth ariannol sydd ei hangen ar eu plant i gael dechrau da mewn bywyd.

23. Lle bynnag y bo modd, mae’r CMS yn parhau i gefnogi rhieni sydd wedi gwahanu i weithio gyda’i gilydd er budd eu plant a sefydlu eu trefniadau cynhaliaeth teuluol eu hunain, gydag Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn darparu gwybodaeth ddiduedd am ddim i helpu gyda’r penderfyniad yma. Lle nad yw cytundeb teuluol yn addas, mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn gweinyddu cynllun statudol ar gyfer rhieni sydd ei angen. Mae cyfrifiad atebolrwydd cynhaliaeth plant yn seiliedig ar wybodaeth am incwm rhiant dibreswyl gan Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (Cyllid a Thollau EF).

24. Ers cyflwyno gwasanaeth Cynhaliaeth Plant 2012 rydym wedi cwblhau ein rhaglen o gau achosion, gan ddod â’r holl rwymedigaethau ar yr hen systemau CSA i ben. Ymhellach i hyn, rydym hefyd wedi gweithredu’r Strategaeth ar gyfer Cydymffurfiaeth ac Ôl-ddyledion. Ceisiodd y strategaeth ddod â degawdau o ansicrwydd rhieni i ben trwy fynd i’r afael ag ôl-ddyledion o dros £ 3.8bn ledled y DU a grëwyd o dan y cynlluniau CSA tra hefyd yn cyflwyno mesurau gorfodi newydd llymach i gynllun 2012.

25. Rydym bellach wedi ymrwymo i wella’r cynllun cynnal plant cyfredol ymhellach i’w wneud yn decach ac yn fwy fforddiadwy i’r ddau riant.

26. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn ar y cynigion yn y ddogfen ymgynghori ac a ydynt yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng buddiannau rhieni a phlant. Rydym hefyd yn awyddus i glywed unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer moderneiddio ein gwasanaeth ymhellach. Rydym hefyd yn croesawu barn pobl ble bynnag y maent yn byw gan gynnwys Gogledd Iwerddon, er bod yr ardaloedd penodol a gwmpesir yn yr ymghynghoriad yma yn ymwneud â Phrydain Fawr yn unig.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad yma

At bwy mae’r ymgynghoriad yma wedi’i anelu

27. Mae’r ymgynghoriad yn agored i sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, yn ogystal â chwsmeriaid CMS ac aelodau o’r cyhoedd.

Pwrpas yr ymgynghoriad

28. Diben yr ymgynghoriad yw llywio newidiadau arfaethedig y Llywodraeth i Reoliadau Cynhaliaeth Plant. Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac yn ddarostynedig ac amserlenni seneddol, ar ôl cyhoeddi byddwn yn anelu at newid rheoliadau i alluogi i:

  • incwm heb ei ennill a ddelir gan Gyllid a Thollau EM i gael ei gynnwys mewn cyfrifiadau CMS ochr yn ochr ag incwm a enillir gan rieni sy’n talu cynhaliaeth
  • ofynion tystiolaeth i rieni hunangyflogedig gael eu lleddfu pan adroddir am newid sydd wedi torri’r goddefgarwch incwm
  • ddileu cyfeintiau bychain o ddyled gwerth isel lle mae gwerth y ddyled gryn dipyn yn llai na chost ei chasglu
  • dileu ôl-ddyledion lle:
    • mae cynhaliaeth plant wedi’i didynnu o enillion rhiant lle mae eu cyflogwr wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr; a
    • ni allwn adennill yr ôl-ddyledion sydd heb eu talu gan yr ymddiriedolwr a oedd yn trin ansolfedd y cwmnïau
  • holl hysbysiadau CMS gael eu hanfon, eu derbyn a’u cyrchu’n ddigidol
  • sefydliadau canlynol i ddarparu gwybodaeth pan ofynnir iddynt wneud hynny mewn modd amserol: darparwyr pensiwn preifat, ysgolion academi, Swyddfa Yswirwyr Moduron a phob math o gwmnïau sy’n cynnig, hyrwyddo neu werthu gwasanaethau rheoli buddsoddiad neu hwyluso masnachu cyfranddaliadau

Cwmpas yr ymgynghoriad

29. Mae’r ymgynghoriad yma yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban, er ein bod yn croesawu sylwadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Hyd yr ymgynghoriad

30. Mae’r cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar 18 o Mehefin 2021 ac yn parhau tan 6 o Awst 2021 Sut i ymateb i’r ymgynghoriad yma

31. Anfonwch eich ymatebion ymgynghori at:

DWP consultation co-ordinator
3rd Floor South Zone D
Quarry House
Quarry Hill
Leeds
LS2 7UA

Ebost: cm.consultation@dwp.gov.uk

Gwybodaeth gefndirol a manylion am y newidiadau arfaethedig

Incwm heb ei ennill

32. Ers cyflwyno cynllun 2012 mae’r CMS wedi cynyddu’r wybodaeth y mae gennym fynediad iddi, sy’n cynnwys gwybodaeth a adroddwyd gan Gyllid a Thollau EM. Mae hyn wedi galluogi’r CMS i gael ystod ehangach o wybodaeth incwm nag oedd ar gael o’r blaen.

33. Mae cael mynediad at y wybodaeth yma wedi ein galluogi i gyfrifo atebolrwydd yn gyflymach ac yn fwy cywir. Mae’r system yma yn gweithio’n dda i’r mwyafrif o’n cleientiaid. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol, mae gan rai rhieni sy’n talu cynhaliaeth incwm heb ei ennill ychwanegol nad yw’n cael ei gynnwys yng nghyfrifiad cynhaliaeth rhiant. Dim ond os yw’r naill riant neu’r llall yn rhoi gwybod amdano ac yn gofyn am amrywiad y cynhwysir yr incwm ychwanegol yma.

34. Mae incwm heb ei ennill a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn ceisiadau am amrywiad yn cynnwys:

  • incwm eiddo (lle na dderbynnir ef fel rhan o fusnes hunangyflogedig)
  • incwm cynilion a buddsoddiad - gan gynnwys difidendau
  • incwm trethadwy o ffynonellau amrywiol eraill.

35. Mae dadansoddiad wedi dangos bod 3% o’r ffurflenni treth a wnaed i Gyllid a Thollau EM yn cynnwys incwm o eiddo. Mae ystadegau atebolrwydd treth incwm a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau EM yn dangos y ganran ddisgwyliedig o gyfanswm rhwymedigaethau treth incwm fydd 7.4% o ddifidendau yn y flwyddyn 2020-21. Rhagwelir y bydd treth o log cynilion yn 0.9% o’r cyfanswm. Mae incwm trethadwy o ffynonellau amrywiol eraill hefyd yn is nag 1%.

36. Er bod y ffigurau’n newid gyda phob blwyddyn adrodd, mae rhwng 8% a 10% o gyfanswm y rhwymedigaethau Treth Incwm a gofnodir gan Gyllid a Thollau EM fel arfer yn ddyledus ar incwm heb ei ennill.

37. Yn ystod ymgynghoriad blaenorol ar gynhaliaeth plant gwnaethom ofyn i’r ymatebwyr pa bwerau newydd y gallem eu cyflwyno i wella’r cynllun cyfredol ymhellach. Un awgrym oedd cynnwys incwm heb ei ennill yn awtomatig wrth gyfrifo cynhaliaeth.

38. Rydym wedi ymchwilio i’r syniad yma ac yn cynnig cyflwyno newidiadau i ganiatáu cynnwys incwm heb ei ennill, yn ogystal ag enillion, y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn y cyfrifiad CMS. Rydym hefyd yn cynnig asesu achosion presennol yn yr un modd yn eu hadolygiad blynyddol. Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud cyfrifiadau yn seiliedig ar wybodaeth incwm a wedi’i ennill yn unig.

39. Er mwyn caniatáu cynnwys incwm heb ei ennill yn y cyfrifiad cynhaliaeth plant safonol, ar adeg y cais ac ar gyfer adolygiadau blynyddol rheolaidd, mae angen newidiadau mewn deddfwriaeth.

