Consultation outcome

Summary of responses (Welsh version)

Updated 8 November 2021

Rhagair

Rhagymadrodd

Cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cyd rhwng 19/07/2021 a 16/08/2021 i gasglu barn y diwydiant ar ddiwygiadau arfaethedig i Reoliad (EC) 589/2008 a ddargedwir.

Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o ganlyniadau’r arolwg ymgynghori a’r prif themâu a nodwyd yn yr adborth ysgrifenedig.

Cafwyd cyfanswm o chwe ymateb i’r ymgynghoriad gan fusnesau a chyrff masnach sy’n cynrychioli’r sector wyau. Ar draws y chwe ymatebydd, cynrychiolwyd sefydliadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn yr ymatebion.

Dyma’r sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn:

  • Cyngor Diwydiant Wyau Prydain
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Lloegr
  • NFU Cymru
  • NFU yr Alban
  • Cymdeithas Cynhyrchwyr Wyau Maes Prydain
  • Avonfinch Ltd

Yr ymatebion i’r ymgynghoriad

Ein cwestiwn ni: Ydych chi’n deall y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth?

Roedd pob un o’r chwe ymatebydd yn deall y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth.

Ein cwestiwn ni: Oes gennych chi sylwadau ar y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth?

Awgrymodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr nad ydyn nhw’n cytuno â’r cynnig a’i bod yn well ganddyn nhw weld gwiriadau’n cael eu cynnal ar y ffin. Roedd un ymatebydd yn cytuno â’r cynnig.

Pwysleisiodd hanner yr ymatebwyr y dylai unrhyw newid yn y dyfodol gael ei ddyblygu gan yr UE er budd cynhyrchwyr wyau/allforwyr wyau Prydain.

Rhoddodd un ymatebydd fwy o fanylion am y rhwystrau SPS y mae allforwyr wyau Prydain wedi’u profi hyd yma. Yn eu barn nhw, byddai’r holl wiriadau sy’n digwydd ar y ffin yn sicrhau chwarae teg ac yn ‘dod â’r UE i’r bwrdd’ yn y broses.

Nododd cwpl o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â’r cynnig fod rhaid i wyau sy’n cael eu mewnforio ddod o dan yr un safon o wiriadau ag wyau domestig a chael eu cynhyrchu i’r un safonau iechyd, lles a diogelwch bwyd uchel.

Mynegodd dau o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â’r cynnig y farn bod rhaid cynnal gwiriadau cadarn wrth y tollau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg bod cynhyrchion sy’n methu’r gwiriadau hyn yn dod i mewn i farchnad Prydain Fawr.

Ein cwestiwn ni: Oes unrhyw welliannau pellach yr hoffech eu gweld yn cael eu hystyried wrth i’r Rheoliad Safonau Marchnata Wyau gael ei adolygu yn y dyfodol?

Mynegwyd amrywiaeth cymysg o safbwyntiau gan yr ymatebwyr ar ystyriaethau ar gyfer diwygiadau i’r ddeddfwriaeth safonau marchnata wyau yn y dyfodol. Er enghraifft, roedd y meysydd sy’n peri pryder yn amrywio o ddosbarthiadau maint wyau, labelu (gwlad wreiddiol a chyfeiriadau cynhyrchu) a phwynt cyffredinol ar symud tuag at wyau heb gawell ar lefel manwerthu sy’n gofyn am ymagwedd bolisi ofalus.

Ein cwestiwn ni: Fyddai gennych chi ddiddordeb dod i gyfarfod bwrdd crwn i drafod y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth ymhellach?

Roedd gan bob ymatebydd ond un ddiddordeb mewn dod i fwrdd crwn i drafod y newid arfaethedig yn y ddeddfwriaeth ymhellach.

Y camau nesaf

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, cynhaliodd Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban drafodaeth bwrdd crwn ar 24 Medi 2021 i liniaru pryderon a godwyd gan y diwydiant. Bydd canlyniad llawn y bwrdd crwn yn cael ei anfon at bawb a fu’n cymryd rhan maes o law.

Bellach rydym yn nodi camau nesaf y Llywodraeth i wneud diwygiadau i reoliadau Marchnata Wyau ym Mhrydain Fawr. Mae Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cytuno i gysoni’r gwelliannau arfaethedig ledled Prydain ar lefel swyddogol. Bydd y gwelliant yn fodd i’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig gadarnhau parhad y drefn orfodi bresennol ar gyfer mewnforion o dan reoliadau safonau marchnata wyau. Bydd y gwelliant hefyd yn sicrhau dull gweithredu cyson ar draws Prydain Fawr sy’n creu’r baich lleiaf posibl i’r diwydiant. Ni fydd y Rheoliadau Safon Marchnata Wyau yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu diwygio gan eu bod ar hyn o bryd yn cyd-fynd â’r UE, yn unol â’r gofynion o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.

Ein huchelgais yw cyflawni’r gwelliant deddfwriaethol hwn yn Lloegr a’r Alban erbyn diwedd 2021 ac erbyn diwedd Mawrth 2022 yng Nghymru. Bydd y dull gorfodi wedi’i ddiweddaru ar gyfer wyau Dosbarth A sy’n cael eu mewnforio yn mynd yn fyw ledled Prydain Fawr yn gynnar yn 2022. Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â’r diwydiant ar y newidiadau yn y rheoliadau safonau marchnata wyau. Bydd canllaw wedi’i ddiweddaru ynghylch rhoi’r gwiriadau safonol marchnata ar wyau Dosbarth A sy’n cael eu mewnforio ar waith yn cael ei ddrafftio a’i anfon i’r diwydiant cyn i’r newidiadau yn y ddeddfwriaeth ddod i rym.