40. Mae angen ystyried sut y byddai unrhyw newid yn dod i rym i rieni. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos rhieni yn y grwpiau canlynol:

  • rhieni sy’n talu cynhaliaeth sydd ag incwm heb ei ennill sydd ag amrywiad incwm heb ei ennill ar hyn o bryd
  • rhieni sy’n talu cynhaliaeth sydd ag incwm heb ei ennill nad oes ganddynt amrywiad incwm heb ei ennill ar hyn o bryd
  • rhieni sy’n talu cynhaliaeth sydd gyda chais parhaus am amrywiad incwm heb ei ennill ar adeg unrhyw newid

41. Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth cynhaliaeth plant yn adolygu’r cyfrifiad cynhaliaeth yn flynyddol. Mae’r dyddiad adolygu blynyddol yma yn benodol i bob achos unigol. Rydym yn cynnig cynnwys amddiffyniadau i’r grwpiau uchod ddefnyddio’r pwyntiau adolygu blynyddol presennol i gyflwyno unrhyw newidiadau cyfrifo yn raddol. Yn aml, gelwir y rhain yn ddarpariaethau trosiannol a’u bwriad yw atal unrhyw newidiadau cyfrifiad canol blwyddyn annisgwyl i rieni.

Eich barn

Cwestiwn 1. Beth yw eich barn ar gynnwys incwm heb ei ennill y rhiant sy’n talu cynhaliaeth ochr yn ochr â’r incwm wedi’i ennill yn y cyfrifiad CMS cychwynnol, yn hytrach na dim ond pan ofynnir am amrywiad?

Gofynion tystiolaeth hunangyflogedig

42. Mae tua 33,000 o rieni sy’n talu cynhaliaeth sydd gan achos CMS yn hunangyflogedig ac mae gan 13,000 o rieni sy’n talu cynhaliaeth incwm o gyflogaeth a hunangyflogaeth . I gyfrifo atebolrwydd cynhaliaeth plant ar gyfer rhiant hunangyflogedig sy’n talu cynhaliaeth hunangyflogedig, rydym yn gyffredinol yn defnyddio gwybodaeth am eu hincwm trethadwy gros ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf sydd ar gael a ddarperir gan Gyllid a Thollau EM. Yna byddwn yn adolygu cyfrifiadau cynhaliaeth yn flynyddol i sicrhau eu bod yn seiliedig ar y ffigwr incwm trethadwy diweddaraf posibl.

43. Mae rheolau’r CMS ar gyfer newidiadau incwm yn wahanol ar gyfer rhieni cyflogedig a hunangyflogedig. Os yw cwsmer cyflogedig yn dweud wrthym fod ei incwm wedi newid, rhaid iddo fod wedi newid o leiaf 25% cyn y gallwn ailasesu’r cyfrifiad cynhaliaeth.

44. Ar gyfer cwsmeriaid hunangyflogedig, dim ond os ydynt yn darparu tystiolaeth o ffurflen dreth fwy diweddar y maent wedi’i chyflwyno i Gyllid a Thollau EM y gellir ystyried newidiadau y tu allan i’r adolygiad blynyddol.

45. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar ôl i’r flwyddyn dreth gyfredol ddod i ben a chyflwyno ffurflen dreth newydd y gallwn ystyried newidiadau incwm hunangyflogedig. Gall hyn olygu na allwn adlewyrchu gostyngiadau incwm yng nghyfrifiad cynhaliaeth plant rhiant hunangyflogedig.

46. Rydym yn gwybod y gallai’r rheolau cyfredol ei gwneud hi’n anodd i rieni hunangyflogedig gwrdd a’u rhwymedigaethau i’w plant. Yn aml mae cwsmeriaid CMS yn cael anawsterau wrth fodloni’r gofynion tystiolaeth. Rydym am sicrhau bod cyfrifiadau cynhaliaeth plant yn darparu adlewyrchiad cywir o incwm rhiant sy’n talu cynhaliaeth, felly fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant rydym wedi adolygu ein gofynion tystiolaeth ar gyfer rhieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n hunangyflogedig.

Gofynion tystiolaethol newydd ar gyfer y rhai sy’n newydd i hunangyflogaeth

47. Ar hyn o bryd mae’n ofynnol i rieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n hunangyflogedig ddarparu eu helw trethadwy amcanol neu amcangyfrifedig ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol trwy ddarparu:

  • cyfrifon elw a cholled
  • cynlluniau busnes a ddefnyddir i sicrhau benthyciadau neu grantiau busnes
  • datganiad o’r elw trethadwy a ragwelir

48. Rydym yn bwriadu symleiddio’r gofynion tystiolaeth trwy dderbyn datganiad o elw rhagamcanol rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn lle. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws sicrhau bod yr atebolrwydd cynhaliaeth plant yn adlewyrchu incwm trethadwy’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn agosach

Gofynion tystiolaethol newydd ar gyfer y rhai sy’n dod â hunangyflogaeth i ben

49. Pan fydd rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn dod â hunangyflogaeth i ben, mae’r dystiolaeth yr ydym fel arfer yn gofyn am wirio hyn yn cynnwys:

  • rhybudd methdaliad neu ansolfedd
  • tystiolaeth bod y busnes wedi’i werthu
  • tystiolaeth gan Gyllid a Thollau EM bod y busnes wedi dod i ben
  • dogfennau gan fanciau, cymdeithasau adeiladu neu gyfreithwyr

50. Rydym yn bwriadu disodli’r enghreifftiau yma gyda datganiad gan y cwsmer nad ydynt bellach yn masnachu.

Gofynion tystiolaethol newydd ar newidiadau incwm ar gyfer rhieni hunangyflogedig

51. Mae ein tystiolaeth yn awgrymu bod rhieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n hunangyflogedig yn profi amrywiadau amlach a mwy yn eu hincwm na rhieni cyflogedig. Rhwng diwedd blwyddyn dreth 2017/18 a diwedd blwyddyn dreth 2018/19, nododd mwy na 55% o’r holl rieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n hunangyflogedig newid yn eu hincwm o fwy na 25%.

52. Felly, rydym hefyd yn archwilio diwygiadau deddfwriaethol posibl a allai ganiatáu newidiadau incwm hunangyflogedig, lle collwyd incwm ac nad yw ffurflen dreth newydd wedi’i chyflwyno i Gyllid a Thollau EM, trwy’r defnydd dewisol o amcangyfrifon incwm.

Eich barn

Cwestiwn 2. Beth yw eich barn ar ein cynlluniau i wneud cyfrifiad cynhaliaeth yn seiliedig ar ddatganiad rhiant sy’n talu cynhaliaeth o’u hincwm amcangyfrifedig am weddill y flwyddyn dreth, hyd nes y gellir cael gwybodaeth gan Gyllid a Thollau EM yn yr adolygiad blynyddol?

Cwestiwn 3. Beth yw eich barn ar ein cynnig i ailasesu cyfrifiad cynhaliaeth lle mae incwm rhiant sy’n hunangyflogedig wedi newid cyn diwedd y flwyddyn dreth berthnasol?

Diddymu dyled lefel isel

53. Cyflwynodd y CMS nifer o bwerau rheoli ôl-ddyledion ym mis Rhagfyr 2012 i ganiatáu rheoli ôl-ddyledion cynhaliaeth plant sy’n ddyledus i rieni yn effeithlon. O dan y pwerau hynny, gellir dileu ôl-ddyledion os yw un o’r meini prawf canlynol yn berthnasol a bod y CMS yn fodlon y byddai’n annheg neu’n amhriodol fel arall gorfodi casglu’r ôl-ddyledion:

  • mae’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth (neu’r plentyn yn yr Alban, sy’n gallu gwneud cais am gynhaliaeth yn ei rinwedd ei hun) wedi gofyn nad ydynt am i’r ôl-ddyledion gael eu casglu mwyach
  • mae’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth (neu’r plentyn yn yr Alban) wedi marw
  • bu farw’r rhiant oedd yn talu cynhaliaeth cyn 25 Ionawr 2010, neu ni ellir cymryd unrhyw gamau pellach i adennill ôl-ddyledion o’u hystad
  • rydym wedi cynghori’r rhiant sy’n talu o’r blaen na fyddem byth yn cymryd unrhyw gamau pellach i gasglu’r ôl-ddyledion, er enghraifft rydym wedi ysgrifennu at y rhiant sy’n talu cynhaliaeth a dweud wrthynt nad yw eu dyled yn bodoli mwyach
  • mae’r ôl-ddyledion yn ymwneud ag atebolrwydd am gynhaliaeth cynnal plant am unrhyw gyfnod yr oedd asesiad cynhaliaeth dros dro mewn grym rhwng 5 Ebrill 1993 a 18 Ebrill 1995

54. Yn 2018 fe wnaethom ymestyn y pwerau hynny i helpu i reoli ôl-ddyledion hanesyddol a oedd wedi cronni o dan gynlluniau CSA 1993 a 2003, yn ogystal ag ar gyfer rhieni sy’n talu cynhaliaeth yn yr Alban y mae eu dyled wedi’i atafaelu neu ei rhyddhau yn dilyn rhoi gweithred ymddiriedolaeth warchodedig.

55. Hoffem yn awr gyflwyno pwerau pellach a fydd yn caniatáu i ni ddileu dyled cynhaliaeth plant mewn amgylchiadau penodol.

56. Rydym yn ceisio barn ar ein hymagwedd tuag at achosion sydd gyda lefel isel o ôl-ddyledion CMS heb eu talu. Mae’r cynigion hyn yn ymwneud ag achosion lle nad oes atebolrwydd parhaus mwyach i dalu cynhaliaeth plant ac mae balans ôl-ddyledion o lai na £7 yn bodoli. Mae symiau o’r fath fel arfer yn bodoli o ganlyniad i dalgrynnu ceiniogau ar ddiwedd y cyfrifiad cynhaliaeth neu lle mae’r rhiant sy’n talu wedi talu ychydig yn llai na’r swm llawn y gofynnwyd amdano.

57. Ein cynnig yw, mewn achosion o’r fath a lle mae’n amlwg bod casglu pellach yn annhebygol neu’n annichonadwy, gall y CMS ddileu’r balans ôl-ddyledion.

58. Er mwyn i achos fod o fewn ei gwmpas rhaid iddo gyd-fynd â’r holl feini prawf canlynol:

  • bod yn achos ôl-ddyledion yn unig heb unrhyw atebolrwydd parhaus
  • bod yn ddi-dâl (diffyg talu 3 mis)
  • gydag ôl-ddyledion o £ 6.99 neu lai

59. Mae yna 2,800 o achosion gydag ôl-ddyledion o dan £7. O’r achosion hyn mae gan 1,400 ôl-ddyledion o dan £1.

60. Mae gwerth y ddyled mewn achosion o’r fath gryn dipyn yn llai na chost ei chasglu. Nid yw’r pwerau cyfredol yn caniatáu i ni ddileu’r ôl-ddyledion sy’n gadael ôl-ddyledion na ellir eu casglu ar systemau TG CMS, ar gost i’r trethdalwr. Heb newid rheoliadau, gallai’r gost yma barhau am ddegawdau gyda siawns gyfyngedig o gasglu’r arian yma.

61. Rydym yn cynnig gosod yr uchafswm ar gyfer dileu ôl-ddyledion o dan yr amgylchiadau yna yn £6.99. Oherwydd y symiau isel dan sylw, nid ydym yn cynnig ysgrifennu at rieni yn gofyn iddynt gyflwyno sylwadau os ydynt yn dal i fod eisiau i’r ddyled gael ei chasglu.

62. Nid ydym ychwaith yn bwriadu anfon llythyrau unigol yn hysbysu’r rhieni bod eu dyled wedi cael ei dileu. Yn lle hynny byddai rhieni’n cael llythyr yn dweud wrthynt fod eu hachos wedi cau ac nad oes bellach unrhyw ôl-ddyledion heb eu talu.

Eich barn

Cwestiwn 4. Beth yw eich barn ar ein cynlluniau i ddileu balansau ôl-ddyledion mewn achosion sy’n cwrdd â’r gofynion arfaethedig a amlinellir yn y papur yma?

Cwestiwn 5. Beth yw eich barn ar ein cynnig i osod y terfyn uchaf ar gyfer achosion o’r fath yn £6.99?

Cynhaliaeth Plant heb ei gasglu pan ddaw cyflogwr yn fethdalwr

63. Rydym yn ceisio barn ar ein hymagwedd tuag at achosion lle mae didyniad ar gyfer cynhaliaeth plant wedi’i wneud o enillion y rhiant sy’n talu cynhaliaeth (a elwir yn Orchymyn Didynnu o Enillion, DEO) ond mae’r cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr ac nid yw’r swm a ddidynnwyd wedi’i dalu i’r CMS.

64. Pan fydd CMS wedi gwneud cais i’r ymarferydd ansolfedd ac wedi methu â sicrhau rhywfaint neu’r cyfanswm o’r symiau heb eu talu trwy ddosbarthu asedau’r cyflogwr, rydym yn cynnig bod gan y CMS y pŵer i ddileu balans dyled.

65. Er mwyn i achos fod o fewn ei gwmpas rhaid iddo gyd-fynd â’r holl feini prawf canlynol:

  • bod yn achos lle mae cynhaliaeth plant y rhiant sy’n talu cynhaliaeth fel arfer yn cael ei dalu gan DEO
  • mae busnes cyflogwr y rhiant sy’n talu wedi mynd yn fethdalwr
  • mae didyniad ar gyfer cynhaliaeth plant wedi’i wneud o enillion y rhiant sy’n talu cynhaliaeth gan y cyflogwr ond nid yw wedi’i dalu i’r CMS
  • nid yw cais a wnaed gan y CMS i’r ymarferydd ansolfedd wedi sicrhau’r ddyled heb ei thalu

Y broses gyfredol

66. Yn yr Alban pan fydd cyflogwr yn mynd i ansolfedd ac yn dal arian a ddidynnwyd o gyflog y rhiant sy’n talu cynhaliaeth o dan DEO, gall y CMS gyflwyno hawliad i’r ymarferydd ansolfedd i hawlio’r arian. Bydd unrhyw arian sy’n cael ei adennill yn cael ei dalu i’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth. Os mai dim ond rhan neu ddim o’r ôl-ddyledion sy’n cael eu hadennill mae cyfraith yr Alban o’r farn ni all yr ôl-ddyledion gael eu casglu.

67. Yng Nghymru a Lloegr, mae’r broses yn wahanol yn yr ystyr ei bod yn ofynnol i’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth gyflwyno hawliad i’r ymarferydd ansolfedd er mwyn cael ad-daliad o’r swm a ddidynnwyd trwy’r DEO ond nad yw wedi’i dalu drosodd i’r CMS eto.

68. Mae hyn yn golygu, os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn aflwyddiannus yn adennill y swm gan yr ymarferydd ansolfedd, ni fydd y rhiant sy’n cael cynhaliaeth yn cael y taliad. Bydd y swm yma yn cael ei drin fel ôl-ddyledion a bydd yn y CMS yn parhau i’w orfodi.

Proses newydd arfaethedig

69. Rydym yn cynnig y bydd gan y CMS gyfrifoldeb i gyflwyno hawliad yn uniongyrchol gyda’r ymarferydd ansolfedd ym mhob achos.

70. Nid yw’r CMS yn sicr o gael taliad. Os mai dim ond rhan neu ddim o’r ôl-ddyledion sy’n cael eu hadennill, bydd yr ôl-ddyledion heb eu talu yn cael eu dileu a’r rhiant yn cael eu hysbysu.

71. Rydym yn deall bod perygl y gall y rhiant sy’n cael cynhaliaeth golli rhywfaint neu’r holl ôl-ddyledion sy’n ddyledus os na fydd y CMS yn llwyddo i adennill yr arian sy’n ddyledus. Yn nodweddiadol, un mis o gynhaliaeth plant fydd arian o’r fath.

72. Fel gyda’r cynnig i ddileu ôl-ddyledion lefel isel, nid ydym yn bwriadu ysgrifennu at rieni a chynnig cyfle i wneud sylwadau yn erbyn y penderfyniad. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi gwybod i’r rhieni bod yr ôl-ddyledion wedi’u dileu.

Eich barn

Cwestiwn 6. Beth yw eich barn ar ein cynnig i ddileu balansau ôl-ddyledion mewn achosion sy’n cwrdd â’r gofynion arfaethedig a amlinellir yn y papur yma?

Anfon, derbyn a chyrchu hysbysiadau CMS yn ddigidol

73. Mae’r CMS yn ymrwymo i wella a moderneiddio’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i’n cwsmeriaid yn barhaus. Mae gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) dri gwasanaeth ar-lein a gyflwynwyd gyda chynllun cynhaliaeth plant 2012: Gwneud cais am Gynhaliaeth Plant, Fy Achos Cynhaliaeth Plant a’r Porth Cyflogwr.

74. Mae’r gwasanaethau yma yn galluogi rhieni i wneud cais am a rheoli eu hachos cynhaliaeth plant ar-lein a chynnig gweithrediadau rheoli i gyflogwyr sy’n gwneud taliadau trwy ddidynnu o gyflog.

75. Mae’r CMS yn cynnig sianeli cyfathrebu amrywiol i’w cwsmeriaid, gan gynnwys teleffonau, llythyrau post, SMS (negeseuon testun) a’r gwasanaeth ar-lein (Fy Achos Cynhaliaeth Plant).

76. Rydym nawr eisiau moderneiddio’r CMS ymhellach trwy wneud newidiadau mewn deddfwriaeth i alluogi anfon, derbyn a chyrchu mwy o hysbysiadau CMS yn ddigidol. Ar hyn o bryd, mae ein deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyflwyno rhai llythyrau trwy ddull post. Llythyrau yw’r rhain yn gyffredinol sy’n dweud wrth rieni am eu hawliau apelio neu’n eu hysbysu ein bod yn bwriadu gweithredu yn eu herbyn trwy ein pwerau gorfodi oherwydd peidio â thalu.

77. Rydym yn awyddus i gyfathrebu gyda’n cwsmeriaid trwy ddull sydd orau ganddynt felly rydym yn bwriadu gwneud newidiadau yn ein rheoliadau i alluogi’r CMS i wasanaethu hysbysiadau cwsmeriaid drwy’r gwasanaeth ar-lein (Fy Achos Cynhaliaeth Plant).

78. Bydd llythyrau a anfonwyd trwy’r post yn flaenorol yn cael eu uwchlwytho i’r gwasanaeth ar-lein. Pan fydd llythyr yn cael ei uwchlwytho i’r cyfrif, bydd SMS neu e-bost yn cael ei anfon at gwsmeriaid i’w cynghori bod y llythyr wedi’i uwchlwytho. Mae rhai o’r llythyrau hyn yn hysbysu’r cwsmer o’r camau y mae’n rhaid iddynt eu cymryd mewn perthynas â’u hachos Cynhaliaeth Plant ac yn amlygu at y camau gorfodi y gall y CMS eu cymryd neu y byddant yn eu cymryd i adennill taliadau cynhaliaeth plant heb eu talu.

79. Mae rhai o’n llythyrau gorfodi yn cynnwys gwybodaeth am ganlyniadau difrifol os yw rhieni’n methu â thalu taliadau cynhaliaeth plant sydd heb eu talu. Mae’r rhain yn cynnwys llythyrau yn hysbysu rhieni sydd wedi methu â thalu eu hatebolrwydd cynhaliaeth plant yn gyson, rydym yn bwriadu gwneud cais i’r Llysoedd i’w hymrwymo i garchar, eu gwahardd rhag dal neu gael trwydded yrru neu basbort .

80. Oherwydd natur ddifrifol y canlyniadau yma rydym dal yn bwriadu anfon y llythyrau yma trwy’r dull post yn ogystal â dull digidol ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi dweud wrthym y byddai’n well ganddynt gyfathrebu gyda ni trwy ddull digidol. Rydym yn bwriadu adolygu hyn yn barhaus wrth i agenda digidol ehangach y Llywodraeth symud ymlaen.

81. Rydym yn rhagweld na fydd y gwasanaeth ar-lein yn sianel addas i dderbyn cyfathrebiad ar eu hachos i rai cwsmeriaid. Ein nod polisi cyffredinol yw sicrhau bod y sianel gywir yn cael ei defnyddio ar yr adeg cywir ar gyfer ein cwsmeriaid. Felly, mae’r cynigion hyn yn rhoi hyblygrwydd i’r CMS gwrdd ag anghenion cwsmeriaid bregys a’r dull cyfathrebu sydd orau ganddynt.

82. Rydym hefyd eisiau sicrhau ein bod yn cadw at ein hymrwymiad i leihau’r baich ar gyflogwyr. Rydym wedi derbyn adborth gan rai cyflogwyr y byddai’n well ganddynt i ni anfon cyfathrebiadau atynt trwy ddull digidol felly rydym hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau mewn deddfwriaeth i alluogi’r CMS i anfon hysbysiadau trwy ddulliau digidol at gyflogwyr a thrydydd parti yn y dyfodol.

Eich barn

Cwestiwn 7. Beth ydych yn feddwl am ein cynlluniau i ddefnyddio pob math o gyfathrebu sy’n addas ar gyfer anghenion cwsmeriaid gan gynnwys digidol?

Cwestiwn 8. Beth yw eich barn ar ein cynllun i ymestyn ein gwasanaeth ar-lein presennol i gyflogwyr ac edrych i gyfathrebu gyda thrydydd parti yn ddigidol yn y dyfodol ynglŷn ag achosion Cynhaliaeth Plant?

Rheoliadau Gwybodaeth

83. Rydym am symleiddio ein gwasanaeth i’w gwneud hi’n haws i’n cwsmeriaid a’n trydydd parti. Gyda hyn mewn golwg, hoffem ehangu’r rhestr o sefydliadau y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â cheisiadau am wybodaeth, o dan reoliad 4 o Reoliadau Gwybodaeth Cynhaliaeth Plant 2008.

84. Mae ein pwerau i ofyn am wybodaeth yn cael eu defnyddio wrth gasglu gwybodaeth at ddibenion:

  • olrhain y rhiant sy’n talu cynhaliaeth
  • cyfrifo cynhaliaeth
  • cynnal yr achos; neu
  • gorfodi ôl-ddyledion cynhaliaeth plant

85. O dan reoliad 4 o’r pwerau yma mae yna restr o’r unigolion hynny sydd â dyletswydd i ddarparu’r wybodaeth ofynnol ar gais. Bydd gofyn am y wybodaeth yma fel mater o drefn ac ymateb yn ysgrifenedig.

86. Lle nad yw sefydliad wedi’i restru yn y Rheoliadau Gwybodaeth 2008, bydd gofyn am wybodaeth berthnasol ganddynt yn wirfoddol. Os na ddarperir gwybodaeth yn y lle cyntaf, bydd yn angenrheidiol i archwiliwr ymweld â’r adeilad, gan ddefnyddio pwerau mynediad, lle cedwir y wybodaeth.

87. Ein cynnig yw cynnwys y sefydliadau canlynol yn y Rheoliadau Gwybodaeth a fydd yn golygu bod dyletswydd arnynt i ddarparu gwybodaeth ar gais; darparwyr pensiwn preifat, perchnogion academi, Swyddfa Yswirwyr Moduron a phob math o gwmnïau sy’n cynnig, hyrwyddo neu werthu gwasanaethau rheoli buddsoddiad neu’n hwyluso masnachu cyfranddaliadau.

88. O ran perchnogion academi (a elwir yn ymddiriedolaethau academi), cymhwysir cyfrifoldebau statudol yn gyffredinol trwy eu Prif Gytundeb Cyllido. Mae dyletswyddau rhannu gwybodaeth rhwng perchnogion academi ac awdurdodau lleol o dan eu cytundebau cyllido. Er bod dyletswydd eisoes ar awdurdodau lleol i gyflenwi gwybodaeth i’r CMS o dan y Rheoliadau Gwybodaeth, bydd ei gwneud yn ofynnol i academïau ddarparu’r wybodaeth yma yn uniongyrchol i CMS yn caniatáu i CMS gael gwybodaeth yn haws.

89. Ein bwriad yw y bydd y cynnig yn ein galluogi i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i gael gwybodaeth sy’n berthnasol i wneud cyfrifiadau cynhaliaeth plant ac adennill dyled cynhaliaeth plant. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod y rhieni’n cael taliadau yn gyflymach. Bydd hefyd yn ei gwneud yn fwy cyfleus i’r sefydliadau yma ddarparu’r wybodaeth a’r dystiolaeth angenrheidiol sy’n ofynnol gan yr Ysgrifennydd Gwladol, heb yr angen i archwiliwr fynd i’w hadeiladau gan ddefnyddio’r pŵer mynediad. Gellir dychwelyd ymatebion yn ysgrifenedig naill ai trwy’r post neu drwy ddulliau electronig, fel ffacs ddiogel neu e-bost.

Eich barn

Cwestiwn 9. Oes gennych unrhyw sylwadau mewn perthynas i gynnwys darparwyr pensiwn preifat, Swyddfa Yswirwyr Moduron a phob math o gwmnïau sy’n cynnig, hyrwyddo neu werthu gwasanaethau rheoli buddsoddiad neu’n hwyluso masnachu cyfranddaliadau i’r rhestr o bobl a sefydliadau sydd â dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol?

Cwestiwn 10. A oes gennych unrhyw sylwadau mewn perthynas â chynnwys perchnogion academi yn y rhestr o bobl a sefydliadau sydd â dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol pan fo dyletswydd rhannu data eisoes rhwng perchennog academi ac awdurdodau lleol?

Asesiad Effaith

90. Mae’n ofynnol i holl Adrannau’r Llywodraeth ystyried yr effaith y bydd unrhyw fesurau rheoleiddio arfaethedig yn ei chael ar fusnesau, elusennau a’r sector gwirfoddol. Gelwir y broses o asesu’r effaith yma yn Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Rydym wedi asesu bod y mesurau canlynol yn effeithio ar fusnes:

  • cynigion i ddileu dyled lle mae cyflogwyr ansolfent wedi gwneud didyniadau o enillion rhiant ond heb eu talu drosodd i CMS
  • newidiadau i alluogi llythyrau i gael eu cyflwyno drwy ddull digidol
  • newidiadau i’r Rheoliadau Gwybodaeth

91. Mae manylion yr effeithiau yma wedi’u cynnwys isod ym mhob un o’r Asesiadau Effaith Rheoleiddiol unigol.

Cynhaliaeth heb ei gasglu pan ddaw cyflogwr yn fethdalwr

92. Mae’r diwydiannau yn 19/20 (data cyn COVID) yn dangos eu bod yn profi’r niferoedd uchaf o’r holl weinyddiaethau yn cynnwys Gweithgynhyrchu, Adeiladu, Masnach Gyfanwerthu a Manwerthu, Gweithgareddau Llety a Bwyd, Gweithgareddau Gwasanaeth Gweinyddol a Chefnogaeth.

93. Mae cyfrannau uchel o Rieni sy’n talu Cynhaliaeth ar y CMS gyda Gorchymyn Didynnu o Enillion (DEOs) hefyd yn gweithio yn y diwydiannau yma.

94. Gan ddefnyddio’r data sydd ar gael o 19/20 amcangyfrifir bod tua 17,000 o DEOs (tua thraean o’r holl DEOs) mewn lle gyda rhieni sy’n talu cynhaliaeth yn gweithio yn y diwydiannau yma. Amcangyfrifir bod llai na 200 o DEOs wedi’u sefydlu gyda chwmni a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr yn 19/20 yn y sectorau risg uchel yma.

95. Mae’r amcangyfrif o 200 yn cyfateb i DEOs a daliwyd gan gwmnïau sy’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Bydd nifer cywir y rhieni sy’n talu cynhaliaeth yr effeithiwyd arnynt fel yma yn llai. Yn y cyfnod rhwng Awst 2019 ac Awst 2020, hysbyswyd y CMS o ddim ond pedwar achos lle cymerwyd cyflogwr y Rhiant sy’n talu Cynhaliaeth o dan reolaeth ymarferydd ansolfedd.

96. Fodd bynnag, nid yw’r amcangyfrif yma, o lai na 200, yn cynnwys unrhyw effeithiau pandemig Coronafeirws. Mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd diweithdra ar ei uchaf yn 2021 ac na fydd cynnyrch domestig gros (GDP) yn dychwelyd i lefelau cyn-bandemig tan 2022. Gall rhagolygon o’r fath effeithio ar fusnesau sy’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn y dyfodol agos.

Anfon, derbyn a chyrchu hysbysiadau CMS yn ddigidol

97. Mae’r broses bresennol o anfon llythyrau corfforol at rieni sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn costio amcangyfrif o £3.7 miliwn yn flynyddol ar gyfer llythyrau clerigol a llythyrau a gynhyrchir gan y system yn gyfunol. Daw’r rhan fwyaf o’r gost yma o lythyrau a gynhyrchir gan y system sy’n cynnwys y mwyafrif o’r holl lythyrau.

98. Mae costau staff ar gyfer printio a phostio yn glerigol yn ychwanegu amcangyfrif o £120,000 yn flynyddol.

99. Mae hyn yn gyfanswm amcangyfrif o arbediad, trwy symud yn gyfan gwbl o lythyrau corfforol i lythyrau electronig, o £3.9 miliwn yn flynyddol. Bydd yna rhai costau parhaus am ddarparu llythyrau sy’n ofynnol am resymau hygyrchedd ond rydym yn disgwyl i hyn fod yn fach.

100. Bydd y rhan fwyaf o gyfathrebu ysgrifenedig rhwng rhieni a’r CMS. Fodd bynnag, efallai y bydd hefyd angen i’r CMS gyfathrebu â rhanddeiliaid trydydd parti fel cyflogwyr. Ar hyn o bryd mae 27,000 o gyflogwyr a all, os yw gofynion hygyrchedd yn cael eu cwrdd, ddefnyddio gwasanaethau porth ar-lein. Roedd tua chwarter y rhain (7,000), wedi cofrestru ar gyfer defnydd o’r fath erbyn Mawrth 2021.

101. Mae’r holl lythyrau a anfonir trwy’r post ar hyn o bryd hefyd yn cael eu storio o fewn system sy’n caniatáu i lythyrau gael eu cyrchu trwy’r porth. Mae hyn yn golygu na fyddai symud i ddulliau electronig yn unig yn arwain at gostau ychwanegol.

102. Fodd bynnag, dylid nodi bod o leiaf 1 y cant o’n baich achosion yn unigolion sydd wedi datgelu anableddau penodol ac felly rydym yn ymwybodol y gallant fod yn llai galluog i gael mynediad at gyfathrebiadau trwy’r Porth. Felly, mae’r cynigion yma yn rhoi hyblygrwydd i’r CMS gwrdd ag anghenion cwsmeriaid bregys a’u dull cyfathrebu dewisol.

Rheoliadau Gwybodaeth

103. Mae’r amcangyfrif o gostau blynyddol ar ddarparwyr pensiwn preifat, Academïau, Swyddfa Yswirwyr Moduron a chwmnïau sy’n cynnig, hyrwyddo neu werthu gwasanaethau rheoli buddsoddiad neu’n hwyluso masnachu cyfranddaliadau y bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith iddynt roi gwybodaeth i ni pan ofynnwn amdano, o gwmpas £7,000 y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys ceisiadau am wybodaeth ar gyfer 147 o achosion bob blwyddyn sydd ar hyn o bryd yn arwain at archwilwyr CMS yn ymweld â safle’r sefydliad.

104. Bydd y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yn gosod gofyniad cyfreithiol ar y sefydliadau yma i roi gwybodaeth i ni pan fyddwn yn gofyn amdani. Bydd hyn yn dileu yr angen i archwilwyr ymweld â darparwyr, gydag ymweliadau niferus mewn tua hanner yr achosion pan nad yw darparwyr yn barod i ddarparu gwybodaeth yn ystod yr ymweliad cyntaf. Hefyd, unwaith y bydd darparwyr yn gwybod eu cyfrifoldeb cyfreithiol, maent yn debygol o fod yn fwy effeithiol. Mae hyn oherwydd y gall ymatebion gael eu dychwelyd yn ysgrifenedig naill ai trwy’r post neu drwy ddulliau electronig, fel e-bost diogel.

105. Nodyn: Gall y rhwymedigaeth gyfreithiol yma ar gyflenwyr arwain at wneud y prosesau yma yn fwy effeithiol, gan leihau eu costau ymhellach o’r £7,000 a amcangyfrifwyd. Fodd bynnag, nid yw costau arbedion effeithlonrwydd wedi’u cynnwys yn ein cyfrifiadau.

Ymateb y Llywodraeth

106. Bydd y CMS yn cyhoeddi ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar wefan GOV.UK.

107. Bydd yr adroddiad yn crynhoi’r ymatebion.

Sut rydym yn ymgynghori

Egwyddorion ymgynghori

108. Mae’r ymgynghoriad yma yn cael ei gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori diwygiedig Swyddfa’r Cabinet a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016. Mae’r egwyddorion yma yn rhoi canllawiau clir i Adrannau’r Llywodraeth ar gynnal ymgynghoriadau.

Adborth ar y broses ymgynghori

109. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ar ba mor dda yr ydym yn ymgynghori. Os bydd gennych unrhyw sylwadau ar y broses ymgynghori (yn hytrach na sylwadau am y materion sy’n destun yr ymgynghoriad), gan gynnwys os ydych yn teimlo nad yw’r ymgynghoriad yn cadw at werthoedd a nodir yn yr egwyddorion ymgynghori neu os gellir gwella’r broses, dylech eu hanfon at:

DWP Consultation Coordinator
2nd Floor
Caxton House
Tothill Street
London
SW1H 9NA

Email: caxtonhouse.legislation@dwp.gov.uk

Rhyddid gwybodaeth

110. Efallai bydd angen i’r wybodaeth rydych yn ei hanfon atom gael ei throsglwyddo i gydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a’i cyhoeddi mewn crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd a’i chyfeirio ati yn yr adroddiad ymgynghori a gyhoeddir.

111. Mae’n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gynhwysir yn eich ymateb, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn destun cyhoeddi neu ei ddatgelu os gwneir cais am hynny o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Trwy ddarparu gwybodaeth bersonol at ddibenion yr ymgynghoriad cyhoeddus, deallir eich bod yn cydsynio i’w ddatgeliad a’i chyhoeddiad. Os nad hyn yw’r achos, dylech gyfyngu unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir, neu ei ddileu yn gyfan gwbl. Os ydych am i’r wybodaeth yn eich ymateb i’r ymgynghoriad gael ei chadw’n gyfrinachol, dylech esbonio pam fel rhan o’ch ymateb, er na allwn warantu gwneud hyn.

112. I gael gwybod mwy am egwyddorion cyffredinol Rhyddid Gwybodaeth a sut caiff ei chymhwyso o fewn DWP, cysylltwch gyda’r Tîm Rhyddid Gwybodaeth Ganolig. Ebost: freedom-of-information-request@dwp.gov.uk

Annex A

Dadansoddiad o statws cyflogaeth rhieni sy’n talu cynhaliaeth CMS a newidiadau incwm: methodoleg a thablau data

Er mwyn deall cwmpas ac archwilio effeithiau posibl o’r newidiadau arfaethedig i’r gofynion tystiolaethol ar gyfer rhieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n hunangyflogedig, cynhaliwyd dadansoddiad o statws cyflogaeth a newidiadau incwm rhieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS).

Defnyddiodd y dadansoddiad ddata gweinyddol ar drefniadau CMS rhieni sy’n talu cynhaliaeth mewn cyfuniad gyda data incwm o’r Gronfa Ddata Cofrestru a Rhyngweithio Poblogaeth (RAPID).

Mae RAPID yn darparu un farn gydlynol o ryngweithio dinasyddion gyda’r DWP a HMRC o fewn blwyddyn dreth ar gyfer y DU. Mae RAPID yn seiliedig ar echdyniad 100% o systemau amrywiol budd-daliadau DWP ac mae echdyniad data 100% o systemau HMRC yn ategu hynny. Mae RAPID yn cyfuno gwybodaeth am weithgareddau unigol (a’r incwm a gynhyrchir o’r gweithgareddau hynny) o fewn bob blwyddyn treth, gan gynnwys yr holl fudd-daliadau, cyflogaeth a budd-daliadau mewn gwaith, er enghraifft Credyd Cynhwysol, Credydau Treth a Budd-dal Tai.

Mae’r dadansoddiad o statws cyflogaeth a newidiadau incwm yn cyfeirio at flynyddoedd treth 2017/18 a 2018/19: y cyfnod diweddaraf yr oedd gwybodaeth ddibynadwy ar incwm o hunangyflogaeth ar gael yn RAPID ar adeg cynnal y dadansoddiad.

Gan ddefnyddio data gweinyddol CMS, nodwyd yr holl rieni sy’n talu cynhaliaeth gyda threfniadau cynhaliaeth plant gweithredol ar ddiwedd blwyddyn dreth 2017/18 a diwedd blwyddyn dreth 2018/19. Yn dilyn hynny, parwyd y cofnodion hyn gyda RAPID gan ddefnyddio dynodwr unigryw. Ar gyfer pob achos lle darganfuwyd cofnod paru, pennwyd statws cyflogaeth rhieni sy’n talu cynhaliaeth yn seiliedig ar y ffynonellau incwm a gofnodwyd ar RAPID dros gyfnod y dadansoddiad. Cafodd statws cyflogaeth ei gategoreiddio fel a ganlyn:

  • cyflogedig: lle mae achos wedi cofnodi incwm o gyflogaeth ond nid hunangyflogaeth
  • hunangyflogedig: lle mae achos wedi cofnodi incwm o hunangyflogaeth ond nid o gyflogaeth
  • cyflogedig ddeuol: lle mae achos wedi cofnodi incwm o gyflogaeth a hunangyflogaeth

Eithriwyd incwm budd-dal ac incwm heb ei ennill o gyfanswm yr incwm oherwydd na ddefnyddir rhain ar hyn o bryd yn y cyfrifiad Cynhaliaeth Plant safonol.

Ar gyfer pob achos cyflogedig, hunangyflogedig a chyflogedig deuol lle’r oedd cipolwg ar ddata incwm blynyddol ar gael yn 2017/18 a 2018/19, cyfrifwyd y newid canrannol mewn incwm blynyddol gros rhwng y ddwy flynedd yma. Mae’r dadansoddiad yn tybio mai dim ond un newid i incwm sydd gan bob achos rhwng 2017/18 a 2018/19 ac felly nid yw’n cynrychioli’r broses CMS yn berffaith lle gellir cofnodi newidiadau incwm lluosog a gwneud ailgyfrifon cynhaliaeth yn ystod y flwyddyn.

Cafodd symiau incwm gros RAPID o gyflogaeth, ffurflenni hunanasesu treth, incwm hunangyflogaeth o ffurflenni credyd treth ac incwm pensiynau, gan gynnwys Pensiwn Galwedigaethol a Phensiynau’r Wladwriaeth, eu cynnwys yn y swm incwm gros. Ni chynhwysir rhieni ag incwm o bensiynau oni bai bod ganddynt incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth hefyd ac yn cael eu cyfrif yn y categorïau yma. Cafodd nifer fach o rieni ble roedd eu hincwm o bensiynau yn unig eu heithrio o’r dadansoddiad.

Cafodd newidiadau incwm a gofnodwyd (rhwng 2017/18 a 2018/19) eu bandio ar ôl hynny i ddangos dosbarthiad y newidiadau incwm dan sylw mewn perthynas â’r lefel goddefgarwch (25%). Cyflwynir nifer y rhieni sy’n talu cynhaliaeth CMS yn ôl band newid incwm a statws cyflogaeth yn Nhabl 1. Mae’r cyfrannau a ddarperir yn y testun hefyd yn seiliedig ar y cyfrifiadau yma.

Tabl 1: Rhieni sy’n talu cynhaliaeth CMS yn ôl band newid incwm a arsylwyd (2017/18 – 2018/19) a statws cyflogaeth, Prydain Fawr.

Band newid incwm Cyflogedig Hunangyflogedig Cyflogedig ddeuol I gyd
Newid >25% 81,140 18,270 8,430 107,840
Newid <=25% 159,800 14,660 5,060 179,510
Cyfanswm 240,940 32,930 13,480 287,350

Ffynhonnell: Data gweinyddol CMS, Cronfa Ddata Cofrestru a Rhyngweithio Poblogaeth. Nodiadau: 1. Efallai na fydd y ffigurau’n gyfartal a’r cyfansymiau oherwydd talgrynnu.

Dadansoddiad o rieni sy’n talu cynhaliaeth CMS gyda chynhaliaeth plant heb ei thalu (ôl-ddyledion)

Mae paragraff 59 o’r ymgynghoriad yn dyfynnu ffigyrau am y nifer o rieni sy’n talu cynhaliaeth CMS sydd â chynhaliaeth plant heb ei thalu (ôl-ddyledion) o dan £7. Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael o ddata gweinyddol CMS yn Rhagfyr 2020. Mae’r ffigyrau ar gyfer Prydain Fawr yn unig. Mae Tabl 2 yn darparu dadansoddiad o rieni sy’n talu cynhaliaeth CMS fel gwerth bandio o gynhaliaeth plant heb ei thalu.

Tabl 2: Rhieni sy’n talu cynhaliaeth CMS gyda chynhaliaeth plant heb ei thalu (ôl-ddyledion) a gwerth yr ôl-ddyledion yna – Rhagfyr 2020, Prydain Fawr

Band Gwerth yr Ôl-ddyledion Nifer o achosion
Dim ôl-ddyledion 325,000
> £0 to £1 1,400
> £1 to £2.50 400
> £2.50 to £5 600
> £5 to £6.99 400
> £6.99 173,700

Ffynhonnell: Data gweinyddol CMS. Nodiadau: 1. Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu i’r cant agosaf.

Dadansoddiad anfon, derbyn a chyrchu hysbysiadau CMS yn ddigidol: methodoleg a thablau data

Mater - Mae yna fwriad polisi i newid y rhan fwyaf o’r cyfathrebiad rhwng y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) a’u cwsmeriaid i ffwrdd o’r rhai hynny (fel lleiafrif) sy’n parhau i gael gwasanaeth post i ddull electronig. Mi fydd hyn yn defnyddio’r tri gwasanaeth ar-lein: Gwneud cais am Gynhaliaeth Plant, Fy Achos Cynhaliaeth Plant a’r Porth Cyflogwyr, sydd ar gael i holl gleientiaid CMS a byddant yn cael eu hannog fwyfwy i’w defnyddio. Mae’r dadansoddiad yma yn meintoli’r cynilo ariannol os fydd gweddill yr holl gyfathrebiadau sy’n parhau i fynd yn glerigol neu gopïau caled systemol trwy’r post yn trosglwyddo’n gyfan gwbl i fodd electronig trwy y Pyrth cleientiaid. Fodd bynnag, mae yna gydnabyddiaeth, mewn lleiafrif (1%) o achosion, lle mae defnyddwyr wedi datgelu anableddau penodol i’r CMS, y dylai cyfathrebiadau copi caled barhau i gael eu cadw. Bydd hyn yn sicrhau mynediad teg.

Darganfyddiadau Allweddol - Amcangyfrifwyd y gost flynyddol am argraffu a phostio cyfathrebiadau CMS yn 2019/20 fel £3.9 miliwn. Mae hyn yn cynnwys costau staff o dros £0.1m.

Dulliau a Dadansoddiad

Yn gyffredinol, honnwyd bod mis Gorffennaf yn fis cyffredin gan fod y costau argraffu cysylltiol agosaf at y canolrif ar gyfer blwyddyn calendr 2019.

Defnyddiwyd y ffigyrau ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2019-20 yn gyffredinol, yn seiliedig ar dybiaeth mai dyma’r flwyddyn mwyaf diweddar y darparwyd gwasanaethau fel busnes arferol.

Ffynhonnellwyd y data yn fewnol o wahanol ardaloedd y busnes ac nid yw’r holl gyfnodau amser yn cyd-daro’n union.

Darparwyd adnoddau staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn seiliedig ar gostau 2017 - ail-gyfrifwyd hyn wrth ddefnyddio’r bandiau cyflog 2020-21 wedi’i uwchraddio.

Cyfrifwyd costau Argraffu Clerigol am un argraffydd yn unig a darparwyd gan y tîm argraffu a phostio ar gyfer un mis (Gorffennaf 19). Mae’n bosib bod argraffyddion eraill wedi eu defnyddio hefyd i argraffu a phostio clerigol sydd heb eu cynnwys yn y costau. Mae’r gwerth yma yn debygol o fod is-amcangyfrif gan fod y gost o redeg argraffyddion (e.e. cynnal a chadw a deunyddiau crai fel inc) heb eu cynnwys.

Roedd cyfeintiau post clerigol cyffredinol yn hysbys ond ni ellid darparu cost fesul llythyr (e.e. gall nifer y taflenni sydd wedi’u hamgáu mewn llythyr penodol amrywio). Felly amcangyfrifwyd cost clerigol ar gyfartaledd trwy gymhwyso cymhareb argraffu a phostio systemol ar brint clerigol.

Nid oedd y pris ôl-gontract a ddefnyddiwyd ar gyfer Gorffennaf 19 ond daeth o gyfartaledd y flwyddyn ariannol 2019-20. Mae hyn oherwydd bod cost Gorffennaf 19 yn uwch na’r gost misol ar gyfartaledd ac felly nid oedd yn cael ei hystyried yn nodweddiadol.

Roedd cofnodion clir o brisio llythyrau a gynhyrchwyd gan y system, mae’r ddau werth wedi’u cynnwys ar gyfer Gorffennaf 19.

Tabl Data 1: Cyfathrebiad copi caled a anfonir gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant – Costau Misol (£s, wedi eu talgrynnu), 2019/20

Clerigol (£) System (£)
Argraffu 1,300 75,000
Post 3,300 201,000
Gwasanaethau post wedi’i gontractio 30,100
Isgyfanswm misol 34,700 277,000
Costau gweithiwr misol (£) 10,200  
Costau blynyddol cyffredinol (£) 3,900,000  

Ffynhonnell: Gwybodaeth Rheolaeth fewnol CMS / DWP

Dadansoddiad o Gynhaliaeth heb ei chasglu pan ddaw cyflogwr yn fethdalwr: methodoleg a thablau data

Mater – Pan wneir didyniad ar gyfer cynhaliaeth plant o enillion y rhiant sy’n talu cynhaliaeth (a elwir yn Gorchymyn Didynnu o Enillion, DEO) ac yna mae’r cyflogwr yn mynd yn fethdalwr, efallai na chaiff y swm a ddidynwyd ei dalu i’r CMS. Ar hyn o bryd, mae’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth angen cyflwyno cais gyda’r ymarferwr ansolfedd er mwyn sicrhau ad-daliad o’r swm a dynnwyd trwy’r DEO.

Y cynnig yw cyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr (mae’r Alban wedi sefydlu hyn yn barod) sy’n rhoi’r cyfrifoldeb i’r CMS i gyflwyno cais yn uniongyrchol gyda’r ymarferwr ansolfedd. Lle mae’r CMS yn gwneud cais i’r ymarferwr ansolfedd ac wedi methu sicrhau rhan neu’r holl symiau heb ei thalu trwy ddosbarthiad o asedau’r cyflogwr, bydd y pŵer gan CMS i ddileu balans y ddyled.

Darganfyddiadau Allweddol

Yn ystod 2019/20, cafodd llai na 200 o Ddidyniadau o Enillion eu sefydlu gyda chwmni a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr yn y sectorau risg uchel yma. Bydd y gwir nifer o’r rhieni sy’n talu cynhaliaeth sydd wedi’i effeithio yn y ffordd yma yn is, a mae’r senario achos gwaethaf yma wedi digwydd mewn dim ond pedwar achos yn ystod 2019/20.

Moddau a Dadansoddiad

Nodwyd ansolfedd gan y sector Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) ar gyfer y flwyddyn 2019/20. Dyma’r flwyddyn ddiweddaraf y gellid tybio busnes fel arfer.

Nodwyd cyfrannau Rhieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n gweithio ym mhob sector. Roedd hyn yn seiliedig ar gyfartaleddau 3 blynedd o’r data FRS a oedd ar gael rhwng 2016/17 a 2018/19.

Roedd gan nifer y Rhieni sy’n talu cynhaliaeth ar gynlluniau statudol sy’n gweithio ym mhob sector gyfrannau amrywiol (h.y. y rhai â threfniadau Casglu a Thalu, gyda Dull Talu DEO) wedi’u cym hwyso atynt. Roedd hyn yn caniatáu cyfrifo cyfran gyffredinol bob DEOcaf a gyfrannwyd gan bob sector.

Cyfrifwyd cyfran yr holl ansolfedd yn ôl sector hefyd.

Os oedd sector yn cynnwys mwy na 5% (gwerth mympwyol a ddewiswyd gan ddadansoddwyr yn seiliedig ar ddosbarthiadau a welwyd wrth gael eu graffio) o Rieni sy’n talu cynhaliaeth drwy DEO ym mhob sector ac o’r holl ansolfedd yn y sector hwnnw, yna barnwyd bod y sector mewn perygl o ddidyniadau dwbl.

Cyfrifwyd canran yr ansolfedd a ddigwyddodd mewn gwirionedd o fewn pob un o’r sectorau allweddol a nodwyd (Gweithgynhyrchu, Adeiladu, Masnach Gyfanwerthu a Manwerthu, gweithgareddau Gwasanaeth Llety a Bwyd, gweithgareddau Gwasanaeth Gweinyddol a Chefnogaeth).

Cyfrifwyd amcangyfrif o nifer y Rhieni sy’n Talu cynhaliaeth sy’n gweithio yn y sector yma gan ddefnyddio ystadegau swyddogol o’r Arolwg o’r Gweithlu. Lluoswyd hyn â chyfrannau amrywiol (% o’r rhai mewn teulu sydd wedi gwahanu, ar Gynllun Statudol, ar Casglu a Thalu, ar DEO). Lluoswyd y gwerth yma â % yr ansolfedd a ddigwyddodd mewn gwirionedd ym mhob sector (wedi’i gyfrifo uchod), i gynhyrchu nifer y Rhieni sy’n Talu cynhaliaeth drwy DEO ym mhob sector mewn cwmni sydd mewn perygl o fynd yn ansolfedd. Cafodd y gwerthoedd hyn eu crynhoi ar gyfer pob un o’r sectorau diddordeb i gynhyrchu gwerth o 150 (neu fel y’i talgrynnu mewn polisi ysgrifennu, ‘llai na 200’).

Rydym yn ymwybodol bod yr amcangyfrif yma o 150 yn cyfateb i orchmynion DEO a delir gan gwmnïau sy’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Yn y cyfnod rhwng Awst 2019 ac Awst 2020, hysbyswyd y CMS o ddim ond pedwar achos lle cymerwyd cyflogwr y Rhiant sy’n Talu cynhaliaeth o dan reolaeth ymarferydd ansolfedd.

Table 1: Methdaliadau – Cymru a Lloegr; 2019/20

Cyfartaledd misol
AMAETHYDDIAETH, COEDWIGAETH A PHYSGOTA 5
CHWARELU 2
GWEITHGYNHYRCHU 121
CYFLENWI TRYDAN, NWY, STEM AC AERDYMHERU 6
CYFLENWI DŴR; CARFFOSIAETH, GWEITHGAREDDAU RHEOLI GWASTRAFF AC ADFER 10
ADEILADU 262
MASNACH CYFANWERTHU AC ADWERTHU; ATGYWEIRIO CERBYDAU A BEICIAU MODUR 199
CLUDIANT A STORIO 46
GWEITHGAREDDAU LLETY A GWASANAETH BWYD 195
GWYBODAETH A CHYFATHREBU 69
GWEITHGAREDDAU ARIANNOL AC YSWIRIANT 32
GWEITHGAREDDAU YSTAD GO IAWN 37
GWEITHGAREDDAU PROFFESIYNOL, GWYDDONOL A THECHNEGOL 98
GWEITHGAREDDAU GWASANAETH GWEINYDDOL A CHEFNOGAETH 146
GWEINYDDU CYHOEDDUS A DIOGELWCH NAWDD CYMDEITHASOL GORFODOL 1
ADDYSG 12
GWEITHGAREDDAU IECHYD DYNOL A GWAITH CYMDEITHASOL 32
CELFYDDYDAU, ADLONIANT AC HAMDDEN 28
GWEITHGAREDDAU GWASANAETH ERAILL 77
GWEITHGAREDDAU TAI FEL CYFLOGWYR; EIDDO A GWEITHGAREDDAU-CYNHYRCHU GWASANAETHAU TAI I’CH DEFNYDD EICH HUN 0
GWEITHGAREDDAU SEFYDLIADAU A CHYRFF ALLTIRIOGAETHOL 0
ARALL 24

Ffynhonell: The Insolvency Service, Tabl 2: New company insolvencies by industry to two-level Standard Industrial Classification (SIC 2007)

Tabl 2: Rhieni sy’n talu cynhaliaeth yn ôl sector allweddol a math o drefniant cynhaliaeth

Trefniant Statudol Trefniant Anstatudol Dim Trefniant
Cynhyrchu 19% 56% 26%
Adeiladu 15% 62% 23%
Masnach cyfanwerthu ac adwerthu; atgyweirio ceir a beiciau modur 15% 65% 20%
Gweithgareddau Llety a Gwasanaeth Bwyd 15% 45% 40%
Gweithgareddau Gwasanaeth Gweinyddol a Chefnogaeth 23% 51% 26%

Ffynhonell: Family Resources Survey - cyfartaledd 16/17 i 18/19

Tabl 3: Amcangyfrifon cyffredinol o Rieni sy’n talu cynhaliaeth sydd mewn perygl o gyflogaeth mewn cwmni yn mynd yn fethdalwr – Amcangyfrif o Rieni sy’n talu cynhaliaeth mewn sectorau bregus

Diwydiant Gweithwyr (gan dybio Rhieni sy’n talu cynhaliaeth Gwryw) Fesul Mis nodweddiadol yn ystod 2019/20 Teuluoedd wedi gwahanu i bob teulu Ar Gynlluniau Statudol Ar Gynlluniau Casglu a Thalu Ar gynlluniau DEO % methdalwyr (19-20) Amcangyfrifon o Rieni sy’n talu cynhaliaeth sydd mewn perygl o gyflogaeth mewn cwmni yn mynd yn fethdalwr
CYNHYRCHU 2,232,759 280,968 42,145 15,172 4,552 1.06% 48
ADEILADU 2,036,845 256,314 38,447 13,841 4,152 0.92% 38
MASNACH CYFANWERTHU AC ADWERTHU; ATGYWEIRIO CEIR A BEICIAU MODUR 2,135,172 268,688 40,303 14,509 4,353 0.61% 27
GWEITHGAREDDAU LLETY A GWASANAETH BWYD 812,193 102,206 15,331 5,519 1,656 1.49% 25
GWEITHGAREDDAU GWASANAETH GWEINYDDOL A CHEFNOGAETH 818,533 103,003 15,450 5,562 1,669 0.76% 13
Cyfansymiau             150

Ffynonellau: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol – Table EMP13: Males in employment by industry; Separated families publication – Table 1: The number of separated families and children in separated families; Child Maintenance statistics quarterly publication; The Insolvency Service – Table 2: New company insolvencies by industry to two-level Standard Industrial Classification (SIC 2007).